Yr Wyddor:: Jessie Chorley
On My Mother’s Knee gwneuthurwyr wedi eu dylanwadu gan dreftadaeth y cartrefCuradwyd gan Louise Jones-Williams
Kirsty Anderson, Julie Arkell, Jessie Chorley, Louise Frances Evans, Caren Garfen, Kate Jenkins, Lynn Setterington and Ruth Singer.
Arddangosfa Deithiol Canolfan y Celfyddydau Llantarnam Grange
Mae “On my Mother’s Knee” yn arddangosfa
sy’n archwilio’r cysyniad o dreftadaeth y
cartref trwy waith wyth o ymarferwyr cyfoes.
Wedi ei guradu gan Louise Jones-Williams,
mae’r casgliad o wneuthurwyr sy’n rhan
o’r arddangosfa wedi eu disgrifio fel “teulu
brenhinol tecstilau” ac rwy’n credu bod y
detholiad yma’n cyflawni ei gweledigaeth.
Yr hyn gaiff ei archwilio’n yr arddangosfa
hon yw grŵp o wneuthurwyr sy’n gallu
cofnodi llinach pendant, mae ganddynt
gysylltiad uniongyrchol â’r person gafodd
effaith sylweddol ar y modd y gwnaethant
ddatblygu fel pobl a’r modd y cafodd eu
arfer celfyddydol ei lunio. Tra’n trafod “On
My Mother’s Knee” â Louise, cawsom nifer o
sgyrsiau ynghylch syniadau a chysyniadau, Ruth Singer
Rhagair
sgiliau a gwybodaeth, a’r modd y caiff y
rhain eu pasio o un genhedlaeth i’r llall.
Dechreuais feddwl yn ôl i fy mlynyddoedd
ffurfiannol a pha ddylanwadau a ffactorau
wnaeth lunio’r modd yr wyf yn ystyried y
byd ac yn gweithredu ynddo. Sut cafodd
fy ngweledigaeth artistig ei llunio. Rwy’n
credu weithiau mai digwyddiadau
bychain fydd yn cael fwyaf o ddylanwad,
cael eich amgylchynu â chreadigedd ar
amrywiol ffurfiau, gwybod nad oes dim yn
anghyffredin mewn tynnu lluniau, paentio,
modelu, adeiladu a chreu. Mae hyn yn rhoi
hyder inni archwilio ac arbrofi, i wneud
pethau’n anghywir a dysgu oddi wrth ein
camgymeriadau a bydd hyn, yn ei dro, yn ein
gwneud yn unigolion mwy cyflawn. Rwy’n
credu bod yr arddangosfa hon yn ymwneud
â mwy na dim ond y broses greadigol, mae’n
archwilio proses sylfaenol y modd y byddwn
yn dysgu ac esblygu.
Hywel Pontin, Director, Llantarnam Grange Arts Centre
Kate Jenkins
On My Mother’s Knee gwneuthurwyr wedi eu dylanwadu gan dreftadaeth y cartrefCuradwyd gan Louise Jones Williams
Kirsty Anderson, Julie Arkell, Jessie Chorley, Louise Frances Evans, Caren Garfen, Kate Jenkins, Lynn Setterington and Ruth Singer.
Mae llawer o wneuthurwyr yn tyfu lan mewn
cartrefi wedi eu hamgylchynu â defnyddiau
a pharaffernalia gwnïo, wedi eu dysgu gan
eu mamau a’u mam-guod i wnïo, gwau,
brodio, cwiltio a chrosio. Wrth dyfu lan yn y
teuluoedd hyn, y cenedlaethau hŷn fyddai’n
dylanwadu ar y genhedlaeth nesaf trwy
basio eu sgiliau ymarferol ymlaen, wedi
eu atalnodi â straeon wedi eu hadrodd o
lyfrau a hanesion o’u bywydau eu hunain;
gan hefyd basio ymlaen, o un genhedlaeth
i’r llall, wrthrychau a chofroddion
gwerthfawr. Weithiau caiff diddordeb a
sgiliau gwneuthurwr eu hetifeddu oddi
wrth berthnasau na wnaethant fyth eu
cwrdd; teidiau a neiniau oedd yn deilwriaid,
yn wniadwragedd a hetwyr; neu weithiau,
yn syml ddigon o greadigedd eu rhieni wrth
arddio neu goginio. Fyddai’r gwneuthurwyr
yn yr arddangosfa hon ddim y bobl yr
ydyn nhw heddiw oni bai am ddylanwad
eu teuluoedd, gwaddol gaiff ei gorffori ym
mhob pwyth cain.
Daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer yr
arddangosfa hon o arsylwi ar ddiddordeb
fy merch mewn celf, dylunio a chreu. Mae
wedi gwneud imi feddwl mwy am sgiliau
gaiff eu hetifeddu a’u dysgu. Bob tro y
byddaf yn codi fy merch o dŷ ei mam-gu a’i
thad-cu, ble y bydd yn treulio cwpwl o oriau
ar ôl ysgol, byddaf yn ei chael hi a fy mam
yn gwnïo dillad a thrwsio gwallt gwlân hen
ddoliau clwt fy mhlentyndod, yn pwytho
tapestri, yn gwnïo ac, yn fwy diweddar, yn
gwau. Mae’r berthynas glòs rhyngof fi, fy
merch a fy mam yn fy atgoffa’n fawr am
fy mhlentyndod fy hun gyda fy mam a fy
mam-gu. Roedd fy mam-gu yn bresenoldeb
parhaus pan oeddwn yn tyfu i fyny, gan ei
bod yn byw gyda ni. Yn ei hieuenctid, roedd
fy mam-gu’n hetwraig tan iddi briodi yn y
1930au, a byddai’n gwnïo’r rhan fwyaf o’i Kirsty Anderson
dillad ei hun yn ogystal â rhai fy mam pan
oedd yn ferch fach. Wedi hynny, bu fy mam-
gu’n dysgu gwnïo mewn dosbarthiadau
addysgu cymunedol ac aeth fy mam ymlaen
i ddysgu clytwaith, cwiltio, a bron pob crefft
arall, gan basio’r sgiliau a’r traddodiadau yr
oeddent wedi eu dysgu yn eu blaen i eraill.
