Ten26 (Welsh translation)

32
YMGYRCH NEWYDD I DRECHU ARWAHANRWYDD GWLEDIG Hwyl, Dysgu a Chyflawni EICH BLOEDD! Y NEWYDDION DIWEDDARAF O’R CLYBIAU A’R SIROEDD GWANWYN 2014 “Glaw, mwd a beiciau cwad – roeddem wrth ein bodd!” YMATEB I ARGYFWNG Y LLIFOGYDD MWD MWYNHAU’R l CANLLAW I GYNHADLEDD FLYNYDDOL 2014 l PLESERAU A PHOENAU TYMOR ŴYNA l DIWRNOD YM MYWYD UN O WEITHWYR AGCO l UCHAFBWYNTIAU’R TRIP SGÏO HEFYD TU MEWN Cylchgrawn Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc

description

A Welsh translation of The National Federation of Young Farmers' Clubs' (NFYFC) magazine for its members aged 10-26. www.nfyfc.org.uk

Transcript of Ten26 (Welsh translation)

Page 1: Ten26 (Welsh translation)

YMGYRCH NEWYDD I DRECHU ARWAHANRWYDD GWLEDIG

Hwyl, Dysgu a Chyflawni

EICH BLOEDD!Y NEWYDDION DIWEDDARAF O’R CLYBIAU A’R SIROEDD

GW

AN

WY

N 2

01

4

“Glaw, mwd a beiciau cwad – roeddem wrth ein bodd!”

YMATEB IARGYFWNG Y LLIFOGYDD

MWDMWYNHAU’R

l CANLLAW I GYNHADLEDD FLYNYDDOL 2014l PLESERAU A PHOENAU TYMOR ŴYNAl DIWRNOD YM MYWYD UN O WEITHWYR AGCO

l UCHAFBWYNTIAU’R TRIP SGÏO

HEFYD TU MEWN

Cylchgrawn Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc

Page 2: Ten26 (Welsh translation)

Bu’n gychwyn heriol i’r flwyddyn. Mae’r llifogydd ledled y wlad wedi creu poen a loes i gymaint o’n cymunedau lleol – yn enwedig yng Ngwlad yr Haf.

Rydym oll wedi gweld y newidion ynghylch effaith ddinistriol y tywydd ar gartrefi a bywoliaeth pobl.Daeth llawer o ddaioni yn sgil rhywbeth mor drychinebus. Gallwch ddarllen am y cyfraniad a wnaeth Ffermwyr Ifanc o bob cwr o Gymru a Lloegr at gefnogi’r cymunedau hynny ar dudalen 14. Fe wn i fod llawer ohonoch wedi bod yn hysbysu’r cyfryngau lleol am eich ymdrechion, ac mae’n dangos i’r genedl beth yn union yw natur y Ffermwyr Ifanc! Fe wnaeth imi deimlo’n falch o fod yn Gadeirydd sefydliad

mor wych!Fe wnaethom hefyd lansio ymgyrch Rural+ #ruralplus ym mis Ionawr, ac mae llawer o wybodaeth yn y rhifyn hwn ynghylch sut allwch chi a’ch Clwb gyfranogi yn yr ymgyrch bwysig hon (tudalen 18).Rydym yn dynesu at Gynhadledd Flynyddol arall, a chredaf mai hon fydd yr orau i mi ei mynychu! Mae’r syniad o fod yno eleni fel eich Cadeirydd ac yn cynrychioli 25,000 o aelodau yn fy nghyffroi.Edrychaf ymlaen at weld y rhai ohonoch a fydd yn mynd i’r Gynhadledd. Ac i’r sawl ohonoch sy’n ddigon anffodus i fethu mynd yno, gobeithio y gallaf eich gweld mewn cystadlaethau neu ralïau yn fuan!

Claire WordenCadeirydd y Cyngor Cenedlaethol

CROESO I RIFYN Y GWANWYN O TEN26

CYLCHGRAWN TEN 26

Ar ran FfCFfI:Golygydd: Cheryl Liddle

Cyfarwyddwr Celf: Ian Feeney

Cynhyrchir y cylchgrawn hwn ar gyfer aelodau

Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau

Ffermwyr Ifanc a’u ffrindiau a’u teuluoedd.

©FfCCFfI. Ni ellir atgynhyrchu unrhyw

ran o’r cylchgrawn hwn heb gael caniatâd

ysgrifenedig ymlaen llaw.

Croesawir unrhyw lythyrau, lluniau a

newyddion, ond cedwir yr hawl i olygu unrhyw

gyfraniadau.

Safbwyntiau’r cyfranwyr yw’r

rhai a fynegir yn y cylchgrawn hwn, ac

nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu barn

FfCCFfI.

Os oes gennych ddiddordeb mewn

hysbysu yn ten26, cysylltwch â christina.

[email protected] neu ffoniwch 02476

857277.

Mae fersiwn Saesneg o’r cylchgrawn hwn ar

gael hefyd.

2 TEN26

Dewch i gwrdd â’r tîm cenedlaethol newydd a chadeiryddion newydd y grwpiau llywio: (ch-dd) Is-gadeiryddion Hannah Talbot a Chris Manley, Cadeirydd y Grŵp Llywyio Cystadlaethau David Hamer, Carrington, Cadeirydd Personol Nicola Chegwidden, Cadeirydd Amaethyddiaeth a Materion Gwledig Russell Carrington, Carrington, Cadeirydd Cyfathrebu, Digwyddiadau a Marchnata David Maidment, a Chadeirydd y Grŵp Llywio Fforwm Ieuenctid, Sioned Davies

ARBEDWCH EICH ARIAN!Arbedion unigryw ar brisiau dillad, gweithgareddau hamdden a hyfforddiant y diwydiant

– i Ffermwyr Ifanc yn unig yn adran aelodau gwefan FfCCFfI.

#yfcdeals

www.nfyfc.org.yk/memberoffers

SWYDDOGION CENEDLAETHOL A PHWYLLGORAU

Page 3: Ten26 (Welsh translation)

CYSYLLTWCHCall

t

@

f

Ffoniwch 02476 857200

E-bostiwch [email protected]

‘Hoffwch’ yn www.facebook.com/nfyfc

Dilynwch yn twitter.com/nfyfc

DEFNYDDWCH EICH FFÔN SYMUDOL!

Cofiwch, gallwch bellach weld gwefan FfCCFfI ar eich ffôn symudol, oherwydd

rydym wedi’i gwneud yn haws ei gweld ar sgriniau bychan!

04 NEWYDDIONDigwyddiadau diweddaraf FfCCFfI

SGILIAU DA

08 TAITH SGÏODarllenwch am hwyl 2014 ac archebwch le ar daith 201522 Y SWYDDGolwg ar waith ym maes gwerthu peiriannau amaethyddol

ERTHYGLAU NODWEDD

10 CCB CFfIArlwy llawn Cynhadledd Flynyddol 2014

14 CYMORTH I BORTHISut gwnaeth y ffermwyr ifanc gynorthwyo yn ystod y llifogydd

YR WYBODAETH

13 RWY’N CARU ŴYNFfermwyr ifanc yn datgelu pleserau ac anawsterau ŵyna

18 UNIGEDD GWLEDIG

Cyfranogwch yn ymgyrch ddiweddaraf FfCCFfI.

24 GWERTH AM ARIAN FfCCFfISut bydd FfCCFfI yn defnyddio eich tâl aelodaeth

FFORWM IEUENCTID

26 IEUENCTID ADDAWOL Hwyl Penwythnos Preswyl y Fforwm Ieuenctid

EICH BLOEDD

28 NEWYDDION RHANBARTHOLNewyddion diweddaraf o glybiau ledled y Du

TEN26 3

ENILLWCH WERTH

4,500 MILLTIR O DANWYDD A

CHILWOBRAU YN EIN CYSTADLEUAETH GYFFROUS AR Y CYD Â TAMA AR

DUDALEN 32

CYNNWYS

TU MEWNTU MEWN

Page 4: Ten26 (Welsh translation)

04 TEN26

Mae Poul Christensen wedi mwynhau nifer o fisoedd prysur, ond cafodd Ten26 gyfle i holi’r Llywydd ynghylch ei gynlluniau

C Beth ydych wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar?

A Roeddwn yn brysur iawn yn rhoi’r gorau i fy swydd fel Cadeirydd

Natural England yn 2013. Roedd yn golygu llawer iawn o waith ychwanegol oherwydd nifer o faterion oedd yn digwydd, ac anffodus, fe wnaeth hynny fy atal rhag gwneud llawer iawn gyda’r CFfI.

C A ydych wedi mwynhau eich blwyddyn gyntaf fel Llywydd

FfCCFfI?

A Yn bendant! Rwyf wedi treulio llawer o amser yn dysgu sut mae’r

Bwrdd Rheoli yn gweithio, yn mynychu cyfarfodydd y Cyngor ac yn mynd i’r afael â nifer o faterion llywodraethu. Fe wn i fod hynny’n swnio braidd yn ddiflas, ond roedd yn bwysig iawn.

C A ydych yn edrych ymlaen at fwynhau rhagor o hwyl y CFfI

eleni?

A Yn bendant. Roedd bod yn rhan o’r Gynhadledd Flynyddol yn

Blackpool y llynedd yn anhygoel. Fe wnaeth fy ysbrydoli am weddill y flwyddyn - ac mewn da bryd am yr un nesaf! Byddaf yn cadeirio’r CCB eleni ac rwy’n edrych ymlaen at hynny. Byddaf hefyd yn y Penwythnos Cystadlaethau ym mis Gorffennaf. Edrychaf ymlaen at gwrdd â rhagor ohonoch eleni.

Members of Berkshire FYFC with Poul Christensen at

their Harvest FestivalMae tri o aelodau FfCCFfI wedi bod yn gweithio gyda ffermwyr ifanc Ewrop i frwydro dros ddyfodol ffermio. Fe wnaeth Chris Manley o CFfI Culm Valley, Catherine Bennett o CFfI Dyffryn Efyrnwy, ac Elli Downing o CFfI Silsoe fynychu Senedd Gwanwyn CEJA, Cyngor Ffermwyr Ifanc Ewrop yn Helsinki, diolch i nawdd gan HOPS Labour Solutions a Mole Valley Farmers.

Dyma’r tro cyntaf i Catherine ac Elli fynychu digwyddiad CEJA ac fe wnaeth y ddwy fwynhau’r profiad.

Dywedodd Catherine: “Roedd y seminar yn gyfle gwych i ddangos i wledydd eraill Ewrop y gwaith da a wneir gan FfCCFfI a chwrdd â phobl o wledydd eraill Ewrop a rhannu gwybodaeth i gynorthwyo i ddatblygu CEJA.”

Fe wnaeth CEJA lunio

Datganiad Helsinki oedd yn gofyn i wneuthurwyr polisi gefnogi dyfodol ffermwyr ifanc.

Mae’r sefydliad yn gyfle gwych i ffermwyr ifanc ddylanwadu ar ddyfodol y proffesiwn trwy ddod i gysylltiad â rhai o wneuthurwyr polisi pwysicaf Ewrop.

Byddant hefyd yn cael cyfle i rannu syniadau â ffermwyr ifanc o wledydd eraill a dysgu sut i’w rhoi ar waith.

Dywedodd Elli fod y daith yn ysbrydolgar. “Fe wnaeth y croeso a gawsom wneud argraff fawr arnaf i, ond roedd hefyd yn galonogol iawn gweld fod unigolion mor frwdfrydig a ffyniannus yn barod i frwydro dros gynnydd parhau y ffermwyr ifanc”.

Dilynwch @_CEJA_#futurefarmers

LLAIS YN EWROP

NEWYDDIONNEWYDDIONY NEWYDDION DIWEDDARAF A

DIWEDDARIADAU O BOB RHAN O’R FFEDERASIWN

Y LLYWYDDDIWEDDARIAD

Page 5: Ten26 (Welsh translation)

Bydd grant newydd gan Swyddfa’r Cabinet yn cynnig rhagor o gyfleoedd i bobl ifanc yng nghefn gwlad i weithredu’n gymdeithasol. Fe wnaeth Cyngor Cenedlaethol y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (NCVYS) wneud cais am y grant ar y cyd â FfCCFfI, yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd a’r Gymdeithas

Genedlaethol er Gwarchod Adar.Bydd yr arian yn galluogi’r

partneriaid i gynnig 1,500 o gyfleoedd newydd i weithredu’n gymdeithasol mewn perthynas â’r amgylchedd a chefn gwlad trwy Academi Sgwad Gweithredu Cymdeithasol a gaiff ei rhedeg gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc.

