Strategaeth y Gwasanaeth Llyfrgelloedd Agor drws … B...Agor drws i’n cymunedau “Libraries...

16
Strategaeth y Gwasanaeth Llyfrgelloedd Agor drws i’n cymunedau Library Service Strategy Opening doors for our communities

Transcript of Strategaeth y Gwasanaeth Llyfrgelloedd Agor drws … B...Agor drws i’n cymunedau “Libraries...

Page 1: Strategaeth y Gwasanaeth Llyfrgelloedd Agor drws … B...Agor drws i’n cymunedau “Libraries store the energy that fuels the imagination. They open windows to the world, and inspire

Strategaeth y Gwasanaeth Llyfrgelloedd

Agor drws i’n cymunedau

Library Service Strategy Opening doors for our communities

Page 2: Strategaeth y Gwasanaeth Llyfrgelloedd Agor drws … B...Agor drws i’n cymunedau “Libraries store the energy that fuels the imagination. They open windows to the world, and inspire

Library Service Strategy: Opening doors for our communities

“Libraries store the energy that fuels the imagination. They open win-dows to the world, and inspire us to explore and achieve, and contrib-ute to improving our quality of life. Libraries change lives for the better.” Sidney Sheldon

Foreword

“This strategy outlines the beneficial outcomes that our libraries continue to deliver daily for our residents, and the ambition for future developments. There is no doubt that the current financial situation and the pace of technological change makes this a very challenging period for public library services, particularly in a huge rural authority such as ours. However, by working together with our communities, we have the potential to sustain and develop our libraries for the benefit of all our residents, at a time when many authorities are reducing their services. Libraries in Powys will remain a service of which we can be proud, giving everyone an equal opportunity to use print and online resources to help them to fulfil their potential, and at the heart of strong communities across our county.”

Cllr Graham Brown, Portfolio holder for Libraries.

Strategaeth y Gwasanaeth Llyfrgelloedd:Agor drws i’n cymunedau

“Libraries store the energy that fuels the imagination. They open windows to the world, and inspire us to explore and achieve, and contribute to improving our quality of life. Libraries change lives for the better.” Sidney Sheldon Rhagair

“Mae’r strategaeth hon yn amlinellu’r canlyniadau buddiol a ddaw bob dydd o’n llyfrgelloedd ni, a’n huchelgeisiau ni i’r dyfodol. ‘Does dim dwywaith bod y sefyllfa ariannol ar hyn o bryd a chyflymder datblygiadau technegol yn ei gwneud yn gyfnod heriol iawn i wasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus, yn arbennig mewn awdurdod mawr gwledig fel Powys. Ond, trwy weithio gyda’n cymunedau ni, mae gennym y potensial i gynnal a datblygu ein llyfrgelloedd er lles ein trigolion ni i gyd, ar adeg pan mae nifer o awdurdodau’n torri eu gwasanaethau. Bydd llyfrgelloedd Powys yn parhau i fod yn wasanaeth y gallwn ymfalchïo ynddo, gan roi’r un cyfle i bawb ddefnyddio adnoddau ar-lein neu mewn print i’w helpu i wireddu eu potensial, ac wrth galon cymunedau cryf ar draws y sir.” Y Cynghorydd Graham Brown, Aelod Portffolio, Llyfrgelloedd.

Page 3: Strategaeth y Gwasanaeth Llyfrgelloedd Agor drws … B...Agor drws i’n cymunedau “Libraries store the energy that fuels the imagination. They open windows to the world, and inspire

Our mission

Our mission is to inspire people to read and learn in our communities, through:-

• Providingthebestresourcesandfacilitiesthatwecan,withknowledgeablestafftohelppeopletogetthebestoutofthem

• Bringingourcommunitiestogethertosharestories,culturalactivities,learningandinformationinasafe,accessible,welcomingandsupportiveenvironment

• Talkingtopeopleabouttheirneeds,andhowwecanhelpthem.

Ein cenhadaeth

Ysbrydoli pobl i ddarllen a dysgu yn ein cymunedau, trwy:-

• Gynnigyradnoddaua’rcyfleusteraugorauygallwn,gydastaffdeallusihelpupobligaelygorauo’uhunain

• Dodâchymunedauateigilyddirannustorïau,gweith-gareddaudiwylliannol,agwybodaethmewnamgylchedddiogel,cefnogolsyddofewncyrraedd.

• Siaradgydaphoblameuhanghenion,asutygallwneuhelpu.

Page 4: Strategaeth y Gwasanaeth Llyfrgelloedd Agor drws … B...Agor drws i’n cymunedau “Libraries store the energy that fuels the imagination. They open windows to the world, and inspire

Our vision to offer residents a quality library service, supporting them to achieve their ambitions

Our values Our values mirror those of the county council as a whole, as outlined in the One Powys Plan, which states:-

“We want to deliver high performance and value for our communities by listening to and working with the public, private, voluntary and community sectors. Our organisational culture will be based on trust, innovation and responsibility.” (One Powys Plan, 2014)

We will strive to be:Customer focused and responsive to community needs and expectations.

