Plantasia yn Abertawe
-
Upload
city-and-county-of-swansea -
Category
Documents
-
view
243 -
download
1
description
Transcript of Plantasia yn Abertawe
Byd planhigion ac anifeiliaid egsotig Abertawe...
Dewch i ddarganfod ein hafan drofannol o blanhigion ac anifeiliaid ardderchog yng nghanol y ddinas. Mae’r cyfan gan Plantasia - trychfilod, pysgod a mwncïod, planhigion banana, planhigion pinafal, cacti pigog a bamb ̂ w enfawr - ac mae’n berffaith am ddiwrnod unigryw i’r teulu, beth bynnag fo’r twydd!
PlanhigionMae gan ein parthau
trofannol a hinsawdd sych amrywiaeth gwych o blanhigion
anghyfarwydd o bob cwr o’r byd. Yn ogystal â ffrwythau egsotig, dewch i weld sut mae
bwydydd moethus eraill yn cael eu tyfu, gyda choco, fanila a choffi’n cael eu harddangos. Yn
ogystal â bwyd - dewch i weld ble mae persawr, rwber, hetiau panama a sebon yn bwrw eu
gwreiddiau - yn llythrennol! Ceir blodau prydferth hefyd, a phlanhigion unigryw yr
anialwch fel y blodyn canmlwydd sy’n blodeuo bob can mlynedd a dyna
gynhwysyn tequila.
AnifeiliaidHefyd, gallwch ddod yn
agos at rai anifeiliaid anhygoel. Mae ein mwncïod tamarin pennau
cotwm prin yn werth eu gweld, ac mae gan bob un ohonynt eu ‘trwsiad gwallt’
unigryw eu hunain. Os ydych yn ddigon dewr, gallwch ddod yn agos at beithon o Fwrma,
igwanaod, camelion, draig farfog a tharantwla hefyd. Hefyd mae gennym lawer o bryfed
annifyr ynghyd ag acwariwm sy’n cynnwys amrywiaeth o rywogaethau pysgod, gan gynnwys y pirana dychrynllyd (er
bod y rhain mewn tanc ar eu pennau eu hunain!).
Siop Anrhegion a Siop Goffi
Wedi i chi lwyddo i adael y planhigion ac anifeiliaid prydferth, beth am ymlacio yn ein siop goffi?
Mae’n gwerthu amrywiaeth eang o fwydydd a diodydd, gan gynnwys 37 math
o siocled poeth a chacennau. Gallwch hefyd fwrw golwg o gwmpas ein siop
anrhegion wych i gael cofrodd berffaith o’ch ymweliad, gan gynnwys llyfrau,
gemwaith, teganau addysgiadol ac anifeiliaid anwes o
bob maint.
Partïon Pen-blwydd
Mwynhewch brofiad pen-blwydd unigryw na fyddwch
fyth yn ei anghofio. Mae’r pecyn yn cynnwys trywydd cyffrous ar thema
anifeiliaid o amgylch yr ystafell boeth a’r ystafell bywyd gwyllt, ystafell breifat gyffrous am hyd at 2 awr, bwyd parti
hyfryd, mygydau anifeiliaid hwyl i’r plant a gwahoddiadau
parti unigryw.
Digwyddiadau Arbennig
Drwy gydol y flwyddyn, rydym yn cynnal amrywiaeth o
weithgareddau hwyl ac addysgiadol i’r holl deulu eu mwynhau. Yn ystod unrhyw
wyliau ysgol, gallwch ymuno â ni am ddigwyddiadau megis sioeau anifeiliaid
rhyngweithiol, adrodd straeon, celf a chrefft, llwybrau trysor a llawer mwy!
Am eu body yn boglogaidd dylech drefnu ymlaen llaw.
Ffotograffiaeth Priodasau
Peidiwch â gadael i dywydd gwael ddifetha’ch diwrnod
mawr. Gyda’i chefndir anhygoel a’i golygfeydd godidog, boed law
neu hindda, mae Plantasia’n lleoliad perffaith i dynnu
lluniau priodas arbennig.
Ymweliadau Grw ˆ p
Rydym yn croesawu pob math o grwpiau, ac yn argymell eich
bod yn ffonio ymlaen llaw i drefnu eich ymweliad. Cewch grwydro’n hamddenol
gyda’r trywyddion hunan-arwain neu archebu taith dywys arbennig.