Ac felly roedd ein tŷ bob amser yn llawn
o dameidiau o edau, ffabrig, pinnau a
nodwyddau (oedd wastad yn sownd yn
y carped!); y bocs botymau oedd yn gist
llawn trysor i edrych trwyddo ar ddiwrnod
glawog; y siswrn gwnïo gwerthfawr – oedd
fyth i gael ei ddefnyddio at un diben arall! Un
o fy atgofion mwyaf eglur o fy mhlentyndod
oedd y rhwystredigaeth o gael fy ngorfodi
i sefyll ar stôl fechan er mwyn i ddilledyn
newydd gael ei binio amdanaf. Rwy’n cofio’n
annwyl iawn hefyd am oriau lawer yn eistedd
o gylch y bwrdd cinio’n torri patrymau, yn
dysgu sut i ddefnyddio’r peiriant gwnïo,
yn paentio a thynnu llun, yn brodio neu’n
gwnïo tapestri. Mae’r sgiliau y gwnaeth fy
mam-gu a fy mam basio i lawr imi bellach
yn cael eu pasio ymlaen i fy merch; maent
yn ymestyn yn ôl dros genedlaethau, roedd
fy hen fam-gu’n wniadwraig, roedd fy hen
hen dad-cu’n deiliwr a’i frawd yn grydd.
Rwy’n teimlo weithiau mae’n rhaid ei fod yn
rhywbeth sydd yn y gwaed.
I genedlaethau blaenorol, ar adeg pan oedd
‘crefft’ yn rhan o fywyd bob dydd, roedd
sgiliau gwnïo, gau a thrwsio’n elfennau
hanfodol er mwyn i ferched ddysgu i ddilladu
eu teuluoedd. Ond o’r elfen angenrheidiol
yma, rwy’n credu i fenywod yn enwedig
ganfod cwmnïaeth a llawenydd wrth
ddysgu, cwblhau a phasio’r sgiliau hyn yn
eu blaen. A phleser hefyd, yn y cyffyrddiadau
personol y gellid eu hychwanegu iddynt trwy
roi gofal arbennig i’r pwytho neu wrth frodio
blodyn neu enw arnynt. Roedd mam Julie
Arkell yn wniadwraig fedrus, ac yn gwau,
coginio a garddio “…o ffrogiau i ddillad ar
gyfer fy noliau, sannau fy nhad, siwmperi a
menyg a hetiau, i gyd wedi eu creu â chariad
a pherffeithrwydd.” Fe basiodd y sgiliau yma
i gyd ymlaen i Julie, sydd wedi eu cyfuno fel
rhan o’i harddull unigryw ei hun.Kate Jenkins
Mae dilladach yn ganolog i’r traddodiad
hwn o etifeddiaeth y cartref, o sgiliau a
thechnegau a ddysgwyd gan ein mamau
a’n neiniau. Byddai merched bach yn creu
dillad ar gyfer doliau clwt, gan ddysgu’r
sgiliau gwnïo cyntaf hynny. Felly, efallai nad
yw’n syndod bod llawer o’r gwneuthurwyr
yn yr arddangosfa hon yn defnyddio
ddillad fel sianel ar gyfer eu meddyliau
a’u syniadau. Mae dillad, ar y lefel fwyaf
sylfaenol, yn hanfodol ar gyfer cynhesrwydd
ac amddiffyn y corff, ond maent hefyd yn
hynod o bersonol, maent yn cyfeirio nid yn
unig at y person sydd wedi eu creu ond yn
bennaf oll at y person sy’n eu gwisgo, eu
gwaith efallai, eu safle mewn cymdeithas,
eu chwaeth personol. Mae dillad yn dal i
gael eu pasio i lawr, fel yn y gorffennol, o un
genhedlaeth i’r llall unai trwy anghenraid
neu, yn bwysicach fyth, oherwydd bod
iddynt werth neu ystyr arbennig.
Mae gan Ruth Singer ddiddordeb penodol
yn agweddau cudd hanes menywod a bydd
yn ddefnyddio’r ffedog, y dilledyn mwyaf
iwtilitaraidd posibl, gan ei thrawsnewid
yn wrthrych all gynrychioli bywydau’r
gwneuthurwyr a’r perchnogion y caiff
eu straeon eu cuddio oddi wrthym. Mae
Jessie Chorley hithau’n defnyddio dillad,
gan ganfod harddwch ac ysbrydoliaeth
mewn pethau sydd wedi eu hepgor neu eu
gosod o’r neilltu. Bydd Jessie’n adfywio eu
harddwch dirywiedig trwy frodio testun
a naratif arnynt. Gan ei bod yn dod o
deulu o wneuthurwyr sydd yn credu’n gryf
mewn clytio a thrwsio, mae Jessie’n frwd
ynghylch parhau i ddefnyddio technegau
traddodiadol a ddysgwyd iddi o oedran
ifanc iawn gan ei mam a’i mam-gu.
