hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com… · Web viewMae geiriadur da ar fformat llyfr neu...

12
Pontio i Ffrangeg UG

Transcript of hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com… · Web viewMae geiriadur da ar fformat llyfr neu...

Page 1: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com… · Web viewMae geiriadur da ar fformat llyfr neu ar-lein yn hanfodol, p'un ai a ydych chi'n gwneud yn siŵr nad ydych chi’n anghofio

Pontio i Ffrangeg UG

Cyfeiriadau: ArgymhellionCanllaw yw hwn i ddisgyblion ymarfer eu sgiliau Ffrangeg er mwyn pontio i gynnwys Safon UG

penodol gyda'u hathrawon.

Page 2: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com… · Web viewMae geiriadur da ar fformat llyfr neu ar-lein yn hanfodol, p'un ai a ydych chi'n gwneud yn siŵr nad ydych chi’n anghofio

Geiriadur Clawr Caled Ffrangeg Collins Roberts Geiriadur dwyieithog Ffrangeg i Saesneg a Saesneg i Ffrangeg mwyaf blaenllaw'r byd, ac mae'r degfed argraffiad hwn wedi cael ei ddiwygio i gynnwys yr holl eirfa ddiweddaraf o amrywiaeth eang o feysydd, gan gynnwys ychwanegiadau newydd o feysydd y rhyngrwyd, yr amgylchedd ac economeg. Mae blychau diwylliant yn esbonio tarddiad ymadroddion o lenyddiaeth, ffilm a diwylliant poblogaidd i helpu i gyfieithu a gwella eich dealltwriaeth o ddiwylliant poblogaidd Ffrainc. Mae’r atodiad “Language in Use” yn cynnwys cannoedd o enghreifftiau o sut caiff termau eu defnyddio mewn cyd-destunau bywyd go iawn fel ysgrifennu traethodau, e-bost a sgyrsiau ffôn i'ch helpu i ddefnyddio Ffrangeg yn rhugl ac yn naturiol. * Yn cynnwys mapiau lliw manwl o'r ardaloedd sy'n siarad Saesneg a Ffrangeg.

Geiriadur ar-lein

www.linguee.com

Geiriadur Saesneg a pheiriant chwilio am gyfieithiadau gyda 1000000000 o enghreifftiau o frawddegau gan gyfieithwyr dynol. Ieithoedd: Saesneg, Almaeneg, Ffrangeg, Sbaeneg.

Geiriaduron ar-lein am ddim - Sbaeneg, Ffrangeg, Eidaleg, Almaeneg a mwy. Rhediadau, ynganiadau sain a fforymau ar gyfer eich cwestiynau.

Carwch eich geiriadur!Mae geiriadur da ar fformat llyfr neu ar-lein yn hanfodol, p'un ai a ydych chi'n gwneud yn siŵr nad ydych chi’n anghofio eich sgiliau iaith neu'n dysgu geirfa newydd. Dyma restr o rai o’r prif eiriaduron y mae’r rhan fwyaf o athrawon yn eu hargymell. Maent yn rhai hawdd eu defnyddio a byddant yn eich helpu pan fyddwch chi'n dechrau’r cwrs Safon Uwch o ddifri. Dysgwch sut maen nhw'n gweithio a’r ffordd orau o’u defnyddio i'ch helpu chi!

Page 3: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com… · Web viewMae geiriadur da ar fformat llyfr neu ar-lein yn hanfodol, p'un ai a ydych chi'n gwneud yn siŵr nad ydych chi’n anghofio

Argymhellion am ffilmiau i’w mwynhau

The African DoctorBlwyddyn cyhoeddi: 2016Dosbarthiad: PAWB (U)Hyd: 1 awr 33 munudGenre: ComediCrynodeb:Er mwyn dianc rhag unbennaeth, mae meddyg o’r Congo yn symud ei deulu i bentref bach Ffrengig, lle mae’r newid mewn diwylliant yn sioc i bawb.

