GOFYN CWESTIYNAUresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2010-11/welsh/gofyn... · Web viewGOFYN CWESTIYNAU...
Transcript of GOFYN CWESTIYNAUresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2010-11/welsh/gofyn... · Web viewGOFYN CWESTIYNAU...
GOFYN CWESTIYNAU
GOFYN CWESTIYNAU
NODIADAU UNEDAU 1 i 12
Canllawiau cyffredinol
Cynigir awgrymiadau ar gyfer defnyddio’r Adnoddau Drilio o dan bob uned isod, ond dyma rai canllawiau cyffredinol.
· Mae syniadau am Sbardunau i bob Adnodd Drilio a Thasg – gweler y ffeil ar wahân.
· Cyn mynd ati i ddefnyddio’r Adnoddau Drilio a’r Tasgau, dylid dysgu neu adolygu’r gystrawen a’r eirfa. Mae geirfa’n gysylltiedig â phob Adnodd Drilio a Thasg.
· Mae llawer o gymorth o ran technegau cofio geirfa ar y we . Un o’r rhai a awgrymir yw creu ‘stori’ o gwmpas yr eirfa. Er enghraifft, gyda geirfa ‘Pryd a Gwedd’ gellid creu stori lle mae rhywun yn gweld gwahanol bobl sydd â ... gwallt hir, llygaid glas ac ati.
· Mae’r Adnoddau Drilio’n fwriadol benagored – h.y. gallwch eu defnyddio sawl gwaith i ymarfer cwestiynau gwahanol ar yr un pwnc – e.e. person gwahanol y ferf – Wyt ti’n hoffi ...? / Ydy e/hi’n hoffi ...?
· Mae’r Tasgau’n cynnwys ‘Llusgo a gollwng’, ‘Teipio brawddeg gyda sbardun ysgrifenedig’ – h.y. dewis o ddau neu dri gair a ‘Teipio brawddeg gyda sbardun darluniadol’. Ar y cyfan, y tasgau ‘Llusgo a gollwng’ yw’r rhai hawsaf, felly gallai’r rhain fod yn fan cychwyn defnyddiol. Mae’r tasgau canlynol sydd yn yr unedau adolygu (Uned 7, Uned 12), hefyd ar gael ar ffurf pdf felly gallwch eu hargraffu i’r dysgwyr eu gwneud ar bapur: Uned 7, Tasgau 17, 18, 19; Uned 12, Tasgau 32, 33.
· Wrth ddefnyddio’r Adnoddau Drilio, mae’n bosib cael hwyl drwy drefnu’r dosbarth yn dimau i gystadlu yn erbyn ei gilydd – nodir y posibiliadau yn yr unedau isod.
· Er mai ar ofyn cwestiynau mae’r pwyslais, dydy hynny ddim yn golygu na all y dysgwyr gynnig atebion hefyd.
· Ar ôl defnyddio adnoddau pob uned, dylid caniatáu amser i’r dysgwyr ofyn cwestiynau ‘dilys’ i’w gilydd ac i’r athro.
· Er gwybodaeth, yn y pecyn nodiadau Saesneg, mae cyfieithiad o’r holl eirfa, atebion y tasgau a chyfieithiad ohonynt, a chyfieithiad o’r hyn sy’n ymddangos ar y sgrin ac i’w glywed wrth wneud y Tasgau, gan mai Cymraeg yw’r unig gyfrwng.
Uned 1
Ga i? / Oes?
Cwestiwn
Gweithgareddau
Thema
Nodiadau Gramadeg a Chyflwyno
Ga i?
Adnodd Drilio 1
Dod o hyd i ‘Cei’ y tu ôl i luniau iaith y dosbarth.
Mae 5 ‘Cei’ i ddod o hyd iddyn nhw. Timau i gystadlu yn erbyn ei gilydd, gofyn y cwestiwn er mwyn datgelu ‘Cei’/’Na chei’
Iaith achlysurol
Angen tynnu sylw at y treiglad meddal sy’n dilyn Ga i? e.e. Ga i fenthyg ...?
Gellir osgoi’r treiglad drwy roi’r fannod bendant (y/’r/yr) o flaen enw: e.e. Ga i’r llyfr?
Fel gyda phob Adnodd Drilio, dylid cyflwyno’r eirfa berthnasol cyn dechrau defnyddio’r Adnodd Drilio.
Ga i?
Tasg 1
Gweithgaredd Llusgo a Gollwng
Iaith achlysurol
Gweithgaredd Llusgo a gollwng i atgyfnerthu gwaith Adnodd Drilio 1.
Oes?
Dewis y gystrawen i’w drilio o blith yr isod, e.e. yn ystod un sesiwn gellir canolbwyntio ar ‘ti’, a throi at bersonau eraill mewn sesiynau eraill.
De: ‘Oes ci gyda ti/Sam/fe/hi/ni/chi/nhw?’
Gogledd: ‘Oes gen ti/gan Sam/ganddo fo/ganddi hi/gennyn ni/gennych chi/ganddyn nhw gi?’
Adnodd Drilio 2
Modd ‘Dewis a Dethol’ eitemau unigol i’w drilio – e.e. 6 eitem yn unig.
Teulu ac Anifeiliaid Anwes
Yn y gogledd, rhaid cofio bod treiglad meddal ar ôl: Oes gen ti/ganddo fo/gennyn ni...? ac ati, e.e. Oes gen ti gi?
Dylid cyflwyno’r eirfa berthnasol cyn dechrau defnyddio’r Adnodd Drilio.
Oes?
Dewis y gystrawen i’w drilio o blith yr isod, e.e. yn ystod un sesiwn gellir canolbwyntio ar ‘ti’, a throi at bersonau eraill mewn sesiynau eraill.
De: ‘Oes llygaid glas gyda ti/Sam/fe/hi/ni/chi/nhw?’
Gogledd: ‘Oes gen ti/gan Sam/ganddo fo/ganddi hi/gennyn ni/gennych chi/ganddyn nhw lygaid glas?’
Adnodd Drilio 3
Y Troellwr
(Lluniau’n ymddangos ar hap)
Pryd a gwedd
Yn y gogledd, rhaid cofio bod treiglad meddal ar ôl: Oes gen ti/ganddo fo/gennyn ni...? ac ati, e.e. Oes ganddo fo lygaid glas?
Defnyddio’r lluniau fel sbardun i gael y dysgwyr i ofyn cwestiynau. Ar ôl i rai o’r lluniau ymddangos, gall y dysgwyr geisio rhagfynegi pa lun fydd yn ymddangos nesaf, neu gallant ragfynegi pa lun fydd yr olaf i ymddangos. Gallai hyn ddigwydd mewn timau. Er enghraifft, un tîm i ragfynegi pa lun fydd yn ymddangos nesaf a’r tîm arall yn gofyn y cwestiwn a fydd yn ymddangos mewn gwirionedd. Os bydd tîm yn rhagfynegi’n gywir, maen nhw’n ennill marc ychwanegol.
Oes pwnc ysgol heddiw?
Tasg 2
Teipio brawddeg gyda sbardun ysgrifenedig
Pynciau ysgol
Cyn y dasg: Cyflwyno / Adolygu pynciau ysgol – e.e. Adnodd Drilio 5 (Uned 2) neu luniau ar dud.4 Taith Iaith1
Oes adeilad arbennig yn y dref?
