1
Cyflawni dros Gaerdydd Dewis Newydd
i Brifddinas Cymru Mai 2012
Cyflawni dros Gaerdydd Dewis Newydd i
Brifddinas Cymru Mai 2012
2
Dyluniwyd gan:
Matthew Bumford
Ysgrifennwyd gan:
Matthew Bumford a Luke Nicholas
Argraffwyd a Hyrwyddwyd gan:
Plaid Cymru
Tŷ Gwynfor
Llys Anson
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4AL
Sganiwch y cod QR hwn i
gael rhagor o wybodaeth
am Blaid Cymru
3
Cyflawni dros
Gaerdydd
Maniffesto Plaid
Cymru 2012
Dewis Newydd i Gaerdydd//
Ein Gweledigaeth - Prifddinas
Deinamig
Plaid Cymru yw'r unig blaid gwbl
Gymreig, gan mai ni yw'r unig blaid
sy'n bodoli er lles Cymru'n unig, ac er
budd Cymru a'i phobl. Am y rheswm
hwn, ni yw'r unig blaid a all ddweud
heb amheuaeth mai Cymru yw sail ein
bodolaeth; a dyma pam bod Caerdydd
wrth wraidd ein gweledigaeth dros
Gymru.
I ni, nid dim ond dinas arall yn y
Deyrnas Unedig yw Caerdydd - dyma
galon y genedl. Oherwydd hyn, ni all
neb ragori ar ein polisïau ar gyfer
Caerdydd. Rydym am i Gaerdydd fod
yn ddinas wych a hawlio'i lle ymhlith
prifddinasoedd Ewrop. Dyma pam,
dros y pedair blynedd ddiwethaf o fod
mewn llywodraeth yng Nghaerdydd
ein bod wedi gwneud buddsoddiad
mawr i wella ein cymunedau a helpu i
greu mwy o swyddi.
Gwyddom hefyd mai'r hyn sy'n
gwneud Caerdydd yn lle gwych yw nid
dim ond y ffaith mai prifddinas yw hi,
ond ei phobl. Dyma pam, dros y pedair
blynedd ddiwethaf o fod mewn
llywodraeth yng Nghyngor Caerdydd,
ein bod wedi gwneud buddsoddiad
mawr ym mhobl Caerdydd a'r swyddi
sydd eu hangen arnynt.
Gwneud addewidion y mae eraill - ond
rydym ni'n cyflawni.
Mae eich cynghorwyr Plaid Cymru
wedi cyflawni rhai o gyfrifoldebau
pwysicaf y Cyngor yn ystod y
dirwasgiad a'r dirywiad economaidd
sy'n mynd rhagddo.
Rydym yn cefnogi Prifysgol Caerdydd
fel sefydliad Grŵp Russell i ysgogi twf
economaidd yn y ddinas a denu'r bobl
fwyaf talentog i Gaerdydd. Dan
lywodraethiad y Blaid yng Nghyngor
Caerdydd rydym hefyd wedi parhau i
gynyddu gwariant ar addysg. Bellach,
mae gennym yr ail wariant mwyaf yng
Nghymru y disgybl. Rydym hefyd wedi
dechrau rhaglen adeiladu ysgolion
newydd sy'n cynnwys darpariaeth
addysg Gymraeg, sydd wedi cynyddu'n
aruthrol yn y ddinas yn ddiweddar.
Rydym yn rhoi'r sgiliau i'n plant i
feithrin y Gymru gyfoes, hyderus y
mae'r Blaid am ei gweld.
Rydym eisoes wedi rhoi cynlluniau
pellach ar waith i wella ffyrdd a
rheilffyrdd y ddinas. Rydym wedi creu
gweledigaeth economaidd i'r ddinas yn
seiliedig ar yr Ardal Fusnes Ganolog a
allai wneud Caerdydd yn un o
ddinasoedd pwysicaf Ewrop ym maes
cyllid.
Yn wahanol i rai cynghorau cyfagos nid
ydym wedi gorfodi toriadau tâl enfawr
ar staff, ond wedi delio â materion y
gweithlu mewn modd sensitif, gan
weithio mewn partneriaeth ag
undebau. Mae hyn yn golygu bod staff
y cyngor wedi cael un o'r setliadau
gorau yng Nghymru, gan osgoi'r tarfu
ar wasanaethau a welwyd mewn
cynghorau eraill.
4
Rydym hefyd wedi osgoi'r toriadau i
wasanaethau llyfrgell pwysig sydd wedi
bod yn bwnc llosg yn Lloegr. Ni
chaewyd yr un llyfrgell. Yn wir, yn
ystod ein cyfnod mewn llywodraeth
gwnaethom agor Llyfrgell Ganolog
Caerdydd, sy'n un o dirnodau'r ddinas
ac yn ganolfan addysg bwysig. Mae
Plaid Cymru wedi dangos bod dewis
arall ac y gallwn weithio at yfory gwell.
Rydym hefyd wedi meithrin
hunaniaeth Gymreig Caerdydd, gan
gynyddu'r gwariant ar addysg
Gymraeg, cefnogi gwyliau diwylliannol
lleol gan gynnwys Gorymdaith Dydd
Gwyl Dewi, a denu digwyddiadau
pwysig i'r ddinas fel y gallwn farchnata
Cymru i'r byd fel cyrchfan gyffrous a
lle i fuddsoddi ynddo.
Mae Plaid Cymru wedi rhoi pwyslais
mawr ar ailgylchu a'r agenda werdd, a
gyda chefnogaeth pobl Caerdydd wedi
cynyddu cyfraddau ailgylchu domestig
yn sylweddol, a byddwn yn parhau i
ymdrechu i fod y gorau yng Nghymru.
Plaid Cymru a greodd y fenter Dinas
Deithio Gynaliadwy i Gaerdydd, gan
arwain y blaen yng Nghymru.
Felly mae ailgylchu'n cynyddu,
gwariant ar addysg yn eich ysgolion
lleol yn cynyddu, mae gan yr economi
gynllun clir yn seiliedig ar fuddsoddi,
nid cynilo, gyda nifer yr ymwelwyr yn
uchel a digwyddiadau o'r radd flaenaf
ar y gorwel.
Yn eich cymunedau ledled y ddinas
mae gennym gynghorwyr Plaid Cymru
gweithgar yn mynd i'r afael â'r
materion lleol sy'n bwysig i chi. Mae
pobl bellach yn deall pan fydd ardal yn
ethol cynghorwyr Plaid Cymru fod y
Cyngor yn cymryd sylw ohonynt.
