CANLLAW LLAWN AMSER 2014—15
-
Upload
coleg-gwent -
Category
Documents
-
view
234 -
download
4
description
Transcript of CANLLAW LLAWN AMSER 2014—15
www.coleggwent.ac.uk
CANLLAW LLAWN AMSER 2014—15
Yn eich cefnogi a’ch ysbrydoli i lwyddo
OESOMae ein haddysgu a’n cymorth yn rhagorol a byddwch yn meithrin sgiliau ac ennill cymwysterau a fydd yn eich helpu ar y ffordd i ddyfodol llwyddiannus.
P’un a fydd hynny yn y brifysgol, mewn cyflogaeth neu fel prentis, byddwch yn fwy hyderus i barhau â’ch taith. Felly cymerwch gip ar y canllaw hwn, dewch i un o’n digwyddiadau agored neu ffoniwch ni - rydym yma i’ch helpu i gymryd y cam nesaf.
Jim Bennett Pennaeth/Prif Weithredwr
COLEG GWENT YMHLITH Y COLEGAU ADDYSG BELLACH GORAU YNG NGHYMRULlwyddodd Coleg Gwent i fod ymhlith y colegau addysg bellach gorau yng Nghymru yn arolygiad Estyn yn 2012 (Arolygiaeth Ei Mawrhydi yng Nghymru).
Dyma rai o sylwadau’r arolygiad:
— Mae’r Coleg yn cymharu’n dda â cholegau eraill ac mae ymhlith yr hanner gorau o golegau yn ôl cyfraddau llwyddo
— Mae canlyniadau Safon Uwch, rhaglenni galwedigaethol a Bagloriaeth Cymru yn dda
— Mae dysgwyr yn teimlo’n ddiogel ac yn cael gofal, arweiniad a chymorth da
— Mae dysgwyr hefyd yn fodlon iawn ar eu profiad yn y Coleg
— Mae dysgwyr o ardaloedd difreintiedig iawn yn perfformio’n dda gan wneud o leiaf cystal â dysgwyr eraill
— Mae’r Coleg yn cynllunio’r cwricwlwm yn effeithiol ac yn diwallu anghenion dysgwyr, cyflogwyr a’r gymuned yn dda
— Mae gan y Coleg drefniadau partneriaeth ardderchog â’r gymuned a’r busnesau lleol
Mae’n newyddion gwych eich bod yn ystyried astudio gyda ni yng Ngholeg Gwent. Mae gennym bum campws sy’n cynnig dewis o gannoedd o gyrsiau galwedigaethol ac academaidd sy’n amrywio o lefel mynediad i lefel gradd ar draws amrywiaeth o bynciau.
Can
llaw L
lawn
Am
ser 2
014
-15
Ewch i coleggwent.ac.uk Dilynwch ni: 5
CR
Noson Wybodaeth: 5–8pm
Nos Fawrth 12 Tachwedd — Pob campws
Nos Fercher 22 Ionawr — Pob campw
Wythnos Addysg Oedolion Nos Fercher 21 Mai — Pob campws
Diwrnod Agored: 2-8pm
Dydd Mawrth 4 Mawrth — Parth Dysgu Blaenau Gwent a Champws Brynbuga
Dydd Mercher 5 Mawrth — Campws Crosskeys a Champws Pont-y-pŵl
Dydd Iau 6 Mawrth — Campws Dinas Casnewydd
Dydd Mawrth 17 Mehefin — Pob campws
GW
YB
OD
AE
TH
2
Beth mae’r myfyrwyr yn ei ddweud...
Georgia Amman, 17, o Falpas: “Mae’r Coleg wedi rhoi’r cyfle i mi ennill cymwysterau er mwyn gwireddu’r freuddwyd sydd wedi bod yn fy nghalon ers yn bedair oed - sef gweithio yn y byd ffasiwn - cyfle na chefais yn yr ysgol. Mae gennyf fwy o gyfrifoldeb dros fy astudiaethau, ac mae hynny’n beth da, ac rwyf yn fy elfen yn astudio pwnc sy’n rhoi cyfle i mi fynegi fy hun.”
