Swansea Grand Theatre (2014)
-
Upload
bbc-national-orchestra-chorus-of-wales -
Category
Documents
-
view
230 -
download
5
description
Transcript of Swansea Grand Theatre (2014)
Tymor Cyngherddau Abertawe 2014
0800 052 1812 bbc.co.uk/now 01792 475715 swanseagrand.co.uk
Croeso i Theatr y Grand Abertawe
Croeso i dymor cyngherddau Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn Abertawe. Eleni rydym yn edrych ymlaen at droedio’r llwyfan yn Theatr y Grand, yn ystod ailwampio Neuadd Brangwyn – ond byddwch dawel eich meddyliau, byddwn yn ein holau yn ein hannwyl Neuadd Brangwyn pan ailagora yn hydref 2014.
Mae gennym chwe chyngerdd ar eich cyfer yn cynnwys hoff glasuron ynghyd â rhai pethau prin. Bydd rhes o arweinwyr rhyngwladol yn cyfarwyddo’r perfformiadau, gan gynnwys ein Prif Arweinydd ein hunain Thomas Søndergård, ac mae’r unawdwyr y tymor yma, unwaith yn Artistiaid y Genhedlaeth Newydd y BBC Radio 3, bellach ymhlith perfformwyr ifainc blaenllaw’r byd.
Gobeithio’n wir y dewch aton ni i’r hyn sy’n addo bod yn dymor symbylol a difyr.
Mae’r llyfryn yma ar gael hefyd mewn print bras ac ar dâp i bobol â nam ar eu golwg. I gael copïau, cysylltwch â ni ar 0800 052 1812, neu ysgrifennu atom yn: Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, RHADBOST SWC2803, Caerdydd, CF5 2GZ, neu e-bostio:[email protected]
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBCNoddwr HRH The Prince of Wales KG KT PC GCBPrif Arweinydd Thomas SøndergårdArweinydd Llawryfog Tadaaki Otaka CBECyfansoddwr Cysylltiedig Simon HoltCyfansoddwr Preswyl Mark Bowden
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBCCyfarwyddwr Artistig Adrian Partington
CynnwysCyngherddau Theatr y Grand Abertawe tud 4-10
Cyngherddau Neuadd Hoddinott y BBC tud 11-12
Pecynnau a Gwybodaeth am Archebu Tocynnau tud 13-14
Dyddiadur Cyngherddau 2013-14 tud 15
Mae’r holl wybodaeth yn y llyfryn yma yn gywir ar adeg mynd i’r wasg. Fodd bynnag, o ganlyniad i ofynion darlledu, neu am reswm da arall, ceidw Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yr hawl i wneud newidiadau lle bo angen a heb rybudd ymlaen llaw. Os digwydd y fath beth byddem yn ymddiheuro am unrhyw drafferth a achoswyd ac yn rhoi ar ddeall i chi ei fod heb effeithio ar eich hawliau statudol fel defnyddiwr.
Y dyluniad gan Adran Graffeg BBC Cymru Wales Y lluniau © Huw John a Betina Skovbro Disgrifiadau’r cyngherddau gan Peter Reynolds Y cyfieithiad Cymraeg gan Annes Gruffydd
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBCNeuadd Hoddinott y BBC, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF10 5AL
1 2
GWENER 31.01.2014, 7.30pm
LISZT Prometheus
RÓZSA Concerto Fiola
DVORÁK Symffoni Rhif 9 (From the New World)
Arweinydd Anu TaliFiola Lawrence Power
Cyfansoddodd Miklós Rózsa rai o sgorau ffilm mwyaf Hollywood, megis Ben Hur, yn ogystal â dod â swyn y sgrin arian
at ei weithiau cyngerdd – dewch aton ni i gael cyfle prin i glywed ei Concerto Fiola rhamantaidd. Dyma gychwyn y tymor yn wefreiddiol
â Symffoni New World Dvorák, sy’n byrlymu gan fywiogrwydd Americanaidd a dwyster Tsiec, dan arweiniad Anu Tali.
