Brîff i’r Tîm

23

description

Brîff i’r Tîm. ‘Safon Brand’ y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) – sicrhau cysoneb. Beth fydd yn cael sylw yn y brîff?. Pa fusnesau ddylai gael eu graddio? Sut mae’r sgorio a’r mapio’n gweithio? Beth sydd angen i fusnesau bwyd ei wybod a phryd? Beth sy’n ymddangos ar y wefan? - PowerPoint PPT Presentation

Transcript of Brîff i’r Tîm

Page 1: Brîff i’r Tîm
Page 2: Brîff i’r Tîm

Brîff i’r Tîm

‘Safon Brand’ y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) – sicrhau cysoneb

Page 3: Brîff i’r Tîm

Beth fydd yn cael sylw yn y brîff?

• Pa fusnesau ddylai gael eu graddio?

• Sut mae’r sgorio a’r mapio’n gweithio?

• Beth sydd angen i fusnesau bwyd ei wybod a phryd?

• Beth sy’n ymddangos ar y wefan?

• Sut mae’r broses apelio’n gweithio?

• Beth mae’r ‘hawl i ymateb’ yn ei olygu?

• Sut mae’r ailymweliadau y gwnaed cais amdanynt yn diogelu’r gwaith?

• Sut allwn ni sicrhau cysondeb?

• Unrhyw gwestiynau neu sylwadau?

Page 4: Brîff i’r Tîm

Pa fusnesau ddylai gael eu graddio?

• Dilynwch y goeden benderfynu ac atebwch y cwestiynau allweddol

Cwestiwn allweddolOes rhaid i’r sefydliad gofrestru neu a yw’n sefydliad wedi’i gymeradwyo gydag elfen fanwerthu?

Wedi’i eithrio o’r cwmpas - dim sgôr hylendid bwyd

Nac oes

Oes

Cwestiwn allweddol nesaf

Page 5: Brîff i’r Tîm

Pa fusnesau ddylai gael eu graddio? • Dilynwch y goeden benderfynu ac atebwch y cwestiynau

allweddolCwestiwn allweddolYdy’r sefydliad yn cyflenwi bwyd yn uniongyrchol i ddefnyddwyr i’w fwyta ar neu oddi ar y safle?

Wedi’i eithrio o’r cwmpas - dim sgôr hylendid bwyd

Nac ydy

Ydy

Cwestiwn allweddol nesaf

Enghreifftiau Cynhyrchwyr cynradd, gweithgynhyrchwyr, pacwyr, mewnforwyr ac allforwyr, dosbarthwyr (yn cynnwys cyfanwerthwyr), cludwyr ac eraill sy’n cyflenwi o un busnes i’r llall.

Enghreifftiau Bwytai, tafarndai, caffis, siopau tecawê, siopau brechdanau, busnesau gwely a brecwast, gwestai bach, gwestai, masnachwyr symudol, stondinau marchnad a marchnadoedd achlysurol, archfarchnadoedd, siopau ffrwythau a llysiau, siopau diodydd, ysgolion, meithrinfeydd a chartrefi gofal preswyl, y lluoedd arfog, yr heddlu a sefydliadau’r Goron, cyfanwerthwyr neu siopau talu a chario y’n gwerthu bwyd yn uniongyrchol i ddefnyddwyr, llefydd eraill lle mae pobl yn bwyta bwyd sydd wedi’i baratoi y tu allan i’r cartref.

Page 6: Brîff i’r Tîm

Pa fusnesau ddylai gael eu graddio?

• Dilynwch y goeden benderfynu ac atebwch y cwestiynau allweddol

Cwestiwn allweddolYdy’r sefydliad yn un ‘risg isel’ ac yn un nad yw fel arfer yn cael ei ystyried yn fusnes bwyd gan ddefnyddwyr?

Dim sgôr hylendid bwyd

Enghreifftiau Canolfannau ymwelwyr neu sefydliadau tebyg sy’n gwerthu tuniau o fisgedi neu nwyddau eraill wedi’u lapio ymysg nwyddau amrywiol, canolfannau hamdden sydd â pheiriannau gwerthu bwyd yn unig (gyda diodydd neu fwydydd risg isel yn unig), siopau papur newydd sy’n gwerthu melysion wedi’u pecynnu ymlaen llaw yn unig, siopau fferyllwyr.

