AWDL 24 - ANEIRIN
CYMRAEG LEFEL A
IESTYN TYNE
AWDL 24 Arwr, ardwy ysgwyd o dan ei dalfrith,ac ail tuth orwyddan.bu trydar yn aerfre, bu tân,bu ehud ei waywawr, bu huan,bu bwyd brain, bu budd i frân.a chyn edewid yn rhydon,gan wlith, eryr tuth tirion!Ac o du gwasgar gwaneg tu bron.Beirdd byd barnant wŷr o galon. Diebyrth ei gerth ei gynghyr,difa oedd ei gynrhain gan wŷr;A chyn ei olo o dan Eleirch Fre- ydoedd wryd yn ei arch –gorgolches ei grau ei seirch, Buddfan fab Bleiddfan, dihafarch.
CEFNDIR
• Y GODODDIN = CYFRES O TUA 100 O AWDLAU + 4 ‘GORCHAN’ – CERDDI DYRYS IAWN
• ANEIRIN = BARDD TEULU – IS NA TALIESIN OEDD YN BENCERDD
• Y GODODDIN = ENW’R TEULU
• ANEIRIN YN HWYRACH NA TALIESIN – CEISIO ENNILL CATRAETH YN OL WEDI EI GOLLI I’R SAESON.
CEFNDIR
• MYNYDDOG MWYNFAWR – BRENIN TEYRNAS Y GODODDIN
• CASGLU 300 O FILWYR DETHOL A’U HYFFORDDI AM FLWYDDYN YN EIDYN (CAEREDIN) CYN MYND AR GYRCH I GATRAETH
• DYLETSWYDD MM FEL PENNAETH = BWYDO’R MILWYR AM GYFNOD CYN Y FRWYDR – TALU MEDD (GLASFEDD EU HANCWYN) A’R MILWYR YN RHOI EU BYWYDAU YN Y FRWYDR FEL TAL
• ANSICRWYDD BELLACH AM NIFER Y MILWYR – TRICHANT = 300? 3000?
CEFNDIR
• ANEIRIN YN ADNABOD Y GWYR MAE’N CANU IDDYNT YN Y CERDDI – WEDI TREULIO BLWYDDYN GYDA NHW. DYMA UN RHESWM FOD Y CERDDI YN FWY PERSONOL/ANFFURFIOL NA CHANU TALIESIN
• ANEIRIN, YN OL TRADDODIAD, OEDD YR UNIG UN I DDYCHWELYD O’R FRWYDR
• DIOLCH I ANEIRIN MAE TEULU MYNYDDOG YN DAL YN FYW YN Y COF FELLY
CEFNDIR
• AWDLAU GWAHANOL YN CANU I FOLI:
• UNIGOLION
• GRWPIAU O ARWYR
• YR OSGORDD GYFAN
• MOLI AELODAU’R OSGORDD AM EU PARODRWYDD I FARW DROS MM – CLODFORI HYN YN AWDL 24 I BUDDFAN FAB BLEIDDFAN.
ARDDULL
MESUR
AWDL GYDA’R MESUR A’R ODL YN AMRYWIO
YN BENNAF CEIR LLINELLAU TRIPHLYG O’R UN HYD – TAIR ACEN A DWY ORFFWYSFA
ARDDULL
• ODL YN CYSYLLTU LLINELLAU
PWYSLEISIO PWYSIGRWYDD GEIRIAU. RHAI LLINELLAU HEFO ODLAU MEWNOL E.E.
bu trydar yn aerfre, bu tân,bu ehud ei waywawr, bu huan,bu bwyd brain, bu budd i frân.
Arwr, ardwy ysgwyd o dan ei dalfrith,ac ail tuth orwyddan.
ARDDULL
• CYSEINEDD – CYDIO GEIRIAU YNGHYD O FEWN YR UN LLINELL
• CYFLYTHRENNU AMLWG – CLYMU GEIRIAU UNSILL AT EU GILYDD – ‘B’ YN LYTHYREN SYDD FEL PETAI’N CYFLEU Y BRAIN YN PIGO AR GORFF BUDDFAN
bu bwyd brain, bu budd i frân.
