Cyfleoedd Gwiriondeddol Newyddlen 2012

8
Newyddlen Prosiect Trawsnewid i Gyflogaeth AAA Rhanbarthol Hydref 2012 Yn y rhifyn hwn Cyflwyniad Cyflwyniad arbennig gan Gerraint Jones-Griffiths Wythnos Gwaith Ieuenctid 2012 Cysylltu Diwylliannau – pobl ifanc yn ysgrifennu am eu profiad o chwaraeon a’r gemau Olympaidd Adolygu Ffilmiau Pobl ifanc Caerffili yn rhoi cynnig ar adolygu ffilmiau Cwrs Preswyl 2012 Trosolwg o gwrs preswyl Cyfleoedd Gwirioneddol 2012 3 Sefydliad y dylai pob Person Ifanc Wybod Amdanynt Golwg ar MEIC, NYAS a CLIC ar-lein Tudalen Hwyl Gemau a phosau er hwyl! Hyfforddiant a Digwyddiadau Hyfforddiant a digwyddiadau’r prosiect Croeso i rifyn arbennig newydd o newyddlen Cyfleoedd Gwirioneddol. Fy enw i yw Gerraint Jones-Griffiths ac rydw i yma i ysgrifennu i’r cyhoedd am y prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol. Mae’r prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol yn fuddiol i’r holl bobl ifanc sy’n byw neu’n mynd i’r ysgol ym mwrdeistrefi sirol Pen- y-bont, Caerffili, Sir Gaerfyrddin, Merthyr, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Thorfaen. Rydw i wedi mynychu rhai o gyrsiau Cyfleoedd Gwirioneddol drwy dîm both Caerffili, sy’n amrywio o ddeall eich anabledd i ddeall perthnasoedd rhywiol. O’m safbwynt i mae Cyfleoedd Gwirioneddol wedi bod o fudd mawr i mi oherwydd yr hyn y maent wedi’i wneud i mi. Ym mis Hydref 2011 cyflwynodd y prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol fi i Fforwm Ieuenctid Caerffili. Ar y pryd roedd cynhadledd flynyddol Fforwm Ieuenctid Caerffili ymlaen ac roedd siaradwyr pwysig gan y Fforwm Ieuenctid, yn cynnwys Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn y digwyddiad. Tri mis ar ôl y digwyddiad hwn gyda help a chefnogaeth gan dîm both Caerffili cefais fy ethol i’r cabinet fel Cynrychiolydd Amgylcheddol, a dyna pam rwy’ wrth fy modd â’r gwaith y mae’r prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol yn ei wneud i bobl ifanc. Mae’r rhifyn arbennig newydd hwn o newyddlen y prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol wedi’i pharatoi gan bobl ifanc o’r prosiect i ddathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid ar 5-11 Tachwedd. Felly gofynnaf i chi ddarllen y straeon ysbrydoledig hyn gan bobl ifanc. Ar 24ain a 25ain Hydref 2012 cymerodd bobl ifanc o’r naw cyngor sir Cyfleoedd Gwirioneddol yn Ne Cymru ran mewn cwrs preswyl deuddydd llawn hwyl yn Nyffryn Goetre ym Mhort Talbot. Yn ystod y ddau ddiwrnod bu’r bobl ifanc yn cerdded ceunentydd, yn cwrdd a dysgu am wahanol anifeiliaid gyda Tropical Inc a mynd i ddisgo gwisg ffansi! Roedd y cwrs preswyl yn gyfle gwych i bobl ifanc gwrdd â ffrindiau newydd ac roedd yr holl staff yn gyfeillgar iawn. Gallwch gael gwybod mwy am yr hyn y buom yn ei wneud ar dudalen 5. Gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen y newyddlen. Gerraint Jones-Griffiths Cyfranogwr y Prosiect.