Committed to community engagement in the shaping and delivery of services.

1.

2.

Ein gweledigaethcynnig gwasanaeth llyfrgell o safon i drigolion, gan eu cefnogi i gyflawni eu huchelgeisiau.

Ein gwerthoedd Mae ein gwerthoedd yn adlewyrchu gwerthoedd cyffredinol y cyngor sir, fel yr amlinellir yng Nghynllun Powys yn Un, sy’n nodi:-

“Rydym eisiau cyflwyno perfformiad a gwerth uchel i’n cymunedau trwy wrando a gweithio gyda’r cyhoedd a’r sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chymunedol. Bydd ein diwylliant trefniadaethol yn seiliedig ar ymddiriedaeth, dyfeisgarwch a chyfrifoldeb.” (Cynllun Powys yn Un, 2014)

Byddwn yn ymdrechu i:Ganolbwyntio ar y cwsmer ac ymateb i anghenion a disgwyliadau’r gymuned.

Bod yn ymroddedig i gysylltu â’r gymuned wrth siapio a chyflwyno gwasanaethau.

1.

2.

Page 5: Strategaeth y Gwasanaeth Llyfrgelloedd Agor drws … B...Agor drws i’n cymunedau “Libraries store the energy that fuels the imagination. They open windows to the world, and inspire

Committed to the highest possible standards of customer care and accessible service delivery.

Enthusiastic about collaborative working with internal and external partners and local communities to add value to our activities and to develop our outcomes.

Enthusiastic about reflecting and celebrating local community identity, promoting equality and celebrating diversity amongst customers and staff.

Encouraging and developing staff to realise their potential in delivering our vision of excellence.

Focused on delivering value for money through efficient, effective services.

Committed to taking time to reflect on what we do, and learning about what we could do better.

Forward looking, adaptable and flexible when looking at service development, new ideas and innovative change.

Positive about the benefits of what we do, and proud of what we achieve.

3.

4.

5.

6.

7.

8.

9.

10.

Bod yn ymroddedig i’r safonau uchaf posibl o ofal i’r cwsmer a chyflwyno gwasanaeth sydd o fewn cyrraedd.

Bod yn frwdfrydig i gydweithio gyda phartneriaid mewnol ac allanol a chymunedau lleol i ychwanegu gwerth i’n gweithgareddau ac i ddatblygu ein deilliannau.

Bod yn frwdfrydig am adlewyrchu a dathlu hunaniaeth y gymuned leol, gan hyrwyddo cydraddoldeb a dathlu amrywiaeth ymysg cwsmeriaid a staff.

Annog a datblygu staff i wireddu eu potensial wrth gyflwyno ein gweledigaeth ar gyfer rhagoriaeth.

Canolbwyntio ar gyflwyno gwerth am arian trwy wasanaethau effeithiol ac effeithlon.

Bod yn ymroddedig i gymryd amser i adlewyrchu ar hyn yr ydym yn ei wneud, a dysgu am yr hyn y gallwn ei wneud yn well.

Bod yn flaengar, gan allu addasu a bod yn hyblyg wrth edrych ar ddatblygu’r gwasanaeth, syniadau newydd a newid dyfeisgar.

Bod yn bositif am fuddiannau’r hyn a wnawn, ac yn falch o’r hyn a gyflawnwn.

3.

4.

5.

6.

7.

8.

9.

10.

Page 6: Strategaeth y Gwasanaeth Llyfrgelloedd Agor drws … B...Agor drws i’n cymunedau “Libraries store the energy that fuels the imagination. They open windows to the world, and inspire

653,563 items were loaned to you in 2014/15 – that’s around 13,000 items every week, or 2,600 every open day. Library use in Powys is above the Welsh average.

60,000 hours were spent using library public access computers in 2014/15 – as well as using the wi-fi with your own devices!

Ein llyfrgelloeddRydym yn gwybod eisoes fod nifer o’n trigolion wrth eu boddau gyda’n llyfrgelloedd, oherwydd eich bod yn eu defnyddio’n aml ac yn dweud wrthym ni!

Cafodd 653,563 o eitemau eu benthyca i chi yn 2014/15 – mae hynny tua 13,000 eitem pob wythnos, neu 2,600 o eitemau fesul pob diwrnod o fod ar agor. Mae defnydd o lyfrgelloedd ym Mhowys yn uwch na’r cyfartaledd Cymreig.

Treuliwyd 60,000 awr yn defnyddio cyfrifiaduron defnydd cyhoeddus y llyfrgelloedd yn 2014/15 – ynghyd â’r defnydd o wi-fi gyda’ch dyfeisiadau eich hunain!

Our librariesWe know that many of our residents already love our libraries, because you use them often and you tell us so!

Fe wnaed 602,426 ymweliad gwirioneddol â llyfrgelloedd Powys yn 2014/15 – mae hynny dros 12,000 o ymweliad-au yr wythnos, neu tua 2,500 o ymweliadau fesul pob diwrnod o fod ar agor. Mae hynny’n uwch na’r cyfartaledd Cymreig ar gyfer ymwelwyr, a fesurwyd gan Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru.

