Sinema Chapter Mawrth 2013

13
chapter.org @chaptertweets 029 2030 4400

description

Sinema Chapter Mawrth 2013

Transcript of Sinema Chapter Mawrth 2013

Page 1: Sinema Chapter Mawrth 2013

chapter.org@chaptertweets029 2030 4400

Page 2: Sinema Chapter Mawrth 2013

Croeso i Ganllaw Bach cyntaf Sinema Chapter. Y tu fewn, fe welwch chi fanylion holl ffilmiau a digwyddiadau mis Mawrth. Mae’n fis gorlawn ac mae yna ambell uchafbwynt digamsyniol, fel Gŵyl Cymru Un Byd sy’n cynnwys enwebiadau am wobrau Oscar ac ambell berl prin. Bydd yr Ŵyl hefyd yn cyflwyno’r dangosiad cyntaf o ffilm newydd Ken Loach, The Spirit of 45, a chyfle i glywed y dyn ei hun: bydd Ken Loach yn cymryd rhan mewn rhagolwg arbennig a sesiwn holi-ac-ateb ar ddydd Mercher, 6 Mawrth. Chwilio am fanylion popeth arall? Gallwch lawrlwytho rhaglen lawn mis Mawrth, gan gynnwys ein holl ddigwyddiadau yn y theatr, yr oriel ac ymhobman arall, ar ein gwefan – www.chapter.org – neu sganiwch y cod QR canlynol:

ChapterHeol y FarchnadCaerdydd CF5 1QE

029 2030 4400minicom 029 2031 3430

[email protected]

CROESOCroeso02 chapter.org

Siaradwch â ni @chaptertweets facebook.com/chapterarts [email protected]

Page 3: Sinema Chapter Mawrth 2013

03Sinemachapter.org

Hyde Park On HudsonGwener 22 Chwefror — Iau 7 MawrthDG/2012/94mun/12A. Cyf: Roger Michell Gyda Bill Murray, Laura Linney, Olivia Williams, David Walliams.

Ym mis Mehefin 1939, mae’r Arlywydd Franklin Delano Roosevelt a’i wraig Eleanor yn gwahodd Brenin a Brenhines Lloegr i dreulio penwythnos yn eu cartref yn Hyde Park on Hudson. Â Phrydain yn wynebu rhyfel â’r Almaen, mae’r teulu brenhinol yn erfyn ar FDR am gymorth. Ond mae’n rhaid i faterion rhyngwladol gael eu cydbwyso â chymhlethdodau domestig FDR, wrth i’w wraig, ei fam a’i feistres ddod at ei gilydd i wneud y penwythnos brenhinol yn un gwirioneddol fythgofiadwy.+ Dangosiad gydag isdeitlau ‘meddal’ ar dydd Llun 4 Mawrth.

Caesar Must DieGwener 1 — Iau 7 MawrthYr Eidal/2012/76mun. Cyf: Paolo a Vittorio Taviani.

Bob blwyddyn mae carcharorion - sydd dan glo am droseddau’n ymwneud â’r Mafia gan mwyaf - yng ngharchar uwch-ddiogel Rebibbia yn Rhufain yn llwyfannu drama. Eleni, Julius Ceasar gan Shakespeare yw’r testun gosod, drama lle mae cynllwynion a brad yn adleisio gorffennol a phresennol y carcharorion eu hunain. Ffilm hynod ddifyr gan gyfarwyddwyr chwedlonol Padre Padrone.Enillydd Arth Euraid a’r Wobr Eciwmenaidd yng Ngŵyl Ffilm Berlin.

Lincoln Gwener 22 Chwefror — Iau 7 MawrthUDA/2012/150mun/12A. Cyf: Steven Spielberg.Gyda Daniel Day Lewis.

Mae Lincoln yn ddrama ddadlennol sy’n canolbwyntio ar fisoedd olaf cythryblus yr arlywydd. Mae Lincoln yn rhoi cynllun ar waith i geisio dod â diwedd i’r rhyfel, uno’r wlad a diddymu caethwasiaeth — a bydd ei ddewisiadau yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn yn cael effeithiau pellgyrhaeddol am genedlaethau i ddod.Enwebiad am Oscar y Ffilm Orau 2013 Gwobr BAFTA Actor Gorau, Daniel Day Lewis

HitchcockGwener 1 — Iau 14 MawrthUDA/2012/98mun/12A Cyf: Sacha Gervasi.Gyda Anthony Hopkins, Danny Huston, Helen Mirren, Scarlett Johansson, Toni Collettte.

Mae Hitchcock yn stori gariad am un o wneuthurwyr ffilmiau mwyaf dylanwadol y ganrif ddiwethaf, Alfred Hitchcock, a’i wraig a’i bartner, Alma Reville. Mae’r ffilm yn dangos Hitchcock yn ystod y broses o ffilmio’i waith arloesol, Psycho, ffilm arswyd ddadleuol ac un o weithiau mwyaf enwog a dylanwadol ei yrfa hir.+ Dangosiad gydag isdeitlau ‘meddal’ ar dydd Mawrth 12 Mawrth.

“Mae Hitchcock yn gafael ynoch fel un o ffilmiau cyffro’r meistr ei hun — pleser pur, o’r dechrau i’r diwedd.” New York Observer

O’r c

hwit

h uc

haf:

Linc

oln,

Hit

chco

ck, H

yde

Park

On

Huds

on

Page 4: Sinema Chapter Mawrth 2013

Sinema04 029 2030 4400

Clwb Ffilmiau Gwael Piranha 3DDSul 3 Mawrth Tyst 18.

Ydych chi’n cofio gymaint o hwyl oedd Piranha 3D - ffilm nad oedd hi mewn 3D? Wel, mae hi’n amser nawr i gymryd eich gwynt yn eich dwrn wrth i chi weld y dilyniant i’r ffilm honno, 3DD — a dyw hon ddim mewn 3D chwaith! Ar ôl eu helyntion yn ystod ‘spring break’, mae’r piranhas llofruddiol enfawr yn nofio i fyny’r afon ac yn stopio i gael ychydig o hwyl mewn parc dŵr — ac i achosi trafferth i unrhyw un sy’n mynd yn eu ffordd. Pwy all eu stopio nhw? Bydd yn rhaid i chi weld y ffilm i gael gwybod.