Rydym yn cysylltu â thrigolion gydol y
flwyddyn - nid dim ond yn ystod
etholiadau - a'r gwaith llawr gwlad
hwn sy'n golygu ein bod yn gwybod
beth sydd angen ei wneud nesaf.
Mae Caerdydd yn ddinas unigryw -
prifddinas fyd-eang, ryngwladol, ond
â'r gymuned leol wrth wraidd iddi.
Rhaid i ni ddiogelu treftadaeth y
ddinas drwy gydol ein datblygiad a
buddsoddi yn ein pobl a'n seilwaith i
sicrhau twf economaidd parhaus.
Gallwn ragori ar ein cyflawniadau
drwy ddatblygu'r economi leol er
mwyn sicrhau cyfiawnder
cymdeithasol.
Mae dewis clir i bobl Caerdydd yn yr
etholiadau hyn: cynnydd a
gweledigaeth â Phlaid Cymru neu
gynilo a methiant gyda'r pleidiau eraill.
Rwy'n erfyn arnoch i gefnogi Plaid
Cymru, y blaid wleidyddol sy'n tyfu
gyflymaf yng Nghaerdydd a Chymru.
Y Cynghorydd Neil McEvoy
Dirprwy Arweinydd Cyngor
Caerdydd
Arweinydd Grŵp Plaid Cymru
Caerdydd
5
Neges gan Arweinydd
Plaid Cymru.
Mae gan Blaid Cymru hanes rhyfeddol.
O fewn wyth mlynedd, aeth y blaid o
gael un cynghorydd wedi'i ethol yng
Nghaerdydd, i fod mewn grym. Mae
cyflawniadau'r Blaid yn ein prifddinas
yn dangos yr hyn y gellir ei wneud.
Plaid Cymru yw'r dewis go iawn yng
Nghaerdydd.
Ni yw plaid genedlaethol Cymru, ac
mae ein llwyddiant yng Nghaerdydd yn
dangos nad oes bellach ardaloedd lle
na all y Blaid ffynnu ynddynt. Rydym
yn ddewis arall cenedlaethol a
chredadwy i'r pleidiau eraill.
Yn seiliedig ar gyflawniadau Caerdydd,
sy'n parhau i ddatblygu, mae gennym
weledigaeth glir ar gyfer y
blynyddoedd nesaf. Gan fynd yn groes
i'r duedd ryngwladol, bydd y cynllun
economaidd a gynigiwyd gennym yn
cefnogi buddsoddiad yn lle cynilo, a
bydd gwasanaethau i'r rhai mwyaf
diamddiffyn yn cael eu diogelu.
Mae tîm y Blaid yng Nghaerdydd yn
gymysgedd o brofiad ac egni a all
ddatblygu'r cyngor. Mae'r nifer fwyaf
erioed o ymgeiswyr yn sefyll yng
Nghaerdydd drosom o bob math o
gefndiroedd. Rhyngddynt, mae
degawdau o brofiad o weithio yn eu
cymunedau ac ymgyrchu dros eu
buddiannau. Cofiwch, Plaid Cymru yw
eich plaid leol chi, ac nid yw'n atebol i
neb ond am bobl Cymru.
Rydym yn gwerthfawrogi ein
prifddinas a'i rôl ym mheiriant
economaidd y genedl. Cyflawnwyd y
datblygiadau siopa newydd, cyfoes
ynghyd â Llyfrgell Ganolog Caerdydd
gyda'r Blaid wrth y llyw, gan hefyd
gefnogi'r hen arcedau, busnesau bach a
gwerthfawrogi hanes balch Caerdydd.
Mae gan Gaerdydd orffennol y gall
ymfalchïo ynddo, a gyda Phlaid Cymru
ar Gyngor Caerdydd mae dyfodol o'n
blaen.
Yng Nghaerdydd, Plaid Cymru yw'r
Dewis Newydd. Dyma'r tro cyntaf yn
hanes ein Plaid y gallwn gynnig
rhaglen i bobl Caerdydd y mae gennym
gyfle gwirioneddol o'i chyflawni.
Rydym wedi cyflawni llawer ers 2008.
Ymunwch â ni i gael y maen i'r wal.
Ymlaen!
Leanne Wood AC
6
Yr Economi, Swyddi a
Thrafnidiaeth//
Y mae'n gyfnod anodd i bawb. Dros y
blynyddoedd diwethaf mae economi
Cymru wedi gwanychu, gyda thair prif
blaid Llundain yn mabwysiadu
polisïau cynilo.
Ond nid yw'r camgymeriadau a wnaed
gan bleidiau yn Llundain yn esgusodi
eu diffyg gweithgarwch yng Nghymru.
Nid yw'r Blaid yn credu mewn
cynilo. Credwn mewn buddsoddi.
Nid ni a achosodd yr argyfwng
ariannol, ond rydym bellach yn
ymrwymedig i sicrhau dyfodol mwy
llewyrchus i bobl Caerdydd. Mae ein
record yn profi y gallwn fanteisio i'r
eithaf ar adnoddau cynyddol brin,
gyda'n polisïau yn profi y gallwn greu
economi a fydd yn diwallu anghenion
pobl Caerdydd.
Ein Record//
Yr Ardal Fusnes Ganolog- Rydym
wedi cyflwyno gwerth £160m o
gynlluniau i Ardal Fusnes Canol
Caerdydd. Enillwyd statws Parth
Menter Cymru, sy'n cynnig dyfodol
hyfyw i ganol y ddinas. Bydd yn codi
proffil Caerdydd, gyda'r buddiannau
cymdeithasol ac economaidd yn
cynnwys Gorsaf Fysus Ganolog gyfoes
gwerth £10m, a'r Ganolfan
Gynadledda Ryngwladol gwerth £18m.
Gwnaed hyn gan fod y Blaid yn delio â
phortffolio economi'r cyngor.
Cronfa Cyfalaf Caerdydd - Ni
wnaethom ymateb i'r dirywiad
economaidd drwy segura. Yn y cyngor,
brwydrodd y Blaid yn erbyn y
dirwasgiad gan lunio Cronfa Cyfalaf
Caerdydd, sy'n darparu buddsoddiad
cyhoeddus i gwmnïau hen a newydd y
ddinas. Rhaid i gwmnïau greu swyddi i
fanteisio ar yr arian hwn. Hyd yma,
mae'r cynllun eisoes wedi darparu dros
£1 filiwn i 48 o gwmnïau i helpu i greu
a diogelu 648 o swyddi yn y ddinas.