602,426 actual visits were made to Powys libraries in 2014/15 – that’s over 12,000 visits every week, or around 2,500 visits every open day. That’s above the Welsh average for visitors, as measured by the Welsh Public Library Standards.

Page 7: Strategaeth y Gwasanaeth Llyfrgelloedd Agor drws … B...Agor drws i’n cymunedau “Libraries store the energy that fuels the imagination. They open windows to the world, and inspire

Here are some of the things you tell us:

“Having been resident for the last 30 years, it has always been a pleasure coming here and with my grandchildren and now great-grandchildren who like the children’s section. Staff always so help-ful at reserving books and give assistance when necessary.”

“The reason I visited the library was for relevant business informa-tion, magazines, parish newspapers, where local people advertise. The ladies in the desk are very helpful. I would recommend anyone to visit and have a look around”.

“We mainly use the library for computer access due to none at home – the staff are always so helpful, polite and are always so happy to help. Thank you for providing us with the best library in the area. Long may it last.”

“I study local history. The library staff are always very helpful in finding the material I need. The library is the town’s most important resource centre”.

“I bring my son who is severely autistic to the library at weekends and during school holidays. He only learnt to read at the age of 10 so it is a joy to be able to bring him here – none of the staff judge us and are always very kind. Thank you”

“I never enter the library without A) learning something new B) coming out happier. The staff are lovely and have become good friends over the years – always happy and ready to help. We really appreciate the service they give.”

Dyma rai o’r pethau yr ydych chi wedi eu dweud wrthym ni:

“Wedi i ni fod yn byw yma am y 30 mlynedd diwethaf, mae wedi bod yn bleser bob tro i ddod yma a gyda fy wyrion a’m gorwyrion erbyn hyn sy’n hoffi’r adran blant. Mae staff yn gymwynasgar bob tro wrth gadw llyfrau i mi ac yn rhoi cymorth pan mae ei angen.”

“Y rheswm y des i’r llyfrgell oedd ar gyfer gwybodaeth berthnasol ar fusnes, cylchgronau, papurau newydd y plwyf lle mae pobl leol yn hysbysebu. Mae’r gwragedd wrth y ddesg yn barod iawn i helpu, Byd-dwn yn argymell i unrhyw un ddod yma a chael golwg o amgylch y llyfrgell.”

“Rydym yn defnyddio’r llyfrgell yn bennaf i gael defnyddio’r cyfrifiaduron gan nad oes gennym rai adref - mae’r staff yn gymwynasgar, yn gwrtais ac yn barod iawn i helpu o hyd. Diolch i chi am gyflwyno’r llyfrgell orau yn yr ardal. Boed iddi barhau am hir.”

“Dwi’n astudio hanes lleol. Mae staff y llyfrgell yn barod iawn i helpu wrth ddod o hyd i’r deunydd sydd ei angen arnaf. Y llyfrgell yw canolfan adnoddau pwysicaf y dref”.

“Dwi’n dod â fy mab sydd ag awtistiaeth ddwys i’r llyfrgell ar y penwyth-nosau ac yn ystod y gwyliau ysgol. Dim ond yn 10 oed y dysgodd i ddarllen felly mae’n rhoi llawenydd i mi allu dod ag ef yma - does dim o’r staff yn ein barnu ni ac maent wastad yn garedig iawn. Diolch yn fawr”.

“Dydw i byth heb fynd i’r llyfrgell heb A) dysgu rhywbeth newydd B) dod allan yn teimlo’n hapusach. Mae’r staff yn hyfryd ac maent wedi dod yn ffrindiau da i mi dros y blynyddoedd – maent wastad yn hapus ac yn barod i helpu. Rydym wir yn gwerthfawrogi’r gwasanaeth a roddir ganddynt.”

Page 8: Strategaeth y Gwasanaeth Llyfrgelloedd Agor drws … B...Agor drws i’n cymunedau “Libraries store the energy that fuels the imagination. They open windows to the world, and inspire

Our priorities – opening doors for you:

Our strategic priorities are to open the doors for you to enter worlds which inspire you to live a fulfilled life in your community:

• Literacy - reading for pleasure is proven to make people of all ages feel better; it helps children to learn, and helps us to make sense of the world around us. Research by the Reading Agency finds that reading for pleasure can result in increased empathy, improved relationships with others, reductions in the symptoms of depression and dementia, and improved wellbeing (1). Reading for pleasure helps people to live fulfilled lives – fiction, non-fiction, poetry, audio books, e-books, newspapers, e-magazines - the choice is as wide as your imagination! “I rely on the library as I read all the time. I have always been a voracious reader even as a child. I depend on the library for the books. The staff are all brilliant and very helpful. It is hard to improve on a facility when it is already perfect – it is a welcoming haven.”

