Podiatry Welcome pack...deunydd pwnc ym mhwnc craidd ymarfer clinigol, lle byddwch yn cymhwyso ac yn...

12
NI YW #METCAERDYDD Gwybodaeth am Ymsefydlu ac Ymrestru BSc (Anrh) Podiatreg YSGOL CHWARAEON A GWYDDORAU IECHYD CAERDYDD Blwyddyn Academaidd 2018/2019

Transcript of Podiatry Welcome pack...deunydd pwnc ym mhwnc craidd ymarfer clinigol, lle byddwch yn cymhwyso ac yn...

  • NI YW #METCAERDYDD

    Gwybodaeth am Ymsefydlu ac Ymrestru

    BSc (Anrh) Podiatreg

    YSGOL CHWARAEON A GWYDDORAU IECHYD CAERDYDD

    Blwyddyn Academaidd 2018/2019

  • C Y N N W Y S 1. Croeso gan eich Tîm Addysgu 2. Amodau cyn-ymrestru 3. Ymrestru / Casglu Cerdyn Myfyriwr MetCard 4. Amserlen yr Wythnos Ymsefydlu 5. Amserlen Ddrafft / Presenoldeb Nodweddiadol 6. Dolenni defnyddiol

  • 1. Croeso gan eich Tîm Addysgu Mae'n bleser gennym eich croesawu i Ganolfan Astudiaethau Podiatrig Cymru, Caerdydd wrth i chi ddechrau astudio ar gyfer gradd Baglor Gwyddoniaeth mewn Podiatreg. Mae'r rhaglen radd wedi'i hachredu gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (CPIG) er mwyn darparu cymhwyster i wneud cais i gofrestru gyda'r CPIG fel ciropodydd / podiatrydd. Ystyrir hefyd bod graddedigion rhaglenni achrededig mewn Podiatreg yn addas ar gyfer y proffesiwn podiatreg ac fel y cyfryw gallant ymuno â Chymdeithas y Ciropodyddion a'r Podiatryddion (SOCAP) ac ar ôl iddynt gael eu derbyn, bydd ganddynt hawl i ddefnyddio'r llythrennau MChS ar ôl eu henwau. Trefnir y tîm staff a fydd yn eich tywys drwy eich astudiaethau fel a ganlyn:

    Yr Athro Yr Athro sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros weithredu a datblygu'r Ganolfan Astudiaethau Podiatrig. Cyfarwyddwr Rhaglen Rôl y Cyfarwyddwr Rhaglen yw bod yn sensitif i anghenion myfyrwyr am adnoddau, llety, amserlen dosbarth, strategaethau addysgu a rhaglenni asesu. Caiff hyn ei hwyluso drwy gysylltiad â'r Athro a’r Tiwtoriaid Blwyddyn. Tiwtoriaid Blwyddyn Byddant yn cysylltu'n agos â'r tîm addysgu a'r Cyfarwyddwr Rhaglen. Mae eu rolau’n amrywiol, ond yn gyffredinol, maent yn ymwneud â rheoli a gweinyddu pob blwyddyn, yn enwedig mewn perthynas ag ymarfer clinigol ac ymarfer academaidd, disgyblu a chwnsela academaidd. Tiwtoriaid Personol Bydd gofal academaidd a gofal bugeiliol i unigolion yn rhan o rôl y tiwtoriaid personol a chânt eu pennu ar ddechrau'r cwrs. Caiff y cyswllt ei sefydlu drwy gytundeb y tiwtor a’r myfyriwr ac fel arfer bydd yn seiliedig ar un neu ddau o gyfarfodydd y tymor. Caiff y myfyrwyr eu hannog hefyd i roi gwybod am eu pryderon i aelodau eraill o staff yn ôl yr angen. Yn ystod eich amser gyda ni, byddwch yn astudio pum modiwl craidd dros dair blynedd y cwrs, sef Meddygaeth Bodiatrig, Astudiaethau Cyhyrysgerbydol, Ymarfer Proffesiynol, Ymchwil a Rheoli ac Ymarfer Clinigol. Cyflwynir y modiwlau hyn mewn modd a fydd yn rhoi profiad i chi o nifer o ddulliau addysgu a dysgu; mae ein strategaethau addysgu wedi'u dewis er mwyn hwyluso a chefnogi dull sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr o ddysgu ac integreiddio agos o fewn y pynciau a rhyngddynt. Rhoddir pwyslais ar sicrhau bod myfyrwyr yn gyfrifol am eu dysgu eu hunain gan ddefnyddio cwricwla sy’n seiliedig ar achosion. Bydd defnyddio'r dulliau dysgu a'u canlyniadau dymunol yn hwyluso’r broses o integreiddio deunydd pwnc ym mhwnc craidd ymarfer clinigol, lle byddwch yn cymhwyso ac yn datblygu eich sgiliau datrys problemau, gwerthuso a dyfarnu. Mae'n ofynnol i bob myfyriwr asesu cleifion (ar lefel briodol) o ran eu statws meddygol cyffredinol, llawfeddygol, cymdeithasol a seicolegol yn ogystal â chyflyrau podiatrig penodol. Felly, mae pob claf yn dod yn ymarfer datrys problemau unigol. Byddwch yn ymgymryd â’r gwaith o reoli cleifion yng nghlinigau'r Ganolfan, o gam cynnar yn y cwrs. Bydd lleoliadau ym Mlynyddoedd 1, 2 a 3 yn rhoi cyfleoedd i chi gael profiad gwaith y tu allan i'r ysgol.