Artistiaid y Genhedlaeth Newydd BBC Radio 3
Symffoni New World Dvořák
Y tymor yma bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn perfformio yn Abertawe ochr yn ochr â chyn-aelodau o gynllun Artistiaid y Genhedlaeth Newydd BBC Radio 3 – ac un o gyn-aelodau’r cynllun yn perfformio ym mhob un o’n chwe chyngerdd.
Mae cynllun Artistiaid y Genhedlaeth Newydd Radio 3 yn gymorth i gefnogi cerddorion dawnus i gyrraedd y camau nesaf ar eu gyrfaoedd, ac mae’n dod â pheth o ddawn fwyaf addawol y byd i wrandawyr trwy hyd a lled gwledydd Prydain drwy ddarllediadau Radio 3. Mae Artistiaid y Genhedlaeth Newydd yn dod o faes eang ac yn cynrychioli’r artistiaid ifainc mwyaf cyffrous o Brydain ac o bedwar ban byd.
Bob hydref mae chwech neu saith o artistiaid neu grwpiau sy’n dechrau gadael eu hôl ar fyd cerdd yn y gwledydd hyn a gweddill y byd yn cael eu gwahodd i ymuno, ac yn rhan o’r cynllun mae’r artistiaid yn ymddangos ledled gwledydd Prydain gyda phum Cerddorfa’r BBC, yn ogystal ag ymddangos yn y BBC Proms ac ar recordiadau stiwdio arbennig.
Bellach ar ei bedwaredd flwyddyn ar ddeg, mae’r cynllun wedi cynhyrchu cyn-aelodau o fri ac rydym wrth ein boddau o weld chwech o’r cyn-aelodau hynny yn ymuno â ni yn Theatr y Grand Abertawe eleni.
Am ragor o wybodaeth ynghylch cynllun Artistiaid y Genhedlaeth Newydd Radio 3 ac i weld cymanfa 2013 sydd newydd ei datgelu ewch i bbc.co.uk/radio3
Abertawe yn 2014 – yn croesawu rhai o gyn-aelodau’r cynllun
31 Ionawr - Lawrence Power (fiola, 2001-2003)21 Chwefror - Alban Gerhardt (soddgrwth, 1999-2001)14 Mawrth - Emily Beynon (ffliwt, 1999-2001)2 Mai - Andrew Kennedy (tenor, 2005-2007)30 Mai - Ailish Tynan (soprano, 2003-2005)20 Mehefin - Jennifer Pike (ffidil, 2008-2010)
Lawrence Power yn chwarae Concerto Fiola RózsaSaethodd enw Lawrence Power i ben uchaf byd cerddoriaeth glasurol yn un o ganwyr fiola blaenllaw’r oes sydd ohoni, a’i ddyddiadur yn orlawn o alwadau gyda llawer o gerddorfeydd blaenllaw’r byd.
Barn y Beirniaid“Mae Lawrence Power yn canu â thôn cyn dywylled â soddgrwth a thechneg mor heini â ffidler – y cyfuniad delfrydol.”
The Observer
3 4
01792 475715 swanseagrand.co.uk
GWENER 21.02.2014, 7.30pm
BARTÓK Divertimento
BARBER Concerto Soddgrwth
MOZART Symffoni Rhif 40
Arweinydd Thomas SøndergårdSoddgrwth Alban Gerhardt
Pan gyfansoddodd ei Ddeugeinfed Symffoni athrist roedd Mozart ar anterth ei greadigedd, serch ei bod yn fain arno a’i blentyn ieuaf wedi marw’n ddiweddar. Daw’r Prif Arweinydd
Thomas Søndergård yn ei ôl i Abertawe i arwain symffoni fawr Mozart a’r Concerto Soddgrwth chwerwfelys gan Samuel Barber,
sydd fwyaf adnabyddus ar gorn ei Adagio i’r Tannau sydd mor annwyl gennym.
Søndergård yn Arwain Mozart
Alban Gerhardt yn chwarae Concerto Soddgrwth BarberMae Alban Gerhardt yn un o soddgrythorion eithriadol yr Almaen, bellach ar ei orau, a’i berfformiadau’n cyfuno ymateb teimladol i’r byw â phresenoldeb llwyfan sy’n hoelio’r sylw.
