2013/14 Canllaw i'r Coleg

22
Canllaw i’r Coleg 2013/14 Y s b r y d o l i

description

Mae'r canllaw eleni wedi'i gynllunio i roi gwybodaeth i chi ar draws ein hystod eang o gyrsiau, ynghyd a chipolwg ar bwy fydd yn eich dysgu.

Transcript of 2013/14 Canllaw i'r Coleg

Canllaw i’r Coleg 2013/14

Ysbrydoli

Ysbrydoli

Dewch o hyd i’r hyn sydd gan Chris, darlithiwr Y Cyfryngau Creadigol, i’w ddweud am ei gwrs cyfryngau. Ewch i ... youtube.com/pembscollege neu bit.ly/PCChris

twitt er.com/pembscollegefacebook.com/pembscollege fl ickr.com/pembscollege

Eich Canllaw 2013/14Nid darlithwyr cyffredin mo’n darlithwyr. Maent yn meddu ar brofiad a gwybodaeth am y diwydiant o fewn eu maes. Rydym yn cynnig rhagoriaeth academaidd ochr yn ochr ag arbenigeddau galwedigaethol er mwyn sicrhau eich bod yn mynd i mewn i addysg uwch neu gyflogaeth yn llwyddiannus.

Mae’r canllaw eleni wedi’i gynllunio i roi gwybodaeth i chi ar draws ein hystod eang o gyrsiau, ynghyd â chipolwg ar bwy fydd yn eich dysgu. Bydd y canllaw hwn yn dod â’n darlithwyr i’r amlwg i’ch helpu gyda’ch penderfyniadau.

Beth bynnag rydych am ei wneud yn y dyfodol, os byddwch yn dod i’r Coleg byddwch yn dod o hyd i gwrs a all eich gosod ar eich ffordd i’w gyflawni. Yn ddarparwr addysg arobryn, mae gennym gampws anhygoel lle y cewch rai o’r cyfleusterau gorau ar gyfer dysgu yn Ne Cymru. Cyfunwch hyn gyda’n hadnoddau rhagorol a’n tiwtoriaid medrus ac ymroddedig ac ni ddewch o hyd i le gwell i astudio ar gyfer eich dyfodol.

Pam Coleg Sir Benfro?Mae’r Coleg yn anelu at ddarparu profiad dysgu o’r safon uchaf i’w fyfyrwyr. Mae gan rieni a myfyrwyr ddyheadau uchel ac mae’r Coleg, drwy ehangder ei gwricwlwm, ansawdd yr addysgu ac ymrwymiad i gyflawniad myfyrwyr, yn cynorthwyo ei ddysgwyr i gyflawni eu nodau. Mae gan ein darlithwyr ymrwymedig un nod allweddol: bod eu myfyrwyr yn gwneud y gorau o’u potensial.

Dewch o hyd i’r hyn sydd gan Sharron Lusher, y Pennaeth, i’w ddweud am y Coleg.Ewch i... youtube.com/pembscollegebit.ly/PCSharron

Ysbrydoli

twitter.com/pembscollegefacebook.com/pembscollege flickr.com/pembscollege

A Dewch o hyd i’r hyn sydd gan Helen i’w ddweud am gyrsiau gwyddoniaeth Lefel A. Ewch i ... youtube.com/pembscollege neu bit.ly/PCHelen

Coleg ArobrynYng Ngholeg Sir Benfro rydym yn ymfalchïo ar ansawdd yr hyn a wnawn. Yn y blynyddoedd diwethaf mae’r campws a’n myfyrwyr wedi ennill cyfres o wobrau sy’n arddangos ansawdd ein darpariaeth.

Canlyniadau Lefel A 2012 Cyfradd Pasio 99% - Lefel A(yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol). Cyfradd Pasio 100% - Bagloriaeth Cymru. Cyflawnodd 20 allan o 21 o gyrsiau gyfradd pasio 100%Arolygiad Estyn - Chwefror 2011• Lles - Rhagorol• Yr Amgylchedd Dysgu - Rhagorol• Gweithio mewn Partneriaeth – Rhagorol

Mwy o Ddewisiadau Lefel-ADewiswch astudio Lefel A yn y Coleg a bydd gennych fynediad i’r amrywiaeth ehangaf o bynciau Lefel A ar draws y sir fel rhan o Ffederasiwn Gogledd Sir Benfro. Byddwn yn eich trin fel oedolyn a byddwch yn cael eich annog i astudio yn annibynnol ond bydd ein tîm o arbenigwyr cymwys bob amser wrth law i roi cymorth a chefnogaeth pan fyddwch ei angen. Mae myfyrwyr y Coleg yn derbyn y cymorth gorau (‘Gradd 1’ yn swyddogol) i baratoi ar gyfer prifysgol a gyrfaoedd. Mae ein myfyrwyr Lefel A yn ennill canlyniadau Lefel A da yn gyson ac yn derbyn cymorth sylweddol i gwblhau eu ceisiadau UCAS sy’n arwain at gyfleoedd dilyniant ardderchog i gyrsiau gradd ym mhrifysgolion gorau’r DU. Mae helpu myfyrwyr i ennill dilyniant i raddau meddygol yn arbenigedd penodol o’r staff cefnogi Lefel A yn y Coleg.

Mwy o Ddewisiadau Lefel 3Er taw Lefel A yw’r llwybr traddodiadol i gyrsiau prifysgol fel meddygaeth a deintyddiaeth, mae Diplomâu Estynedig yn ennill poblogrwydd fel dull arall, mwy ymarferol, o astudio ar lefel uwch a mynediad i gyrsiau prifysgol – yn enwedig ar gyfer graddau arbenigol fel peirianneg a chelf a dylunio. Mae Diploma Estynedig yn werth 3 Lefel A.

16 Diploma Estynedig BTEC (gwerth 3 Lefel A)Mae astudio ar gyfer Diploma Estynedig yn llwybr arall a all sicrhau lle i chi mewn prifysgol. Mae myfyrwyr yn aml yn dweud bod wedi cwblhau cwrs diploma yn y maes pwnc y maent yn ei ddilyn yn gwneud blwyddyn gyntaf cwrs gradd lawer yn haws.

Mae’r Diplomâu Estynedig ar gael yn y Coleg yn cynnwys:• Rheolaeth Anifeiliaid• Celf a Dylunio (Ffasiwn a Dillad)• Celf a Dylunio (Rhyngweithiol)• Celf a Dylunio (Graffeg)• Busnes• Adeiladu (Gwasanaethau Peirianneg ac Adeiladu Sifil)• Peirianneg Drydanol ac Electronig• Peirianneg (Gweithrediadau a Chynnal a Chadw)• Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Astudiaethau Iechyd)• Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gofal Cymdeithasol)• Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol• Technoleg Cerddoriaeth • Celfyddydau Perfformio (Theatr Gerdd)• Gwasanaethau Cyhoeddus• Chwaraeon (Datblygu, Hyfforddi a Ffitrwydd)

Darpariaeth Iaith Gymraeg/DwyieithogMae Coleg Sir Benfro wedi ymrwymo i hyrwyddo defnydd o’r iaith Gymraeg a diwallu anghenion myfyrwyr ac aelodau’r cyhoedd sy’n siarad Cymraeg. Mae myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yn gallu gwneud agweddau o’u cwrs fel y rhaglen gynefino, sesiynau tiwtorial, asesiadau llafar ac ysgrifenedig a Sgiliau Hanfodol naill ai trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog ac hefyd yn gallu cael cymorth dwyieithog er mwyn cynnal a datblygu eu sgiliau iaith Gymraeg/dwyieithog.