  • Defnyddir tiwtorialau clinigol i gyflwyno nifer o gyflyrau a thechnegau dethol gan sicrhau eich bod yn dod i gysylltiad ag ehangder a dyfnder o brofiadau allweddol, a’ch bod yn cael cyfle i ddysgu gan eich gilydd wrth drafod. Defnyddir aseiniadau ar ffurf astudiaethau achos i hwyluso'r dadansoddiad o ddigwyddiadau a welir mewn ymarfer clinigol. Hefyd, caiff myfyrwyr eu cyflwyno i rôl ymarfer myfyriol a'i ddefnydd mewn podiatreg. Fe'ch anogir hefyd i fynychu darlithoedd a chyfarfodydd y tu allan i'r Sefydliad. Fe'ch anogir i ymuno â chymdeithasau proffesiynol, a chael eich copïau eich hun o gylchgronau drwy hynny. Bydd manteision pellach yn deillio o gyflwyno gohebiaeth a phapurau i'w cyhoeddi mewn cyfnodolion proffesiynol priodol. Bydd manylion am gynnwys y maes llafur yn llawn a'r dulliau asesu a ddefnyddir trwy gydol y rhaglen yn cael eu darparu yn eich Trosolwg Rhaglen a Llawlyfr Lefel 4 a Llawlyfrau'r Modiwlau. Y marc pasio ar gyfer pob cydran aseiniad damcaniaethol ac arholiad yw 40%. Y marc pasio ar gyfer pob asesiad clinigol ac arholiad ymarferol yw 50%. Sylwer nad yw myfyrwyr Podiatreg yn cael bwrw ymlaen â modiwl heb ei basio ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol fel y’u pennir yn nogfen y rhaglen. Bydd pob blwyddyn yn dod i ben drwy lwyddo mewn arholiad / asesiad cyn symud ymlaen at gam nesaf y rhaglen. Rhaid cwblhau'r holl oriau clinigol hefyd ar gyfer pob blwyddyn cyn symud ymlaen.

    Cynhelir sesiynau ymsefydlu yn ystod eich wythnos gyntaf er mwyn ceisio sicrhau eich bod yn ymgyfarwyddo ag agweddau ar y cwrs a gwybodaeth am yr ardal hefyd. Pan fyddwch chi'n cyrraedd campws Llandaf, bydd gofyn ichi fynd i'r dderbynfa yn y brif fynedfa, ac yna fe'ch cyfeirir at ddarlithfa lle bydd aelod o'r tîm addysgu yn eich cyfarfod. Byddwch yn cael copi o Lawlyfr Myfyrwyr Met Caerdydd, copi o'ch amserlen wedi’i chadarnhau ar gyfer y tymor 1af ac amserlen gynhwysfawr ar gyfer gweddill blwyddyn astudio 2018/19. Byddwch hefyd yn cael Trosolwg Rhaglen a Llawlyfr Lefel 4 yn ystod yr wythnos ymsefydlu. Bydd Llawlyfrau Modiwlau Unigol hefyd ar gael ar Moodle amgylchedd rhith-ddysgu mewnol Met Caerdydd. Er mwyn eich helpu i gynllunio ar gyfer y flwyddyn, darperir copi o ddyddiadau'r wythnosau a ddefnyddir yn yr amserlen a dyddiadau gwyliau ac arholiadau hefyd. Er mwyn lleihau defnydd gormodol o adnoddau papur, bydd yr holl ddogfennau a nodir uchod ar gael yn electronig.

