Post on 15-Mar-2016
description
chapter.org@chaptertweets029 2030 4400
Croeso i Ganllaw Bach Sinema Chapter mis Mai. Fel wastad, mae hi’n fis llawn dop sy’n cynnwys ffilmiau newydd gwych a dangosiadau byw cyffrous, fel Gŵyl Before I Die: Gŵyl am farw i’r rheiny sydd ar dir y byw. Byddwn yn cynnig cip ar ŵyl ffotograffiaeth Diffusion (www.diffusionfestival.org) â dangosiad o Sleep Furiously gan y cyfarwyddwr nodedig Gideon Koppel, i’w ddilyn gan sesiwn holi-ac-ateb gyda’r dyn ei hun, ac fe fydd y sinema’n mynd ar daith i glwb roc ar gyfer lansiad Noys R Us. Ar ddiwedd y mis, caiff y ffilm hir-ddisgwyliedig The Great Gatsby ei rhyddhau — fersiwn foethus o’r nofel Americanaidd gan y cyfarwyddwr poblogaidd Baz Luhrmann. Chwilio am arddangosfa neu berfformiad i brocio’r meddwl? Beth am gael golwg ar ein gwe-fan neu ar brif gylchgrawn Chapter? Neu trowch i dudalen 12 i weld beth arall sy’n digwydd yn Chapter y mis hwn.
Croeso02 chapter.org
Siaradwch â ni @chaptertweets facebook.com/Chapter-cinema enquiry@chapter.org
ChapterHeol y FarchnadCaerdydd CF5 1QE
029 2030 4400minicom 029 2031 3430
www.chapter.orgenquiry@chapter.org
CROESO
03Sinemachapter.org
Evil DeadGwener 26 Ebrill — Iau 2 MaiUDA/2012/90mun/18. Cyf: Fede Alvarez. Gyda: Elizabeth Blackmore, Jane Levy, Jessica Lucas.
Mae Mia, merch ifanc sy’n ceisio trechu alcoholiaeth, yn mynd i gaban diarffordd yn y goedwig gyda’i brawd a grŵp o ffrindiau, lle maen nhw’n darganfod Llyfr y Meirw. Mae hynny’n arwain at arswyd annychmygadwy. Heb unrhyw CGI, mae’r fersiwn newydd hir-ddisgwyliedig hon o glasur Sam Raimi (y
‘video nasty’ gwreiddiol) yn driw i’r ffilm gyntaf — a’r cynhyrchwyr Raimi, Campbell a Tapert yn gweithio’n agos gyda’i dewis nhw o gyfarwyddwr, Fede Alvarez.
“Mae’r fersiwn newydd hon yn mynd i fod yn wych — dw i’n addo” Bruce Campbell
The Place Beyond The PinesGwener 19 Ebrill — Iau 2 MaiUDA/2013/140mun/15. Cyf: Derek Cianfrance. Gyda: Ryan Gosling, Bradley Cooper, Eva Mendes.
Mae Luke ar daith yn barhaol fel perfformiwr triciau beic modur yn mynd o dref i dref gyda’r carnifal. Wrth iddo basio trwy ei dref enedigol, mae’n ceisio ailgysylltu â chyn gariad iddo ac yn dysgu ei bod hi, yn ystod ei absenoldeb, wedi rhoi genedigaeth i’w mab nhw, Jason. Yn benderfynol o adael y bywyd crwydrol a gofalu am ei deulu, caiff ei annog i ddilyn gyrfa newydd — fel lleidr banciau — gan ffrind amheus. Ond dim ond mater o amser yw hi cyn i Luke ddod i gysylltiad â’r heddlu — y cop lleol uchelgeisiol, Avery Cross, a’i fos llygredig. Ffilm gyffro uchelgeisiol sy’n llawn ‘swagger’ hyderus a sgôr afaelgar gan Mike Patton o Faith No More. Mae’r ffilm yn ddilyniant egnïol i ddrama ddelicet Cianfrance, Blue Valentine.
Side EffectsGwener 26 Ebrill — Iau 2 MaiUDA/2013/106mun/15. Cyf: Steven Soderberg. Gyda: Jude Law, Rooney Mara, Channing Tatum.
Ar ôl i’w gŵr, sy’n rheolwr ‘hedge fund’, gael ei garcharu am fasnachu mewnol, mae Emily’n dioddef pwl o iselder ac, er gwaethaf ei haduniad â’i gŵr, yn byw mewn anobaith. Ar ôl newid meddygon a meddyginiaethau, mae ei seiciatrydd newydd, Jonathan Banks, yn rhagnodi meddyginiaeth newydd o’r enw Ablixa — ond mae gan y cyffur hwn sgil-effeithiau peryglus. Mae’r ffilm gyffro gelfydd hon — ffilm olaf Soderberg, yn ôl y cyfarwyddwr ei hun — yn sylw amserol ar gymdeithas sy’n gaeth i feddyginiaethau a bas gysuron cyfoeth. + Dangosiad gydag is-deitlau meddal ar ddydd Mercher 1 Mai am 6pm
TranceGwener 19 Ebrill — Iau 2 MaiDG/2013/105mun/15. Cyf: Danny Boyle. Gyda: James McAvoy, Vincent Cassel, Rosario Dawson.
Ffilm gyffrous, lawn steil sy’n dilyn Simon, arwerthwr celfyddyd gain, sy’n gwerthu peintiad gan Goya ac yn dod i gysylltiad â gang troseddol sydd am ddwyn y gwaith gwerth miliynau o bunnoedd. Mae Simon yn deffro ar ôl ergyd i’w ben yn ystod yr heist — ond mae e wedi anghofio’n llwyr lle cuddiodd e’r llun. Ar ôl i fygythiadau corfforol ac artaith fethu ag arwain at atebion, mae arweinydd y gang, Frank, yn talu’r hypnotherapydd Elizabeth Lamb i chwilio yng nghilfachau tywyllaf psyche Simon. Wrth i Elizabeth ddechrau datod cymhlethdodau isymwybod drylliedig Simon, mae’r ffiniau rhwng gwirionedd a thwyll yn dechrau pylu.
Gyda
’r cl
oc o
’r ch
wit
h uc
haf:
Tran
ce, T
he P
lace
Bey
ond
the
Pine
s, E
vil D
ead
Sinema04 029 2030 4400
Neighbouring SoundsGwener 3 — Iau 9 MaiBrasil/2012/131mun/is-deitlau/15. Cyf: Kleber Mendonça Filho. Gyda: Irma Brown, Sebastião Formiga, Gustavo Jahn
Mae bywyd mewn cymdogaeth ddosbarth-canol ym Mrasil yn newid yn annisgwyl yn sgil dyfodiad cwmni diogelwch preifat annibynnol. Mae presenoldeb y dynion hyn yn arwain at deimlad o ddiogelwch — a llawer iawn o bryder — mewn diwylliant sy’n cael ei ddiffinio gan ofn. Faint o’u preifatrwydd mae’r trigolion yn fodlon ei ildio er mwyn rhyw rithyn ychwanegol o ddiogelwch? Portread llawn prysurdeb o’r Brasil fodern mewn ffilm gyntaf hyderus, a hir-ddisgwyliedig, gan y cyfarwyddwr Filho.