Gallwch wylio’r ffilm hon ar

A Mighty TeamBlwyddyn cyhoeddi: 2016Dosbarthiad: ARWEINIAD (PG)Hyd: 1 awr 36 munudGenre: ComediCrynodeb:Pan fydd pwl o dymer yn arwain at anaf difrifol, mae seren bêl-droed nad yw'n cael chwarae yn dychwelyd i'w dref enedigol ac yn cytuno yn groes i’r graen i hyfforddi'r tîm ieuenctid lleol.

Gallwch wylio’r ffilm hon ar

Bydd gwylio ffilmiau yn Ffrangeg yn help mawr gyda'ch sgiliau gwrando a byddwch yn parhau i feithrin eich gwybodaeth am eirfa a chystrawen. Peidiwch â phoeni os nad ydych chi'n gwybod beth sy'n cael ei ddweud, bod y sgyrsiau'n symud yn gyflym iawn neu efallai mai dim ond ychydig o eiriau rydych chi’n eu gwybod. (Dyna pam mae isdeitlau ar gael)! Yr hyn y byddwch yn ei wneud, fodd bynnag, yw hyfforddi eich clust i ddod i arfer â llif a rhythm yr iaith a dod i arfer â gwahanol leisiau ac acenion Ffrengig! Erbyn i chi gyrraedd ffilm y cwrs UG y bydd eich athro wedi'i dewis, byddwch wedi arfer â’r cyfrwng ac yn barod amdani!

Page 4: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com… · Web viewMae geiriadur da ar fformat llyfr neu ar-lein yn hanfodol, p'un ai a ydych chi'n gwneud yn siŵr nad ydych chi’n anghofio

Nailed It! FranceBlwyddyn cyhoeddi: 2019Dosbarthiad: ARWEINIAD (PG)Hyd: 1 gyfres, 6 pennod, 34 munudGenre: Bwyd a TheithioCrynodeb:Ar y rhaglen gystadleuaeth hwyliog a doniol hon, mae pobyddion cartref dawnus yn ei chael hi'n anodd ail-greu campweithiau pwdin ac ennill gwobr o 5,000 ewro.

Gallwch wylio’r ffilm hon ar :

A season in France

Blwyddyn cyhoeddi: 2018Dosbarthiad: 13+Hyd: 1 awr 40 munudGenre: Ffilm – drama / teimladwyCrynodeb:Mae Abbas, athro ysgol uwchradd yng Ngweriniaeth Canolbarth Affrica, a'i ddau o blant wedi ffoi o'i wlad sydd wedi’i rhwygo gan ryfel. Maent bellach yn byw yn Ffrainc, lle mae Abbas yn gweithio mewn marchnad fwyd, tra mae’n gwneud cais am loches wleidyddol. Mae menyw Ffrengig, Carole, yn syrthio mewn cariad ag ef ac yn cynnig rhoi to dros ei ben ef a'i deulu. Pan gaiff cais Abbas ei wrthod, maen nhw'n wynebu penderfyniad hollbwysig.

Gallwch wylio’r ffilm hon ar:

Criminal: FranceDosbarthiad:15Cyfres 2019 Cyfres Mae cyfrinachau'n dod i'r amlwg ac mae achosion cyfan yn cael eu datrys mewn ystafell gyfweld yr heddlu ym Mharis, lle mae’r rheini dan amheuaeth a’r ymchwilwyr yn wynebu ei gilydd mewn achos cymhleth.Actorion:Margot Bancilhon, Laurent Lucas, Stéphane JobertCynhyrchwyr: George Kay, Jim Field Smith

Gallwch wylio’r ffilm hon ar :

Mae rhagor o awgrymiadau ffilmiau ar gael yma.

Page 5: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com… · Web viewMae geiriadur da ar fformat llyfr neu ar-lein yn hanfodol, p'un ai a ydych chi'n gwneud yn siŵr nad ydych chi’n anghofio

Datblygu Sgiliau Gwrando

Cofrestrwch ar gyfer www.lyricstraining.com a gwrando ar gerddoriaeth Ffrengig a chwblhau’r gweithgareddau llenwi’r bwlch ar-lein.

