Amser i drafod Hyfforddeiaethau

12
Arbenigwyr Recriwtio Pobl Ifanc www.acttraining.org.uk Hyfforddeiaethau AMSER Mae’n mlwydd oed

description

Mae Hyfforddeiaeth yn raglen hyfforddi wych sy’n paratoi pobl ifanc 16-19 oed ar gyfer y byd gwaith.

Transcript of Amser i drafod Hyfforddeiaethau

Page 1: Amser i drafod Hyfforddeiaethau

Arbenigwyr Recriwtio Pobl Ifanc www.acttraining.org.uk

Hyfforddeiaeth

au

AMSERMae’n

mlwydd

oed

Page 2: Amser i drafod Hyfforddeiaethau

Arbenigwyr Recriwtio Pobl Ifanc

CYNNWYS

Beth yw Hyfforddeiaeth? ...........1Hyfforddeiaethau gydag ACT ...2Eich opsiynau ...........................3Ein 12 llwybr .............................4Rhaglen Yrfa Gyflym ................6Ein canolfannau a’n llwybrau ....7Gwasanaethau Cefnogi ............8

Page 3: Amser i drafod Hyfforddeiaethau

acttraining.org.uk 1

Ar ôl treulio’r rhan fwyaf o’ch amser yn yr ysgol, bydd angen help llaw arnoch er mwyn symud ymlaen o fyd addysg i’r gweithle - dyma sut y gall Hyfforddeiaeth helpu.

Mae Hyfforddeiaeth yn cynnwys hyfforddiant a fydd yn eich paratoi ar gyfer y byd gwaith a phrofiad gwaith o ansawdd uchel.

Unwaith i chi gwblhau Hyfforddeiaeth, byddwch yn barod i symud ymlaen at Brentisiaeth neu swydd.

Mae Hyfforddeiaeth yn raglen hyfforddi wych sy’n paratoi pobl ifanc 16-19 oed

ar gyfer y byd gwaith.

Hyfforddeiaeth

au

Page 4: Amser i drafod Hyfforddeiaethau

Arbenigwyr Recriwtio Pobl Ifanc 2

Rhwng £30 a £50 yr wythnos yn ogystal â chostau teithio (ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw fudd-dal plant y mae eich teulu’n derbyn)

Profiad gwaith cyffrous gyda chyflogwr blaenllaw yng Nghymru

Hyfforddiant cyflogadwyedd i’ch helpu i greu argraff yn y farchnad swyddi - yn cynnwys ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliad a chwilio am swydd

Hyfforddiant Saesneg a Mathemateg os oes angen gwella eich sgiliau yn y meysydd hyn

Yr holl gefnogaeth sydd ei angen er mwyn i chi symud ymlaen at gam nesaf eich bywyd

Ac unwaith y byddwch wedi cwblhau’r Hyfforddeiaeth byddwch yn ennill cymhwyster Lefel 1 yn eich llwybr dewisol.

Trwy gofrestru am Hyfforddeiaeth gydag ACT

byddwch yn derbyn:

Page 5: Amser i drafod Hyfforddeiaethau

acttraining.org.uk 3

Egluro ymgysylltu Ansicr ynghylch pa Hyfforddeiaeth i ddewis? Neu angen ychydig bach mwy o amser a chefnogaeth cyn i chi fynd ar brofiad gwaith? Dewiswch Hyfforddeiaeth Ymgysylltu. Bydd y rhaglen hon yn rhoi cyfle i chi brofi nifer o lwybrau er mwyn darganfod beth ydych yn hoffi a beth ydych yn medru gwneud yn dda - yn eich helpu i wneud dewis gwybodus ynghylch eich gyrfa. Mae Hyfforddeiaeth Ymgysylltu yn raglen rhan-amser, felly cewch eich talu ar gyfradd ran-amser o £30 yr wythnos ynghyd â threuliau teithio.

Egluro Hyfforddeiaeth Lefel 1 Mae ein rhaglen Hyfforddeiaeth Lefel 1 gam yn nes at Brentisiaeth. Mae’r rhaglen hon yn eich galluogi i ennill cymhwyster Lefel 1 yn eich llwybr dewisol trwy ddarparu profiad gwaith. Mae Lefel 1 yn raglen llawn amser, felly cewch £50 yr wythnos ynghyd â threuliau teithio.

