Adult Learning in Wales | Wales' Learning Provider Cais... · Web viewBydd cyfweliadau yn cymryd...
Transcript of Adult Learning in Wales | Wales' Learning Provider Cais... · Web viewBydd cyfweliadau yn cymryd...
Cronfa Lloches, Ymfudo ac IntegreiddioGWEINYDDWR PROSIECT
Cyflog: £19,149 pro rata, y flwyddyn Pecyn buddion hael
Cyfnod Penodol hyd at Rhagfyr 2022, Swyddi Rhan amser 17.5 awr yr wythnos,
Lleoliadau: Abertawe
Mae gennym gyfle gwych i Weinyddwr profiadol ymuno â sefydliad ledled Cymru sydd wedi ymrwymo i wasanaethu poblogaeth oedolion Cymru gyda chyfleoedd ysbrydoledig sy'n newid bywyd. Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn fudiad democrataidd, annibynnol a gwirfoddol, sydd wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad, hyrwyddo dinasyddiaeth weithredol a datblygu sgiliau a darparu dysgu o'r ansawdd gorau, gan weithio ar y cyd gyda'i bartneriaid.
Rydym yn chwilio am Weinyddwr medrus iawn i fod yn rhan o brosiect y Gronfa Lloches, Ymfudo ac Integreiddio. Pwrpas y prosiect hwn yw cefnogi Gwladolion Trydydd Gwlad, gan gynnwys ffoaduriaid, i ymgartrefu yn y DU.
Mae hon yn rôl ymarferol, yn gweithredu ar gyflymder, byddwch yn cyflawni ystod lawn o dasgau gweinyddol sy'n gysylltiedig â chefnogi prosiect gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) ateb ymholiadau, trosglwyddo negeseuon / e-byst, trefnu cyfarfodydd, logio / anfon ymlaen / anfon y post, darparu cefnogaeth prosesu geiriau ac ati. Byddwch yn allweddol wrth gynorthwyo'r Rheolwr Prosiect, Swyddogion Cyflenwi Cwricwlwm a Thiwtoriaid i sicrhau bod yr holl weithgareddau gweinyddol yn cael eu cwblhau o fewn y dyddiadau cau a'r amcanion gofynnol a nodwyd gan y prosiect.
Bydd gennych safon dda o addysg gyffredinol gan gynnwys Saesneg a Mathemateg TGAU / Lefel O neu gyfwerth. Bydd gennych sgiliau a phrofiad sylweddol o'r holl ddyletswyddau gweinyddu swyddfa a phrofiad o godi archebion prynu a cheisiadau anfoneb, derbynneb bancio, derbynebau arian a dderbyniwyd a sgiliau TG cyffredinol da iawn sy'n cwmpasu'r defnydd o'r holl gymwysiadau meddalwedd swyddfa sylfaenol hy prosesu geiriau, taenlenni ac ati.
Byddwch yn drefnus iawn, a gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol. Mae sgilaiu Iaith Gymareg lefel 3 yn ddymunol.
Mae buddion deniadol ar gael i'r ymgeisydd iawn gan gynnwys:-
15 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd a gwyliau banc a dyddiau ychwanegol eraill 17.5 awr yr wythnos gyda threfniadau gweithio’n hyblyg Wedi’i lleoli yn Abertawe Cynllun Pensiwn Enillion Gyrfa Cyfartalog hael
Ynglŷn ag Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales
Ers ei sefydlu yn 2015, mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales wedi gosod ei hun yn gadarn fel y Coleg Cymunedol Cenedlaethol, yn gwasanaethu oedolion Cymru gyda chyfleoedd aadysgol sydd yn ysbrydoli, ac ar yr un pryd yn newid bywydau. Rydym yn fudiad democrataidd, annibynnol a gwirfoddol, rydym wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad, hyrwyddo dinasyddiaeth weithredol a datblygu sgiliau a darparu dysgu o ansawdd gorau, trwy ddull cydweithredol, ac yn gweithio ledled Cymru. Yn adeiladu ar ein partneriaethau cryfion, mae ein gweledigaeth yn ein lleoli ar y rheng flaen ar gyfer y twf yn addysg gydol oes, yn blaenoriaethu cyfleoedd i rheini sydd anoddaf eu cyrraedd, yn galluogi pobol trwy drosglwyddo sgiliau iddynt ac yn darparu mynediad cyfartal i addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ein gweledigaeth yw cynyddu effaith gymdeithasol, economaidd a phersonol addysg cymunedol oedolion yng Nghymru a'n cenhadaeth yw creu cyfleoedd dysgu ysbrydoledig i oedolion mewn cymunedau a gweithleoedd ledled Cymru. Ein nod yw grymuso pobl i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth i wireddu eu llawn botensial.
Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn fod cael gweithlu amrywiol ar bob lefel yn
caniatáu i ni gynrychioli'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae persbectif a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i'n llwyddiant ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o phob cefndir sydd gyda’r profiad a'r
sgiliau anghenrheidiol i gyflawni'r rôl hon.
Sut i ymgeisioNodwch nad yw CV’syn dderbynniol, Ymgeisiwch drwy gwblhau’r pencyn isod a’i ddychwelyd at
[email protected] Dyddiad cau y swydd yw 5yh, Dydd Gwener 6ed Awst 2021
Bydd cyfweliadau yn cymryd lle ar 16eg Awst 2021Rydm yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg
Ariennir y prosiect hwn yn rhannol gan Gronfa Lloches, Ymfudo ac Integreiddio’r UE. I wneud rheoli llif ymfudo yn fwy effeithlon ledled yr Undeb Ewropeaidd.
PROFFIL RôL
Teitl swydd: Gweinyddwr Prosiect
Lleoliad gwaith: Abertawe
Adrodd i: Rheolwr Prosiect
Pwrpas swydd: I gefnogi a thanategu gwaith y Prosiect trwy ddarparu ystod o ddyletswyddau gweinyddol i sicrhau cydymffurfiaeth â chyflwyno’r Prosiect a fod gwaith papur cysylltiedig a monitro yn cael ei wneud.
Hyd y gytundeb: Cyfnod penodol hyd at Rhagfyr 2022
Oriau gwaith: Rhan amser 17.5 awr yr wythnos
Graddfa cyflog: A&C 15-22, £19,149 - £22,783 (pro rata)
Cyflog Cychwynnol: £19,149 pro rata, y flwyddyn
Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau
1. Cyflawni'r ystod lawn o dasgau gweinyddol sy'n gysylltiedig â chefnogi prosiect gan gynnwys: ateb y ffôn a throsglwyddo negeseuon / e-byst; trefnu taflenni lleoli/ dyddiadur ar-lein; logio / anfon ymlaen / postio post; trefnu cyfarfodydd; darparu cefnogaeth prosesu geiriau; llungopïo a choladu; anfon post; gosod archebion deunyddiau swyddfa; trin arian mân ac ati.
2. Cynnal system fonitro ar-lein y prosiect yn unol â gofynion cyflawni'r prosiect.
3. Cysylltu â swyddogion cyflenwi’r prosiect i sicrhau bod y gwaith o gyflwyno Prosiect a gofynion gwaith papur cysylltiedig yn cael eu cynnal.
4. Ymateb i ymholiadau arferol gan ddysgwyr, tiwtoriaid a phartneriaid.
5. Cynnal systemau ffeilio a monitro cywir ar gyfer yr holl weithdrefnau / dogfennau allweddol mewn perthynas â'r Prosiect.
6. Mewnbynnu manylion cyrsiau a chynnal gronfa ddata'r cyrsiau mewn perthynas â'r prosiect.
7. Paratoi a lledaenu pecynnau tiwtoriaid gan gynnwys llyfrau gwaith asesu a gwybodaeth fel sy'n briodol.
8. Paratoi ystafelloedd ac adnoddau ar gyfer dosbarthiadau a chyfarfodydd yn ôl yr angen.
9. Cynorthwyo i goladu a chofnodi gwybodaeth sy'n ofynnol gan UKRA (Awdurdod Cyfrifol y DU) trwy Swyddfa Gartref y Llywodraeth.