Mae myfyrwyr di-Gymraeg hefyd yn cael cyfle i ennill sgiliau iaith Gymraeg naill ai o fewn eu cwrs neu fel rhan o raglen Gyfoethogi’r Coleg. Ewch i www.colegsirbenfro.ac.uk/cymorth ar gyfer rhagor o wybodaeth mewn perthynas â darpariaeth iaith Gymraeg/dwyieithog y Coleg neu cysylltwch â Swyddog Datblygu’r Iaith Gymraeg ar 01437 753 435 neu’r Hyrwyddwr Dwyieithrwydd ar 01437 753 131. A

Cipolwg ar Ddewisiadau Lefel AMae’r cyrsiau canlynol yn rhan o grid pynciau Ffederasiwn Gogledd Sir Benfro. Mae’r cyrsiau mewn oren yn cael eu darparu yma yn y Coleg.33 Uwch Gyfrannol (AS) a 29 Lefel A:CelfBiolegAstudiaethau BusnesCemegDrama ac Astudiaethau Theatr*Economeg*PeiriannegSaesneg Iaith a LlenyddiaethLlenyddiaeth SaesnegAstudiaethau AmgylcheddolAstudiaethau FfilmFfrangegDaearyddiaethDaearegIechyd a Gofal CymdeithasolHanesCyfrifiadura TGY GyfraithMathemategMathemateg BellachAstudiaethau HamddenAstudiaethau’r CyfryngauCerddoriaeth*Ffotograffiaeth*Addysg GorfforolFfisegSeicolegAstudiaethau CrefyddolCymdeithasegTecstilliauCymraeg

*dysgir ar Lefel UG (AS) yn unig** cynigir dim ond i fyfyrwyr y Coleg oherwydd bod nifer y lleoedd yn gyfyngedig

pembsfederation.org

Canlyniadau Lefel A 2012 Cyfradd Pasio 99% - Lefel A(yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol). Cyfradd Pasio 100% - Bagloriaeth Cymru. Cyflawnodd 20 allan o 21 o gyrsiau gyfradd pasio 100%Arolygiad Estyn - Chwefror 2011• Lles - Rhagorol• Yr Amgylchedd Dysgu - Rhagorol• Gweithio mewn Partneriaeth – Rhagorol

Dewch o hyd i’r hyn mae myfyrwyr y ffederasiwn yn dweud. Ewch i... youtube.com/pembscollege

”Dwedoch chi...“Ces i amser bendigedig yn astudio fy Lefel A a dwi’n teimlo eu bod nhw wedi fy mharatoi tuag ag fynd i’r brifysgol i ddilyn fy uchelgais o ddod yn ddylunydd ffasiwn.” Myfyrwraig Ffed, Lowri Morgan

Mae’r dewis yno i chi ...Ar ôl TGAU, mae gan y rhai sy’n gadael yr ysgol fwy o ddewis nag erioed i astudio ehangder o gyrsiau Lefel A yn y sir. Mae’r Ffederasiwn wedi tyfu’n sylweddol yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf. Mae bellach yn cynnwys Coleg Sir Benfro, Ysgol Syr Thomas Picton, Ysgol Tasker Milward, Ysgol Arbennig Portfield, Ysgol Dewi Sant ac Ysgol Bro Gwaun. O fewn y Ffederasiwnmae cysylltiad agos, gan gynnwys alinio’r amserlenni a chludiant am ddim rhwng y canolfannau i alluogi pobl ifanc i wneud y mwyaf o’r ddarpariaeth sydd ar gael.

Dewis ehangachTrwy’r Ffederasiwn, mae gan bobl ifanc fynediad at y dewis ehangaf o bynciau Lefel A posibl – mae cyfanswm o 32AS a 29 A2 yn cael eu cynnig fel rhan o’r Ffederasiwn, gweler y dudalen flaenorol am restr o’r cyrsiau.

Datblygu yn y DyfodolMae’r Coleg wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda’r Ffederasiwn i sicrhau bod pobl ifanc sydd yn edrych ar wneud Lefel A yn ymwybodol o’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt ym mhob un o’r canolfannau sy’n cymryd rhan.

“Drwy barhau i roi adnoddau i mewn i hyrwyddo a datblygu’r Ffederasiwn bydd pobl ifanc yn cael y cyfle gorau i ddilyn eu dyheadau prifysgol a gyrfa,” Dr Geoff Elliott, Cyfarwyddwr Marchnata, Sgiliau a Datblygu y Coleg.

FfedreasiwnSut mae’n gweithioChi sy’n penderfynu pa bwnc i’w astudio, yn dibynnu ar yr amserlen ...1. Os bydd dau bwnc yn cael eu cyflwyno yn yr ysgol, er enghraifft Taskers, a’r llall yn y Coleg, byddwch yn cofrestru fel disgybl Tasker Millward.2. Os, fodd bynnag, byddwch yn astudio dau bwnc yn y Coleg ac un yn Ysgol Syr Thomas Picton, byddwch wedyn yn cofrestru fel myfyriwr yn y Coleg.3. Senario arall – rydych yn penderfynu astudio dau bwnc mewn un canolfan a dau mewn un arall, yna chi fydd yn penderfynu ym mha ysgol/coleg byddwch yn cofrestru.Beth bynnag y cyfuniad, bydd y coleg/ysgol yn gyfrifol am eich

cludiant i’r ganolfan nesaf.

Bagloriaeth CymruMae Bagloriaeth Cymru yn ychwanegu dimensiwn gwerthfawr i gyrsiau a phynciau pobl ifanc 14 – 19 oed. Mae’r cymhwyster hwn yn cyfuno sgiliau datblygiad personol ochr yn ochr â Lefel A neu NVQ. Mae cyflogwyr a phrifysgolion yn Lloegr a Chymru yn cydnabod y cymhwyster hwn. Mae’r pwnc hwn yn ddewisol pan fydd myfyrwyr yn cofrestru ar ddau Lefel A neu fwy lefel yn y coleg, mae’n orfodol mewn ysgolion.

Peidiwch ag anghofio ...Gall disgyblion TGAU galluog wneud cais am ysgoloriaeth gwerth £2,000.Mae Coleg Sir Benfro yn cynnig deg ysgoloriaeth hyd at swm o £2,000 i fyfyrwyr llawn-amser 16-19 oed sy’n astudio pynciau lefel 3 yn ymwneud â Gwyddoniaeth, Peirianneg a Mathemateg. Er mwyn cael mynediad ar y rhaglen ysgoloriaeth bydd rhaid i fyfyrwyr ysgoloriaeth fod wedi cael graddau TGAU A* neu A mewn cyrsiau’n gysylltiedig â Gwyddoniaeth, Mathemateg a Thechnoleg yn ogystal â mynychu cyfweliad panel. Gweler y wefan am delerau ac amodau - www.pembs.ac.uk/finance

””Dwedoch chi… “Dw i wedi mwynhau astudio yn y Coleg, mae’r addysgu’n wych, dw i’n mynd i weld ‘i eisiau”, meddai myfyriwr Lefel A Lauren Probert, sydd nawr yn astudio cwrs gradd Y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd.”

Dewch o hyd i’r hyn sydd gan eich darlithydd Peirianneg Vaughan i’w ddweud am ei gwrs...youtube.com/pembscollege neubit.ly/PCVaughan ”

Dwedon ni...“Peidiwch ag anghofio bod bwrsari STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) ar gael i fyfyrwyr newydd sydd am astudio’r pynciau hyn. Efallai y byddwch yn gymwys am hyd at £2,000. Ffoniwch Frances Berry ar 01437 753 133.”

Mae ymchwil yn dangos bod prentisiaid yn ennill, ar gyfartaledd, dros £100,000 yn fwy drwy gydol eu hoes na gweithwyr eraill (Ffynhonnell: apprenticeships.org.uk). Er mwyn dilyn y llwybr prentisiaeth i gyflogaeth, rhaid i ddarpar-fyfyrwyr fod wedi eu cyflogi o fewn y sector perthnasol. Os oes angen i chi ddod o hyd i gyflogwr efallai y byddwn yn gallu helpu, gan fod gan y Coleg gysylltiadau cryf â diwydiant, yn enwedig yn y sectorau iechyd, gofal plant ac ynni.

