Y Selar - mawrth 09

24
RHIFYN 17 . MAWRTH . 2009 Y CEFFYLAU BLAEN y Selar AM DDIM 10 ALBWM GORAU 2008 UCHAFBWYNTIAU 2009 GIG OLAF ANWELEDIG PUMP PERL DAI LLOYD CYFWELIAD ECSGLIWSIF GYDA RACE HORSES

description

cylchgrawn cerddoriaeth o Gymru / Welsh language music magazine

Transcript of Y Selar - mawrth 09

Page 1: Y Selar - mawrth 09

RHIF

YN

17

. M

AWRT

H .

20

09

Y CEFFYLAU

BLAEN

y Selar AMDDIM

10 ALBWM GORAU

2008

UCHAFBWYNTIAU

2009

GIG OLAF ANWELEDIG

PUMP PERL DAI LLOYD

CYFWELIAD ECSGLIWSIF GYDA RACE HORSES

templateyselar.indd 1templateyselar.indd 1 4/3/09 10:34:444/3/09 10:34:44

Page 2: Y Selar - mawrth 09

www.sainwales.comffôn 01286 831.111 ffacs 01286 [email protected]

w.sa

inwa

les.co

m w

ww.ra

sal.n

et

www.

mysp

ace.c

om/g

wymo

n w

ww.m

yspa

ce.co

m/lab

elcop

a Huw Chiswell Neges dawelYsgol Glanaethwy O FortunaCalan BlingThe Gentle Good While you slept I went out walkingGoreuon Mim Twm LlaiGeraint Jarman Atgof fel angorGwibdaith Hen Frân Tafod dy wraigHanner Pei Ar Plat9Bach C’weiriwch fy ngwely

Holl gatalog Sain, Rasal, Gwymon a Copa ar gael i lawrlwytho ar iTunes neu archebwch CDs o –

CDs newydd Sain, Rasal, Gwymon a Copa

Tanysgriffi iwch

fel arall mae modd

mynnu copi’n rhad ac

am ddim o’ch siop

Gymraeg leol.

trwy ymuno a grw^p Y Selar

ar facebook neu ebostiwch

eich enw, cyfeiriad ac ebost i

[email protected]

www.myspace.com/yselar

templateyselar.indd 2templateyselar.indd 2 4/3/09 10:34:584/3/09 10:34:58

Page 3: Y Selar - mawrth 09

Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Rhybudd - Defnyddir iaith gref mewn mannau, a iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.

3

13

10

10 UCHAF ALBYMS 08

EDRYCH YMLAEN AT ‘09

GIG OLA’ ANWELEDIGG

OLY

GY

DD

OL

y SelarRHIFYN 17 . MAWRTH . 2009

LBYMS 08LBYMS 08

Yn ôl pob sôn, odd Dewi Sant yn foi da ... ac os

edrychwch chi ar y wefan wyddoniadurol boblogaidd

Wikepedia, fe welwch chi ei fod o’n rhannol gyfrifol

am sefydlu Glastonbury! Oce, ddim fo sy’n gyfrifol

am w^ yl Glastonbury, yn hytrach yr abaty, ond ma’r

cyswllt amwys yn rhoi cyfl e i mi longyfarch Yr Ods

ar ennill lle ar un o lwyfannau gw^ yl Glastonbury

eleni - o’n nhw’n un o top tips cyntaf ‘Dau i’w Dilyn’

wyddoch chi! Band arall sydd wedi chwarae yn Glasto

ydy Radio Luxembourg ... sydd wedi newid eu henw’n

ddiweddar, a digwydd bod ma gennym ni gyfweliad

ecsglwsif efo nhw!

I ddeud y gwir wrthych chi, ma’r rhifyn hwn o’r Selar

yn llawn danteithion blasus, yn cynnwys ein dewis

o albyms Cymraeg gorau 2008 - pwy fydd ar y brig

tybed? Ond, nid dim ond rhamantu am y fl wyddyn a

fu fyddwn ni rhwng y cloriau sgleiniog sydd yn eich

pawennau, na, da ni’n licio edrych ymlaen i’r dyfodol

yn rhengoedd Y Selar a bydd criw o’n hoff gyfranwyr

yn dweud yn union beth maen nhw’n edrych ymlaen

ato yn ystod y fl wyddyn i ddod - ac er yr holl

dw^ m a glw^ m sy’n hedfan o’n hamgylch ar

hyn o bryd, ma ‘na lot o stwff cyffrous ar

y gweill yn yr SRG. Felly, fel dywedodd ein

nawddsant, gwnewch y pethau bychain a

chofi wch, deuparth gwaith yw ei ddechrau.

OWAIN S

GolygyddOwain Schiavone ([email protected])

DylunyddDylunio GraffEG(elgangriffi [email protected])

MARCHNATAEllen Davies([email protected])

CyfranwyrBarry Chips, Ian Cottrell, Dewi Snelson, Aled Ifan, Lowri Johnston, Hefi n Jones, Leusa Ffl ur, Gwilym Dwyfor, Ceri Phillips, Lisa Gwilym, Dai Lloyd, Dewi Prysor, Alwyn Jones

RAC

E H

ORS

ES

4

20

templateyselar.indd 3templateyselar.indd 3 4/3/09 10:35:044/3/09 10:35:04

Page 4: Y Selar - mawrth 09

?4 myspace.com/racehorsesmusic

CARLAMU I’R

BRIG

“ MAE ‘NA

CONNOTATIONS

GAMBLO, SY’N

RHYW FATH O

ADLEWYRCHU BE

YDY HYN I NI

“Ffurfi wyd Radio Luxembourg yn ysgol Penweddig yn 2004 ac aethant ymlaen i sefydlu eu hunain fel un o fandiau mwyaf poblogaidd a chydnabyddedig y sin gerddoriaeth Gymraeg. Ond, wedi cyfnod tawel ers diwedd yr haf mae llawer o ddyfalu wedi bod yngly^ n â dyfodol y band – a’i nhw yw’r diweddaraf i geisio’i ‘gwneud hi’ yn llawn amser dim ond i ddisgyn yn ffl at ar eu hwyneb? Y newyddion da ydy fod

Meilyr, Dylan, Gaff a’r drymiwr newydd Gwion yn bendant yn dal efo’i gilydd, yn setlo mewn i fywyd yng Nghaerdydd, wedi cyhoeddi enw newydd y band ac yn datgelu cynlluniau cyffrous i’r dyfodol. Aeth Y Selar lawr i gwrdd â’r 4 yn y Buffalo Bar (gan fod Gaff yn rhy ddiog i gerdded i Grangetown lle’r oedden ni fod i gwrdd) a lle gwell i ddechrau na gyda bywyd yn y brifddinas i’r Race Horses:

“Ma’n haws gneud pethe nawr gan bod ni gyd yn agos at ein gilydd. Ma’n teimlo mwy fel band sef beth oedden ni ishe fe fod” yn ôl Meilyr. Doedd symud i Gaerdydd ddim yn arwydd o droi cefn ar y Gorllewin i ehangu cyfl eoedd y band felly, ond yn hytrach yn gam pwrpasol i gael yr holl aelodau yn yr un lle, fel yr eglura Gaff “cynt odd Meilyr yn Llundain,

Dylan yng Nghaerdydd a fi ’n Aberystwyth ac odd o’n effort. Odd hynny’n iawn ar y pryd achos odd o jyst yn gigs ar y penwythnosau ac odd yr aspirations yn wahanol.” Aiff Meilyr ymlaen, “pryd dy’n ni’n ymarfer ma’n gallu bod yn lot mwy intense erbyn hyn. Ond dim jyst y pethe cerddorol sy’n well, dy’n ni’n gallu cwrdd fyny lot mwy i drafod syniadau a jyst cael laff gyda’n gilydd.”

Mae Meilyr a Dylan yn gweithio rhan amser a mae Gaff yn chwilio am waith “ac mewn sefyllfa gwaeth yn ariannol na dwi erioed wedi bod”, ond dydy hynny ddim i’w weld yn ei ofi dio’n ormodol. Mae’r aelod diweddaraf, Gwion, a gymerodd awenau’r drymiwr oddi wrth Ben Herrick yn ystod yr haf, yn dal i fyw yn y gogledd ar hyn o bryd, “ond dwi fwy yng Nghaerdydd na ddim, ac isho symud yma’n iawn cyn gynted a fedrai”. Felly ydy Gwion wedi’i chael hi’n anodd ymuno â band sydd wedi bod gyda’i gilydd cyhyd? “Dio’m di bod yn anodd o gwbl gan bod ni wedi dod mlaen o’r dechra, dio’m di bod yn strygl o gwbl” meddai. Mae Dylan yn cytuno “mae wedi bod yn un o newidiadau gorau’r band ac mae’n neis cael rhywun cwpl o fl ynyddoedd yn iau, gydag egni ffresh. Weithiau ti’n gwneud gig ti di gneud o’r blaen ac yn cael hi’n anodd bod lan i wneud e, ond i Gwion dyma’r tro cyntaf iddo fe wneud e, a ma hynny’n gneud popeth yn exciting i ni hefyd.” Mae rhywun yn cael y teimlad fod y band yn teimlo’n gyfl awn erbyn hyn, gyda phob aelod yn cyfrannu fel eglura Meilyr “odd pethe’n dda o’r blaen ond nawr fod pawb yn multi-instrumentalists, pawb yn canu, pawb yn sgrifennu, dy’n ni ddim yn gwbod ble ma’n mynd i fynd ... sy’n gyffrous.”

Mae’n gwbl amlwg fod y pedwarawd yn gwbl gyfforddus gyda’i gilydd ac yn ddigon hyderus i fod yn onest yngly^ n â beth maen nhw’n licio a ddim yn licio – does dim ‘hang-ups’ o ran eu tast cerddorol, sy’n amrywiol iawn ond gyda rhai mannau canol. Gyda chymaint o ddylanwadau cerddorol, sut mae nhw’n gweld sw^ n y band erbyn hyn? “Dy’n ni ddim yn analyzo steil y band, ni jyst yn gadael y miwsic fynd lle bynnag ma’n penderfynu mynd â ni” medd Meilyr “fi ’n meddwl bod ni’n hynod o self-critical, a ddim yn rhoi lan da rhywbeth sydd ddim yn dda - ma’r bar wedi codi’n lot uwch o ran beth ni’n fodlon recordio.” Yn amlwg mae’r Race Horses yn gosod safonau uchel iawn i’w hunain ac mae’r bois hyd yn oed yn awgrymu y bydden nhw’n diystyru rhai o’u hen ganeuon mwyaf adnabyddus petai nhw’n eu hysgrifennu nhw heddiw,

templateyselar.indd 4templateyselar.indd 4 4/3/09 10:35:224/3/09 10:35:22

Page 5: Y Selar - mawrth 09

5

cyfweliad: race horses

“OS DI CÂN YN SWNIO

JYST FEL ‘AVERAGE’ CÂN

RACE HORSES NEU

RADIO LUXEMBOURG

DYDY HYNA DDIM DIGON

DA

LABEL A RHEOLAETH

Mae’r Race Horses wedi arwyddo i label Fantastic Plastic ac mae ganddyn nhw dîm o dri yn rheoli’r band. “Nathon ni anfon demo iddyn nhw ages nôl, a buon nhw i lwyth o’n gigs ni. Ma’n gweithio’n dda a ma’n neis gallu cael gwared o lot o’r cyfrifoldebau a chanolbwyntio ar y gerddoriaeth” meddai Dylan.

Felly ydy diffyg rheolwyr yn wendid o fewn y sin Gymraeg? Mae Gaff yn credu hynny i raddau, “os tisho cael miwsic chdi allan i lot fawr o bobl ma’n rhaid ti gal cynrychiolaeth”, ond dydy Dylan ddim yn siw^ r, “Dwi’m yn

meddwl fod o’n beth gwael fod dim rheolwyr yn y sin Gymraeg. Mae band 18 oed o Sir Fôn yn gallu recordio sesiwn radio ac o fewn cwpl o fi soedd gallen nhw fod ar lineup ‘Steddfod, sy’n grêt.” Yn sicr mae nhw’n falch o’r cyfl eoedd ma nhw wedi cael yn ôl Meilyr, “Y peth da am dyfu lan gyda’r sin Gymraeg ydy bod ni wedi cael lot mwy o brofi ad na bandiau o Loegr, fel chwarae ar y radio, teledu, headlinio yn y ‘Steddfod a.y.b. Dy’n ni hefyd wedi arfer gweithio’n uniongyrchol gyda phobl a dysgu pryd mae nhw’n trio cymryd mantais ohono chi.”

“ma na nifer o ganeuon ‘da’ wedi cael eu tafl u allan gan bod ni ddim yn hapus efo nhw” medd Dylan, “os di cân yn swnio jyst fel ‘average’ cân Race Horses neu Radio Luxembourg dydy hyna ddim digon da. Er enghraifft, petai rhywun yn dod a Os Chi’n Lladd Cindy i’r bwrdd heddiw bydden ni ddim yn defnyddio fe.” Mae’r drafodaeth yn mynd ymlaen yngly^ n â thechnegau recordio a’r ffordd maen nhw wedi dysgu i strwythuro caneuon yn well gyda phrofi ad o weithio mewn stiwdio, ond fel mae Gaff yn dweud “does na neb yn mynd i ddallt be da ni’n siarad amdano tan fod yr albwm ma allan”, sydd efallai’n crynhoi rhwystredigaeth y band o fod yn eistedd ar albwm sydd wedi ei recordio dros hanner blwyddyn yn ôl. Sy’n ein harwain yn hwylus at yr enw newydd...

