Y BRENIN CANUTE

24
Y BRENIN CANUTE

description

Y BRENIN CANUTE. Amser maith yn ol roedd Lloegr yn cael ei rheoli gan frenin o’r enw Canute. Fel llawer o arweinwyr y cyfnod, roedd Canute wedi’i amgylchynu gan bobl a oedd yn ei ganmol drwy’r amser. Pan fyddai’n mynd i mewn i ystafell byddai’r canmol yn dechrau. - PowerPoint PPT Presentation

Transcript of Y BRENIN CANUTE

Page 1: Y BRENIN CANUTE

Y BRENIN CANUTE

Page 2: Y BRENIN CANUTE

Amser maith yn ol roedd Lloegr yn cael ei rheoli gan frenin o’r

enw Canute. Fel llawer o arweinwyr y cyfnod, roedd

Canute wedi’i amgylchynu gan bobl a oedd yn ei ganmol drwy’r

amser. Pan fyddai’n mynd i mewn i ystafell byddai’r canmol

yn dechrau.

Page 3: Y BRENIN CANUTE
Page 4: Y BRENIN CANUTE

‘Ti ydy’r dyn gorau sydd wedi byw erioed’, byddai un yn dweud.

‘Fydd neb cystal a thi’, byddai un arall yn mynnu.

Page 5: Y BRENIN CANUTE
Page 6: Y BRENIN CANUTE

‘Does dim byd na elli di ei wneud’ byddai rhywun yn dweud.

‘Ti yw brenin y byd i gyd’, byddai un arall yn honni.

Page 7: Y BRENIN CANUTE
Page 8: Y BRENIN CANUTE

Ond roedd Canute yn ddyn deallus, ac roedd yn blino ar y moli hwn. Un diwrnod roedd yn cerdded ar lan y mor gyda dynion y llys pan benderfynodd rhoi gwers iddyn

nhw.

Page 9: Y BRENIN CANUTE
Page 10: Y BRENIN CANUTE

‘Felly, rydych chi’n meddwl mai fi yw’r brenin gorau erioed ydych

chi?’ meddai Canute.‘O Frenin’ atebodd y milwyr, ‘ni fydd

unrhyw un erioed cystal a chi.’

Page 11: Y BRENIN CANUTE
Page 12: Y BRENIN CANUTE

‘Ac rydych chi’n dweud bod popeth yn ufuddhau i fi ydych chi?’, meddai

Cantue.‘Wrth gwrs,’ atebodd y dynion, ‘Mae popeth yn ymgrymu ger eich bron

chi.’

Page 13: Y BRENIN CANUTE

‘Rwy’n gweld,’ meddai Canute. ‘Dewch a’m cadair fan hyn ar lan y

mor, a dodwch chi ar y traeth.’‘ Ar unwaith, Frenin,’ atebodd yn dynion, ac i ffwrdd a nhw i nol ei

orsedd.’

Page 14: Y BRENIN CANUTE

‘Dewch ag ef yn agosach at y dwr,’ ebe Canute. ‘Gosodwch e wrth

ymyl y dwr,’ Eisteddodd Canute ac edrychodd allan ar y mor. ‘Rwy’n sylwi bod y

llanw yn dod i mewn,’ meddai, ‘Ydych chi’n meddwl y bydd yn stopio dod i mewn pe bawn i yn

rhoi’r gorchymyn.’

Page 15: Y BRENIN CANUTE
Page 16: Y BRENIN CANUTE

Doedd ei swyddogion ddim yn siwr beth i’w ddweud. Roedden nhw’n ofni dweud na.

‘Rho’r gorchymyn, O Frenin. Bydd y llanw yn uffuddhau i ti’, meddai un o’i swyddogion.

Page 17: Y BRENIN CANUTE
Page 18: Y BRENIN CANUTE

‘Mor,’ ebe Canute, ‘paid a dod dim pellach. Aros lle ‘rwyt ti, paid a

dechrau symud rownd fy nhraed, rwy’n dy orchymyn di i aros lle ‘rwyt

ti.’

Page 19: Y BRENIN CANUTE

Arhosodd yn dawel am funud, yna daeth ton fach i symud o amgylch

ei draed. ‘Rwyt ti’n meiddio dod yn agos ataf i, wyt ti?’ meddai Canute, ‘er mod i wedi dweud wrthot ti am beidio,

mor, dos yn ol ar unwaith.’

Page 20: Y BRENIN CANUTE
Page 21: Y BRENIN CANUTE

Fel petai mewn ateb, daeth ton arall, ac yna un arall ac un arall, yn

union fel roedden nhw wedi dod erioed. Cyn hir, roedd ei orsedd bron wedi’i chuddio dan y dwr, a

Canute ei hun y dal i eistedd arni. Roedd ei swyddogion yn dechrau

meddwl bod rhywbeth yn bod arno.

Page 22: Y BRENIN CANUTE
Page 23: Y BRENIN CANUTE

‘Wel fy ffrindiau,’ meddai Canute ‘ mae’n ymddangos nad oes gen i’r

awdurdod wedi’r cwbwl. Rwy’n gobeithio eich bod chi wedi dysgu

rhywbeth heddiw. Efallai y gwnewch chi gofio mai dim ond Un sy’n gallu rheoli byd natur, a dylech

gadw eich clodydd iddo Ef.’

Page 24: Y BRENIN CANUTE