Cyfleoedd gwirioneddol newyddlen Gorffennaf 2012

4
Darparu Cyfleoedd Gwirioneddol i Bobl Ifanc wrth iddynt Drawsnewid yn Oedolion Newyddlen Prosiect Trawsnewid i Gyflogaeth AAA Rhanbarthol Gorffennaf 2012 Yn y rhifyn hwn Cyflwyniad Cynadleddau’r prosiect, lansiad swyddogol y wefan a rheoliadau newydd ar egwyliau i ofalwyr. Newyddion Timau Both Diwrnod profiad gyrru i Alex yng Nghaerffili a hyfforddiant Ymwybyddiaeth Anabledd i Fentoriaid Cymheiriaid Pen-y-Bont ar Ogwr Teuluoedd â Phlant Anabl a Thlodi Plant Ymchwil newydd gan Cysylltu â Theulu a’r Gronfa Teuluoedd yn dangos ffigurau sy’n peri gofid Gwasanaeth Ymgynghorol Budd- daliadau Gwasanaeth newydd gan Mencap Cymru ar gyfer cefnogaeth ynghylch budd-daliadau. Training & Events Upcoming project training and events. Croeso i rifyn Gorffennaf newyddlen y Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol! Y mis hwn cynhaliodd Cyfleoedd Gwirioneddol ei gynhadledd lledaenu gwybodaeth flynyddol yn Future Inn, Bae Caerdydd. Daeth dros 100 o gynadleddwyr o amrywiaeth o sectorau i’r gynhadledd ynghyd â staff a phobl ifanc o’r prosiect. Yn ystod y diwrnod trafododd cynrychiolwyr o addysg, cyflogaeth, ymchwil a Llywodraeth Cymru sut roedd y prosiect yn gweddu i’w sectorau perthnasol, ond y bobl ifanc oedd yn gyfrifol am y cyflwyniadau ar y dydd oedd sêr y sioe, gan rannu eu straeon ysbrydoledig o’r prosiect. Lansiwyd gwefan ein prosiect yn y gynhadledd hefyd, y gallwch ei gweld drwy fynd i www.realopportunites.org.uk (www. cyfleoeddgwirioneddol.org.uk i’r fersiwn Gymraeg). O’r wefan gallwch hefyd fynd at becyn cymorth y prosiect. Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys ffurflenni, arweiniad ac offerynnau a ddefnyddir yn y prosiect i gefnogi pobl ifanc gyda gwaith cynllunio seiliedig ar y person a gwaith trawsnewid, cynhwysiad ieuenctid, sgiliau byw’n annibynnol a chefnogaeth seicolegol. Mae hyn yn dal i gael ei ddatblygu, ond byddwch yn gallu cael mynediad i’r offerynnau wrth i ni barhau i’w diweddaru a’u llwytho i fyny. Cysylltwch â mi ar 01792 817224 neu yn [email protected] i gael enw defnyddiwr a chyfrinair. Ar 28 Mehefin daeth Rheoliadau Egwyliau i Ofalwyr Plant Anabl (Cymru) 2012 i rym. Mae Adran 25 Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 yn ei wneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru gynorthwyo’r person sy’n gofalu am y plentyn anabl i barhau i ofalu, drwy roi egwyliau o ofalu iddynt. Am fwy o wybodaeth am hyn ac i weld y ddogfen lawn yn nodi’r rheoliadau, edrychwch ar ein tudalen Facebook a’n gwefan yn yr adran newyddion. Laura Davies Swyddog Gwybodaeth y Prosiect

description

PROSIECT TRAWSNEWID I GYFLOGAETH AAA RHANBARTHOL

Transcript of Cyfleoedd gwirioneddol newyddlen Gorffennaf 2012

Page 1: Cyfleoedd gwirioneddol newyddlen Gorffennaf 2012

Darparu Cyfleoedd Gwirioneddol i Bobl Ifanc wrth

iddynt Drawsnewid yn Oedolion

Newyddlen Prosiect Trawsnewid i Gyflogaeth AAA Rhanbarthol

Gorffennaf 2012Yn y rhifyn hwnCyflwyniadCynadleddau’r prosiect, lansiad swyddogol y wefan a rheoliadau newydd ar egwyliau i ofalwyr.Newyddion Timau BothDiwrnod profiad gyrru i Alex yng Nghaerffili a hyfforddiant Ymwybyddiaeth Anabledd i Fentoriaid Cymheiriaid Pen-y-Bont ar Ogwr

Teuluoedd â Phlant Anabl a Thlodi PlantYmchwil newydd gan Cysylltu â Theulu a’r Gronfa Teuluoedd yn dangos ffigurau sy’n peri gofidGwasanaeth Ymgynghorol Budd-daliadauGwasanaeth newydd gan Mencap Cymru ar gyfer cefnogaeth ynghylch budd-daliadau.Training & EventsUpcoming project training and events.

