Beth oedd hanes sefydlu Squirrel’s Nest?...â chanser y prostad. Roedd Cymorth Canser Macmillan...

4
Beth oedd hanes sefydlu Squirrel’s Nest? Don: Mae Alan a minnau yn ddau o’r sylfaenwyr. Roeddem yn arfer bod yn beirianyddion. Roeddem yn rhan o gynllun blaenorol oedd yn darparu gofod i ddynion weithio gyda’i gilydd. Pan ddaeth hynny i ben, bu i ni sefydlu Squirrel’s Nest, ac o hynny rydym wedi adeiladu’r lle yma. Walter: Rwyf wedi bod yn rhan o hyn ers tua phedair blynedd. Cefais fy niagnosio â chanser y prostad. Roedd Cymorth Canser Macmillan wedi bod yn gweithio â Squirrel’s Nest. Roeddent yn argymell fy mod yn dod yma i weld a fyddai unrhyw un yn barod i siarad am eu profiadau â chanser y prostad. Un o fy niddordebau yw gwaith coed, ac un o’r pethau yr wyf wedi bod eisiau ei wneud erioed, ond heb gael y cyfle, yw troi coed. Gwelais fod ganddyn nhw bedwar turn yma. Roeddwn yn meddwl fy mod wedi cyrraedd y nefoedd! Rwyf wedi bod yn ymwneud â’r prosiect ers hynny, ac mae yna gwmni gwych i’w gael yma. Mae Alan, Don a Walter yn aelodau o Squirrel’s Nest, sef Men’s Shed yn Nhondu, Pen-y- bont ar Ogwr. “Nid ydym eisiau eistedd a gwylio’r teledu drwy’r dydd. Rydym eisiau gwneud pethau. Mae angen i ni fod yn actif.”

Transcript of Beth oedd hanes sefydlu Squirrel’s Nest?...â chanser y prostad. Roedd Cymorth Canser Macmillan...

Page 1: Beth oedd hanes sefydlu Squirrel’s Nest?...â chanser y prostad. Roedd Cymorth Canser Macmillan wedi bod yn gweithio â Squirrel’s Nest. Roeddent yn argymell fy mod yn dod yma

Beth oedd hanes sefydlu Squirrel’s Nest?Don: Mae Alan a minnau yn ddau o’r sylfaenwyr. Roeddem yn arfer bod yn beirianyddion. Roeddem yn rhan o gynllun blaenorol oedd yn darparu gofod i ddynion weithio gyda’i gilydd. Pan ddaeth hynny i ben, bu i ni sefydlu Squirrel’s Nest, ac o hynny rydym wedi adeiladu’r lle yma.

Walter: Rwyf wedi bod yn rhan o hyn ers tua phedair blynedd. Cefais fy niagnosio â chanser y prostad. Roedd Cymorth Canser Macmillan wedi bod yn gweithio â Squirrel’s Nest. Roeddent yn argymell fy mod yn dod yma i weld a fyddai unrhyw un yn barod i siarad am eu profiadau â chanser y prostad. Un o fy niddordebau yw gwaith coed, ac un o’r pethau yr wyf wedi bod eisiau ei wneud erioed, ond heb gael y cyfle, yw troi coed. Gwelais fod ganddyn nhw bedwar turn yma. Roeddwn yn meddwl fy mod wedi cyrraedd y nefoedd! Rwyf wedi bod yn ymwneud â’r prosiect ers hynny, ac mae yna gwmni gwych i’w gael yma.

Mae Alan, Don a Walter yn aelodau o Squirrel’s Nest, sef Men’s Shed yn Nhondu, Pen-y-bont ar Ogwr.

“Nid ydym eisiau eistedd a gwylio’r teledu drwy’r dydd. Rydym eisiau gwneud pethau. Mae angen i ni fod yn actif.”

Page 2: Beth oedd hanes sefydlu Squirrel’s Nest?...â chanser y prostad. Roedd Cymorth Canser Macmillan wedi bod yn gweithio â Squirrel’s Nest. Roeddent yn argymell fy mod yn dod yma

Pa fath o bethau ydych chi yn eu gwneud yma?Rydym yn barod i roi cynnig ar unrhyw beth. Mae’r rhan fwyaf o’r pethau yr ydym yn eu cynhyrchu yn deillio o geisiadau. Mae rhywun yn gofyn i ni wneud rhywbeth, a byddwn yn ei ddylunio, yn ei gynhyrchu, ac yna yn ei werthu. Rydym yn defnyddio unrhyw arian sy’n cael ei godi er mwyn cynnal y prosiect.

Mae gennym gymaint o gymysgedd o sgiliau a phrofiad yma, ac mae hynny yn ein galluogi i roi cynnig ar unrhyw beth bron. Mae gan bawb rywbeth i’w gynnig, ac mae’r holl sgiliau yma yn ategu ei gilydd.

Rydym bob amser yn hapus i roi cynnig ar rywbeth newydd. Daeth Athro o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd i’n gweld, a bu i ni weithio gyda hi ar ddyluniad mwg pren i bobl â dementia. Mae gan y mwg dri chylch sy’n troi o gwmpas y tu allan. Mae’n gyffyrddol iawn, ac mae’n rhoi rhywbeth i bobl ei wneud gyda’u dwylo.

Un o’r pethau mwyaf poblogaidd yr ydym yn ei wneud yw addurniadau Nadolig, y byddwn yn eu gwerthu yn y farchnad leol. Bu i ni ddechrau drwy greu modelau coed elfennol iawn, ond erbyn hyn mae yna ddwy ddynes sydd yn dod yma. Maen nhw wedi dechrau eu haddurno, ac mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth mawr. Maen nhw’n wirioneddol hardd nawr, a chyn belled ag y byddwn yn eu cynhyrchu, byddant yn gwerthu.

