YMATEB I'R YMGYNGHORIAD AR Y CYNNIG I GAU ... · Web viewYm mis Ionawr 2018 roedd ganddi 54 o...

140
Adroddiad Ymgynghori: Y Cynnig i Gau Ysgol Gynradd Craig Cefn Parc

Transcript of YMATEB I'R YMGYNGHORIAD AR Y CYNNIG I GAU ... · Web viewYm mis Ionawr 2018 roedd ganddi 54 o...

YMATEB I'R YMGYNGHORIAD AR Y CYNNIG I GAU YSGOL GYNRADD CRAIG CEFN PARC

Adroddiad Ymgynghori:

Y Cynnig i Gau Ysgol Gynradd Craig Cefn Parc

Cynnwys

1. Cefndir2

2. Methodoleg2

3. Ymgynghori â phlant a phobl ifanc4

4. Ymgynghori â staff, llywodraethwyr, rhieni a phartïon a chanddynt

fuddiant5

5. Ymateb Estyn10

Atodiad 1-Nodiadau o'r cyfarfod â Chyngor yr ysgol/adborth disgyblion13

Atodiad 2 – Crynodeb o ymatebion dysgwyr i’r ymgynghoriad22

Atodiad 3 – Sampl o ymatebion gwaith celf gan ddysgwyr 25

Atodiad 4 -Nodiadau o gyfarfodydd â’r staff a llywodraethwyr29

Atodiad 5– Crynodeb o sylwadau'r sesiynau galw heibio41

Atodiad 6 – Crynodeb o'r ymatebion cyffredinol i'r ymgynghoriad62

Atodiad 7 – Adroddiad Gweithgor Craig Cefn Parc67

1. CEFNDIR

Mae Ysgol Gynradd Craig Cefn Parc ym mhentref Craig Cefn Parc yn Abertawe.

Ym mis Ionawr 2018 roedd ganddi 54 o ddisgyblion amser llawn ar y gofrestr rhwng 4 ac 11 oed, ynghyd â 2 blentyn meithrin rhan-amser. Ym mis Medi 2018 roedd 45 disgybl amser llawn a 4 plentyn meithrin ar y gofrestr. Mae tri dosbarth oedran cymysg yn yr ysgol. Mae'r nifer ar y gofrestr wedi bod yn gostwng dros y pum mlynedd ddiwethaf.

Cynhaliwyd arolygiad diwethaf Estyn o'r ysgol ym mis Mai 2015 gyda pherfformiad yr ysgol yn ddigonol ar y pryd a chyda rhagolygon gwella digonol ac fe'i rhoddwyd mewn categori monitro gan Estyn. Symudwyd yr ysgol o fesurau monitro Estyn ym mis Hydref 2016 ar ôl cymorth sylweddol gan yr awdurdod lleol a buddsoddiad amser gan staff yr ysgol. Mae adroddiad Estyn i'w weld yma: https://www.estyn.gov.wales/provider/craigcefnparc-primary-school

Mae gan yr ysgol bennaeth gweithredol newydd dros dro ers mis Medi 2018 sydd wedi gorfod cyflawni rôl addysgu ran-amser i gydbwyso cyllideb yr ysgol.

Mae’r awdurdod lleol wedi ymgynghori ar gynnig i gau Ysgol Gynradd Craig Cefn Parc a hynny’n weithredol o 31 Awst 2019. Cynigir y dylid trosglwyddo’r dalgylch presennol i Ysgol Gynradd Clydach. Byddai cludiant i Ysgol Gynradd Clydach yn cael ei ddarparu ar gyfer pob disgybl sy'n byw yng Nghraig Cefn Parc.

2. METHODOLEG

Ymgynghorwyd hefyd â'r ymgyngoreion rhagnodedig sydd yng Nghod Trefniadaeth Ysgolion https://beta.gov.wales/school-organisation-code trwy lythyr/e-bost gyda dolen at y ddogfen ymgynghori ar wefan Cyngor Abertawe https://www.swansea.gov.uk/Craigcefnparcconsultation

Parodd y cyfnod ymgynghori rhwng 5 Medi 2018 a 18 Hydref 2018.

Cynhaliwyd cyfarfodydd ymgynghori yn y modd canlynol:

Cyfarfod ar gyfer:

Lleoliad

Dyddiad

Amser

Presenoldeb

Dysgwyr (Cyngor Ysgol)

Ysgol Craig Cefn Parc

18/09/18

14:30-15:30

12

Staff

Ysgol Craig Cefn Parc

18/09/18

15:30-16:15

7

Llywodraethwyr

Ysgol Craig Cefn Parc

18/09/18

16:15-17:00 ac

6

Sesiynau galw heibio i rieni/y cyhoedd

Neuadd Ysgol Craig Cefn Parc

18/09/18

17:00-19:00

38

Sesiynau galw heibio i rieni/y cyhoedd

Neuadd Gymunedol Craig Cefn Parc

20/09/18

11:00-14:00

16

Sesiynau galw heibio i rieni/y cyhoedd

Neuadd Gymunedol Craig Cefn Parc

20/09/18

14:00-16:00

17

Dysgwyr (Cyngor Ysgol)

Ysgol Gynradd Clydach

24/09/18

14:30-15:30

10

Staff

Ysgol Gynradd Clydach

24/09/18

15:30-16:15

19

Llywodraethwyr

Ysgol Gynradd Clydach

24/09/18

16:15-17:00

5

Sesiynau galw heibio i rieni/y cyhoedd

Ysgol Gynradd Clydach

24/09/18

17:00-19:00

16

Gofynnodd y gwrthwynebwyr am sesiwn galw heibio ychwanegol a threfnwyd hon yn Neuadd Gymunedol Craig Cefn Parc ar gyfer 11 Hydref 2018 rhwng 17:00 a 19:00 ac roedd 31 o bobl yn bresennol.

Mae'r cyflwyniadau a wnaed yn y cyfarfodydd i'w gweld yn: https://www.swansea.gov.uk/craigcefnparcconsultation

Mae cyhoeddi dogfen ymgynghori yn ganolog i'r broses ymgynghori a ragnodir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ad-drefnu ysgolion. Mae'r ddogfen ymgynghori’n amlinellu'r newidiadau dan sylw, y rhesymeg drostynt, manylion am y broses ymgynghori ac roedd yn cynnwys ffurflen ymateb. Rhoddwyd gwybod i’r ymgyngoreion bod fersiwn ar-lein ar gael o'r ffurflen ymateb yn ogystal â chyfeiriadau cyswllt ar gyfer anfon sylwadau drwy’r e-bost.

Cafodd y broses ymgynghori ei hyrwyddo'n helaeth ar-lein, trwy wefan Cyngor Abertawe a sianeli cyfryngau cymdeithasol, a chafodd hefyd sylw hefyd yn y wasg leol.

3. YMGYNGHORI Â PHLANT A PHOBL IFANC

Yn ystod y cyfnod ymgynghori daeth 54 o ymatebion i'r arolwg ar-lein i law. Isod gwelir crynodeb o’r arolwg:

A ydych yn cytuno â chynnig y Cyngor i gau Ysgol Gynradd Craigcefnparc?

0 (0.0%)

Ydw/Cytuno

52 (98.1%)

Nac ydw/Anghytuno

1 (1.9%)

Ansicr/Does dim ots gen i

Ni ddaeth llythyron/negeseuon e-bost i law.

Y prif ymatebion oedd nad oedd dysgwyr am i'w hysgol gau gan eu bod yn hoffi bod mewn dosbarthiadau bach mewn lleoliad gwledig a'u bod yn teimlo bod yr ysgol fel teulu iddynt. Teimlent hefyd eu bod yn cael mwy o gyfle i gymryd rhan mewn clybiau a thimau ysgol nag a fyddai'n digwydd mewn ysgol fwy o faint.

Ceir nodiadau'r cyfarfod ymgynghori â'r cyngor ysgol a chrynodeb o ymatebion y disgyblion a gasglwyd gan gyngor yr ysgol yn Atodiad 1.

Amgaeir crynodeb o'r materion a godwyd ac ymateb yr awdurdod lleol yn Atodiad 2.

Hefyd, cyflwynodd y dysgwyr 46 darn o waith celf, gellir gweld sampl ohonynt yn Atodiad 3.

Trefnwyd bod yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad a’r gwaith celf ar gael yn llawn i'r Cabinet gael ei weld.

4. YMGYNGHORI Â STAFF, LLYWODRAETHWYR, RHIENI A PHARTÏON A CHANDDYNT FUDDIANT

Yn ystod y cyfnod ymgynghori daeth 120 o ymatebion i'r arolwg ar-lein i law. Isod rhoddir crynodeb o’r arolwg:

A ydych yn ymateb fel...

1 (0.9%)

Disgybl

35 (30.2%)

Rhiant/Gofalwr

1 (0.9%)

Aelod o staff Ysgol Gynradd Craig-cefn-parc

4 (3.4%)

Aelod o staff mewn ysgol arall

2 (1.7%)

Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Craig-cefn-parc

1 (0.9%)

Llywodraethwr mewn ysgol arall

59 (50.9%)

Aelod o'r gymuned leol

21 (18.1%)

Arall (nodwch)

31 (100.0%)

Os nad ydych chi wedi darllen y ddogfen ymgynghori, gallwch ddod o hyd iddi ar-lein yma. Os oes angen yr wybodaeth hon mewn fformat arall arnoch, ffoniwch Kelly Small ar 01792 636686 neu e-bostiwch [email protected].

3.

Ydych chi'n deall yr hyn y bydd y cynnig hwn yn ei olygu petai'n cael ei gymeradwyo?

87 (91.6%)

Ydw

8 (8.4%)

Nac ydw

4.

Os nad ydych, pa wybodaeth arall y mae ei hangen arnoch?

7 (100.0%)

Rhoddwyd ystyriaeth ofalus i ddewisiadau eraill yn lle cau'r ysgol; gellir dod o hyd i fanylion llawn pob dewis yn y ddogfen ymgynghori:

Dewis 1 - Y sefyllfa bresennol

Dewis 2 - Uno

Dewis 3 - Ffedereiddio

Dewis 4 - Cau'r ysgol

Mae'r cyngor wedi asesu'r holl opsiynau fel a amlinellir yn yr adroddiad. Ar ôl ystyried manteision ac anfanteision pob un, rydym wedi dod i'r casgliad mai ein cynnig i gau Ysgol Gynradd Craig-cefn-parc yw'r dewis cywir.

5.

Ydych chi'n cytuno â'n hasesiad o bob un o'r dewisiadau eraill fel a amlinellir yn y ddogfen ymgynghori?

Cytuno'n gryf

Tueddu i gytuno

Tueddu i anghytuno

Anghytuno'n gryf

Y sefyllfa bresennol

37 (33.0%)

6 (5.4%)

14 (12.5%)

55 (49.1%)

Uno

3 (2.9%)

21 (20.4%)

20 (19.4%)

59 (57.3%)

Ffedereiddio

4 (3.9%)

23 (22.5%)

13 (12.7%)

62 (60.8%)

6.

Esboniwch eich barn isod:

82 (100.0%)

7.

Oes dewis arall rydych yn meddwl y dylai'r cyngor ei ystyried?

89 (100.0%)

8.

Oes unrhyw faterion neu bryderon eraill rydych yn teimlo nad ydynt wedi cael eu cydnabod yn y ddogfen ymgynghori?

87 (100.0%)

9.

Yn gyffredinol, a ydych yn cytuno neu'n anghytuno mai cynnig y cyngor i gau Ysgol Gynradd Craig-cefn-parc yw'r dewis cywir?

6 (5.4%)

Cytuno'n gryf

0 (0.0%)

Tueddu i gytuno

4 (3.6%)

Tueddu i anghytuno

101 (91.0%)

Anghytuno'n gryf

Daeth 463 o llythyron/negeseuon e-bost hefyd i law, gyda 462 ac o'r rhai a ymatebodd yn gwrthwynebu’r cynnig. 1 ymateb a gefnogodd y cynnig.

Y prif ymatebion oedd:

· Cymorth i'r Ysgol: Mae’r gwrthwynebwyr yn teimlo bod y Cyngor yn rhy araf wrth ddarparu cymorth a chyflwyno gwelliannau arweinyddiaeth, a bod hynny wedi cyfrannu at ostyngiad yn nifer y disgyblion, bod y penaethiaid gweithredol yn cyflwyno newid i wella'r ysgol a dylid rhoi amser iddynt barhau â'r gwaith hwnnw. Roedd y gwrthwynebwyr yn hyderus y byddai nifer y disgyblion yn cynyddu ymhellach pe bai'r bygythiad i gau yn cael ei ddileu, yn enwedig gan fod gwelliannau i'r arweinyddiaeth. Mae'r awdurdod lleol wedi cefnogi Ysgol Gynradd Craig Cefn Parc yn ei thaith i wella'r ysgol drwy nodi pennaeth gweithredol o safon o ysgol arall ac ariannu'r swydd hon ers peth amser. Mae niferoedd isel y disgyblion yn yr ysgol yn golygu bod y gyllideb sydd ar gael i'r ysgol hefyd yn isel ac mae'n rhaid i'r pennaeth gweithredol presennol weithio o leiaf ddau ddiwrnod yr wythnos yn y dosbarth, a hi sydd â’r cyfnod digyswllt lleiaf o unrhyw bennaeth yn Abertawe. Mae'n siŵr y bydd hyn yn effeithio ar allu'r ysgol i barhau i wella safonau ac i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd. Hyd yn oed pe bai dysgwyr yn dychwelyd i'r ysgol, nid oes digon o enedigaethau yn holl ward Mawr i wneud yr ysgol yn gynaliadwy. Dim ond tri chais derbyn a wnaed i'r dosbarth derbyn ar gyfer mis Medi 2019 erbyn y dyddiad cau, sef 30 Tachwedd 2018.

· Safonau’r Ysgol: Roedd safonau gwael blaenorol a amlygwyd gan Estyn wedi cael eu datrys ar ôl llawer o gymorth gan yr awdurdod lleol a chan y penaethiaid gweithredol a benodwyd. Roedd y corff llywodraethu newydd hefyd yn mynd ati’n weithgar i wella’r ysgol a'r cais gan wrthwynebwyr oedd rhoi cyfle i'r ysgol barhau i wella'r ddarpariaeth addysgol ar gyfer dysgwyr yn yr ysgol. Mae'r awdurdod lleol yn cydnabod bod Estyn wedi'i fodloni bod pryderon blaenorol yn cael sylw a bod yr ysgol wedi symud o gategori 'coch' i gategori 'melyn' o ran cymorth gan yr awdurdod lleol ond ei fod wedi'i ddynodi dros dro yn gategori 'oren' yn ddiweddar. Fodd bynnag, bydd gostyngiad parhaus yn niferoedd y disgyblion a'r pwysau cyllidebol a ragwelir ar gyfer y blynyddoedd i ddod yn cael effaith. Nid yw'r ysgol yn gallu ariannu'r costau staff cyflenwi sydd eu hangen i ryddhau staff ar gyfer hyfforddiant a bydd hyn yn hanfodol i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd. Hefyd, mae’r pennaeth gweithredol wedi ei gyfyngu i safle'r ysgol yn bennaf oherwydd ymrwymiadau addysgu a gofynion arweinyddiaeth ac felly nid yw'n gallu mynychu cyfleoedd datblygiad proffesiynol. Mae'r ysgol yn debygol o gael anhawster i ddod o hyd i bennaeth i ysgol sydd â llai na 50 o ddisgyblion mewn categori cymorth oren.