MovieMaker ChapterLlun 4 MawrthSesiwn reolaidd i wneuthurwyr ffilm annibynnol ddangos ffilmiau byrion.RHAD AC AM DDIM

To The WonderGwener 8 — Iau 21 MawrthUDA/2012/112mun/12A Cyf: Terence MalickGyda Ben Affleck, Rachel McAdams, Michael Sheen, Javier Bardem.

Ar ôl ymweld â Mont Saint-Michel, mae Marina a Neil yn mynd i Oklahoma, lle mae problemau yn eu perthynas yn dod i’r wyneb. Mae Marina’n cyfarfod â chyd-alltud ac offeiriad, sy’n dioddef o ganlyniad i’w alwedigaeth, tra bod Neil yn dod i gysylltiad eto â Jane, ffrind o’i blentyndod.

LoreGwener 8 — Iau 14 MawrthYr Almaen/2012/109mun/isdeitlau/15. Cyf: Cate Shortland.Gyda Saskia Rosendahl.

Mae’r stori synhwyrus a chymhleth hon am ddod-i-oed yn archwilio’r treialon sy’n wynebu pobl ifainc yn yr Almaen yn sgil yr Ail Ryfel Byd. Pan gaiff eu rhieni — aelodau o’r Schutzstaffel — eu cymryd i’r ddalfa gan luoedd y Cynghreiriaid, mae pump o frodyr a chwiorydd yn gorfod gofalu amdanyn nhw eu hunain, a Lore, sydd yn eu harddegau, yn gyfrifol am eu cymryd nhw i dŷ eu mam-gu yn Hamburg, 500 milltir i ffwrdd. Ar y ffordd yno, mae’r plant yn cyfarfod â phobl sy’n dioddef effeithiau’r rhyfel ac, am y tro cyntaf, mae’r plant yn gweld goblygiadau gweithredoedd eu rhieni. Â bwyd yn brin, a’r daith yn fwyfwy llafurus, mae’r teulu’n cwrdd â Thomas, Iddew ifanc a oroesodd y rhyfel. Mae e’n eu harwain nhw i ben y daith.

“Mae delweddau’r ffilm yn gweddu’n berffaith i bwysau thematig y gwaith a gras stoicaidd Rosendahl. Taith fythgofiadwy i galon cyfnod tywyll yn hanes yr Almaen.” — Limelight

O’r C

hwit

h i’r

Dde

: To

The

Won

der,

Lor

e

Page 5: Sinema Chapter Mawrth 2013

The Master Llun 11 — Iau 14 MawrthUDA/2012/137mun/15. Cyf: Paul Thomas Anderson. Gyda Amy Adams, Jesse Plemons, Joaquin Phoenix, Philip Seymour Hoffman.

Ffilm hynod boblogaidd yn dychwelyd i Chapter! Yn ystod y blynyddoedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd, mae deallusyn Americanaidd yn creu crefydd. Mae e’n gwahodd ‘drifter’ dioddefus i’w helpu i ledaenu’r ffydd newydd. Wrth i’w cynulleidfa gynyddu, mae’r ‘drifter’ yn dechrau holi cwestiynau am y grefydd a’i cynhaliodd — a’r mentor a roddodd gyfeiriad i’w fywyd.

“Mae’r themâu’n ddadleuol, efallai, ond mae’r driniaeth ohonynt yn berffaith. Os bu ffilm erioed i annog y cloff i gerdded a’r dall i weld, mae’n bosib taw The Master yw’r ffilm honno” — The Guardian

Burton: Y Gyfrinach? Gwener 8 + Sadwrn 9 MawrthCymru/2011/76mun/12A/Cymraeg gydag isdeitlau SaesnegCyf: Dylan Richards. Gyda Richard Harrington a Dafydd Hywel.

Drama bryfoclyd sy’n ystyried beth allai fod wedi digwydd ar adeg dyngedfennol ym mywyd yr actor byd-enwog Richard Burton a’i frawd hŷn, Ifor Jenkins, ar ôl angladd yn y Swistir. I Burton, roedd hwn yn gyfle i ail-gysylltu â’r ffigwr tadol a gollodd yn dilyn ei garwriaeth â’i gyd-seren yn y ffilm Cleopatra, Elizabeth Taylor. I Jenkins, roedd yn gyfle i fyfyrio ar y gorffennol ac i edrych tua’r dyfodol. Arweiniodd yr aduniad lletchwith ac alcoholig at uchafbwynt dramatig a damwain ysgytwol - pan barlyswyd Ifor. Mae Richard Harrington a Dafydd Hywel yn llenwi’r sgrin ag ing Cymreig a melancoli teuluol wrth i reswm credadwy dros ddigwyddiad a aflonyddodd ar Burton weddill ei oes gael ei ddatgelu.Bydd y cyfarwyddwr Dylan Richards yn ymuno â ni am sgwrs ar ôl y dangosiad ar ddydd Gwener, 8 Mawrth.

Sinema 05chapter.org

Robot and FrankGwener 15 — Iau 28 MawrthUDA/2012/89mun/12A Cyf: Jake Schreier.Gyda Frank Langella, Liv Tyler, Peter Sarsgaard, Susan Sarandon.

Ffilm wedi’i gosod yn y dyfodol agos. Mae Frank yn lleidr wedi ymddeol ac mae ei ddau o blant, sy’n oedolion, yn poeni na fydd yn gallu parhau i fyw ar ei ben ei hun. Maen nhw’n ystyried ei roi mewn cartref nyrsio tan i fab Frank ddewis ail opsiwn. Yn erbyn dymuniadau’r hen ddyn, mae’n rhoi anrheg i Frank: robot sy’n cerdded, yn siarad ac wedi’i raglennu i wella iechyd corfforol a meddyliol yr hen ddyn.+ Bydd SciSCREEN yn dychwelyd â phanel ar ôl y dangosiad ar ddydd Mercher 20 Mawrth. Archebwch docyn am ddim trwy’r Swyddfa Docynnau. Bydd angen i chi archebu tocynnau ar gyfer y ffilm ar wahân. www.cardiffsciscreen.blogspot.com

“Swynol, chwareus a slei, mae’n gwneud i ni gredu y gall awtomaton tawel a bod dynol crintachlyd fod yn ffrindiau gorau am byth.” — Los Angeles Times

O’r C

hwit

h i’r

Dde

: The

Mas

ter,

Bur

ton:

Y G

yfrin

ach?