GEIRIAU: OWAIN SCHIAVONE

LLUNIAU: OWAIN LLY^

R

templateyselar.indd 5templateyselar.indd 5 4/3/09 10:35:384/3/09 10:35:38

Page 6: Y Selar - mawrth 09

6

“YR ENW NEWYDDFelly’r cwestiwn ar wefusau pawb, pam fod Radio Luxemburg wedi morffi o mewn i Race Horses? Dylan sy’n egluro “o ni’n edrych lawr y barrel o potentially gael ein siwio. Mae ganddo ni sengl ac albwm yn dod allan ar scale hollol wahanol i unrhyw beth arall ni wedi gwneud, ac ma ‘Radio Luxembourg’ yn berchen i RTL - cyngor y cyfreithiwr oedd fod rhaid ni sortio’r peth allan.” Er fod y band wedi cysylltu gyda perchnogion hawlfraint ‘Radio Luxembourg’ i drafod y mater roedd y broses yn un araf ac yn ôl pob tebyg bydden nhw wedi bod allan o boced. Ond y peth tyngedfennol oedd fod yr ansicrwydd yn atal y band rhag gwneud yr hyn roedden nhw’n caru ei wneud,

sef cerddoriaeth, “o ni mewn limbo, wedi recordio albwm ond yn methu cael dyddiad rhyddhau ac yn methu gwneud gigs” eglura Meilyr, “os na fydden ni wedi gwneud rhywbeth gallen ni fod yn styc yn yr un lle am pwy a w^ yr pa mor hir.” Felly roedd y newid enw’n anghenraid, ond mae’r band yn ddigon cyfforddus gyda’r peth yn ôl Gaff, “i dechrau oddan ni’n teimlo bechod am y peth, ond ar ddiwedd y dydd o ni’n methu chwara gigs a gwneud cerddoriaeth felly odd dropio enw Radio Lux yn bris bach i’w dalu yn y darlun mawr.”

Mae’n amlwg o siarad gyda’r bois fod y broses o ddewis enw newydd wedi bod yn gur pen gyda channoedd o enwau’n cael eu diystyru. Mae’n eironig felly eu bod wedi dewis un o’r ddau enw cyntaf

i gael eu cynnig, ond pam dewis Race Horses? “Odd e’n ridiculos. Odden ni’n textio pob math o enwau i’n gilydd, ac er fod lot o enwau da, doedd dim un yn sticio. Yn bersonol dwi’n meddwl bod e’n dal yr excitement, yr enthusiasm a’r egni yn y band ar hyn o bryd” meddai Meilyr “ma’n teimlo’n wahanol, yn enwedig gyda Gwion yn ymuno â’r band ma’n teimlo fel dechrau ffresh”. Mae Dylan yn ymhelaethu, “mae ‘na hefyd connotations gamblo, sy’n rhyw fath o adlewyrchu be ydy hyn i ni – natur bod yn y band ydy fod yna ddim synnwyr o sicrwydd.” Maen nhw’n dechrau awgrymu bod hwn yn ‘last throw of the dice’ iddyn nhw, cyn i mi fel hen ddyn, i gymharu â nhw, ddweud bod nhw’n lot rhy ifanc i siarad yn y fath fodd, a diolch byth mae nhw’n cytuno.

Mae Gaff yn cyfaddef bod nhw wedi bod yn poeni rhywfaint am sut fyddai rhai’n dehongli’r newid enw “mae ‘na rai pobl sy’n mynd i ddeud bod ni’n nobs a deud bod ni’n gneud hyn i droi’n cefnau ar y sin,” mae Dylan yn torri ar draws “ond y gwir ydy y bydden ni’n gwerthu allan mwy tasen ni wedi sticio da be o’n ni’n neud fel Radio Lux, ti jyst yn mynd rownd yn chwarae’r un hen gigs i’r un dyrfa a ma’n rhaid symud ymlaen o hynny rhywbryd.” “Dy’n ni ddim yn poeni gormod am bobl yn slagio ni ffwrdd, ond bod nhw’n informed yn yr hyn mae nhw’n ddweud.”

RHYDDHAU DEUNYDD A’R DYFODOLMae’r band yn gobeithio rhyddhau sengl ‘dwbl-A’ ddiwedd Ebrill gydag un trac Cymraeg ac un Saesneg, a byddan nhw’n gwneud taith fer yng Nghymru i’w hyrwyddo. Bydd yr albwm, di-deitl ar hyn o bryd (“ma meddwl am enw i’r albwm wedi bod hyd yn oed yn anoddach na meddwl am enw newydd i’r band” yn ôl Gaff), yn dilyn cwpl o fi soedd yn ddiweddarach. Dave Wrench

YR UNIG RESWM DWI ISHE

CHWARE UNRHYW LE TU ALLAN

I’R CW^

PS YDY GAN BOD FI’N

EITHAF SIW^

R FOD POBL EISIAU

CLYWED MIWSIC NI

templateyselar.indd 6templateyselar.indd 6 4/3/09 10:35:424/3/09 10:35:42

Page 7: Y Selar - mawrth 09

7

cyfweliad: race horses

sydd wedi cynhyrchu’r albwm a gafodd ei recordio ganol llynedd, ond maent wedi defnyddio sawl lleoliad i recordio yn ôl Dylan, “Brynderwen (stiwdio Dave Wrench) oedd yr HQ, a nathon ni’r overdubs yn stiwdio Frank Norton yn Grangetown. Buon ni hefyd yn stiwdio Kissan a recordio dwy sesiwn gyda John Lawrence.”

Mae trafod yr albwm, sy’n ddwyieithog, yn arwain at gyfansoddi ac at y pwnc tabw^ hwnnw o ganu’n Saesneg, sydd eisoes wedi ennyn trafodaeth ers i’r band newid eu henw (sy’n eironig – ydy Radio Luxembourg yn enw Cymraeg dywedwch?). Dylan sy’n ymateb gyntaf “Mae albwm dwyieithog yn naturiol i ni fel band - dy’n ni ddim yn deall bandiau sy’n recordio un albwm Cymraeg ac un Saesneg. Does yna ddim un adeg wedi bod lle roedden ni’n fand ‘un-iaith’ yn unig.” Mae Meilyr yn ymhelaethu, “ni’n cyfansoddi’n naturiol yn y ddwy iaith, a pryd ti’n meddwl am y gerddoriaeth ti’n gwrando arno, y llyfrau ti’n darllen a’r ffi lmiau ti’n gwylio – ma lot o’r dylanwadau yn Saesneg wrth gwrs.” Mae Meilyr yn teimlo fod gormod o ystrydebu yngly^ n â phethau sy’n dod allan o Gymru, “ti byth yn clywed pobl yn dweud ‘ti di clywed am y band really da ma o Loegr’ felly pam fod o’n digwydd gydag artistiaid o Gymru? Dyle fo jyst fod yn ‘ma hwn yn dda, a ma’n dod o Gymru’.”

Mae yna deimlad o gyffro ymysg y grw^ p yngly^ n â’r dyfodol agos, “ma’r release yn rhoi hwb enfawr, ma’n rhoi ffocws. Dy’n ni’n falch fod cynllun gyda ni nawr – sengl yn dod allan, albwm yn dod allan – mae ‘na rywbeth wedi fformiwleiddio.” Mae’n ddiddorol clywed mai’r band sydd wedi talu holl gostau’r albwm – dydyn nhw ddim wedi gwneud ceiniog allan o’r band hyd yn hyn - mae popeth wedi mynd nol mewn i Race Horses. “Da ni’n falch o hyn gan mai ni sy’n berchen ar yr albwm,” medd Gaff

“da ni isho osgoi gymaint o ymyrraeth a phosib ym mhob agwedd.”

Wrth i’r sgwrs fynd rhagddi daw hi’n fwyfwy amlwg mai nod y Race Horses ydy cyrraedd cynulleidfa mor eang a phosib gyda’u cerddoriaeth, fel dywed Dylan “yr unig reswm dwi ishe chware unrhyw le tu allan i’r Cw^ ps ydy gan bod fi ’n eithaf siw^ r fod pobl eisiau clywed miwsic ni, a neith hynny roi’r cyfl e i ni wneud be ni ishe neud.” Mae’n siw^ r fod hyn yn crynhoi y band deallus yma i’r dim, ac er ei fod yn ychydig o cliché, dwi’n sicr fod y rhain o ddifrif wrth ddweud mai’r gerddoriaeth sy’n bwysig iddynt.

Gyda chymaint o gyffro yngly^ n â’r hyn sydd ar y gweill ganddyn nhw, dwi’n gofyn cwestiwn i ddod â’r sgwrs i ben -

ble maen nhw’n gweld y band fl wyddyn i heddiw? Mae tri chynnig ganddyn nhw “Mwy na thebyg yn trafod ble dy’n ni ishe bod mewn blwyddyn eto, neu’n ceisio egluro pam fod yr albwm dal heb ddod allan, neu efallai hyd yn oed yn ôl fel Radio Luxemburg ac yn cael £10,000 am chwarae yn Nhân y Ddraig. Hahahahahaha...”.

Mi fydd sengl cyntaf y Race Horses allan ar label Fantastic Plastic ddiwedd mis Ebrill a gallwch chi eu gweld nhw’n fyw yng Ngw^ yl Lacharn ar Ebrill 4ydd.

templateyselar.indd 7templateyselar.indd 7 4/3/09 10:36:184/3/09 10:36:18

Page 8: Y Selar - mawrth 09

8 [email protected]

Pwy: Gildas yw prosiect unigol newydd Arwel Lloyd. Mae’n debyg y bydd rhai yn ei ‘nabod yn barod gan ei fod wedi bod yn cyfansoddi ac yn gigio gyda Al Lewis ers tipyn bellach. Daw Arwel o “the one and only” Llansannan yn wreiddiol ond mae o bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Y sw^ n: Mae’r sw^ n yn rhywbeth tebyg i’w stwff gydag Al Lewis, ond eto, yn fwy amrwd rhywsut ac yn llai pop-aidd! “Sw^ n reit acwstig, gitâr, banjo, a chaneuon eitha’ melodig, ‘un dyn a’i gitâr’ math o beth” meddai Arwel. Mae ganddo lais da hefyd sy’n hawdd gwrando arno ac sy’n gweddu i steil acwstig y gerddoriaeth i’r dim. Mae cerddoriaeth John Martyn a Nick Drake yn ddylanwad mawr arno, ac o ran stwff Cymraeg, Meic Stevens ac Alun Tan Lan yw’r prif ddylanwadau.

Pwy: Pedwar o hogia’ ifanc o ardal Caernarfon ydi Y Bandana. Dau frawd o Gaernarfon ei hun yw Tomos a Sion Owens, a Robin Jones a Gwilym Rhys o Fethel. Ffurfi odd y band yn Hydref 2007 ar gyfer cystadleuaeth Brwydr y Bandiau yn Galeri, Caernarfon. Dim ond tri aelod oedd yn y band bryd hynny, Tomos (allweddellau), Siôn (bas) a Gwilym (gitâr), ond penderfynwyd wedi’r gystadleuaeth bod angen drymiwr a dyna pryd ymunodd Robin â’r band.

Y sw^ n: ‘Di cerddoriaeth Y Bandana ddim yn perthyn i un steil penodol, mae o’n un lobsgóws mawr o hwyl, ‘chydig o indie, tecno, roc a rôl y 50au, rhyw fath o ganu

gwlad, ond roc yn bennaf. Yn ôl Tomos, “Y rheswm am yr amrywiaeth yn y miwsig ‘da ni’n chwara’ dwi’n meddwl ydy’r amrywiaeth yn nylanwadau’r gwahanol aelodau o’r band”. Llawer o ddylanwadau felly ond mae’r aelodau i gyd yn hoff o gerddoriaeth bandiau fel Queen, AC/DC, Led Zeppelin a’r Beatles. Ond dylanwad bandiau lleol Cymraeg fel y Derwyddon, Eitha Tal, Sibrydion a Creision Hyd roddodd yr ysgogiad iddynt ffurfi o.

Hyd yn hyn: Mae’r band wedi ymddangos ar Bandit ac wedi recordio sesiwn acwstig C2 i Lisa Gwilym yn barod. Bydd sesiwn C2 arall yn y dyfodol

hefyd oherwydd llwyddiant y band ym Mrwydr y Bandiau Eisteddfod Caerdydd y llynedd. Daeth y band yn ail yng nghystadleuaeth maes-b ac yn gyntaf yn un Cymdeithas yr Iaith. Byddant felly yn ymddangos ar Daith Tafod hefyd yr haf yma. Ers y ‘Steddfod mae’r band wedi bod yn brysur yn gigio gydag enwau mawr yr SRG megis Sibrydion a Radio Lux.

Cynlluniau: “Mae gennym ni fwriad mynd mewn i’r stiwdio dros y Pasg er mwyn rhoi E.P. at ei gilydd i’w ryddhau dros yr haf.” Gallwn edrych ymlaen at

Gildas

Y Bandana

DAU I’W DILYN

YNG NGW^

YL MWYAF PRYDAIN. TYBED FYDDYNG NGWYL MWYAF PRYDAIN. TYBED FYDD

W

UN O’R RHAIN YN GLASTONBURY BLWYDDYN NESAF?

CARIO ‘MLAEN I GAEL GYMAINT O

GIGS A DWI’N GALLU

MAE TIP CYNTAF CYFRES DAU I’W DILYN, YR ODS, WEDI CAEL SLOT

templateyselar.indd 8templateyselar.indd 8 4/3/09 11:11:374/3/09 11:11:37

Page 9: Y Selar - mawrth 09

9

COLOFN LISA GWILYM

Digon i Gynhesu’r GalonBob wythnos ar C2 dwi’n cael chware’r gerddoriaeth newydd ore, a siarad efo’r cerddorion sy’n gyfrifol am greu’r seinie soniarus! Ac ar nosweithie llwm ym mis Ionawr, braf iawn oedd sgwrsio efo rhai o fy hoff artistiaid / bandie am yr hyn sydd o’u blaene yn 2009.

ALUN TAN LANMae Alun Tan Lan ‘di bod mewn efo ni yn recordio mwy o sesiyne acwstig na neb arall, a gafon ni ddim ein siomi efo’r un ddwetha. Dwy gân syml ond mor effeithiol. A phan ges i sgwrs efo Alun, o’n i mor falch o glywed bod o’n bwriadu cael blwyddyn brysur. Mae o ‘di gaddo bod ‘na sengl, EP, a dwy albwm ar y ffordd yn 2009, ac mae o’n gobeithio gadael Tan Lan o bryd i’w gilydd i grwydro Cymru efo’i gitâr. Dwi’n edrych ‘mlaen i’w weld o allan yn gigio eto efo’i fand, sy’n cynnwys Pete (Gorkys/Topper), Jôs (pawb!), a Gruff (Eitha Tal Ffranco).