Fel gweithwyr, mae prentisiaid yn ennill cyflog ac yn gweithio ochr yn ochr â staff profiadol i ennill sgiliau yn benodol i swydd. Gall prentisiaid ddewis o wahanol ddulliau o gyflwyno cwrs, o asesiadau yn y gwaith i ddarlithoedd yn y coleg.

Gall prentisiaethau gymryd rhwng un a thair blynedd i gwblhau, yn dibynnu ar lefel y brentisiaeth, gallu’r prentis a’r sector diwydiant. Mae’r rhan fwyaf o’r hyfforddiant ar gyfer Prentisiaeth Sylfaenol (Lefel 2) yn digwydd yn y gweithle ac mae’n cyfateb i bump TGAU (graddau A-G). Caiff Prentisiaeth Sylfaenol ei hystyried fel y prif ddull o hyfforddiant ar gyfer swyddi sy’n gofyn am sgiliau ar NVQ Lefel 2. Gall myfyrwyr sy’n dilyn llwybr y Brentisiaeth Uwch (Lefel 3) symud ymlaen i gyrsiau prifysgol, fel gradd sylfaen. Am fwy o wybodaeth ar brentisiaethau ewch i www.apprenticeships.org.uk

Consortiwm Dysgu yn y Gwaith:Academi Sgiliau Cymru (De Orllewin)Mae’r Coleg ar hyn o bryd yn arwain consortiwm o golegau AB a darparwyr hyfforddiant preifat sy’n cynnig dysgu yn y gwaith. Gyda’i gilydd, mae aelodau’r consortiwm yn credu y bydd eu darpariaeth a threfniadau o fudd sylweddol i ddysgwyr, cyflogwyr ac i economi Cymru yn ei chyfanrwydd.

Partneriaethau Diwydiant Ardderchog:Mae’r Coleg wedi datblygu ac yn parhau i feithrin perthynas waith ardderchog gyda diwydiant. Mae hyn yn galluogi’r Coleg i gadw cyrsiau yn gyfoes ac yn berthnasol i ddiwydiant a helpu ein myfyrwyr i ennill sgiliau cyflogadwy. Mae’r Coleg yn rhagweithiol mewn nifer o ffyrdd. Mae’n cyfathrebu’n rheolaidd gyda Chynghorau Sgiliau Sector y DU - y sefydliadau sy’n cael eu harwain gan gyflogwyr ac sydd, gyda’i gilydd, yn mynegi llais cyflogwyr o tua 90% o weithlu’r DU ar faterion sgiliau. Mae rheolwyr a staff y Coleg yn chwarae rolau pwysig o fewn grwpiau a phwyllgorau diwydiannol amrywiol gan gynnwys:

• Grŵp Datblygu Gweithlu Sector Ynni Sir Benfro• Panel Rheoli Adeiladu • Grŵp Datblygu Gweithlu Twristiaeth a Lletygarwch • Cyngor Gofal Cymru

Ennill a Dysgu – Prentisiaethau Sylfaenol ac Uwch

Mae’r prentisiaethau a gynigir yn y Coleg yn cynnwys:HarddwchGwaith BricsGweinyddu BusnesGwaith Saer ac AsiedyddGofal PlantGofal CwsmeriaidGofal IechydLletygarwch ac ArlwyoTrydanolPlymioTrin GwalltPeirianneg MôrPeirianneg FecanyddolCerbydau ModurGosod Pibellau PlatioWeldioPrentisiaethau sy’n gysylltiedig â Phurfeydd:Cynnal a Chadw MecanyddolGweithrediadau Proses a Chynnal a ChadwOffer a Thrydanol

Ennill a

Dysgu

“Mae gennym brawf bod gan Goleg Sir Benfro y cynllun prentisiaeth gweithredwr Chevron gorau yn y byd”. Rheolwr Gweithrediadau Chevron, Ed Tomp (2009)

Dewch o hyd i’r hyn sydd gan eich darlithiwr Technoleg Cerdd Tim, i’w ddweud am ein cyfleusterau. Ewch i...youtube.com/pembscollege neubit.ly/PCTim

Llwyddiant”Dwedon ni...“Y ffordd orau i gael teimlad go iawn o’r Coleg yw dod i noson agored. Cewch wybod fwy am gyrsiau, cwrdd â’ n tiwtoriaid,a gweld ein cyfleusterau rhagorol.”12 Mawrth 2013, 5-8pm7 Mai 2013, 5-7pmDiwrnod Gwybodaeth Llwybrau Graddau16 Awst 2013

LlwyddiantBeth sy’n gwneud y Coleg mor Llwyddiannus?Cenhadaeth Coleg Sir Benfro yw darparu’r amgylchedd dysgu o’r safon uchaf ar gyfer ei holl ddysgwyr. Diogelu dysgwyr yw ein prif flaenoriaeth gyda threfniadau mewn bod i sicrhau bod myfyrwyr yn teimlo’n ddiogel ar ac oddi ar y campws. Mae gan ein darlithwyr ymrwymedig ac ymroddedig un nod allweddol: bod eu myfyrwyr yn gwneud y gorau o’u potensial. Mae myfyrwyr yn cael eu cefnogi trwy gydol eu hastudiaethau trwy gyfuniad o diwtora pwnc a thiwtora personol gydag adborth rheolaidd ar eu gwaith wrth iddynt gynyddu drwy eu cwrs. Mae ehangder y cwricwlwm, cyfleusterau gwych, dysgu o ansawdd uchel a chymorth arboryn yn helpu i sicrhau bod ein myfyrwyr yn cyflawni eu nodau.

Amgylchedd dysgu disgybledigMae’r Coleg yn annog ei holl fyfyrwyr i gymryd cyfrifoldeb personol am eu dysgu ac i ddatblygu eu hymddygiad a’u sgiliau rheoli amser i’w helpu i fod yn llwyddiannus yn y coleg, y brifysgol ac yn y gweithle. Gwneir pob myfyriwr yn ymwybodol bod hunan-ddisgyblaeth yn flaenoriaeth hanfodol ac yn rhagofyniad er mwyn cyflawni safonau uchel o waith, ymddygiad a chanlyniadau. Ceir gweithdrefn ddisgyblu clir gyda gwaharddiad y gosb eithaf. Disgwylir i fyfyrwyr gael presenoldeb o 100%, bod yn brydlon i bob sesiwn wedi’i hamserlennu a dilyn safonau ymddygiad y Coleg.

Y dystiolaeth: dim graffiti na difrod i eiddo yn y ColegMae staff a myfyrwyr yn falch o’r amgylchedd modern, glân, wedi’i oleuo’n dda ac eang sydd yn y Coleg. Mae myfyrwyr yn gwisgo dillad addas yn ôl y cwrs maent arno, ac er nad yw’r Coleg yn gorfodi gwisg unffurf, mae myfyrwyr yn cael eu hannog i ddatblygu agwedd aeddfed at eu hymddangosiad.