Page 6: Sinema Chapter Mawrth 2013

GWYL FFILM CYMRU UN BYD

Sinema06 029 2030 4400

Spirit of 45 Mercher 6 Mawrth (gyda Ken Loach ei hun) Sul 17 Mawrth (gyda darllediad lloeren byw)DG/2013/98mun/U Cyf: Ken Loach. Gyda Ray Davies, Dr Julian Tudor-Hart, Tony Benn.

Roedd 1945 yn flwyddyn dyngedfennol yn hanes Prydain. Esgorodd yr undod a alluogodd i Brydain oroesi’r rhyfel, ynghyd ag atgofion chwerw o’r cyfnod rhwng y ddau ryfel, ar weledigaeth o gymdeithas well. Mae Loach wedi creu naratif gwleidyddol a chymdeithasol cyfoethog sy’n defnyddio deunydd archif o’r cyfnod a chyfweliadau cyfoes â phobl sy’n cofio’r adegau hynny, fel y cyn-löwr, Ray Davies o Gaerffili, a’r meddyg teulu arloesol o’r Cymoedd, Dr Julian Tudor-Hart. Mae’r ffilm yn dathlu cyfnod digynsail o ysbryd cymunedol yn y DG, y parhaodd ei effeithiau am flynyddoedd lawer. Mercher 6 Mawrth: Rhagolwg wedi’i ddilyn gan sesiwn holi-ac-ateb yng nghwmni Ken Loach, Ray Davies a Dr Julian Tudor-Hart.Sul 17 Mawrth: Dangosiad trwy gysylltiad lloeren o sesiwn holi-ac-ateb gyda Ken Loach.

Chile Night Gwener 15 Mawrth Noson o gerddoriaeth, ffilm a bwyd o Chile, wedi’i threfnu ar y cyd â Gŵyl Victor Jara i nodi 40 mlynedd ers coup d’état Pinochet. Yn cynnwys eich dewis chi o ffilm (Nostalgia for the Light neu Machucha), cerddoriaeth werin fyw o 7.30pm ymlaen a choctêl Pisco Sur! £10/£8

Nostalgia for The Light Gwener 15 MawrthChile/2010/94mun/isdeitlau/12A. Cyf: Patricio Guzman. Gyda: Gaspar Galaz, Lautaro Nunez, Violeta Berrios.

Myfyrdod dadlennol, diddorol ac emosiynol ar amser a gofod a phwysigrwydd arhosol y cof, chwilfrydedd, dewrder a chydwybod. Yn Anialwch Atacama, mae seryddwyr yn syllu ar ddyfnderoedd y cosmos ac yn chwilio am atebion i gwestiynau am darddiad bywyd ar y ddaear. Gerllaw, mae grŵp o ferched yn chwilio yn y tywod am gyrff eu hanwyliaid, a adawyd yno’n ddiseremoni gan gyfundrefn Pinochet. Ffilm farddonol, amheuthun sydd yn bersonol, gwleidyddol ac athronyddol.

“Ffilm sy’n gwneud i chi fyfyrio o’r newydd ar ddirgelion bodolaeth ddynol.” Total Film

MachucaGwener 15 MawrthChile/Sbaen/Ffrainc/DG/ 2004/118mun/isdeitlau/15. Cyf: Andres Wood. Gyda: Matias Quer, Ariel Mateluna, Manuela Martelli.

Chile, 1973. Wedi’i gosod yn erbyn cwymp llywodraeth Allende, mae’r ffilm yn adrodd hanes y cyfeillgarwch annisgwyl rhwng Pedro, bachgen chwim ei feddwl sy’n byw yn y slymiau, a Gonzalo, sy’n swil ac yn dod o deulu cyfoethog. Stori gain a medrus am ddod-i-oed sydd hefyd yn ffarwel blin â chyfnod a ddaeth i ben cyn ei bryd.Ar y cyd â Rhwydwaith Chile 40 Mlynedd yn Ddiweddarach a Gŵyl El Sueno Existe.

Gwener 15 — Mercher 20 MawrthMae Gŵyl Ffilm Cymru Un Byd yn dychwelyd â’i detholiad eclectig arferol o sinema o bedwar ban byd. Dewiswyd amrywiaeth eang o ffilmiau i’ch cludo i fannau anghysbell — tirweddau Tibet, pentrefan diarffordd yng ngogledd pell yr Ynys Las — ac i fannau anghyffredin; enwebwyd War Witch, hanes milwr bychan yn y Congo, am Oscar ac mae hi eisoes wedi ennill Gwobr y Gynulleidfa yng Ngŵyl Ffilm Caergrawnt.

O’r C

hwit

h i’r

Dde

: Muc

hach

a, W

adjd

a

Page 7: Sinema Chapter Mawrth 2013

Sinema 07chapter.org

WadjdaSadwrn 16 MawrthSawdi Arabia/Yr Almaen/2012/97mun/isdeitlau/PG. Cyf: Haifaa Al Mansour. Gyda: Reem Abdullah.

Mae’r ffilm hynod ddeniadol a theimladwy hon yn dilyn y tomboi tanllyd a phenderfynol, Wadjda, wrth iddi geisio cynilo digon o arian i brynu beic.

“Sinema sy’n gwthio’r ffiniau yn y ffyrdd gorau posib” — The Telegraph

The Village at The End of the World Sadwrn 16 MawrthDG/2012/78mun/isdeitlau/PG. Cyf: Sarah Gavron.Gyda: Lars, yr arddegwr, Karl, yr heliwr.

Mae’r gymuned yn byw’n gytûn ac mae pethau hudolus yn digwydd yn Niaqornat, pentrefan anghysbell yng ngogledd pell yr Ynys Las sy’n gartref i 59 o bobl a 100 o gŵn. Cipolwg llawn gobaith ar y modd y mae’r pentrefwyr yn addasu i effeithiau newid hinsoddol.

I Wish Gwener 15 — Sadwrn 16 + Gwe 22 — Iau 28 MawrthJapan/2011/129mun/isdeitlau/PG. Cyf: Hirokazu Koreeda. Gyda: Koki Maeda, Ohshiro Maeda, Nene Ohtsuka.

Stori hyfryd am ddau frawd sy’n cael eu gwahanu ar ôl i’w rhieni wahanu ond sy’n benderfynol o ddod â’r teulu at ei gilydd unwaith eto.Gweler t8 am fanylion.