Library Customer

Ein blaenoriaethau – agor drysau i chi: Ein blaenoriaethau strategol yw agor drysau i chi fyned i mewn i fydoedd sy’n eich ysbrydoli i fyw bywyd llawn yn eich cymuned:

Llythrennedd – mae darllen er difyrrwch wedi’i brofi i wneud i bobl o bob oedran deimlo’n well, ac yn ein helpu i wneud synnwyr o’r byd o’n hamgylch ni. Mae ymchwil gan yr Asiantaeth Ddarllen wedi canfod fod darllen er difyrrwch yn gallu arwain at gynyddu empathi, perthnasoedd gwell gydag eraill, gostwng y symptomau o iselder ysbryd a dementia, a lles gwell (1). Mae darllen er pleser yn helpu pobl i fyw bywydau cyflawn – ffuglen, ffeithiol, barddoniaeth, llyfrau clywedol, e-lyfrau, papurau newydd, e-gylchgronau –mae’r dewis mor eang â’ch dychymyg!

“Dwi’n dibynnu ar y llyfrgell gan fy mod yn darllen o hyd. Rwyf wedi bod yn ddarllenydd brwd erioed a hyd yn oed pan oeddwn yn blentyn, roeddwn yn dibynnu ar y llyfrgell ar gyfer y llyfrau. Mae’r holl staff yn wych ac yn barod iawn i helpu. Mae’n anodd gwella cyfleuster pan mae’n berffaith eisoes - mae’n noddfa groesawgar” Cwsmer Llyfrgell

Page 9: Strategaeth y Gwasanaeth Llyfrgelloedd Agor drws … B...Agor drws i’n cymunedau “Libraries store the energy that fuels the imagination. They open windows to the world, and inspire

• Education and attainment - Powys County Council has pledged to improving learning outcomes for all, minimising disadvantage, and we will support this priority wholeheartedly. Whatever you want to learn, your library service can support you by providing access to books, information sources, the internet and online courses, and the wealth of collections across the country - and helping you to use them to best advantage. Your library is the university for everyone – right here in Powys! Reading for pleasure also plays a part in chil-dren’s educational achievement – the Institute of Education found that children who read for pleasure made more progress in maths, vocabulary and spelling between the ages of 10 and 16 than those who rarely read (2).

• Tackling poverty - As libraries offer a free universal service at the point of delivery, no-one in Powys need be disadvantaged through poverty.

“We have always found the staff exceptionally helpful and I’ve had special material sourced from various places all over the UK – many thanks” Library customer

“Job seeking – helpful staff help with computers and suggest books.” Library customer

• Addysg a chyrhaeddiad - Mae Cyngor Sir Powys wedi addo gwella deilliannau dysgu i bawb, gan ostwng anfantais, a byddwn yn cefnogi’r flaenoriaeth hon yn llwyr. Beth bynnag y byddwch eisiau ei ddysgu, gall eich gwasanaeth llyfrgelloedd eich cefnogi chi trwy gynnig mynediad at lyfrau, ffynonellau gwybodaeth, y rhyngrwyd a chyrsiau ar-lein, a’r cyfoeth o gasgliadau led led y sir - gan eich helpu i’w defnyddio hyd at eich mantais fwyaf. Mae eich llyfrgell yn brifysgol i bawb - yn union yma ym Mhowys! Mae darllen er difyrrwch yn chwarae ei ran yng nghyrhaeddiad addysgol plant - mae’r Sefydliad Addysg wedi gweld fod plant sy’n darllen er pleser yn gwneud mwy o gynnydd mewn mathemateg, geirfa a sillafu rhwng 10 a 16 oed na’r rheini nad oedd prin byth yn darllen (2).

“Rydym wedi gweld y staff yn eithriadol o gymwynasgar erioed ac maent wedi canfod deunydd arbennig o amrywiol leoedd led led y DG - diolch yn fawr iawn”

Cwsmer Llyfrgell.

“Chwilio am swydd – mae staff cymwynasgar yn helpu gyda chyfrifiaduron ac yn awgrymu llyfrau.”

Cwsmer Llyfrgell

• Mynd i’r afael â thlodi – Gan fod llyfrgelloedd yn cynnig gwasa-naeth cyffredinol am ddim yn y man cyflwyno, nid oes angen i unrhyw un ym Mhowys fod dan anfantais trwy dlodi.

Page 10: Strategaeth y Gwasanaeth Llyfrgelloedd Agor drws … B...Agor drws i’n cymunedau “Libraries store the energy that fuels the imagination. They open windows to the world, and inspire

• Digital citizenship – our libraries play an important role in helping people to become digitally fluent citizens, through provision of the infrastructure and support for you to use it. Support for jobseekers is important to revitalising our local economy.

• Access to culture and cultural activities in Welsh and English, and support for the Welsh language.

• Healthier lifestyles – as well as the health benefits of reading for pleasure, the library provides access to a wide range of health related information, including the Wales wide Books on Prescrip-tion scheme, and the online NHS Add to your Health (over 50s healthcheck). The National Institute for Clinical Excellence (NICE) provides evidence that self-help reading can help people with com-mon mental health conditions, such as anxiety and depression. As an authority with an increasingly elderly population and levels of dementia rising rapidly, Powys residents demonstrate the benefits of library use: “I love to visit the library as it gets me out of the house when feeling down.”