Roedd ailgylchu ac ailddefnyddio, peidio
â gwastraffu dim, yn gysyniadau oedd
yn gyffredin yn y mwyafrif o gartrefi tan
ymhell wedi’r ail ryfel byd, a gwelwyd ton
newydd o ddiddordeb yn hyn yn ystod y
blynyddoedd diwethaf. Mae Julie Arkell yn
cofio: “Byddai ffrogiau y llynedd yn cael eu
altro i ffitio, ’doedd dim yn cael ei wastraffu.”
Mae’r ethos yma wedi parhau ymysg llawer
o wneuthurwyr, efallai’n llai o ganlyniad i Julie Arkell
ymdeimlad o reidrwydd ond yn hytrach yr
ymdeimlad o droi’n ôl at elfennau sylfaenol,
hiraeth a chysylltiad personol â’r gwaith a
gynhyrchir. Mae Kirsty Anderson yn creu
gweithiau o decstilau a ddyluniwyd ac a
argraffwyd gan ei mam yn y 1960au tra
bo Lynn Setterington yn defnyddio ffabrig
o ffrog a wisgodd ei mam unwaith yn ei
gwaith: “Clytwaith o atgofion”. Yn aml
caiff gwrthrychau gwerthfawr hefyd eu
pasio i lawr gan fam i’w merch, modrwy,
basged wnïo neu gist yn llawn tlysau, fêl
priodas, llythyrau, cynfasau, gŵn bedyddio,
ffotograffau. Bydd gwneuthurwyr fel Louise
Frances Evans yn aml iawn yn cynnwys
gwrthrychau a gafwyd a hen ddillad er
mwyn creu gweithiau sy’n naturiol iawn
yn gwneud inni feddwl am gysylltiadau
teuluol, hunaniaeth a cholled. Mae ei
gwaith yn dangos fod y pethau y byddwn
yn eu gwisgo neu’n eu cadw’n agos atom
hefyd â chysylltiad diarbed â’n meddyliau,
ein teimladau a’n atgofion.
Mae gan wnïo elfen gymdeithasol sy’n bwysig
iawn hefyd, heddiw bydd gwneuthurwyr yn
gweithio ar eu pen eu hunain yn bennaf, yn
unig mewn stiwdio neu ystafell wely sbâr,
ond mae i’r traddodiad cylch gwnïo neu
gwrdd gwnïo hanes maith. Byddai grwpiau
o gymdogion, teuluoedd a ffrindiau’n dod
ynghyd i wnïo, clebran, chwerthin ac yfed te.
Yn y grwpiau hyn byddai sgiliau sylfaenol a
thriciau newydd yn cael eu cyfnewid. Mae fy
Ruth Singer
mam yn cofio mynd â’i mam yn ferch fach i
ymweld â’i hen fodrybedd, ble y byddai grŵp
mawr o fenywod yn cwrdd, siarad a gwnïo.
Meddai Louise Frances Evans, “Cefais fy
nysgu i wnïo a gwau gan fy Nain yn bennaf,
ac i goginio a phobi gan fy mam, ac yn sicr
fe wnes ddysgu llawer tra’n yfed te.”
Am filoedd o flynyddoedd bu cynhyrchu
brethyn a dillad, nid yn unig yn ganolog
i rôl menywod yn y cartref, ond yn ogystal
bu’n ffynhonnell incwm pan oedd fawr
ddim cyfleoedd eraill ar gael iddynt. Cyn y
chwyldro diwydiannol byddai’r brethyn yn
cael ei gynhyrchu’n y cartref, unai ar gyfer
eich teulu eich hun neu fel ‘diwydiant cartref’.
Byddai mamau a merched yn gweithio â’i
gilydd gan wnïo, gwau, gwneud les neu
nyddu. Mae menywod dros y byd i gyd yn
dal i greu gwrthrychau o frethyn, gan basio
sgiliau brodio, appliqué, batic ac ati ymlaen
o fam i ferch.
Yn aml iawn cafodd harddwch, gwerth
a phwysigrwydd brethyn a gwnïo ei
anwybyddu tan yn ddiweddar, yn bennaf
oherwydd ei statws cymharol isel o fewn y
celfyddydau ond hefyd, oherwydd ei natur
byrhoedlog, prin yw’r esiamplau sydd i gael
o fwy nag ychydig ganrifoedd yn ôl. Bellach
mae technoleg a thechnegau cadwraeth
yn caniatáu cadwraeth llawer gwell a
chaiff gwaith gwniadwragedd, brodwyr a
chwiltwyr ei werthfawrogi gan gynulleidfa
ehangach. Yn ystod berw cymdeithasol
y cyfnod ar ôl y rhyfel, dechreuodd rhai
gwestiynu gwaith a rolau menywod ac yn aml
cafodd tasgau a ystyriwyd yn draddodiadol
fel rhai ‘menywod’ eu gwrthod. Yn raddol, o’r
1970au ymlaen cafodd y galwedigaethau
hyn eu hail-werthuso a gwelwyd ton newydd,
yn enwedig yn ystod yr ugain mlynedd
diwethaf, mewn artistiaid a gwneuthurwyr
sy’n defnyddio brethyn. Yn ogystal, ceir
gwerthfawrogiad cynyddol sylweddol o’r
hyn y mae gwneuthurwyr yn ei gynhyrchu
a’i gyd-destunau hanesyddol. Mae’r llinell
ddiffiniol rhwng crefft a chelfyddyd wedi
tyfu’n fwyfwy aneglur ac mae mwy a mwy
o wneuthurwyr yn ystyried tecstilau fel ffurf
mynegiant dilys, ac yn un all ymdrin â’r
pynciau mwyaf difrifol. Mae gwneuthurwyr
fel Caren Garfen yn defnyddio tecstilau i
greu gweithiau sydd yn aml iawn yn llawn
hiwmor ond sy’n cynnwys datganiadau
cymdeithasol moel sy’n ymwneud â
materion menywod, fel bywyd y cartref,
cydbwysedd bywyd / gwaith, a’r corff.