Tasg 3
Teipio brawddeg gyda sbardun darluniadol
Adeiladau yn y dref
Cyflwyno / Adolygu adeiladau yn y dref – e.e. Adnodd Drilio 7 neu’r lluniau sydd yn Taith Iaith 2 tud. 29, 31, 32. Pwyslais ar: banc, castell, ysbyty, eglwys, coleg, gwesty, canolfan hamdden, gorsaf, archfarchnad, theatr, swyddfa’r post.
Uned 2
Wyt ti ?Ydy e/o/hi?
Ydy’r bachgen/ ferch/y plant? / Ydych chi? Ydyn nhw ?
Cwestiwn
Gweithgareddau
Thema
Nodiadau Gramadeg a Chyflwyno
Wyt ti’n hoffi ...?
Ydy e’n/o’n /hi’n hoffi ...?
Ydy’r bachgen/
Ydy’r ferch / Ydy’r plant yn hoffi ...?
Ydych chi’n hoffi ...?
Ydyn nhw’n hoffi ...?
Wyt ti eisiau ...?
Ydy e/o/hi/y plant eisiau ...?
Ydych chi eisiau ...?
Ydyn nhw eisiau?
Adnodd Drilio 4
Y Troellwr
(Lluniau’n ymddangos ar hap)
Bwyd
Os bydd yr athro wedi dewis drilio ‘...... eisiau?’, bydd angen tynnu sylw at y ffaith nad oes ’n / yn yn ymddangos cyn ‘eisiau’.
Defnyddio’r lluniau fel sbardun I gael y dysgwyr i ofyn cwestiynau. Ar ôl i rai o’r lluniau ymddangos, gall y dysgwyr geisio rhagfynegi pa lun fydd yn ymddangos nesaf, neu gallant ragfynegi pa lun fydd yr olaf i ymddangos. Gallai hyn ddigwydd mewn timau. Er enghraifft, un tîm i ragfynegi pa lun fydd yn ymddangos nesaf a’r tîm arall yn gofyn y cwestiwn a fydd yn ymddangos mewn gwirionedd. Os bydd tîm yn rhagfynegi’n gywir, maen nhw’n ennill marc ychwanegol.
Wyt ti’n hoffi ...?
Ydy e’n/o’n /hi’n hoffi ...?
Ydy’r bachgen/
Ydy’r ferch / Ydy’r plant yn hoffi ...?
Ydych chi’n hoffi ...?
Ydyn nhw’n hoffi ...?
Adnodd Drilio 5
Pynciau ysgol wedi’u cuddio y tu ôl i Grid 1-12
Pynciau ysgol
Gellir chwarae’r gêm fel dosbarth cyfan neu fel dau neu ragor o dimoedd, gyda’r timau’n herio’i gilydd i ofyn cwestiwn yn gywir. Hefyd, gellir cynnwys elfen o ddyfalu – gyda thimau’n dyfalu pa bynciau fydd y nesaf/ yr olaf i ymddangos o dan y rhifau. Gallai’r rhifau gael eu defnyddio fel pwyntiau – e.e. rhoi 50 pwynt i bob tîm i ddechrau. Yna, mae tîm A yn dewis rhif o’r grid – e.e. 3 – ac yn mentro cwestiwn posibl – e.e. Wyt ti’n hoffi Cymraeg? Os mai llun Cymraeg sydd o dan y rhif, mae’r tîm yn cael ychwanegu 3 at eu cyfanswm. Ond os mai llun gwahanol sydd o dan y grid, maen nhw’n colli’r pwyntiau.
Gellir gofyn hefyd am yr ateb cywir os dymunir – Ydw / Ydy / Ydyn...
Wyt ti’n hoffi ...?
Ydy e’n/o’n /hi’n hoffi ...?
Ydy’r bachgen/
Ydy’r ferch / Ydy’r plant yn hoffi ...?
Ydych chi’n hoffi ...?
Ydyn nhw’n hoffi ...?
Wyt ti’n ...?
Ydy e’n/o’n /hi’n ...?
Ydy’r bachgen/ Ydy’r ferch / Ydy’r plant yn ...?
Ydych chi’n ...?
Ydyn nhw’n ...?
Wyt ti eisiau ...?
Ydy e/o/hi/y plant eisiau ...?
Ydych chi eisiau ...?
Ydyn nhw eisiau?
Adnodd Drilio 6
Y Troellwr
(Lluniau’n ymddangos ar hap)
Diddordebau
Defnyddio’r lluniau fel sbardun I gael y dysgwyr i ofyn cwestiynau. Ar ôl i rai o’r lluniau ymddangos, gall y dysgwyr geisio rhagfynegi pa lun fydd yn ymddangos nesaf, neu gallant ragfynegi pa lun fydd yr olaf i ymddangos. Gallai hyn ddigwydd mewn timau. Er enghraifft, un tîm i ragfynegi pa lun fydd yn ymddangos nesaf a’r tîm arall yn gofyn y cwestiwn a fydd yn ymddangos mewn gwirionedd. Os bydd tîm yn rhagfynegi’n gywir, maen nhw’n ennill marc ychwanegol.
Wyt ti’n mynd i’r ...?
Ydy e/o/hi’n mynd i’r ...?
Ydy’r ferch/bachgen/plant yn mynd i’r ...?
Ydych chi’n mynd i’r ...?
Ydyn nhw’n mynd i’r ...?
Adnodd Drilio 7
Datgelu llun
Wedi’i guddio o dan y teils unigol, mae llun o eitem wedi’i chwyddo y byddid yn ei gweld yn un o’r adeiladau yn y dref.
marciwr bwrdd gwyn = ysgol darn o blastr = ysbyty
siec = banc
offer campfa = canolfan hamdden
popcorn = sinema
gwisg nofio (trwncs coch) = pwll nofio
potel o saws coch = archfarchnad
llyfr = llyfrgell
croes = eglwys
stamp = swyddfa’r post
Adeiladau yn y dref
Gellir chwarae gêm fel dosbarth cyfan neu fel dau neu ragor o dimoedd, gyda’r timau’n herio’i gilydd i ofyn cwestiwn yn gywir er mwyn datgelu’r llun ac i ddyfalu pa gwestiwn sydd wedi’i ‘guddio’ o dan yr adeiladau. Gall y dysgwyr ddyfalu â pha adeilad mae’r llun wedi’i chwyddo’n gysylltiedig drwy ofyn y cwestiwn perthnasol. e.e. popcorn = sinema – Ydy e’n mynd i’r sinema?
Gellid cael dau dîm yn herio’i gilydd, a chynnig pwyntiau bonws am ddyfalu’r cwestiwn cudd yn gywir, (a thynnu pwyntiau am ddyfalu’r cwestiwn cudd yn anghywir).
Wyt ti’n hoffi ...?
Ydy e/o/hi’n hoffi?
Tasg 4
Gweithgaredd Llusgo a gollwng
Diddordebau
(Sgriniau 1 – 7)
Pynciau Ysgol
(Sgriniau 8 – 13)
Adolygu’r eirfa-
Diddordebau (Adnodd Drilio 6); Pynciau Ysgol – (Adnodd Drilio 5).
Wyt ti eisiau?
Ydy e / hi eisiau...?
Tasg 5
Teipio brawddeg gyda sbardun ysgrifenedig amlddewis
Bwyd
(Sgriniau 1 – 7),
Diddordebau
(Sgriniau 8 – 13)
Adolygu’r eirfa –
Bwyd (Adnodd Drilio 4), Diddordebau – (Adnodd Drilio 6).
