Y Selar - rhifyn mis Mehefin 2013

24
y-selar.co.uk 1 y Selar RHIF 33 | MEHEFIN | 2013 Aled Rheon Radio Rhydd | Y Ffug | Gwyliau’r Haf | adolygiadau

description

Cylchgrawn yn trin a thrafod y sin roc Gymraeg

Transcript of Y Selar - rhifyn mis Mehefin 2013

Page 1: Y Selar - rhifyn mis Mehefin 2013

y-selar.co.uk 1

y SelarRHIF 33 | MEHEFIN | 2013

Aled Rheon

Radio Rhydd | Y Ffug | Gwyliau’r Haf | adolygiadau

Page 2: Y Selar - rhifyn mis Mehefin 2013

www.sainwales.comffôn 01286 831.111 ffacs 01286 [email protected]

Sain RaSal Gwymon CopaGeorgia Ruth Week of Pinesa l l a n n a w r

Cynnyrch newydd erbyn yr haf gan…

y Bandana | Swnamiyr ods | Gwibdaith Hen Frân

Yr Ods Y Niwl Gai TOms BOB delYN BrYN FÔN COwBOis rhOs BOTwNNOG Y BaNdaNa meiC sTeveNs GeOrGia ruTh williams seN seGur CaNdelas GareTh BONellO GeraiNT lØvGreeN swNami + llawer iawN mwY!

Byw yn GymraeG!

a w s t 3 y d d- 1 0 f e d

Cymde i t has y r I a i t h G ymrae

g

Eiteddfod Dinbych 190x135_Mai13.indd 1 15/05/2013 18:31:28

Page 3: Y Selar - rhifyn mis Mehefin 2013

GOLYGYDD Gwilym DwyforUWCH OLYGYDD Owain Schiavone ([email protected])

DYLUNYDD Dylunio GraffEG ([email protected])

MARCHNATA Ellen Davies ([email protected])

CYFRANWYRGriff Lynch, Casia Wiliam, Owain Gruffudd, Lowri Johnston, Cai Morgan, Ifan Prys a Ciron Gruffydd

Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi.

Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa.

Rhybudd – Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.

y SelarRhaid i mi gyfaddef fy mod i’n poeni dipyn am gyflwr cerddoriaeth Gymraeg pan aeth y rhifyn diwethaf o’r Selar i’r wasg ddiwedd Chwefror. Doedd yna ddim byd ond mwydro a miwsig Rocky i’w glywed ar y radio ac yn gyffredinol doedd yna ddim llawer yn digwydd yn y sin.

Dri mis yn ddiweddarach ac mae pethau’n edrych yn iachach o lawer. Roedd noson Gwobrau’r Selar yn llwyddiant ysgubol er mai fi sy’n dweud (sori Mr Mwyn), mae yna gerddoriaeth wych yn ôl ar y teledu’n wythnosol ac mae’r cyfaddawd dros dro rhwng Eos a’r bîb yn golygu nad yw’r gwrandawyr o leiaf yn gorfod dioddef yn ormodol o achos yr anghydfod.

Ac os am brawf pellach fod pethau’n iawn, wele dudalennau sgleiniog y rhifyn hwn. Rhoddir sylw i’r cymharol newydd - Radio Rhydd a Casi Wyn , yn ogystal â’r newydd sbon - Aled Rheon ac Y Ffug. Rydym wedi bod yn holi bandiau mwyaf Cymru i gyd fwy neu lai gan fod pob un yn y stiwdio ar hyn o bryd. Ac mae ein canllaw gwyliau yn brawf bod haf byrlymus o ddigwyddiadau cerddorol bach a mawr ar y gweill i’n cadw’n hapus ac yn ddiddan tan dduwch ac anobaith distaw y gaeaf nesaf!Gwilym Dwyfor

4 8 12 20

Radio Rhydd

Y Gwyddonydd Cerddorol

O Glawr i Glawr

Geid i’r Gwyliau

Y Ffug

Sgwennu Stori gyda Gildas

Yn y Stiwdio

Adolygiadau

4

6

8

10

12

16

18

20

CYNNWYS

@[email protected]/cylchgrawnyselar

RHIF 33 | MEHEFIN | 2013

Llun clawr: Kate Stuart

Page 4: Y Selar - rhifyn mis Mehefin 2013

y-selar.com4

Radio RhyddTi ’Di Clywed ...

Mae bandiau â barn wedi bod yn bethau prin yn y sin yn ddiweddar, ond dyw hynny’n sicr ddim yn wir am Radio Rhydd. Mae gan y bois o Fethesda rhywbeth i’w ddweud a Casia Wiliam fu’n gwrando ar ran Y Selar.

Pwy? Pedwarawd pynci o Fethesda ydi Radio Rhydd sef Cai O’Marah, y prif leisydd; ei frawd Callum ar y dryms, Rhys Bowen Harris ar y gitâr fas ac Anthony Roberts ar y gitâr. Bydd Cai yn graddio mewn gwleidyddiaeth ryngwladol o Brifysgol Aberystwyth ddiwedd yr haf; mae Callum yn bwriadu mynd i Brifysgol Bangor i astudio cerddoriaeth; Rhys newydd gael swydd ym Mhlas y Brenin ac Anthony newydd orffen cwrs cerddoriaeth yng Ngholeg Harlech.

Sŵn? Pync gwleidyddol swnllyd. Yn ôl Cai negeseuon gwleidyddol yw cnewyllyn a chanolbwynt holl gerddoriaeth Radio Rhydd. Yng nghaneuon y band, sydd yn cynnwys elfennau o ska, hip-hop, roc a rôl, pync a rap mae negeseuon am ddeffro cydwybod cymdeithas ac am godi ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n digwydd o’n cwmpas ni yn y byd. Dydyn nhw bendant ddim yn canu am bethau dibwynt, diflas.

Dylanwadau? Un dylanwad amlwg yw Rage Against The Machine, ond yn ôl Cai mae gan bedwar aelod Radio Rhydd

ddiddordebau reit wahanol mewn cerddoriaeth. Mae eu dylanwadau felly’n amrywio o fandiau ac artistiaid lleol fel Ceri Cunnington a Dewi Prysor i David R Edwards a’r Anrhefn i fandiau mwy cyfoes fel Kasabian. Mae’r band yn canu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Yn ôl Cai doedd hyn ddim yn rhywbeth bwriadol, ac er eu bod nhw’n awyddus i ledaenu eu negeseuon gwleidyddol ymysg y gymuned Gymraeg maen nhw hefyd yn awyddus i gyfathrebu â chynulleidfa ehangach wrth ganu yn y ddwy iaith.

Hyd yn hyn? Yn fand cymharol newydd, fe ddechreuon nhw gigio nôl ym mis Mai 2012 cyn gafael ynddi’n iawn ym mis Awst wedi i Cai fod yn teithio am ddeufis. Gwnaethant gyfres o bum gig dros gyfnod Pesda Roc y llynedd, gan gynnwys un mewn hen dwnnel trên yn Nhregarth ac un yn cefnogi Jarman. Maen nhw eisoes wedi rhyddhau EP eu hunain ac maen nhw newydd ryddhau albwm gynta’r band ar label afiach, sef Trapped in the Game. Recordiwyd ei hanner hi gyda John Lawrence a’r hanner arall gyda Gai Toms. Steffan Cravos sydd wedi dylunio’r gwaith celf. I brynu copi ewch i afiach.co.uk

Ar y gweill? Bu’r band ar daith fer ddechrau Mai yn gigio ym Methesda, Penrhyn a Thanygrisiau. Y gobaith rŵan ydy hyrwyddo’r albwm newydd gymaint â phosib a threfnu gigs ar gyfer yr haf. Bydd y band yn chwarae yn Pesda Roc eto eleni mewn gig gyda Maffia Mr Huws a Ceffylau Lliwgar. Mae’r rapiwr, Hoax Emcee, yn mynd i ddechrau gigio eto cyn bo hir hefyd ac mae’r band yn gobeithio cael ei gefnogi o ar daith.

Uchelgais?Mae Cai yn teimlo bod y mwyafrif o gerddoriaeth Gymraeg heddiw yn eitha’ di-fflach a di-nod, does dim pwrpas na neges i’r geiriau ac mae’n gweld y bandiau fel petai nhw’n sownd mewn time warp gan barhau i efelychu cerddoriaeth bandiau fel Super Furry Animals. Er ei fod yn hoffi’r math yna o gerddoriaeth mae Cai o’r farn ei fod wedi cael effaith negyddol ar y sin yn gyffredinol, felly prif uchelgais Radio Rhydd ydy deffro’r gynulleidfa i syniadau, sŵn a meddylfryd newydd, gan barhau i gigio a gweld lle eith pethau o fanno.

Page 5: Y Selar - rhifyn mis Mehefin 2013

•Copiau o’n prospectws a manylion cyrsiau ar gael argyfer mynediad yn 2014

•Dewis helaeth o gyrsiau, gyda mwy o gyrsiau trwygyfrwng y Gymraeg nag unrhyw brifysgol arall yngNghymru

•Sicrwydd llety i holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf, gydaneuadd Gymraeg ar safle Ffriddoedd sy’n gartref ifyfyrwyr o bob cwr o Gymru

•Bywyd cymdeithasol sy’n fywiog ac yn wirioneddolgyfeillgar

•Costau byw isel a chefnogaeth ariannol sy’n cynnwysYsgoloriaethau Mynediad a Bwrsariaethau yn ogystal abwrsari o £250 i’r rhai sy’n dewis astudio trwy gyfrwng yGymraeg

Ffôn: 01248 382005/383561 • E-bost: [email protected] ni: Facebook.com/PrifysgolBangor • Twitter: @prifysgolbangor

www.bangor.ac.uk

RHAGORIAETHMEWN GWYLA GWAITH

530 hysbys selar_517 14/02/2013 10:06 Page 2

Page 6: Y Selar - rhifyn mis Mehefin 2013

y-selar.com6

Mae Aled Rheon yn enw gweddol newydd i’r sin yma yng Nghymru ond mae ei record gyntaf a gafodd ei rhyddhau yn gynharach eleni , fel y dywedodd un adolygydd, yn un

“fedrus iawn”.Wrth gyfarfod Aled mewn tafarn Wyddelig dywyll yng

Nghaerdydd y cwestiwn cyntaf oedd rhaid i mi ei ofyn i’r cerddor sy’n ei ugeiniau hwyr oedd ble’r oedd o wedi bod cyhyd?

