Y Cofnod (Word doc, 1.1mb) of Proceedings Document…  · Web viewSome housing associations are...

159
Cynulliad Cenedlaethol Cymru The National Assembly for Wales Cofnod y Trafodion The Record of Proceedings Dydd Mawrth, 5 Mai 2009 Tuesday, 5 May 2009

Transcript of Y Cofnod (Word doc, 1.1mb) of Proceedings Document…  · Web viewSome housing associations are...

Cynulliad Cenedlaethol CymruThe National Assembly for Wales

Cofnod y Trafodion The Record of Proceedings

Dydd Mawrth, 5 Mai 2009Tuesday, 5 May 2009

05/05/2009

CynnwysContents

4Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Questions to the First Minister

32 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Business Statement and Announcement

33 Datganiad am Ganlyniadau’r Adolygiad o Gamau Rheoli Tir o dan Echel 2 The Results of the Review of Land Management under Axis 2

47 Cymeradwyo’r Gorchymyn Tai (Rhoi Tenantiaethau yn lle Tenantiaethau a Derfynwyd) (Olynydd-landlordiaid) 2009 Motion to Approve the Housing (Replacement of Terminated Tenancies) (Successor Landlords) Order 2009

47 Penderfyniad Ariannol yn ymwneud â’r Mesur Arfaethedig Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) Financial Resolution in relation to the Proposed Healthy Eating in Schools (Wales) Measure

48 Yr Hyn y Mae Cymru Wedi’i Gyflawni o ran Ymgysylltu â’r Undeb Ewropeaidd Ers Datganoli The Achievements that Wales Has Made in Engaging with the European Union Since Devolution

74 Adroddiad Blynyddol Estyn The Estyn Annual Report

95 Cyfnod Pleidleisio Voting Time

104 Datganiad gan y Llywydd Statement by the Presiding Officer

Yn y golofn chwith, cofnodwyd y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi yn y Siambr.Yn y golofn dde, cynhwyswyd cyfieithiad o’r areithiau hynny.

2

05/05/2009

In the left-hand column, the proceedings are recorded in the language in which they were spoken in the Chamber. In the right-hand column, a translation of those speeches has been

included.

3

05/05/2009

Cyfarfu’r Cynulliad am 1.30 p.m. gyda’r Llywydd (Dafydd Elis-Thomas) yn y Gadair.The Assembly met at 1.30 p.m. with the Presiding Officer (Dafydd Elis-Thomas) in the Chair.

Y Llywydd: Galwaf y Cynulliad i drefn. The Presiding Officer: I call the Assembly to order.

Cwestiynau i’r Prif WeinidogQuestions to the First Minister

Social Enterprises Mentrau Cymdeithasol

Q1 Janice Gregory: Will the First Minister make a statement on the Welsh Assembly Government’s work with social enterprises in Wales? OAQ(3)1936(FM)

C1 Janice Gregory: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am waith Llywodraeth Cynulliad Cymru gyda mentrau cymdeithasol yng Nghymru? OAQ(3)1936(FM)

The First Minister (Rhodri Morgan): Social enterprises are even more important in recessionary times than in normal, business-as-usual times. The future jobs fund and community taskforce funding announced by the Chancellor of the Exchequer in the budget a few weeks ago will provide a further opportunity to draw funding for social enterprise purposes in to Wales.

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Mae mentrau cymdeithasol yn bwysicach fyth yn ystod cyfnodau o ddirwasgiad nag ydynt yn ystod cyfnodau cyffredin o fwrw ymlaen â busnes yn ôl yr arfer. Bydd cyllid y tasglu cymunedol a chronfa swyddi’r dyfodol a gyhoeddwyd gan Ganghellor y Trysorlys yn y gyllideb ychydig wythnosau yn ôl yn gyfle arall i gael gafael ar gyllid at ddibenion menter gymdeithasol yng Nghymru.

Janice Gregory: Thank you, First Minister, for that encouraging answer. If anyone has any doubts about the value of social enterprises, I would ask them to look at the work of the Creation Development Trust in Blaengarw in my constituency. You have visited the trust with me, First Minister, so you know that in less than a decade it has launched a series of community activities and businesses, and built up a turnover of £250,000. It was recently described by the judges from the British Urban Regeneration Association as one of the best examples of a community-led regeneration scheme that they had ever seen. Will you join me in congratulating the Creation Development Trust on winning first place in the association’s UK-wide award for community-inspired regeneration?

Janice Gregory: Diolch, Brif Weinidog, am yr ateb calonogol hwnnw. Os oes gan unrhyw un unrhyw amheuon ynghylch gwerth mentrau cymdeithasol, byddwn yn gofyn iddynt edrych ar waith Ymddiriedolaeth Datblygu Creation ym Mlaengarw yn fy etholaeth. Yr ydych wedi ymweld â’r ymddiriedolaeth gyda mi, Brif Weinidog, felly yr ydych yn gwybod iddi lansio cyfres o weithgareddau a busnesau cymunedol, ac iddi feithrin trosiant gwerth £250,000 dros gwta ddegawd. Fe’i disgrifiwyd yn ddiweddar gan feirniaid o Gymdeithas Adfywio Trefol Prydain fel un o’r enghreifftiau gorau o gynllun adfywio dan arweiniad y gymuned iddynt erioed ei gweld. A wnewch ymuno â mi i longyfarch Ymddiriedolaeth Datblygu Creation ar ennill y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth y gymdeithas ar draws y DU ar gyfer adfywio a ysbrydolir gan y gymuned?

The First Minister: I certainly join you in congratulating the Creation Development Trust in Blaengarw. Blaengarw is an area where venture capitalists and hedge fund brokers would not be expected to tread, and it

Y Prif Weinidog: Yr wyf yn sicr yn ymuno â chi i longyfarch Ymddiriedolaeth Datblygu Creation ym Mlaengarw. Mae Blaengarw yn ardal na fyddid yn disgwyl gweld cyfalafwyr menter na broceriaid cronfeydd mantoli yn

4

05/05/2009

is in such areas that you would expect to see social enterprise being the response of the community. I am really pleased that Blaengarw and the people involved in the Creation Development Trust have responded in that way and that they have achieved this tremendous award by winning first place in the recent community-inspired regeneration competition.

troedio, ac mewn ardaloedd o’r fath y byddech yn disgwyl gweld y gymuned yn ymateb drwy fenter gymdeithasol. Yr wyf yn hynod falch bod Blaengarw a’r bobl sy’n ymwneud ag Ymddiriedolaeth Datblygu Creation wedi ymateb yn y modd hwnnw a’u bod wedi ennill y wobr arbennig hon drwy ddod yn fuddugol yn y gystadleuaeth ddiweddar ar gyfer adfywio wedi’i ysbrydoli gan y gymuned.

Mark Isherwood: The chief executive of the Social Enterprise Coalition, Jonathan Bland, has been a long-standing adviser to the Labour Government in Westminster and to the Conservative opposition. Speaking in the Assembly last year, he shone a spotlight on how far Wales trails behind England in empowering social enterprises to become major players in delivering public services. He said that that political leadership is needed for that to work better. What engagement has your Government had with the Social Enterprise Coalition to seek its advice and develop the opportunities presented?

Mark Isherwood: Mae prif weithredwr y Glymblaid Menter Gymdeithasol, Jonathan Bland, wedi bod yn cynghori’r Llywodraeth Lafur yn San Steffan a’r wrthblaid Geidwadol ers tro byd. Wrth siarad yn y Cynulliad y llynedd, tynnodd sylw at yn union pa mor bell mae Cymru’n llusgo tu ôl i Loegr o ran grymuso mentrau cymdeithasol i fod yn gyfryngau o bwys o ran cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus. Dywedodd fod angen yr arweiniad gwleidyddol hwnnw er mwyn i hynny weithio’n well. Pa gysylltiad a fu rhwng eich Lywodraeth â’r Glymblaid Menter Gymdeithasol i geisio ei chyngor a datblygu’r cyfleoedd sydd ar gael?

The First Minister: There will be different views about whether social enterprises are there to complement the work of statutory bodies, local authorities, other public bodies, ministries of the Westminster Government and our own services, or whether what they provide is jobs over and above those provided by statutory services. The Conservative vision is that some social enterprises should take the place of local authorities or other statutory bodies. There are no extra jobs, therefore; it is a matter of who the provider is. We do not get obsessed about who the provider is; we want to see a net increase in the number of jobs. Therefore, we want to see social enterprises coming in and providing jobs that cannot be provided by the statutory sector.

Y Prif Weinidog: Bydd safbwyntiau gwahanol ynghylch ai diben mentrau cymdeithasol yw ategu gwaith y cyrff statudol, awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus eraill, gweinidogion Llywodraeth San Steffan a’n gwasanaethau ein hunain, ynteu ai’r hyn a ddarparant yw swyddi ar ben y rheini a ddarperir gan wasanaethau statudol. Gweledigaeth y Ceidwadwyr yw y dylai rhai mentrau cymdeithasol ddisodli awdurdodau lleol neu gyrff statudol eraill. Nid oes dim swyddi ychwanegol, felly; pwy sy’n darparu sydd dan sylw. Nid yw pwy sy’n darparu yn obsesiwn gennym; mae arnom eisiau gweld cynnydd net yn nifer y swyddi. Felly, mae arnom eisiau gweld mentrau cymdeithasol yn dod i mewn ac yn darparu swyddi nad oes modd i’r sector statudol eu darparu.

David Lloyd: Yn dilyn ymlaen o’r atebion hynny, Brif Weinidog, pa rôl yr ydych chi’n ei rhagweld ar gyfer llywodraeth leol yn benodol wrth roi agenda cynllun gweithredol mentrau cymdeithasol i Gymru ar waith?

David Lloyd: Following on from those answers, First Minister, what role do you envisage for local government specifically in implementing a social enterprise action plan agenda for Wales?

Y Prif Weinidog: Yn fy ateb i gwestiwn gwreiddiol Janice Gregory, disgrifiais y £1 biliwn sydd ar gael ar draws y Deyrnas

The First Minister: In my initial answer to Janice Gregory, I mentioned the £1 billion that is available across the United Kingdom.

5

05/05/2009

Unedig. Er mwyn denu cyfran deg o’r £1 biliwn i Gymru, yr hyn sy’n angenrheidiol yw bod awdurdodau lleol a’r sector gwirfoddol—cyrff fel Ymddiriedolaeth Groundwork, Ymddiriedolaeth y Tywysog ac ati—yn cyflwyno ceisiadau cryf. Byddwn yn helpu i gydlynu’r ceisiadau hynny er mwyn gwneud yn siŵr, gan nad yw’r arian hwn yn dod drwy ein cyllideb ni drwy fformiwla Barnett, ein bod yn gwneud yn well nag y byddem pe bai wedi cael ei ddyrannu drwy fformiwla Barnett.

In order to attract a fair share of the £1 billion to Wales, it is essential that local authorities and the voluntary sector—organisations such as the Groundwork Trust, the Prince’s Trust and so on—submit strong applications. We will help to co-ordinate those applications in order to ensure, given that this money does not come through our budget via the Barnett formula, that we do better than we would were it to be distributed via Barnett.

The Economy Yr Economi

Q2 Lesley Griffiths: Will the First Minister make a statement on the Welsh Assembly Government’s actions to help the Welsh economy? OAQ(3)1925(FM)

C2 Lesley Griffiths: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i helpu economi Cymru? OAQ(3)1925(FM)

The First Minister: We have recently announced the £150 million that will be available from the JEREMIE fund: £48 million via the ProAct scheme, £32 million in the ReAct scheme and £20 million of new support for apprenticeships that are no longer fundable from the private sector. Therefore the Assembly Government is investing £250 million in measures to help the Welsh economy. The JEREMIE fund alone is capable of supporting the expansion of more than 800 private businesses across Wales, we hope, creating 15,000 additional jobs.

Y Prif Weinidog: Yn ddiweddar yr ydym wedi cyhoeddi’r £150 miliwn a fydd ar gael drwy’r gronfa JEREMIE: £48 miliwn drwy’r cynllun ProAct, £32 miliwn yn y cynllun ReAct ac £20 miliwn o gymorth newydd ar gyfer prentisiaethau nad oes modd eu cyllido o’r sector preifat mwyach. Felly mae Llywodraeth y Cynulliad yn buddsoddi £250 miliwn mewn mesurau i helpu economi Cymru. Mae’r gronfa JEREMIE ei hun yn gallu cefnogi ehangu dros 800 o fusnesau preifat ledled Cymru, gobeithiwn, gan greu 15,000 o swyddi ychwanegol.

Lesley Griffiths: Last week, we had an update in the Chamber following the fifth all-Wales economic summit, held on 7 April. The summit addressed contemporary problems with contemporary solutions, on a range of economic issues. Do you agree that the overriding reason for the summit series’ success since last October has been the Government’s ability to respond quickly to a rapidly changing economic situation, delivering uniquely Welsh solutions to Welsh problems? Do you also agree that the ethos that has driven this process over recent months should continue long after the Welsh economy is back on its feet?

Lesley Griffiths: Yr wythnos diwethaf cawsom ddiweddariad yn y Siambr yn dilyn pumed uwchgynhadledd economaidd Cymru gyfan, a gynhaliwyd ar 7 Ebrill. Yr oedd yr uwchgynhadledd wedi mynd i’r afael â phroblemau cyfoes gydag atebion cyfoes, ar ystod o faterion economaidd. A ydych yn cytuno mai’r prif reswm dros lwyddiant y gyfres o uwchgynadleddau er mis Hydref diwethaf fu gallu’r Llywodraeth i ymateb yn chwim i sefyllfa economaidd sy’n newid yn gyflym, gan ddarparu atebion sy’n unigryw i Gymru ar gyfer problemau Cymru? A ydych hefyd yn cytuno y dylai’r ethos sydd wedi bod y tu cefn i’r broses hon dros y misoedd diwethaf barhau ymhell ar ôl i economi Cymru godi yn ôl ar ei thraed?

The First Minister: Yes. There is an important point there. What has happened, almost by accident, since the economic

Y Prif Weinidog: Ydw. Ceir pwynt pwysig yna. Yr hyn sydd wedi digwydd, ar hap bron, ers dechrau’r uwchgynadleddau economaidd

6

05/05/2009

summits started in October last year, is that a new social partnership model has evolved, in which the leaders of trade unions, businesses, local government, the voluntary sector and other stakeholders have come together with us and the Westminster Government to find a new way of addressing the recession, building a better future for Wales. I believe that there is a lesson there for the future.

ym mis Hydref y llynedd, yw bod model partneriaeth cymdeithasol wedi esblygu, lle mae arweinwyr undebau llafur, busnesau, llywodraeth leol, y sector gwirfoddol a rhanddeiliaid eraill wedi dod ynghyd gyda ni a Llywodraeth San Steffan i ddod o hyd i ffordd newydd o fynd i’r afael â’r dirwasgiad, drwy adeiladu dyfodol gwell i Gymru. Yr wyf yn credu bod gwers inni yn fan honno ar gyfer y dyfodol.

The Leader of the Opposition (Nick Bourne): First Minister, the recent Labour budget has had all but universal condemnation from institutions as varied as the Confederation of British Industry, trade unions, Members of Parliament and Assembly Members. The Deputy First Minister has said that, going forward into the next decade, Welsh public services will be ‘badly affected’. Which public services have you identified for Labour/Plaid Cymru cuts in the light of those comments?

Arweinydd yr Wrthblaid (Nick Bourne): Brif Weinidog, mae cyllideb ddiweddar Llafur wedi cael ei chondemnio’n llwyr bron gan sefydliadau sy’n amrywio o Gydffederasiwn Diwydiant Prydain, undebau llafur, Aelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad. Mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi dweud y bydd ‘effaith ddrwg’ ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru wrth inni fynd ymlaen i’r degawd nesaf. Pa wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru y bydd Llafur/Plaid Cymru yn eu torri yng ngoleuni’r sylwadau hynny?

The First Minister: No identification has been made. You tried to press me last week, Nick, to anticipate the end of the budget round at a time when it is just beginning. Clearly, it is completely impractical to suggest that we can decide now, in May, the outcome of the budget. We are now at the beginning of six months of hard pounding on the budget front. It will be a very difficult budget—there is no question about that. The challenge for us is to find, proportionately, efficiency savings that are at least as great as those that the Westminster Government can find in providing the same services in England.

Y Prif Weinidog: Nid ydym wedi penderfynu torri dim gwasanaethau. Yr oeddech wedi ceisio rhoi pwysau arnaf yr wythnos diwethaf, Nick, i ragweld diwedd cylch y gyllideb ac yntau newydd ddechrau. Yn amlwg, mae’n gwbl anymarferol awgrymu y gallwn benderfynu yn awr ar ganlyniad y gyllideb, ym mis Mai. Yr ydym yn awr ar ddechrau chwe mis o guro caled yng nghyswllt y gyllideb. Bydd yn gyllideb anodd iawn—nid oes dim amheuaeth ynghylch hynny. Yr her inni yw dod o hyd i arbedion effeithlonrwydd cymesur sydd o leiaf gystal â’r rheini y gall Llywodraeth San Steffan ddod o hyd iddynt wrth ddarparu’r un gwasanaethau yn Lloegr.

Nick Bourne: You persist in using the phrase ‘efficiency savings’, which is not the phrase used by the Deputy First Minister. That was not the phrase used by the Plaid Cymru economic adviser, either, when he said that deeper cuts would be needed and that you should be looking at ending free prescriptions for people on higher incomes, as I and many others have been urging you to do. Are you now going to look at that, in light of the advice given by the Plaid Cymru economic adviser?

Nick Bourne: Yr ydych yn mynnu defnyddio’r ymadrodd ‘arbedion effeithlonrwydd’, sydd yn wahanol i’r ymadrodd a ddefnyddiodd y Dirprwy Brif Weinidog. Nid hwnnw oedd yr ymadrodd a ddefnyddiodd cynghorydd economaidd Plaid Cymru ychwaith pan ddywedodd y byddai angen toriadau dyfnach ac y dylech edrych ar roi terfyn ar bresgripsiynau am ddim i bobl ar incwm uwch, fel yr wyf fi a nifer o rai eraill wedi bod yn eich annog i’w wneud. A ydych yn awr am edrych ar hynny, yng ngoleuni’r cyngor a roddwyd gan gynghorydd

7

05/05/2009

economaidd Plaid Cymru?

The First Minister: I see that your party is almost on the brink of actually announcing a decision, telling people in Wales that you think that you might be able to withdraw free prescriptions, but that you are not quite sure how you will do it. This is a recent development, which we would commend: it is much better to be honest with the people of Wales. Any other information that you have from Conservative Central Office about what cuts might be made were there to be a change in Government in Westminster following an election in the next 12 months would be gratefully received by the Welsh public.

Y Prif Weinidog: Yr wyf yn gweld bod eich plaid bron ar drothwy cyhoeddi penderfyniad go iawn, gan ddweud wrth bobl Cymru eich bod yn meddwl y gallech efallai roi terfyn ar bresgripsiynau am ddim, ond nad ydych yn siŵr yn union sut y byddwch yn mynd o’i chwmpas hi. Mae hwn yn ddatblygiad diweddar, y byddem yn ei ganmol: mae’n well o lawer bod yn onest gyda phobl Cymru. Byddai cyhoedd Cymru yn ddiolchgar am unrhyw wybodaeth arall sydd gennych o Swyddfa Ganolog y Ceidwadwyr ynghylch pa doriadau y gellid eu gwneud petai newid mewn Llywodraeth yn San Steffan yn dilyn etholiad yn ystod y 12 mis nesaf.

Clearly, there are two points at issue here. This first budget round, which has just started, from April to December, will be a very tough budget round, and a search will be made for efficiency savings so that we can protect front-line services. There is also an issue about what kind of decade we face. Clearly, it will be a decade in which we will not have public expenditure increases above 1 per cent, probably, in real terms. The growth of front-line public services must be protected, so the only way of doing that is by reducing Government on-costs. That is something not just for this budget round; it will be a matter for whoever is running the Assembly. The same is true in Scotland and, probably, for the Westminster Government: the way to try to protect the growth of front-line services, which will be very modest indeed, will be by reducing Government on-costs.

Yn amlwg, mae dau bwynt dan sylw yma. Bydd cylch cyntaf y gyllideb, sydd newydd ddechrau, rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr, yn gylch cyllideb anodd iawn, a bydd yn rhaid chwilio am arbedion effeithlonrwydd er mwyn inni allu amddiffyn gwasanaethau rheng flaen. Ceir hefyd mater ynghylch pa fath o ddegawd sydd o’n blaenau. Yn amlwg, bydd yn ddegawd lle na fydd gennym gynnydd mewn gwariant cyhoeddus dros 1 y cant, mae’n debyg, mewn termau real. Rhaid amddiffyn twf gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen, felly’r unig ffordd o wneud hynny yw drwy leihau argostau’r Llywodraeth. Nid yw hynny ar gyfer dim ond cylch hwn y gyllideb; bydd yn fater i bwy bynnag fydd yn rhedeg y Cynulliad. Mae’r un peth yn wir yn yr Alban ac, mae’n debyg, ar gyfer Llywodraeth San Steffan: y ffordd o geisio amddiffyn twf gwasanaethau rheng flaen, a fydd yn fach iawn yn wir, fydd drwy leihau argostau’r Llywodraeth.

Nick Bourne: I would scarcely be asking you, on a weekly basis, to look at the issue of free prescriptions for those on higher incomes if we were not committed to ending it. There is no doubt about that, as you well know. The Plaid Cymru economic adviser is now urging you to do that, and I think that he is right.

Nick Bourne: Go brin y byddwn yn gofyn ichi, wythnos ar ôl wythnos, edrych ar fater presgripsiynau am ddim ar gyfer y rheini ar incwm uwch pe na baem wedi ymrwymo i roi terfyn ar hynny. Nid oes dim amheuaeth ynghylch hynny, fel y gwyddoch yn iawn. Mae cynghorydd economaidd Plaid Cymru yn awr yn pwyso arnoch i wneud hynny, ac yr wyf yn meddwl ei fod yn llygad ei le.