Post Tenebras Lux Sul 17 MawrthMecsico/2012/120mun/isdeitlau/18. Cyf: Carlos Reygadas. Gyda: Adolfo Jimenez Castro, Nathalia Acevedo.

Ffilm hardd, hudolus sy’n canolbwyntio ar Juan a Natalia, cwpl dosbarth canol dadleugar â chanddynt ddau blentyn bach hyfryd (plant Reygadas ei hun). Mae ‘ffilmiau cartref’ tyner ac ingol o brydau bwyd a phartïon yn dangos natur ddomestig bywyd bob dydd am yn ail â golygfeydd dramatig o gymeriadau lleol.Enillydd Gwobr y Cyfarwyddwr Gorau yng Ngŵyl Ffilm Cannes 2012.

War WitchLlun 18 MawrthCanada/2012/90mun/isdeitlau/15 Cyf: Kim Nguyen. Gyda: Rachel Mwanza, Alain Bastien.

Mae’r stori dylwyth teg rymus hon am gariad yn dilyn Komona, milwr bychan yn y Congo. Mae hi’n adrodd stori ei bywyd rhyfeddol wrth ei phlentyn yn y groth. Ffilm aml-haenog sy’n cynnwys perfformiad teimladwy ac annisgwyl, gan actores amatur, sy’n siŵr o aros yn y cof am gryn amser.Enillydd Gwobr y Gynulleidfa, Gŵyl Ffilm Caergrawnt 2012.

Enillydd yr Arth Aur (Gwobr yr Actores Orau) Gŵyl Ffilm Berlin 2012.

Enwebiad am Oscar y Ffilm Iaith Dramor Orau 2013.

Alois NebelLlun 18 MawrthY Weriniaeth Tsiec/2012/80mun/isdeitlau/15. Cyf: Tomas Lunak. Gyda lleisiau: Miroslav Krobot, Karel Roden.

Yn seiliedig ar nofel graffig cwlt, mae’r ffilm yn bortread gwych ac atmosfferig o ddyn unig a hanes diweddar ei wlad. Ar ôl gweld diarddeliad treisgar yr Almaenwyr yn blentyn, mae’n well gan Alois dreulio’i amser yng nghwmni hen amserlenni na phobl, ond ar ôl i ddyn mud a dirgel ymddangos o’r newydd, caiff ei fyd ei droi ben i waered.Enillydd Gwobr Ffilm Ewropeaidd am y Ffilm Orau wedi’i Hanimeiddio 2012

Dangosiad yn rhan o Made in Prague, Taith Sinema Newydd Y Weriniaeth Tsiec 2013.

Viva Cuba Mawrth 18 MawrthCiwba/2005/79mun/isdeitlau/PG. Cyf: Juan Carlos Cremata.Gyda: Malu Tarrau Broche, Jorgito Milo Avila.

Golwg swynol a difyr ar y Giwba fodern trwy lygaid dau blentyn ifanc, Malu a Jorgito, sy’n teithio ar hyd yr ynys er mwyn dod o hyd i dad Malu. Mae yma olygfeydd godidog a pherfformiadau campus gan y ddau blentyn wrth iddyn nhw ddarganfod rhai o drysorau’r ynys ar eu taith.Enillydd Gwobr y Ffilm Orau i Blant yng Ngŵyl Ffilm Cannes 2005

Wedi’i dilyn gan ddarllediad byw o Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth yng nghwmni’r cyfarwyddwr, Juan Carlos Cremata.

O’r C

hwit

h i’r

Dde

: War

Wit

ch, V

iva

Cuba

Page 8: Sinema Chapter Mawrth 2013

The Sun-Beaten Path Mawrth 18 MawrthTibet/2011/89mun/isdeitlau/PG. Cyf: Gyal Sonthar. Gyda: Yeshe Lhadruk, Lo Kyi.

Yn llawn tirweddau anghyfannedd, eang a golygfeydd breuddwydaidd, mae’r trysor sinematig hwn yn bortread dilys o’r Tibet gyfoes. Tra’n cerdded adre’ i ran anghysbell o’r wlad drwy’r mynyddoedd a’r gwastadeddau gwyntog, mae hen ddyn yn ymuno â Nyma — ac mae ei ddaioni naturiol ef yn caniatáu iddi hi ddatgelu’n raddol ambell beth amdani’i hun.

Mama Africa Mercher 20 MawrthY Ffindir/2011/90mun/isdeitlau/15. Cyf: Mika Kaurismaki.Gyda: Miriam Makeba, Hugh Masekela, Harry Belafonte.

Dathliad hyfryd o fywyd yr eicon cerddorol carismatig, Miriam Makeba, canwr, radical gwrth-apartheid, alltud o Dde Affrica ac ymgyrchydd a deithiodd y byd i ledaenu neges o obaith i Affrica. Dychwelodd i’w mamwlad yn y pen draw ar gais personol Nelson Mandela ar ôl 27 mlynedd o fyw oddi cartref.

The HouseMercher 20 MawrthY Weriniaeth Tsiec/Slofacia/2011/97mun/isdeitlau/PG. Cyf: Zuzana Liova. Gyda: Miroslav Krobot, Lucia Jaskova.

Stori am fywyd mewn tref fechan yn Slofacia, a’r frwydr i gael dau ben llinyn ynghyd. Mae’r perfformiadau hyfryd yn pwysleisio’r bwlch rhwng rhieni traddodiadol a phlant y mae eu dyheadau yn dra gwahanol. Trysor o ffilm sy’n rhoi boddhad emosiynol ac sydd yn flas go iawn ar fywyd — y math o ffilm sy’n nodweddiadol o ragoriaethau’r ‘sinema Tsiec’.

Cloud AtlasGwener 22 — Iau 28 MawrthYr Almaen/2012/172mun/15. Cyf: Tom Tykwer. Gyda Tom Hanks, Halle Berry.

Un o’r gweithiau mwyaf uchelgeisiol, drud, dadleuol a dwys — ac un o’r cyfuniadau mwyaf uchelgeisiol o ffurfioldeb llenyddol a ‘pulp fiction’ — ers blynyddoedd. Wedi’i gynhyrchu’n annibynnol, mae’r addasiad cymharol ffyddlon hwn o nofel David Mitchell yn adrodd chwe stori rhwng 1849 a’r flwyddyn 2346. Gyda pherfformiadau gwych gan Tom Hanks, Jim Broadbent a Halle Berry sy’n angori’r wledd ddelweddol hon, mae’r ffilm yn daith sinematig ryfeddol.+ Dangosiad gydag isdeitlau ‘meddal’ ar dydd Sul 24 Mawrth.