Er efallai nad yw’r gwneuthurwyr yn yr
arddangosfa hon yn cyfeirio’n uniongyrchol
at etifeddiaeth yn eu gwaith, daw pob un
ohonynt o gefndir cwbl bendant ble ’roedd
crefft, creadigrwydd a sgiliau’n bethau i’w
defnyddio, eu trysori a’u pasio ymlaen. Mae
Kate Jenkins yn cofio cael ei dysgu i wau a
chrosio gan ei mam a’i mam-gu o oedran
ifanc iawn ac mae wedi ei dylanwadu’n fawr
gan ei theulu. Er, mae’n siŵr iawn, i lawer
wrthryfela’n ystod eu glasoed, mae Julie
Arkell yn sôn am fynd allan i brynu ffrog
jersi gan Jeff Banks. “Roedd mam yn credu ei
bod hi’n edrych yn siêp ac roedd yn amheus
iawn ohoni. Fe geisiais i ddal fy nhir, ond
yn dawel fach roeddwn yn gwybod mai hi
oedd yn iawn!” Yn y diwedd mae’r mwyafrif
ohonom yn rhoi’r gorau i wrthryfela ac,
fel y dywed Janet Ruttenburg, “Fe wnes fy
ngorau glas i fod yn wahanol i fy mam ym
mha bynnag fodd posibl, ond nawr rwyf
wedi rhoi lan, rwyf am fod yn union yr un
fath â hi.” Ac efallai, yn eu tro, bod y mamau
hefyd wedi eu dylanwadu gan eu merched,
trwy adfywio eu ymdeimlad o antur, i fod yn
fwy gwreiddiol a chreadigol.
Felly dyma ble y dechreuodd y cyfan, fe
wnaeth y cysur a’r rhyfeddod oedd i’w gael
mewn pentyrrau o ddefnyddiau, blychau
botymau, bredwaith a rhubanau gyfareddu’r
gwneuthurwyr yn blant. ’Does dim yn fwy
naturiol iddynt na chreu gweithiau sy’n eu
cysylltu’n dragywydd â’u plentyndod a’r bobl
a ddylanwadodd arnynt. Mae technegau a
ddysgwyd ‘ar lin mam’ yn golygu fod gan y
gwneuthurwyr hyn hunaniaeth unigryw a
gorffennol cyffredin; gan wnïo profiadau,
digwyddiadau a chyfrinachau bywydau
eu teuluoedd. Mae eu gwaith yn cyfeirio at
waith menywod a threftadaeth y cartref ac
wedi eu llanw â harddwch, hanes ac ystyr.
Kirsty Anderson
“Gan imi gael fy magu mewn amgylchedd
creadigol, ’doedd e ddim yn benderfyniad o
gwbl mewn gwirionedd, mae wedi bod yn
ein teulu ers cenedlaethau. Mae mam-gu
wastad yn siarad am ei mam yn ailgylchu
manion bethau o amgylch y tŷ i greu tlysau
bychain. Fe wnaeth mam astudio argraffu
tecstilau yn Duncan of Jordanstone a
threulio’r rhan fwyaf o’i hoes fel cynllunydd,
mae dad yn chef ac mae Lucy, fy chwaer,
yn gynllunydd ffasiwn, felly roedd hyn yn
siŵr o ddigwydd – alla’ i ddim dychmygu
gwneud unrhyw beth arall. Mae gen i lun
wnes i yn yr ysgol gynradd ble ’roedd rhaid
inni dynnu llun o’r gorffennol, y presennol
a’r dyfodol. Y dyfodol oedd llun ohono’
i’n eistedd wrth fwrdd arlunio’n cynllunio
ffrogiau – felly roeddwn i’n weddol agos ati.
Cafodd fy chwaer a minnau ein dylanwadu’n
greadigol gan ein teulu o oedran ifanc, yn
arbennig gan ein mam. Gan ei bod wedi
mynd i’r ysgol gelf mae wastad wedi bod
â’r offer angenrheidiol wrth law. Rwyf am
ddangos dwy ochr fy ngwaith i a gwaith fy
mam ar gyfer yr arddangosfa hon. Cafodd
peth o’r ffabrig a ddefnyddiwyd ei ddylunio
gan fy mam yn yr ysgol gelf. Cefais y patrwm
wedi ei argraffu’n ddigidol ar gyfer rhai o’r
patrymau ac mae rhai yn cynnwys y ffabrig
gwreiddiol, mae darnau eraill o ddefnydd
wedi eu pasio i lawr, fel y napcynau yn
adenydd y symudyn. Mae’n ddiddorol iawn
imi weld rhan ohonom ni wedi ei adlewyrchu
yn y gwaith y byddaf yn ei greu.”
Kirsty Anderson
Magwyd Kirsty Anderson yn Burntisland,
tref glan y môr yn Fife. Mae wedi bod
ynghlwm â chreu, dysgu ac arddangos celf
a thecstilau fyth ers iddi raddio ac mae’n
byw yng Nghaeredin bellach. Mae gwaith
Kirsty’n ymwneud yn bennaf â dadadeiladu
a thrawsnewid tecstilau diangen neu a
gafwyd, gan droi eitemau annymunol neu
a daflwyd i’r neilltu yn weithiau unigryw
sydd â bywyd o’r newydd gan greu atgofion
ffresh â’i anifeiliaid clwt. Caiff ei gwaith ei
ysbrydoli gan y gorffennol, bywyd gwyllt,
y teulu ac eitemau eclectig sydd â hanes
iddynt.