· Cludiant: Byddai'n rhaid cludo dysgwyr o Graig Cefn Parc i Ysgol Gynradd Clydach, gan nad oes llwybr cerdded ar gael. Dim ond i ddysgwyr o oedran ysgol statudol ar gyfer dechrau a diwedd y diwrnod ysgol y darperir cludiant, ac felly ni fyddai’n cael ei ddarparu ar gyfer dysgwyr meithrin na'r rhai sy'n dymuno defnyddio clwb brecwast neu unrhyw ddarpariaeth ar ôl ysgol, gan roi'r dysgwyr o’r pentref o dan anfantais. Mae'r Cyngor yn gyfrifol am gludo disgyblion ar gyfer addysg. Y rhieni sydd bob amser yn gyfrifol am sicrhau bod eu dysgwyr yn cael mynd yn ôl ac ymlaen i unrhyw weithgareddau y tu allan i'r ysgol, megis clwb brecwast a chlwb ar ôl ysgol.

· Ehangder y Cwricwlwm: Hyder y gallai'r ysgol barhau i ddarparu'r cwricwlwm llawn i ddysgwyr, er gwaethaf nifer fach staff yr ysgol a'r pwysau ar y gyllideb. Rhoddwyd enghreifftiau o fanteision bod mewn ysgol fach, megis mwy o gyfle i fod yn rhan o'r cyngor ysgol a grwpiau chwaraeon, a chyfleoedd dysgu/cymdeithasol gyda phlant o wahanol oedrannau. Adolygodd Estyn faint ysgolion ac effeithiolrwydd addysgol yn ei adroddiad ym mis Rhagfyr 2013 a thynnir sylw at y meysydd canlynol o'r adroddiad hwn (gellir gweld yr adroddiad llawn yn https://www.estyn.gov.wales/thematic-reports/school-size-and-educational-effectiveness-december-2013 Mae'r adroddiad yn dangos bod ysgolion cynradd mawr yn tueddu i berfformio'n well nag ysgolion bach a chanolig. Mae darpariaeth y cwricwlwm yn well mewn ysgolion cynradd mawr. Mewn ysgolion bach, tueddir i weld diffygion yn narpariaeth y pynciau craidd yng nghyfnod allweddol 2. Mae'r diffygion hyn yn wahanol o’r naill ysgol i’r llall, ond yn aml maent yn gysylltiedig â bylchau yn arbenigedd y staff. Mae ansawdd yr addysgu yn dda neu'n well yn 80% o'r ysgolion cynradd yn gyffredinol, ond 72% o ysgolion cynradd bach iawn sydd ag addysg sy'n dda neu'n well. Yn yr ysgolion hyn, mae tri neu ragor o grwpiau oedran ym mhob dosbarth ac mae'n rhaid i athrawon gynllunio a chyflwyno gwersi sy'n diwallu anghenion disgyblion o ystod oedran ac ystod gallu eang. Mae arweinyddiaeth a phrosesau i wella ansawdd fel arfer wedi'u datblygu'n well mewn ysgolion cynradd mawr. Mewn ysgolion cynradd bach, mae gan lawer o benaethiaid gyfrifoldeb addysgu sylweddol sy'n cyfyngu ar yr amser y gallant ei neilltuo i arwain a rheoli ac mae ganddynt lai o gyfleoedd i arfarnu safonau ac ysgogi gwelliant. Mae'n debygol y bydd gan ysgolion mwy o faint fwy o grwpiau i ymuno â nhw gydag ystod ehangach i ddiddori dysgwyr. Mae ysgolion bach yn cael trafferth gyda chwaraeon tîm lle mae angen lleiafswm o chwaraewyr. Rhagwelir y bydd y niferoedd yng Nghraig Cefn Parc yn gostwng ymhellach pan fydd y grwpiau blwyddyn mwy yng Nghyfnod Allweddol 2 yn gadael, a bydd hyn yn cyfyngu ymhellach ar chwaraeon tîm.

· Ceisiadau grant: Roedd y llywodraethwyr wedi cyflwyno cynigion grant ar gyfer cynaliadwyedd ariannol yn yr ysgol, gan gynnwys sefydlu gofal plant hollgynhwysol (wraparound) a chanolfan TG gymunedol yn yr ysgol. Nid ystyriwyd bod y rhain wedi'u datblygu'n ddigonol i’w cyflawni'n hyderus o fewn y flwyddyn ariannol gyfredol. Fodd bynnag, mae Cyngor Abertawe wedi gallu cefnogi cais am gyllid ar gyfer astudiaethau dichonoldeb er mwyn ystyried cyflwyno ceisiadau pellach yn FY2019-2020.

· Lleoliad a chyfleusterau'r ysgol: Pryder y byddai dysgwyr yn gadael lleoliad gwledig i fynd i dref orlawn, ac i safle sydd heb yr un mannau gwyrdd ag sydd ganddynt yn Ysgol Gynradd Craig Cefn Parc. Cynhaliwyd asesiad traffig a nododd welliannau ar gyfer yr ardal o amgylch Ysgol Gynradd Clydach megis mesurau gostegu traffig uwch, a bydd y rhain yn cael eu cyflwyno ni waeth beth fydd canlyniad y cynnig hwn. Mae dysgu yn yr awyr agored yn un o ofynion y Cyfnod Sylfaen ac mae gan ddysgwyr yn Ysgol Gynradd Clydach ardal awyr agored ysgogol ar safle'r ysgol ac maent hefyd yn mynd ar dripiau i'r gamlas, Parc Coed Gwilym, man awyr agored/ cae 3G awyr agored Canolfan Gymunedol Forge Fach, Manor Park ac ati.

· Yr effaith ar y gymuned wledig: Pryder ehangach ynghylch goblygiadau cymdeithasol ac economaidd symud yr ysgol o'r gymuned wledig, yn enwedig yng ngoleuni Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Un o amcanion Cynllun Lles Lleol y Cyngor yw 'meithrin cymunedau cryf sydd ag ymdeimlad o falchder a pherthyn'. Gall y gwrthwynebwyr ystyried y diffiniad hwn yn gyffredinol (Tudalen 21 o'r Cynllun Lles Leol) ond ni fyddai gwrthwynebiadau yn uniongyrchol yn unol â chamau neu gamau penodol. Nid yw'r diffiniad o amcanion o gymunedau yn gyfyngedig i gymunedau ffisegol penodol o unrhyw faint penodol ond mae hefyd yn cynnwys cymunedau a chanddynt fuddiant. Mae cynlluniau'r Cyngor yn cefnogi datblygiad cymuned newydd a fydd yn cael ei chreu yn Ysgol Gynradd Clydach. Gellid dadlau bod hwn yn gyfle i fod yn rhan o gymuned fwy amrywiol gyda manteision posibl o ran profi ystod ehangach o ddiwylliannau, ieithoedd a chymunedau a all gyfoethogi profiad disgyblion. Y tri cham mwyaf perthnasol o dan yr amcan yw ‘bod unigolion wedi'u cysylltu ac mae ganddynt ymdeimlad o berthyn' ac, er bod hyn yn wir am gymuned ysgol fach, mae hefyd yn wir am gymunedau ysgol mwy o faint sy'n tueddu elwa ar fwy o gyfleoedd rhyngddiwylliannol.

· Yr effaith ar y staff: Yr effaith ar staff yn yr ysgol gan y gallent fod mewn sefyllfa o ddiswyddiadau os nad oedd modd eu hadleoli yn rhywle arall. Pe bai'r cynnig yn mynd yn ei flaen, byddai'r Cyngor yn gweithio gydag Ysgol Gynradd Clydach ac unrhyw ysgol arall sy'n derbyn disgyblion i ofyn i'r llywodraethwyr ystyried neilltuo unrhyw swyddi newydd ar gyfer y staff yn Ysgol Gynradd Craig Cefn Parc. Byddai'r Cyngor hefyd yn ceisio adleoli staff i ysgolion/sefydliadau eraill o fewn y Cyngor. Byddai'r staff hefyd yn cael cynnig dewis ymddeol yn gynnar neu gael eu diswyddo'n wirfoddol. Dim ond pan fydd pob llwybr arall wedi dod i ben y byddai diswyddiadau gorfodol.

Mae nodiadau'r cyfarfodydd ymgynghori â’r staff a’r llywodraethwyr i'w gweld yn Atodiad 4. Mae'r pwyntiau a godwyd yn y sesiynau galw heibio i rieni a phartïon eraill a chanddynt fuddiant i'w gweld yn Atodiad 5.

Amgaeir crynodeb o'r materion a godwyd ac ymateb yr Awdurdod Lleol yn Atodiad 6.

Atodir prif gorff adroddiad manwl y gweithgor yn Atodiad 7. Mae nifer o atodiadau wedi'u golygu i gydymffurfio â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).

Roedd dwy ddeiseb hefyd – deiseb ar-lein wedi'i llofnodi gan 984 o bobl a deiseb ysgrifenedig wedi'i llofnodi gan 797 o bobl yn rhoi rhesymau unigol pam nad oeddent am weld yr ysgol yn cau.

Mae ffilm fideo hefyd wedi cael ei chreu i gefnogi'r gwrthwynebwyr a gellir ei gweld yma https://m.youtube.com/watch?v=9XnW0-4hW4c#

Sicrhawyd bod yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad ar gael yn llawn i’w gweld gan y Cabinet.

Golygiadau'r Ymgynghoriad

Roedd nifer o'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn cynnwys gwybodaeth bersonol am yr ymgynghorai neu ryw berson arall. Lle nad oes caniatâd i drefnu bod y wybodaeth bersonol honno ar gael i'r cyhoedd, bydd yn cael ei golygu. Dim ond gwybodaeth bersonol a’r ymatebion i'r ymgynghoriad a'r adroddiad a olygwyd fydd yn parhau i fod ar gael i'w harchwilio gan Gynghorwyr fel y gellir ystyried a chraffu ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn briodol cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud.

5. YMATEB ESTYN

Roedd hefyd yn ofynnol i Estyn, Arolygiaeth Ysgolion Cymru, gynnig sylwadau ar y cynnig, yn unol â Chod Threfniadaeth Ysgolion. Nodir eu hymateb isod:

Ymateb Estyn i'r cynnig gan Gyngor Abertawe i gau’r Ysgol Gynradd

Paratowyd yr adroddiad hwn gan Arolygwyr Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru.

O dan delerau Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a'i chod cysylltiedig, mae'n ofynnol i gynigwyr anfon dogfennau ymgynghori i Estyn. Fodd bynnag, nid yw Estyn yn gorff y mae’n rhaid iddo weithredu yn unol â'r Cod ac nid yw'r Ddeddf yn gosod unrhyw ofynion statudol ar Estyn mewn perthynas â materion trefniadaeth ysgolion. Felly, fel corff yr ymgynghorir ag ef, dim ond ar rinweddau cyffredinol cynigion trefniadaeth ysgol y bydd Estyn yn rhoi barn.

Mae Estyn wedi ystyried yr agweddau addysgol ar y cynnig ac wedi llunio'r ymateb canlynol i'r wybodaeth a ddarparwyd gan y cynigydd a gwybodaeth ychwanegol arall megis data gan Lywodraeth Cymru a barn y consortia rhanbarthol, sy'n ddarparu gwasanaethau gwella ysgolion i'r ysgolion yn y cynnig.

Cyflwyniad

Cynnig yw hwn gan Gyngor Abertawe i gau Ysgol Gynradd Craig Cefn Parc a throsglwyddo dalgylch presennol yr ysgol i Ysgol Gynradd Clydach.

Crynodeb/Casgliad

Mae'r cynigydd wedi darparu cynnig cynhwysfawr sy'n egluro'n glir y rhesymeg y tu ôl i'r cynnig i gau Ysgol Craig Cefn Parc a throsglwyddo dalgylch presennol yr ysgol i Ysgol Gynradd Clydach. Mae'r cynigydd yn nodi, dros gyfnod o 5 mlynedd, bod darpariaeth addysg yn Ysgol Gynradd Craig Cefn Parc wedi bod yn amrywiol a bod diffyg arweinyddiaeth barhaol wedi llesteirio gwelliant. Mae niferoedd y disgyblion yn yr ysgol yn gostwng bob blwyddyn, ac mae'r awdurdod lleol yn rhagweld y bydd y patrwm hwn yn parhau. Mae safonau yn Ysgol Gynradd Clydach yn gadarnhaol ac mae'r ysgol yn cael ei rheoli'n dda gan dîm sefydlog. Mae lleoedd dros ben a fyddai'n gallu darparu ar gyfer holl ddisgyblion Ysgol Gynradd Craig Cefn Parc.

Mae Estyn o'r farn bod y cynnig yn debygol, o leiaf, o gynnal y safonau cyfredol o ran addysg, darpariaeth, ac arweinyddiaeth a rheolaeth.

Disgrifiad a manteision

Mae'r cynigydd wedi nodi rhesymwaith clir ar gyfer y cynnig, yn seiliedig ar resymau addysgol, ac mae hefyd wedi nodi buddion eraill, megis yr effaith gadarnhaol o ran costeffeithiolrwydd yr awdurdod addysg.

Mae'r cynigydd wedi nodi'r manteision a'r anfanteision disgwyliedig o’u cymharu â'r sefyllfa bresennol, ond mae'r rhestr o fanteision ar gyfer cynnal y sefyllfa bresennol yn arwynebol ac nid yw'n ystyried unrhyw fuddion addysgol. Mae'r cynigydd wedi ystyried yr opsiwn o uno'r ddwy ysgol a hefyd yr opsiwn o greu ffederasiwn, ac mae wedi nodi'r manteision a'r anfanteision; fodd bynnag, nid yw'n glir i ba raddau y mae'r cynigydd wedi ymchwilio i'r posibiliadau hyn yn llawn. Mae wedi rhoi rhesymau clir pam mae'n ffafrio cau Ysgol Gynradd Craig Cefn Parc.

Mae'r cynigydd wedi nodi anfanteision y cynnig hwn, gan gynnwys adleoli disgyblion, diswyddo staff a chynyddu costau cludiant. Mae'r Cyngor wedi ystyried yr anfanteision ac wedi nodi y bydd yn ymdrechu i adleoli staff i swyddi eraill. Bydd hefyd yn darparu cludiant i ddisgyblion cymwys, yn unol â'i bolisi cludiant.

