Y Treiglad Trwynol
description
Transcript of Y Treiglad Trwynol
Y Treiglad TrwynolY Treiglad TrwynolY Treiglad TrwynolY Treiglad Trwynol
Dyma’r llythrennau sy’n treiglo’n drwynol:
• P > mh (fy) mhen• T > nh (fy) nhrwyn• C > ngh (fy) ngheg• B > m (fy) mol• D > n (fy) nant• G > ng (fy) ngenau
Ond pryd mae angen treiglo’n drwynol?
• Ar ôl y rhagenw ‘fy’ - fy nghi ; fy mhen
• Ar ôl yr arddodiad ‘yn’ (yn + m > ym; yn + g
>yng) – yn Nhalsarnau; ym Mangor; yng Nghroesor
Cofiwch hefyd am yr enwau ‘diwrnod, blwydd,
blynedd’• Y treiglad trwynol ddaw ar ôl ‘pum,
saith, wyth, naw, deng, deuddeng, pymtheng, deunaw, ugain, can’:
• Pum niwrnod; wyth mlynedd; can mlynedd
Dewch i ni weld faint ydych chi’n ei gofio! Cylchwch
gamgymeriadau John druan.Tua pump blynedd yn ôl oedd hi ac roeddwn i’n saith blwydd oed. Roeddwn i a Mam a Dad yn byw yn Talsarnau. Es i a ci fi am dro efo dad fi. Yn cae Mr Jones y ffarmwr oedden ni pan welon ni o – y tarw! Roedd ci fi wedi dychryn cymaint roedd pen fi’n troi wrth drio’i ddal o ar y tennyn. Roedd o’n rhy gryf i mi, a dyma fo’n symud yn sydyn a neidio i fyny a bachu’r fodrwy oedd yn trwyn y tarw. Doedd hwnnw ddim yn hapus, felly dyma dad fi a finna yn rhedeg ar ôl ci fi a neidio dros y ffens. Es i byth am dro i gae Mr Jones y ffarmwr wedyn.
John Jones
Eisiau help? Dyma’r camgymeriadau mewn
coch…
Tua pump blynedd yn ôl oedd hi ac roeddwn i’n saith blwydd oed. Roeddwn i a Mam a Dad yn byw yn Talsarnau. Es i a ci fi am dro efo dad fi. Yn cae Mr Jones y ffarmwr oedden ni pan welon ni o – y tarw! Roedd ci fi wedi dychryn cymaint roedd pen fi’n troi wrth drio’i ddal o ar y tennyn. Roedd o’n rhy gryf i mi, a dyma fo’n symud yn sydyn a neidio i fyny a bachu’r fodrwy oedd yn trwyn y tarw. Doedd hwnnw ddim yn hapus, felly dyma dad fi a finna yn rhedeg ar ôl ci fi a neidio dros y ffens. Es i byth am dro i gae Mr Jones y ffarmwr wedyn.
…a dyma’r atebion…
Tua pum mlynedd yn ôl oedd hi ac roeddwn i’n saith mlwydd oed. Roeddwn i a Mam a Dad yn byw yn Nhalsarnau. Es i a fy nghi am dro efo fy nhad. Yng nghae Mr Jones y ffarmwr oedden ni pan welon ni o – y tarw! Roedd fy nghi wedi dychryn cymaint roedd fy mhen i’n troi wrth drio’i ddal o ar y tennyn. Roedd o’n rhy gryf i mi, a dyma fo’n symud yn sydyn a neidio i fyny a bachu’r fodrwy oedd yn nhrwyn y tarw. Doedd hwnnw ddim yn hapus, felly dyma fy nhad a finna yn rhedeg ar ôl fy nghi a neidio dros y ffens. Es i byth am dro i gae Mr Jones y ffarmwr wedyn.
Roedd yna 11 camgymeriad…
• Gawsoch chi nhw i gyd ?
• Cofiwch y treiglad trwynol – mae’n hawdd!!