Mae Alun hefyd yn cynhyrchu ail albwm Eitha Tal Ffranco - gan obeithio sicrhau bod Daf a Gruff yn cadw’r sw^ n unigryw sy’ ‘di gwneud nhw’n un o grwpie mwya diddorol y sin.

DILEUPasg llynedd oedd y tro cynta i mi siarad efo Owain Gruffudd Roberts, a hynny am albwm gynta’ Messner, ddoth allan ar label Owain ei hun, MoPaChi. Dyddie yma, mae gan y cerddor aml-offerynwr, sy’n byw ym Manceinion, brosiect newydd o’r enw Dileu, a’r syniad yn syml ydi ail-gymysgu caneuon Cymraeg. Dio’m byd newydd, ond yn sicr, mae o’n eitha anghyffredin yma yng Nghymru, ac felly yn rhywbeth i’w groesawu. Hyd yma, dwi ‘di bod yn chware

fersiyne newydd o stwff Eitha Tal Ffranco, Georgia Ruth Williams, a Brigyn. I ddod cyn hir, Plant Duw, Jakokoyak a’r Ods, ac mae’n gobeithio cael ei ddwylo ar ganeuon Gruff Rhys a Meic Stevens. Os da chi’n awyddus iddo fo chware o gwmpas efo’ch cerddoriaeth chi, cysylltwch efo Owain!www.myspace.com/dileu

RACE HORSESTro dwetha i mi weld Radio Luxembourg yn fyw oedd yng Ngw^ yl y Dyn Gwyrdd, fi s Awst llynedd, ac ers hynny, fel pawb arall dwi’n siw^ r, dwi ‘di bod yn awchu i gael gw’bod be ydi eu hanes nhw? Lle maen nhw’n cuddio? Pa bryd fydd yr albwm allan? Felly pleser o’r mwya’ oedd cael siarad efo Meilyr o’r band ar y nos Wener ola ym mis Ionawr, a chlywed bod nhw’n dechre pennod newydd gyffrous o dan enw gwahanol, Race Horses.

Dwi’n meddwl bod o’n deg deud mai Radio Luxembourg oedd un o’n grwpie byw gore ni, efo’u pop seicadelig perffaith a’u melodîe bachog gwych. Tair sengl ac un EP yn ddiweddarach, heb anghofi o drymiwr ac enw newydd, be fedrwn ni ei ddisgwyl ganddyn nhw? Maen nhw’n rhyddhau sengl (“double A side”) mis Ebrill efo un gân Gymraeg, ac un Saesneg. A’r albwm natho nhw recordio efo’r dewin o gynhyrchydd, Dave Wrench, yn stiwdio Bryn Derwen y llynedd. Mi fydd hi allan ryw fi s ar ôl y sengl.

Disgwyliwch gigs cysyniadol, harmonîe pedwar llais, a dyfodol disglair gobeithio i’r Race Horses. Gellir clywed Lisa Gwilym am 10pm bob nos Iau a nos Wener ar C2 Radio Cymru.

ww

w.m

ysp

ace

.co

m/y

ban

dan

a

GWRANDWCH ARNO OS YDYCH CHI’N LICIO:Al Lewis, Alun Tan Lan, Dan Amor

glywed honno, ond bydd digon o gyfl eoedd i’w gweld yn chwarae’n fyw hefyd. “Mae gennym ni gigs wedi’u trefnu ar draws Cymru (a phellach gobeithio), yn ogystal â chwarae mewn cwpl o wyliau dros yr haf”. Edrych ymlaen at hynny hefyd felly!

Hyd yn hyn: Mae gan Gildas dair cân ar ei safl e Myspace ac efallai y byddwch wedi ei glywed ar Radio Cymru hefyd. Roedd yn artist ‘Gwyliwch y Gofod’ ar raglen Magi Dodd tuag at ddiwedd 2008 ac mae Lisa Gwilym wedi chwarae dipyn o draciau ar ei rhaglen hithau hefyd. Mae Gildas hefyd wedi dechrau chwarae’n fyw yma ac acw o amgylch y Brifddinas, chwaraeodd gig yn ddiweddar yn Purple Lounge yn y Bae.

Cynlluniau: Gobaith Gildas yn y dyfodol yw “cario ‘mlaen i gael gymaint o gigs a dwi’n gallu”. Gobeithia Arwel fynd i’r stiwdio i recordio ryw bryd cyn yr haf hefyd, a rhyddhau rhywbeth, EP mwy na thebyg. Os cewch y cyfl e i’w weld yn chwarae’n fyw - ewch, fel arall prynwch yr EP pan ddaw hi, mae Gildas yn werth ei glywed.

www.myspace.com/gildasmusicuk

GWRANDWCH ARNO OS YDYCH CHI’N LICIO:Mwynhau eich hun a mynd yn wirion mewn gig.

GIGS:14 Mawrth - Clwb Ifor Bach, Caerdydd22 Ebrill - Ysgol Brynrefail, Llanrug20 Mehefi n - Gwyl Bedroc, Merthyr Tudful

templateyselar.indd 9templateyselar.indd 9 4/3/09 11:15:354/3/09 11:15:35

Page 10: Y Selar - mawrth 09

10

ALBYMS ‘08 Y SELAR

[email protected]

77 FRIZBEE – CREADURIAID NOSOLPryd rhyddhawyd hon ym mis Gorffennaf doedd neb yn disgwyl mae hon fyddai albwm olaf band prysuraf Cymru cyn i Ywain Gwynedd fynd i weithio llawn amser ar Uned 5 a cyn i Jason y drymiwr fynd nol i chwythu creigiau i fyny (rhywun yn gwbod be ma’r un distaw yn gneud rwan? Atebion ar gerdyn post plis). Mae llawer wedi dweud mae Creaduriaid Nosol ydy albwm mwyaf aeddfed y triawd o Flaena’, a beth bynnag ddwedwch chi am Frizbee, yn sicr bydd yna fwlch mawr yn y sin hebddyn nhw. Adolygwyd Creaduriaid Nosol yn rhifyn 15, Hydref 2008 o’r Selar

66 JEN JENIRO - GELENIAETHMae ‘hoff fand bandiau Penllyn’ o gwmpas ers cwpl o fl ynyddoedd, ond er derbyn cydnabyddiaeth gan nifer o wybodusion y sin, ddim cweit wedi llwyddo i apelio i’r boblogaeth ehangach. Efallai mae Geleniaeth, a ryddhawyd ar Sbrigyn-Ymborth yn Ngorffennaf, yw albwm ‘tyfu fyny’ y grw^ p o Lanrwst, “mae’r gerddoriaeth yn fwy arbrofol ac mae’r albwm yn mynd â ni ar daith ddigon hamddenol ... eto ceir teimlad fod rhywbeth yn berwi da yr wyneb”. Gath yr albwm hyd yn oed sylw tu hwnt i glawdd Offa, wrth i orsaf radio

10 UCHAF

8 GWILYM MORUS – DRESSING GOWN GODDESSUn o albyms hwyraf y fl wyddyn a ryddhawyd jyst mewn pryd i’r Nadolig, ond yn llawn haeddu ei lle yn y deg uchaf. Dyma drydedd albwm unigol Gwilym yn dilyn llwyddiant Traffi g a Dan y Nen ac o bosib yr orau eto. Cafodd ei recordio’n ‘fyw’ yn Neuadd Powys ym Mhrifysgol Bangor ac mae hynny wedi helpu creu’r sw^ n unigryw sydd arni. Mae Dressing Gown Goddess yn cynhrychioli cam ymlaen o’r tag ‘canwr-gyfansoddwr-acwstig’ ac yn cyfuno arddulliau roots, swing, indie a gwerin ac mae rhywun yn synhwyro mae dyma wir sw^ n Gwilym Morus.Adolygir Dressing Gown Goddess yn y rhifyn hwn o’r Selar

BU 2008 YN FLWYDDYN FFRWYTHLON IAWN O RAN ALBYMS CYMRAEG, GYDA DROS 30

O LP’S GWREIDDIOL YN CAEL EU RHYDDHAU, HEB SÔN AM GASGLIADAU GOREUON JARMAN,

MAFFIA A HANNER PEI. OND CDS PWY OEDD YN DDIGON DA I GYRRAEDD 10 UCHAF ALBYMS Y

FLWYDDYN YM MARN Y SELAR ... A PHWY FYDD AR FRIG Y SIART?

1010 HOWL GRIFF – HOWL GRIFFRoedd ‘na rhyw furmur yngly^ n a’r Howl Griff ‘ma yn y cyfnod yn arwain at ryddhau’r albwm o’r un enw ym mis Ebrill. Ma’r enw, sy’n deillio o gamsillafi ad o enw’r sylfaenydd Hywel Griffi ths ar boster gig, yn od i ddechrau ... sydd wastad yn dda i ennyn diddordeb. Mae Owen Powell (gynt o Catatonia) a Tim Lewis (gynt o Spiritualized) hefyd wedi gweithio ar yr albwm, sydd ddim yn beth drwg chwaith. Ond mae lot mwy i’r albwm yma na boi o Spiritualized yn chwarae allweddellau – mae hi’n llawn traciau bachog sy’n styc am eich pen trwy’r dydd. Mae angen mwy o pop Cymraeg da, ac mae angen mwy o Howl Griff. Adolygwyd Howl Griff yn rhifyn 13, Mehefi n 2008 o’r Selar

99 Y DIWYGIAD – HYMN 808Allen ni ddim anwybyddu albwm cyntaf Y Diwygiad. Mae cerddoriaeth Hip-Hop wedi bod ar dwf yng Nghymru dros y ddegawd diwethaf, felly efallai bod hi braidd yn siomedig mae hon oedd yr unig albwm hip-hop go iawn i’w rhyddhau yn 2008. Tydi Hymn 808 ddim yn mynd i blesio mwyafrif o bobl, ond nid dyna nod Nei a Edz, eu nod yn hytrach oedd i greu albwm sbesiffi g

i’r genre hip-hop a byddai unrhyw ffan hardcôr o’r genre, boed beth yw’r iaith, yn gallu

gwerthfawrogi hon.

Adolygwyd Hymn 808 yn rhifyn 16,

Rhagfyr o’r Selar

templateyselar.indd 10templateyselar.indd 10 4/3/09 11:12:034/3/09 11:12:03

Page 11: Y Selar - mawrth 09

11

?

?

Cloud Sounds ym Manceinion ddewis JJ fel band yn wythnos! Adolygwyd Geleniaeth yn rhifyn 14, Awst 2008 o’r Selar

55 GWIBDAITH HEN FRÂN – TAFOD DY WRAIGAil albwm y grw^ p gwallgof o Flaenau Ffestiniog mewn dwy fl ynedd, a mae hon wedi profi ’r un mor boblogaidd a’u hymdrech gyntaf, Cedors Hen Wrach. Oes yna bendraw i storïau a geiriau gwallgof caneuon rhain dywedwch? Mae Twmpath Twrch Daear wedi profi ’n gymaint o hit ag oedd Trôns dy Dad ar y tonfeddi radio, ac mae’r hogiau wedi prynu siwtiau gwyn, am y tro, neis i gyd fynd efo’r albwm newydd (gan ddefnyddio royalties Coffi Du o bosib?). Pwy fysa’n meddwl fod pedwar boi nyts o Flaenau yn uned mor werthadwy! “Y cam naturiol nesa’ ydi sit-com cerddorol am fywyda’r tacla’ gwallgo’ – Gwibdaith Hen Frân Ddy Mwfi ?”Adolygwyd Tafod Dy Wraig yn rhifyn 14, Awst 2008 o’r Selar

44 GAI TOMS – RHWNG Y LLYGRU A’R GLASUMae gan Gai Toms egwyddorion gwerth chweil, ond chwara teg, mae’n ymddangos fod rhyddhau albwm ‘eco-gysyniadol’ gyntaf yr iaith Gymraeg hefyd yn ymarfer PR ddigon defnyddiol! Dyma albwm cyntaf Gai Toms ers gollwng ei pseudonym Mim Twm Llai, a’r CD cyntaf ar ei label ei hun, Sbensh. Heb os, dyma’r albwm sydd wedi enyn y mwyaf o drafodaeth eleni, a fel fyddech chi’n disgwyl gan “un o gyfansoddwyr Cymraeg gorau ei genhedlaeth”, mae na ganeuon da iawn arni hefyd. Mi gymerodd Gai risg wrth ddefnyddio offerynnau amgen fel hanner canw^ a dryms wedi’u gwneud

allan o sgrap, ond ma’r risg wedi talu ffwrdd a dyma gampwaith arall o ‘ffatri Toms’.Adolygwyd Rhwng y Llygru a’r Glasu yn rhifyn 14, Awst 2008 o’r Selar

33 GENOD DROOG –

NI OEDD Y GENOD DROOGPa fand sy’n rhyddhau eu halbwm cyntaf a gwahanu ar yr un pryd! Dyna chi’r Genod Droog, llawn sypreisys. Mewn blynyddoedd i ddod bydd y genhedlaeth bresennol o gigwyr yn rhamantu am berfformiadau byw llawn hwyl a egni’r Droog, ond mae’r albwm yma hefyd yn gadael datganiad clir o’r hyn oedd y Genod Droog i cenedlaethau i ddod. Mae’r ffefrynnau byw i gyd yma, Breuddwyd Oer, Thema Genod Droog (‘Pwy sy’n ddrwg...’), Bomiwch y Byd, ond mae ‘na draciau llai adnabyddus sy’n serennu yn ogystal – “Albwm gwych, llawn graen, agwedd a gofal gan grw^ p sydd wedi hawlio eu