Radio France InternationaleMae hwn yn cynnwys newyddion sain gyda thrawsgrifiadau mewn Ffrangeg syml

http://www.bbc.co.uk/languages/french/Er ei fod wedi'i archifo, mae awgrymiadau gwych ar gyfer gwrando ar safle Ffrangeg y BBC (edrychwch ar yr adran datblygu sgiliau gwrando) ac mae trawsgrifiadau i gyd-fynd â’r broses wrando - felly byddwch yn dysgu dwy sgil ar yr un pryd! 😊

GWRANDO AR Y RADIO! Y peth gwych am wrando ar y radio yw eich bod yn gallu gwrando a gwneud rhywbeth arall ar yr un pryd. Gwrandewch yn fyw gan ddefnyddio Radio France neu Europe 1. Cofiwch, mae hon yn sianel radio Ffrengig ar gyfer Ffrancwyr felly bydd y sgyrsiau'n symud yn gyflym. Ceisiwch sylwi ar rai geiriau penodol am hwyl - hyd yn oed os dim ond geiriau am y tywydd ydynt!Radio France - www.radiofrance.frEurope 1 - www.europe1.frLe mouv - www.mouv.frEurope 2 - www.europe2.fr

Beth am wrando ar rywfaint o gerddoriaeth Ffrengig ddiweddar. Chwiliwch ar Spotify am: Stromae, Maître GIMS, Louane, Indila, Zaz, Kenji Girac

Yn yr un modd â gwylio ffilmiau, bydd gwrando ar y radio neu ar bodlediadau yn Ffrangeg hefyd yn helpu i ddatblygu eich sgiliau gwrando a chryfhau eich gwybodaeth am eirfa a chystrawen. Unwaith eto, peidiwch â phoeni os nad ydych yn gwybod beth sy'n cael ei ddweud, bod y sgwrs yn symud yn gyflym iawn neu efallai mai dim ond ychydig o eiriau y byddwch chi’n eu deall. Rydych chi’n dal i hyfforddi eich clust i ddod i arfer â llif a rhythm yr iaith a dod i arfer â gwahanol leisiau ac acenion Ffrengig! Gwnewch hyn bob dydd a bydd ymarferion gwrando’r cwrs UG yn ymddangos yn arafach o'u cymharu!! 😊

Top French films + TV series to watch

The African Doctor (Comedy, rated ALL)

He Even Has Your Eyes (Comedy, rated GUIDANCE)

10 Jours En Or(Comedy, rated ALL)

Chef’s Table, France(Food + Travel show, rated PG)

Nailed it, France(Cooking documentary, rated PG)

* Make sure you put audio in original French with English subtitles

Netflix RatingsALL: equivalent to U – universal, suitable for allGUIDANCE: equivalent to PG – parental guidanceTEEN: equivalent to 12 – over 12 years oldMATURE: equivalent to 15 – over 15 years old

A Mighty Team(Comedy, rated GUIDANCE)

I Lost My Body(Animated film, Drama, rated 12)

Wakfu(Animated TV show, rated 12)

Journey to Greenland(Comedy, rated 12)

Page 6: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com… · Web viewMae geiriadur da ar fformat llyfr neu ar-lein yn hanfodol, p'un ai a ydych chi'n gwneud yn siŵr nad ydych chi’n anghofio

Pedwar rheswm dros ddysgu iaith newyddMae Saesneg yn prysur ddod yn iaith gyffredinol y byd, ac mae technoleg cyfieithu cyflym yn gwella bob blwyddyn. Felly pam trafferthu dysgu iaith dramor? Yr ieithydd a’r Athro John McWhorter o Columbia sy'n rhannu pedair mantais o ddysgu iaith estron.Breaking the language barrier | Tim Doner | TEDxTeenGwyliwch y fideo lle rhannodd Tim Doner ei brofiad o ddysgu llawer o ieithoedd i dynnu sylw at amcanion dysgu ieithoedd a sut i gyrraedd y nodau.

