Canllaw ar godi arian Gwisgwch ddotiau Codwch lawer Canllaw ar … · 2016. 6. 2. · bod yn codi...

12
Gwisgwch ddotiau.... Codwch lawer Canllaw ar godi arian Canllaw ar godi arian

Transcript of Canllaw ar godi arian Gwisgwch ddotiau Codwch lawer Canllaw ar … · 2016. 6. 2. · bod yn codi...

Page 1: Canllaw ar godi arian Gwisgwch ddotiau Codwch lawer Canllaw ar … · 2016. 6. 2. · bod yn codi arian ar gyfer RNIB. Cysylltwch â ni ar 0845 345 0054 neu e-bostiwch fundraising@rnib.org.uk

Gwisgwch ddotiau....Codwch lawerCanllaw ar godi arian

Canllaw ar godi arian

Page 2: Canllaw ar godi arian Gwisgwch ddotiau Codwch lawer Canllaw ar … · 2016. 6. 2. · bod yn codi arian ar gyfer RNIB. Cysylltwch â ni ar 0845 345 0054 neu e-bostiwch fundraising@rnib.org.uk

2

Pam gwisgo dotiau a chodi llawer? Bob dydd bydd 100 o bobl yn dechrau colli eu golwg yn y DU. Bydd hyn yn newid eu bywydau yn gyfan gwbl.Mae gormod o bobl yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain i ymdopi â’r newyddion. Bydd llawer yn mynd i deimlo’n unig ac yn isel iawn yn gyflym. Ar hyn o bryd, dim ond un o bob tri o bobl sydd â gwir angen ein help arnynt y gall RNIB eu cyrraedd.

Gyda’ch cefnogaeth chi, gallwn fod yno o’r eiliad y cânt eu diagnosis er mwyn helpu pobl i wynebu eu dyfodol â hyder.

Y mis Hydref hwn, Gwisgo dotiau... codi llawer yw’r nod, er mwyn cefnogi RNIB - mae’n ffordd hawdd a llawn hwyl i helpu’r bron i ddwy filiwn o bobl yn y DU sy’n byw gyda cholli golwg; ffigur y credwn fydd yn dyblu erbyn 2050.

Pam gwisgo dotiau? Gwisgo dotiau... codi llawer - dyna’r nod y mis Hydref hwn i ddathlu braille, system unigryw o ddotiau ymgodol y gellir eu darllen drwy eu teimlo.

Mae’r canllaw codi arian hwn yn dweud mwy wrthych am braille a sut y caiff ei ddefnyddio ac mae’n llawn syniadau i’ch helpu i drefnu eich digwyddiad ym mis Hydref.

Ganed Kimberley â chataractau cynhwynol ac mae ei golwg wedi gwaethygu dros amser. Dywed:

“Rwyf wastad wedi bod â diddordeb mewn celf ac er gwaethaf fy mhroblemau golwg, astudiais i ddod yn ddarlunydd. Rwy’n defnyddio technegau arbennig gan gynnwys labeli fy mhaent a’m pinnau ysgrifennu â braille a gosod pob arlliw mewn trefn.”

Page 3: Canllaw ar godi arian Gwisgwch ddotiau Codwch lawer Canllaw ar … · 2016. 6. 2. · bod yn codi arian ar gyfer RNIB. Cysylltwch â ni ar 0845 345 0054 neu e-bostiwch fundraising@rnib.org.uk

3

1…2…3 mae mor syml â chysylltu’r dotiau1 Lledaenwch y neges

Dywedwch wrth bawb eich bod yn bwriadu Gwisgo dotiau... codi llawer ar gyfer RNIB. Beth am ofyn i’ch ffrindiau, teulu a chydweithwyr ymuno â chi a gwisgo dotiau am ddiwrnod - gorau po fwyaf o ddotiau! Defnyddiwch y deunyddiau yn eich pecyn, a chofiwch fod rhagor ar gael i’w lawrlwytho o’n gwefan yn rnib.org.uk/dotsdownloads

2 Cysylltwch y dotiau!Chwiliwch am ddillad dotiog yn eich cwpwrdd - peidiwch â phoeni os na allwch ddod o hyd i unrhyw beth, galwch heibio eich siop elusen leol am fargen. Gallwch bob amser ychwanegu at y thema drwy beintio dotiau ar eich ewinedd, neu wisgo sgarff, band gwallt, tei neu sanau dotiog hefyd. Neu gallech hyd yn oed wneud eich dillad dotiog eich hun!