Promised LandGwener 3 — Iau 16 MaiUDA/2012/106mun/15. Cyf: Gus Van Sant. Gyda: Matt Damon, Frances McDormand
Mae Steve Butler yn arwerthwr gyda chwmni ynni sy’n cynnig cymhellion ariannol sylweddol i dref fechan er mwyn i’r trigolion ganiatáu hollti hydrolig (‘ffracio’) ar eu tir. Yn hanu o gefndir gwledig ei hun, mae e’n gwybod cymaint y mae ar y dref angen buddsoddiad i gynnal ei ffordd o fyw. Mae’r amgylcheddwr Dustin Noble yn ceisio rhybuddio pobl y dref am y difrod tebygol ac mae Butler yn ceisio troedio’r ffin denau rhwng gwneud yr hyn sy’n iawn a’r ffaith ei fod wedi’i gyflogi i wneud y gwrthwyneb. Yn llawn perfformiadau rhagorol, mae’r cyfarwyddwr cynyddol amryddawn, Gus Van Sant, yn cadw’r ffilm rhag llithro i dir sentimental.
Clwb Ffilmiau Gwael Road HouseSul 5 MaiUDA/1989/114mun/18.
Ar ôl gadael i gynulleidfa’r Clwb Ffilmiau Gwael gael dweud ei dweud, ffilm y mis hwn yw’r gwaith epig, Road House, gyda Patrick Swayze. Yn llawn ymladd, nosweithiau nwydus a myfyrdodau noethlymun, mae hon yn ffilm chwilboeth o gicio uchel.
The Spirit of 45 Gwener 3 — Iau 9 MaiDG/2013/94mun/U. Cyf: Ken Loach. Gyda: Ray Davies, Dr Julian Tudor-Hart, Tony Benn
Roedd 1945 yn flwyddyn dyngedfennol yn hanes Prydain. Esgorodd yr undod a alluogodd i Brydain oroesi’r rhyfel, ynghyd ag atgofion chwerw o’r cyfnod rhwng y ddau ryfel byd, ar weledigaeth o gymdeithas well. Mae Loach wedi creu naratif gwleidyddol a chymdeithasol cyfoethog sy’n defnyddio deunydd archif o’r cyfnod a chyfweliadau cyfoes â phobl sy’n cofio’r adegau hynny, fel y cyn-löwr, Ray Davies, o Gaerffili a’r meddyg teulu arloesol o’r Cymoedd, Dr Julian Tudor-Hart. Mae’r gwaith yn ddathliad o gyfnod ac o ysbryd cymunedol digynsail yn y DG. Parhaodd ei heffeithiau am flynyddoedd lawer ond mae ei chyflawniadau pwysig — fel y GIG — dan fygythiad heddiw unwaith yn rhagor.Dilynir y dangosiadau ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun gan recordiad o sesiwn drafod gyda’r cyfarwyddwr, Ken Loach, y cyfrannwr Dot Gibson, a’r awdur Owen Jones, yng nghwmni’r digrifwr, Jeremy Hardy
Michael H, Profession: DirectorGwener 10 — Mercher 15 MaiFfrainc/2013/92mun/18. Cyf: Yves Montmayeur
Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae Michael Haneke wedi ennill enw iddo’i hun fel un o’r cyfarwyddwyr mwyaf pwysig yn hanes y sinema. O’i waith cynnar i Amour, creodd fydysawd unigryw, gan ddatgelu corneli tywyllaf cymdeithas, ein hofnau dirfodol a ffrwydradau emosiynol. Trwy gyfrwng cyfweliadau gyda’i actorion, Isabelle Huppert, Juliette Binoche ac Emmanuelle Riva, yn ogystal â deunydd nas gwelwyd o’r blaen — a chipolwg agos-atoch o’r dyn ei hun ar set ffilm — mae’r ffilm ddogfen hon yn bortread o artist pwysig a’i waith.
MovieMaker ChapterLlun 6 MaiSesiwn reolaidd i wneuthurwyr ffilm annibynnol ddangos ffilmiau byrion. moviemaker@chapter.org.RHAD AC AM DDIM (bydd angen sicrhau tocynnau o flaen llaw)
O’r c
hwit
h i’r
dde
: Nei
ghbo
urin
g So
unds
, Pro
mis
ed L
and
The Look of LoveGwener 10 — Iau 16 MaiDG/2013/101mun/18. Cyf: Michael Winterbottom. Gyda: Steve Coogan, Stephen Fry, Anna Friel
Hanes Paul Raymond, yr entrepreneur dadleuol a ddechreuodd ei yrfa fel darllenydd meddyliau yn Clacton cyn dod yn un o ddynion cyfoethocaf Prydain ac ennill y teitl anffurfiol “Tad-cu Soho”. Er gwaetha’i fuddiannau yn y busnes “adloniant i oedolion”, yn ei fywyd preifat roedd Raymond yn ddibynnol ar dair menyw gref ac mae’r ffilm yn edrych ar y modd y daeth ei lwyddiant i adlewyrchu’r trychinebau yn ei fywyd. Dyma ddrama am y modd y gall ymddangosiad pethau fod yn dwyllodrus – a chyfle arall i weld deuawd ardderchog: y cyfarwyddwr Michael Winterbottom a’r seren Steve Coogan, sydd wedi gweithio gyda’i gilydd yn gyson ers 24 Hour Party People.
Spring BreakersGwener 10 — Mawrth 14 MaiUDA/2012/94mun/18. Cyf: Harmony Korine. Gyda: James Franco, Vanessa Hudgens, Selena Gomez, Ashley Benson
Mae ffilm ddiweddaraf yr awdur-gyfarwyddwr dadleuol, Harmony Korine (Gummo, Kids), yn dilyn hynt a helynt pedair myfyrwraig ifanc ar eu ffordd i’r
“spring break” blynyddol — wythnos wyllt o haul, rhyw a chyffuriau. Mae’r merched yn eu cael eu hunain yn y carchar ar ôl dwyn o fwyty er mwyn ariannu eu difyrrwch ond yn cael eu hachub gan ddeliwr cyffuriau sydd eisiau iddynt wneud ei waith budr drosto. Mae’r ffilm yn llawn hiwmor tywyll — yn freuddwyd felys sy’n troi’n hunllef.
Sleep FuriouslyMercher 15 MaiCyf: Gideon Koppel. Cymru/2008/94mun/U.