  • 2. Amodau cyn-ymrestru, Bwrsariaeth y GIG a Gwybodaeth Ychwanegol

    Cyn ymrestru ar y rhaglen rhaid i'r holl fyfyrwyr fod wedi cwblhau'r ddwy broses hon

    1. GWIRIAD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD (DBS)

    Sefydliad y Llywodraeth yw’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd sy'n helpu i atal pobl anaddas rhag gweithio gyda phlant ac oedolion bregus. Bydd pob darpar fyfyriwr yn cael Datgeliad Manylach drwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn ymrestru ar y rhaglen. Os bydd problem, byddwn yn cyfeirio canlyniadau'r datgeliad at banel i'w hystyried ac yn cynghori’r darpar fyfyriwr fel sy’n briodol. Os nad ydynt yn hanu o Brydain, rhaid i fyfyrwyr sy'n ymgeisio am y rhaglen ddarparu'r wybodaeth hon trwy ffynhonnell gymharol o'r wlad y maent yn hanu ohoni cyn ymrestru. Rhaid i bob myfyriwr gwblhau ffurflen Hunanddatganiad Met Caerdydd yn flynyddol mewn perthynas â

    chollfarnau troseddol.

    Mae rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a sut i gwblhau'r broses ar-lein ar gael yn: www.cardiffmet.ac.uk/dbs 2. ASESIADAU IECHYD GALWEDIGAETHOL

    Mae asesiadau iechyd galwedigaethol yn orfodol i fyfyrwyr ar raglenni Met Caerdydd sy'n gysylltiedig â gofal iechyd. Darparwr Iechyd Galwedigaethol Met Caerdydd yw IMASS. Cam cyntaf yr asesiad iechyd galwedigaethol yw cwblhau'r Holiadur Iechyd Galwedigaethol. Anfonir gwybodaeth atoch ynglŷn â sut i gofrestru gydag IMASS, a chwblhau’r holiadur ar-lein, pan fydd eich lle yn Ddiamod. Ni fyddwch yn cael ymrestru hyd nes y byddwch wedi cwblhau'r Holiadur Iechyd Galwedigaethol. Y dyddiad cau ar gyfer ei gwblhau yw Medi 4ydd. Ar gyfer ymgeiswyr hwyr, bydd angen cwblhau’r holiadur cyn gynted ag y bo modd er mwyn osgoi unrhyw oedi cyn dechrau eich rhaglen Mae rhagor o wybodaeth am y broses asesu iechyd galwedigaethol i'w gweld ar: www.cardiffmet.ac.uk/ohq.

    Bwrsariaethau GIG a Ffioedd Dysgu Mae Gwasanaethau Gwobrau Myfyrwyr Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn gweithredu Cynllun Bwrsariaethau GIG Cymru, sy'n darparu cyllid ar gyfer ystod o gyrsiau addysg iechyd yng Nghymru, gan gynnwys y rhaglen BSc (Anrh) Gwyddorau Gofal Iechyd. Mae'r cyllid sydd ar gael trwy'r cynllun hwn yn cynnwys cost ffioedd dysgu, bwrsariaeth ar gyfer costau byw, gan gynnwys £1000 o grant heb brawf modd ynghyd â bwrsariaeth â phrawf modd a chymorth ar gyfer costau ychwanegol megis teithio a llety. Bydd myfyrwyr sy'n dechrau astudio ar ôl 2017 ac sy'n ymrwymo i weithio yng Nghymru am y ddwy flynedd ar ôl cwblhau eu cwrs, yn gallu cael mynediad at gyllid y GIG fel y nodir uchod i dalu am gost hyfforddiant. Mae'r cynllun bwrsariaeth ar gyfer gwladolion yr UE yn cynnwys darparu ffioedd dysgu yn unig, oni bai eu bod wedi bod yn preswylio fel rheol yn y DU am dair blynedd cyn dechrau'r cwrs.