You did not answer my question, so I will ask you again: are you looking at that issue, or have you ruled it out completely?

Ni atebasoch fy nghwestiwn, felly fe’i gofynnaf eto: a ydych yn edrych ar y mater hwnnw, ynteu a ydych wedi’i ddiystyru’n llwyr?

8

05/05/2009

The First Minister: Well— Y Prif Weinidog: Wel—

Nick Bourne: I have not quite finished. Part of your Government seems intent on looking at that policy. I know what our policies are, and I think that the First Minister does, too. What we do not know is whether he is categorically ruling that out.

Nick Bourne: Nid wyf wedi gorffen yn llwyr. I bob golwg mae rhan o’ch Llywodraeth â’i bryd ar edrych ar y polisi hwnnw. Gwn beth yw ein polisïau ni, ac yr wyf yn meddwl bod y Prif Weinidog yn gwybod hefyd. Yr hyn sy’n ddirgelwch inni yw a yw’n diystyru hynny’n bendant ai peidio.

1.40 p.m.

The First Minister: We have had an exchange about this before and when I asked you whether you were ruling out free prescriptions for people on higher incomes, you responded like a scalded cat. I said that that would include pensioners as well as people who were of working age, and I got the usual response of a scalded cat, jumping up and down interrupting me before I had finished my answer, asking how I could dare to suggest that you would do such a thing. However, you have just repeated it now. Really, we have to be clear. Are you ruling out withdrawing free prescriptions from higher income pensioners or not? I understand that your party at Westminster is certainly considering it, so what is your policy for Wales?

Y Prif Weinidog: Yr ydym wedi trafod hyn o’r blaen a phan ofynnais ichi a oeddech am roi terfyn ar bresgripsiynau am ddim ar gyfer pobl ar incwm uwch, yr oeddech wedi ymateb fel cath i gythraul. Dywedais y byddai hynny’n cynnwys pensiynwyr yn ogystal â phobl oed gweithio, a chefais ymateb arferol cath i gythraul, yn neidio i fyny ac i lawr ac yn torri ar draws cyn imi orffen fy ateb, gan ofyn sut y gallwn feiddio awgrymu y byddech yn gwneud y fath beth. Fodd bynnag, yr ydych newydd ei ailadrodd yn awr. Yn wir, mae arnom angen bod yn glir. A ydych yn diystyru tynnu presgripsiynau am ddim oddi wrth bensiynwyr ar incwm uwch ai peidio? Caf ar ddeall bod eich plaid yn San Steffan yn sicr yn ei ystyried, felly beth yw eich polisi ar gyfer Cymru?

Nick Bourne: It is good to see the First Minister practising being in opposition; that practice will pay off very shortly. However, we have been absolutely clear. In England, people on higher incomes pay for prescriptions. That is what we would have, and I am asking him whether he would have the same. In view of the fact that he is still First Minister and still in Government here, can he answer that very straightforward question?

Nick Bourne: Mae’n braf gweld y Prif Weinidog yn ymarfer bod yn yr wrthblaid; bydd yr ymarfer hwnnw’n talu ar ei ganfed cyn bo hir. Fodd bynnag, yr ydym wedi bod yn hollol glir. Yn Lloegr, mae pobl ar incwm uwch yn talu am bresgripsiynau. Dyna’r hyn y byddem yn ei gael, ac yr wyf yn gofyn iddo a fyddai ef yn cael yr un peth. Ac ystyried y ffaith ei fod yn dal yn Brif Weinidog ac yn dal mewn Llywodraeth yma, a all ateb fy nghwestiwn syml iawn?

The First Minister: Pensioners in Wales will want to know what the policy is. Are pensioners in Wales included or excluded from the Tory policy of withdrawing free prescriptions? All that you have said is that people on higher incomes should pay for their prescriptions. A month ago, you reacted like a scalded cat; now, you are being very calm about it. I presume that we can assume

Y Prif Weinidog: Bydd ar bensiynwyr yng Nghymru eisiau gwybod beth yw’r polisi. A fydd pensiynwyr yng Nghymru yn cael eu cynnwys ynteu eu heithrio o bolisi’r Torïaid o roi terfyn ar bresgripsiynau am ddim? Y cyfan yr ydych wedi’i ddweud yw y dylai pobl ar incwm uwch dalu am eu presgripsiynau. Fis yn ôl, yr oeddech wedi ymateb fel cath i gythraul; yn awr yr ydych

9

05/05/2009

that pensioners in Wales on higher incomes will be paying for their prescriptions under a Tory Government. That is what the Conservatives are considering at Westminster. We have heard rumours of that, and we need to be clear about what you are saying for Wales.

yn dawel iawn ynghylch y mater. Cymeraf y gallwn dybio y bydd pensiynwyr yng Nghymru ar incwm uwch yn talu am eu presgripsiynau dan Lywodraeth Dorïaidd. Dyna’r hyn y mae’r Ceidwadwyr yn ei ystyried yn San Steffan. Yr ydych wedi clywed sïon i’r perwyl hwnnw, ac mae arnom angen bod yn glir ynghylch yr hyn yr ydych yn ei ddweud ar gyfer Cymru.

Nick Bourne: I am absolutely clear that we are going back to the position before you brought in your policy: pensioners will not pay. What I am asking you and what you have singularly failed to answer on three separate occasions, and you are being dishonest in pretending not to know where—[ASSEMBLY MEMBERS: ‘Oh.’] I think that you are. Week after week, I have made it absolutely clear that we would not charge pensioners for prescriptions; we would charge people on higher incomes, which is what Plaid Cymru’s economic adviser has sensibly been putting forward. I have asked you the question three times, and now I ask you it a fourth time: are you considering that?

Nick Bourne: Yr wyf yn gwbl glir ein bod yn dychwelyd i’r sefyllfa cyn ichi gyflwyno eich polisi: ni fydd pensiynwyr yn talu. Yr hyn yr wyf yn ei ofyn i chi a’r hyn yr ydych wedi methu’n lân â’i ateb dair gwaith, ac yr ydych yn anonest wrth gymryd arnoch nad ydych yn gwybod ble—[AELODAU CYNULLIAD: ‘O.’] Yr wyf yn meddwl eich bod. Wythnos ar ôl wythnos, yr wyf wedi dweud yn hollol glir na fyddem yn codi ffi ar bensiynwyr am bresgripsiynau; byddem yn codi ffi ar bobl ar incwm uwch, sef yr hyn y mae cynghorydd economaidd Plaid Cymru wedi bod yn ei gyflwyno’n synhwyrol. Yr wyf wedi gofyn y cwestiwn dair gwaith, ac yr wyf yn awr yn ei ofyn am y pedwerydd tro: a ydych yn ystyried hynny?

The First Minister: When the leader of the opposition starts throwing words like ‘dishonest’ around the Chamber, we know that he is rattled. We do not have a problem. We do not use terms like that. We know what our policy is; we need to be clear what your policy is so that people can make a democratic choice. We do not have a problem with our policy; it is clear. I have nothing further to add to what we have said before on loads of occasions. There is a manifesto commitment, and our policy is perfectly clear. The Tories are on the horns of a dilemma. What do they do about free prescriptions? They do not like it because it is different from the policy in England, but they cannot justify withdrawing free prescriptions from people on higher incomes of below pensionable age without causing a huge scandal for pensioners on higher incomes in Wales. What will they do? Will they exclude or include pensioners in getting rid of free prescriptions in Wales? We really need to know the answer to that question.

Y Prif Weinidog: Pan fydd arweinydd yr wrthblaid yn dechrau taflu geiriau megis ‘anonest’ o amgylch y Siambr, gwyddom ei fod wedi cynhyrfu. Nid oes gennym broblem. Nid ydym yn defnyddio termau fel hynny. Yr ydym yn gwybod beth yw ein polisi ni; mae arnom angen bod yn glir beth yw eich polisi chi er mwyn i bobl allu gwneud dewis democrataidd. Nid oes gennym broblem gyda’n polisi ni; mae’n glir. Nid oes gennyf ddim byd arall i’w ychwanegu at yr hyn yr wyf wedi’i ddweud droeon o’r blaen. Ceir ymrwymiad maniffesto, ac mae ein polisi’n gwbl glir. Mae’r Torïaid mewn cyfyng-gyngor. Beth i’w wneud ynghylch presgripsiynau am ddim? Nid ydynt yn ei hoffi oherwydd ei fod yn wahanol i’r polisi yn Lloegr, ond ni allant gyfiawnhau tynnu presgripsiynau am ddim oddi ar bobl ar incwm uwch dan oed pensiwn heb achosi sgandal enfawr i bensiynwyr ar incwm uwch yng Nghymru. Beth i’w wneud? A fyddant yn eithrio ynteu’n cynnwys pensiynwyr wrth gael gwared ar bresgripsiynau am ddim yng Nghymru? Mae taer angen gwybod yr ateb i’r cwestiwn hwnnw arnom.

10

05/05/2009

Janet Ryder: First Minister, I want to take you back to the question about what the Government can do to support businesses and employees, given the current circumstances. Acrefair has already lost a great number of jobs with the closure of Flexsys but it now faces the loss of more at Air Products plc. The 90-day consultation period on closure has begun. The workers and management at that plant seriously want to put together an alternative bid to the parent company. To do that, they will need the full support of your officials and those of the Department for the Economy and Transport. Will you give them as much support as they need to draw up a good, positive alternative business case to put to the parent company in America?

Janet Ryder: Brif Weinidog, mae arnaf eisiau mynd â chi’n ôl i’r cwestiwn am yr hyn y gall y Llywodraeth ei wneud i gefnogi busnesau a gweithwyr, ac ystyried yr amgylchiadau presennol. Mae Acrefair eisoes wedi colli nifer fawr o swyddi drwy gau Flexys ond nawr mae’n wynebu colli rhagor yn Air Products ccc. Mae’r cyfnod ymgynghori 90 diwrnod ynghylch cau wedi dechrau. Mae ar weithwyr a rheolwyr y safle eisiau rhoi cynnig amgen ynghyd i’r rhiant gwmni. Er mwyn gwneud hynny, bydd angen cefnogaeth lawn eich swyddogion chi a swyddogion Adran yr Economi a Thrafnidiaeth arnynt. A wnewch roi cymaint o gefnogaeth ag y mae ei hangen arnynt iddynt wrth iddynt lunio achos busnes amgen da a chadarnhaol i’w gyflwyno i’r rhiant gwmni yn America?

The First Minister: What is interesting about the situation with Air Products is that it seems to be different from that with Flexsys. Flexsys was pretty much a determination on the part of the management to bring production to an end as quickly as possible. Air Products has announced the beginning of the 90-day consultation, but there was a slightly soft edge or tinge to it in that it was practically inviting the local management, trade unions and others to come up with a bid that would save the plant from closure. We will be giving them every support. ProAct would be a good starting point, if the problem was with a shortage of orders, but the company sees it more as an intercontinental shift towards Asia, which is now the main area of demand for the huge things that it creates for the oil and gas industry. The workforce there is very highly skilled, and Air Products would be unwise to think that it could dispense with such an incredibly skilled workforce and replicate it straight away in Asia.

Y Prif Weinidog: Yr hyn sy’n ddiddorol gyda’r sefyllfa gydag Air Products yw ei bod yn wahanol i’r sefyllfa gyda Flexys i bob golwg. Yr oedd Flexys i raddau helaeth yn benderfyniad ar ran y rheolwyr i roi’r gorau i gynhyrchu cyn gynted ag y bo modd. Mae Air Products wedi cyhoeddi dechrau’r 90 diwrnod o ymgynghori, ond yr oedd arlliw neu wedd feddal braidd iddo gan ei fod i bob golwg yn gwahodd y rheolwyr lleol, yr undebau llafur ac eraill i gyflwyno cynnig a fyddai’n arbed y safle rhag cau. Byddwn yn rhoi pob cymorth iddynt. Byddai ProAct yn fan cychwyn da, os prinder archebion oedd y broblem, ond mae’r cwmni’n ei weld fel symudiad rhwng cyfandiroedd tuag at Asia, sef y brif ardal lle ceir galw am y pethau enfawr mae’n eu creu ar gyfer y diwydiant olew a nwy. Mae’r gweithlu sydd yno yn fedrus dros ben, ac ni fyddai’n ddoeth i Air Products feddwl y gallai gael gwared â gweithlu mor hyfedr a chael un cystal ar unwaith yn Asia.

The Leader of the Welsh Liberal Democrats (Kirsty Williams): First Minister, it has been a week since you were last questioned on the potential cuts in services that your Government will be forced to make because of the huge deficit in public spending and debt in the UK context. The Minister for Finance and Public Service Delivery was vague and confused last week about what that would mean for Wales, and

Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (Kirsty Williams): Brif Weinidog, mae wythnos wedi mynd heibio ers y tro diwethaf ichi gael eich holi am y toriadau gwasanaethau posibl y bydd eich Llywodraeth yn cael ei gorfodi i’w gwneud oherwydd y diffyg enfawr mewn gwariant cyhoeddus a dyled yng nghyd-destun y DU. Yr oedd y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus yn

11

05/05/2009

how he would find efficiencies of £500 million over three years, but we now know that you will need to make that sort of saving in 2011, 2012 and 2013, not to mention beginning to make those savings today. Have you managed to get your head around those figures? Are you clear as a Government about what the level of those efficiencies will have to be, and about where you will be taking the money from to make those unprecedented levels of savings?

amwys ac yn ddryslyd yr wythnos diwethaf o ran beth y byddai hynny’n ei olygu i Gymru, ac o ran sut y byddai’n canfod £500 miliwn o effeithlonrwydd dros dair blynedd, ond yr ydym yn gwybod nawr y bydd angen ichi wneud y math hwnnw o arbediad yn 2011, 2012 a 2013, heb sôn am ddechrau gwneud yr arbedion hynny heddiw. A ydych wedi llwyddo i feddwl am y ffigurau hynny? A ydych yn glir fel Llywodraeth o ran lefel yr arbedion y bydd eu hangen, ac o ran o ble y byddwch yn gorfod cymryd yr arian er mwyn sicrhau’r arbedion digynsail hyn?

The First Minister: As I said last week, not giving you the answer that you would like to hear is not the same as being confused about an issue. Sometimes, it has been only too clear what the issue is. As we have said, we have a mountain to climb—this will be the most difficult budget round that we have had. The challenge is whether we can be more agile than Westminster departments carrying out the same functions as us in England. We have to find savings of £212 million during this budget round. We have the advantage of some £60 million that we did not expect to have to be set against that, but there are also capital expenditure cuts, and, again, although there will be end-year flexibility releases to go with that, the baseline will be lower in 2011. Beyond 2011, in the next spending review period, the UK Government has talked about a further £9 billion of efficiency savings that it says its advisory panel has discovered, and there would be Barnett consequentials if those were implemented, but it is not absolutely clear that they will be. However, the likelihood is that there will be very low capital expenditure, possibly lower than we have been used to, over the following comprehensive spending review period through to 2014.

Y Prif Weinidog: Fel y dywedais yr wythnos diwethaf, ceir gwahaniaeth rhwng peidio â rhoi’r ateb yr hoffech ei glywed ichi a bod yn ddryslyd ynghylch mater. Weithiau, bu’r mater dan sylw’n gwbl eglur. Fel y dywedasom, mae gennym fynydd i’w ddringo—hwn fydd y cylch cyllideb anoddaf inni ei gael. Yr her yw a allwn fod yn fwy hyblyg nag adrannau San Steffan sy’n cyflawni’r un swyddogaethau â ni yn Lloegr. Rhaid inni ganfod £212 miliwn o arbedion yn ystod y cylch cyllideb hwn. Mae gennym y fantais o oddeutu £60 miliwn nad oeddem yn disgwyl gorfod ei osod yn erbyn hynny, ond ceir toriadau gwariant cyfalaf hefyd, ac eto, er y ceir gollyngiadau hyblygrwydd ar ddiwedd y flwyddyn i fynd gyda hynny, bydd y llinell sylfaen yn is yn 2011. Ar ôl 2011, yng nghyfnod yr adolygiad nesaf o wariant, mae Llywodraeth y DU wedi dweud bod ei phanel cynghori wedi canfod £9 biliwn ychwanegol o arbedion effeithlonrwydd, ac y ceid symiau canlyniadol Barnett pe câi’r rheini eu rhoi ar waith, ond nid yw’n gwbl glir y bydd hynny’n digwydd. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd y gwariant cyfalaf yn isel iawn, yn is nag yr ydym wedi arfer ag ef, efallai, dros gyfnod yr adolygiad cynhwysfawr o wariant canlynol hyd at 2014.

Kirsty Williams: First Minister, you have acknowledged that your plan A is to look for efficiency savings within the overall cost of delivering Government to try to protect front-line services. However, you have also admitted that they will be above and beyond anything that could be delivered previously and anything expected to be delivered by any other administration. If plan A does not work, what is your plan B?

Kirsty Williams: Brif Weinidog, yr ydych wedi cydnabod mai eich cynllun A yw chwilio am arbedion effeithlonrwydd o fewn cyfanswm cost cyflenwi Llywodraeth i geisio amddiffyn gwasanaethau rheng flaen. Fodd bynnag, yr ydych hefyd wedi cyfaddef y bydd y rhain y tu hwnt i unrhyw beth y gellid bod wedi’i gyflenwi o’r blaen ac unrhyw beth y gellid disgwyl i unrhyw weinyddiaeth arall ei gyflenwi. Os nad yw’r cynllun A yn gweithio, beth yw eich cynllun B?

12

05/05/2009

The First Minister: I do not think that you should anticipate the failure of plan A when we are just getting into the budget round. We are in the initial weeks of the budget round, and it will take six months. There will be periodic consultations with stakeholders and the Assembly here for appropriate scrutiny before we have the initial budget publication in the autumn, and then the final budget will need to be agreed just before Christmas. We expect to adhere to that timetable. It is a mountain to climb; there is no shadow of a doubt about that. However, we believe that we can produce what we call ‘an agile Government for fragile times’. Being agile means being at least as agile if not more so as Westminster departments doing the same job in England as we do in Wales. Is there any reason why you suppose that we could not be at least as agile as the Westminster departments doing the same job in England?

Y Prif Weinidog: Nid wyf yn meddwl y dylech ragweld y bydd cynllun A yn methu, a ninnau ar ddechrau’r cylch cyllideb. Yr ydym yn wythnosau cyntaf y cylch cyllideb, a bydd yn para chwe mis. Ceir ymgynghoriadau rheolaidd â rhanddeiliaid a’r Cynulliad yma er mwyn craffu’n briodol cyn y cawn gyhoeddiad cyntaf y gyllideb yn yr hydref, ac yna bydd angen cytuno ar y gyllideb derfynol cyn y Nadolig. Yr ydym yn disgwyl glynu at yr amserlen honno. Mae’n fynydd i’w ddringo; nid oes dim amheuaeth am hynny. Fodd bynnag, yr ydym yn credu y gallwn gynhyrchu’r hyn yr ydym yn ei alw’n ‘Llywodraeth hyblyg ar gyfer cyfnod bregus’. Mae bod yn hyblyg yn golygu bod o leiaf yr un mor hyblyg ag adrannau San Steffan sy’n gwneud yr un gwaith yn Lloegr ag yr ydym ni’n ei wneud yng Nghymru, os nad yn fwy hyblyg na hwy. A oes unrhyw reswm pam eich bod yn credu na allem fod o leiaf yr un mor hyblyg ag adrannau San Steffan sy’n gwneud yr un gwaith yn Lloegr?

Kirsty Williams: I hope that your plan A does not fail, but I do not think that it is unreasonable for opposition parties here or, indeed, the public to know what your plan of attack will be if you are not able to make unprecedented levels of efficiency savings. We need to know which services will stay and which will go. You have been left a huge mess by the UK Government. It is akin to being told to tidy up the mess in your room, and, like a delinquent teenager, shoving it all under the bed and hoping that it will disappear. It will not disappear. We face very serious times and we need to know. We also need to work collectively to see the Assembly mature in a budget-making scenario that we have never had to face before. In that context, First Minister, will you hold a meeting with the leaders of the other parties to see whether we can agree on where efficiency savings can be made so that we can ensure that front-line services are protected? Will you do that above and beyond trying to score political points in an attempt to move this institution forward and to protect the vital front-line services that the people of Wales depend on?

Kirsty Williams: Gobeithiaf na fydd eich cynllun A yn methu, ond nid wyf yn meddwl ei bod yn afresymol i’r gwrthbleidiau yma nac, yn wir, i’r cyhoedd wybod beth fydd eich cynllun os na allwch gyflawni arbedion effeithlonrwydd digynsail. Mae arnom angen gwybod pa wasanaethau fydd yn aros a pha rai fydd yn mynd. Mae Llywodraeth y DU wedi gadael llanastr enfawr ichi. Mae’n debyg i gael rhywun yn dweud wrthych am dacluso’r llanastr yn eich ystafell, a’ch bod yn ei wthio i gyd o dan y gwely fel plentyn drwg gan obeithio y bydd yn diflannu. Ni fydd yn diflannu. Yr ydym yn wynebu cyfnod difrifol iawn ac mae arnom angen gwybod. Mae angen inni hefyd gydweithio i sicrhau bod y Cynulliad yn aeddfedu mewn senario creu cyllideb nad ydym erioed wedi gorfod ei hwynebu o’r blaen. Yn y cyd-destun hwnnw, Brif Weinidog, a gynhaliwch gyfarfod ag arweinwyr y pleidiau eraill i weld a allwn gytuno o ran ble i wneud arbedion effeithlonrwydd er mwyn sicrhau y caiff gwasanaethau rheng flaen eu hamddiffyn? A wnewch hynny y tu hwnt i geisio sgorio pwyntiau gwleidyddol mewn ymgais i symud y sefydliad hwn ymlaen ac i amddiffyn y gwasanaethau rheng flaen hollbwysig y mae pobl Cymru’n dibynnu arnynt?