Ydych chi’n mynd i’r ...?
Ydyn nhw’n ...?
Tasg 6
Teipio brawddeg gyda sbardun darluniadol
Adeiladau yn y dref (Sgriniau 1 – 7)
Diddordebau
(Sgriniau 8 – 13)
Adolygu’r eirfa –
Adeiladau yn y dref (Adnodd Drilio 7), Diddordebau (Adnodd Drilio 6).
Uned 3
Beth/Pwy/Faint ydy?/ydyn?
Cwestiwn
Gweithgareddau
Thema
Nodiadau Gramadeg a Chyflwyno
Beth ydy dy hoff .... di?
Beth ydy ei hoff .... e/o?
Beth ydy ei hoff ... hi?
Beth ydy eich hoff ... chi?
Adnodd Drilio 8
Y Troellwr
(Lluniau’n ymddangos ar hap)
Hoff bethau/diddordebau
Defnyddio’r lluniau fel sbardun I gael y dysgwyr i ofyn cwestiynau. Ar ôl i rai o’r lluniau ymddangos, gall y dysgwyr geisio rhagfynegi pa lun fydd yn ymddangos nesaf, neu gallant ragfynegi pa lun fydd yr olaf i ymddangos. Gallai hyn ddigwydd mewn timau. Er enghraifft, un tîm i ragfynegi pa lun fydd yn ymddangos nesaf a’r tîm arall yn gofyn y cwestiwn a fydd yn ymddangos mewn gwirionedd. Os bydd tîm yn rhagfynegi’n gywir, maen nhw’n ennill marc ychwanegol.
Faint ydy pris /
Faint ydy’r ...?
Adnodd Drilio 9
Dod o hyd i’r eitem rataf / ddrutaf
Eitemau bob dydd
Mae prisiau o dan bob llun. Angen i’r dysgwyr ofyn y cwestiwn cywir bob tro i ddod o hyd i’r pris drutaf a’r pris rhataf. Gellir gwneud hyn mewn timoedd fel bod elfen o gystadlu i ddod o hyd i’r pris drutaf / rhataf. Gall yr athro alw’r pris allan bob tro.
Beth ydy enw prifddinas / arian / lliwiau baner...?
Adnodd Drilio 10
Cwis
Cyffredinol – cwis
Gellir rhannu’r dosbarth yn dimau i gystadlu yn erbyn ei gilydd, gydag un tîm yn ennill pwynt drwy ofyn y cwestiwn yn gywir a’r tîm arall yn ennill pwynt drwy roi’r ateb cywir.
Beth ydy .... yn Gymraeg?
Dril / gêm atodol i adolygu geirfa gan ddefnyddio e.e. geirfâu Adnoddau Drilio 1 i 10, fel y bo’r angen
Yn ôl y dewis
Mae’r dril hwn (a’r un nesaf isod) yn atgyfnerthu’r syniad fod ‘ydy’ yn cael ei ddefnyddio pan fydd diffiniad yn cael ei roi. Mae ‘ydy’ yn gweithredu fel rhyw fath o ‘=’ yn y frawddeg.
Pwy ydy e/o hi ...?
Dril / gêm atodol i gyflwyno’r gystrawen drwy ddefnyddio enwau’r plant yn Adnodd Drilio 11.
Enwau plant
Defnyddio lluniau’r plant yn Geirfa Uned 4, Adnodd Drilio 11. Cyflwyno enwau’r plant gyda’r testun wedi’i ddangos.
Yna, diffodd y testun er mwyn profi faint o enwau mae’r plant yn ei gofio. Wedyn, gellir rhannu’r dosbarth yn barau neu dimoedd i herio’i gilydd:
· Pâr/tîm sy’n holi i gael pwynt os nad yw’r pâr/tîm sy’n ateb yn gwybod pwy ydy e/hi.
· Pâr/tîm sy’n ateb i gael pwynt am bob enw maen nhw yn ei wybod.
Faint o’r gloch ydy hi ...?
Dril / gêm atodol i gyflwyno’r gystrawen ac adolygu’r amser drwy ddefnyddio’r clociau yn Adnodd Drilio 13
Amser
Pwy ydy ...?
Faint ydy ...?
Tasg 7
Gweithgaredd Llusgo a gollwng
Cyffredinol
Gofyn faint ydy pris / oed
Beth ydy enw ...?
Beth ydy dy farn di am ...?
Tasg 8
Teipio brawddeg gyda sbardun ysgrifenedig amlddewis
Teulu, Ysgol ac Anifeiliaid Anwes
(Sgriniau 1 – 7)
Diddordebau
(Sgriniau 8 – 13)
Uned 4
Beth/Pwy/Faint sy?
Cwestiwn
Gweithgareddau
Thema
Nodiadau Gramadeg a Chyflwyno
Pwy sy’n mynd i’r ...?
Pwy sy yn y ...?
Adnodd Drilio 11
Dod o hyd i blant penodol mewn adeiladau yn y dref.
Adeiladau yn y dref
Nod y gêm yw bod y dosbarth/ pob tîm yn dewis un o’r deg plentyn ar y sgrin gyntaf ac yn symud wedyn at yr adeiladau yn y dref ac yn holi cwestiynau i geisio gweld pwy sydd ym mhob adeilad. Os yw’r dosbarth/tîm yn dod o hyd i’r plentyn maen nhw wedi’i ddewis, maen nhw wedi ‘ennill’.
Faint / Sawl un sy’n (gallu) ...?
Pwy sy’n (gallu) ...?
Adnodd Drilio 12
Dod o hyd i’r nifer fwyaf o blant sy’n hoffi diddordeb penodol.
Diddordebau (+ rhifau)
Gellir rhannu’r dosbarth yn dimoedd i chwarae un o ddwy gêm:
‘Faint/ Sawl un sy’n ...?’ - y nod yw dod o hyd i’r grŵp mwyaf o blant sy’n (gallu) gwneud rhywbeth.
‘Pwy sy’n ...?’ – y nod yw gallu enwi’r plant sydd ym mhob grŵp.
Beth sy ar y teledu am ...?
Beth sy ymlaen am ...?
Adnodd Drilio 13
Dod o hyd i fath arbennig o raglen deledu.
Amser
Mathau o raglenni teledu
Nod y gêm yw dod o hyd i fath o raglen deledu maen nhw wedi penderfynu arno ymlaen llaw drwy edrych ar yr eirfa. Gellir rhannu’r dosbarth yn dimau os dymunir, a phob tîm yn dewis rhaglen y maen nhw’n chwilio amdani. Y tîm cyntaf i ddod o hyd i’r rhaglen y maen nhw’n chwilio amdani sy’n ‘ennill’.
Bydd clociau ar y sgrin ac oddi tanynt bydd math gwahanol o raglen deledu. Gall yr athro glicio ar bob eitem i’w gwneud yn fwy. Pan fydd y cwestiwn ‘Beth sy ar y teledu am ... amser...?’ neu ‘Beth sy ymlaen am ...amser ...?’ yn cael ei holi’n gywir, gall yr athro glicio eto ar yr eitem i ddatgelu math o raglen deledu.
Beth sy yn y....?
ar y ...?
mewn...?
Pwy sy yn y ...?
ar y ...?
mewn ...?
Tasg 9
Gweithgaredd Llusgo a gollwng
Cyffredinol
(Sgriniau 1 – 7)
Cludiant
(Sgriniau 8 – 13)
Beth sy’n bod ar ...?