“Fi wedi bod yn chwarae gitâr ers o’n i’n tua 13-14,” meddai Aled. “Ond er mod i’n chwarae yn fy ystafell wely doeddwn i ddim digon hyderus i chwarae o flaen pobl.”

Yna, un diwrnod rhyw ychydig o flynyddoedd yn ôl penderfynodd Aled, sy’n dod o Gaerdydd, ddechrau chwarae mewn nosweithiau meic agored o amgylch y brifddinas.

“Ar ôl cwpl o flynyddoedd yn chwarae mewn nosweithiau open mic ro’n i eisiau recordio’r caneuon achos bo’ nhw’n mynd rownd yn fy mhen. Ro’n i’n teimlo bod rhaid i fi roi rhywbeth lawr er mwyn gallu symud ymlaen.”

Dyna pryd y daeth ffrind iddo ag Osian Gwynedd o’r Beganifs, Big Leaves a’r Sibrydion i un o’r nosweithiau hynny. Yn lwcus i Aled roedd Osian yn ffan a phenderfynodd y ddau fynd mewn i’r stiwdio gyda’i gilydd i weld beth fyddai’n digwydd.

“Fe wnaeth pethau weithio’n rili da,” esbonia Aled. “Roedd gen i’r caneuon yn fy mhen yn barod ac wrth gymryd ei gyngor o, yr hen ben, roedd pethau’n datblygu.”

Symud ‘mlaenY peth sy’n taro rhywun wrth edrych ar glawr y record yw’r enwau adnabyddus sydd wedi cyfrannu. Mae Greta Isaac, Gareth Bonello ac Osian Gwynedd yn chwarae ar y record a Cian Ciaran o’r Super Furry Animals wnaeth y gwaith cymysgu.

“Wel ie, fe wnes i alw ’chydig o ffafrau i mewn,” meddai Aled. “Dyma’r tro cyntaf i fi fynd mewn i’r stiwdio felly roedd gweithio gydag Osian a Gareth sy’n gerddorion anhygoel a Greta sydd â llais gwych yn brofiad.”

“Mae gwneud y record wedi fy ngalluogi i symud ’mlaen, ond beth sy’n neis ar ôl bod yn y stiwdio yw fy mod i wedi dysgu cymaint fel bo’ fi nawr yn gallu clywed caneuon yn fy mhen a dychmygu sut fydden nhw gyda cherddoriaeth offerynnau eraill.”

Caneuon acwstig, serchus sydd ar y record ac er bod ‘Muriau’ yn cynnig newid tempo a chyfle i Aled rocio ychydig, mae wedi cadw’n driw i naws y caneuon yr ysgrifennodd yn ei ystafell wely.

“Chwarae’n acwstig ydw i fel arfer a chafodd pob cân ar y record ei sgwennu er mwyn ei pherfformio ar lwyfan – jyst fi a’r gitâr. Fe wnaethon ni arbrofi gyda gwahanol synau ond roedd sgerbwd y caneuon yno’n barod a dyna o’n i eisiau ei roi ar y record.”

Yn ystod ein sgwrs fe ddaeth hi i’r amlwg bod Aled, sy’n gweithio yn y cyfryngau hefyd, wedi astudio ffisioleg yn y brifysgol. Rhaid oedd holi felly os oedd o’n credu bod fformiwla arbennig i sgwennu cân.

“Ha! Na, fi’m yn credu bod fformiwla i sgwennu cân. Fy ochr artistig i yw hwn a fi’n methu dod â gwyddoniaeth i mewn iddo

YN DILYN BLWYDDYN BRAIDD YN DDIFFRWYTH O RAN CYHOEDDI CERDDORIAETH GYMRAEG YN 2012 MAE ELENI EISOES YN EDRYCH YN

WELL, A DOES DIM DWYWAITH MAI UN O UCHAFBWYNTIAU’R FLWYDDYN HYD YN HYN YW EP GYNTAF ALED RHEON, SÊR YN DISGYN. CIRON

GRUFFYDD FU’N HOLI’R CERDDOR O GAERDYDD AM YR EP, AM LANIO AR Y SIN YN HWYR, AC AM... WYDDONIAETH!

Y GWYDDONYDD CERDDOROL

Page 7: Y Selar - rhifyn mis Mehefin 2013

y-selar.com 7

fe. Pan rwy’n sgwennu caneuon maen nhw’n dod allan yn... a fi’m yn licio’r gair yma... yn organig ac yn naturiol. Ond efallai y byddai pobl eraill yn anghytuno.”

Gwell hwyr na hwyrach

Dim ond yn ddiweddar hefyd mae Aled wedi dechrau gigio o ddifrif ac mae’n cytuno wrth imi awgrymu ei fod o wedi dilyn trywydd gwahanol i sawl un arall.

“Mae hi’n od y ffordd mae pethau wedi gweithio allan ond mae’r ffaith mod i wedi mynd i’r stiwdio gyda cherddorion gwych a gweithio gydag Osian, oedd yn coelio yn yr hyn o’n i’n ei wneud, wedi rhoi mwy o hyder i fi.”

“Fi hefyd yn meddwl ei bod hi’n anoddach i fi mewn ffordd oherwydd bo’ fi’n hŷn yn dechrau gwneud hyn. Fi ddim yn 16-17 yn cael hwyl gyda ffrindiau mewn band.”

Mae gan Aled ambell gig wedi ei trefnu dros yr haf ond y cam nesaf fydd mynd i’r stiwdio i recordio rhai o’i ganeuon Saesneg - ond er ei fod yn sgwennu mewn dau gyfrwng, does ganddo ddim hoff iaith i weithio ynddi.

“Mae Sêr yn Disgyn yn record Gymraeg ond dwi eisiau mynd i’r stiwdio i recordio stwff Saesneg nawr. Fi’n cadw’r ddau beth ar wahân ac mi fyddai’n parhau i sgwennu caneuon Cymraeg wrth recordio’r rhai Saesneg. Mae teimlad gwahanol yn y caneuon fi’n sgwennu yn y ddwy iaith felly does dim ffefryn.”

Ac er ei fod o’n paratoi i gynhyrchu mwy, mae Aled yn cael ymateb da i Sêr yn Disgyn o hyd.

“Dwi wedi bod yn lwcus yn recordio EP a fi’n gobeithio y

bydd pobl yn ei hoffi hi. O beth fi wedi clywed hyd yn hyn mae pobl yn dweud bod y record yn tyfu arnyn nhw ac mae gan wahanol bobl wahanol hoff ganeuon felly mae hynny’n dangos bo’ fi’n gwneud rhywbeth yn iawn.”

Mae amseriad y record hefyd wedi bod yn bwysig meddai Aled.

“Mae’r folk revival dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn help i fi achos dyna’r math o ganeuon fi’n sgwennu,” meddai.

“Ac er bo fi’n hwyrach na’r rhan fwyaf o bobl yn dechrau mas, fi hefyd yn credu bod y sin ei hun yn gymaint iachach nawr nag oedd hi pan o’n i’n 16-17. Mae e’n amser da i fi ddechrau rhywbeth fel hyn.”

Ar hynny, daeth hi’n amser i ni’n dau fynd ein ffyrdd ein hunain ac wedi ffarwelio ag Aled fe wnes innau ei throi hi tuag adref gyda’r haul yn machlud dros wybren y brifddinas a Sêr yn Disgyn yn chwarae trwy’r clustffonau yn fy nghlustiau.

Os oes fformiwla i sgwennu cân, mae gan Aled Rheon ddoethuriaeth yn y pwnc - a chewch chi ddim canmoliaeth well na hynny, decini.

“Ha! Na, fi’m yn credu bod fformiwla i sgwennu cân.”

Llun: Kate Stuart

Page 8: Y Selar - rhifyn mis Mehefin 2013

y-selar.com8

O glawr i glawr

Discopolis

Nid ar chwarae bach mae rhywun yn trechu dau fand mor boblogaidd â Sŵnami a Chowbois Rhos Botwnnog mewn unrhyw gategori yng Ngwobrau’r Selar, ond dyna’n union wnaeth

Clinigol wrth gipio teitl Gwaith Celf Gorau yn y rhifyn diwethaf. Dyma’r esgus perffaith i holi a busnesu mwy wrth edrych o glawr i glawr ar Discopolis.

Er bod y grŵp pop electronig yn adnabyddus am gydweithio gydag amrywiol artistiaid, y ddau frawd, Geraint ac Aled Pickard, yw canolbwynt Clinigol felly aeth Y Selar am sgwrs gydag un o’r brodyr. Rhaid oedd dechrau trwy longyfarch Geraint am y clawr sydd yn edrych yn wych a holi ychydig am yr hanes.

“Roedden ni wedi penderfynu ryw fis ar ôl rhyddhau’r albwm cyntaf, Melys, mai Discopolis fyddai enw’r ail. O’n i wedi digwydd gweld y ffilm Metropolis gan Fritz Lang tuag at ddiwedd recordio Melys, ac roedd themâu perthnasol a delweddau anhygoel y ffilm wedi tanio fy nychymyg. Mae’r ffilm yn llawn alegorïau a metafforau cymdeithasol diddorol oedd yn berthnasol i ni fel band, felly daeth Metropolis yn fan cychwyn syniadaeth Discopolis, gyda themâu’r ffilm yn cael eu trafod mewn sawl cân ar yr albwm. Roeddwn i am i glawr Discopolis fod yn debyg i boster y ffilm, gyda robot eiconig y ffilm yn cael ei ail-greu trwy ddefnyddio darnau o fy wyneb i a darnau o wyneb fy mrawd! Felly gofynnais i Chris Maguire (Mug5), sydd wedi dylunio ein cloriau eraill (a oedd hefyd wedi cynhyrchu hanner yr albwm!), i ddylunio clawr Discopolis.”