Mae croeso hefyd i ysgolion. Ewch i’n gwefan am raglen fanwl o’r
gweithdai sy’n cyd-fynd â’r Cwricwlwm Cenedlaethol.
Ymweld â set Doctor Who
Cafodd ein hanifeiliaid hyfryd gyfle gwych yn gynharach eleni i ‘deithio
trwy amser’. Cafodd y ty ̂ gwydr tawel ei drawsnewid yn ganolbwynt dyfodolaidd, y
crëwyd planed gyfan ohono! Honno oedd un olygfa ar gyfer ‘The Doctor’s Daughter’, sy’n
rhan o 4edd gyfres boblogaidd Doctor Who y BBC, lle mae’r Doctor yn dod â rhyfel rhwng
dyn ac angenfilod pysgod arswydus i ben! Mwynhaodd y sêr eu hymweliad,
a’r cyfle i gwrdd â rhai o’n hanifeiliaid cyfeillgar.
Sut mae’r tywydd?
Mae’n planhigion rhyfeddol hefyd wedi darparu
cefndir i ragolygon tywydd cenedlaethol ar y teledu, gyda chyflwynwyr yn cerdded trwy’r
ty ̂ gwydr, lle mae’n haf gydol y flwyddyn.
Pafiliwn Patti
Neuadd y Ddinas a Neuadd Brangwyn
Neuadd y Sir
Canolfan Siopa’r Cwadrant
a’r Orsaf Fysus
Theatr y Grand
Marchnad Abertawe
Sgwâr y Castell
Terfynfa’r Fferi
Amgueddfa Abertawe
Canolfan Dylan
Thomas
Canolfa Siopa Parc Tawe
Gorsaf Drenau
Oriel Gelf Glynn Vivian
Parcio a Theithio
Datblygiad SA1
Heol Walter
Heol San
Helen
H e o l Ys t u m l l w
y n a r t h
Heol Trawler
Parcio i Goetsis
Ffordd y Gorllewin
Heol Bryn-y-Môr
Parc Victoria
I’r Mwmbwls,
Gwyr a’r Brifysgol
Stryd Mansel
Ffordd y Brenin
Ffordd y
Dywysoges
Stryd y Gwynt Yr H
wylbont
Bae Abertawe
Stryd Rhydychen
Stry
d y
Ber
llan
Y S
tryd
Faw
rH
eol New
Cut
M4 Cyff 47
M4 Cyff 45
Ffordd FabianM4 Cyff 42 (Dwyrain)
Heol Pentre G
uinea
Parcio i Goetsis
LC
Sut i’n cyrraedd Rydym yng nghanol dinas brydferth Abertawe, yng nghyfadeilad Parc Tawe nesaf at Toys ‘R Us. Gadewch yr M4 wrth Gyffordd 42 gan ddilyn yr A483 i mewn i Abertawe. Ar ôl cyrraedd y ddinas, dilynwch yr arwyddion i Barc Tawe.Mae maes parcio drws nesaf at Plantasia, a gallwch gerdded yn hawdd o ganol y ddinas. Rydym lai na 10 munud i ffwrdd ar droed o’r orsaf drenau a’r orsaf fysus.Oriau Agor a Gwybodaeth i Ymwelwyr Mae Plantasia ar agor bob dydd rhwng 10am a 5pm (ar wahân i ddyddiau Llun ym mis Rhagfyr a mis Ionawr). Ni chewch fynediad ar ôl 4.30pm. Rhaid talu i gael mynediad i Plantasia.
Os hoffech gael y daflen hon mewn fformat arall, ffoniwch y Gwasanaethau Marchnata ar 01792 635 478Yr holl wybodaeth yn gywir adeg argraffu.
Mae tâl ychwanegol am rai digwyddiadau arbennig hefyd. Ffoniwch neu ewch i’r wefan am fanylion. Mae mynediad i’r siop goffi a’r siop anrhegion am ddim. Mae Tocynnau Blwyddyn ar gael. Ar gyfer digwyddiadau arbennig, ac ymweliadau grwp/ysgol, rhaid trefnu ymlaen llaw.Gellir llogi ystafell.Darperir mynediad cyflawn i’r anabl.Am wybodaeth bellach, ffoniwch ni ar 01792 474555 neu e-bostiwch [email protected]
www.plantasia.org
ˆ