Cyfleoedd Gwirioneddol Newyddlen Ebrill 2013

8
PROSIECT TRAWSNEWID I GYFLOGAETH AAA RHANBARTHOL Ebrill 2013 Yn y rhifyn hwn Cyflwyniad Croeso i’n rhifyn arbennig o’r newyddlen i staff. Cefnogi Pobl Ifanc a Phrofedigaeth Cyngor ac arweiniad o’n dosbarth meistr ar brofedigaeth gan Cruse Bereavement Care Morgannwg. Hysbysrwydd y Farchnad Lafur Gwybodaeth HFL a pham ei fod yn hanfodol i bobl ifanc wrth gynllunio gyrfaoedd i’r dyfodol Hawliau a Chyfrifoldebau Plant Pwyntiau allweddol o’r CCUHP a’r hyn mae’n ei olygu i bobl ifanc. Diwygiadau Lles Crynodeb o’r newidiadau mwyaf i’r system fudd- daliadau. Ymwybyddiaeth am Gyffuriau Cyngor ac arweiniad o’n dosbarth meistr gyda SANDS Cymru ar sut i gefnogi person ifanc a allai fod yn profi camddefnyddio cyffuriau. Hyfforddiant a digwyddiadau Rhestr o hyfforddiant a digwyddiadau’r prosiect sydd ar y gweill. Croeso i rifyn y mis hwn o newyddlen y prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol! Rydym yn cynnal ein cynhadledd staff flynyddol ar yr 16eg o’r mis hwn, felly mae’r rhifyn hwn yn llawn o’r hyn yr ydym yn gobeithio y bydd yn wybodaeth ddefnyddiol i’n staff a’n gweithwyr proffesiynol. Rwy’n sicr y bydd peth o’r wybodaeth yn ddefnyddiol i bobl ifanc a’u teuluoedd hefyd. Mae tîm hyfforddiant a gwybodaeth Cyfleoedd Gwirioneddol yn cynnal dosbarthiadau meistr yn rheolaidd a gyflwynir gan arbenigwyr yn eu maes i helpu staff i gefnogi pobl ifanc i’r graddau gorau posib. Hyd yn hyn, cynhaliwyd dosbarthiadau meistr ar bynciau fel adrodd straeon digidol, iechyd rhywiol ac ysgrifennu darllen hawdd. Dros y misoedd diwethaf mae staff hefyd wedi cymryd rhan mewn dosbarth meistr Ymwybyddiaeth o Gyffuriau a dosbarth meistr Profedigaeth. Gallwch ddarllen y cyngor a’r arweiniad a roddwyd yn y dosbarthiadau meistr hyn a gyflwynwyd gan gynrychiolwyr o SANDS Cymru a Cruse Bereavement Care yn y newyddlen hon. Mae gwybodaeth gennym hefyd am ddosbarthiadau meistr sydd ar y gweill ar Hysbysrwydd y Farchnad Lafur a Hawliau a Chyfrifoldebau Plant a chrynodeb o’r newidiadau i’r system fudd-daliadau sydd wedi’i thrawsnewid yn llwyr eleni. Mwynhewch y darllen! Laura Griffiths Swyddog Gwybodaeth y Prosiect

description

Yn y rhifyn hwn: Croeso i’n rhifyn arbennig o’r newyddlen i staff. Cefnogi Pobl Ifanc a Phrofedigaeth Hysbysrwydd y Farchnad Lafur Hawliau a Chyfrifoldebau Plant Diwygiadau Lles Ymwybyddiaeth am Gyffuriau Rhestr o hyfforddiant a digwyddiadau’r prosiect sydd ar y gweill.

Transcript of Cyfleoedd Gwirioneddol Newyddlen Ebrill 2013

Page 1: Cyfleoedd Gwirioneddol Newyddlen Ebrill 2013

PROSIECT TRAWSNEWID I GYFLOGAETH AAA RHANBARTHOL

Ebrill 2013Yn y rhifyn hwnCyflwyniadCroeso i’n rhifyn arbennig o’r newyddlen i staff.

Cefnogi Pobl Ifanc a PhrofedigaethCyngor ac arweiniad o’n dosbarth meistr ar brofedigaeth gan Cruse Bereavement Care Morgannwg.

Hysbysrwydd y Farchnad LafurGwybodaeth HFL a pham ei fod yn hanfodol i bobl ifanc wrth gynllunio gyrfaoedd i’r dyfodol

Hawliau a Chyfrifoldebau PlantPwyntiau allweddol o’r CCUHP a’r hyn mae’n ei olygu i bobl ifanc.

Diwygiadau LlesCrynodeb o’r newidiadau mwyaf i’r system fudd-daliadau.Ymwybyddiaeth am GyffuriauCyngor ac arweiniad o’n dosbarth meistr gyda SANDS Cymru ar sut i gefnogi person ifanc a allai fod yn profi camddefnyddio cyffuriau.Hyfforddiant a digwyddiadauRhestr o hyfforddiant a digwyddiadau’r prosiect sydd ar y gweill.