Kirsty Anderson
Kirsty Anderson
Kirsty Anderson
1 “Fi, fy mam a mam fy nhad”
1 2
Julie Arkell
“Fe dyfais i lan yn ystod y 1950au a’r 60au
mewn cartref ble roedd eitemau wedi eu
gwneuthuro â llaw yn hynod o bwysig.
Roedd mam yn wniadwraig, yn weuwraig,
cogyddes a garddwraig fedrus. Roedd yn
gwau a gwnïo i’w theulu i gyd – o ffrogiau
i ddillad ar gyfer fy noliau, sannau fy nhad,
siwmperi a menyg a hetiau, i gyd wedi eu creu
â chariad a pherffeithrwydd. Fe ddangosodd
hi’r sgiliau yma i gyd imi. Rwy’n cofio’r cyffro
o ymweld â Liberty a dewis defnydd a
phatrwm ar gyfer ffrog haf newydd. Byddai
ffrog y llynedd yn cael ei altro i ffitio, fyddai
dim yn cael ei wastraffu. Yn fy arddegau fe
wnes i wrthryfela a, gyda rhywfaint o arian
yr oeddwn wedi ei gynilo, fe es i brynu un
o ffrogiau jersi Jeff Banks. Roedd mam yn
credu ei bod hi’n edrych yn siêp ac roedd yn
amheus iawn ohoni. Fe geisiais i ddal fy nhir,
ond yn dawel fach roeddwn yn gwybod mai
hi oedd yn iawn! Bu dysgu i wau yn fwy o her
i mi – bysedd poeth, chwyslyd yn ceisio deall
ble y dylai’r edafedd fynd. Roedd tensiwn
fy ngwaith yn ofnadwy, roedd popeth yn
troi allan yn anferthol, ble roedd ei gwaith
hithau mor ddestlus a pherffaith. Mae wedi
gwella dros y blynyddoedd. Ers i mam farw
18 mis yn ôl rwyf wed cael cysur mawr wrth
wau. Fe ofynnodd ffrind imi, pan welodd y
capan corrach bach coch, os mai fy mam
oedd wedi ei wau. Fe fyddwn wrth fy modd
yn dangos fy ngwaith iddi.”
Julie Arkell
Julie Arkell yw un o artistiaid gwerin cyfoes
mwyaf adnabyddus y wlad. Wedi iddi
astudio ffasiwn yn St Martin’s, dechreuodd
werthu ei gwaith ar stondin yn Covent
Garden ac mae bellach yn arddangos ei
chreaduriaid rhyfeddol mewn orielau ym
mhob cwr o’r byd. Gan weithio o’i stiwdio yn
Llundain, bydd yn llunio a phaentio eu cyrff
papier-mâché, gan wnïo a brodio eu dillad
â llaw a gwau eu cyfwisgoedd. Bydd Julie’n
cynnal gweithdai’n rheolaidd ar hyd a lled y
DU a thramor.
Julie Arkell
Julie Arkell
1 2 “Yn y ddau ffotograff yma mae mam yn gwisgo dwy ffrog o’r un patrwm, y ddwy wedi eu creu ganddi hi. Ar ddiwedd y 1980au fe wnaeth hi greu yr un ffrog mewn defnydd patrwm sgwarog du a gwyn. Fi sy’n berchen ar y patrwm bellach ac rwy’n dal i wisgo’r un y wnaeth mam ei chreu i mi bob haf. Y ffotograff lliw yw fy ffefryn, wedi ei dynnu ym 1960 yn yr ardd gefn. Roeddwn wrth fy modd gyda’r ffrog gingham porffor golau a gwyn yr wyf yn ei gwisgo ynddo. Rwy’n dal dol mewn gwisg genedlaethol y Swisdir ddaeth fy Modryb yn ôl imi o’i gwyliau – mae hi’n dal gen i. Yn anffodus cafodd holl ffrogiau fy mhlentyndod eu gwisgo’n dwll a’u rhwygo wrth chwarae ar y siglenni a’r llithren yn y parc lleol. Tynnwyd y ffotograff du a gwyn tua gwanwyn 1957.”
Julie Arkell
1 2
Jessie Chorley
Mae Jessie’n gweld harddwch ac
ysbrydoliaeth mewn pethau sydd wedi eu
hepgor neu eu taflu o’r neilltu. Y gwrthrychau
mwyaf cyfarwydd y bydd yn gweithio â hwy
yw llyfrau, dillad a dodrefn a bydd weithiau’n
cyfuno’r tri er mwyn creu un darn neu gyfres
fechan o weithiau.
Addysgwyd Jessie a’i brawd gartref gan eu
rhieni, oedd ill dau yn artistiaid tecstilau,
gan ddysgu trwy greadigrwydd. Gan ei bod
o deulu o wneuthurwyr sy’n credu’n gryf
mewn Clytio a Thrwsio, mae’n defnyddio
technegau tatio / gwneud les, brodio â llaw
a gwehyddu. Mae Jessie’n frwd dros barhau
i ddefnyddio’r technegau traddodiadol hyn,
a ddangoswyd iddi o oedran ifanc iawn gan
ei mam a’i mam-gu. Bydd yn dal i greu’n aml
iawn â’i mam, Primmy Chorley, ac maent
hefyd yn cynnal gweithdai brodio ar y cyd.