10. I weithio yn ei gyfanrwydd fel rhan o Dîm gweinyddol Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales.
11. Cysylltu â staff a chysylltiadau allanol yn ôl yr angen.
12. Gweithredu a datblygu gweithdrefnau gweinyddol yn ôl yr angen, gan sicrhau cysondeb â'r gweithdrefnau gweinyddol y cytunwyd arnynt ar gyfer Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
13. Cyflenwi yn lle unrhyw gydweithwyr ac ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau eraill sy’n ofynnol yn rhesymol yn rhan o’r swydd.
14. Bod yn weithredol wrth adrodd i dasgluoedd a chyfarfodydd tîm fel y bo’n briodol i’r rôl.
15. Cymryd rhan ymarferol wrth weithredu gwelliant parhaus ledled y sefydliad.
16. Ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol fel sy’n ofynnol gan y swydd.
17. Gweithio’n unol â’r Ddeddf Diogelu Data a sicrhau eich bod yn hysbysu Swyddog Diogelu Data’r sefydliad ynghylch pryderon diogelu data.
18 . Cyfrannu i gyfarfodydd staff, mentrau a datblygiadau sefydliadol.
19. Cydymffurfio gyda pholisiau a gweithdrefnau sedydliadol, yn dilyn newidiadau ac yn gwneud y newidiadau angenrheidiol i systemau gweinyddol.
20. Sicrhau bod holl agweddau cyfarwyddiadau ariannol a rheolau sefydlog y sefydliad yn cael eu dilyn.
21. Sicrhau y defnyddir arferion gwaith diogel ac y caiff y ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch briodol ei mabwysiadu.
22. Cyfrannu at sicrhau bod diogelu a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael eu rheoli a hyrwyddo’n effeithiol.
23. Gweithio mewn ffordd sy’n sensitif tuag at yr iaith Gymraeg ac yn cydymffurfio â Mesur y Gymraeg 2011 a’n dyletswyddau wrth weithredu Safonau’r Gymraeg.
24. Bod yn barod i deithio ar draws Cymru a gweithio’n hyblyg yn ôl gofynion y swydd os yw’n briodol.
a) Fel telerau o’ch cyflogaeth efallai y bydd yn ofynnol i chi ymgymeryd â dyletswyddau eraill ar gais rhesymol a fyddai’n gymesur â’ch graddfa
b) Dyma swydd ddisgrifiad fel ag y mae yn gyfansoddiadol yn gyfredol. Mae’n arferol i Addysg Oedolion Cymru| Adult Learning Wales archwilio swydd ddisgrifiadau gweithwyr yn rheolaidd a’u diweddaru er mwyn sicrhau eu bod yn berthnasol i’r swydd a gyflawnir, neu i ymgorffori newidiadau arfaethedig.
c) Ni fwriedir i’r disgrifiad hwn sefydlu diffiniad llwyr o’r swydd dim ond amlinelliad o’r dyletswyddau.
MANYLEB PERSON
MEINI PRAWF HANFODOL DYMUNOL
ADDYSG, HYFFORDDIANT A CYMHWYSTERAU
Safon dda o addysg gyffredinol yn cynnwys Saesneg a Mathemateg TGAU / Lefel O neu gyfwerth
Cymhwyster TG perthnasol ar lefel 2 neu uwch
PROFIAD Profiad o’r amrediad arferol o ddyletswyddau gweinyddu swyddfa, gan gynnwys y canlynol, ond nid yn gyfyngedig iddynt: ateb y ffôn; trosglwyddo negeseuon; ymdrin â phost; prosesu geiriau, cynnal systemau ffeilio/cadw cofnodion; coladu gwybodaeth; llungopïo a sganio; cofnodi data; trefnu cyfarfodydd, cynorthwyo staff eraill ac aelodau’r cyhoedd
Profiad o baratoi archebion prynu a cheisiadau am anfonebau, bancio, derbynebu arian a dderbyniwyd
Gweithio gyda systemau cronfa ddata e.ePDA yn gyson
Cynorthwyo â gwaith hysbysebu cyrsiau, anfon deunydd hyrwyddo, digwyddiadau, ac ati.