Barn y Beirniaid“Dyma i chi rywun gwirioneddol arbennig, pencerddor a chanddo dôn atseiniol, gwir gydnawsedd â llinell, bwa staccato medrus a smaldod cerddorol i’w groesawu.”
The Independent
5
GWENER 02.05.2014, 7.30pm
RAVEL Le tombeau de Couperin
BRITTEN Hwyrgan i Denor, Corn a Thannau
DEBUSSY Petite suite
SCHUMANN Symffoni Rhif 1 (Gwanwyn)
Arweinydd Christoph KönigTenor Andrew Kennedy
Corn Tim Thorpe
Mae Andrew Kennedy a Tim Thorpe (Prif Ganwr Corn Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC) wrth law i ganu i’r
gynulleidfa hwyrgan Britten sy’n deffro’r gwyll a’r hwyrnos yn hudol yn y cof. Yn yr awyr agored rydym fyth yn Symffoni Gyntaf
Schumann sydd, chwedl y cyfansoddwr, “yn llawn hiraeth am y gwanwyn a phopeth gwyrdd yn tyfu.”
Hwyrgan y Gwanwyn
GWENER 14.03.2014, 7.30pm
STRAVINSKY Concerto y D (Basle)
CARL VINE Pipe Dreams: Concerto i’r ffliwt a’r tannau
BEETHOVEN Symffoni Rhif 3 (Eroica)
Arweinydd Jurjen Hempel Ffliwt Emily Beynon
Fe fu i Symffoni Eroica Beethoven newid wyneb cerddoriaeth. Ysgubwyd cynulleidfaoedd cynnar gan ei grym elfennol a’i mawredd
arwrol ac felly y mae hi hyd heddiw. Mae Pipe Dreams y cyfansoddwr o Awstralia Carl Vine, a chwaraeir gan y Gymraes Emily Beynon, yn deffro
yn y cof fyd hiraethus meddyliol o synfyfyrdod tyner, tra mae Concerto Stravinsky yn llawn goleuni a gosgeiddrwydd.
Eroica Beethoven
Emily Beynon yn chwarae Concerto Ffliwt Cyntaf MozartMae’r Gymraes Emily Beynon, prif ganwr ffliwt Concertgebouw Amsterdam, wedi rhyddhau rhes o recordiau solo rhyngwladol ac mae newydd ymuno â’r Brodsky Quartet a’r Nash Ensemble mawr eu bri fel gwestai i roi perfformiadau byw trawiadol.
Barn y Beirniaid“Atgofus ... syfrdanol ... nid hawdd cymell cynulleidfaoedd i ddatganiadau ffliwt, ond mae gan Beynon y ddawn i gael gan lawer fynd yn ffrindiau â’i hofferyn.”
The Sunday Times
Andrew Kennedy yn canu Hwyrgan BrittenYn yr wyth mlynedd ers ennill Gwobr Datganiad Rosenblatt BBC Canwr y Byd Caerdydd nid yn unig y daeth clod i ran Andrew Kennedy fel canwr opera ond daeth bron yn gyfystyr â thraddodiad cerddoriaeth Lloegr o Elgar hyd at Britten.
Barn y Beirniaid“Roedd yr unawdwyr Andrew Kennedy a Tim Thorpe yn dal i’r dim yr awyrgylch llymach, annaearol yn aml, sydd i’r gerddoriaeth,. Gyda’i gilydd daethant â drama operatig bron i’r Farwnad a buander hyfryd i ddelweddau hela’r Emyn.”
The Guardian yn sôn am berfformiad Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC o Hwyrgan Britten
7 8
GWENER 30.05.2014, 7.30pm
HAYDN Symffoni Rhif 87
MOZART Ah, lo previdi!