Ffilm wedi’i gosod mewn cymuned amaethyddol fechan yng nghanolbarth Cymru — y fan lle’r ymgartrefodd rhieni Koppel, y ddau ohonynt yn ffoaduriaid. Mae tirwedd a phoblogaeth yr ardal yn newid yn gyflym wrth i amaethyddiaeth ar raddfa fechan ddiflannu ac wrth i’r genhedlaeth a fu’n byw mewn byd cyn-fecanyddol farw. Wedi’i ddylanwadu gan ei sgyrsiau â’r awdur Peter Handke, mae’r gwneuthurwr ffilm yn ein harwain ar daith farddonol a dwys i fyd o derfyniadau a dechreuadau; byd o dylluanod wedi’u stwffio, defaid a thân.Gyda sesiwn holi-ac-ateb â’r Cyfarwyddwr, Gideon Koppel
Come Along Do: Notebook on Cities and ClothesMawrth 14 Mai1989/Yr Almaen/79mun/Ffrangeg a Japaneg gydag is-deitlau /dim tyst
Mae’r cyfarwyddwr toreithiog o’r Almaen, Wim Wenders, yn portreadu’r dylunydd ffasiwn o Japan, Yohji Yamamoto, wrth iddo baratoi i ddangos ei gynlluniau am y tro cyntaf ym Mharis. Mae’r ffilm yn fyfyrdod ar gelfyddyd, cyfryngau a chyfathrebu – a’r dewisiadau sy’n wynebu’r cyfarwyddwr ei hun – yn ogystal â bod yn sylw ar athroniaeth a gwaith y dylunydd ffasiwn. + Come Along Do, Mawrth 14 MaiWedi’i gadeirio gan Gill Nicol a Mike Tooby, mae’r digwyddiad hwn ar ôl y dangosiad yn defnyddio Notebook on Cities and Clothes fel man cychwyn ar gyfer trafodaeth fanwl a bywiog a fydd yn archwilio celfyddyd a ffilm yng nghyd-destun gosodiad Mike Tooby, The Bar at the Mad Shepherdess. Mae’r digwyddiad yn rhan o Ŵyl Ffotograffiaeth Diffusion.£2.50 (Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael felly archebwch mewn da bryd.) Bydd angen i chi archebu tocynnau ar gyfer y ffilm ar wahân.
Sinema 05chapter.orgO’
r chw
ith
i’r d
de: T
he L
ook
of L
ove,
Spr
ing
Brea
kers
White ElephantGwener 17 — Iau 23 MaiAriannin/2012/110mun/is-deitlau/TICh. Cyf: Pablo Trapero. Gyda: Ricardo Darin, Jeremie Renier
Mae Julian a Nicolas, offeiriaid a ffrindiau selog, yn gweithio’n ddiflino i helpu pobl leol y “Villa Virgin”, tref sianti yn slymiau Buenos Aires. Mae Nicolas yn ymuno â Julian i oruchwylio’r gwaith o adeiladu ysbyty yn yr ardal, yn dilyn methiant prosiect yr oedd e’n ei arwain yn y jyngl. Yn llawn gofid, daw o hyd i gysur yng nghwmni Luciana, gweithiwr cymdeithasol deniadol — ac anffyddiwr. Wrth i ffydd Nicolas wanhau, mae yna gynnydd yn y tensiwn a’r trais rhwng cartelau cyffuriau y slymiau. Mae’r ffilm hon yn archwiliad beiddgar o ystyr go iawn aberth a chaethwasanaeth ac yn cynnwys trac sain arbennig gan Michael Nyman.
NT LIVE: This HouseIau 16 Mai, yn fyw. Encore wedi’i recordio ymlaen llaw ar ddydd Llun 27 Mai Drama newydd gan James Graham1974. Mae coridorau San Steffan yn llawn o gynllwynio a brad wrth i bleidiau gwleidyddol Prydain frwydro i newid dyfodol y genedl, waeth beth fydd y gost. Mae drama newydd frathog ac egnïol James Graham yn archwilio’r realiti y tu ôl i’r llen ac yn taro golwg ar y rheiny sy’n torchi llewys ac, ar adegau, yn plygu’r rheolau, er mwyn sicrhau corws amrywiol o Aelodau Seneddol — a dogn o wrthdaro hefyd — yn Senedd San Steffan.Pris tocynnau ar gyfer y dangosiad byw a’r encore wedi’i recordio ymlaen llaw, ar ddydd Llun 27 Mai, yw £17.50/ £14 / £13
MudGwener 17 — Iau 30 MaiUDA/2012/130mun/12A. Cyf: Jeff Nichols. Gyda: Matthew McConaughey, Reese Witherspoon, Michael Shannon
Mae Ellis a’i ffrind, Neckbone, yn dod o hyd i ‘drifter’ budr o’r enw Mud, yn cuddio ar ynys yn y Mississippi. Mae straeon Mud am ddynion dialgar yn ei erlid a chariad ei blentyndod yn aros amdano yn ymddangos fel ffantasïau, ond maent yn fodd o ddod ag ychydig o liw a rhamant i’w bywydau di-ddim. Yn amheus ond yn chwilfrydig, mae Ellis a Neckbone yn cytuno i’w helpu — ond buan y caiff gweledigaethau Mud eu gwireddu ac fe ddaw’r dref fach dan warchae wrth i fenyw hardd gyrraedd y lle â chriw o ‘bounty hunters’ ar ei hôl. Wedi’i ffilmio’n hardd, mae’r gwaith hwn yn stori hyfryd am ddod i oed ac yn cynnwys perfformiadau gwych gan gast ifanc — ac yn fodd o’n hatgoffa ni hefyd o dalentau McConaughey a Witherspoon.
I’m So Excited Gwener 17 — Iau 30 MaiSbaen/2013/90mun/is-deitlau/15. Cyf: Pedro Almodovar. Gyda: Javier Camara, Penelope Cruz, Antonio Banderas, Pepa Charro, Cecilia Roth
 diwedd y daith yn y golwg, mae peilotiaid, criw a theithwyr ar awyren sydd ar ei ffordd i Ddinas Mecsico yn ceisio anghofio poen y foment dyngedfennol a wynebu’r perygl mwyaf un — yr hyn a gariwn oddi mewn i ni’n hunain. Mae Almodovar yn dychwelyd i’w arddull gomig nodedig ar ôl cyfres o ddramâu arobryn ac mae’r ffilm hon yn ceisio’n dysgu ni i weld yr ochr olau ar farwolaeth.