Nac ydy

Cwestiwn allweddol nesaf

Ydy

Page 7: Brîff i’r Tîm

Pa fusnesau ddylai gael eu graddio? Dilynwch y goeden benderfynu ac atebwch y cwestiynau

allweddol

Cwestiwn allweddolYdy’r sefydliad yn gweithredu o gyfeiriad preifat?

Cwestiwn allweddolAi gwarchodwr plant yw’r sefydliad neu wasanaeth gofalu arall sy’n cael ei ddarparu yn y cartref fel rhan o uned deuluol?

Dim sgôr hylendid bwyd

Ydy Ie

Rhoi sgôr hylendid bwyd

Nac ydy Nage

Page 8: Brîff i’r Tîm

Sut mae’r sgorio a’r mapio’n gweithio?

• Sylfaen – Atodiad 5 y Cod Ymarfer− lefel cdymffurfiaeth (gyfredol) â gweithdrefnau hylendid a

diogelwch bwyd− lefel cydymffurfiaeth (gyfredol) â gofynion strwythurol− hyder mewn gweithdrefnau rheoli

• Mae gan Safon y Brand ddisgrifiadau o’r safonau disgwyliedig ar gyfer pob sgôr Atodiad 5 – Adran 4: Sgorio

• Graddio wrth arolygu, arolygu’n rhannol neu archwilio (ailymweliadau y gwneir cais amdanynt yw’r unig eithriad)

• Ni ellir graddio ar sail holiaduron hunanasesu

Page 9: Brîff i’r Tîm

Sut mae’r sgorio a’r mapio’n gweithio?

Sgoriau Atodiad 5 unigolCyfanswm sgôr

Atodiad 5Sgôr uchaf – ffactor sgorio ychwanegol Sgôr hylendid bwyd

5, 5, 5 15 5

0, 5, 10 15 10

5, 5, 20 30 20

Enghreifftiau

Page 10: Brîff i’r Tîm

Beth sydd angen i fusnesau bwyd ei wybod a phryd?

Pryd?

• Wrth ymyrryd NEU ar ôl hynny ond heb oedi diangen ac o fewn 14 diwrnod i ymyrryd

• Ein polisi yw [include policy] Beth?

• Sgôr hylendid bwyd – gyda sticer a thystysgrif

• Manylion pam y cafodd y sgôr hwnnw

• Os yn llai na 5, y camau sydd eu hangen i gydymffurfio â phob un o dair elfen Atodiad 5

• Pryd y bydd y sgôr yn cael ei gyhoeddi

• Gwybodaeth am fesurau diogelwch

• Manylion cyswllt

Page 11: Brîff i’r Tîm

Beth sy’n ymddangos ar y wefan?

Gweithrediadau Tag statws

Wedi’i eithrio

Wedi’i gynnwys a

phreifat

Ddim yn cyflenwi’n uniongyrchol i ddefnyddwyr

Gweithgynhyrchwyr, pacwyr, allforwyr

Arlwywyr cartref a masnachwyr symudol

Wedi’i gynnwys

Cyflenwi defnyddwyr yn uniongyrchol, wedi’i raddio, ond yn sensitif am gyhoeddi cyfeiriad llawn

Archfarchnadoedd, bwytai, caffis, tafarndai, ysbytai, ysgolion

Cyflenwi defnyddwyr yn uniongyrchol, wedi’i raddio, ac yn gallu cyhoeddi cyfeiriad llawn

Wedi’i eithrio

Canolfannau ymwelwyr yn gwerthu bisgedi, siopau papur newydd yn gwerthu melysion wedi’u pecynnu ymlaen llaw yn unig

Cyflenwi defnyddwyr yn uniongyrchol ond heb ei raddio’n ‘risg isel’ na’i gydnabod yn fusnes bwyd, a gellir cyhoeddi cyfeiriad llawn

Page 12: Brîff i’r Tîm

Beth sy’n ymddangos ar y wefan?