1 PLANT DUW – Y CAPEL HYFRYD

O’r diwedd, rhyddhawyd albwm cyntaf Plant Duw, oedd bron mor hir ddisgwyliedig ag albwm y Genod Droog, ar label Slacyr yn Rhagfyr 2008. Roedd hi’n werth yr aros. Byddai pawb sydd wedi bod mewn gig P.D. yn tystio pa mor egniol ydyn nhw fel band byw, ond nid pawb fyddai’n cydnabod eu dawn cyfansoddi caneuon nhw ... cyn gwrando ar Y Capel Hyfryd hynny yw. Mae’r albwm yma’n gwella gyda phob gwrandawiad a dydy rhywun ddim yn blino gwrando arni o gwbl, a rhan o’r rheswm am hyn

ydy’r amrywiaeth eang o arddull a genre cerddorol sydd o fewn y 12 trac. Mae ‘na ganeuon 100 milltir yr awr sy’n adnabyddus i ffans Plant Duw, tra fod yna sypreisys neis fel Byw ar Gwmwl a Copora Cavernosa Blues. Mae’n siw^ r fod rhaid canmol dawn cynhyrchu Dyl Mei am lawer o’r sglein ar hon, ond tu ôl i hynny mae ‘na fand gwallgof, a clyfar iawn sydd wedi rhoi deunydd craidd defnyddiol iawn at ei gilydd. Adolygwyd Y Capel Hyfryd yn rhifyn 16, Rhagfyr 2008 o’r Selar

seddi moethus ym mhlas ymddeol hanesyddol cerddoriaeth Cymraeg....ni welir eu math eto.”Adolygwyd Ni Oedd y Genod Droog yn rhifyn 15, Hydref 2008 o’r Selar

22 EITHA TAL FFRANCO – OS TI’N FFOSILLP mwyaf cyffrous hanner cyntaf 2008 gan fand a ddaeth o nunlle a ffeindio eu hunain yn uchelfannau siart C2!! Band ifanc, arbrofol a ‘chydig bach yn rhyfedd ydy Eitha Tal Ffranco, ond diawch ma nhw wedi cyfl wyno anthemau newydd i genhedlaeth o rocars Cymraeg – The Hwsmon Incident, Os Ti’n Ffosil a’r anhygoel Organ Aur Huw. Dyma’r math o ganeuon fyddech chi’n dychmygu oedd Euros Childs a Gruff Rhys yn cyfansoddi yn eu harddegau! “Mae Os Ti’n Ffosil yn record grefftus gan gerddorion ifanc, ond yn fwy na hynny, mae’r caneuon heintus o hwyliog yn siw^ r o fod yn goron ar eich diwrnod.”Adolygwyd Os Ti’n Ffosil yn rhifyn 13, Mehefi n o’r Selar

templateyselar.indd 11templateyselar.indd 11 4/3/09 11:12:114/3/09 11:12:11

Page 12: Y Selar - mawrth 09

12

SENGLAU GORAU1. Derwyddon Dr Gonzo – Chaviach / Bwthyn2. Brigyn – Haleliwia3. Yr Ods – Defnyddio / Chwyldrofeistr4. Creision Hud – Ffyrdd Gwyrdd / Dianc5. 9bach – Yr Eneth Gadd ei Gwrthod

EP’S GORAU1. Cate Le Bon - Edrych yn Llygaid Ceffyl Benthyg2. Bootnic – Blasu Byw3. Cowbois Rhos Botwnnog a Gwyneth Glyn – Paid a Deud4. Wyrligigs – Yn y Ddinas5. Al Lewis – Dilyn Pob Cam

CASGLIADAU (GOREUON / AML GYFRANNOG)1. Geraint Jarman – Atgof Fel Angor2. Maffi a Mr Huws – Croniclau’r Bwthyn3. Hanner Pei – Ar Plat4. Dan y Cownter 35. Goreuon Mim Twm Llai

Y GOLOFN WADDNid hawdd cynnau tân‘Diffi niad - Ail ffurfi wch!” oedd teitl y grw^ p Facebook weles i gwpl o wythnosau yn ôl. Nath o godi dipyn o ofn arna i. Pob tro mae rhywun yn gofyn i ni - a pan dwi’n dweud “ni” dwi’n golygu “fi ” achos dim ond fi sy’n cael yr hassle yma am ryw reswm - dwi’n gorfod dweud wrthyn nhw “Sori, ond pan nathon ni ein gig ola’ yn 2001 nathon ni ddweud yn gyhoeddus ac yn eitha’ amlwg wrth bawb ar y pryd ‘dyna’r diwedd - dim mwy’. Yr ateb ydy ‘na’, sori, neith o ddim digwydd”. Ac yna mae pobl yn pwdu. Ac yn canu cwpl o linellau o ‘Funky Brenin Disco’ neu ‘Angen Ffrind’ iddyn nhw eu hunain yn y gobaith bydd hwnna’n gwneud i mi newid fy meddwl. Neith o ddim.

Dwi’n erbyn ‘comebacks’ 100%, yn enwedig gan fandiau oedd wedi treulio deng mlynedd yn neidio o gwmpas y llwyfan fel idiots pan oedden nhw yn eu hugeiniau ac sy bellach yn agosach at 40. Dio just ddim yn neis i edrych arno. Neith o weithio os taw Take That ydych chi ond nhw ydy’r eithriad i’r rheol.

Byswn i’n hoffi ’r TT arall - Tynal Tywyll - i wneud “comeback” gig ond dwi’n gw’bod fyse fo ddim hanner cystal ag oedd y profi ad o’u gweld nhw yn 1991 er enghraifft. Does na’m ond un peth gwaeth na gweld bandiau sy’n 40 yn edrych yn anghyfforddus ar y llwyfan ac yn ceisio actio fel eu bod nhw’n 20, a gweld cynulleidfa sy’n 40 ac yn mynychu’r gig ydy hwnnw. Cynulleidfa o famau a thadau gyda swyddi lled-barchus sydd ddim ‘di gweld tu fewn i

glwb nos ers 1995, yn actio fel plant ysgol 15 oed sydd wedi yfed potel gyfan o Mad Dog 20/20 (mmmmm, gwyrdd) neu Thunderbird (mmmmm, chwydu mewn bag plastic ar gefn y bws) cyn mynd i’w gig cynta’ nhw erioed.

Mae plant 15 oed dyddiau ‘ma yn bobl llawer mwy soffi stigedig nac oeddwn i a fy nghyfoedion erioed. Mae ganddyn nhw gigs arbennig wedi eu trefnu ar eu cyfer. Maen nhw’n mynd i weld eu ffrindiau a’r ffrindiau mewn bandiau a bandiau fydd yn ffrindiau. A dyn nhw ddim yn troi i fyny’n hammered achos maen nhw’n gw’bod na chan nhw fynediad i’r gig. A does na ddim alcohol yn cael ei werthu iddyn nhw achos dyna’r rheol. A’r eironi yw bod y gigs yma yn llawn dop.

Yn ddiweddar es i weld 2 fand. Bandiau oed ysgol oedden nhw a doedd prin neb yno i’w gwylio. Y noson fl aenorol oedden nhw ‘di gwerthu bob tocyn, mewn gig 14+… yn yr un lleoliad. Cynulleidfaoedd gwahanol, dwi’n gw’bod, ond am brofi ad gwael iddyn nhw oedd yn perfformio ar y llwyfan - i uchafswm o bedwar person. Felly, dwi’n erfyn arnoch chi, os ydych chi’n darllen hwn a dros 25 oed, peidiwch ag aros 10 mlynedd cyn mynd i gig arall. Ewch iddyn nhw rw^ an, achos er ei fod o’n neis cael rhywun yn gofyn i chi, pan dych chi bron yn 40 oed, i neud comeback, fydd na ddim bandiau i neud comebacks os na dych chi’n mynd i’w gweld nhw. Mae hwnna’n eitha syml i ddeall dwi’n meddwl. Cefnogwch.

Gydag Ian Cottrell

Y GORAU O’R GWEDDILL

CANEUON1. Eitha Tal Ffranco – Organ Aur Huw2. Brigyn – Haleliwia3. Derwyddon Dr Gonzo – Bwthyn4. Gwibdaith Hen Frân – Twmpath Twrch Daear5. Yr Ods - Defnyddio

CLORIAU CD’S1. Rhwng y Llygru a’r Glasu - Gai Toms 2. Ni Oedd y Genod Droog - Genod Droog3. Dressing Gown Goddess - Gwilym Morus4. Geleniaeth – Jen Jeniro5. Tafod dy Wraig – Gwibdaith Hen Frân

[email protected]

templateyselar.indd 12templateyselar.indd 12 4/3/09 10:37:334/3/09 10:37:33

Page 13: Y Selar - mawrth 09

13

ANWELEDIG, QUEENS, BLAENAU FFESTINIOG

27.12.08Does dim angan geiriau i gyfl eu gigs Anweledig i neb – yn enwedig eu gig olaf un, ar eu patsh nhw’u hunain yn Blaenau. Ond rhag ofn eich bod chi’n aliens sydd newydd biciad i’r Ddaear i weld os ydi Obama wedi llwyddo i arwain y ddynoliaeth oddi ar lwybr hunan-ddinistr, mi dria i.

Roedd elw’r noson yn mynd i W^yl Car

Gwyllt – gw^ yl gymunedol sydd â naws organig a chartrefol i’w gigs bywiog yn nhafarnau bach gwerinol y dref, lle mae cynhesrwydd Cymreictod naturiol Stiniog yn byrlymu bob blwyddyn, ac agwedd iach y gymuned at fywyd yn llawn o’r egni crai hwnnw sy’n codi dau fys ar ffug-barchusrwydd a’r obsesiwn gyfoes efo bod yn cw^ l a ffasiynol, ac yn stwffi o’r tâp coch i fyny ceudyllau’r biwrocrats diwyneb.

Felly, dychmygwch un o gigs gwylltaf a mwyaf hwyliog y Car Gwyllt, a dyna i chi’r math o noson gafwyd yn y Queens, wrth i Anweledig berfformio rhai o’u clasuron cynnar a mwy adnabyddus am y tro olaf erioed yn fyw. Ond ynghanol yr

awyrgylch afreolus roedd yr awyr yn drwm o emosiwn a pharch. Do, cafwyd moment o spontynêiyti pan ymunodd cwpwl o foliau cwrw slapiadwy iawn(!) efo’r hogia ar gyfer “Dwi’n Gwbod Sut Ti’n Licio Dy Dê,” ond doedd ’na ddim stêj-infêsion gan gynrychiolwyr y bozo brigade, nag unrhyw hwliganiaeth random cyffelyb (dim hyd yn oed gan Ceri C, a roddodd berfformiad trydanol a’n hatgoffodd unwaith eto na welodd Cymru erioed ffryntman gwell).

Falla mai’r rheswm am y prinder bozo moments oedd ei bod hi’n noson ar ôl Boxing Day, â’r rhan fwyaf o ffans y sîn Gymraeg yn rhy hyngofyr i drafaelio. Do, mi wnaeth llond dwrn o ffyddloniaid yr ymdrech, ond pobl Stiniog oedd trwch helaeth y dorf. Pobl o bob oed a chefndir yn neidio i fyny ac i lawr a siglo o ochr i ochr, rhai yn dal ar y piss ers i’r gwyliau ddechrau wythnos ynghynt, ac eraill adra o lefydd pell am y Dolig,

BUENO ADIOS AMIGOS

CON SOMBREROS

s,

ond pob un yno i gael cratsiad wrth werthfawrogi miwsig gwych y talent colectif mwyaf i ddod allan o Stiniog.

Mae’r berthynas agos rhwng Anweledig a’u hardal a phobl yn amlwg (mae tri aelod yn weithgar iawn yn y gymuned) ac roedd hi’n amlwg fod y berthynas yma yn un intimet, a theuluol, bron. Doedd dim angan unrhyw ffws, felly mi ganolbwyntiodd yr hogia ar gryfder a safon eu caneuon, yn lle’r pantomeim o rialtwch a enillodd iddyn nhw’r teitl ‘band parti’ gan gyfl wynwyr mwyaf plastig ein gwasanaeth radio – delwedd a dynnodd ormod o sylw oddi ar wychder eu cerddoriaeth a neges dwys a digyfaddawd eu geiriau, am rhy hir, efallai.

Y proffesiynoldeb ac egni amrwd yma wnaeth y gig cynnes a grymus hwn yn un bythgofi adwy. Hynny a’r cariad naturiol rhwng y band a phobl eu bro. Doedd ’na ddim ffarwel hir ar y platfform, dim balw^ ns a chwythu swsus nag unrhyw sbloets hunanfoddhaol. Dim ond yr hogia a’u ffrindia yn rhannu uffarn o noson dda, am y tro olaf. Gorffennwyd, a dyna fo. Los reyes están muertos, viva los reyes!

GEIRIAU: DEWI RRYSOR

LLUNIAU: ALWYN JONES

myspace.com/anweledig1

templateyselar.indd 13templateyselar.indd 13 4/3/09 10:37:464/3/09 10:37:46

Page 14: Y Selar - mawrth 09

14

FFANSINS

FFANTASTIG

myspace.com/yselar

Mae ffansins wastad wedi bod yn rhan ganolog o unrhyw sin, boed yn gerddoriaeth neu fel arall, ac mae hynny’n ddigon gwir am y sin gerddoriaeth Gymraeg. Tua chanol y ddegawd hon daeth toreth o ffansins Cymraeg i’r golwg, ond erbyn hyn maen nhw’n bethau digon prin...sy’n biti mawr, ac felly mae’r Selar ar genhadaeth i adfywio ffansins Cymraeg - Lowri Johnston, un o sylfaenwyr ffansin Ffwdanu sydd ar fl aen y gad.

BETH YW FFANSIN?Yn syml, cylchgrawn o ryw fath wedi ei roi at ei gilydd gan ‘ffan’ o ryw fath o ‘sîn’ - beth bynnag sydd ganddyn nhw ddiddordeb ynddo. Yn aml, ma nhw

wedi eu selio ar ryw fath o sîn gerddorol neu fand, ond allwch chi sgwennu am be bynnag yn y byd chi eisiau. Ges i fy nghyfl wyno i ffansins trwy fy nghariad-oedd-bron-yn-obsesiwn gyda’r Manic Street Preachers, gan fod llawer o’u ‘ffans’ nhw’n creu ffansins (rhai gwych, rhai bach llai gwych). Y peth grêt am ffansins yw eu bod nhw’n gallu bod mor greadigol a rhyfedd a sôn am unrhyw beth heb ddylanwad y cyfryngau gan fod yr holl beth yn gwbwl annibynnol.