+ rhedeg yr arddodiad ar
Tasg 10
Teipio brawddeg gyda sbardun ysgrifenedig amlddewis
Salwch
Mynd dros y gystrawen –
Taith Iaith 3, t.35.
Beth sy’n gwneud ...?
Tasg 11
Teipio brawddeg gyda sbardun ysgrifenedig amlddewis
Lliwiau
Rhifau
Cyffredinol
Uned 5
Ble / Pryd / Pam / Sut / Gyda pwy / Efo pwy wyt / mae / maen?
Cwestiwn
Gweithgareddau
Thema
Nodiadau Gramadeg a Chyflwyno
Ble? / Pryd? / Pam? / Gyda pwy/Efo pwy? / Sut?
wyt ti’n / ydych chi?
mae e/o / hi / maen nhw?
Adnodd Drilio 14
Grid 1 - 12
Diddordebau
Gellir chwarae’r gêm fel dosbarth cyfan neu fel dau neu ragor o dimoedd, gyda’r timau’n herio’i gilydd i ofyn cwestiwn yn gywir. Hefyd, gellir cynnwys elfen o ddyfalu – gyda thimau’n dyfalu pa ddiddordeb fydd y nesaf/ yr olaf i ymddangos o dan y rhifau. Gallai’r rhifau gael eu defnyddio fel pwyntiau – e.e. rhoi 50 pwynt i bob tîm i ddechrau. Yna, mae tîm A yn dewis rhif o’r grid – e.e. 3 – ac yn mentro cwestiwn posibl – e.e. Pryd wyt ti’n chwarae tennis? Os mai llun tennis sydd o dan y rhif, mae’r tîm yn cael ychwanegu 3 at eu cyfanswm. Ond os mai llun gwahanol sydd o dan y grid, maen nhw’n colli’r pwyntiau.
Os oes ambell ddysgwr sy’n ymddiddori’n fawr mewn rhywbeth arbennig – e.e. nofio – gellid gofyn a fyddai gwahaniaeth ganddo gael ei holi’n fanylach, h.y. ‘gêm y gadair goch’. Gall y dysgwyr fynd drwy’r gwahanol ofyneiriau – Ble...? Pryd ...? Pam...? Sut ...? Gyda pwy / Efo pwy ...? Wedyn, ar ôl i ddau neu dri dysgwr gael ei holi fel hyn, gellir rhannu’r dosbarth yn ddau dîm. Gallan nhw herio ei gilydd i weld faint maen nhw’n ei gofio am atebion y dysgwyr a gofyn y cwestiynau yn y 3ydd person – e.e. Ble mae Daniel yn nofio? Efo pwy mae Bethan yn chwarae tennis? Pryd mae Rebecca yn chwarae gemau cyfrifiadur?
Ble mae’r ...?
Sut mae mynd i’r ...?
Adnodd Drilio 15
Dod o hyd i adeiladau yn y dref
Adeiladau yn y dref
Rhannu’r dosbarth yn ddau dîm. Mewn un gêm, bydd pob tîm yn cael cyfle i ofyn 6 chwestiwn. Tîm A yn holi 6 chwestiwn i dîm B i ddechrau, ac yna tîm B yn holi tîm A.
Er enghraifft, bydd tîm A yn gofyn cwestiwn, ac os yw’n gywir, bydd yn cael marc, e.e. Ble mae’r sinema?
Yna, bydd tîm B yn awgrymu rhif. Yr athro’n clicio ar y rhif – a gwelir ai sinema sydd yno. Os mai sinema sydd yno, mae tîm B yn ennill marc. Os nad sinema sydd yno, mae tîm A yn ennill marc.
Bydd yr athro wedyn yn clicio eto fel bod y rhif yn cuddio’r adeilad eto. Felly, bydd elfen o geisio cofio lle roedd pob adeilad yn rhan o’r gêm hefyd.
Pan fydd yr adeiladau i gyd yn eu lle, gellir ymarfer gofyn y cwestiwn ‘Sut mae mynd i’r ....?’ a rhoi cyfarwyddiadau er mwyn cyrraedd adeilad penodol yn y dref.
Ble mae ...? O ble mae ...?
Pryd mae ...?
Adnodd Drilio 16
Cwis
Cyffredinol - cwis
Gellir rhannu’r dosbarth yn ddau dîm. Gallan nhw herio ei gilydd, i ofyn cwestiynau’n gyntaf. Pan fydd yr holl gwestiynau wedi’u gofyn, gyda dosbarth da yn unig, gall un tîm roi’r ateb a’r tîm arall yn dweud beth oedd y cwestiwn.
Pam wyt ti’n ...?
Pam mae e/o’n / hi’n ...?
Tasg 12
Gweithgaredd Llusgo a gollwng
Berfau
Pryd mae ...?
Sut (mae e / o / hi / ...)?
Tasg 13
Teipio brawddeg gyda sbardun darluniadol
Trefn diwrnod yr ysgol
Cyffredinol
Uned 6
Beth/Pwy wyt ti’n / mae e/o/hi’n weld?
Cwestiwn
Gweithgareddau
Thema
Nodiadau Gramadeg a Chyflwyno
Beth wyt ti’n / mae e / o / hi’n / ydych chi’n / maen nhw’n hoffi / ddim yn hoffi / gasáu ...?
Adnodd Drilio 17
Grid o luniau – datgelu llun mawr y tu ôl i’r grid
Wedi’i guddio o dan y teils unigol, mae llun o eitem wedi’i chwyddo sy’n gysylltiedig ag un o’r berfau a gyflwynwyd.
gwisgo = crys
yfed = sudd
bwyta = brechdan
chwarae = consol gemau
darllen = llyfr
gwylio = teledu
prynu = troli archfarchnad
cael = anrheg wedi’i lapio
astudio = pwnc - Mathemateg
Berfau
Gellir chwarae gêm fel dosbarth cyfan neu fel dau neu ragor o dimoedd, gyda’r timau’n herio’i gilydd i ofyn cwestiwn yn gywir er mwyn datgelu’r llun ac i ddyfalu pa gwestiwn sydd wedi’i ‘guddio’ o dan y berfau. Er enghraifft, os mai llun mawr o frechdan sydd o dan y teils, ‘Beth wyt ti’n hoffi fwyta?’ yw’r cwestiwn.
Gellid cael dau dîm yn herio’i gilydd, a chynnig pwyntiau bonws am ddyfalu’r cwestiwn cudd yn gywir, (a thynnu pwyntiau am ddyfalu’r cwestiwn cudd yn anghywir).
Beth wyt ti / mae e/o/hi’n wneud (ar) ....?
Adnodd Drilio 18
Dod o hyd i ddiddordebau o dan gyfnodau o amser rhydd
Caiff y dosbarth ei rannu’n ddau dîm – tîm A yn gofyn, e.e. ‘Beth mae e’n wneud (ar) nos Lun?’ ac mae tîm B yn awgrymu diddordeb.
Athro/dysgwr yn clicio ar ‘nos Lun’ ac os yw tîm B wedi dyfalu’n gywir, maen nhw’n cael pwynt. Os nad yw’r tîm wedi dyfalu’n gywir, bydd yr athro/dysgwr yn clicio ar y diddordeb fel ei fod yn diflannu. Felly bydd elfen o gofio o dan ba adegau rhydd y mae’r diddordebau.
Pwy wyt ti’n / mae e / o / hi’n / ydych chi’n / maen nhw’n ....?
