Araith Lansiad Cynllun Iaith Gymraeg
-
Upload
cerith-rhys-jones -
Category
Documents
-
view
231 -
download
10
description
Transcript of Araith Lansiad Cynllun Iaith Gymraeg
1
Is-ganghellor, gyfeillion.
Diolch o galon am y gwahoddiad caredig i ddod yma heddiw i siarad â chi ar
achlysur lansio Cynllun Iaith Gymraeg newydd Prifysgol Caerdydd, a diolch am y
croeso cynnes hefyd. Mae’n bleser arbennig cael bod yma heddiw oherwydd fod
gen i doc llai na mis ar ôl fel Swyddog Myfyrwyr Cymraeg yr Undeb cyn imi
drosglwyddo’r awenau i Steffan Bryn Jones a fydd yn dechrau ar ei swydd newydd
ef fel Swyddog y Gymraeg yn yr Undeb ddechrau mis Gorffennaf. Gyda bod fy
amser i fel swyddog etholedig yn dirwyn i ben, a chyda fy mod i ddoe wedi cwblhau
asesiad olaf fy ngradd, mae’n wych mai digwyddiad mor gadarnhaol â hwn yw un
o’r pethau swyddogol olaf fydda i’n eu gwneud fel myfyriwr israddedig yma ym
Mhrifysgol Caerdydd.
Ac ydy, mae’r digwyddiad hwn yn gadarnhaol, yn bositif, dros ben. Er nad Caerdydd
yw prifysgol fwyaf Cymru bellach, does dim amheuaeth yn fy meddwl i mai hi yw
prif brifysgol Cymru – yr un sy’n arwain. A ninnau yma ym mhrifddinas y wlad,
mae’n gwbl, gwbl hanfodol ein bod ni yn datgan ac yn cadarnhau ein hymrwymiad
i’r Gymraeg yn ddiamwys. O ran myfyrwyr, a darpar-fyfyrwyr, a’r cyhoedd sy’n byw
yng Nghymru eisoes, mae gwybod fod Prifysgol Caerdydd heddiw yn ail-ddatgan ei
hymrwymiad i ddarparu ac i ddatblygu trwy gyfrwng y Gymraeg yn wych o beth. Ond
yn ogystal â’r rheini, ‘dw i wastad wedi meddwl mai’r Gymraeg yw un o’n unique
selling points ni fel coleg. Fel y gwyddoch, Caerdydd yw’r unig brifysgol yng
2
Nghymru sydd yn aelod o Grŵp Russell. Pan fo myfyrwyr o dramor yn meddwl am
ddod i’r Deyrnas Gyfunol ar gyfer eu haddysg uwch, pa brifysgol arall yng Ngrŵp
Russell – pa brifysgol arall o gwbl – all gynnig addysg o’r radd flaenaf ac ymchwil
sy’n arwain y byd, ac yn ogystal â rheini, iaith a chanddi ganrifoedd ar ganrifoedd o
hanes sydd dal yn fyw ar wefusau ei phobl, a diwylliant cyfoethog ac unigryw? ...
Caerdydd. Mae’r Gymraeg yn rhywbeth i’w dathlu ac i fod yn falch dros ben ohoni.
Wrth gwrs, mae mwy o fyfyrwyr yng Nghaerdydd nad ydyn nhw’n dod o Gymru na
chwaith ydyn nhw’n medru’r Gymraeg. Ond o’r ffigurau diwethaf ‘roedd modd imi
gael gafael arnyn nhw, mae rhyw un ymhob deg myfyriwr yng Nghaerdydd yn
meddu ar ryw sgiliau yn y Gymraeg. O gofio fod ‘da ni bron i 30,000 o fyfyrwyr a
chorff myfyrwyr eang, rhyngwladol, amrywiol, mae hwnnw’n ystadegyn anhygoel,
‘dw i’n meddwl. A hyd yn oed yn fwy anhygoel yw bod traean o’n holl fyfyrwyr sy’n
hanu o Gymru yn meddu ar sgiliau yn y Gymraeg. Traean. Cymharwch hwnna â’r
ffigurau cenedlaethol diwethaf o’r Cyfrifiad yn 2011. Anhygoel. Dylai’r ffigurau
hynny fod hyd yn oed yn fwy o ysgogiad i ni fel sefydliad ail-ddatgan, ail-gadarnhau
ein hymrwymiad i iaith frodorol ein gwlad.