13

05/05/2009

The First Minister: I have referred to the fact that I have described this process of having to get bodies to collaborate as ‘re-engineering the state’. We need to get Welsh local government, the Welsh national health service, and our departments working across the geographical sectors, or the sorts of silos or turf areas that have traditionally meant that people think only within their own area, thinking that if they can save expenditure in their own area, they should do so, even if it means more expenditure for another sector. That kind of thinking is the thinking of the past, and will not pass muster. We have to think much more creatively and collaboratively than before.

Y Prif Weinidog: Yr wyf wedi cyfeirio at y ffaith fy mod wedi disgrifio’r broses hon o orfod perswadio cyrff i gydweithio fel ‘ail-lunio’r wladwriaeth’. Mae angen inni berswadio llywodraeth leol Cymru, gwasanaeth iechyd gwladol Cymru, a’n hadrannau i weithio ar draws y sectorau daearyddol, neu’r mathau o seilos neu blwyfi sydd, yn draddodiadol, wedi golygu bod pobl yn meddwl am eu maes eu hunain yn unig, gan feddwl y dylent arbed gwariant yn eu maes hwy os gallant, hyd yn oed os yw hynny’n golygu mwy o wariant i sector arall. Meddylfryd y gorffennol yw hynny, ac ni wnaiff y tro. Rhaid inni feddwl yn llawer mwy creadigol gan gydweithio mwy nag erioed o’r blaen.

1.50 p.m.

I will consider your idea about how to bring in other party leaders but, at the moment, I am concentrating on working with the heads of Welsh local government and the national health service to see what we can do to break down these traditional boundaries. I entirely agree that re-engineering the state to achieve more creative ways of producing efficiency is unprecedented. However, I am confident that it can be done.

Ystyriaf eich syniad am ffyrdd o gynnwys arweinwyr pleidiau eraill ond, ar hyn o bryd, yr wyf yn canolbwyntio ar weithio gyda phenaethiaid llywodraeth leol Cymru a’r gwasanaeth iechyd gwladol i weld beth y gallwn ei wneud i dorri’r ffiniau traddodiadol hyn. Yr wyf yn cytuno i’r carn bod ail-lunio’r wladwriaeth i ganfod ffyrdd mwy creadigol o gynhyrchu effeithlonrwydd yn ddigynsail. Fodd bynnag, yr wyf yn hyderus bod modd gwneud hynny.

Gareth Jones: Fel y gwyddom, mae awdurdodau lleol ar flaen y gad o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus, gyda llawer ohonynt yn dibynnu ar y penderfyniadau polisi a wneir gan Lywodraeth y Cynulliad. Tra wyf ar fy nhraed, hoffwn ganmol y ffordd y mae cynghorau sir Ddinbych a Chonwy yn gweithio mewn partneriaeth â’i gilydd, gyda chymorth Llywodraeth y Cynulliad, i geisio achub swyddi yn ffatri Indesit—neu ffatri Hotpoint fel yr arferai fod, fel y gwyddoch—ym Modelwyddan. Pa ddisgwyliadau sydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i awdurdodau lleol ymateb i’r dirwasgiad byd-eang a’i wrthsefyll, a pha gymorth ariannol ac fel arall y gall Llywodraeth y Cynulliad ei gynnig i’r awdurdodau hynny?

Gareth Jones: As we know, local authorities are at the forefront when it comes to delivering public services, with many of them dependent on the policy decisions made by the Assembly Government. While I am on my feet, I want to praise the way in which Denbighshire and Conwy county councils have worked in partnership with each other, with the assistance of the Assembly Government, to try to save jobs at the Indesit plant—or the Hotpoint plant as it used to be, as you know—in Bodelwyddan. What expectations does the Welsh Assembly Government have of local authorities in responding to and withstanding the global recession, and what further financial and other assistance could the Assembly Government offer those authorities?

Y Prif Weinidog: Er llwyddiant dros dro yn unig ydoedd, yr enghraifft sy’n dod i gof yw Dolgarrog. Yr oedd y camau a gymerodd

The First Minister: Although it was only a temporary success, one example that springs to mind is Dolgarrog. The steps taken by

14

05/05/2009

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar y pryd yn llwyddiannus am bum mlynedd o leiaf, ac felly rhoddwyd ail gyfle i Ddolgarrog barhau yn felin i rolio alwminiwm. Yn y pen draw, boddwyd y cwmni eilwaith, ac ni fu’n bosibl i’w achub y trydydd tro. Dyna enghraifft lle y bu’n bosibl i awdurdod lleol gael ymgynghorwyr i mewn i edrych am brynwr a oedd yn fodlon buddsoddi mewn ffatri er bod y perchennog gwreiddiol yn dymuno ei chau. Drwy wneud y fath ymarfer, gyda’n cymorth ni a’r cymorth ariannol y gallwn ei roi, mae’n bosibl i awdurdodau lleol fod ar flaen y gad wrth geisio achub swyddi yn eu hardaloedd hwy.

Conwy County Borough Council at the time were successful for at least five years, and so Dolgarrog was given a second chance to continue to operate as an aluminium-rolling mill. At the end of the day, the company failed twice, and it was not possible to save it a third time. That is an example of where it was possible for a local authority to bring consultants in to look for a buyer who was willing to invest in the plant although the original owner wanted it closed. Through that kind of exercise, with our support and the financial assistance that we can offer, it is possible for local authorities to be in the vanguard in trying to save jobs in their areas.

Capital Expenditure on the NHS Gwariant Cyfalaf ar y GIG

Q3 Chris Franks: Will the First Minister make a statement on capital expenditure on the national health service in South Wales Central? OAQ(3)1934(FM)

C3 Chris Franks: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wariant cyfalaf ar y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghanol De Cymru? OAQ(3)1934(FM)

The First Minister: This is an exciting period for capital expenditure across South Wales Central, with £118 million invested in mental health provision in Cardiff and the Vale of Glamorgan, £102 million for new hospitals at Mountain Ash and Cwm Rhondda, as well as £30 million in the Cardiff Royal Infirmary. Together, these constitute an investment programme well in excess of £400 million.

Y Prif Weinidog: Mae hwn yn gyfnod cyffrous yng nghyswllt gwariant cyfalaf ar draws Canol De Cymru, gyda £118 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn darpariaeth iechyd meddwl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, £102 miliwn ar gyfer ysbytai newydd yn Aberpennar a Chwm Rhondda, yn ogystal â £30 miliwn yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd. At ei gilydd, mae’r rhain yn rhoi rhaglen fuddsoddi gwerth mwy na £400 miliwn.

Chris Franks: I share your delight that the Welsh Government is investing so heavily in such institutions as the Cardiff Royal Infirmary and Cwm Cynon community hospital. The elderly mentally infirm assessment units at Whitchurch and Llandough hospitals are much needed facilities for the elderly, particularly as the Vale of Glamorgan Council is considering closing the Bryneithin care home. Has your Government had talks with the Vale council about Bryneithin, and will you comment on the progress of the primary care centres at Aberdare, Hirwaun and Mountain Ash? What assurances can you give that the £416 million cuts imposed by Gordon Brown will not affect the developments just mentioned? Can you also confirm that the necessary revenue provision will not be adversely affected by the current financial crisis?

Chris Franks: Yr wyf yn rhannu eich pleser bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi cymaint mewn sefydliadau megis Ysbyty Brenhinol Caerdydd ac ysbyty cymuned Cwm Cynon. Mae angen mawr am yr unedau asesu henoed eiddil eu meddwl yn ysbytai’r Eglwys Newydd a Llandochau, yn enwedig gan fod Cyngor Bro Morgannwg yn ystyried cau cartref gofal Bryneithin. A yw eich Llywodraeth wedi siarad â chyngor y Fro am Fryneithin, ac a rowch sylwadau am gynnydd y canolfannau gofal sylfaenol yn Aberdâr, yn Hirwaun ac yn Aberpennar? Pa sicrwydd y gallwch ei rhoi na fydd y toriadau £416 miliwn a osodwyd gan Gordon Brown yn effeithio ar y datblygiadau yr ydym newydd sôn amdanynt? A allwch gadarnhau hefyd na fydd yr argyfwng ariannol presennol yn effeithio ar ddarpariaeth y refeniw angenrheidiol?

15

05/05/2009

The First Minister: I cannot give you an answer about the Bryneithin home. I will have to ask Gwenda Thomas to write to you about that. I would imagine that she has already done so, but I am really not sure about that. Likewise, I will have to ask Edwina Hart to write to you about the three primary care centres that you named.

Y Prif Weinidog: Ni allaf roi ateb ichi am gartref Bryneithin. Bydd rhaid imi ofyn i Gwenda Thomas ysgrifennu atoch am hynny. Byddwn yn dychmygu ei bod eisoes wedi gwneud hynny, ond nid wyf yn siŵr am hynny. Yn yr un modd, bydd rhaid imi ofyn i Edwina Hart ysgrifennu atoch am y tair canolfan gofal sylfaenol a enwyd gennych.

On the capital expenditure cuts, the baseline moving forward from 2011 will be lower. It is complicated by the £60 million additional funding that we have had and the £75 million released from end-year flexibility. Undoubtedly, the lower baseline moving forward will cause us great difficulty in getting capital expenditure maintained at the level that we are talking about now. I hope that all the projects that I have mentioned can now be completed without too much let or hindrance.

O ran y toriadau gwariant cyfalaf, bydd y llinell sylfaen o 2011 ymlaen yn is. Gwneir hyn yn fwy cymhleth gan y £60 miliwn o gyllid ychwanegol yr ydym wedi’i gael a’r £75 miliwn a ryddhawyd o hyblygrwydd diwedd blwyddyn. Nid oes amheuaeth na fydd y llinell sylfaen is wrth symud ymlaen yn peri anhawster mawr inni o ran cynnal gwariant cyfalaf ar y lefel yr ydym yn siarad amdani ar hyn o bryd. Gobeithiaf y gellir cwblhau’r holl brosiectau yr wyf wedi sôn amdanynt heb ormod o drafferth.

Christine Chapman: As we approach the National Assembly’s tenth anniversary, we can be proud of how we are transforming the NHS in Wales. With continued investment and reform to improve hospitals and GP surgeries, there are now more nurses, doctors and consultants working for the NHS in Wales, and there are also new facilities. I was pleased that mention was made of the new hospital in my constituency in Cynon valley. It was good to see the Minister for Health and Social Services visit the site recently. There are also similar success stories around Wales. Do you agree that such state-of-the-art projects are at last making inroads to tackle the legacy of health inequalities in Wales as a result of previous Tory administrations?

Christine Chapman: Wrth inni ddynesu at ddegfed pen-blwydd y Cynulliad Cenedlaethol, gallwn fod yn falch o’r modd yr ydym yn gweddnewid y GIG yng Nghymru. Gyda buddsoddi a diwygio parhaus i wella ysbytai a meddygfeydd teulu, mae mwy o nyrsys, meddygon ac ymgynghorwyr yn gweithio i’r GIG yng Nghymru yn awr, a cheir cyfleusterau newydd hefyd. Yr oeddwn yn falch bod yr ysbyty newydd yn fy etholaeth yng nghwm Cynon wedi’i grybwyll. Yr oedd yn braf gweld y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymweld â’r safle’n ddiweddar. Ceir straeon eraill tebyg am lwyddiant ledled Cymru. A ydych yn cytuno bod prosiectau arloesol o’r fath, o’r diwedd, yn mynd i’r afael â’r etifeddiaeth o anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru o ganlyniad i weinyddiaethau Torïaidd blaenorol?

The First Minister: You mentioned the Mountain Ash hospital, on which £66 million has been spent. It is quite a morale booster to people in the Valleys to see the tower crane above the site in Mountain Ash. You do not often see tower cranes in the Cynon valley. There are three tower cranes at Ystrad Mynach, where the new Caerphilly borough hospital is being built, making good a promise first made 40 years ago. It is the

Y Prif Weinidog: Soniasoch am ysbyty Aberpennar, lle mae £66 miliwn newydd gael ei wario. Mae’n dipyn o hwb i forâl pobl yn y Cymoedd i weld y craen tŵr uwchben y safle yn Aberpennar. Ni fyddwch yn gweld craeniau tŵr yn aml yng nghwm Cynon. Ceir tri chraen tŵr yn Ystrad Mynach, lle mae ysbyty newydd bwrdeistref Caerffili yn cael ei adeiladu, gan wireddu addewid a wnaethpwyd gyntaf 40 mlynedd yn ôl. Mae’r

16

05/05/2009

same with the Aneurin Bevan hospital in Ebbw Vale, on which £55 million is being spent. Bringing the latest twenty-first century standards of modern healthcare not to the M4 belt or the A55 belt, but to the heart of the Valleys where there is this legacy of ill-health will have a dramatic effect on the delivery of primary and secondary care services. I am particularly proud of the fact that the hospital at Mountain Ash will include a special dental unit as part of the investment of £66 million; it will be an outstation of the dental hospital at the University Hospital of Wales.

un peth yn wir am ysbyty Aneurin Bevan yng Nglynebwy, lle mae £55 miliwn yn cael ei wario. Bydd dod â safonau diweddaraf gofal iechyd modern yr unfed ganrif ar hugain i ganol y Cymoedd lle ceir yr etifeddiaeth hon o iechyd gwael, ac nid dim ond i ardal yr M4 neu’r A55, yn cael effaith ddramatig ar gyflenwi gwasanaethau gofal sylfaenol a gofal eilaidd. Yr wyf yn arbennig o falch o’r ffaith y bydd yr ysbyty yn Aberpennar yn cynnwys uned ddeintyddol arbennig fel rhan o’r buddsoddiad o £66 miliwn; bydd yn is-ganolfan i’r ysbyty deintyddol yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Social Housing Tai Cymdeithasol

Q4 Irene James: Will the First Minister make a statement on the provision of social housing in Wales? OAQ(3)1931(FM)

C4 Irene James: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth tai cymdeithasol yng Nghymru? OAQ(3)1931(FM)

The First Minister: As well as the investment made to secure our commitment to 6,500 extra affordable homes over this third Assembly, a further £42 million has now been made available to local authorities from the strategic capital investment fund for the provision of new social housing. That has a counter-cyclical impact on the building industry and contributes to our determination to meet housing need in Wales.

Y Prif Weinidog: Yn ogystal â’r buddsoddiad a wnaethpwyd i ddiogelu ein hymrwymiad i 6,500 o dai fforddiadwy ychwanegol yn ystod y trydydd Cynulliad hwn, mae £42 miliwn pellach ar gael yn awr i awdurdodau lleol o’r gronfa buddsoddi cyfalaf strategol ar gyfer darparu tai cymdeithasol newydd. Mae hynny’n cael effaith wrthgylchol ar y diwydiant adeiladu ac yn cyfrannu at ein penderfyniad i ddiwallu anghenion tai yng Nghymru.

Irene James: Thank you for your response, Rhodri, but what can we do to ensure that social housing is located with equal importance to private housing on new-build estates? There has been an improvement, and new developments must be partly made up of social housing, but it is not uncommon to see social housing tucked away in a corner of a new development instead of being fully integrated. Some housing associations are trying to ensure a more diverse pepper-pot approach to new housing projects. What more can we do to ensure that that more favourable approach is the preferred model?

Irene James: Diolch am eich ymateb, Rhodri, ond beth y gallwn ei wneud i sicrhau y caiff tai cymdeithasol eu lleoli gyda’r un pwysigrwydd â thai preifat ar ystadau adeiladu newydd? Bu gwelliant, a rhaid i ddatblygiadau newydd gynnwys rhywfaint o dai cymdeithasol, ond nid yw’n anarferol gweld y tai cymdeithasol wedi’u gwthio i gornel datblygiad newydd yn hytrach na bod wedi’u hintegreiddio’n llwyr. Mae rhai cymdeithasau tai’n ceisio sicrhau y defnyddir dull mwy amrywiol ‘pot pupur’ mewn prosiectau tai newydd. Beth arall y gallwn ei wneud i sicrhau mai’r dull mwy ffafriol hwnnw yw’r dull a ddewisir?

The First Minister: I have not heard the accusation that groups of section 106 social housing units are tucked away at the back of private sector housing estates. Clearly, the section 106 provisions are much weaker because there is no new private sector

Y Prif Weinidog: Nid wyf wedi clywed y cyhuddiad bod grwpiau o unedau tai cymdeithasol adran 106 yn cael eu gwthio i gefn ystadau tai sector preifat. Yn amlwg, mae darpariaethau adran 106 yn llawer gwannach gan nad oes dim adeiladu tai sector

17

05/05/2009

speculative housebuilding happening at the moment—although there are some signs of life returning to the housebuilding sector. In the main, housebuilders are much more amenable to the idea of social housing now, where they do want to build housing. They are not so resistant, and they are not trying to suppress or reduce the social housing component. The problem is getting them to build at all at the moment.

preifat hapfasnachol yn digwydd ar hyn o bryd—er y ceir rhai arwyddion bod bywyd yn dychwelyd i’r sector adeiladu tai. Gan fwyaf, mae adeiladwyr tai’n llawer mwy agored i syniad tai cymdeithasol yn awr, pan fyddant am adeiladu tai. Nid ydynt yn ei wrthwynebu gymaint, ac nid ydynt yn ceisio darwthio na lleihau’r gydran dai gymdeithasol. Y broblem ar hyn o bryd yw eu perswadio i adeiladu o gwbl.

Jonathan Morgan: First Minister, I have recently made a freedom of information data request to all local authorities in Wales asking how many local authority-maintained homes they have and how many are empty. Of the 12 responses from local authorities that I have been looking at this morning alone, I can see that almost 1,800 homes stand empty. What are you, as First Minister, and your Ministers doing to ensure that local authorities can invest in the updating of empty properties so that they can be made available to families, many of whom wait quite a long time to get into a council-owned property?

Jonathan Morgan: Brif Weinidog, yn ddiweddar cyflwynais gais am ddata ar sail rhyddid gwybodaeth i bob awdurdod lleol yng Nghymru yn gofyn sawl cartref sydd ganddynt a gynhelir gan yr awdurdod lleol a sawl un o’r rheini sy’n wag. O’r 12 ymateb gan awdurdodau lleol yr wyf wedi bod yn edrych arnynt y bore yma, gallaf weld bod bron i 1,800 o gartrefi’n wag. Beth yr ydych chi, fel Prif Weinidog, a’ch Gweinidogion yn ei wneud i sicrhau y gall awdurdodau lleol fuddsoddi mewn diweddaru eiddo gwag fel y gallant fod ar gael i deuluoedd, gan fod nifer o deuluoedd yn aros cryn amser i gael mynd i gartref sy’n eiddo i’r cyngor?

The First Minister: I would not like anybody to think that local authorities’ empty homes stock is the answer to all our housing problems. That would be quite wrong, but, on the other hand, it should be a matter of pride to local authorities to upgrade their stock as quickly as possible and to ensure that the turnaround between leases is as short as possible.

Y Prif Weinidog: Ni hoffwn i neb feddwl mai stoc cartrefi gwag awdurdodau lleol yw ateb ein holl broblemau tai. Byddai hynny’n gwbl anghywir, ond, ar y llaw arall, dylai fod yn fater o falchder i awdurdodau lleol uwchraddio eu stoc cyn gynted â phosibl a sicrhau bod y cyfnod rhwng prydlesi mor fyr â phosibl.

2.00 p.m.

Clearly, because they have stock from the 1920s, 1930s and 1940s, it is never going to be as short as with housing associations, which do not have any of that old stock, but they should be proud of the fact that they have the most rapid turnaround possible and the shortest void period, even when substantial redecoration or repair is required.

Yn amlwg, gan fod ganddynt stoc o’r 1920au, y 1930au a’r 1940au, nid yw byth yn mynd i wynebu’r un prinder â chymdeithasau tai, nad oes ganddynt ddim o’r hen stoc honno, ond dylent fod yn falch o’r ffaith bod y stoc yn newid dwylo mor gyflym â phosibl ac yn wag am y cyfnod byrraf posibl, hyd yn oed pan fydd angen gwneud llawer o waith atgyweirio neu ailaddurno.

Leanne Wood: Of the 1,500 houses in Trefforest, 1,000 are houses in multiple occupation, mainly because they are for student accommodation. One difficulty is that estate agents are still describing Trefforest as an investment opportunity, so local people

Leanne Wood: O’r 1,500 o dai yn Nhrefforest, mae 1,000 yn dai amlfeddiannaeth, yn bennaf oherwydd eu bod yn cael eu defnyddio ar gyfer llety myfyrwyr. Un anhawster yw bod asiantau tai yn dal i ddisgrifio Trefforest fel cyfle i fuddsoddi,

18

05/05/2009

have difficulty finding homes. Can you tell us what discussions you have had regarding the provision of more social housing in areas where there is a high concentration of houses in multiple occupation? Can you also tell us what has been done to promote the grant scheme that is available to landlords to convert houses in multiple occupation into family homes?

felly mae pobl leol yn ei chael yn anodd dod o hyd i gartrefi. A allwch ddweud wrthym pa drafodaethau yr ydych wedi’u cael ynghylch darparu mwy o dai cymdeithasol mewn mannau lle ceir dwysedd uchel o dai amlfeddiannaeth? A allwch ddweud wrthym hefyd beth sydd wedi cael ei wneud i hyrwyddo’r cynllun grant sydd ar gael i landlordiaid i drosi tai amlfeddiannaeth yn dai i deuluoedd?

The First Minister: All university towns in Wales, such as Trefforest, Aberystwyth, Bangor and parts of Cardiff, have this problem, namely the takeover of what were previously conventional family dwellings and their becoming houses in multiple occupation, and the impact that that has on the child population, on planning for school populations and so on. Trefforest would be no different from parts of Cardiff, Aberystwyth, Bangor and so on. We must ensure that universities have a responsible attitude to the impact of their institution on the housing stock and on the availability of housing—not only for students, but also for families—and get student housing built in those areas so that they do not have such a dramatic impact on the withdrawal of houses potentially available for families.