TEN26 05

9-11 MAICYNHADLEDD FLYNYDDOL FfCCFfI, BLACKPOOL

11 MAICYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL FfCCFfI, BLACKPOOL

28-29 MEHEFINCYFARFODYDD GRWPIAU LLYWIO A CHYNGOR FfCCFfI

5 GORFFENNAFDIWRNOD CYSTADLAETHAU FfCCFfI, MAES SIOE SWYDD STAFFORD

6 GORFFENNAFPENCAMPWRIAETHAU CHWARAEON FfCCFfI, STAFFORD

10 GORFFENNAFROWNDIAU TERFYNOL Y CYSTADLAETHAU BARNU GWARTHEG GODRO, SIOE FAWR SWYDD EFROG, HARROGATE

21-14 GORFFENNAFSIOE FRENHINOL CYMRU, LLANELWEDD

2 AWSTROWNDIAU TERFYNOL CYSTADLAETHAU TYNNU RHAFF DYNION A MERCHED, SIOE TENBURY

6-7 MEDIPENWYTHNOS CYSTADLAETHAU SGILIAU AMAETHYDDOL

YMATEB FFCCFFI I’R PAC

CYLLID GWLEDIG

COFIWCH AM DDIGWYDDIADAU’R FFERMWYR IFANC YN 2014.

Ni chewch gyfle bob dydd i hysbysu’r Gweinidog Amaeth yn bersonol ynghylch eich safbwyntiau, ond cafodd tri aelod gyfarfod yn bersonol â’r AS i drafod yr ymgynghoriad ynghylch y PAC.

Fe wnaeth y Cadeirydd Amaethyddiaeth a Materion Gwledig (AGRI) Russell Carrington, yr Is-gadeirydd Cenedlaethol Chris Manley a Duncan Howie sy’n aelod o AGRI gwrdd â’r Gweinidog George Eustice a gofyn am ragor o gymorth i ffermwyr ifanc.

Dywedodd Russell: “Roedd yn dda cael cwrdd â’r Gweinidog i drafod y canlyniadau mae arnom eu heisiau o ymgynghoriad y PAC ar gyfer ffermwyr ifanc – ac roedd yn barod i wrando ar ein syniadau.

“Mae Mr Eustice yn gyn-aelod CFfI, felly roeddem yn gwybod y byddai’n deall ac yn gwerthfawrogi’r Ffederasiwn a’n gwaith.” Fe wnaeth FfCCFfI ymateb i’r

ymgynghoriad ynghylch y PAC yn ddiweddar, ac mae’n galw am y canlynol:l Cynllun y Ffermwyr Ifanc i dalu 25% o daliadau uniongyrchol ychwanegol hyd at yr uchafswm o 90 hawliad.l Dim rhwystrau ychwanegol o ran bod yn gymwys i gael y Cynllun Ffermwyr Ifanc.l Darparu grantiau, hyfforddiant a buddsoddiadau yn yr holl sectorau amaethyddol.l Cyngor ynghylch cynllunio busnesau a mentora i feithrin ffermwyr y dyfodol.l Cynnig cyllid i’r sawl nad oes ganddynt ddaliad yn barod, a mentora i feithrin ffermwyr y dyfodol.l Sicrhau fod cyllid i’r gael i’r sawl nad oes ganddynt ddaliad yn barod

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch

ymateb FfCCFfI i’r PAC, cysylltwch â Swyddog ARAC yn [email protected].

i

A OES GENNYCH STORI? FFONIWCH 02476 857200

NEU E-BOSTIWCH [email protected]

2014 DYDDIADAU’R DYDDIADUR

Page 6: Ten26 (Welsh translation)

5 RHESWM DROS GAEL CANLLAW ‘THE SOURCE’

Mae ‘The Source’ newydd gael diweddariad sylweddol ac mae’n llawn cynghorion i’ch cynorthwyo i redeg eich clwb.

1 A oes arnoch angen help llaw i benodi swyddogion clwb?

Mae ‘The Source’ yn cynnwys set o fanylion swyddi y gall CFfI eu defnyddio i benodi swyddogion newydd a chynorthwyo i egluro beth mae’r gwaith yn ei olygu.

2 Denwch aelodau newydd trwy ddilyn nifer o gynghorion

hwylus yn yr adran ‘Gwneud i Bethau Ddigwydd’. Mae cynghorion lu hefyd ynghylch sut i gadw aelodau!

3 Os ydych yn dymuno cynnwys rhagor o

weithgareddau amaethyddol yn rhaglen eich Clwb, mae nifer o ddolenni a chysylltiadau i drefnu digwyddiad gyda’r hwyr neu yn ystod y dydd.

4 A ydych yn paratoi at gystadlaethau ac yn dymuno

sicrhau fod eich clwb yn dilyn yr holl ganllawiau i ennill? Mae ‘The Source’ yn cynnwys canllaw cynhwysfawr o bob cystadleuaeth genedlaethol i roi’r cyfle gorau posibl ichi yn y rowndiau terfynol!

5 A ydych yn gweithio ar Adroddiad Blynyddol eich

clwb ac yn cael trafferth â’r manylion? Mynnwch help llaw gan ‘The Source’ a chyngor ynghylch beth ddylech ei gynnwys a phwy ddylai gyfranogi. Cwblhawyd!

06 TEN26

Fe wnaeth cyfle i ymweld â lladd-dy a dysgu rhagor am gynhyrchu bwyd a da byw gynorthwyo un aelod i ddod gam yn nes at fod yn berchen ar ddiadell o ddefaid!

Nid yw Emma Tingle, 23, o CFfI Cawthorne yn Swydd Efrog o gefndir amaethyddol, a neidiodd ar y cyfle i fynychu un o’r cyrsiau Cig i’r Farchnad rhad ac am ddim sydd wedi bod yn rhedeg gydag EBLEX.

“Roedd yn addysgiadol iawn, ac os safbwynt y defnyddiwr, gallwch ddysgu llawer iawn rhagor,” meddai Emma. “Hoffwn gael fy niadell fy hun ond rwyf yn briod â saer, felly wn i ddim pa mor debygol yw hynny!”

Mae’r cyrsiau rhanbarthol ynghylch gwartheg bîff ac ŵyn wedi cael eu cynnal yn Swydd Caerhirfryn a Chesterfield, ac roeddent yn gyfle i aelodau feithrin sgiliau busnes amaethyddol ymarferol. Gofynnwyd i’r cyfranogwyr drin a thrafod yr anifeiliaid a’u dosbarthu a barnu eu pwysau cyn eu lladd. Fe wnaethant gymharu’r canlyniadau pan ddangoswyd y carcasau iddynt.

Yn sgil y galw, mae FfCCFfI yn ystyried trefnu rhagor o ddigwyddiadau.

#meat4market @EblexTweets

HYFFORDDIANT CIGOG

TRAFOD AMAETHMae Grŵp Llywio FfCCFfI sy’n cynrychioli safbwyntiau Ffermwyr Ifanc

ynghylch materion amaethyddol a gwledig wedi newid ei enw i AGRI (Amaethyddiaeth a Materion Gwledig).

Fe wnaeth y grŵp a adnabuwyd yn flaenorol fel ARAC (Pwyllgor Amaethyddiaeth a Materion Gwledig) ddewis acronym newydd a fyddai’n egluro’n gliriach pa bynciau a drafodir.

Cyhoeddwyd y newid enw yn

ystod cyfarfod y Cyngor ym mis Chwefror, lle gwnaeth y grŵp ethol ei Is-gadeirydd newydd – Lyndsey Martin o Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Caint.

Dywedodd Russell Carrington, Cadeirydd AGRI: “Mae’n wych bod Lyndsey yn fy nghefnogi yn y gwaith o gadeirio Grŵp Llywio AGRI. Bydd ein henw newydd yn datgan ein diben yn llawer mwy eglur i bawb, a gobeithio gwnaiff hynny sicrhau llais cryfach yn y diwydiant i ni.”

#yfcagri, @Cider_Russ and @LynseyMartin8

HYFFORDDIANT: Archwilio’r canlyniadau yn

y lladd-dy

Manteisiwch ar ragor o gyfleoedd

gan y CFfI a lawrlwythwch ‘The

Source’ yn www.nfyfc.org.uk/thesource

i

NEWYDDIONNEWYDDION

Page 7: Ten26 (Welsh translation)

TEN26 07

20,000 O FFANS!

Fe wnaeth cyfleoedd i ymweld â Seland Newydd, Canada a lleoliadau yn Ewrop ddenu dros 60 o aelodau i wneud cais am un o Deithiau CFfI y llynedd.

Dewiswyd yr ymgeiswyr buddugol yn ystod Diwrnod Dewis ym mhencadlys NFU Mutual yn Stratford-upon-Avon fis Tachwedd diwethaf. Cafodd 46 aelod gyfle i fwynhau taith unwaith mewn oes.

Roedd Kirsten Hoggard o CFfI Southwell yn Swydd Nottingham yn un o bedwar aelod CFfI a ddewiswyd i fynd ar ysgoloriaeth gweithio tri mis i Seland Newydd, dan nawdd Ymddiriedolaeth C Alma Baker. Bydd hi’n byw ac yn gweithio ar Limestone Downs, fferm 7,954 erw ar Ynys y Gogledd.

Dywedodd Kirsten: “Dewisais y daith hon yn benodol oherwydd roeddwn yn hoffi’r syniad o ysgoloriaeth gweithio. Mae gennyf ddiddordeb cryf mewn ffermio, ac rwyf yn wastad wedi dymuno ymweld â Seland Newydd.”

Yn ogystal ag ysgoloriaethau gweithio, mae rhaglen Teithiau CFfI hefyd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i aros mewn cartrefi a

Mae dros 20,000 o bobl bellach yn ffans tudalen Facebook NFYFC, sy’n golygu mai dyma un o’r mannau gorau i sgwrsio â Ffermwyr Ifanc ar-lein.

Mae presenoldeb FfCCFfI ar y cyfrwng cymdeithasol wedi tyfu yn ei boblogrwydd dros y flwyddyn ddiwethaf, a cheir diweddariadau rheolaidd a lluniau o gystadlaethau a digwyddiadau.

Fe wnaeth gweithgareddau diweddar gan Ffermwyr Ifanc i gefnogi’r cymunedau y gwnaeth y llifogydd effeithio arnynt ddenu dros 1,000 ‘hoffi’ i albwm lluniau oedd yn dangos eu hymdrechion. Cafodd yr albwm ei rannu ar Facebook gan dros 200 o bobl, oedd yn hyrwyddo’r CFfI yn bositif.

Facebook yw un o’r cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddir gan FfCCFfI i drafod â’i aelodau. Ar hyn o bryd, mae gan y cyfrif Twitter (@nfyfc) ddros 5,000 o ddilynwyr, a chyhoeddir diweddariadau yn rheolaidd yn ystod digwyddiadau pwysig FfCCFfI.

I ANTURIODEWCH

theithio mewn timau.Taith newydd sbon eleni yw antur y

Llongau Hwylio, sef mordaith hwylio wythnos o hyd sydd ar gael i aelodau CFfI sy’n 16-18 oed. Mae Adam Penny, Cadeirydd Sirol FfCFfI Dorset, wedi cael ei ddewis yn arweinydd y daith:

“Roeddwn yn un o hwyrddyfodiaid y CFfI ac nid wyf wedi cymryd rhan yn un o Deithiau CFfI o’r blaen. Pan hysbysebwyd mordaith y Llongau Hwylio ar fy ffrwd Facebook, edrychai’n her wych imi a rhywbeth ychydig yn wahanol. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld aelodau iau CFfI yn tyfu ac yn datblygu yn ystod y daith.”

Caiff teithiau 2015 eu hysbysebu yn ddiweddarach yn y flwyddyn – ewch i visit www.nfyfc.org.uk/yfctravel

Noddir rhaglen Teithiau CFfI gan Ymddiriedolaeth Elusennol NFU Mutual.

