Bwyd er mwyn ein Dyfodol - Organic Centre Wales · 2014. 12. 29. · cynhyrchu bwyd organig da, ac...

4
Ffermio gyda Pobl Bwyd er mwyn ein Dyfodol

Transcript of Bwyd er mwyn ein Dyfodol - Organic Centre Wales · 2014. 12. 29. · cynhyrchu bwyd organig da, ac...

Page 1: Bwyd er mwyn ein Dyfodol - Organic Centre Wales · 2014. 12. 29. · cynhyrchu bwyd organig da, ac mae hynny’n rhoi hwb go iawn i ni.” Bwyd er mwyn ein Dyfodol: Ffermio gyda Pobl

Ffermio gyda Pobl

Bwyd er mwynein Dyfodol

Page 2: Bwyd er mwyn ein Dyfodol - Organic Centre Wales · 2014. 12. 29. · cynhyrchu bwyd organig da, ac mae hynny’n rhoi hwb go iawn i ni.” Bwyd er mwyn ein Dyfodol: Ffermio gyda Pobl

Gardd Farchnad Rhos, Trefyclo, Mick ac Alice WestripSymudodd Mick ac Alice i Drefyclo i sefydlu Gardd Farchnad Rhos tua pedair blynedd yn ôl.Maen nhw’n gwerthu eu cynnyrch ar stondinau marchnad amrywiol yn yr ardal, ond roeddennhw hefyd yn awyddus i feithrin cysylltiadau agosach â’r gymuned. Dyma nhw’n taro ar ysyniad o werthu talebau llysiau - ‘veg vouchers’ -a ellir eu cyfnewid ar eu stondin trwy gydol yflwyddyn. Er nad oes disgwyl i’w cwsmeriaid iweithio ar y fferm, mae Mick ac Alice wedidarganfod fod pobl nid yn unig am roi help llawgyda’r chwynnu ac yn y blaen, ond gydamarchnata a hyd yn oed ddosbarthu’r cynnyrch.Maen nhw’n ceisio trefnu digwyddiadaucymdeithasol ar gyfer eu haelodau fel boreaucoffi a barbeciws er mwyn dod â phawb at ei gilydd ac yn syml i ddweud “diolch”.

Dywedodd Mick “Mae ein cynllun ni yn un syml iawn, ac mae’n cymuned leol yn ein cefnogini trwy brynu ein cynnyrch ymlaen llaw. Mae hynny’n rhoi marchnad sicr i ni ac yn rhoi arianyn ein pocedi ar ddechrau’r tymor pan fo rhaid i ni brynu’r holl hadau, compostau amewnbynnau eraill. Mae pobl am ein cefnogi ni oherwydd ein bod ni’n fusnes bach lleol, sy’ncynhyrchu bwyd organig da, ac mae hynny’n rhoi hwb go iawn i ni.”

Bwyd er mwyn ein Dyfodol: Ffermio gyda Pobl Pobl leol yn dangos eu hymrwymiad i gynhyrchwyr lleol sydd wrth wraidd y syniad o Ffermiogyda Pobl. Gall y weithred fod mor syml â chytuno i brynu cynnyrch trwy gydol y flwyddyn, neui ddarparu llafur ar y fferm neu helpu gyda gweinyddu a marchnata. Mae pob prosiect ynwahanol, ond mae pob un yn bartneriaeth rhwng cynhyrchwyr bwyd a’u cymunedau ble mae’rcyfrifoldebau, y risgiau a’r enillion yn cael eu rhannu.