Profiad o weithio mewn amgylchedd swyddfa addysg ôl-16
SGILIAU, GWYBODAETH AC AGWEDD
Sgiliau TG da iawn gan gynnwys defnydd o holl gymhwysiadau sylfaenol Microsoft office h.y. prosesu geiriau, taenlenni, cronfeydd data, ac ati
Hyfrydedd wrth ddefnyddio e-bost, a pheiriannau chwilio’r we ayb.
Sgiliau cyfathrebu, rhyngbersonol rhagorol.
Gwybodaeth o ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys Facebook
Yn dda am gynnal systemau / gweithdrefnau newydd / sefydledig a / neu addasu i systemau / gweithdrefnau newydd
Mail merge, Desktop Publishing
Dealltwriaeth o ofynion gyfrinachedd data
Canolradd lefel 3 Sgiliau Iaith Gymraeg:(Gweler y tabl sgiliau Iaith Gymraeg ar ddiwedd y pecyn cais)
Deall gwybodaeth sy’n cael ei rhoi am bynciau pob dydd, neu pan fydd pethau’n ymwneud â’r gwaith yn cael eu trafod, e.e. mewn sgwrs, neu mewn cyfarfod grŵp bach.
Deall y brif neges a’r manylion,
Hyblyg, onest a dibynadwy
Bod yn drefnus gyda dull trefnu dda
Dull siarad ar y ffôn rhagorol
Y gallu i weithio gyda pwysau terfynau amser ac ar liwt eu hyn i gynnwys gallu blaenoriaethu llwyth Gwaith pan fo angen.
Gweithio’n dda fel rhan o dîm.
Parodrwydd i ymgymryd hyfforddiant i wella sgiliau.
os yw’r bobl yn siarad yn glir, e.e. wrth glywed hysbysiadau neu wrth wrando ar fwletin newyddion.
Cymryd rhan yn y rhan fwyaf o sgyrsiau gyda chydweithwyr i drafod gwaith a chynlluniau, os nad yw’r eirfa yn rhy dechnegol; cynnal sgwrs ag unigolyn wrth gynnig gofal neu gyfnewid gwybodaeth gweddol hawdd; cyfrannu at gyfarfod, er yn gorfod troi i’r Saesneg ar gyfer termau arbenigol.
Deall y rhan fwyaf o negeseuon e-bost neu lythyron sy’n ymwneud â gwaith bob dydd; dyfalu beth mae gair yn ei olygu o’r cyddestun, os yw’r pwnc yn gyfarwydd; darllen erthygi syml, uniongyrchol mewn papur newydd neu gylchgrawn.
Ysgrifennu llythyr am y rhan fwyaf o bynciau, gofyn am bethau, rhoi esboniadau, disgrifio profiadau, gwahodd pobl, neu drefnu digwyddiadau; ysgrifennu’n eithaf cywir am y rhan fwyaf o bynciau.
PATRWM GWEITHIO Parodrwydd i weithio’n hyblyg yn ôl y gofyn, gan gynnwys ambell benwythnos a gwaith gyda’r nos.
GOFYNION ERAILL Parodrwydd I deithio fel yn ofynnol o’r swydd
Canllaw ar gyfer cwblhau ffurflen gais am swydd
Byddwch angen y dogfennau canlynol ar gyfer cwblhau’r ffurflen gais:-
Proffil Rôl ar gyfer y swydd yr ydych yn ymgeisio amdani Manyleb Person (hwn yw’r adran olaf ar y ddogfen proffil rôl) ar gyfer y swydd yr ydych yn
ymgeisio amdani. Nodwch nid yw’r meini prawf yn y golofn Dymunol yn rhai hanfodol ar gyfer y swydd ond bydden yn fantais.
Darllenwch y dogfennau cyn cwblhau'ch cais. Sicrhewch eich bod yn deall gofynion y swydd, o ran dyletswyddau a chyfrifoldebau'r swydd (y manylir arnynt yn y proffil rôl) a'r gofynion personol i allu cyflawni'r dyletswyddau hynny (y manylir arnynt yn y fanyleb person).
Gwiriwch eich bod yn gallu cwrdd â'r gofynion Hanfodol yn y fanyleb person a'ch bod o'r farn y gallech gyflawni dyletswyddau a chyfrifoldebau'r swydd yn llwyddiannus, yn dilyn cyfnod rhesymol o gyfarwyddyd ac ymgyfarwyddo.