Dion Rowles, 18, o Flaenafon: “Pan ddechreuais i yng Ngholeg Gwent, newydd symud i’r ardal oeddwn i, felly roedd y coleg yn ffordd ardderchog i mi gwrdd â phobl newydd; Mae gennyf griw da o ffrindiau erbyn hyn ac rwyf wrth fy modd gyda’m cwrs. Mae’r darlithwyr yn wybodus iawn. Os bydd angen help arnom, maen nhw bob amser yno ac mae’n wych cael ffordd o ddysgu sy’n fwy annibynnol.”
Navjot Singh, 19, o Abertyleri: “Mae’r Coleg wedi bod yn brofiad anhygoel - mae fy nhiwtoriaid wedi bod o gymorth mawr, ac mae’n fy helpu i gael lle yn y brifysgol - mae’n wych cael cyfleusterau o’r fath ar gael i ni.”
Navjot
Tabitha Robertson, 17, o Gasnewydd: “Mi wnes i’r penderfyniad iawn i ddod i’r coleg yn sicr; rwy’n hoffi bod rhywle gwahanol, gyda phobl newydd - mae wedi gwella fy hyder, wedi fy annog i dyfu a datblygu sgiliau bywyd gwerthfawr.”
tabithaGe
orgia
Mae astudio yng Ngholeg Gwent yn fendigedig. Ond peidiwch â chymryd ein gair ni am y peth; gwrandewch ar eiriau’r rheini sy’n astudio gyda ni ar hyn o bryd;
DION
Lefel Cymhwyster Yn gyfwerth i: Gofynion ymgeisio
Lefel Mynediad
Tystysgrifau, Dyfarniadau a Diplomâu Lefel Mynediad
Ddim yn berthnasol Dim gofyn am gymwysterau
Lefel 1 Tystysgrifau, Dyfarniadau a Diplomâu Lefel 1
TGAU (D-G) 2 TGAU Gradd D-G neu’n uwch
Lefel 2 Tystysgrif Lefel 2 1 TGAU (A*-C) 4 TGAU Gradd D neu’n uwch (yn ddelfrydol yn cynnwys mathemateg neu Gymraeg/Saesneg) neu gymhwyster Lefel 1 perthnasol
Tystysgrif Estynedig Lefel 2 2 TGAU (A*-C)
Diploma Lefel 2 4 TGAU (A*-C)
Lefel 3 Safon Uwch a Safon UG 5 TGAU Gradd C neu’n uwch (gan gynnwys Cymraeg/Saesneg) neu gymhwyster Lefel 2 perthnasol
Tystysgrif Lefel 3 1 Lefel AS
Diploma Cyfrannol Lefel 3 1 Lefel A
Diploma Lefel 3 2 Lefel A
Diploma Estynedig Lefel 3 3 Lefel A
Canllaw i gymwysterauCanllaw yn unig yw hwn gan ein bod yn ystyried pob cais ar wahân a byddwn yn trafod eich cymwysterau pan fyddwch yn gwneud cais.
Ffyrdd eraill o ddysgu
Os nad yw astudio’n llawn amser yn cyd-fynd â’ch ymrwymiadau neu’n diwallu eich anghenion, rydym hefyd yn cynnig cyrsiau yn y meysydd canlynol:
Addysg Uwch Cyrsiau lefel Prifysgol
Cyrsiau Rhan Amser/Gyda’r Nos
Canolfannau Dysgu TG (Cwmbrân a Threfynwy)
Learndirect
Busnes ar y Blaen Hyfforddiant i fusnesau
... mae’n bwysig iawn eich bod yn dewis cwrs sy’n cyd-fynd â’ch amcanion ar gyfer y dyfodol, a’ch lefel o sgiliau presennol.
Can
llaw L
lawn
Am
ser 2
014
-15
Ewch i coleggwent.ac.uk Dilynwch ni: 76
GWYCHADDYSG WYCHDYFODOL GWYCH
DEWIS
GALLWCH ASTUDIO AR GYFER SAFON UWCH YM MHARTH DYSGU BLAENAU GWENT, CAMPWS CROSSKEYS A CHAMPWS DINAS CASNEWYDD
Mae ein hamrywiaeth helaeth o gyrsiau galwedigaeth yn rhoi sgiliau ymarferol i chi yn ogystal â chymwysterau i gael mynediad i’ch dewis ddiwydiant, a gall Diplomâu Estynedig hefyd warantu lle i chi yn y brifysgol.