description

PROSIECT TRAWSNEWID I GYFLOGAETH AAA RHANBARTHOL

Transcript of Cyfleoedd Gwiriondeddol Newyddlen 2012

Page 1: Cyfleoedd Gwiriondeddol Newyddlen 2012

Providing Real Opportunities for Young People in the Transition to

Adulthood

Newyddlen Prosiect Trawsnewid i Gyflogaeth AAA RhanbartholHydref 2012

Yn y rhifyn hwnCyflwyniadCyflwyniad arbennig gan Gerraint Jones-Griffiths

Wythnos Gwaith Ieuenctid 2012Cysylltu Diwylliannau – pobl ifanc yn ysgrifennu am eu profiad o chwaraeon a’r gemau Olympaidd

Adolygu FfilmiauPobl ifanc Caerffili yn rhoi cynnig ar adolygu ffilmiau

Cwrs Preswyl 2012Trosolwg o gwrs preswyl Cyfleoedd Gwirioneddol 2012

3 Sefydliad y dylai pob Person Ifanc Wybod AmdanyntGolwg ar MEIC, NYAS a CLIC ar-lein

Tudalen HwylGemau a phosau er hwyl!Hyfforddiant a DigwyddiadauHyfforddiant a digwyddiadau’r prosiect

Croeso i rifyn arbennig newydd o newyddlen Cyfleoedd Gwirioneddol. Fy enw i yw Gerraint Jones-Griffiths ac rydw i yma i ysgrifennu i’r cyhoedd am y prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol.Mae’r prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol yn fuddiol i’r holl bobl ifanc sy’n byw neu’n mynd i’r ysgol ym mwrdeistrefi sirol Pen-y-bont, Caerffili, Sir Gaerfyrddin, Merthyr, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Thorfaen. Rydw i wedi mynychu rhai o gyrsiau Cyfleoedd Gwirioneddol drwy dîm both

Caerffili, sy’n amrywio o ddeall eich anabledd i ddeall perthnasoedd rhywiol. O’m safbwynt i mae Cyfleoedd Gwirioneddol wedi bod o fudd mawr i mi oherwydd yr hyn y maent wedi’i wneud i mi. Ym mis Hydref 2011 cyflwynodd y prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol fi i Fforwm Ieuenctid Caerffili. Ar y pryd roedd cynhadledd flynyddol Fforwm Ieuenctid Caerffili ymlaen ac roedd siaradwyr pwysig gan y Fforwm Ieuenctid, yn cynnwys Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn y digwyddiad. Tri mis ar ôl y digwyddiad hwn gyda help a chefnogaeth gan dîm both Caerffili cefais fy ethol i’r cabinet fel Cynrychiolydd Amgylcheddol, a dyna pam rwy’ wrth fy modd â’r gwaith y mae’r prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol yn ei wneud i bobl ifanc.Mae’r rhifyn arbennig newydd hwn o newyddlen y prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol wedi’i pharatoi gan bobl ifanc o’r prosiect i ddathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid ar 5-11 Tachwedd. Felly gofynnaf i chi ddarllen y straeon ysbrydoledig hyn gan bobl ifanc.Ar 24ain a 25ain Hydref 2012 cymerodd bobl ifanc o’r naw cyngor sir

Cyfleoedd Gwirioneddol yn Ne Cymru ran mewn cwrs preswyl deuddydd llawn hwyl yn Nyffryn Goetre ym Mhort Talbot. Yn ystod y ddau ddiwrnod bu’r bobl ifanc yn cerdded ceunentydd, yn cwrdd a dysgu am wahanol anifeiliaid gyda Tropical Inc a

mynd i ddisgo gwisg ffansi! Roedd y cwrs preswyl yn gyfle gwych i bobl ifanc gwrdd â ffrindiau newydd ac roedd yr holl staff yn gyfeillgar iawn. Gallwch gael gwybod mwy

am yr hyn y buom yn ei wneud ar dudalen 5. Gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen y newyddlen.

Gerraint Jones-GriffithsCyfranogwr y Prosiect.

Page 2: Cyfleoedd Gwiriondeddol Newyddlen 2012

JanetFy enw yw Janet Lawrence. Rwy’n 20 mlwydd oed, mae gen i anabledd dysgu ac rwy’n mynd i Goleg Ystrad Mynach.