Sicrhewch eich bod yn egluro yn yr adran Datganiad Personol - sut rydych chi'n cwrdd â gofynion y fanyleb person ac yn nodi, gan ddarparu enghreifftiau lle bynnag yn bosibl sut y gall eich sgiliau a'ch profiad fod yn gysylltiedig â dyletswyddau'r swydd. Peidiwch ag anghofio, er y bydd eich profiad gwaith yn bwysig ei gynnwys yn eich cais, gallai profiad arall a gafwyd y tu allan i'r gwaith mewn sefydliadau cymunedol a gwirfoddol neu ddiddordebau hamdden, fod yr un mor ddilys. Cadwch eich cais yn gryno ac i'r pwynt.
COFIWCH bydd y penderfyniad ynghylch a fyddwch chi'n cael eich gwahodd i gyfweliad ai pheidio yn seiliedig ar y wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn eich Datganiad Personol. Mae'n arbennig o bwysig eich bod yn cwblhau'r adran datganiad personol i ddangos sut rydych chi'n cwrdd â'r gofynion ar gyfer y rôl hon. Bydd y datganiad personol gorffenedig yn darparu'r rhan fwyaf o'r wybodaeth y bydd ei hangen arnom i asesu'ch cais yn erbyn meini prawf y fanyleb person.
Darllenwch eich cais. Gwiriwch eich bod wedi cwblhau pob rhan o'r broses. Os oes mwy nag un lleoliad ar gyfer y swydd neu os cynigir rhannu’r swydd, nodwch eich dewisiadau ar y ffurflen gais.
Cyflwyno eich cais gorffenedig cyn yr amser a dyddiad cau drwy e-bost at [email protected] . Sylwer os gwelwch yn dda nad ydym yn gallu derbyn cais drwy'r post oherwydd y pandemig.
FFURFLEN GAIS
Y Swydd yr Ymgeisir amdani: Gweinyddwr Prosiect
Cyfeirnod y cais (at ddefnydd y swyddfa’n unig)
Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn fod cael gweithlu amrywiol ar bob lefel yn caniatáu i ni gynrychioli'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i'n llwyddiant ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb o bob cefndir sydd gyda’r profiad a'r sgiliau anghenrheidiol i gyflawni'r rôl hon.
Mae ein Hysbysiad Preifatrwydd Cyflogaeth ar gael ar dudalen ‘Swyddi’ gwefan Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn: https://www.adultlearning.wales/cym/amdanom/swyddi . Bydd ceisiadau aflwyddiannus yn cael eu cadw am chwe mis.
Sicrhewch eich bod yn llenwi holl rannau’r ffurflen hon. Cyfeiriwch at y ddogfen canllaw ar gwblhau ffurflenni cais ar ddiwedd y pecyn cais.
Datganiad Personol
Nodwch yr hyn sy'n eich gwneud chi'n addas ar gyfer y swydd, gan gyfeirio at fanyleb y person wrth ysgrifennu eich datganiad personol.
Ewch ymlaen ar dudalen ar wahân os oes angen.
Aelodaeth o Gyrff Proffesiynol
Enw’r Corff Graddfa’r Aelodaeth Dyddiad Derbyn:
Hyfforddiant a Datblygiad Personol
Nodwch unrhyw weithgareddau datblygiad personol a hyfforddiant rydych wedi ymgymryd â nhw sydd, yn eich barn chi, yn berthnasol i'ch cais.
Hyfforddiant / Datblygiad Personol Dyddiad
HANES CYFLOGAETHRhowch fanylion eich cyflogaeth hyd yma, gan gynnwys gwaith gwirfoddol, yn nhrefn amser gan ddechrau â’ch swydd bresennol neu eich swydd ddiweddaraf.