Cadw eich Treth Gyngor yn isel -
Mae Plaid Cymru'n deall bod y dreth
gyngor yn faich ar bobl, a dyma pam
ein bod wedi sicrhau'r cynnydd isaf
ond un yng Nghymru yn y dreth
annheg hon dros y pedair blynedd
ddiwethaf. Ar gyfartaledd, cynyddodd
y Dreth Gyngor 2.7% y flwyddyn yng
Nghaerdydd. Dan Lafur yng
Nghaerdydd, y ffigur oedd 11%. Yr unig
gyngor gyda chynnydd is yn ystod y
cyfnod hwn oedd Caerffili, a reolir gan
Blaid Cymru, lle na gwelwyd cynnydd
ers 2 flynedd. Drwy waith rheoli
ariannol gofalus a lleihau ar
fiwrocratiaeth ddiangen, nid ydym
wedi gorfod cyflwyno toriadau mawr i
gyflawni hyn.
Diogelu swyddi - Oherwydd
agenda'r Ceidwadwyr yn San Steffan,
mae pwysau mawr ar bob cyngor i
wneud toriadau. Ond, er bod
cynghorau Llafur cyfagos wedi ymosod
ar dâl ac amodau'r gweithwyr, mae'r
Blaid wedi ailstrwythuro swyddi uwch
reoli i wneud arbedion a chyd-drafod
â'r undebau llafur, gan roi un o'r
setliadau tâl mwyaf hael yng Nghymru
i'n gweithwyr, ac osgoi'r math o darfu
ar wasanaethau a welwyd mewn
cynghorau a redir gan bleidiau eraill.
Sicrhau digwyddiadau mawr -
Rydym wedi dod â digwyddiadau
7
mawr i Gaerdydd fel WOMEX -
digwyddiad mwyaf Diwydiant
Cerddoriaeth y Byd, a gefnogir gan y
Cenhedloedd Unedig. Rydym hefyd
wedi dechrau datblygu Caerdydd fel
cyrchfan o safon i hyrwyddiadau
bocsio, dan ddod â Noson
Pencampwyr WBC i Gaerdydd yn
ogystal â Chynhadledd Focsio'r Byd
2013 - gan guro'r gystadleuaeth o
Dubai a Croatia. Mae'r rhain, a
digwyddiadau rhyngwladol eraill, yn
denu ymwelwyr a masnach ac yn
dangos Caerdydd i'r byd.
Cyrchu Caerdydd - Gwnaethom
ddyrannu £50,000 i 'Gyrchu
Caerdydd', menter barhaus sy'n ceisio
dyfarnu mwy o gontractau'r cyngor i
fusnesau lleol. Rydym yn cefnogi
busnesau Caerdydd fel rhan o'r polisi
craff ac arloesol hwn. Mae Plaid
Cymru'n deall bod yn rhaid i ni feithrin
busnesau Cymru, ac felly byddwn yn
ymdrechu i ddefnyddio busnesau lleol
ar gyfer ein gwasanaethau lle y bo'n
bosibl.
Ein Haddewidion//
Cyflwyno'r Ardal Fusnes Ganolog -
Mae angen i ni sicrhau bod yr Ardal
Fusnes Ganolog yn llwyddiant, drwy
gyd-drafod â chwmnïau allweddol i
symud yno, ac ymgyrchu'n ehangach
dros gysylltiadau ffordd, rheilffordd ac
awyr gwell i'r ddinas. Roedd
Cynghorwyr Plaid Cymru'n rhan
allweddol o drafodaethau i sicrhau
arian gan Lywodraeth Cymru a
chynllunio ar gyfer y datblygiad pwysig
hwn. Rydym yn benderfynol o gael y
maen i'r wal.
Elfen ryngwladol i Gronfa Cyfalaf
Caerdydd - Mae Cynghorwyr Plaid
Cymru eisoes yn gwneud cynlluniau i
siartro awyren o Efrog Newydd i
Gaerdydd ar gyfer Gorymdaith Dydd
Gwyl Dewi 2013. Y nod fydd dod â
phobl fusnes o UDA i ddangos iddynt y
cyfleoedd i fuddsoddi sydd yng
Nghaerdydd mewn sectorau
economaidd allweddol fel y
diwydiannau creadigol, gwyddorau
bio/bywyd a thechnoleg werdd. Ni
fyddwn yn llaesu dwylo pan fo
cyllidebau'n lleihau, ond yn ceisio bod
yn arloesol a denu buddsoddiad o
dramor. Caiff Cronfa Cyfalaf Caerdydd
ei hehangu.
Hyrwyddo arcedau a
marchnadoedd - Rydym wedi
sicrhau datblygiadau cyfoes o'r safon
uchaf fel Dewi Sant 2. Ond rydym
hefyd am hyrwyddo cymeriad
hanesyddol a chynnyrch lleol
Caerdydd fel arcedau canol y ddinas, y
Farchnad Ganolog a Marchnad Glan-
yr-afon. Rydym yn addo helpu i
hyrwyddo cyllid ac ymgyrchoedd
cyhoeddusrwydd i hybu nifer yr
ymwelwyr a rhoi gwybod i fwy o bobl
am yr asedau unigryw hyn.
Diogelu ein treftadaeth
Llwyddodd y Blaid i newid polisi
Cyngor Caerdydd a chadw'r casgliad
llyfrau hanesyddol yng Nghymru.
Byddwn yn dangos yr un penderfyniad
wrth lobïo Llywodraeth Cymru i helpu
i achub tafarn y Vulcan.
Arwyneb y ffyrdd a cheudyllau -
Mae angen gwneud buddsoddiad
cyson yn rhwydwaith trafnidiaeth y
ddinas gan ei fod yn cael ei
8
ddefnyddio'n helaeth. Yn gyntaf,
byddwn yn cadw ymrwymiad
Caerdydd i sicrhau buddsoddiad o £44
miliwn mewn Priffyrdd dros y pum
mlynedd nesaf, gyda'r nod o'u
hehangu. Caiff llinell gymorth ar
geudyllau ei sefydlu.