Gallwch hefyd gysylltu â FfCCFfI ar Linkedin a

Google+. Os dymunwch siarad â FfCCFfI trwy unrhyw gyfrwng cymdeithasol arall ar-lein, anfonwch awgrymiadau at [email protected]!

i“MAE GENNYF DDIDDORDEB CRYF MEWN FFERMIO, AC RWYF YN WASTAD WEDI DYMUNO YMWELD Â SELAND NEWYDD”

Page 8: Ten26 (Welsh translation)

#YFCTRAVEL

08 TEN26

Roedd sgïo i lawr llethrau llifoleuedig yng nghwmni cannoedd o ffermwyr ifanc yn wyliau gaeaf gwych. Mae’n debyg fod sgïo

yn yr ucheldir wedi swyno calonnau un cwpwl, wrth iddynt benderfynu priodi ar gopa Pic Blanc. Roedd dau o aelodau CFfI Halesowrth, David Boden, sy’n ffermwr o Suffolk, a Jessie Bowling, yn credu ei fod yn briodol iddynt ddyweddïo mewn digwyddiad Ffermwyr Ifanc.

“Allwn i ddim meddwl am le gwell i gynnig hynny. Rydym ein dau yn hoffi sgïo ac roedd pen mynydd 3,330 o uchder yn le delfrydol. Fe wnaeth y ffaith ein bod wedi dyweddïo ar Daith Sgïo’r Ffermwyr Ifanc olygu fod hynny’n fwy arbennig fyth, oherwydd

SGÏO CFFI! Roedd taith sgïo 2014 CFfI yn hanes o gariad a hwyl ar y llethrau

efallai na fyddem wedi cyfarfod oni bai am y CFfI.”

“Roedd David a Jessie ymhlith bron iawn 300 o aelodau CFfI a dreuliodd wythnos yn Alpe D’Huez gyda’r cwmni teithio, Outgoing, fel rhan o raglen deithio ddiwygiedig FfCCFfI. Roedd y gweithgareddau hyd yn oed yn cynnwys diwrnod gwisg ffansi â thema ‘eich cynnyrch gorau.’

Roedd Georgina Haigh o CFfI Wormleighton yn un o gynrychiolwyr y CFfI ar y trip: “Roedd y pryd ar y mynydd a dawnsio ar ben y

mynydd bob prynhawn yng nghaffi Folie Douce yn sicr yn

uchafbwyntiau. Gobeithio bydd taith sgïo’r CFfI flwyddyn nesaf yr un mor llwyddiannus a difyr!”

w I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.nfyfc.org.uk/yfcski

YMUNWCH AG ANTUR 2015 YN YR EIRA! Peidiwch â cholli cyfle i fwynhau taith sgïo 2015 –mae trefnydd Outgoing yn derbyn archebion am y gweithgaredd mŴyaf cŵl yng nghalendr y CFfI!BLE: Tignes, Rhone-Alpes, FfraincPRYD: Sadwrn 3 Ionawr – Sadwrn 10 Ionawr 2015.TEITHIO: Bydd y pecyn sylfaenol yn cynnwys teithio ar fws moethus, teithiau’r fferi a’r holl drethi a llogau. Gall aelodau fynd yno yn eu ceir hefyd, ac os bydd grwpiau yn teithio gyda’i gilydd, gall Outgoing ddarparu llyfrau tywys ac awgrymiadau ynghylch llefydd i stopio.BETH: Mae Tignes yn addas i sgiwyr ar bob lefel. Mae parthau arbennig lle gorfodir cyfyngiadau cyflymder yn gaeth ynghyd â llethrau cefn heriol a mannau rhagorol oddi ar y prif lethrau. Yn ogystal â’r sgïo yn ystod y dydd, gallwch fwynhau digon o hwyl ‘après ski’ hefyd, ynghyd â phryd ar y mynydd a noson am ddim i Ffermwyr Ifanc yng nghlwb nos Melting Pot, yng nghwmni troellwr blaenllaw.COST: £399 neu ragorSUT I ARCHEBU: Bydd Outgoing yn y Gynhadledd Flynyddol ym mis Mai a byddant yn derbyn archebion ar y diwrnod. Bydd gwybodaeth hefyd yn cael ei chyhoeddi ar dudalen we www.outgoing.co.uk/trip/yfcski15 yn ystod penwythnos y Gynhadledd.

Page 9: Ten26 (Welsh translation)

Angen atebion, ond mae amseryn brin?

Defnyddiwch ein gwefan AM DDIM i gael atebionhttp://technicalsolutions.nwfagriculture.co.uk

www.nwfagriculture.co.uk@NWFAgriculture

Ffôn: 0800 756 2787

Mae NWF yn falch o gael cefnogi Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc. Mae NWF yn gyflenwr blaenllaw bwyd anifeiliaid cnoi cil ar draws y DU, a bydd yn gweithio’n agos â ffermwyr da byw i gynnig arbenigedd a chyngor technegol. Mae Atebion Technegol, Gweithdai Arwyddion Gwartheg a Chyfarfodydd Llaethyddiaeth yn rai o’r gweithgareddau allweddol a gynhelir trwy gydol y flwyddyn, a chynlluniwyd gweithdai penodol i ffermwyr ifanc.

• Mae’r wefan yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch bwyd a rheoli ffermydd ar gyfer ffermwyr llaeth, bîff a defaid

• Mae’n cynnwys pynciau tymhorol, ymchwil ac atebion

• Gellir holi cwestiynau trwy ffonau clyfar, cyfrifiaduron tabled neu liniaduron

FEEDS SUCCESS

AGRICULTURE

Page 10: Ten26 (Welsh translation)

F f C C F f I Y N C Y F L W Y NO

10 TEN26

BLACKPOOL 2014

Y GYNHADLEDD

FLYNYDDOL 2014A fyddwch yn ymuno â pharti CFfI mwyaf y flwyddyn? Peidiwch â phoeni os ydych wedi methu’r dyddiad cau i archebu ymlaen llaw, gallwch dalu ar y diwrnod. Dewch i gael golwg ar dri diwrnod o hwyl anhygoel y CFfI!

YR ARLWY NOS WENER: Bydd Jameela Jamil yn cychwyn y penwythnos gyda’r band Boomin yn y digwyddiad Gwisg Ffurfiol

NOS SADWRN: Noson parti gwisgoedd ffansi CFfI yng nghwmni rhagor o sêr BBC Radio 1, Edith Bowman ac Aled Haydn Jones. Adloniant gan grŴp dynwared Queen.

NOS SUL: Bydd troellwyr Radio 1 Scott Mills a Chris Stark yn creu cyffro yn ystod y noson crysau clybiau. Bydd y Tzars hefyd yn perfformio.

#yfcagm

*I brynu tocynnau, bydd rhaid ichi fod wedi’ch cofrestru ar gronfa ddata aelodau FfCCFfI erbyn 14 Mawrth 2014

Page 11: Ten26 (Welsh translation)

TEN26 11

NO

DD

WY

D G A N M A S S E Y F E R G U S O N

Y GYNHADLEDD

FLYNYDDOL 2014Y CYSTADLAETHAU

DYDD SADWRN: Aelod HŴn Gorau’r Flwyddyn a rownd derfynol y cystadlaethau adloniant. Cystadlwch hefyd yng Nghystadleuaeth Cwis Tafarn CFfI, chwarddwch yng nghwmni ein digrifwr a rhowch gynnig ar ennill £100 yn ein Pencampwriaethau Dartiau!

DYDD SUL: Rowndiau terfynol cystadlaethau’r Côr a Dawnsio Disgo.

FFORWM AGRI, DYDD SADWRN, 10.30AMFfermwyr Ifanc a Thechnoleg – Addasu Ffermio at y Dyfodol. Siaradwyr gwadd o eCow, RASE a Massey Ferguson!

GWEFAN NEWYDD

Mynwch holl newyddion diweddaraf y Gynhadledd ar wefan newydd y

Gynhadledd flynyddol, www.yfcconvention.org.uk

Mae’n addas i ffonau symudo, felly cadwch mewn cysylltiad pan fyddwch ar grwydr. Bydd diweddariadau trwy gydol y penwythnos yn ogystal â’ch

holl luniau a’ch fideo i’w rhannu. Cadwch y wefan ar eich ffôn

clyfar nawr!

Cofiwch wisgo rhywbeth sy’n cychwyn â’r llythrennau Y, F neu C ar y nos

Sadwrn!

Mwynhewch ddisgowntiau yn ffair bleser

Blackpool!

Page 12: Ten26 (Welsh translation)

Cyngor Ŵyna Defnyddiol

Cyngor defnyddiolgan Volac i’chcynorthwyo trwy’rtymor ŵyna

Eich cynorthwyo i fagu ŵyn cryf ac iach

Erthyglau arbenniggan YmgynghoryddDefaid ADAS,Kate Phillips

ParatoiCam 1

ŴynNewdd-anedig

Cam 2

BwydoCam 3

Mae Cynnwys Fideo Hefyd

www.lamlac.co.uk

Yncynnwys

C

M

Y

CM

MY

CY

CMY

K

V1 A1131 Ten26 Lamlac Advert in Welsh 180314 R0 PRINT.pdf 1 19/03/2014 11:36

Page 13: Ten26 (Welsh translation)

#YFCAGRI

GWLANOGMae ffermio defaid yn fwy na busnes, mae’n ffordd o fyw. Mae pedwar ffermwr ifanc yn egluro sut byddant yn ymdopi â phleserau ac anawsterau Ŵyna.

TEN26 13

JOE HAMER, CFFI RAY VALLEYFI: Bu fy nhad farw pan oeddwn yn dair oed, ac fe wnaeth fy ewythr droi rhan o’r fferm yn gwrs golff, gan adael 300 erw o dir ffermio. Cynyddais y fferm unwaith yn rhagor ar ôl gadael coleg, a bellach, rwyf yn gyfrifol am 250 o famogiaid a byddaf yn dysgu’n rhan amser yng Ngholeg Reaseheath.HERIAU: Pan fydd y larwm yn canu am 5 y bore a bydd rhaid ichi fynd allan at y defaid, byddwch yn gwybod na chewch ddychwelyd i’ch gwely tan 7 neu 8 o’r gloch yr hwyr!PLESERAU: Byddaf yn mwynhau addysgu pobl eraill, ac efallai gwnaf werthu’r defaid yn y dyfodol i ganolbwyntio ar hyn. GWYBODAETH: Ar ôl bod yn y coleg, gweithiais fel bugail o dan gytundeb i rywun arall, ac roeddwn yn gyfrifol am 20,000 o ŵyn stôr. Cynilais fy nghyflog a phrynais ragor o ddefaid.

ALEXANDRA MACKELLAR, CFFI RIDWAREFI: Rwy’n gweithio’n rhan amser ar fferm y teulu, ac fe wnes i a fy mrawd Bryce ŵyna 70 ym mis Ionawr, 500 ym mis Mawrth a 50 o ŵyn benyw ym mis Ebrill. Mae ein diadell yn un caeedig, felly byddwn yn prynu hyrddod yn unig i sicrhau nad oes clefydau.HERIAU: Y pwysau i sicrhau fod pob oen yn goroesi, ond ni allwch atal rhai pethau rhag digwydd.PLESERAU: Y llynedd, ganwyd oen ym mis Mehefin! Fe wnaeth un o’r defaid Hampshire Down fynd i ganol defaid fy rhieni, felly fe wnaethom greu brid newydd!GWYBODAETH: Astudiais amaethyddiaeth yn Reaseheath, a fi oedd yr aelod CFfI cyntaf a ddewiswyd i wneud ysgoloriaeth Novartis yn Seland Newydd.

KATY DAVIES, CFFI LLANFYNYDDFI: Rwyf yn gweithio ar fferm fy nheulu, ac mae gennym tua 300 o famogiaid sy’n rhai pedigri yn bennaf, yn cynnwys defaid Cheviot a bridiau prin.HERIAU: Mae’n heriol ond yn bleserus hefyd. Byddaf yn gyfrifol am y shifft nos fel arfer, a byddaf yn bwrw golwg drostynt bob dwy awr rhwng 10pm a 6am pan fydd mam yn cymryd drosodd. Os bydd gennym ŵyn gwan, byddwn yn codi bob awr i’w bwydo.PLESERAU: Eu gweld yn prancio ar hyd y cae! Byddaf yn hoffi dilyn eu cylch bywyd, o ddewis hyrddod a defaid i’w troi allan.GWYBODAETH: Fe wnes i gymhwyster HNC mewn Amaethyddiaeth, ond mae cyngor ychwanegol yn wastad yn ddefnyddiol.