Adnodd Drilio 19
Gwregys o luniau
Berfau
Nod y gêm yw dileu’r darluniau ar y gwregys drwy stopio’r gwregys, chwyddo’r llun, gofyn y cwestiwn yn gywir a dileu’r llun. Felly bydd bylchau du’n ymddangos a’r nod yw cael ‘gwregys du’. Bydd modd amseru’r dosbarth yn gofyn y cwestiynau, gall timau gystadlu i geisio ateb y cwestiynau’n gynt na’i gilydd, ac ati.
Beth mae Gareth / dy ffrind / e/ o/ hi’n hoffi ......?
Tasg 14
Ymarfer llusgo a gollwng
Berfau
Pa .... wyt ti’n hoffi?
Pa ... mae e/o/hi’n hoffi?
Tasg 15
Teipio brawddeg gyda sbardun ysgrifenedig amlddewis
Enwau pethau bob dydd
Beth wyt ti’n feddwl o(’r) ...?
Beth mae e/o/hi’n feddwl o(’r) ....?
Tasg 16
Teipio brawddeg gyda sbardun darluniadol
Pethau i fod â barn amdanyn nhw
Uned 7
Adolygu – Y Presennol
Cwestiwn
Gweithgareddau
Thema
Nodiadau Gramadeg a Chyflwyno
Ga i ...?
Oes...?
Wyt ti ...?
Ydy e / o ...?
Ydy hi ...?
Ydy’r plant ...?
Ydych chi ...?
Ydyn nhw ...?
Beth ...?
Pwy ...?
Faint ...?
Pa ...?
Ble ...?
Pam ...?
Sut ...?
Gyda pwy / Efo pwy ...?
Pryd ...?
Adnodd Drilio 20
Y Troellwr
(Eitemau’n ymddangos ar hap)
Dewis rhydd
Gellir chwarae gêm fel dosbarth cyfan neu fel dau neu ragor o dimoedd, gyda’r timau’n herio’i gilydd i ofyn cwestiwn yn gywir a/neu i ddyfalu pa ofynnair sy’n mynd i ymddangos nesaf.
Er mwyn gwneud pethau’n fwy anodd i grwpiau da / mwy profiadol, gellid eu cyfyngu i faes geirfa penodol, e.e. Diddordebau / Bwyd / Adeiladau yn y dref
Beth ...?
Pwy ...?
Faint ...?
wyt/maen/ydyn
ydy/sy/mae
Adnodd Drilio 21
Peiriant Ffrwythau
Dewis rhydd
Gall yr athro naill ai droi dwy ochr y peiriant neu un ochr yn unig ar y tro.
O droi un ochr yn unig, gellir naill ai canolbwyntio ar un gofynnair – e.e. Beth? a chael y dysgwyr i ymarfer: ‘Beth ydy / Beth sy / Beth mae ...? neu gellir canolbwyntio ar un ffurf ar ‘bod’ – e.e. ‘sy’ a newid y gofyneiriau – e.e. Beth sy / Pwy sy / Faint sy ...?
Mae modd rhannu’r dosbarth yn dimau i herio’i gilydd neu gael y peiriant i gystadlu yn erbyn y dysgwyr – os nad yw’r dysgwyr yn gallu cynhyrchu cwestiwn cywir, mae’r peiriant yn cael pwynt.
Ga i ...?
Oes...?
Wyt ti ...?
Ydy e / o ...?
Ydy hi ...?
Ydy’r plant ...?
Ydych chi ...?
Ydyn nhw ...?
Beth ...?
Pwy ...?
Faint ...?
Pa ...?
Ble ...?
Pam ...?
Sut ...?
Gyda pwy / Efo pwy ...?
Pryd ...?
Adnodd Drilio 22
Gêm: OXO
Dewis rhydd
Cyn chwarae’r gêm hon, gellir defnyddio Adnodd Drilio 20 (Y Troellwr) i adolygu’r gofyneiriau.
Gêm OXO, dau dîm, angen gofyn cwestiwn yn gywir i gael O neu X ar y grid. Gellid herio’r ddau dîm drwy fynnu cael dau neu dri chwestiwn cywir am bob O neu X. Am y cyntaf i ennill 3 gêm.
Beth ydy/sy/mae ...?
Tasg 17
Teipio brawddeg gyda sbardun ysgrifenedig amlddewis
Amrywiol o’r unedau blaenorol
Cyn y dasg, defnyddio Adnodd Drilio 21 gan ganolbwyntio ar Beth + sy / ydy / mae.
Pwy ydy/sy/mae ...?
Tasg 18
Teipio brawddeg gyda sbardun ysgrifenedig amlddewis
Amrywiol o’r unedau blaenorol
Cyn y dasg, defnyddio Adnodd Drilio 21 gan ganolbwyntio ar Pwy + sy / ydy / mae
Dewis gofynnair i ddechrau cwestiwn, e.e.
Pam / Oes / Ga i
.............. mae Bethan yn chwerthin?
Tasg 19
Teipio brawddeg gyda sbardun ysgrifenedig amlddewis
Amrywiol o’r unedau blaenorol
Uned 8
Oedd? Oeddet ti? Oeddech chi? Oedden ni? Oedden nhw?
Beth/Pwy/Faint/Pam/Ble/Sut/Pryd oedd / oeddet ti / oeddech chi / oedden nhw?
Cwestiwn
Gweithgareddau
Thema
Nodiadau Gramadeg a Chyflwyno
Oedd hi’n bwrw glaw ...?
Adnodd Drilio 23
Dod o hyd i ‘Oedd’ y tu ôl i bump o luniau’r tywydd.
Y Tywydd
Bydd angen rhoi sylw i’r Treiglad Meddal – e.e. Oedd hi’n gymylog?
5 ‘Oedd’ i ddod o hyd iddyn nhw. Timau i gystadlu yn erbyn ei gilydd, gofyn cwestiwn yn gywir er mwyn datgelu ‘Oedd’/’Nac oedd’.
Oeddet ti’n /Oeddech chi’n / Oedd e’n / o’n / Oedd hi’n / Oedden ni’n / Oedden nhw’n hapus....?
Adnodd Drilio 24
Y Troellwr
Teimladau
Defnyddio’r lluniau fel sbardun I gael y dysgwyr i ofyn cwestiynau. Ar ôl i rai o’r lluniau ymddangos, gall y dysgwyr geisio rhagfynegi pa lun fydd yn ymddangos nesaf, neu gallant ragfynegi pa lun fydd yr olaf i ymddangos. Gallai hyn ddigwydd mewn timau. Er enghraifft, un tîm i ragfynegi pa lun fydd yn ymddangos nesaf a’r tîm arall yn gofyn y cwestiwn a fydd yn ymddangos mewn gwirionedd. Os bydd tîm yn rhagfynegi’n gywir, maen nhw’n ennill marc ychwanegol.
Bydd angen rhoi sylw i’r Treiglad Meddal – e.e. Oeddet ti’n falch?
Beth/Pwy/Faint/Pam/Ble/Sut/
Pryd/Gyda pwy / Efo pwy
oedd e/o / hi
oeddet ti ? oeddech chi ? oedden nhw?
Adnodd Drilio 25
Peiriant Ffrwythau
Dewis rhydd
Gall yr athro naill ai droi dwy ochr y peiriant neu un ochr yn unig ar y tro.