3 Gwisgo dotiau... codi llawer yw’r nod y mis Hydref hwnP’un a ydynt mewn polca dots pert neu ddotiau Dalmatian, gofynnwch i bawb sy’n cymryd rhan gyfrannu swm benodol. Awgrymwn £2 i oedolion ac £1 i blant.

Am ragor o syniadau ewch i rnib.org.uk/weardots

Page 4: Canllaw ar godi arian Gwisgwch ddotiau Codwch lawer Canllaw ar … · 2016. 6. 2. · bod yn codi arian ar gyfer RNIB. Cysylltwch â ni ar 0845 345 0054 neu e-bostiwch fundraising@rnib.org.uk

4

Gallwch wneud mwy na gwisgo dotiauMae llawer o bethau y gallwch eu gwneud gyda dotiau - dyma rai awgrymiadau:

• Pobi dotiau... codi llawer. Byddwch yn greadigol gyda smotiau siocled neu smarties a chynhaliwch stondin gacennau yn eich ysgol, clwb neu waith. Defnyddiwch lieiniau bwrdd, cwpanau a soseri dotiog a gwerthwch felysion blasus.

• Chwarae dotiau... codi llawer. Heriwch eich ffrindiau a’ch cydweithwyr i “dwrnament gemau dotiau” gan ddefnyddio dominos, dartiau, draffts, Connect 4®, Twister®, bingo, hoopla, neu ddawnsio’r hwla.

• Paentio dotiau... codi llawer. Paentiwch ewinedd pobl â dotiau a gofynnwch am rodd, neu printiwch ychydig o grysau-t â dotiau arnynt i’w gwerthu, efallai ag enw yn braille arnynt.

• Pacio dotiau... codi llawer. Siaradwch â’ch siop neu archfarchnad leol er mwyn trefnu pacio bagiau am roddion tra’n gwisgo eich dillad dotiau.

• Dotiau eithafol... codi llawer. Cynhaliwch gystadleuaeth i weld pwy all ddarllen yn y man mwyaf eithafol tra’n gwisgo dotiau. Gofynnwch i bobl anfon llun a chyfrannu er mwyn cymryd rhan - gwnewch yn siŵr bod gwobr i’r enillydd.

GweithgareddRhowch gynnig ar greu eich crysau-t eich hunain gyda dotiau difyr, lliwgar! Gallwch ddefnyddio paent neu binnau ffelt sy’n addas ar gyfer dillad, neu ludio dotiau arnynt er mwyn gwneud crysau-t plaen yn unigryw. Gallwch hyd yn oed ddefnyddio dotiau cyffyrddadwy – torrwch ffelt, ffwr ffug neu ddeunydd lapio â swigod!

Page 5: Canllaw ar godi arian Gwisgwch ddotiau Codwch lawer Canllaw ar … · 2016. 6. 2. · bod yn codi arian ar gyfer RNIB. Cysylltwch â ni ar 0845 345 0054 neu e-bostiwch fundraising@rnib.org.uk

5

Syniadau difyr eraill er mwyn codi llawer o arian Mae llawer o syniadau eraill y gallwch roi cynnig arnynt yn ystod eich diwrnod dotiau. Beth am roi cynnig ar un o’r rhain - cofiwch y gallwch wisgo dotiau wrth wneud pob un ohonynt:

Ewch i rnib.org.uk/dots am ragor o syniadau

• Diwrnod bingo• Gwerthu/cyfnewid llyfrau• Llwybr Braille• Gwerthu CD’s• Caraoce• Cinio llenyddol• Paentio ewinedd

• Cwis dafarn• Hergrŵpdarllen• Cystadleuaeth Sgrabl• Darllen noddedig• Stori cyn amser gwely• Sêl £1 – popeth ar werth am

bunt yn unig

Beth wnaethon ni y llynedd...Allai’r tîm yn Cubex ddim aros i gefnogi “diwrnodau dotiau” RNIB - gan wisgo dillad dotiog a phobi cacennau dotiog blasus.

Dywedodd Frances Mackenzie, y mae aelodau o’i theulu wedi elwa o lyfrau braille RNIB

“ Mae’n bleser cael cefnogi RNIB, sy’n elusen hyfryd.”

£

Page 6: Canllaw ar godi arian Gwisgwch ddotiau Codwch lawer Canllaw ar … · 2016. 6. 2. · bod yn codi arian ar gyfer RNIB. Cysylltwch â ni ar 0845 345 0054 neu e-bostiwch fundraising@rnib.org.uk

6

Yr angen i ddarllen Pan fyddwch yn colli eich golwg, gall darllen unrhyw beth – o sgrin peiriant arian parod, i labeli ar fwyd a diod, i lyfr – fod yn amhosibl.