Croeso i rifyn Gorffennaf newyddlen y Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol! Y mis hwn cynhaliodd Cyfleoedd Gwirioneddol ei gynhadledd lledaenu gwybodaeth flynyddol yn Future Inn, Bae Caerdydd. Daeth dros 100 o gynadleddwyr o amrywiaeth o sectorau i’r gynhadledd ynghyd â staff a phobl ifanc o’r prosiect. Yn ystod y diwrnod trafododd cynrychiolwyr o addysg, cyflogaeth, ymchwil a Llywodraeth Cymru sut roedd y prosiect yn gweddu i’w sectorau perthnasol, ond y bobl ifanc oedd yn gyfrifol am y cyflwyniadau ar y dydd oedd sêr y sioe, gan rannu eu straeon ysbrydoledig o’r prosiect.

Lansiwyd gwefan ein prosiect yn y gynhadledd hefyd, y gallwch ei gweld drwy fynd i www.realopportunites.org.uk (www.cyfleoeddgwirioneddol.org.uk i’r fersiwn Gymraeg). O’r wefan gallwch hefyd fynd at becyn cymorth y prosiect. Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys ffurflenni, arweiniad ac offerynnau a ddefnyddir yn y prosiect i gefnogi pobl ifanc gyda gwaith cynllunio seiliedig ar y person a gwaith trawsnewid, cynhwysiad ieuenctid, sgiliau byw’n annibynnol a chefnogaeth seicolegol. Mae hyn yn dal i gael ei ddatblygu, ond byddwch yn gallu cael mynediad i’r offerynnau wrth i ni barhau i’w diweddaru a’u llwytho i fyny. Cysylltwch â mi ar 01792 817224 neu yn [email protected] i gael enw defnyddiwr a chyfrinair.

Ar 28 Mehefin daeth Rheoliadau Egwyliau i Ofalwyr Plant Anabl (Cymru) 2012 i rym. Mae Adran 25 Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 yn ei wneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru gynorthwyo’r person sy’n gofalu am y plentyn anabl i barhau i ofalu, drwy roi egwyliau o ofalu iddynt. Am fwy o wybodaeth am hyn ac i weld y ddogfen lawn yn nodi’r rheoliadau, edrychwch ar ein tudalen Facebook a’n gwefan yn yr adran newyddion.

Laura DaviesSwyddog Gwybodaeth y Prosiect

Page 2: Cyfleoedd gwirioneddol newyddlen Gorffennaf 2012

Dwlu ar GeirMae Alex, o Gaerffili, yn ddyn ifanc sy’n mwynhau mynd ar ei feic, chwarae snwcer a bod yn yr awyr agored. Roedd Alex yn ansicr am y dyfodol felly gofynnodd am gefnogaeth i ddatblygu cynllun seiliedig ar y person.Hwyluswyd sesiynau cynllunio seiliedig ar y person i sefydlu’r pethau sy’n bwysig i Alex a’r hyn y byddai’n ei hoffi yn y dyfodol. Gan ddefnyddio offerynnau cynllunio seiliedig ar y person, nodwyd bod gan Alex lawer o obeithion ar gyfer y dyfodol, yn cynnwys mynd i’r coleg a chael swydd. Ei freuddwyd yw dysgu gyrru.Wedi deall bod Alex yn ysu am gael dysgu gyrru, cysylltodd y gweithiwr Cynllunio Seiliedig ar y Person Joe Harper ag Uned Hyfforddi Gyrwyr Heddlu De Cymru oedd yn hapus i dderbyn Alex a’i gefnogi i ddefnyddio efelychydd gyrru. Cymerodd Alex ran mewn gwers yrru, a dysgodd am ddiogelwch, rheolyddion cerbyd a chyflymder priodol. Cafodd gyfle i yrru Mini Cooper mewn amgylchiadau ffug, gan ddod ar draws gwahanol sefyllfaoedd a ffyrdd. Cynyddodd hyder Alex yn ystod y sesiwn a gyrrodd y car yn llwyddiannus drwy sefyllfa mewn tref, dinas a thraffordd.Yn dilyn y sesiwn dywedodd Alex: “Roedd yn well na’r hyn yr oeddwn wedi’i ddisgwyl. Ces i amser gwych. Rwy’n methu aros i ddysgu gyrru.” Diolch yn fawr i Gareth Morgan yn Uned Hyfforddi Gyrwyr Heddlu De Cymru am alluogi Alex i gael profiad positif a’i annog i ddilyn ei freuddwydion.