Dechreuais i a fy ffrind Leusa ffansin o’r enw Ffwdanu pan oedden ni’n 18 oed, yn sgil trafodaeth feddwol yn Eisteddfod Casnewydd. Roedden ni’n ffans enfawr o’r sîn gerddoriaeth Gymraeg ar y pryd, ac eisiau dweud wrth bobl am y bands gwych oedden ni’n dwli arnyn nhw. Do’n ni ddim yn honni gallu sgwennu’n newyddiadurol nac yn gwybod sut i roi cylchgrawn at ei gilydd, ond doedd dim ots, ni oedd y bos a ni oedd yn penderfynu pa fandiau i’w cynnwys a sut oedd y cyfan yn edrych. Mae hefyd yn ffordd dda o gael sylw’r bechgyn yn y bands a chael CDs am ddim! Bonws.

Fel mae’n digwydd, cafodd Mair Thomas a Geraint Criddle sgwrs ddigon tebyg hefyd yn Eisteddfod Casnewydd, a dechrau ffansin Siarc Marw tua’r un adeg, ond gan ganolbwyntio ar y celfyddydau yn bennaf yng Nghymru. Meddai Mair, “Da Siarc Marw, o’n ni eisiau tynnu sylw at bobl ‘odd yn rhoi bach o fywyd i’r iaith a’r genedl - boed trwy ganu, barddoni, trefnu gigs, arlunio, sgwennu neu beth bynnag. Pobl ‘odd ddim yn cael lot o sylw yn unman arall, heblaw am maes-e! ‘Odd maes-e yn ysbrydoliaeth hefyd wrth gwrs - o ran dangos bod digon o bobl eraill yn teimlo’r un fath a ni, ac o ran cysylltu ni ‘da ffansins eraill.”

RHOI FFANSIN AT EI GILYDDWedi’r ymchwilio (h.y., mynd i gigs, joio!), bydde Leusa a fi ’n casglu deunydd at ei gilydd, penderfynu pa CDs i’w hadolygu, ysgrifennu cwpwl o erthyglau - a chael pobl eraill i sgwennu rhai, ac yna’n dynodi noson neu benwythnos i roi’r cyfan at ei gilydd. Yn aml, bydden ni wedi gadael sawl CD i’w hadolygu ar y noson, a gyda lot fawr iawn o de, pethwmbreth o amynedd a stoc dda o ansoddeiriau ar gyfer amrywio’r adolygiadau, bydden ni’n gweithio trwy’r cyfan. Yr hyn sy’n bwysig yw eich bod chi’n gweithio mas digon o fl aen llaw beth sy’n mynd ar bob tudalen, ond gan fod yn hyblyg yr un pryd. Bydden ni’n printio popeth off, a gosod 20 tudalen plaen ar y llawr ac yna’n mynd gyda siswrn a glud a sticio popeth i’r tudalennu yn nhrefn y ffansin. Y tro cynta’, nathon ni ddim meddwl dim am sut fyddai’r cyfan yn ffotocopïo fel llyfryn bach, ac felly gorfod gwneud y cyfan eto, a dwi ddim yn gwbod sawl gwaith nathon ni orffen gyda’r nifer anghywir o dudalennau - 4 o’r gloch y bore a dim ond 18 tudalen ac mae’n amser addasu! (dwi’n meddwl y tro yna nathon ni just printio lot o lunie a sgwennu ryw gerdd hollol sili lle o’n i’n amlwg wedi cael lot gormod o gaffîn).

Beth sydd angen arnoch chi i greu ffansin?- Siswrn- Glud- Papur- Inc yn yr argraffydd- Cds- Amynedd- DYFALBARHAD! o’r

templateyselar.indd 14templateyselar.indd 14 4/3/09 10:39:244/3/09 10:39:24

Page 15: Y Selar - mawrth 09

15

Gallwch chi roi’r cyfan at ei gilydd trwy fod yn hollol DIY, gyda siswrn a glud fel nathon ni, neu fe allwch chi ddylunio ar y cyfrifi adur. Yna ar ôl rhoi’r cyfan yn ei drefn, mae’n amser ffotocopio! Mae hyn yn dibynnu ar eich cyllid chi - mae modd defnyddio cwpwl o hysbysebion er mwyn talu am y ffotocopio, neu gallwch chi werthu’r ffansin er mwyn gwneud arian nôl. Bydden ni fel arfer yn ffotocopio mewn rhyw siop yn y dre ac yna plygu a staplo’r cyfan (mae angen lot mwy o de eto ar gyfer hyn).

Dwi’n meddwl mai’r prif beth am sgwennu Ffwdanu oedd i ni gael cymaint o hwyl, er bod y cyfan yn troi yn stress weithie, odd jyst rhaid atgoffa ein hunain mai ni oedd gyda’r gair olaf am y cyfan, a ni oedd yn cael penderfynu pryd odd e’n mynd mas a beth oedd e’n cynnwys. Mae’n ffordd wych o ddweud eich barn, a dod i gysylltiad gyda phobl debyg i chi. Meddai Mair, “Dwi’n dal i deimlo fel o’n i cyn cychwyn Siarc Marw yn 2005 - bod dim digon o gylchgronau neu gyfryngau allan yna yn y Gymraeg sy’n adlewyrchu pethau tu hwnt i’r prif-ffrwd. Felly os oes ‘na bobl eraill sy’n teimlo’r un fath (a ma cipolwg sydyn ar yr holl fwrw-bol am S4C, Radio Cymru, a Golwg ar maes-e yn awgrymu bod ‘na) ma sgwennu ffansin yn ffordd hwyl o rannu’r farn yna. Ac unwaith mae mewn print, ceith neb ateb

SUT MA DECHRAU FFANSIN?

Dewiswch bwnc. Beth bynnag chi’n teimlo’n angerddol amdano, beth bynnag chi’n teimlo y gallwch chi sgwennu amdano, ac fydde pobl arall gyda’r un diddordeb â chi eisiau ei ddarllen. (Er, dyw diddordeb gan bobl arall ddim yn hollol angenrheidiol chwaith...

“Darllenwch gymaint o ffansins eraill â phosib,” yw cyngor Mihangel Macintosh, sefydlydd y ffansin dylanwadol, Brechdan Tywod. “Y peth sy’n wych ‘da ffansins yw unwaith chi’n cael gafael ar un copi, rhywle yn y ffansin ‘na fe fydd cysylltiad â ffansin arall, ac un arall a.y.y.b. Ma ffansins yn dueddol o fod yn llawn cysylltiadau ac felly unwaith chi’n dechre mae’n weddol hawdd cael gafael ar lwyth o rai gwahanol. Wrth gwrs, ma safon y

sgwennu ac ati’n amrywio o ffansin i ffansin, ond fel ‘da cerddoriaeth chi’n gwrando ar un peth sy’n eich arwain chi at rywbeth arall.”

Mae’r ymchwil yn bwysig, ac ar ben y cyfan, mae’n hwyl! Mae’r ffaith eich bod chi am sgwennu ffansin yn dangos eich bod chi’n caru rhywbeth digon i sgwennu amdano, felly gwnewch gyfi awnder â’ch hunan ac â’r maes, a gwnewch ymchwil – gwrandwch ar y bandiau newydd a hen, ewch i gymaint o gigs ag y gallwch chi a gwnewch gysylltiadau.

“Bydden i’n annog pobl i ddechrau ffansin er mwyn dysgu pethe newydd. Mae ‘na gynifer o bethe a phobol ddiddorol mas ‘na na fydden i wedi clywed amdanyn nhw oni bai am greu Siarc Marw,” meddai Geraint Criddle.

yunwaith m

TIP:Peidiwch â bod yn rhy uchelgeisiol gyda’r ffotocopio, dych chi ddim eisiau copïau sbâr o’ch hen ffansin yn pydru yng nghornel eich stafell. Allwch chi wastad neud mwy! Dim ond un copi o Brechdan Tywod 1 sy’n bodoli ar ôl i Mihangel Macintosh gael ei ddal gan yr heddlu ar y ffordd i ffotocopio a dyma nhw’n dwyn y ‘mastercopy’. Peidiwch â phoeni, dyw hyn ddim fel arfer yn digwydd wrth wneud ffansins...

UNWAITH MAE O MEWN

PRINT, CEITH NEB ATEB

NOL - ONI BAI EU

BOD NHW’N SGWENNU

FFANSIN EU HUNAIN!

nôl - oni bai eu bod nhw’n sgwennu eu ffansin eu hunain!”

Yr hyn sy’n diffi nio sîn gerddorol yn fy marn i yw faint o’r deunydd ‘ma tu hwnt i’r ‘prif-ffrwd’ sy’n bodoli, faint o bobl sy’n dweud eu barn, yn trefnu gigs ac yn cychwyn bandiau, yn annibynnol ar fyd y cyfryngau. Mae’n ychwanegu ryw haen fwy diddorol a chyffrous i’r cyfan. A pha ffordd well o dreulio’ch amser na dechrau ffansin...?!

““

Mae Mair a Geraint yn derbyn cyfraniadau ar gyfer Siarc Marw 7 ar hyn o bryd, gyda bwriad o gynhyrchu rhywbeth yn y Gwanwyn. Os oes ‘da chi syniad, erthygl, rant neu fwydring - gyrrwch e at [email protected]

m

rhy

templateyselar.indd 15templateyselar.indd 15 4/3/09 10:39:384/3/09 10:39:38

Page 16: Y Selar - mawrth 09

16

YR ANHREFN – DEFAID, SKATEBOARDS A WELLIESClywais un o’r traciau oddi ar yr albym yma yn gyntaf ar ôl i rywun rhoi copi o’r casgliad ‘Keltia Roc’ i mi ym Mharis. Roedd yr albwm i gyd yn boring heblaw trac gan y band Llydaweg E.V. a’r trac Cornel gan yr Anhrefn - roedd ryw falchder ynof wrth i’r trac yma blastio gweddill y folkies o Ynys Manaw a.y.b i ffwrdd. Er i mi gael fy magu ger Aberystwyth doeddwn i byth yn gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg, ac yr oedd yn rhaid i mi fynd dramor i sylweddoli bod rhywbeth yn digwydd nôl yng Nghymru. Ar ôl gweld Mr Mwyn yn slagio off yr heddlu yn Eisteddfod Casnewydd ynghanol p’nawn y fl wyddyn ganlynol, wnaeth rhywbeth newid ynof

dwi’n credu. Hmm … efallai bod cerddoriaeth yn gallu newid pethau, a dwi dal yn chwilio am well intro i gân na “Dyfodol Disglair Mr Norman Tebbit!”

pump perl ...

OES ‘NA RYWUN ERIOED WEDI GOFYN I CHI BETH

YW’CH HOFF GÂN NEU HOFF ALBWM? MA HI’N

ANODD, OS NAD AMHOSIB, ENWI DIM OND UN...

ACHOS BOD CYMAINT O CDS DA A GWYCH

WEDI’U RHYDDHAU YN HANES CERDDORIAETH. BE

SYDD HEFYD YN GRÊT AM GERDDORIAETH YW BOD

YR HYN MA’ UN PERSON YN EI YSTYRIED YN WYCH,

YN RYBISH YN LLYGAID, NEU GLUSTIAU, RHYWUN

ARALL. TA WAETH, DYNA DDIGON O GYFLWYNIAD,

DYMA BUMP PERL DAI LLOYD (AKA DAI SKEP, DAI

DOCKRAD, DAI CLWB IFOR BACH A.Y.B.)

LLOYDDai

templateyselar.indd 16templateyselar.indd 16 4/3/09 10:39:494/3/09 10:39:49

Page 17: Y Selar - mawrth 09

17

HUW G A DJ WILLIAMS – TRIP DEWI EMLYNClasur. Dwi’n credu gwnes i ei brynu o Siop y Pethe yn Aber achos o’n i’n hoffi ’r clawr ac roedd yn edrych yn ddiddorol, er doeddwn i ddim yn siw^ r beth oedd e. Ar gasét yn unig yr oedd ar gael - un o gasgliad Casetiau Huw - Huw Gwyn felly. Mae’r prif drac yn ryw fath o drac offerynnol, gyda bîts ac allweddellau, a samples oddi ar Radio Cymru gyda hynt a helynt ffug am Dewi Emlyn, basydd Ffa Coffi Pawb. Yr oedd hyn yn apelio ataf achos math y gerddoriaeth a’r hiwmor ffraeth - roedd Huw Gwyn wedi bod yn ffonio Radio Cymru gyda phob math o straeon am Dewi Emlyn er mwyn eu samplo oddi ar y radio. Mae Dafydd Ieuan a Gruff Rhys hefyd yn cael credits ar y trac - ac yr oeddwn yn hoff iawn o Ffa Coffi Pawb ar y pryd.

Wrth wrando ar y trac yma eto’n ddiweddar, mae’n f’atgoffa o rai o fy hoff draciau dwi wedi cyfansoddi gyda Skep - fel Security Aberystwyth, Bandit Country a Breizh v Normandi - er mae’n rhaid taw cyd-ddigwyddiad yw hynny - ond efallai rhywle yng nghefn fy meddwl wnaeth y casét yma ddylanwadu arna’i.

DATBLYGU – PYSTGwnaeth yr awdur Daniel Davies fy nghyfl wyno i Datblygu ar ôl i ni gael kick-about ar gau pêl droed Tref Aberystwyth am 3am, heb bêl. Wrth wrando ar y caneuon, esboniodd Dani’n gyffrous pa mor dda oedd yr ysgrifennu ynddynt, a chwarae teg, rhoddodd y casét i fi gael mynd ag e nôl i Lydaw gyda mi.

Roedd yn anhygoel clywed rhywun yn canu am Fronllys, De Powys (ar Nofel o’r Hofel) pentref dim ond tair milltir o ble yr oeddwn yn byw, ac am Aberhonddu. Roedd e gyd yn teimlo’n swreal rhywfodd, ac yr oeddwn yn gallu uniaethu â Dave wrth wrando ar rai o’i sylwadau ar fywyd. Synnais hefyd ar ba mor greadigol a minimal mae’r gerddoriaeth ar yr albwm, ond hefyd â’r darnau o hiwmor direidus, gan y gw^ r ifanc adnabyddus o Aberteifi . Heb i fi wybod, roedd Dave yn byw tua milltir oddi wrthyf yn Sir Frycheiniog ond wnes i mo’i gyfarfod tan fl ynyddoedd yn ddiweddarach.

