WISE KIDS Leaflet: Public on the Internet - Gaming, Forums, YouTube, Blogs and Twitter (in Welsh)

1
Y Cyhoedd ar y Rhyngrwyd - Gemau, Fforymau, YouTube, Blogiau a Trydar Y Cyhoedd ar y Rhyngrwyd - Gemau, Fforymau, YouTube, Blogiau a Trydar www.wisekids.org.uk Yn y rhan fwyaf o’r gweithgareddau hyn, rydych wedi eich cysylltu’n gyhoeddus â chymuned fyd-eang. Y peth gorau yw rhoi’r lleiafswm posib o wybodaeth yn eich proffil, a pheidio fyth â rhannu gwybodaeth fel eich cyfeiriad, rhif ffôn symudol neu’r ysgol yr ewch iddi Os bydd pobl yn anghwrtais, gallwch eu mudo nhw. Os ydynt yn dal ati i’ch aflonyddu neu’n dangos ymddygiad amhriodol arall, fel gofyn am eich manylion mewngofnodi, riportiwch nhw’n uniongyrchol i’r wefan neu’r rhwydwaith gemau gan ddefnyddio cyfleuster ‘Report Abuse’ y wefan ei hun. Mae’n beth da hefyd rhoi gwybod i oedolyn y gallwch ymddiried ynddo Mae safleoedd fel Trydar yn caniatáu i chi ddilyn sgwrs (‘negeseuon trydar’) pobl sydd o ddiddordeb i chi. Felly hefyd bydd pobl eraill yn gallu dilyn eich ‘negeseuon trydar’ chi. Byddwch yn ymwybodol, oni bai eich bod wedi gwneud eich proffil yn un preifat, bydd eraill yn gallu gweld eich ‘negeseuon trydar’ (e.e. mewn chwiliad), hyd yn oed os nad ydyn nhw’n eich dilyn Os oes gennych ddiddordeb/hobi/prosiect arbennig, gallwch sefydlu blog neu sianel YouTube i rannu hyn, yn ogystal â chysylltu a chynnig sylwadau ar gynnwys tebyg gan eraill. Byddwch yn gwrtais bob amser, gan ei bod hi’n hawdd cael eich camddeall ar-lein. Gofynnwch am ganiatâd cyn uwchlwytho fideos/lluniau o’ch ffrindiau. Mae hefyd yn bosib gwneud eich safle blog/fideos ar eich sianel YouTube yn breifat. Hefyd, mae’n bosib cymedroli sylwadau drwy ddefnyddio’r ddau wasanaeth hwn, drwy addasu’r hyn sydd orau gennych chi Cymrwch egwyl yn rheolaidd oddi wrth weithgareddau ar-lein i gymryd rhan mewn chwaraeon neu gymdeithasu gyda’ch ffrindiau, a chofiwch allgofnodi ar ôl chwarae gêm neu defnyddio gwasanaeth fel Trydar neu YouTube. Bydd hyn yn rhwystro eraill rhag camddefnyddio eich hunaniaeth Mae’r Rhyngrwyd yn wych am gysylltu pobl ledled y byd yn gyhoeddus ar fforymau, gemau ar-lein (gan ddefnyddio’r Xbox, neu PS3 er enghraifft), sianeli YouTube, blogiau, neu drwy fylchau sgwrsio cyhoeddus ar Trydar, er enghraifft. O’u defnyddio’n ddoeth gall y gwasanaethau hyn eich helpu i rannu eich arbenigedd ac adeiladu presenoldeb positif ar-lein. Gall rhai o’r gwasanaethau hyn fodd bynnag, gael eu camddefnyddio gan bobl ffiaidd a chas, felly cadwch y canlynol mewn cof: Hawlfraint © 2012 WISE KIDS. Trwydded Creative Commons: CC BY-NC-ND 3.0 http://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/3.0/deed.en_GB

Transcript of WISE KIDS Leaflet: Public on the Internet - Gaming, Forums, YouTube, Blogs and Twitter (in Welsh)