    http://www.cardiffmet.ac.uk/dbshttp://www.cardiffmet.ac.uk/ohq

  • Ni fydd unigolion nad ydynt yn teimlo y gallant ymrwymo i'r cyfnod penodol hwn o waith yn gymwys i gael manteision Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru, ond byddant yn dal i allu astudio yng Nghymru a byddant yn gallu cael y cymorth canlynol:

    Bydd myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru nad ydynt am ymrwymo i weithio yng Nghymru ar ôl cwblhau eu cwrs yn cael mynediad at y pecyn cymorth safonol sydd ar gael gan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

    Bydd myfyrwyr nad ydynt yn byw yng Nghymru nad ydynt yn dymuno ymrwymo i weithio yng Nghymru yn dal i fod yn gymwys i astudio yng Nghymru ond bydd angen iddynt sicrhau cyllid o ffynhonnell arall. Gall hyn gynnwys cyllid gan y corff cyllido perthnasol yn y wlad y maent yn hanu ohoni neu drwy hunangyllido. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am gyllid yw chwe wythnos ar ôl dechrau'r cwrs. Os nad ydych am ymrwymo i weithio yng Nghymru, bydd yn dal i fod angen i chi gofrestru ar System Cofrestru Addysg Iechyd Cymru cyn gwneud cais am eich cyllid myfyrwyr. Mae rhestr o Gwestiynau Cyffredin ar dudalennau gwe Gwasanaeth Gwobrau Myfyrwyr Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru - http://www.nwsspstudentfinance.wales.nhs.uk/new-students. Am wybodaeth ar nifer y lleoedd sydd ar gael ar gyfer y cwrs, h.y. nifer y myfyrwyr y gallwn eu derbyn, a sut rydym yn dyrannu'r lleoedd hyn, ewch i'n gwefan - www.cardiffmet.ac.uk/nhsbursaries.

    Gwybodaeth Ychwanegol Am resymau’n ymwneud ag Iechyd a Diogelwch mae'n orfodol i bob myfyriwr gael brechiadau Hepatitis B a Tetanus cyn dod i gysylltiad â chleifion ar y rhaglen. Mae Hepatitis B yn galw am gyfres o frechiadau felly, lle na chwblhawyd cwrs, rhaid i'r myfyriwr ddarparu cofnod o gynnydd. Rheolir yr elfen hon trwy brosesau Iechyd Galwedigaethol Met Caerdydd. Hefyd, rhaid i fyfyrwyr ddatgan, ar sail flynyddol, unrhyw beth a allai ddylanwadu ar eu haddasrwydd i ymarfer yn ystod eu hamser ar y rhaglen. Bydd y wybodaeth a gyflwynir yn ddarostyngedig i reolau diogelu data a chytundebau cyfrinachedd. Bydd myfyrwyr yn glynu wrth y safonau proffesiynol a'r cod ymddygiad, perfformiad a moesoldeb fel sy’n gweddu i fyfyriwr ar raglen sy'n gysylltiedig â Gofal Iechyd. Yn ganolog i'r rhaglen hyfforddi ac asesu, bydd yn ofynnol i fyfyrwyr efelychu rôl y claf yn achlysurol. Bydd angen i'r myfyriwr gwblhau ffurflen ganiatâd ar ddechrau’r rhaglen. Bydd myfyrwyr yn anrhydeddu'r gofyniad i gwblhau'r holl oriau clinigol dynodedig a nodwyd yn y rhaglen. Bydd myfyrwyr yn arwyddo cytundeb dysgu i'r perwyl hwn. Mae'n ofynnol i bob myfyriwr lofnodi datganiad cyfrinachedd mewn perthynas â thriniaeth cleifion.

    http://www.nwsspstudentfinance.wales.nhs.uk/new-studentshttp://www.cardiffmet.ac.uk/nhsbursaries

  • 3. Ymrestru / Casglu Cerdyn Myfyriwr MetCard Mae ymrestru yn broses bwysig sy'n cadarnhau eich statws fel Myfyriwr.