Bydd Jessie’n defnyddio testun a delweddau
wedi eu dewis yn ofalus a’u cyfuno â gwaith
brodio syml â llaw, gan osod manion a
gafwyd i greu golygfeydd a phrofiadau
naratif ar gyfer casgliad eang o wahanol
weithiau y gellir eu gosod mewn ystafelloedd
yn ogystal ag eitemau i’w gwisgo. “Rwy’n
frwd am roi bywyd a dechrau newydd i
wrthrych angof. Mae gweld rhywun yn
defnyddio rhywbeth yr wyf wedi ei ail-greu
fel pe bae’n cyfannu’r cylch.”
Ganed Jessie Chorley ym Maidstone, Caint
Jessie Chorley
ond fe’i maged yn Eryri, yng Ngogledd
Cymru. Mae’n gweithio’n bennaf â phapur
a thecstilau, y rhan fwyaf ohonynt wedi
eu “canfod”, a dyma yw ei hysbrydoliaeth.
Mae Jessie’n byw a gweithio yn Nwyrain
Llundain ac yn cyd-redeg J&B The Shop.
Mae ei gwaith yn archwilio adrodd straeon
a naratifau trwy ddefnyddio technegau
tecstilau traddodiadol, syml wedi eu cyfuno
â’r defnydd o wrthrychau a gafwyd ac a ail-
weithwyd. Mae’n frwd dros ddysgu a rhannu
ei sgiliau, mae’n cynnal gweithdai ar draws
y DU.
Jessie Chorley
Jessie Chorley
1 Jessie’n gwnïo
2 Primmy’n gwnïo
Jessie Chorley
1 2
Louise Frances Evans
“Rwy’n dod o deulu clòs gyda mam a nhad,
a minnau fel jam yn y frechdan rhwng fy nau
frawd. Roedd mam yn fythol bresennol a
byddwn yn gweld mam-gu, nain a fy hen fam-
gu, neu ‘Mam-gu Cariad Bach’, yn aml. Cefais
fy nysgu i wau a gwnïo gan Nain yn bennaf,
ac i goginio a phobi gan mam, ac mae’n sicr
imi lyncu llawer o wybodaeth tra’n yfed te.
Pan oeddwn i’n weddol fychan fe wnaeth
Nain wnïo doli glwt anferth imi a gelwais hi’n
Rebecca. Rwy’n cofio fy mod i wrth fy modd
yn archwilio cynnwys y blwch botymau ac
fy mod yn cael chwarae gwisgo lan mewn
ffrog felen hardd y gwnaeth Mam ei gwisgo
i’w pharti pen-blwydd yn 21ain oed. Roedd
Nain wastad yn creu ffrogiau a chafodd fy
hoffter o ffabrig ac edau ei feithrin wrth ei
hymyl. Yn anffodus wnes i erioed gwrdd â
mam fy nhad, roedd hithau’n wniadwraig
broffesiynol. Hi wnaeth greu ffrog briodas
fy mam ar ddechrau’r chwedegau, a Nain
wnaeth wnïo dillad y morynion bach. Roedd
creu fy ffrog briodas, a ffrogiau’r morynion,
yn draddodiad teuluol yr oeddwn yn hapus
iawn i’w ddilyn.
Yn ddiweddar, rwyf wedi dysgu bod
dyddiaduron mam a mam-gu o’i harddegau’n
llawn o gyfeiriadau at ‘aros i mewn a gwnïo’,
‘gwnïo blowsen’ neu gyfeiriadau at greu
rhywbeth ar gyfer y ‘drôr isaf’ fel rhan o’r
gwaith paratoi ar gyfer cael cartref yn y
dyfodol. Rwyf bellach yn trysori peiriannau
gwnïo mam a nain ac rwy’n ffodus imi
Louise Frances Evans
dderbyn gwniadur Mam-gu Cariad Bach yn
ei hen gasyn melfed gwyrdd hardd.
Wrth rannu ffotograffau teuluol sepia
gyda nain, sydd bellach yn 96, fe fyddwn i’n
edmygu’r hen amser a’r cysylltiadau teuluol,
ond byddai nain yn cofio pa mor llachar
oedd y ffabrig yn y llun fel pe bae’n liw llawn,
pryd y gwnaeth greu a phryd y gwisgodd y
dilledyn.”
Louise Frances Evans
Louise Frances Evans
1 “Mam, nain, y brawd a minnau ar y pier”
2 “Fi, Mam, Nain, Mam-gu Cariad Bach a’r brodyr adeg y Nadolig”
Louise Frances Evans
1 2
Caren Garfen
Bydd Caren yn mân-bwytho atgofion o
dyfu lan mewn cartref ble roedd creu yn
fodd greddfol o fyw. “Yn fy nghartref pan
oeddwn i’n fach roedd cypyrddau’n gorlifo â
llathenni o ffabrig, riliau o gotwm a thuniau
o fotymau. Roedd bocsys yn llawn o offer
gwnïo, zipiau a thapiau mesur. Roedd gan
edafedd a gweill gwau eu lle penodol ar y
silff. ’Does ryfedd fod tecstilau a phwytho
wedi tyfu’n elfen ganolog o fy ngwaith.”
Mae ‘Addressing the Past’ yn archwiliad
o blentyndod dwy efeilles gafodd yr un
fagwraeth, ac mae’n archwilio eu hatgofion
a gweld os ydynt yn debyg neu’n wahanol,
wrth i’r menywod dewr hyn ddatgelu
eu gorffennol. Mae’r celfwaith yma’n
ymddangos ar ffurf dwy ffrog yn steil y
ffrogiau haf y byddai’r efeilliaid yn eu
gwisgo pan oeddent tua wyth mlwydd oed.