Dyma gipolwg o’n llwyddiant galwedigaethol ar gyfer 2012/13:
— Llwyddodd 93% o’n myfyrwyr Diploma Estynedig yn eu cwrs - 3.5% yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol
— Cyflawnodd 180 o fyfyrwyr (28%) Diploma Estynedig Anrhydedd driphlyg - sy’n gyfwerth â 3 gradd A Safon Uwch
— Cyflawnodd 334 o fyfyrwyr (52%) Diploma Estynedig o leiaf un Anrhydedd
— Y gyfradd lwyddo ar Lefel 2 yw 90%
— Y gyfradd lwyddo ar Lefel 1 yw 92.5% – 1.5% yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol
CYRSIAU GALWEDIGAETHOL
YN 2012/13:
Cafwyd cyfradd lwyddo gyffredinol o 98%
o raddau A*/A
Cafwyd cyfradd lwyddo o 100% mewn 36 o bynciau
98%
170
1O0%
EWCH I’R AFAEL Â
SWYDD GO IAWNRhowch eich sgiliau newydd ar waith yn eich gweithle, a dewch i’r coleg, am ddiwrnod yr wythnos fel arfer.
CYMHWYSTER GO IAWN Cymhwyster cenedlaethol a gydnabyddir gan gyflogwyr ledled y byd.
CYFLOG GO IAWNYn ogystal â phrofiad yn y diwydiant, sgiliau gweithle a chymwysterau, cewch eich talu hefyd!
DYFODOL GO IAWNMae 85% o Brentisiaid yn aros mewn cyflogaeth ar ôl cyflawni eu Prentisiaeth ac mae 32% yn cael dyrchafiad o fewn 12 mis o’i gorffen.
Yma yng Ngholeg Gwent, gallwch wneud Prentisiaethau ym maes:
— Adeiladu
— Peirianneg
— Trin Gwallt
— Lletygarwch
I gael rhagor o wybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael yn y meysydd uchod, ewch i www.coleggwent.ac.uk/apprenticeships
Mae 85% o Brentisiaid yn aros mewn cyflogaeth
85%
ENILLWCH TRA BYDDWCH YNDYSGU
PRENTISIAETHAU
Rydym yn gwybod nad yw dysgu llawn amser yn addas i bawb. Os byddai’n well gennych fynd yn syth i gyflogaeth ond eich bod am gael cymwysterau ochr yn ochr â’ch sgiliau a’ch profiad newydd, yna gallai Prentisiaeth fod yn ddewis i chi.
Can
llaw L
lawn
Am
ser 2
014
-15
Fel un o’r colegau mwyaf yng Nghymru, mae Coleg Gwent yn cynnig amrywiaeth lawn o bynciau Safon Uwch er mwyn i chi allu dewis y cyfuniad cywir er mwyn cyrraedd eich nod.
Ewch i coleggwent.ac.uk Dilynwch ni: 98
— Rydym yn gweithio i ddarparu gwasanaeth ehangach i’n siaradwyr Cymraeg.
— Cymraeg - Eich iaith. Eich dewis. Eich ffordd. Gallwch chi benderfynu sut i’w defnyddio.
— Mae cyfleoedd ar bob campws drwy’r 14 o gyrsiau llawn amser sy’n cynnig modiwlau dwyieithog penodol.
— Defnyddiwch sgiliau iaith Cymraeg a Saesneg drwy gydol eich cwrs er mwyn datblygu’r ddwy iaith i safon broffesiynol.
— Mae tiwtor sy’n siarad yn arwain gwersi rhai o’ch modiwlau ar ein cyrsiau dwyieithog.
— Darperir adnoddau yn Gymraeg ar gyfer pob modiwl dwyieithog.
— Mae cymorth ar gael i ddefnyddio’r Gymraeg yn eich aseiniadau a’ch gwaith cwrs.
— Mae gan bob dysgwr yr opsiwn i ysgrifennu aseiniadau a sefyll aseiniadau ac arholiadau* yn Gymraeg.
Gallwch drafod eich anghenion unigol yn ystod y broses gwneud cais.
*dim ond pan fydd y Bwrdd Arholi yn darparu papurau arholiad yn Gymraeg.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.coleggwent.ac.uk/cymrycg
Gweithio gyda’n gilydd i barchu eich dewis i ddefnyddio’r Gymraeg
Yng Ngholeg Gwent, mae astudio ond yn rhan o’r stori - byddwch yn dod yn rhan o gymuned gyfeillgar y coleg.