Mae'r cynigydd wedi nodi manteision ariannol y cynnig ac wedi dyfynnu cost lleoedd disgyblion yn Ysgol Gynradd Craig Cefn Parc o’u cymharu â'r gost gyfartalog mewn ysgolion yn Abertawe, ond nid yw'n glir pa gostau eraill a fydd yn gysylltiedig â'r cynnig, er enghraifft y gost o wella'r toiledau yn Ysgol Gynradd Clydach neu waith ffordd y tu allan i'r ysgol.

Mae'r cynigydd yn nodi heriau gydol y cynnig ac yn ymateb i bob un ohonynt. Er enghraifft, mae wedi nodi y bydd angen gwelliannau i'r briffordd yn yr ardal o amgylch Ysgol Gynradd Clydach, gan ei bod wedi'i leoli ar fwy nag un safle. Bydd yn ystyried gwneud cais Llwybrau Diogelach mewn Cymunedau ar gyfer y gwelliannau, ond os na fydd hyn yn llwyddiannus, bydd y cyllid ar gyfer gwelliannau yn cael ei nodi o gyllidebau addysg canolog.

Mae'r cynigydd wedi ystyried y lleoedd gwag mewn ysgolion yn yr ardal leol. Mae gan Ysgol Gynradd Clydach gapasiti ar gyfer 279 o ddisgyblion, sy'n golygu bod ganddi le ar gyfer 66 o ddisgyblion ychwanegol. Roedd cyfanswm nifer y disgyblion amser llawn yn Ysgol Gynradd Craig Cefn Parc yn 54 ym mis Ionawr 2018 (gyda chapasiti ar gyfer 94). Mae hyn yn golygu y bydd y cynnig i gau Ysgol Craig Cefn Parc yn lleihau nifer y lleoedd dros ben sydd yn yr ardal.

Dywed y cynigydd fod Ysgol Craig Cefn Parc yn ysgol cyfrwng Saesneg, ond bod y Gymraeg yn chwarae rhan allweddol ar draws y cwricwlwm. Mae'n nodi y bydd hyn yn parhau i fod yn wir yn Ysgol Gynradd Clydach. Mae'n rhesymol credu na fydd unrhyw effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg na darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr ardal.

Agweddau addysgol ar y cynnig

Mae'r cynigydd wedi rhoi ystyriaeth briodol i effeithiau'r cynnig ar ansawdd y canlyniadau, y ddarpariaeth, a’r arweinyddiaeth a’r rheolaeth. Mae wedi nodi'r cyfleoedd a'r manteision o gael ysgol sydd â mwy o athrawon, megis y potensial i ddarparu mwy o hyblygrwydd wrth gyflwyno'r cwricwlwm llawn, a darparu mwy o gyfleoedd i staff ddatblygu'n broffesiynol a rhannu arbenigedd.

Mae'r cynigydd wedi nodi bod Ysgol Gynradd Clydach yn cyflawni'n gadarnhaol o ran safonau, a'i bod yn cael ei harwain yn dda ac mae ganddi gorff llywodraethu cefnogol. Mae hefyd wedi nodi'r manteision i ddisgyblion o fod mewn ysgol fwy, megis gwell mynediad i adnoddau.

Mae'n rhesymol credu na fydd y cynnig yn cael effaith negyddol ar allu Ysgol Gynradd Clydach i sicrhau bod y cwricwlwm llawn yn cael ei gyflwyno yn y Cyfnod Sylfaen ac yng Nghyfnod Allweddol 2.

Mae'r cynigydd wedi darparu adroddiad ar yr asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb, sy'n nodi agweddau y bydd angen ymchwilio ymhellach iddynt, yn fwyaf amlwg i bobl hŷn oherwydd y posibilrwydd o ddiswyddo staff. Bydd y Cyngor yn argymell y dylid clustnodi swyddi staff newydd yn Ysgol Gynradd Clydach ar gyfer staff Ysgol Gynradd Craig Cefn Parc. Nid yw'r cynnig yn nodi'n ddigon clir beth effaith y cynnig ar ddisgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig.

Mae'r cynigydd yn cydnabod y bydd cau'r ysgol yn achosi rhywfaint o aflonyddwch ac ansicrwydd i ddisgyblion, ond nid yw'n glir sut y bydd modd sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ar ddysgwyr.

Mae'r cynnig wedi rhoi ystyriaeth bwrpasol i adroddiadau arolygu diweddaraf Estyn ar gyfer y ddwy ysgol. Mae adroddiad Estyn ar Ysgol Gynradd Craig Cefn Parc yn nodi bod perfformiad presennol yr ysgol a'r rhagolygon ar gyfer gwella yn rhai digonol. Mae'r adroddiad ar gyfer Ysgol Gynradd Clydach yn nodi bod perfformiad presennol yr ysgol a'r rhagolygon ar gyfer gwella yn dda.

Mae'r cynigydd wedi darparu crynodeb byr o 'Fy Ysgol Leol' i nodi canran y disgyblion a gyflawnodd y deilliant disgwyliedig yn y Cyfnod Sylfaen yn 2017, a'r lefel ddisgwyliedig yng nghyfnod allweddol 2 yn 2017. Mae wedi nodi categorïau presennol y ddwy ysgol, sef 'melyn'. Nid yw wedi dadansoddi na meincnodi data ysgolion er mwyn cymharu'r ysgolion ag ysgolion tebyg o ran canran y disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Nid yw wedi rhoi barn yr awdurdod lleol na'r consortiwm ar ansawdd arweinyddiaeth a rheolaeth yn yr ysgolion.

Mewn ymateb i'r meysydd pryder a godwyd gan Estyn, mae’r awdurdod lleol yn teimlo bod dadl gadarn wedi'i gwneud yn y papur ymgynghori sy’n nodi'n glir y dewisiadau amgen a oedd wedi'u hystyried. Cyfarfu'r Cyfarwyddwr Addysg â chyrff llywodraethu Ysgol Gynradd Craig Cefn Parc ac ysgolion cyfagos i archwilio'r posibilrwydd o ffedereiddio ar nifer o achlysuron. At hynny, archwiliwyd y dewisiadau amgen posibl gan uwch swyddogion addysg hefyd mewn cyfarfodydd mewnol.

Amlinellir amcangyfrif y costau sy'n gysylltiedig â'r cynnig hwn yn y papur ymgynghori, gan gynnwys amcangyfrif o gost adnewyddu toiledau a oedd wedi'i greu gan un o syrfewyr y Cyngor.

Mae gan yr awdurdod lleol brofiad o adleoli disgyblion yn llwyddiannus ar ôl ad-drefnu ysgolion yn flaenorol. Er mwyn lleihau aflonyddwch i ddisgyblion, cynhelir trefniadau megis diwrnodau pontio cyn y symudiad swyddogol. Câi disgyblion a rhieni o Graig Cefn Parc eu helpu a'u hannog i ymuno â’r gymuned ysgol newydd, er enghraifft trwy ymuno â chyngor yr ysgol a'r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon.

Atodiad 1

Y Cynnig i Gau Ysgol Gynradd Craig Cefn Parc

Cyfarfod â dysgwyr yn Ysgol Gynradd Craig Cefn Parc

18 Medi 2018

Yn bresennol:Euros Jones, Cynghorydd Her Kelly Small, Pennaeth yr Uned Cyllid a Gwybodaeth

12 o Aelodau Cyngor yr Ysgol

Catherine Percival, Pennaeth Gweithredol

1.

Rhoddodd Euros Jones gyflwyniadau a siaradodd â'r dysgwyr am y cynnig. Bydd yn rhoi adborth i’r cynghorwyr. Rhoddwyd iddo hefyd adborth ysgrifenedig gan ddisgyblion. Roedd y Cyngor wedi mynd trwy’r papur ymlaen llaw a chynnig i symud i Ysgol Gynradd Clydach. Bydd yn ystyried yr ymatebion ac wedyn yn eu rhoi i’r cynghorwyr. Heddiw, byddwn yn casglu barn ac yn ceisio egluro.

2.

Ddim eisiau i'r ysgol gau. Wedi bod yn yr ysgol o'r Feithrin i Flwyddyn 6 ac mae'n ysgol wych, llwythi o bethau anhygoel, ysgol y goedwig, Theatr y Grand i berfformio gyda’r Fictoriaid, mae llawer o ddysgwyr wedi mynd ymlaen i wneud pethau anhygoel ar ôl ysgol. Sawl cenhedlaeth, rhieni yma, yn drist i gau.

3.

Meithrin-Bl6 fel ail gartref. Bl3/4 yn gyntaf yn rhagorol mewn algebra. Pobl sy'n dod i wneud Mad Science ac ati.

4.

Ni ddylai gau, yn dod o Loegr yn Bl1 ond ers hynny wedi cael profiad anhygoel, yn well na'r ysgol ddiwethaf.

5.

Wedi dod i Bl2 o Loegr hefyd ac wedi setlo’n yn dda

6.

Wedi dod i Bl3 yn dad yn y fyddin. Pedwaredd ysgol a'r goreuon. Newydd ymgartrefu ac wedi gwneud ffrindiau da ac addysg dda. Wedi setlo'n dda mewn ysgol lai, mewn rhai mwy yn Lloegr a'r Alban

7.

Gofynnodd Euros i gyngor yr ysgol a oedd ganddynt unrhyw sylwadau ar y rhesymau yn y papur?

8.

Pam nad yw YGG Felindre yn cau ac anfon yr 20 i'n hysgol ni i gynyddu ein niferoedd a chael ysgol ddwyieithog yn lle hynny? A allwn ni gael dosbarthiadau gwahanol ar gyfer iaith wahanol?

9.

Mae’r lle yng Nghlydach yn gyfyng, felly a allem gael rhai o’u plith i gynyddu ein niferoedd a gallent gael mwy o le?

10.

Teimlo fel ail garter i mif.

11.

Os yw Ysgol Gyfan Clydach ac YGG Gellionnen yn llawn ill dwy, byddai'n rhaid i ni fynd i ysgol fawr megis Bae Baglan a chael mwy o fwlio ac anhrefn.

Gofynnodd Euros pam mwy o fwlio?

12.

Mwy o bobl, felly mwy i anghytuno â nhw.

13.

Peidiwch â chau gan y bydd angen gwisg newydd arnom. Os bydd yr ysgol yn cau, a fyddan nhw’n prynu gwisg newydd inni?

14.

Wedi mynd i ysgol arall yn gyntaf ond yn falch ein bod ni wedi dod yma.

15.

Llawer o hwyl yma, parti gadael i ymadawyr Bl6, limo ac wedi bod yn aros am hynny felly yn grac os na fyddwn ni’n cael hynny. Mae pawb yn gwneud bwa i gerdded trwyddo,

16.

Cyngerdd Nadolig rydyn ni'n cael cyfle i gael rhan ond ddim mewn ysgol fwy. Yn cael ei chynnal yn y capel.

17.

Yn cael eu gwahanu oddi wrth ffrindiau mewn ysgol fwy, heb adnabod pobl felly byddwn ni’n unig a thawel.

Dywedodd Euros y gallai hyn ddibynnu ar yr oedran gan fod llai o amrywiaeth yn y dosbarthiadau ar hyn o bryd.

18.

Gofynnodd Euros i'r plant am chwaraeon?

Twrnament pêl-droed yn dod i fyny ym Mhontardawe.

Ddim yn siŵr ai hyn yw’r rheswm dros gau gan nad oes digon i chwarae yn y tîm.

19.

Dywedodd Euros fod y ddogfen yn dweud bod mwy o gyfleoedd ar gael yn yr ysgol fwy.

Ond mewn ysgol fwy, llai o gyfle i gael lle yn y tîm.

Dywedodd Euros y byddai'n her mewn ysgol fwy i roi cyfle i bawb. Does dim rhaid poeni am bobl yn cael eu gadael allan. Os symudan nhw i ysgol fwy a bod tîm pêl-droed, ni fydd ganddyn nhw obaith am fod ganddyn nhw chwaraewyr yn barod.

Gofynnodd Euros a oedd ganddynt dîm pentref?

Nac oes, yn chwarae rygbi i Drebannws. Wrth eu bodd bod yr ysgol mor gyfeillgar a bod pawb yn gallu chwarae pêl-droed ar yr iard ond bydd mwy mewn ysgol fwy a gormod gan fod llawer o ferched yn chwarae. Pan oeddwn i mewn ysgol fwy o faint, doedden nhw ddim yn gadael i mi chwarae.

20.

Cyfle da i fod ar gyngor yr ysgol, ECO a grwpiau eraill, sgwad diogelwch, dew Cymraeg

21

Pe bawn ni mewn ysgolion newydd, yn fwy tebygol o beidio â mynd i glybiau ar ôl ysgol am fod mwy yn dymuno ymuno.

22.

Gofynnodd Euros a ydynt yn talu amdano yma gan fod cynifer o leoedd?

Ydym, anaml peidio â chael eu derbyn yma. Mae 2 glwb ar ddydd Mawrth, Mercher ac Iau am awr. Cyngor, TGCh, Chwaraeon, cadw'n heini, celfyddydau a chrefft a Chlwb Gwyddoniaeth weithiau. Mae angen Clwb Cymorth Cyntaf. Yn Mad Science, roedd gennym fwrdd hofran a wnaethom ni ein hunain

23.

Ni ddylai gau oherwydd nad oes gennym lawer o ddisgyblion, nid yw hynny’n golygu nad ydym yn gweithio'n ddigon caled neu nad yw’n dda iawn gartref.

24.

Mae gan lawer ohonom frodyr a chwiorydd yn yr ysgol neu sydd wedi bod i'r ysgol ac sy’n mynd, yn bennaf, i Gwm Tawe er bod rhai yn mynd i Birchgrove neu Dreforys

25.

Dim ond Bl6 sy’n mynd i’r ysgol uwchradd ar gyfer pontio a dydw i ddim eisiau colli hynny. Beth sydd gan Glydach nad yw gyda ni?

26.

Beth yw'r tebygrwydd y bydd yr ysgol yn aros ar agor?

Dywedodd Euros mai cynnig yw hwn felly nid yw'n gallu ateb hynny ond rywbryd yn y gorffennol mae'r Cabinet wedi newid ac wedi diddymu cynnig ar ôl ymgynghori

27.

Ddim eisiau gadael fy ffrindiau.

28.

Hoffwn i dreulio fy mlwyddyn olaf yma

29.

Gofynnodd Euros faint oedd yn Bl5?

7

30.

Dwi eisiau symud i gael athro gwrywaidd.

31.

Beth os bydd Clydach yn llawn?

Dywedodd Euros wrth y cyngor ysgol ein bod eisoes wedi meddwl am hynny a phe bai pob un ohonynt yn dewis mynd i Glydach byddai lle.