DOETHINEB

SARAH BLACKLOCK, CFFI AYLESBURYFI: Rwy’n hunangyflogedig a byddaf yn ŵyna i bobl eraill am dri mis a hanner eleni.HERIAU: Pan fydd y tywydd yn oer a gwlyb a’r ŵyn yn gorwedd yn y mwd, byddwch yn holi pam rydych yn gwneud y gwaith!PLESERAU: Bydd gweld yr ŵyn yn prancio a neidio yn y caeau pan fydd heulwen yn sicrhau fod y gwaith caled yn werth chweil.GWYBODAETH: Fe wnaeth fy ewythr fy nysgu sut i droi oen allan am y tro cyntaf pan oeddwn yn 12 oed. Rwyf wedi dysgu popeth gan ffermwyr neu trwy fynd i gyfarfodydd milfeddygol. Os bydd gennyf broblem, byddaf yn darllen llyfrau ac yn defnyddio’r rhyngrwyd.

Llun

trw

y ga

redi

grw

ydd

Stu

dent

Far

mer

Page 14: Ten26 (Welsh translation)

#FLOODS

CYMORTH I BORTHIPAN DDAETH CRI AM GYMORTH GAN FFERMWYR

GWLAD YR HAF YN YSTOD ARGYFWNG Y LLIFOGYDD,

FE WNAETH Y FFERMWYR IFANC ACHUB Y DYDD...

14 TEN26

ESSEX HELP: Ed Ford helped

collect forage donations

GWLAD YR HAF: Cymorth ymarferol yn y sir

Page 15: Ten26 (Welsh translation)

CYMORTH I BORTHI

TRYDARIADAUJames Winslade @westyeo: “Mae ymateb y CFfI wedi bod yn anhygoel.”

Lydia May French@LydiaMayFrench“Pan welwch bawb yn cyd-dynnu, byddwch yn teimlo’n falch o fod yn rhan o’r ffermwyr ifanc.”

Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog @countrysidefund“Mae’n wych gweld ffermwyr ifanc yn dod ynghyd i helpu’r sawl y mae llifogydd Gwlad yr Haf wedi effeithio arnynt.”

TEN26 15

Byddai achub gwartheg yng ngolau’r lloer o fferm sydd dan ddŵr yn her sylweddol i’r rhan fwyaf. Ond roedd hi’n sefyllfa o raid i Ffermwyr Ifanc Gwlad yr Haf pan

wnaethant dorchi llewys i gynorthwyo eu cymuned leol yn ystod un o’r gaeafau gwlypaf a gofnodwyd.

Wrth i lefelau’r dŵr barhau i godi, fe wnaeth y sefyllfa ddenu sylw’r cyfryngau cenedlaethol. Ond nid oedd y delweddau trist yn yr adroddiadau newyddion yn ddim byd o’u cymharu â sefyllfa go iawn y sawl oedd yn wynebu’r anhrefn.

Mae Rachel Dyer, Cadeirydd CFfI Bridgewater, yn byw tua 15 munud oddi wrth y cymunedau yr effeithiwyd arnynt, a dywedodd ei fod yn ddinistriol dros ben. “Bu’n ofnadwy – roedd cartrefi cymaint o bobl dan ddŵr.

“Mae ein clwb wedi bod yn gwneud popeth a allwn i helpu pobl. Mae ein haelodau wedi cynorthwyo i symud gwartheg o ffermydd lleol, ac maent wedi cyfrannu at y gwaith o gludo porthiant a gyfrannwyd i ffermydd. Bellach, rydym yn cymryd rhan yn yr ymdrech glanhau sylweddol.”

Tra’r oedd Ffederasiwn Gwlad yr Haf yn brysur yn llenwi bagiau tywod ac yn cynorthwyo i symud anifeiliaid, fe wnaeth CFfI eraill ledled Cymru a Lloegr ymateb hefyd. Ed Ford o FfCCFfI Essex oedd un o’r rhai cyntaf i gynnig cymorth ar ôl iddo glywed Joy Davenport sy’n aelod yng Ngwlad

yr Haf yn trafod y llifogydd yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Chwefror. Dywedodd Ed, Is-gadeirydd FfCFfI Essex: “Roedd hi’n drist clywed fod ffermwyr eraill yn ei chael hi’n anodd, felly fe wnes i benderfynu cychwyn casglu porthiant yn Essex i’w roi i ffermwyr Gwlad yr Haf.”

Erbyn y noson honno. Roedd Ed wedi denu cymorth gan y CFfI lleol a ffermwyr yr ardal. Pan aeth y newyddion ar led, cafwyd llu o addewidion, ac ar un adeg, roedd 40 o ffermwyr yn gweithio ar fferm Ed yn Brentwood i baratoi’r cyfraniadau i’w hanfon i Wlad yr Haf.

“Roedd ymateb y diwydiant yn anhygoel. Roedd pawb yn dymuno helpu. Cyfrannwyd silwair, gwair, bwyd anifeiliaid, ac arian hefyd. Mae’n debyg ein bod wedi casglu gwerth o leiaf £20,000 o borthiant a gwerth £7,000 ychwanegol o gyfraniadau ariannol,” meddai Ed, a wnaeth hefyd sicrhau cymorth Tesco i gludo’r cyfraniadau i Wlad yr Haf.

Synnwyd FfCFfI Gwlad yr Haf, ffermwyr y sir a sefydliadau amlwg y diwydiant gan gymorth a haelioni’r ffermwyr ifanc.

Dywedodd Joy Davenport: “Roedd yn wych dros ben. Pan gychwynnais siarad yng nghyfarfod y Cyngor, roeddwn ar fin wylo. Roedd y cymorth a gafwyd gan gyd-ffermwyr ifanc yn anhygoel.”

Trowch i’r dudalen nesaf i weld sut gwnaeth y CFfI gynorthwyo yn ystod argyfwng y llifogydd.

GLANHAU: Mae clybiau Gwlad yr Haf yn cychwyn y gwaith

glanhau

Page 16: Ten26 (Welsh translation)

SUT

GW

NAE

TH C

LYBI

AU F

FERM

WYR

IFAN

C O

BO

B CW

R O

GYM

RU A

LLO

EGR

GYN

ORT

HW

YO G

WLA

D Y

R H

AF

RH

AN

BA

RTH

GO

RLL

EWIN

Y

CA

NO

LBA

RTH

Fe w

naet

h C

FfI

Wor

mle

ight

on g

asgl

u da

u lw

yth

o bo

rthi

ant

a ch

ynni

g cy

nort

hwyo

â’r

gwai

th g

lanh

au. F

e w

naet

h C

FfI

Val

e of

Eve

sham

gyn

nal

noso

n sg

itls

a s

wpe

r a c

hodw

yd £

87

0.

Fe w

naet

h Ff

CFf

I S

wyd

d S

taff

ord

gasg

lu p

orth

iant

ar d

raw

s y

sir d

iolc

h i

gyfr

ania

dau

aelo

dau

a ch

ymor

th

Cym

deit

has

Am

aeth

yddo

l Sw

ydd

Sta

ffor

d ac

UC

A S

wyd

d S

taff

ord.

Fe

wna

eth

FfC

FfI

Sw

ydd

Am

wyt

hig

anfo

n 1

10

tun

nell

o bo

rthi

ant

gan

dros

50

o

ffer

mw

yr i

Wla

d yr

Had

ar 1

0 t

rela

r.

RH

AN

BA

RTH

DW

YR

AIN

Y

CA

NO

LBA

RTH

Fe w

naet

h C

FfI

Cor

ring

ham

gas

glu

bwyd

ani

feili

aid,

dill

ad i’

r ffe

rmw

yr

a £

50

0 m

ewn

aria

n pa

rod

i bry

nu

rhag

or o

gyf

lenw

adau

. Fe

wna

eth

CFf

I H

ope

Val

ley

gyfr

annu

£3

50

o

elw

ei d

disg

o D

ydd

San

t Ff

olan

t. Fe

wna

eth

CFf

I O

undl

e an

fon

14

llw

yth,

a c

haw

sant

gyf

rani

adau

gan

ae

loda

u bl

aeno

rol a

phr

esen

nol –

yn

cyn

nwys

rhai

oed

d yn

ael

odau

dr

os 3

0 m

lyne

dd y

n ôl

.

RH

AN

BA

RTH

Y G

OG

LED

DY

n S

wyd

d D

urha

m, f

e w

naet

h Ti

m S

edge

wic

k, H

enry

Hut

chin

son

a B

en L

ayfie

ld g

ydw

eith

io i

ofyn

am

gym

orth

gan

ffer

mw

yr

a ch

ludw

yr ll

eol.

Fe w

naet

h C

FfI

Bor

ough

brid

ge d

eith

io 5

30

m

illti

r i W

lad

yr H

af a

c od

di y

no i

glud

o 3

7 o

fyrn

au g

wel

lt. F

e w

naet

h C

FfI

Eden

Val

ley

sicr

hau

bwyd

ani

feili

aid

a ch

ludi

ant

– fe

w

naet

h –

John

Met

calf

, Geo

rge

Sla

ck, J

ames

Bar

racl

ough

, Am

y S

win

bank

ac

Emm

a M

etca

lf g

yfra

nnu

at y

gw

aith

. Fe

wna

eth

CFf

I C

awth

orne

gas

glu

gwai

r a s

ilwai

r cyn

iddy

nt g

ael e

u cl

udo

22

5

mill

tir â

thr

acto

r a t

hrel

ar, a

c fe

wna

eth

CFf

I D

onca

ster

gyf

rann

u ho

ll el

w e

i nos

on ra

sys

a’i d

daw

ns-g

inio

i gy

nort

hwyo

’r ym

gyrc

h.

CY

MR

UC

odod

d C

FfI

Llys

-y-f

rân

£1

,26

7 i

gefn

ogi f

ferm

wyr

Gw

lad

yr H

af. F

e w

naet

h C

FfI

Pen-

y-bo

nt a

r Ogw

r gyn

nal

daw

ns S

ant

Ffol

ant

i god

i ari

an a

t yr

ym

gyrc

h. C

Ffl F

e w

naet

h C

FfI

Cym

ru a

C

FfI

Dyf

fryn

Tyw

i gyn

nal c

ynge

rdd

yn

neua

dd P

onta

rgot

hi, a

cha

sglw

yd £

35

0.

Fe w

naet

h C

FfI

Mor

gann

wg

gynn

al

gwei

thga

redd

cod

i ari

an a

r y c

yd a

g U

CA

Mor

gann

wg

a ch

asgl

wyd

£2

0,0

00

.

Page 17: Ten26 (Welsh translation)

YR

YM

DR

ECH

GLA

NH

AU

Mae

FfC

CFf

I a

FfC

FfI

Gw

lad

yr H

af y

n ce

isio

’r ca

nlyn

ol i

help

u â’

r gw

aith

gla

nhau

: • G

rwpi

au o

4-8

o b

obl,

y m

ae’n

rhai

d id

dynt

fod

dros

18

oed

ac

ag A

rwei

nydd

Tîm

(un

neu

dda

u lo

nd c

ar)

• Dyl

ai’r

holl

wir

fodd

olw

yr fo

d w

edi d

iwed

daru

eu

pigi

adau

tet

anw

s.I

addo

cym

orth

, e-b

osti

wch

floo

dhel

p@nf

yfc.

org.

uk a

nod

wch

: 1. M

anyl

ion

cysw

llt ll

awn

yr A

rwei

nydd

Tîm

2. N

ifer y

gw

irfo

ddol

wyr

(t

imau

o 4

-8 y

n dd

elfr

ydol

) 3

. Dyd

diad

au p

an fy

dd y

grŴ

p ar

gae

l i w

irfo

ddol

i.Ew

ch i

ww

w.n

fyfc

.org

.uk/

floo

ds i

gael

rhag

or o

wyb

odae

th. I

add

o po

rthi

ant,

e-bo

stiw

ch s

outh

.wes

t@nf

u.or

g.uk

neu

ffon

iwch

01

39

2 4

40

70

0.

RH

AN

BA

RTH

Y D

E-O

RLL

EWIN

Fe

wna

eth

CFf

I C

ulm

Val

ley

yn

Nyf

nain

t go

di £

20

0 t

rwy

gynn

al

disg

o â

them

a ‘L

lach

ar a

Thy

nn’.

Fe w

naet

h C

FfI

Hon

iton

god

i £

4,5

00

trw

y gy

nnal

per

ffor

mia

d o’

i gyn

hyrc

hiad

Gog

gleb

ox a

th

rwy

Arw

erth

iant

Add

ewid

ion.