Sinema06 029 2030 4400
Gyda
’r cl
oc o
’r ch
wit
h: W
hite
Ele
phan
t, M
ud, I
’m S
o Ex
cite
d
Sinema 07chapter.org
Before I DIe: GWyL am farW I’r rheIny syDD ar DIr y ByW
The Sea InsideMercher 15 MaiSbaen/2005/125mun/PG. Cyf: Alejandro Amenábar. Gyda: Javier Bardem, Belen Rueda, Lola Dueñas
Drama bwerus sy’n seiliedig ar stori wir Ramón Sampedro, pysgotwr a bardd a ddioddefodd ddamwain yn 26 oed a’i gadawodd yn gaeth i’w wely. Mae Ramón yn dymuno marw â’r hyn sy’n weddill o’i urddas ac yn cyflogi cyfreithiwr, Julia, i’w helpu i berswadio’r llysoedd i adael iddo roi terfyn ar ei fywyd ei hun. Mae hoffter cynyddol Ramon ohoni, fodd bynnag, yn gorfodi Julia i ail-feddwl. Ond mae Ramón yn hollol argyhoeddedig taw’r rhodd fwyaf iddo ef fyddai caniatáu iddo roi terfyn ar ei fywyd. + trafodaeth banel gyda Jenny Kitzinger o Brifysgol Caerdydd, yr ymgynghorydd ar ofal lliniarol, Dr Nikki Pease, a’r darlithydd Inaki Glacia-Blanco
Warm BodiesGwener 17 MaiUDA/2013/98mun/12A. Cyf: Jonathan Levine. Gyda: Nicholas Hoult, Teresa Palmer, John Malkovich
Mewn byd ôl-apocalyptaidd, mae goroeswyr dynol wedi cloi eu hunain mewn rhan ddiogel o’r ddinas ond, y tu allan, mae yna leng o ‘zombies’ sy’n dal yn y cyfnod cymharol ddynol cyn iddyn nhw ddirywio i fod yn ymosodwyr ysgerbydol erchyll. Mae R, aelod hawddgar o’r meirw hanner-byw, yn ddyn golygus sy’n syrthio mewn cariad â Julie, merch hardd go iawn sydd yn ferch i “zombiephobe” rhyfelgar. Ffilm ddoniol, ddeallus a diffuant sy’n chwarae â’r syniad ein bod ni i gyd yn emosiynol farw tan i gariad ein hadfywio.+ Pris ffilm arferol. Archebwch eich tocyn rhad ac am ddim i’r digwyddiad SciSCREEN yn ein swyddfa docynnau neu ar ein gwe-fan. cardiffsciscreen.blogspot.co.uk
McCullinSadwrn 18 — Iau 23 MaiCyf: David Morris, Jacqui Morris. DG/2012/91mun/TICh
Don McCullin yw un o enwau chwedlonol newyddiaduraeth ffotograffig. Mae’n enwog am ei luniau rhyfel bythgofiadwy — ac hefyd am ei waith ar argyfyngau dyngarol fel y newyn yn Biaffra. Yn gyfrifol am y lluniau yn ffilm Antonioni, Blow Up, gweithiodd gyda phapur newydd yr Observer ac yna, am flynyddoedd lawer, gyda’r Sunday Times. Enillodd delweddau dirdynnol McCullin o wrthdaro ledled y byd wobrau niferus iddo — a chymeradwyaeth hefyd gan lywodraethau yn fyd-eang am ei ymgyrch i amlygu’r erchyllterau sy’n aml yn dilyn gwrthdaro arfog. Mae’r ddogfen deimladwy hon yn cwmpasu gyrfa gyfan McCullin. Dyw hi ddim yn ffilm i’r gwangalon; mae’r delweddau eu hunain yn ingol – ond y cyfweliad hir â’r dyn ei hun sy’n gwneud y gwaith mor nodedig. + Cyflwynir y dangosiad ar ddydd Sadwrn 18 Mai gan Richard Sambrook, Athro Newyddiaduraeth a Chyfarwyddwr Canolfan Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd a chyn Gyfarwyddwr Newyddion Byd-eang y BBC
Gŵyl sy’n cyflwyno detholiad o ddigwyddiadau traws-gelfyddydol yn ymwneud â marwolaeth, marw, cofio — a dathlu bywyd. Wedi’i churadu gan Jenny Kitzinger o Brifysgol Caerdydd, sydd yn ymchwilio i’r cyflwr digynnwrf (‘vegetative’) a materion yn ymwneud â diwedd bywyd, bydd yr ŵyl yn ysbrydoli, yn hysbysu ac yn annog trafodaeth o bwnc nas trafodir yn aml: ein marwolaethau ein hunain. www.cardiff.ac.uk/beforeidie
O’r c
hwit
h i’r
dde
: War
m B
odie
s, M
cCul
lin
ˆ
Sinema08 029 2030 4400
Once Upon A Time In The WestSul 5 + Mawrth 7 MaiUDA/1968/165mun/15. Cyf: Sergio Leone. Gyda: Charles Bronson, Henry Fonda, Claudia Cardinale.
Mae Mrs McBain yn symud o New Orleans i ymyl eithaf Utah ac yn cael bod ei gŵr newydd a’i theulu wedi cael eu lladd – ond does dim syniad ganddi pwy yw’r llofrudd. Wedi’i saethu’n hyfryd ac yn cynnwys cast o fri, roedd y ffilm hon yn fodd o ail-sefydlu’r Western fel ffurf gelfyddydol arwyddocaol. Dyma gyfle i weld y fersiwn wreiddiol – heb doriadau – am y tro cyntaf.
The ThingSul 12 + Mawrth 14 MaiUDA/1982/109mun/18. Cyf: John Carpenter. Gyda: Kurt Russell, Wilford Brimley, Keith David
Mae grŵp o Norwyaid gwallgof ar drywydd ci yn torri ar draws taith wyddonol Americanaidd i ddiffeithdiroedd rhewllyd yr Antarctig – heb unrhyw esboniad dros yr helfa wyllt. Ond pan ddaw’r ci i ymosod ar aelodau o’r tîm ymchwilio, buan y sylweddolant bod yna ‘alien’ sy’n gallu trawsffurfio a meddiannu cyrff eraill yn eu plith – a does dim syniad ganddynt pwy sydd eisoes wedi cael ei feddiannu.
Days of HeavenSul 19 + Mawrth 21 MaiUDA/1978/94mun/PG. Cyf: Terrence Malick. Gyda: Richard Gere, Brooke Adams, Sam Shephard.
Un o’r ffilmiau mwyaf nodedig yn hanes y sinema. Mae Days Of Heaven yn stori ingol am ddau ddyn sy’n caru’r un fenyw. Mae Richard Gere, ffoadur o slymiau Chicago, yn ei gael ei hun mewn brwydr â gŵr swil o Decsas i ennill serch Abby. Mae ffilm gyntaf Malick ar ôl Badlands yn orchest sinematig anhygoel.