I WishGwener 22 — Iau 28 MawrthJapan/2011/128mun/isdeitlau/PG. Cyf: Hirokazu Koreeda. Gyda: Ohshiro Maeda.

Mae dau frawd ifanc yn cael eu gwahanu gan ysgariad eu rhieni; maen nhw’n mynychu ysgolion gwahanol ac yn byw y naill ochr i un o ynysoedd mwyaf Japan. Yn awyddus i weld ei gilydd, ac i ddod â’u rhieni at ei gilydd eto, maen nhw’n dyfeisio cynllun cyfriniol. Portread cynnes, teimladwy a realistig o fywyd teuluol yn y Japan gyfoes. Mae Koreeda yn cyflwyno darlun deniadol a chymhleth o rieni, neiniau a theidiau ac athrawon — a’r cyfan trwy lygaid dau fachgen ifanc arbennig iawn.

“Un o ffilmiau gorau’r flwyddyn.” The Guardian

Sinema08 029 2030 4400

Pasport Cymru Un Byd — gallwch arbed £££oedd! Gallwch weld cymaint o ffilmiau Gŵyl Cymru Un byd ag y dymunwch am ddim ond £30/£25. Manteisiwch ar y fargen hon drwy ffonio’r swyddfa docynnau — 029 2030 4400.

O’r C

hwit

h i’r

Dde

: Mam

a Af

rica,

I W

ish

Page 9: Sinema Chapter Mawrth 2013

Sinema 09chapter.org

AmourGwener 22 — Mercher 27 MawrthAwstria/2012/127mun/isdeitlau/12A. Cyf: Michael Haneke. Gyda: Jean-Louis Trintignant, Emmanuelle Riva, Isabelle Huppert.

Mae Georges ac Anne yn athrawon cerdd wedi ymddeol. Maen nhw’n bobl ddiwylliedig yn eu hwythdegau ac yn byw mewn fflat hardd ym Mharis. Ond pan gaiff Anne bwl o salwch, caiff cwlwm cariad y cwpwl ei brofi i’r eithaf. Mae’r ffilm ingol ac anghyffredin o dyner hon — sy’n cynnwys perfformiadau campus — yn dangos misoedd trasig olaf perthynas sydd wedi para chwe degawd, wrth i hwn ŵr geisio gofalu am ei wraig, sy’n gynyddol flin ar ôl dwy strôc wanychol.Gwobrau BAFTA yr Actores Orau (Emmanuelle Riva) a’r Ffilm Iaith Dramor Orau.

Beasts Of The Southern Wild Sadwrn 23 — Iau 28 MawrthUDA/2012/93mun/12A. Cyf: Benh Zeitin. Gyda: Quvenzhane Wallis, Dwight Henry, Levy Easterly.

Mae’r ffilm hon yn dychwelyd i Chapter ar ôl dangosiadau cyntaf hynod boblogaidd. Mae Hushpuppy yn ferch chwe blwydd-oed eofn sy’n byw gyda’i thad, Wink, yn y Bathtub, cymuned yn ne’r Delta ar ymyl y byd. Mae Wink yn ei pharatoi hi at y cyfnod pan na fydd e yno mwyach i’w hamddiffyn ond ar ôl iddo gael ei heintio â salwch dirgel, mae natur yn troi ben i waered ac fe ryddheir byddin o greaduriaid cynhanesyddol o’r enw ‘aurochs’. Â’r dyfroedd yn codi, yr aurochs ar eu ffordd, a iechyd Wink yn dirywio, mae Hushpuppy yn mynd i chwilio am ei mam.+ Cyflwyniad gan WWF Cymru ar ddydd Sadwrn 23 Mawrth i ddathlu Awr y Ddaear 2013.

CHAPTER, YSTAFELLOEDD TYWYLL A SINEMA 2D YN CYFLWYNO:

Dawn of the Dead yng NGHANOLFAN y QUADRANT, ABERTAWESadwrn 23 Mawrth [a Gwener 22 Mawrth hefyd, o bosib] Drysau’n agor: 7:45pm, Ffilm: 8pm UDA/1978/127mun/18 Cyf: George A Romero. Gyda David Emge, Ken Foree, Scott H Reiniger.

Ag uffern yn llawn dop, mae’r meirw’n dod yn ôl i’r ddaear i gerdded trwy ganolfan siopa ... yn Abertawe. Hwn fydd cyflwyniad mwyaf brawychus tîm Ystafelloedd Tywyll hyd yn hyn: maen nhw’n eich herio chi i wylio clasur George A. Romero am zombies mewn canolfan siopa ... yng nghwmni zombies.Ewch i www.darkenedrooms.com neu gallwch ddilyn @DarkenedRooms ar Twitter a Facebook i gael mwy o wybodaeth.

Richard Bevan / Chess ClubLlun 23 MawrthMae ‘Chess Club’ yn gofnod o ferch sy’n eistedd wrth fwrdd gwyddbwyll ac yn ystyried a chynllunio ei symudiad nesaf, proses a ddisgrifir yn wych yn y nofel gan Walter Tevis. Gosodir y gynulleidfa mewn gwrthwynebiad fel petai â’r chwaraewr gwyddbwyll ifanc, fel delwedd mewn drych; mae’r gwaith — a’r gynulleidfa sy’n ei gweld — fel petaent yn adlewyrchu rhai o brosesau ymenyddol y ferch ei hun. Ar gyfer O:4W, mae Chess Club wedi cael ei chwyddo o’r fformat 16mm gwreiddiol i 35mm ar gyfer tafluniadau sinematig. Caiff y ffilm ei thaflunio am ddwy awr, hyd sy’n gyfystyr â ffilm nodwedd a gêm o wyddbwyll fel ei gilydd.RHAD AM DDIM (galwch i mewn ar unrhyw adeg yn ystod y 2 awr)

Ariennir O:4W gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chaerdydd Cyfoes.

http://www.4wfilm.org/2012/08/richard-bevan-chess-club/

O’r C

hwit

h i’r

Dde

: Am

our,

Daw

n of

the

Dea

d

Page 10: Sinema Chapter Mawrth 2013

Sinema10 029 2030 4400

ShellGwener 29 Mawrth — Iau 4 EbrillDG/2012/90mun/15. Cyf: Scott Graham. Gyda: Chloe Pirrie, Joseph Mawle.