Nawr ‘te, dadl yn seiliedig ar rifau yw honno. Mae ‘da ni lwyth o siaradwyr Cymraeg
felly mi ddylen ni ddarparu ar eu cyfer nhw. Iawn.
3
Ond meddyliwch yn foesol. Mae rhai pobl yn ystyried Caerdydd yn nhermau
rhyngwladol neu Brydeinig yn unig, ac wrth gwrs, mae’n cysylltiadau ni gyda
sefydliadau, ac academyddion, a myfyrwyr mewn llefydd eraill o Baris i Barcelona,
o Gopenhagen i Hong Kong yn hynod o bwysig. Ond, yn ein hanfod, prifysgol
Gymreig yw Caerdydd a dyna pham ro’n i mor falch fod dogfen Y Ffordd Ymlaen yr
Is-ganghellor yn cadarnhau awydd a bwriad ein sefydliad ‘i gyflawni ei
rhwymedigaethau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru a’r
byd.’ Yn ogystal â datblygu’n hunain ar draws y byd, mae ‘da ni rwymedigaethau
adref hefyd. Na choll dy henffordd er dy ffordd newydd, ys dywed yr hen ddihareb.
Yn foesol, mae gyda ni fel sefydliad yng Nghymru ddyletswydd i ddarparu trwy
gyfrwng y Gymraeg, i gofio’n rhwymedigaeth i Gymru, y Gymraeg, a’r diwylliant
Cymreig, ac i sicrhau fod yr hyn ry’n ni’n ei wneud trwy gyfrwng y Gymraeg yn
datblygu ac yn tyfu hefyd.
Mi soniais i funud yn ôl am fy rôl i yn yr Undeb. Yn swyddogol, pwrpas fy swydd i yw
cynrychioli buddiannau ac anghenion pob myfyriwr yng Nghaerdydd sy’n hanu o
Gymru o fewn yr Undeb ac o fewn strwythurau’r brifysgol pan fo hynny’n addas.
Ond ‘dw i wastad wedi profi rhywfaint o drafferth wrth feddwl am sut ‘dw i fod i
gynrychioli buddiannau myfyrwyr sy’n hanu o Gymru nad ydyn nhw’n siarad y
Gymraeg. Os oes ‘da nhw broblem academaidd, mae ‘na Swyddog Addysg i’w
cynrychioli nhw. Os oes ‘da nhw broblem fwy personol, mae ‘na Swyddog Lles i’w
cynrychioli nhw. Ac yn y blaen, ac yn y blaen. Dyna pham es i â chynnig gerbron
4
Cyfarfod Cyffredinol yr Undeb y llynedd i sicrhau mai ‘Swyddog y Gymraeg’ fydd teitl
fy olynydd i, a dyna fydd swydd Steffan pan wna i drosglwyddo’r awenau iddo fe
ddechrau mis nesaf – hynny yw, os fedra i dderbyn fod fy nhair blynedd i yma wedi
dod i ben. Mae gan fyfyrwyr sy’n medru’r Gymraeg neu sydd am fedru’r Gymraeg
fuddiannau ac anghenion arbennig. Ac er fod eitha’ lot ohonyn nhw yma yng
Nghaerdydd, grŵp lleiafrifol ydyn nhw o hyd. Yr hyn y’u gelwir nhw o fewn
strwythurau Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru – UCMC – yw grwpiau neu
ymgyrchoedd rhyddid – liberation campaigns. Pwrpas y rheini, a fy mhwrpas i a’m
cydweithwyr sy’n swyddogion rhan-amser yn yr Undeb, yw rhoi llais i grwpiau sydd
yn draddodiadol wedi bod yn ddi-lais. Dy’n nhw ddim o reidrwydd yn lleiafrifoedd o
ran eu niferoedd ond maen nhw i gyd yn lleiafrifoedd gwleidyddol. A does dim
amheuaeth fod y Gymraeg a siaradwyr y Gymraeg heb fod yn flaenoriaeth
gwleidyddol i lawer o bobl a llawer o sefydliadau ers degawdau.
Ond yn ara’ fach, ‘dw i’n meddwl fod pethau’n dechrau newid. ‘Dw i’n gobeithio.