O droi un ochr yn unig, gellir naill ai canolbwyntio ar un gofynnair – e.e. Beth? a chael y dysgwyr i ymarfer: ‘Beth oedd / Beth oeddech chi / Beth oedden nhw ...? neu gellir canolbwyntio ar un ffurf ar ‘bod’ – e.e. ‘oedd’ a newid y gofyneiriau – e.e. Beth oedd / Pwy oedd / Faint oedd ...?
Mae modd rhannu’r dosbarth yn dimau i herio’i gilydd neu gael y peiriant i gystadlu yn erbyn y dysgwyr – os nad yw’r dysgwyr yn gallu cynhyrchu cwestiwn cywir, mae’r peiriant yn cael pwynt.
Beth oedd / Pwy oedd / Sut oedd / Ble oedd / Pryd oedd ......?
Tasg 20
Ymarfer llusgo a gollwng
Gofyn cwestiynau am gêm a disgo yn y gorffennol
Oeddet ti’n .... ?
Oeddech chi’n ....?
Tasg 21
Teipio cwestiwn gyda sbardun ysgrifenedig amlddewis
Berfau - Gofyn cwestiynau i berson hŷn am y gorffennol
Bydd angen rhoi sylw i’r gwahaniaeth rhwng ‘ti’ a ‘chi’. Yn yr ymarfer hwn, ‘ti’ = unigol; ‘chi’ = lluosog, ond gyda rhai grwpiau, gellir cyfeirio at y ffaith fod ‘chi’ = unigol + ‘person henach / sy’n haeddu parch / person dieithr’
Oeddwn i’n ...? / Oeddet ti’n ...? /
Oedd e’n/o’n/hi’n ...?/ Oedden ni ...? / Oeddech chi’n ...?/
Oedden nhw’n ...?
Tasg 22
Teipio cwestiwn gyda sbardun ysgrifenedig amlddewis
Berfau cyffredinol
Uned 9
Gest ti? / Aeth hi? / Ddawnsiodd e? – Cwestiynau gyda berfau yn yr amser gorffennol
Beth/Pwy/Faint/Pam/Ble/Sut/Pryd + berf? yn yr amser gorffennol
Cwestiwn
Gweithgareddau
Thema
Nodiadau Gramadeg a Chyflwyno
Gorffennol ‘mynd’
Dewis un o’r canlynol i’w ddrilio:
Est ti i / i’r ...?
Aeth e i / i’r ...?
Aethoch chi i / i’r ...?
Aethon nhw i / i’r ...?
Adnodd Drilio 26
Dod o hyd i ‘Do’ - 5 ‘Do’ i ddod o hyd iddyn nhw.
Adnodd Drilio 28
Gêm gofio – Grid 1 - 12
Gweithgareddau’r penwythnos
Timau i gystadlu yn erbyn ei gilydd, gofyn cwestiwn yn gywir er mwyn datgelu ‘Do’/’Naddo’
Gwledydd Ewrop
Gellir chwarae’r gêm fel dosbarth cyfan neu fel dau neu ragor o dimoedd, gyda’r timau’n herio’i gilydd i ofyn cwestiwn yn gywir. Hefyd, gellir cynnwys elfen o ddyfalu – gyda thimau’n dyfalu pa bynciau fydd y nesaf/ yr olaf i ymddangos o dan y rhifau. Gallai’r rhifau gael eu defnyddio fel pwyntiau – e.e. rhoi 50 pwynt i bob tîm i ddechrau. Yna, mae tîm A yn dewis rhif o’r grid – e.e. 3 – ac yn mentro cwestiwn posibl – e.e. Aeth e i’r Almaen? Os mai llun ‘i’r Almaen’ sydd o dan y rhif, mae’r tîm yn cael ychwanegu 3 at eu cyfanswm. Ond os mai llun gwahanol sydd o dan y grid, maen nhw’n colli’r pwyntiau.
Gellir gofyn hefyd am yr ateb cywir os dymunir – Byddaf / Bydd / Byddan.
Gorffennol y ferf reolaidd
Dewis un person y ferf i’w ddrilio ar y tro:
...ais i? / ...aist ti? / ...odd e/o? / ...odd hi?
...on ni? / ...och chi? / ...on nhw?
Adnodd Drilio 27
Gwregys o luniau
Dewis o 2 set o ferfau –
berfau cwbl reolaidd
berfau sydd ag elfennau afreolaidd + berfau ‘meddwl’
Berfau amrywiol
Bydd angen tynnu sylw at y ffaith fod y ferf yn treiglo’n feddal ar ddechrau cwestiwn, e.e. teithio – ond ‘Deithiaist ti?’
Angen dileu’r lluniau a chael gwregys du o fewn cyfnod penodol wedi’i amseru. Bydd modd amseru’r dosbarth yn gofyn y cwestiynau, gall timau gystadlu i geisio ateb y cwestiynau’n gynt na’i gilydd, ac ati.
Gest ti ...?
Gafodd e/o / hi ...?
Tasg 23
Ymarfer llusgo a gollwng
Enwau amrywiol
Bydd angen tynnu sylw at y ffaith fod rhai eitemau’n treiglo’n feddal: e.e. gwyliau da – Gest ti wyliau da?
Ffurfiau’r gorffennol: ti, fe/fo, hi + Ble / Pryd / Sut / Beth / Pwy ?
Tasg 24
Teipio cwestiwn gyda sbardun ysgrifenedig amlddewis
Berfau amrywiol
Mae’r berfau wedi’u treiglo’n feddal yn barod yn yr ymarfer hwn.
Ffurfiau’r gorffennol: chi, nhw + Ble / Pryd / Sut / Beth / Pwy?
Tasg 25
Teipio cwestiwn gyda sbardun ysgrifenedig amlddewis
Berfau amrywiol
Mae’r berfau wedi’u treiglo’n feddal yn barod yn yr ymarfer hwn.
Uned 10
Fyddi di / Fydd e/o /hi / Fyddwch chi / Fyddan nhw? – Cwestiynau yn y dyfodol
Beth/Pwy/Faint/Pam/Gyda/Efo pwy /Ble/Sut/Pryd? + berf yn y dyfodol
Cwestiwn
Gweithgareddau
Thema
Nodiadau Gramadeg a Chyflwyno
Dyfodol ‘bod’
Dewis un o’r canlynol i’w ddrilio:
Fyddi di’n mynd i / i’r?
Fydd e/o / hi’n mynd i / i’r? Fyddwch chi’n mynd i / i’r? Fyddan nhw’n mynd i / i’r?
Adnodd Drilio 28
Grid 1 -12 – dod o hyd i un o wledydd Ewrop.
Gwledydd Ewrop
Gellir chwarae’r gêm fel dosbarth cyfan neu fel dau neu ragor o dimoedd, gyda’r timau’n herio’i gilydd i ofyn cwestiwn yn gywir. Hefyd, gellir cynnwys elfen o ddyfalu – gyda thimau’n dyfalu pa bynciau fydd y nesaf/ yr olaf i ymddangos o dan y rhifau. Gallai’r rhifau gael eu defnyddio fel pwyntiau – e.e. rhoi 50 pwynt i bob tîm i ddechrau. Yna, mae tîm A yn dewis rhif o’r grid – e.e. 3 – ac yn mentro cwestiwn posibl – e.e. Fyddi di’n mynd i’r Almaen? Os mai llun ‘i’r Almaen’ sydd o dan y rhif, mae’r tîm yn cael ychwanegu 3 at eu cyfanswm. Ond os mai llun gwahanol sydd o dan y grid, maen nhw’n colli’r pwyntiau.