Am fwy o wybodaeth am gefnogi pobl ifanc ag anabledd dysgu i yrru, edrychwch ar ein herthygl ‘Dysgu Gyrru’ yn rhifyn mis Medi newyddlen Cyfleoedd Gwirioneddol. Mae ar gael ar ein

NewyddioN Timau BoTHDyma Joe Harper o Gaerffili i ddweud mwy wrthym am Alex sy’n dwlu ar geir, ac mae Tanya Pound o Ben-y-Bont ar Ogwr wedi bod yn brysur yn hyfforddi Mentoriaid Cymheiriaid!

gwefan www.realopportunities.org.uk neu gallwch ofyn am gopi gan y tîm hyfforddiant a gwybodaeth drwy gysylltu â Laura ([email protected]).Cysylltiadau Defnyddiol:Pwyllgor Ymgynghorol Cludiant Pobl Anabl www.dptac.independent.gov.ukRhwydwaith Bathodynnau Glaswww.bluebadgenetwork.orgFfederasiwn Modurwyr Anablwww.dmfed.org.ukMobilisewww.disabledmotoring.orgMotabilitywww.motability.co.ukYmwybyddiaeth Anabledd Yn ystod hanner tymor y Sulgwyn, aeth Tanya Pound, Gweithiwr Cynhwysiad Ieuenctid a Chydlynydd Mentoriaid Cymheiriaid o Foth Pen-y-bont ar Ogwr â 31 o bobl ifanc 14 a 15 oed o Ysgol Gyfun Bryntirion i Dŷ Dan-Y-Coed yn West Cross, Abertawe ar gyfer cwrs preswyl. Roedd y cwrs yn gyfle i’r bobl ifanc ymlacio cyn eu harholiadau TGAU a chymryd rhan mewn Cwrs Ymwybyddiaeth anabledd Agored Cymru Lefel 2 o’r enw Hyfforddiant Ieuenctid Ymwybyddiaeth Anabledd RESPECT, fel rhan o’u sgiliau Mentora Cymheiriaid.Edrychodd y bobl ifanc ar bynciau fel:

Deall materion anabledd – Beth mae • anabledd yn ei olygu, nodi mathau o anabledd ac ati.Adnabod effeithiau gwahaniaethu ar sail • anabledd – a yw pobl ifanc ag anableddau yn colli allan ar hwyl?Adnabod sut mae iaith, ymddygiad a • gweithredoedd yn gallu cyflawni cynhwysiad – iaith briodol/amhriodol ynghylch anabledd, helpu pobl i deimlo’n hyderus i ymuno i mewn.Deall y cysyniad o gynhwysiad a sut i’w • annog - sut i gynnwys pobl ifanc mewn tripiau a gemau, trafod pwysigrwydd cynnwys pobl.

Dywedodd Tanya: “Cafodd y cwrs dderbyniad da iawn ac fe’u helpodd i ddeall ychydig am sut beth yw cael eich eithrio a sut y gallan nhw atal hyn rhag digwydd i bobl eraill. Mae hefyd

yn egluro am y mathau gwahanol o anabledd, sy’n helpu i gael gwared ar yr ofnau ynghylch “pobl anabl’”.