Sut y bu i chi ddechrau creu offerynnau cerddorol?Roedd yna ŵr oedd yn dod yma oedd yn chwarae’r iwcalili. Bu i hynny greu diddordeb yn yr offeryn mewn rhai ohonom. Bu i ni ddarganfod y gallech archebu pecynnau ar-lein er mwyn eu creu. Bu i ni archebu un i roi cynnig arni, a dyna oedd dechrau pethau. Bu i ni archebu mwy o becynnau, a dechrau adeiladu iwcalilis.

Daeth Age Cymru i wybod am hynny ac roeddent yn gefnogol iawn. Ar y cyd â Men’s Sheds Cymru, bu iddynt sefydlu cystadleuaeth “Pimp My Uke”. Anfonwyd pecynnau i Siediau ar hyd a lled Cymru, ac anogwyd pobl i adeiladu ac addurno iwcalilis. Trefnodd Age Cymru i athrawon ddod i ddangos i bobl sut oedd chwarae’r offerynnau a grëwyd ganddynt.

Page 3: Beth oedd hanes sefydlu Squirrel’s Nest?...â chanser y prostad. Roedd Cymorth Canser Macmillan wedi bod yn gweithio â Squirrel’s Nest. Roeddent yn argymell fy mod yn dod yma

Bu i lawer o bobl gymryd rhan. Roedd rhai o’r offerynnau a grëwyd yn rhagorol. Roedd pobl yn greadigol iawn, a sbardunodd hynny natur gystadleuol y Siediau. Yn y diwedd bu i ni gael arddangosfa a chyngerdd yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd! Daeth dynion o wahanol Siediau o bob cwr o Gymru i Gaerdydd i gyd-chwarae. Nid oedd y rhan fwyaf erioed wedi perfformio’n gyhoeddus o’r blaen. Roedd yn rhyfeddol.

I nifer ohonom, roedd yn gyflwyniad i gerddoriaeth. Mae rhai ohonom yn dal i chwarae, naill ai adref neu gyda phobl o Siediau eraill.

Ers hynny, rydym wedi symud ymlaen i greu gitarau a dwlsimerau. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar y trydydd neu’r pedwerydd fersiwn o’r dwlsimerau. Rydym yn dechrau creu rhai trydanol gyda chipynnau y tu mewn iddynt.

Pa wahaniaeth mae’r Squirrel’s Nest yn ei wneud i bobl?Mae pobl yn dweud wrthych yn blwmp ac yn blaen - oni bai am y lle yma, ni fydden nhw yma. Yn achos llawer o’r bobl yma, oni bai am y Squirrel’s Nest, byddent yn treulio eu holl amser ar eu pennau eu hunain.

Mae’n lle ble gallwch ddod i gysylltiad â phobl yn eich amser eich hun. Mae’n grŵp o bobl y gallwch ddod i siarad â nhw pan ydych eisiau neu angen gwneud hynny. Rydych yn cael sgwrs, rydych yn gwneud pethau, ac yn cael ychydig o hwyl. I nifer ohonom, mae wedi dod yn rhan fawr o’n bywydau.

Page 4: Beth oedd hanes sefydlu Squirrel’s Nest?...â chanser y prostad. Roedd Cymorth Canser Macmillan wedi bod yn gweithio â Squirrel’s Nest. Roeddent yn argymell fy mod yn dod yma

Mae bod yn rhan o’r Squirrel’s Nest y golygu eich bod yn dal i ddysgu ac mae’n eich cadw’n actif, yn gorfforol, meddyliol a chymdeithasol. Os nad oes gennych ddiddordeb pan fyddwch yn cyrraedd yma, bydd gennych ddiddordeb yn fuan iawn. Nid oes unrhyw reolau yma, rydych yn cael gwneud fel y mynnoch. Mae yna rai pobl yn dod yma i gael paned o de a sgwrs yn unig, ac mae hynny’n berffaith iawn.

Mae gan y rhan fwyaf o’r bobl yma eu problemau a’u heriau eu hunain. Pan fydd pobl yn dechrau dod yma, maent yn tueddu i fod yn dawel iawn. Ar ôl ychydig, maent yn dechrau dod i adnabod pobl, ac yn dechrau jocian a chael hwyl. Mae’n bwysig iawn gadael i bobl gymryd rhan ar eu cyflymder eu hunain. Gall gymryd amser hir i bobl deimlo’n gyfforddus. Maes o law, byddwch yn dechrau siarad am unrhyw broblem sydd gennych.

Alan: Heb hyn, mae’n debyg y byddwn yn gweithio ar bethau ar fy mhen fy hun yn fy ngarej fy hun.

Walter: Cefais gyfle i brynu turn i fy nghartref yn ddiweddar, ond gwrthodais. A hynny yn rhannol oherwydd petai gen i durn adref, ni fyddwn yn dod yma mor aml, ac ni fyddwn yn cael y cwmni.

Don: Roedd yna gyfnod pan oedd gen i ofn bod yn rhan o unrhyw fath o grŵp. Y tro cyntaf i mi ddod yn rhan o hyn, eisteddais yn y car am bron i awr cyn cael y dewrder i gymryd y cam. Rwyf yn teimlo’n hyderus nawr. Mae bod yn rhan o hyn wedi ei gwneud yn haws i mi fynd allan a chymryd rhan mewn pethau eraill.

I gael mwy o wybodaeth am Squirrel’s Nest, ewch i www.facebook.com/SquirrelsNestMS neu ffonio 01656 729 626.I gael mwy o wybodaeth am Men’s Sheds Cymru, ewch i www.mensshedscymru.co.uk e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 01267 225 575.