Croeso i rifyn y mis hwn o newyddlen y prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol! Rydym yn cynnal ein cynhadledd staff flynyddol ar yr 16eg o’r mis hwn, felly mae’r rhifyn hwn yn llawn o’r hyn yr ydym yn gobeithio y bydd yn wybodaeth ddefnyddiol i’n staff a’n gweithwyr proffesiynol. Rwy’n sicr y bydd peth o’r wybodaeth yn ddefnyddiol i bobl ifanc a’u teuluoedd hefyd.Mae tîm hyfforddiant a gwybodaeth Cyfleoedd Gwirioneddol yn cynnal dosbarthiadau meistr yn rheolaidd a gyflwynir gan arbenigwyr yn eu maes i helpu staff i gefnogi pobl ifanc i’r graddau gorau posib. Hyd yn hyn, cynhaliwyd dosbarthiadau meistr ar bynciau fel adrodd straeon digidol, iechyd rhywiol ac ysgrifennu darllen hawdd. Dros y misoedd diwethaf mae staff hefyd wedi cymryd rhan mewn dosbarth meistr Ymwybyddiaeth o Gyffuriau a dosbarth meistr Profedigaeth. Gallwch ddarllen y cyngor a’r arweiniad a roddwyd yn y dosbarthiadau meistr hyn a gyflwynwyd gan gynrychiolwyr o SANDS Cymru a Cruse Bereavement Care yn y newyddlen hon.Mae gwybodaeth gennym hefyd am ddosbarthiadau meistr sydd ar y gweill ar Hysbysrwydd y Farchnad Lafur a Hawliau a Chyfrifoldebau Plant a chrynodeb o’r newidiadau i’r system fudd-daliadau sydd wedi’i thrawsnewid yn llwyr eleni. Mwynhewch y darllen!

Laura GriffithsSwyddog Gwybodaeth y Prosiect

Page 2: Cyfleoedd Gwirioneddol Newyddlen Ebrill 2013

Cefnogi Pobl ifanC a Gall colli rhywun sy’n annwyl i chi fod yn un o’r digwyddiadau mwyaf trawmatig ac arwyddocaol y bydd yn rhaid i berson ei brofi. Mae Cruse Bereavement Care yn elusen genedlaethol sy’n darparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth gyfrinachol am ddim i unrhyw un sydd wedi cael profedigaeth - plant, pobl ifanc ac oedolion, pryd bynnag, sut bynnag neu ble bynnag y digwyddodd y farwolaeth. Maent yn cynnig cefnogaeth wyneb yn wyneb, dros y ffôn, trwy e-bost a thrwy eu gwefan cyn ac ôl profedigaeth.

2

Mae Cruse hefyd yn darparu hyfforddiant i sefydliadau ac i weithwyr proffesiynol a allai ddod ar draws pobl sydd wedi cael profedigaeth yn ystod eu gwaith. Ar 7 Mawrth eleni, darparodd Cruse ddosbarth meistr i staff Cyfleoedd Gwirioneddol i’w helpu i gefnogi pobl ifanc a theuluoedd a allai fod wedi profi profedigaeth. Deilliodd y cyngor a’r arweiniad canlynol o’r dosbarth meistr hwn yn dilyn trafodaethau grŵp a chyfarwyddyd gan wirfoddolwyr Cruse.

GalarMae pawb yn profi galar yn wahanol, a bydd sut y byddwn yn ymateb yn cael ei ddylanwadu gan sawl peth gwahanol, yn cynnwys ein hoed a’n personoliaeth, neu gefndir diwylliannol a chredoau crefyddol, ein profiad blaenorol o brofedigaeth, ein hamgylchiadau, sut rydym yn ymdopi â cholled, pwy fu farw a sut gallai’n bywyd bob dydd newid o ganlyniad i farwolaeth y person hwnnw. Gall newid o ran dwysedd dros amser a gall achosi ystod o ymatebion emosiynol, ymddygiadol a chorfforol. Y peth gorau y gallwn obeithio pan fydd rhywun yn profi profedigaeth yw y byddant yn gallu rheoli eu galar, ac yn y pen draw bydd y teimladau sy’n gysylltiedig â galar yn newid dros amser ac yn dod yn llai dwys

Plant a galarMae galar yr arbennig o anodd i deuluoedd, oherwydd ar adeg pan mae angen mwy o gefnogaeth ar blant, felly mae hefyd i’w rhieni a’u gofalwyr. Mae plant yn dangos galar trwy eu gweithredoedd a’u hymatebion, a gallai amlygu’i hun mewn ymddygiad llawn dicter, dihangfa, datgysylltu, ymddygiad gwael neu ostyngiad mewn cyrhaeddiad yn yr ysgol. Mae’n bwysig cofio nad oes terfyn amser ar alar, ac ar adegau penodol fel pen-blwyddi neu achlysuron fel Sul y mamau er enghraifft, gall teimladau o alar fod yn fwy dwys.