Mae braille yn system o chwe dot ymgodol, wedi’u eu trefnu yn ddwy golofn o dri dot, fel domino. Mae wedi’i gynllunio i gael ei ddarllen â’r bysedd.

RNIB yw’r cyhoeddwr llyfrau braille mwyaf yn Ewrop. Y llynedd, benthycodd ein gwasanaethau darllen 83,200 o gyfrolau braille a cherddoriaeth braille. Gall oedolion a phlant dall a’r rhai â golwg rhannol hefyd fenthyg o’n llyfrgelloedd sain a phrint bras.

Pam dysgu braille?Mae dysgu braille yn ifanc yn golygu y gall plant dall a’r sawl sydd â golwg rhannol fwynhau darllen drwy gydol eu hoes. Mae braille hefyd yn helpu â llythrennedd, gan ei fod yn ffordd llawer gwell o ddeall atalnodi, gramadeg a sillafu na sain.

Mae RNIB yn ymgyrchu dros blant dall a’r sawl sydd â golwg rhannol er mwyn iddynt ddysgu braille, p’un a ydynt mewn ysgolion prif ffrwd neu ysgolion arbennig.

GweithgareddDefnyddiwch gerdyn y wyddor braille sydd yn eich pecyn er mwyn teimlo’r dotiau - allwch chi ddweud y gwahaniaeth rhwng y llythrennau? Nawr profwch eich sgiliau braille er mwyn canfod y neges isod a’r ateb i’n cerdyn dyfalu’r dotiau.

can you read

this

• NEED welsh braille for “can you read this” ---->>>

Page 7: Canllaw ar godi arian Gwisgwch ddotiau Codwch lawer Canllaw ar … · 2016. 6. 2. · bod yn codi arian ar gyfer RNIB. Cysylltwch â ni ar 0845 345 0054 neu e-bostiwch fundraising@rnib.org.uk

7

Ychydig o ffeithiau am braille• Cafodd ei ddyfeisio yn 1824 gan fachgen dall 15 oed o’r enw Louis Braille.

• Gall pob ysgrifen gael ei throi yn braille: o gyfriflenni banc i arwyddion stryd, pecynnau meddyginiaeth i gerddoriaeth.

• Mae braille wedi’i addasu i bob iaith dan haul, o Albaneg i Zwlw.

• Cyhoeddodd RNIB ein llyfr braille cyntaf yn 1871.

• Mae RNIB wedi mynd â braille o ddot i ddot.com! Mae technoleg braille newydd yn chwyldroi’r ffordd y mae pobl yn darllen popeth o ffonau clyfar i sgriniau cyfrifiaduron.

GweithgareddMae’r sbectol efelychu yn eich pecyn yn cyfleu’r profiad o gael problem gyda’ch golwg.

Gofynnwch i bobl roi cynnig ar symud o gwmpas ystafell (yn ofalus!), darllen rhywbeth neu ddisgrifio’r hyn y gallant ei weld wrth wisgo’r sbectol.

Dylech gael prawf llygaid o leiaf unwaith bob dwy flyneddMae archwiliad llygaid yn ffordd bwysig o wirio iechyd eich llygaid a gall nodi arwyddion cynnar o broblem golwg. Gellir trin llawer o gyflyrau’r llygaid os cânt eu canfod yn ddigon cynnar.

Efallai y bydd angen i rai pobl, yn enwedig plant, gael archwiliad llygaid yn fwy aml, a bydd eich optometrydd eich cynghori am hyn. Am ragor o wybodaeth ewch i rnib.org.uk/eyehealth

Page 8: Canllaw ar godi arian Gwisgwch ddotiau Codwch lawer Canllaw ar … · 2016. 6. 2. · bod yn codi arian ar gyfer RNIB. Cysylltwch â ni ar 0845 345 0054 neu e-bostiwch fundraising@rnib.org.uk

8

Adnoddau ysgol am ddim Beth am annog eich dosbarth i ddysgu mwy am golli golwg ar y diwrnod pan fyddant yn Gwisgo dotiau... codi llawer? Gallwch hyd yn oed wneud wythnos gyfan o ddotiau!

Rydym wedi paratoi cynlluniau gwersi am ddim sy’n berthnasol i’r cwricwlwm ar gyfer Cyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar a Chyfnod Allweddol 1- 4 sy’n galluogi athrawon i gynnwys y deunyddiau yn eu gwersi dyddiol.