Undeb Myfyrwyr Coleg GwentYn ogystal â chynnig cymorth, cyngor ac arweiniad, yr Undeb yw’r lle i fynd i gael lleisio eich barn. Mae Coleg Gwent a’r Undeb yn gweithio’n agos iawn â’i gilydd er mwyn i chi allu dylanwadu ar eich profiad yn y Coleg drwy ein menter Llais y Dysgwr.
Cynrychiolwyr Myfyrwyr Beth am weithredu fel llefarydd i’ch cyd-fyfyrwyr a gweithio gyda rheolwyr y Coleg a’r Undeb i wella eich profiad yn y coleg.
Digwyddiadau a ChystadlaethauCewch eich annog i gymryd rhan mewn digwyddiadau a chystadlaethau, yn lleol ac yn genedlaethol.
Gwirfoddoli a Chodi ArianRydym yn cynnal digwyddiadau codi arian fel sioeau ffasiwn gwallt a harddwch ac yn gweithio gyda sefydliadau gwirfoddoli os hoffech roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned leol – ac mae’n edrych yn wych ar eich CV!
Timau chwaraeonP’un a ydych yn seren ar y cae chwarae sydd eisoes yn cystadlu ar lefel elît neu’n chwaraewr brwd sydd eisiau cael hwyl tra’n cadw’n heini ac yn iach, rydym yn cynnig llu o weithgareddau chwaraeon.
GWNEWCH Y GORAU
O’CH PROFIAD CHI YN Y
COLEG
CYMERWCH RAN
CYMORTH - YN YR YSTAFELL DDOSBARTH A’R TU ALLAN IDDI
Tiwtoriaid personol – hyfforddwr dysgu penodedig er mwyn eich helpu i bennu a chyrraedd targedau i’ch helpu i lwyddo yn eich cwrs.
Cymorth dysgu – cymorth arbenigol i’r rheini sydd â nam ar eu clyw, anawsterau dysgu a/neu anableddau.
Adnoddau dysgu – casgliad enfawr o lyfrau, cyfnodolion, adnoddau ar-lein a’r technolegau dysgu diweddaraf.
Ceisiadau i’r brifysgol – er mwyn sicrhau eich bod yn gwneud cais mewn pryd ac ar gyfer y cwrs cywir.
Gyrfaoedd a chyflogadwyedd – i’ch helpu gyda’ch CV, ceisiadau am swyddi a chyngor ar yrfaoedd
Materion ariannol – cyngor ar grantiau a benthyciadau (gan gynnwys y Lwfans Cynhaliaeth Addysg) i ysgafnhau’r baich er mwyn i chi allu canolbwyntio ar eich astudiaethau – ewch i www.coleggwent.ac.uk/money am ragor o wybodaeth.
Lles – gwasanaethau cwnsela, caplaniaeth a chymorth iechyd a lles. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.coleggwent.ac.uk/support
Mae gan ein myfyrwyr y sgiliau: Anogir pob un o’n myfyrwyr i gyrraedd eu llawn botensial; mae cystadlaethau sgiliau yn ffordd wych o lywio rhagoriaeth ac mae’n deg dweud bod ein myfyrwyr yn llawn ymrwymiad.
Rydym yn hynod falch o’n myfyrwyr. Mae pob un ohonynt yn wahanol i’w gilydd ac mae ganddynt dalent, brwdfrydedd ac ymroddiad heb ei ail. Mae ein Seremoni Gwobrwyo Myfyrwyr flynyddol yn gyfle i ni ddathlu hyn i gyd - mae’n ddigwyddiad gwych!