Mae plant yn ei chael yn anodd deall beth sydd wedi digwydd, ac weithiau nid ydynt yn deall y cysyniad o farwolaeth. Yn aml, dywedir pethau wrth blant a

phobl ifanc, yn dibynnu ar eu hoed, tebyg i ‘Mae Dadi wedi mynd i gysgu’, ‘wedi mynd ar goll’, neu ‘wedi mynd ar daith’. Mae Cruse Bereavement care yn cynghori mai bod yn onest ac yn benodol sydd orau, oherwydd mae angen ar blant rywun fydd yn eu helpu i ddeall gwirionedd yr hyn sydd wedi digwydd.

Mae’n bwysig dilysu teimladau plentyn – peidiwch â gwneud iddynt deimlo bod eu hymateb yn anghywir. Meddyliwch am effaith dweud rhywbeth fel “mae’n rhaid i ti fod yn ddewr i Mami nawr” neu “mae’n rhaid i ti ymddwyn yn dda i Dadi” ar deimladau plentyn. Gall plant gael eu tynnu oddi wrth eu galar ac ni ddylid gwneud iddynt deimlo’n euog am hynny.

Newid o ran chwant am fwydRhyddhadSynfyfyrioCrio/griddfanOfni ymlyniadYmdeimlad o bresenoldebDyheuDi-rymGor-sensitif i sŵnDryswchCamddefnyddio sylweddauGwlychu’r gwelyAtchweliadBeio eraillDiffyg egniSioc

ColledGwaduChwilioDicterCenfigenBreuddwydion/HunllefauEuogrwyddTrysori gwrthrychauUnigrwyddDideimladAnobaithPryderCwsg wedi’i aflonydduDiffyg gwerthTeimlad o ryddhad

Teimladau cysylltiedig â galarGallai teimladau cysylltiedig â galar gynnwys (ond yn sicr nid ydynt wedi’u cyfyngu i):

Phrofedigaeth

Page 3: Cyfleoedd Gwirioneddol Newyddlen Ebrill 2013

3

Mae ypsetio yn well nag esgus nad oes dim byd wedi digwydd. Peidiwch ag ofni dweud y peth anghywir, oherwydd does dim modd dweud llawer fydd yn gwneud iddynt deimlo’n waeth, a pheidiwch ag osgoi person sy’n galaru, oherwydd gall hyn olygu y byddant yn teimlo’n ynysig. Nid cydymdeimlad sydd ei angen bob tro – mae angen gwrando ar blant, ac ateb eu cwestiynau.

HunanladdiadMae pobl yn ei chael yn anodd gwybod beth i’w ddweud pan fydd rhywun wedi cymryd ei fywyd ei hun, ond mae angen yr un gefnogaeth ar y rhai sydd wedi’u gadael ar ôl wrth iddynt alaru. Ceisiwch osgoi’r term ‘cyflawni hunanladdiad’ oherwydd gall hyn gael oblygiadau cyfreithiol ac mae’n ychwanegu at y tabŵ o drafod hunanladdiad. Ers 1961 nad yw hunanladdiad yn drosedd ac erbyn hyn nid oes cyfraith yn erbyn cymryd eich bywyd eich hun.

Un o’r agweddau mwyaf anodd ar hunanladdiad yw ceisio egluro’r hyn sydd wedi digwydd i blentyn. Dyma un o weithwyr Cruse, Jo, sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, yn egluro sut byddai’n ymdrin â’r sefyllfa:

“Pan rwy’n egluro marwolaeth i blentyn, rwy’ fel arfer yn dweud pethau fel ‘Roedd gan Dadi galon tost, stopiodd ei galon weithio ac roedd

hynny’n meddwl bod ei ymennydd a’i gorff wedi stopio gweithio hefyd’, i egluro rhywbeth fel trawiad ar y galon. Ar gyfer hunanladdiad, byddwn yn egluro bod gan rywun ymennydd tost ac nid oedden nhw am fyw bellach a’u

bod wedi marw. Nid oes angen i chi egluro o reidrwydd sut wnaeth y person farw, byddai hyn

yn dibynnu ar oed y plentyn.”

Mae Jo hefyd yn cynghori pan yn ymweld â chartref person sydd wedi cael profedigaeth, mae’n bwysig bod yn ymwybodol o arferion teuluol, er enghraifft ceisiwch beidio ag eistedd yng ‘Nghadair Dadi’, ac ati.

Ymdrin â galar Dyma rai pethau y mae Cruse yn awgrymu sy’n gallu helpu person wrth iddynt alaru:

Bwyta bwyd a byrbrydau iach• Ceisio glynu at batrwm cysgu rheolaidd• Cadw arferion amser gwely yn dawel a llonydd• Ar ôl siarad gyda’r person am ei hanwylyd, • ceisiwch orffen y drafodaeth ar bwnc arall, fel nad ydych yn eu gadael yn cael eu llethu gan eu teimladauAnogwch y person ifanc i gymryd rhan mewn • rhyw fath o ymarfer corfforolChwarddwch yn aml• Siaradwch ag oedolyn yr ydych yn ymddiried • ynddyntTreuliwch amser gyda ffrindiau•

Peidiwch â dileu dewisiadau am fynychu • angladd, neu ymweld â’r fynwentCrëwch lyfr atgofion• Gwrandewch ar gerddoriaeth, ymlaciwch• Nodwch achosion arbennig fel pen-blwyddi • - cofiwch gynnau cannwyll, cael y teulu at ei gilydd ac atiGwnewch goeden deuluol gyda pherson ifanc i • weld sut allai’r farwolaeth effeithio arnyntGadewch i’r person sy’n galaru eich arwain, • a pheidiwch â chymryd eich bod yn deall eu teimladau oherwydd eich disgwyliadau eich hun.Peidiwch â gorfodi eich credoau eich hun • arnynt, e.e. mae Mami wedi mynd i’r nefoedd. Trafodwch gredoau os yw’r person yn dewis gwneud hynny. Dewiswch iaith y mae’r teulu yn ei defnyddio, a • byddwch yn ymwybodol o’u credoau, diwylliant a chrefydd.