Gallwch lawrlwytho ein deunyddiau am ddim o rnib.org.uk/dotsteachers ac maent yn cynnwys:

Dywedodd Freddy, 9 oed, sy’n ddall:

“Mae’n wych pan fydd fy ffrindiau yn y dosbarth yn dysgu mwy am y profiad o fod yn ddall. Mae’n gwneud i mi deimlo’n rhan o bethau.”

GweithgareddBeth am baentio eich ewinedd â dotiau o wahanol liwiau a phatrymau dotiau gwahanol, gallech hyd yn oed eu gwneud yn gyffyrddadwy a gludo gemau arnynt!

Beth am gael eich ffrindiau draw a chael parti paentio ewinedd?

• Cynlluniau gwersi Cyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar a Chyfnod Allweddol 1–4

• Cyflwyniad PowerPoint• Gwybodaeth ac ystadegau am

golli golwg• Fideos

• Cwisiau• Stori Louis Braille• Taflenni a gweithgareddau’r wyddor

braille• Templed o lythyr am wisgo dotiau

i’w anfon at rieni• Gwybodaeth am iechyd y llygaid

Cofiwch y gallwch ofyn am ragor o ddeunyddiau fel cardiau braille, balŵns a’n sbectolau efelychu arbennig. Cysylltwch â ni ar 0845 345 0054 neu e-bostiwch [email protected] er mwyn archebu rhagor.

Page 9: Canllaw ar godi arian Gwisgwch ddotiau Codwch lawer Canllaw ar … · 2016. 6. 2. · bod yn codi arian ar gyfer RNIB. Cysylltwch â ni ar 0845 345 0054 neu e-bostiwch fundraising@rnib.org.uk

9

Stori FreddyMae gan Freddy, sy’n 9 oed, gyflwr a elwir yn Amawrosis Cynhwynol Leber, clefyd sydd wedi achosi iddo golli ei olwg yn ddifrifol. Mae Freddy yn cael trafferth i weld mwy na lliwiau a siapiau mawr amlwg, ac ni all ddarllen llyfrau print safonol.

Mae wedi gweithio’n galed iawn i gracio’r cod a dysgu braille. Mae hyn yn ei alluogi i gymryd rhan ym mhob un o’i wersi, fel pawb arall.

“ Rwy’n defnyddio Braille i deipio braille yn y dosbarth. Rwy’n gallu ysgrifennu’r un pethau â phawb arall.”

Mae’r gallu i ddarllen ac ysgrifennu yn rhoi llawer mwy i Freddy na gwefr stori dda. Mae’n allweddol i’w hunanhyder.

Mae dewisiadau darllen RNIB wedi helpu Freddy i fwynhau’r anturiaethau a gynigir gan lyfrau. Nid yn unig y mae bellach yn teimlo’n “rhan o’r criw” ymysg ei ffrindiau ond mae’r llyfrau yn ei helpu i wneud yn well yn yr ysgol hefyd.

Dywedodd Fiona, mam Freddy:

“Rwy’n credu ei fod wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’w lythrennedd – ac mae wedi gwella ei eirfa a’i sgiliau ysgrifennu yn sylweddol. Mae hefyd wedi helpu i ddatblygu ei ddychymyg.”

Dysgwch fwy am Freddy yn rnib.org.uk/dotsfreddy

9

Beth wnaethon ni y llynedd...Fe wnaeth Afancod (Beavers) Hatfield Peverel addurno cacennau a’u gwerthu i godi arian i RNIB. Gwisgodd yr Afancod ddillad dotiog a phaentiwyd eu hwynebau yn ddotiau amryliw. Gwnaethant wisgo’r sbectolau efelychu i gael y profiad o fywyd person dall a chael cynnig ar ddarllen braille.

Cawsant lawer o hwyl a chodwyd £55.

£

Page 10: Canllaw ar godi arian Gwisgwch ddotiau Codwch lawer Canllaw ar … · 2016. 6. 2. · bod yn codi arian ar gyfer RNIB. Cysylltwch â ni ar 0845 345 0054 neu e-bostiwch fundraising@rnib.org.uk

10

GweithgareddTorrwch y baneri trionglog a’u rhoi ar linyn er mwyn gwneud eich digwyddiad yn fwy lliwgar. Gallwch eu lawrlwytho a lliwio’r rhai gwag eich hun (sydd ar gael ar-lein) er mwyn creu baneri dotiog gwych. Beth am hongian ychydig o ddillad dotiog er mwyn ychwanegu at y thema?

Hyrwyddo eich digwyddiadBydd maint eich proffil a faint o arian y byddwch yn ei godi yn dibynnu ar faint y byddwch yn hyrwyddo eich digwyddiad.