Yn amlwg, roedd gan Geraint syniad a gweledigaeth bendant iawn ar gyfer y gwaith celf. Nid rhywbeth neis i edrych arno wrth daro’r CD yn y chwaraewr yn unig sydd

yma, ond delwedd sydd yn rhan greiddiol o holl syniadaeth y cyfanwaith.“Ro’n i moyn i’r gwaith celf dalu homage i boster hysbysebu Metropolis mewn ffordd oedd yn cadw naws y gwreiddiol ac yn driw i’r elfennau art deco, gan roi rhyw slant futuristic, newydd iddo hefyd.” A beth yw ei farn am y gwaith terfynol tybed? “Ni’n hapus iawn, ond roedd rhaid i ni fynd drwy sawl drafft gyntaf! Roedd fersiwn cynnar o’r clawr wedi mynd ar drywydd hollol anghywir - wnaethon ni gyhoeddi hwn ar ein cyfrif Twitter, fel rhan o’n Calendr Adfent cyn ’Dolig llynedd. Mae’n eitha’ gwahanol!”

I mi, mae’r clawr yn cynrychioli’r hyn yw Clinigol mewn ffordd – Geraint ac Aled yn y canol gyda lot yn digwydd o’u cwmpas h.y. y rhestr anhygoel yma o gyfranwyr sy’n amrywio o Caryl Parry Jones i Rufus Mufasa ac o Heather Jones i El Parisa. Gofynnais i Geraint os yw hwnnw’n ddehongliad teg? “Ydy, mae’n deg, a dwi’n hoffi clywed dehongliadau pobl eraill o’r clawr. Gan fy mod i’n gwybod ystyr a rheswm pob manylyn bach, ac yn poeni ychydig bod yr holl beth yn rhy amlwg, mae’n braf clywed fod pobl yn gweld rhywbeth arall. Dyna sy’n wych am unrhyw fath o gelfyddyd, mae’n rhydd i’w ddehongli mewn unrhyw ffordd!”

Rhaid cofio mai albwm dwbl yw hwn sy’n cynnwys yr ail CD hefyd, High Rise. Felly pa mor bwysig oedd hi fod y gwaith celf yn

“Roedd fersiwn cynnar o’r clawr wedi mynd ar drywydd hollol anghywir...”

Page 9: Y Selar - rhifyn mis Mehefin 2013

y-selar.com

cynrychioli’r cwbl, ac a oedd hynny’n sialens ychwanegol? “Daeth gwaith celf Discopolis at ei gilydd yn weddol hawdd achos ein bod ni wedi dechrau gyda syniadau mor glir a phendant mae’n siŵr. Felly roedd y gwaith celf, trwy gael rhyw fath o thema ganolog i’r albwm, yn adlewyrchu’r cyfan i ni. Wedi gweud hynny, mae yna rai traciau sydd ddim byd i neud â chysyniad Discopolis, ac felly i fi o leia’, ddim cweit yn cyd-fynd â’r gwaith celf, ond mater arall yw hwnna!”

Syniad Geraint oedd delwedd Discopolis ond Chris Maguire a drodd y syniad yn waith gorffenedig. Does dim ond angen i chi fynd ar wefan MUG5, helloiamchris.com, i sylweddoli pa mor drawiadol yw ei restr o gleientiaid, ond mae Clinigol wedi hen arfer cydweithio ag ef. “Mae gweithio gyda Chris wedi bod yn brofiad hyfryd erioed. Ni wedi dod ’mlaen gyda fe o’r cychwyn a ma’ fe wedi deall Clinigol o’r dechrau. Ro’n i’n lwcus iawn i’w ffeindio. Trueni bod e’ wedi symud i Efrog Newydd!”

Dim ond y diweddaraf yw Discopolis mewn cyfres hir o weithiau celf trawiadol ar gloriau Clinigol. Mae’r grŵp yn amlwg yn

rhoi dipyn o bwys ar ddelwedd ac ochr weledol eu gwaith, gyda’r albwm cyntaf, Melys, a senglau fel Cyfrinach a Swigod yn brawf pendant o hynny. “Dwi’n credu bod delwedd yn hollbwysig i’r math o gerddoriaeth ’y ni’n ei greu, ond dwi hefyd yn credu ei fod yn bwysig creu’r cynnyrch mwya’ proffesiynol posib.

Felly mae’r berthynas rhwng y gerddoriaeth a’r elfennau creadigol eraill wedi bod yn bwysig i chi erioed? “Yn naturiol, y

gerddoriaeth yw’r peth pwysicaf, wedi gweud hynny, mae’n rhaid pecynnu’r gerddoriaeth mewn ffordd sy’n adlewyrchu’r gerddoriaeth ac mewn ffordd sy’n mynd i ddenu pobl at y cynnyrch.”

Y gwahaniaeth mwyaf o bosib rhwng Discopolis a rhai o weithiau blaenorol Clinigol yw’r lliw. Mae’r deunydd blaenorol ar y cyfan yn fwy lliwgar, tybed a oes unrhyw arwyddocâd yn hynny? “Na, dim o gwbl. Roedd clawr Melys yn lliwgar yn fwriadol, clawr Swigod yn lliwgar ar ddamwain a chlawr Discopolis fod i edrych fel poster hen ffilm!

Ein brîff ni i Chris oedd ‘Black and Gold only!’. Wedi gweud hynny, dwi’n eitha’ awyddus i symud y band tuag at sŵn tywyllach, felly falle bod ’na arwyddocâd damweiniol!”

Gyda dealltwriaeth newydd o ystyr a syniadaeth y clawr a gwerthfawrogiad newydd o’r gwaith caled tu ôl i’r holl beth, doedd dim ond un peth arall ar ôl i’w ofyn... ennill gwobr Y Selar, sut brofiad oedd hynny? “Gwych! Mae cymaint o waith yn cael ei roi mewn i’n cynnyrch felly mae e’ mor hyfryd cael cydnabyddiaeth!

9

Doedd dim rhaid edrych ymhell am destun diddorol ar gyfer O Glawr i Glawr y tro hwn. Roedd y dewis yn amlwg, pwy well nag enillwyr gwaith celf gorau Gwobrau’r Selar 2012, Clinigol â’r albwm, Discopolis.

“Roedd clawr Melys yn lliwgar yn fwriadol, clawr Swigod yn lliwgar ar ddamwain...”

Page 10: Y Selar - rhifyn mis Mehefin 2013

y-selar.co.uk10

Pryd: 7 – 8 MehefinLle: “Pentre’ glan môr hardda Cymru” – LlangrannogPris: Am ddim!Beth: Dyma ŵyl fach gartrefol mewn lleoliad hyfryd, ac eleni, mae’r lein-yp yn hynod gryf. Bydd Y Ffug, Dom a Fflur Dafydd a’r Barf yn agor yr ŵyl ar y nos Wener, cyn i Mattoidz, Y Bandana, Cowbois Rhos Botwnnog a Mynediad am Ddim orffen pethau ar y nos Sadwrn.Cyfuniad da o ffefrynnau lleol a goreuon y sin yn genedlaethol, a’r cwbl am ddim!gwylnolamlan.blogspot.co.uk/@gwylnolamlan

Pryd: 14 – 21 MehefinLle: Amrywiol leoliadau yng NghaerdyddPris: Dibynnu ar y digwyddiad (Ffair Tafwyl am ddim)Beth: Wythnos o ddigwyddiadau Cymraeg yn y brifddinas, gan gynnwys digon o gerddoriaeth.

Bydd Y Bromas yn cefnogi Maffia Mr Huws yng Nghlwb y Diwc ar y nos Wener agoriadol cyn noson i ddathlu penblwydd Clwb Ifor Bach yn 30 gydag Yr Ods, R. Seiliog ac Y Reu nos Sadwrn. Bydd noson Cwpwrdd Nansi yn Gwdihŵ nos Fercher fel rhan o’r ŵyl hefyd ond uchafbwynt cerddorol yr wythnos heb os fydd Ffair Tafwyl yn y Castell ddydd Sadwrn.

Mae’r lein-yp addawol yn cynnwys Casi Wyn, Siddi, Plu, Trwbador a Heather Jones ar y llwyfan acwstig; a Gwyllt, Huw Chiswell, Colorama, Cowbois Rhos Botwnnog, Candelas, Sŵnami a Geraint Jarman ar y prif lwyfan.www.tafwyl.org@Tafwyl

Pryd: 28 – 30 MehefinLle: Tafarn Cann Office, Llangadfan, PowysPris: £10Beth: Gŵyl amrywiol sy’n cynnwys Steddfod Dafarn, adloniant plant ac ymryson yn ogystal â cherddoriaeth trwy’r penwythnos. Bydd Gwibdaith Hen Frân yn chwarae yn y dafarn nos Wener a Dan Gilydd, Y Bandana, Candelas, Sŵnami a Celt yn perfformio mewn pabell tu allan nos Sadwrn.Y gobaith yw y bydd rhai o’r cerddorion wedyn, ar ôl aros noson yn y dafarn, yn barod i jamio dros farbeciw yn yr haul ddydd Sul.@CannOffice

Pryd: 18 - 21 Gorffennaf Lle: Amrywiol leoliadau yng NghaernarfonPris: Dibynnu ar y digwyddiad (ond gŵyl ddielw)Beth: Penwythnos llawn dop o lenyddiaeth, ffilm, cerddoriaeth a chelf yn ôl am y bumed flwyddyn.

O ran y gerddoriaeth, mae’r penwythnos yn dechrau gyda Noson 4 a 6 yng Nghlwb Canol Dre nos Wener ble y bydd Richard James, Gareth Bonello a Chris Jones yn perfformio. Bydd cyfle i weld y ffilm Vinyl yn y Porth Mawr brynhawn Sadwrn a bydd yr ŵyl yn gorffen gyda’r Bandana, Sen Segur, Y Bromas a Geraint Jarman yng Nghlwb Canol Dre nos Sul. www.gwylarall.com@GwylArall

Mae’r sin gerddoriaeth fyw Gymraeg yn anghyson i ddweud y lleiaf. Ond, mae un cyfnod o’r flwyddyn lle mae digon o ddewis o gigs byw – yr haf! Unwaith eto eleni, mae llu o wyliau cerddorol bach a mawr yn cael eu cynnal yng Nghymru a dyma ddetholiad o rai o’r goreuon ym marn Y Selar.