AdnoddauMae llawer o lyfrau a chyhoeddiadau ar gael, a gallwch weld taflenni, fideos a straeon ar wefan Cruse hefyd. Mae Jo’n argymell y llyfrau canlynol i blant:

‘I miss you’ gan Pat Thomas• ‘A Nifflenoo Called Nevermind: Helping Children • Who Bottle Up Their Feelings’ gan Margot Sunderland‘Grief Encounter’ gan Shelly Gilbert•

Mae Leeds Animation Workshop hefyd yn cynhyrchu DVDs ardderchog wedi’u hanimeiddio yn edrych ar y ffyrdd y mae plant a phobl ifanc yn ymateb i alar, a beth gall yr oedolion o’u cwmpas ei wneud i helpu. Ewch i www.leedsanimation.org.uk am ragor o wybodaeth.

Gallwch gysylltu â Cruse hefyd ar unrhyw adeg am help neu gefnogaeth fel rhiant/gofalwr sy’n cefnogi rhywun sydd wedi profi profedigaeth neu os ydych yn profi galar eich hun. Gwefan: www.crusebereavementcare.org.uk, rhif ffôn cymorth yn ystod y dydd: 0844 477 9400, Ebost: [email protected].

Mae Cruse wedi datblygu gwefan hefyd a ddyluniwyd gan bob ifanc i gefnogi pobl ifanc ar ôl marwolaeth rhywun agos atynt o’r enw ‘road for you’. Ar y wefan gall pobl ifanc ddarganfod mwy am sut mae eraill wedi ymdopi â marwolaeth rhywun annwyl, darllen am brofiadau pobl a rhannu meddyliau a theimladau. Prif nod y wefan yw helpu pobl ifanc i ddod o hyd i’w ‘ffordd’ eu hunain i ymdrin â cholled. Gellir gweld y wefan yn www.rd4u.org.uk.

Diolch i Cruse Bereavement Care, ac i Jo a John am ddarparu gweithdy ardderchog.

Page 4: Cyfleoedd Gwirioneddol Newyddlen Ebrill 2013

Beth yw Gwybodaeth y Farchnad Lafur ?Mae Gwybodaeth y Farchnad Lafur (GFL) yn darparu ystadegau, ymchwil a dadansoddiad am dueddiadau economaidd a swyddi presennol a rhai’r dyfodol i hysbysu a chefnogi penderfyniadau cynllunio gyrfa a busnes. Mae’n dangos yr hyn sy’n digwydd yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol yn y farchnad swyddi. Gall hyn gynnwys:

tueddiadau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol o • fewn sectorau galwedigaetholargaeledd cyfleoedd yn ddaearyddol• y sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt• trywyddau cynnydd a llwybrau gyrfa• swyddi gwag o ran prentisiaethau a swyddi• cyrsiau a rhaglenni hyfforddiant. •

Gwybodaeth a hysbysrwyddWeithiau mae pobl yn gwahaniaethu rhwng ‘gwybodaeth’ a ‘hysbysrwydd’. Daw gwybodaeth yn hysbysrwydd pan gaiff ei dehongli a’i chyflwyno mewn ffordd sy’n helpu pobl i ddeall a gwneud penderfyniadau. Mae trawsnewid gwybodaeth yn hysbysrwydd yn broses felly.

Pam ei fod yn bwysig?Sut gall Hysbysrwydd y Farchnad Lafur gael ei ddefnyddio a pham ei fod yn bwysig?

Mae sawl defnydd i hysbysrwydd y farchnad lafur. Er enghraifft:

Mae angen GFL ar sefydliadau addysg a • hyfforddiant i gynllunio pa gyrsiau y byddant yn eu darparu. Os byddant yn ei defnyddio’n dda, byddant yn gallu cynnig cyrsiau sy’n cyfateb i’r sgiliau mae cyflogwyr yn eu dymuno ac y bydd yn helpu pobl i gael swyddi.Gall pobl ifanc yn yr ysgol neu’r coleg, sy’n • meddwl am eu gyrfaoedd, ddefnyddio GFL i nodi pa swyddi a allai fod ar gael yn y dyfodol a pha sgiliau a chymwysterau sydd eu hangen er mwyn cael mynediad iddynt.Gall y rhai sy’n chwilio am swyddi ddefnyddio • GFL i nodi cyfleoedd am swyddi a’r nodweddion y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt mewn recriwtiaid newydd.