Mae Hyfforddeiaethau yn eich gosod gam yn nes at eich

gyrfa ddelfrydol. Os ydych yn gwybod ym mha sector yr hoffech weithio, neu os ydych yn ansicr ynghylch y cam

nesaf, mae gennym raglenni at ddant pawb.

Opsiynaueich

Page 6: Amser i drafod Hyfforddeiaethau

Arbenigwyr Recriwtio Pobl Ifanc 4

Llwybr 1

Llwybr 2

Llwybr 3

Llwybr 4

Llwybr 5

Gofal Anifeiliaid Dwlu ar anifeiliaid? Bydd ein llwybr gofal anifeiliaid yn eich dysgu sut i ofalu am anifeiliaid. Byddwch yn dysgu am iechyd a lles anifeiliaid, bwydo a thrafod yn ogystal â chynorthwyo gyda llety anifeiliaid - perffaith ar gyfer unrhywun sydd am fentro i mewn i’r diwydiant gofal anifeiliaid.

Mae’r lleoliadau profiad gwaith yn cynnwys: ffermydd cymunedol, mannau trin cwn, siopau anifeiliaid anwes, llety cwn, llety cathod, siopau ymlusgiaid, stablau, iardiau llety ceffylau, ysgolion marchogaeth ac iardiau rasio.

Peirianneg Fodurol Yn dwlu ar geir, beiciau modur, peiriannau a phob peth mecanyddol? Rhowch gynnig ar ein llwybr Peirianneg Fodurol! Byddwch yn dysgu sgiliau sylfaenol trwsio, gwaith corff, a gosod teiars yn ogystal â mecaneg ceir a beiciau modur.

Mae’r lleoliadau profiad gwaith yn cynnwys: gwerthwyr ceir, peirianyddion lleol, siopau corff, canolfannau MOT ac arbenigwyr beiciau modur.

Harddwch Bydd y llwybr yma’n darparu cyflwyniad cyffrous i’r diwydiant harddwch gan eich dysgu i ddarparu gwasanaethau sylfaenol eich hunan.

Mae’r lleoliadau profiad gwaith yn cynnwys: ein salonau harddwch llawn offer yn ein canolfannau sgiliau yng Nghaerdydd, Caerffili a Phen-y-bont sydd ar agor i’r cyhoedd, yn ogystal â salonau harddwch lleol.

Gweinyddu Busnes A ydych yn dychmygu eich hun yn gweithio mewn swyddfa, yn gwisgo siwt a mynychu cyfarfodydd? Os felly, mae ein llwybr Gweinyddu Busnes ar eich cyfer chi. Bydd yr opsiwn yma’n darparu gwybodaeth a sgiliau ar sut i ddiweddaru ffeiliau gweinyddol, trefnu adnoddau, trefnu gweithwyr a rhyngweithio â chwsmeriaid a chleientiaid. Bydd ein llwybr Gweinyddu Busnes hefyd yn rhoi ‘sgiliau trosglwyddadwy’ gwych i chi - sgiliau y gallwch eu defnyddio mewn unrhyw weithle, megis cyfathrebu a gwaith tîm.

Mae’r lleoliadau profiad gwaith yn cynnwys: cwmnïau cyfreithiol, cwmnïau hyfforddi, busnesau e-fasnach, cwmnïau cyfrifeg a llawer mwy.

Gofal A ydych am ymrwymo i helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl, yn amyneddgar ac yn frwdfrydig, yn ogystal â chreadigol ac egnïol? Os felly byddai gyrfa yn y sector gofal yn wych ar eich cyfer chi. Bydd yn rhoi cyfle i chi ddatblygu’r sgiliau sylfaenol, technegau a sgiliau personol sydd eu hangen er mwyn gweithio mewn rôl gofal gyda phlant, oedolion neu’r henoed.

Mae’r lleoliadau profiad gwaith yn cynnwys: meithrinfeydd, ysbytai, canolfannau hamdden, cartrefi gofal, ysbytai a llawer mwy.