Y Prif Weinidog: Mae’r broblem hon, sef bod tai a arferai fod yn anheddau confensiynol i deuluoedd yn cael eu meddiannu ac yn cael eu trosi’n dai amlfeddiannaeth—ac effaith hynny ar y boblogaeth blant, ar gynllunio ar gyfer nifer y plant mewn ysgolion ac ati—yn broblem i bob tref prifysgol yng Nghymru, megis Trefforest, Aberystwyth, Bangor a rhannau o Gaerdydd. Ni fyddai Trefforest yn ddim gwahanol i rannau o Gaerdydd, Aberystwyth, Bangor ac ati. Rhaid inni sicrhau bod gan brifysgolion agwedd gyfrifol at effaith eu sefydliad ar y stoc dai ac ar y tai sydd ar gael—nid yn unig i fyfyrwyr, ond i deuluoedd hefyd—a sicrhau yr adeiledir tai myfyrwyr yn yr ardaloedd hynny fel nad ydynt yn cael effaith mor ddramatig ar nifer y tai posibl i deuluoedd.

Mick Bates: According to the Joseph Rowntree Foundation poverty website, there are currently 8,000 households in Wales that are recognised as homeless. I am sure that you would agree that that is an intolerable statistic, and one that very few Governments have solved. I put it you, First Minister, that one problem is that traditional building techniques have totally failed to provide affordable housing that can be rented at an affordable rent to solve this terrible problem. Would you agree that, in Wales, we should lead the way by providing affordable homes of a high quality that are manufactured off-site? That would then resolve the issue of traditional builders not providing homes at the right price. Such homes are being built currently in Montgomeryshire by a man called Griff Thomas at SIP-Pod homes. I would love you to visit the company in order to see the products that could be used to resolve the issue of homelessness and affordable rented property in Wales.

Mick Bates: Yn ôl gwefan dlodi Sefydliad Joseph Rowntree, ar hyn o bryd, ceir 8,000 o aelwydydd yng Nghymru sy'n cael eu cydnabod fel aelwydydd digartref. Yr wyf yn siŵr y cytunech fod yr ystadegyn hwn yn anoddefadwy—prin iawn yw’r Llywodraethau sydd wedi’i ddatrys. Dywedaf wrthych, Brif Weinidog, mai un broblem yw'r ffaith bod technegau adeiladu traddodiadol wedi methu’n gyfan gwbl â darparu tai fforddiadwy y gellir eu rhentu am rent fforddiadwy i ddatrys y broblem ddychrynllyd hon. A gytunech y dylem, yng Nghymru, arwain y ffordd drwy ddarparu tai fforddiadwy o safon uchel sy’n cael eu cynhyrchu oddi ar y safle? Byddai hynny wedyn yn datrys y broblem sy’n gysylltiedig ag adeiladwyr traddodiadol nad ydynt yn cyflenwi tai am y pris iawn. Mae tai o'r fath yn cael eu hadeiladu yn sir Drefaldwyn ar hyn o bryd gan ddyn o’r enw Griff Thomas yn SIP-Pod homes. Hoffwn yn fawr petaech yn ymweld â’r cwmni er mwyn gweld y cynhyrchion y gellid eu defnyddio i ddatrys

19

05/05/2009

problem ddigartrefedd ac eiddo fforddiadwy i’w rentu yng Nghymru.

The First Minister: Some companies have tried to do that, but it has not been a great market success so far. In Scandinavia and other countries, houses can be, and are, provided that almost come off the back of a lorry, with beautiful bathrooms and fittings and so on. However, they usually have the kind of shelf-life that is not regarded as acceptable, in that, after 30, 40 or 50 years, they are regarded as a declining asset. Therefore, it is quite difficult to get mortgage cover for them. We have all seen this phenomenon through the 1960s and 1970s, namely the belief that you can actually deliver and install the housing in a day and a half, with a new design that solves the problem of traditional home construction using wet cement and all the usual things that hold the job up, such as waiting for the weather. I have seen it happen in my constituency, but, 30 years later, those houses are being knocked down. It is not quite as easy as you say.

Y Prif Weinidog: Mae rhai cwmnïau wedi ceisio gwneud hynny, ond nid yw wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn y farchnad hyd yma. Yn Sgandinafia ac mewn gwledydd eraill, gellir darparu, a darperir, tai oddi ar gefn lori bron, a’r rheini’n cynnwys ffitiadau ac ystafelloedd ymolchi hardd ac ati. Fodd bynnag, fel arfer, nid ystyrir bod eu hoes yn dderbyniol, a’u bod, ar ôl 30, 40 neu 50 mlynedd, yn cael eu hystyried yn asedau sy'n dirywio. Felly, mae’n bur anodd cael morgais ar eu cyfer. Yr ydym oll wedi gweld y ffenomenon hon drwy'r 1960au a'r 1970au, sef y gred y gellir mewn difrif ddanfon a chodi tŷ mewn diwrnod a hanner, gyda chynllun newydd sy’n datrys y problemau sy’n gysylltiedig ag adeiladu cartref traddodiadol gyda sment gwlyb a’r holl bethau arferol y mae eu hangen ar gyfer y gwaith, megis aros am dywydd braf. Yr wyf wedi’i weld yn digwydd yn f’etholaeth, ond, 30 mlynedd yn ddiweddarach, mae’r tai hynny’n cael eu chwalu. Nid yw mor hawdd ag y dywedwch.

Trish Law: I will take this opportunity to thank the Deputy Minister for Housing for agreeing to meet me last Wednesday afternoon to discuss social housing issues in Blaenau Gwent. If I am not visible here, you can be sure that I am visible elsewhere, fighting for a better deal for Blaenau Gwent. I know that money is tight, and that extra-care sheltered housing schemes are costly, but they are the cornerstone of Blaenau Gwent County Borough Council’s independent living strategy, which won support amid considerable controversy three years ago. There was controversy because the proposals involved the closure of council care homes. Will the Welsh Assembly Government give more consideration to the needs and strategies of local authorities when distributing grants?

Trish Law: Manteisiaf ar y cyfle hwn i ddiolch i’r Dirprwy Weinidog dros Dai am gytuno i gwrdd â mi brynhawn Mercher diwethaf i drafod problemau tai cymdeithasol ym Mlaenau Gwent. Os nad ydych yn fy ngweld yma, gallwch fod yn sicr fy mod yn cael fy ngweld mewn mannau eraill, yn brwydro dros fargen well i Flaenau Gwent. Gwn fod arian yn brin, a bod cynlluniau tai gwarchod gofal-ychwanegol yn ddrud, ond hwy yw sylfaen strategaeth byw’n annibynnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, a gafodd gefnogaeth er yr holl helynt dair blynedd yn ôl. Bu helynt oherwydd bod y cynigion yn golygu cau cartrefi gofal y cyngor. A wnaiff Llywodraeth Cynulliad Cymru roi mwy o ystyriaeth i anghenion a strategaethau awdurdodau lleol pan fyddant yn dosbarthu grantiau?

The First Minister: Yes, I certainly commend the Deputy Minister for Housing for meeting you on Wednesday afternoon. I hope that it is just an occasional and not a weekly meeting on a Wednesday afternoon, otherwise I am sure that the whips would be

Y Prif Weinidog: Ydw, yr wyf yn bendant yn cymeradwyo’r Dirprwy Weinidog dros Dai am gwrdd â chi brynhawn Mercher. Gobeithiaf mai dim ond un cyfarfod ydoedd ac na fydd yn digwydd bob prynhawn dydd Mercher, fel arall yr wyf yn siŵr y byddai’r

20

05/05/2009

getting a bit concerned. However, as the Deputy Minister for Housing is her party’s business manager, she can probably find her way around that issue more easily than most.

chwipiaid yn dechrau pryderu. Fodd bynnag, gan mai’r Dirprwy Weinidog dros Dai yw rheolwr busnes ei phlaid, mae’n siŵr y gall fynd o gwmpas y mater hwnnw’n haws na’r mwyafrif.

On independent living strategies, I entirely agree with you that the No. 1 objective for people who are becoming frail must be to maintain them in their own independent houses for as long as is physically safe. It is only when you get to the point where you cannot rely on yourself not to burn through every saucepan or every cooker in the house that you have to start thinking about ceasing to live independently. Until that point, everyone should seek to support people—elderly or frail as they may be—to stay in their own homes.

O ran strategaethau byw’n annibynnol, cytunaf yn llwyr â chi mai’r prif amcan i bobl sy’n mynd yn fregus yw eu cadw yn eu tai annibynnol eu hunain cyn hired ag sy’n gorfforol ddiogel. Dim ond pan gyrhaeddwch y pwynt pan na allwch ddibynnu arnoch eich hun i beidio â llosgi pob sosban neu bob popty yn y tŷ y mae’n rhaid ichi ddechrau meddwl am roi’r gorau i fyw’n annibynnol. Tan hynny, dylai pawb geisio cynorthwyo pobl—pobl hŷn neu bobl fregus—i aros yn eu cartrefi eu hunain.

Road Safety Diogelwch ar y Ffyrdd

Q5 Joyce Watson: Will the First Minister make a statement on what action the Welsh Assembly Government is taking on the issue of road safety? OAQ(3)1926(FM)

C5 Joyce Watson: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud ynglŷn â diogelwch ar y ffyrdd? OAQ(3)1926(FM)

The First Minister: Extending the provision of 20 mph limits and zones in Wales has been the cornerstone of our approach to road safety. As of 31 August 2008, the latest data available, local authorities had implemented 438 such schemes across Wales. A recent evaluation of 273 of those sites reports an annual reduction of 42 per cent in personal injury collisions and 40 per cent in the number of casualties—those who have been either killed or seriously injured.

Y Prif Weinidog: Darparu mwy o barthau a therfynau 20mya fu'r gonglfaen wrth inni fynd i’r afael â diogelwch ar y ffyrdd. Ar 31 Awst 2008, y data diweddaraf sydd ar gael, yr oedd awdurdodau lleol wedi rhoi 438 o gynlluniau o'r fath ar waith ledled Cymru. Mae gwerthusiad diweddar o 273 o'r safleoedd hynny’n dangos y bu gostyngiad blynyddol o 42 y cant mewn gwrthdrawiadau a achosodd anafiadau personol a 40 y cant yn y nifer a anafwyd—y rheini a gafodd eu lladd neu’u hanafu'n ddifrifol.

Joyce Watson: On Sunday, I spent the day at a driving academy in Pembrokeshire. Go For It runs courses through Pembrokeshire College and has recently acquired Wales’s first skid car. I had a go in the skid car, and it was a real eye-opener. Although you may think that you know what to do if you skidded or lost control at the wheel, until you are in that situation, you do not. Sadly, it is often too late to find out.

Joyce Watson: Ddydd Sul, treuliais y diwrnod mewn academi yrru yn sir Benfro. Mae Go For It yn cynnal cyrsiau drwy Goleg Sir Benfro ac, yn ddiweddar, mae wedi cael car sgíd cyntaf Cymru. Bûm yn y car sgíd ac yr oedd yn agoriad llygad go iawn. Er y meddyliwch efallai y byddech yn gwybod beth i’w wneud petaech yn sgidio neu’n colli rheolaeth ar y llyw, nid ydych yn gwybod nes eich bod yn y sefyllfa honno. Yn anffodus, mae’n aml yn rhy hwyr i wybod.

One issue that the instructors were eager to raise with me was the lack of after-support

Un mater yr oedd yr hyfforddwyr yn awyddus i’w godi â mi oedd y diffyg ôl-ofal,

21

05/05/2009

for young and inexperienced drivers in particular. There is Pass Plus, but, after that, there is not a lot that caters for these drivers. Many small roads in mid and west Wales pose their own unique problems. Does the First Minister agree that driver training and safety needs to be in place at all times for every driver, but especially young and inexperienced drivers, and that people should not have to search for that instruction? Would the First Minister join me in congratulating Go For It’s initiative to help young people in Pembrokeshire to stay safe on those roads?

yn enwedig i yrwyr ifanc a gyrwyr dibrofiad. Ceir Pass Plus, ond, ar ôl hynny, nid oes llawer ar gyfer y gyrwyr hyn. Mae gan lawer o ffyrdd bach yn y canolbarth a’r gorllewin eu problemau unigryw eu hunain. A yw’r Prif Weinidog yn cytuno y dylid darparu ar gyfer diogelwch a hyfforddiant gyrwyr bob amser i bob gyrrwr, ond yn enwedig i yrwyr ifanc a dibrofiad, ac na ddylai pobl orfod chwilio am y cyfarwyddyd hwnnw? A fyddai’r Prif Weinidog, fel minnau, yn llongyfarch menter Go For It i helpu pobl ifanc sir Benfro i aros yn ddiogel ar y ffyrdd hynny?

The First Minister: I certainly agree that it is not all about the 20 mph limits. The aftercare of young drivers, who have a far higher rate of accidents and collisions than older drivers, is very important. Many of them take the Pass Plus test, but there is nothing beyond that. I agree that we should be encouraging the consideration of ways to reduce the much higher than average level of accidents we see among young people, to take them through to the stage where they have the necessary experience to avoid accidents and collisions.

Y Prif Weinidog: Yr wyf yn sicr yn cytuno bod mwy iddi na dim ond y terfynau 20mya. Mae'r ôl-ofal i yrwyr ifanc, sy’n gysylltiedig â mwy o ddamweiniau a gwrthdrawiadau o lawer na gyrwyr hŷn, yn bwysig iawn. Mae nifer ohonynt yn sefyll y prawf Pass Plus, ond nid oes dim ar ôl hynny. Cytunaf y dylem fod yn annog ystyried ffyrdd o leihau lefel y damweiniau ymhlith pobl ifanc, sy’n uwch o lawer na'r cyfartaledd, er mwyn mynd â hwy i'r cam lle mae ganddynt y profiad angenrheidiol i osgoi damweiniau a gwrthdrawiadau.

William Graham: First Minister, having regard to your original answer, is it not about time that your Government gave councils the authority to set appropriate speed limits on the roads under their control? At the moment, it is a blanket 60 mph on all rural roads, but it is about time that councils were allowed to decide to put in place lower limits on roads for which they have control.

William Graham: Brif Weinidog, ac ystyried eich ateb gwreiddiol, onid yw’n bryd i’ch Llywodraeth roi’r awdurdod i gynghorau bennu terfynau cyflymder priodol ar y ffyrdd y maent yn gyfrifol amdanynt? Ar hyn o bryd, 60mya yw’r terfyn cyflymder ar gyfer pob lôn wledig, ond mae'n hen bryd i gynghorau gael caniatâd i benderfynu rhoi terfynau is ar ffyrdd y maent yn eu rheoli.

The First Minister: The UK Government’s Department for Transport announced a few weeks ago a new consultation paper on a road safety strategy for Great Britain, called ‘A Safer Way’. We will help to take forward that consultation in Wales. We are talking to key Welsh stakeholders at the moment to obtain their view on the strategy’s impact. We have already received 111 responses to it, but we would welcome more. Ieuan, as the Minister responsible for transport issues, will forward those responses as part of a Welsh response to the Department for Transport consultation paper.

Y Prif Weinidog: Ychydig wythnosau’n ôl, cyhoeddodd Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU bapur ymgynghori newydd ar strategaeth diogelwch ar y ffyrdd ar gyfer Prydain Fawr o’r enw ‘A Safer Way’. Byddwn yn cynorthwyo i fynd â’r ymgynghoriad hwnnw rhagddo yng Nghymru. Ar hyn o bryd, yr ydym yn siarad â rhanddeiliaid allweddol o Gymru er mwyn cael eu safbwynt hwy ar effaith y strategaeth. Yr ydym eisoes wedi cael 111 ymateb iddo, ond byddem yn croesawu mwy. Bydd Ieuan, fel y Gweinidog sy’n gyfrifol am faterion yn ymwneud â thrafnidiaeth, yn anfon yr ymatebion hynny ymlaen fel rhan o ymateb Cymru i bapur ymgynghori’r Adran Drafnidiaeth.

22

05/05/2009

Chris Franks: First Minister, I welcome the announcement by the Minister for Heritage, Alun Ffred Jones, that Cardiff Council is to encourage its staff to walk and cycle more. One way in which the Welsh Government could encourage more people to cycle and walk to work is by ensuring improved road safety. There is a major safety issue for pedestrians at the waterfront in Barry, where there is no suitable crossing.

Chris Franks: Brif Weinidog, croesawaf y cyhoeddiad gan y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones, fod Cyngor Caerdydd am annog ei staff i gerdded ac i seiclo mwy. Un ffordd y gallai Llywodraeth Cymru annog mwy o bobl i seiclo a cherdded i’r gwaith yw sicrhau gwell diogelwch ar y ffyrdd. Mae glannau’r Barri yn broblem ddiogelwch ddifrifol i gerddwyr gan nad oes man croesi addas yno.

2.10 p.m.

What discussions has the Welsh Government had with the Vale of Glamorgan Council on improving road safety? I have been working with the community of Newtown, near Mountain Ash, along with Councillor Pauline Jarman, to improve road safety for children in the area. What discussions have you had with the Cabinet of Rhondda Cynon Taf County Borough Council about creating more 20 mph zones in that area?

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael gyda Chyngor Bro Morgannwg ynghylch gwella diogelwch ar y ffyrdd? Yr wyf fi, ynghyd â’r Cynghorydd Pauline Jarman, wedi bod yn gweithio gyda chymuned Newtown, ger Aberpennar, i wella diogelwch ar y ffyrdd i blant yn yr ardal. Pa drafodaethau yr ydych wedi’u cael gyda Chabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ynghylch creu mwy o barthau 20mya yn yr ardal honno?

The First Minister: It is open to every local authority to bid for more 20 mph zones. As I said earlier, there are 438 in operation already, and we have evaluated 270 of them, and they seem to be producing a big improvement. I cannot comment on specific cases; I will ask Ieuan to write to you on the particular issues in the Vale of Glamorgan and the Cynon valley, outlining whether any particular approaches have been taken in the locations that you mentioned. The general principle is that it is open to local authorities to bid for these zones, and that is something that we welcome, because when placed in appropriate locations, they are regarded almost as a guarantee of reducing accidents, collisions, casualties and, sadly, road deaths.

Y Prif Weinidog: Mae'n agored i bob awdurdod lleol i wneud cynnig am barthau 20mya. Fel y dywedais yn gynharach, ceir 438 yn barod. Yr ydym wedi gwerthuso 270 ohonynt, ac ymddengys eu bod yn gwella pethau’n fawr. Ni allaf roi sylwadau ar achosion penodol; gofynnaf i Ieuan ysgrifennu atoch ynghylch y materion penodol ym Mro Morgannwg ac yng Nghwm Cynon, yn amlinellu a aethpwyd ati mewn unrhyw ffyrdd penodol yn y lleoliadau a grybwyllasoch. Yr egwyddor gyffredinol yw ei bod yn agored i awdurdodau lleol wneud cynnig am y parthau hyn, ac mae hynny'n rhywbeth a groesawn, oherwydd pan gânt eu rhoi mewn lleoliadau addas, fe'u hystyrir yn ffordd o leihau damweiniau, gwrthdrawiadau, anafiadau a marwolaethau ar y ffordd.

Priorities Blaenoriaethau

Q6 Jenny Randerson: Will the First Minister give an update on his priorities for the next six months? OAQ(3)1917(FM)

C6 Jenny Randerson: A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei flaenoriaethau ar gyfer y chwe mis nesaf? OAQ(3)1917(FM)

The First Minister: As well as embarking on a very difficult budget round, our top economic priority is to lead Wales out of the

Y Prif Weinidog: Yn ogystal â dechrau ar gylch cyllideb anodd iawn, ein prif flaenoriaeth economaidd yw arwain Cymru

23

05/05/2009

recession and to position ourselves for the recovery. We are currently monitoring the swine flu situation and preparing to act as necessary, if and when it reaches Wales.

o’r dirwasgiad a pharatoi ein hunain at yr adferiad. Ar hyn o bryd, yr ydym yn monitro sefyllfa’r ffliw moch ac yn paratoi i weithredu yn ôl yr angen, os a phan fydd yn cyrraedd Cymru.

Jenny Randerson: One way of ensuring that we dig ourselves out of the current recession quicker than would otherwise be the case would be to concentrate money on skills, training and education, and, in particular, on the universities’ budgets, which are sorely stretched, and which should be an important economic driver in improving our economy. I am particularly concerned about notices of possible redundancies that have been issued at both Bangor University and Cardiff University. The latter worries me a great deal as the local Assembly Member; I am very concerned about the possible redundancy of up to 100 staff, and the ending of the entire humanities provision of the lifelong learning department. Have you had any contact with Cardiff University about its announcement? Have you given any consideration to its position in relation to the forthcoming equalities legislation to be introduced by the UK Government, which surely gives some protection to older people, the disabled and women from redundancy actions that might discriminate against them? Will you reconsider your higher education budget, having seen the effects of that budget cut across Wales?

Jenny Randerson: Un ffordd o sicrhau ein bod yn codi ein hunain o’r dirwasgiad presennol yn gyflymach fyddai canolbwyntio arian ar sgiliau, hyfforddiant ac addysg, ac, yn benodol, ar gyllidebau prifysgolion, sydd dan straen, ac a ddylai fod yn sbardun economaidd pwysig i wella ein heconomi. Yr wyf yn arbennig o bryderus am y rhybuddion diswyddo posibl sydd newydd eu rhoi ym Mhrifysgol Bangor ac ym Mhrifysgol Caerdydd. Fel yr Aelod Cynulliad lleol, mae’r olaf yn fy mhoeni’n fawr iawn; mae posibilrwydd diswyddo hyd at 100 o staff, a dirwyn y ddarpariaeth gyfan ar gyfer dyniaethau yn yr adran dysgu gydol oes i ben, yn peri pryder mawr imi. A ydych wedi cael unrhyw gyswllt â Phrifysgol Caerdydd ynghylch ei chyhoeddiad? A ydych wedi ystyried ei sefyllfa o gwbl o ran y ddeddfwriaeth gydraddoldeb a gyflwynir gyda hyn gan Lywodraeth y DU, sydd, bid siŵr, yn rhoi rhywfaint o warchodaeth i bobl hŷn, pobl anabl a menywod rhag camau dileu swyddi a allai wahaniaethu yn eu herbyn? A ailystyriwch eich cyllideb addysg uwch, ar ôl gweld effaith torri'r gyllideb honno ar Gymru gyfan?