MAHLER Symffoni Rhif 4
Arweinydd Jac van Steen Soprano Ailish Tynan
Disgrifiwyd Pedwaredd Symffoni fwynlais Mahler fel “gwaith i blant ac i’r rheini a ddaw’n blant” a daw i ben mewn
darlun o olwg plentyn ar y Nef, i soprano, a ganir yma gan Ailish Tynan. Mae ei hysbryd clasurol ysgafn gosgeiddig hefyd
i’w glywed yn hwyliau da Haydn ac arnynt flas y pridd, ac yn aria gyngerdd fawr gyntaf Mozart a harddwch tyner ei hadran ganol.
GWENER 20.06.2014, 7.30pm
DVORÁK Agorawd Carnifal
BRUCH Concerto Ffidil Rhif 1
BRAHMS Symffoni Rhif 2
Arweinydd Cornelius Meister Ffidil Jennifer Pike
Dau o weithiau dathliadol mawr: hwyliau da Agorawd Carnival Dvorák nad oes maddau iddynt, a ffresni
gwanwyn a hwyliau llawen Ail Symffoni Brahms, un o’r symffonïau rhamantaidd mwyaf poblogaidd oll. Mae yma hefyd angerdd
glasoed Concerto Ffidil Cyntaf Bruch, gem o gerddoriaeth ffidil ramantaidd, a chwaraeir yma gan Jennifer Pike.
Pedwaredd Symffoni Mahler Ail Symffoni Brahms
Ailish Tynan yn canu MahlerYn ystod y degawd a aeth heibio bu beirniaid yn canmol i’r cymylau gyfuniad Ailish Tynan o ffraethineb Gwyddelig a swyn sionc, ynghlwm â’i llais soprano ffres ac ysgafn ond eto grymus.
Barn y Beirniaid“...Cyfareddol? Roeddwn yn meddwl fy mod wedi mynd i’r nef. Dyna lais. Dyna artist. Dyna ddifyrrwr naturiol.”
The Herald, yr Alban
Jennifer Pike yn chwarae Concerto Ffidil Cyntaf BruchUn o enillwyr cynt Cerddor Ifanc y BBC 2002 a bellach un o ffidleriaid ifainc blaenllaw Prydain.
Barn y Beirniaid“…y mwyaf trawiadol o’r canwyr heb flewyn ar dafod... A chanddi, yn un ar bymtheg oed, gyweirio aruthrol, cyflymdra, rheolaeth ar timbre ac amrywiaeth egni, tynnodd y lle i lawr.”
The Independent
9 10
Cyngherddau yn Neuadd Hoddinott y BBC
AMERICANA
GWENER 18.10.2013, 2pm
JOHN ALDEN CARPENTER Adventures in a perambulator
AARON COPLAND Concerto Piano
WILLIAM SCHuMAN Symffoni Rhif 3
Arweinydd Wilson Hermanto Piano William Wolfram
MAWRTH 19.11.2013, 2pm
NED ROREM Eagles
JOHN ADAMS Gnarly Buttons
DAVID DIAMOND Rounds for String Orchestra
ROY HARRIS Symffoni Rhif 9
Arweinydd Eric Stern Clarinét Mark Simpson
(Artistiad y Genhedlaeth Newydd BBC Radio 3)
LLUN 02.12.2013, 2pm
AARON COPLAND El Salon Mexico
RANDALL THOMPSON Symffoni Rhif 2
HOWARD HANSON Elegy
LEONARD BERNSTEIN Halil
WALTER PISTON The Incredible Flutist
Arweinydd Carlos Kalmer Ffliwt Adam Walker
GWENER 06.12.2013, 8pm
ER CLOD I’R CôR
DVORÁK Offeren yn D
Cerddoriaeth gan Clara a Robert Schumann, a Fanny a Felix Mendelssohn
Arweinydd Adrian Partington Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
MAWRTH 21.01.2014, 7.30pm
DATHLIAD PuMLWYDDIANT
Arweinydd Grant Llewellyn Soprano Rosemary Joshua
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
CYFOES
MAWRTH 29.10.2013, 7.30pm