Datblygu Sgiliau Darllen

Radio France InternationaleMae hwn yn cynnwys newyddion sain gyda thrawsgrifiadau mewn Ffrangeg syml

http://www.bbc.co.uk/languages/french/

Er ei fod wedi'i archifo, mae awgrymiadau gwych ar gyfer gwrando ar safle Ffrangeg y BBC (edrychwch ar yr adran datblygu sgiliau gwrando) ac mae trawsgrifiadau i gyd-fynd â’r broses wrando - felly byddwch yn dysgu dwy sgil ar yr 😊 un pryd!

Mae Mary Glasgow wedi cyhoeddi 4 cylchgrawn i ddysgwyr Ffrangeg yn amrywio o ddechreuwyr i fyfyrwyr TGAU (Ca Va) a myfyrwyr UG/Safon Uwch (Chez Nous). Holwch eich athrawon iaith a oes cod i chi fynd at y cylchgrawn ar-lein.

Mae'r wefan hon yn bapur newydd ysgafn sy'n cynnwys straeon byd-eang yn ogystal â chlecs. http://www.20minutes.fr/Rhowch gynnig ar hwn hefyd http://www.20minutos.fr/tv/. Dyma'r sianel deledu ar gyfer y papur newydd hwn.

Pan fyddwch chi'n darllen Ffrangeg (erthygl neu lyfr), does dim angen i chi chwilio am bob gair gan y byddai hynny'n cymryd oesoedd! Mae darllen testun i gael syniad o'i gynnwys yn gweithio lawn cystal a bydd yn llawer mwy pleserus! Defnyddiwch y cyd-destun, y cytrasau, y lluniau a'ch sgiliau llythrennedd i ddyfalu am beth mae'r erthygl yn sôn. Rhowch nifer darged o eiriau newydd i chi eich hun i'w hychwanegu at eich rhestr geirfa. Yn ddelfrydol, gallech hefyd ddod o hyd i gyfystyr neu wrthystyr ar gyfer y geiriau newydd rydych chi'n eu dysgu. Fel hyn byddech yn dyblu neu hyd yn oed yn treblu eich ystod o eirfa!😊

Page 7: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com… · Web viewMae geiriadur da ar fformat llyfr neu ar-lein yn hanfodol, p'un ai a ydych chi'n gwneud yn siŵr nad ydych chi’n anghofio

Beth am fynd ati i ddarllen papur newydd mewn iaith estron – mae Le Figaro ar gael mewn siopau papur newydd mwy. Mae gan Le Figaro ei wefan ei hun http://www.lefigaro.fr/ er mwyn i chi allu darllen y papur ar-lein. Nid oes rhaid i chi ddarllen y papur o glawr i glawr, dim ond sganio'r penawdau a dewis UN erthygl sy'n tynnu eich sylw.

Datblygu eich gramadeg

https://www.bbc.co.uk/bitesize/topics/z4cv7nb

Unwaith eto, mae gan BBC Bitesize adrannau gramadeg o dan bob bwrdd arholi. Mae gan y rhain esboniadau clir a rhai ymarferion i'ch atgoffa o bwyntiau gramadegol allweddol. Yna, gallwch gael rhagor o ymarferion ar y gwefannau isod.

www.languagesonline.org.ukDyma wefan ddefnyddiol iawn i ymarfer gramadeg ar-lein. Gallwch ddewis yr amser rydych chi am ei adolygu, darllen yr esboniadau a chwblhau'r ymarferion. Gallwch wneud y rhain mor aml ag y dymunwch, ac mae'n rhoi canran i chi.

Mae’r wefan am ddim ar ôl 4pm. Mae ganddi adran Safon Uwch ddefnyddiol iawn lle gallwch chi wylio clipiau fideo newyddion, dod o hyd i eirfa sy'n gysylltiedig â'r thema a gwrando a darllen cynnwys yn ogystal â gwneud ymarferion gramadeg.http://zut.languageskills.co.uk/advanced/year12.html

Rhan o'ch set sgiliau wrth gwrs yw datblygu eich gwybodaeth am yr iaith Ffrangeg. Mae yna rai safleoedd gramadeg ar-lein hwyliog sy'n gallu eich helpu i loywi eich gramadeg yn ystod eich cyfnod pontio.

