Post on 06-Jan-2016
description
Bwydydd yn Ghana
•Bwydydd cyffredin•Bwyd ysgol
Bara bob dydd
Dyma does bara sy’n cael eu gwerthu ar y
stryd.
Bydd plant ysgol a gweithwyr yn
eu bwyta yn ystod y dydd.
Dyma’r bara wedi ei grasu...
Yn barod i’w werthu.
Paratoi Akple
Akple – toes india-corn wedi ei falu’n fân a’i ferwi mewn dŵr.
Akple a chawl Okro
Akple – Dyma’r toes ar ôl ei bobi.
Cawl Okro – Cawl wedi ei wneud o bupur coch wedi ei falu, a’i bastio, a’i gymysgu gyda olew palmwydd,
okra a dŵr. Yn y cawl, bydd pysgodyn wedi ei fygu yn coginio.
Paratoi’r okra yn y cawl
Dyma’r llysiau a’r pupur coch wedi eu malu, a’r
pysgodyn, yn barod i’w rhoi yn y cawl.
Fel hyn mae bwyta Akple a chawl Okro.
KenkeyPan fydd Akple yn cael ei orchuddio
mewn rhuchen yd, ac yn cael ei ageru (stemio) yna bydd Kenkey yn cael ei
baratoi
Paratoi’r Kenkey
Bwyta kenkey gyda’r dwylo
Bwyteir Kenkey gyda pysgod wedi eu coginio mewn pupur coch a sbeisys
poeth.
Yam yn ffrio
Llysieuyn tebyg i daten yw yam.Mae’r yam yn
cael ei ffrio mewn olew palmwydd.
Ffa ‘black eye’Bydd y ffa yn
cael eu mwydo, eu berwi, a’u
bwyta gyda reis ac olew palmwydd.
Ffa gyda Gari – beth yw Gari?
Grawnfwyd cyffredin - cassava
Bydd y grawn yma’n cael ei sychu er mwyn
creu Gari.
Cassava wedi ei bobi - Fufu
Mae fufu yn does meddal a fwyteir
gyda chig neu bysgod.
Pryd o fwyd cyffredin a phoblogaidd.
Ffa wedi eu coginio mewn
past pupur coch.
Gari
Mecryll wedi eu mygu, ac yna’u coginio mewn saws
tomato sbeislyd.
Brecwast sydyn
Cymysgedd wŷ a thomato
Pysgod
Pysgod wedi eu mygu a’u coginio – pam mae’r bobl yn mygu’r pysgod?
Pam fod pobl y pentref yn bwyta cymaint o bysgod?
Bydd y pysgodyn yn cael ei fwyta gyda’r Akple (india-corn)
Mae pob rhan o’r pysgodyn yn cael ei ddefnyddio – nid oes gwastraff!
Mae pawb yn bwyta pysgod yn aml.
Pysgod mewn saws gyda akple
Pysgod a grawnfwyd
Cawl ‘groundnut’ gyda physgodyn.
Grawnfwyd meddal
Mathau o bysgod
Fedrwch chi adnabod rhai o’r pysgod yma?
Cadw’r pysgod
Pysgota, dal, halltu neu fygu.
Ffrwythau Cnau coco – gellir
yfed y sudd.Mae’r cnau yma wedi disgyn oddi ar y coed.
... a bwyta’r cnawd y tu
mewn.
Ffrwythau cyffredin
Byrbryd wedi ei brynu
Saws tomato
Tomato a nionyn coch
Avocado
Plantain wedi ei ffrio
Yam wedi ei ffrio
Halen
Sudd bissap
Defnyddir dail y blodyn Hibiscus er mwyn
paratoi’r sudd hwn.
Mae sudd y dail yna’n cael ei gymysgu gyda
dŵr a siwgwr.
Reis a dŵr
Yn aml bydd plant yr ysgol yn yfed reis a dŵr fel byrbryd sydyn.
India corn a dŵr - Koko
Bydd plant yr ysgol yn ei yfed amser chwarae.
Bwyd ar gael yn yr ysgol
Prynu bwyd neu ddod a bwyd
Paratoi orennau i’w bwyta
Y gegin baratoi