Os bydd pawb yn mynd yno nawr beth am y dyfodol?

Byddai Craig Cefn Parc yn dod yn rhan o'r dalgylch i sicrhau eu lleoedd

32.

Mae'n rhaid i blant iau yng Nghlydach gerdded i'r parc ac mae’n lle anfoesgar pan fydd y babanod yn dal y bws. Ac mae'n rhaid iddyn nhw giwio 15 munud am fwyd

33.

Mae’r rhieni yn ceisio cadw meddwl agored ond am ei chadw ar agor yn rhan o'r pentref, a beth yw pentref heb ysgol.

34.

Dywedodd Euros wrth gyngor yr ysgol, pe byddent yn meddwl am unrhyw beth arall, bod croeso iddynt ysgrifennu neu lenwi'r ffurflenni.

Y Cynnig i Gau Ysgol Gynradd Craig Cefn Parc

Cyfarfod â dysgwyr yn Ysgol Gynradd Clydach (Ysgol dalgylch arfaethedig).

24 Medi 2018

Yn bresennol:Chris Rees, Arweinydd Dysgu ar gyfer Cymhwysedd Digidol Kelly Small, Pennaeth yr Uned Cyllid a Gwybodaeth

10 o aelodau cyngor yr ysgol

Emma Peters, Pennaeth

1.

Rhoddodd Chris Rees gyflwyniadau a siarad â'r dysgwyr am y cynnig. Eglurodd y gallent ddweud eu barn wrthym am y cynnig erbyn 18 Hydref 2018.

2.

Beth mae'r cynnig yn ei olygu i chi?

Byddai'n golygu y byddai llawer mwy o ddysgwyr yn dod i'r ysgol pe bai Craig Cefn Parc yn cau.

3.

Teimla’r cyngor ysgol na fyddai digon o adnoddau megis llaeth, pensiliau a chadeiriau oherwydd y dysgwyr ychwanegol?

Bydd yr ysgol yn derbyn arian ychwanegol gan y bydd mwy o ddysgwyr yn golygu mwy o gyllideb felly byddant yn gallu prynu mwy o adnoddau.

4.

Fyddwn ni’n gwneud arian ac elw ohono?

5.

Sut y byddwn ni'n gallu ymdopi â mwy o ddysgwyr yn y ffreutur a mwy o sŵn?

Nodwyd: pwynt da

6.

Yn poeni am gael ein gwthio o gwmpas ym mhobman gan y bydd mwy o blant a allai fod yn dal.

7.

Byddai gennym fwy o blant sy’n ddrygionus ac mae gennym rai yn barod.

8.

Sut y bydd lle i bawb yn yr ysgol?

Mae gennych ddau safle.

9.

Sut y gallwn ni ymdopi â 55 o ddysgwyr newydd, a fydd estyniad? Sut byddai lle i bawb ar yr iard chwarae a'r cae pêl-droed?

10.

A fyddant yn ymddwyn yn dda?

Gallai rhai fod rhai yn ddrwg ac eraill yn garedig

11.

Pam gwnaethoch chi dewis ni ein hysgol ni ac nid ysgolion eraill?

Mae yna reswm oherwydd y lleoliad

12.

A fydd digon o le i chwarae y tu allan?

13.

Gwnaethom ni newid amser iau i orffen10 munud ynghynt. Mae gennym ni lai o egwyl

Pwynt da am wahaniaethau amseroedd dechrau.

14.

Bydd gennym broblemau ceir gan y bydd rhagor o geir.

15.

Sawl un fydd ym mhob grŵp blwyddyn?

13 mewn rhai a 2 mewn eraill

16.

Beth sy'n digwydd os bydd llawer o blant mewn un flwyddyn, gan fod Bl6 yn llawn erbyn hyn?

Bl4 a Bl5 yw'r grwpiau mawr. Byddai Bl6 wedi gadael. Bydd rhaid i'r Pennaeth feddwl am hyn. Bl 4 yn fawr

17.

Beth os bydd pawb yn dod i’r ysgol iau, a fydd y staff yn dod yma?

Efallai y bydd staff yn dod hefyd, ond gallant fynd i rywle arall.

18.

A fydd yn rhaid i'm hewythr adeiladu coridor mwy?

Mae'n goridor hir

19.

Gallem gael amseroedd egwyl gwahanol. Gall Bl6 fynd yn olaf felly ni fyddant yn neidio i mewn.

Peidiwch â phoeni, gallwn ni drefnu’r dydd.

20.

Os bydd rhagor o staff, mae'r ystafell staff yn fach iawn

21

Ar gyfer 55 o blant bydd angen mwy o athrawon arnom.

22.

Bydd angen mwy o flychau arnom ar gyfer llyfrau

23.

Bydd angen mwy o lyfrau gwaith cartref

24.

Pwy fyddai'n hoffi dod

25.

Byddwn i’n hoffi’r syniad pe bai gennym ffrindiau newydd

26.

Pwy sydd ychydig yn bryderus? Pam ydych chi'n poeni?

Dim digon o ystafelloedd dosbarth a lle. Rhywun yno wedi bwlio fy ffrind. Dim digon o offer. Dywedodd rhieni fy ffrind y byddai'n rhaid iddo symud i ysgol arall pe bydden nhw’n dod yma. Byddai gennym ysgol gyfan newydd.

27.

Gan nad oes llawer o le yn ein neuadd ni bydd hi’n wasgfa os daw rhagor

28.

A fydd gennym ddigon o arian i drefnu tripiau ysgol gan y bydd angen bysiau mwy o faint arnom a rhai drutach.

29.

Da os oes mwy o athrawon, gan y gallen nhw fod yn swil ac yn hapus i gael athrawon

30.

Fydd gennym ddigon o bapur i mi?

Hoffwn i chi fod yn ddi-bapur ond os bydd mwy o ddysgwyr bydd mwy o arian ond mwy o gost hefyd.

31.

Dydw i ddim yn meddwl y dylen nhw ddod am fod llawer yma'n barod. Dwi newydd ddod o’r Glais oedd yn llai.

32.

Dim digon o gyfrifiaduron yn y dosbarth ar hyn o bryd. Dim digon mewn ystafelloedd TG i bawb gael cyfrifiaduron.

33.

Dim digon o blatiau cinio.

34.

A fydd gennym ddigon o arian ar gyfer trydan a dŵr.

35.

Rwy'n hoffi'r ysgol fel y mae a dydw i ddim eisiau iddi newid.

36.

Dywedwyd wrth y plant, pe bydden nhw’n meddwl am unrhyw beth arall, bod croeso iddyn nhw ysgrifennu atynt neu ofyn i'w hathro neu riant i'w helpu.

Ymgynghoriad Craig Cefn Parc - Ffurflenni Adborth gan Gyngor yr Ysgol

Sylwadau

Mae'n ysgol dda i ddysgu ynddi ac mae'n ysgol dda.

Mae’r ciniawau’n dda – dim ciw.

Chwarae ar yr iardiau.

Gweld eisiau’r iard.

Gwaith da.

Ysgol Goedwig.

Clybiau ysgol.

Ni fydd dosbarthiadau mawr mewn ysgol arall yn well.

Llawer o ffrindiau a dydw i ddim eisiau gwneud ffrindiau newydd.

Mae'n ysgol hyfryd.

Aros gyda ffrindiau. CB

Pam rydych chi eisiau i'r ysgol gau, rydyn ni eisiau ei chadw ar agor.

Rydyn ni'n dwlu arni a meddwl ei bod hi’n berl – Dwi'n rhoi fy throed i lawr ar y pwnc hwn. I

Mae'r ysgol yn wych a dydw i ddim am fod ar wahân i'm ffrindiau. Rwy'n glynu wrth hyn. JJ

Pam maen nhw'n cau'r ysgol, dwi'n hoff iawn o'r ysgol a dwi ddim yn gadael! JB

Wedi bod i bedair ysgol a "hon yw'r un orau o bell ffordd". Bl5.

"Cam gwarthus". Bl5.

Mae pobl wedi clywed bod yr ysgol yn cau ac felly mae pobl yn meddwl nad oes diben eu hanfon yma oherwydd pe bai'r ysgol yn cau byddai'n rhaid iddyn nhw eu symud eto! Does dim bwlio yn ein hysgol ni. Bl6.

"Pe bai pob ysgol arall yn llawn, byddai'n rhaid i ni fynd i ysgol enfawr a allai olygu mwy o fwlio!" Bl6.

"Mae'n anodd credu eu bod nhw'n cau ein hysgol ni ac wedyn yn dweud wrthyn ni am brynu'n gwisgoedd ein hunain!" HD Bl5.

"Dim ond y rhan fwyaf sy'n cael bws am ddim ... oni ddylai pawb?" Bl6.

"Mae'n annheg nad yw holl athrawon Craig Cefn Parc yn cael mynd i Glydach yn ogystal â'r disgyblion". Bl6.

"Ni fyddai ysgol Clydach yn gallu ymdopi â nifer y disgyblion sydd ganddynt heb ehangu!" Bl6.

Os un o'r rhesymau pam mae pobl yn cau yw nad oes digon o bobl yma, yna pam nad ydyn nhw’n ein helpu ni i ddenu rhagor o bobl! " Bl6.

"Nid yw'r ffaith ein bod ni’n ysgol lai yn golygu ein bod ni’n tangyflawni nac yn llai da mewn unrhyw ffordd ag unrhyw ysgol arall, a dweud y gwir mewn rhai pethau rwy'n credu ein bod ni’n well nag ysgolion eraill!" Bl6.

"Beth sydd gan Glydach nad yw gennym ni ar wahân i ddisgyblion ac athrawon, a pha wahaniaeth y mae hynny'n ei wneud?" Bl5.

"Os ydych chi'n byw yn agos mae’n hawdd cyrraedd yr ysgol". Bl6.

"Os nad yw rhywun yn gallu gyrru ac os yw'n byw yn y pentref, gall gerdded ond ni all wneud hynny mewn ysgolion eraill". Bl6.

"Does dim bwlio o gwbl yn yr ysgol hon mae’n fwy cyfeillgar o lawer ac rydych chi wedi gwneud ffrindiau ac nawr mae'n rhaid i chi symud a gwneud ffrindiau newydd ac mae'n rhaid i chi ddod yn gyfarwydd â'r athrawon hefyd". Bl6.

RB - Mae hi wrth ei bodd yn yr ysgol a dydy hi ddim eisiau iddi gau oherwydd ei bod hi fel cartref iddi.

JR - Nid yw am i'r ysgol gau gan ei fod yn dweud ei bod yn ysgol wych.

AT - nid yw am i'r ysgol gau oherwydd nad yw am gael ei wahanu oddi wrth ei ffrindiau ac roedd yn dod o un arall a dywedodd fod hon yn well ysgol.

RV - Mae hi'n dweud bod ei theulu wedi bod yng Nghraig Cefn Parc ers pum cenhedlaeth ac mae hi wrth ei bodd yn yr ysgol hon a dydy hi byth yn mynd i adael.

NM – Mae’n dweud fy mod yn dal fy nhir mod, nid wyf yn colli fy ffrindiau, felly nid wyf yn gadael.

JT – "Dwi ddim yn symud allan o'r ysgol a fy ffrindiau ac rydw i'n caru'r ysgol hon a hon yw'r ysgol orau erioed".

MT - "Rwy'n dal fy nhir ac ni fydda i fyth yn gadael".

M – "Mae'r olygfa o'r ysgol yn anhygoel ac mae ganddi'r athrawon gorau a fu erioed"!

LE – "Dydw i ddim eisiau i'r ysgol gau oherwydd bod ganddi athrawon da iawn a dwi ddim eisiau gadael fy ffrindiau".

CJS – "Dydw i ddim eisiau i'r ysgol gau oherwydd dydw i ddim eisiau bod ar wahân i'm ffrindiau".

Atodiad 2

Atodiad 3

Ymgynghoriad Craig Cefn Parc - Platiau Papur y Dysgwyr

Annwyl Gabinet, mae'r blwch hwn yn cynnwys platiau papur unigol y mae plant Ysgol Gynradd Craig Cefn Parc wedi eu gwneud, i ddangos i bob ohonoch un sut y byddant yn teimlo os gwnewch y penderfyniad i gau eu hysgol benigamp. Ar gefn pob plât hunanbortread, lle mae eu hemosiynau wedi'u harddangos yn glir, mae nodyn gan bob plentyn yn dweud wrthych pam nad ydynt am gael eu gorfodi i newid ysgol. Cymerwch eich amser i edrych ar bob un a darllen eu negeseuon atoch chi. Oddi wrth bant Ysgol Gynradd Craig Cefn Parc.

Nid wyf am i ysgol Craig Cefn Parc gau am ei bod yn ysgol wych a bydd yn drist ei gweld yn cau ac ar ddyddiau poeth rydyn ni’n cael lolipop i'n cadw ni’n oer, chewch chi ddim o hynny mewn ysgol wahanol. KD, 10 oed.

Nid wyf am i ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd hon yw'r ysgol orau ac mae ganddi lawer o olygfeydd a byd natur. Fi yw'r 5ed genhedlaeth. BJ, 9 oed.

Nid wyf am i Ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd bod pob un o’m ffrindiau i yma!

Dydw i ddim am i Ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd ei bod hi’n ysgol mor braf mae fy ffrindiau mor neis a dydw i ddim eisiau. JR

Dydw i ddim am i ysgol Craig Cefn Parc gau gan na fydda i’n gweld fy ffrindiau. I, 6 oed.

Nid wyf am i Ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd byddwn yn colli fy ffrindiau! J, 9 oed

Nid wyf am i Ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd dydw i ddim am i'm ffrindiau fy ngadael i. M, 8 oed

Dydw i ddim am i ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd des i mewn i flwyddyn 3 a hon yw'r ysgol orau dwi wedi bod iddi gyda'i hathrawon hyfryd a’i golygfa braf ac mae gen i ffrindiau neis a dydw i ddim am gael fy ngwahanu oddi wrth fy ffrindiau mewn ysgolion eraill. Chewch chi ddim beth sydd gennym ni yma, er enghraifft rydych yr ysgol goedwig, tripiau gwirioneddol neis i lefydd felly peidiwch â chau'r ysgol. HD, 10 oed.

Dydw i ddim eisiau i ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd rydw i eisiau aros gyda fy ffrindiau. JT, 8 oed

Dydw i ddim eisiau i ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd does dim ysgol fel Craig Cefn Parc ac mae hi'n ysgol hyfryd. Rydyn ni'n gwneud llawer o ddysgu yn yr awyr agored ac mae gennym ni olygfa wych. Mae'n ysgol ffantastig. GG, 10 oed.