Gellir gofyn hefyd am yr ateb cywir os dymunir – Byddaf / Bydd / Byddan.
Beth/Pwy/Faint/
Am faint o’r gloch
/Pam/Ble/Sut/Pryd/
Gyda pwy / Efo pwy
fyddi di...?
fydd e / o / hi
fyddwn ni ....?
fyddwch chi ...?
fyddan nhw...?
Adnodd Drilio 29
Peiriant Ffrwythau
Dewis rhydd
Gall yr athro naill ai droi dwy ochr y peiriant neu un ochr yn unig ar y tro.
O droi un ochr yn unig, gellir naill ai canolbwyntio ar un gofynnair – e.e. Beth? a chael y dysgwyr i ymarfer: ‘Beth fydd / Beth fyddwch chi / Beth fyddi di ...? neu gellir canolbwyntio ar un ffurf ar ‘bod’ – e.e. ‘fyddi di’n a newid y gofyneiriau – e.e. Beth oedd / Pwy fyddi di’n / Faint fyddi di’n ...?
Mae modd rhannu’r dosbarth yn dimau i herio’i gilydd neu gael y peiriant i gystadlu yn erbyn y dysgwyr – os nad yw’r dysgwyr yn gallu cynhyrchu cwestiwn cywir, mae’r peiriant yn cael pwynt.
Fyddi di ...?
Fydd e / o / hi?
Tasg 26
Teipio cwestiwn gyda sbardun ysgrifenedig
Berfau amrywiol
Fyddwch chi ...?
Fyddan nhw?
Tasg 27
Teipio cwestiwn gyda sbardun ysgrifenedig
Berfau amrywiol
Beth / Pwy / Faint / Am faint o’r gloch / Pam / Ble / Sut / Pryd / Gyda pwy / Efo pwy
fyddi di’n ....?
fydd e’n / o’n ....?
fydd hi’n ....?
fyddwn ni’n ....?
fyddwch chi’n ...?
fyddan nhw’n ...?
Tasg 28
Ymarfer llusgo a gollwng
Berfau amrywiol
Uned 11
Hoffet ti? Faset ti’n ....?– Cwestiynau gyda berfau amodol
Beth/Pwy/Faint/Pam/Ble/Sut/Pryd? + berf amodol
Cwestiwn
Gweithgareddau
Thema
Nodiadau Gramadeg a Chyflwyno
Hoffet ti gael .....?
Hoffet ti fynd i(’r)....?
Hoffet ti gael gwyliau yn (yr) ...?
Hoffet ti fynd i’r ....?
Adnodd Drilio 30
Cynllunio ystafell wely
Adnodd Drilio 28
Grid 1 -12
Adnodd Drilio 7
Dod o hyd eitem wedi’i chwyddo drwy ofyn cwestiynau
Cynnwys ystafell wely + Lliwiau
Cyfle i’r dysgwyr ddewis lliwiau eitemau mewn ystafell wely drwy holi ‘Hoffet ti gael ...? e.e. gwely glas? Atebion: ‘Hoffwn’ / ‘Na hoffwn’.
Gellid rhannu’r dosbarth yn ddau dîm, gofyn i bob tîm ddewis un lliw a chystadlu yn erbyn ei gilydd i gael cymaint ag sy’n bosib o’r ystafell yn eu lliw nhw. Er enghraifft – Tîm A yn ceisio cael popeth yn las a Thîm B yn ceisio cael popeth yn goch.
Gwledydd Ewrop
Gellir chwarae’r gêm fel dosbarth cyfan neu fel dau neu ragor o dimoedd, gyda’r timau’n herio’i gilydd i ofyn cwestiwn yn gywir. Hefyd, gellir cynnwys elfen o ddyfalu – gyda thimau’n dyfalu pa bynciau fydd y nesaf/ yr olaf i ymddangos o dan y rhifau. Gallai’r rhifau gael eu defnyddio fel pwyntiau – e.e. rhoi 50 pwynt i bob tîm i ddechrau. Yna, mae tîm A yn dewis rhif o’r grid – e.e. 3 – ac yn mentro cwestiwn posibl – e.e. Hoffet ti fynd i’r Almaen? Os mai llun ‘i’r Almaen’ sydd o dan y rhif, mae’r tîm yn cael ychwanegu 3 at eu cyfanswm. Ond os mai llun gwahanol sydd o dan y grid, maen nhw’n colli’r pwyntiau.
Gellir gofyn hefyd am yr ateb cywir os dymunir – ‘Hoffwn’ / ‘Na hoffwn’.
Adeiladau yn y dref
Gellir chwarae gêm fel dosbarth cyfan neu fel dau neu ragor o dimoedd, gyda’r timau’n herio’i gilydd i ofyn cwestiwn yn gywir er mwyn datgelu’r llun ac i ddyfalu pa gwestiwn sydd wedi’i ‘guddio’ o dan yr adeiladau. Gall y dysgwyr ddyfalu â pha adeilad mae’r llun wedi’i chwyddo’n gysylltiedig drwy ofyn y cwestiwn perthnasol. e.e. popcorn = sinema – Hoffet ti fynd i’r sinema?
Gellid cael dau dîm yn herio’i gilydd, a chynnig pwyntiau bonws am ddyfalu’r cwestiwn cudd yn gywir, (a thynnu pwyntiau am ddyfalu’r cwestiwn cudd yn anghywir). Atebion: ‘Hoffwn’ / ‘Na hoffwn’.
Drilio un o’r cystrawennau isod:
Faset ti’n ...?
Fasai e’n / o’n ...?
Fasai hi’n ...?
Fasech chi’n ...?
Faset ti’n (hoffi) mynd i ...?
Adnodd Drilio 31
‘Pyramid 1-10’
Adnodd Drilio 28
Grid 1-12
Dymuniadau / breuddwydion
Athro’n datgelu cerdyn rhif 1 ar ben y pyramid. Nod y gêm yw dod o hyd i’r un cerdyn yng ngweddill y pyramid (cardiau 2-10) drwy chwilio ar hap. Mae modd ennill pwyntiau – sef y rhif ar gefn y cerdyn - drwy a) ddod o hyd i’r cerdyn sy’n cyfateb i’r un ar ben y pyramid a b) gofyn cwestiwn addas a chywir sy’n cynnwys y dymuniad sydd ar y cerdyn, hyd yn oed os nad yw’n cyfateb i’r un ar ben y pyramid.
Gellir chwarae’r gêm fel dosbarth cyfan neu fel dau neu ragor o dimoedd, gyda’r timau’n herio’i gilydd i ofyn cwestiwn yn gywir. Hefyd, gellid cynnwys elfen o ddyfalu – gyda thimau’n dyfalu pa ddymuniad fydd y nesaf/ yr olaf i ymddangos o dan y rhifau.
Gellir chwarae’r gêm fel dosbarth cyfan neu fel dau neu ragor o dimoedd, gyda’r timau’n herio’i gilydd i ofyn cwestiwn yn gywir. Hefyd, gellir cynnwys elfen o ddyfalu – gyda thimau’n dyfalu pa ddymuniad fydd y nesaf/ yr olaf i ymddangos o dan y rhifau. Gallai’r rhifau gael eu defnyddio fel pwyntiau – e.e. rhoi 50 pwynt i bob tîm i ddechrau. Yna, mae tîm A yn dewis rhif o’r pyramid – e.e. 3 – ac yn mentro cwestiwn posibl – e.e. Faset ti’n syrffio yn Awstralia? Os mai llun syrffio sydd o dan y rhif, mae’r tîm yn cael ychwanegu 3 at eu cyfanswm. Ond os mai llun gwahanol sydd o dan y grid, maen nhw’n colli’r pwyntiau.