Page 7: Amser i drafod Hyfforddeiaethau

acttraining.org.uk 5

Llwybr 6

Llwybr 7

Llwybr 8

Llwybr 10

Llwybr 11

Llwybr 9Adeiladu

Dechreuwch ar eich gyrfa yn y diwydiant adeiladu trwy ddysgu sgiliau sylfaenol ‘ymarferol’ gwaith saer coed, gwaith asiedydd, plastr, gosod briciau, plymio, peintio ac addurno, gyda ein llwybr adeiladu rhan-amser. Byddwch hefyd yn dysgu cymorth cyntaf ac yn derbyn cerdyn CSCS (cynllun cerdyn ardystio ar gyfer adeiladu).

Mae’r lleoliadau profiad gwaith yn cynnwys: ein safleoedd adeiladu mewnol yng Nghaerdydd a Chaerffili.

Gwasanaeth Cwsmeriaid Bydd y llwybr yma’n darparu sgiliau a gwybodaeth angenrheidiol er mwyn i chi ymdrin â chwsmeriaid mewn pob math o sefyllfaoedd - o adwerthu a lletygarwch i hamdden a thelathrebu. Byddwch yn dysgu sut i gyfathrebu â chwsmeriaid, sut i fynd y tu hwnt i’r galw a sut i ymdrin â chwsmeriaid lletchwith.

Mae’r lleoliadau profiad gwaith yn cynnwys: siopau, gwestai, canolfannau hamdden, canolfannau galwadau a llawer mwy.

Trin Gwallt a Gwaith Barbwr Bydd y llwybr yma’n darparu cyflwyniad cyffrous i’r diwydiant trin gwallt a gwaith barbwr ac yn eich dysgu i berfformio gwasanaethau sylfaenol eich hunan.

Mae’r lleoliadau profiad gwaith yn cynnwys: ein salonau llawn offer yn ein canolfannau sgiliau yng Nghaerdydd, Caerffili a Phen-y-bont, sydd ar agor i’r cyhoedd yn ogystal â salonau gwallt a barbwyr lleol.

Lletygarwch ac Arlwyo

Mae’r llwybr yma ar gyfer yr holl gogyddion, cynorthwywyr cegin, gweinyddion / gweinyddesau, unigolion cadw ty neu dderbynwyr gwesty’r dyfodol. Yn dibynnu ar eich diddordebau, byddwch yn dysgu hanfodion coginio proffesiynol, diogelwch bwyd, a gweini bwyd a diodydd. Yn ogystal, mae gan ein canolfannau sgiliau geginau hyfforddi mewnol sy’n gwbl weithredol. Defnyddir hwy er mwyn dysgu sgiliau coginio sylfaenol i chi cyn mynd allan ar brofiad gwaith. Mae’r lleoliadau profiad gwaith yn cynnwys: Miskin Manor, Celtic Manor, Radisson Blu a Terry’s Patisserie.

TGCh

Os ydych yn ddewin gyda chyfrifiaduron neu ffansi mentro mewn i’r byd cyfryngau creadigol, yna mae’r llwybr yma ar eich cyfer chi. O gynllunio a datblygu i weithio gyda sain, fideo a meddalwedd dylunio digidol, byddwch yn derbyn cyflwyniad i’r diwydiant uwch-dechnoleg hwn a’r opsiynau sydd ar gael i chi.

Mae’r lleoliadau profiad gwaith yn cynnwys: asiantaethau gwe, asiantaethau dylunio, adrannau TG, elusennau, busnesau lleol a llawer mwy.

Manwerthu

O gadwyni corfforaethol mawr i siopau cornel bach, o ddillad i fwyd ac o’r stryd fawr i ar-lein - mae’r cyfleoedd swyddi yn y maes manwerthu yn ddiddiwedd. Os hoffech weithio yn y sector hwn, yna mae’r llwybr yma’n rheidrwydd. Byddwch yn ennill gwybodaeth manwerthu hanfodol ac yn dysgu ‘sgiliau trosglwyddadwy’ - sgiliau y gallwch eu defnyddio mewn unrhyw le gwaith, megis cyfathrebu a gwaith tîm. Mae’r lleoliadau profiad gwaith yn cynnwys: archfarchnadoedd, siopau’r stryd fawr, canolfannau siopa, prif swyddfeydd, busnesau ar-lein a llawer mwy.