ARDDULL
• TROSIADAUbu ehud ei waywawr, bu huan,
gan wlith, eryr tuth tirion!
Tuth orwyddan
Troi gwaywffyn Buddfan yn haul – efallai mai fflachio yn yr haul y maent, ond maent yn haul uwchben y frwydr. Tebyg i Marwnad Owain ab Urien gan Taliesin – disgrifio gwaywffyn Owain fel ‘adennydd y frwydr’.
Aderyn grymus – symbol o bwer
Dweud fod cerddediad Buddfan fel cerddediad ceffyl bychan, dewr – pwysleisio dewrder a ieuenctid yn yr un linell
ARDDULL
• SYMBOL – BRAIN
• DELWEDD YR UN FATH YNG NGHERDDI TALIESIN
• SYMBOL O FARWOLAETH
ARDDULL
• GEIRIAU SY’N PWYSLEISIO DEWRDER: DIHAFARCH, GWYR O GALON
• DISGRIFIADOL – SUT/LLE LLADDWYD YR ARWYR?
• DELWEDD Y RHYD YN CREU TRISTWCH – ‘GADAEL’ YN ATGOFFA GWYN THOMAS O ENGLYNION COFFA RWP I HEDD WYN
ARDDULL
• SANGIAD
• ‘YDOEDD WRYD YN EI ARCH’ – TORRI AR LIF Y GERDD, BRON FEL PETAI ANEIRIN YN DAL I GEISIO GWNEUD I NI GREDU YN EI DDEWRDER, ER EI FOD WEDI GWNEUD HYNNY YN BAROD
• GWRTHGYFERBYNNU
• DELWEDDAU OHONO YN GELAIN YN CYFERBYNNU A’I WYCHDER MEWN BYWYD – YR ‘ERYR’ YDOEDD GYNT. DYFAIS SY’N GYFFREDIN YNG NGWAITH TALIESIN HEFYD.
ARDDULL
• CADW ENW’R ARWR TAN Y LINELL OLAF – PEINTIO’R DDELWEDD I GYD CYN RHOI ENW IDDI.
• CHWARAE AR AIR –
• BUDD I FRAN > BUDDFAN – ROEDD BUDDFAN YN LLYTHRENNOL YN FUDD I FRAN TRWY FARW
‘ARWR ARDWY YSGWYD O DAN EI DALFRITH’
ARDWY = AmddiffynYSGWYD = Tarian – darlun traddodiadol o arwr – dim cyfeiriad at farwolaethDAN EI DALFRITH = Ansicr o ystyr ‘talfrith’ – rhai syniadau:• Talcen• Wyneb• Bogel Tarian• TalfrithSyr Ifor Williams/Gwyn Thomas yn ansicr o’r ystyr hefyd.
Agor yn drawiadol – ‘Arwr’ – sefydlu arwriaeth Buddfan fab Bleiddfan – delwedd o filwr hyderus, grymus, yn amddiffyn ei osgordd hefo tarian
(Arwr yn amddiffyn a tharian o dan ei dalfrith)
‘AC AIL TUTH ORWYDDAN’ AIL – Tebyg i’r dywediad ‘heb ei ail’TUTH – cerddediad / ffordd o fyw (distaw duth RWP)GORWYDDAN – Ceffyl bychan / merlen –gair cyfansawdd gorwydd ac an.Gorwydd = march – symbol o wrywdod/ffrwythlondebAn = bachigyn sy’n anwylo – ei wneud yn fach ac yn annwyl.
Gorwyddan yn cyfleu dewrder ac arwriaeth ond hefyd yn pwysleisio ieuenctid, a chwithdod o darwolaeth mor ddewr yn dod i un mor ifanc.