Atebion: Baswn/ Na faswn
Gwledydd Ewrop
Gellir chwarae’r gêm fel dosbarth cyfan neu fel dau neu ragor o dimoedd, gyda’r timau’n herio’i gilydd i ofyn cwestiwn yn gywir. Hefyd, gellir cynnwys elfen o ddyfalu – gyda thimau’n dyfalu pa bynciau fydd y nesaf/ yr olaf i ymddangos o dan y rhifau. Gallai’r rhifau gael eu defnyddio fel pwyntiau – e.e. rhoi 50 pwynt i bob tîm i ddechrau. Yna, mae tîm A yn dewis rhif o’r grid – e.e. 3 – ac yn mentro cwestiwn posibl – e.e. Faset ti’n hoffi mynd i’r Almaen? Os mai llun ‘i’r Almaen’ sydd o dan y rhif, mae’r tîm yn cael ychwanegu 3 at eu cyfanswm. Ond os mai llun gwahanol sydd o dan y grid, maen nhw’n colli’r pwyntiau.
Gellir gofyn hefyd am yr ateb cywir os dymunir – Baswn.
Faset ti’n ....?
Beth / Pwy / Ble / Sut / Gyda pwy/Efo pwy / Pryd / Pam?
faset ti’n ...?
Tasg 29
Ymarfer llusgo a gollwng
Geirfa gyffredinol
Hoffet ti ...?
Hoffech chi ....?
Tasg 30
Teipio cwestiwn gyda sbardun darluniadol
Geirfa gyffredinol
Angen rhoi sylw i’r treiglad meddal ar ôl ‘Hoffet ti...’ a ‘Hoffech chi ...’
Bydd angen rhoi sylw i’r gwahaniaeth rhwng ‘ti’ a ‘chi’. Yn yr ymarfer hwn, ‘ti’ = unigol; ‘chi’ = lluosog, ond gyda rhai grwpiau, gellir cyfeirio at y ffaith fod ‘chi’ = unigol + ‘person henach / sy’n haeddu parch / person dieithr’
Uned 12
Adolygu
Cwestiwn
Gweithgareddau
Thema
Nodiadau Gramadeg a Chyflwyno
Oedd ...?
Oeddet ti ...?
Oeddech chi ...?
Oedden nhw ...?
Est ti...?
Aeth ...?
Gest ti..?
...aist ti ...?
...odd e/o...?
... och chi ..?
...on nhw ...?
Adnodd Drilio 32
Troellwr y Gorffennol (Amser amherffaith + gorffennol y ferf)
Dewis rhydd
Er mwyn i’r dysgwyr amrywio’r berfau a ddefnyddir, gellir gofyn iddyn nhw ofyn cwestiynau sy’n berthnasol i sefyllfa arbennig, neu gellir galw ‘neithiwr’ / ‘ddoe’ / ‘dros y gwyliau’ wrth i’r troellwr droi.
Os oes rhai ffurfiau’n anghyfarwydd i’r dosbarth, gellir naill ai anwybyddu’r rhain wrth ddefnyddio’r troellwr neu ddefnyddio cardiau hen ffasiwn i ganolbwyntio ar y ffurfiau mae’r athro’n dymuno eu hadolygu.
Fel arfer gyda’r troellwr, gellir chwarae gêm i ‘ragweld’ y cerdyn nesaf i ymddangos, gyda thimau’n cystadlu yn erbyn ei gilydd.
Fyddi di ...?
Fydd e / o / hi ...?
Fyddwn ni ...?
Fyddwch chi ...?
Fyddan nhw ...?
Adnodd Drilio 33
Troellwr y Dyfodol
Dewis rhydd
Gweler uchod
Hoffet ti ...?
Hoffech chi?
Faset ti ...?
Fasech chi ...?
Adnodd Drilio 34
Troellwr yr Amodol
Dewis rhydd
Gweler uchod
Beth ...?
Pwy ...?
Faint ...?
Pa ...?
Ble ...?
Pam ...?
Sut ...?
Gyda pwy / Efo pwy ...?
Pryd ...?
oedd
oeddet ti oeddech chi
oedden nhw
...aist ti
...odd e/o
... och chi
...on nhw
fyddi di
fydd e / o / hi
fyddwn ni
fyddwch chi
fyddan nhw
faset ti
fasech chi hoffet ti
hoffech chi
Adnodd Drilio 35
Peiriant Ffrwythau
Dewis rhydd
Gall yr athro naill ai droi dwy ochr y peiriant neu un ochr yn unig ar y tro.
O droi un ochr yn unig, gellir naill ai canolbwyntio ar un gofynnair – e.e. Beth? a chael y dysgwyr i ymarfer: ‘Beth oedd / Beth fyddwn ni / Beth faset ti ...? neu gellir canolbwyntio ar un ffurf ar ‘bod’ – e.e. ‘fydd’ a newid y gofyneiriau – e.e. Beth fydd / Pwy fydd / Faint fydd ...?
Mae modd rhannu’r dosbarth yn dimau i herio’i gilydd neu gael y peiriant i gystadlu yn erbyn y dysgwyr – os nad yw’r dysgwyr yn gallu cynhyrchu cwestiwn cywir, mae’r peiriant yn cael pwynt.
Ga i ...?
Oes...?
Wyt ti ...?
Ydy e / o ...?
Ydy hi ...?
Ydy’r plant ...?
Ydych chi ...?
Ydyn nhw ...?
Beth ...?
Pwy ...?
Faint ...?
Pa ...?
Ble ...?
Pam ...?
Sut ...?
Gyda pwy / Efo pwy ...?
Pryd ...?
Oedd ...?
Oeddet ti ...?
Oeddech chi ...?
Oedden nhw ...?
Est ti...?
Aeth ...?
Gest ti..?
-aist ti ...?
-odd e/o...?
-odd hi?
-och chi ..?
-on nhw ...?
Fyddi di ...?
Fydd e / o / hi ...?
Fyddwn ni ...?
Fyddwch chi ...?
Fyddan nhw ...?
Hoffet ti ...?
Allet ti ...?
Faset ti ...?
Fasai e / o / hi ...?
Fasech chi ...?
Adnodd Drilio 36
Gêm: OXO
Dewis rhydd
Gêm OXO, dau dîm, angen gofyn cwestiwn yn gywir i gael O neu X ar y grid. Gellid herio’r ddau dîm drwy fynnu cael dau neu dri chwestiwn cywir am bob O neu X. Am y cyntaf i ennill 3 gêm.
Adolygu cwestiynau mewn gwahanol amserau
Tasg 31
Llusgo a gollwng
Amrywiol o’r unedau blaenorol
Dewis y ferf gywir
............... ’n mynd i’r sinema yfory?
Tasg 32
Teipio brawddeg gyda sbardun ysgrifenedig amlddewis
Amrywiol o’r unedau blaenorol
Dewis gofynnair i ddechrau cwestiwn
Tasg 33
Teipio brawddeg gyda sbardun ysgrifenedig amlddewis
Amrywiol o’r unedau blaenorol
PAGE
22