Felly mae GFL yn hollbwysig er mwyn gwneud dewisiadau gwybodus a all uchafu’u cyfleoedd o gael swydd a chael gyrfa gynaliadwy a llwyddiannus.

Gall cael gwybodaeth am bolisïau cenedlaethol sy’n

gysylltiedig â GFL eich helpu i ddeall ei phwysigrwydd i bobl ifanc a sut mae’n ganolog i’w proses gwneud penderfyniadau. Mae GFL yn hanfodol i gynllunio’r llywodraeth, yn enwedig pan mae prinderau mewn gyrfaoedd neu sectorau penodol. Fodd bynnag, mae ein heconomi ddeinamig ac effeithiau dirwasgiad yn ei wneud yn anodd ei ragweld yn y tymor hir.

Mae awdurdodau lleol a chymunedau dysgu hefyd yn dibynnu ar GFL wrth gynllunio darpariaeth addysg a hyfforddiant i bobl ifanc rhwng 14 a 19 oed.

Y neges allweddol i bobl ifanc yw sicrhau’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd yn y farchnad swyddi leol a chenedlaethol. Os ydynt yn bwriadu gwneud cwrs am ychydig flynyddoedd ac nad ydynt yn bwriadu dechrau gweithio ar unwaith mae angen iddynt:

gael y wybodaeth ddiweddaraf am ragolygon • tymor hir y gyrfaoedd mae ganddynt ddiddordeb ynddynt, achadw’u hopsiynau yn agored am gyfnod mor hir • â phosib.

O ble y gallaf gael GFL?Mae llawer o wahanol ffynonellau o GFL. Fodd bynnag, yn aml mae’n well cyfuno gwahanol ffynonellau er mwyn cael darlun mwy cyflawn. At hynny, i’r rheiny sy’n edrych ar yrfaoedd yn y dyfodol neu’n ceisio gwaith gallai fod yn well trafod gydag ymgynghorydd gyrfaoedd cymwys.

Mae ffynonellau GFL yn cynnwys y gwefannau canlynol:

www.statswales.wales.gov.uk• www.gyrfacymru.com• www.gowales.co.uk• www.learningobservatory.com• www.guidance-research.org• www.nationalcareersservice.direct.gov.uk •

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ehangu a lledu’r defnydd o Hysbysrwydd y Farchnad Lafur (HFL) ar draws Cymru. Am fwy o wybodaeth am brosiect HFL Llywodraeth Cymru cysylltwch â [email protected]

Os ydych yn aelod o staff ar y prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol a bod gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy am HFL cysylltwch â Hannah, fydd yn gallu trefnu Dosbarth Meistr.

hysbysrwydd yfarChnad lafur

I gefnogi pobl ifanc i wneud penderfyniadau gyrfa gwybodus, mae argaeledd gwybodaeth leol a chenedlaethol y farchnad lafur yn bwysig iawn.

4

Page 5: Cyfleoedd Gwirioneddol Newyddlen Ebrill 2013

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn

Yng Nghymru rydym yn cael ein geni â’r hawliau hyn. Nid ydynt yn rhywbeth y gall rhywun eu cymryd oddi arnom. Ein rhai ni ydyn nhw, a ni sy’n berchen arnynt. Yn yr un modd â Chymru, mae pob gwlad arall yn y byd bron wedi cofrestru ar gyfer y confensiwn ac eithrio America. Felly pa wahaniaeth maent yn ei wneud i ni, a beth sydd angen i ni ei wybod amdanynt?

Mae gan blant 40 erthygl benodol (gwahanol • hawliau)Mae gan y Llywodraeth 14 erthygl• Ysgrifennir holl bolisïau Cymru gyda CCUHP yn • sylfaen iddyntCyfrifoldeb y Llywodraeth yw sicrhau bod pawb • yn gwybod amdanynt Gall plant ddefnyddio’u hawliau i herio • penderfyniadau a wneir amdanyntDwy o’r erthyglau pwysicaf i blant ag anableddau • yw:- Erthygl 12 Mae gan bob plentyn yr hawl i fynegi ei farn ac mae’n rhaid cymryd y farn honno o ddifrif - Erthygl 23 - Mae hawl gan blant anabl i fywyd llawn ac i fod yn rhan o’r gymuned.Mae llawer o blant a phobl ifanc yn gwybod bod • ganddynt hawliau ond nid ydynt yn gwybod beth yw’r hawliau hynnyYng Nghymru mae gennym Gomisiynydd Plant i • sicrhau bod plant yn derbyn eu hawliauMae comisiynydd plant Cymru yn unigryw gan • fod ganddo bwerau dros bolisi Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol os yw’n teimlo eu bod yn amharu ar hawliau plant.

Mae sut rydym yn dysgu plant a phobl ifanc am eu hawliau yn bwysig i sut bydd ein cymdeithas yn cael ei llunio yn y dyfodol. Dylai dysgu beth yw hawl, pam ei bod gennym, sut gallwn ei defnyddio a beth y gallwn ei wneud os ydym yn teimlo bod rhywun yn cymryd ein hawliau i ffwrdd fynd law yn llaw â dysgu am ein cyfrifoldebau fel dinasyddion ifanc.