PAVEMENT – SLANTED AND ENCHANTEDWel, roedd yn anodd dewis un albym gan Pavement ar gyfer y rhestr hon - ac efallai taw ‘Watery, Domestic EP’ yw fy hoff CD gan y band, ond dwi ‘di dewis hon, albwm gyntaf y band. Roedd tempo ac arddull yr albwm yn fy siwtio ar y pryd wrth i mi fyw bywyd slacyr wrth y môr yn Aberystwyth - a mwy na thebyg gwnaeth fy ysgogi i geisio ffurfi o band. Er nad oedd Y Felan Fawr yn un o’r bandiau mwyaf cofi adwy yn y Sin Gymraeg, roedd yn ddechreuad i ni ar y pryd! Un o’r problemau gyda Pavement, ymysg pob un o’u halbyms gwych, oedd bod rhai traciau rybish ymysg yr anian - ond dyma fy hoff fand heb os. Ges i gyfl e i gwrdd â’r band tra’r oeddent yn chwarae yng Nghlwb Ifor unwaith, a’u gweld yn y prawf sain. Gofynnais i Steve Malkmus os oedd e wedi clywed am Datblygu, ond ‘doedd e heb…

RICKIE LEE JONES – RICKIE LEE JONES

Des i ar draws yr albym hon gan ffrind yn Nghemper, Llydaw ac wrth roi’r CD ymlaen dywedodd “Dwi erioed wedi cwrdd ag unrhyw un sy’ ddim yn hoffi ’r albym yma“ - ac yr oedd yn sicr yn wir amdanaf i. Mae’r albym yma, o 1979, yn siwrnai emosiynol trwy feddwl Ms. Rickie Lee Jones - sydd o dras Cymreig gyda llaw - ac mae’n ein cyfl wyno i gymeriadau a llefydd bythgofi adwy yn ei chaneuon jazz-RnB-pop-soul-blues.

‘Sdim un trac nad yw berl - mae ‘na lawer o dristwch i’w deimlo yn rhai o’r traciau, a rhyw deimlad tanddaearol,

sleazy mewn mannau wrth iddi adrodd yr holl hanesion. Roedd Rickie yn canlyn gyda Tom Waits ar un adeg - ac mae yna debygrwydd yn eu cerddoriaeth. Roedd yr albwm yma’n llwyddiant mawr iddi, ac mi wnaeth gadw cwmni i mi ar lawer i noson unig iawn - yn enwedig y trac Company (Gweld be wnes i fynna?), ond mae’r holl albym yn wych a dwi byth yn syrffedu ar wrando arni...

templateyselar.indd 17templateyselar.indd 17 4/3/09 11:16:294/3/09 11:16:29

Page 18: Y Selar - mawrth 09

18 [email protected]

MIM TWM LLAI

GOREUON

RASALRASAL

Mae casgliadau o oreuon wastad yn bethau rhyfedd. Mae gan bawb eu hoff ganeuon a gallwch chi byth blesio pawb. Pe bawn i’n dewis goreuon Mim Twm Llai mi fyddai Byrddau Pren a Lein Ddillad ar frig y rhestr ac efallai na fyddai Sunshine Dan a Straeon y Cymdogion yno o gwbl.

Dwi’n teimlo mai casgliad o’r caneuon mwyaf poblogaidd sydd yma, nid goreuon, - ‘Grêtest hits’ yn hytrach na ‘besd of’, os liciwch chi. Ond mae’r tair albwm gyhoeddodd Gai Toms dan yr enw Mim Twm Llai ar silffoedd y gwir ffans pryn bynnag, ac mi allwn droi at ein ffefrynnau unrhyw bryd. Ond mi wnaiff hon y tro i’r rhai sydd am ryw fl as bach, heb ymroi’n llwyr i’r profi ad Mim Twm Llai-aidd!

Mi welwch chi weithiau ambell drac newydd ar gasgliadau fel hyn er mwyn cyfi awnhau eu prynu. Tydi hynny ddim yn digwydd yma a fyddai o ddim yn gweddu rhywsut chwaith, mae’r bennod Mim Twm Llai yng ngyrfa gerddorol Gai Toms wedi gorffen ac mae hi ddigon da heb fynd yn ôl i ychwanegu. Mae o’n ben taclus ar y mwdwl, yndi, ond edrych ymlaen at yr ail albwm dan yr enw Gai Toms ddylan ni wneud rw^ an.

6/10 GWILYM DWYFOR

YR ODS

FEL HYN AM BYTH

RASAL

Byddai’n eithaf syndod pe na bai’r gwobrau RAP arfaethedig yn coroni Yr Ods fel y grw^ p newydd gorau, er, mae 2 fl ynedd yn amser hir ac mae llawer o fandiau wedi bod yn ‘newydd’ dros y cyfnod hynny. A’r si yw bydd Glastonbury ddigon ffodus i brofi eu mêl yr haf hwn ar lwyfan y cylchgrawn Q.

Mae Fel Hyn Am Byth yn parhau â’u traddodiad bellach o ganeuon uber-bachog sy’n llonni’r ysbryd fel byddai cwningod yn neidio dros bicnic ar noson lonydd o haf. Yn ffrwydrad o lawenydd brwdfrydig, byddai’n procio’r

person tywyllaf mewn i wên. Sw^ n siarp, clir a chroyw hefyd. A dweud y gwir does ‘na ddim byd o gwbl yn bod ar y berlen indi-pop-roc diguro yma. Mae’r ail drac, Ffordd ti’n Troi dy Lygaid, yn diwn a hanner hefyd, yn plethu’r synths clywir yn sw^ n newydd Yr Ods hefo’r gitars

a’u cyfansoddi penigamp arferol i effaith melys.Felly yng ngeiriau’r Prifardd Gerallt Lloyd Owen … ydi o’n haeddu 10? Bron, bron. Er, duw a w^ yr beth sy’n haeddu 10 os nad yw hwn. 9/10HEFIN JONES

JAH NO DEAD JAH NO DEAD

CARTILAG CARTILAG

BONCSHAFFTBONCSHAFFT

Anodd ydi i mi wneud adolygiad o Jan No Dead. Rhaid i mi gyfaddef nad wyf ‘mewn’ i’r math hwn o gerddoriaeth, ac felly heb wrando (er mawr cywilydd efallai) ar lawer o’r genre yma. Fe wnaf fy ngorau ddo!

Gyda Jah No Dead ceir 7 trac o ‘hardcore punk’! Wel 6 efallai gan fod ‘Track One’ yn rhagarweiniad eithaf tawel i albwm sydd fel arall yn un cyfl ym a swnllyd iawn.

Yn bersonol dwi’n cael trafferth gwahaniaethu rhwng un trac ar llall. Wal o sw^ n ydio i mi, ond efallai y buaswn yn cael mwy o fl as wrth wrando ar Cartilag yn fyw! Os oes rhaid i mi ddewis trac fel ffefryn, dwi’n meddwl mai’r trac bonws wedi’r trac olaf Masks fuaswn i’n ei ddewis.

Da chi’n cofi o albwm gwallgo’ NAR, Narmagedon nôl ar ddechrau’r ganrif. Wel ma hwn yn debyg iawn mewn nifer o ffyrdd. Pawb at y peth y bo!

5/10ALED IFAN

HUFEN IA

CLINIGOL

Fel lot o bobl sy’n gwrando ar fi wsig Cymraeg, dwi’n euog yn aml iawn o sticio at yr hyn dwi’n ei nabod orau! Camgymeriad mawr rhaid i mi gyfaddef! Dwi wedi clywed dipyn am Clinigol dros y blynyddoedd diwethaf, ond heb fynd ati i wrando arnynt yn iawn. Does gen i ddim llawer o ddim byd newydd i’w ddweud am y sengl Hufen Ia - sain tebyg i Goldfrapp, Madona, Kylie a hint o Mared Lenny hyd yn

oed sydd iddo - ond mae’n sain yr hoffwn ei glywed fwy fwy o fewn cerddoriaeth Gymraeg. Mae llais Marged Parry’n gweddu’n dda iawn i steil y sengl, ac fel arfer gwaith cynhyrchu’r Pickard’s yn llawn a phroffesiynol. Ceir re-mix o Hufen Ia gan Cyrion a b-side dda o’r enw Gyd o’r Blaen hefyd. Caneuon i wrando arnynt yn uchel yn y car ar y ffordd adref o’r gwaith ar nos Wener.

7/10ALED IFAN

GWILYM MORUS GWILYM MORUS

THE DRESSING GOWN GODDESSTHE DRESSING GOWN GODDESS

EILIOEILIO

‘Dw i wrth fy modd hefo llais lleddf Gwilym Morus, mae’n cael effaith gysglyd gysurus ar rywun. Ond i’r rheiny sy’n beirniadu ei fod yn gallu swnio’n undonog neu’n ddifl as,

RHAID RHAID

GWRANDOGWRANDO

mae’r band ar yr albwm yma’n rhoi rhyw sioncrwydd newydd a swing i’r gerddoriaeth ac yn ei chodi uwchlaw ei albymau blaenorol. Mae’r rhythmau’n

heintus a ‘dwi’n darganfod fy hun yn ceisio dawnsio i ryw ddarn o ffync sydd di sticio yn y cof wrth gerdded lawr y stryd. Mae ‘na sawl cân wych y gallwn sôn

amdanynt, ond ymysg y goreuon y mae Dy Gysur Di - mae ‘na dinc

tramor i’r gân, ma’n gneud i fi feddwl am dylwyth teg bach drwg yn dawnsio o dy amgylch di’n sbeitlyd. Un arall yw Dinas Bangor - sydd yn rhyfeddol â thinc Rwsieg i’r sw^ n, rhywbeth oeraidd, a sinistr ond hudolus. Efallai’n wir fod ‘na hud a lledrith yn gymysg â thannau’r gitâr a nodau’r piano, gan nad ydw i eto,ers derbyn yr albwm dros wythnos yn ôl, wedi stopio gwrando arni hi.

10/10

LEUSA FFLUR

templateyselar.indd 18templateyselar.indd 18 4/3/09 11:18:434/3/09 11:18:43

Page 19: Y Selar - mawrth 09

19

LILI WEN FACH

LLEUWEN STEFFAN GWYMON

Pan gefais i’r EP drwy’r post i’w hadolygu meddyliais “Uh oh”, artist arall yn canu hen ganeuon gwerin. Ond mae Lleuwen yn llwyddo i greu naws gwahanol gyda’r gitâr ysgafn yn creu’r math o gerddoriaeth gefndirol a ddisgwylir ei chlywed mewn bwyty Sbaeneg. Mae’n llwyddo hefyd i aeddfedu’r caneuon hyn gyda’i llais meddal, neis. Ond ni lwyddodd y dewis o ganeuon i fy nghyffroi, na’r gerddoriaeth a dweud y gwir. Er hyn mae’i fersiwn o’r gân Lili Wen Fach gyda’r harmonïau yng nghanol y gân yn wahanol ac yn rhoi ychydig mwy o fywyd i’r

sengl. Ond yn gyffredinol ni fuaswn yn mynd allan o’m ffordd i brynu’r sengl, sydd efallai ddim yn syndod gan nad ydw i’n or hoff o’r math hwn o gerddoriaeth fel arfer, a dydi Lleuwen erioed wedi llwyddo i greu argraff arbennig arnai. Serch hynny does dim byd

o reidrwydd yn bod gyda safon y gerddoriaeth ac os ydych chi’r math o berson sy’n hoffi cerddoriaeth ‘neis/difl as’ mae’n sicr yn ddelfrydol ar eich cyfer chi!!!

5/10CERI PHILLIPS

WYRLIGIGS WYRLIGIGS

YN Y DDINAS YN Y DDINAS BONCSHAFT

Pyncaidd yr ydyw, pync mwy sgleiniog na’r Sex Pistols ond heb chwaith fod y math o bync-pop disylwedd, gwag, plentynnaidd, dwl, di-bob-pwrpas heblaw i wneud arian allan o idiots 15 oed a milwyr America Blink-182, Sum 41 a’r math yna o wast ar aer pawb. I’r gwrthwyneb, mae caneuon go iawn yma. Yn enwedig Amsterdam sy’n un corcar o reid, a Rhwystyr sy’n ogoneddus atseinio o draddodiad The Jam. Ar y pen arall mae Dangos Hi yn ddarn gwan ac ella fod y cyfyr o Rhedeg i Paris yn ymddangos yn eithaf dibwrpas ond ar y llaw arall bosib gwnaiff o arwain cenhedlaeth newydd at gân wych, pwy ‘dwi i ddweud. EP sy’n glod i fand sydd bellach yn brofi ad byw o fri hefyd.

6/10HEFIN JONES

CYFLE I ENNILL LLWYTH O CDS Anghytuno gydag un o’r adolygiadau? Un o’r colofnau wedi’ch corddi chi? Beth ydach chi’n edrych ymlaen at yn 2009? Mae’r Selar eisiau clywed eich sylwadau ar ffurf llythyr. Byddwn yn argraffu’r llythyrau gorau ym mhob rhifyn a bydd ‘Llythyr y Rhifyn’ yn derbyn pecyn o bob CD a adolygwyd yn y rhifyn blaenorol!Anfonwch eich llythyrau draw ar e-bost i ni – [email protected]

RECORDIAU SAFON UCHELRECORDIAU SAFON UCHELDwi wedi gwrando ar y Cd bob dydd wythnos yma ar y ffordd adre o’r gwaith a does yna mond un ffordd o’i ddisgrifi o. Gwreiddiol. Wrth yrru ar hyd yr A55 tuag adre a gadel y swyddfa roedd y gerddoriaeth yn llwyddo i fynd a fi i fyd arall. I’r is fyd, yr arall fyd, i’r mannau uchaf neu i’r gwaelodion.

Prin oes ‘na air yn cael ei yngan ar y Cd felly mae’r gerddoriaeth yn rhoi’r rhyddid i chi lunio stori tu ôl i’r gerddoriaeth. Fy hoff drac i ydy Blodyn Tatws - Un Nos Ola Leuad. Ma na rhywbeth eitha’ iasol ond eto hamddenol am y trac yma. Yn syth ar ôl Un Nos Ola Leuad mae Les Idiots - No Hope, sy’n mynd a mi i waelod y môr neu i rywle tywyll cyfyng. Yna mae elfen sinistr ‘Rerenaissance of the Celtic Harp - Track 4’ yn eich taro. Y tair trac yma yng nghanol y Cd ydy’r uchafbwynt i mi.