Page 8: Amser i drafod Hyfforddeiaethau

Arbenigwyr Recriwtio Pobl Ifanc 6

A ydych eisoes yn meddu ar TGAU gradd C neu uwch mewn Saesneg a Mathemateg neu Lefel 1 neu uwch mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif ar gyfer Sgiliau Hanfodol Cymru?

Yna, mae modd cyrraedd y gweithle yn gynt gyda’n Rhaglen Yrfa Gyflym newydd yn Ocean Park House, Caerdydd. Bydd y rhaglen 10 wythnos yma’n eich gwthio a’ch herio fel dim byd o’r blaen, er mwyn sicrhau eich bod yn symud ymlaen at yrfa eich breuddwydion. Mae wedi ei chynllunio’n benodol er mwyn gwella eich cyflogadwyedd a hynny mewn diwydiant yr ydych am weithio, boed yn wasanaeth cwsmeriaid, cyfrifeg, manwerthu, gofal ayb cyn symud ymlaen at Brentisiaeth.

newydd!

Pwy all ymuno? Mae’r rhaglen ar gyfer pobl ifanc 16 -18 oed sydd am gael eu herio ac sydd bron yn barod ar gyfer gwaith. Dylech eisoes feddu ar TGAU gradd C neu uwch mewn Saesneg a Mathemateg neu Lefel 1 neu uwch mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru.

Beth fyddaf yn gwneud ar yr rhaglen? Cynhelir yr rhaglen ar sail grwp am 10-wythnos ar y tro. Yn ystod y 6 wythnos gyntaf, byddwch yn ymgymryd â chymhwyster Datblygiad Cymdeithasol a Phersonol (PSD) Lefel 1 er mwyn gwella eich potensial a’ch sgiliau cyflogadwyedd, a BTEC Lefel 1 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid neu bwnc sy’n ymwneud â’ch gyrfa ddewisol. Byddwch yn cael profiad gwaith o 4 wythnos cyn cael eich cyflogi fel Prentis.

Beth sy’n digwydd ar ôl i mi gwblhau’r rhaglen? Ar ôl cwblhau’r cwrs a’r cyfnod fel Prentis yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen i wneud Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 yn y cymhwyster mwyaf addas. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd hyn mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid, Manwerthu neu Gweinyddu Busnes.

Page 9: Amser i drafod Hyfforddeiaethau

acttraining.org.uk 7

• Canolfan Sgiliau Pen-y-bont ar Ogwr 70A Stryd Nolton, Pen-y-bont CF31 3BP Opsiynau sydd ar gael: Harddwch, Gweinyddu Busnes, Gwasanaeth Cwsmeriaid, Trin Gwallt a Gwaith Barbwr, a Manwerthu.

Rydym yn cynnig llwybrau Hyfforddeiaeth mewn ystod o bynciau ar draws ein 5 canolfan.

• Academi Sgiliau Caerffili Uned A-C Adeiladau Magna, 13 Syr Alfred Owen Way, Stad Ddiwydiannol Pontygwindy, Caerffili CF83 3HU Opsiynau sydd ar gael: Gofal Anifeiliaid, Peirianneg Fodurol, Harddwch, Gweinyddu Busnes, Adeiladu, Gwasanaeth Cwsmeriaid, Trin Gwallt a Gwaith Barbwr, Lletygarwch ac Arlwyo, Gweithgynhyrchu a Pheirianneg, a Manwerthu.

• Canolfan Sgiliau Caerdydd Ocean Park House, Stryd East Tyndall, Caerdydd CF24 5ET Opsiynau sydd ar gael: Gweinyddu Busnes, Gwasanaeth Cwsmeriaid, Gofal, TGCh, Manwerthu a Rhaglen Yrfa Gyflym.