Library Customer.“(The library) helps to keep me more active mentally and physically” Library customer, 75+ years old

“(Our library) is the only cultural area we have left for everybody and it is free and welcoming. That is why we need it. Don’t take it away from us and make us a desert.” Library customer

• Dinasyddiaeth ddigidol - mae ein llyfrgelloedd yn chwarae rhan bwysig wrth helpu pobl i fod yn ddinasyddion sy’n rhugl yn ddigidol, trwy gyflwyno’r seilwaith a’r gefnogaeth i chi ei ddefnyddio. Mae cymorth i bobl sy’n chwilio am waith yn bwysig i adfywio ein heconomi lleol.

• Mynediad at ddiwylliant a gweithgareddau diwylliannol yn y Gymraeg a’r Saesneg, a chefnogaeth i’r iaith Gymraeg.

“(Ein llyfrgell) yw’r unig ardal ddiwylliannol sy’n weddill i unrhyw un ac mae am ddim ac yn groesawus. Dyna pam y mae ei angen arnom. Peidiwch â’i gymryd oddi arnom a’n gwneud yn anialwch.” Cwsmer llyfrgell

• Ffyrdd Mwy iachus o Fyw - ynghyd â buddiannau iechyd a ddaw trwy ddarllen er difyrrwch, mae’r llyfrgell yn cynnig mynediad at ystod eang o wybodaeth sy’n ymwneud ag iechyd, gan gyn-nwys y cynllun Llyfrau ar Bresgripsiwn i Gymru gyfan, a gwefan Ychwanegu at Fywyd y GIG (archwiliad iechyd i bobl sydd dros 50 oed). Mae’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Rhagoriaeth Clinigol (NICE) yn cynnig tystiolaeth fod darllen i helpu eich hunan yn gallu cynorthwyo pobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl cyffredin, megis pryder ac iselder. Fel awdurdod gyda phoblogaeth sy’n heneiddio fwy fwy a lefelau dementia sy’n cynyddu’n gyflym, mae trigolion Powys yn dangos manteision y defnydd o lyfrgelloedd. “Rwyf wrth fy modd yn ymweld â’r llyfrgell gan ei fod yn fy annog i fynd allan o’r tŷ pan fyddaf yn isel fy ysbryd,” Cwsmer Llyfrgell

“(Mae’r llyfrgell) yn fy helpu i gadw’n weithgar yn feddyliol ac yn gorfforol” Cwsmer llyfrgell, 75+ mlwydd oed

Page 11: Strategaeth y Gwasanaeth Llyfrgelloedd Agor drws … B...Agor drws i’n cymunedau “Libraries store the energy that fuels the imagination. They open windows to the world, and inspire

• Working with our customers and communities to find ways to deliver all the outcomes above and meet your expressed needs, whilst still making significant financial savings to our budget. We will be working hard to reduce our building costs through co-locations and relocations of libraries, and working with communities to offer more and find new sources of income which can sustain our valued service.

Our challengesThe challenges which public libraries across the country face are to continue to offer the kind of service that inspired Andrew Carnegie to establish public libraries (a service which gives people second, third and fourth chances to be who they want to be, and which improves its community through responding to local needs and helping people to live fuller lives) against the current financial and technological back-grounds.

• Part of your community – a safe, secure, inclusive and happy environment, helping people out of poverty, and creating the Powys vision of “strong communities in the green heart of Wales”. 69% of respondents in the most recent library customer satisfaction survey (Nov 2015) stated that using the library helps them to feel part of their community.

“This library is a god send. My father loves reading and it helps him cope now my mum has died. The staff are welcoming and helpful, which makes it easier for him to use the library. We had a job persuading him to come, now we can’t keep him away! Thank you”. Library customer

“You’re most probably saving thousands on health care as this service is a social one WELL DONE POWYS!” Mobile library customer

• Rhan o’ch cymuned – amgylchedd diogel, sicr, cynhwysol a hapus, sy’n helpu pobl allan o dlodi, ac yn creu gweledigaeth Powys o ‘‘gymunedau cryfion yng nghalon werdd Cymru”. Yn yr arolwg bodlonrwydd cwsmeriaid mwyaf diweddar (Tachwedd 2015), nododd 69% o drigolion fod defnyddio’r llyfrgell wedi eu helpu i deimlo’n rhan o’u cymuned.

“Mae’r llyfrgell hon yn fendith. Mae fy nhad wrth ei fodd yn darllen ac mae’n ei helpu i ymdopi nawr fod fy mam wedi marw. Mae’r staff yn groesawgar ac yn barod i helpu, sy’n hwyluso ei allu i ddefnyddio’r llyfrgell. Rydym wedi cael anhawster yn ei berswadio i ddod, ond ni allwn ei gadw draw erbyn hyn! Diolch”. Cwsmer llyfrgell

“Rydych fwy na thebyg yn arbed miloedd ar ofal iechyd gan fod y gwasanaeth hwn yn un cymdeithasol. DA IAWN POWYS!” Cwsmer y llyfrgell deithiol

• Gweithio gyda’n cwsmeriaid a’n cymunedau i ganfod ffyrdd o gyflwyno’r holl ddeilliannau uchod a diwallu’r anghenion yr ydych wedi’u mynegi, wrth barhau i wneud arbedion ariannol sylweddol. Byddwn yn gweithio’n galed i ostwng ein costau adeiladu trwy gyd-leoli ac ail-leoli llyfrgelloedd, a gweithio gyda chymunedau i gynnig mwy o ffynonellau incwm ynghyd â rhai newydd a all gynnal ein gwasanaeth gwerthfawr.