Cysylltu Rhanbarth Caerdydd -
Llywodraethau Cymru a'r DU sy'n
gyfrifol am lawer o'r seilwaith o
amgylch Caerdydd. Ar ôl lobïo'n
llwyddiannus dros drydanu'r prif
reilffordd i Gaerdydd o Lundain, bydd
Plaid Cymru'n parhau i hybu'r achos i
drydanu Cledrau'r Cymoedd. Bydd yn
help mawr i gymudwyr ac yn ysgogi'r
economi. Rydym yn gwbl anfodlon ar y
ffordd y caiff trenau eu gorlenwi a
byddwn yn anfon neges glir at y
cwmnïau trenau a Llywodraeth y DU
bod yn rhaid i fuddsoddiad yn y
rheilffyrdd gyfateb i'r galw amdanynt.
Dinas i'r 21ain Ganrif yw Caerdydd
sy'n haeddu rhwydwaith trafnidiaeth
i'r 21ain Ganrif ond ar hyn o bryd rhaid
i gymudwyr fodloni ar system
drafnidiaeth a adeiladwyd yn oes
Fictoria. Dyma pam y byddwn yn
cefnogi cynlluniau ar gyfer system
Fetro i Gaerdydd i gysylltu Caerdydd a
rhanbarth ehangach y de-ddwyrain. O
ystyried ein bod eisoes wedi llwyddo i
gyd-drafod Ardal Fusnes Ganolog
gwerth miliynau o bunnoedd, teimlwn
mai ni yw'r unig blaid a allai gyflawni'r
system Fetro sydd ei hangen ar
Gaerdydd, ac rydym yn addo cyfrannu
at y gwaith o'i sicrhau.
Byddwn yn gweithio gydag
awdurdodau lleol eraill yn y Rhanbarth
Dinesig i fenthyca arian i'w fuddsoddi
yn y seilwaith trafnidiaeth i alluogi ein
dinasyddion i symud o amgylch yr
ardal economaidd ranbarthol leol.
Rydym hefyd am weld Llywodraeth
Cymru yn cyflwyno cynlluniau call i
adfer Maes Awyr Rhyngwladol
Caerdydd, gan gynnwys gwasanaeth
rheilffordd uniongyrchol, i gystadlu â
dinasoedd eraill. Mae angen maes
awyr ar Gaerdydd sy'n deilwng o'n
huchelgais i fod yn ddinas wirioneddol
ryngwladol, ac felly byddwn yn parhau
i bwyso ar Lywodraeth Cymru nes i
faes awyr modern sydd â chysylltiadau
da gael ei roi i Gaerdydd. Byddwn yn
parhau i alw ar Lywodraeth Cymru i
flaenoriaethu cysylltiadau awyr
rhyngwladol ag Efrog Newydd a Dubai
yn y dyfodol.
O fewn y ddinas rydym eisoes wedi
cyflwyno cynllun llogi ceir i leihau ar
dagfeydd a lleihau allyriadau carbon ac
wedi dyblu nifer y lonydd beicio yn y
ddinas. Rydym hefyd wedi cyflawni
project pwysig Pont y Werin i gysylltu'r
Pentref Chwaraeon Rhyngwladol ym
Mae Caerdydd â Phenarth. Delme
Bowen, Cynghorydd y Blaid ac
Arglwydd Faer Caerdydd, arweiniodd y
gwaith o gyflawni'r bont i gerddwyr a
beicwyr, a chafodd y project ei
ariannu'n rhannol gyn-ddirprwy Brif
Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones o
Blaid Cymru.
Un o gyflawniadau amlycaf Caerdydd
oedd cyflwyno'r cerdyn call 'Iff' y gellir
ei ddefnyddio i dalu am Fws Caerdydd.
Dyma'r cerdyn cyntaf o'i fath yng
Nghymru. Byddwn nawr yn pwyso i
Gerdyn Iff gael ei ddefnyddio ar
drenau hefyd fel y gall teithwyr
9
ddefnyddio sawl ffurf ar drafnidiaeth i
deithio'r ddinas.
Ar ôl Cynllun Peilot llwyddiannus
Plaid Cymru - cynllun ar eich beic -
byddwn yn cyflwyno cynllun gwell sy'n
fwy o faint, sy'n debyg i'r hyn a geir yn
Llundain. I sicrhau arbedion cost gyda
hyn, byddwn yn gofyn i Lywodraeth
Cymru weithio mewn partneriaeth â ni
i osod y cynllun mewn sawl ardal
hyfyw yng Nghymru. Cydweithio yw'r
ffordd ymlaen i'r cenhedloedd bychain.
Cadw'r economi i symud - Dan
lywyddiaeth y Blaid, ni yw'r unig
gyngor yn y DU sydd wedi cymryd
cyfranddaliadau ecwiti mewn
busnesau twf uchel. Byddwn yn parhau
â'r polisi hwn ac yn ceisio ei ehangu i
sicrhau y caiff y cyngor fudd o'r
buddsoddiadau a wneir fel y gellir
buddsoddi ymhellach. Credwn mewn
adeg lle mae cyllidebau'n crebachu y
dylai'r sector cyhoeddus wneud i'w
arian wella i sicrhau mwy o refeniw yn
hytrach na thorri swyddi a
gwasanaethau.
Cadw'r economi'n lleol - Byddwn
yn parhau i hyrwyddo undebau credyd
fel ffordd o alluogi pobl i fanteisio ar
gynilion a benthyciadau yn y ddinas,
gan hefyd barhau i gefnogi menter
gymdeithasol.
Parcio haws - Gwyddom fod nifer o
drigolion Caerdydd yn cael trafferth
dod o hyd i lefydd parcio, yn aml gan
fod pobl o'r tu allan i'r gymuned yn
parcio am ddim yn ein strydoedd.
Dyma pam ein bod wedi cynyddu'r
ddarpariaeth parcio i drigolion yn y
ddinas hyd at 75%. Rydym nawr am
weld cymaint o strydoedd â phosibl yn
manteisio ar 75% parcio i drigolion,
felly dros y weinyddiaeth nesaf
byddwn yn ymgynghori â chymaint o
strydoedd â phosibl i ddysgu a hoffent
wneud y newid pwysig hwn. Fodd
bynnag, ni fyddwn yn gorfodi parcio i
drigolion mewn ardaloedd nad oes
mo'i eisiau na'i angen.
10
Addysg//
Mae Plaid Cymru yn cydnabod bod
dyfodol Caerdydd yn ddibynnol ar
weithlu addysgedig a hyddysg. Rydym
am i'n plant gael y dechrau gorau i'w
bywyd, ac iddynt gael addysg o'r radd
flaenaf hyd nes iddynt ddod o hyd i
swydd.