DELWEDD Y CEFFYL• Symbol o wrywdod / frwythloneb mewn llenyddiaeth ers cyn cof – celfyddyd celtaidd/chwedlau canoloesol e.e. Culhwch yn mynd i lysArthur – ‘gorwyd penlluchlwyd’. Matholwch yn cael ei sarhau yn chwedl Branwen pan mae Efnisien yn mynd i’r afael a’i feirch
(hefo cerddediad tebyg i geffyl bach)
‘BU TRYDAR YN AERFRE, BU TÂN’
TRYDAR = Twrw – cyfeirio mae’n debyg at weiddi bygythiol yr arwr wrth ymosod – Aneirin yn cyfeirio yn aml at dwrw’r frwydr a’r tawelwch wedyn yn ei awdlau e.e. “a gwedi elwch tawelwch tu” AWDL 1AERFRE= Bryn y frwydrBU TÂN= Efallai yn cyfeirio at wreichion wrth i’r cleddyfau daro eu gilydd. Tan hefyd = dinistr/lladd – trosiad efallai o allu Buddfan ar faes y frwydr.
(Bu’n dwrw ar fryn y frwydr, bu’n dân)
Cael ein gosod yng nghanol twrw’r frwydr gan y bardd.
‘BU EHYD EI WAYWAWR, BU HUAN’
EHUD = parodGWAYWAWR = GwaywffynHUAN = Haul
Moli gallu Buddfan i drin arfau – ‘ehud’ = agwedd fentrus a pharod milwr – mentro popeth i geisio ennill brwydr.Ysgrifennu synhwyrus – defnydd o’r haul – creu delwedd gofiadwy o waywffyn yn sgleinio yng ngolau’r haul wrth i Buddfan eu pledu tua’r gelyn.
(bu’n rhyfygus ei waywffon, buont yn [fflachio fel] haul)
‘BU BWYD BRAIN, BU BUDD I FRÂN’
BUDD – o ddefnydd – y brain yn elwa ohono
Cyflythrennu yn bwysig yn y linell hon – geiriau unsill yn cael eu clymu – rhythm = cyfleu y ddelwedd afiach o’r brain yn darnio corff yr Arwr sy’n dangos ei arwriaeth eithaf wrth farw yn y frwydr.Cyflythrennu’r ‘b’ yn ein hatgoffa o’r enw ‘Buddfan fab Bleiddfan’. Delwedd gyffredin yn yr Hengerdd – Taliesin, Gwaith Argoed Llwyfain – ‘rhuddai frain rhag rhyfel wyr’. Ymfalchio mewn aberth.
Gair ‘bu’ sydd yn clymu 3 llinell = gwychter y gorffennol. Efallai tinc o hiraeth nad yw BapB yma bellach. Ailadrodd = pwysleisio ei fod wedi mynd. Darlunio gorchestion maes y gad yn y gorffennol i gynhyrfu teimlad o hiraeth/balchder.
(bu’n fwyd i frain, bu elw i fran)
B = pigo
‘A CHYN EDWID YN RHYDON’
Cyn EDWID – Cyn iddo gael ei adaelRHYDON – Mannau lle gellid croesi afon lle roedd dwr yn fas dros y cerrig
(a chyn iddo gael ei adael yn y rhydau)
‘GAN WLITH, ERYR TUTH TIRION!’
(dan y gwlith [bu’n] eryr tirion ei symudiad)
Syr I.W. yn cynnig mai ei ddisgrifio fel milwr sydd yma eto – ‘milwr hyfryd ei symudiadau, pendefig cyflym ei ruthr.’
Cyfosod y gorffennol/presennol eto hefo ll. 6 a 7 – BapB yn cael ei adael yn y rhydau/dan y gwlith wedi’r frwydr ond eto mae’n cadw yn fyw ar ffurf yr eryr.Eryr = symbol grymus/pwerus yn yr Hengerdd/llen canoloesol.e.e. Culhwch ac Olwen – Eryr Gwernabwy yn arwain marchogion Arthur at Eog Llyn Lliw.