Tiwtorialau a chymorth dysguYn ystod eich amser yn y Coleg, byddwch yn cael eich cefnogi gan dîm o weithwyr proffesiynol gyda mynediad i’r canlynol:• Tiwtor personol i gefnogi a monitro eich cynnydd• Cyfleusterau astudio preifat rhagorol• Tîm cyfarwyddyd gyrfaoedd a phrifysgol• Cymorth dysgu gan gynnwys cymorth dosbarth a help gyda dysgu/anableddau corfforol • Cymorth astudio i gael y gorau o sgiliau dysgu• Arbenigwr dyslecsia i helpu gydag aseiniadau• Gwasanaethau budd a lles

Cyfleusterau o ansawdd uchelMae wedi cael ei ddweud yn aml gan ein myfyrwyr bod Coleg Sir Benfro yn cynnig yr amgylchedd dysgu gorau yn y sir. Mae’r dystiolaeth ffisegol yn amlwg wrth i chi gerdded ar Gampws y Coleg. Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r Coleg wedi ychwanegu adeiladau a chyfleusterau newydd i ddiwallu anghenion ei dysgwyr gan gynnwys Canolfan Arloesi, Canolfan Adeiladu ac ailddatblygu ac estyn yr adain Beirianneg, i gyd yn rhan o gynllun 10 mlynedd uchelgeisol a llawn gweledigaeth o ystad y Coleg, yn costio £30m.

Academi ChwaraeonMae’r Academi Chwaraeon wedi’i gynllunio i gynnig cyfle i unigolion talentog i ddatblygu eu medrusrwydd ym maes chwaraeon ymhellach, ochr yn ochr â’u hastudiaethau academaidd. Mae’r academïau pêl-rwyd, pêl droed, rygbi a golff yn rhaglenni cynhwysfawr sy’n datblygu gwybodaeth y myfyriwr am hyfforddiant a sgiliau tuag at berfformiad elît, ac maent yn cynnwys:• Datblygiad sgiliau a pherfformiad• Rhaglen ffitrwydd personol a phrofion• Atal anafiadau chwaraeon a thylino chwaraeon• Seicoleg a ffisioleg chwaraeon• Cyngor ynghylch diet a maeth• Datblygu sgiliau hyfforddi

Mae’r Academi Chwaraeon yn cael ei harwain gan y cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol a hyfforddwr Kevin Hopkins. Mae Kevin yn cydlynu hyfforddiant chwaraeon i gyd gyda’r nod o ddatblygu rhagoriaeth mewn chwaraeon yng Ngholeg Sir Benfro.

Dwedon ni...“Dim ond achos eich bod yn gadael ysgol dydy hynny ddim yn golygu diwedd ar eich hoff chwaraeon. Os ydych ynfyfyriwr Lefel A neu ddiploma neu’n brentis, ymunwch â’n timau chwaraeon a dewch i chwarae amrywiaeth o gemau gartref ac i ffwrdd!” Cyn chwaraewr rygbi Rhyng-wladol Cymru a darlithydd, Kevin Hopkins

”Dwedon ni...“Y ffordd orau i gael teimlad go iawn o’r Coleg yw dod i noson agored. Cewch wybod fwy am gyrsiau, cwrdd â’ n tiwtoriaid,a gweld ein cyfleusterau rhagorol.”12 Mawrth 2013, 5-8pm7 Mai 2013, 5-7pmDiwrnod Gwybodaeth Llwybrau Graddau16 Awst 2013

And live some more:The College also hosts the following services on its main campus for students and members of the public to use:

• Victoria Bookshop• Hair and Beauty Salons and Studio• Bright Start Day Nursery• Merlin Theatre and Cinema

In additi on, as a College student, you will be eligible to join one of the council run leisure centres at the discounted rate of £15.50* per month.Membership includes fi tness classes, access to the fi tness suite, spa faciliti es and swimming. To join just take your student ID card along to your local leisure centre and complete a membership form. *price correct at ti me of print.

Gallwn weddu eich dyheadau...

Fel rhieni, rydym yn gwybod eich bod am y gorau ar gyfer eich mab/merch. Yn y Coleg rydym yn credu bod angen i bobl ifanc ddysgu sut i drefnu eu hamser eu hunain, archwilio eu hopsiynau a chanfod beth y maent yn dda yn ei wneud. Mae’r Coleg yn gweithio tuag at ysbrydoli pobl ifanc i ddatblygu brwdfrydedd am eu pwnc mewn amgylchedd dysgu arobryn sydd yn gwneud gwir gyfraniad i ddyheadau myfyrwyr.

Mae myfyrwyr yn cael eu cefnogi drwy eu hastudiaethau gan gyfuniad o diwtora pwnc a thiwtora personol gydag adborth rheolaidd. Mae tysti olaeth bod y dull hwn yn gweithio ar gael trwy ein canlyniadau myfyrwyr rhagorol, adroddiadau arolygiaeth Estyn a strategaeth disgyblu myfyrwyr cryf ond cefnogol.

Yn yr adran hon, rydym yn gobeithio darparu atebion i rai o’ch cwesti ynau a’ch sicrhau mai’r Coleg yw’r lle gorau ar gyfer addysg ôl-16 yn y sir.

CymorthYn ystod yr wythnos gyntaf yn y Coleg, mae pob myfyriwr blwyddyn gyntaf yn mynychu rhaglen sefydlu gynhwysfawr a fydd yn eu helpu i ddod yn ddysgwyr llwyddiannus a gwneud y gorau o’u hamser yn y Coleg. Mae’r rhaglen sefydlu yn cynnwys manylion am y system diwtorial, amserlen, rheolau a disgyblaeth y Coleg, y llyfrgell a’r ganolfan adnoddau, cyfl eusterau cyfrifi adurol, cynnwys y cwrs a sut mae’n cael ei asesu, gwybodaeth a llwybrau gyrfaoedd, proses dderbyn UCAS (prifysgol) a chymorth i fyfyrwyr.

Mae myfyrwyr yn cael dau diwtor: ti wtor dosbarth a thiwtor personol. Mae pob myfyriwr yn cwrdd â’u ti wtor personol yn rheolaidd. Mae’r cyfarfodydd hyn yn monitro presenoldeb a chynnydd ac yn gosod targedau. Mae copi o’r canlyniadau y cytunwyd arnynt yn cael eu cadw gan y ti wtor a’r myfyriwr ac yn gweithredu fel cyfrwng llywio a monitro cyn y cyfarfod

canlynol.

Tiwtoriaid Profi adolMae gan y Coleg dîm brwdfrydig ac hynod gymwys o diwtoriaid a darlithwyr. Rydym yn ymfalchïo yn arbenigedd a phroff esiynoldeb ein staff . Maent yn dod o lawer o alwedigaethau a phroff esiynau ac yn dod â chyfoeth o brofi ad o ddiwydiant gyda nhw ynghyd â’u cymwysterau. Mae dulliau addysgu yn seiliedig ar ymchwil cadarn, yn seiliedig ar dysti olaeth ac yn cael eu gwerthuso’n rheolaidd gan broses o reoli ansawdd mewnol ac allanol.

Bywyd ColegMae’r amgylchedd yn y Coleg yn llawer fwy tebyg i’r hyn a geir mewn prifysgol, gan roi i’n myfyrwyr rywfaint o brofi ad annibyniaeth oedolyn ond mewn ff ordd gefnogol a rheoledig. Caiff myfyrwyr eu hannog i ddatblygu eu sgiliau dysgu a rheoli eu hamser a’u gwaith yn well. Caiff dyddiadau terfyn eu gosod a disgwylir i fyfyrwyr lynu atynt er mwyn sicrhau bod pob myfyriwr yn cyfl awni eu cymwysterau.

Cyfathrebu Rhiant-TiwtorEin nod yw cadw rhieni ein myfyrwyr mor hysbys ag y gallwn am eu cynnydd trwy nosweithiau rhieni, llythyrau ac adroddiadau rheolaidd. Rydym bob amser yn hapus i ateb ymholiadau a phryderon rhieni ac mae croeso i rieni gysylltu â’u tiwtoriaid i drafod unrhyw bryderon. Rydym yn cydnabod ac yn croesawu’r cyfraniad gall rhieni wneud at lwyddiant eu plant. Rydym yn monitro cynnydd, presenoldeb, cymhelliant a lles cyff redinol myfyrwyr yn gyson. Yn seiliedig ar y gwaith monitro hwn, rydym yn rheo-laidd yn cynhyrchu adroddiad manwl ar gyfer pob pwnc a astudiwyd a’i anfon yn uniongyrchol at y rhiant neu warcheidwad, nid y myfyriwr. Yn ogystal, unwaith y fl wyddyn rydym yn trefnu Noson Rieni lle caiff rhieni gyfl e i siarad â thiwtoriaid. Mae myfyrwyr dros 18 yn derbyn eu hadroddiadau yn uniongyrchol.