Ewch ymlaen ar dudalen ar wahân os oes angen
Dyddiadau Cyflogwr
Amlinelliad bras o'ch
Dyletswyddau a'ch Cyfrifoldebau
Rheswm dros adaelO: I:
CYMWYSTERAU Nodwch unrhyw gymwysterau addysgu ac academaidd perthnasol. Cymwysterau Academaidd Dyddiad
au eu Hennill
Cymwysterau AddysguDyddiadau eu Hennill
Sgiliau Sylfaenol/cymhwyster ESOL (rhowch fanylion)
Yn Siarad Cymraeg Ydw/NaYn Ysgrifennu Cymraeg Ydw/NaRhywfaint o Gymraeg Oes/NaIeithoedd EraillNodwch eich dewis iaith ar gyfer cyfathrebu pellach
Cymraeg Saesneg
Nodwch eich dull gorau o gyfathrebu os bydd eich cais yn llwyddiannus
E-bost Llythyr
Ydych chi’n gallu darparu tystiolaeth sy’n dangos eich bod yn gymwys i weithio yn y DU?
Ydw/Na
(i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Adran Adnoddau Dynol)
Oes ganddoch drwydded Yrru llawn?
Oes / Na
Oes ganddoch fynediad i gerbyd?
Oes / Na
Nodwch ymhle y clywsoch chi am y swydd hon gan nodi’r cyhoeddiad/gwefan
PERTHNASOEDD PERSONOL AGOSDiffinnir perthnasoedd personol agos fel a ganlyn: perthnasoedd rhamantus/rhywiol; perthnasoedd teuluol; perthnasoedd busnes/ariannol/masnachol; a cyfeillgarwch agos. Mae rhain yn cynnwys:
Priod/partner
Cyplau sy’n canlyn
Rhieni/rhieni yng nghyfraith/llysrieni
Plant/llysblant
Brodyr/chwiorydd
Neiniau/teidiau ac wyrion/wyresau
Modrybedd, ewythrod a chefndryd
Cyfeillgarwch agos
Oes gennych chi berthynas bersonol agos gydag aelod presennol o staff Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales?
Oes/Na
Os oes, disgrifiwch natur y berthynas hon:
CANOLWYRRhowch enwau, cyfeiriadau (gan gynnwys cod post) a rhifau ffôn dau ganolwr yn llawn. Dylai un o'r rhain fod eich cyflogwr diweddaraf lle bo modd. Gofynnir am eirdaon ar gyfer pob ymgeisydd llwyddiannus.Arwyddwch isod i roi eich caniatad i gysylltu a’ch canolwyr os bydd eich cais yn llwyddiannus.CANOLWR 1Enw'r sefydliad:
Cyfeiriad y sefydliad: Enw’r Canolwr:Teitl y Swydd neu eich Perthynas ag ef/hi:
Cyfeiriad E-bost/rhif ffôn:
CANOLWR 2Enw'r sefydliad:Cyfeiriad y sefydliad: Enw’r Canolwr:
Teitl y Swydd neu eich Perthynas ag ef/hi: Cyfeiriad E-bost/rhif ffôn:
Rwy’n rhoi fy nghaniatad i gysylltu a’r canolwyr uchod er mwyn cael geirdaon, pe bai fy nghais yn llwyddiannus.
Llofnod: ________________________________________________
SYLWCH – Os cewch eich apwyntio gan Addysg Oedolion Cymru bydd angen i chi ddarparu copïau gwreiddiol o dystysgrifau cymwysterau a phrawf eich bod yn gymwys i weithio yn y DU.
Nodwch os gwelwch yn dda, oherwydd y pandemig ni allwn dderbyn ceisiadau drwy’r post.
Anfonwch at :- [email protected] Addysg Oedolion Cymru / Adult Learning Wales yn
gyflogwr cyfle cyfartal
FFURFLEN MONITRO CYFLE CYFARTAL
Nodwch y bydd y ffurflen hon yn cael ei datgysylltu o'ch cais ac ni fydd yn cael ei hystyried yn ystod y broses recriwtio.
Y Swydd yr Ymgeisir amdani: Gweinyddwr Prosiect
Cyfeirnod y Cais (at ddefnydd y swyddfa’n unig)
ADRAN 1MANYLION PERSONOL
Teitl: Enw cyntaf: Cyfenw:
Cyfeiriad, gan gynnwys y cod post:
Rhif ffôn yn ystod y dydd
Rhif Ffôn Symudol:
*Cyfeiriad E-bost:
*Nodwch y byddwn yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost fel y prif ddull o gysylltu â chi lle bynnag y bo modd. Felly gwnewch yn siŵr bod hwn yn gywir os gwelwch yn dda.