C

yfra

nnw

yd h

anne

r yr a

rian

at

Wla

d yr

Haf

a’r

gwed

dill

at

elus

en D

iabe

tes

UK

. Fe

wna

eth

CFf

I A

xmin

ster

gyn

nal b

recw

ast

maw

r a c

hasg

lwyd

dro

s £

1,2

23

tr

wy

wer

thu

23

0 b

recw

ast.

RH

AN

BA

RTH

Y D

E-D

DW

YR

AIN

Fe w

naet

h C

FfI

Ham

pshi

re

gasg

lu t

ri ll

wyt

h o

bort

hian

t ac

fe

wna

eth

dau

aelo

d, C

hris

Gra

y a

Ric

hard

Mor

gan,

yrr

u 9

7 m

illti

r i

Wla

d yr

Haf

i’w

glu

do. D

ywed

odd

Chr

is: “

Gof

ynna

is i

ffer

mw

yr ll

eol

a fy

ddan

t yn

fodl

on c

yfra

nnu

ychy

dig

o fy

rnau

.”

RH

AN

BA

RTH

GO

RLL

EWIN

Y

CA

NO

LBA

RTH

Fe w

naet

h C

FfI

Wor

mle

ight

on g

asgl

u da

u lw

yth

o bo

rthi

ant

a ch

ynni

g cy

nort

hwyo

â’r

gwai

th g

lanh

au. F

e w

naet

h C

FfI

Val

e of

Eve

sham

gyn

nal

noso

n sg

itls

a s

wpe

r a c

hodw

yd £

87

0.

Fe w

naet

h Ff

CFf

I S

wyd

d S

taff

ord

gasg

lu p

orth

iant

ar d

raw

s y

sir d

iolc

h i

gyfr

ania

dau

aelo

dau

a ch

ymor

th

Cym

deit

has

Am

aeth

yddo

l Sw

ydd

Sta

ffor

d ac

UC

A S

wyd

d S

taff

ord.

Fe

wna

eth

FfC

FfI

Sw

ydd

Am

wyt

hig

anfo

n 1

10

tun

nell

o bo

rthi

ant

gan

dros

50

o

ffer

mw

yr i

Wla

d yr

Had

ar 1

0 t

rela

r.

GW

LAD

YR

HA

FFe

wna

eth

clyb

iau

help

u i s

ymud

gw

arth

eg

o’r f

ferm

ydd

oedd

dan

ddŴ

r a ll

enw

i bag

iau

tyw

od, a

c m

aent

wed

i bod

yn

casg

lu

cyfr

ania

dau

ac y

n he

lpu

i gyd

lynu

’r gw

aith

cl

udo.

Mae

nt h

efyd

yn

codi

ari

an a

c yn

cy

dlyn

u’r g

wai

th g

lanh

au. F

e w

naet

h C

FfI

Gw

lad

yr H

af g

asgl

u dr

os 1

25

o fy

rnau

(pu

m

llwyt

h) g

wai

r, si

lwai

r a g

wel

lt a

gyf

rann

wyd

ga

n ff

erm

wyr

lleo

l.

RH

AN

BA

RTH

Y D

WY

RA

INFe

wna

eth

Luke

Abb

litt,

Cad

eiry

dd

FfC

FfI

Sw

ydd

Cae

rgra

wnt

, a J

on

Eayr

s, y

cyn

-gad

eiry

dd, g

asgl

u cy

fran

iada

u ac

fe w

naet

h C

FfI

Ram

sey

gynn

al n

oson

ffilm

iau

a go

dodd

£2

60

ar g

yfer

ffer

mw

yr

Gw

lad

yr H

af. F

e w

naet

h Ff

CFf

I S

uffo

lk g

asgl

u 2

4 ll

wyt

h lo

ri o

bo

rthi

ant,

gwai

r, gw

ellt

a b

wyd

an

ifeili

aid,

a’u

clu

do. F

e w

naet

h C

FfI

St

Alb

ans

a C

FfI

Gog

ledd

Sw

ydd

Her

tfor

d ga

sglu

add

ewid

ion

o bo

b cw

r o’r

sir.

Fe w

naet

h Ff

CFf

I Es

sex

gasg

lu c

yfra

niad

au p

orth

iant

ac

aria

n gw

erth

dro

s £

25

,00

0 a

r ffe

rm

Ed F

ord.

Dae

th C

FfI

Tem

e V

alle

y a

CFf

I O

rlet

on y

nghy

d i g

ludo

dau

lw

yth

trel

ar o

bor

thia

nt.

TEN26 17

Page 18: Ten26 (Welsh translation)

#RURALPLUS

18 TEN26

MATERION GWLEDIGDangosodd yr arolwg fod ffermwyr ifanc yn bryderus ynghylch:l Enillion isel o ffermio (58%)l Clefydau anifeiliaid megis TB

gwartheg a firws Schmallenberg (59%)

l Ansicrwydd ynghylch proffidioldeb ffermio yn y dyfodol (54%)

l Diffyg cyfleoedd gwaith yng nghefn gwlad

l Diffyg cyfalaf/argaeledd cyllid (41%) a rhenti tir uchel (45%)

l Incwm isel (50%) a methu cynilo

Model a welir yn y llun

Page 19: Ten26 (Welsh translation)

TEN26 19

TRECHU UNIGEDD YNG NGHEFN GWLADMAE YMGYRCH NEWYDD GAN FFCCFFI YN GWELLA YMWYBYDDIAETH YNGHYLCH IECHYD MEDDWL AC YN HERIO CLYBIAU I WEITHREDU

Pan geisiodd tad Claire Worden ladd ei hun ddwy flynedd yn ôl, amlygwyd realiti iechyd meddyliol

mewn ffordd ysgytiol iawn.“Wedi argyfwng clwy’r traed

a’r genau 10 mlynedd yn ôl, fe wnaethom roi’r gorau i ffermio,” meddai Claire, Cadeirydd Cyngor Cenedlaethol FfCCFfI. “Ni oedd fy nhad erioed wedi gwneud unrhyw waith arall, ac yn ddisymwth, ni oedd ffermio yn rhan o’i fywyd. Roedd yn llwyddiannus iawn â’i swyddi eraill, ond un diwrnod, aeth ar goll ac fe geisiodd ladd ei hun.”

Fe wnaeth tad Claire oroesi, ond mae effaith y diwrnod hwnnw yn dal i’w deimlo. Dyma un o’r rhesymau pam dymunai Claire lansio ymgyrch sy’n

canolbwyntio ar iechyd meddwl, oherwydd fe ŵyr ei fod yn bwnc y bydd yn well gan bobl osgoi ei drafod.

“Roedd fy nhad yn ffermwr nodweddiadol na rannai ei broblemau ag eraill, ond mae’n barod i wneud hynny nawr. Mae angen inni newid meddylfryd y genhedlaeth iau fel gallant siarad am eu problemau.”

Nod yr ymgyrch newydd – o’r enw Rural+ – yw amlygu’r heriau unigryw a wynebir gan bobl ifanc sy’n byw yn ardaloedd gwledig y DU.

Fe wnaeth arolwg diweddar gan Rwydwaith Cymunedol Ffermio ddangos fod ieuenctid cefn gwlad yn ymdopi â llu o bryderon!

Roedd diffyg cyfleoedd gwaith, diffyg incwm ac ansicrwydd

DEUNYDDIAU RURAL+

Mae TAMA, arweinydd y byd ym maes cynhyrchu deunyddiau lapio cnydau,

yn cefnogi ymgyrch FfCCFfI trwy noddi deunyddiau y gall clybiau a siroedd eu

defnyddio. Cafodd yr holl glybiau ganllawiau a phosteri Rural+ fel rhan o’r deunyddiau a anfonwyd i glybiau yn y gwanwyn. Ewch i

www.nfyfc.org.uk/ruralplusI lawrlwytho posteri a chanllawiau

ychwanegol.

Page 20: Ten26 (Welsh translation)

#RURALPLUS

20 TEN26

Mae’r pum llo a saif ar fuarth James Hosking yn fwy na dim ond gwartheg y dyfodol.

Maent yn arwydd o obaith yn ystod cyfnod o rai blynyddoedd trallodus i’r dyn ifanc 21 oed a’i deulu.

Galwad ffôn yn ystod y nos chwe blynedd yn ôl oedd cychwyn taith anodd James. Roedd ei fodryb wedi cwympo i lawr y grisiau, a phan aeth ei rieni i’w chynorthwyo yn Essex, cychwynnodd blwyddyn a hanner llawn straen iddo. Bu’n rhaid i James a’i dad weithio ar y fferm yn eu tro tra’r oedd y llall yn helpu ei fodryb. Roedd James yn absennol o’r ysgol yn rheolaidd a gweithiai ddiwrnodau hir yn llafurio ar y fferm laeth.

Erbyn i James ddathlu ei ben-blwydd yn 17, roedd y pwysau yn cynyddu. Roedd y diwydiant llaeth yn dirywio ac roedd y fferm yn colli arian.

“Fe wnaeth fy nhad a minnau gychwyn suddo tua chwe mis cyn inni werthu’r gwartheg,” eglurodd James, sy’n cael ei adnabod gan ei ffrindiau fel Pasty. “Teimlai fel bod rhaid inni ddal ati, bod pethau’n digwydd a dyna fo, a bydd rhaid ichi ymdopi â hynny.”

Er bod eu ffrindiau agos wedi parhau yn ffyddlon i James a’i deulu, sylweddolodd y byddai eraill yn osgoi

siarad â hwy. Byddai ffrindiau yr arferai

James siarad â hwy yn y dafarn osgoi cyswllt llygaid a byddent yn ‘diflannu’ cyn iddo gael cyfle i fyn i siarad â hwy.

“Pan aeth popeth o’i le, teimlai fel bod haint arnom. Fe wnaethom sylweddoli pwy yw ein ffrindiau go iawn. Anfonai pobl lai o wahoddiadau atom ac fe wnaethant roi’r gorau i gynnig eu cymorth inni, a gwnaeth hynny wneud inni deimlo’n fwy unig fyth. Teimlai nad oedd pobl yn dymuno bod yn agos atom oherwydd roeddent yn gwybod fod pethau’n ansefydlog.

“Wrth edrych yn ôl, credaf fod hynny wedi digwydd oherwydd ni wyddai pobl beth i’w ddweud.

Ni fyddant yn gwybod sut i ymateb ichi pan fyddwch mewn helynt ac yn isel eich ysbryd.”

Roedd James wedi bod yn aelod

gweithgar o CFfI St Buryan, ond wrth i’w iselder waethygu, peidiodd â chymdeithasu. Ar ôl gwerthu’r gwartheg, cafodd swydd yn Aylesbury a cheisiodd adael y fferm.

“Yn feddyliol ac yn gorfforol, ni allai fy nhad na minnau ymdopi ddim rhagor. Ceisiais ddianc oddi wrth y problemau, ond daethant gyda fi. Roeddwn yn dal yn isel fy ysbryd a sylweddolais nad oedd dim byd roeddwn yn ei wneud yn fy nghynorthwyo. Dychwelais gartref ac euthum i weld meddyg.”

Ychydig ar ôl dychwelyd adref, fe wnaeth James hefyd gymryd rhan mewn sgwrs ar-lein ar Twitter ynghylch iechyd meddwl, ble rhannodd ei stori ag eraill. Roedd

“Dihangais ond daeth y problemau gyda fi” Fe wnaeth ceisio ymdopi â phwysau ffermio a damwain deuluol wneud i James ‘Pasty’ Hosking deimlo’n unig, heb unrhyw ddihangfa

HAPPY: James’new calves mark the start of a brighter future (below) in the empty cow shed

Page 21: Ten26 (Welsh translation)

TEN26 21

hynny’n drobwynt. “Roedd pawb wedi synnu.

Nid oedd pobl roeddwn i wedi’u hadnabod ers blynyddoedd, megis Claire Worden (Cadeirydd y Cyngor Cenedlaethol), wedi sylwi pa mor ddrwg oeddwn i wedi bod,” meddai James. “Sylweddolais nad oeddwn ar fy mhen fy hun ac na ddylai’r pethau hyn ddigwydd i bobl.”

Er hynny, mae James wedi canfod gwaith ar ffermydd cyfagos ac mae ei dad wedi ennill cymwysterau newydd i’w gynorthwyo i ganfod gwaith hefyd. Mae James yn gobeithio y gall adfer y fferm un diwrnod, ac mae’r lloi yn ddechrau newydd.