Mewn cysylltiad â rhieni

Cwesti wn ac AtebC. Mae fy mhlentyn yn anelu’n uchel ac wedi gwneud yn dda yn yr ysgol. A fydd fy mhlentyn yn cael yr un cyfl eoedd academaidd yn y Coleg ag a fyddai petai wedi aros ymlaen yn y chweched dosbarth yn yr ysgol?A. Am nifer o fl ynyddoedd mae myfyrwyr y Coleg wedi bod yn mynd ymlaen i brifysgolion rhagorol ledled y DU gan gynnwys Rhydychen a Chaergrawnt. Os bydd gan berson ifanc yr uchelgais a’r tueddfryd, byddwn yn darparu’r cymorth er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd eu potensial.

C. Pa fath o reolau disgyblu ac ymddygiad sy’n bodoli yn y Coleg?A. Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i gyrraedd presenoldeb o 100% yn y Coleg a bod yn brydlon i bob sesiwn ar eu hamserlen. Mae cofrestri yn cael eu cymryd ym mhob sesiwn ac mae myfyrwyr ag absenoldeb anawdurdodedig yn cael eu cysylltu yn awtomati g gan ein tracwyr presenoldeb. Mae un-rhyw fyfyriwr sydd â phresenoldeb yn disgyn islaw

85% yn wynebu gweithdrefnau disgyblu. Mae’r Coleg yn annog ei holl fyfyrwyr i gymryd cyfrifoldeb personol dros eu dysgu ac i gadw at god ymddygiad y Coleg. Mae’r Coleg yn cynnig cyfl e, yn enwedig ar gyfer pobl ifanc, i ddatblygu eu hymddygiad a’u sgiliau rheoli amser sydd mor hanfodol ar gyfer llwyddiant yn y brifysgol neu yn y gweithle.

C. Efallai bydd angen cymorth dysgu ychwanegol ar fy mhlentyn. Beth mae’r Coleg yn ei gynnig?A. Gweler tudalen 14 o’r llyfryn hwn, lle cewch wybodaeth am y cymorth rydym yn ei gynnig i ddysgwyr.

C. Rydym yn byw y tu allan i Hwlff ordd, pa drafnidiaeth sydd ar gael?A. Mae system drafnidiaeth helaeth yn eu lle sydd yn rhad ac am ddim ar gyfer dysgwyr llawn-amser o dan 19 oed sydd am fynd i’r Coleg. Darperir cludiant o fannau codi penodol i fyfyrwyr sy’n bodloni’r meini prawf pellter o 3 millti r neu fwy. Mae’r llwybrau yn cwmpasu ardal eang o’r sir, fodd bynnag, oherwydd natur wledig Sir Benfro nid yw bob amser yn bosibl trefnu mynd heibio’n agos at gartrefi ’r holl ddysgwyr. Mae’n ofynnol i fyfyrwyr wneud eu ff ordd eu hunain yn ôl ac ymlaen i’r man codi agosaf. Gwneir pob ymdrech i gadw’r pellter hwn cyn fyrred ag y bo modd.

C. A fydd Diploma Estynedig BTEC yn caniatáu i fy mab neu ferch symud ymlaen i brifysgol?A. Bydd. Mewn gwirionedd, dywed llawer o fyfyrwyr bod wedi cwblhau Diploma Estynedig BTEC yn y maes pwnc y maent yn mynd ar drywydd yn gwneud blwyddyn gyntaf cwrs gradd lawer yn haws.

C. A fydd fy nheulu yn parhau i dderbyn budd-daliadau os yw fy mhlentyn yn gadael yr ysgol i ddod i’r Coleg?A. Bydd, os yw eich mab neu ferch mewn addysg llawn-amser boed yn yr ysgol neu yn y coleg. Gall myfyrwyr hefyd wneud cais am gymorth drwy’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) i ddarparu rhywfaint o gefnogaeth yn ystod eu hastudiaethau. Gall prenti siaid gael eu hystyried i gael eu cyfl ogi, yn hytrach na chael statws myfyriwr. Felly, os yw eich mab neu ferch yn ystyried cynllun prenti siaeth byddai angen i chi drafod yr eff aith bosibl ar hawl i fudd-dal.

Mewn cysylltiad â rhieniCymorth ariannol i ddysgwyrMae pob un o’n cyrsiau i rai dan 19 oed yn cael eu hariannu’n llawn. Ar ben hynny, gall pobl ifanc rhwng 16-18 oed fod yn gymwys i gael Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) hyd at £30 yr wythnos, yn seiliedig ar incwm cartref o £23,077 neu lai y fl wyddyn.

Mae Grant Dysgu’r Cynulliad (GDC) ar gael ar gyfer y rhai dros 18 oed ac yn byw yng Nghymru. Mae’r cronfeydd hyn wedi’u cynllunio er mwyn helpu i gefnogi myfyrwyr a allai fel arall brofi anawsterau ariannol wrth astudio. Mae’r cymorth ariannol yn amodol ar brawf modd, a gall myfyrwyr sydd â net incwm teulu llai nag £18,370 y fl wyddyn dderbyn rhwng £300 a £1,500 ar gyfer blwyddyn academaidd. Mae’r Gronfa Ariannol wrth Gefn yn cael ei gweinyddu gan y Coleg ac wedi’i chynllunio i gefnogi’r rhai all fod angen cymorth ariannol i gwblhau eu cwrs. Mae’r gronfa yn cynnwys costau ychwanegol fel prynu cyfarpar penodol, gwisg benodol, llyfrau ac ati . Rhaid i incwm y cartref fod yn £23,000 y fl wyddyn neu lai.

* Mae’r holl granti au a chyllid yn dibynnu ar bolisi a chymorth llywodraeth a gallant gael eu newid. www.pembs.ac.uk/fi nance

Cymorth i’n holl DdysgwyrDyfarnwyd y radd uchaf i Goleg Sir Benfro gan Estyn am gymorth i fyfyrwyr. Fel myfyriwr Coleg Sir Benfro byddwch chi’n cael asesiad cychwynnol i ganfod os oes angen cymorth arnoch gyda llythrennedd neu rifedd. Gall y cymorth a roddir gynnwys:

• Help un-i-un gyda chymorth dysgu arbenigol• Cynllunio aseiniadau• Gweithio mewn grwpiau bach gyda Sgiliau Sylfaenol a Sgiliau Hanfodol

Caiff myfyrwyr ag Anawsterau Dysgu Penodol, anableddau corfforol neu nam ar y synhwyrau eu darparu gyda chymorth, cyngor ac adnoddau arbenigol i’w helpu i gyflawni eu gorau.

Mae’r Coleg yn gallu cynnig hyfforddiant arbenigol 1:1 i ddys-gwyr dyslecsig a’r rhai ag Anawsterau Dysgu Penodol eraill ar gyrsiau addysg bellach ac uwch yn ogystal â gwneud trefnia-dau mynediad ar gyfer arholiadau.

Mae gan y Coleg hefyd dri chwrs arbenigol ar gyfer pobl sydd ag ystod o anawsterau dysgu sydd angen amgylchedd gef-nogol. Mae’r cyrsiau yn canolbwyntio ar sgiliau bywyd, sgiliau galwedigaethol a sgiliau sylfaenol.