BERG Concerto Ffidil
SIMON HOLT The Yellow Wallpaper
(Darn comisiwn BBC Radio 3, Première Byd)
FRANZ SCHMIDT Symffoni Rhif 4
Arweinydd Thierry Fischer Soprano Elizabeth Atherton
Ffidil Baiba Skride
MAWRTH 28.01.2014, 7pm
POUL RUDERS Kafkapriccio
PELLE GUDMUNDSEN-HOLMGREEN
Symphony Antiphony
Arweinydd Thomas Søndergård
MAWRTH 25.02.2014, 7pm
PIERRE BOULEZ Domaines
Arweinydd Otto Tausk Clarinét Robert Plane
MAWRTH 25.03.2014, 7pm
CYFANSODDI: CYMRU TOCYNNAU AM DDIMArweinydd Jac van Steen
PRYnHAWniAu
GWEnER 20.12.2013, 2pm
MOZART Concerto Piano Rhif 26 (Coronation) DEBUSSY La Mer
Arweinydd Jun Märkl Piano Llyr Williams
MAWRTH 29.04.2014, 2pm
SMETANA Agorawd, Y Briodasferch a Ffeiriwyd
TCHAIKOVSKY Amrywiadau Rococo
SUK Symffoni Rhif 2
Arweinydd Christoph König Soddgrwth Leonard Elchenbroich
MAWRTH 03.06.2014, 2pm
BARTÓK Cyfres Ddawns
BRUCH Concerto i’r clarinét a’r fiola
TCHAIKOVSKY Symffoni Rhif 2
Arweinydd Thomas Søndergård Fiola Lisa Berthaud Clarinét Robert Plane
MAWRTH 17.06.2014, 2pm
WAGNER Agorawd, Tannhauser
MOZART Concerto Piano Rhif 21
R. STRAUSS Aus Italien
Arweinydd Cornelius Meister Piano Zhang Zuo
(Artistiad y Genhedlaeth Newydd BBC Radio 3)
0800 052 1812 bbc.co.uk/now
wmc.org.uk 029 2063 6464
Mae cartref y Gerddorfa yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Neuadd Hoddinott y BBC yn llywyddu cyngherddau prynhawn a chyfres gyfareddol o gerddoriaeth gyfoes.
TOCYNNAU
Tymor Americana £9-£12
Tymor Cyfoes a Dathliad y Corws £8-£10
Cyngherddau Prynhawn £9-£12
Cyngerdd y Pumlwyddiant £15
Mae modd codi tocynnau naill ai drwy Linell Cynulleidfaoedd y Gerddorfa neu Swyddfa Docynnau Canolfan Mileniwm Cymru.
Codi tocynnau drwy Ganolfan Mileniwm Cymru: Mae tâl o £1 y tocyn am godi tocynnau ar lein. Mae tâl o £1.50 y tocyn am godi tocynnau dros y ffôn, drwy’r post neu’n bersonol â cherdyn talu. Does dim tâl os codwch docynnau’n bersonol yn y swyddfa docynnau, a thalu ag arian parod neu docynnau anrheg CMC.
11 12
0800 052 1812 bbc.co.uk/now 01792 475715 swanseagrand.co.uk
Tocynnau SenglPecynnau Cyngherddau: Ymunwch â’n Teulu Ni
Prisiau tocynnau: Pris Llawn Tocyn Mantais (10%) Tanysgrifiad (20%)
£15.50 £13.95 £12.40
£14 £12.60 £11.40
£12.50 £11.25 £10
Mae modd codi tocynnau sengl drwy Linell Cynulleidfaoedd y Gerddorfa ar 0800 052 1812 a thrwy Swyddfa Docynnau Theatr y Grand ar 01792 475715.Am godi tocynnau drwy Theatr y Grand, mae tâl o 50c y tocyn fel cyfraniad tuag at y Gronfa Atgyweirio. Mae tâl o £2.50 y pryniant am godi tocynnau ar lein. Ychwanegir tâl o 2% am godi tocynnau â cherdyn credyd.
Tocynnau MantaisMae disgowntiau ar gael i gyngherddwyr anabl, defnyddwyr cadeiriau olwyn, hawlwyr a phobol dros eu 65 - gofynnwch am fanylion pan fyddwch yn codi tocynnau.