“Chwarddai pawb arnaf pan brynais bum llo yn unig yn y farchnad. Fodd bynnag, roeddwn yn dymuno gweld anifeiliaid ar y fferm unwaith yn rhagor, oherwydd tyfais i fyny gyda hwy. Mae’n dda eu gweld yma ac maent yn cynnig gobaith i’r dyfodol i mi.”

ynghylch proffidioldeb ffermio yn y dyfodol ymhlith y prif bryderon i

bobl ifanc cefn gwlad.Fe wnaeth dros hanner yr

atebwyr hefyd ddweud fod diffyg tai yng nghefn gwlad yn bryder hefyd, ynghyd â chynllun olyniaeth ar gyfer fferm eu teulu. Dim ond naw y cant o deuluoedd oedd wedi cytuno ar gynllun ynghylch rhedeg y fferm yn y dyfodol, hyd yn oed.

Dywedodd Charles Smith, Prif Weithredwr FCN: “Yn anffodus, cadarnhaodd yr arolwg mai ychydig iawn o deuluoedd sy’n trafod olyniaeth a dyfodol fferm eu teulu yn agored. Ynghyd â’r anawsterau y bydd nifer ohonynt yn ei wynebu â pherthnasau teuluol a diffyg hunan-barch, efallai yn sgil diffyg eglurder ynghylch eu dyfodol, mae angen gwneud llawer iawn o waith i gefnogi ein ffermwyr ifanc.”

Yn ychwanegol at heriau penodol cefn gwlad, mae ffermwyr ifanc hefyd yn rhannu llawer o bryderon sydd gan bobl ifanc yn fwy cyffredinol, megis diffyg hunan barch a phryderon ynghylch delwedd eu corff (47% a 45% yn eu trefn).

Yn galonogol, fe wnaeth yr arolwg ddangos y byddai 47% o atebwyr yn fodlon siarad â rhywun yn eu CFfI pe bai ganddynt broblem ymarferol - a byddai 77% yn siarad ag aelod o’u teulu neu ffrind.

Gan weithio ar y cyd ag FCN ac Young Minds, mae FfCCFfI wedi anfon adnoddau a chanllawiau at glybiau fel gallant drafod materion iechyd meddwl yn agored. Gellir defnyddio’r posteri a’r cardiau a noddir gan TAMA i gychwyn y drafodaeth ynghylch Rural+ mewn clybiau.

Dywedodd Claire: “Cefais fy magu mewn ardal wledig ddiarffordd yng Nghernyw, ond roeddwn yn ffodus, oherwydd ymunais â Chlwb Ffermwyr Ifanc, a chynigai fywyd cymdeithasol, cymorth a chyfeillgarwch i mi. Mae angen inni roi’r gair ar led ynghylch manteision y CFfI!

“Byddwn oll yn wynebu cyfnodau heriol, ond os byddwn yn gwybod pryd fydd angen cymorth arnom ni neu ar ein ffrindiau, bydd yn gam cyntaf tuag at ddatrys problem cyn iddi fod yn rhy hwyr.”

Mynnwch gymorth Mae Rhwydwaith Cymuned Ffermio ar gael i unrhyw un sy’n wynebu anawsterau – ffoniwch 0845 367 9990 neu e-bostiwch [email protected]. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch ymgyrch Rural+ a rhagor o gysylltiadau ar gael yn www.nfyfc.org.uk/ruralplus

3 DULL O GEFNOGI RURAL+l Canfyddwch pwy yw

eich cysylltiadau lleol a all gefnogi pobl ifanc â materion iechyd meddwl, megis Rhwydwaith Cymuned Ffermio, y GIG neu sefydliad tebyg.

l Trefnwch noson clwb ynghylch iechyd meddwl a gwahoddwch un o’r cysylltiadau uchod i redeg y sesiwn.

l Hyrwyddwch y CFfI yn eich cymuned leol i annog rhagor o bobl ifanc cefn gwlad i gyfranogi a deall sut gall y CFfI gynorthwyo i drechu ymdeimlad o unigedd yng nghefn gwlad trwy ein rhaglen gweithgareddau amrywiol.

Os byddwch yn defnyddio Twitter, defnyddiwch #ruralplus wrth drydar am iechyd meddwl

Page 22: Ten26 (Welsh translation)

22 TEN26

Fe wnaeth newid gyrfa olygu fod Emily Sharlot o CFfI Long Itchington yn gallu gweithio mewn diwydiant sy’n agos at ei chalon fel un o Reolwyr Cynhyrchion Cyflenwol AGCO Parts

Pan gyrhaeddaf y swyddfa, fel arfer, bydd pentwr o e-byst a chamau gweithredu i roi trefn arnynt mewn perthynas â digwyddiad pwysig rydym yn ei gynnal.

Rwy’n gwneud y gwaith ers ychydig fisoedd yn unig, felly mae’n dal yn eithaf newydd imi. Hyfforddais i fod yn dirfesurydd siartredig, a symudais i weithio i AGCO wythnos ar ôl cymhwyso!

Pan fyddwch yn 17 oed, bydd hi’n anodd gwybod pa lwybr i’w ddilyn. Fe wnes i radd Rheoli Tir yn Harper Adams, cefais swydd

ar ystâd ac yna penderfynais nad tirfesur oedd yr yrfa iawn i mi.

Pan welais hysbyseb am y swydd hon gan AGCO, roedd yn apelio’n fawr ataf. Roeddwn wedi gweithio yma am chwe mis ar ôl graddio, a mwynheais y gwaith yn fawr. Rhoddodd gipolwg imi ar sawl un o feysydd gwaith arweinydd y farchnad, felly penderfynais newid llwybr gyrfa.

Rwy’n gyfrifol am y Cynhyrchion Cyflenwol a werthir gennym yn y 120 busnes sy’n gwerthu ein pedwar brand ar draws y DU ac

Iwerddon - Massey Ferguson, fendt, Valtra Challenger, sector busnes sydd â throsiant o £25 miliwn. Maent yn cynnwys amrywiaeth o gynhyrchion gan nifer o gyflenwyr, megis esgidiau glaw, deunyddiau ffensio a batris. Rwyf yn gyfrifol am dargedau gwerthu a gaiff eu cyflawni trwy gyd-drafod â chyflenwyr a threfnu gweithgareddau hyrwyddo da sy’n bwysig i helpu ein gwerthwyr ddatblygu eu busnes. Rhaid imi weithio’n agos â’r tîm gwerthu hefyd, a byddwn yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd i drafod cynnydd gyda’r unigolion allweddol.

8.30AM

9.30AM

Y SWYDD

RHEOLWRCYNHYRCHION

Diwrnod ym mywyd...

Page 23: Ten26 (Welsh translation)

Y bore hwn, byddaf yn cyfarfod

ag un o’n cynhyrchwyr i drafod

gwerthiant cynhyrchion a sut

gallwn ddatblygu’r busnes

ymhellach. Mae angen ichi fod

yn dda am drafod, ac mae’n well

datgan eich dymuniadau yn

uniongyrchol yn y cyfarfodydd

hyn. Yn sicr, mae CFfI wedi

sicrhau fod gennyf sgiliau yn

y maes hwn, ac ar ôl cymryd

rhan yn y cystadlaethau Siarad

Cyhoeddus, rwyf yn llawer iawn

mwy hyderus.

Rwyf wrth fy modd â’r cyfleoedd

i gwrdd â phobl a gaf yn sgil fy

ngwaith, a heddiw, rwyf wedi

trefnu i ymweld â busnes gwerthu

yn Southam, Swydd Warwick.

Hwn yw’r cyfarfod cyntaf y byddaf

yn mynd iddo yn annibynnol heb

fy rheolwr, ond fel rhan allweddol

o’r gwaith, dyma’r cyfarfod cyntaf

o blith llawer.

Fel merch ffermwr llaeth,

rwy’n gwybod cryn dipyn am

y diwydiant, sy’n aml yn peri

syndod i’r gwerthwyr! Rhaid ichi

brofi eich hunan, oherwydd mae

dynion yn dominyddu’r diwydiant

hwn. Mae’r rheolwr cydrannau yn

dangos ei storfa imi, ac rwy’n

awyddus i sicrhau fod popeth

wedi’i frandio’n iawn a bod

nwyddau ein cynhyrchwyr

i’w gweld. Roeddwn yn

dymuno gweithio ym maes

amaethyddiaeth ond nid oeddwn

yn dymuno gweithio ar fferm,

felly mae hyn yn berffaith i mi.

Gallaf fwynhau’r gorau o ddau

fyd, oherwydd mae gennyf

swyddfa a chyfle i fynd allan i

drafod materion amaethyddol

â’r gwerthwyr neu yn un o’n

ffatrïoedd.

Mae digonedd o waith cynllunio

ar gyfer ein digwyddiad ‘Discover

AGCO’ tri diwrnod yn yr NEC

– dyma ddigwyddiad mwyaf

AGCO eleni yn y DU ac

Iwerddon. Rwy’n trefnu’r

stondinau a’r offer ar

gyfer holl gyflenwyr ein

cynhyrchion cyflenwol, a

all olygu popeth o archebu

lle o faint priodol i sicrhau

fod ganddynt gyflenwad

trydan. Bydd 10,000 o bobl

yn mynychu, fell mae llawer

o waith trefnu ar ben y llwyth

gwaith beunyddiol.

Rwyf wedi neilltuo ychydig

o amser ar gyfer cyflwyniad

y byddaf yn ei roi i griw o

Ffermwyr Ifanc. Mae AGCO Parts

bellach yn noddi Fforwm Ieuenctid

FfCCFfI, ac edrychaf ymlaen at

ofalu am y bartneriaeth hon hefyd.

Byddaf yn canfod faint mae’r

aelodau iau yn ei wybod am AGCO

Parts. Mae arnom eisiau datblygu

eu gwybodaeth a’u sgiliau o

ran gwasanaeth ac ansawdd y

cynhyrchion a gynigir gennym.

Fel rhywun sy’n Ffermwr Ifanc,

mae’n dda cael ymwneud â’r

Ffederasiwn wrth fy ngwaith hefyd.

Bydd yn deimlad rhyfedd mynd i’r

gynhadledd flynyddol i weithio yn

lle dathlu gyda fy ffrindiau CFfI!

Er nad yw fy ngwaith yn swydd

8.30 – 5.00 arferol, mae hi

bellach yn amser mynd adref, a

heno, rwyf yn gadael yn brydlon

fel gallaf fynd i’r hyfforddiant

tynnu rhaff gyda CFfI Long

Itchington, i baratoi at Rali Sirol

Swydd Warwick.

Yn ogystal â’r sgiliau

cymdeithasol, mae CFfI hefyd

wedi bod yn ddefnyddiol o ran

gwelliannau i fy nhŵ newydd!

Nid yw pawb yn y CFfI yn

ffermwr – rydym yn adnabod

plymwr, tradanwr a pheiriannydd

gwresogi. Nid ydym wedi cwrdd â

phlastrwr hyd yma!

TEN26 23

11.30AM

2PM

SICRHEWCH Y SWYDD

Sicrhewch swydd ym maes

gwerthiannau amaethyddol ag

ychydig o gymorth y CFfI

l Gwnewch gwrs datblygu

arweinyddiaeth i’ch cynorthwyo

i ddatblygu hyder a sgiliau

rheoli www.nfyfc.org.uk/

leadershipdevelopment

l Cyfranogwch yn sesiynau

hyfforddi Curve i’ch cynorthwyo

â Chyllidebau Digwyddiadau,

gwella eich dulliau cyfathrebu

trwy’r cwrs Cyfathrebu Gwych

a datblygu eich rhestr o

gysylltiadau trwy’r sesiwn

Hanfodion Rhwydweithio. www.

nfyfc.org.uk/thecurve

w I gael rhagor o wybodaeth am AGCO Parts,

ewch i www.agcocorp.com

Roedd yn wych cwrdd â’r Fforwm

Ieuenctid yn ystod eu Penwythnos

Preswyl yn Swydd heffordd

3.30PM

5PM

Page 24: Ten26 (Welsh translation)

24 TEN26

UCHAFBWYNTIAU

5 O BETHAU GWYCH MAE FfCCFfI

Mae taliadau aelodaeth yn cwmpasu llai na hanner costau rhedeg FfCCFfI, ond serch hynny, cynigir llawer iawn o weithgareddau a digwyddiadau. Darllenwch am y pum prif faes y bydd FfCCFfI yn sicrhau gwerth sylweddol am arian i chi...