Cyn ymuno â’r dosbarthiadau Taekwondo yng Nghanolfan Gymuned Nelson doedd dim llawer gen i i’w wneud gyda’r nos a byddwn yn aml yn treulio’r amser yn gwylio’r teledu neu’n defnyddio fy ngliniadur. Cefais fy nghyfeirio at y prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol oherwydd roeddwn am wneud mwy. Daeth Gweithiwr Cynhwysiad Ieuenctid i ymweld â mi a chynnal ymweliad cartref ac asesiad cychwynnol. Fe wnaeth hi sesiwn dymuniadau unigol a sesiwn mapio cymunedol gyda mi hefyd, a helpu i nodi pa weithgareddau oedd ar gael yn fy ardal leol.

Ymchwiliodd y Gweithiwr Cynhwysiad Ieuenctid weithgareddau posib fyddai o ddiddordeb i mi ac o’r rhestr o’r hyn oedd ar gael fe ddewisais Taekwondo. Es i i weld y sesiynau Taekwondo i benderfynu a

WYTHNOS GWAITHMae rhifyn y mis hwn o newyddlen Cyfleoedd Gwirioneddol wedi’i ysgrifennu’n bennaf gan bobl ifanc o’r prosiect i ddathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid Genedlaethol 2012. Thema’r flwyddyn ar gyfer wythnos gwaith ieuenctid, a gydlynir gan yr Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol yw “Cysylltu Diwylliannau”. Yr haf hwn cynhaliodd Prydain y gemau Olympaidd a Pharalympaidd i’r byd, a pha well ffordd i gysylltu diwylliannau! Yma, cawn glywed gan dri o gyfranogwyr y rhaglen am eu profiadau o’r gemau a sut maent wedi dod i gymryd rhan mewn chwaraeon diolch i gefnogaeth gan y prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol.

2

Jack and ShawnWCawson ni docynnau am ddim i fynd i’r Gemau

Paralympaidd gan ein ffrindiau yn Ysgol Gynradd Llantrisant ac roeddem yn ddiolchgar iawn am eu rhodd.

Aethon i’r gemau ar 6 Medi a gadael yr ysgol am 7.00am ar y trên. Cerddom i orsaf Ystrad Mynach am 7.00am i ddal trên i Gaerdydd am 9.00am. Pan oeddem yng Nghaerdydd cawsom frecwast mewn bwyty ac yna aethom i ddal y trên.

Ar y trên gwelsom lawer o bethau difyr ac aeth Jack i gysgu!

Pan gyrhaeddon ni Lundain, aethon ni ar y trên tan-ddaear a cherdded o gwmpas.

Aethon ni i siop deganau Hamleys a oedd yn hwyl, a chawson ni hufen ia yno. Wedi hynny aethon ni i’r siop Ferrari a gweld Ferrari. Roedd y Ferrari yn wych a doedden ni ddim am adael y siop.

oeddwn yn hoffi’r dosbarthiadau a phenderfynais y byddwn yn hoffi eu mynychu.

Mae mynd i’r dosbarthiadau Taekwondo gyda’r Gweithiwr Cynhwysiad Ieuenctid wedi rhoi’r hyder i mi wneud pethau’n annibynnol a chwrdd â phobl newydd. Rwy’ wedi gwneud ffrindiau da ers dechrau yn y dosbarth ac mae’r Gweithiwr Cynhwysiad Ieuenctid wedi fy helpu ar hyd y ffordd. Nawr rwy’n mynd ar fy mhen fy hun, yn talu amdano fy hun ac yn cymysgu gydag eraill yn y dosbarth heb unrhyw gefnogaeth.

Ar ôl saith sesiwn fe wnes i fy ngradd gyntaf. Roedd yn gyffrous iawn ond roeddwn yn eithaf nerfus. Mae derbyn fy nhystysgrif wedi rhoi hyder i mi ac anogaeth i barhau i fynychu’r clwb. Rwy’n gobeithio y gallaf barhau i wneud hyn a llwyddo mewn mwy o raddau i gyrraedd gwregys uwch.

Janet yn ei dosbarth Taekwondo.

IEUENCTID 2012

Page 3: Cyfleoedd Gwiriondeddol Newyddlen 2012

3

Roedd yn anodd credu pa mor fawr oedd Llundain!