    Gallwch gwblhau'r broses hunanymrestru ar-lein o unrhyw gyfrifiadur drwy ein system

    Hunanwasanaeth. Er mwyn hunanymrestru, noder bod yn rhaid i'ch statws fod yn Ddiamod

    Cadarn a'ch gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Uwch wedi'i glirio a'i wirio gan yr Adran

    Derbyn. Mae'n rhaid ichi hefyd fod wedi cwblhau'r Holiadur Iechyd Galwedigaethol ar-lein drwy

    IMASS.

    Byddwch yn cael e-bost yn eich hysbysu pan fyddwch yn gymwys i ymrestru ar-lein. Bydd yr e-

    bost yn eich cyfeirio at gyfleuster ailosod cyfrinair er mwyn gofyn am gyfrinair i allu mewngofnodi

    a chwblhau'r broses ymrestru. Am wybodaeth ac arweiniad ar y broses hon, gwnewch yn siŵr eich

    bod yn ymweld â'n tudalen ymrestru - www.cardiffmet.ac.uk/enrolment.

    Mae'r broses hon yn hanfodol gan y bydd yn caniatáu i chi gael mynediad at eich benthyciad

    myfyriwr (os gwneir cais amdano), talu ffioedd, systemau TG Met Caerdydd ac yn bwysig iawn, yn

    eich galluogi i gael eich Cerdyn Myfyriwr MetCard.

    Byddwch hefyd yn derbyn eich Llawlyfr Rhaglen yn ystod eich Wythnos Ymsefydlu. Ymrestru ar gyfer Myfyrwyr Rhyngwladol o'r tu allan i'r UE Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol (o'r tu allan i'r UE) ni fydd yn ofynnol i chi ymrestru ar-lein

    cyn cyrraedd Met Caerdydd. Y rheswm am hyn yw ei bod yn ofyniad cyfreithiol i'r brifysgol wirio

    dogfennau mewnfudo myfyrwyr rhyngwladol cyn iddynt gael caniatâd i ymrestru ar eu cyrsiau.

    Am ragor o wybodaeth am ymrestriad myfyrwyr rhyngwladol a rhestr o ddogfennau y bydd angen

    i chi ddod â nhw gyda chi, ewch i’r tudalennau myfyrwyr rhyngwladol neu cysylltwch â’r Tîm

    Cydymffurfiaeth Mewnfudo yn [email protected] Ffôn: 029 2041 5644.

    Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth Bydd gennych fynediad at Wasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth Met Caerdydd yn fuan ar ôl cwblhau eich ymrestriad ar-lein. Anfonir e-bost atoch i gadarnhau gyda'ch manylion mewngofnodi Met Caerdydd. I weld y cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd ar gael, ewch i www.cardiffmet.ac.uk/library.

    Eich Cerdyn Myfyriwr MetCard Nodir amser a drefnwyd i chi gasglu eich cerdyn MetCard yn eich gwybodaeth Wythnos

    Ymsefydlu. Mae eich cerdyn MetCard yn rhoi mynediad i chi i holl adeiladau a drysau'r prif

    gampws. Gallwch hefyd ychwanegu arian at eich cerdyn MetCard i allu cael mynediad at a thalu

    am ddefnyddio argraffwyr hunanwasanaeth, copïwyr a gwasanaethau’r Stiwdio Argraffu. Am

    fanteision pellach y cerdyn MetCard, cliciwch yma.

    Ffioedd Eich ffioedd rhaglen ar gyfer dechrau ym mis Medi 2018 yw £9,000. Os oes unrhyw gostau ychwanegol ynghlwm wrth eich rhaglen, fe'u rhestrir ar www.cardiffmet.ac.uk/additionalcosts. Dylech fod yn ymwybodol o'r costau hyn eisoes. Mae manylion am ffioedd myfyrwyr rhyngwladol (o'r tu allan i'r UE) i'w gweld yma.

    http://www.cardiffmet.ac.uk/enrolmenthttp://www.cardiffmet.ac.uk/international/study/info/Pages/default.aspxmailto:[email protected]://www.cardiffmet.ac.uk/libraryhttp://www.cardiffmet.ac.uk/study/newstudents/Documents/Student%20Card%20Poster_Layout%201.pdfhttp://www.cardiffmet.ac.uk/additionalcostshttp://www.cardiffmet.ac.uk/international/study/applying/Pages/Fees-and-Money-Matters.aspx

  • Costau Ychwanegol Cysylltiedig:

    1. Gan fod y cwrs yn cynnwys elfen glinigol fawr, bydd angen i chi gael dillad amddiffynnol a

    math priodol o esgidiau ar gyfer gwaith clinigol. Bydd modd archebu tiwnigau clinigol

    drwy'r Ganolfan cyn i'r myfyrwyr ddod i gysylltiad â chleifion. Bydd gwybodaeth am

    ddillad amddiffynnol yn cael ei darparu yn ystod yr wythnos Ymsefydlu.