Ond i Blaid Cymru, dyw addysg ddim
yn dod i ben pan ddewch chi o hyd i
swydd. Credwn mewn dysgu gydol oes
a chredwn y dylai oedolion gael bob
cyfle posibl i barhau i ddysgu,
hyfforddi ac ailhyfforddi.
Mae'r gwerthoedd craidd hyn yn
effeithio ar ein hagwedd at addysg yng
Nghaerdydd ac mae wedi arwain at
record addysg ddihafal.
Ein Record//
Gwario mwy ar eich plentyn
Does dim osgoi'r ffaith fod gwariant y
weinyddiaeth Llafur ddiwethaf ar bob
disgybl yng Nghaerdydd yn isel. Mewn
gwirionedd, daeth Caerdydd yn unfed
ar ddeg allan o 22 awdurdod lleol
Cymru. Doedd y sefyllfa ddim yn
dderbyniol i blant prifddinas Cymru.
Erbyn 2012, gyda Plaid yn
llywodraethu yng Nghyngor Caerdydd,
mae’r gwariant y disgybl yn ysgolion
meithrin, cynradd ac uwchradd y
ddinas yn ail uchaf yng Nghymru
erbyn hyn. Mae hwn wedi bod yn
gyrhaeddiad gwych i'n plant ni ac
mae'n dangos ymrwymiad mae Plaid
yn ei roi i bob un o blant Caerdydd.
Adeiladau ar gyfer eich plant
Yn 2010, lansiodd y Cyngor ei gynllun
ar gyfer dyfodol ysgolion Caerdydd ar
gyfer yr 15 mlynedd nesaf, oedd yn
cynnwys rhaglen adeiladu ysgolion
uchelgeisiol.
Bydd y rhaglen hon yn golygu adeiladu
ysgolion newydd ym Mhontprennau a
Threganna a buddsoddi ac ehangu
ysgolion ledled y ddinas. Bydd y
cynllun hefyd yn golygu cynnydd
sylweddol yn y nifer o lefydd meithrin
sydd ar gael i helpu plant i gael y
dechrau gorau posibl o'u diwrnod
cyntaf.
Bodloni'r galw
Ym mis Ionawr 2011, cyhoeddodd
Cyngor Caerdydd, lle mae Plaid yn
llywodraethu, ei ymgynghoriad ar
addysg cyfwng Cymraeg yn ardal
Treganna.
Rydym yn falch i allu dweud fod y galw
am addysg cyfrwng Cymraeg yn
sylweddol, sy'n cyfiawnhau'n
gweithredu cryf i sicrhau adeiladu
ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn
Nhreganna. Bydd yr adeilad newydd
yn ailosod Ysgol Treganna ac yn cael ei
adeiladu ar safle sy'n eiddo i'r Cyngor
ar Sanatorium Road. Bydd yr ysgol yn
derbyn tri dosbarth y flwyddyn a bydd
yno gyfleusterau o'r radd flaenaf i
addysgu'n plant i'r safon uchaf posibl.
Hwyl i'r teulu i gyd
Mae Plaid Cymru yn deall fod angen i
deuluoedd gael rhywle lle gall y teulu i
gyd ddod at ei gilydd i ddefnyddio a
mwynhau'r iaith Gymraeg. Dyna pam
mai Menter Caerdydd yw'r fenter a
11
gyllidir orau yng Nghymru gyfan. Mae
hyn wedi arwain at ystod o
weithgareddau hwyl i'r teulu, gan
gynnwys gweithgareddau cymdeithasol
a phecynnau dysgu ar gyfer dysgwyr
Cymraeg.
Bwyd- Fel plaid sy'n parchu
amrywiaeth crefyddol, rydym yn falch i
ddweud y llwyddom yn ein haddewid i
ddarparu bwyd hala i blant Islamaidd
ysgolion Caerdydd.
Ein Haddewidion//
Ein hamcan o roi Caerdydd ar y
brig- Mae bod yn yr ail safle o ran
faint o gyllid a geir ar gyfer pob
plentyn yng Nghaerdydd yn
gyrhaeddiad yn ei hun. Ond i Plaid,
dyw dod yn ail ddim yn ddigon da.
Caerdydd yw prifddinas Cymru ac felly
rydym ni'n credu fod ein plant ni'n
haeddu hyd yn oed gwell. Rydym yn
addo rhoi Caerdydd ar frig y rhestr
awdurdodau Cymru o ran gwariant y
disgybl.
Ymgynghoriad pellach ar addysg
cyfrwng Cymraeg- Bydd yr Ysgol
Treganna newydd ar Sanatorium Road
yn gwneud llawer i fodloni'r galw
presennol am addysg cyfrwng
Cymraeg, ond mae'r galw yn cynyddu
cymaint fod angen i ni barhau i
gynllunio at y dyfodol. Dyna pam fod
Plaid yn addo ymgymryd ag
ymgynghoriadau pellach i weld beth
yw'r galw, yn enwedig yn ardal
Grangetown y ddinas. Unwaith i ni
weld beth yw'r galw bydd gennym y
wybodaeth sydd ei angen i ddiwallu'r
galw hwnnw.
Byddwn hefyd yn cyflawni'r
weledigaeth o bedwaredd Ysgol
Uwchradd Cyfrwng Cymraeg, tra'n
sicrhau ein bod yn buddsoddi yn
addysg cyfrwng Saesneg yn ogystal.
Ysgolion yr Unfed Ganrif ar
Hugain- Mae ein cynllun ar gyfer
dyfodol ysgolion Caerdydd yn
gyrhaeddiad y gallwn fod yn falch
ohono. Ond rydym am fynd hyd yn oed
ymhellach. Dyna pam ein bod ni'n
bwriadu gwthio Llywodraeth Cymru yn
galed ar gyfer mwy o fuddsoddiad
drwy Raglen Ysgolion yr Unfed Ganrif
ar Hugain, i sicrhau bod ein plant yn
barod i fyw yn y brifddinas fodern,
hyderus ac uchelgeisiol y mae Plaid yn
ei hadeiladu.
Dinas amlieithog- Yn ystod ein
hamser mewn llywodraeth yng
Nghyngor Caerdydd rydym wedi
gwneud y buddsoddiad mwyaf mewn
addysg cyfrwng Cymraeg y mae'r
ddinas erioed wedi ei gweld. Mae hyn
yn arwain at Gaerdydd yn bod yn
ddinas gwirioneddol amlieithog, fydd
yn rhoi cyfle i'n plant weithio, astudio
a chymdeithasu yn Gymraeg a
Saesneg. Ond fel plaid sy'n rhoi
pwyslais ar amrywiaeth diwylliannol a
buddion amlieithrwydd, rydym am
sefydlu coleg chweched dosbarth
pwrpasol i ddysgu ieithoedd modern
pellach i'n plant, gan gynnwys
Mandarin ac ieithoedd is-gyfandir
Asia. Credwn y byddai gan gam o'r fath
fuddion i'n heconomi ac i gyfleoedd ein
plant trwy gysylltu Caerdydd
ymhellach â'r economi fyd-eang.