Aethon ni i gael bwyd yn Benkles. Cafodd Shawn lasagne a chafodd Jack fyrgyr.

Yna aethon ni i edrych ar hen eglwys a theithio o gwmpas a gweld ffeithiau difyr am Lundain. Pan adawon ni, aethon ni ar y trên tan-ddaear i Balas Buckingham. Cawson ni lawer o luniau a gweld Gwarchodwyr ei Mawrhydi. Wedi hynny aethon ni i ymlacio ym Mharc Hyde.

Yna aethon ni i’r hostel yn Rotherhithe. Yn yr Hostel gwnaethon ni ffrindiau gyda bechgyn a merched o Chile. Chwaraeon ni bêl-droed gyda’n gilydd a gwylio’r pêl-droed ar y teledu gyda’n gilydd.

Y diwrnod wedyn aethon ni o Rotherhithe i’r Parc Olympaidd. Roedden ni’n llawn cyffro.

Ar 7fed Medi cawson ni frecwast a mynd i’r trên tan-ddaear. Cyrhaeddon ni’n Parc Olympaidd, roedd e’n wych.

Roedd yn rhaid i ni fynd drwy’r system ddiogelwch ac roedd yn frawychus, ond unwaith yr oeddem ni y tu mewn ac yn eistedd i lawr roedd yn wych.

Gwelson ni’n Fflam Olympaidd, a llawer o gampau. Gwelson ni’r Waywffon, Sbrintiau, Naid Hir a Rhedeg Pellter Hir.

Ein hoff gamp oedd y Naid Hir i rai â Nam ar y Golwg oherwydd roedd yn edrych yn anodd iawn a chefnogodd y dorf drwy fod yn dawel.

Roedd y campau yn ardderchog.

Ar ôl y campau aethon ni i edrych o gwmpas Llundain a phrynu anrhegion i’n rhieni.

Fe wnaethon ni fwynhau’n daith yn fawr ac nid ydym yn gallu credu ein bod wedi bod i’r Gemau Paralympaidd.

Jack a Shawn wrth giatiau Palas Buckingham

Jack a Shawn yn y Parc Olympaidd

Jack a Shawn yn gwylio’r athletau Paralympaidd

Page 4: Cyfleoedd Gwiriondeddol Newyddlen 2012

Ar 15fed Hydref aeth grŵp o bobl ifanc o Gaerffili i weld Hotel Transylvania, a dyma ein hadolygiad.

Ffilm arswyd gomedi yw Hotel Transylvania y byddem yn ei hargymell i unrhyw un. Mae’r ffilm wedi’i gosod mewn hotel i fwystfilod, wedi’i rhedeg gan Dracula ei hun. Mae’n cynnal parti pen-blwydd i’w ferch sy’n 118. Mae hi am grwydro’r byd ond mae Dracula am ei gwarchod rhag bodau dynol. Yna daw cnoc ar y drws - mae bod dynol wedi dod ar draws y gwesty! Cyn i Dracula allu cael gwared ar ei westai digroeso, mae ei ferch wedi syrthio mewn cariad!

Roeddem yn meddwl bod y ffilm yn ddoniol iawn ac yn llwyddo i gyfuno arswyd, stori garu, trasiedi a chomedi yn un. Rydym yn credu fod y ffilm yn addas i bob oed, a bydd plant ac oedolion wrth eu bodd â hi. Roeddem yn hoffi’r holl brif gymeriadau ond roedd llais Dracula yn mynd ar ein nerfau erbyn y diwedd!

Roeddem yn teimlo bod y castio ar gyfer y ffilm yn ardderchog ac roedd yr holl gymeriadau wedi gwneud i ni chwerthin. Os byddai modd newid unrhyw beth am y ffilm byddem yn hoffi mwy o ganeuon a brwydr rhwng y bwystfilod a’r bodau dynol.

Byddem yn argymell y ffilm hon yn gryf i’r teulu cyfan, mae’n wych! Rydym yn rhoi 5/5 i Hotel Transylvania.