Mae cymorth ychwanegol yn cynnwys:• Cynorthwy-ydd cymorth dysgu neu weithiwr cymorth cyfathrebu yn y dosbarth• Help gyda thechnoleg gynorthwyol priodol• Sgiliau Sylfaenol a addysgir gan diwtoriaid arbenigol• Cymorth bugeiliol ychwanegol neu gyngor gyrfaoedd arbenigol• Adolygiadau aml-asiantaethol

Cyrsiau arbenigol:• Cwrs Conglfaen (SVT) - 2 flynedd• Cwrs Pontio – Paratoad Galwedigaethol (Lefel Mynediad) – 1 flwyddyn. Mae’r cwrs hwn yn cynnwys gweithgareddau chwaraeon a ffitrwydd gan Ymddiriedolaeth y Tywysog• Llwybrau (Lefel 1 Galwedigaethol a Pharatoad) – 1 flwyddyn

Cyfle Cyfartal i BawbMae’r Coleg yn sefydliad cyfle cyfartal ac yn croesawu pob aelod o’r gymuned. Ein nod yw rhoi yr un cyfle i bawb lwyddo beth bynnag fo’u hil, crefydd, rhyw, ailbennu rhyw, tueddfryd rhywiol, anabledd neu oedran.Mae gan y Coleg Bennaeth Gwasanaethau i’r Dysgwyr ymroddedig i sicrhau lles pob dysgwr. Yn ogystal â chymorth dysgu mae’r Coleg hefyd yn gallu cynnig y cyfleusterau cymorth canlynol:• Cymorth ariannol• Lles • Cwnsela• Nyrs y Coleg

Cysylltwch â’r Tîm Cymorth Dysgu ar 01437 753 412 os oes angen gwybodaeth bellach arnoch.Datganiad anabledd y Coleg: fersiynau print mawr, Braille a CD - Ffôn testun (minicom) 01437 75 3000. Ffoniwch yr Uned Fynediadau ar 0800 9 776 788.

Mae’r Coleg wedi ennill y pum gradd uchaf gan Estyn ar gyfer cymorth i fyfyrwyr (mae hyn fodd bynnag yn ehangach na dysgwyr ag anableddau).

Cymorth arobryn

”Dwedoch chi ...“Mae Jacob wedi derbyn cymorth rhagorol cyn, yn ystod ac ar ôl y Gemau Paralympaidd 2012.” Mam Jacob (myfyriwr paralympaidd cyntaf y Coleg).

YsbrydoliCyrsiau 2013

Darganfyddwch pam mae Mark yn meddwl bod arlwyo yn llwybr gyrfa gwych! Ewch i... youtube.com/pembscollege neu bit.ly/PCMark

Am esboniad o’r cymwysterau ewch i www.cqfw.net Nodwch bod cyrsiau a amlygir ar lefel 1-3 yn gyrsiau cyn-Brifysgol (i bobl sy’n gadael yr ysgol).

Celfyddydau CreadigolLlwybrau Gyrfa: Animeiddio, Dylunio, Dylunio Graffig, Darlunio, Ffasiwn, Celfyddyd Gain, Cynhyrchu Cyfryngau, Perfformiad, Peirianneg Sain/Recordio, Rheoli Llwyfan, Dylunio Tecstilau, Dylunio Gwisgoedd, Propiau, Dylunio Gwefan.

Cwrs:Lefel A Lefel A Celfyddyd Gain Lefel A Astudiaethau’r Cyfryngau Lefel A Ffotograffiaeth Lefel A Astudiaethau Ffilm Celf a Dylunio Diploma mewn Celf a Dylunio Diploma Estynedig mewn Ffasiwn a Thecstilau Diploma Estynedig mewn Dylunio Graffeg Diploma Estyngedig yn Y Cyfryngau RhyngweithiolDiploma Cyn BA mewn Astudiaethau SylfaenBA Dylunio CerddoriaethDiploma mewn Technoleg Cerddoriaeth Diploma Estynedig mewn Technoleg Cerddoriaeth DramaDiploma Estynedig yn y Celfyddydau Perfformio Cyfryngau CreadigolDiploma Gyfrannol mewn Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol Diploma Estynedig mewn Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol

Lefel:

3333

233334-6

23

3

33

PeiriannegLlwybrau gyrfaol: Peirianneg Electronig, Peirianneg Petrolewm, Peirianneg Offer Trwm/ Fecanyddol, Gweithredu Proses, Rheoli Prosiectau, Peirianneg Cerbydau Modur, Weldio, Platio.

Cwrs:Lefel ALefel A Mathemateg/Mathemateg Pellach Lefel A Bioleg/Cemeg/Ffiseg Cerbydau Modur/Chwaraeon ModurDiploma mewn Chwaraeon Modur Peirianneg/Cerbydau Modur NVQ a Thystysgrif Dechnegol Peirianneg Môr Peirianneg MôrPeirianneg Drydanol/Electronig Gosod TrydanDiploma Estynedig mewn Electronig a ThrydanolHNC (Llwybrau amrywiol) Trydanol/Systemau Pwer/OfferGradd Sylfaen mewn Offer a ThrydanolBSc (Anrh) Peirianneg Electronig a Thrydanol Peirianneg FecanyddolDiploma mewn Perfformio Gweithrediadau Peirianneg Diploma Estynedig mewn Gweithrediadau a Chynnal a Chadw Gradd Sylfaen mewn Gweithrediadau Proses a Chynnal HNC Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu Gradd Sylfaen mewn Peirianneg FecanyddolBSc Peirianneg FecanyddolPeirianneg AdeiladuPeirianneg AdeiladuGradd Sylfaen mewn Adeiladu Cynaliadwy a Dylunio Peirianneg GyffredinolTystysgrif Estynedig mewn Peirianneg Diploma Gyfrannol mewn Peirianneg

Level:

33

22-3

1-3

1-334-54-54-6

1-234-54-54-54-6

2-34-5

23

Celfyddydau CreadigolLlwybrau Gyrfa: Animeiddio, Dylunio, Dylunio Graffig, Darlunio, Ffasiwn, Celfyddyd Gain, Cynhyrchu Cyfryngau, Perfformiad, Peirianneg Sain/Recordio, Rheoli Llwyfan, Dylunio Tecstilau, Dylunio Gwisgoedd, Propiau, Dylunio Gwefan.

Cwrs:Lefel A Lefel A Celfyddyd Gain Lefel A Astudiaethau’r Cyfryngau Lefel A Ffotograffiaeth Lefel A Astudiaethau Ffilm Celf a Dylunio Diploma mewn Celf a Dylunio Diploma Estynedig mewn Ffasiwn a Thecstilau Diploma Estynedig mewn Dylunio Graffeg Diploma Estyngedig yn Y Cyfryngau RhyngweithiolDiploma Cyn BA mewn Astudiaethau SylfaenBA Dylunio CerddoriaethDiploma mewn Technoleg Cerddoriaeth Diploma Estynedig mewn Technoleg Cerddoriaeth DramaDiploma Estynedig yn y Celfyddydau Perfformio Cyfryngau CreadigolDiploma Gyfrannol mewn Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol Diploma Estynedig mewn Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol

Lefel:

3333

233334-6

23

3

33

PeiriannegLlwybrau gyrfaol: Peirianneg Electronig, Peirianneg Petrolewm, Peirianneg Offer Trwm/ Fecanyddol, Gweithredu Proses, Rheoli Prosiectau, Peirianneg Cerbydau Modur, Weldio, Platio.