Ein sialensiauY sialensiau y bydd llyfrgelloedd cyhoeddus ar draws y sir yn eu hwynebu yw parhau i gynnig yr un math o wasanaeth a ysbrydolodd Andrew Carnegie i sefydlu llyfrgelloedd cyhoeddus (gwasanaeth sy’n rhoi ail, trydydd a phedwerydd cyfle i bobl fod yr hyn y maent eisiau bod, ac yn gwella eu cymuned trwy ymateb i anghenion lleol gan helpu pobl i fyw bywydau llawnach) yn erbyn y cefndiroedd ariannol a thech-negol presennol.

Page 12: Strategaeth y Gwasanaeth Llyfrgelloedd Agor drws … B...Agor drws i’n cymunedau “Libraries store the energy that fuels the imagination. They open windows to the world, and inspire

Libraries are a statutory service, under the terms of the Public Libraries and Museums Act 1964, which requires each library authority to provide a “comprehensive and efficient library service for all persons desiring to make use thereof”. This is interpreted in Wales by the Welsh Public Library Standards, through which the Welsh Government monitors the performance of every library service. In 2014/15, Powys Library Service achieved 17 out of the 18 core entitlements laid down in the current standards framework, “Libraries making a difference” (3), and of the 7 quality indicators which have targets, we achieved 3 in full, 3 in part, and failed on one. It is becoming harder to meet these standards with decreasing budgets.

Powys County Council’s 2020 vision challenges us all to remodel our services to respond to reduced funding, and we will need to focus on this closely during the lifetime of this strategy. We have made a good start through the library+ model which allows you to pay your council tax and access other council services through your local library, and through collaboration with other library authorities across Wales, which enables us to buy resources such as e-books jointly at a greatly reduced cost to us – but there is no doubt that we will have to find new ways to deliver more using less, and we will be focusing strongly on co-locations and working with communities to enable us to do that. The rural nature of our beautiful county can make life harder in Powys, and we will work with local people in order to -

“help rural library services utilise, unlock and build their social capital to revitalise communal facilities”

(4. William Sieghart, Independent Library Report for England, Dec 2014)

Mae llyfrgelloedd yn wasanaeth statudol, dan delerau Deddf Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd 1964, sy’n gofyn i bob llyfrgell gynnig “gwasanaeth llyfrgell cynhwysfawr ac effeithiol i bob unigolyn sy’n dymuno gwneud defnydd ohonynt”. Dehonglir hyn yng Nghymru gan Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru, lle y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro perfformiad pob gwasanaeth llyfrgelloedd. Yn 2014/15, cyflawnodd Gwasanaeth Llyfrgell Powys 17 allan o 18 o’r hawliau craidd a nodir yn y fframwaith safonau presennol sef “Llyfrgelloedd yn gwneud gwahaniaeth” (3), ac o’r 7 dangosydd ansawdd sydd â thargedau, fe gyflawnom 3 yn llawn, 3 yn rhannol a methu ar un. Mae’n dod yn anoddach i ddiwallu’r safonau gyda chyllidebau yn crebachu.

Mae gweledigaeth 2020 Cyngor Sir Powys yn ein herio i gyd i ailfodelu ein gwasanaethau i ymateb i ostyngiad mewn nawdd, a bydd angen i ni ganolbwyntio ar hyn yn agos yn ystod hyd bywyd y strategaeth hon. Rydym wedi gwneud dechrau da trwy’r model llyfrgell + sy’n caniatáu i chi dalu eich treth cyngor a chael mynediad at wasanaethau cyngor eraill trwy eich llyfrgell leol, a thrwy gydweithrediad ag awdurdodau llyfrgell eraill led led Cymru, sy’n ein galluogi i brynu adnoddau megis e-lyfrau ar y cyd am gost sydd wedi gostwng yn fawr i ni - ond nid oes amheuaeth y bydd rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd o gyflwyno gan ddefnyddio llai, a byddwn yn canolbwyntio’n gryf ar gyd-leoliadau a gweithio gyda chymunedau i’n galluogi i wneud hynny. Mae natur wledig ein sir brydferth yn gwneud bywyd yn anoddach ym Mhowys, a byddwn yn gweithio gyda phobl leol er mwyn -

“helpu gwasanaethau llyfrgelloedd gwledig i ddefnyddio, datgloi ac adeiladu eu cyfalaf cymdeithasol i adfywio cyfleusterau cymunedol”

(4. William Sieghart, Independent Library Report for England, Rhagfyr 2014)

Page 13: Strategaeth y Gwasanaeth Llyfrgelloedd Agor drws … B...Agor drws i’n cymunedau “Libraries store the energy that fuels the imagination. They open windows to the world, and inspire

Technology is also changing very rapidly, and there are those out there who would say that you can find everything you need on the internet now; however, we know that there are still lots of you who don’t have access to the internet at home, and who want the support of trained staff who give you the confidence to use it.