Mae’n siw^ r y byddai’r gerddoriaeth yn creu darlun gwahanol ym meddyliau pawb ac mae’n siw^ r fod yr hyn dwi’n ei weld yn hollol wahanol i’r hyn oedd yn ysbrydoliaeth i’r gwaith ond dyna sydd yn gwneud y peth mor arbennig. 8/10DEWI SNELSON

CREISION HUD CREISION HUD

FFYRDD GWYRDD FFYRDD GWYRDD CIWDOD

Dyma sengl gyntaf y band ifanc o ardal Caernarfon ac mae’n ddechrau da. Mae’r ddau drac yn eitha’ byr (llai na 3 munud yr un) ac yn bop-roc pur. Caneuon syml a bachog sydd yma a dwi’n siw^ r wrth i’r criw aeddfedu fel cerddorion fe fydd Creision Hud yn tyfu i fod yn un o fandiau mwyaf poblogaidd y sin.

O’r ddwy gân mae’n well gen i’r ail gân, neu’r B-side, sef Dianc ond chwaeth bersonol ydy hynny a dim mwy. Mae’r ddwy yn dangos pam fod y band yn cael ei disgrifi o fel un o’r rhai mwyaf addawol ar hyn o bryd. Dwi’n edrych ymlaen yn eiddgar at glywed mwy felly mae’r sengl wedi gwneud ei waith. Fel odd Mr Jones fy mhrifathro ysgol Gynradd yn arfer deud ‘Da iawn, dalier ati’.

7/10 DEWI SNELSON

templateyselar.indd 19templateyselar.indd 19 4/3/09 11:18:484/3/09 11:18:48

Page 20: Y Selar - mawrth 09

20

EDRYCH YMLAEN AT ‘

TAITH TAFOD 2009Mae Taith Tafod Cymdeithas yr Iaith eleni’n addo bod yn fwy ac yn well nag erioed, gyda Bandana, enillwyr Brwydr y Bandiau yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd llynedd yn teithio o gwmpas Cymru gyda rhai o brif fandiau’r wlad. Bydd y daith yn ceisio ymweld â phob cornel o Gymru gan roi cyfl e i bawb allu mwynhau!

Dyma fydd y bedwaredd Taith Tafod i gael ei threfnu gan Gymdeithas yr Iaith, ac mae’n gyfl e i’r bandiau ymweld â lleoliadau falle na fydden nhw’n cael cyfl e i chwarae ynddyn nhw fel arall, ac mae’n gyfl e hefyd i bobl leol weld bandiau o rannau eraill o Gymru. Mae’r

daith wastad yn lot o hwyl, ond ys dywed y Sais ‘what goes on tour, stays on tour!’ Dwi’n edrych ymlaen yn fawr iawn at y daith, ac yn edrych ‘mlaen at gyhoeddi’r bandiau fydd yn chwarae’n fuan,

cyffrous iawn! Felly, da chi - ewch i’r gig

Taith Tafod pan mae’n ymweld â’ch ardal chi!

ROEDD 2008 YN FLWYDDYN DDA I’R SIN GERDDORIAETH GYMRAEG, AC MAE 2009 YN ARGOELI I FOD YN LLAWN

CYSTAL. DYMA UCHAFBWYNTIAU’R FLWYDDYN I DDOD YN ÔL RHAI O GYFRANWYR CYSON Y SELAR:

YR ODSMae ‘na sawl rheswm dros ddweud ‘Hwre am 2009’ a’r un cynta’ yw achos bod Yr Ods o’r diwedd wedi troi mewn i The Cribs gyda ‘chydig o Roxy Music a Big Leaves ‘di tafl u mewn i’r mics hefyd. Dylai’r sengl newydd Fel Hyn Am Byth fod yn styc yn eich pennau erbyn hyn gan ei bod hi’n enghraifft berffaith o bop penigamp. Synths, synau laser a harmonïau hardd yw’r ffordd ymlaen. Plis gawn ni weld nhw ar dop y bil rhywle yn y Steddfod? Gyda Gruff a Griff wedi eu gwisgo fel Bryan Ferry a Phil Manzanera hefyd? A tra dyn ni wrthi, Rhys Aneurin fel Brian Eno. Diolch.

GW^

YL TALACHARN Dyma un o’r gwyliau gorau dwi wedi bod iddi, a’r cyfan ar stepen fy nrws (bron…)! Er mai gw^ yl lenyddol yw hi, mae Gw^ yl Talacharn - sy’n cael ei chynnal am y drydedd tro eleni yn y dref hyfryd yng ngorllewin Cymru - yn cynnwys artistiaid Cymraeg, ac eleni bydd Cate le Bon, Richard James, Sweet Baboo, Race Horses a Johnny - prosiect newydd Euros Childs a Norman Blake (prif leisydd Teenage Fanclub) i gyd yn chwarae yno. Mae’r W

^

yl yn cael ei chynnal mewn sawl lleoliad ar draws tref hyfryd Lacharn, a ma’ ‘na wastad ryw ‘deimlad’ neis i’r penwythnos … chi bron yn teimlo eich bod chi mewn gwlad wahanol am dri diwrnod! Eleni, bydd hefyd ‘marquee’ yn y castell lle bydd bandiau’n chwarae, ac yn ôl yr arfer bydd y cyfan yn dod i ben ar y nos Sul gyda chast y ffi lm ‘Twin Town’ yn perfformio sgript

y ffi lm gyfan. Ffantastig! Ma’ pob math o bethe yn digwydd trwy’r penwythnos ‘na - Howard Marks, Keith Allen, sgwrs gyda phedwar o gyn-chwaraewyr rygbi’r Llewod, a’r anhygoel Patti Smith yn darllen ei cherddi! (Er, llynedd, nath e droi’n sesiwn cwestiwn ac ateb gyda hi - pa mor cw^ l?!) Os chishe penwythnos gwahanol a hamddenol, gyda chyfl e i glywed bandiau newydd a chlywed gwaith awduron o bob cwr o Brydain, yna gw^ yl Talacharn yw’r lle i chi!

ARDDANGOSFA POP PETH –

AMGUEDDFA GENEDLAETHOL

CYMRU SAIN FFAGANFel un o guraduron gwadd arddangosfa Pop Peth, sy’n canolbwyntio ar gerddoriaeth o Gymru, dwi’n edrych ‘mhlan i’r arddangosfa agor ar ddechrau Awst (dyddiad i’w gadarnhau!). Bydd yr arddangosfa’n canolbwyntio ar agweddau gwahanol o’r sin

LOWRI JOHNSTON

IAN COTTRELL

ndiau yn yr enedlaethol ydd ithio o

mru gyda ndiau’r y daith yn d â phob

mru gan roi allu mwynhau! y bedwaredd gael ei threfnuhas yr Iaith,

fle i’r bandiau oliadau en nhw’n hwarae fel arall,

fle eol

u o o

r

chi ewch i r gigTaith Tafod panmae’n ymweldâ’ch ardal chi!

templateyselar.indd 20templateyselar.indd 20 4/3/09 10:40:264/3/09 10:40:26

Page 21: Y Selar - mawrth 09

21

‘09ALBWM JAKOKOYAK Ges i chware tracie oddi ar albwm newydd Jakokoyak ar y sioe llynedd, gan wirioni ar draciau Dada Love a Superstar Girl. Byth ers hynny, dwi ‘di bod yn edrych ‘mlaen at ryddhau’r albwm, Aerophlot. Nath Rhys ryddhau’r sengl Look away now if you don’t want to know the score / Moscow 705 ar label Peski cyn ‘dolig, ac mae o’n gobeithio gorffen cymysgu’r albwm yn y dyfodol agos.

LISA GWILYM

gerddoriaeth yng Nghymru, gyda chasgliadau gan Llwybr Llaethog, Gary Melville, Ashley o siop Spillers a Leusa a fi ’n neud yr ochr ‘ffans’. Rydyn ni’n egseited iawn i arddangos pethau ni wedi’u casglu dros fl ynyddoedd o fynd i gigs, ac fe fyddwn ni hefyd yn dangos sut ma mynd ati i neud ffansin eich hunan. Ni hefyd yn edrych ymlaen at weld yr hyn mae’r lleill wedi eu casglu, a dwi’n meddwl fydd hi’n arddangosfa ddiddorol iawn, ac yn hanfodol ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn y sin gerddoriaeth yng Nghymru!

ALBWM CLINIGOLAlbwm gan Clinigol yw’r ail reswm. Pop o fath arall, gyda mwy o synths, dim gitars a gwesteion arbennig di-ri. Ac i ddyfynnu un hanner o’r ddeuawd deuluol, Geraint “Captain Jean Luc” Pickard (wel, mae’r ddau yn foel) “pop fydd e i gyd... pop gydag agwedd... i ddwyn be wedodd Annie: “pop with edges!”... yn canolbwyntio ar felodïau catchy... gyda llygaid ar y dancefl oor...”. Wel, fedri di’m gofyn am fwy na hynny. Dwi’n edrych ymlaen at glywed be nawn nhw gyda Cofi Bach, sy’n rapio ar un o’r traciau yn ogystal â’r gân ‘93’ - oedd yn fl wyddyn

wych i gerddoriaeth ddawns felly, wrth reswm, mi ddylai honno gael ei hadlewyrchu yn safon y trac - sydd DDIM yn cynnwys Cofi Bach yn rapio arni hi, jyst rhag ofn bo chi’n confused … Ond efallai dylai hi, eh?

ENDAF EMLYNYn ola’, pan mae Endaf Emlyn yn e-bostio ti yng nghanol sgwrs am ei albwm newydd ar ôl i mi

awgrymu bod ei arbrofi diweddar yn mynd i esgor ar rywbeth diddorol ac yn dweud “Electro-pop? Wel ... Wedi meddwl, fe elli ddweud fy mod yn recordio eto yn ysbryd ‘Salem’, sef gartre ar y Mac lle gynt bu’r TEAC, ac unwaith eto gyda fy hen gyfaill Mike Parker. Felly troi cylch yn ôl i’r cychwyn, i’r 70au, ond gyda thechnoleg 2009!” mae’n rhaid i ddyn gyffroi yndoes?

ati i neud ffansinhunan. Ni hefydfydrych ymlaenn atyr hyn mae’rr

wedi eu casglu,n meddwl fyydd rddangosfa orol iawn,hanfodol arrunrhyw un

â diddordeb yngerddoriaethh yngmru!

ALBWM 9BACHRoedd 2008 yn fl wyddyn brysur iawn i Lisa Jên a’i gw^ r Martin, nid yn unig yn creu babi(!), ond hefyd yn recordio a gweithio ar albwm gynta 9 bach. Dwi ‘di bod yn ffan ers y dyddie cynnar, ac wrth fy modd efo’r awyrgylch hyfryd maen nhw’n llwyddo i’w greu efo’u cerddoriaeth. Llais peraidd Lis, dehongliade difyr Martin, dawn Esyllt ar y delyn, a sw^ n llawn y band, mae’r fformiwla’n gweithio. Dwi ‘di bod yn ddigon lwcus i gael chware un o’r tracie oddi ar yr albwm, Lisa Lân, ar C2 ac mae’n wych - dros saith munud o hyd, ac mae fel mynd ar daith ddirgel hudol, efo cyffyrddiade

annisgwyl rownd pob cornel. Gobeithio bydd gweddill yr albwm cystal, ac y bydd hi allan yn fuan.

ALBWM SUPER FURRY ANIMALSMaen nhw nôl efo’u nawfed albwm stiwdio, yr anifeiliaid anhygoel o fl ewog! Roedde nhw i gyd mor brysur yn 2008 efo prosiecte gwahanol eu hunain, felly mi fydd o’n grêt cael nhw nol efo’i gilydd, ac yn ddiddorol cael clywed i ba gyfeiriad maen nhw ‘di mynd efo’r albwm newydd. Roedd yr un ddwetha, Hey Venus yn fyr a ‘popi’, a Lovekraft cyn hynny yn gerddorfaol ac epig. Wrth sgwennu hwn, does dal dim teitl, jyst enwe’r 13 o dracie, sy’n cynnwys un Gymraeg. Mae allan yn ddigidol Mawrth 16eg ar www.superfurry.com, ac allan yn y siope Ebrill 13eg ar label Rough Trade.

, gy y ya gwesteion arbennig di-riun hanner o’r ddeuawd deGeraint “Captain Jean Luc(wel, mae’r ddau yn foel) “gyd... pop gydag agwedd...wedodd Annie: “pop with ecanolbwyntio ar felodïau cllygygyggaid ar y dancefl oor...”. Wgofyn nn aama fwy na hynny. Dwymlaen at glywed be nawnCoCoCoCofi Bach, sy’n rapio ar unogysysysystal â’r gân ‘93’ - oedd

9BACH8

trosodd ... dewis Barry Chips

templateyselar.indd 21templateyselar.indd 21 4/3/09 10:49:394/3/09 10:49:39

Page 22: Y Selar - mawrth 09

?22

Rhwng y credit crynsh a’r sgintrwydd rhemp, Gai Toms yn gorfod mynd i’r dump i chwilio am offerynnau taro, a Mami methu fforddio dy wersi Maths preifat blah blah blah ... fyddi di’n ail-afael ym mhleserau syml a bytholwyrdd bywyd.

Dau beth fydd yn hanfodol yn 2009 - dawnsio a chwerthin ... a’r peth arall yna. (Ac o gyfuno’r secs efo’r dawnsio a’r chwerthin, i gyd ar yr un pryd, fydd cyfrif banc dy enaid yn orlawn)

NIA MEDI AR C2Dyna’r bobol sy’ am wneud i ni chwerthin, ond o ble y daw’r dawnsio?

O gyfeiriad Nia Medi - mae hi’n canu ar records dawns ei hun, ac yn eu chwarae ar ei sioe newydd ar Radio Cymru.

Mae ganddi bedigri - roedd hi’n arfer canu yn Johnny Panic ac yn bwcio bandiau i fynd ar Wedi 7 i ganu yn sdiwdeos Tinopolis yn Llanelli.