The First Minister: I am not sure that we can reconsider a budget process that is just beginning. Clearly, the Minister for Children, Education, Lifelong Learning and Skills, Jane Hutt, who is listening to this exchange right now, will be conscious of the announcement that was made recently in relation to the lifelong learning sector. The budget round considerations will include a look at the funding of higher education, further education, work-based learning, key redundancy provision, and the preservation of skills and apprenticeships during difficult times. There is a whole raft of conflicting priorities, and we will have to see what happens when the budget round comes to an end in six months’ time.

Y Prif Weinidog: Nid wyf yn siŵr a allwn ailystyried proses cyllideb wrth iddi ddechrau. Yn amlwg, bydd y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Jane Hutt, sy’n gwrando ar y drafodaeth hon yn awr, yn ymwybodol o’r cyhoeddiad a wnaethpwyd yn ddiweddar ynghylch y sector dysgu gydol oes. Bydd ystyriaethau cylch y gyllideb yn cynnwys edrych ar ariannu addysg uwch, addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith, darpariaeth diswyddo allweddol, a chynnal sgiliau a phrentisiaethau mewn cyfnod anodd. Ceir llu o flaenoriaethau sy’n gwrthdaro â’i gilydd, a bydd yn rhaid inni weld beth sy’n digwydd pan ddaw cylch y gyllideb i ben ymhen chwe mis.

Alun Davies: I am sure that you agree that devolved Government is good for business.

Alun Davies: Yr wyf yn siŵr y cytunwch fod Llywodraeth ddatganoledig yn beth da i

24

05/05/2009

We all welcomed the news last week that private sector employment in Wales has increased by something like 12 per cent since the creation of the Assembly, and what better way to celebrate its tenth anniversary than with an increase of that sort? As you lead Wales out of recession, will you prioritise continued investment in people, so that we can expand that growth in private sector employment, and drive the Welsh economy out of recession by investing in the sort of economy that we want to see bringing prosperity to all parts of Wales when economic conditions improve?

fusnes. Croesawodd pob un ohonom y newyddion yr wythnos diwethaf bod cyflogaeth yn y sector preifat yng Nghymru wedi cynyddu rhywbeth fel 12 y cant ers creu’r Cynulliad, a pha well ffordd o ddathlu ei ben-blwydd yn ddeg oed na gyda chynnydd felly? Wrth ichi arwain Cymru o'r dirwasgiad, a roddwch flaenoriaeth i barhau i fuddsoddi mewn pobl, er mwyn inni allu cynyddu'r twf hwnnw yng nghyflogaeth y sector preifat, a sbarduno economi Cymru o’r dirwasgiad drwy fuddsoddi yn y math o economi y dymunwn ei gweld yn dod â ffyniant i bob rhan o Gymru pan fydd yr amgylchiadau economaidd yn gwella?

The First Minister: Those figures were notable in that they showed that, up to the beginning of the recession, roughly—and I enter that cautionary note—at face value, private sector employment has grown by 12 per cent and public sector employment by 8 per cent; in the rest of the UK, it would be the other way around. So, the old canard about us depending on the growth of public sector jobs is the reverse of the truth. It is true that our dependence on public sector employment, which we inherited, is still greater than it is in the rest of the UK, but there is no question that the direction of travel shows a much higher rate of growth in private than in public sector employment.

Y Prif Weinidog: Yr oedd y ffigurau hynny’n nodedig gan eu bod yn dangos, hyd at ddechrau’r dirwasgiad, yn fras—ac ychwanegaf y nodyn hwnnw rhag ofn—a chymryd eu bod yn gywir, fod cyflogaeth yn y sector preifat wedi tyfu 12 y cant ac mae cyflogaeth y sector cyhoeddus wedi tyfu 8 y cant; yng ngweddill y DU, fel arall a fyddai’r sefyllfa. Felly, mae'r hen chwedl wag ein bod yn dibynnu ar dwf swyddi'r sector cyhoeddus yn groes i'r gwir. Mae'n wir bod ein dibyniaeth ar gyflogaeth y sector cyhoeddus, a etifeddwyd gennym, yn dal yn fwy nag ydyw yng ngweddill y DU, ond nid oes dwywaith bod y cyfeiriad yr ydym yn symud ynddo yn dangos cyfradd uwch o lawer o dwf yng nghyflogaeth y sector preifat nag yng nghyflogaeth y sector cyhoeddus.

Alun Cairns: The First Minister’s and the Labour Party’s audacity is simply breathtaking. They are clutching at straws and the odd glimmer of good news that they can garner from terrible news. In response to Jenny Randerson, the First Minister said that he wanted to lead us out of recession, but if you look at the facts before us, it is clear that, in Wales, you are far more likely to be unemployed, to leave school with fewer qualifications and to have to wait longer for treatment. He said that he wanted to concentrate resources. Six months—the length of time outlined in the original question—is a short space of time. Would it not be honest of the First Minister to state clearly what cuts he is planning to make in the next six months and beyond as a result of the Chancellor’s budget? We are in a position where he needs to be honest with the

Alun Cairns: Mae hyfdra’r Prif Weinidog a’r Blaid Lafur yn gwbl syfrdanol. Maent yn cydio’n dynn yn yr ambell lygedyn o newyddion da y gallant ei gywain o newyddion ofnadwy. Mewn ymateb i Jenny Randerson, dywedodd y Prif Weinidog fod arno eisiau ein harwain allan o'r dirwasgiad, ond os edrychwch ar y ffeithiau o'n blaenau, mae'n amlwg eich bod, yng Nghymru, yn fwy tebygol o lawer o fod yn ddi-waith, i adael yr ysgol â llai o gymwysterau ac i orfod aros yn hwy i gael triniaeth. Dywedodd fod arno eisiau canolbwyntio adnoddau. Mae chwe mis—sef yr amser a amlinellwyd yn y cwestiwn gwreiddiol—yn gyfnod byr. Oni fyddai’r Prif Weinidog yn fwy gonest petai’n datgan yn glir pa doriadau y mae’n bwriadu eu gwneud dros y chwe mis nesaf a thu hwnt i hynny o ganlyniad i gyllideb y Canghellor? Yr ydym mewn sefyllfa lle mae angen iddo

25

05/05/2009

electorate and say that he will cut A, B or C. He has clearly not said that, so the statement made earlier about the Government’s dishonesty is frank and true and hits the First Minister straight between the eyes.

fod yn onest â'r etholaeth a dweud y bydd yn torri A, B neu C. Yn amlwg, nid yw wedi dweud hynny, felly mae'r datganiad a wnaethpwyd yn gynharach ynglŷn ag anonestrwydd y Llywodraeth yn ddidwyll ac yn wir ac yn gwbl amlwg i’r Prif Weinidog.

The First Minister: I think that we were making progress in that Nick Bourne kept throwing the word ‘dishonest’ across the Chamber and now Alun Cairns has changed it to ‘honest’. So there is a bit of progress on the Conservative benches.

Y Prif Weinidog: Credaf ein bod yn gwneud cynnydd, gan yr oedd Nick Bourne yn mynnu taflu’r gair ‘anonest’ ar draws y Siambr ac yn awr mae Alun Cairns wedi newid y gair i ‘gonest’. Felly ceir rhywfaint o gynnydd ar feinciau’r Ceidwadwyr.

When I hear the Conservatives bemoan the state of unemployment, I feel I must remind Alun that the state of unemployment today in Wales is lower than it was in 17 out of the 18 Tory years between 1979 and 1997. It is not only lower than the average of those years, but lower than it was during the entire 12 months of each of those 17 years. Only for 10 months was unemployment lower than it is today, namely between June 1979 and April 1980, before Tory economic policies had had a real chance to take effect. So, we know all about the Tory unemployment record; do not try to persuade the people of Wales that you are great at reducing unemployment when we know what your record is. That is a matter on which you need to be completely honest with the people of Wales.

Pan glywaf y Ceidwadwyr yn cwyno am lefel diweithdra, teimlaf ei bod yn rhaid imi atgoffa Alun bod lefel diweithdra yng Nghymru heddiw yn is nag yr oedd yn 17 o'r 18 mlynedd y bu'r Torïaid mewn grym rhwng 1979 a 1997. Nid yn unig y mae'n is na chyfartaledd y blynyddoedd hynny, ond yn is nag yr oedd drwy gydol 12 mis pob un o'r 17 mlynedd hynny. Dim ond am 10 mis yr oedd diweithdra’n is nag yr ydyw heddiw, sef rhwng Mehefin 1979 ac Ebrill 1980, cyn i bolisïau economaidd y Torïaid gael cyfle gwirioneddol i gael effaith. Felly, gwyddom bopeth am hanes y Torïaid gyda diweithdra; peidiwch â cheisio perswadio pobl Cymru eich bod yn wych am leihau diweithdra a ninnau'n gwybod beth yw eich hanes. Mae hwnnw'n fater y mae'n rhaid ichi fod yn gwbl onest â phobl Cymru yn ei gylch.

On the figures that I outlined earlier, I do not know whether you agree or disagree with them or whether you welcome them, but cannot bring yourself to say so. However, figures on private sector employment up to the commencement of the recession—we do not have the figures for after that time, but clearly they will not be as good—show that it has increased by 12 per cent in Wales. Public sector employment has increased by 8 per cent. In the rest of the UK, things are the other way around: public sector employment has increased faster than private sector employment. I do not know whether or not you welcome that.

Ynghylch y ffigurau a amlinellwyd gennyf yn gynharach, ni wn pa un ai a ydych yn cytuno neu’n anghytuno â hwy, ynteu a ydych yn eu croesawu, ond yn methu’n glir â dweud hynny. Fodd bynnag, mae ffigurau ar gyflogaeth y sector preifat hyd at ddechrau’r dirwasgiad—nid yw’r ffigurau gennym ar gyfer y cyfnod wedi hynny, ond yn amlwg ni fyddant cystal—yn dangos ei fod wedi cynyddu 12 y cant yng Nghymru. Mae cyflogaeth y sector cyhoeddus wedi cynyddu 8 y cant. Yng ngweddill y DU, fel arall y mae’r sefyllfa: mae cyflogaeth y sector cyhoeddus wedi cynyddu’n gyflymach na chyflogaeth y sector preifat. Ni wn pa un ai a groesawch hynny ai peidio.

Rhodri Glyn Thomas: Yr oedd cwestiwn gwreiddiol Jenny Randerson yn gofyn am flaenoriaethau ar gyfer y chwe mis nesaf. Awgrymodd yn ei chwestiwn atodol y dylid

Rhodri Glyn Thomas: Jenny Randerson’s original question asked about the priorities for the next six months. In her supplementary question she suggested that priority should be

26

05/05/2009

rhoi blaenoriaeth yn y gyllideb addysg i addysg uwch. Mewn gwasgfa ariannol, a fydd yr arian hwnnw’n dod o’r arian a glustnodwyd ar gyfer sgiliau yn y gweithlu, er enghraifft, gyda chynlluniau ReAct a ProAct; a fydd yn dod o’r £9 miliwn ychwanegol a sicrhawyd ar gyfer addysg bellach yng Nghymru gan y Gweinidog; ynteu a fydd yn dod o’r cyfnod sylfaen? Onid yw’n bryd i’r gwrthbleidiau ddweud o ble yn union y daw’r arian hwn os ydynt am flaenoriaethu gwahanol elfennau o fewn y gyllideb? Ymddengys i mi fod Alun Cairns am flaenoriaethu popeth—mae’n dweud ein bod yn wynebu gwasgfa ariannol, ond ar yr un pryd mae am wario ymhob adran bosibl o’r Llywodraeth. Onid oes angen ychydig o onestrwydd oddi wrth y gwrthbleidiau? Os ydynt am symud arian o fewn y gyllideb, rhaid iddynt ddweud wrthym o ble y daw’r arian, i ble y dylai fynd a phwy fydd ar ei golled o ganlyniad i hynny.

given in the education budget to higher education. In times of financial pressure, will that money come from money that has been allocated for workforce skills, for example, with the ReAct and ProAct schemes; will it come from the additional £9 million secured by the Minister for further education in Wales; or will it come from the foundation phase? Is it not time for the opposition parties to say where exactly that money will come from if they want to prioritise different elements within the budget? It seems to me that Alun Cairns wants to prioritise everything—he says that we are facing financial pressure, but at the same time he wants to spend money in every Government department possible. Is it not time for some honesty from the opposition parties? If they want money to be moved within the budget, the must tell us where that money will come from, where it should go and who will lose out as a result.

Y Prif Weinidog: Mae hwnnw’n bwynt hollol ddoeth. Pan fydd yn rhaid dewis a blaenoriaethu mewn Llywodraeth, ni allwch ddweud ‘ie’ i bopeth. Weithiau mae’r gwrthbleidiau yn gofyn cwestiynau imi ac yr wyf yn gorfod gwahaniaethu rhwng cwestiynau lobïo a chraffu. Mae craffu’n hollol deg, ond weithiau mae gofyn imi ateb cwestiynau lobïo, er enghraifft, pan fo Aelod yn lobïo ar ran un corff sy’n ofni toriadau ac felly mae’n gofyn imi achub y corff hwnnw rhag y toriadau a gyhoeddwyd.

The First Minister: That is a very wise point. When a Government has to choose and prioritise, you cannot say ‘yes’ to everything. Sometimes the opposition parties ask us questions and I have to differentiate between lobbying questions and scrutiny. Scrutiny is totally fair, but sometimes I am required to answer lobbying questions, for example, when a Member lobbies on behalf of an organisation which fears cuts and is therefore asking me to save that organisation from the announced cuts.

2.20 p.m.

Yr ydym ni’n darllen y papurau dyddiol fel hwythau ac yr ydym yn gweld y storïau ar y newyddion ar y teledu, ond nid yw hynny’n golygu ein bod yn gallu gwrthdroi pob toriad a wnaethpwyd ym mhob corff cyhoeddus sy’n paratoi ar gyfer y flwyddyn nesaf.

We read the daily papers, as they do, and we see the news stories on the television, but that does not mean that you can reverse every cut for every public organisation which is planning for next year.

The Knowledge Economy Yr Economi Wybodaeth

Q7 David Melding: Will the First Minister make a statement on the knowledge economy in Wales during a period of recession? OAQ(3)1935(FM)

C7 David Melding: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr economi wybodaeth yng Nghymru yn ystod cyfnod o ddirwasgiad? OAQ(3)1935(FM)

The First Minister: It is important that knowledge-based businesses are assisted wherever possible during the recession, as

Y Prif Weinidog: Mae’n bwysig bod busnesau sy’n seiliedig ar wybodaeth yn cael cymorth lle bynnag y bydd modd yn ystod y

27

05/05/2009

they will be the key to the recovery. Certain life-science types of businesses are particularly important during a recession because they tend to be much more recession-proof than other industries.

dirwasgiad, oherwydd byddant yn allweddol i’r adferiad. Mae mathau penodol o fusnesau gwyddor bywyd yn arbennig o bwysig yn ystod dirwasgiad oherwydd maent yn tueddu i fod yn fwy diogel o lawer rhag y dirwasgiad na diwydiannau eraill.

David Melding: You may have learnt from the example of some of the Scandinavian countries. I am thinking of Finland in particular, which had an economic hiatus in the early 1990s and decided to reshape much of its spending and support for the economy, to invest in Master’s degrees and PhDs, and small and medium-sized enterprises that could develop new industries in science parks so that people could swap jobs and stay in these exciting sectors. There is a lot of evidence that Government interventions around that part of the economy and higher education provide a good return, in time, and build up the indigenous strength of the economy. Should we not now be refocusing some of our spend in the economic development department on that type of investment for the future?

David Melding: Efallai eich bod wedi dysgu o esiampl rhai o wledydd Sgandinafia. Yr wyf yn meddwl am y Ffindir yn benodol, a gafodd fwlch economaidd yn y 1990au cynnar a phenderfynu ail-lunio’r rhan fwyaf o’i gwario a’i chefnogaeth i’r economi, er mwyn buddsoddi mewn graddau Meistr a PhD, ac mewn busnesau bach a chanolig a allai ddatblygu diwydiannau newydd mewn parciau gwyddoniaeth er mwyn i bobl allu cyfnewid swyddi ac aros yn y sectorau cyffrous hyn. Ceir llawer o dystiolaeth bod ymyriadau gan y Llywodraeth o gwmpas y rhan honno o'r economi ac addysg uwch yn darparu elw da, ymhen amser, ac yn adeiladu cryfder cynhenid yr economi. Oni ddylwn yn awr fod yn newid ffocws rhywfaint o’n gwariant ym maes datblygu economaidd ar y math hwnnw o fuddsoddi ar gyfer y dyfodol?

The First Minister: You are right that Finland constitutes an interesting example of how to recover from a single-country recession or a recession that affected only a group of countries, such as the Nordic countries. People will remember how badly Finland was hit by the collapse of the old Soviet Union because it was a major provider of industrial mid-tech and low-tech products to the Soviet Union. When the Soviet Union disappeared, there was 19 per cent unemployment in Finland the following year. Finland recovered extremely well, with the assistance of some big companies, like Nokia, and many small companies in these technopoles to encourage spin-outs from universities. Of course, the advantage that they had was that it was only Finland and Sweden that were experiencing a really severe recession, while the rest of the five continents were doing reasonably well. It is much harder to do that when the whole world is suffering from a recession, as it is doing at the moment. However, there are some very important examples from the Nordic countries that we need to copy.

Y Prif Weinidog: Yr ydych yn gywir bod y Ffindir yn enghraifft ddiddorol o sut mae dod dros ddirwasgiad a effeithiodd ar un wlad neu ar grŵp o wledydd yn unig, megis y gwledydd Llychlynnaidd. Bydd pobl yn cofio pa mor wael yr effeithiodd cwymp yr hen Undeb Sofietaidd ar y Ffindir am ei bod yn brif ddarparwr cynnyrch diwydiannol technoleg isel a thechnoleg ganolig i’r Undeb Sofietaidd. Pan ddiflannodd yr Undeb Sofietaidd, yr oedd 19 y cant yn ddi-waith yn y Ffindir y flwyddyn olynol. Daeth y Ffindir dros hynny’n hynod o dda, gyda chymorth rhai o’r cwmnïau mawr, megis Nokia, a nifer o gwmnïau bach yn y tecnopolau hyn er mwyn ysgogi cwmnïau i ddeillio o brifysgolion. Wrth gwrs, y fantais a oedd ganddynt oedd mai dim ond y Ffindir a Sweden a oedd yn dioddef dirwasgiad difrifol iawn, tra’r oedd gweddill y pum cyfandir yn gwneud yn rhesymol dda. Mae’n anos o lawer gwneud hynny pan fydd y byd i gyd yn dioddef dirwasgiad, fel y mae ar hyn o bryd. Fodd bynnag, ceir rhai enghreifftiau pwysig iawn gan y gwledydd Llychlynnaidd y mae angen inni eu hefelychu.

Lesley Griffiths: In February this year, Lesley Griffiths: Ym mis Chwefror eleni,

28

05/05/2009

Wales’s newest university, Glyndŵr University in Wrexham, unveiled a bold and visionary plan to create a new knowledge-industry corridor in north-east Wales, linking Glyndŵr’s Wrexham and Northop campuses with Technium OpTIC in St Asaph, working with cutting-edge industries locally to re-energise research and development in the region. Do you agree that this kind of thinking and imaginative approach taken by Glyndŵr University is precisely what is needed to ensure that Wales emerges from the economic downturn with confidence and optimism for the future?

cyhoeddodd prifysgol ieuengaf Cymru, Prifysgol Glyndŵr yn Wrecsam, gynllun dewr ac arloesol i greu coridor diwydiant gwybodaeth newydd yng ngogledd-ddwyrain Cymru, sy’n cysylltu campysau Prifysgol Glyndŵr yn Wrecsam a Llaneurgain â Technium OpTIC yn Llanelwy, gan weithio gyda diwydiannau lleol sydd ar flaen y gad er mwyn ailsbarduno ymchwil a datblygu yn y rhanbarth. A gytunwch mai'r math hwn o feddwl a'r dull gweithredu llawn dychymyg hwn a gymrodd Prifysgol Glyndŵr yw’r union bethau y mae eu hangen i sicrhau y bydd Cymru’n codi o’r dirywiad economaidd yn llawn hyder a gobaith at y dyfodol?

The First Minister: It is not only me who admires what has been done at Technium OpTIC at St Asaph, even before Glyndŵr University took it over, because it won a European award for being the outstanding example of a technology-based regional development initiative. Since it has the advantage of having the university behind it, I think that it will go from strength to strength and that is exactly the kind of imaginative thinking that we need not only to help preserve an area of technology where Wales has led the world now for many years, but to take it forward into the later years of the twenty-first century.

Y Prif Weinidog: Nid fi yn unig sy'n edmygu'r hyn sydd wedi'i wneud yn Technium OpTIC yn Llanelwy, hyd yn oed cyn i Brifysgol Glyndŵr ei feddiannu, oherwydd enillodd wobr Ewropeaidd am fod yr enghraifft orau o fenter datblygu rhanbarthol sy’n seiliedig ar dechnoleg. Gan fod ganddo'r fantais bod y brifysgol yn gefn iddo, credaf y bydd yn mynd o nerth i nerth a dyna’r union fath o feddwl llawn dychymyg y mae arnom ei angen, nid yn unig i helpu i ddiogelu maes technolegol lle mae Cymru wedi arwain y byd ers blynyddoedd lawer bellach, ond i’w ddatblygu ymhell i’r unfed ganrif ar bymtheg.

Nerys Evans: Mae rôl sefydliadau addysg bellach hefyd yn hanfodol i sicrhau bod gan bobl y sgiliau sydd eu hangen ar ein heconomi. Mae’n bwysig yn awr, yn ystod y cyfnod hwn o ddirwasgiad, ac wrth baratoi ar gyfer dod allan o’r dirwasgiad. Yr wyf yn croesawu’n fawr yr arian ychwanegol a gyhoeddwyd ar gyfer sefydliadau addysg bellach ar ôl yr uwchgynhadledd economaidd ddiwethaf. A allwch roi sicrwydd inni y bydd y sefydliadau hyn yn cael eu hariannu’n ddigonol yn y dyfodol i sicrhau bod y sgiliau hyn yn cael eu datblygu?