TeuluoeddDewch aton ni fel teulu i arbed arian: 1 oedolyn a hyd at 2 o blant £12.50; 2 oedolyn a hyd at 4 o blant £18.
MyfyrwyrCaiff myfyrwyr a chanddyn nhw gerdyn dilys Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a phobol ifanc dan 18 oed godi’r tocynnau gorau sydd ar gael am ddim ond £6 yr un.
GrwpiauDewch fel grwp o 10 neu fwy a chael disgownt 15%.
Mae manylion llawn ein gwybodaeth archebu cyffredinol i’w cael ar ein gwefan: bbc.co.uk/now
Dewch aton ni ar daith gerddorol trwy gydol y tymorac arbed arian ar y ffordd!
Pecyn Cyngherddau – Codwch docynnau i bob un o’r chwe chyngerdd a chael:
Tocynnau pris llawn 20% yn rhatach•
Rhaglen cyngerdd AM DDIM ym mhob digwyddiad•
Tocynnau Nwyddau Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC gwerth £12•
Tocynnau am ddim i gyngherddau yn ein cyfres Cyfoes yn • Neuadd Hoddinott y BBC
Dau gyngerdd arall a ddewiswch chi yn Neuadd Hoddinott y BBC 50% yn • rhatach (gweler y manylion ar dudalen 11-12)
A gwahoddiad i groeso dethol i danysgrifwyr.•
I godi’ch pecyn cyngherddau, ffoniwch ni am ddim yn Llinell Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ar 0800 052 1812.
Dyddiadau codi tocynnauMae’r cyfnod codi pecynnau cyngherddau dros y ffôn a thrwy’r post bellach wedi dechrau, yn uniongyrchol gyda’r Gerddorfa’n unig.Mae’r cyfnod codi tocynnau i grwpiau o 10 neu fwy o bobol yn dechrau ar 28.10.2013.Mae’r cyfnod cyffredinol codi tocynnau i gyngherddau sengl yn dechrau ar 04.11.2013. Talebau Credyd Os codwch docynnau a chael eich bod yn methu dod, does rhaid i chi ond rhoi caniad i’r Llinell Cynulleidfaoedd a gallwn gredydu gwerth eich tocyn i chi’i ddefnyddio rywbryd eto.
13 14
2013
-14
Con
cert
Dia
ry D
yddi
adur
Cyn
gher
ddau
Dat
e D
yddi
adTi
me
Am
ser
Ven
ue L
leol
iad
Cond
ucto
r Arw
einy
ddPr
ogra
mm
e Rh
agle
n
FRI /
GW
E 18
.10.
132P
MBB
C H
H /
NH
y B
BCW
ilson
Her
man
toC
arpe
nter
, Cop
land
, Sch
uman
TUE
/ MA
W 2
9.10
.13
7.30
PMBB
C H
H /
NH
y B
BCTh
ierr
y Fi
sche
rBe
rg, H
olt,
Sch
mid
t
SUN
/ SU
L 03
.11.
137.
30PM
MC
Jac
van
Stee
nSt
ravi
nksy
, Moz
art
FRI /
GW
E 08
.11.
137.
30PM
AA
C /
CyC
AM
icha
el F
ranc
isD
vorá
k, T
chai
kovs
ky
SAT
/ SA
D 0
9.11
.13
7.30
PMPJ
H /
NPJ
Mic
hael
Fra
ncis
Dvo
rák,
Tch
aiko
vsky
SUN
/ SU
L 10
.11.
133P
MV
CM
icha
el F
ranc
isD
vorá
k, T
chai
kovs
ky
FRI /
GW
E 15
.11.
137.
30pm
SDH
/ N
DS
Ola
ri E
lts
Szym
anow
ski,
Brah
ms
TUE
/ MA
W 1
9.11
.13
2PM
BBC
HH
/ N
H y
BBC
Eric
Ste
rn
Rore
m, A
dam
s, D
iam
ond,
Har
ris
SAT
/ SA
D 2
3.11
.13
7.30
PMTC
Mar
tyn
Brab
bins
Elga
r, Ll
oyd
THU
/ IA
U 2
8.11
.13
7.30
PMSD
H /
ND
SEl
vind
Gul
lber
g Je
nsen
Prok
ofiev
, Rac
hman
inov
MO
N /
LLU
N 0
2.12
.13
2PM
BBC
HH
/ N
H y
BBC
Car
los
Kalm
arC
opla
nd, T
hom
pson
, Han
son,
Ber
nste
in, P
isto
n
FRI /
GW
E 06
.12.