Gweithrediadau Tag statwsEnghreifftiau

Wedi’i eithrio a phreifat

Cyflenwi defnyddwyr yn uniongyrchol ond heb ei raddio fel ‘risg isel’, na’i gydnabod yn fusnes bwyd, ond sensitif am gyhoeddi cyfeiriad llawn

SensitifSefydliadau milwrol

Cyflenwi defnyddwyr yn uniongyrchol, wedi’i raddio ond sensitif am gyhoeddi unrhyw gyfeiriad

SensitifGwarchodwyr plant a gwasanaethau gofalu eraill a ddarperir yn y cartref

Page 13: Brîff i’r Tîm

Beth sy’n ymddangos ar y wefan?

Tagiau statws

Wedi’i eithrio Dim

Wedi’i gynnwys

Enw busnes a chyfeiriad llawnCategori busnes System Monitro Camau Gorfodi Awdurdodau Lleol (LAEMS)Dyddiad arolygu NEU ddyddiad sgôr hylendid bwyd diwygiedigSgôr hylendid bwyd NEU sgôr hylendid bwyd diwygiedig NEU ‘yn aros am arolygiad’ NEU ‘yn aros am gyhoeddiad’

Wedi’i gynnwys a

phreifat

Enw busnes a chyfeiriad rhannolCategori busnes LAEMSDyddiad arolygu NEU ddyddiad sgôr hylendid bwyd diwygiedigSgôr hylendid bwyd NEU sgôr hylendid bwyd diwygiedig NEU ‘yn aros am arolygiad’ NEU ‘yn aros am gyhoeddiad’

Page 14: Brîff i’r Tîm

Beth sy’n ymddangos ar y wefan?

Tagiau statws

Wedi’i eithrioEnw’r busnes a chyfeiriad llawnCategori busnes LAEMS‘Wedi’i eithrio’ yn lle sgôr hylendid bwyd

Sensitif Dim

Wedi’i eithrio a phreifat

Enw’r busnes a chyfeiriad rhannolCategori busnes LAEMS‘Wedi’i eithrio’ yn lle sgôr hylendid bwyd

Page 15: Brîff i’r Tîm

Sut mae’r broses apelio’n gweithio?

• Gall y gweithredwr busnes bwyd apelio os yw’n teimlo bod y sgôr yn annheg

• Ceisiwch ddatrys pethau’n anffurfiol i ddechrau

• Rhaid apelio o fewn 14 diwrnod i ddiwrnod hysbysu’r sgôr

• Y Swyddog Arweiniol ar gyfer Bwyd neu ei ddirprwy, neu swyddog o awdurdod arall ddylai benderfynu ar apeliadau

• Yn berthnasol i sgoriau a roddwyd mewn ymyriadau a gynlluniwyd a rhai a roddwyd mewn ailymweliadau/ailarolygiadau y gwnaed cais amdanynt

• Ffurflenni templed ar gael

• Os yw’r gweithredwr yn dal yn anfodlon gall herio drwy adolygiad barnwrol

Page 16: Brîff i’r Tîm

Sut mae’r broses apelio’n gweithio?

Hysbysu’r gweithredwr busnes bwyd o’r sgôr adeg yr ymyriad neu o fewn 14 diwrnod

Arolygiad, arolygiad rhannol, archwiliad neu ailarolygiad/ailymweliad y gwnaed cais amdano

Heb gyflwyno ‘apêl’ o fewn 14 diwrnod i hysbysu

‘sgôr hylendid bwyd’ wedi’i gyhoeddi

Y gweithredwr yn anghytuno â’r sgôr ac yn codi’r mater gyda swyddog ‘arolygu’

Y gweithredwr yn dal i anghytuno ac yn apelio o fewn 14 diwrnod i’r hysbysiad

Penderfynu ar yr apêl a chyflwyno’r penderfyniad i’r gweithredwr o fewn 7 diwrnod

Datrys yr anghydfod

Dangosir fel ‘yn aros am gyhoeddiad’

Page 17: Brîff i’r Tîm

Beth mae ‘hawl i ymateb’ yn ei olygu?

