Cartref Rhywun ...

3
Yr Yanomani (Brasil) Yr yano, neu dŷ cymunedol yw canolbwynt bywyd eu pentref. Adeilad mawr, crwn gyda tho o goed gwinwydd a dail yw hwn, gyda lle byw yn y canol. Llyriaid (math o fanana) yw prif fwyd y bobl hyn. Y Penan (Maleisia) Mae’r Penan yn byw yng nghoedwigoedd Sarawak. Maen nhw’n hela anifeiliaid gan ddefnyddio pibau chwythu a phicellau gwenwynig. Byddan nhw hefyd yn casglu planhigion a ffrwythau, gan adeiladu eu cartrefi o ganghennau, boncyffion a phlanhigion. Yr Huli (Papua Gini Newydd) Mae’r Huli yn byw drwy hela, casglu planhigion a thyfu cnydau. Mae’r dynion a’r merched yn byw ar wahân, mewn tai i grwpiau mawr. Bydd y dynion yn addurno’u cyrff ac yn gwisgo penwisgoedd coeth ar gyfer seremonïau. Pigmïaid Baka (Y Camerŵn) Mae Pigmïaid Baka yn byw yng nghoedwig law Y Camerŵn, ochr yn ochr â grwpiau amrywiol o ffermwyr bantu. Maen nhw’n cyfnewid nwyddau ac wedi byw gyda’i gilydd ers cannoedd o flynyddoedd. Mae llawer o wahanol grwpiau o bobl yn byw yng nghoedwigoedd glaw y Byd, ond mae eu niferoedd yn lleihau wrth i’w cartrefi gael eu dymchwel. Helwyr-gasglwyr yw’r rhain yn bennaf sy’n byw mewn cytgord â’r goedwig. Mae honno yn darparu bwyd, cysgod, moddion a dillad ar eu cyfer. Defnyddiwch y llecynnau nodedig i ddarllen am ffordd o fyw rhai o’r llwythau hyn. Trafodwch ym mha ffyrdd maen nhw’n debyg ac yn wahanol i’ch ffordd chi

description

Cartref Rhywun. Mae llawer o wahanol grwpiau o bobl yn byw yng nghoedwigoedd glaw y Byd, ond mae eu niferoedd yn lleihau wrth i’w cartrefi gael eu dymchwel. - PowerPoint PPT Presentation

Transcript of Cartref Rhywun ...

Page 1: Cartref Rhywun ...

Yr Yanomani (Brasil)

Yr yano, neu dŷ cymunedol yw canolbwynt bywyd eu pentref. Adeilad mawr, crwn gyda tho o goed gwinwydd a dail yw hwn, gyda lle byw yn y canol. Llyriaid (math o fanana) yw prif fwyd y bobl hyn.

Y Penan (Maleisia)Mae’r Penan yn byw yng nghoedwigoedd Sarawak. Maen nhw’n hela anifeiliaid gan ddefnyddio pibau chwythu a phicellau gwenwynig. Byddan nhw hefyd yn casglu planhigion a ffrwythau, gan adeiladu eu cartrefi o ganghennau, boncyffion a phlanhigion.

Yr Huli (Papua Gini Newydd)

Mae’r Huli yn byw drwy hela, casglu planhigion a thyfu cnydau. Mae’r dynion a’r merched yn byw ar wahân, mewn tai i grwpiau mawr. Bydd y dynion yn addurno’u cyrff ac yn gwisgo penwisgoedd coeth ar gyfer seremonïau.

Pigmïaid Baka (Y Camerŵn)Mae Pigmïaid Baka yn byw yng nghoedwig law Y Camerŵn, ochr yn ochr â grwpiau amrywiol o ffermwyr bantu. Maen nhw’n cyfnewid nwyddau ac wedi byw gyda’i gilydd ers cannoedd o flynyddoedd.

Mae llawer o wahanol grwpiau o bobl yn byw yng nghoedwigoedd glaw y Byd, ond mae eu niferoedd yn lleihau wrth i’w cartrefi gael eu dymchwel. Helwyr-gasglwyr yw’r rhain yn bennaf sy’n byw mewn cytgord â’r goedwig. Mae honno yn darparu bwyd, cysgod, moddion a dillad ar eu cyfer.

Defnyddiwch y llecynnau nodedig i ddarllen am ffordd o fyw rhai o’r llwythau hyn. Trafodwch ym mha ffyrdd maen nhw’n debyg ac yn wahanol i’ch ffordd chi o fyw.

Page 2: Cartref Rhywun ...

Yn ogystal â hela, casglu ffrwythau gwyllt a chnau a physgota, bydd rhai grwpiau sy’n byw yn y goedwig law yn plannu gerddi bychain hefyd gan ddefnyddio dull a elwir yn AMAETHU MUDOL. Mae’r arfer hwn yn gynaladwy a phrin yw ei effaith ar y goedwig law cyn belled nad yw’r llwyth yn tyfu’n rhy fawr a’u bod yn gallu defnyddio ardal eang o dir, fel bod rhannau sydd wedi eu defnyddio yn cael amser i ailffrwythloni…

Allwch chi osod y gosodiadau canlynol yn eu trefn gywir er mwyn i lwyth yr Huli, Papua Gini Newydd allu cynaeafu eu cnydau?

Mae’r tir sydd wedi’i glirio a’i ddefnyddio yn cael ei adael i orffwys am 10-50 mlynedd cyn ei ffermio unwaith eto.

Bydd y ffermwyr yn symud i ardal gyfagos sydd heb ei chlirio.

Mae darn bach o dir yn cael ei ddewis ar gyfer ei glirio.

Caiff yr ardal sydd wedi ei chlirio ei llosgi er mwyn ychwanegu maetholion at y pridd.

Mae cnydau a ddefnyddir ar gyfer bwyd a moddion yn cael eu plannu.

Ar ôl cael ei ddefnyddio ychydig o weithiau, mae’r pridd yn mynd yn rhy wael i alluogi mwy o gnydau i dyfu.

Page 3: Cartref Rhywun ...

Mae darn bach o dir yn cael ei ddewis ar gyfer ei glirio.

Caiff yr ardal sydd wedi ei chlirio ei llosgi er mwyn ychwanegu maetholion at y pridd.

Mae cnydau a ddefnyddir ar gyfer bwyd a moddion yn cael eu plannu.

Ar ôl cael ei ddefnyddio ychydig o weithiau, mae’r pridd yn mynd yn rhy wael i alluogi mwy o gnydau i dyfu.

Bydd y ffermwyr yn symud i ardal gyfagos sydd heb ei chlirio.

Mae’r tir sydd wedi’i glirio a’i ddefnyddio yn cael ei adael i orffwys am 10-50 mlynedd cyn ei ffermio unwaith eto.