Mae technoleg yn newid yn gyflym iawn hefyd, ac mae’r rheini a fyddai’n dweud y gallwch ddod o hyd i unrhyw beth sydd ei angen arnoch ar y rhyngrwyd erbyn hyn; fodd bynnag, rydym yn gwybod fod llawer ohonoch sydd heb fynediad at gyfrifiadur adref, ac sydd eisiau cefnogaeth gan staff sydd wedi’u hyfforddi a fydd yn rhoi hyder i chi ei ddefnyddio.

Gyda’n gilydd gallwn wneud mwy

Bydd gweithio gyda’n cwsmeriaid ac eraill o fewn ein cymunedau lleol, gan ddatblygu cyfleoedd i wirfoddoli fel y gall pobl ddysgu sgiliau newydd, yn ein galluogi i gynnig mwy trwy gydweithio’n effeithiol. Rydym yn gwybod eich bod eisiau i ni wneud hyn, fel yr ydych wedi gofyn - ac rydym yn gwrando ar eich anghenion:

The library service has adapted to offer support to computer users in the library, as well as providing wi-fi and help with using your own devices, and at home, through the provision of a wide range of e-resources including books, magazines and reference resources which can be used 24/7, just by entering your library

Together we can do more

barcode. However, we will need to keep up-to-date with new developments, and adapt again as necessary, to make sure that your virtual library is able to meet your future needs too!

Mae’r gwasanaeth llyfrgelloedd wedi addasu i gynnig cefnogaeth i ddefnyddwyr cyfrifiaduron yn y llyfrgell, ynghyd â chynnig wi-fi a help gyda defnyddio eich dyfeisiau eich hunan, ac yn y cartref, trwy gynnig ystod o e-adnoddau gan gynnwys llyfrau, cylchgronau ac adnoddau cyfeirio y gellir eu defnyddio 24 awr y dydd, trwygyflwyno eich cod bar llyfrgelloedd. Fodd bynnag, bydd rhaid i ni gadw’n ddiweddar gyda datblygiadau newydd, ac addasu eto fel sydd ei angen, i wneud yn siŵr fod eich llyfrgell rithiol yn gallu diwallu eich anghenion yn y dyfodol eto!

“Mwy o glybiau neu gyfarfodydd ar gyfer diddordebau neu leoedd er mwyn i hyn ddigwydd”

“More clubs or meetings for interests or room for this to happen”

Working with our customers and others in our local communities, developing volunteer opportunities so that people can learn new skills, will enable us to offer more by working together efficiently. We know that you want us to do this, as you have asked - and we are listening to your needs:

Page 14: Strategaeth y Gwasanaeth Llyfrgelloedd Agor drws … B...Agor drws i’n cymunedau “Libraries store the energy that fuels the imagination. They open windows to the world, and inspire

Mwy o glybiau llyfrau ar gyfer pob oedran -

“Dwi wedi bod yn aelod o Lyfrgell Y Drenewydd am y 4-5 mlynedd diwethaf ac wedi mwynhau’r cyfarfodydd yn fawr iawn. Dwi’n teimlo y dylid rhoi cyhoeddusrwydd ehangach i’r gweithgaredd hwn. Diolch yn fawr.”

Rydych hefyd wedi gofyn i ni am fwy o gymorth wrth ddysgu, yn enwedig wrth ddefnyddio technoleg newydd:-

“Mae’r terfynellau cyfrifiaduron sydd ar gael wedi bod yn anogaeth wrth gael mynediad at wybodaeth sydd o fudd mawr mewn cymaint o ffyrdd; byddai mwy o hyfforddiant ar y safle i ddefnyddwyr cyfrifiadu-ron yn y grŵp oedran 65+ yn ddefnyddiol” Cwsmer Llyfrgell Tachwedd 2015

Yn ystod 2015, dangosodd y broses o ddatblygu rhestr ddarllen ar gyfer y sawl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd/gofalwyr fod angen gweithgareddau i symbylu iechyd meddwl.

More book clubs for all ages –

“I have been a member of the Newtown Library book club for the past 4-5 years and have enjoyed the meetings very much. I feel this activity should be publicised more widely. Thank you.”

You have also asked us for more help with learning, particularly with using new technology:-

“The availability of computer terminals has provided a springboard to accessing information of considerable benefit on a wide variety of fronts; more onsite training for computer users in the 65+ age group would be useful” Library Customer November 2015

During 2015, the development of our reading list aimed at those living with dementia and their families/carers showed the need for activities to stimulate mental health.