The Bird With The Crystal PlumageSul 26 a Mawrth 28 MaiYr Eidal/1970/98mun/18. Cyf: Dario Argento. Gyda: Tony Musante, Suzy Kendall, Enrico Maria Salerno
Daw awdur Americanaidd yn rhan o ymchwiliad heddlu i lofrudd cyfres ar ôl iddo weld ymosodiad ar fenyw. Yn y gred ei fod yn dyst pwysig, caiff yr awdur ei wahardd gan yr heddlu rhag gadael Rhufain – a’i rwydo mewn perthynas farwol â’r llofrudd â’r faneg ddu. Mae ffilm gyntaf Argento yn cael ei hystyried yn un o gerrig milltir genre y “giallo” yn yr Eidal.
Beware Of Mr BakerGwener 24 — Iau 30 MaiUDA/2012/92mun/TICh. Cyf: Jay Bulger. Gyda: Ginger Baker, Femi Kuti, Eric Clapton
Mae Ginger Baker yn edrych yn ôl ar ei yrfa gerddorol gyda Cream a Blind Faith; ei gyflwyniad i gerddoriaeth Fela Kuti, yr ymgais i ddod â churiadau Affricanaidd i’r Gorllewin a’i fywyd presennol mewn sefydliad diogel yn Ne Affrica. Mae’r ffilm ddogfen hon yn cynnwys cyfraniadau diddorol a dadlennol gan y bobl sydd wedi ei adnabod a gweithio gydag ef yn ystod ei fywyd cythryblus a hunan-ddinistriol — cyn-wragedd, plant, Eric Clapton, Steve Winwood, Charlie Watts, Mickey Hart, Carlos Santana, Max Weinberg, Chad Smith, Femi Kuti, Neal Peart, Simon Kirke a Marky Ramone.
O’r c
hwit
h i’r
dde
: The
Bird
Wit
h Th
e Cr
ysta
l Plu
mag
e, B
ewar
e of
Mr B
aker
Wrth i Ŵyl Ffilm Cannes ddathlu cyfraniad aruthrol Ennio Morricone â chyngerdd ar y traeth, byddwn ni’n ymuno yn yr hwyl trwy gyflwyno detholiad o blith y 500+ o ffilmiau yr ysgrifennodd e gerddoriaeth ar eu cyfer, ynghyd â detholiad o ffilmiau dogfen cerddorol o’r radd flaenaf. @cinephonic.
Cine PhoniC
Sinema 09chapter.org
Good VibrationsGwener 3 — Iau 9 MaiDG/2012/103mun/15. Cyf: Lisa Barros D’Sa, Glenn Leyburn. Gyda: Richard Dormer, Dylan Moran
Ym Melffast yn y 1970au, ar adeg yr Helyntion, mae gwrthdaro gwaedlyd wedi chwalu’r ddinas. Ond, yn wahanol i’w ffrindiau sy’n troi at arfau, mae’r rebel digyfaddawd, a ffan cerddoriaeth diwyro, Terri Hooley, yn penderfynu agor siop recordiau yn un o’r llecynnau mwyaf peryglus yn Ewrop a’i galw’n Good Vibrations. Ond dim ond wedi iddo ddarganfod y band pync lleol, The Undertones, y daw o hyd i’w wir alwedigaeth. Wedi’i chreu â chryn fedr, gyda chyfuniad o ddeunydd archif a golygfeydd dramatig, mae’r ffilm hon yn gomedi angerddol a hoffus sy’n cynnwys perfformiad canolog gwych gan Richard Dormer.
“Y teimlad o arwsyd a gwrthdaro’n mudferwi sy’n gwneud ‘Good Vibrations’ mor gyffrous — ac yn rhoi i’r golygfeydd gobeithiol y fath ddisgleirdeb.” Tom Huddleston, Time Out
LAVENDER SCREENMawrth 28 Mai
Hit So Hard: The Life and Near Death Story of Patty SchemelUDA/2012/103mun/TICh. Cyf: P David Ebersole. Gyda: Patty Schemel, Courtney Love, Eric Erlandson.
Pan ffrwydrodd Nirvana ar y sîn ym 1991, roedd eu cerddoriaeth yn bortread huawdl o genhedlaeth ddig wedi’i difreinio. Ond tair blynedd yn ddiweddarach, ar ôl marwolaethau annhymig nifer o gerddorion o ganlyniad i gyffuriau, a hunanladdiad Kurt Cobain, daeth y bennod i ben. Roedd Patty Schemel, drymiwr nodedig grŵp roc Courtney Love, Hole, a menyw agored hoyw, reit yng nghanol pethau. Â chamera fideo, ffilmiodd Patty daith enwog Hole, ‘Live Through This’ — y sioeau, y partïon, a delweddau trawiadol ac agos-atoch o Kurt a Courtney. Mae Hit So Hard yn stori ddirdynnol am lwyddiant dros nos, cost bod yn gaeth i gyffuriau ac achubiaeth.
Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar gyfer trafodaeth grŵp ffilm LGBT Chapter.
The Stone Roses: Made Of Stone a chyflwyniad lloeren byw gyda Shane Meadows a gwesteion arbennig Iau 30 MaiDG/2012/96mun/TICh. Digwyddiad rhwng 7.30pm a 10.30pm Cyf: Shane Meadows. Gyda: The Stone Roses.
Yn groes i ddisgwyliadau pawb, adunodd y band chwedlonol, The Roses Stone, am y tro cyntaf ers 16 mlynedd yn ystod haf 2012. Mae’r cyfarwyddwr nodedig Shane Meadows yn rhoi ei arddull, ei hiwmor a’i ddyfnder emosiynol unigryw ar waith mewn ffilm am y band — eu gwaith, a’u bywydau bob dydd wrth iddynt ymarfer ar gyfer eu gigs buddugoliaethus ym Manceinion yn Heaton Park o flaen cynulleidfa o 220,000. Yn cynnwys deunydd nas gwelwyd o’r blaen, sy’n rhychwantu hanes y band, profiadau personol nifer o’r rheiny a gyffyrddwyd gan y gerddoriaeth, a deunydd agos-atoch o’r band ei hun yn ystod y gyngerdd, mae’r ffilm yn gofnod awdurdodol o 25 mlynedd y grŵp gyda’i gilydd.Tocynnau: £10/£8
Noys R Us ym Mar Roc a Chlwb Nos BogiezAr ddydd Sul olaf y mis byddwn yn cymryd eich hoff ffilmiau alt/roc/metal/pync i’ch hoff glwb roc. Yfwch, ymlaciwch a gwyliwch rai o’r ffilmiau cerddorol mwyaf ffrwydrol erioed.
