Astudiaethau’r Cyfryngau
description
Transcript of Astudiaethau’r Cyfryngau
![Page 1: Astudiaethau’r Cyfryngau](https://reader036.fdocument.pub/reader036/viewer/2022081506/568146ff550346895db43b9c/html5/thumbnails/1.jpg)
Astudiaethau’r CyfryngauCynrychiolaeth Rhyw
![Page 2: Astudiaethau’r Cyfryngau](https://reader036.fdocument.pub/reader036/viewer/2022081506/568146ff550346895db43b9c/html5/thumbnails/2.jpg)
Ail-ddal
• Beth yw ‘Testun Cyfryngol’?• Pa 3 ‘Testun Cyfryngol’ y byddem yn
canolbwyntio arnynt y tymor yma?• Beth yw ystyr y term naratif?• Beth yw ystyr y term genre?• Beth yw ystyr y term cynrychiolaeth rhyw?• Sut mae merched yn cael eu cynrychioli yn y
genre Hip Hop?• Beth yw ystyr y term parodi?
![Page 3: Astudiaethau’r Cyfryngau](https://reader036.fdocument.pub/reader036/viewer/2022081506/568146ff550346895db43b9c/html5/thumbnails/3.jpg)
Pwy sy’n cael eu cynrychioli o fewn y cyfryngau?
• Rhyw (merched/dynion)
• Ethnigrwydd
• Oedran
• Hunaniaeth rhanbarthol a
chenedlaethol
![Page 4: Astudiaethau’r Cyfryngau](https://reader036.fdocument.pub/reader036/viewer/2022081506/568146ff550346895db43b9c/html5/thumbnails/4.jpg)
Terminoleg: Dulliau Cyfarch“Sut mae’r testun cyfryngol yn cyfarch ei gynulleidfa. Gall gyfeirio at
berson mewn llun yn edrych ar (dull cyfarch uniongyrchol) neu ddim edrych ar (dull cyfarch anuniongyrchol) ni y gynulleidfa. Gall hefyd
gyferio at urhyw iaith a ddefnyddir”.
![Page 5: Astudiaethau’r Cyfryngau](https://reader036.fdocument.pub/reader036/viewer/2022081506/568146ff550346895db43b9c/html5/thumbnails/5.jpg)
Terminoleg: Mise-en-scene“Daw’r term o’r Ffrangeg ac mae’n golygu ‘wedi’i roi mewn
golygfa/saethiad’. Mae pob elfen mewn llun llonydd neu llun sy’n symud yn golygu cynlluno a pharatoi manwl er mwyn creu rhyw
neges neu ystyr penodol”.
![Page 6: Astudiaethau’r Cyfryngau](https://reader036.fdocument.pub/reader036/viewer/2022081506/568146ff550346895db43b9c/html5/thumbnails/6.jpg)
Tasg: Anodwch y clawr cylchgrawn gan gyfeirio at…
• Lleoliad• Lliwiau• Dulliau cyfrarch• Mynegiant wynebol• Iaith y corff• Teipograffi• Gwisg• Gwrthrychau• Ongl camera• Gosodaid
![Page 7: Astudiaethau’r Cyfryngau](https://reader036.fdocument.pub/reader036/viewer/2022081506/568146ff550346895db43b9c/html5/thumbnails/7.jpg)
Cynrychiolaeth sy’n groes i’r arfer:
Missy Elliott – Menyw Du Cryf
• Yn gwrthod cynrychiolaeth confensiynol merched – Nid oes gwrthrycholiad
• Nid yw’n cydymffurfio a chynrychiolaeth rhyw & hil ystrydebol
• Nid yw Missy yn oddefol; hi sy’n traethu – nid yw’r delyneg yn hunan ymelwa (self-exploit)
![Page 8: Astudiaethau’r Cyfryngau](https://reader036.fdocument.pub/reader036/viewer/2022081506/568146ff550346895db43b9c/html5/thumbnails/8.jpg)
DELWEDDMissy Elliott
• Androgyny: Codau ystumiol, osgo a gwisg gwrywaidd – crys a tei, dillad y fyddin, dungarees
• Y fideo yn gwyrdroi codau rhyw – dynion sy’n dawnsio; persona dynol gan Missy, gyrru car cyflym, gwisgo ‘Bling’
• Delwedd corfforol yn gwrthod cydymffurfio a’r ddelwedd ideolegol sydd gan nifer o ferched ystrydebol y diwydiant gerddoriaeth – Missy hyd yn oed yn chwythu ei chorff i fyny i edrych yn fwy yn y fideo (Supa Dupa Fly – DDE)
![Page 9: Astudiaethau’r Cyfryngau](https://reader036.fdocument.pub/reader036/viewer/2022081506/568146ff550346895db43b9c/html5/thumbnails/9.jpg)
Astudiaeth Achos: ‘She’s a Bitch’
• Missy’n ymddangos fel rhyw greadur nad yw’n fenyw neu yn ddyn – Dim gwallt, gwisg lledr, gemwaith a ‘spikes’ rhyfedd
• Persona yn dynwared dynion/arwyr eiconig Americanaidd e.e. Cowboi (DDE)
• Defnyddio codau a chonfensiynau o ffilmiau ffuglen wyddonol sy’n apelio yn bennaf at gynulleidfa gwrywaidd
• Onglau camera isel a saethiadau craen yn pwysleisio pŵer a phersonoliath mawreddog Missy