Byddwn hefyd yn ymchwilio i ehangu
addysgu ieithoedd modern yn yr
ysgolion cynradd.
12
Cymuned//
Mae Caerdydd mewn safle unigryw ac
eiddigeddus. O dan arweiniad Plaid yn
y Cyngor rydym yn dod yn ddinas fyd-
eang, ond wrth wraidd y ddinas mae
cymuned leol. Y gymuned leol honno
sy'n gwneud Caerdydd yn ddinas wych
i fyw ynddi, a dyna pam mae'n rhaid i
ni roi'r gymuned wrth wraidd ein
hamser ar Gyngor Caerdydd.
Ein Record//
Gwyliau'r Brifddinas
Mae dinasoedd mawrion yn haeddu
gwyliau mawrion a dyna pam rydym
wedi bod yn cefnogi Gorymdaith Dydd
Gŵyl Dewi yn y ddinas. Gyda chymaint
o Gymry ledled y byd, credwn y gall
dydd Gŵyl Dewi fod yn ddathliad
gwirioneddol ryngwladol, ond er mwyn
i hyn ddigwydd, rhaid i’r brifddinas
arwain y ffordd. Rydym felly wedi
buddsoddi £100,000 yn Nathliadau
Dydd Gŵyl Dewi. Byddwn yn rhoi
diwrnod cyfan o wyliau i staff ar Ddydd
Gŵyl Dewi ac yn annog pob cyflogwyr
mawr i wneud hefyd. Byddwn hefyd yn
cysylltu ag ysgolion ac undebau llafur i
sicrhau bod plant ysgolion Caerdydd
yn gallu cymryd rhan yn y digwyddiad.
Ond rydym wedi mynd ymhellach gan
ddarparu £20,000 i Ŵyl Tafwyl sy'n
cael ei chynnal am wythnos ym mis
Mehefin. Mae'r ŵyl yn cynnal nifer o
weithgareddau i oedolion a phlant gan
gynnwys celf, cerddoriaeth, coginio a
chomedi, i hyrwyddo ac annog
defnyddio'r Gymraeg yn y ddinas.
Llyfrgelloedd i bawb
Gyda'r toriadau llym y mae Cynghorau
wedi'u dioddef yn ddiweddar, mae
nifer o bobl wedi gweld eu
llyfrgelloedd cymunedol gwerthfawr yn
cau. Rydym yn falch o allu dweud nad
dyma ddigwyddodd yng Nghaerdydd,
ac ni chaewyd unrhyw lyfrgell yng
Nghaerdydd yn ystod y dirywiad. Yn
ystod ein cyfnod yn llywodraethu,
darparom y Llyfrgell Ganolog gwerth
£4.7 miliwn sydd wedi bod yn ganolfan
ddysgu eiconig yng nghanol y ddinas
ers y dechrau.
Rydym hefyd wedi rhoi adnewyddiad o
£1.2 miliwn i Lyfrgell Cathays, gan
adnewyddu'r llyfrgell i'w mawredd
Edwardaidd gyda phensaernïaeth
Ewropeaidd fodern. Rydym hefyd wedi
ailwampio llyfrgelloedd eraill ledled y
ddinas, gan gynnwys Canolfan Ddysgu
a Gwybodaeth Llanrhymni (£156k),
Llyfrgell a Chanolfan Gymunedol Pen-
y-lan (£1.84m), Llyfrgell Radur
(£229k), Llyfrgell y Tyllgoed (£215k) a
Llyfrgell Treganna (£9k). Rydym wedi
buddsoddi £888,000 mewn system
adnabod amledd radio (RFID) ar gyfer
ein llyfrgelloedd a £70,000 i ailosod a
diweddaru cyfleusterau cyfrifiadurol.
Bydd y gwaith yn parhau gyda’r
weinyddiaeth nesaf wrth i ni geisio
cynyddu darpariaeth y llyfrgelloedd.
Ein dinas, ein cartref
Rydym am i bobl fod yn falch i alw
Caerdydd yn gartref iddynt, ac mae
hynny'n golygu darparu cartrefi o
safon uchel i bobl Caerdydd fyw
ynddynt. Pan ddaethom i lywodraeth
yng Nghaerdydd bron i 4 blynedd yn
ôl, etifeddwyd rhestr aros hirfaith ar
13
gyfer tai, wedi degawdau o ddiffyg
gweithredu gan weinyddiaethau
blaenorol. Dyna pam yr ydym wedi
cyhoeddi cynllun adeiladu tai mwyaf y
ddinas ers deng mlynedd ar hugain.
Bydd y cynllun yn golygu adeiladu
bron i 1,000 o gartrefi dros y 5
mlynedd nesaf, ac rydym yn falch o
allu dweud y bydd 40% o'r tai hyn yn
dai fforddiadwy. Bydd hyn hefyd yn
creu oddeutu 250 o swyddi lleol, a
byddwn yn gwthio bod prentisiaethau
yn cael eu cynnig.
Prifddinas hamdden
Mae cadw'n heini a gweithgareddau
hamdden yn rhan allweddol o'n
gweledigaeth ar gyfer Caerdydd. Eto, fe
etifeddom gyfleusterau oedd angen eu
diweddaru'n ddirfawr, wedi degawdau
o esgeulustra gan weinyddiaethau
blaenorol. Credwn fod pobl Caerdydd
yn haeddu cyfleusterau hamdden
modern, a dyna pam yr ydym wedi
buddsoddi miliynau yn diweddaru
neu'n adeiladu cyfleusterau hamdden
newydd. Mae'r buddsoddiadau hyn
wedi cynnwys gwario £8.5 miliwn ar
Stadiwm Chwaraeon Rhyngwladol
Caerdydd, £6.8 miliwn ar Ganolfan
Hamdden y Gorllewin, £1.2 miliwn ar
Ganolfan Maendy, £1.5 miliwn ar
ailwampio Canolfan STAR ac
£845,000 ar ailwampio Cwrt Insole.