Page 8: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com… · Web viewMae geiriadur da ar fformat llyfr neu ar-lein yn hanfodol, p'un ai a ydych chi'n gwneud yn siŵr nad ydych chi’n anghofio

Datblygu gwybodaeth drwy eich sgiliau ymchwil

https://www.bbc.co.uk/bitesize/guides/zhp3wty/revision/1Er mai ar gyfer lefel TGAU mae BBC Bitesize, mae'n cynnwys cyfoeth o wybodaeth. Bydd y ddolen hon yn mynd â chi drwy Arferion a Gwyliau TGAU AQA. Er nad eich bwrdd arholi yw hwn o bosibl, gall yr wybodaeth fod yn ddefnyddiol i chi o hyd. Sgroliwch i'r blwch Dolenni ar yr ochr dde, a bydd hyn yn mynd â chi at fwy o wybodaeth eto e.e. y proffil hwn ar Ffrainc https://www.bbc.co.uk/news/world-europe-17298730https://www.regions-of-france.com/regionsEfallai bod hwn yn lle da i gychwyn. Gellir dod o hyd i ddolenni i draddodiadau, diwylliannau a gwyliau yma, a'u rhoi yn y peiriant chwilio o’ch dewis ac ymchwilio iddynt.Dyma rai gwefannau yn Saesneg gyda dolenni

Bydd eich sgiliau ymchwil yn dod i'r amlwg gan fod hwn yn gyfle delfrydol i ddysgu am Ffrainc a gwledydd Ffrangeg eu hiaith, er enghraifft, y diwylliant a'r dreftadaeth ranbarthol yn Ffrainc, a’r gwledydd a’r cymunedau sy'n siarad Ffrangeg. Dewiswch ranbarth o Ffrainc a llunio ffeil ffeithiau neu ddechrau cyflwyniad ar gyfer eich cyd-fyfyrwyr. Gallwch wneud yr ymchwil hwn yn Saesneg neu'r Ffrangeg. Gan fod hyn yn rhan o'r cwrs astudio, y mwyaf o arferion a thraddodiadau rydych yn gallu cyfeirio atynt a'r cyfoethocach eich gwybodaeth, gorau oll! Mae'n debyg y bydd eich athrawon yn eich cyfeirio at wybodaeth a gwefannau, gan ei bod hi'n hawdd cael eich llethu. Fodd bynnag, mae rhai syniadau isod i chi ddechrau arni.

Page 9: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com… · Web viewMae geiriadur da ar fformat llyfr neu ar-lein yn hanfodol, p'un ai a ydych chi'n gwneud yn siŵr nad ydych chi’n anghofio

gwych i bynciau amrywiol: http://french.about.com a https://about-france.com/french-life.htmAm wybodaeth gyffredinol am leoedd yn Ffrainc, edrychwch ar yr erthygl deithio hon o'r Telegraph er mwyn i chi ddechrau yn y cyfeiriad cywir.

https://www.telegraph.co.uk/travel/destinations/europe/france/articles/the-best-places-and-cities-to-visit-in-france-and-where-to-stay/Cyflwyniad gwych i wyliau rhanbarthol a diwylliannol yn Ffrainc i arwain at ymchwil mwy penodol.

https://ofrench.com/culture/the-12-most-beautiful-traditional-regional-festivals-in-france/

Yn olaf, os hoffech chi roi cynnig ar gyn-bapurau, edrychwch ar wefan:

Mae'n bwysig eich bod yn cadw'r wybodaeth rydych wedi'i dysgu wrth ddilyn cwrs TGAU yn ffres yn eich meddwl er mwyn bod yn barod i ddechrau eich cwrs Safon Uwch ym mis Medi.Beth am dreulio ychydig o amser yn edrych dros rai o gyn-bapurau a defnyddio'r cynlluniau marcio i asesu pa mor dda rydych chi wedi gwneud.https://www.cbac.co.uk/cymwysterau/ffrangeg-tgau/#tab_overview