‘Dw i dweud o’r blaen fod y Gymraeg yn gonglfaen i’n diwylliant ni fel Cymry, ac ry’n
ni i gyd yn gwybod fod y Gymraeg yn perthyn ac yn eiddo i bawb yng Nghymru, boed
yn Gymry Cymraeg neu ddi-Gymraeg. Yn ara’ fach, ‘dw i’n meddwl fod agweddau
pobl yn dechrau newid. A dyna pham, dyna pham ‘dw i’n meddwl fod hi mor, mor
wych ein bod ni yma heddiw yn dathlu ein hymrwymiad ni fel sefydliad i’r Gymraeg.
Prifysgol Caerdydd yw un o sefydliadau pwysicaf, blaenaf Cymru. Mae’r ffaith ein
5
bod ni yma heddiw yn cadarnhau ein hymrwymiad i’r Gymraeg yn symbolaidd ac yn
wych.
Ond mae ‘na her i ni fel sefydliad nawr, yn gwmws yr un modd ag y mae ‘na her iti
Steffan ac i’r Undeb fel sefydliad wrth inni symud ymlaen. Mae cael Polisi
Dwyieithrwydd fel y pasiwyd oherwydd cynnig arall a es i gerbron Cyfarfod
Cyffredinol yr Undeb y llynedd yn wych, ond dim ond dechrau yw hwnna. A rwy’n
gwybod fod ‘da ti Steffan gynlluniau i weithio gyda’r Tîm Rheoli yn yr Undeb, y
Coleg Cymraeg Cenedlaethol, swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, y Brifysgol fel
sefydliad, a rhanddeiliaid eraill yma gan gynnwys, wrth gwrs, ein myfyrwyr, i sicrhau
fod yr hyn ry’n ni’n ei ddweud yn trosglwyddo i fod yn rhywbeth ry’n ni’n ei wneud.
Ac rwy’n edrych ymlaen at weithio ‘da ti ar hwnna ble ma’ modd fel aelod o Fwrdd
Ymddiriedolwyr a Chyfarwyddwyr yr Undeb, a ga i gymryd y cyfle i ddymuno pob
llwyddiant iti gyda’r prosiect hwnnw a chyda dy holl waith fel Swyddog y Gymraeg y
flwyddyn nesaf. Fel mae ‘na her i Steffan, mae ‘na her i’r Brifysgol hefyd. Rhaid i ni
sicrhau fod yr hyn ry’n ni’n ei ddweud yn y Cynllun Iaith hwn yn trosglwyddo i fod yn
rhywbeth ry’n ni’n ei wneud – er lles ein myfyrwyr, er lles ein staff, ac er lles y
gymuned Gymreig ehangach ry’n ni’n rhan ohoni.
Unai a yw rhywun yn meddu ar y Gymraeg neu beidio, yn wir unai a yw rhywun yn
hanu o Gymru neu beidio, mae’r Gymraeg yn rhan o ddisgwrs cenedlaethol ein
gwlad. A fel imi ddweud ynghynt, mae’r Gymraeg yn eiddo ac yn perthyn i bawb yng
6
Nghymru – yn Gymry di-Gymraeg a Chymry Cymraeg, yn Gymry a anwyd yma a
Chymry a anwyd fan arall fel ei gilydd. Hoffwn ganmol y Brifysgol ac yn benodol y
sawl fu’n gweithio ar y Cynllun Iaith newydd hwn ar eu llwyddiant i ddodi ein
hymrwymiad ni i’r Gymraeg ar bapur, mewn du a gwyn clir. Wna i gwpla’r sgwrs
fach hon heddiw trwy ddweud hwn: yn hanesyddol ac yn bresennol, mae Caerdydd
yn sefydliad sy’n arwain, sy’n llwyddo, sy’n arloesi, sy’n disgleirio. ‘Dw i mor falch
ein bod ni heddiw yn cadarnhau nad gwag yw ein hymrwymiad ni i’r Gymraeg, eithr
rhywbeth ry’n ni’n ymfalchïo ynddo fe. Rhywbeth ry’n ni’n ei gymryd o ddifri, ac yn
ei werthfawrogi. Rhywbeth ry’n ni’n mynd i’w wneud gan ein bod ni fel sefydliad yn
derbyn ac yn rhoi gwerth i’r cysyniad o ddarparu ac o ddatblygu trwy gyfrwng y
Gymraeg. Mae hwn yn fan cychwyn, yn ddryll cychwyn os liciwch chi. Dewch i ni
fynd ymlaen o fan hyn nawr, a chofio mai cyfle yw’r iaith Gymraeg, nid baich.
Diolch o galon.