Cydnabod ein harwyr di-glod
Ledled Caerdydd mae pobl yn gwneud
gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl a'u
cymunedau, ond yn aml nid ydynt yn
cael y clod haeddiannol. Dyna pam
gychwynnodd cynghorwyr Plaid
Cymru Wobr Seren Owain Glyndŵr.
Bydd y wobr hon yn cydnabod y bobl
hynny sydd wedi gwneud gwahaniaeth
sylweddol i'w cymunedau, a
chyflwynwyd y wobr gyntaf yn 2011 i
ymgyrchydd dros anableddau.
Ein Haddewidion//
Cynllun Cymydog Da- Yn anffodus
mae gormod o bobl yng Nghaerdydd y
dioddef ymddygiad
gwrthgymdeithasol. Weithiau gall
ymddygiad un unigolyn amharu ar
fywydau stryd gyfan. Dyna pam yr
ydym yn cynnig Cynllun Cymydog Da y
bydd disgwyl i drigolion lynu ato.
Cymorth i brynwyr tro cyntaf-
Rydym yn deall ei bod hi'n anodd yn yr
hinsawdd economaidd sydd ohoni i
sicrhau morgais er mwyn bod ar ris
gyntaf yr ysgol. Rydym am i bobl allu
galw Caerdydd yn gartref iddynt, ond
mae hynny'n anodd iawn os nad yw'r
banciau yn fodlon benthyg i bobl brynu
eu cartref cyntaf. Dyna pam fod
Cynghorwyr Plaid wedi cynnig cynllun,
a dderbyniwyd, fydd yn caniatáu i
brynwyr tro cyntaf i gael mynediad at
fenthyciad o 95% ar gyfer morgais.
Bydd y Cynllun Morgais Awdurdod
Lleol yn golygu bod y Cyngor yn
warant ariannol ar gyfer y
benthyciadau am y pum mlynedd
gyntaf. Bydd y cynllun yn cael ei
weinyddu gan y benthyciwr ac nid gan
y Cyngor. Bydd pob benthyciad yn
ddibynnol ar wiriadau ariannol trylwyr
a llawn.
Byddwn hefyd yn ffurfio cwmni hyd
braich i hyfforddi prentisiaid ac yn
datblygu mannau tir llwyd a thai mewn
cyflwr gwael, gyda'r amcan o ddarparu
tai addas a ffynhonnell gyllid i'r
Cyngor.
14
Byddwn yn gofyn am fwy o bwerau gan
Lywodraeth Cymru i gychwyn cynllun
prynu yn ôl, i helpu cyn-denantiaid y
Cyngor sy'n cael anawsterau yn ad-
dalu eu morgeisi.
Gwelliannau hamdden pellach-
Rydym eisoes wedi cychwyn y broses
ar gyfer ailddatblygiad gwerth £6.2
miliwn i Ganolfan Hamdden y
Dwyrain rhwng 2012 a 2014, ac rydym
wedi ymrwymo £600,000 i welliannau
hamdden eraill yn ystod y cyfnod hwn.
Byddwn hefyd yn ceisio cynyddu'r
diddordeb yn y 'Cerdyn Actif' fel bod
gan drigolion y ddinas fynediad at
gyfleusterau hamdden yn ystod tymor
nesaf y Cyngor.
Rydym yn falch iawn o'r cynnydd y
mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd
wedi ei wneud ar y cae ac oddi arno.
Rydym yn addo gweithio gyda'r clwb er
mwyn iddo gyrraedd ei lawn botensial.
Rydym yn addo hefyd gweithio gyda
bocswyr amatur a phroffesiynol i
adeiladu ar lwyddiant y Ddinas yn y
mae hwn yn ddiweddar.
Plismona
Rydym yn falch fod ein gwaith trwy
Heddlu De Cymru wedi arwain at y
lefel isaf o drosedd yn ne Cymru ers
chwarter canrif. Credwn fod plismona
yn bartneriaeth ac y dylai cymunedau
fod yn rhan o blismona eu strydoedd.
Dyna pam y byddwn yn gweithio gyda
Heddlu De Cymru i gynhyrchu
protocol Heddlu a Chymunedau Gyda'i
Gilydd (PACT), gan hwyluso
cydweithio'n agosach a chyfnewid
gwybodaeth.
Lle bo trefniadau yn eu lle i gau
gorsafoedd heddlu, byddwn yn edrych
yn agos ar sut y gellir rhannu safle
rhwng y Cyngor a'r Heddlu er mwyn
cynnal presenoldeb yr heddlu, a
pharhau i leihau costau.
Byddwn hefyd yn darparu cyllid i
heddlu i roi diwedd ar niwsans beiciau
modur y mae cymaint o drigolion
Caerdydd yn gorfod ei ddioddef.
Prentisiaethau mewn Gwaith
Cymdeithasol- Rydym yn cydnabod
gwerth Gweithwyr Cymdeithasol fel
rhan o'r gymuned yng Nghaerdydd, ac
felly rydym yn addo darparu
prentisiaethau i bobl sy'n astudio
Gwaith Cymdeithasol yn y ddinas.
Bydd y prentisiaid a'r ddinas yn elwa
o'r trefniant hwn, fydd yn golygu eu
bod yn arwyddo contract i weithio i'r
awdurdod tra'u bod yn astudio.
15
Amgylchedd//
Does dim modd osgoi'r ffaith fod
newid yn yr hinsawdd yn fygythiad a'i
fod yn cynrychioli her wirioneddol i'r
ffordd yr ydym yn byw ein bywydau ar
hyn o bryd. Er bod newid yn yr
hinsawdd yn her i ni yma yng
Nghaerdydd, mae hefyd yn gyfle i
newid y modd yr ydym yn byw ein
bywydau er gwell. Mae addasu ein
ffordd o fyw i ymdopi â'r newid yn yr
hinsawdd yn golygu byw mewn dinas
lanach, wyrddach a mwy cynaliadwy,
gyda'r posibilrwydd o swyddi â gwerth
ychwanegol yn y sector gwyrdd.
Ein Record//
Caerdydd Gynaliadwy
Mae Caerdydd Gynaliadwy wedi bod
wrth wraidd gwaith y Cyngor yn
ddiweddar. Mae'n cynnwys hyrwyddo
cynnyrch masnach deg, datblygu
Cynllun Gweithredu Carbon Isel i
leihau allyriadau'r Cyngor, a chyflawni
a chynnal ein Safon Amgylcheddol y
Ddraig Werdd.