ADOLYGU FFILMIAU

Ar 18fed Hydref 2012, dangoswyd y ffilm ddogfen ‘Mission to Lars’ yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd. Aeth y tîm hyfforddiant a gwybodaeth yno i’w gweld!Mae’r ffilm yn ymwneud â Tom Spicer sydd â Syndrom Fragile X ar ei gais i gwrdd â’i arwr Lars Ulrich, drymiwr un o’r bandiau roc mwyaf erioed…Metallica. Mae’n ffilm wych, emosiynol ac ysbrydoledig ac roedd bron pob un ohonom yn crio!

Mae’r ffilm yn ymwneud llawn cymaint â breuddwyd Tom i gwrdd â Lars ag y mae â heriau ei gyflwr a thaith ei frawd a’i chwaer tuag at ddeall ei anabledd yn well. Mae’r ffilm wedi’i chrefftio’n ardderchog o’r cychwyn hyd at y diwedd ac mae amseru comig perffaith Tom yn gaffaeliad, a hefyd y tyndra oherwydd nid ydym yn gwybod a fydd breuddwyd Tom yn dod yn wir ai peidio!

Gallwch weld y ffilm mewn dangosiadau arbennig ar draws y DU; mae’r elw ohoni yn mynd i Mencap. I gael gwybod lle mae’r ffilm yn cael ei dangos yn agos atoch chi ewch i missiontolars.com neu edrychwch ar eu tudalen Facebook. Mae hon yn ffilm y mae’n rhaid ei gweld, mae’n gwneud gwaith gwych o ran cynyddu ymwybyddiaeth o Syndrom fragile X ac Anableddau Dysgu, ac yn fwy na hynny, mae’n llawn diddanwch! 5/5!

4

Page 5: Cyfleoedd Gwiriondeddol Newyddlen 2012

Dros y ddau ddiwrnod cafodd y bobl ifanc gyfle i gwrdd a dysgu am wahanol fathau o anifeiliaid prydferth ac anarferol gyda Tropical Inc, mentro i lawr afonydd, dros greigiau a thrwy ogofâu tra’n cerdded ceunentydd gyda Liquid Friction a chael parti llawn hwyl yn y disgo gwisg ffansi! Cynhaliwyd y cwrs preswyl ym Mharc Gwyliau Dyffryn Goetre, a chafodd y bobl ifanc gyfle i gwrdd â ffrindiau newydd a chymysgu â phobl ifanc o’r holl siroedd sy’n ymwneud â’r prosiect.

Cynhaliodd Zoe o’r tîm hyfforddiant a gwybodaeth sesiwn adborth, pan cymerodd bobl ifanc ran mewn amrywiaeth o weithgareddau hwyliog i drafod gobeithion a dyheadau ar gyfer y dyfodol a nodi barn y bobl ifanc ar y prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol yn gyffredinol. Bydd canlyniadau’r sesiynau

adborth yn cael eu rhoi ar ein gwefan yn fuan, ond ar y cyfan roedd y bobl ifanc yn bositif iawn am y gefnogaeth y maent wedi’i derbyn.

G a d a w o d d y bobl ifanc y cwrs p reswy l g y d a g

ymdeimlad o gyflawniad a sawl cyfeillgarwch newydd. Roed adborth ar gyfer y cwrs preswyl yn cynnwys “gwych, rwy’ wedi cael amser rhagorol a dydw i ddim eisiau mynd adref. Dydw i ddim eisiau mynd adref!!” ac “Ardderchog, mae popeth wedi bod yn grêt ac rwy’ wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd.” Diolch i Hannah o’r tîm hyfforddiant a gwybodaeth am drefnu’r cyfan! Y flwyddyn nesaf byddwn yn cynnal cwrs preswyl arall cyn diwedd y prosiect.

Mentoriaid CymheiriaidPum diwrnod ar ôl y cwrs preswyl aethom yn ôl i Barc Gwyliau Dyffryn Goetre gyda

Mentoriaid Cymheiriaid o’r prosiect, am ddiwrnod o hwyl i ddweud diolch am eu holl waith caled. Aeth y mentoriaid cymheiriaid i gerdded ceunentydd mewn tymheredd oer (ond yn cael hwyl o hyd!) ac yna cymeron nhw ran mewn gweithdy a drefnwyd gan y tîm hyfforddiant sy’n cynnal astudiaeth ar yr agwedd mentoriaid cymheiriaid ar y prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol. Rhoddodd y mentoriaid cymheiriaid adborth gwerthfawr i ni fydd yn cael ei fwydo i mewn i’r astudiaeth, gyda’r canlyniadau yn cael eu gosod ar ein gwefan maes o law!