2

Alex yn yr efelychydd gyrru

Page 3: Cyfleoedd gwirioneddol newyddlen Gorffennaf 2012

‘Cyrraedd teuluoedd yng Nghymru: mapio teuluoedd â phlant anabl’ yw’r astudiaeth gyntaf i ganolbwyntio’n benodol ar ddata o Gymru, drwy gymharu data ar deuluoedd a helpwyd gan y Gronfa Teuluoedd â’r ardaloedd amddifadedd cymharol ym Mynegai Plant Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD) 2011.Dywedodd Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru: “Mae llawer o amheuaeth a sinigaeth yn para o hyd fod tlodi plant yn bodoli yn y wlad hon. Mae’r ymchwil gwerthfawr hwn gan Cysylltu â Theulu a’r Gronfa Teuluoedd yn amlygu ei bod yn broblem sy’n real, yn gryf ac yn wanychol.”Mae canfyddiadau o’r adroddiad yn cynnwys:Mae dros draean o’r teuluoedd â phlant anabl a helpwyd gan y Gronfa Teuluoedd yng Nghymru yn byw yng nghategorïau 1 a 2 WIMD - y ddwy ardal fwyaf difreintiedig.Mae’r niferoedd mwyaf o deuluoedd gyda phlant anabl yn ardaloedd mwyaf difreintiedig WIMD Cymru.Mae’r Gronfa Teuluoedd yn darparu cefnogaeth ariannol hanfodol i deuluoedd gyda phlant anabl yn byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn ogystal â chyrraedd y rheiny sy’n wynebu anawsterau ariannol sy’n byw mewn ardaloedd gwledig.Casgliadau

Rhaid i agenda Trechu Tlodi Llywodraeth • Cymru fynd i’r afael â materion penodol teuluoedd â phlant ag anableddau sy’n byw mewn ardaloedd trefol a gwledigMae’n hanfodol i’r rhaglenni Teuluoedd • yn Gyntaf a Cychwyn Cadarn barhau i ganolbwyntio ar fynd i’r afael ag anghenion cymhleth teuluoedd â phlant ag anableddau ar Draws Cymru.Dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu ymchwil • pellach i mewn i deuluoedd ag anableddau dysgu, tlodi plant ac amddifadedd cymharol.

Cefnogi teuluoedd â phlant anabl yng NghymruY llynedd helpodd y Gronfa Teuluoedd dros 4,300 o deuluoedd gyda phlant ag anableddau neu sy’n ddifrifol wael yng Nghymru. Darparwyd dros £2.4 miliwn mewn grantiau tuag at eitemau fel peiriannau golchi, oergelloedd, dillad gwely a dillad, yn ogystal â gwyliau a chyfarpar. Am fwy o wybodaeth am y Gronfa Teuluoedd, sut

i wneud cais a straeon teuluoedd ewch i http://www.familyfund.org.uk/grants neu cysylltwch ag Ann Shercliff, Rheolwr Datblygu Cymru [email protected] â Theulu Cymru yn lansio Cyfrif y Costau 2012Mae ‘Cyfrif y Costau 2012’ yn dangos bod teuluoedd â phlant anabl yng Nghymru yn mynd heb hanfodion, fel bwyd, gwres a dillad, ac yn mynd i ddyled cyn i effaith lawn y toriadau mewn budd-daliadau yn cael ei theimlo.

Mae 64 y cant o deuluoedd yn ofni y bydd • eu sefyllfa ariannol yn gwaethygu dros y flwyddyn nesaf - i fyny 15 y cant ers 2010.Nododd y mwyafrif (77 y cant) ddiwygiadau • lles fel y prif reswm dros eu pryder.Mae 82 y cant o deuluoedd gyda phlant • anabl yng Nghymru wedi mynd heb bethau oherwydd diffyg arian (Bwyd 18%, Gwres 25%, Dillad 64%, Diwrnodau allan neu wyliau 87%, Cyfarpar neu addasiadau 31%).Mae 40 y cant wedi syrthio y tu ôl gyda • thaliadau (Biliau Cyfleustodau 66%, Taliadau treth y Cyngor 37%, Morgais neu Rent 32%)