• Cyfle i’r gweithredwr:− esbonio amgylchiadau

anarferol adeg yr arolygiad− nodi camau gweithredu a

gymerwyd i wella safonau ers yr arolygiad

• Gellir ei gyflwyno’n electronig neu’n ysgrifenedig – ffurflenni templed ar gael

• Awdurdod lleol yn adolygu’r testun ac yn ei olygu i ddileu sylwadau ymosodol, difrïol, anghywir neu amherthnasol.

• Cyhoeddi sylwadau yn food.gov.uk/ratings

Page 18: Brîff i’r Tîm

Sut mae’r ailymweliadau y gwnaed cais amdanynt yn diogelu’r gwaith?

• Gall gweithredwyr busnesau bwyd ofyn am ailymweliad ar ôl gwneud y gwelliannau a nodwyd yn yr arolygiad

• Mae ymweliadau rhwng tri a chwe mis ar ôl arolygu yn rhai dirybudd fel arfer

• Dim ond un ailymweliad a geir rhwng ymyriadau wedi’u cynllunio

• Os mai arolygiad/arolygiad rhannol/archwiliad ydoedd, mae’r sgôr risg hefyd wedi newid

• Gall sgoriau fynd i fyny, i lawr neu aros yr un fath

• Mae ffurflenni templed ar gael

Page 19: Brîff i’r Tîm

Sut allwn ni sicrhau cysondeb?

• Gweithredu’r fframwaith cysondeb

• Defnyddio ‘Safon Brand’ CSHB

• Monitro ac archwilio

• Gofynion hyfforddi a chymryd rhan mewn ymarferion cysondeb

• Cymhwysedd swyddogion

• Rheoli cronfeydd data busnesau bwyd

• Cynnal arolygiadau ac ymyriadau eraill

• Dehongli Atodiad 5

• Cynnal cofnodion a gohebiaeth yn ymwneud ag ymyriadau

• Monitro gwasanaeth a chadw cofnodion cysylltiedig

• Gweithredu mesurau diogelu CSHB

Page 20: Brîff i’r Tîm

Sut allwn ni sicrhau cysondeb?

• Ystyried yr egwyddorion sylfaenol ar gyfer gweithredu Atodiad 5 Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd

• Adolygu a thrafod achosion yn rheolaidd yn nghyfarfodydd y Tîm Bwyd

• Cymryd rhan yn hyfforddiant cysondeb Atodiad 5 yr ASB a hyfforddiant perthnasol arall a rhannu’r hyn a ddysgwyd ag eraill

• Os oes yna gytundeb Prif Awdurdod, gwnewch yn siŵr bod cynllun arolygu’r Prif Awdurdod yn cael ei ystyried

Sgorio cyson

Page 21: Brîff i’r Tîm

Sut allwn ni sicrhau cysondeb?

• Gwirio cofnodion y gronfa ddata bob tro y rhoddir sgôr newydd i sicrhau bod y categori LAEMS yn gywir (gweler enghreifftiau/diffiniadau yn y canllawiau yn http://www.food.gov.uk/enforcement/monitoring/laems/generalinfo/)

• Gwirio bod tagiau statws yn gywir (dylid rhoi statws ‘sensitif’ i warchodwyr plant bob amser)

• Gwirio bod enw’r busnes yn dal yn gywir a bod y cyfeiriad yn gyfredol ac yn cynnwys y cod post

• Uwchlwytho data i system yr ASB mor rheolaidd â phosibl ond bob 27 diwrnod o leiaf

• Os cewch wybod am wallau posibl yn y manylion busnes gan Ddata Trylowyder (Scores on the Doors), gwnewch y newidiadau priodol i’ch system gronfa ddata chi yn unig

Data cyson a chywir

Page 22: Brîff i’r Tîm

Sut allwn ni sicrhau cysondeb?

Negeseuon cyson i fusnesau

• Esbonio’r gwelliannau angenrheidiol o dan dri phennawd Atodiad 5

• Defnyddio llythyrau templed yr ASB i hysbysu am sgoriau a llythyrau a ffurflenni templed i ymdrin â mesurau diogelwch

• Defnyddio taflenni’r ASB

Page 23: Brîff i’r Tîm

Unrhyw gwestiynau neu sylwadau?

• Unrhyw gwestiynau?

• Unrhyw sylwadau ar Safon y Brand i’w cyflwyno i Dîm Sgorio Hylendid Bwyd yr ASB?