Dydw i ddim am i ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd bydda i’n gweld eisiau fy ffrindiau. S, 6 oed

Dydw i ddim am i ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd bod gan yr ysgol goedwig. Mae’n un arbennig i mi ac eraill. M, 9 oed

Dydw i ddim am i ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd fy mod i am aros gyda fy ffrindiau. B, 5 oed

Dydw i ddim am i ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd ei bod yn ysgol hyfryd dydw i ddim am adael fy ffrindiau. RV, 8 oed.

Dydw i ddim am i ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd bydda i’n gweld eisiau fy ffrindiau.

Dydw i ddim am i ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd fy mod i’n hoffi chwarae ar y iard gwaelod. E, 6 oed.

Dydw i ddim am i ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd bydda i’n gweld eisiau fy ffrindiau. J, 7 oed.

Dydw i ddim am i ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd mae'n ysgol hyfryd ac mae ganddi olygfa ryfeddol. Rheswm arall yw y gallai fy ffrindiau symud i ysgol arall. Z, 9 oed.

Mae pob un ohonom ni yn rhan o'r ysgol wych hon ac rydych chi’n hollol anghywir i fod yn ein herbyn ni. Dylech chi fod yn ymladd gyda ni. Os byddwch chi yn cau ein hysgol ni yng Nghraig Cefn Parc byddwch chi wedi cau cyfanswm o 103 o ysgolion cynradd ac felly tynnwch ein hysgol o'r rhestr ymgynghori tra gallwch chi wneud hynny. DM.

Dydw i ddim am i ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd fy mod i’n caru fy ysgol. L, 8 oed.

Dydw i ddim am i ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd o’r cychwyn cyntaf ers i mi ddechrau yma rwy wedi teimlo’n gartrefol. Mae fel ail deulu i mi. Yr ysgol hon yw calon y gymuned! Byddai cau'r ysgol yn lladd y gymuned! ME, 10 oed.

Dydw i ddim am i ysgol Craig Cefn Parc gau gan fod y rhan fwyaf ohonom wedi bod yma ers yr ysgol feithrin ac mae gennym gyfeillion o flwyddyn 5 i lawr i'r dosbarth derbyn. J, 10 oed

Dydw i ddim am i ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd ei bod yn ysgol hyfryd ac mae ganddi olygfa hyfryd. R, 8 oed.

Peidiwch â chau Ysgol CCP. Bydda i’n ofnus iawn. Dwi'n caru fy athrawon sydd wedi bod mor garedig pan oedd arna i ofn gadael Mam. Dyw hi ddim yn bell i ffwrdd ac mae hi’n cael dod i'r dosbarth i'm helpu pryd bynnag y bydd arna i angen hynny. S, 3 oed

Dwy ddim am i ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd ni fydda i’n gweld fy ffrindiau. A, 8 oed.

Nid wyf am i ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd fy mod i’n hoffi fy ffrindiau.

Nid wyf am i ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd fy mod gen i atgofion gwerthfawr nad ydw i am eu colli. JW, 9 oed.

Dydw i ddim am i ysgol Craig Cefn Parc gau gan na fydda i’n gweld fy ffrindiau. LJ, 9 oed

Dydw i ddim am i ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd ei bod hi’n ysgol wych ac rwy’n dwlu ar yr olygfa a'r lleoliad. Mae'r ysgol hon wedi bod yn 2il gartref i mi ers wyth mlynedd, a byddai'n drist ei gweld yn mynd a hefyd i beth mae pentref yn dda os nad oes gennych chi ysgol? SH, 10 oed.

Dydw i ddim am i'r ysgol gau gan fy mod i wedi bod yma ers yr ysgol feithrin ac mae ganddi’r athrawon gorau a’r disgyblion gorau a hon yw’r ysgol orau. E, 10 oed

Dydw i ddim am i ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd ni welwch chi byth yr olygfa mewn ysgol arall. MI.

Dydw i ddim am i ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd y bywyd gwyllt. N, 8 oed.

Dydw i ddim am i ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd rwyf wedi bod i bedair ysgol wahanol a hon yw'r un orau! B, 9 oed.

Dydw i ddim am i ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd fy mod i’n dwlu mynd i'r ysgol. S, 4 oed.

Dydw i ddim am i ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd fy mod i’n hapus yn yr ysgol hon ac mae gen i lawer o ffrindiau. AE.

Dydw i ddim am i ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd ni fyddwch chi’n dod o hyd i ysgol arall gyda'r fath ddealltwriaeth ac athrawon ffantastig. Mae hefyd yn ysgol ryfeddol. LB, 10 oed.

Peidiwch â chau fy ysgol. Rwy'n teimlo'n drist iawn eich bod am gau fy ysgol. Dw i'n hoffi bod yn yr ysgol gyda fy mrodyr. Rwy'n caru fy athrawon a fy nosbarth. Dwi'n caru’r cylch chwarae. Dw i wrth fy modd yn cerdded i'r ysgol gyda Mam, Dad, fy mrodyr a’m ffrindiau. Rwy'n hoff iawn o'n hysgol goedwig ar ddydd Mercher esgidiau glaw. Achubwch ein hysgol. EM, 3 oed.

Dydw i ddim am i ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd ni fyddwn yn cael pethau fel ein hysgol goedwig a’r olygfa ac efallai y byddwn i’n cael fy ngwahanu oddi wrth fy ffrindiau. DA, 10 oed.

Dydw i ddim eisiau i'r ysgol gau oherwydd ei bod hi'n ysgol hyfryd ac i rannu addysg gyda'ch gilydd. E, 10 oed.

Dydw i ddim am i ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd bod fy ffrindiau yma. C, 6 oed.

Dydw i ddim am i ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd roeddwn yma pan oeddwn yn y feithrinfa a byddaf yn anghofio atgofion a dydw i ddim am anghofio’r atgofion hynny.

Dydw i ddim am i ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd ni fydd yr atgofion da gen i am byth. I, 7 oed.

Dydw i ddim am i ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd mewn unrhyw ysgol arall ni fydd unrhyw ‘naca’ yn ein maeddu ni i ni a dydw i ddim am symud ysgol. LE, 11 oed.

Dydw i ddim am i ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd bydda i’n gweld eisiau fy ffrindiau, C yn 7 oed.

Dydw i ddim am i ysgol Craig Cefn Parc gau oherwydd fy mod i (yn gallu darllen ysgrifennu). CJ, 7 oed.

Atodiad 4

Y Cynnig i Gau Ysgol Gynradd Craig Cefn Parc

Cyfarfod â Staff yn Ysgol Gynradd Craig Cefn Parc

18 Medi 2018

Yn bresennol:Claire Abraham, Yr Uned Cefnogi Ysgolion

Celyn Evans, Yr Uned Cyllid a Gwybodaeth

Brian Roles, Pennaeth y Gwasanaeth - Cynllunio ac Adnoddau Addysg

Kelly Small, Pennaeth yr Uned Cyllid a Gwybodaeth

Nick Williams, Cyfarwyddwr Addysg

Nicola Reid, Adnoddau Dynol

Stephanie Rayner, Adnoddau Dynol

7 aelod o’r staff gan gynnwys y Pennaeth

1.

Rhoddodd Nick Williams gyflwyniadau a mynd â'r staff trwy'r cyflwyniad gan roi'r prif ffeithiau am y cynnig. Anfonwyd papur ymgynghori at y staff cyn y cyfarfod. Wedyn cafodd staff gyfle i ofyn cwestiynau a fyddai'n cael eu nodi. Gellid hefyd gyflwyno sylwadau ysgrifenedig erbyn 18 Hydref 2018.

2.

Os yw adleoli i Glydach yn mynd i fod yn opsiwn, pryd y caiff hyn ei benderfynu?

Bydd y Cabinet yn penderfynu ar 20 Rhagfyr a yw am roi rybudd, os felly, byddai trafodaethau yn digwydd yn union ar ôl hynny â'r pennaeth a'r corff llywodraethol ynghylch y strwythur dosbarth a'r gofynion staffio.

3.

A oes lle yng Nghlydach i ddau ddosbarth ychwanegol?

Oes.

4.

A all Clydach ddweud na i dderbyn ein staff?

Gallant, gan na allwn eu cyfarwyddo i gyflogi aelod penodol o’r staff.

5.

Mae rhai staff ar y raddfa gyflog uwch - a fyddai hyn yn bryder i Glydach?

Byddem yn siomedig os dyna fyddai’r brif ystyriaeth. Byddai'r gyllideb ysgolion yn cael ei chynyddu wrth i'r nifer ar y gofrestr gynyddu. Byddai'r CADau yn cael eu diogelu pe câi staff eu hadleoli.

6.

A yw'r pwynt hwnnw ynghylch diogelu yn ysgrifenedig yn rhywle?

Ydy – mae hyn yn nogfen yr athrawon ar delerau ac amodau, yn ogystal â fformiwla ariannu Abertawe.

7.

Os nad yw Clydach yn opsiwn beth sy'n digwydd wedyn?

Byddai'r awdurdod lleol yn gwneud ei orau i’ch adleoli chi i rôl addas neu ymddeoliad cynnar ac os canfyddir dim byd addas gallech fod mewn sefyllfa lle byddech yn cael eich diswyddo.

Mae'n bwysig nodi os byddwch yn cael tâl diswyddo mae'n rhaid bod o leiaf un mis cyn y gallwch dderbyn penodiad arall gyda'r cyngor a byddech yn cael toriad yn eich gwasanaeth. Fel arall, petaech yn cael cynnig swydd arall, gallech godi hynny ac ad-dalu eich tâl diswyddo, a dewis cadw eich gwasanaeth di-dor. Byddai hyn hefyd yn berthnasol pe baech yn symud i awdurdod cyfagos megis Castell-nedd Port Talbot.

Os penderfynwch ymddiswyddo’n wirfoddol, yna mae hyn yn wahanol eto a byddai angen seibiant o chwe mis o fod yn gyflogedig gan yr awdurdod, ac ni fyddai gennych yr hawl i ddychwelyd i swydd debyg.

Byddai'r broses adleoli ffurfiol yn digwydd ar ôl i'r penderfyniad terfynol gael ei wneud gan y Cabinet ym mis Mawrth, yn dilyn y cyfnod rhybudd statudol.

8.

Nid yw'r cyfnod rhwng Mawrth a Gorffennaf yn un hir iawn a byddai angen i Glydach wybod ynghynt? Yn ddelfrydol, byddai angen i ni wybod ym mis Rhagfyr/Ionawr?

Byddwn yn nodi'r pwynt hwnnw.

Nodwyd y byddai'r awdurdod yn cysylltu â'r rhieni cyn gynted ag y bo modd er mwyn penderfynu lle maent yn bwriadu anfon eu plant. Byddai hyn wedyn yn rhoi syniad da i Glydach o strwythurau dosbarthiadau a gofynion staff cyn gynted ag y bo modd.

9.

All Clydach benodi heb gyfweliad?

Mae hyn yn dibynnu ar Glydach a’r broses y maen nhw’n fodlon ei dilyn. Fel rheol, byddem yn eu cynghori i gynnal rhyw fath o broses ddethol.

10.

Rhoddwyd gwybodaeth am y meini prawf a'r broses ar gyfer dileu swyddi. Pe bai ar staff angen unrhyw wybodaeth neu gymorth ychwanegol yn ystod y cyfnod anodd hwn, esboniodd Nick y dylent roi gwybod iddo. Eglurodd Nicola Reid y byddai'n gallu cynnig mwy o gyngor a chymorth i unigolion pe bai angen a bod croeso iddynt gysylltu â hi.

11.

Pam, bellach, y mae'r Cyngor wedi penderfynu cynnig cau'r ysgol? Bu’r niferoedd disgyblion erioed yn is na 90?

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu gostyngiad sylweddol yn y niferoedd a’r darogan yw y bydd y nifer ar y gofrestr yn gostwng ymhellach. Mae'r niferoedd yn y grwpiau blwyddyn is yn arbennig o fach. Nodwyd bod y niferoedd yn yr adroddiad yn cael eu cymryd o bwynt penodol mewn amser ac rydym yn derbyn bod y niferoedd yn amrywio o ddydd i ddydd ond ar i lawr y mae’r duedd gyffredinol ac mae hynny'n achosi pryder.

12.

Oni allwch chi anfon rhai disgyblion o Glydach i fyny atom ni?

Na allwn, gan nad oes unrhyw bwysau ar le yng Nghlydach a byddai dewis rhieni yn dal i olygu y caiff rhieni ddewis yr ysgol sydd orau ganddyn nhw.

13.

Mae'n edrych fel pe bai dosbarth meithrin Clydach a dosbarthiadau meithrin ysgolion lleol eraill yn llawn?

Mae niferoedd y meithrinfeydd yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn a gall ysgolion dderbyn mwy na'u nifer derbyn os dymunant. Gall ysgolion hefyd ddewis amrywio neu ychwanegu sesiynau meithrin ychwanegol os ydynt yn dymuno darparu ar gyfer mwy o alw.

14.

Diolchwyd i'r staff am eu hamser. Mae'r awdurdod yn sylweddoli ei fod yn gyfnod anodd ac os oes angen unrhyw help neu wybodaeth bellach gallant ofyn i swyddogion yn unigol ar ôl y cyfarfod neu ar unrhyw adeg gydol y cyfnod hwn.

Atgoffwyd staff y gallent ysgrifennu atynt erbyn 18 Hydref 2018.

Y Cynnig i Gau Ysgol Gynradd Craig Cefn Parc

Cyfarfod â Staff yn Ysgol Gynradd Clydach (Ysgol dalgylch arfaethedig).

24 Medi 2018

Yn bresennol:Claire Abraham, Yr Uned Cefnogi Ysgolion

Celyn Evans, Yr Uned Cyllid a Gwybodaeth

Brian Roles, Pennaeth y Gwasanaeth - Cynllunio ac Adnoddau

Addysg

Kelly Small, Pennaeth yr Uned Cyllid a Gwybodaeth

Nick Williams, Cyfarwyddwr Addysg

15 aelod o’r staff

1.

Rhoddodd Nick Williams gyflwyniadau a mynd â'r staff trwy'r cyflwyniad gan roi'r prif ffeithiau am y cynnig. Anfonwyd papur ymgynghori at y staff cyn y cyfarfod. Wedyn cafodd staff y cyfle i ofyn cwestiynau a fyddai'n cael eu nodi. Roedd hefyd yn bosibl cyflwyno sylwadau ysgrifenedig erbyn 18 Hydref 2018.

2.

Os bydd y Cabinet yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen – a oes cyfnod penodol y bydd yn rhaid i'r Cyngor aros amdano cyn, o bosibl, adolygu'r cynnig?

Nac oes, dim cyfnod penodol o amser, fodd bynnag mae hon yn broses hirfaith felly byddai'n sicr yn gyfnod hir.

3.

Mae'r ffyrdd cul a'r lleoedd parcio cul yn broblem barhaus rydym wedi'i thrafod gyda Nicole (Iechyd a Diogelwch) a arweiniodd at y ffaith ein bod yn gwahanu amseroedd dechrau/gorffen diwrnod y babanod a’r plant iau. A fydd y cludiant a ddarperir gan yr awdurdod lleol yn gallu darparu ar gyfer hyn?