Cwrs:Lefel ALefel A Mathemateg/Mathemateg Pellach Lefel A Bioleg/Cemeg/Ffiseg Cerbydau Modur/Chwaraeon ModurDiploma mewn Chwaraeon Modur Peirianneg/Cerbydau Modur NVQ a Thystysgrif Dechnegol Peirianneg Môr Peirianneg MôrPeirianneg Drydanol/Electronig Gosod TrydanDiploma Estynedig mewn Electronig a ThrydanolHNC (Llwybrau amrywiol) Trydanol/Systemau Pwer/OfferGradd Sylfaen mewn Offer a ThrydanolBSc (Anrh) Peirianneg Electronig a Thrydanol Peirianneg FecanyddolDiploma mewn Perfformio Gweithrediadau Peirianneg Diploma Estynedig mewn Gweithrediadau a Chynnal a Chadw Gradd Sylfaen mewn Gweithrediadau Proses a Chynnal HNC Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu Gradd Sylfaen mewn Peirianneg FecanyddolBSc Peirianneg FecanyddolPeirianneg AdeiladuPeirianneg AdeiladuGradd Sylfaen mewn Adeiladu Cynaliadwy a Dylunio Peirianneg GyffredinolTystysgrif Estynedig mewn Peirianneg Diploma Gyfrannol mewn Peirianneg

Level:

33

22-3

1-3

1-334-54-54-6

1-234-54-54-54-6

2-34-5

23

Iechyd, Gofal Plant, Ffitrwydd a Gwasanaethau CyhoeddusLlwybrau gyrfaol: Therapïau Cyflenwol (Adweitheg/Aciwbigo), Gwasanaethau Brys - Tân/Ambiwlans/Heddlu, Nyrsio, Therapi Galwedigaethol, Gwaith Cymdeithasol Hamdden, Cyflyriad Chwaraeon, Maeth Chwaraeon.

Cwrs: Lefel ALefel A Bioleg/Ffiseg/CemegLefel A Iechyd a Gofal CymdeithasolLefel A CymdeithasegLefel A SeicolegIechyd a Gofal CymdeithasolTystysgrif mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol/Gofal PlantIechyd a Gofal Cymdeithasol (Diploma)Diploma mewn Iechyd a Gofal CymdeithasolDiploma Estynedig mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gofal Cymdeithasol)Diploma Estynedig mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gwyddor Iechyd)ChwaraeonTystysgrif mewn Hyfforddi FfitrwyddDiploma mewn ChwaraeonDiploma/Diploma Estynedig mewn Chwaraeon (Datblygu, Hyfforddi a Ffitrwydd)Gradd Sylfaen mewn ChwaraeonGwasanaethau CyhoeddusDiploma mewn Gwasanaethau CyhoeddusDiploma Estynedig mewn Gwasanaethau CyhoeddusGofal Plant a NyrsioDiploma mewn Addysg Gofal Plant (CACHE)Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau PlentyndodBSc (Anrh) Astudiaethau Plentyndod Therapïau CyflenwolDiploma mewn Therapïau Cyflenwol

Lefel:

3333

23 3 32

223

4-5

23

1-34-55-6

2-3

Busnes a RheoliLlwybrau Gyrfa: Hysbysebu, Bancio, Entrepreneur, Rheolaeth Ariannol, Rheolaeth Gyffredinol, Adnoddau Dynol, Gwerthu, Marchnata.

Cwrs: TGAU/Lefel A TGAU Saesneg Lefel A Astudiaethau Busnes Lefel A Llenyddiaeth/Iaith Saesneg Lefel A Llenyddiaeth Saesneg Lefel A Y Gyfraith Lefel A Mathemateg Busnes Tystysgrif Estyngedig mewn Busnes Diploma Estynedig mewn Busnes NVQs mewn Busnes HNC/HND Rheolaeth Busnes Gradd Sylfaen mewn Rheolaeth Busnes BA (Anrh) Rheolaeth Busnes TwristiaethGradd Sylfaen mewn Rheolaeth Twristiaeth CyfrifegCyfrifeg AAT

Lefel:

233333

33-54-54-54-56

4-5

2-4

I gael gwybodaeth am gyrsiau a chyngor ffoniwch:0800 9 776 788 neu galwch i mewn – Dydd Llun i Ddydd Iau 9yb-5yp Dydd Gwener 9yb–4.30yp

Arlwyo Proffesiynol, Lletygarwch, Twristiaeth a ThirLlwybrau gyrfaol: Rheolaeth Arlwyo, Technoleg Bwyd, Wardeniaid Parc, Arlwyo Proffesiynol - Cogydd, Rheolaeth Parc Bywyd Gwyllt/Sw, Swyddog Twristiaeth

Cwrs: Lletygarwch ac ArlwyoDiploma VRQ mewn Coginio ProffesiynolCoginio ProffesiynolLletygarwch, Goruchwyliaeth ac ArweinyddiaethCefn Gwlad a’r AmgylcheddDiploma mewn Cefn Gwlad a’r AmgylcheddLefel A mewn Astudiaethau AmgylcheddolTeithio a ThwristiaethDiploma Estynedig mewn Teithio a ThwristiaethGradd Sylfaen mewn Rheolaeth TwristiaethGofal AnifeiliaidDiploma mewn Gofal AnifeiliaidDiploma Estynedig mewn Rheolaeth AnifeiliaidGradd Sylfaen mewn Gwyddor Anifeiliaid

Lefel

1-22-33

32

3 4-53234-5

Cyfrifiadura a Thechnoleg GwybodaethLlwybrau gyrfaol: Rheoli Cronfa Ddata, Cyfryngau Rhyngweithiol, Dylunio Amlgyfrwng, Peirianneg Meddalwedd/Rhaglennu a Dadansoddi.

Cwrs:Cyfrifiadura a TGDiploma Cymhwyso DigidolDiploma Gyntaf mewn TGDiploma Estynedig mewn TGHNC Cyfrifiadureg

Lefel

1234

MITEC - Canolfan Dechnoleg Forol Llwybrau gyrfaol: Adeiladwr llongau, Peiriannydd Morol, Syrfëwr Morol, Weldiwr Cyrsiau:

Cwrs: LefelDylunio trwy Gymorth Cyfrifiadur Tri Dimensiwn 1Dylunio trwy Gymorth Cyfrifiadur Dau Ddimensiwn 2Adeiladu Cychod 2-3Peirianneg Môr 2-3Peirianneg Adeiladu 2-3 Cwrs Injan wedi’i gymeradwyo gan MCA (Maritime & Coastguard) n/aCwrs RYA n/a

Sut i gofrestruMae rhai cyrsiau’n llenwi’n gynnar felly mae’n well i fynychu Noson Agored a gwneud cais cyn gynted ag y byddwch yn gwybod beth rydych am ei astudio. Caiff ceisiadau eu derbyn o fis Tachwedd 2012 ar gyfer y flwyddyn academaidd yn dechrau ym mis Medi 2013.

Gwnewch gais ar-lein ar -www.colegsirbenfro.ac.uk

Adeiladu a Chrefftau CysylltiedigLlwybrau gyrfaol: Ymarfer Pensaernïol, Datblygu Adeiladau, Gwaith Saer, CAD, Peirianneg Sifil, Gosod Trydan/Nwy, Plymwaith, Rheolaeth Prosiect, Peirianwyr Technoleg Adnewyddadwy/ Cynaliadwy, Gwaith Brics.