Nerys Evans: The role of further education institutions is also essential to ensure that people have the skills that our economy need. It is important now, during this period of recession, and in preparing to come out of the recession. I therefore very much welcome the additional funding announced for further education institutions following the last economic summit. Can you give us some assurance that these institutions will be adequately funded in the future to ensure the development of these skills?

Y Prif Weinidog: Yr wyf wedi sôn am enghreifftiau megis ReAct a ProAct, cronfa JEREMIE—y cyntaf o’i bath ar draws Ewrop ac sy’n cael ei chefnogi gan Fanc Buddsoddi Ewrop—a hefyd y gronfa i gynnal prentisiaethau yn ystod y dirwasgiad lle mae’r sector preifat yn tynnu yn ôl. Mae’r arian yr ydym wedi cael gafael arno, neu sydd wedi ei glustnodi ar gyfer y camau

The First Minister: I have given examples such as ReAct and ProAct, the JEREMIE fund—the first of its kind in Europe which is supported by the European Investment Bank—and also the fund to support apprenticeships during the recession where the private sector withdraws. The money that we have secured, or which has been allocated for those purposes, amounts to £250 million.

29

05/05/2009

hynny, yn dod i gyfanswm o £250 miliwn. Mae 80 y cant o’r swm hwnnw’n dod o Ewrop, felly mae’n bwysig ein bod yn parhau i gael naill ai benthyciadau neu grantiau o Ewrop er mwyn parhau â’r camau hyn sy’n cynnal yr economi ac sy’n ei pharatoi ar gyfer y gwelliant sydd i ddod.

Eighty percent of that sum comes from Europe, so it is important that we continue to receive loans or grants from Europe in order to continue with these steps to support the economy and to prepare for the upturn when it comes.

Y Llywydd: Trosglwyddwyd cwestiwn 8, OAQ(3)1924(FM), i’w ateb yn ysgrifenedig. Tynnwyd cwestiynau 9, OAQ(3)1928(FM), a 10, OAQ(3)1938(FM), yn ôl.

The Presiding Officer: Question 8, OAQ(3)1924(FM), has been transferred for written answer. Questions 9, OAQ(3)1928(FM), and 10, OAQ(3)1938(FM), are withdrawn.

The 2010 National Eisteddfod Eisteddfod Genedlaethol 2010

Q11 Trish Law: Will the First Minister make a statement on funding for the 2010 national eisteddfod? OAQ(3)1939(FM)

C11 Trish Law: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid ar gyfer eisteddfod genedlaethol 2010? OAQ(3)1939(FM)

The First Minister: Leighton Andrews, the Deputy Minister for Regeneration, has announced the earmarking of up to £300,000 in financial support for the 2010 Blaenau Gwent eisteddfod through the Heads of the Valleys programme.

Y Prif Weinidog: Mae Leighton Andrews, y Dirprwy Weinidog dros Adfywio, wedi cyhoeddi y bydd gwerth hyd at £300,000 mewn cymorth ariannol yn cael ei glustnodi ar gyfer eisteddfod Blaenau Gwent yn 2010 drwy raglen Blaenau’r Cymoedd.

Trish Law: A £300,000 grant was granted by the Deputy Minister for Regeneration in recognition of the huge struggle that it would take to raise that amount of money in the community of Blaenau Gwent. However, still outstanding is the £188,000 extra funding recommended by independent accountancy firm Grant Thornton. One can deduce from that the National eisteddfod is being underfunded by the Assembly Government via the Welsh Language Board. I note that the Minister has awarded a one-off sum of £100,000 to the eisteddfod in Bala this year because of its rurality. Will you and your Government colleagues consider making this an annual award as a step towards making good the current underfunding of £188,000? We in Blaenau Gwent do not want to be short-changed again by this Government in 2010.

Trish Law: Rhoddodd y Dirprwy Weinidog dros Adfywio grant gwerth £300,000 i gydnabod yr ymdrech anferth y byddai ei hangen i godi’r swm hwnnw o arian yng nghymuned Blaenau Gwent. Fodd bynnag, mae dal angen y £188,000 o gyllid ychwanegol a argymhellodd y cwmni cyfrifyddu annibynnol, Grant Thornton. Gellir casglu ar sail hynny nad yw’r eisteddfod genedlaethol yn cael digon o gyllid gan Lywodraeth y Cynulliad drwy Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Sylwaf fod y Gweinidog wedi dyfarnu un swm o £100,000 i’r eisteddfod yn y Bala eleni oherwydd natur wledig yr ardal. A wnewch chi a'ch cyd-Weinidogion yn y Llywodraeth ystyried gwneud hwn yn ddyfarniad blynyddol, fel cam ymlaen at wneud iawn am y £188,000 sy’n brin o’r cyllid presennol? Nid oes arnom ni ym Mlaenau Gwent eisiau cael ein camarwain unwaith eto gan y Llywodraeth hon yn 2010.

The First Minister: I do not know about ‘short-changing’. I am not sure what the definition of ‘short-changing’ is, because, as you correctly say, the Bala eisteddfod in 2009 will get a one-off sum of £100,000, and

Y Prif Weinidog: Nid wyf yn siŵr am ‘gamarwain’. Nid wyf yn siŵr beth yw’r diffiniad o ‘gamarwain’, oherwydd, fel y dywedwch, ac yr ydych yn llygad eich lle, bydd eisteddfod y Bala yn 2009 yn cael un

30

05/05/2009

the Blaenau Gwent eisteddfod, which will be held the following year, will get £300,000. That is exclusive of the assistance that the Welsh Language Board gives. That normally runs at just under £0.5 million. Therefore, I do not think that anybody could say that we are short-changing the National eisteddfod, unless the concept of short-changing is not giving a blank cheque. Clearly, there cannot be blank cheques in Government, for reasons that Rhodri Glyn Thomas made absolutely clear two minutes ago.

taliad o £100,000, a bydd eisteddfod Blaenau Gwent, a gynhelir y flwyddyn olynol, yn cael £300,000. Nid yw hynny’n cynnwys y cymorth a roddir gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Bydd hynny fel arfer fymryn yn llai na £0.5 miliwn. Felly, ni chredaf y gallai unrhyw un ddweud ein bod yn camarwain yr eisteddfod genedlaethol, oni bai mai ystyr camarwain yw peidio â rhoi siec wag. Yn amlwg, ni ellir cael sieciau gwag yn y Llywodraeth, am y rhesymau a esboniodd Rhodri Glyn Thomas yn gwbl glir ddau funud yn ôl.

Alun Davies: Croesawaf y ffaith bod y Llywodraeth wedi sicrhau’r arian hwn i’r ŵyl genedlaethol. Credaf fod pob un ohonom sydd yn mynychu’r eisteddfod yn flynyddol ac yn deall yr eisteddfod yn gwybod ei bod yn ddiolchgar iawn am yr arian hwn ac am y cymorth yn mae’n ei dderbyn yn flynyddol gan y Llywodraeth.

Alun Davies: I welcome the fact that the Government has secured this money for the national festival. I think that every one of us who attends the eisteddfod annually and who understands the eisteddfod knows that it is very grateful for this money and for the support it receives annually from the Government.

Brif Weinidog, gofynnaf ichi sicrhau bod yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio i sicrhau y bydd yr eisteddfod ym Mlaenau Gwent yn llwyddiant a’i bod yn rhan o raglen i adnewyddu’r ardal. Gofynnaf ichi hefyd sicrhau bod y gwaith y mae’r Dirprwy Weinidog yn ei wneud yn parhau, nid dim ond ar gyfer wythnos yr ŵyl ond ar ôl yr ŵyl hefyd.

First Minister, I ask you to ensure that this money will be used to make the eisteddfod in Blaenau Gwent a success and that it is part of a programme to regenerate the area. I also ask you to ensure that the work undertaken by the Deputy Minister continues, not only for the week of the festival, but after the festival.

Y Prif Weinidog: Mae Leighton Andrews, y Dirprwy Weinidog, eisoes wedi cyhoeddi’r grant, a bydd penderfyniad gan Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn nes ymlaen yn ystod ei drafodaethau cyllidebol. Bydd yn gwneud hynny yn ei amser ei hun. Yr hyn sydd yn bwysig am y grant a gyhoeddodd Leighton Andrews yw ei fod yn ddibynnol ar ffactorau eraill. Gobeithio y bydd cronfa leol yn cael ei chasglu drwy weithgareddau lleol, fel y bydd yn digwydd yn y Bala eleni. O ran llwyddiant yr eisteddfod ym Mlaenau Gwent, yr ydym i gyd yn cofio’r eisteddfod fythgofiadwy a gynhaliwyd ychydig dros hanner canrif yn ôl, a’r cyngerdd lle yr ymddangosodd Aneurin Bevan a Paul Robeson—yr oedd hynny cyn i’r rheol iaith fodoli. Yr oedd hynny’n rhan fythgofiadwy o hanes yr eisteddfod.

The First Minister: Leighton Andrews, the Deputy Minister, has already announced the grant, and there will be a decision by the Welsh Language Board during its budgetary discussions later on. That will be done in the board’s own time. The important point about the grant that Leighton Andrews announced is that it is dependent of other factors. It is hoped that a local fund will be collected from local activities, as will happen in Bala this year. On the success of the Blaenau Gwent eisteddfod, we all remember the unforgettable eisteddfod that was held just over half a century ago, and the concert featuring Aneurin Bevan and Paul Robeson—that was before the introduction of the language rule That was an unforgettable part of the history of the eisteddfod.

Paul Davies: Mae’n hollbwysig bod un o ddigwyddiadau mwyaf diwylliannol Ewrop yn cael ei ariannu’n ddigonol. Derbyniaf fod

Paul Davies: It is vitally important that one of Europe’s largest cultural events is adequately funded. I accept that that is

31

05/05/2009

hynny’n anodd o fewn setliad ariannol tyn a’i bod yn amhosibl ariannu popeth. Fodd bynnag, mae’r eisteddfod yn cyfrannu yn helaeth at economi leol yr ardal lle y’i cynhelir. A ydych yn derbyn bod yr eisteddfod yn cyfrannu’n helaeth at economi Cymru yn ogystal ag at ein diwylliant a bod achos, felly, i sicrhau bod yr eisteddfod yn cael ei hariannu’n ddigonol yn y blynyddoedd nesaf?

difficult within a tight financial settlement and that it is impossible to fund everything. However, the eisteddfod makes a significant contribution to the economy of the area where it is held. Do you accept that the eisteddfod makes a significant contribution to the Welsh economy as well as to our culture and that there is a case to be made for ensuring that the eisteddfod is adequately funded over the next few years?

2.30 p.m.

Y Prif Weinidog: Mae pawb yn derbyn hynny. Yn ôl yr amcangyfrifon, mae’n dod ag £8 miliwn i’r economi leol, yn y sir lle y’i cynhelir. Y brif ŵyl ddiwylliannol symudol yn Ewrop yw hi, ac mae costau ychwanegol am ei bod yn symud o sir i sir. Mae’n rhaid inni ei hariannu o’r herwydd, ac oherwydd pwysigrwydd yr hyn y mae’n ei rhoi’n ddiwylliannol ac yn economaidd i’r sir. Nid yw hynny’n cyfiawnhau rhoi siec wag iddi ei llanw yn ôl y gofyn; rhaid profi’r gwerth, faint a godir yn lleol, ac a ellir dod o hyd i arian cyfatebol i’r hyn yr ydym yn ei roi—hynny yw, ‘Os rhown darged ichi, gallem ni dderbyn y targed hwnnw; bwriwch ati yn awr i godi’ch arian yn lleol hefyd’.

The First Minister: Everyone accepts that. According to the estimates, it brings around £8 million to the local economy, in the county where it is held. It is the main mobile cultural festival in Europe, and there are additional costs due to the fact that it moves from county to county. We have to fund the festival because of this, and because of the importance its cultural and economic contribution to the county. That is no justification for providing it with a blank cheque for it to fill out at required; its value must be proven, how much is raised locally needs to be looked at, and whether match funding can be found for the sum that we provide—in other words, ‘If we give you a target, we could accept that target; go ahead and raise funds locally too’.

Bethan Jenkins: Yr ydym wedi cydnabod effaith yr eisteddfod ar yr economi ac ar ddiwylliant Cymru. Beth yw cynlluniau’r Llywodraeth i gyfathrebu ei neges yn yr eisteddfod yng nghyd-destun cynnal mwy o sesiynau, ymgynghori â’r eisteddfod a hybu’r hyn y mae’r Llywodraeth yn ei wneud yn ardaloedd megis Blaenau Gwent lle, efallai, mae pobl yn meddwl nad yw’r Llywodraeth yn cyfathrebu mor effeithiol ag y gallai?

Bethan Jenkins: We have recognised the impact of the eisteddfod on the economy and the culture of Wales. What are the Government’s plans to convey its message in the eisteddfod in the context of holding more sessions, consulting with the eisteddfod and promoting what the Government is doing in areas such as Blaenau Gwent where, perhaps, people think that the Government does not communicate as effectively as it could?

Pa gynlluniau sydd i annog pobl nad ydynt yn siarad Cymraeg i ddod i’r maes? Yr wyf wedi clywed gan bobl sy’n teimlo nad ydynt yn berchen ar yr eisteddfod gan nad ydynt yn siarad Cymraeg. Hoffent deimlo bod yr eisteddfod yr un mor bwysig iddynt ag y mae i bobl sy’n siarad Cymraeg.

What plans are in place to encourage non-Welsh speakers to come to the maes? I have heard from some people who feel that the eisteddfod does not belong to them as they are not Welsh speakers. They would like to think that the eisteddfod is just as important to them as it is to Welsh speakers.

Y Prif Weinidog: Mae dau beth. Canolbwynt araith Leighton Andrews wrth gyhoeddi’r £300,000 oedd bod y swm hwnnw wrth wraidd yr ymgyrch i ddarbwyllo

The First Minister: There are two points. The crux of Leighton Andrews’s speech when he announced the £300,000 was that that sum was at the core of the campaign to

32

05/05/2009

pobl â’u hachau yn y Cymoedd—ac nid ym Mlaenau Gwent yn unig—ddod yn ôl i’r Cymoedd yn 2010, yn debyg i’r hyn y mae’r Alban yn ei wneud eleni oherwydd daucanmlwyddiant a hanner ers geni Robert Burns. Yr ydym am wneud rhywbeth tebyg i ddenu pobl yn ôl i’r Cymoedd, yn gysylltiedig â’r eisteddfod a Chwpan Ryder yng Nghasnewydd a gynhelir ar yr un adeg o’r un flwyddyn. Mae sawl rheswm felly pam y dylem allu darbwyllo pobl i ddod ôl yn eu miloedd i Flaenau Gwent yn ystod yr haf hwnnw.

persuade people whose roots are in the Valleys—not just in Blaenau Gwent—to return there during 2010, similar to what Scotland is doing this year due to the two hundred and fiftieth anniversary of the birth of Robert Burns. We want to do something similar to attract people back to the Valleys, in connection with the eisteddfod and the Ryder Cup in Newport which is held at the same time during the same year. Therefore, there are a number of reasons why we should persuade people to return in their thousands to Blaenau Gwent during that summer.

O ran pobl ddi-Gymraeg yr ardal, yn ôl yn 1958 pan oedd yr eisteddfod yno ddiwethaf, nid oedd rheol iaith. Nid wyf am dynnu gormod o gymhariaeth â hynny o beth, ond mae eisteddfod 1958 yn para’n fyw yng nghof pobl Blaenau Gwent a phobl ar draws Cymru. Fodd bynnag, mater i awdurdodau’r eisteddfod yw penderfynu sut mae helpu pobl ddi-Gymraeg i deimlo’n rhan o’r brifwyl.

As regards the non-Welsh speakers in the area, back in 1958 when the eisteddfod was last there, there was no language rule. I do not want to draw too much of a comparison in that respect, but the memory of the 1958 eisteddfod is still alive in the minds of the people of Blaenau Gwent and people across Wales. However, it is a matter for the eisteddfod authorities to decide how to help non-Welsh speakers to feel part of the festival.

Datganiad a Chyhoeddiad BusnesBusiness Statement and Announcement

The Counsel General and Leader of the House (Carwyn Jones): I have one change to report to this week’s planned Government business. Tomorrow afternoon, the Minister for Health and Social Services will make a statement giving an update on the swine flu outbreak.

Y Cwnsler Cyffredinol ac Arweinydd y Tŷ (Carwyn Jones): Mae gennyf un newid i’w adrodd i fusnes y Llywodraeth fel y’i cynlluniwyd ar gyfer yr wythnos hon. Brynhawn yfory, bydd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad i roi’r wybodaeth ddiweddaf am yr achosion o’r ffliw moch.

Business for the next three weeks is as set out on the business statement and announcement, which can be found among the agenda papers that are available to Members electronically.

Mae’r busnes am y tair wythnos nesaf fel y’i nodwyd yn y datganiad a’r cyhoeddiad busnes, sydd i’w gweld ymysg y papurau agenda sydd ar gael i’r Aelodau’n electronig.

I have one item to add. A motion to approve a welfare reform Bill legislative consent motion under Standing Order No. 26 will be taken next Tuesday, 12 May. I was unable this morning to inform the Business Committee of this, as the matter was not quite ready. It is now ready, and I take this opportunity to inform the Assembly of the intention to table that motion.

Mae gennyf un eitem i’w hychwanegu. Bydd cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 26 i gymeradwyo cynnig cydsyniad deddfwriaethol sy’n rhan o’r Mesur diwygio lles yn cael ei gymryd ddydd Mawrth nesaf, 12 Mai. Nid oedd modd imi hysbysu’r Pwyllgor Busnes o hyn y bore yma, gan nad oedd y mater yn barod. Mae’n barod erbyn hun, ac achubaf ar y cyfle hwn i hysbysu’r Cynulliad o’r bwriad i gyflwyno’r cynnig hwnnw.

33

05/05/2009

Nick Bourne: Will the Leader of the House arrange for the First Minister to make a statement or send a letter on behalf of the Welsh Assembly Government and, probably, the wider Assembly, in relation to the Gurkhas and the dreadful decision of the Government at Westminster last week not to allow Gurkhas who have not been here since before 1997 to settle here as a matter of right after selfless service to this country? He will know of the many Gurkhas who are stationed in Brecon, where they are honorary citizens of the town. There is strong feeling about this matter across parties. While realising that this is not a devolved issue, in view of the Gurkhas’ historic links with Brecon and Wales, can the Leader of the House speak to the First Minister to see whether a statement can be made or a letter sent?

Nick Bourne: A wnaiff Arweinydd y Tŷ drefnu i’r Prif Weinidog wneud datganiad neu i anfon llythyr ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru ac, yn ôl pob tebyg, y Cynulliad ehangach, ynglŷn â’r Gurkhas a phenderfyniad ofnadwy’r Llywodraeth yn San Steffan yr wythnos diwethaf i beidio â chaniatáu i Gurkhas sydd wedi bod yma ers cyn 1997 ymgartrefu yma fel mater o hawl ar ôl eu gwasanaeth diarbed i’r wlad hon? Bydd yn gwybod am y Gurkhas niferus sydd wedi’u lleoli yn Aberhonddu, lle maent yn ddinasyddion anrhydeddus o’r dref. Mae teimlad cryf ynglŷn â’r mater hwn ar draws y pleidiau. Er fy mod yn sylweddoli nad yw hwn yn fater datganoledig, ac ystyried cysylltiadau hanesyddol y Gurkhas ag Aberhonddu a Chymru, a wnaiff Arweinydd y Tŷ siarad â’r Prif Weinidog i weld a oes modd gwneud datganiad neu anfon llythyr?

Carwyn Jones: The Gurkhas played a significant role during the foot and mouth disease outbreak, providing help, as did many members of the armed forces across Wales. I note what Parliament said last week; it is not a devolved matter, but Members are free to express their own views on the decision taken by the Government in London.

Carwyn Jones: Chwaraeodd y Gurkhas ran o bwys yn ystod yr achosion o glwy’r traed a’r genau, yn darparu help, fel y gwnaeth llawer o aelodau o’r lluoedd arfog ar draws Cymru. Nodaf yr hyn a ddywedodd y Senedd yr wythnos diwethaf; nid yw hwn yn fater datganoledig, ond mae’r Aelodau’n rhydd i fynegi eu barn eu hunain ynglŷn â’r penderfyniad a wnaethpwyd gan y Llywodraeth yn Llundain.

Peter Black: Leader of the House, the proposed legislative competence Order on affordable housing is being pulled from a vote in the House of Commons and House of Lords. Will you give an indication as to when it will come back to the House of Commons for approval so that we can get on and legislate in relation to the right to buy?

Peter Black: Arweinydd y Tŷ, mae’r Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol arfaethedig ar dai fforddiadwy yn cael ei atal rhag pleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi. A roddwch ryw syniad pryd y bydd yn dod yn ôl i Dŷ’r Cyffredin i gael ei gymeradwyo er mwyn inni allu bwrw ymlaen a deddfu yng nghyswllt yr hawl i brynu?

Carwyn Jones: Given the fact that it was your party in the House of Lords that decided that it did not want to support it in the first place, I find that question a little rich. However, a number of options are being considered to take the proposed LCO forward.

Carwyn Jones: Ac ystyried mai eich plaid chi yn Nhŷ’r Arglwyddi a benderfynodd nad oedd am ei gefnogi yn y lle cyntaf, mae eich cwestiwn yn ddigon doniol. Fodd bynnag, mae nifer o opsiynau o dan ystyriaeth i symud yr LCO arfaethedig ymlaen.