Mae Cyfleoedd Gwirioneddol yn cynnal dosbarth meistr i staff y prosiect ar Hawliau a Chyfrifoldebau Plant ar 2il o Fai. I archebu lle a chael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Hannah ar [email protected]

Yn y cyfamser, am ragor o wybodaeth ar CCUHP ac am adnoddau neu wybodaeth i bobl ifanc ar eu hawliau ewch i www.uncrcletsgetitright.co.uk.

hawliau a Chyfrifoldebau Plant

diwygiadaulles

Ym mis Ebrill dechreuwyd cyflwyno rhai o’r newidiadau mwyaf i’r system fudd-daliadau ers amser hir. Mae’r prif newidiadau fel a ganlyn:

Bydd Credyd Cynhwysol yn disodli:• Lwfans Ceisio Gwaith seiliedig ar incwm• Lwfans Cyflogaeth a Chefnogaeth cysylltiedig • ag incwmCymhorthdal Incwm• Credydau Treth Plant• Credydau Treth Gwaith• Budd-dal Tai•

Budd-dal Plant: • bydd yn rhaid i berson sy’n ennill dros £50,000 mewn un cartref dalu treth incwm ar eu Budd-dal Plant. Ni fydd unrhyw un sy’n ennill dros £60,000 yn well eu byd yn derbyn budd-dal plant oherwydd bydd y dreth yn gyfartal i’r budd-dal plant. Gallwch optio allan.Terfyn Uchafswm ar Fudd-daliadau: • mae’r Llywodraeth yn cyflwyno terfyn ar swm y budd-daliadau y gall cartref oed gweithio ei dderbyn, ac ni fydd yn uwch na lefel enillion cyfartalog teulu sy’n gweithio. Caiff ei gyflwyno’n genedlaethol o haf 2013..Budd-daliadau a chyfraddau credydau • treth: Bydd y rhan fwyaf o fudd-daliadau yn cael eu cynyddu o 1% yn unig bob mis Ebrill tan 2015Budd-dal Treth y Cyngor: • caiff hwn ei ddisodli gan gefnogaeth leol ar gyfer Treth y Cyngor a’i reoli gan Awdurdodau Lleol - mae’n effeithio ar bobl oed gwaith sy’n derbyn Budd-dal Treth y Cyngor yn unig.Lwfans Byw i’r Anabl: • caiff ei ddisodli gan Daliad Annibyniaeth Personol (PIP) fydd yn cynnwys:

‘Asesiadau Gwrthrychol’ i bennu cymhwysedd• Ni fydd neb yn trosglwyddo’n awtomatig o • Lwfans Byw i’r Anabl i Daliad Annibyniaeth Personol, mae’n rhaid i chi ailymgeisioBydd i PIP gydran Byw bob Dydd a chydran • Symudedd. Bydd dyfarniadau yn cynnwys un neu’r ddau o’r rhain ac mae dwy gyfradd i bob un - safonol ac uwch.Dim ond hawlwyr DLA sydd dros 16 oed a dan • 65 oed ar 8 Ebrill 2013, neu sy’n cyrraedd 16 oed ar ôl Hydref 2013 y gofynnir iddynt hawlio’r budd-dal newydd.

Budd-dal Tai: • Bydd pobl sy’n byw mewn tai y mae meini prawf y Llywodraeth yn pennu sy’n rhy fawr ar gyfer eu hanghenion yn gweld eu budd-dal tai yn cael ei leihau. Toriad o 14% os ydych yn tan-feddiannu o un ystafell wely, neu doriad o 25% os ydych yn tan-feddiannu o ddwy neu fwy.Am fwy o wybodaeth am y Diwygiad Lles ewch i:

www.dwp.gov.uk• www.turn2us.org.uk•

5

Page 6: Cyfleoedd Gwirioneddol Newyddlen Ebrill 2013

SANDS CymruMae SANDS Cymru (a adwaenwyd gynt yn Swansea Drugs Project) yn elusen annibynnol sy’n darparu ystod o wasanaethau i ddefnyddwyr cyffuriau, eu teuluoedd a’u ffrindiau i leihau’r niwed y gall defnyddio alcohol a chyffuriau ei achosi ac i alluogi defnyddwyr cyffuriau a chyn-ddefnyddwyr ddilyn bywydau iach a llawn boddhad.

Mae’r erthygl hon yn rhoi crynodeb byr o’r pynciau a drafodwyd a’r cyngor a roddwyd gan Martin Jones o SANDS Cymru yn ystod ein dosbarth meistr gydag ef. Gallwch gysylltu â SANDS Cymru yn [email protected] neu ar 01792 472002 neu gael gwybod mwy am eu gwasanaethau ar eu gwefan: www.sandscymru.org

Adnabod CyffuriauYn ystod y gweithdy dangoswyd lluniau i staff o wahanol gyffuriau a gofynnwyd iddynt eu henwi, a do, cawsom y rhan fwyaf ohonynt yn anghywir! Roedd yn ein synnu pa mor hawdd oedd i gymysgu rhwng sylweddau, er enghraifft enwyd un llun o Salvia yn Marijuana, dau sylwedd a all gael effeithiau gwahanol iawn ar berson, gan fod un yn rhithbeiryn a’r llall yn iselydd.