American Hardcore: The History of American Punk Rock 1980-1986Sul 26 Mai Drysau’n agor am 7.00pm, ffilm am 8pmUDA/2006/100mun / Cyf: Paul Rachman
Roedd sîn ffrwydrol ‘hardcore punk’ yn adwaith ffyrnig yn erbyn gweinyddiaeth Reagan. Mae ffilm ddogfen unigryw Rachman yn olrhain dechreuadau’r mudiad yn LA, Washington DC ac Efrog Newydd ac yn cynnwys cyfweliadau nodedig â cherddorion a helpodd i lunio sŵn y sîn. Mae yna ddelweddau prin hefyd o gyngherddau gan artistiaid fel Black Flag, Bad Brains, Minor Threat, SS Decontrol a Dead Kennedys.Tocynnau: £5 ar www.chapter.org ac yn Bogiez
O’r C
hwit
h i’r
dde
: Goo
d Vi
brat
ions
, Hit
So
Hard
Sinema10 029 2030 4400
Gyda
’r cl
oc o
’r ch
wit
h uc
haf:
Me
and
You,
Gat
ekee
pers
, The
Gre
at G
atsb
y
Me and YouGwener 24 — Mer 29 MaiYr Eidal/2012/96mun/is-deitlau/15. Cyf: Bernardo Bertolucci. Gyda: Te Falco, Jacopo Olmo Antinori.
Ar ôl i blentyn mewnblyg yn ei arddegau ddweud wrth ei rieni ei fod yn mynd ar daith sgïo, mae e’n gwario’r arian ar nwyddau angenrheidiol ac yn mynd i aros yn seler yr adeilad lle mae gan ei rieni fflat, â cherddoriaeth, llyfrau, fferm forgrug a’i ddychymyg byw yn gwmni iddo. Ond pan ddaw ei hanner-chwaer hŷn, Olivia, sy’n gaeth i heroin, i’w guddfan er mwyn ceisio curo’r cyffur, caiff ei gynlluniau — a’i awydd i fod ar ei ben ei hun — eu chwalu. Mae ffilm Bertolucci — ei gyntaf ers degawd — yn astudiaeth ofalus o ieuenctid ac yn brawf o’i statws digymar fel cyfarwyddwr.
The Great GatsbyGwener 31 Mai — Iau 20 MehefinAwstralia/2013/Hyd i’w gadarnhau/TICh. Cyf: Baz Luhrmann. Gyda: Carey Mulligan, Jason Clareke, Joel Edgerton, Leonardo DiCaprio, Tobey Maguire
Addasiad hir-ddisgwyliedig Luhrmann o nofel F. Scott Fitzgerald. Mae’r ffilm, sydd wedi’i gosod yn Long Island, yn gynhyrchiad ysblennydd – fel y byddech yn ei ddisgwyl gan gyfarwyddwr Moulin Rouge a Romeo + Juliet. Mae Nick Carraway, o’r Midwest, yn cael ei hudo i fyd afradlon ei gymydog Jay Gatsby — ond buan y daw Carraway i weld trwy’r craciau ym modolaeth nouveau riche Gatsby. Mae obsesiwn, gwallgofrwydd a thrasiedi yn eu disgwyl.
The GatekeepersGwener 31 Mai — Iau 6 MehefinYr Almaen/2012/101mun/is-deitlau mewn mannau/TICh Cyf: Dror Moreh. Gyda: Ami Ayalon, Avi Dichter, Avraham Shalom, Carmi Gillon, Yaakov Peri, Yuval Diskin
Mae’r ffilm ddogfen onest a syfrdanol hon gan y cyfarwyddwr o Israel, Dror Moreh, yn cynnwys cyfweliadau gyda chwech o gyn-benaethiaid Shin Bet, asiantaeth ddiogelwch Israel a sefydlwyd yn 1949 i arwain ymgyrchoedd gwrthderfysgaeth a chasglu cudd-wybodaeth. Ar ôl treulio’u bywydau cyfain yn y cilfachau llwydion, amwys, maent yn siarad yn ddi-flewyn-ar-dafod am y tro cyntaf, am fyd du a gwyn gwleidyddiaeth a gwrthdaro arfog. Nid oes angen gwybodaeth drylwyr o hanes modern y Dwyrain Canol er mwyn deall ba mor ryfeddol yw’r cyfraniadau hyn.
Rebellion Gwener 31 Mai — Iau 6 MehefinFfrainc/2011/136mun/is-deitlau / 15. Cyf: Mathieu Kassovitz. Gyda: Mathieu Kassovitz, Benoit Jaubert
Mae rebeliaid yn un o drefedigaethau Ffrainc ar Ynys Ouvéa yng Nghaledonia Newydd yn ymosod ar orsaf heddlu ac yn cymryd 30 o heddweision yn wystlon. O ganlyniad, mae 300 o filwyr arbenigol yn cyrraedd i adfer trefn ac, er mwyn osgoi gwrthdaro diangen, mae Philippe Legorjus, capten uned heddlu gwrth-derfysgaeth arbennig, yn dod i drafod ateb heddychlon gyda’r gwrthryfelwyr. Ond ag etholiad arlywyddol yn cael ei gynnal yn Ffrainc, mae popeth yn y fantol. Mae gwaith newydd cyfarwyddwr La Haine, Mathieu Kassovitz, yn ffilm gyffro dreisgar sy’n seiliedig ar ddigwyddiadau go-iawn.
Sinema 11chapter.org
Tinker Bell and The Secret Of The Wings [2D]Sadwrn 11 MaiUDA/2012/75mun/U. Cyf: Roberts Gannaway, Peggy Holmes. Gyda: Timothy Dalton, Lucy Hale.
Mae Tinker Bell yn cwrdd â Periwinkle ac yn mentro i’r goedwig gyda hi a nifer o ffrindiau eraill er mwyn ceisio dod o hyd i gyfrinach adenydd tylwyth teg.
Wreck It Ralph [2D]Sadwrn 18 MaiUDA/2012/108min/PG. Cyf: Rich Moore. Gyda: John C Reilly, Jack McBrayer, Jane Lynch
Mae dihiryn gêm fideo eisiau bod yn arwr ac yn mynd ati i geisio gwireddu ei freuddwyd. Ond mae ei ymdrechion yn achosi llanast difrifol yn yr arcêd sy’n gartref iddo.
Oz, The Great and The Powerful [2D]Gwener 24 — Iau 30 MaiUDA/2013/130mun/PG. Cyf: Sam Raimi. Gyda: James Franco, Michelle Williams, Rachel Weisz
Mae dewin di-nod yn cael ei hudo ymaith i dir dan swyn ac yn cael ei orfodi i frwydro â thair gwrach.
ChimpanzeeGwener 31 Mai a Sadwrn 1 MehefinUDA/2012/78mun/U. Cyf: Alastair Fothergill, Mark Linfield. Gyda sylwebaeth gan Tim Allen
Yn y ffilm ddogfen hardd hon gan Disney, mae tsimpansî 3-mis-oed yn cael ei wahanu oddi wrth ei gyd-anifeiliaid ac yn cael ei fabwysiadu gan ddyn.
Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.
Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk02920 666688
O’r c
hwit
h i’r
dde
: The
Cro
ods,
Oz,
The
Gre
at a
nd T
he P
ower
ful
The Croods [2D]Sadwrn 4 — Llun 6 MaiUDA/2013/90mun/U. Cyf: Chris Sanders, Kirk DeMicco. Gyda: Nicolas Cage, Emma Stone, Ryan Reynolds, Catherine Keener
Pan gaiff eu hogof ei dinistrio, mae teulu’r Croods, sy’n byw yn Oes y Cerrig, yn gorfod dod o hyd i gartref newydd mewn byd rhyfedd ac annisgwyl lle mae Natur yn dal i greu’r creaduriaid mwyaf anarferol a lle mae’r cyfandiroedd yn dal heb gael eu pennu’n derfynol.
Dangosiad dan Amodau Arbennig o The Croods [2D]Diwrnod Ffilm Am Ddim i’r Teulu Cyfan Sul 2 Mehefin, 10.30am-2pmYmunwch â ni am ddiwrnod ffilm am ddim i’r teulu cyfan ynghyd â gweithdy creadigol gyda Contact a Family Cymru. Mae’r digwyddiad yn agored i deuluoedd a brodyr a chwiorydd plant ag anableddau a/neu anghenion ychwanegol.Geirda gan Riant: “Doedd dim angen poeni am blentyn yn crio neu’n ymddwyn yn amhriodol — dim ond ar ôl i mi gyrraedd adref y sylweddolais nad oeddwn i wedi bod dan straen o gwbl yn ystod y diwrnod — ac nad oedd yr un o’r teuluoedd eraill i’w weld dan straen chwaith. Dw i’n siŵr i hyn gael effaith gadarnhaol ar y plant. Roedd yn brofiad arbennig iawn i’r teulu cyfan.”I gael mwy o wybodaeth ac i archebu lle i’ch teulu chi, anfonwch e-bost at wales.events@cafamily.org.uk neu ffoniwch 029 2039 6624 neu 01978 351769.
Sinema12 029 2030 4400
Nid sinema yn unig yw Chapter; mae gennym hefyd raglen lawn o Berfformiadau a Chelfyddyd Weledol yn ystod mis Mai. Dyma rai uchafbwyntiau — gallwch weld y manylion yn llawn yn ein cylchgrawn chwarterol neu ar www.chapter.org.
CelfyddydMae Chapter yn falch iawn o fod yn un o bartneriaid gŵyl Diffusion — gŵyl ffotograffiaeth ryngwladol newydd a gynhelir bob dwy flynedd. Yn rhan o’r ŵyl, mae’r Oriel yn cyflwyno arddangosfa unigol gyntaf Maurizio Anzeri yng Nghymru, a fydd yn cynnwys detholiad o’i ddarnau ‘ffoto-gerfluniol’ nodedig. Bydd Celfyddyd yn y Bar yn croesawu’r artist Emma Bennett a’i lluniau atgofus a phrydferth sy’n awgrymu ochr dywyll y traddodiad bywyd llonydd ac fe fydd Mike Tooby yn edrych o’r newydd ar ddarlun enwog Edouard Manet, Un Bar aux Folies-Bergere (1882). Yn y Stiwdio, mae gosodiad ffilm Gideon Koppel, BORTH, yn bortread o dref hynod yng ngorllewin Cymru ac yn ddilyniant o fath i’w ffilm nodwedd, Sleep Furiously (2009). Ar ddiwedd y mis, bydd yna Benwythnos Cyhoeddi yn rhan o Ŵyl Diffusion (25/26 Mai) a bydd yna nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau i’r teulu cyfan hefyd. Mae mwy o wybodaeth a manylion am ddigwyddiadau’r ŵyl ar gael ar www.diffusionfestival.org.
PerfformiadBydd mis Mai yn cychwyn â chynhyrchiad Mercury Theatre Wales, Spangled, sy’n olwg o’r newydd ar fyd gwyllt clybiau nos Cymru yn y 1990au. Bydd yna gyfle hefyd i ddathlu 5ed pen-blwydd Newsoundwales gyda pherfformiadau gan bum grŵp ardderchog. O’r aruchel i’r rhyfedd ar y naw, mae Tin Shed Theatre yn eich gwahodd i fwynhau Dr Frankenstein’s Travelling Freak Show. Ar ddydd Mercher, 15 Mai, bydd yna gyflwyniad dwbl o Savage Children a gallwch fanteisio ar gynnig arbennig a gweld y ddau berfformiad am bris gostyngol — £10/£8. Bydd Sioned Huws yn dychwelyd i Chapter â Phrosiect Aomori, a gychwynnwyd yn 2008 yn ymateb i amodau arctig Gogledd Japan. Yn cynnwys cerddoriaeth, perfformio a dawns, mae’r prosiect yn esblygu’n barhaol. Oddi ar y brif safle, bydd Reverie yn ymweld â strydoedd Bae Caerdydd, lle bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn cyflwyniadau theatr stryd, hapchwarae a straeon ar-lein. Ac, i’r to iau, mae yna gyfle i agor led y pen y Magic Doors, cynhyrchiad theatrig gan Bombastic sy’n datgelu creaduriaid rhyfeddol a bydoedd dychmygol.
O’r C
hwit
h i’r
dde
: Mau
rizio
Anz
eri,
Emm
a Be
nnet
t Re
verie
, Tin
She
d Th
eatr
e a
Mer
cury
The
atre
Wal
es
CL1C
Car
dCh
apte
r’s o
wn
rew
ard
card
. Col
lect
poi
nts
whe
n yo
u vi
sit t
he c
inem
a or
thea
tre
and
you’
ll be
sur
pris
ed a
t ho
w q
uick
ly y
ou c
an c
laim
a fr
ee ti
cket
. Pic
k up
a
form
nex
t tim
e yo
u’re
in o
r dow
nloa
d fr
om
ww
w.c
hapt
er.o
rg.
W
atch
out
for t
his
sym
bol
to d
oubl
e yo
ur p
oint
s!
Chap
ter C
ard
Save
£££
s on
all
cine
ma
and
thea
tre
ticke
ts; f
ree
mon
thly
mai
ling
of th
is m
agaz
ine;
free
cin
ema
vouc
her;
invi
tatio
ns to
spe
cial
eve
nts.
Al
so d
oubl
es u
p as
a C
L1C
Card
. Si
ngle
Car
d: £
20/£
10
Dual
Car
d: £
25/£
20 (2
peo
ple
in th
e sa
me
hous
ehol
d)Fu
ll M
embe
rshi
p: G
et e
ven
mor
e in
volv
ed —
You
’ll b
e in
vite
d to
our
AGM
, rec
eive
the
annu
al re
port
and
get
al
l the
ben
efits
of a
Cha
pter
Car
d.£4
0/£3
0
Keep
in to
uch
Join
us
onlin
ew
ww
.cha
pter
.org
is th
e be
st p
lace
to g
o fo
r mor
e
info
on
ever
ythi
ng w
e do
.