Gwyliau'r

HafGw^ yl Nôl a Mla’n

Tafwyl

Gw^ yl Cann Office

Gw^ yl Arall

Gwyliau'r

Haf

Page 11: Y Selar - rhifyn mis Mehefin 2013

y-selar.co.uk 11

Pryd: 15 – 18 AwstLle: ger Crughywel, Bannau BrycheiniogPris: £75 - £145Beth: Mae’r ŵyl yn dathlu ei degfed blwyddyn eleni, ac yn dal i fynd o nerth i nerth – gydag 20,000 o docynnau ar werth, hon yw gŵyl gerddorol fwyaf Cymru.

Ymysg yr enwau mwyaf eleni mae John Cale, British Sea Power, Edwyn Collins a Band of Horses. Mae ‘na nifer o artistiaid Cymraeg yno eto eleni gan gynnwys Sweet Baboo, Trwbador, Huw M a Cowbois Rhos Botwnnog. Cyfle hefyd i weld Gulp, prosiect Guto Pryce o’r Super Furry Animals a Lindsey Leven.www.greenman.net/@GreenManFest

Pryd: 30 – 31 AwstLle: Clwb Rygbi Nant Conwy – rhwng Llanrwst a Threfriw yn Nyffryn ConwyPris: I’w gadarnhauBeth: Mae’r ŵyl fach annibynnol hon sy’n cael ei chynnal mewn lleoliad godidog yng nghysgod Coedwig Gwydir yn ei phumed blwyddyn eleni. Dyma ddigwyddiad i buryddion cerddoriaeth.

Nid yw’r lein-yp llawn wedi ei chadarnhau eto ond mae’r Selar wedi cael gwybod bod Y Niwl, Cowbois Rhos Botwnnog, Yr Ods, Sen Segur, Sŵnami, Siddi, Candelas, Dan Amor, Alun Tan Lan, Violas, Plu, Gwenno, R. Seiliog ac Yucatan ymysg y rhai fydd yn perfformio. Yn ogystal â cherddoriaeth ar ddau brif lwyfan a llwyfan acwstig bydd arddangosfeydd celf, celf byw ac am y tro cyntaf, ffair recordiau.www.gwylgwydir.com@GwylGwydir

Pryd: 13-15 MediLle: Portmeirion, GwyneddPris: Tocynnau diwrnod, £40 - £65; Penwythnos (cynnwys gwersylla), £85 - £180Beth: Cynhaliwyd am y tro cyntaf llynedd ym mhentref godidog Portmeirion, gan hawlio gwobr ‘Gŵyl Fach Orau’ NME a ‘Gŵyl Newydd Orau’ Gwobrau Gwyliau Prydain.

Yn arwain yr arlwy eleni mae grŵp Cymreig mwyaf yr 20 mlynedd diwethaf, Manic Street Preachers. Ymysg yr enwau mawr eraill mae James Blake, Tricky, Neon Neon a The Staves. Roedd cynrychiolaeth dda o artistiaid Cymraeg llynedd ac mae’r trefnwyr yn addo hynny eleni eto er nad yw’r enwau wedi eu cadarnhau eto. www.festivalnumber6.com/@festivalnumber6

Gw^ yl Rhif 6

Gw^ yl Gwydir

Gw^ yl y Dyn Gwyrdd

Page 12: Y Selar - rhifyn mis Mehefin 2013

Rhaid oedd dechrau trwy longyfarch Y Ffug ar ennill Brwydr y Bandiau C2 a holi sut deimlad odd hynny. “Odd e’n bleser mawr i ennill y gystadleuaeth, o’n ni wir ddim yn meddwl y bydden ni’n ennill, yn

enwedig yn erbyn y Mellt” cyfaddefa Iolo. “Fy hoff ddarn i o’r gystadleuaeth odd rhoi posteri lan amdano fe dros yr ysgol i gyd a rhwygo nhw bant gydag angerdd wedyn! Ond wir, odd e’n rili cŵl ennill.”

Digon yn digwydd nawr wrth gwrs ond mae hanes cynnar Y Ffug yn ddiddorol hefyd. “Dechreues i [Billy] a Joey jamio, o’n ni’n chwarae mewn band jazz gyda’n gilydd. Ond dechreuodd y cyfan pan aethon ni ar daith ysgol i’r Eidal. Brynes i ac Iolo gitâr yn Venice ac wedyn jyst jamio ar y bws. Erbyn y diwedd odd pawb ar y bws yn canu, a ddechreuon ni fand!”

“Odd band gyda ni cyn Y Ffug”, ychwanega Iolo, “o’n ni’n neud covers a pan gathon ni gig Brwydr y Bandiau sgwennon ni dair cân Gymraeg. O’n ni wastad moyn neud stwff Cymraeg ond byth wedi gwneud. Ac fel dwedodd Henry Rollins - ‘there’s nothing cool about a cover band’. Mae’n siwtio’n ni’n well i neud caneuon Cymraeg ta beth. A nath Brwydr y Bandiau rhoi cic lan ein tin ni a’n hannog ni i ’neud e’ - ni gyd yn eithaf diog a bod yn onest.”

Mae Brwydr y Bandiau yn blatfform grêt ar gyfer bandiau sy’n

cychwyn wrth gwrs. “Ydy yn bendant. Yn ein rownd ranbarthol ni odd Mellt, Castro, Banditos, Nofa a Gweriniaeth. Felly trawstoriad o fandiau o Sir Benfro, Caerfyrddin ac Aberystwyth rili. Ac wedyn nath tri o’r bandiau ’na fynd i’r rownd derfynol. Ni ’di neud mêts ’da nhw, a gweud y gwir ma’ bach o bromance gyda ni a Castro erbyn hyn.”

Pa fandiau eraill yn y gystadleuaeth oedd Y Ffug yn eu mwynhau tybed? Castro yn un o ystyried y bromance mae’n siŵr... “Ydyn, ni’n rili hoffi sŵn Castro – ma’ bach o sŵn Led Zep, Nirvana... ma’ cyment o riffs cŵl ’da nhw, ma’ nhw’n sbeshal! Ni wir yn hoffi’r Mellt hefyd, ma’ popeth yn berffaith am eu sŵn nhw. O’n i’n meddwl bydden nhw’n ennill! Ma’ sŵn proffesiynol iawn ’da nhw’n barod.”

Y gobaith nawr yw y bydd ennill y gystadleuaeth yn eu helpu i ddatblygu fel band. “Mae’n mynd i fod yn grêt i ni - rhoi mwy o gigs a mwy o gyhoeddusrwydd i ni, fel y cyfweliad yma nawr!” meddai Billy, “Bydden ni byth wedi meddwl ddechre’r flwyddyn y bydden ni’n chware gigs fel Tafwyl er enghraifft. Mae’r cyfan yn rili helpu ni gael ein cerddoriaeth mas ’na. Byddwn ni’n cal sesiwn C2 ’fyd. Mae e’ gyd yn gyffrous!”

Pop PenfroMae Sir Benfro’n cael ei hadnabod am gynhyrchu bandiau gwych ond sut mae’r Ffug yn gweld y sin gerddoriaeth yno ar hyn o bryd? “A gweud y gwir mae’n eithaf tawel ’ma heblaw’r

bandiau oedd ym Mrwydr y Bandiau rili. A Bromas wrth gwrs! Dwi’n rili dwli ar sin y gogledd a gweud y gwir, bandiau fel Mr Huw, Candelas, Sen Segur. A dweud y gwir, ma’ LOT gwell ’da fi sin y gogledd!” meddai Iolo. “Ond ma’ ’na sin yn datblygu fan hyn. Ma’ pobl yn gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg ond dwi’n meddwl bod angen mwy o bwyslais ar hyrwyddo” ychwanega Billy. “Ma’ ’na gigs, a ma’ pobl newydd yn dechre dod i’r gigs ond ma’ angen mwy o pwsh i gal y gerddoriaeth

BLWYDDYN ARALL, CYSTADLEUAETH BRWYDR Y BANDIAU ARALL. AC ELENI, BAND O SIR BENFRO, GWLAD Y WES WES, AETH Â HI.  DYMA GYFLWYNO Y FFUG I CHWI, DDARLLENWYR FFYDDLON Y SELAR. LOWRI JOHNSTON

FU’N SIARAD GYDA DAU O’R BAND SEF IOLO (“DWI’N SGRECHEN A GWEIDDI LOT”) A BILLY (“FI YW’R GITARYDD”). DOEDD DAN (BAS) NA JOEY

(DRYMIAU) YN BRESENNOL FELLY CAFODD IOLO A BILLY RHWYDD HYNT I DDWEUD BE’ BYNNAG FYNNON NHW, GAN GYNNWYS HYSBYSEBU AM

RYWUN NEWYDD I CHWARAE BAS!

Y gwir am Y Ffug

“Ni gyd yn eithaf diog a bod yn onest.”

Page 13: Y Selar - rhifyn mis Mehefin 2013

Gigs Mafon

31 Mai - Lansiad albwm Mattoidz

– Clwb Rygbi Crymych

1 Mehefin – Al Lewis, Y Ffug,

Y Bromas a Castro

– Neuadd Hermon

Llun

iau:

Sio

n Ri

char

ds

Page 14: Y Selar - rhifyn mis Mehefin 2013

y-selar.co.uk14

Lle i fynd i brynu cerddoriaeth wych - Mae ’na siop gerddoriaeth draddodiadol yng Nghrymych, sy’n grêt os taw ’na be chi’n lico ond dyw e’ ddim rili lle ni’n mynd... Ma’ ’na siop rili cŵl ym marchnad Hwlffordd sy’n gwerthu pethe grêt a ma’ cŵl dŵd o foi yn rhedeg y lle.Lle gorau am sglodion - Y siop ore yn bendant yn Arberth, gewch chi lot o chips a ma’ fe’n rhad. Wir, ma’ fe mor neis, ma’r chips fel cymyle yn y geg

[chwerthin afreolus].Lle gore am gig - Ma’ Neuadd Hermon yn grêt am gig, ac mae’n ardal fach neis fyd. Edrychwch mas am gigs gyda Mafon yn Eisteddfod yr Urdd!Golygfa orau – (Billy:) Dwi’n dwli ar Drefdraeth, trath lyfli i ishte yn gwrando ar y môr wrth i’r haul fachlud. (Iolo:) Bydden i’n gweud ben y mynyddoedd. Dwi’n hoff o Bwllderi, a joio cwato mewn ogof, esgus byw fel Robin Hood. Ma’ arfordir anhygoel ’da

Sir Benfro fyd cofiwch.Sut i ffitio mewn ‘da’r locals - Ni’n treial osgoi’r locals er bod ni’n lleol a bod yn onest... Cadwch lygad ar y dafodiaith, y wes wes. Falle bod e’n syniad i chi brynu geiriadur bach. Ma tafodiaith fach od ’da ni! Top tip Sir Benfro - Dewch â wellies a pheidiwch aros yn rhy hir! A gweud y gwir, mae’n lle itha rybish, dim ond cyment o fynyddoedd allwch chi edrych arno yn y diwedd yntyfe...

mas ’na. Mae pobl dal i feddwl am stereotype o gerddoriaeth Gymraeg - un person ’da gitâr yn siarad am gariad, ond ni ishe dangos bod cerddoriaeth Gymraeg ‘with it’ hefyd!”