CWrS PrESWYL 2012Ar 24ain a 25ain Hydref, cynhaliodd Cyfleoedd Gwirioneddol gwrs preswyl i bobl ifanc yn Nyffryn Goetre yng Nghastell-nedd Port Talbot i ddathlu cyflawniadau’r holl bobl ifanc ar y prosiect, ac i gael adborth ar sut maent yn teimlo mae’r prosiect yn datblygu hyd yn hyn.

Bob y neidr gyda phobl ifanc o Gastell-nedd

Gwisg ffansi yn y disgo!

YPobl ifanc o Dorfaen ac Abertawe ar ôl Cerdded Ceunentydd!

5

Page 6: Cyfleoedd Gwiriondeddol Newyddlen 2012

3 sefydliad y dylai pob PErSON IFANC

WYbOD AMDANYNT….

1. CLICBeth yw e?Sianel arlein a chylchgrawn print yn cynnig gwybodaeth, newyddion a chyngor i’r holl bobl ifanc 11 i 25 oed yng Nghymru ar ystod eang o bynciau a materion.

Mae CLIConline yn cynnwys gwahanol safleoedd o wahanol siroedd ar draws Cymru; mae gan neu y bydd gan bob sir un o’r safleoedd hyn sy’n rhoi gwybodaeth benodol i’r ardal ar bethau fel addysg, chwaraeon a hamdden, iechyd a digwyddiadau lleol.

Da ar gyfer: Cael gwybodaeth am wasanaethau a gweithgareddau yn eich ardal.

Ewch i’w weld yn: www.cliconline.co.uk

2. NYASBeth yw e?Mae NYAS yn cynnig cyngor a chymorth cyfreithiol arbenigol. Maent yn cynnig gwybodaeth, cyngor, eiriolaeth a chynrychiolaeth gyfreithiol i blant, pobl ifanc ac oedolion hawdd eu niweidio drwy rwydwaith o weithwyr cyflogedig penodedig a gwirfoddolwyr drwy Gymru a Lloegr.

Mae NYAS yn cynnig gwasanaethau annibynnol a chyfrinachol (cyn belled â’ch bod chi’n ddiogel), a gallant eich helpu os:

nad yw pobl yn gwrando arnoch• oes angen cyngor arnoch• oes angen help arnoch i siarad â’r Gwasanaethau • Cymdeithasolnad ydych yn cael eich trin yn deg• ydych wedi cael gwybod bod rhaid i chi symud• ydych yn cael anawsterau yn yr ysgol• nad ydych yn cael y cyswllt yr hoffech ei gael • gyda’ch teulu

Nôl ym mis Awst aeth Tîm Hyfforddiant a Gwybodaeth Cyfleoedd Gwirioneddol i’r Eisteddfod ym Mro Morgannwg lle y cawsom wybod am 3 sefydliad gwych y mae’n ddefnyddiol iawn i bob ifanc wybod amdanynt!

ydych yn ddigartref• ydych yn oedolyn hawdd ei niweidio sy’n anabl• ydych yn ofalwr• ydych yn profi eich rhieni yn gwahanu neu’n • ysgarunad ydych yn teimlo’n ddiogel•

Os ydych yn blentyn neu’n berson ifanc, neu os ydych yn gweithredu ar ran plentyn, person ifanc neu oedolyn hawdd ei niweidio a bod angen help arnoch cysylltwch â NYAS ar y llinell gymorth ar RADFFON 0300 330 3131 neu anfonwch e-bost at [email protected]

Da ar gyfer: Cyngor cyfreithiol a gwasanaethau eiriolaeth os ydych yn cael eich hun mewn sefyllfa anodd.