    2. Fe’ch cynghorir i brynu rhai llyfrau yn ystod eich amser ar y cwrs. Fodd bynnag, mae

    llawer o destunau’n rhy ddrud i fyfyrwyr allu eu fforddio, felly bydd pob darlithydd yn

    trafod gyda chi pa lyfrau fyddai’n addas i chi eu prynu a llyfrau y gallwch ddod o hyd

    iddynt yn y llyfrgell a’r ganolfan adnoddau dysgu.

    3. Pan fyddwch yn ymuno â ni, efallai y byddwch eisiau prynu rhai eitemau megis siswrn a

    thâp mesur ôl-dynadwy, caniatewch oddeutu £30 ar gyfer y rhain.

    4. Yn ystod pob lefel o’r rhaglen (blynyddoedd 1, 2 a 3) bydd elfen leoliad a all gynnwys

    rhai treuliau teithio. Byddwch yn cael gwybodaeth fwy manwl ar hyn gan Gydlynwyr

    Lleoliadau’r Ganolfan.

    5. Fe'ch cynghorir i ymuno ag adran y myfyrwyr o Gymdeithas y Ciropodyddion a'r

    Podiatryddion. Mae hyn fel arfer yn costio tua £20 am y flwyddyn gyntaf (cyfradd

    ostyngedig) gan gynnwys cost cylchgrawn misol y Gymdeithas 'Podiatry Now' a fydd yn

    cael ei anfon at bob aelod. Hefyd, bydd aelodaeth yn sicrhau gostyngiadau ar gyfer

    digwyddiadau'r Gymdeithas.

  • 4. Amserlen yr Wythnos Ymsefydlu

    Mae eich semester cyntaf fel myfyriwr newydd yn dechrau gyda'r Wythnos Ymsefydlu, pan fyddwch yn

    dod i arfer â'ch llety, eich cwrs a bywyd myfyrwyr. Mae amserlen eich Wythnos Ymsefydlu yn rhoi rhestr

    o ddigwyddiadau wedi'u cynllunio i sicrhau eich bod yn ymgyfarwyddo â Met Caerdydd, ei gyfleusterau

    a'ch cyd-fyfyrwyr. Byddwch yn cael cyfle i fynychu ystod o ddigwyddiadau'n ymwneud â’ch cwrs,

    gwasanaethau llyfrgell, TG, gwasanaethau myfyrwyr ac undeb y myfyrwyr. Byddwch hefyd yn cael nifer

    o sesiynau gyda’ch tiwtor personol er mwyn gwneud eich cyfnod pontio academaidd mor esmwyth â

    phosib.

    Cynhelir ffair y glas lle gallwch ymaelodi â nifer o gymdeithasau a chlybiau gwahanol, a digwyddiad

    cymdeithasol FreshFest brynhawn dydd Gwener.

    Peidiwch ag anghofio cyfrannu ar Twitter gan ddefnyddio #metcaerdydd.

    Os ydych chi'n newydd i Gaerdydd, bydd digon o gyfleoedd hefyd i chi archwilio'r ddinas, gwneud

    ffrindiau newydd ac ymgyfarwyddo â’ch bywyd newydd.

    Mae'r cyfnod ymsefydlu yn achlysur mawr ar y campws ac mae pawb yn cymryd rhan. Peidiwch â bod

    ofn gofyn - mae'r holl staff a myfyrwyr yn hapus i groesawu unrhyw un newydd i’r campws.

    Mae eich digwyddiadau a'ch amserlen yn cael eu cadarnhau ar hyn o bryd a byddant yn cael eu lanlwytho

    fel dogfen ar wahân i chi ar ein tudalennau Myfyrwyr Newydd.

    http://www.cardiffmet.ac.uk/study/newstudents/ug/Pages/Course-Joining-Information.aspx

  • 5. Amserlen Ddrafft / Presenoldeb Nodweddiadol

    Amserlen ddrafft nodweddiadol – Podiatreg Lefel 4 Semester 1

    AM PM

    Dydd Llun 9:00 – 12:00 Meddygaeth Bodiatrig Cyflwyniad i ymarfer clinigol a chyflwyniad clinigol.