2HYFFORDDIANT A GWAITH IEUENCTID

#YFCTRAININGMae datblygiad personol yn FfCCFfI yn un o gonglfeini’r mudiad. Mae amrywiaeth o gyfleoedd ar gael i wella sgiliau trwy becyn hyfforddi arbennig Curve, cynlluniau arweinyddiaeth, a chysylltiadau â’r diwydiant i ddatblygu hyfforddiant amaethyddol penodol.

Bydd yr holl glybiau yn elwa ar gyngor ac adnoddau ynghylch diogelu a pholisïau sy’n cynorthwyo i warchod pobl ifanc a sicrhau eich bod yn cadw at reoliadau’r Llywodraeth.

Bydd cyllid gan ymddiriedolaethau a chyrff y Llywodraeth megis Defra yn cynorthwyo â rhai meysydd hyfforddi.

YN EU CYNNIG I’W AELODAU

1CYSTADLAETHAU #YFCCOMPSTrefnir 33 cystadleuaeth

genedlaethol i aelodau yn 2014 – yn ogystal â rowndiau rhanbarthol y cystadlaethau Siarad Cyhoeddus ac Adloniant. Cynhelir y rhain mewn gwahanol leoliadau trwy gydol y wlad, yn cynnwys Sioe Fawr Swydd

Efrog a Sioe Tenbury. Bydd angen llogi meysydd chwaraeon, theatrau ac offer yn ogystal â threfnu beirniaid, gwobrau a thlysau. Cafwyd nawdd i rai cystadlaethau penodol dros y blynyddoedd, a byddwn yn wastad yn chwilio am gyfleoedd yn y maes hwn.

Page 25: Ten26 (Welsh translation)

TEN26 25

3TEITHIO #YFCTRAVELMae rhaglen unigryw Teithiau CFfI yn cynnig cyfle i aelodau ddysgu

am wahanol ddiwylliannau trwy gyfranogi mewn rhaglen cyfnewid rhyngwladol. Mae’r holl lefydd ar ein teithiau naill ai am ddim neu wedi’u cymorthdalu, sy’n cynnig cyfleoedd anhygoel i aelodau weld y byd. Mae Ymddiriedolaeth Elusennol NFU Mutual yn cynnig cymorth tuag at gostau’r rhaglen teithiau.

4MATERION AMAETHYDDOL #YFCAGRI

Bydd y Ffederasiwn yn sicrhau y caiff lleisiau Ffermwyr Ifanc eu cynrychioli ledled y diwydiant trwy fynychu digwyddiadau, trafod â sefydliadau blaenllaw a siarad â’r Llywodraeth. Mae grantiau penodol ar gael i ariannu’r rhan hon o waith y Ffederasiwn, fel gall ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr.

Caiff y cyfle i Ffermwyr Ifanc gael ei gynrychioli ar Gyngor Ffermwyr Ifanc Ewrop ei noddi ar hyn o bryd gan Hops Labour Solutions a Mole Valley Farmers.

5CYFATHREBU #YFCBUZZMae hysbysu’r Ffermwyr Ifanc am holl waith FfCCFfI yn orchwyl ddyddiol, ac mae’n

cynnwys cyfryngau cymdeithasol, cyhoeddiadau ar y wefan, cylchlythyrau e-bost a chyhoeddiadau printiedig. Ceir cyllid i ariannu rhai o’r rhain. Yn 2013, dywedodd yr aelodau wrthym mai Ten26 a YFC Buzz oedd eu hoff ddulliau cyfathrebu.

CYNNYDD ARFAETHEDIG YN Y TÂL AELODAETH Yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Chwefror, fe wnaeth eich Cyngor etholedig gynnig cynnydd o 20% yn y tâl aelodaeth cenedlaethol hol y bydd aelodau yn ei dalu i fod yn rhan o’r Ffederasiwn Cenedlaethol.

Nid yw’r tâl wedi cynyddu ers dwy flynedd, ond mae angen rhagor o gyllid i sicrhau y gall y Ffederasiwn gynnig lefel o wasanaethau sydd yr un fath â’r hyn a gaiff aelodau heddiw. Mae newidiadau i gangen fasnachol FfCCFfI yn golygu na all y Ffederasiwn ddibynnu ar ei lefel incwm blaenorol i lenwi’r bwlch - hyd yn oed â chynnydd o 20% mewn tâl aelodaeth. Trafodir materion ariannol y Ffederasiwn yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 11 Mai, a gwahoddir pob aelod i holi cwestiynau a bwrw eu pleidlais.

#yfcagm #yfcdemocracy

Page 26: Ten26 (Welsh translation)

FFORWMFFORWMIEUENCTIDIEUENCTID

Roedd glaw trwm a welingtons mwdlyd yn gyfuniad perffaith yn ystod penwythnos o hwyl beicio cwad a saethu colomennod clai. Gweithgaredd Preswyl y Fforwm Ieuenctid, yn ddi-os...

Holwch y Ffermwyr Ifanc beth yw uchafbwynt eu calendr CFfI ac mae’n debyg mai’r Gynhadledd Flynyddol fydd ar y

brig. Ond mae digwyddiad newydd yn cystadlu yn ei herbyn ac mae’n boblogaidd iawn ymhlith aelodau sydd dan 20 oed.

Er bod Gweithgaredd Preswyl y Fforwm Ieuenctid yn ddigwyddiad di-alcohol, mae’n debyg i’r Gynhadledd yn yr ystyr y bydd yn dod ag aelodau o bob cwr o Gymru a Lloegr ynghyd i gael hwyl. Eleni, roedd y penwythnos yn cynnwys diwrnod yn Oaker Wood Leisure yn Swydd Henffordd yn saethu colomennod clai a beicio cwad, dwy noson mewn gwesty a chyfarfod ar y dydd Sul i rannu syniadau.

Fe wnaeth Freddie Wooton, 16 oed, o CFfI Blunham yn Swydd Bedford, ymuno â’r Fforwm Ieuenctid

y llynedd ar ôl iddo gyrraedd rownd derfynol Cystadleuaeth Aelod Iau Gorau’r Flwyddyn 2013. Er ei fod wedi mynychu cyfarfodydd y Fforwm, hwn oedd ei benwythnos preswyl cyntaf yng nghwmni’r criw.

“Mae hyn yn llawer difyrrach na’r cyfarfodydd - mae’n glawio ac yn fwdlyd ac rydym ar gefn beiciau cwad,” chwarddodd Freddie, sy’n paratoi at ei arholiadau TGAU ar hyn o bryd. “Mae’n wych cael cwrdd â phobl

IEUENCTID

o bob cwr o’r wlad.”Cychwynnodd y Fforwm ieuenctid

yn 2010, ac roedd Tom Collison, 18 oed, o CFfI Terrington yn Norfolk, yn un o’r aelodau cyntaf.

“Rydym wedi datblygu o fod yn grŵp o bobl sy’n cwrdd a rhannu syniadau i fod yn griw sy’n gwireddu prosiectau megis SuperMoo. Rydym wedi sicrhau stondin hefyd yn Ffair Helwriaeth y CLA, ble byddwn yn cynnal gornest saethu colomenod clai am wobrau.”

Dywedodd Tom fod cyfleoedd fel gwneud cyflwyniad i’r CLA wedi cynorthwyo ei ddatblygiad personol.

26 TEN26

ADDAWOL

Noddwyd gan AGCO Parts

Page 27: Ten26 (Welsh translation)

TEN26 27

“Mae’r Fforwm Ieuenctid wedi rhoi hwb go iawn i fy hyder trwy wneud pethau fel siarad yng nghyfarfodydd y Cyngor, trafod syniadau a rhoi cyflwyniadau i sefydliadau pwysig fel y CLA.”

Yn ogystal â chael ei gydnabod gan Gyngor FfCCFfI fel grŵp llywio swyddogol, mae’r Fforwm Ieuenctid yn creu diddordeb sylweddol yn y diwydiant hefyd. Mae AGCO Parts, prif wneuthurwyr offer amaethyddol y byd, yn noddi’r Fforwm fel gall ddysgu rhagor am y genhedlaeth nesaf o ffermwyr.

Aeth cynrychiolwyr AGCO i’r Fforwm Ieuenctid i sgwrsio ag aelodau ynghylch eu cynlluniau ac i gyflwyno’r cwmni.

Dywedodd David Howe, Rheolwr Busnes Cynhyrchion Cyflenwol, EAME, Is-adran Cydrannau AGCO:

“Fe wnaiff y cymorth hwn roi

cyfle i Ffermwyr Ifanc a’r Fforwm Ieuenctid yn enwedig i gwrdd a rhannu phrofiadau â’r tîm yn AGCO – ond bydd hefyd yn gyfle i ni weld a gwrando ar safbwyntiau, syniadau a diddordebau ysgogwyr dyfodol ein diwydiant.”

Yn ystod y penwythnos, fe wnaeth y grŵp ethol ei Gadeirydd cyntaf, Sioned Davies, 19 oed, o CFfI Dyffryn Edw, a dwy Is-gadeirydd,

Danielle McNulty o CFFI Painswich a Helen Brown o CFfI Caerliwelydd.

Dywedodd Sioned fod gan y Fforwm Ieuenctid blatfform ffurfiol erbyn hyn i ddylanwau ar benderfyniadau’r Cyngor a grwpiau llywio eraill,” meddai Sioned. “Mae cael nawdd gan AGCO bellach yn atgyfnerthu’r ffaith fod barn aelodau iau yn bwysig, ac rwy’n falch o gael cynorthwyo i’w hyrwyddo.”

FFEITHIAUDarllenwch y ffeithiau hyn am Gadeirydd cyntaf y Fforwm Ieuenctid, Sioned Davies o

CFfI Dyffryn Edw.

1 Mae Sioned yn rhan o’r CFfI ers pan oedd yn

10 oed ac mae wedi bod yn gadeirydd ei Fforwm Ieuenctid Sirol ac mae newydd gwblhau dwy flynedd fel Cadeirydd Fforwm Ieuenctid Cymru.

2Ar hyn o bryd, mae Sioned yn astudio yng

Ngholeg y Brenin yn Llundain, a dywed fod y CFfI yn ei chynorthwyo i gadw mewn cysylltiad â chefn gwlad.

3Eleni, bydd Sioned yn mynd i’r Gynhadledd

Flynyddol yn Blackpool am y tro cyntaf.

“MAE’R FFORWM IEUENCTID WEDI RHOI HWB GO IAWN I FY HYDER”

Page 28: Ten26 (Welsh translation)

DDIM AR TWITTER?

PEIDIWCH AG OEDI!

DYMA EIN DEWIS O BLITH

Y PRIF DRYDARWYR!

TRYDARWCH!

@rachey_milner

@NFYFC Rwy’n caru’r CFfI

oherwydd cwrddais â fy

ffrindiau pennaf yno, cariad

mawr i bawb ar y Dydd

Sant Ffolant hwn! #loveyfc

#ruralplus

14 Chwefror 2014

@claudiabayley

Bydd @NFYFCAGM mor

gyffrous imi!! @scott_mills

@Chris_Stark Methu

disgwyl!!!

#yfc #agm

10 Chwefror 2014

@Joesphine_95

Methu disgwyl i gael mynd

i’r Iseldiroedd gyda @

NFYFC a oes unrhyw un

arall yn mynd?? #travel

24 Ionawr 2014

@W_P_YFC

CFfI Wareham a Purbeck

Noson hyfforddi arall ar ben

barod am y daith i

Blackpool #yfcagm

20 Ionawr 2014

Drama AurWedi 50 mlynedd o bantomeimau, fe wnaeth CFfI

Wymondham ddathlu ei hanner canmlwyddiant

â pherfformiad arbennig o Frankenstein a

chyflwyniad o sioeau o’r pum degawd diwethaf.

Daeth dros 800 o bobl ynghyd i weld hanner

canfed sioe Wymondham a gychwynnwyd gan

un o sylfaenwyr y clwb, Dennis Long. Dywedodd

un o’r aelodau, Luke Wing: “Hyderwn y

bydd ein pantomeimau yn draddodiad

blynyddol am flynyddoedd lawer, gan

gynorthwyo aelodau CFfI i oresgyn eu hofn

o siarad cyhoeddus a rhoi’r cyfle i lawer

ohonynt fagu hyder.”