Datganiad am Ganlyniadau’r Adolygiad o Gamau Rheoli Tir o dan Echel 2The Results of the Review of Land Management under Axis 2

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig (Elin The Minister for Rural Affairs (Elin

34

05/05/2009

Jones): Yn unol â’r ymrwymiad yn ‘Cymru’n Un’, euthum ati fis Medi diwethaf i gyhoeddi ymgynghoriad am y camau rheoli tir sy’n cael eu darparu o dan echel 2 o gynllun datblygu gwledig Cymru. Mae’r camau hyn yn cynnwys Tir Gofal, Tir Cynnal, Tir Mynydd, y cynllun ffermio organig a’r cynllun coetiroedd gwell.

Jones): In line with the commitment in ‘One Wales’, last September I issued a consultation on the land management measures provided under axis 2 of the Wales rural development plan. These measures cover Tir Gofal, Tir Cynnal, Tir Mynydd, and the organic farming and better woodlands schemes.

Yr oedd y papur ymgynghori yn nodi’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu ffermio o ran y newid yn yr hinsawdd, rheoli dŵr a bioamrywiaeth. Cynigiwyd nifer o ddewisiadau lle’r amlinellwyd sut y gellid mynd ati i ailgyfeirio cymorth o dan echel 2 er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn.

The consultation paper set out the challenges and opportunities that climate change, carbon capture, water management and biodiversity present for farming, with a number of options proposed on how support under axis 2 might be redirected to address them.

Daeth 92 o ymatebion ffurfiol i law, yn ogystal ag adroddiad yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig, a chafodd dadl ei chynnal hefyd yn y Cyfarfod Llawn. Mae’r holl ymatebion hyn wedi cael eu dadansoddi’n ofalus. Wrth asesu’r dewisiadau, yr wyf hefyd wedi ystyried strategaeth datblygu cynaliadwy a strategaeth amgylcheddol Llywodraeth y Cynulliad. Ar ôl ystyried yn ofalus, yr wyf wedi penderfynu cyflwyno cynllun newydd a fydd yn cael ei enwi’n ‘Glastir’. Bydd dwy elfen i’r cynllun: bydd yr elfen gyntaf yn agored i bob ffermwr yng Nghymru, a bydd yr ail yn cael ei thargedu at yr ardaloedd hynny a fydd yn gallu sicrhau’r canlyniadau amgylcheddol sydd bwysicaf i Gymru.

Ninety-two formal responses were received, as well as the report by the Rural Development Sub-Committee, and a debate was held in Plenary. These have all been analysed carefully. In assessing the options, I have also had regard to the Welsh Assembly Government’s sustainable development and environment strategies. Following careful consideration, I have decided to introduce a new scheme to be called ‘Glastir’. It will have two elements: the first will be open to all farmers in Wales, and the second will be targeted at those areas that can deliver the environmental outcomes that are most important to Wales.

Ar ôl gwrando ar y pryderon ynglŷn â rhoi digon o amser i ffermwyr gynllunio ymlaen llaw ar gyfer unrhyw newidiadau, yr wyf wedi penderfynu peidio â chyflwyno’r cynllun newydd o 2010 ymlaen. Yn lle hynny, bydd yn cael ei gyflwyno o fis Ionawr 2012 ymlaen, a bydd trefniadau pontio yn eu lle tan 2014.

Having listened to concerns that any change must be accompanied by sufficient time for farmers to plan ahead, I have decided not to introduce the new scheme from 2010. Instead, it will be introduced from January 2012, with transitional arrangements in place until 2014.

Mae’r cynlluniau presennol wedi bod yn effeithiol, ond yr oedd y cyd-destun yn wahanol bryd hynny. Mae’n rhaid i’r cynllun rheoli tir ar gyfer y degawd nesaf ymateb i’r heriau a amlinellwyd yn agenda archwiliad iechyd y polisi amaethyddol cyffredin, y cytunwyd arni fis Tachwedd diwethaf. Yr heriau hyn—sef y newid yn yr hinsawdd, rheoli tir a bioamrywiaeth—fydd sail cynlluniau rheoli tir ledled Ewrop o 2014 ymlaen. Pe byddem yn mynd ati i gyflwyno cynllun na fyddai’n mynd i’r afael â’r heriau

The current schemes have been effective, but were designed in a different context. The land management scheme for the coming decade must respond to the challenges set out in the common agricultural policy health check agenda, agreed last November. These challenges—climate change, water management and biodiversity—will form the basis of land management schemes across Europe from 2014. Any scheme introduced today that did not tackle these challenges may well have needed to be changed within a

35

05/05/2009

hyn, byddai’n ddigon posibl y byddai angen newid y cynllun hwnnw ymhen ychydig flynyddoedd, a byddai hynny’n tarfu unwaith eto ar y sector ac yn arwain at wastraff gweinyddol sylweddol. Yr ydym yn rhagweld y bydd newidiadau mawr i gynllun taliad sengl y polisi amaethyddol cyffredin yn 2014 hefyd, ac mae’n bwysig ein bod yn osgoi dwy set o newidiadau mawr ar yr un pryd.

few years, causing upheaval to the sector and significant administrative waste. A major change to the common agricultural policy single payment scheme is also anticipated in 2014 and it is important to avoid two major changes running concurrently.

Euthum ati’n ofalus i ystyried a fyddai modd addasu’r cynlluniau sy’n bodoli eisoes er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn a fydd yn ein hwynebu yn y dyfodol. Mae Tir Mynydd yn gynllun digolledu sy’n cydnabod y ffaith bod costau ychwanegol yn dod i ran y rheini sy’n ffermio mewn ardaloedd mwy ymylol, a bod eu hincwm hefyd yn is. O dan reolau’r Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer taliadau digolledu ac o fewn y gyllideb sydd ar gael, nid oes modd gwella’r cynllun hwn er mwyn mynd i’r afael â’r heriau a amlinellwyd yn yr archwiliad iechyd. O’r herwydd, yr wyf wedi penderfynu nad yw addasu’r cynlluniau presennol yn ddewis ymarferol er mwyn sicrhau bod y diwydiant yn sefydlog yn y tymor hir.

I considered carefully whether the current schemes could be adapted to meet these future challenges. Tir Mynydd is a compensatory measure to recognise the additional costs and income foregone associated with farming in more marginal areas. Under the European Commission’s rules for compensatory payments, this cannot be enhanced to deliver on the health check challenges within the budget available. I have therefore decided that adapting current schemes is not a viable option to secure the long-term stability of the industry.

Wrth ddatblygu cynllun newydd, yr wyf yn ymwybodol iawn o’r ffaith bod yn rhaid iddo fod yn fodd i sicrhau diwydiant amaethyddol cynaliadwy, sy’n rhoi lle canolog i’r fferm deuluol. Y rhagolygon gwariant ar gyfer ein cynlluniau rheoli tir yn 2012 a 2013 yw £89 miliwn y flwyddyn, a bydd yr un lefel o daliadau ar gael i ffermwyr o dan y cynllun newydd.

In developing a new scheme, I am acutely aware that it must support a sustainable agricultural industry, with the family farm at its centre. Spend forecasts for our land management schemes for 2012 and 2013 are £89 million per annum and this level of farm payments will be maintained under the new scheme.

2.40 p.m.

Er na fydd mesur penodol bellach ar gyfer yr ardal lai ffafriol, bydd premiwm o 20 y cant ar gyfer pob ffermwr yn yr ardal lai ffafriol a fydd yn rhan o’r elfen Cymru gyfan o Glastir. Bydd hyn yn cynnwys pob ffermwr llaeth nad yw’n cael hawlio taliadau ardal lai ffafriol ar hyn o bryd. Bydd hwn yn daliad safonol ac ni fydd yn gwahaniaethu rhwng ardaloedd o dan anfantais fawr ac ardaloedd o dan anfantais. Er bod angen gwneud llawer o waith o hyd ar y trefniadau gweithredol newydd, awgryma’r amcanestyniadau cychwynnol y bydd y taliad sylfaenol ar gyfer yr elfen Cymru gyfan o’r cynllun tua

While there will no longer be a dedicated measure for the less favoured area, there will be a 20 per cent premium for all LFA farmers entering the all-Wales element of Glastir. This will include all dairy farmers who are currently excluded from receiving LFA payments. This will be a flat rate payment, with no distinction between severely disadvantaged areas and disadvantaged areas. Although much work remains to be done on the new operational arrangements, initial projections suggest that the all-Wales element of the scheme will attract a base payment of some £28 per hectare, with a 20

36

05/05/2009

£28 yr hectar. Bydd premiwm o 20 y cant ar gyfer ffermwyr sydd o fewn ffin bresennol yr ardal lai ffafriol, a fydd yn golygu y bydd eu taliad nhw yn £33.60 yr hectar. O dan y cynllun Tir Mynydd yn 2009, yr oedd y taliadau fesul hectar yn £24 ar gyfer yr ardal dan anfantais ac yn £28 ar gyfer yr ardal dan anfantais fawr.

per cent premium for farmers within the current LFA boundary raising the payment to £33.60 per hectare. Under the Tir Mynydd 2009 scheme, payments per hectare were £24 for the disadvantaged areas and £28 for the severely disadvantaged areas.

O dan y cynllun Glastir, bydd grant cyfalaf blynyddol o £5 miliwn ar gael o 2012 ymlaen er mwyn gosod technolegau ynni adnewyddadwy a thechnolegau effeithlonrwydd ynni ar ffermydd. Bydd cymorth ychwanegol wedi’i dargedu ar gael hefyd i ffermwyr a fydd yn cynnig mynediad at ddibenion addysgol a mynediad caniataol. O fewn parthau perygl nitradau, bydd cymorth grant ar gael ar gyfer gwaith cyfalaf i wella’r modd yr ymdrinnir â thail a slyri ac i leihau llygredd gwasgaredig. Bydd gweddill y cynllun ffermio sensitif i ddalgylch bellach yn dod yn rhan o’r elfen a dargedir o Glastir.

Glastir will provide an annual £5 million capital grant from 2012 for the installation of renewable energy and energy efficiency technologies on farms, together with additional targeted support for the provision of educational and permissive access. Within nitrate vulnerable zones, grant assistance will be provided for capital works that are undertaken to improve manure and slurry handling and mitigate diffuse pollution. The rest of the proposed catchment-sensitive farming scheme will now become part of the targeted element of Glastir.

Yn ystod yr ymgynghoriad, gofynnwyd i bobl fynegi eu barn ynglŷn â chynnig cymorth ar gyfer cnydau ynni yng Nghymru. Ni ddaeth unrhyw farn gyffredinol a phendant i’r amlwg. Yr wyf wedi penderfynu, felly, bod mynd ati i ailffocysu echel 2, ynghyd â chyflwyno’r cynllun grantiau cyfalaf arfaethedig, yn ffordd well o ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael er mwyn mynd i’r afael â’r blaenoriaethau y mae’r cyhoeddiad hwn yn ymwneud â hwy. Er hynny, byddwn yn parhau i gydweithio â chadwyni cyflenwi ar gyfer cynlluniau pŵer lleol a gefnogir gan Lywodraeth y Cynulliad.

The consultation invited views on providing support for energy crops in Wales. There was no overall conclusive view emerging from consultation. I have decided therefore that our current approach of refocusing axis 2 and the planned capital grant scheme is a better use of the resources available to address the priorities that underpin my announcement today. However, we will continue to work with supply chains for local power schemes supported by the Assembly Government.

Bydd fy nghyhoeddiad heddiw yn arwain at gamau gweithredu amgylcheddol wedi’u targedu er mwyn sicrhau canlyniadau ym maes bioamrywiaeth, y newid yn yr hinsawdd a rheoli dŵr. Bydd hefyd yn gymorth cyffredinol ar gyfer gwelliannau amgylcheddol i ffermydd ledled Cymru â phob ffermwr yn cael gwneud cais i ymuno â chynllun sylfaenol Glastir, a bydd yn diwygio’r gyfres o gynlluniau a geir ar hyn o bryd, gan greu un broses hwylus a symlach ar gyfer ffermwyr. O ganlyniad i’m penderfyniad, bydd cynlluniau Tir Gofal a Tir Cynnal yn cael eu cau ar unwaith, ac ni fydd unrhyw ymgeiswyr newydd yn cael ymuno â hwy. Os bydd yr ymweliad cyntaf

My announcement today will provide the delivery of targeted environmental actions in support of the delivery of biodiversity, climate change and water outputs. It will also provide broad support for the environmental improvement of farms throughout Wales, with access for all farmers to the basic Glastir scheme, and it will rationalise the current suite of schemes into one straightforward process for farmers. As a consequence of my decision, with immediate effect, the Tir Gofal and Tir Cynnal schemes are closed to new entrants. Those farmers who have already had their first farm visit by 8 May or whose agreements are further advanced than this will have their applications processed. The

37

05/05/2009

â’r fferm wedi’i gynnal erbyn 8 Mai, ac os bydd ffermwyr ar ganol llunio cytundebau, bydd y ceisiadau hynny’n cael eu prosesu. Bydd y taliad olaf o dan gynllun Tir Mynydd ym mis Mawrth 2011. Yr wyf yn parhau i ystyried sut i integreiddio’r cynllun organig i mewn i Glastir, a byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach yn y man ar hynny. Ar gyfer 2012 yn unig, os bydd gan ffermwyr gontract dan gynllun Glastir, byddant yn gymwys i dderbyn rhagdaliad ym mis Medi, a bydd y taliad olaf yn cael ei dalu ym mis Rhagfyr. Wedi hynny, bydd y taliadau ar gyfer y cynllun yn cael eu talu ym mis Rhagfyr.

last payment under Tir Mynydd will be in March 2011. I am still considering the integration of the organic scheme into Glastir and I will be making a further announcement in due course. For 2012 only, farmers who enter contracts to deliver under the Glastir scheme will be eligible for an advance payment that would be released in September, with the balance payment paid in December. Thereafter, scheme payments would be paid in December.

Mae’r trefniadau newydd hyn i reoli tir yn amodol ar gytundeb y Comisiwn Ewropeaidd. Caiff cynnig ffurfiol ei gyflwyno i’r Comisiwn Ewropeaidd y mis nesaf, gyda’r nod o sicrhau cymeradwyaeth yn yr hydref. Er bod yr union amserlen i’w chadarnhau, mae’n debygol y bydd y cyfnod ymgeisio cyntaf ar gyfer y cynllun newydd yn agor yn ystod haf blwyddyn nesaf, ac y bydd y contractau’n dod i rym ym mis Ionawr 2012.

The delivery of the new land management arrangements are subject to agreement with the European Commission. A formal proposal will be submitted to the Commission next month with the aim of securing approval in the autumn. Although the exact timeline is not yet finalised, it is likely that the first application window for the new scheme will open in summer 2010, with contracts coming into force in January 2012.

Yn y cyfamser, yr wyf wedi rhoi cyfarwyddyd i’m swyddogion gydweithio’n agos â’r rheini sydd â buddiant ym maes ffermio ac yng nghefn gwlad wrth iddynt fynd ati i gadarnhau’r manylion ymarferol, a hynny fel y bo modd cyflwyno’r trefniadau newydd mewn modd effeithiol yn 2012. Yr wyf wedi gofyn iddynt edrych yn benodol ar leihau biwrocratiaeth.

In the meantime, I have instructed my officials to work closely with the farming and countryside interests to deliver the operational detail for effective delivery of the new arrangements in 2012, especially with regard to a reduction in bureaucracy and red tape.

Mae Glastir yn newid mawr. Mae ffermwyr yn cynhyrchu bwyd ac yn rheoli’r tir, ac maent yn gwneud hynny er eu budd masnachol eu hunain ac er lles y gymdeithas gyfan. Bydd Glastir yn talu ffermwyr i reoli’r tir mewn modd a fydd yn cwrdd â nifer o flaenoriaethau ein cymdeithas heddiw.

Glastir marks a major change. Farmers produce food and manage the land and they do so for their own commercial benefit and for the good of wider society. Glastir will pay farmers to manage the land in a way that will meet many of society’s priorities today.

Brynle Williams: This side of the Chamber welcomes this afternoon’s statement—

Brynle Williams: Mae’r ochr hon o’r Siambr yn croesawu’r datganiad y prynhawn yma—

David Lloyd: There are only two of you. You are out in force.

David Lloyd: Nid oes ond dau ohonoch. Yr ydych yma’n llu.

Brynle Williams: We most certainly out in force, sir. However, the farmers are here, never forget that.

Brynle Williams: Yr ydym yn sicr yma’n llu, syr. Fodd bynnag, mae’r ffermwyr yma, peidiwch byth ag anghofio hynny.

38

05/05/2009

We welcome this decision, Minister; we have waited a long time to know what our future will be post 2013. Thank you for making this statement this afternoon. It is pleasing to see that, once again, you are putting the Welsh family farm at the centre of this. I am sure that dairy farmers will welcome the opportunity to enter the Glastir scheme, as they have been excluded from Tir Gofal for the past five or six years.

Croesawn y penderfyniad hwn, Weinidog; yr ydym wedi disgwyl yn hir i wybod beth fydd ein dyfodol ar ôl 2013. Diolch ichi am wneud y datganiad hwn y prynhawn yma. Mae’n bleser gweld, unwaith eto, eich bod yn canolbwyntio ar y fferm deuluol Gymreig yn hyn o beth. Yr wyf yn siŵr y bydd ffermwyr llaeth yn croesawu’r cyfle i ymuno â’r cynllun Glastir, gan eu bod wedi cael eu heithrio o Tir Gofal am y pump neu chwe blynedd diwethaf.

Farmers’ ears prick up immediately when grants are mentioned, without doubt. Thankfully, this time, it is for the right reason. On the grant for nitrate vulnerable zones, will it be linked to the £5 million per year capital grant scheme for renewable installations and energy efficiency? Will it be linked to the NVZ areas to employ biodigesters? It is one possibility that could be looked at.

Heb os nac oni bai, mae ffermwyr yn glustiau i gyd pan fydd rhywun yn sôn am grantiau. Diolch byth, y tro hwn, mae hynny am y rheswm cywir. O ran y grant ar gyfer parthau perygl nitradau, a fydd yn gysylltiedig â’r cynllun grant cyfalaf £5 miliwn y flwyddyn ar gyfer gosodiadau adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni? A fydd yn gysylltiedig â’r ardaloedd parthau perygl nitradau er mwyn defnyddio biodreulwyr? Mae’n un posibilrwydd y gellid edrych arno.

I welcome your commitment to reducing red tape and bureaucracy. That is to be welcomed in any industry, but especially to farming in today’s conditions.

Croesawaf eich ymrwymiad i leihau biwrocratiaeth. Mae hynny i'w groesawu mewn unrhyw ddiwydiant, ond yn enwedig yn y diwydiant ffermio fel y mae pethau ar hyn o bryd.

Finally, we welcome the fact that you have recognised the time needed to change from our present agricultural schemes to the new Glastir scheme in 2014. However, like every scheme, the devil is in the detail and it will be interesting to see what finally comes out.

Yn olaf, croesawn y ffaith eich bod wedi cydnabod yr amser y mae ei angen i newid o’n cynlluniau amaethyddol presennol i’r cynllun Glastir newydd yn 2014. Fodd bynnag, fel ym mhob cynllun, y manylion sy’n bwysig a bydd yn ddiddorol gweld sut beth fydd y cynllun terfynol.

Diolch yn fawr iawn i chi, unwaith eto. Thank you very much, once again.

Elin Jones: Diolch Brynle, a diolch i’r blaid Geidwadol am ei chefnogaeth i’r cyhoeddiad. Bu ichi ofyn ambell gwestiwn manwl. Yr oedd y cyntaf am y cynllun grantiau ar gyfer gwaith cyfalaf o fewn y parthau perygl nitradau. Bydd hynny’n cychwyn y flwyddyn nesaf. Bydd gennym hefyd gynllun gwerth tua £5 miliwn a fydd yn cychwyn yn 2012. Bydd hwnnw’n cynnig grantiau penodol i ffermwyr i fuddsoddi mewn technegau ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni ar y fferm. Bydd y grant ar gael ar draws Cymru ac nid ar gyfer parthau perygl nitradau yn benodol, er y bydd ar gael ar gyfer y parthau

Elin Jones: Thank you, Brynle, and I thank the Conservative party for its support for the announcement. You asked a few detailed questions. The first was on the grant scheme for capital works within the nitrate vulnerable zones. That will commence from next year. We will also have a scheme worth some £5 million, which is to commence in 2012. That will award specific grants to farmers to enable them to invest in renewable energy techniques and on-farm energy efficiency. That grant will be available throughout Wales and not only for the nitrate vulnerable zones, although it will also be open to the NVZs.

39

05/05/2009

hynny hefyd.

Fel y gwyddoch, yr wyf yn rhannu’r nod o leihau biwrocratiaeth ym mhob maes o Lywodraeth, ac yn enwedig y fiwrocratiaeth sydd ynghlwm wrth nifer o’r ffynonellau ariannu ar gyfer ein ffermwyr. Gan ein bod yn symud tuag at greu un prif gynllun, sef Glastir, yn lle’r nifer sylweddol o gynlluniau sy’n bodoli ar hyn o bryd o dan echel 2, yr wyf yn gobeithio’n fawr y bydd hynny ynddo’i hun yn cyfrannu at leihau biwrocratiaeth.

As you know, I share the aspiration of reducing bureaucracy in all areas of Government, but particularly the bureaucracy that is attached to several funding sources for our farmers. Given that we are moving towards creating one main scheme, namely Glastir, instead of the vast number of schemes that exist at present under axis 2, I hope very much that that in itself will make a contribution towards reducing bureaucracy.

O ran eich cwestiwn olaf ynghylch y meini prawf ar gyfer cael mynediad i gynllun Glastir, wrth inni edrych ar ddatblygu’r manylion, byddwn eisiau lleihau biwrocratiaeth yn y maes hwnnw hefyd. Yr ydym eisiau datblygu a phenderfynu’n derfynol ar y manylion hynny mewn cydweithrediad â phawb sydd â diddordeb yn y maes penodol hwn, o’r sawl sy’n cynrychioli ffermwyr yn uniongyrchol i’r sawl sy’n cynrychioli eraill sydd â diddordeb yn y ffordd y caiff ein tir ei reoli.