Mae Shell yn rheoli gorsaf betrol ddiarffordd gyda’i thad, Pete. Ar wahân i’r ychydig o gwsmeriaid rheolaidd (sy’n cynnwys yr ardderchog Michael Smiley), mae Shell a Pete yn cael y nesaf peth i ddim cysylltiad â’r byd allanol. Maen nhw’n dibynnu ar ei gilydd am bopeth; ac mae’r anghenion hynny’n dod yn gynyddol annifyr ... Mae Graham a’r sinematograffydd Yoliswa Gartig yn cyflwyno gweledigaeth ysigol o fywyd y tu hwnt i ffiniau arferol cymdeithas ac mae perfformiad Chloe Pirrie yn dra nodedig.

Beyond The HillsGwener 29 Mawrth — Iau 4 EbrillRwmania/2012/150mun/isdeitlau/12A. Cyf: Cristian Mungiu Gyda Cosmina Stratan, Cristina Flutur, Valeriu Andriuţă.

Mae dwy fenyw ifanc, Alina a Voichita, yn dilyn llwybrau gwahanol ar ôl treulio’u plentyndod gyda’i gilydd mewn cartref i blant amddifad. Caiff eu cariad ei brofi pan ddychwela Alina a chael bod ei ffrind bellach yn lleian. Yn seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn, mae’r ddrama ddiweddaraf hon gan Cristian Mungiu (4 Months, 3 Weeks & 2 Days) yn stori garu heb ei hail sy’n cadarnhau ei enw da ef fel un o feistri’r sinema fodern+ Trafodaeth ar ol y dangosiad gan Lavender Screen ym mis Ebrill.

O’r C

hwit

h i’r

Dde

: Bey

ond

The

Hills

, She

ll

Song For MarionGwener 29 — Iau 4 EbrillDG/2012/94mun/PG. Cyf: Paul Andrew Williams. Gyda: Terence Stamp, Christopher Eccleston.

Mae Arthur yn hen ddyn blin sy’n cael unrhyw fath o fynegiant emosiynol yn amhosib, naill ai gyda’i fab neu gyda’i wraig, Marion, sy’n ddifrifol wael. Mae Marion, ar y llaw arall, yn gwneud y mwyaf o’i bywyd fel aelod o’r côr lleol. Ar ôl i iechyd Marion waethygu, mae Arthur yn cael ei orfodi i wynebu ei deimladau. Gyda pherfformiadau gwych a naturiol gan Stamp, Redgrave ac Arterton, mae hon yn stori hynod am achubiaeth.

Les Miserables Gwener 29 — Iau 4 EbrillDG/2012/152mun/12A Cyf: Tom Hooper. Gyda: Hugh Jackman, Russell Crowe, Anne Hathaway.

Mae’r ffilm hynod boblogaidd hon yn dychwelyd i Chapter. Mae’r cyfarwyddwr, Tom Hooper [The King’s Speech, The Damned United] wedi addasu’r sioe gerdd boblogaidd ar gyfer y sgrin fawr gyda chast o sêr disglair. + Dangosiad gydag isdeitlau ‘meddal’ ar dydd Mawrth 2 Ebrill.

4 BAFTA gan gynnwys yr Actores Orau mewn Rôl Ategol, Anne Hathaway.

Skyfall Sadwrn 30 Mawrth — Mercher 3 EbrillDG/2012/143mun/12A. Cyf: Sam Mendes.Gyda: Daniel Craig, Javier Bardem, Judi Dench.

Mae Bond yn gorfod profi ei deyrngarwch i M wrth i’w gorffennol hithau ymddangos eto yn y presennol. Wrth i MI6 ddod dan warchae, rhaid i 007 ddod o hyd i’r bygythiad a’i ddinistrio - waeth beth fydd y gost bersonol.2 BAFTA gan gynnwys Gwobr am Ffilm Brydeinig Eithriadol.

Page 11: Sinema Chapter Mawrth 2013

Sinema 11chapter.org

This Working Life: Bfi sTeeL I filiynau o bobl, nid mater o dreftadaeth ddiwydiannol yn unig yw’r gwaith dur, mae’n rhan o hanes personol a theuluol. Yn cynnwys ffilmiau nodwedd gwych a gweithiau dogfen prin, cefnogir rhaglen ‘Steel’ y BFI gan y Cyngor Prydeinig, y Community Union ac Elusen Erik Anker-Petersen.

Men of SteelSul 3 + Mawrth 5 MawrthDG/1932/71mun/PG. Cyf: George King. Gyda John Stuart, Benita Hume.

Melodrama mewn gwaith dur yn y gogledd-ddwyrain. Adroddir hanes dyn ifanc uchelgeisiol a llwyddiannus sy’n dyfeisio proses newydd ar gyfer cynhyrchu dur ac sy’n cael gwersi areithyddiaeth (‘elocution’). Ond rhaid iddo dalu’n ddrud am ei lwyddiant ...

+ Ffilm fer: Mrs Worth goes to WestminsterDG/1949/25mun.

Mae Mrs Worth a’i meddwl chwim yn dysgu am rinweddau dur.

Hard SteelSul 10 + Mawrth 12 MawrthDG/1942/86mun/PG. Cyf: Norman Walker. Gyda Wilfrid Lawson, Betty Stockfeld, John Stuart.

Mae gweithiwr dur (Wilfrid Lawson) yn codi drwy’r rhengoedd tan iddo ddod yn rheolwr ar dair melin ddur, ond mae uchelgais didostur yn arwain at ei ddinistr. Mae’n croesi’i gyd-weithwyr, yn dieithrio’i wraig ac, yn anuniongyrchol, yn achosi marwolaeth un o’r gweithwyr.

‘Mae arogl Sheffield yn drwchus yn y ffilm hon — ac mae hynny’n beth ardderchog!’

+ Ffilm fer: The Ten Year PlanDG/1945/17mun.

Charles Hawtrey yn sôn am ryfeddod swyddogaethol y ‘prefab’ dur.

Wings of MysterySul 17 + Mawrth 19 MawrthDG/1963/55mun/U. Cyf: Gilbert Gunn. Gyda Judy Geeson, Hennie Scott, Richard Carpenter.