Tybed felly a yw’r bois yn meddwl y bydd cael Eisteddfod yr Urdd yn yr ardal yn helpu’r sin? “Fi’n credu bod e’ mynd i fod yn grêt i’r sin” meddai Iolo, “Dwi’n rhan o grŵp Mafon sydd wedi sefydlu i wneud gigs dros gyfnod yr Eisteddfod.  Ni’n trial trefnu gigs yn yr ardal am gyfnod hirach na’r Eisteddfod a dyna be’ sy’n dda am yr holl beth. Ni eisiau mwy o bobl ifanc i ddod i’r gigs a gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg, ac adfywio’r sin.  Ma’ lot o gigs yn dod lan ’da ni.”

Disgyblion yn Ysgol y Preseli yw’r Ffug felly holais sut ddiddordeb sydd mewn cerddoriaeth Gymraeg yno. “Fi’n meddwl bod mwy o ddiddordeb yn ddiweddar, ma’ posteri Mafon yn mynd lan dros yr  ysgol. Ma’ pobl sy’ ddim yn siarad

Dod i nabod Sir Benfro gydag Y Ffug:

Cymraeg yn yr ysgol yn dweud bod nhw’n rili edrych mlan i’r gigs Cymraeg ’ma ’fyd. Ni jyst ishe dangos cerddoriaeth wych, dyw e’ ddim yn wleidyddol, jyst cerddoriaeth! Ni eisiau mwy o bobl ddi-gymraeg i fwynhau e’ hefyd.”

‘Osgoi bod yn bwdwr’Mae’r band yn gobeithio manteisio ar eu llwyddiant ym Mrwydr y Bandiau er mwyn datblygu ymhellach dros y misoedd nesaf. “Ni’n bwriadu neud mwy o stwff gyda Mafon, chwarae mwy o gigs a chymryd mantais o’r cyhoeddusrwydd. Ma’ ishe i ni drio osgoi bod yn bwdwr a chyfansoddi cymaint â ni’n gallu. Ni ddim ishe gadael neb lawr trwy wastraffu’r cyfle,” eglura Iolo. “Bydd ein gig nesa’ ni ar faes yr Eisteddfod gyda ‘Mafon ar y Maes’. Dilynwch y sŵn! Bydd posteri Mafon a flyers ym mhob man ac arwyddion gwefus mafon dros y lle gobeithio! Yna, byddwn ni’n gigio dros yr haf mewn llefydd gwahanol - cadwch lygaid ar ein twitter / facebook ni!”

A’r cam naturiol wedyn fydd recordio a rhyddhau wrth gwrs. “Ma’ ‘da ni lot o ganeuon ni’n teimlo’n barod i’w recordio. Ma’ mynd mewn i stiwdio recordio yn grefft hollol wahanol i gigio’n fyw. Mae’n fwy pur mewn stiwdio - mewn gig ni’n gallu taflu pethe mewn i neud e’ swno’n dda. A gweud y gwir dwi’n meddwl bydd e’n siwtio ni’n well i gadw’r sŵn yn fwy ‘grynji’ yn y stiwdio a heb ei gynhyrchu ormod.”  

“Mae ein basydd ni, Dan, yn mynd i’r brifysgol ym mis Medi a ni’n rili upset am y peth. Felly ni’n chwilio am fasydd arall os oes diddordeb ’da rhywun, cysylltwch! Jyst bod chi’n cŵl... ac yn lico cerddoriaeth, wrth gwrs.”

Byddai ymuno â’r band yma yn sicr yn hwyl! Mae hynny’n amlwg dim ond wrth dreulio hanner awr yn eu cwmni. Cadwch lygaid ar @mafon #chwyldro, hoffwch nhw ar facebook, dilynwch nhw ar twitter @bandyffug, mae rhain yn mynd i fod yn amlwg iawn dros y misoedd nesaf!

“Ma’ bach o bromance gyda ni a Castro.”

Page 15: Y Selar - rhifyn mis Mehefin 2013

Creu, Cynhyrchu a Pherfformio Cerddoriaeth

Galwch i mewn i stondin Y Drindod Dewi Santar faes yr Eisteddfod neu ewch ar lein

0300 500 1822 www.ydds.ac.uk

BA CerddoriaethBA Cyfryngau CreadigolBA Perfformio

Creu, Cynhyrchu a Pherfformio Cerddoriaeth

• Cyfle i ddatblygu eich creadigrwydd a'ch cyflogadwyedd ofewn y diwydiant cerddorol a meysydd perthnasol

• Cyfle i gael cefnogaeth ariannol i'ch astudiaethau, gangynnwys Ysgoloriaeth am astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

• Cyfleon gwych i bontio rhwng meysydd astudiaeth a doniauYsgol y Celfyddydau Perfformio

• Lleoedd ar gael ar gyfer 2013

Y Selar cerdd_Layout 1 17/05/2013 11:51 Page 1

Page 16: Y Selar - rhifyn mis Mehefin 2013

y-selar.co.uk16

Mae’n anodd credu fod tair blynedd ers i synau hyfryd Gildas ein hudo am y tro cyntaf gyda’r albwm, Nos Da. Hen bryd felly i ni gael ail gasgliad o ganeuon acwstig prydferth gan y canwr-gyfansoddwr. Wel, mae’r ail albwm bellach yn barod ac aeth Y Selar am sgwrs sydyn gyda Gildas, neu Arwel Lloyd i roi iddo’i enw iawn, i holi mwy.

Llun

: Y L

le

Page 17: Y Selar - rhifyn mis Mehefin 2013

y-selar.co.uk 17

Beth yw enw’r albwm newydd?   Sgwennu Stori.

A’r rheswm am yr enw hwnnw?  Dyna deitl un o’r caneuon, a hefyd oherwydd y syniad fod bywyd rhywun fel lot o straeon wedi cael eu plethu o fewn profiadau, rhai yn gorffen, rhai yn dechrau o’r newydd a rhai’n para gydol eich oes. 

A lle gafodd y plethwaith hwn ei recordio?  Yn Musicbox, Caerdydd, gyda Llion Robertson yn cynhyrchu.

Dim ond ti sydd wedi bod wrthi neu oes yna gerddorion eraill wedi bod yn y stiwdio gyda ti?  Oes, Ryan Aston ar y drymiau, Wal Coughlan ar y bas, Greta a Miriam Isaac gyda’r lleisiau cefndir, Mavron String Quartet, Gareth Thorrington ar yr allweddellau, Triawd Pres, Jonathan Thomas ar y bedal ddur. Dyna fo dwi’n meddwl! Dwi hefyd yn canu deuawd gyda Greta Isaac ar un o’r traciau.

Waw, mae’n swnio’n addawol iawn. Sut fydd yr albwm ar gael i ni ei brynu?   Dwi’n ei ryddhau ar label Sbrigyn Ymborth ac fe fydd ar gael ar CD neu i’w lawr lwytho o’r llefydd arferol.

Beth allwn ni ei ddisgwyl o ran y gerddoriaeth? Elfennau fydd yn gyson gyda’r albwm gyntaf, Nos Da, arddull gitâr acwstig fingerpicky gyda chyffyrddiadau electroneg. Ond sŵn llawnach ar adegau o ganlyniad i gyfraniad yr holl gyfranwyr.

Ydi’r hen ystrydeb am yr “ail albwm anodd” yn wir?   Yndi, dwi’n meddwl ei fod o. Dwi’n meddwl fod cerddorion yn gyffredinol yn ymgeisio i greu pethau newydd ‘cystal’ a’r peth diwethaf i gael ei ryddhau. Mae’r ofn o siomi pobl yn rhywbeth sydd wedi croesi’r meddwl rhaid cyfaddef. Ac i ychwanegu at hynny, mae wedi bod yn sbel rhy hir ers yr albwm cyntaf. 

Hir iawn i ni’r ffans! Sut mae o’n cymharu gyda Nos Da felly, ydi’r steil yr un peth?  Mae’r arddull gitâr a’r steil sgwennu yn eithaf agos, dim sypreisys o ran hynny. Ond dwi wedi ceisio agor pethe allan o ran cynhyrchiad y peth, llinynnau, dryms, offerynnau pres, lleisiau cefndir. Dwi’n gobeithio neith yr elfennau yma gyfoethogi’r caneuon rhywfaint. 

Roedd gwaith celf yr albwm cyntaf yn wych hefyd, allwn ni

ddisgwyl rhywbeth cyffrous eto?  Mi wnaeth Eurig Roberts (Brigyn) waith arbennig ar gyfer yr albwm cyntaf. A dwi’n gobeithio neith pobl ymateb yr un mor ffafriol i waith Aled ‘Arth’ Cummins ar Sgwennu Stori. Mae o wedi creu gwaith gwych i Huw M, Violas, Sen Segur a mwy yn ddiweddar.

Pa un di dy hoff gân di ar yr albwm newydd, a pham? Dwi’n hapus iawn hefo’r ffordd mae ‘Y Gŵr o Gwm Penmachno’ wedi troi allan, dwi’n gobeithio neith pobl gymryd at ‘hiwmor’ y geiriau a’r sŵn llawnach sydd i gynhyrchiad y gân honno.

A pha un ti’n meddwl fydd yr ‘hit’? Ha! Wel mi faswn i wrth fy modd petai yna unrhyw gân fyth yn cael ei ystyried yn ‘hit’. Ond os oes rhaid dewis, ‘Y Gusan Gyntaf’, dim ond achos fod ’na ‘anifeiliaid’ yn ymddangos arni! 