Gofynnwyd am gynllun rheoli traffig a bydd hyn yn cael ei ystyried yn rhan o hynny. Nodwyd y gallai rhai o'r rhieni ddymuno mynd i glybiau ar ôl ysgol ac ar gyfer rhai o'r rheini y byddai angen iddynt gasglu yn lle'r bws.

4.

A fydd cyllid yn cynyddu?

Bydd. Mae'r cyllid wedi'i seilio'n bennaf ar nifer y dysgwyr, felly bydd cyfran y gyllideb i ysgolion yn cael ei chyfrifo ar sail y nifer ar y gofrestr.

Sylwer - os bydd y cynnig yn mynd yn ei flaen ac y bydd Craig Cefn Parc yn cau, bydd yr ALl yn cysylltu â rhieni yn syth i benderfynu a ydynt yn bwriadu anfon eu plant i Glydach ai peidio. Y gobaith yw y bydd hyn o gymorth wrth gynllunio ar gyfer staff, ailstrwythuro mewn dosbarthiadau ac yn y blaen.

4.

Byddem yn awyddus i gadw rhai rhannau o'r ysgol y gellid eu defnyddio yn ddosbarthiadau (megis yr ystafell TG). Mae'r feithrinfa hefyd yn llawn ar hyn o bryd.

Bydd yr ALl yn gweithio gyda'r ysgol i bennu'r ffordd orau o ddefnyddio'r lle yng Nghlydach. Gyda'r cynnydd yn y cyllid, efallai y gallech gyfiawnhau meithrinfa brynhawn.

5

Bu llawer o sylw ar y cyfryngau cymdeithasol sydd wedi cythruddo rhai o'n rhieni. Nid yw hyn yn ddechrau delfrydol os aiff y cynnig yn ei flaen.

Nodwyd. Mae emosiynau'n uchel iawn ar hyn o bryd. Os aiff y cynnig yn ei flaen, bydd y trefniadau pontio yn bwysig iawn.

6.

Diolchwyd i'r staff am eu hamser ac fe'u hatgoffwyd pe byddai arnynt angen unrhyw beth pellach, y byddai’r swyddogion yn hapus i gynorthwyo.

Atgoffwyd y staff bod croeso iddynt ysgrifennu atynt erbyn 18 Hydref 2018.

Y Cynnig i Gau Ysgol Gynradd Craig Cefn Parc

Cyfarfod â’r Llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Craig Cefn Parc (ysgol dalgylch arfaethedig).

18 Medi 2018

Yn bresennol:Nick Williams, Cyfarwyddwr Addysg

Claire Abraham, Yr Uned Cefnogi Ysgolion

Celyn Evans, Yr Uned Cyllid a Gwybodaeth

Brian Roles, Pennaeth Gwasanaeth - Cynllunio ac Adnoddau Addysg

Kelly Small, Pennaeth yr Uned Cyllid a Gwybodaeth

Sarah Loydol, Cynghorydd Her

Chwe Aelodau o'r corff llywodraethu

Catherine Percival, Pennaeth Gweithredol Craig Cefn Parc

Dau aelod o’r staff

1.

Rhoddodd Nick Williams gyflwyniad a mynd â’r llywodraethwyr a'r staff trwy'r cyflwyniad gan roi'r prif ffeithiau am y cynnig. Anfonwyd papur ymgynghori at y llywodraethwyr cyn y cyfarfod. Wedyn cafodd y llywodraethwyr gyfle i ofyn cwestiynau a fyddai'n cael eu nodi. Roedd hefyd yn bosibl cyflwyno sylwadau ysgrifenedig erbyn 18 Hydref 2018.

Nodwyd bod y ffigurau yn deillio o gyfrifiad CYBLD mis Ionawr, ond mae gennym ein cyfrif ein hunain ar gyfer mis Medi.

2.

Sut y lluniwyd yr adroddiad? Mae'n cynnwys cyfeiriad at arolygiad Estyn ond nid yw am fynd ar drywydd hyn, unrhyw reswm pam y cafodd ei hepgor?

Mae'n adroddiad swyddogol ac yn sefyll tan yr arolygiad swyddogol nesaf, ac nid yw'r diweddariad yn arolygiad llawn.

3.

Mae'r adroddiad yn ymddangos yn negyddol ac nid yw'n cynnwys y cynnydd a wnaed.

I’w nodi mewn ymateb, mae hefyd yn cyfrif am y categoreiddio.

4.

Mae'n dweud ei bod yn 1.8 milltir i Glydach, mae'n 2.2 milltir i Glydach.

Rydym yn defnyddio'r llwybr byrraf sydd ar gael ar gyfer teithio.

5.

Dywedwch fod mwy o brofiad yng Nghlydach ond ni allaf weld hynny, sut y gallwch brofi hynny?

Mae'n bwynt cyffredinol am ysgolion mwy.

6.

Sut y gall addysg fod yn well os oes dosbarthiadau mwy nag sydd gennym yma, dydw i ddim yn credu y gall fod felly.

Mae gennych heriau mewn ysgolion bach wrth grwpio plant gyda'i gilydd, fel athro byddai'n well gennyf beidio ag addysgu mwy na dwy flwyddyn mewn dosbarth. Mae gwahaniaeth rhwng yr hyn y gall disgybl chwech oed a disgybl deg oed ei wneud. Rwy’n derbyn bod eich safbwynt yn wahanol. Rwy wedi dysgu mewn dosbarthiadau llai a mwy.

7.

Mae athrawon mewn ysgolion eraill wedi dweud ei bod hi’n well ganddyn nhw ddosbarthiadau bach.

Y dystiolaeth yw y byddai angen i chi leihau maint y dosbarth yn sylweddol er mwyn gwneud gwahaniaethau mewn addysg, ond mae'n anodd os bydd rhychwant oedran mawr.

8.

Yn ôl y dystiolaeth, addysgir yn ôl gallu ac nid yn ôl oed felly nid yw maint y dosbarth yn gwneud gwahaniaeth.

Nid oes tystiolaeth o hynny chwaith.

9.

Mae plant o wahanol oedrannau gyda'i gilydd yn elwa o helpu ei gilydd. Yng Nghlydach bydd deg ar hugain mewn dosbarth. Rydw i wedi dysgu rhai iau ac mae'n helpu pan fyddan nhw'n helpu ei gilydd.

Nodwyd eich sylw.

10.

Ond rydych chi'n dweud mai ffaith yw hyn, felly bydd eraill yn ei gredu ond dim ond eich barn chi ydyw.

Rydym yn edrych ar sail tystiolaeth ac mae a wnelo hefyd â chyfleoedd ehangach.

11.

Beth yw'r rhain? Yn ôl Asesiad o'r Effaith ar y Gymuned mae gan Glydach dri chlwb ar ôl ysgol, mae gennym ni bump. Nid oes cae chwaraeon yng Nghlydach.

Oes gennych chi dîm rygbi?

Mae gennym athletau a thraws gwlad.

13.

Pa leoedd gwyrdd y gallan nhw fanteisio arnyn nhw yng Nghlydach?

Pwynt dilys, nid esgus ei fod yn berffaith.

14.

Does dim modd gweld beth sy'n well neu'n fuddiol.

Bydd cyfle i fwy o ddisgyblion gael mwy o dimau.

15.

Ond mae mwy yn mynd am yr un llefydd yn golygu llai o gyfle e.e. cyngor ysgol, eco, Cymraeg Clwb ac ati.

16.

Tudalen tri – mae’r gallu i dyfu yn broblem ac yn dweud sut mae dysgwyr yn mynd i addysg cyfrwng Cymraeg a Sant Joseff hefyd. Sut y gallwch ddweud na fydd hynny'n newid. Mae'r sylw yn amherthnasol.

Sut y gallwch ddweud y bydd yn newid?

16.

Teithio i Glydach – adnabod pobl yng nghyffiniau'r ysgol a honna Clydach nad yw’r Cyngor yn hapus bod mwy o blant yn mynd yno gan ei fod yn beryglus. Ac eto, rydych yn ystyried anfon ein plant i rywle nad yw'n ddiogel. A ydych wedi siarad â phobl yn y cylch?

Byddwn yn gwneud hynny. Mae gennym gyfarfod â Chlydach yr wythnos nesaf a gallwn ddod trwodd.

17.

A fyddai hynny'n golygu y byddech yn dweud na?

Nid penderfyniad i’r swyddogion yw hwn, byddem yn ceisio lleddfu unrhyw broblemau. Mae trefniadau diogelwch ar fysiau i unrhyw ysgol.

18.

Rydych chi’n dweud bod hon yn ffaith a brofwyd, ni all bysiau barcio y tu allan i'r ysgol felly mae angen iddynt gerdded i lawr ffordd gul. A oes asesiad risg wedi bod ar gyfer dadlwytho ac a fyddant yn cynnwys clwb brecwast a chlwb ar ôl ysgol?

Dim ond cludiant o'r cartref i'r ysgol.

Mae'n debyg y byddant yn gadael ar hyd y ffordd i'r dde i ysgolion Clydach, a bydd mesurau diogelwch yn ymestyn i'r cyfnod pan fydd y dysgwyr ar safle'r ysgol.

19.

Felly, yn gymdeithasol, nid ydynt yn cael yr un cyfleoedd.

20.

Am ba hyd y bydd ganddynt gludiant?

Ar gyfer cludiant o'r cartref i'r ysgol bob amser gan mai hwn yw polisi'r Cyngor.

21.

Mae'r ddogfen ymgynghori yn dweud bod Corff Llywodraethu cefnogol yng Nghlydach ond mae un yn ysgol Craig Cefn Parc hithau ond nid yw hynny'n cael ei grybwyll, ac nid yw'n dweud bod gennym arweinyddiaeth effeithiol. [Tynnwyd yr eitem o'r cofnodion yn unol â gofynion GDPR]

22.

Pe bai gennym estyniad amser, gallem gynyddu'r niferoedd a bod yn fwy cynaliadwy.

23.

Rwy'n Llywodraethwr diweddar ond rydych chi’n sôn am newid arweinyddiaeth ond yr Awdurdod Lleol sydd ar fai.

Nage, ni allwn atal unrhyw un rhag gwneud cais am swydd arall.

24.

Nage, dywedwyd wrth y pennaeth gweithredol am fynd yn ôl i'w hen ysgol,

Y rheswm am hynny oedd na allai'r ysgol bennu cyllideb gytbwys ac roedd hi'n aelod dros dro o'r staff. Rydym wedi cefnogi'r ysgol hon yn ariannol ac nid yw'n deg ar ysgolion eraill os ydym am barhau i wneud hynny.

25.

Er 2014, gostyngodd y nifer ar y gofrestr yn sylweddol. Efallai pe bai'r Awdurdod Lleol wedi ymyrryd cyn hyn ni fyddem mewn yn y sefyllfa hon. [Tynnwyd yr eitem o'r cofnodion yn unol â gofynion GDPR]

Does dim modd dangos hynny, fodd bynnag, ni all y nifer ar y gofrestr gynyddu gan eu bod mewn ffigurau sengl ar gyfer pob grŵp blwyddyn.

26.

[Tynnwyd yr eitem o'r cofnodion yn unol â gofynion GDPR]

Mewn ardaloedd gwledig gallwn gael poblogaeth sy'n heneiddio.

27.

Mae ein Meithrinfa yn tyfu.

Mae gennym dri ar ddeg yn gadael blwyddyn chwech, felly oes gennych chi dri ar ddeg yn y dosbarth meithrin?

Nac oes, wyth, mae’r nifer yn fach ond mae teuluoedd yn ystyried symud yma.

28.

Ers y cynnig i gau, rydym wedi cynnal digwyddiadau yn yr haf ac mae'r rhieni'n gadarnhaol ond ni fyddan nhw’n cymryd risg i ddod yma oherwydd y cynnig. Gyda golwg ar y dyfodol, dylech chi fod wedi dweud wrthym o'r blaen i gael rhif ar y gofrestr neu byddwn yn cynnig eich cau. Dylech roi syniadau i ni ynghylch sut i gynyddu’r nifer ar y gofrestr gan mai eich cyfrifoldeb yw hynny. Mae chwe chenhedlaeth o rai teuluoedd wedi dod i'r ysgol hon. Mae’n warthus eich bod chi’n gallu dweud bod gwell addysg yn rhywle arall.

Sarah Loydon: Ynghylch strategaethau, gweithio gyda phennaeth gweithredol am beth amser a dyna pam yr agorwyd y grŵp mam a'i phlentyn, gweithio gyda Mike, Jane a'r ymwelydd iechyd i gyflwyno llyfrynnau, felly rydym wedi cefnogi'r ysgol.

29.

A oes gwaith wedi'i wneud y tu allan i’r dalgylch? Mae rhesymau pam y daw'r hyn sydd y tu allan i'r dalgylch yma.

Gallant wneud eu sylwadau yn nes ymlaen mewn sesiynau galw heibio.

30.

Pwy benderfynodd amseroedd ar gyfer y cyfarfodydd nid yw 16:15 yn ddelfrydol?

Byddem wedi cael ein harwain gan yr ysgol ar adegau a hefyd wedi cynnig amrywiaeth o sesiynau galw heibio.

31.

Mae yna gyfyngiad cymeriadau ar gyfer ffurflen ar-lein, felly ni all fynegi barn lawn.

Byddwn yn edrych ar hyn.

32.

Nid oedd y ddogfen plant yn briodol ar gyfer y grŵp oedran ac nid yw'r cwestiynau ar grefydd ac ystadegau eraill yn briodol.

Rydym wedi cyfarfod â chyngor yr ysgol.

33.

Mae angen i rieni helpu'r dysgwyr i ddeall eu papurau.

Atgoffwyd y llywodraethwyr y gallent ysgrifennu atynt erbyn 18 Hydref 2018.

Y Cynnig i Gau Ysgol Gynradd Craig Cefn Parc

Cyfarfod â’r Llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Clydach (ysgol dalgylch arfaethedig).

24 Medi 2018

Yn bresennol:Claire Abraham, Yr uned Cefnogi Ysgolion

Celyn Evans, Yr Uned Cyllid a Gwybodaeth

Brian Roles, Pennaeth Gwasanaeth - Cynllunio ac Adnoddau Addysg

Kelly Small, Pennaeth yr Uned Cyllid a Gwybodaeth

Nick Williams, Cyfarwyddwr Addysg

4 aelodau o'r corff llywodraethu

Emma Peters, Pennaeth Ysgol Gynradd Clydach

1.

Rhoddodd Nick Williams ragarweiniad a mynd â'r llywodraethwyr trwy'r cyflwyniad gan roi'r prif ffeithiau am y cynnig. Anfonwyd papur ymgynghori at y llywodraethwyr cyn y cyfarfod. Wedyn cafodd y llywodraethwyr gyfle i ofyn cwestiynau a fyddai'n cael eu nodi. Roedd hefyd yn bosibl cyflwyno sylwadau ysgrifenedig erbyn 18 Hydref 2018.