Gallwn ddarparu posteri a balŵns er mwyn sicrhau bod pawb yn gwybod eich bod yn codi arian ar gyfer RNIB. Cysylltwch â ni ar 0845 345 0054 neu e-bostiwch [email protected]

Sicrhewch eich bod yn cysylltu â’ch papurau newydd a’ch gorsafoedd radio lleol – gall cael sylw yn y penawdau eich helpu i godi mwy o arian hanfodol. Gallwch lawrlwytho gwybodaeth i’r wasg a thempledi o rnib.org.uk/dotsdownloads

Byddem wrth ein bodd yn gweld unrhyw luniau neu ddiweddariadau am sut hwyl rydych yn ei gael yn gwisgo eich dotiau.

Cofiwch ein hoffi a rhannu eich lluniau ar facebook.com/weardots yn ogystal â’n dilyn @RNIB a thrydar gan ddefnyddio #weardots.

Page 11: Canllaw ar godi arian Gwisgwch ddotiau Codwch lawer Canllaw ar … · 2016. 6. 2. · bod yn codi arian ar gyfer RNIB. Cysylltwch â ni ar 0845 345 0054 neu e-bostiwch fundraising@rnib.org.uk

11

Sut mae eich arian yn helpu£5 i’n helpu i ateb galwad i’n

Llinell Gymorth gan rywun sydd newydd ganfod ei fod yn colli ei olwg.

£20 i’n helpu i roi gwybodaeth a chymorth i rywun sydd â phroblemau golwg sy’n edrych am waith.

£75 i gael cyngor, clust i wrando, dealltwriaeth a chyfeillgarwch gydag un o’n grwpiau ffôn Siarad a Chymorth wythnosol.

£100 i dalu am y gwaith o recordio papur newydd llafar gan gadw rhywun mewn cyswllt â digwyddiadau lleol a digwyddiadau’r byd.

£400 i roi’r cyfle i blant dall a’r sawl sydd â golwg rhannol wneud ffrindiau, meithrin hyder a chael hwyl ar wyliau wedi’i gynllunio yn arbennig sy’n llawn gweithgareddau.

£5

£20

£75

£100

£400

Gwneud y gorau o’ch arianCymorth RhoddMae Cymorth Rhodd yn ffordd wych i ni godi hyd yn oed mwy o arian o roddion. I gael rhagor o wybodaeth am Gymorth Rhodd, ewch i rnib.org.uk/giftaid

Codi arian ar-leinY ffordd hawsaf a mwyaf cost effeithiol o godi arian yw drwy wefan Just Giving - cofiwch ddewis RNIB o’r rhestr ddigwyddiadau: justgiving.com/rnib

Rydym hefyd wedi cynnwys ffurflen noddi os byddai’n well gennych ei defnyddio. Cofiwch annog eich cefnogwyr i nodi eu manylion llawn a thicio’r blwch Cymorth Rhodd neu ni allwn ei hawlio.

Arian cyfatebolMae nifer o gwmnïau’n cynnig arian cyfatebol fel rhan o’u polisi cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol (CSR). Mae hyn y golygu y byddant yn rhoi arian cyfatebol i ar gyfer pa swm bynnag y byddwch yn ei godi (hyd at swm cyfyngedig fel arfer). Siaradwch â’ch cwmni i weld os yw hyn yn opsiwn pan fyddwch yn gwisgo dotiau ac yn gwneud gwahaniaeth.

Page 12: Canllaw ar godi arian Gwisgwch ddotiau Codwch lawer Canllaw ar … · 2016. 6. 2. · bod yn codi arian ar gyfer RNIB. Cysylltwch â ni ar 0845 345 0054 neu e-bostiwch fundraising@rnib.org.uk

Rhifau elusen gofrestredig 1156629, SC044876, 1173

Hawlfraint RNIB 2015

Rydym yma i’ch helpuRydym am i chi gael hwyl gyda’ch digwyddiad a llwyddiant mawr yn Gwisgo dotiau... codi llawer! Gobeithio y bydd y canllaw hwn yn rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch, ond cofiwch fynd i rnib.org.uk/weardots i gael rhagor o syniadau ac adnoddau.

Os gallwn helpu mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â ni drwy ffonio 0845 345 0054 neu e-bostio [email protected]. Gallwch hefyd archebu rhagor o ddeunyddiau fel balŵns, sbectolau efelychu, sticeri a chardiau braille.

facebook.com/weardotstwitter.com/rnib #weardots