Diddorol, edrych ymlaen at glywed honno! Fyddi di’n brysur yn hyrwyddo dros yr haf? Oes yna gig lansio swyddogol i fod? Yn bendant bydd gigs lansio, ond dim wedi cael ei gadarnhau eto. Mi fyddai’n teithio dros yr haf, gyda thaith ‘Cestyll’ ar y gweill (mwy o fanylion yn fuan). Mi fyddai’n perfformio yng Ngŵyl Gwydir ac yn Gigs Gymdeithas yr Iaith yn Steddfod Dinbych.

Edrych ymlaen, ond waeth i’r hyrwyddo ddechrau rŵan Arwel, gwertha Sgwennu Stori i ni mewn pum gair!  Gwell na’r gynta’ - medda mam.

GildasSgwennu Stori gyda

Afraid dweud mai Sgwennu Stori fydd hoff albwm pawb mewn ychydig wythnosau felly yn dilyn y fath hysbys gan fam Gildas ond beth am Arwel ei hun, pa un yw ei hoff albwm ef yn y categorïau canlynol?Hoff albwm erioed? Toto IV - TotoHoff albwm Cymraeg? Hiraeth - Endaf EmlynHoff albwm gan fand/artist o Gymru? Rings Around The World – Super Furry AnimalsHoff albwm yn y flwyddyn ddiwethaf?  Shields – Grizzly Bear  Yr albwm ddiwethaf i ti ei brynu?  Live at the Royal Albert Hall 1972 – Jimmy Webb

Page 18: Y Selar - rhifyn mis Mehefin 2013

y-selar.com18

Teg dweud nad oedd rhestr hir albwm y flwyddyn 2012 mo’r hiraf erioed, ond mae rhyw-beth mawr ar droed y gwanwyn hwn. Mae pawb a’i nain yn y stiwdio! Wel... wn i ddim am neiniau, ond mae pump o brif fandiau’r sin p’run bynnag, yn paratoi i ryddhau albwm neu EP. Aethom ati felly i holi beth sydd wedi bod yn digwydd yn y stiwdio...

Yn y Stiwdio

Yr OdsEnw – “Ymmmmmm... i’w gadarnhau” Recordio – Stiwdio Sain gyda Kris JenkinsLabel – CopaDyddiad rhyddhau - Gorffennaf/Awst/Medi/Hydref/Cyn y Nadolig/ cyn ’steddfod 2014… ishAc i sôn mwy – Gruff...“Fe wnaethon ni recordio dros y Pasg hefo’n aelod newydd, Gwion Llewelyn. Mae Gwion yn gerddor anhygoel ac roedd hi’n braf iawn ei gael o’n rhan o bethe.”

“Mi ddaru Rhys adeiladu castell o synths ar un ochr o’r stiwdio, a nes i a Griff adeiladu wal o amps ar yr ochr arall. Yna fe dynno’ ni ein dillad i gyd i ffwrdd, pwyso record, a gweld pwy oedd yn gallu gwneud y mwyaf o sŵn.”

“Hefo lwc fydd hi’n ddatblygiad o’r albwm ddwetha’. ’Da ni fymryn yn hŷn a fymryn yn fwy blin nag oeddan ni felly bosib fod y caneuon yn fwy pigog. Roeddan ni isho sgwennu albwm gysyniadol a newid y byd ond mae hynny’n rili, rili anodd.”

Sw^ namiEnw – Du a GwynRecordio – Stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth, gyda Rich RobertsLabel - Copa Dyddiad rhyddhau - Erbyn Eisteddfod Genedlaethol DinbychAc i sôn mwy – Ifan Ywain...“ Yn bendant mae’r EP yn gam ymlaen ers y senglau dwytha’, ’da ni’n gobeithio bod y caneuon yma bach  yn fwy aeddfed, ac ma’ line-up y band wedi newid ers hynny hefyd felly ma’ hynny’n siŵr o fod wedi dylanwadu ar newid yn y sŵn.”

“O ran hyrwyddo, fydd yr haf yn brysur iawn gobeithio, ’Da ni ar ganol trefnu gigs rŵan i lenwi’r calendr ac yn gobeithio

Ac i sôn mwy – Osian... “Disgwyliwch lot o sôn am y nos a bleiddiaid ... Lot o ganeuon – ‘oh my god ma’ hon yn tiwn, rhaid ni gal hon yn uchel’... Un neu ddwy i wrando arnynt yn y gwely pan ma’ dy gariad di ddim efo ti a ti methu cysgu...O ie, a dwyieithrwydd”“Nes i recordio pob cân ar y dryms dros bum diwrnod yn yr un trôns, sanau, shorts, vest a hoody... y peth mwya’ roc a rôl dwi erioed wedi’i neud. ’Di’r vest wen

mynd ar daith o gwmpas Cymru cyn diwedd yr haf.”

CandelasEnw – CandelasRecordio – Tŷ Siamas Dolgellau, tŷ Osian a thŷ IfanLabel – “Dim label, am ei rhyddhau hi ein hunain, neu am drio beth bynnag!”Dyddiad rhyddhau - Dim dyddiad pendant, ond cyn y Steddfod.

Enw – “Heb benderfynu ar enw eto” Recordio – Stiwdio Seindon, Caerdydd, gyda Mei GwyneddLabel - CopaDyddiad rhyddhau - Dim dyddiad pendant eto, anelu at y 15fed o Orffennaf.Ac i sôn mwy – Tomos...“Bydd y sŵn yn fwy aeddfed o’i gymharu â’r albwm cyntaf. Cymysgedd o ganeuon hollol

newydd a chaneuon ’da ni ’di bod yn chwarae mewn gigs dros y flwyddyn ddiwetha’. Amrywiaeth o ganeuon roc, pop pync ac acwstig.” 

“Cafodd yr albwm ei recordio dros tua phum penwythnos, ac yn aml iawn roeddan ni ’di bod yn gigio yng Nghaerdydd dros y penwythnosau hefyd. Un diwrnod aethon ni i’r stiwdio

Y Bandana

Page 19: Y Selar - rhifyn mis Mehefin 2013

y-selar.co.uk 19

Mae un o’n harwyr cenedlaethol ni yma yng Nghymru wedi camu i fyd y theatr. Prosiect diweddaraf Gruff Rhys a Boom Bip, o dan yr enw Neon Neon, ydi Praxis Makes Perfect. Dyma hefyd enw albwm newydd y ddeuawd.

Y dull confensiynol o ryddhau a hyrwyddo albwm ydi gwneud perfformiadau byw a chyngherddau o amgylch y wlad, ond mae cynhyrchiad diweddaraf National Theatre Wales yn dangos fod Cymru yn dal i dorri tir newydd yn greadigol.

Sioe gerddorol ydi’r cynhyrchiad, sy’n cynnwys holl ganeuon yr albwm newydd, Praxis Makes Perfect. Y syniad ydi olrhain ’chydig o hanes yr argraffwr a’r anarchydd Gianjiacamo Feltrinelli o’r Eidal, sy’n enwog am anfarwoli’r llun adnabyddus o Che Guevara ac argraffu llyfrau mawr hanes megis Dr Zhivago a The Bolivian Diary.

Mae straeon am anarchiaeth a gwrthryfela yn hen gyfarwydd i ni’r Cymry, a chysylltiad honedig tactegau Owain Glyndŵr â Fidel Castro a Che Guevara yn un sy’n dod a dŵr i’r dannedd.

Ond prydferthwch y cynhyrchiad yma ydi nad oes rhaid chwilio i ‘uniaethu’ â fo. Ma Gruff Rhys (eto fyth) wedi llwyddo i greu rhywbeth yma yng Nghymru, sy’n cystadlu ag unrhyw gynhyrchiad o’r fath yn y byd. Gall y sioe yma deithio i unrhyw le a bod yn berthnasol i unrhyw ddiwylliant oherwydd ei difyrrwch, ac ysbrydoli pobl mewn sawl ffordd. Mae hi’n braf gweld cwmni theatr o Gymru yn cynhyrchu sioe mor amgen, a cherddorol dda, gyda dim byd hen ffasiwn, neu ‘or-Gymreig’ amdani.

Mi fydd addasiad o’r sioe yn teithio i sawl gŵyl gerddorol dros yr haf megis Gŵyl rhif 6 a Latitude, felly gwyliwch allan amdani.

Griff yn gwylioGruff

ddim mor wyn bellach...”“’Da ni am drefnu taith efo Sŵnami, Hud ac amryw o fandiau yn niwedd Awst felly ma’ siŵr fydd honno’n daith bwysig o ran hyrwyddo’r albwm i ni. Fel arall jysd gigio, gigio a gigio gan obeithio y bydd o’n haf i’w gofio.”

HudEnw - Dal ar y CyrionRecordio - Stiwdio Ferlas,

Penrhyndeudraeth, gyda Rich RobertsLabel - Bone Dry RecordsDyddiad rhyddhau - Gorffennaf 1af 2013 (ar itunes)Ac i sôn mwy – Rhydian...“Be’ ‘da ni’n neud ydi rhyddhau casgliad o’n caneuon ni i gyd ar itunes fel bo’ pobol yn gallu prynu nhw fel bulk, y senglau i gyd, EP Stuntman a dwy gân newydd sef ‘Diwedd y Byd’ a ‘Bangs’.”“Ar ôl i ni ryddhau’r senglau, mi fuodd yna lot o ofyn a oedda’ ni’n bwriadu cyhoeddi’r cyfan ’fo’i gilydd, felly dyma’r casgliad! Mi gafodd ‘Diwedd y Byd’ ei roi ar Soundcloud yn unig ychydig fisoedd yn ôl, ond dyma’r tro cyntaf i unrhyw un gael clywed ‘Bangs’.” “‘Da ni nôl yn y stiwdio eto dyddia’ yma yn trio recordio be’ fydd yn albwm yn y diwedd gobeithio! Ma’ hi am fod yn broses hir mae’n siŵr, ond ‘da ni’n dal i sgwennu bob cyfle posib! Fydd yna daith ym mis Awst efo Sŵnami a Candelas gobeithio, felly mi ddylai hynny fod yn hwyl!”

heb fod yn y dafarn/gigio y noson gynt, doedd Mei erioed ’di gweld ni mor effro a ffres!”