    13:00 – 15.00 Astudiaethau Cyhyrysgerbydol Anatomeg Rhannau’r Corff

    Dydd Mawrth 11:00 – 12:30 Astudiaethau Cyhyrysgerbydol Astudiaethau Osgo

    14:00 - 15.30 Meddygaeth Bodiatrig Systemau’r Corff – astudiaeth achos

    Dydd Mercher 10:00 – 11:00 Astudiaethau Cyhyrysgerbydol Labordai sgiliau.

    Myfyrwyr yn rhydd i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol/hunanastudio.

    Dydd Iau 10:00 – 12:00 Meddygaeth Bodiatrig Ffarmacoleg – astudiaeth achos

    15:00 – 17:00 Ymarfer Proffesiynol Addysg ryngbroffesiynol Wythnosau - 9, 11, 18, 19 Yr holl gynnwys arall ar-lein

    Dydd Gwener 09:00 – 12:00 Ymarfer Clinigol

    13:00-16:00 Ymarfer Clinigol (Clinig GIG)

    Modiwl Ymchwil a Rheoli – Semester 2.

    Noder: Mae’n bosibl y newidir yr amserlenni, hyd at ac yn cynnwys dechrau’r tymor. Fel myfyriwr blwyddyn gyntaf, bydd amserlen wedi ei chadarnhau ar gael i chi o’r Wythnos Ymsefydlu ymlaen, cyn yr wythnos gyntaf o addysgu. Nodwch y bydd angen i chi fod wedi eich ymrestru cyn y gallwch gael y wybodaeth hon. Os yw eich lle wedi'i gadarnhau ond nad ydych wedi cael gwybod y gallwch ymrestru, cysylltwch â’r Adran Derbyn ynglŷn â beth i'w wneud nesaf.

  • 6. Dolenni defnyddiol

    Amserlen Bydd y ddolen hon yn rhoi mynediad at eich amserlen sydd wedi’i chadarnhau. Mae angen i chi fod wedi ymrestru cyn y gallwch agor y ddolen, a byddwn yn cysylltu â chi pan fydd y wybodaeth ar gael.

    Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Os yw'ch rhaglen chi’n golygu eich bod yn dod i gysylltiad â phlant a phobl ifanc neu bobl agored i niwed, byddwn wedi gofyn i chi gael gwiriad cofnodion troseddol fel rhan o’ch cynnig.

    Iechyd Galwedigaethol Er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch gyfredol, mae'n ofynnol i holl fyfyrwyr Met Caerdydd sy'n dilyn rhaglen yn ymwneud â gofal iechyd yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd (sy'n cynnwys elfen lleoliad clinigol) gael asesiad Sgrinio Iechyd Galwedigaethol gorfodol. Yn ogystal, mae rhai cyrsiau’n ei gwneud yn ofynnol i chi gydymffurfio â rhaglen imiwneiddio a brechu'r Adran Iechyd.

    Costau Ychwanegol Cyrsiau Costau ychwanegol yw'r costau gorfodol neu ddewisol, yn ychwanegol at ffioedd dysgu, y mae angen i fyfyrwyr eu talu er mwyn cymryd rhan yn llawn a chwblhau eu hastudiaethau. Maent yn cynnwys pethau fel cyfarpar, tripiau, lleoliadau a gwiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae gan bob rhaglen wahanol gostau ychwanegol.

    Swyddfa Ryngwladol a Phartneriaethau Cyngor i fyfyrwyr rhyngwladol o'r tu allan i'r UE ar wneud eich cais am fisa, byw yn y DU, gwneud trefniadau llety neu fanteisio ar y Gwasanaeth Croesawu Maes Awyr. Bydd y Swyddfa Ryngwladol a Phartneriaethau yn darparu cyngor ar gymorth lles a dysgu trwy gydol eich cwrs.