Mae problemau gydag adnabod cyffuriau yn golygu y gallai person ifanc gymryd cyffur a disgwyl effaith benodol, ond gael profiad hollol wahanol a allai fod yn beryglus. Daeth Amber Lewri yn gaeth i heroin ar ôl smocio’r sylwedd caethiwus iawn trwy gamgymeriad yn lle cocên. Cefnogodd ei mam, Christine Lewri Amber i drechu ei chaethiwed i heroin ac mae wedi ysgrifennu am eu profiadau yn y llyfr ‘Thin Line – a mother’s journey through her daughter’s heroin addiction’.

Y prif bryder gyda chyffuriau stryd yw nid yn unig eu bod yn anodd eu hadnabod, ond ei fod yn amhosib gwybod â beth y cymysgwyd y sylwedd, gallech fod yn amlyncu unrhyw beth heb wybod beth fydd y canlyniadau. Mae gwahaniaethau

lleol yn y fford y cyfeirir at gyffuriau, a gallai sylwedd a elwir gan un enw mewn un ardal fod yn rhywbeth hollol wahanol mewn ardal arall.

Ffactorau RisgMae nifer helaeth o resymau pam y mae pobl yn dewis cymryd cyffuriau. Gall rhesymau fod yn rhai unigol (pleser, chwilfrydedd, gwrthryfela), cymdeithasol (dylanwad grŵp cymheiriaid, cefndir teuluol) a diwylliannol (diffyg llwyddiant, argaeledd) ac yn aml gwelir cyfuniad o’r tri.

Mae rhai ffactorau risg sy’n gysylltiedig â chefndir teuluol, cymuned, ysgol a’r unigolyn a allai awgrymu tebygrwydd uwch o gamddefnyddio sylweddau:

Ffactorau teuluol:Diffyg disgyblaeth• Gwrthdaro teuluol• Hanes teuluol o gamddefnyddio sylweddau• Agwedd ‘ffwrdd â hi’ gan rieni at gyffuriau• Incwm isel/tai.•

Ffactorau Cymunedol:Diffyg trefn ac esgeulustod cymunedol• Argaeledd cyffuriau• Cymdogaethau difreintiedig• Trosiant uchel yn y boblogaeth• Diffyg ymlyniad i’r gymdogaeth•

Ffactorau Ysgol:Cyflawniad isel• Ymddygiad bygythiol neu fwlio• Ymrwymiad isel• Diffyg trefn yn yr ysgol•

Ffactorau Unigol:Dieithriad• Agwedd ‘ffwrdd â hi’ at gyffuriau• Ffrindiau yn rhan o’r peth• Ymwneud yn gynnar ag ymddygiadau • problemusCymeradwyo ymddygiadau problemus•

ymwybyddiaeth am gyffuriau

Cymerodd staff o’r Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol ran mewn dosbarth meistr ymwybyddiaeth am gyffuriau gyda SANDS Cymru ym mis Mawrth i ddysgu mwy am adnabod arwyddion o gamddefnyddio sylweddau, effeithiau a risgiau gwahanol sylweddau a chefnogi pobl ifanc allai fod yn profi camddefnyddio sylweddau.

6

Page 7: Cyfleoedd Gwirioneddol Newyddlen Ebrill 2013

Ffactorau Diogelu:Mae pobl ifanc yn fwy tebygol o ymwrthod â chamddefnyddio sylweddau os:

Mae ganddynt ymagwedd bositif• Mae ganddynt system gefnogi gymdeithasol • ddaMae ganddynt allu deallusol cadarn, o • safbwynt gallu mesur y da a’r drwg yn eu gweithrediadau eu hunainMae ganddynt berthynas ofalgar gydag un • oedolyn cyson o leiafMae ganddynt gyfle i gymryd rhan mewn • teulu, yr ysgol a’r gymunedMae ganddynt sgiliau cymdeithasol er mwyn • eu galluogi i gymryd rhanMaent yn derbyn cydnabyddiaeth a • chanmoliaeth am ymddygiad positifMaent mewn addysg, cyflogaeth neu • hyfforddiant

Cyffuriau newydd a rhai sy’n ymddangosMae cyffuriau newydd a rhai sy’n ymddangos (NEDs) yn broblem fawr yn y rhan fwyaf o gymunedau lleol ar hyn o bryd. Mae’r hyn a adwaenwyd eisoes yn ‘gyffuriau cyfreithiol’ efallai erbyn hyn yn anghyfreithlon, ac mae’n cynnwys ‘Miaow’, un o’r NEDs amlycaf. Mae Cyffuriau Newydd a’r Rhai sy’n Ymddangos yn sylweddau synthetig a wnaed, sy’n debyg i sylweddau anghyfreithlon ac nad ydynt wedi’u cynnwys yn Neddf Camddefnyddio Sylweddau 1971. Nid yw effeithiau hir dymor NEDs yn hysbys, ac wrth i’r Cyngor Ymgynghorol ar Gamddefnyddio Cyffuriau (ACMD) ddod i wybod am y sylweddau newydd hyn a’u gwneud yn anghyfreithlon, mae’r cydrannau’n cael eu newid ac mae’r sylwedd newydd yn cael ei werthu o dan enw gwahanol, gan olygu efallai na fyddwn byth yn gwybod beth yw’r effeithiau hir dymor.