138P
MBB
C H
H /
NH
y B
BCA
dria
n Pa
rtin
gton
D
vorá
k
TU
E / M
AW
17.
12.1
37P
MSD
H /
ND
SG
rant
Lle
wel
lyn
Chr
istm
as C
eleb
rati
ons
/ Dat
hlu’
r N
adol
ig
FRI /
GW
E 20
.12.
132P
MBB
C H
H /
NH
y B
BCJu
n M
ärkl
Moz
art,
Deb
ussy
SAT
/ SA
D 2
1.12
.13
3PM
& 7
PMST
PG
rant
Lle
wel
lyn
Chr
istm
as C
eleb
rati
ons
/ Dat
hlu’
r N
adol
ig
TUE
/ MA
W 2
1.01
.14
7.30
PMBB
C H
H /
NH
y B
BCG
rant
Lle
wel
lyn
Five
Yea
r Ann
iver
sary
Con
cert
/ D
athl
iad
Pum
lwyd
dian
t
FRI /
GW
E 24
.01.
147.
30PM
SDH
/ N
DS
Thie
rry
Fisc
her
Hon
egge
r, Ra
chm
anin
ov, F
auré
TUE
/ MA
W 2
8.01
.14
7.30
PMBB
C H
H /
NH
y B
BCTh
omas
Søn
derg
ård
Gud
mun
dsen
-Hol
mgr
een,
Rud
ers
FRI /
GW
E 31
.01.
147.
30PM
SWG
/ TG
AA
nu T
ali
Lisz
t, R
ózsa
, Dvo
rák
FRI /
GW
E 07
.02.
147.
30PM
SDH
/ N
DS
Thom
as S
ønde
rgår
d M
ahle
r
THU
/ IA
U 1
3.02
.14
7.30
PMA
AC
/ C
yCA
Nic
hola
s C
ollo
nBe
etho
ven,
Moz
art,
Sch
uber
t
FRI /
GW
E 14
.02.
147.
30PM
PJH
/ N
PJN
icho
las
Col
lon
Beet
hove
n, M
ozar
t, S
chub
ert
SAT
/ SA
D 1
5.02
.14
7.30
PMW
AH
/ N
WA
Nic
hola
s C
ollo
nBe
rlio
z, B
ruch
, Rim
sky-
Kors
akov
SUN
/ SU
L 16
.02.
143P
MV
CN
icho
las
Col
lon
Berl
ioz,
Bru
ch, R
imsk
y-Ko
rsak
ov
THU
/ IA
U 2
0.02
.14
7.30
PMTH
C /
NyD
CTh
omas
Søn
derg
ård
Bart
ók, B
arbe
r, M
ozar
t
FRI /
GW
E 21
.02.
147.
30PM
SWG
/ TG
ATh
omas
Søn
derg
ård
Bart
ók, B
arbe
r, M
ozar
t
TUE
/ MA
W 2
5.02
.14
7.30
PMBB
C H
H /
NH
y B
BCO
tto
Taus
kBo
ulez
SAT
/ SA
D 0
1.03
.14
7PM
SDH
/ N
DS
Gra
nt L
lew
elly
nSt
Dav
id’s
Day
Gal
a / G
ala
Dyd
d G
wyl
Dew
i
FRI /
GW
E 14
.03.
147.
30PM
SWG
/ TG
AJu
rjen
Hem
pel
Stra
vins
ky, V
ine,
Bee
thov
en
FRI /
GW
E 21
.03.
147.