“Bydd gigs bron a bod pob penwythnos ym mis Mehefin a mis Gorffennaf i hyrwyddo ar hyd Cymru. ’Da ni wedi trefnu taith ddeg diwrnod hefyd a fydd yn dechrau ar y 13eg o Orffennaf gyda nifer o fandiau ifanc y sin yn chwarae efo ni yn ystod y daith.”

Page 20: Y Selar - rhifyn mis Mehefin 2013

gewch chi well?Fe wnaiff y casgliad hwn hawlio

eich holl sylw o far cyntaf yr hyfryd ‘Tawel Fel y Bedd’ hyd at nodyn olaf y soddgrwth ar y ddeuawd hudolus gyda Greta Isaac, ‘Wy ar Lwy’. Mae’r pumed trac, ‘Muriau (Cama Lawr)’ yn cynnig rhywbeth ychydig bach yn wahanol – sŵn llawnach a thempo ychydig cyflymach. Gall trac fel hwn yn hawdd fod wedi amharu ar daclusrwydd y casgliad ond mae’n llwyddo i aros yn driw i naws y cyfanwaith tra’n cynnig ychydig o amrywiaeth yr un pryd.

Fe fydd Aled Rheon yn newydd i rai, yn ymddangos o unman fel pêl droediwr yn sgorio hatric yn ei gêm gyntaf. Ond mae hwn wedi bod yn gweithio’n galed ar y cae ymarfer ers tipyn, ac mae hynny’n dangos.8/10Gwilym Dwyfor

CEFFYLAU LLIWGAR CEFFYLAU LLIWGAR

Pan glywais fod aelodau bandiau’r gorffennol yn dod at ei gilydd i greu ‘supergroup’ newydd, roeddwn i’n disgwyl i’r Ceffylau Lliwgar garlamu i lawr yr afon Ogwen gydag enw da cerddoriaeth Bethesda’n dynn ar eu hôl.

Er nad yw’r record yn un wael o bell ffordd, mae’n teimlo fel prosiect gafodd ei greu yn oriau man y bore dan ddylanwad ambell botel o Rioja.

Wrth edrych ar aelodau’r band sy’n cynnwys Gwynfor Dafydd, Hefin Huws, Gareth Huws, Gwyn Jones a Dafydd Rhys mae rhywun yn cael y teimlad eu bod nhw’n chwilio am flas eu hieuenctid unwaith eto.

Ydy, mae sengl gyntaf y band “post-pync, seicadelig, ôl drefedigaethol a gwleidyddol” yn swnllyd ac yn hwyl - dau beth sydd wedi bod ar goll o’r sin yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf gyda phoblogrwydd cerddoriaeth gwerin a gwlad.

Ond dyw’r ffaith ei fod o’n hwyl ddim yn golygu y dylai gael ei recordio a dyna’r broblem sydd gen i â’r record. Mae Spinal Tap yn dod i’r meddwl dro ar ôl thro ac er nad ydw i’n gwrthwynebu hawl i neb i rocio, mae’n well cadw rhai pethau yn y gorffennol.6/10Ciron Gruffydd

Mae’r record hir ddisgwyliedig wedi cyrraedd ein byrddau troelli o’r diwedd gyda chot o baent glas yn gorchuddio’r finyl 10”. Y Record Las yw’r ail yng nghyfres Recordiau Lliwgar, yn dilyn llwyddiant Y Record Goch yn 2011.

Ymarfer Corff sydd yn agor y record gyda ‘Hi Yw’r Haul’ a ‘Mewn a Mas’. Rhowch eich sbectol haul arno ac ewch am dro yn yr heulwen wrth wrando ar ddau drac fydd yn diosg eich pryderon i gyd! Llwybr Llaethog sydd yn cymryd yr awenau wedyn yng nghwmni sawl enw cyfarwydd. Geraint a Lisa Jarman sydd yn canu’r trac cyntaf ac yna rhywbeth cyflymach yng nghwmni Rufus Mufasa. Fyddwch chi naill ai yn caru’r ddau drac yma neu’n gwrando arnynt unwaith yn unig. H. Hawkline sydd yn ein tywys ni trwy drydedd rhan y record, a ni ellir dianc o’r alawon a geiriau hypnotig fel “cadach wen fel dannedd gosod”. Dwi bron yn teimlo’n flin dros H. Hawkline wrth iddo ganu’n isel ei ysbryd i ddechrau cyn troi i floeddio’r geiriau’n llawn emosiwn erbyn y diwedd, profiad trawiadol iawn i’r gwrandäwr.

Ifan Dafydd sydd yn cloi trwy ein diddanu gyda’i fyd o guriadau dryms a samplau anghyson. Mae’n amhosib peidio â symud eich pen i guriad y gân, cyfuniad arbennig iawn o gynhyrchu creadigol Ifan a llais nerthol Alys Williams.

Dyma record y dylai PAWB ychwanegu at y casgliad, ac os nad oes casgliad recordiau gennych, wel... dechreuwch un.9/10Cai Morgan

SÊR YN DISGYNALED RHEON

Efallai mai Sêr yn Disgyn yw EP cyntaf Aled Rheon ond does dim ond angen edrych ar restr y cyfranwyr ar y chwe chân i sylweddoli fod yma foi sy’n gwybod beth mae’n ei wneud. Gareth Bonello, Osian Gwynedd, Dan ‘Fflos’ Lawrance ... oes angen dweud mwy?

Caneuon acwstig sydd yma, caneuon serch yn bennaf, ac mae dylanwad Bonello yn amlwg iawn ar yr alawon a’r llais hiraethus pruddglwyfus. Peth da yw hynny wrth gwrs achos os ydych chi am gael eich dylanwadu gan unrhyw un ar gyfer y math yma o gerddoriaeth, pwy

adolygiadau

Y RECORD LAS RECORDIAU LLIWGAR

BREUDDWYDION PROJECT AMLGYFRANNOG

Mae Breuddwydion Project yn cychwyn efo curiad go iawn gyda ‘Mae Gen i Emosiwn’ gan Clinigol, sy’n blethora o gromatics allweddellau a thrawiadau electro - dechrau da. Wedyn daw alaw ysgafn gan Colorama (sy’n cael ei hachub rhag bod yn undonog gan rechiadau annisgwyl trymped) a hudlais Iwan Huws i’n swyno, cyn i Hud gyflymu’r tempo unwaith eto efo riffs gitâr bachog ‘Katrina’. Wedyn daw anthem iasol ‘Chwyrlïo’ gan The Joy Formidable i hawlio ei lle. Mae’r gân yma’n rhoi croen gŵydd i mi - dewis neis. Mae ‘Yr Hunllef Berffaith’ gan Y Rwtch yn dyner, yn amrwd a di-ffws, ac mae ‘Tafod i Tafod’ gan Yr Angen hefyd yn cael ei chanu’n deimladwy ac yn mynnu sylw’r gwrandäwr. Y Bandana wedyn i orffen efo’u pop chîclyd.

Mae yma 16 cân i gyd gyda Chymraeg a Saesneg am yn ail. Mae’r cyfuniad dwyieithog yn gryf a hawdd gwrando arno drwyddi-draw. Dyma albwm sy’n bic-a-mics blasus wedi ei ddewis yn ofalus. Prynwch hon, mae’r arian yn mynd at achos da ac mi fydd yn ychwanegiad da at eich casgliad cerddorol hefyd.8/10Casia Wiliam

GWYLLT GWYLLT

Dyma albwm cyntaf Gwyllt, prosiect newydd Amlyn Parry o Landwrog. Ag yntau wedi sgwennu llond llaw o ganeuon, casglodd saith o’i ffrindiau ynghyd i greu band er mwyn recordio’r albwm.

Gwnaeth y casgliad argraff o’r

Page 21: Y Selar - rhifyn mis Mehefin 2013

lleisiau cryf sy’n gyrru’r gerddoriaeth.Mae’r ailgymysgiad o ‘Dim ond Ni’

yn ein tywys i fyd hollol hamddenol. Dyma drac gwych i orffen casgliad pwerus, trac sy’n dawel a theimladwy gyda’r effeithiau’n creu gwead unigryw. Ar y cyfan mae’r casgliad yma wedi fy mhlesio’n arw.7/10Ifan Prys

1 CASI WYN

Casgliad hudolus o bum cân, ac wedi gwrando arno ddegau o weithiau erbyn hyn, dwi jyst ddim yn blino arno. Mae’r EP yn agor gyda’r hyfryd ‘Canfod’. Mae llais Casi mor unigryw, a’r tro cyntaf i mi glywed y gân yma ar y radio doeddwn i ddim yn siŵr os mai cân o’r saithdegau oedd hi. Mae yna rywbeth traddodiadol iawn am ei llais ond eto yn ffres ac yn eich stopio chi rhag gwneud unrhyw beth arall heblaw gwrando a chael eich swyno’n llwyr. Mae’r caneuon yn gasgliad hyfryd ac yn gweddu ei gilydd, yn dyner ac yn eich bachu’n syth. Dwi wrth fy modd gyda ‘Gwthio’ wrth iddi godi momentwm erbyn diwedd y gân.

Mae ’na deimlad gwahanol i’r gân olaf, sef yr unig un Saesneg, ‘Winter’. Mae’n fwy o gân pop na’r gweddill, ac mae ’na rywbeth arbennig iawn am hon.

Dyma gampwaith o EP - os ydych chi’n gwrando ar un peth newydd yn ystod y mis hwn, gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis Casi Wyn.9/10Lowri Johnston

TRAPPED IN THE GAME RADIO RHYDD

Fel y dywedith unrhyw dwrch daear / wahadden gwerth ei halen wrthych, mae angen palu o dan y ddaear am y stwff gorau weithiau. Pry genwair blasus yw Trapped in the Game gan Radio Rhydd.

Iawn, tydi’r albwm ddim yn gerddorol berffaith ond dim dyna’r pwynt. Yn y geiriau mae cryfder Trapped in the Game. Hyn a hyn o falu cachu am gariad, tor calon a môr allith rhywun ei gymryd, weithiau mae angen i rywun ganu am anghyfiawnder cyfalafiaeth a deud wrth y cwîn fynd i stwffio’i hun.

Mae digon o amrywiaeth yn steil ac arddull y gerddoriaeth hefyd i gadw diddordeb ac annheg fysa ei alw fo’n gerddoriaeth gefndirol achos mae o’n fwy na hynny. Ond does dim dwywaith pwy yw seren y sioe...