• Academi Sgiliau Caerdydd Heol Hadfield, Caerdydd CF11 8AQ Opsiynau sydd ar gael: Gofal Anifeiliaid, Peirianneg Fodurol, Harddwch, Adeiladu, Trin Gwallt a Gwaith Barbwr, a Lletygarwch ac Arlwyo

• Canolfan Sgiliau Wrecsam Yr Hen Fragdy, Central Rd, Wrecsam LL13 7SU Opsiynau sydd ar gael: Harddwch, Gweinyddu Busnes, Gwasanaeth Cwsmeriaid, Trin Gwallt a Gwaith Barbwr, TGCh a Manwerthu.

Page 10: Amser i drafod Hyfforddeiaethau

Arbenigwyr Recriwtio Pobl Ifanc 8

Yn ystod eich amser gydag ACT bydd eich tiwtor a’ch aseswr yn darparu’r holl gefnogaeth a chyfarwyddyd gofal fydd angen arnoch er mwyn gweithio tuag at gymhwyster Hyfforddeiaeth.

Fodd bynnag, mae gwasanaethau cefnogi eraill ar gael er mwyn sicrhau eich bod yn gwneud yn fawr o’ch amser gydag ACT.

Fel dysgwr ACT, byddwch yn gallu manteisio’n llawn ar y canlynol:

• Tîm Cyfleoedd Mae gan bob canolfan dîm ymroddedig o bobl yno i’ch helpu i ddod o hyd i waith. Maent yno i warantu eich llwyddiant y tu hwnt i ACT felly gwnewch yn siwr eich bod yn eu defnyddio. Byddant yn eich arfogi â’r triciau, awgrymiadau a’r technegau i’ch helpu wrth chwilio am swydd, ysgrifennu CV a mynychu cyfweliadau.

• Cynrychiolydd Dysgwyr Mae gennym Gynrychiolydd Dysgwyr llawn amser sy’n cynrychioli ein dysgwyr. Gall dysgwyr gysylltu â’r Cynrychiolydd Dysgwyr gydag unrhyw adborth, pryderon neu broblemau yn ystod eu hamser gydag ACT.

• Swyddogion Gwarchod a Chynghorwr Mewnol Beth bynnag yw eich problem - problem gyda’r llwybr dysgu neu broblem y tu allan i ACT, mae ein tîm cefnogi yno ar gyfer eich lles chi, gan roi amser a lle i chi siarad yn breifat am eich trafferthion a’ch helpu i ddatrys unrhyw broblemau.

• Hyfforddwyr Dysgu Yn debyg i hyfforddwr chwaraeon, mae ein hyfforddwyr dysgu yno i roi mwy o gyfarwyddyd a chymorth i chi, i’ch helpu i gyflawni eich nodau.

Page 11: Amser i drafod Hyfforddeiaethau

acttraining.org.uk 9

Page 12: Amser i drafod Hyfforddeiaethau

Cym raeg

GWNEWCH GAIS NAWR I’w gwneud yn haws, nid oes gennym gyfnod cofrestru penodol felly gallwch wneud cais unrhyw bryd ac ar-lein www.cymraeg.acttraining.org.uk/apply

O ddiddordeb? Cysylltwch â ni. Am fwy o wybodaeth a chyngor am ddim

Rhowch alwad i ni: 02920 464 727

E-bostiwch ni: [email protected]

www.cymraeg.acttraining.org.uk

Ewch i’ch canolfan agosaf:

• Canolfan Sgiliau Pen-y-bont ar Ogwr 70A Stryd Nolton, Pen-y-bont CF31 3BP • Academi Sgiliau Caerffili Uned A-C Adeiladau Magna, 13 Syr Alfred Owen Way, Stad Ddiwydiannol Pontygwindy, Caerffili CF83 3HU • Canolfan Sgiliau Caerdydd Ocean Park House, Stryd East Tyndall, Caerdydd CF24 5ET • Academi Sgiliau Caerdydd Heol Hadfield, Caerdydd CF11 8AQ • Canolfan Sgiliau Wrecsam Yr Hen Fragdy, Central Rd, Wrecsam LL13 7SU

Ewch amdani!