Cwrs:AdeiladuDiplomâu ac NVQ Gwaith Brics Diplomâu ac NVQ Gwaith Saer Diplomâu ac NVQ Plymwaith Diploma Estynedig mewn AdeiladuDiploma Defnyddio NwyCAD (2D a 3D)Gradd Sylfaen mewn Rheoli AdeiladuGradd Sylfaen mewn Dylunio Cynaliadwy ac AdeiladuTrydanolGosod TrydanHNC Gwasanaethau Adeiladu Trydanol Adeiladu CychodAdeiladu Cychod

Lefel

1-31-31-3332-344-5

1-34

1-3

Trin Gwallt, Therapïau Harddwch a HolistigLlwybrau gyrfaol: Therapi Harddwch, Therapi Cyflenwol, Steilio Gwallt, Lliwio Proffesiynol, Tylinwr Proffesiynol, Therapi Tylino Chwaraeon, Rheoli Salon, Rheoli Sba

Cwrs:Trin GwalltTrin Gwallt (NVQ: Rhan-amser, dysgu yn y gwaith)Trin Gwallt (VRQ: llawn-amser)Therapi HarddwchTherapi Harddwch (NVQ: Rhan-amser, dysgu yn y gwaith)Therapi Harddwch (VRQ: llawn-amser)Tylino PellachTherapïau Cyflenwol a ThylinoGwasanaethau Ewinedd Therapïau Cyflenwol (Amrywiol)

Lefel

2-31-3

2-31-33

2-32-3

Lefel-AArleinNEWYDDPryd a ble rydych chi am...Mae lefel-A arlein ar gael yn y pynciau canlynol:ng subIaith Saesneg, Busnes, Cyfrifeg, Y Gyfraith, Economeg, Ffiseg, Bioleg a Chemeg.online.pembrokeshire.ac.uk

Nikki Nelson, Salon Cymru “Vamp it up” competition winner with h

Enillwyr Cystadlaethau 2011/12 a’r rhai sy’n ysbrydoli ...

Beth sy’n gwneud i’n darlithwyr sefyll allan yn eu maes addysgu a dysgu? Profiad gwaith go iawn,ynghyd ag arbenigedd academaidd a galwedigaethol; y fformiwla perffaith i helpu myfyrwyr i sefyll ar wahân oddi wrth y gweddill. Yn y farchnad swyddi cystadleuol bresennol mae gan y Coleg gyfrifoldeb, nid yn unig i sicrhau bod myfyrwyr yn cwblhau eu cyrsiau, ond hefyd i’w paratoi ar gyfer y brifysgol neu gyflogaeth.

Mae gan ein darlithwyr brofiad gwaith eang iawn, gan ddod â mewnwelediad unigryw i’w haddysgu. Er enghraifft – roedd Dr Helen Coomer, darlithydd Gwyddoniaeth, yn aelod o dîm ymchwil Unilever a lansiodd ‘Persil Small & Mighty’; mae Eleri Hunt, darlithydd Harddwch, yn gyflwynydd harddwch ar S4C ac mae Tim Lambert, darlithydd Technoleg Cerddoriaeth, wedi bod yn gweithio gydag artistiaid cerddorol gan gynnwys Take That a Madonna, tra roedd Kevin Hopkins, un o’n darlithwyr Chwaraeon, yn Chwaraewr Rygbi Rhyngwladol Cymru.

Mae ein tiwtoriaid yn sylweddoli pwysigrwydd cyflawni drwy ysbrydoli myfyrwyr i gystadlu mewn cystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol. Maent yn gwybod bod hyn yn un ffordd o wella profiad y myfyriwr yn y coleg ac arddangos talent myfyrwyr y tu hwnt i’w hastudiaethau.

Rydym yn gwybod bod ennill cystadlaethau yn helpu CVs myfyriwr a’u codi i frig y pentwr! Mae myfyrwyr yn cystadlu’n flynyddol mewn cystadlaethau gan gynnwys - WorldSkills, BOC, AHT (trin gwallt), Olympiad Bioleg, Salon Cymru, Sgiliau Adeiladu, EESW (peirianneg), Pencampwriaeth Coginio Cymru, Cogydd Rotari y Flwyddyn ac mae timau ein Academi Chwaraeon yn chwarae mewn cynghreiriau rhan-barthol a chenedlaethol yn gyson.

Opposite page:

27CHWEFROR2012: Esbonio’r Cymwysterau Pa rai, Pam a Ble? Beth am gael fwy o wybodaeth cyn gwneud eich penderfyniad? Dewch i sesiwn Esbonio’r Cymwysterau lle bydd Dr Barry Walters, ynghyd â siaradwyr gwadd eraill yn egluro fwy am gymwysterau ôl-16. Bydd eich cwestiynau am ddiplomâu, Lefel A, Prentisiaethau a Graddau yn cael eu hateb. Nid yw amser y digwyddiad hwn wedi cael ei gadarnhau eto, edrychwch ar y wefan am y diweddaraf www.colegsirbenfro.ac.uk/events

Nikki Nelson, Salon Cymru “Vamp it up” competition winner with h

Enillwyr Cystadlaethau 2011/12 a’r rhai sy’n ysbrydoli ...

27CHWEFROR2012: Esbonio’r Cymwysterau Pa rai, Pam a Ble? Beth am gael fwy o wybodaeth cyn gwneud eich penderfyniad? Dewch i sesiwn Esbonio’r Cymwysterau lle bydd Dr Barry Walters, ynghyd â siaradwyr gwadd eraill yn egluro fwy am gymwysterau ôl-16. Bydd eich cwestiynau am ddiplomâu, Lefel A, Prentisiaethau a Graddau yn cael eu hateb. Nid yw amser y digwyddiad hwn wedi cael ei gadarnhau eto, edrychwch ar y wefan am y diweddaraf www.colegsirbenfro.ac.uk/events

”Dwedon ni...Ewch i weld yr hyn sydd gan fyfyrwyr i ddweud amdanon ni. Gwyliwch ein fideos ar youtube.com/pembscollege

BwytaByw

Byw:Fel myfyriwr y Coleg byddwch hefyd yn cael mynediad at y gwasanaethau canlynol:• Rhoi cyngor, gyrfaoedd ac arweiniad diduedd• Cwnsela• Hyfforddwr dysgu • Cymorth a gwybodaeth ariannol• Trafnidiaeth a chyngor ynghylch llety• Cyllid a chyngor meddygol• Nyrs y Coleg

Bwyta, Dysgu a BywMae’r ffreutur a adnewyddwyd yn ddiweddar yn cynnig man ardderchog ar gyfer cymdeithasu tra’n cael tamaid i’w fwyta. Gyda dewis enfawr o fwyd, o fyrbrydau ysgafn i giniawau wedi’u paratoi’n ffres, mae yna rywbeth at ddant pawb.

Ar gyfer yr adegau hynny pan fyddwch yn chwilio am rywbeth ychydig yn wahanol, mae gan y Coleg hefyd Siop Goffi a Bistro rhad sy’n cael ei redeg gan fyfyrwyr arlwyo ac yn cael eu goruchwylio gan ddarlithwyr.

• 24,000 o deitlau llyfrau• 38,000 o gopïau llyfrau• 3,000 o e-lyfrau arlein• 1,100 o orsafoedd gwaith a 350 gliniadur (ar draws y Coleg)• Ystod eang o gyfnodolion ar-lein

Dysgu:Mae’r Ganolfan Adnoddau Dysgu yn darparu amgylchedd tawel, llawn offer ar gyfer astudio hunan-gyfeiriedig unigol neu grŵp ac mae ganddi ystod eang o gyfleusterau a deunyddiau dysgu, gan gynnwys:

A byw ychydig yn fwy:Mae’r Coleg hefyd yn cynnal y gwasanaethau canlynol ar ei brif gampws i fyfyrwyr ac aelodau o’r cyhoedd i’w defnyddio:• Academy Restaurant• Siop Lyfrau Victoria • Salonau a Stiwdio Trin Gwallt a Harddwch • Meithrinfa Ddydd ‘Bright Start’• Theatr a Sinema Myrddin

YmwadiadMae pob ymdrech wedi’i wneud i sicrhau bod y manylion a gynhwysir yn y canllaw hwn yn gyfoes ac yn gywir ar adeg argraffu. Fodd bynnag, mae’r Coleg yn cadw’r hawl i newid neu ganslo cyrsiau neu fanylion eraill petai amgylchi-adau yn mynnu hynny. Cynhyrchwyd y canllaw hwn gan ddefnyddio arferion eco-gyfeillgar. Dylunio a ffotograffiaeth - Coleg Sir Benfro

Dysgu