Pwy sy’n elwa? Pawb! Fel aelod o’r gymuned cewch fwynhau bwydydd lleol ffres am brisiauteg. Mae’r mwyafrif o brosiectau yn cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy gyda nifer ohonyn nhwwedi eu sefydlu ar ffermydd organig ardystiedig, felly dyma un ffordd o gael bwydydd organigardderchog am brisiau fforddiadwy. Fe ddywed unrhyw un sy’n gysylltiedig â Ffermio gydaPobl wrthych chi hefyd fod hyn am fwy na bwyd. Mae’n gyfle i gyfarfod pobl newydd, i ddysgusgiliau newydd ac i gryfhau eich cysylltiadau â’ch cymuned; ac mewn gair, i gael tipyn o ‘hwyl’.Yn y cyfamser mae cynhyrchwyr bwyd yn elwa o incwm mwy sicr, prisiau tecach ac ymwneudagosach â’u cymunedau lleol a chyda’u cwsmeriaid.

Sut mae’n gweithio? Mae pob prosiect wedi ei sefydlu’n wahanol; mae’r cwbl yn dibynnu arbeth sy’n gweithio i aelodau’r gymuned ac i’r cynhyrchwyr. Mae’r daflen hon yn adrodd hanestri grwp, a sut y bu iddyn nhw roi egwyddorion Ffermio gyda Pobl ar waith, ac mewn ffyrddcwbl wahanol i’w gilydd.

Ewch ati: Am ymuno â grwp Ffermio gyda Pobl, neu am ddechrau prosiect eich hunan,neu ddod o hyd i ragor o wybodaeth, cysylltwch â:Tony Little Canolfan Organig Cymru ([email protected]; 01970 622248)Rupert Dunn Federation of City Farms & Community Gardens([email protected] 01834 869927)ac ewch iwww.soilassociation.org/communitysupportedagriculture

Page 3: Bwyd er mwyn ein Dyfodol - Organic Centre Wales · 2014. 12. 29. · cynhyrchu bwyd organig da, ac mae hynny’n rhoi hwb go iawn i ni.” Bwyd er mwyn ein Dyfodol: Ffermio gyda Pobl

Cymuned Ffermio gyda Pobl, Caerhys, Tyddewi, Sir BenfroDechreuodd Cymuned Ffermio gyda Pobl Caerhys (COCA) yn 2010 pan benderfynoddGerald Miles, sy’n rhedeg Fferm Organig Caerhys ger Tyddewi, wneud pethau yn wahanol.“Sefydlu CSA ar y fferm yw’r prosiect gorau i ni ei wneud erioed; mae e’ wedi creu ysbrydcymunedol ar y fferm a rhoi sylfaen i’n fferm fach deuluol,” meddai Gerald.

Mae’r cynllun yn cael ei weithredu gan grwp craidd sy’n cynnwys aelodau o’r grwpcymunedol a chynhyrchwyr. Mae’r fferm yn cynhyrchu llysiau, ffrwythau, blodau a pherlysiauar gyfer yr aelodau gyda llaeth, caws, cig ac wyau yn cael eu prynu i mewn o ffermyddorganig cyfagos. Mae gan y prosiect 40 o aelodauerbyn hyn, a gobaith y grwp yw cyrraedd 70 afyddai’n cynhyrchu digon i dalu cyflog llawn amseri Caz, mab Gerald, i ofalu am yr holl dyfu.

Codir tâl blynyddol pitw i helpu gyda’r costaugweinyddol. Ar ben hynny, mae aelodau yn talutanysgrifiad misol sy’n prynu cyfran o’r hyn sy’ncael ei gynaeafu bob wythnos drwy gydol yflwyddyn. Nid yw’n ofyniad i wirfoddoli, ond maeGerald yn hoffi cynnwys aelodau ym mywyd yfferm, p’un ai i blannu winwns, i gasglu moron neudim ond galw i lawr am baned o de a sgwrs. Maediwrnodau agored rheolaidd a digwyddiadaucymdeithasol yn meithrin ymdeimlad o gymuned achysylltiad â’r tir. Dywedodd Robert Dunn, aelod o’rGymuned, “Mae COCA wedi dod â mi yn agosach ify nghymuned i; mae’n rhoi cyfle i fi i wneud fy rhan,i gael pridd dan fy ewinedd a gwneud ffrindiau ar yrun pryd. Heb COCA yn Nhyddewi byddai fy mywydond hanner yr hyn yw e’; mae ein CSA yn cynnigansawdd bywyd gwych ac rwy’n falch i fod yn rhanohono.”

