Defnyddio technegau ffilm Gweithgaredd yn seiliedig ar ‘ Y Dieithryn’ gan Eleri Ll . Morris
-
Upload
matthew-snow -
Category
Documents
-
view
44 -
download
4
description
Transcript of Defnyddio technegau ffilm Gweithgaredd yn seiliedig ar ‘ Y Dieithryn’ gan Eleri Ll . Morris
Defnyddio technegau ffilm defnyddio technegau ffilm defnyddio technegau ffilm defnyddio technegau ffilm defnyddio technegau ffilm defnyddio technegau ffilm defnyddio technegau ffilm defnyddio technegau ffilm defnyddio technegau ffilm defnyddio technegau ffilm defnyddio technegau ffilm defnyddio technegau ffilm defnyddio technegau ffilm defnyddio technegau ffilm defnyddio techneg
Defnyddio
technegau ffilm
Gweithgaredd yn seiliedig ar ‘Y Dieithryn’
gan Eleri Ll. Morris
Technegau FfilmSAIN
Effeithiau sainCerddoriaeth
DeialogChwerthin / crio
Swn cyson e.e. clocatsain
FFRAMIOSaethiad llydanSaethiad pell
Saethiad canoligSaethiad agos
Saethiad agos iawnSaethiad niwlog
ACTORIONDeialogGwisgColur
Ystumiau
SAFLE’R CAMERASaethiad ongl isel
Saethiad ongl uchelSaethiad craen
Saethiad o safbwynt rhywun
GOLEUOGoleuo cynnes
Goleuo oerGoleuo cywair isel (llawer o
gysgodion)Goleuo cywair uchel (llachar)
Golau ôl (golau tu ôl)
FFOCWSFfocws dwfn (popeth yn y
golwg)Ffocws bas (dim ond un peth
mewn ffocws)
EFFEITHIAU GWELEDOLGolygu
LliwSet
Ôl-FflachiadauCroes dorri (neidio o un
olygfa i’r llall)pylu (fade)
SYMUNDIAD CAMERA
Tremio (pan)Camera llaw
cledru (tracking)gwyro (tilt)bwa (arch)
prysuro i fewn/ allan
Ysgrifennwch olygfa’n dangos y
dieithryn yn ymosod ar
Alma.
Defnyddio technegau ffilm
Cofiwch roi sylw manwl i’r gynulleidfa. Byddant yn disgwyl golygfa ddramatig ac mae’n bwysig bod modd cyfleu’r hyn sydd yn eich cyfarwyddiadau.
Darllenwch yr enghraifft ar y sleid nesaf. Ar gopi caled, anodwch y gwaith gyda sylwadau. Tynnwch sylw at unrhyw wendidau ac ystyriwch pa gyngor fyddech yn ei roi i’r disgybl hwn.
Yna, ewch yn ôl at eich gwaith chi gan ystyried a oes modd ei wella.
Asesu
GOLYGFA 3Lleoliad: Stryd ButeAmser: Presennol. 11y.h.Cymeriadau: Alma. Dieithryn.
Cawn saethiad llydan o Stryd Bute. Mae pob man yn dywyll fel petai rhywun wedi taflu blanced fawr ddu dros bob man. Gwelwn Alma yn cerdded lawr y stryd, mae hi’n gyrru neges destun i ffrind i ddiolch iddi am ddod i helpu i fwydo’r cardotwyr yn y dociau. Yn sydyn mae hi’n clywed sŵn traed tu ôl iddi. Cawn saethiad o’r dieithryn yn dilyn Alma, mae’n gwisgo jîns a chrys-T blêr a chap pêl fas sy’n gorchuddio ei lygaid. Mae cerddoriaeth yn cychwyn yn y cefndir. Saethiad agos o Alma’n dal i gerdded, mae hi’n poeni ac yn meddwl beth yw cymhellion y dieithryn. Alma: He won’t do anything. He’s not going to hurt me.Saethiad o’r dieithryn yn ymosod ar Alma. Mae’n ei tharo yn ei hwyneb a gafael yn ei bag. Dieithryn: Rho dy fag i fi! Alma: Na plîs paid, rwyt ti’n edrych yn ddyn mor neis .....Aw!Gwelir saethiad o’r dyn yn rhedeg ffwrdd gyda bag Alma ac Alma yn gorwedd yn llonydd. Clywir ac yna gwelir ambiwlans yn dod lawr y stryd. Saethiad agos o Alma’n crio.
Cawn saethiad llydan o Stryd Bute. Mae pob man yn dywyll fel petai rhywun wedi taflu blanced fawr ddu dros bob man. Gwelwn Alma yn cerdded lawr y stryd, mae hi’n gyrru neges destun i ffrind i ddiolch iddi am ddod i helpu i fwydo’r cardotwyr yn y dociau. Yn sydyn mae hi’n clywed sŵn traed tu ôl iddi. Cawn saethiad o’r dieithryn yn dilyn Alma, mae o’n gwisgo jîns a chrys-T blêr a chap pêl fas sy’n gorchuddio ei lygaid. Mae cerddoriaeth yn cychwyn yn y cefndir. Saethiad agos o Alma’n dal i gerdded, mae hi’n poeni ac yn meddwl beth yw cymhellion y dieithryn. Alma: He won’t do anything. He’s not going to hurt me.Saethiad o’r dieithryn yn ymosod ar Alma. Mae’n ei tharo yn ei hwyneb a gafael yn ei bag. Dieithryn: Rho dy fag i fi! Alma: Na plîs paid, rwyt ti’n edrych yn ddyn mor neis .....Aw!Gwelir saethiad o’r dyn yn rhedeg ffwrdd gyda bag Alma ac Alma yn gorwedd yn llonydd. Clywir ac yna gwelir ambiwlans yn dod lawr y stryd. Saethiad agos o Alma’n crio.
Dim angen bod yn
greadigol
Golau? E.e. Stryd?
Sut saethiad fydd yn dangos hyn? Ydyn ni’n gweld y neges?
Sut Saethiad?
Sut gerddoriaeth?
Sut wyt ti
am gyfleu
hyn i’r
gynulleidfa
?
Paid byth copïo deialog o’r testun! Gwell defnyddio Cymraeg.
Ydi’r ddeialog yn
ddigon naturiol?
Oes angen
deialog o
gwbl yma?
Fyddai’r ambiwlans yn cyrraedd mor
fuan?Elli di feddwl am ddiweddglo mwy dramatig?