Free
eLi
stin
gsW
eekl
y eL
istin
gs s
trai
ght t
o yo
ur in
box.
E-m
ail
meg
an.p
rice@
chap
ter.o
rg w
ith ‘J
oin
List
ings
’ in
the
subj
ect l
ine.
GET
INVO
LVED
Cerd
yn C
L1C
Cerd
yn g
wob
rau
Chap
ter.
Casg
lwch
bw
yntia
u w
rth
ymw
eld
â’r s
inem
a ne
u’r t
heat
r ac
fe s
ynnw
ch c
hi b
a m
or g
yfly
m y
gal
lwch
chi
haw
lio to
cyn
rhad
ac
am
ddim
. Cod
wch
ffur
flen
y tr
o ne
saf y
byd
dwch
chi
ym
a ne
u la
wrlw
ythw
ch h
i o w
ww
.cha
pter
.org
.
Cad
wch
lyga
d ar
ago
r am
y s
ymbo
l hw
n i d
dybl
u ei
ch p
wyn
tiau!
Cerd
yn C
hapt
erGa
llwch
arb
ed £
££oe
dd a
r bris
pob
tocy
n si
nem
a a
thea
tr; c
ewch
gop
i am
ddi
m b
ob m
is o
’r cy
lchg
raw
n hw
n dr
wy’
r pos
t; ta
leb
sine
ma
am d
dim
a
gwah
oddi
adau
i dd
igw
yddi
adau
arb
enni
g. M
ae’r
cerd
yn h
efyd
yn
gwei
thio
fel C
erdt
n CL
1C.
Cerd
yn S
engl
: £20
/£10
Ce
rdyn
i Dd
au: £
25/£
20 (2
ber
son
yn y
r un
cart
ref)
Aelo
daet
h La
wn:
Mw
y fy
th o
fant
eisi
on —
byd
dwch
yn
derb
yn g
wah
oddi
ad i’
r Cyf
arod
Bly
nydd
ol a
cho
pi o
’r ad
rodd
iad
blyn
yddo
l yng
hyd
â ho
ll fa
ntei
sion
era
ill
Cerd
yn C
hapt
er.
£40/
£30
Cadw
ch m
ewn
cysy
lltia
d Ym
unw
ch â
ni a
r-le
inw
ww
.cha
pter
.org
yw
’r lle
gor
au i
fynd
i ga
el m
wy
o w
ybod
aeth
am
eim
hol
l wei
thga
rwch
.
eAm
serle
n ra
d ac
am
ddi
meA
mse
rlen
wyt
hnos
ol i’
ch b
lwch
der
byn.
E-b
ostiw
ch
meg
an.p
rice@
chap
ter.o
rg â
’r te
itl ‘A
mse
rlen
Chap
ter’
ym m
henn
awd
yr e
-bos
t.
CYM
RYD
RHAN
Regi
ster
ed C
harit
y No
. 500
813*
Rh
if El
usen
500
813
Land
fill C
omm
unity
Fun
dEs
mée
Fai
rbai
rn F
ound
atio
nTh
e Ba
ring
Foun
datio
nGa
rfie
ld W
esto
n Fo
unda
tion
Foyl
e Fo
unda
tion
Biff
awar
dCo
lwin
ston
Cha
ritab
le T
rust
Adm
iral G
roup
plc
Moo
ndan
ce F
ound
atio
nFo
unda
tion
for S
port
an
d th
e Ar
tsTr
usth
ouse
Cha
ritab
le
Foun
datio
nCo
mm
unity
Fou
ndat
ion
in
Wal
esTh
e W
elsh
Bro
adca
stin
g Tr
ust
Rich
er S
ound
sM
omen
tum
The
Henr
y M
oore
Fou
ndat
ion
Goog
leJa
ne H
odge
Fou
ndat
ion
Sim
on G
ibso
n Ch
arita
ble
Trus
tPe
ople
’s P
ostc
ode
Trus
tDu
nhill
Med
ical
Tru
stLe
gal &
Gen
eral
Inst
itut f
ür
Ausl
ands
bezi
ehun
gen
e.V
Mill
enni
um S
tadi
um C
harit
able
Tr
ust
The
Erne
st C
ook
Trus
t Ll
oyds
TSB
Mor
gan
Sign
sGa
rrick
Cha
ritab
le T
rust
Ba
rcla
ysAr
ts &
Bus
ines
s Cy
mru
The
Aust
in &
Hop
e Pi
lkin
gton
Tr
ust
Sing
apor
e In
tern
atio
nal
Foun
datio
nPu
ma
Hote
ls C
olle
ctio
n:
Card
iff A
ngel
Hot
elCa
rdiff
Airp
ort
Wal
es A
rts
Inte
rnat
iona
lGi
bbs
Char
itabl
e Tr
ust
Cere
digi
on C
omm
unity
Sc
hem
eTh
e St
eel C
harit
able
Tru
stTh
e Bo
shie
r-Hi
nton
Fo
unda
tion
Oakd
ale
Trus
tNe
lmes
Des
ign
The
Cout
ts C
harit
able
Tru
stBr
uce
Wak
e Ch
arity
Funk
y M
onke
y Fe
etFi
nnis
Sco
tt F
ound
atio
nUn
ity T
rust
Ban
kHu
gh J
ames
Cont
empo
rary
Art
Soc
iety
fo
r Wal
esTh
e Do
t Fou
ndry
JVH
Gidd
en &
Ree
sW
este
rn P
ower
Dis
trib
utio
nHA
RMAN
tech
nolo
gy L
imite
dLa
guna
Hea
lth &
Spa
Folle
tt T
rust
Arts
& K
ids
Cym
ruCa
nton
Hig
h Sc
hool
Girl
’s
Reun
ion
Co-o
pera
tive
Grou
pIK
EARe
naul
t Car
diff
GB-S
ol L
tdCi
ty S
atel
lites
Emba
ssy
of B
elgi
umQu
eens
land
Gov
ernm
ent
Chap
ter g
rate
fully
ack
now
ledg
es th
e su
ppor
t it r
ecei
ves
from
the
follo
win
g Ho
ffai
Cha
pter
gyd
nabo
d ce
fnog
aeth
hae
l y s
efyd
liada
u a’
r grw
piau
can
lyno
l:
And
all t
hose
indi
vidu
als
who
hav
e ge
nero
usly
sup
port
ed u
s th
roug
h th
e re
deve
lopm
ent a
nd b
eyon
dA’
r hol
l uni
golio
n hy
nny
sydd
wed
i’n c
efno
gi n
i’n h
ael d
rwy
gydo
l cyf
nod
yr a
ildda
tbly
gu a
c ar
ôl h
ynny