Bellach yn oedolion, maent yn edrych yn ôl,
gan ymgolli mewn atgofion o’u plentyndod.
Cafodd yr hanes gan Efeilles I ei wnïo â llaw
ar flaen y ffrog gyntaf cyn i unrhyw atgofion
gael eu datgelu gan Efeilles II. ’Doedd gan
yr efeilliaid ddim syniad o gwbl beth oedd
y llall yn ei ysgrifennu. Mae’r frawddeg a
bwythwyd â llaw, ‘Tydw i ddim yn cofio
eistedd ar lin fy mam’, yn cynnig awgrym inni
o’r berthynas gythryblus rhwng y merched
ifainc â’u mam; bydd rhaid i’r gwyliwr
ddarllen rhwng y llinellau!
Mae Caren Garfen yn defnyddio tecstilau i
Caren Garfen
greu gweithiau sy’n ymwneud â materion
menywod yn yr unfed ganrif ar hugain.
Defnyddir mân-bwytho â llaw i gyfleu
negeseuon am wleidyddiaeth y rhywiau,
a themâu fel bywyd cartref, cydbwysedd
bywyd / gwaith, a’r corff. Mae Caren wedi
arddangos yn helaeth yn y DU a thramor,
gan gynnwys yn y V&A a’r Academi
Frenhinol. Mae wedi ymddangos mewn
nifer o erthyglau a llyfrau ac mae’n aelod o
The 62 Group of Textile Artists.
Caren Garfen
Caren Garfen
1 2 “Dyma lun ohonof fi’n blentyn (yn dal y bwced!) yng nghanol fy chwiorydd a gyda fy mam. Mam wnaeth y trowsusau yr oedden ni gyd yn eu gwisgo ar y pryd a hi wnaeth wau y siwmperi hefyd!”
Caren Garfen
1 2
Kate Jenkins
Wedi ei dysgu i Grosio a Gwau o oedran ifanc
gan ei Mam a’i Mam-gu, disgrifiwyd Kate fel
‘athrylith crosio’ ac un o artistiaid mwyaf
gwreiddiol a dyfeisgar y DU. Yn adnabyddus
am ei bwyd crosio unigryw, fe gymer Kate
gipolwg hiraethus ar wrthrychau bob dydd,
wedi eu ail-greu mewn gwlân ac edafedd
gyda chyffyrddiadau doniol, ysmala.
Mae wedi crosio gweithiau celf o hoff
fwydydd y wlad, trawsffurfio mannau yn
ardd wedi ei chrosio a’i gwau, gwau golygfa
o wledd ffantasi gan gynnwys poteli
Siampaen wedi eu crosio, ail-ddychmygu
eitemau archfarchnad a brandiau eiconig.
Mae wedi arddangos yn Llundain, Brighton
a’r Unol Daleithiau a chaiff ei gwaith ei
gasglu ar hyd a lled y byd. Mae Kate yn
gweithio o’i stiwdio yn Brighton ac mae’n
fwriad ganddi arddangos ym Mharis yn
2014.
Ganed Kate Jenkins yng Nghwmbrân a
chafodd ei magu yn Nhir-y-berth, Cwm
Rhymni. Fe’i haddysgwyd yng Nghaerdydd
ac yn ddiweddarach graddiodd o Brifysgol
Brighton gyda Gradd BA (Anrhydedd) mewn
Tecstilau Ffasiwn. Yn ei bywyd blaenorol
fel ymgynghorydd gwau llwyddiannus, fe
werthodd ei chynlluniau i labeli ffasiwn fel
Marc Jacobs, Missoni, Sonia Rykiel a Donna
Karan. Ynghyd â’i phrosiectau celf mae’n
cynhyrchu ffasiwn a nwyddau i’r cartref o
dan ei label ei hyn, ‘Cardigan’.
Kate Jenkins
Kate Jenkins
Kate Jenkins
1 “Dyma lun hen iawn ohonof fi a fy chwaer Helen (mewn gwisg Gymreig). Fi ar y dde.”
2 “Fi, yn fabi.”
Kate Jenkins
1 2
Lynn Setterington
“O edrych yn ôl, rwy’n credu i fy nheulu
ddylanwadu arna’ i â’u hoffter angerddol i
greu, yn hytrach na gwnïo neu decstilau’n
benodol. Roedd mam yn gogyddes
ddyfeisgar wych, fy nhad yn athro a garddwr
brwdfrydig ac roedd fy mrawd hŷn byth a
hefyd yn y garej yn atgyweirio pethau ac yn
gweithio fel athro gwaith coed.
Mae’r clytwaith a geir yn y gwaith hwn yn
un y dechreuais arno pan oeddwn yn fy
arddegau. Mae wedi ei greu o garpiau o
ddillad oedd yn berchen i mi, fy mam, a fy
chwaer. Fe orweddodd yn angof (fel llawer
o brosiectau clytwaith) mewn wardrob am
ddeng mlynedd ar hugain ac ailymddangos
pan fu farw mam a phan gafodd ei chartref
/ ein cartref ei glirio. Mae edrych arno
eto wedi’r holl amser a gweld y ffabrig o’r
newydd, yn ennyn atgofion hapus o fy
mhlentyndod gan fy nwyn yn ôl i fy mywyd
cynnar yn Swydd Efrog. Rwy’n dal i allu
gweld mam yn y ffrog binc a welir yn y tŷ
canol yn y rhes uchaf.