30PM
SDH
/ N
DS
Jac
van
Stee
nM
arti
nu, D
vorá
k, B
artó
k
TUE
/ MA
W 2
5.03
.14
7PM
BBC
HH
/ N
H y
BBC
Jac
van
Stee
nC
ompo
siti
on: W
ales
/ C
yfan
sodd
i: C
ymru
TUE
/ MA
W 2
9.04
.14
2PM
BBC
HH
/ N
H y
BBC
Chr
isto
ph K
önig
Smet
ana,
Tch
aiko
vsky
, Suk
FRI /
GW
E 02
.05.
147.
30PM
SWG
/ TG
AC
hris
toph
Kön
igRa
vel,
Brit
ten,
Deb
ussy
, Sch
uman
n
FRI /
GW
E 09
.05.
147.
30PM
SDH
/ N
DS
Tada
aki O
taka
Brah
ms,
Bee
thov
en
WED
/ M
ER 1
4.05
.14
7PM
BBC
HH
/ N
H y
BBC
Dun
can
War
dVa
le o
f G
lam
orga
n Fe
stiv
al /
Gw
yl B
ro M
orga
nnw
g
SAT
/ SA
D 1
7.05
.14
7PM
SDH
/ N
DS
Dav
id A
ther
ton
Vale
of
Gla
mor
gan
Fest
ival
/ G
wyl
Bro
Mor
gann
wg
FRI /
GW
E 23
.05.
147P
MSD
H /
ND
SG
rant
Lle
wel
lyn
NO
W it
’s yo
ur t
urn!
THU
/ IA
U 2
9.05
.14
7PM
SDC
/ EG
TJa
c va
n St
een
St D
avid
s C
athe
dral
Fes
tiva
l
FRI /
GW
E 30
.05.
147.
30PM
SWG
/ TG
AJa
c va
n St
een
Hay
dn, M
ozar
t, M
ahle
r
TUE
/ MA
W 0
3.06
.14
2PM
BBC
HH
/ N
H y
BBC
Thom
as S
ønde
rgår
d Ba
rtók
, Bru
ch, T
chai
kovs
ky
FRI /
GW
E 13
.06.
147.
30PM
SDH
/ N
DS
Thom
as S
ønde
rgår
d H
aydn
, Bra
hms
TUE
/ MA
W 1
7.06
.14
2PM
BBC
HH
/ N
H y
BBC
Cor
neliu
s M
eist
erW
agne
r, M
ozar
t, R
. Str
auss
FRI /
GW
E 20
.06.
147.
30PM
SWG
/ TG
AC
orne
lius
Mei
ster
Dvo
rák,
Bru
ch, B
rahm
s
Key
Allw
edd
SWG
/ N
GA
- S
wan
sea
Gra
nd T
heat
re /
Neu
add
y G
rand
Abe
rtaw
eBB
C H
H /
NH
y B
BC -
BBC
Hod
dino
tt H
all,
Car
diff
/
Neu
add
Hod
dino
tt y
BBC
, Cae
rdyd
dSD
H /
ND
S -
St D
avid
’s H
all,
Car
diff
/ N
euad
d D
ewi S
ant,
Cae
rdyd
dSD
C /
EG
T -
St D
avid
’s C
athe
dral
/ E
glw
ys G
adei
riol
Tyd
dew
iA
AC
/ C
yCA
- A
bery
stw
yth
Art
s C
entr
e /
Can
olfa
n y
Cel
fydd
ydau
Abe
ryst
wyt
h
PJH
/ N
PJ -
Neu
add
Pric
hard
-Jon
es H
all,
Bang
orW
AH
/ N
WA
- N
euad
d W
illia
m A
ston
Hal
l, W
rexh
am /
Wre
csam
VC
- V
enue
Cym
ru, L
land
udno
THC
/ N
yDC
- T
own
Hal
l / N
euad
d y
Dre
f, C
helt
enha
mTC
/ E
GT
- Tr
uro
Cat
hedr
al /
Egl
wys
Gad
eiri
al T
ruro
MC
/ C
M -
Mar
lbor
ough
Col
lege
/ C
oleg
Mar
lbor
ough
STP
– Si
r Tho
mas
Pic
ton
Scho
ol, H
aver
ford
wes
t / Y
sgol
Syr
Tho
mas
Pic
ton,
Hw
lffor
dd