Mae’r cynhyrchiad llawn cyffro hwn - sy’n llawn delweddau hyfryd hefyd - yn digwydd yn Sheffield ac yn adrodd hanes lladrad aloi dur arbennig a haid o golomennod rasio o’r radd flaenaf sy’n achub y dydd!

+ Ffilm fer: Women of SteelDG/1984/27mun.

Cipolwg prin ar rôl merched yn y diwydiant dur yn Sheffield yn ystod y rhyfel.

Steel in South WalesSul 24 + Mawrth 26 MawrthAr y cyd ag Archif Cenedlaethol Sgrin a Sain Cymru, rydym yn falch o allu cyflwyno detholiad o ffilmiau sy’n tynnu sylw at rôl bwysig dur yn Ne Cymru. Mae’r ffilm hon yn dangos dulliau cynnar o rolio dalenni dur mewn melinau pacio a’r gwaith o adeiladu melin rolio stribedi poeth newydd Margam. Mae gweld y delweddau hyn yn bleser pur. Gwelir hefyd arbrofion yn Labordy Cymdeithas Ymchwil Haearn a Dur Prydain ger Abertawe.+ Ingot Pictorial No. 27 (1956/25mun)Ffilm ddogfen wych sy’n dangos, ymysg pethau eraill, Deithiau Cerdded y Sulgwyn o amgylch Capeli Glyn Ebwy a delweddau o Ffowndri a Gwaith Peirianyddol Machynys yn Llanelli.Ar y cyd ag Archif Cenedlaethol Sgrin a Sain Cymruwww.archif.com

Ships, Planes and AutomobilesSul 31 Mawrth + Mawrth 2 EbrillCasgliad o ffilmiau byrion sy’n dathlu rhyfeddodau trafnidiaeth gan gynnwys y Fair Oriana, llong deithwyr mwyaf Lloegr ar y pryd, a Phenwythnos y Gweithwyr sy’n dangos awyren fomio Wellington yn cael ei hadeiladu mewn dim o dro gan weithlu o fenywod yn bennaf.

Win

gs o

f Mys

tery

Page 12: Sinema Chapter Mawrth 2013

Sinema12 029 2030 4400

Carry On Screaming!Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn galluogi i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Gweler y calendr am fanylion. Ar gyfer pobl â babanod dan flwydd oed yn benodol.Mynediad am ddim i fabanod. Nodwch os gwelwch nad yw tocynnau ar gyfer y dangosiadau hyn ar gael ar-lein. Dim mynediad heb fabi!

Monsters Inc [2D]Sadwrn 2 MawrthUDA/2001/92mun/U. Cyf: Pete Docter, David Silverman. Gyda Billy Crystal, John Goodman.

Mae angenfilod yn cynhyrchu pŵer ar gyfer eu dinas trwy godi ofn ar blant — ond mae’r angenfilod yn eu tro yn ofni cael eu heintio gan blant. Pan ddaw plentyn i mewn i Monstropolis, felly, mae byd yr arch-fwgan Sulley yn cael ei droi ben-i-waered.

Monsters Vs AliensSadwrn 9 MawrthUDA/2009/94mun/PG. Cyf: Rob Letterman, Conrad Vernon. Gyda: Reese Witherspon, Rainn Wilson.

Pan gaiff Susan ei tharo gan feteoryn ar ddiwrnod ei phriodas, mae hi’n cael ei thrawsffurfio’n gawr ac yn dod yn rhan o dîm o angenfilod a anfonir gan lywodraeth yr Unol Daleithiau i drechu athrylith o blaned arall sy’n ceisio gorchfygu’r Ddaear.

The Iron GiantSadwrn 16 MawrthUDA/1991/86mun/U. Cyf: Brad Bird. Gyda: Jennifer Aniston, Harry Connick Jnr, Vin Diesel.

Wedi’i gosod ym 1957, mae’r stori hyfryd hon wedi’i hanimeiddio yn seiliedig ar stori Ted Hughes am fachgen sy’n dod yn ffrindiau ag ymwelydd o blaned arall. Mae’n ceisio dysgu arferion dynol iddo — a sut i oroesi mewn byd gelyniaethus.

I WishSadwrn 16 MawrthJapan/2011/128mun/isdeitlau/PG. Cyf: Hirokazu Koreeda. Gyda: Koki Maeda, Ohshiro Maeda.

Mae Koichi, 12-mlwydd-oed, a’i frawd wedi cael eu gwahanu ac mae’r bachgen yn dod i gredu y bydd y trên bwled newydd yn creu gwyrth wrth i’r ddau drên cyflym cyntaf basio’i gilydd.

Wreck It Ralph [2D]Gwener 22 — Iau 28 MawrthUDA/2012/108mun/PG. Cyf: Rich Moore. Gyda: John C Reilly, Jack McBrayer, Jane Lynch.

Mae dihiryn gêm fideo eisiau bod yn arwr ac mae’n mynd ati i geisio gwireddu ei freuddwyd. Ond mae ei ymdrechion yn achosi llanast difrifol yn yr arcêd sy’n gartref iddo.+ Dangosiad i blant ag anghenion arbennig (mwy o olau nag arfer, trac sain llai swnllyd, dim hysbysebion cyn y ffilm) ar ddydd Mercher 27 Mawrth am 1pm. Gweler y we-fan am fanylion.

Sammy ‘s Great Escape 2DGwener 29 — Iau 4 EbrillUDA/2012/92mun/U. Cyf: Vincent Kesteloot, Ben Stassen. Gyda Pat Carroll, Carlos McCullers II.

Tra bod Sammy a Ray yn bugeilio’u crwbanod newydd-anedig, daw potsiwr i’w dwyn a’u cymryd i fod yn rhan o sioe acwariwm. Ar ôl cynllunio dihangfa fentrus, caiff Sammy ei aduno â Shelly, ei gariad cyntaf.

FFILMIAU I’R TEULU CYFANDetholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk02920 666688

O’r C

hwit

h i’r

Dde

: Mon

ster

s In

c, W

reck

It R

alph

Page 13: Sinema Chapter Mawrth 2013

Info

How

to g

et to

Cha

pter

Yo

u’ll

find

us in

Can

ton

to th

e w

est o

f the

city

cen

tre.

M

awrt

hket

Roa

d, C

anto

n, C

ardi

ff C

F5 1

QE

By F

oot

We’

re ju

st a

20

min

ute

slow

ish

wal

k fr

om th

e

city

cen

tre.