Page 4: Bwyd er mwyn ein Dyfodol - Organic Centre Wales · 2014. 12. 29. · cynhyrchu bwyd organig da, ac mae hynny’n rhoi hwb go iawn i ni.” Bwyd er mwyn ein Dyfodol: Ffermio gyda Pobl

09/2012

Flintshare, Yr Wyddgrug, Sir y FflintMenter gymdeithasol a weinyddir gan y gymuned yw FlintShare sy’n amcanu i gynhyrchubwyd lleol cynaliadwy ffres ar gyfer ei haelodau, ac a ddaeth i fod pan ddaeth grwp o bobllleol at ei gilydd i gynhychu eu bwydydd eu hunain. Maen nhw bellach yn rhedeg rhwydwaitho safleoedd tyfu cymunedol bychain ar draws Sir y Fflint. Ar hyn o bryd maen nhw’ndibynnu’n llwyr ar wirfoddolwyr o blith yr aelodau i wneud y gwaith, sy’n cynnwys gweinyddu,cyfrifeg, datblygu’r wefan, yn ogystal â thorchi llewys allan yn y caeau. Yn y pen draw, foddbynnag, y nod yw dod o hyd i dyfwr proffesiynol i reoli’r gwaith cynhyrchu.

Ar hyn o bryd mae ganddyn nhw 45 o aelodau, ac mae’r prosiect yn cael ei redeg gan grwpcraidd o saith o bobl ymroddedig iawn. Mae aelodau yn talu ffi blynyddol i dalu am gostaugweinyddu, ac yna os ydyn nhw’n dewis maen nhw’n medru agor ‘cyfrif llysiau’ gyda £25 -mae eu holl lafur yn cynyddu’r balans yn y cyfrif tra bod cymryd cyfran o’r cynnyrch yn lleihauy balans. Fe gaiff yr aelodau eu hatgoffa i gynyddu eu balans gydag arian neu lafur pan fo’ubalans yn disgyn o dan £5. Mae’r system yma yn caniatáu i’r aelodau i fod mor ymarferol,neu beidio, fel y maen nhw’n dewis tra’n gallu cael mynediad i fwydydd lleol ffres. Dyw hynddim am dyfu bwyd yn unig ond am greu cymuned o bobl sy’n rhannu’r un anian gymunedolac sy’n awyddus i ddysgu a mwynhau’r profiad o weithio ar y tir. Mae’r gwyliau a’r dathliadaua drefnir yn rheolaidd yr un mor bwysig â’r cynnyrch.

Yn ôl Nikki Giles a sefydlodd Flintshare, “Rwy’n teimlo’n angerddol y dylai bwydydd lleolsydd wedi eu cynhyrchu yn organig fod ar gael i bobl. Dechrau taith ryfeddol i sicrhau ‘bwydi’r dyfodol’ ar gyfer ein cymuned yw Flintshare. Pobl sydd wrth wraidd pob peth - maennhw’n haeddu bwydydd lleol da.”

I gael gwybod mwy, Ysgrifennwch at: Canolfan Organig Cymru, IBERS, Prifysgol Aberystwyth, SY23 3EEE-bost: [email protected] â ni ar-lein ar: www.organiccentrewales.org.ukNeu ffoniwch y Prosiect BOBL dan ofal Canolfan Organig Cymru: Ffôn: 01970 622248Dewch â thamaid o organig i’ch bywyd. Am wybodaeth am fwyd a ffermio organig, ynghyd â syniadau

ar gyfer ryseitiau, cystadlaethau a mwy, ewch at ein tudalen Gweplyfr ar:www.facebook.com/organiccentrewalesDilynwch ni ar trydar: #@organiccymru