O ganlyniad i hyn, mae Cysylltu â Theulu yn galw ar lywodraeth y DU i eithrio teuluoedd gyda phlant anabl o doriadau i gefnogaeth ariannol ac i dargedu cefnogaeth ychwanegol i deuluoedd drwy Gredyd Cynhwysol pan fyddant yn cyhoeddi manylion y taliad misol sengl newydd. Mae adroddiad llawn Cyfrif y Costau 2012 ar gael i’w weld ar-lein. Gallwch ei weld drwy ein grŵp Facebook neu wefan Cyfleoedd Gwirioneddol nawr neu drwy fynd at www.cafamily.org.uk Mae Cysylltu â Theulu wedi lansio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r caledi ariannol sy’n bodoli i blant ag anableddau. Maent hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y teuluoedd tlotaf â phlant anabl wedi’u diogelu rhag y toriad o 10% i fudd-dal treth y cyngor.Mae Cysylltu â Theulu Cymru yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i deuluoedd â phlant anabl ar draws Cymru, gyda mynediad i ymgynghorwyr hawliau lles arbenigol ac ystod o wybodaeth ar fudd-daliadau, credydau treth, gweithio, gofal plant ac ymddiriedolaethau sy’n dyfarnu grantiau. Cysylltwch â swyddfa Cymru: [email protected] neu 02920 396624

3

Mae ymchwil ar y cyd a gynhaliwyd rhwng y Gronfa Teuluoedd a Cysylltu â Theulu yng Nghymru yn nodi cysylltiad cryf rhwng teuluoedd â phlant anabl a thlodi plant yng Nghymru.

Teuluoedd â pHlaNT aNaBl THlodi plaNTa

Page 4: Cyfleoedd gwirioneddol newyddlen Gorffennaf 2012

PCP 5 DiwrnodDyddiad: 10fed & 11eg Gorffennaf 2012 25ain & 26ain Medi 27ain TachweddAmser: 10am – 4pmLleoliad: Eglwys y Glannau, AbertaweI: 2 le ar gyfer pob Tîm Both

Rhwydwaith CynhwysiadDyddiad: 21ain Medi 2012Amser: 10am – 4pmLleoliad: Forge Fach CRC

Rhwydwaith Cynllunio at y DyfodolDyddiad: 19eg Hydref 2012Amser: 10am - 4pmLleoliad: Forge Fach CRC

Rhwydwaith Cyflogaeth a ChyfleoeddDyddiad: 23ain Tachwedd 2012Amser: 10am - 1pmLleoliad: CRC Forge FachI: Cynrychiolwyr TKW/SEA

Rhwydwaith CynhwysiadDyddiad: 5ed Rhagfyr 2012Amser: 10am – 4pmLleoliad: Forge Fach CRC

4

I weld eich stori yn y newyddlen, neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Laura ar 01792 817224 neu yn [email protected]

HyfforddiaNT &

digwyddiadauI archebu lle ar unrhyw rai o’r digwyddiadau neu seminarau hyfforddiant canlynol cysylltwch â’r tîm gwybodaeth a hyfforddiant yn [email protected] am ffurflen archebu. Am fwy o wybodaeth am y digwyddiadau cysylltwch â Hannah yn [email protected]

gwasaNaeTHymgyNgHori

Budd-daliadau

Mae Mencap Cymru yn cynnig gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar fudd-daliadau dros y ffôn wedi’i anelu at unigolion ag anabledd dysgu rhwng 0-25 oed a’u teuluoedd. Gall bobl gael mynediad i’r gwasanaeth drwy llinell gymorth Anabledd Dysgu Cymru ar 0808 808 1111. Galwad fer sydd am ddim ydyw, a bydd yr ymgynghorydd budd-daliadau yn eich ffonio yn ôl.

Gall Melvina Mellin sy’n ateb y galwadau gynnig gwybodaeth gyffredinol am fudd-daliadau a hefyd gwiriad budd-daliadau llawn. Gall rhieni, gofalwyr, pobl ag anabledd dysgu ac unrhyw weithwyr proffesiynol sy’n eu cefnogi gael mynediad i’r llinell gymorth am wybodaeth a chyngor

cyffredinol. Mae’r gwasanaeth llinell gyngor ar agor 365 diwrnod y flwyddyn - dydd Llun i ddydd Gwener 10am - 6pm a 10am - 4pm ar y penwythnosau a gwyliau banc. Os na ellir ateb eich ymholiad ar unwaith, neu os yw’r sefyllfa yn fwy cymhleth, mae tîm o swyddogion rhanbarthol ar draws Cymru y gellir eu tynnu i mewn i helpu.