‘AC O DU GWASGAR GWANEG TU BRON’(ac o’r ochr gorchuddia ton ochr ei fron)
Tu = ochrGwasgar = gorchuddioGwaneg = ton
Corff Buddfan wedi ei adael ger rhyd dros afon.MM yn ceisio ailfeddiannu y man strategol yma yn y frwydr.
Delwedd drist o’r corff yn cael ei olchi’n ysgafn gan donnau’r afon - terfynnoldeb llonnydd. Dwr sy’n tasgu arno fel petai natur yn ei alw yn ol i orweddfa dragwyddol.
‘BEIRDD BYD BARNANT WYR O GALON’(‘Beirdd byd ddyfarnant [pwy sy’n] wyr
dewr’)
I.W yn awgrymu mai yma dylai’r awdl orffen – byddai’r brifodl ‘n’ wedyn yn rhedeg ar hyd yr awdl, a’r gerdd yn gorffen yn draddodiadol mewn mawl i’r arwr.
Llinell bwysig = crynhoi pwrpas/swyddogaeth beirdd y cyfnod – eu geiriau yn cael eu defnyddio fel propaganda. Pwer geiriol y bardd yma.
Canmol a moli MM a byddin y Gododdin yn cynnal ysbryd/hyder y llwyth i sicrhau ffyddlondeb/unoliaeth y bobl.
Aneirin = Bardd teulu MM a thrwy ei eiriau ef mae Buddfan a milwyr y Gododdin yn aros yn fyw
UN O LINELLAU ENWOCAF Y GODODDIN
‘DIEBYRTH EI GERTH EI GYNGYRDIFA OEDD EI GYNRHAIN GAN WYR’
Diebyrth = tlododd – colli allan(marw)Certh = gwirionedd – dymuniad Buddfan i fod yn ffyddlon i MM – ffyddlondeb hyd at farwolaethCynghyr = cynDifa = distrywioCynrhain = milwyr dethol / prif ryfelwyr
(‘Fe’i tlododd ei hun trwy ei wirionedd, a thrwy ei gyngorDifethwyd ei brif ryfelwyr gan wyr [y gelyn]’)
Moliant o’r arwr am iddo aberthu’i hun dros ei wlad a’i arglwydd – fodlon marw dros y ‘gwirionedd’ – h.y. achub Catraeth yn ol i feddiant y Brythoniaid.
Son am y rhyfelwyr roedd Buddfan yn eu harwain, ac iddynt farw oherwydd ei gyngor o, ond nid yw Aneirin yn beio yma.
Llythyren ‘d’ sydd yn clymu popeth yma – tynnu sylw at y geiriau pwysig = ‘diebyrth’, ‘difa’.Odl fewnol = ‘erth’ – cryfhau/pwysleisio’r cysylltiad rhwng y weithred o hunan aberth a ffyddlondeb Buddfan i Fynyddog Mwynfawr.
‘A CHYN EI OLO O DAN ELEIRCHFRE – YDOEDD WRYD YN EI ARCH –GORGOLCHES EI GRAU EI SEIRCH:’
(‘A chyn ei gladdu o dan EleirchFryn – roedd dewrder yn ei fynwes –Golchodd ei waed ei arfwisg’)
golo = cladduEleirch Fre = enw lleGwryd= dewrderArch = mynwes/bronGorgolches = golchoddCrau = gwaedSeirch = arfwisg
Sangiad – ‘ydoedd wryd yn ei arch’ yn torri ar brif gymal clo yr awdl – pwysleisio terfynnoldeb marwolaeth on eto Aneirin yn ein hatgoffa o’i ddewrder hyd yn oed yn ei arch.
Cloi yr awdl gyda ddelwedd gignoeth – arfwisg Buddfan yn wlyb o waed cyn ei gladdu.
Gorffen gyda’r linell:“Buddfan fab Bleiddfan – dihafarch”Dihafarch = cadarnDefnyddio enw personol = creu chwithdod Aneirin – colli milwyr roedd wedi treulio blwyddyn yn eu cwmni. (Awdl 1 Owain fab Maro hefyd)
Top Related