    Llety Mae myfyrwyr yn cael symud i Neuaddau o ddydd Gwener 14 Medi ymlaen, ond dim ond rhai sydd wedi cwblhau’r broses ymrestru’n llwyddiannus fydd yn cael cysylltiad â’r we. Cynhelir digwyddiadau o’r adeg y byddwch yn cyrraedd a thrwy gydol y cyfnod Ymsefydlu. Bydd yr Adran Llety yn anfon manylion atoch pan fyddant wedi’u cadarnhau.

    Gwasanaethau Myfyrwyr Cymorth yn ystod eich amser gyda ni ynglŷn â'ch iechyd, eich lles, eich ffordd o fyw a'ch gyrfa yn y dyfodol. Y nod yw darparu’r holl gymorth sydd ei angen arnoch i sicrhau bod eich cyfnod astudio mor bleserus a llwyddiannus â phosib. Mae gwasanaethau cwnsela, anabledd a chaplaniaeth ar gael hefyd.

    Cyllid Myfyrwyr Gwybodaeth am Fenthyciadau Ffioedd Dysgu a Benthyciadau Cynhaliaeth, grantiau nad oes angen eu had-dalu, bwrsariaethau ac ysgoloriaethau a all fod ar gael.

    http://cis.cardiffmet.ac.uk/TimetableStudent/Login.aspx?ReturnUrl=%2ftimetablestudenthttp://www.cardiffmet.ac.uk/study/adviceforapplicants/dbs/Pages/default.aspxhttp://www.cardiffmet.ac.uk/study/adviceforapplicants/Pages/Occupational-Health.aspxhttp://www.cardiffmet.ac.uk/study/finance/Pages/Undergraduate-Costs.aspxhttp://www.cardiffmet.ac.uk/international/study/info/Pages/default.aspxhttp://www.cardiffmet.ac.uk/accommodation/Pages/default.aspxhttp://www.cardiffmet.ac.uk/study/studentservices/Pages/default.aspxhttp://www.cardiffmet.ac.uk/study/finance/Pages/Undergraduate-Students.aspx

  • Dolenni Defnyddiol (parhad)

    Cyfleusterau a Chwaraeon Met Caerdydd

    Undeb Myfyrwyr Met Caerdydd gan gynnwys gwybodaeth a bandiau llewys Wythnos y Glas

    Dyddiadau’r Tymhorau

    Mapiau o’r Campws, Cabanau Beiciau a MetRider Mae gan Met Caerdydd ei wasanaeth bws ei hun o'r enw Met Rider. Byddwn yn anfon cais atoch gyda'ch Gwybodaeth Ymsefydlu ac Ymrestru. Mae gennym lefydd cadw beiciau ar bob campws hefyd, a chyfleusterau newid a chawodydd. Mae’r cabanau wedi’u cloi, a’r unig ffordd o’u defnyddio yw gyda’ch cerdyn MetCard ar ôl i chi gael caniatâd drwy’r parth gwybodaeth i-zone.

    Cynllun Tacsis Diogel Mae Met Caerdydd yn gweithredu cynllun Tacsis Diogel ar y cyd â Dragon Taxis, sy’n sicrhau bod gennych ffordd o gyrraedd adref bob amser.

    Rhithdeithiau Cymrwch gip arall ar ein campws a'n cyfleusterau gyda'n rhithdeithiau tywysedig.

    Llawlyfr Myfyrwyr

    Llawlyfr Academaidd

    Partneriaeth Santander a changen y campws Bydd cyfle i fyfyrwyr agor cyfrif Santander yn ystod Ffair y Glas. Bydd angen prawf adnabod â llun ohonoch i wneud hyn.

    Polisi Derbyn

    http://www.cardiffmet.ac.uk/about/sport/Pages/default.aspxhttp://www.cardiffmetsu.co.uk/http://www.cardiffmet.ac.uk/registry/Pages/Term-Dates.aspxhttp://www.cardiffmet.ac.uk/about/campuses/Pages/default.aspxhttp://www.cardiffmet.ac.uk/virtualtourshttp://www.cardiffmet.ac.uk/study/studentservices/Pages/Student-Handbook-and-Student-Charter.aspxhttp://www.cardiffmet.ac.uk/registry/academichandbook/Pages/default.aspxhttp://www.cardiffmet.ac.uk/business/Pages/Santander.aspxhttp://www.cardiffmet.ac.uk/study/adviceforapplicants/Pages/Admissions-Policy.aspx