Ewch i’w weld yn: www.nyas.net

3. MeicBeth yw e?Llinell gymorth newydd yw MEIC i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru.

O ddarganfod beth sy’n mynd ymlaen yn eich ardal leol i’ch helpu i ddelio â sefyllfa anodd, bydd MEIC yn gwrando pan na fydd unrhyw un arall yn gwneud. Gall MEIC roi gwybodaeth ddefnyddiol i chi, cyngor da a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i wneud newid.

Gallwch gysylltu â MEIC yn Gymraeg neu yn Saesneg - chi pia’r dewis! Maent ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Gallwch gysylltu â MEIC dros y ffôn, e-bost, testun SMS a neges barod. Mae MEIC yn gyfrinachol, yn ddienw, am ddim, ac i chi. Ffoniwch 080880 23456 SMS: 84001

Da ar gyfer: Help llaw neu glust i wrando pan fydd angen un arnoch.

Ewch i’w weld yn: www.MEICcymru.org

6

Page 7: Cyfleoedd Gwiriondeddol Newyddlen 2012

Pen-y-Bont ar OgwrCaerffiliCaerfyrddinEliteCyflogaethCynhwysiadAnnibyniaethMencapMerthyrCastell-nedd Port TalbotSir BenfroRemployRhondda Cynon TafAbertaweTorfaen

TUDALEN HWYL...Dewch o hyd i’r geiriau yma sydd wedi’u cysylltu â’r Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol yn y grid isod!

SUD

OK

UC

HW

ILAIR

drysfa ddyrys

PoSAu I CHIY mwya’ yr ydych yn eu cymryd, y mwyaf yr ydych yn gadael ar eich ôl….beth ydynt?1. Beth sy’n mynd yn fwy gwlyb wrth sychu?2. Mae dyn yn edrych ar lun ac yn dweud, “nid oes gen i frodyr na chwiorydd, ond mab fy nhad 3. yw tad y dyn hwn.” Pwy sydd yn y llun?Roedd tad a mab mewn damwain car. Bu farw’r tad, ac aethpwyd â’r mab i’r ysbyty. Dywedodd 4. y meddyg, “Ni allaf drin y bachgen hwn. Ef yw fy mab.” Sut mae hyn yn bosib?

7

Answers: 1. Olion traed 2. Tywel 3. Ef ei hun 4. Ei fam yw’r meddyg

Page 8: Cyfleoedd Gwiriondeddol Newyddlen 2012

Rhwydwaith Cyflogaeth Dyddiad: 23ain Tachwedd 2012Amser: 10am - 1pmLleoliad: CRC Forge FachI: Gweithwyr Allweddol Trawsnewid/Cynrychiolwyr Cyflogaeth â Chefnogaeth

PCP 5 diwrnod, Diwrnod 5Dyddiad: 27ain Tachwedd 2012Amser: 10.00am – 3.00pmLleoliad: Eglwys y Glannau, AbertaweI: Cynadleddwyr y Cwrs Presennol a phobl ifanc

Rhwydwaith CynhwysiadDyddiad: 5ed Rhagfyr 2012Amser: 10am – 1pmLleoliad: Forge Fach CRCI: Cynhwysiad Ieuenctid, Mentora Cymheiriaid a Seicoleg

Rhwydwaith Cynllunio at y DyfodolDyddiad: 15fed Ionawr 2013Amser: 10am - 1pmLleoliad: Forge Fach CRCI: PCP/Cydlynwyr Teuluol a Gweithwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol

Cyflwyniad i PCPDyddiad: 24ain Ionawr 2013Amser: 10.00am – 4.00pmLleoliad: Lolfa Cynin, San ClêrI: Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro

Cyflwyniad i PCPDyddiad: 21ain Chwefror 2013Amser: 10am - 4pmLleoliad: Consortiwm y De canol (ESIS gynt)I: Caerffili, RhCT a Thorfaen

8

I weld eich stori yn y newyddlen, neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Laura ar 01639 635650 neu yn [email protected]

Hyfforddiant &

digwyddiadauI archebu lle ar unrhyw rai o’r digwyddiadau neu seminarau hyfforddiant canlynol cysylltwch â’r tîm gwybodaeth a hyfforddiant yn [email protected] am ffurflen archebu. Am fwy o wybodaeth am y digwyddiadau cysylltwch â Hannah yn [email protected]