Bod yn falch o'n cyfraddau
ailgylchu
Mae Caerdydd wedi cynyddu ei
gyfradd ailgylchu ei 53%. Mae hyn yn
gyrhaeddiad enfawr, o ystyried mai
11% oedd y gyfradd ailgylchu o dan
Llafur. Mae'r newid hwn wedi'i gael
gan fod Plaid wedi cyflwyno ailgylchu
wythnosol ac annog negeseuon Testun
Taclus i atgoffa trigolion, gan wneud
ailgylchu hyd yn oed yn haws i
drigolion Caerdydd.
Teithio Cynaliadwy
Sicrhaodd Plaid Cymru £12m gan y
Llywodraeth Cymru flaenorol i dalu
am yr holl welliannau yng Nghaerdydd
sydd wedi'n gwneud ni'n Ddinas
Deithio Gynaliadwy swyddogol. Ar
lawr gwlad mae hyn yn golygu
gwelliannau i'r bysus yng nghanol y
ddinas, mwy o ardaloedd i gerddwyr
yn unig, llwybrau seiclo newydd,
cysylltu'r Pentref Chwaraeon
Rhyngwladol â Phenarth gyda Phont y
Werin a chynllun Parcio a Theithio /
Parcio a Rhannu i leihau tagfeydd ac
allyriadau yn y ddinas.
Buddsoddiad Gwyrdd
Defnyddiwyd cronfa fenthyciadau
Salix (benthyciad arbennig i dalu am
welliannau amgylcheddol) i osod
unedau Gwres a Phŵer Cyfunedig yn
ein canolfannau hamdden, yn ogystal â
thalu am fesurau lleihau carbon yn yr
ysgolion. Rhoddodd y mesurau hyn
arian yn yr economi leol a lleihaodd
allyriadau carbon yn yr hir dymor, ac
mae'n cynrychioli buddsoddiad o £2.5
miliwn.
Mae 2 olwyn yn well na 4
Rydym am i fwyfwy o bobl fynd ar eu
beiciau yn y ddinas gan fod gan seiclo
cymaint o fuddion amlwg. Mae'n cadw
pobl yn heini, mae'n lleihau tagfeydd,
mae'n cadw aer y ddinas yn lanach ac
mae'n mynd i'r afael â'r newid yn yr
hinsawdd. Ond rydym yn gwybod na
fydd pobl yn mynd ar eu beiciau os nad
yw hi'n ddiogel ac yn hawdd. Dyma'r
rhesymau yr ydym wedi rhoi cymaint o
flaenoriaeth i seiclo yn ystod ein
hamser yn llywodraethu yng
16
Nghaerdydd a dyma pam ein bod ni
wedi gweithio gyda sefydliadau partner
i ddyblu gwariant ar seiclo yn y ddinas,
yn ogystal â dyblu'r lonydd seiclo sydd
ar gael yn y ddinas.
Ein Haddewidion//
Heddlu Sbwriel- Mae'n anffodus, er
ein bod ni wedi buddsoddi mewn
biniau newydd yn ddinas, fod nifer o
bobl yn parhau i feddwl ei bod hi'n
dderbyniol gollwng eu sbwriel ar ein
strydoedd. Mae hyn yn golygu fod
sbwriel yn dod yn broblem ddifrifol a
chredwn fod angen i'r Cyngor fod yn
fwy cadarn wrth fynd i'r afael â'r
broblem. Rydym yn awr yn cynnig
cyflwyno Heddlu Sbwriel i'r ddinas i
roi dirwyon i'r rheiny sy'n teimlo ei
bod hi'n dderbyniol gollwng sbwriel yn
ein dinas. Bydd hyn yn cael ei gyfuno â
mentrau mewn ysgolion a
phrifysgolion i annog pobl i beidio â
gollwng sbwriel.
Llinell Glanhau Strydoedd- Mae
gan drigolion hawl i amgylchedd
cymunedol glân. Mae staff y Cyngor yn
ceisio'u gorau i gadw'n strydoedd yn
lân, ond mae angen llinell ffôn ymateb
cyflym fydd yn golygu y gellir glanhau
mannau trafferthus a draeniau wedi’u
blocio yn gyflym. Byddai Llinell
Glanhau Strydoedd yn gallu dweud
wrth drigolion pryd y gallant ddisgwyl
i'w stryd gael ei glanhau, yn ogystal â
gallu ymateb yn gyflym i'r achosion
gwaethaf fel tipio anghyfreithlon.
Adolygiad o Randiroedd Lleol-
Rydym yn falch o allu dweud fod nifer
o bobl yn y ddinas yn achub ar y cyfle i
dyfu eu bwyd eu hunain, ond i nifer o
bobl sy'n aros am randir, gall fod yn
broses hir. Byddwn yn cynnal
adolygiad dinas-gyfan i nodi tir
rhandir newydd ac ymchwilio i
gynlluniau tyfu'ch bwyd eich hunain.
Mae angen tir rhandir newydd i
leihau'r rhestrau aros am randiroedd
ac annog cynhyrchu bwyd lleol.
Byddwn hefyd yn gweithio gyda
Marchnad Glan-yr-afon i gefnogi
cynhyrchwyr bwyd lleol yn fasnachol.
Rhoi'r Ddinas Deithio
Gynaliadwy ar waith- Byddwn yn
datblygu Cynlluniau Teithio Personol
i'r gweithle, ysgol a phreswyl, cynyddu
darpariaeth y Clwb Ceir, gwella'r
Cynllun Rhannu Beiciau a hyrwyddo
cynlluniau rhannu ceir fel rhan o
ddatblygu'r cysyniad Dinas Deithio
Gynaliadwy.
Buddsoddi mwy mewn Seiclo-
Rydym eisoes wedi dyblu'r gwariant ar
lwybrau seiclo, byddwn yn awr yn
ceisio cynyddu'r buddsoddiad
ymhellach i gadw gyda'r galw
cynyddol, yn ogystal â bodloni unrhyw
rwymedigaethau newydd sy' codi o
ddeddfwriaeth seiclo'r dyfodol
Llywodraeth Cymru. Wedi Cynllun
Peilot llwyddiannus Plaid Ar Eich Beic,
byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth
Cymru i gyflwyno ac ehangu'r cynllun
llogi beiciau, yn debyg i'r un a geir yn
Llundain. Er mwyn iddo fod yn gost-
effeithiol, byddwn yn gwthio
Llywodraeth Cymru i roi'r cynllun ar
waith yn ardaloedd eraill Cymru.
17
Top Related