Trwy gyd-blethu’r ffabrigau ym mlociau’r
tŷ, mae’r gwaith hwn yn ein hatgoffa
o’r effaith y gall ein magwraeth ei gael
ar ein hunaniaeth a’n dyfodol. Mae’r tŷ
â’i ben i waered yn cyfeirio at y ffaith na
fydd pob atgof a magwraeth yn gadael ôl
cadarnhaol.”
Mae Lynn Setterington yn artist tecstilau a
Lynn Setterington
gydnabyddir yn rhyngwladol sy’n dathlu’r
cyffredin a’r hyn gaiff ei anwybyddu gan
gymdeithas. Wedi ei geni yn Swydd Efrog,
hyfforddwyd Lynn yng Ngholeg Celf a
Thechnoleg Caerefrog ac yng Ngholeg
Goldsmiths, Llundain. Mae’n Uwch-
ddarlithydd ym Mhrifysgol Fetropolitan
Manceinion ac yn Gymrawd Cyswllt Canolfan
Ryngwladol Astudio’r Cwilt yn UDA. Mae’n
aelod o The 62 Group ac yn arddangos ei
gwaith yn rhyngwladol. Ceir enghreifftiau
o’i gwaith mewn nifer o amgueddfeydd
cyhoeddus o bwys yn cynnwys y V&A, y
Crafts Council of Great Britain ac Oriel Gelf
Whitworth, Manceinion.
Lynn Setterington
Lynn Setterington
1 “Fi, mam a John fy nghefnder”
2 “Fi, mam a mrawd”
Lynn Setterington
1 2
Ruth Singer
“Grandad’s tool shed: Mae’r darnau hyn yn
seiliedig ar yr offer tŷ a gardd o sied fy Nhad-
cu. Bu’n arddwr proffesiynol o pan oedd yn
14 oed a daliodd ati i dyfu ei lysiau ei hun
tan ei farwolaeth yn 2012, yn 96 mlwydd
oed. Roedd ei siediau niferus yn cynnwys
blynyddoedd o offer oedd wedi gweld
llawer o ddefnydd ac oedd wedi eu cynnal
a’u cadw’n ofalus, ynghyd â’i ysbryd yntau.
Roedd teulu ei ail wraig yn rhedeg golchdy
bychan, ac roedd eu tŷ’n llawn eitemau
lliain traddodiadol, pob un wedi ei gannu,
ei startsio a’i smwddio. Rwyf wedi cyfuno’r
darnau lliain hyn a’r siediau offer i greu cyfres
o weithiau sy’n perthyn i’w gilydd, wedi eu
creu o facynnau Tad-cu ynghyd â ffabrigau
newydd. Mae technegau’n cynnwys cwiltio
trapwnto, brodwaith cysgodol ac appliqué
o chwith.
Aprons - Time Bubble 1 & Time Bubble 2: Mae’r
gyfres yma o ffedogau wedi ei hysbrydoli
gan agweddau cudd hanes menywod a’r
ffedogau di-berchen, enigmatig sydd i’w
gweld bellach mewn amgueddfeydd. Mae
ffedogau’n gelfyddyd nas gwerthfawrogir
ddigon gaiff eu gadael yn aml, wedi eu
hanwybyddu, mewn casgliadau mewn
amgueddfeydd, heb unrhyw astudiaethau
manwl ohonynt. I mi, maent yn cynrychioli
bywydau gwneuthurwyr a pherchnogion y
ffedogau hyn, y mae eu hanes wedi ei guddio
oddi wrthym, o fewn swigen amser.”
Ruth Singer
Mae Ruth Singer yn creu gweithiau celf
diddorol sydd wedi eu hysbrydoli gan
decstilau hanesyddol, gwrthrychau mewn
amgueddfeydd, treftadaeth personol,
atgofion a hanesion. Mae’n defnyddio
tecstilau naturiol ac eilgylch wedi eu
cyfuno â phwytho â llaw yn ogystal â
thechnegau trin ffabrig i greu arwynebau
â gwead llawn manylion. Caiff llawer o’i
thechnegau eu datblygu o’i hastudiaeth
o decstilau hanesyddol, yn seiliedig ar ei
hymchwil personol a’i gyrfa gyntaf mewn
amgueddfeydd. Mae’n arddangos yn y
DU a thramor ac fe’i comisiynwyd i greu
gweithiau ar gyfer Amgueddfeydd Derby ac
Oriel y Shire Hall.
Ruth Singer
Ruth Singer
Ruth Singer
1 “Fi a fy Nhad-cu”
2 “Fy llysfam wnaeth fy nysgu i wnïo, fy llysfam-gu (ail wraig Tad-cu), Tad-cu a fi”
1 2
Julie Arkell
“On My Mother’s Knee” a Llantarnam Grange Arts Centre Touring Exhibition.
We would like to thank all the makers who have allowed us to exhibit their work in “On My Mother’s Knee”.
Exhibition Curator: Louise Jones WilliamsTranslator: Heddwen Pugh-Evans Design: Hillview Design
Published by Llantarnam Grange Arts Centre. Text ©The Authors and LGAC 2013Llantarnam Grange Arts Centre St.David’s Road Cwmbran Torfaen NP441PDT: +44(0)1633 483321 E: [email protected] W: www.lgac.org.uk
Llantarnam Grange Arts Centre is part of the Arts Council of Wales portfolio of Revenue Funded Organisations.Registered Charity no: 1006933
Company Limited by Guarantee no: 2616241
Llantarnam Grange Arts Centre is funded by the Arts Council of Wales, Torfaen County Borough Council and Monmouthshire County Council.
This publication may not be reproduced in whole or in part in any form without written permission from the publisher.