2.

Ble fydd y mannau danfon a chasglu?

Nid yw hyn wedi'i benderfynu eto. Mae'r ALl wedi comisiynu cynllun rheoli traffig a bydd y manylion yn cael eu cyfrifo yn dilyn hynny. Mae'n debygol y bydd 3 bws mini bach dan oruchwyliaeth. Fodd bynnag, bydd hyn yn dibynnu ar y niferoedd a fyddai'n trosglwyddo. Bydd y sesiynau i ddanfon a chasglu yn cael eu hamseru ar gyfer dechrau a diwedd y diwrnod ysgol arferol. Bydd yn rhaid i rieni ollwng a chodi’r plant os bydd dysgwyr yn mynychu clybiau brecwast neu glybiau ar ôl ysgol.

3.

O ble daw'r plant os nad yw pob un yn dod o fewn dalgylch Craig Cefn Parc?

Maent wedi eu gwasgaru o gwmpas – nid oes un ardal benodol.

4.

Mae mewnlifiad o 52 o blant yn nifer fawr - rydym yn pryderu am ddarparu ar gyfer y plant oherwydd datblygiadau ychwanegol posibl yn ardal Clydach.

Mewn gwirionedd, byddai'r disgyblion ychwanegol yn is na'r nifer bresennol yng Nghraig Cefn Parc. Byddai blwyddyn 6 wedi symud ymlaen, a byddai rhai rhieni yn dewis ysgol wahanol trwy ddewis rhieni.

Mae datblygiadau tai posibl bob amser yn ystyriaeth. Fodd bynnag, mae datblygiadau tai lleol yn tueddu cymryd llawer o amser cyn bwydo i mewn i'r ysgol, ac yn aml mae'n cynnwys teuluoedd sydd eisoes yn lleol i'r ardal, sy'n symud tŷ yn unig.

4.

Ydych chi wedi ystyried pam mae disgyblion yn lleihau yng Nghraig Cefn Parc? Ai dim ond am fod nifer fach o ddisgyblion yn y gymuned leol?

Rydym yn credu bod amrywiaeth o resymau, gan gynnwys demograffeg sy'n dirywio, rhieni sy’n dewis ysgolion cyfrwng Cymraeg neu ffydd ac yn y blaen.

5

Sut caiff rhagfynegiadau niferoedd disgyblion eu cyfrifo?

Maent yn seiliedig ar nifer y derbyniadau cyfartalog dros dair blynedd o'r ysgol feithrin i'r dosbarth derbyn.

6.

A yw'r ALl wedi ystyried Uned Gymraeg yng Nghraig Cefn Parc?

Mae digon o leoedd cyfrwng Cymraeg yn lleol - Mae lleoedd cyfrwng Cymraeg ar gael yn YGG Gellionnen.

7.

A allai'r ALl wthio mwy o deuluoedd Clydach i Graig Cefn Parc?

Fel ALl, ni allwn ffafrio un ysgol, ac mae dewis rhieni'n golygu na allwn 'wthio' teuluoedd i’r naill ysgol neu'r llall. Efallai y caiff newid dalgylch Clydach yn effaith andwyol ar eu niferoedd a'u cyllid.

8.

Ydych chi'n siŵr bod digon o gapasiti yn ysgol Clydach i ddarparu ar gyfer disgyblion Craig Cefn Parc?

Oes, mae meysydd y gallai'r ysgol eu defnyddio mewn ystafelloedd dosbarth sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd ar gyfer pethau eraill. Byddai hyn yn rhywbeth y byddai'r ALl a'r ysgol yn ei wneud gyda'i gilydd i benderfynu ar y defnydd gorau ar le yn yr ysgol.

9.

Nid yw cyflwr adeilad yr ysgol yn arbennig o dda – a fyddwn ni'n cael unrhyw gyllid cyfalaf ychwanegol?

Yr unig gyllid cyfalaf fyddai ar gyfer adnewyddu'r toiledau. Byddai gweddill yr arian ychwanegol yn cael ei roi ar gyfer nifer ychwanegol ar y gofrestr.

10.

Codwyd cwestiwn ynghylch beth fydd yn digwydd os bydd nifer y disgyblion yn codi yn y dyfodol a beth allai ddigwydd os ydynt yn uwch nag y mae'r ALl yn ei ragweld?

Nodwyd y pryder hwn.

11.

Beth yw'r amserlen ar gyfer adnewyddu'r toiledau?

Mae'n debygol y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau dros wyliau'r haf.

12.

A fydd yr ysgol yn gallu ymdopi â rhagor o waith gweinyddol?

Cadarnhaodd y pennaeth na fyddai hynny'n broblem.

13.

Faint o staff addysgu yng Nghraig Cefn Parc ar hyn o bryd a beth fydd yn digwydd iddynt?

Mae pennaeth, dau athro a dau gynorthwyydd addysgu, ynghyd â nifer o staff cymorth. Byddai pob un o'r gweithdrefnau Adnoddau Dynol arferol yn berthnasol iddynt hwy, gan gynnwys adleoli, diswyddo (os byddai hyn yn opsiwn synhwyrol).

14.

Bob tro y byddwn yn penodi aelod o staff, byddem am gael yr ymgeisydd gorau posibl. A fyddai'n rhaid i ni benodi staff Craig Cefn Parc?

Mater i chi fel ysgol fyddai hynny. Hoffem i chi eu hystyried o flaen llaw, ond mater i chi fel corff llywodraethu yw hyn.

15.

Beth yw barn y gymuned yng Nghraig Cefn Parc?

Dydyn nhw ddim eisiau i'r ysgol gau [Tynnwyd yr eitem o'r cofnodion yn unol â gofynion GDPR] Mae'n well ganddyn nhw ysgol fach, ac maen nhw'n poeni am gludiant.

16

[Tynnwyd yr eitem o'r cofnodion yn unol â gofynion GDPR]

17.

Ai dymuniad yr ALl fyddai cadw Craig Cefn Parc yn agored pe bai’r niferoedd yn ddigonol?

Byddai'n rhaid inni ystyried niferoedd a sefydlogrwydd rhifau a byddai'n rhaid inni gael sicrwydd ynghylch y naill faes a’r llall.

18.

Diolchodd Nick i'r Llywodraethwyr am eu hamser a'u hatgoffa y byddai swyddogion yn fwy na pharod i helpu pe bai arnynt angen unrhyw beth pellach.

Atgoffwyd y Llywodraethwyr y gallent ysgrifennu atynt erbyn 18 Hydref 2018.

Atodiad 5

Ymgynghoriad Craig Cefn Parc - 8/10/18

Sylwadau

Yr ysgol yw calon y gymuned.

Dylai‘r cyllid ar gyfer prosiectau megis Kingsway fod wedi mynd i ysgolion.

Mae swyddfa'r post wedi mynd; gallai cau’r ysgol gael effaith enfawr ar y gymuned.

Mae’r pryderon cludiant yn ymwneud â seilwaith/peryglon o amgylch Clydach.

Clybiau ar ôl ysgol – anfanteision Craig Cefn Parc.

Mae cyfleusterau Craig Cefn Parc yn well na Chlydach. Cae pêl-droed yn y pentref.

Golygfa’r safle yng Nghraig Cefn Parc yn well.

Cost y gwaith ffordd sydd ei angen yng Nghlydach i’w wneud yn ddiogel.

Beth os bydd plant yn sâl yn ystod y dydd – sut y gall rhieni heb gludiant eu casglu. Dim cludiant cyhoeddus ar ôl 6p.m.

Nifer y dysgwyr a ragwelir – llawer o deuluoedd yn symud i mewn i’r pentref – cyfrwng Cymraeg/ffydd trwy ddewis yn hytrach na heb eisiau Craig Cefn Parc/ansawdd Craig Cefn Parc. Gall y ffaith fod cynnig i gau’r ysgol erbyn hyn eu gwneud yn llai parod i anfon eu plant, felly byddai’r niferoedd yn artiffisial o isel. 74% yn dod o’r dalgylch felly mae 26% wedi gweld y fantais o ddod i Graig Cefn Parc.

Dim cludiant i’r plant meithrin i Glydach – dan anfantais.

Cynyddu maint dalgylch Craig Cefn Parc.

Dosbarthiadau oedran cymysg mawr yng Nghlydach – Mae dosbarthiadau bach yn cael eu hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru ac ati.

Bydd yn creu mwy o drafnidiaeth, allyriadau Co2 ac ati o amgylch ysgolion – dylai'r Cyngor fod yn ceisio lleihau hyn.

Ni fydd Clydach yn derbyn mwy o staff? A oes ganddynt fwy o arbenigedd fel yn y papur ymgynghori?

Pa ddewis arall heblaw cau sydd wedi'i ystyried? Nid ydym wedi gweld unrhyw adborth ar ba ysgolion sydd wedi cael eu hystyried ar gyfer ffedereiddio a'r hyn a ddywedodd eu corff llywodraethu. Mae’r Glais yn ymddangos yn amlwg gan fod yr ysgol yno hefyd yn fach. Ydych chi wedi siarad â'r Glais?

Dywed Estyn fod yr ysgol yn diwallu anghenion y cwricwlwm yn dda.

Mae'r gymuned yn dod i adnabod ei gilydd drwy'r ysgol, yn enwedig teuluoedd ifanc. Canolfan gymunedol.

Dywed Estyn fod yr ysgol yn rheoli'r gyllideb yn dda.

Mae ansicrwydd ynglŷn â phennaeth parhaol wedi arwain at ansicrwydd ynghylch yr ysgol a niferoedd y disgyblion, allan o ddwylo'r corff llywodraethol i gyflymu'r broses hon. Mae’r pennaeth gweithredol wedi gweddnewid hyn o gwmpas ac mae angen arweinyddiaeth gyson i gynyddu'r niferoedd eto.

Ddylen ni ddim dweud y bydd staff yn cael cyfle yng Nghlydach gan nad oes dyletswydd ar eu llywodraethwyr i'w cymryd neu efallai nad ydynt yn cyfateb i fatrics sgiliau.

Mae'r papur ymgynghori'n awgrymu bod Craig Cefn Parc o dan fesurau arbennig ond nid felly’r oedd hi. Yn cyfeirio at ddata hanesyddol ac nid at sut ysgol y mae hi nawr. Roedd yn rhoi cam argraff i'r darllenydd. Nid yw Estyn yn dweud yr un peth â’r papur ymgynghori. Mae'r categori yn ganlyniad i bresenoldeb ond gallai hynny fod yn ddim ond un neu ddau mewn ysgol fach.

Cludiant – mae'n ymwneud â sut y bydd hyn yn gweithio. Strydoedd Clydach yn llawn tagfeydd yn barod ac yn gul. Bydd bysiau y tu allan yn gwneud pethau'n waeth. Ansawdd aer – Mae'r CU eisoes yn dweud bod y DU yn groes i hawliau dynol oherwydd ansawdd aer gwael. Dim cludiant ysgol feithrin neu gludiant ar ôl ysgol. Cymerwch opsiwn 'iach' i gyrraedd yr ysgol, megis beicio neu gerdded.

Cyflwr adeilad Craig Cefn Parc a beth fyddai'n digwydd iddo pe bai'n segur? Mae ward Mawr wedi colli mynediad i fwy o adnoddau na wardiau eraill felly dylid cadw adeiladu yn ased cymunedol.

Rydych chi’n dweud mai dim ond 45% sy'n mynd i Graig Cefn Parc o’r ardal. Roedd hyn o ganlyniad i'r problemau arweinyddiaeth blaenorol a dylai'r awdurdod lleol fod wedi mynd i'r afael â’r rhain ar y pryd – teimlo eu bod wedi eu gadael i’w gwneud yn ddadl dros gau.

Nifer y disgyblion a fu'n isel cyn hynny ond heb gynnig cau bryd hynny?

Ymddeolodd gofalwr ac ar y pryd roedd sôn am gael cyfleuster STF yn yr adeilad ond ni wnaeth gynnydd. Pam? Byddai sôn am hyn yng nghofnodion y Corff Llywodraethu (2007).

Mae angen i ystadegau ddangos os nad yw plant y dalgylch yn mynd i Graig Cefn Parc a ydynt yn mynd i ysgol cyfrwng Saesneg yn rhywle arall neu'n dewis ysgol cyfrwng Cymraeg neu ysgol ffydd felly nid ydynt yn ein 'marchnad' ni beth bynnag.

Sut y gall Clydach ehangu 30 lle? Mae tai newydd wedi'u cynllunio yn yr ardal –ble bydd eu plant yn mynd? Os cymerir lleoedd o Glydach i'w defnyddio yn ystafelloedd dosbarth, mae'n tynnu oddi ar eu dysgwyr nhw.

Yn ei gynnig, mae'n sôn am Gynllun Gweithredu i gefnogi uwch reolwyr ond a yw hyn wedi datblygu mewn gwirionedd? A fu unrhyw dargedau ac a ydynt wedi eu cyrraedd? e.e. Rheoli perfformiad y pennaeth.

A ellid defnyddio tŷ’r gofalwr o hyd i gael incwm, e.e. dysgu oedolion, AAA, Cymraeg ac ati, y tu allan i oriau ysgol efallai.

Gyda dyslecsia, mae dosbarth bach ac ysgol wedi helpu gyda hyn, ac yn hyderus. Mae gan athrawon gysylltiad cryfach â phob dysgwr mewn ysgol fach ac maent yn adnabod eu hanghenion yn dda. Dylid targedu cymorth llythrennedd ac ati yn dda mewn lleoliad bach.

Dadl am beidio â bod yn barod ar gyfer ysgol uwchradd o ysgol fach yn anghywir gan fod llawer yn gwneud yn well mewn ysgol gyfun ac yn gofalu am ei gilydd. A fyddai dan anfantais yn addysgol yn mynd i ysgol fwy

Gwell lles i ddysgwyr mewn lleoliad cymunedol.

Mae'r gymuned yn dod i adnabod ei gilydd trwy’r ysgol sy’n cydlynu’r gymuned sy’n seiliedig ar yr ysgol.

Mae nifer o leoliadau dewisol i mewn i Graig Cefn Parc.

Amgylchedd mwy diogel yn y gymuned i blant gan fod pawb yn adnabod ei gilydd o'r ysgol, yn cael effaith gadarnhaol ar les ac iechyd meddwl.

Mwy o gymorth fesul un yng Nghraig Cefn Parc ar gyfer pob dysgwr na mewn ysgol fwy.

Craig Cefn Parc yn well amgylchedd – deiliog, gwarchodfa adar ac ati – amgylchedd iach. Nid yw hyn gan Glydach – llygredd aer.