Dwi’m yn gwybod llawer am rinweddau rapio rhaid cyfaddef, a dwi’m yn hollol siŵr sawl sill yr eiliad neu air y funud mae Cai O’Marah yn ei glocio ar ei gyflymaf ond mae o’n swnio’n dda, ac ar y cyfan dwi’n dallt be’ mae o’n ei ddeud.

A diolch am hynny, achos mae ganddo fo rywbeth i’w ddweud, ac mae hynny fel chwa o awyr iach yn y sin saff sydd ohoni.8/10Gwilym Dwyfor

Y BENDITHJJ SNEED

Rhaid cyfaddef fod rhywun yn ofni’r gwaethaf wrth eistedd i lawr i adolygu sengl sydd ag enw gramadegol anghywir. Ond dyna gofio wedyn fy mod wedi adolygu Gwibdaith Hen Frân sawl gwaith felly ddylai un sengl gan JJ Sneed ddim bod yn rhy ddrwg.

Ta waeth, nid darlith am genedl y gair ‘bendith’ yw hon ond adolygiad o’r gân yn ei chrynswth, ac yn wir, mae hi reit dda. Mae llais Emma Hickey yn hyfryd a chynhyrchiad y gerddoriaeth pop-electro yn dynn ac yn lân.

Prawf efallai o’r ffaith i mi fwynhau hon yn fwy nag o’n i wedi’i ofni oedd y ffaith fy mod i’n reit flin pan ddaeth hi i ben. Roeddwn i eisiau mwy, mae’r fersiwn offerynnol yn iawn ond yn gwneud i chi sylweddoli yn union pa mor dda yw’r perfformiad lleisiol ar y prif drac. Siom ar yr ochr orau.6/10Gwilym Dwyfor

gwrandawiad cyntaf. Mae amrywiaeth yr artistiaid sydd yn rhan o’r band yn amlygu’i hun trwy’r caneuon. Dyma albwm ysgafn a hawdd iawn gwrnado arno - y math o ganeuon acwstig sy’n berffaith wrth ymlacio ar ôl diwrnod prysur! Y gân ‘Pwyso a Mesur’, sydd ar gael i’w chlywed ar eu tudalen SoundCloud, oedd yr un a safodd allan yn benodol i mi.

Ymdrech gyntaf dda iawn a dwi’n edrych ymlaen at glywed mwy na’r saith cân ar yr albwm hwn gan Gwyllt yn y dyfodol. Yn nhermau gigs, mae’r band ychydig yn wahanol, felly bydd hi’n ddiddorol gweld perfformiadau byw Gwyllt a’u cymharu â’r albwm.7/10Owain Gruffudd

DENU EFO DAGRAU TALMAI

Dyma gasgliad sy’n bendant yn llenwi bwlch yn y sin - nid wyf wedi dod ar draws band yng Nghymru sy’n cyfuno ystod mor eang o arddulliau cerddorol. Llwyddai Talmai i gyfuno roc, metal a dubstep ynghyd ag elfen seicadelig ar rai adegau.

EP sy’n cynnwys caneuon â sail anthemig iddynt sydd yma ac mae ‘Dim ond Ni’ yn enghraifft dda wrth i’r pwyslais gael ei roi ar ddrymiau’r trac yma ynghyd â’r gitârs budur a’r lleisiau pwerus. Rwy’n hoff iawn o riffs ac unawdau gitâr y caneuon ac mae riff cofiadwy ‘Fy Merch’ yn fachog iawn ac yn cyfuno’n dda gyda brawddegau ac alawon cerddorol y gân.

Heb os, ‘Dyddiau Byw’ yw’r gân orau, gyda’r berthynas bwerus rhwng y bas a’r synths yn creu anthem roc gofiadwy. Hoffaf y ffordd y mae’r gân yn datblygu gyda’r geiriau, gitârs pwerus ynghyd â’r

RHAID

GWRANDO

Page 22: Y Selar - rhifyn mis Mehefin 2013

y-selar.co.uk22

@Y_SelarIawn @CasiWyn, croeso i gyfweliad trydar @Y_Selar!Mae 1 allan ers ychydig wythnosau bellach, sut deimlad oedd rhyddhau dy EP cyntaf?

@CasiWynRhyddhad. Ro’n i’n gymharol syfrdan o dderbyn copi ohoni yn fy llaw am y tro cyntaf.

@Y_SelarRhain yn ganeuon ti wedi bod yn gweithio arnyn nhw ers tipyn felly? Falch o’u cael nhw allan dwi’n siŵr.

@CasiWynAnnisgrifiadwy o falch. Dwi wedi bod yn gweithio arnyn nhw ers tipyn, ond rhaid cofio eu bod nhw’n ganeuon newydd i bawb arall.

@Y_SelarYn union, a da iawn ydyn nhw hefyd. Dipyn o sglein ar y cynhyrchu, gweithio efo @meigwynedd wnest ti ia? Sut brofiad oedd hynny?

@CasiWynDiolch! Mi fues yn gweithio gyda Mei a @richrobs, Stiwdio Ferlas, hefyd. Profiad braf oedd gweithio gyda’r ddau.

@CasiWynTra’n recordio gyda Rich, fe ddysgais nad oes unrhyw le’n gwerthu brechdan gall ym Mhenrhyndeudraeth. Bu’n rhaid teithio i Borthmadog. #antur

@Y_SelarA dyna ni wedi colli ein cnewyllyn cryf o ddarllenwyr ym Mhenrhyn Casi! Dipyn o dîm ar gyfer EP cyntaf. Ac wedyn rhyddhau ar @IKaChingrecords ia?

@CasiWynIa. Dwi’n hynod ddiolchgar i deulu @IKACHINGRecords - ma’r profiad o weithio gyda nhw’n ddi-ffwdan a phleserus tu hwnt.

@Y_SelarTi’n byw yn Llundain wrth gwrs. Sut ymateb mae’r caneuon Cymraeg o’r EP yma yn eu cael mewn gigs yn y ddinas fawr ddrwg?

@CasiWynNi ddyla’ iaith fod yn rhwystr wrth werthfawrogi cerddoriaeth. Ond does dim gwadu fod rhai’n colli diddordeb pan dwi’n canu’n Gymraeg.

@Y_SelarA gan roi iaith o’r neilltu, ydi cynulleidfa Llundain yn wahanol i’r gynulleidfa Gymreig?

@CasiWynMa’r gynulleidfa Lundeinig yn gafael mewn glasied o win, tra ma’ rhan helaeth o’r gynulleidfa yng Nghymru’n gafael mewn peint o gwrw.

@Y_SelarComan ’da ni ’de!Mae ‘na un trac Saesneg ar yr EP hefyd. Oes ’na fwriad i recordio mwy o stwff Saesneg yn y dyfodol?

@CasiWynNi ddylid barnu dyn ar sail ei ddewis o ddiod.

@CasiWynFe fydda hi’n annaturiol imi beidio ysgrifennu’n y ddwy iaith o ystyried yr holl ddylanwadau Eingl Americanaidd sydd o’n cwmpas ni.

@Y_SelarDigon gwir. Sut mae hi’n edrych arnat ti dros yr haf. Di’r dyddiadur yn llawn gigs? Unrhyw beth cyffrous ar y gorwel?

@CasiWynOes. Dilynwch fi ar http://soundcloud.com/casiwyn  os am wybod lle dwi’n canu dros yr haf...

@CasiWynDwi’n dychwelyd i’r stiwdio gyda @afaldrwgefa hefyd. Dwi’n gobeithio gallu cydweithio gyda nhw dros y misoedd nesaf.

@Y_SelarA dyna dynnu’r afal/cwestiwn hwnnw allan o fy ngheg i! Ti’n mwynhau gweithio mewn arddull gwahanol ar y stwff @afaldrwgefa?

@CasiWynWrth fy modd. Dwi’n awyddus i ddilyn trywydd tebycach gyda fy ngwaith i. Ond dwi’n dal i ddysgu ac arbrofi.

@Y_SelarDiddorol. Gwna’n siŵr mai ni yma yn @Y_Selar fydd y cyntaf i wybod! Ac i orffen, mae dy frawd bach di ar y sin bellach felly mae ’na dri ohonoch chi. Ydan ni’n mynd i weld y @CowboisRhB/@siddiband/@Pluband nesaf yn o fuan?

@CasiWynNa.

@Y_SelarAteb pendant! Dwi’n siŵr fydd @grifflynch ac @LewysWyn yn siomedig iawn! Ta waeth, pob lwc efo bob dim arall, yr EP, yr haf a stwff @afaldrwgefa.

@Y_SelarDiolch yn fawr iawn @CasiWyn. Hwyl!

@CasiWynDiolch @Y_Selar!

trydar gyda @CasiWyn

Page 23: Y Selar - rhifyn mis Mehefin 2013

Prosbectws y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Bwriadu mynd i'r brifysgol yn 2014?

www.colegcymraeg.ac.uk

Dewch i’n stondin ar faes Eisteddfod yr Urdd i gael eich copi o brosbectws

cyntaf y Coleg Cymraeg.

Gwybodaeth am gyrsiau a chyfleoedd addysg uwch

cyfrwng Cymraeg.

Huw StephensNos Lun 7-10pmbbc.co.uk/c2

Huw Stephens y selar 190x138mm.indd 1 13/5/13 16:35:57

Page 24: Y Selar - rhifyn mis Mehefin 2013

Ods

YrY Banaa

danaa a

Cowoobwoioo s RhRR

os Botoo wt nw nn oggCanaadele asa

Hud

SwSSnwwamaa

imm

GwGG enee nnn o

R. Seieeilii iog

AlAA

Leweeiwws B

anaad

Dafaa ydd IwII anaaa'yya r Banaa d

Colo oroo amaa a

PlPP ull

GwGGy

wwly lll tll V

iolo asaYReuee

Pl

PPanaa

tnn

Du

DDw

uu

YBr

BBomoo

asa

YFfu

g

Senee

Seguggruu

YYY

Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau / Denbighshire and District National Eisteddfod

3 –10 Awst / August 2013

TOCYNNAU / TICKETS0845 4090 800EISTEDDFOD.ORG

Am FwY O wYbODAETh / FOR mORE DETAIlS

mAESb.COmFACEbOOK.COm/YmAESb

TwITTER.COm/mAES_b