Page 15: Strategaeth y Gwasanaeth Llyfrgelloedd Agor drws … B...Agor drws i’n cymunedau “Libraries store the energy that fuels the imagination. They open windows to the world, and inspire

Mae’r dangosyddion perfformiad hyn yn mesur cyfraniad llyfrgelloedd at flaenoriaethau allweddol gweledigaeth 2020 Cyngor Sir Powys:

• Cefnogi pobl o fewn y gymuned i fyw bywydau llawn

• Gwella deilliannau dysgu i bawb, gan ostwng anfantais

• Cyflwyno gwasanaethau am lai - ailfodelu gwasanaethau’r cyngor i ymateb i ostyngiad mewn nawdd

How will we know if we are succeeding? We aim to achieve above average performance in the following performance indicators and outcome measures of the Welsh Public Library Standards:

• Above average number of visits to Powys Libraries (actual and virtual)

• % of adults who state that the library has helped them to learn and develop new skills

• % of adults who say that they found helpful information about health and wellbeing at their library

• % of children who say that using the library has helped them to learn and find things out

• % of adults who experience the library as an enjoyable, safe and inclusive place

• % of adults and children who think that the library makes a difference to their lives

• Budget efficiencies achieved

These performance measure the contribution of libraries to the key priorities of Powys County Council’s 2020 vision:

• Supporting people within the community to live fulfilled lives

• Improving learner outcomes for all, minimising disadvantage

• Services delivered for less - remodelling council services to respond to reduced funding

Sut fydden ni’n gwybod os ydym yn llwyddo?Ein nod yw cyflawni perfformiad sy’n uwch na’r cyfartaledd yn y dangosyddion perfformiad canlynol a mesurau deilliannau Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru:

• Niferoedd uwch na’r cyfartaledd o ymweliadau â Llyfrgelloedd Powys (gwirioneddol a rhithiol)

• % yr oedolion sy’n nodi fod y llyfrgell wedi’u helpu i ddysgu a datblygu sgiliau newydd

• % yr oedolion sy’n dweud eu bod wedi dod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol am iechyd a lles yn eu llyfrgell

• % y plant sy’n dweud fod defnyddio’r llyfrgell wedi eu helpu i ddysgu a gwybod am bethau

• % yr oedolion sy’n cael profiad o’r llyfrgell fel lle difyr, diogel a chynhwysol

• % yr oedolion a phlant sy’n meddwl fod y llyfrgell yn gwneud gwahaniaeth i’w bywydau

• Arbedion cyllidebol a gyflawnir

Page 16: Strategaeth y Gwasanaeth Llyfrgelloedd Agor drws … B...Agor drws i’n cymunedau “Libraries store the energy that fuels the imagination. They open windows to the world, and inspire

The library service will be meeting needs through working in partner-ships with a local focus across the green heart of Wales.

“Libraries will inspire the people of Wales to enjoy reading, enhance their knowledge and skills, to enrich their quality of life and empower them to realise their full potential”.

Libraries Inspire (5)

References:

1. The Reading Agency http://readingagency.org.uk/news/blog/why-is-reading-for-pleasure-important.html

2. Institute of Education report 2013 http://www.ioe.ac.uk/89938.html3. Libraries making a difference: the 5th quality framework of Welsh

Public Library Standards 2014-2017 http://gov.wales/docs/drah/publications/140425wpls5en.pdf

4. William Sieghart, Independent Library Report for England, Dec 2014 https://www.gov.uk/government/publications/independent-library-report-for-england

5. Libraries Inspire: the strategic development framework for Welsh Libraries 2012-16 Museums, Archives and Libraries Division, Welsh Government http://gov.wales/topics/cultureandsport/museums-ar-chives-libraries/libraries/libraries-inspire/?lang=en

Cyfeiriadau:

1. Asiantaeth Ddarllen http://readingagency.org.uk/news/blog/why-is-reading-for-pleasure-important.html

2. Adroddiad 2013 y Sefydliad Addysg http://www.ioe.ac.uk/89938.html3. Llyfrgelloedd yn gwneud gwahaniaeth: y pumed fframwaith ansawdd

ar gyfer Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2014-2017 http://gov.wales/docs/drah/publications/140425wpls5en.pdf

4. William Sieghart, Independent Library Report for England, Rhagfyr 2014 https://www.gov.uk/government/publications/independent-library-report-for-england

5. Llyfrgelloedd yn Ysbrydoli: Fframwaith strategol ar gyfer datblygu Llyfrgelloedd Cymru 2012-16 Adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd, Llywodraeth Cymru http://gov.wales/topics/cultureand-sport/museums-archives-libraries/libraries/libraries-inspire/?lang=en

Bydd y gwasanaeth llyfrgelloedd yn diwallu anghenion trwy weithio mewn partneriaethau gyda ffocws lleol ar draws calon werdd Cymru.

“Bydd llyfrgelloedd yn ysbrydoli pobl Cymru i fwynhau darllen, gwella eu gwybodaeth a’u sgiliau i gyfoethogi ansawdd eu bywydau a’u galluogi i wireddu eu llawn potensial”.

Llyfrgelloedd yn Ysbrydoli (5)