Gwobrau a Chyflawniadau Myfyrwyr
LLWYDDIANT MEWN CYSTADLAETHAU
Tîm o fyfyrwyr Busnes, enillwyr rownd derfynol genedlaethol y Big Pitch
Prentis Nicholas Relph, Gwobr Arian yn rownd derfynol genedlaethol SkillELECTRIC Cymru
Enillydd Prentis Trydanol Cenedlaethol Sparks y Flwyddyn, Ryan Cartwright
>
>
>
>
>
Tîm o fyfyrwyr AAT, a gyrhaeddodd rownd derfynol cystadleuaeth Technegwyr Cyfrifyddu Sgiliau y DU ym mis Tachwedd 2013
Jodie Amner, enillydd categori colur ffantasi yn Salon Cymru
Tracey yw athro’r flwyddynEnillodd y Darlithydd Tracey Waterhouse wobr Athro’r Flwyddyn yng ngwobrau clodwiw Colegau Cymru yn 2012. Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod yr athro gorau yng Nghymru yn rhan o’r tîm cyfeillgar yn y Parth Dysgu.
Dyma ein llwyddiannau diweddaraf:
Can
llaw L
lawn
Am
ser 2
014
-15
Rydym yn falch o’r hyn y mae ein myfyrwyr wedi ei gyflawni a gyda llu o enillwyr cystadlaethau a gwobrau yn ein plith, mae gennym dipyn i ymfalchïo ynddo!
Coleg LLWYDDIANNUS
Ewch i coleggwent.ac.uk Dilynwch ni: 1110
LLWYBR BOs nad ydych yn astudio yn yr ysgolion uchod ar hyn o bryd, dylech ddilyn y llwybr hwn:
Unwaith y byddwch wedi penderfynu pa gwrs yr hoffech ei astudio, mae’n hawdd gwneud cais.
AR-LEIN: visit www.coleggwent.ac.uk/apply
FFÔN: ffoniwch 01495 333777 am ffurflen gais
MEWN PERSON: yn unrhyw un o’n pum campws
Sesiwn Cyngor ac Arweiniad — Cewch wahoddiad i fynychu Sesiwn Cyngor ac Arweiniad lle y byddwch yn cael cynnig ar gyfer eich dewis gwrs. Cynhelir y sesiwn ar ôl 4pm er mwyn cyd-fynd â’ch ymrwymiadau yn yr ysgol.
LLWYBR AOs ydych ym Mlwyddyn 11 ar hyn o bryd yn unrhyw un o’r ysgolion canlynol, byddwn yn dod i’ch ysgol i siarad â chi am y Coleg ac yn eich helpu i ddewis eich cwrs. Byddwn yn eich helpu i gwblhau eich cais ac yn trefnu amser i chi ddod i weld y campws rydych am astudio ynddo.
Ysgol Gyfun Abertyleri
Ysgol Gyfun y Coed Duon
Ysgol Sylfaen Brynmawr
Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr
Ysgol Gyfun Trecelyn
Ysgol Gyfun Oakdale
Ysgol Gyfun Pontllanfraith
Ysgol Gyfun Rhisga
Ysgol Gyfun Tredegar
GWNEUD CAIS
Unwaith y byddwch wedi darllen y canllaw hwn, ewch i’n gwefan — www.coleggwent.ac.uk — lle y byddwch yn gweld llawer mwy o wybodaeth am ein cyrsiau ac opsiynau gyrfa. Efallai y byddwch hefyd am ddod i un o’n Digwyddiadau Agored — mae’r manylion y tu mewn i glawr y canllaw hwn. Os hoffech drafod eich opsiynau ymhellach, mae ein tîm Derbyn yma i’ch helpu ac mae croeso i chi gysylltu â ni:01495 333777 [email protected]
Unwaith y byddwch yn gwybod pa gwrs yr hoffech ei wneud, gallwch wneud cais mewn dwy ffordd:
COFRESTRU
Fel rhiant/gofalwr, gwyddom eich bod eisiau’r gorau i’ch mab neu i’ch merch. Fel un o’r unigolion allweddol sy’n gwneud penderfyniadau yn eu bywydau, rydym wedi ceisio mynd i’r afael â rhai o’r cwestiynau a allai fod gennych am astudio gyda ni.
Q Pam y dylai fy mab/merch astudio yng Ngholeg Gwent?
Mae Coleg Gwent yn un o’r colegau mwyaf o ran maint a’r mwyaf llwyddiannus yng Nghymru, ac ni yw eich Coleg lleol hefyd. Yn ein harolygiad diwethaf gan Estyn (mis Ebrill 2012), roedd ein perfformiad gorau cystal ag unrhyw goleg yng Nghymru. Amlygodd yr arolygiad lawer o gryfderau gan gynnwys:
— Canlyniadau da
— Bod dysgwyr o ardaloedd difreintiedig iawn yn perfformio cystal ag eraill
— Bod myfyrwyr yn teimlo’n ddiogel ac yn cael gofal, arweiniad a chymorth da
Q Pa gyfleoedd rydych yn eu cynnig?