Mae pob un yn cael cyfleoedd chwaraeon a chyfleoedd eraill yng Nghraig Cefn Parc felly mae pob gallu yn cael cyfle – nid dim ond y dethol rai mewn ysgol fwy, a chyfle cyfartal i ferched a bechgyn gael mwy o gyfle i 'roi cynnig arni '. Sylfaen dda i bawb.

Mae gan Graig Cefn Parc fwy o le fesul dysgwr na Chlydach. Y tu mewn a'r tu allan.

Beth am gludo dysgwyr Clydach i Graig Cefn Parc yn lle'r ffordd arall. Arhosfa bws i'r dde y tu allan i ysgol Craig Cefn Parc. Efallai y bydd angen un bws yn unig yn hytrach na thri. Gellid gwaredu un o'r safleoedd rhanedig yng Nghlydach yn hytrach e.e. ardal Sunny Bank i Graig Cefn Parc.

Dim llawer o ysgolion yn gallu mynd allan i fyd natur yn hawdd heb fod angen bws ac ati. Maen nhw'n gallu camu y tu allan i'r drws. Yn gallu cysylltu â threftadaeth lofaol yn y pentref hefyd. Mae bod yn yr awyr agored yn fanteisiol iawn i iechyd a datblygiad dysgwyr.

Nid yw’r cludiant yn cynnwys y clwb brecwast a lles hynny i ddysgwyr, yn enwedig yn achos rhieni sy'n gymdeithasol ddifreintiedig ac sy’n gweithio. Mae'r un peth yn wir am glybiau hollgynhwysol/ar ôl ysgol, felly mae dysgwyr yn colli agwedd gymdeithasol a pharodrwydd i ddysgu ac mae rhieni'n colli allan am eu bod yn gorfod talu am ofal plant neu leihau oriau gwaith.

Cymuned – yr ysgol yn galon, pob un yn mynd ar droed i'r ysgol ac yn gweld ei gilydd, yn galw yn y siop, felly bydd yn effeithio ar fasnach trwodd, ar fusnesau lleol hefyd. Bydd yn effeithio ar brisiau tai. Mae tai cymdeithasol ar gyfer tai maint teulu.

Nid yw’r cludiant ar gyfer meithrinfa, hollgynhwysol ac ati Felly nid cydraddoldeb i bawb. Mae cysylltiadau â'r gymuned yn gryf – cysylltiad â’r capel, sioeau a digwyddiadau yn y neuadd gymunedol. Defnyddio'r RSPB ar gyfer yr ysgol, mae ganddynt lwybr troed o'r glwyd.

CYN ddisgybl – llawer o amser fesul un gyda'r athro/athrawes i’r rhai mwyaf galluog yn ogystal ag eraill. Yn rhoi hyder i chi gan eich bod yn gorfod mynd ar gyngor yr ysgol ac ati. Mae'n rhoi hyder i chi ar gyfer pryd y byddwch chi’n symud i’r ysgol uwchradd gan eich bod eisoes wedi cael profiad.

Angen mwy o amser i roi cynaliadwyedd yr ysgol gan na all droi o gwmpas os caiff ei chau.

Mae maint dosbarthiadau'n llai ond mae hynny’n golygu y gallwch chi lynu wrth eich gilydd pan gewch chi eich rhoi mewn setiau yn yr ysgol uwchradd rydych chi bob amser yn cael eich gosod gyda ffrindiau yn wahanol i ysgol fawr, ac rydych chi’n adnabod dysgwyr o oed arall yn yr ysgol uwchradd.

Y cyntaf i’r felin yw hi ar gyfer clybiau yng Nghlydach.

Nid yw clybiau Craig Cefn Parc yn cael eu canslo.

Eisiau bod yn yr ysgol gyda fy mrawd.

Byddai'n rhaid i bob disgybl/teulu yn y dosbarth meithrin ddibynnu ar gar.

Yr effaith ar deuluoedd mewn argyfwng e.e. Os bydd plentyn yn dost, byddai bod heb gar yn broblem fawr.

Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb – ni cheir tystiolaeth bod yr addysg yn amrywio. Mae'r canlyniadau yng Nghraig Cefn Parc well na Chlydach. Mae pob plentyn mewn ysgol fach yn ganran fawr o'r cyfan ... yn gysylltiedig â lefel y gefnogaeth/ffigurau presenoldeb. AAA yn 23% a gall hyn effeithio ar gyrhaeddiad. Dal i gyfrif mewn profion.

Cais cynllunio ar gyfer 70 o anheddau. Ble mae’r disgyblion o'r tai hyn yn mynd i fynd?

Nid yw barn CCUHP am blant meithrin sydd heb ddechrau yn yr ysgol eto wedi cael ei hystyried.

Dysgwr – pam rydych chi eisiau cau fy ysgol i? Dwi eisiau aros gyda fy ffrindiau. Dwi eisiau cerdded i'r ysgol. Ysgol Goedwig. Clwb TGCh, clwb coginio, clwb ffitrwydd i blant, clwb canu a chlwb garddio. (cylchdroi clybiau).

Cost y pen ar gyfer disgyblion ddim yn waeth nag ysgolion eraill yn yr ardal.

Cais i ohirio penderfyniad er mwyn caniatáu i'r niferoedd gynyddu.

Byddai rhagor sy’n symud i'r ardal bellach yn dymuno mynychu’r ysgol yn eu cymuned.

Dim digon o leoedd yn yr ardaloedd cyfagos ar gyfer ein disgyblion

Effaith ar deithio os na ellir manteisio ar ddarpariaeth hollgynhwysol (wraparound) oherwydd trefniadau teithio.

Yr effaith ar yr amgylchedd.

Ôl-troed carbon teithiau ychwanegol mewn car.

Iechyd disgyblion.

Defnyddio’r hen fathau o fysiau, yr effaith ar gyflwr y ffordd.

Mwy o gyfleoedd i gymryd rôl arweiniol yn yr ysgol, gan feithrin eu hyder a rhoi sgiliau cyfathrebu iddynt.

Mae disgyblion llai galluog yn magu hyder gan arwain at well perfformiad yn yr ysgol uwchradd.

Ni ddylai plant yn y Cyfnod Sylfaen orfod dibynnu ar gludiant i gyrraedd yr ysgol.

Yr effaith ar fywyd cymdeithasol y teulu cyfan a'r pentref.

Cyn-ddisgyblion yn rhagori mewn TGAU yn Ysgol Cwm Tawe, y disgyblion gorau ar fwy nag un achlysur.

Natur ofalgar disgyblion Craig Cefn Parc yn ôl yr ysgolion uwchradd.

Cysylltiadau hanesyddol â Chwm Tawe.

Nid yw ysgol fwy o faint yn golygu ysgol well.

Adroddiad unochrog ynghylch cau.

CCUHP – Roedd yr ysgol yn atal plant rhag cymryd rhan ... detholiad yn hytrach na phob un.

Gwybodaeth cyn ymgynghori/ymgynghori yn anghywir. 1.92 milltir i Glydach nid 1 filltir (ysgol i ysgol). Defnyddiwyd canolbwynt y ddau bentref.

Rhagamcan ar gyfer y dyfodol (caniatâd cynllunio wedi ei gymeradwyo ar gyfer 80 o anheddau) i ba ysgol byddai’r plant yn mynd?

Y Cyngor wedi penderfynu ymlaen llaw e.e. sut mae'r adroddiad wedi'i eirio, gan nodi y byddai plant yn cael gwell addysg mewn ysgol fwy o faint.

Mae deddfwriaeth wedi newid. Nid yw'n argyhoeddedig y bydd hon yn cael ei chymryd i ystyriaeth.

Mae cenhedlaeth o deuluoedd cyfan wedi bod drwy'r ysgol, gan adeiladu cymuned.

Nid yw pob plentyn yn addas ar gyfer ysgol fwy o daint sydd â chyfleusterau ehangach (nid oes eu hangen bob tro).

Mae plant/teuluoedd yn dewis y math yma o ysgol am reswm.

Dim rhagfarn yn erbyn unrhyw gefndiroedd.

Gall chwarae/chwaraeon organig fod yr un mor bwysig â chwaraeon ffurfiol.

Faint mwy o chwaraeon y gall Clydach eu cynnig? Ar hyn o bryd mae pawb yn cael rhoi cynnig ar bopeth. Nid yw gallu yn penderfynu pwy sy'n cymryd rhan.

Mae chwaraeon cymysg yn brofiad cadarnhaol.

Mae dosbarthiadau cymysg yn adeiladu perthynas rhwng cyfoedion.

Cyfran uwch o amser athro/disgybl fesul un mewn ysgol lai.

Haws ymdrin â materion e.e. bwlio ac ati mewn ysgolion llai.

Mae gan yr ysgolion preifat ddosbarthiadau bach am reswm.

Caiff clybiau ar ôl yr ysgol eu canslo ar fyr rybudd yn aml yng Nghlydach. Yr effaith ar deuluoedd.

Gallu teuluoedd i fanteisio ar gyfleusterau hollgynhwysol pan fyddant mewn tlodi, gan eu hatal rhag cael gwaith.

Cyn-Bennaeth Mathemateg yng Nghwm Tawe: "Disgyblion Craig Cefn Parc bob amser ar frig y dosbarth"

Effaith tywydd garw os bydd angen teithio i Glydach.

Effaith os na all plant fynd i'r un ysgol (brodyr a chwiorydd) ... teithio, logisteg ac ati.

Traffig y tu allan i Glydach (delweddau i ddilyn).. dim mynediad i wasanaethau brys.

Athro yng Nghraig Cefn Parc am 18 mlynedd. Plant unigryw oherwydd natur y ddarpariaeth. Rydych chi'n adnabod pob plentyn yn yr ysgol gyfan a'u teuluoedd. Unrhyw faterion yn cael eu nodi ac yn cael sylw yn gyflym. Cysylltiad agos â'r teulu cyfan gan gynnwys mam-gu a thad-cu. Problemau cludiant ynghylch diffyg mynediad rhwydd... cynyddu hyd y diwrnod ysgol.

Peidiwch â chau'r ysgol. Yr Amgylchedd – yn ychwanegu traffig trwy gau'r ysgol, yn ystod amser ysgol ond hefyd y tu allan i'r ysgol (cyfeillgarwch). Cymuned. Effaith ar yr henoed drwy symud pobl ifanc o'r gymuned. Mae aelodau newydd o'r gymuned yn dod i adnabod ei gilydd drwy'r ysgol a'i chymuned. Yn y pen draw, byddai'n "faestref heb ddim". Teimlad o berthyn i Gastell-nedd Port Talbot. Colli’r elfen diogelwch ers i’r gofalwr orffen ar y safle. Colli hunaniaeth; diffyg gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn ein cymuned. Tynnu cenhedlaeth i ffwrdd. Y mwyafrif llethol o’r bobl rwy'n eu hadnabod wedi bod drwy'r ysgol.

Mae ysgolion bach yn berffaith ar gyfer y grŵp oedran iau, mwy o sylw, pawb yn adnabod ei gilydd.

Cysylltiadau rhwng yr ysgol a'r neuadd gymuned, cyngherddau a ffeiriau a chyngherddau Nadolig yn yr eglwys, daeth hyn â'r gymuned at ei gilydd. Y gymuned ehangach yn cymryd rhan ym mywyd yr ysgol. Pentref cymudo ond yr ysgol yw'r gymuned.

Ymgynghoriad Craig Cefn Parc - 11/10/18

Sylwadau

Yn teimlo nad oedd yr adroddiad i ddechrau'r ymgynghoriad yn gytbwys nac yn deg.

Sut bydd Clydach yn ymdopi â niferoedd cynyddol?

Angen dealltwriaeth glir o'r hyn a fyddai'n gwneud yr ysgol hon yn gynaliadwy e.e. niferoedd disgyblion.

Dylai fod rhybudd 3 blynedd i'r ysgol fod yn gynaliadwy. Mae angen stiwardiaeth gyfrifol.

Angen adolygu dalgylch Clydach/Craig Cefn Parc e.e. symud Sunny Bank i Graig Cefn Parc.

Pa mor hyderus y bydd y Cyngor yn cynnig cyfleoedd chwaraeon a chyfleoedd diwylliannol?

Gall rhiant sy'n byw yn y pentref gerdded i nôl mab o'r ysgol feithrin, ni fyddai cludiant ar gael i'r disgyblion meithrin ar gyfer Clydach.

Dileu cyfleoedd i fynychu clwb brecwast a gweithgareddau ar ôl ysgol.

Eisiau ysgol y gall fy mhlentyn gerdded iddi.

Eisiau tystiolaeth o'r hyn y gellir ei wneud i ddatblygu defnydd cymunedol o'r ysgol bresennol y tu allan i oriau'r ysgol.

Pam na all yr ysgol gael amser i adfer ei chynaliadwyedd?

Heriwyd y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru wedi datgan bod angen adolygu ysgolion o dan 90.

Bydd llygredd, parcio a thagfeydd yn cynyddu os penderfynir cau a byddai hyn yn ychwanegu at y broblem.

Dim ateb boddhaol i broblem cludiant a symud disgyblion i dir yr ysgol.

Mae angen mwy o fanylion a ffeithiau ar hyn o bryd – mae angen i rieni wybod e.e. pwy fydd yn talu am wisg ysgol?

Yn teimlo bod anghydraddoldeb o ran mynediad i glybiau meithrin, ar ôl ysgol.

Sut y byddwn yn gallu lleoli rhieni mewn tai cymdeithasol yn yr ardal heb ysgol?

Sut y bydd Mawr yn ward gynaliadwy heb unrhyw ysgol a'r dreth gyngor uchaf. Am beth rydyn ni’n talu?

Pam na all y Cyngor ymestyn y dalgylch i gynnwys yr ystadau tai newydd yng Nghlydach?

Angen rhoi amser i'r ysgol benodi Pennaeth brwdfrydig.

Creu gofal hollgynhwysol.

Ni fydd plant yn cael dewis rhwng clybiau ar ôl ysgol ac ati.

Mwy o lygredd a thagfeydd o gwmpas Clydach. Mae mesurau gostegu traffig yn cynyddu llygredd.

Mae'r adroddiad yn portreadu'r ysgol mewn goleuni rhy negyddol.

Os nad yw'r penderfyniad yn un ariannol, ddim yn deall pam mae'r cynnig yn mynd yn ei flaen.

Heriwyd yr angen i adolygu ysgolion â llai na 90 o ddisgyblion – nid yw canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi hyn.

Pam y rhuthr i fwrw ymlaen â hyn yn awr? Rhowch gyfle i'r ysgol gael 3 blynedd i newid niferoedd.

Dylai'r ALl fod wedi ymyrryd yn gynt.

Ble rydyn ni’n mynd i roi'r plant newydd a ddaw gyda’r tai newydd yng Nghlydach?

Nid oes gan ysgol Clydach y cyfleusterau awyr agored e.e. y