Page 1: WISE KIDS Leaflet: Public on the Internet - Gaming, Forums, YouTube, Blogs and Twitter (in Welsh)

Y Cyhoedd ar y Rhyngrwyd - Gemau, Fforymau, YouTube, Blogiau a Trydar

Y Cyhoedd ar y Rhyngrwyd - Gemau, Fforymau, YouTube, Blogiau a Trydar

www.wisekids.org.uk

• Yn y rhan fwyaf o’r gweithgareddau hyn, rydych wedi eich cysylltu’n gyhoeddus â chymuned fyd-eang. Y peth gorau yw rhoi’r lleiafswm posib o wybodaeth yn eich proffil, a pheidio fyth â rhannu gwybodaeth fel eich cyfeiriad, rhif ffôn symudol neu’r ysgol yr ewch iddi

• Os bydd pobl yn anghwrtais, gallwch eu mudo nhw. Os ydynt yn dal ati i’ch aflonyddu neu’n dangos ymddygiad amhriodol arall, fel gofyn am eich manylion mewngofnodi, riportiwch nhw’n uniongyrchol i’r wefan neu’r rhwydwaith gemau gan ddefnyddio cyfleuster ‘Report Abuse’ y wefan ei hun. Mae’n beth da hefyd rhoi gwybod i oedolyn y gallwch ymddiried ynddo

• Mae safleoedd fel Trydar yn caniatáu i chi ddilyn sgwrs (‘negeseuon trydar’) pobl sydd o ddiddordeb i chi. Felly hefyd bydd pobl eraill yn gallu dilyn eich ‘negeseuon trydar’ chi. Byddwch yn ymwybodol, oni bai eich bod wedi gwneud eich proffil yn un preifat, bydd eraill yn gallu gweld eich ‘negeseuon trydar’ (e.e. mewn chwiliad), hyd yn oed os nad ydyn nhw’n eich dilyn

• Os oes gennych ddiddordeb/hobi/prosiect arbennig, gallwch sefydlu blog neu sianel YouTube i rannu hyn, yn ogystal â chysylltu a chynnig sylwadau ar gynnwys tebyg gan eraill. Byddwch yn gwrtais bob amser, gan ei bod hi’n hawdd cael eich camddeall ar-lein. Gofynnwch am ganiatâd cyn uwchlwytho fideos/lluniau o’ch ffrindiau. Mae hefyd yn bosib gwneud eich safle blog/fideos ar eich sianel YouTube yn breifat. Hefyd, mae’n bosib cymedroli sylwadau drwy ddefnyddio’r ddau wasanaeth hwn, drwy addasu’r hyn sydd orau gennych chi

• Cymrwch egwyl yn rheolaidd oddi wrth weithgareddau ar-lein i gymryd rhan mewn chwaraeon neu gymdeithasu gyda’ch ffrindiau, a chofiwch allgofnodi ar ôl chwarae gêm neu defnyddio gwasanaeth fel Trydar neu YouTube. Bydd hyn yn rhwystro eraill rhag camddefnyddio eich hunaniaeth

Mae’r Rhyngrwyd yn wych am gysylltu pobl ledled y byd yn gyhoeddus ar fforymau, gemau ar-lein (gan ddefnyddio’r Xbox, neu PS3 er enghraifft), sianeli YouTube, blogiau, neu drwy fylchau sgwrsio cyhoeddus ar Trydar, er enghraifft. O’u defnyddio’n ddoeth gall y gwasanaethau hyn eich helpu i rannu eich arbenigedd ac adeiladu presenoldeb positif ar-lein. Gall rhai o’r gwasanaethau hyn fodd bynnag, gael eu camddefnyddio gan bobl ffiaidd a chas, felly cadwch y canlynol mewn cof:

Hawlfraint © 2012 WISE KIDS. Trwydded Creative Commons: CC BY-NC-ND 3.0http://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/3.0/deed.en_GB