Bydd unrhyw un sydd wedi gwrando

ar ei sioe am 11pm ar nos Iau a Gwener, yn gwybod bod Nia’n deall ei sdwff ac yn caru cerddoriaeth. Mae hi eisoes wedi gofyn i Voodoo Twigg ailgymysgu caneuon roc Cymraeg, fel bod modd dawnsio iddynt wrth wrando ar ei sioe radio. Mae’n debyg fod trac Disco Bitch gan Iglw wedi cael bywyd newydd yn dilyn remics Voodoo Twigg (Peter James o’r Garnant). “Dwi’n trio annog pobol i gynhyrchu miwsig dawns” meddai Nia Medi, sy’ wedi cydweithio efo Tokiwana i gynhyrchu’r trac cachboeth O Ble Des Di?

Fydd ffans Johnny Panic yn cofi o canu pwerus Nia Medi a’r llais angerddol, mor debyg i Beth Ditto. Ond mae’r naws ar O Ble Des Di? fwy Kylie Minogue - synhwyrus griddfanus glwyfus.

Yn ddiddorol i’r SRG, neith ‘rwbath-rwbath rywsut-rywsut’ ddim mo’r tro i Nia Medi. Er ei bod hi’n cynnal gigs acwstig ar ei phen ei hun, fydd hi ddim yn perfformio’r sdwff dawns nes ei bod yn gallu cael band cyfan i ail-greu’r holl sw^ n yn fyw. “Sa i ishe neud gig efo boi efo laptop yng nghefn y neuadd, nag efo backing track,” meddai’n urddasol bendant.

Ac fel y byddech yn disgwyl gan un efo egwyddorion mor gadarn, Nia Medi a neb arall sy’n dewis pa gerddoriaeth sydd i’w glywed ar ei sioe radio. “Ma’ pethe gwych a phethe gwael yn dod mas yng

Nghymru, ond fel cyfl wynydd fi ond yn chwarae pethe o safon,” meddai.

A beth fydd yn gosod y safon yn 2009, Nia? “Un o’r pethe gore i fi ddod ar draws yw E.P. solo Ed Holden. Mae pob sw^ n ar Môr o Miwsig o geg Ed - sdim offerynnau. Fydde’n i’n taeru bod yna fand proffesiynol y tu ôl iddo fe. “Ma’r gân Ffyrdd Gwyrdd gan Creision Hud yn wych, a wy’n rili lico cân newydd Swci Boscawen gyda’r Electric Tickle Machine - Women are the New Man.”

Ewch i gael golwg ar www.myspace.com/niamedi neu’r grw^ p facebook, i wybod be sy’n mynd mlaen ac i gyfrannu at y grw^ p - ‘Rhaglen Radio Nia Medi /Nia’s Radio Show - BBC C2 Radio Cymru’

ALBWM EITHA TAL FFRANCODaw’r chwerthin eleni gan Eitha Tal Ffranco. Mam Bach, diolch i’r Nefoedd fod Y Ddau Wirion yn ôl efo albwm newydd yn llawn ha-ha, hi-hi ... heb anghofi o’r ho-ho.

Roedd Os Ti’n Ffosil 2008 dipyn bach fel Gonorhea - yn tyfu’n araf ar ddyn, gan amlygu amryw o haenau poenus. Mae caneuon megis 50p, But it’s Not Sixty a’r Radio Friendly Unit Shifter Organ Aur Huw yn dal i godi gwên hyd heddiw.

Mae teitlau’r caneuon newydd yn addo laff hefyd - ‘Dwi’n gwbod lle mae dy fam di’n shopa’, ‘Plant heb gynffon’. Ond yn ôl y canwr mae yna ochr dywyll i’r ail albwm hefyd - dyma wir ogoniant Eitha Tal ynde, gosod y dwys a’r digrif ochr yn ochr â’i gilydd ... ryw fath o Itchy and Scratchy seinyddol.

Bydd yr albwm, sy’n ddideitl, yn cael ei rhyddhau fi s Ebrill i’r ffanffer anarferol - lansiad hynod mewn Amgueddfa Gloÿnnod Byw ar Ynys Môn.”Gath yr holl albwm ei recordio yn wynebu tua’r gorllewin” meddai Gruff canwr Eitha Tal. “Rhwng fi a Dafydd (y gitarydd) ‘da ni di cal 3 damwain car a 6 stop gan yr heddlu wrth ei recordio”

BARRY CHIPS

Gan barhau gyda’r thema chwerthin, ga’i erfyn ar big-wigs ein sianel i ffeindio cartref teilwng i’r hynod ddoniol Huw Evans.

Rw^ an fod Bandit yn mynd i gael ei sbaddu, mae angen meddwl am gerbyd gweledol o’r newydd i’r llinyn trôns llaes ei gerddediad. (Dim ond pedair awr o Bandit fydd eleni - o’r gwyliau cerddorol mae’n debyg. Clywais ar y winwydden fod rhaglen arall ‘debyg, ond gwahanol’ ar y ffordd - sef ‘Gofod’ - edrychwn ymlaen yn eiddgar i’r arlwy newydd, gan fawr obeithio y bydd ‘cynnal y laffs’ o’r pwys mwyaf yn y

dyddiau di-gredyd yma sy’n ein hatal ni oll rhag prynu soffas newydd).

Cofi af yn iawn sut y collwyd Eddie Ladd o’r sgrin fach pan ddoth Fideo 9 i ben. Dyma gymeriad unigryw a ffraeth efo aeliau oedd yn comedy gold. Plis peidiwch â gadael i hyn ddigwydd i’r ffraethbeth Huw Evans. Y tro diwethaf i mi weld Eddie Ladd, roedd hi’n perfformio dehongliad o ffi lm ‘Scarface’ Alpa Chino, a hynny ar ffurf dawns. Yda ni wir eisiau gweld Huw Evans mewn gwisg leicra yn ail-ddehongli ‘Carlito’s Way’ ym Maes C Sdeddfod Bala?

LLE TEILWNG AR S4C I HUW EVANS

SA I ISHE NEUD GIG

EFO BOI EFO

LAPTOP YNG NGHEFN

Y NEUADD, NAG EFO

BACKING TRACK

““

templateyselar.indd 22templateyselar.indd 22 4/3/09 10:49:584/3/09 10:49:58

Page 23: Y Selar - mawrth 09

AR Y GWEILL GAN MR HUW:

Mae gan Mr Huw lot ar y gweill gyda sengl newydd, Ffrind Gora Marw, yn cael ei ryddhau ar itunes ar yr ail o Fawrth ac albwm newydd sbon danlli i ddilyn. Hud a Llefrith fydd enw’r albwm, i’w rhyddhau ar label Copa ar 30ain Mawrth – “ i gyd-fynd efo hyn mi fyddai’n gigio trwy fi s Mawrth a thu hwnt.” Gwych, da di Mr Huw!

AR ÔL YMATEB FFAFRIOL I’R EITEM AR EIRIAU FERSIWN BRIGYN O HALELIWIA

YN Y RHIFYN DIWETHA, MAE GEIRIAU SY’N GYRRU’R GÂN YN ÔL. ‘COVER’

ARALL SY’N CAEL SYLW Y TRO YMA, SEF DWI DDIM ISHO GAN MR HUW.

BRIGYN O HALELIWIAGEIRIAU SY’N GYRRU’R GÂN?

DWI DDIM ISHO

Daeth ataf ar y stryd, a’i wyneb yn wên i gyd

Sibrydio yn fy nghlyst, iddo ddod o bendraw byd.

Ei eiriau cyntaf odd hei, enwa rhywbeth a fe gei,

Os ddoi di gyda mi i fyw yn y USA

Cytgan

Dwi ddim isho mynd i LA, dwi ddim isho Cadellac

Dwi ddim isho recordio ar y 24 trac

Dwi ddim isho rhan mewn mwfi , dwi ddim isho thrills a

spills

Dwi ddim isho gwario pnawniau yn y Beverly Hills

Y cyfan ma nhw isho neud yw caru bod gyda ti

Mi gefais ddipyn o fraw, pan afaelodd yn fy llaw

Dywedais wrtho’n blaen, bod gwell ‘ddo gadw draw

Odd elmer yn dipyn o lanc, odd ei dad o berchen 4 banc

Ond doedd hynny ddim yn ddigon i mi redeg ffwrdd ‘fo’r

ianc

Dwi ddim isho....

Oedd o’n dechra mynd o’i go, doedd yr ateb ddim yn

neud y tro

Pan ddywedai’s wrtho’n blaen, dwisho aros yn y fro

Aeth ei wyneb coch yn wyn a fe gerddodd ffwrdd yn syn

Methu’n glir a dallt pwy a fentrodd wrthod fel hyn

Dwi ddim isho...

Huw: “Cân yn wreiddiol gan fand o’r enw

Sidan ydi Dwi Ddim Ishe - band a ffurfwyd

efo Caryl Parry Jones a Sioned Mair tra

odda nhw dal yn ‘rysgol. Ond jyst un

albwm nathon nhw recordio dwi’n meddwl

sef Teulu Yncl Sam.

Nes i ddod i recordio fersiwn pan nath

y sioe radio, Hen Bethe Crwn, ofyn i fi

bigo cân i neud fersiwn newydd ohoni, a

Dwi Ddim Ishe nes i bigo. Er bod fersiwn

Sidan yn eitha llawn ac yn mynd amdani

dipyn, nes i benderfynu stripio’i lawr a

neud fersiwn eitha ‘minimal’ gan roi slant

fy hun arni. Nes i ddim newid llawer ar

y geiriau, jyst y ffordd o’i deud nhw. O’n

teimlo bach yn od yn canu ‘ishe’, felly ‘isho’

amdani.

Mae hi’n gân fachog dau ddarn a does

na’m lot o falu cachu yn y gân o ran

trefniant, sydd y math o beth dwi wrth fy

modd efo - syth i’r pwynt, a ti’n gallu canu

efo’r gân yn syth.

Ma’i di cael ei hysgrifennu o safbwynt

merch sydd yn cael cynnig popeth

bysa rhywun o’r oed oedd y genod pan

ygrifenwyd y gân yn ei gymeryd heb

feddwl ddwywaith, a ma’r ddau beth

yna’n neud o’n fwy o hwyl i’w chanu.

Ma’r ffaith bo nhw’n gwrthod popeth

yn briliant. Ma’r gân wastad yn neis i’w

pherfformio, ar ben fy hun neu efo’r band,

a ma posib neud lot o betha gwahanol

efo’i.

M ISHO

f ar y stryd, a’i wynynynebebbbb y yyy yy nnn wêw n i gyggyg d

yn fy nghlyst, iddo ddddododod o o bebendndraraaw ww byd.d

cyntaf odd hei, enwa rhyhywbwbwbetete h h a aa fefefefe gei,

di gyda mi i fyw yn y USA

im isho mynd i LA, dwi ddim isho CCadadeleeeeeeeeeee lac

dim isho recordio ar y 24 trac

dim isho rhan mewn mwfi , dwi ddim ishhhhhhhho thhhhhriills s aa

ddim isho gwario pnawniau yn y Beverly Hills

yfan ma nhw isho neud yw caru bod gyda ti

gefais ddipyn o fraw, pan afaelodd yn fy llaw

wedais wrtho’n blaen, bod gwell ‘ddo gadw drawawa

dd elmer yn dipyn o lanc, odd ei dad o berchen 4 4 4 bab nc

nd doedd hynny ddim yn ddigon i mi redeg ffwrw dddd ‘ ‘ ‘fofofo’r’r’r

anc

Dwi ddim isho....

Oedd o’n dechra mynd o’i go, doedd yr ateb ddim ynyn

neud y tro

Pan ddywedai’s wrtho’n blaen, dwisho aros yn y fro

Aeth ei wyneb coch yn wyn a fe gerddodd ffwrddd yn nnnnnn sysysysysysys nn

Methu’n glir a dallt pwy a fentrodd wrthod fel hyn

Dwi ddim isho...

23

ni, jyst y ffordd o i de

ach yn od yn canu ‘i

DWI DDIM

Daeth ataf

Sibrydio y

Ei eiriau c

Os ddoi d

Cytgan

Dwi ddi

Dwi dd

Dwi dd

spills

Dwi d

Y cyf

Mi g

DywOdOnia

D

AR Y GWEAR Y GWE

ae gan Mryda sengl nora Marw, yr itunes ar yc albwm newddilyn. Hud anw’r albwm, ibel Copa ar 3

gyd-fynd efo hgio trwy fi s Ma

wnt.” Gwych, da

Sidan yn

dipyn, nes

neud fers

hun arn

WEILL GAN MR HUW:EILL GAN MR HUW:

r Huw lot ar y gweill newydd, Ffrind yn cael ei ryddhau yr ail o Fawrth wydd sbon danlli a Llefrith fydd i’w rhyddhau ar 30ain Mawrth – “ hyn mi fyddai’n awrth a thu a di Mr Huw!

fy hun arn

y geiriau,

teimlo bac

amdani.

templateyselar.indd 23templateyselar.indd 23 4/3/09 11:25:024/3/09 11:25:02

Page 24: Y Selar - mawrth 09

Llun-Gwener, 8pm bbc.co.uk/c2

Y Ffeinal Rhaglen Magi Dodd, 29 Ebrill, 8pm

Mewn partneriaeth â Mentrau Iaith Cymru

byw ac astudio drwy’r Gymraeg

www.bangor.ac.uk

• Mae'r Gymraeg yn rhan gwbl naturiol o fywyd myfyriwrym Mangor.

• Prifysgol Bangor sy’n cynnig y nifer fwyaf o gyrsiau drwygyfrwng y Gymraeg

• Bywyd cymdeithasol Cymraeg heb ei ail. Trefnir llu oweithgareddau hamdden a chymdeithasol gan UndebMyfyrwyr Cymraeg Bangor.

• Neuadd breswyl fywiog Gymraeg sy’n gartref i fyfyrwyrCymraeg o bob cwr o Gymru.

• Mae bwrsariaethau o £500 y flwyddyn ar gael i'r rhai sy'ndewis astudio'r cyfan o'u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, a£250 y flwyddyn i'r rhai sy'n dewis astudio rhan o'u cwrsdrwy'r Gymraeg.

AM FWY O FANYLION CYSYLLTWCH Â’R UNED RECRIWTIO MYFYRWYR.Ffôn: 01248 382005 / 383561•E-bost: [email protected]

templateyselar.indd 24templateyselar.indd 24 4/3/09 10:50:434/3/09 10:50:43