By B

us

Bus

num

bers

17,

18

and

33 s

top

clos

e by

and

leav

e ev

ery

five

min

utes

from

the

city

cen

tre.

By B

ike

Th

ere

are

plen

ty to

bik

e ra

cks

at th

e fr

ont o

f the

bu

ildin

g.

Park

ing

We

have

a c

ar p

ark

to th

e re

ar o

f the

bui

ldin

g an

d lo

cal c

ar p

arks

are

mar

ked

on th

e m

ap a

bove

. Ple

ase

resp

ect o

ur n

eigh

bour

s an

d av

oid

park

ing

on n

earb

y st

reet

s.

Acce

ss fo

r all

Chap

ter C

roes

os d

isab

led

visi

tors

. If

you

have

any

spe

cific

acc

ess

requ

irem

ents

or q

uest

ions

ple

ase

cont

act o

ur b

ox o

ffic

e on

029

203

0 44

00, m

inic

om 0

29 2

031

3430

.

Asso

ciat

ed C

ompa

nies

and

Art

ists

Ch

apte

r is

hom

e to

The

atr c

ompa

nies

, dan

ce

com

pani

es, a

nim

atio

n st

udio

s, p

rintm

aker

s,

pott

ers,

gra

phic

des

igne

rs, m

otio

n de

sign

ers,

co

mpo

sers

, film

mak

ers,

mag

azin

e pu

blis

hers

, m

any

indi

vidu

al, i

ndep

ende

nt a

rtis

ts a

nd m

ore.

He

ad to

ww

w.c

hapt

er.o

rg fo

r mor

e de

tails

.

Wor

ksho

ps a

nd C

lass

es

We

host

a w

ide

varie

ty o

f dai

ly w

orks

hops

and

cl

asse

s ru

n by

inde

pend

ent p

ract

ition

ers

incl

udin

g ba

llet,

zum

ba, y

oga,

Maw

rtht

ial a

rts,

bab

y m

assa

ge, c

hild

ren’

s m

usic

, pila

tes,

tang

o,

flam

enco

, cre

ativ

e w

ritin

g, m

usic

less

ons

and

mor

e. H

ead

to w

ww

.cha

pter

.org

for m

ore

deta

ils.

Myn

edia

d i b

awb

Mae

Cha

pter

yn

croe

saw

u ym

wel

wyr

an

abl.

Os o

es g

enny

ch u

nrhy

w

angh

enio

n m

yned

iad

peno

dol f

foni

wch

ei

n sw

yddf

a do

cynn

au a

r 029

203

0 44

00, m

inic

om 0

29 2

031

3430

.

Gwyb

odae

thSu

t i g

yrra

edd

Chap

ter

Fe d

dew

ch c

hi o

hyd

i ni

yn

Nhre

gann

a, i’

r go

rllew

in o

gan

ol y

ddi

nas.

He

ol y

Far

chna

d, T

rega

nna,

Cae

rdyd

d CF

5 1Q

E

Ar D

roed

M

ae h

i’n d

aith

ger

dded

ham

dden

ol o

ryw

20

mun

ud o

ga

nol y

ddi

nas.

Ar F

ws

Mae

bys

us rh

if 17

, 18

a 33

yn

aros

ger

llaw

ac

yn

gada

el b

ob p

um m

unud

o g

anol

y d

dina

s.

Ar F

eic

M

ae d

igon

o ra

ciau

bei

c ar

flae

n yr

ade

ilad.

Parc

io

Mae

gen

nym

faes

par

cio

yng

nghe

fn y

r ade

ilad

ac m

ae

mey

sydd

par

cio

lleol

era

ill w

edi e

u no

di a

r y m

ap u

chod

. Go

fynn

wn

i chi

bar

chu

ein

cym

dogi

on o

s gw

elw

ch y

n dd

a dr

wy

osgo

i par

cio

mew

n st

rydo

edd

cyfa

gos.

Cwm

nïau

ac

Artis

tiaid

Cys

yllti

edig

M

ae C

hapt

er y

n ga

rtre

f i g

wm

nïau

thea

tr, c

wm

nïau

da

wns

, stiw

dios

ani

mei

ddio

, gw

neut

hurw

yr p

rintia

u,

croc

henw

yr, d

ylun

wyr

gra

ffeg

, dyl

unw

yr d

euny

dd

sym

udol

, cyf

anso

ddw

yr, g

wne

uthu

rwyr

ffilm

iau,

cy

hoed

dwyr

cyl

chgr

onau

, art

istia

id a

nnib

ynno

l a

llaw

er ia

wn

mw

y. E

wch

i w

ww

.cha

pter

.org

am

fwy

o fa

nylio

n.

Gwei

thda

i a D

osba

rthi

adau

Ry

dym

yn

cynn

al a

mry

wia

eth

eang

o w

eith

dai d

yddi

ol

a do

sbar

thia

dau

gyda

g ym

arfe

rwyr

ann

ibyn

nol,

gan

gynn

wys

bal

e, z

umba

, iog

a, c

reff

t ym

ladd

, mas

sage

i fa

bano

d, c

erdd

oria

eth

i bla

nt, p

ilate

s, ta

ngo,

ff

lam

enco

, ysg

rifen

nu c

read

igol

, gw

ersi

cer

ddor

iaet

h a

mw

y. E

wch

i w

ww

.cha

pter

.org

am

fwy

o fa

nylio

n.

Market Road / Heol y Farchnad

Cow

brid

ge R

oad

East

H

eol D

dwyr

eini

ol y

Bon

t Fae

n

Church Rd.

Llandaff Road

Leckwith Road

Al

bert

St.

W

ellin

gton

Str

eet

Severn Road

Gl

ynne

St.

Sprin

gfie

ld P

l. Orch

ard

Pl.

Gr

ay St.

Gray

St.

Gray Lane

King’s Road

Mar

ket P

l.

Library St. Penllyn Rd.

Maj

or R

oad

Ear

le P

l.

Ham

ilton

St

Talb

ot S

t

Wyndam Crescent

Harvey Str

eet

To C

ardi

ff

City

Cen

tre

/I G

anol

Din

as

Caer

dydd

Cant

on

from

6pm

o

6pm

P —

free

car

par

ks m

eysy

dd /

par

cio

rhad

ac

am d

dim

bus

sto

p /

safle

bw

s—

cyc

le ra

ck /

rac

feic

s