HERIO’R OERFEL I GODI ARIANAr waethaf tywydd oer iawn Dydd San Steffan yn Seaton, ni wnaeth aelodau dewr CFfI Dyfnaint adael i hynny eu rhwystro rhag mentro i mewn i’r dyfroedd rhewllyd i godi arian ar gyfer y badau achub lleol. Fe wnaeth pedwar aelod o CFfI Axminster godi £500 i Sefydliad Brenhinol y Badau Achub (RNLI) trwy nawdd a gan gefnogwyr hael ar y diwrnod.Dywedodd Ella Wittridge, Ysgrifenyddes Gwaith Elusennol y Clwb: “Dewisom gefnogi’r RNLI oherwydd fe wnaethant helpu i achub dau o aelodau ein Clwb pan aeth eu cwch i ddyfroedd dyfnion yn gynharach eleni. Diolch i bawb a fentrodd ac i bawb a gyfrannodd at achos mor deilwng.”

Y DE-ORLLEWIN

EICHEICHBLOEDDBLOEDD

HOLL NEWYDDION Y CLYBIAU A

SYLWADAU O RANBARTHAU CFFI

PARTH CFFI

DWYRAIN Y CANOLBARTH

Page 29: Ten26 (Welsh translation)

Mae Ffermwyr Ifanc yn Swydd Warwick wedi codi miloedd ar gyfer hosbis lleol ar ôl cynnal

diwrnod o hwyl i deuluoedd, oedd yn cynnwys gornest Tynnu’r Gelyn ar draws Afon Avon.

Fe wnaeth CFfI Wormleighton godi ychydig o dan £3,000 ar gyfer Hosbis Katherine House, ac roedd y digwyddiadau eraill yn cynnwys rasys ŵyn, taflu byrnau a reslo swmo.

Dywedodd Amy Brown, cyn-gadeirydd CFfI Wormleighton:

“Bydd tynnu’r gelyn yn cael ei gymryd o ddifrif yn Swydd Warwick, felly roedd yn braf cael mwynhau cystadleuaeth ysgafn. Bydd elfen yr afon yn denu tyrfa dda bob tro, ac roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn cefnogi eu timau.

Ychwanegodd Amy: “Rwy’n falch iawn ein bod yn gallu cyfrannu bron iawn £3,000 i Hosbis Katherine House, ac yn sicr, mae gwaith caled ein aelodau wedi talu. Mae wedi ein hysbrydoli i sicrhau fod digwyddiad y flwyddyn nesaf yn well fyth.”

TEN26 29

HWYL TEULUOLHosbis lleol yn elwa ar ddiwrnod hwyl Swydd Warwick

ENW’R CLWB: CFfI Silsden with Skipton

NIFER YR AELODAU: 50

DISGRIFIWCH EICH CLWB MEWN 3 GAIR: Rhadlon, cystadleuol ac ymroddedig

CYFARFOD GORAU: Sgwrs a chyflwyniad gan gigydd ynghylch sut i gigydda oen.

FFAITH DDIFYR: Mae 80% o aelodau’r clwb yn ferched!

CYSTADLEUAETH ORAU: Barnu stoc a chwaraeon. Fe wnaethom ennill rownd lleol y chwaraeon, ac fe wnaeth ein tîm ennill y cystadlaethau badminton, rygbi, hoci a’r digwyddiad. Clwb SWS a gafodd yr holl dlysau lleol!

PROFIAD BALCHAF Y CLWB: Ennill gwobr y clwb gorau am farnu stoc yn Swydd Efrog gyfan.

CLWB CAMPUSBob mis yn YFC Buzz, byddwn yn dewis Clwb y Mis. Dyma glwb campus diweddarf!

A hoffech chi frolio am eich clwb

gwych? E-bostiwch [email protected] i ymddangos yn y rhifyn nesaf.

e

GORLLEWIN Y CANOLBARTH

“Bydd tynnu’r gelyn yn cael ei gymryd o ddifrif

yn Swydd Warwick, felly roedd yn braf cael mwynhau cystadleuaeth ysgafn!”

SILS

DEN

W

ITH SKIPTON YFC

H Y O R K S H I R E

H

Page 30: Ten26 (Welsh translation)

PRIODAS YN HWB I

PARTH CFFI

CORNEL ELUSENNAU

Miri mwstashis PWY: CFfI Ramsey a Cottenham yn

Swydd Caergrawnt

ELUSEN: Movember – digwyddiad

byd-eang blynyddol a gynhelir i wella

ymwybyddiaeth o faterion iechyd

dynion, megis canser y prostad a’r

ceilliau.

GWEITHGAREDD: Fe wnaethant gynnal

parti a raffl ar y cyd, ac fe wnaeth yr holl

aelodau dyfu mwstas neu lynu mwstas

ffug ar eu hwyneb. Fe wnaethant godi

£700 i’r elusen.

EU SYLWADAU: “Dyma elusen sy’n

agos iawn at ein calonnau, oherwydd

mae ffrindiau ac aelodau teulu llawer

o’n haelodau wedi dioddef gan ganser y

prostad, ac roedd y bechgyn yn awyddus

iawn i gyfranogi. Rydym yn gobeithio

cynnal y digwyddiad eto eleni.”

Y DWYRAIN

Roedd digon o hwyl y Nadolig yng Nghaint pan wnaeth CFfI Ashford fynd â hamperi Nadolig i’r henoed yn eu cymuned leol. Fe wnaeth y Ffermwyr Ifanc addurno a chludo 20 o hamperi Nadolig a lenwyd â chynnyrch a roddwyd gan Fferm Perry Court.

Dywedodd Jess Weeks, Cadeirydd Clwb Ashford: “Rhoi yw hanfod

y Nadolig, a byddwn bob amser yn ceisio cefnogi aelodau llai ffodus ein cymuned. Gall fod yn gyfnod anodd ac unig i’r henoed y gwnaethom roi’r hamperi iddynt, ond fe wnaethom sicrhau ychydig o lawenydd y Nadolig iddynt ac roedd nifer yn falch o’r cyfle i gael sgwrs.”

Hamperi o’r galon

Dewch i giniawa gyda’r CFfI

Eleni, fe wnaeth clybiau o bob cwr o Swydd Stafford

drefnu eu fersiwn eu hunain o raglen Channel

4, Come Dine with Me. Fe wnaeth CFfI Ridware

gychwyn y profiad bwyta ar ddiwedd mis Ionawr,

ac yna, fe wnaeth naw clwb arall gynnal cinio yn

eu tro. Fe wnaeth y ciniawyr roi sgôr allan o 10 i

adloniant a bwyd bob noson, a chyhoeddwyd y

canlyniadau terfynol yn ystod noson arbennig

yn swyddfeydd Ffederasiwn Swydd Stafford. Fe

wnaeth yr aelodau oedd yn cyfranogi dalu £2 y

pen am bob swper, a rhannwyd y cyfanswm rhwng

y clybiau a ddaeth yn gyntaf, ail a thrydydd. Tom

Taberner o CFfI Ridware oedd yn gyfrifol am syniad

y gystadleuaeth, a dywed:

“Pa well ffordd i annog

clybiau i gymdeithasu

na trwy gyfuno bwyd ac

adloniant mewn lleoliad

o’u dewis.”

HER PLYGU PERTHIMae her plygu perthi wedi bod yn cadw sgiliau traddodiadol yn fyw yn un o siroedd y De-orllewin. Fe wnaeth 30 o bobl gymryd rhan yn y gystadleuaeth, a drefnwyd gan CFfI Wareham a Purbeck. Roedd yn cynnwys adrannau dechreuwyr, canolradd ac uwch, a gofynnwyd i gystadleuwyr blygu perth ar gyfer defaid neu wartheg. Yna, cawsant eu beirniadu ar lwyddiant eu perth i gyflawni’r meini prawf. Dywedodd y trefnydd Megan Marshall: “Roedd yn rhywbeth ychydig yn wahanol, ond mae’n dda gweld pobl yn cyfranogi. Mantais y gystadleuaeth hon yw’r ffaith fod rhywbeth i bawb, fell gall dechreuwyr weithio gyda phroffesiynolion a dysgu sgiliau newydd ganddynt.”

GORLLEWIN Y CANOLBARTH

DE-ORLLEWIN

Y DE-ORLLEWIN

Page 31: Ten26 (Welsh translation)

GOFFRAU CLWBPRIODAS YN HWB I

Hwyl a sbri priodas o’r Gorllewin Gwyllt yng Nghymru

TEN26 31

v

Dathlu 80 mlynedd Mae CFfI Elwick a’r Cylch yn dangos nad maint yw popeth wrth iddynt ddathlu ei 80fed pen-blwydd â dim ond 20 aelod ond llu o orchestion. Fe wnaeth y clwb o Swydd Durham ennill llu o wobrau yn y Rali Sirol y llynedd, yn cynnwys gwobr y clwb bach gorau. Fe wnaeth y Clwb ychwanegu at y wobr hon trwy ddod yn brif bencampwyr y rali. Maent yn llwyddo mewn meysydd eraill yn ogystal â chystadlaethau: fe wnaeth y Clwb godi dros £1500 at Ymchwil Canser yn 2013 ac maent yn gobeithio rhagori ar hyn yn 2014.

Fe wnaeth priodas â

thema’r Gorllewin Gwyllt

godi miloedd o bunnoedd

i CFfI Rhaeadr ym

Maesyfed.

Fe wnaeth deugain o aelodau

presennol a chyn-aelodau

gymryd rhan yn y sgets priodas

– Gwyneth Lewis, ysgrifenyddes

y clwb, oedd y briodferch swil, a’r

cyn-gadeirydd Roger Lewis oedd

y priodfab.

Roedd y briodas hefyd yn

cynnwys dawnswyr llinell,

unawdydd ac arwerthiant

caethweision, a chafodd aelodau

CFfI eu harwerthu fel anrhegion

priodas, a chasglwyd cyfanswm

o £3,500.

Dywedodd Lynwen Thomas,

Swyddog y Wasg CFfI Rhaeadr:

“Roedd hi’n wych gweld cymaint

o aelodau presennol a chyn-

aelodau yn uno i drefnu noson

wych o adloniant a chodi swm

sylweddol o arian. Dyma’r tro

cyntaf inni gynnal digwyddiad

codi arian o’r fath, ac rydym yn

gobeithio datblygu’r syniad yn y

dyfodol.

CYMRU

Y GOGLEDD

“Roedd hi’n wych gweld cymaint o aelodau

presennol a chyn-aelodau yn cyfranogi”

A OES GENNYCH STORI?!A HOFFECH WELD HANES EICH CLWB YN Y CYLCHGRAWN? ANFONWCH EICH LLUNIAU A’CH HANESION AT:

[email protected] neu ffoniwch 02476 857200 i siarad â’r tîm!

Page 32: Ten26 (Welsh translation)

Enillwch 4,500 milltir o danwydd!

Gwobr 1af4,500 milltir o danwydd*

Mae Tama, arweinydd y byd yn y gwaith o gynhyrchu nwyddau lapio cnydau, wedi dod ynghyd gyda FfCCFfI i gynnig gwobr wych o 4,500 milltir o danwydd i ffermwyr ifanc. Mae’n gyfle anhygoel i gadw eich tanc yn llawn am ychydig at ddibenion gwaith neu i fynd â chi i nifer o ddigwyddiadau a chystadlaethau CFfI! Mae cyfle hefyd i ennill nifer o gilwobrau.

Farm Grown Solutionswww.tama-uat.co.uk/young-farmers-clubs

* Telerau ac amodau (uchafswm gwerth o £800) Gall enillydd y wobr gyntaf neu aelod o’i deulu uniongyrchol hawlio’r tanwydd. Rhaid i gystadleuwyr fod yn aelodau presennol o Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc. Bydd y gystadleuaeth yn cau ar ddiwedd Cynhadledd Flynyddol CFfI yn Blackpool, ddydd Sul 11 Mai.

Sut i gystadluEwch i wefan Tama: www.tama-uat.co.uk/young-farmers-clubs ac agorwch dudalen y CFfI. Yno, fe welwch ddolen at y gystadleuaeth. Nodwch eich enw, eich cyfeiriad, rhif cyswllt ac enw eich CFfI lleol. Mae’n syml! Gallwch hyd yn oed gystadlu ar ein stondin yng Nghynhadledd Flynyddol CFfI ym mis Mai.

rhoddir dwy gilwobr – talebau itunes gwerth £25

2il Wobr