MONITRO CYFLE CYFARTAL
Byddem yn ddiolchgar pe baech yn neilltuo ychydig o amser i roi'r wybodaeth isod i ni sy’n ymwneud â chyfle cyfartal. Rydym yn casglu'r wybodaeth hon er mwyn monitro a gwerthuso dosbarthiad amrywiaeth ar draws Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales. Rydym hefyd yn defnyddio’r wybodaeth hon i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth.
Nodwch y categorïau sydd, yn eich barn chi, yn eich disgrifio chi orau.
Rhyw: Gwryw Benyw Di-Deuaidd Gwell gennyf beidio dweud
Os byddai well gennych term arall, nodwch hynny yma:
Beth yw eich dyddiad geni?
Beth yw eich crefydd neu gred?
Dim crefydd neu gred
Anffyddiwr Bwdhaidd
Cristnogol Hindŵaidd Sikh
Mwslimaidd Iddewig Gwell gennyf beidio dweud
Os oes gennych grefydd neu gred nad ydy ar y rhestr yma, nodwch yma:
Ydydch chi’n briod neu mewn partneriaeth sifl?
Priod Partneriaeth Sifl Gwell gennyf beidio dweud
Hil a Chenedligrwydd
Gwyn Cymraeg Gwyn Saesneg Gwyn albanaidd Gwyn Gogledd
Wyddelig Gwyn Gwyddelig Gwyn
Prydeinig Gwyn Sipsiwn neu Deithiwr
Gwyddelig Unrhyw gefndir Gwyn aral, nodwch hynny yma:
Asiaidd/Asiaidd Prydeinig
Indiaidd Pacistanaidd
Bangladeshaidd
Tseiniaidd
Cefndir Asiaidd arall, nodwch hynny yma:
Du/Affricanaidd/ Caribïaidd /Du Prydeinig
Affricanaidd Caribî
Unrhyw gefndir arall Du/Affricanaidd/ Caribïaidd, nodwch hynny yma:
Cymysg/Grwp Aml-ethnig Gwyn a Du Caribïaidd Gwyn a Du Affricanaidd Gwyn ac Asiaidd Asiaidd a Du Caribïaidd Asianaidd a Du Affricanaidd Unrhyw gefndir cymysg arall, nodwch hynny yma:Grwp ethnig arall Arabaidd Unrhyw grwp ethnig arall, nodwch hynny yma:
Gwell gennyf beidio dweud
Beth yw eich cyfeiriadedd rhywiol?Heterorywiol Menyw hoyw/lesbaid Dyn hoyw Deurywiol Gwell gennyf beidio dweud
Os byddai well gennych ddefnyddio term eich hyn, nodwch hynny yma:
Ydych yn ystyried fod gennych anabledd o dan Deddf Cydraddoldeb 2010?Oes Na Gwell gennyf beidio dweud Os oes gennych anabledd, beth yw natur eich anabledd? Nodwch hynny yma:
** Nodwch os gwelwch yn dda y ceisir y wybodaeth hwn at ddibenion monitro. Os ydych angen addasiadau i’ch swydd oherwydd eich anabledd, siaradwch gyda’ch rheolwr llinell **
Bydd ymgeiswyr ag anabledd sy’n cael cyfweliad yn cael cyfle i drafod sut y gallwn ddarparu ar gyfer eu hanghenion yn ystod y broses recriwtio ac os ydynt yn cael eu cyflogi gan Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales
A oes gennych gyfrifoldebau gofalu? Os oes, ticiwch bob un sy’n berthnasol
Dim
Prif ofalwr plenty/plant (o dan 18)
Prif ofalwr plenty anabl/plant anabl
Prif ofalwr oedolyn anabl (18 a throsodd)
Prif ofalwr person hyn Ail ofalwr (mae person arall yn cyflawni’r brif rôl gofalu) Gwell gennyf beidio dweud