Gwerthir NEDs fel arfer fel cynnyrch i’r tŷ fel gwrtaith planhigion neu potpourri gyda’r label ‘nid ar gyfer ei amlyncu gan bobl’, sy’n golygu bod y cyfreithiau y mae’n rhaid i’r cynnyrch hyn lynu atynt yn wahanol i’r rheiny ar gyfer cynnyrch a wnaed i bobl eu bwyta ac felly’n cael eu craffu yn agosach.

Pam cymryd NEDs?Mae pobl fel arfer o dan yr argraff fod Cyffur Newydd sy’n Ymddangos yn fwy diogel oherwydd nad yw’n anghyfreithlon, a’u bod yn haws dod o hyd iddynt a’u prynu. Maent hefyd yn credu bod y cyffuriau hyn o ansawdd uwch, yn ‘lanach’ eu heffaith a bod llai o sgil effeithiau yn perthyn iddynt. Fodd bynnag, mae ffigurau’n awgrymu ers cael ei wahardd mai 7% yn bur yn unig yw ‘Miaow’, yn hytrach na 60% cyn y gwaharddiad. Y perygl yw ei fod yn amhosib gwybod beth yr ydych yn ei gymryd, ac mae llawer o bobl yn cael eu cysuro’n gamarweiniol gan y term ‘cyffur cyfreithlon’.

AdnoddauI unrhyw un sy’n gweithio gyda phobl ifanc mae’n bwysig gallu adnabod arwyddion posib camddefnyddio sylweddau, adnabod cyffuriau a chyfarpar cyffuriau a deall y ffactorau risg posib sy’n gysylltiedig â defnyddio cyffuriau. Mae llawer o sefydliadau y gallwch fynd atynt i gael cefnogaeth. Roedd Martin o SANDS yn argymell Talk to Frank (www.talktofrank.com Ffôn: 0800 77 66 00 SMS: 82111) sy’n cynnig ffeithiau a chyngor i bobl sy’n defnyddio cyffuriau a’r rheiny sy’n pryderu amdanynt.

Gallwch weld crynodeb o’r arwyddion posib o ddefnyddio cyffuriau ar ein gwefan (www.realopportunites.org.uk) a ddarparwyd gan SANDS Cymru. Gallwch weld gwybodaeth yno hefyd am ddulliau ymyrraeth yn cynnwys Therapi Gwella Cymhelliant, Cylch Myfyriol a Chylch Newid a argymhellwyd yn y dosbarth meistr.

7

Page 8: Cyfleoedd Gwirioneddol Newyddlen Ebrill 2013

8

I weld eich stori yn y newyddlen, neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Laura ar 01639 635650 neu yn [email protected]

hyfforddiant a digwyddiadau

I archebu lle ar unrhyw rai o’r digwyddiadau neu seminarau hyfforddiant canlynol cysylltwch â’r tîm gwybodaeth a hyfforddiant yn [email protected] neu ar 01639 635650.

Rhwydwaith Cynllunio at y DyfodolDyddiad: 19eg Ebrill 2013 Amser: 10am – 1pmLleoliad: Canolfan Adnoddau Cymunedol Forge FachI:PCP/Cyswllt Teuluoedd a Sgiliau Byw’n Annibynnol

Hyfforddiant Hwyluswyr PCP 5 diwrnodDyddiad: 29ain/30ain Ebrill, 21ain/22ain Mai, 8fed Awst Amser: 9:30am – 4:30pmLleoliad: Canolfan Adnoddau Cymunedol Forge FachI: Staff y Prosiect (2 o bob both)

Dosbarth Meistr Diwygiadau LlesDyddiad: 26ain Ebrill 2013 Amser: 9:30am – 1.00pmLleoliad: Ysgol Maes y Coed, Castell-neddI: 2 x Staff y Prosiect o bob both

Dosbarth Meistr Hawliau a Chyfrifoldebau PlantDyddiad: 2il Mai 2013Amser: 10:00am-1:00pmLleoliad: Canolfan Adnoddau Cymunedol Forge FachI: Staff y Prosiect

Cyflwyniad i PCPDyddiad: 3ydd Mai 2013 Amser: 10:00am – 4:00pmLleoliad: Consortiwm Canolog y DeI: Unrhyw un yn RhCT/Caerffili/Torfaen

Dosbarth Meistr Trais DomestigDyddiad: 13eg Mai 2013Amser: 9:30am-1:00pmLleoliad: Canolfan Adnoddau Cymunedol Forge FachI: Staff y Prosiect

Rhwydwaith Cyflogaeth a ChyfleoeddDyddiad: 15fed Mai 2013 Amser: 10:00am – 1:00pmLleoliad: Canolfan Adnoddau Cymunedol Forge FachI: Gweithwyr Allweddol Trawsnewid, Cyflogaeth â Chefnogaeth, Menter Gymdeithasol ac Arweinwyr Tîm