Rydym yn ymrwymedig i fagu hyder ac uchelgais pobl ifanc, ac mae gweithgareddau allgyrsiol yn ffordd wych o wneud hyn. Felly, ochr yn ochr â’r cwrs, bydd eich mab/merch yn gallu cymryd rhan mewn chwaraeon a chyfleoedd i godi arian a gwirfoddoli. Mae hyn yn rhoi sgiliau bywyd a gwaith i bobl ifanc, yn eu helpu i gwrdd â phobl newydd ac yn edrych yn wych ar eu CV.
Q Pwy fydd yn ‘cadw golwg’ ar fy mab/merch tra y bydd yn y Coleg?
Diogelwch a lles myfyrwyr yw ein blaenoriaeth bennaf. Mae pob aelod o staff yn cael hyfforddiant diogelu ac mae ein rhwydwaith cymorth helaeth yn sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn cael mynediad i wasanaethau cymorth sy’n diwallu eu hanghenion unigol. Mae ein system ddisgyblu yn sicrhau yr ymdrinnir ag unrhyw broblemau yn effeithiol ac yn brydlon er mwyn cynnal ein safonau ymddygiad uchel.
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.coleggwent.ac.uk/parents
Cewch ragor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael ar y tudalennau nesaf. Cewch restri â manylion llawn am y cyrsiau ar www.coleggwent.ac.uk
Sut i Wneud
Cais
LLWYBR A: Ymweliadau ag ysgolion
Diwrnod Croesawu — Cynhelir y diwrnod hwn ar ddechrau mis Gorffennaf neu yn ystod mis Awst os na allwch ddod neu os byddwch yn gwneud cais dros yr haf. Byddwch yn cwrdd â staff a chyd-fyfyrwyr a chael cyflwyniad i’ch campws. Cewch wybod hefyd pryd y bydd angen i chi ddod i mewn a chofrestru.
Mae merch Stuart Ford, Isobel, yn yr ail flwyddyn
yn astudio cyrsiau Safon Uwch yng Ngholeg Gwent:
“Roeddwn am sicrhau’r profiad dysgu gorau posibl i’m merch, Isobel. Mae safon yr
addysgu Safon Uwch yn rhagorol ac mae’r cymorth a roddir gan diwtoriaid
yn eithriadol. Mae astudio yng Ngholeg Gwent wedi rhoi cyfle rhagorol i Isobel
symud ymlaen i’r Brifysgol.”
GWYBODAETH AM GYRSIAU
GWYBODAETH I RIENI /GOFALWYR
Q Fel rhiant, sut y gallaf gymryd rhan?
Rydym yn monitro cynnydd a phresenoldeb pob myfyriwr llawn amser drwy gynlluniau dysgu unigol electronig (CDUe) a ddefnyddiwn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar nosweithiau rhieni ac adroddiadau rheolaidd. Rydym yn annog myfyrwyr i rannu mynediad i’w cynlluniau drwy eu CDUe, ond os bydd gennych unrhyw bryderon, mae croeso i chi gysylltu â Thiwtoriaid Personol, Pennaeth Ysgol neu Bennaeth Gwasanaethau Dysgwyr eich mab neu ferch. Bydd Gwasanaethau Dysgwyr yn fwy na pharod i roi unrhyw fanylion cyswllt i chi.
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau o hyd, mae croeso i chi gysylltu â Gwasanaethau Dysgwyr yn y campws ar y rhifau isod – rydym yn awyddus i sicrhau bod amser eich mab/merch yn y coleg yn mynd rhagddo’n ddidrafferth ac yn rhoi’r sgiliau sy’n eu galluogi i gymryd eu cam nesaf.
— Parth Dysgu Blaenau Gwent 01495 333000
— Dinas Casnewydd 01633 466175
— Crosskeys 01495 333390
— Pont-y-pwl 01495 333345
— Brynbuga 01495 333639
Can
llaw L
lawn
Am
ser 2
014
-15
Ewch i coleggwent.ac.uk Dilynwch ni: 1312