On your final question about the entry criteria for the Glastir scheme, as we look at developing the detail of those, we will want to ensure a reduction in bureaucracy in that area, too. We want to develop and make final decisions on those details in collaboration with everyone who has an interest in this particular area, whether from those who represent farmers directly, or those who represent others with an interest in how our land is managed.

Joyce Watson: Thank you, Minister, for your statement. The announcement of Glastir is an important step forward for environmentally sensitive land management in Wales, and it is one that I welcome and support. If Wales opted for some interim scheme that was seen to be expedient, I was concerned that it would be allowed to bed down and further reform would prove to be difficult. Therefore, I applaud your decision to rationalise the whole system, making it more effective in delivering environmental benefits and allowing enough time for the farming industry and individual farmers to adjust fully to the changes. I stress that our existing schemes have been successful, but Glastir is the next step; it is a response to the challenges that farmers face—that we all face—and it reinforces the principle that public money should deliver public goods.

Joyce Watson: Diolch yn fawr, Weinidog, am eich datganiad. Mae cyhoeddi Glastir yn gam pwysig ymlaen ar gyfer rheoli tir mewn modd amgylcheddol sensitif yng Nghymru, ac mae’n gam yr wyf yn ei groesawu a’i gefnogi. Petai Cymru’n dewis rhyw gynllun dros dro a fyddai’n ymddangos fel ateb hwylus, yr oeddwn yn pryderu y byddai hwnnw’n cael ei wreiddio ac y byddai diwygio pellach yn profi’n anodd. Felly, cymeradwyaf eich penderfyniad i symleiddio’r system gyfan, gan ei gwneud yn fwy effeithiol o ran cyflawni manteision amgylcheddol a chaniatáu digon o amser i'r diwydiant ffermio ac i ffermwyr unigol addasu'n llawn i'r newidiadau. Pwysleisiaf fod ein cynlluniau presennol wedi bod yn llwyddiannus, ond Glastir yw’r cam nesaf; mae’n ymateb i’r heriau y mae ffermwyr yn eu hwynebu—y mae pob un ohonom yn eu hwynebu—ac mae’n ategu’r egwyddor y dylai arian cyhoeddus gyflenwi ar gyfer y cyhoedd.

2.50 p.m.

As I have said, I fully appreciate the reasons for delaying the introduction of the scheme

Fel yr wyf wedi dweud, yr wyf yn gwerthfawrogi’n llwyr y rhesymau dros oedi

40

05/05/2009

until 2012, with transitional arrangements in place until 2014, but that presents its own problems with regard to how we address the more immediate challenges that we face. The second element of the new scheme promises to deliver this targeted action. However, is there any way, Minister, that we can do something in some areas sooner? For example, immediate action may need to be taken for some species, such as lapwing and curlew, which were once common in Wales, but which are now at crisis point. Will you consider looking into supporting additional projects targeted at addressing serious species decline, to be implemented immediately, by providing more money for special Tir Gofal projects, for example?

cyn cyflwyno’r rhaglen tan 2012, gyda threfniadau pontio ar waith tan 2014, ond mae hynny’n cyflwyno ei broblemau ei hun o ran sut y byddwn yn rhoi sylw i’r heriau mwy cyfredol a wynebwn. Mae ail elfen y cynllun newydd yn addo cyflawni’r cam hwn a dargedwyd. Fodd bynnag, a oes unrhyw ffordd, Weinidog, y gallwn wneud rhywbeth mewn rhai ardaloedd yn gynt? Er enghraifft, efallai fod angen cymryd camau’n syth ar gyfer rhai rhywogaethau, megis y gornchwiglen a’r gylfinir, a fu’n gyffredin yng Nghymru ar un adeg, ond sydd ar hyn o bryd mewn argyfwng. A fyddech gystal ag ystyried ymchwilio i gefnogi prosiectau ychwanegol a dargedwyd at roi sylw i ddirywiad rhywogaethau difrifol, i’w rhoi ar waith ar unwaith, drwy ddarparu mwy o arian ar gyfer prosiectau Tir Gofal arbennig, er enghraifft?

Elin Jones: Thank you, Joyce, for your support for this announcement. As you have said, it rationalises the current suite of schemes under axis 2 into one scheme that provides a clear direction of travel for the agricultural industry and everyone interested in how our land is managed. It will meet and respond to the new challenges for agricultural policy, which were agreed by European Ministers last year, following the review of the common agricultural policy, those being the need to tackle climate change, the need to manage our water resources, and the need to stem the decline in biodiversity. Therefore, today, we have provided a clear direction that will take us up to 2014 and, I am confident, beyond, providing stability for the agricultural industry within the current rural development plan, going into the next.

Elin Jones: Diolch yn fawr, Joyce, am eich cefnogaeth i’r cyhoeddiad hwn. Fel yr ydych wedi’i ddweud, mae’n symleiddio’r gyfres bresennol o gynlluniau dan echel 2 i un cynllun sy’n rhoi cyfeiriad clir o’r ffordd ymlaen i’r diwydiant amaethyddol ac i bawb sydd â diddordeb yn y ffordd y caiff ein tir ei reoli. Bydd yn wynebu ac yn ymateb i’r heriau newydd ar gyfer polisïau amaethyddol, y cytunwyd arnynt gan Weinidogion Ewropeaidd y llynedd, yn dilyn yr adolygiad o’r polisi amaethyddol cyffredin, sef yr angen i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, yr angen i reoli ein hadnoddau dŵr, a’r angen i atal y dirywiad mewn bioamrywiaeth. Felly, heddiw, yr ydym wedi darparu cyfeiriad clir a fydd yn mynd â ni hyd at 2014 a thu hwnt, yr wyf yn hyderus o hynny, gan ddarparu sefydlogrwydd i’r diwydiant amaethyddol o fewn y cynllun datblygu gwledig presennol, ac wrth symud ymlaen i’r un nesaf.

You asked specifically about immediate actions. I am aware of the calls on me to instigate immediate change. I have taken the decision to undertake a major change, but to do it in a way that provides a lead-in time for everyone concerned and a transitional period to ensure that those farmers most affected by this can move into the new period in a way that does not adversely affect their business opportunities. Therefore, I have taken the decision not to undertake immediate change. I understand that some will be critical of that,

Gofynasoch yn benodol am gymryd camau’n syth. Yr wyf yn ymwybodol o’r galwadau arnaf i roi newid ar waith yn syth. Yr wyf wedi penderfynu cyflwyno newid sylweddol, ond yr wyf am wneud hynny mewn ffordd sy'n rhoi amser i bawb gyfarwyddo â’r newid yn ogystal â darparu cyfnod pontio i sicrhau bod y ffermwyr hynny sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan hyn yn gallu camu ymlaen i’r cyfnod newydd mewn ffordd nad yw’n effeithio’n andwyol ar eu cyfleoedd busnes. Felly, yr wyf wedi penderfynu peidio â

41

05/05/2009

but I hope that, by putting in place a clear scheme that seeks to target resources effectively to meet many of the challenges with regard to biodiversity and climate change, we can all move forward in one direction.

gwneud newid yn syth. Deallaf y bydd rhai yn feirniadol o hynny, ond gobeithiaf, drwy roi cynllun clir ar waith sy’n ceisio targedu adnoddau’n effeithiol i ateb llawer o’r heriau o ran bioamrywiaeth a newid yn yr hinsawdd, y gallwn i gyd gamu ymlaen i’r un cyfeiriad.

Mick Bates: I thank you for your statement, Minister, which is very strategic and provides a clear direction to the industry regarding axis 2. I share your aspiration for it to provide stability to the industry. However, this is set against the background of a review of the less favoured area, and we anticipate quite a fundamental change in 2013 to the way in which the single farm payment is paid.

Mick Bates: Diolchaf ichi am eich datganiad, Weinidog, sy’n strategol iawn ac yn rhoi cyfeiriad clir i’r diwydiant o safbwynt echel 2. Rhannaf eich dyhead y bydd yn dod â sefydlogrwydd i’r diwydiant. Fodd bynnag, caiff hyn ei osod yng nghyd-destun adolygiad o’r ardal lai ffafriol, ac yr ydym yn rhagweld newid eithaf sylfaenol yn 2013 yn y ffordd y telir y taliad fferm sengl.

The recognition of the challenges of climate change, carbon capture, water management and so on are fundamental to your statement, but was food production also within the parameters of your considerations prior to today’s announcement? I agree that, although those challenges are fundamental, the industry will wish to know that you still recognise food production as an essential part of farming practice, particularly in the less favoured area. I welcome that you recognise the significance of the LFA and have proposed a premium of 20 per cent on top of the payments.

Mae cydnabod heriau newid yn yr hinsawdd, dal carbon, rheoli dŵr ac yn y blaen yn sylfaenol i’ch datganiad, ond onid oedd cynhyrchu bwyd hefyd o fewn paramedrau eich ystyriaethau cyn cyhoeddiad heddiw? Cytunaf, er bod yr heriau hynny’n sylfaenol, y bydd y diwydiant yn dymuno gwybod eich bod dal yn cydnabod bod cynhyrchu bwyd yn rhan hanfodol o arferion ffermio, yn enwedig yn yr ardal lai ffafriol. Croesawaf y ffaith eich bod yn cydnabod pwysigrwydd yr ardal lai ffafriol a'ch bod wedi cynnig premiwm o 20 y cant ar ben y taliadau.

It may not be possible at this stage, but is there to be a flat-rate payment within your two-tier Glastir scheme, enabling you to say in your statement today that those farming in the less favoured area will receive a certain amount per hectare? That is how I understand it. How do you get the 20 per cent extra? Is it 20 per cent of the current LFA payments in the severely disadvantaged and the disadvantaged area, or is it a new figure that you have worked out?

Efallai na fydd yn bosibl ar hyn o bryd, ond a fydd taliad safonol yn eich cynllun Glastir dwy haen, a fydd yn eich galluogi i ddweud yn eich datganiad heddiw y bydd y rheini sy’n ffermio yn yr ardal lai ffafriol yn cael swm penodol am bob hectar? Dyna sut yr wyf i’n ei deall hi. Sut ydych chi'n cael yr 20 y cant ychwanegol? Ai 20 y cant o'r taliadau presennol i’r ardal lai ffafriol yn yr ardal dan anfantais fawr a’r ardal dan anfantais, neu ai ffigur newydd ydyw yr ydych wedi’i gyfrifo?

I particularly welcome the criteria that you have used to establish this conclusion in line with recommendation 5 of the Rural Development Sub-committee’s report. Although it suggested taking the interim measure of 1(b), the ultimate aim was to be at option 2 by 2013, which gives a clearer indication of where you want to be on this.

Croesawaf yn benodol y meini prawf yr ydych wedi’u defnyddio i ddod i’r casgliad hwn yn unol ag argymhelliad 5 adroddiad yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig. Er ei fod wedi awgrymu cymryd y mesur dros dro 1(b), y nod yn y pen draw oedd cyrraedd opsiwn 2 erbyn 2013, sy’n rhoi arwydd cliriach o le’r ydych am fod ar y mater hwn.

You recognise the issue of transition for Yr ydych yn cydnabod y mater pontio ar

42

05/05/2009

those who are in the current schemes. They will have to be assured that they will not lose out, having signed a management agreement. I hope that you can reiterate that point in your response to me. There is also the question of those people who will have applied for but not received a visit regarding Tir Gofal or Tir Cynnal. What will happen to their applications during the transitional period?

gyfer y rheini sy’n rhan o'r cynlluniau presennol. Rhaid iddynt gael sicrhad na fyddant ar eu colled, ar ôl llofnodi cytundeb rheoli. Gobeithiaf y gallwch ategu’r pwynt hwnnw yn eich ymateb i mi. Ceir hefyd gwestiwn am y bobl hynny sydd wedi gwneud cais am Tir Gofal neu Tir Cynnal ond sydd heb gael ymweliad. Beth fydd yn digwydd i’w ceisiadau nhw yn ystod y cyfnod pontio?

I did not hear you mention the woodland schemes, which are particularly important. What do you have in mind for those? In combining these schemes, it seems that there will need to be a large menu of activities for farmers to choose from. Can you give us any more information on that?

Ni’ch clywais yn sôn am y cynlluniau coetir, sy’n bwysig iawn. Beth sydd gennych mewn golwg ar gyfer y rheini? Drwy gyfuno’r cynlluniau hynny, mae’n ymddangos y bydd angen cael dewislen fawr o weithgareddau y gall ffermwyr eu dewis. A allwch roi rhywfaint yn fwy o wybodaeth am hynny?

The point on renewable energy is greatly to be welcomed. While I recognise that it is a significant amount, you will be aware that individual developments are often capital heavy. Has any thought been given to how individuals or groups of individual farmers can match-fund that money so that they can install some really good energy efficiency measures or energy production methods?

Mae’r pwynt am ynni adnewyddadwy yn un i’w groesawu’n fawr. Er fy mod yn cydnabod ei fod yn swm sylweddol, byddwch yn ymwybodol bod datblygiadau unigol yn aml yn drwm ar gyfalaf. A roddwyd unrhyw ystyriaeth o ran sut y gall unigolion neu grwpiau o ffermwyr unigol ddod o hyd i arian cyfatebol ar gyfer yr arian hwnnw fel y gallant osod rhai mesurau da iawn o ran effeithlonrwydd ynni neu ddulliau cynhyrchu ynni?

I have noted that previous criticisms of Tir Mynydd, for example, included that it was very difficult to evaluate or monitor how Government money was being spent. What do you have in mind to evaluate your new scheme, Glastir? I assume that it will be an outputs-based measurement, as was the recommendation of the Rural Development Sub-committee, as that will enable people to understand the public goods that have been received from this while keeping farmers on the land to undertake all these activities.

Yr wyf wedi nodi mai un o feirniadaethau blaenorol Tir Mynydd, er enghraifft, oedd ei fod yn anodd iawn gwerthuso neu fonitro sut oedd arian y Llywodraeth yn cael ei wario. Beth sydd gennych mewn golwg i werthuso'ch cynllun newydd, Glastir? Tybiaf y bydd yn fesuriad yn seiliedig ar allbynnau, yn unol ag argymhelliad yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig, oherwydd byddai hynny’n galluogi pobl i ddeall sut mae’r cyhoedd wedi elwa o hyn gan gadw ffermwyr ar y tir i wneud yr holl weithgareddau hyn.

Finally, I would love to see farmers having the ability to trade carbon. Your statement looks very much to the future, which I really welcome, but as we seek to conserve carbon or reduce carbon use, through renewable energy or increased energy efficiency, it may be possible, through collaborative schemes, to get carbon credits and be paid for reducing carbon use. Ultimately, that is where many of these agri-environment measures will move. Therefore, I thank you, Minister, for what is

Yn olaf, byddwn wrth fy modd yn gweld ffermwyr yn cael cyfle i fasnachu carbon. Mae eich datganiad wir yn edrych ymlaen at y dyfodol, ac yr wyf yn croesawu hynny’n fawr, ond wrth inni geisio gwarchod carbon neu ddefnyddio llai o garbon, drwy ynni adnewyddadwy neu drwy fod yn fwy effeithlon o ran ynni, efallai y byddai'n bosibl, drwy gyfrwng cynlluniau ar y cyd, i gael credydau carbon a chael taliad am ddefnyddio llai o garbon. Yn y pen draw,

43

05/05/2009

on the whole a forward-looking statement. dyma'r cyfeiriad y bydd llawer o’r mesurau amaeth-amgylcheddol hyn yn symud tuag ato. Felly, diolchaf i chi, Weinidog, am ddatganiad sydd ar y cyfan yn edrych ymlaen at y dyfodol.

Elin Jones: Thank you for your comments and questions, Mick. You mentioned that you foresaw the major changes to the single farm payment in 2013. I think that I need to re-emphasise the fact that I have taken a decision to put our axis 2 scheme in place by 2013-14 so that, by that time, we are not faced with the possibility of another change in preparation for the rural development plan of 2014-20. At that time, we will need to be looking at a major change to our single farm payment from an historic basis to an area basis. I did not want this Government and farmers in Wales to face the possibility of a major change to the two main financial sources of funding for farming at the same time.

Elin Jones: Diolch yn fawr am eich sylwadau a’ch cwestiynau, Mick. Soniasoch eich bod yn rhagweld newidiadau mawr i’r taliad fferm sengl yn 2013. Credaf fod angen imi ategu'r ffaith unwaith eto fy mod wedi penderfynu rhoi ein cynllun echel 2 ar waith erbyn 2013-14, felly, erbyn hynny, ni fyddwn yn wynebu’r posibilrwydd o newid arall wrth baratoi’r cynllun datblygu gwledig ar gyfer 2014-20. Bryd hynny, bydd angen inni fod yn edrych ar newid sylweddol i’n taliad fferm sengl gan symud o sail hanesyddol i sail ardal. Nid oeddwn am weld y Llywodraeth hon na ffermwyr yng Nghymru yn gorfod wynebu’r posibilrwydd o newid sylweddol yn y ddwy brif ffynhonnell ariannol o gyllid i ffermio ar yr un pryd.

3.00 p.m.

Yes, farming is about food production and the management of land; I said that in the final paragraph of my statement in order to emphasise a point that I have made quite clearly throughout my period as Minister. Food production is undertaken in the context of land management. Many people—and society more widely—have an interest not just in the food that is produced by our farmers, but also in how the land is managed for wider public benefit. Those public benefits are now identified by the common agricultural policy and meet the aspirations of this Government, and those of many politicians in the Chamber, in relation to the challenges of climate change, ensuring better water management and in promoting better biodiversity.

Ydy, mae ffermio’n ymwneud â chynhyrchu bwyd a rheoli tir; dywedais hynny ym mharagraff olaf fy natganiad er mwyn pwysleisio pwynt yr wyf wedi’i wneud yn eithaf clir drwy gydol fy nghyfnod yn Weinidog. Ymgymerir â chynhyrchu bwyd yng nghyd-destun rheoli tir. Mae llawer o bobl—a chymdeithas yn fwy cyffredinol—yn ymddiddori nid yn unig yn y bwyd a gynhyrchir gan ein ffermwyr, ond hefyd yn y modd y caiff y tir ei reoli er budd i’r cyhoedd yn gyffredinol. Mae’r buddion cyhoeddus hynny wedi’u pennu bellach gan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn bodloni’r dyheadau sydd gan y Llywodraeth hon, a’r rheini sydd gan lawer o wleidyddion yn y Siambr, mewn cysylltiad â heriau’r newid yn yr hinsawdd, sicrhau gwell rheoli ar ddŵr a hyrwyddo bioamrywiaeth well.

The Glastir scheme will have two elements. We estimate at this point that the payment, at its basic level, will be around £28 per hectare. The 20 per cent top-up in the less favoured area will be on top of the £28 per hectare payment, which would bring it, as I said in my statement, to around £33.60. It will, therefore, be a 20 per cent uplift on the payment available to all farmers or all land

Bydd dwy elfen i’r cynllun Glastir. Yr ydym yn amcangyfrif ar hyn o bryd y bydd y taliad, ar ei lefel sylfaenol, oddeutu £28 yr hectar. Bydd yr ychwanegiad o 20 y cant yn yr ardal lai ffafriol ar ben y taliad o £28 yr hectar, a fyddai’n ei godi, fel y dywedais yn fy natganiad, i tua £33.60. Felly, bydd yn ychwanegiad o 20 y cant at y taliad sydd ar gael i’r holl ffermwyr neu ar gyfer yr holl dir

44

05/05/2009

outside the LFA. There will be transitional arrangements for those who are currently Tir Gofal and Tir Cynnal farmers, in order to ensure continuity of income from axis 2 between 2012 and 2014, so that they have no major shocks and to ensure that they have time to adjust. Those farmers who applied last year to join the Tir Gofal scheme, who have not yet received a farm visit or are in the process of discussing their management agreement with the Assembly Government, will not be considered for Tir Gofal. The next agri-environment scheme that they will be able to enter will be the Glastir scheme, for which we expect applications to open next year.

sydd y tu allan i’r ardal lai ffafriol. Bydd trefniadau pontio ar gyfer y rheini sy’n ffermwyr Tir Gofal a Thir Cynnal ar hyn o bryd, er mwyn sicrhau y bydd incwm yn parhau o echel 2 rhwng 2012 a 2014, fel na chânt unrhyw ysgytiadau mawr ac i sicrhau y cânt amser i ymaddasu. Ni fydd y ffermwyr hynny a ymgeisiodd y llynedd i ymuno â’r cynllun Tir Gofal, nad ydynt wedi cael ymweliad â’u fferm eto neu sydd ar ganol trafod eu cytundeb rheoli â Llywodraeth y Cynulliad, yn cael eu hystyried ar gyfer Tir Gofal. Y cynllun amaeth-amgylcheddol nesaf y byddant yn gallu ymuno ag ef fydd y cynllun Glastir, y disgwyliwn i geisiadau ar ei gyfer ddechrau y flwyddyn nesaf.

You are right to point out, Mick, that I did not mention the Better Woodlands for Wales scheme. I did so in order to curtail the number of words in my statement and because I was not envisaging a great change to the woodlands scheme, in that it will remain as a funding scheme that is available to farmers and land managers. However, I am keen for the Forestry Commission, and others, to work to ensure that this scheme is very much aligned with the ability of farmers to make the woodlands work for them as an income stream, and in order to make the scheme contribute to some of the aspirations around climate change and water management, in particular.

Yr ydych yn iawn wrth nodi, Mick, na soniais am y cynllun Coetiroedd Gwell i Gymru. Gwneuthum hynny er mwyn cwtogi ar nifer y geiriau yn fy natganiad ac am nad oeddwn yn rhagweld newid mawr yn y cynllun coetiroedd, i’r graddau y bydd yn dal yn gynllun ariannu sydd ar gael i ffermwyr a rheolwyr tir. Fodd bynnag, yr wyf yn awyddus i’r Comisiwn Coedwigaeth, ac eraill, ymdrechu i sicrhau y bydd y cynllun hwn yn cyd-fynd yn agos iawn â gallu ffermwyr i beri i goetiroedd fod o fudd iddynt fel ffrwd incwm, ac er mwyn peri i’r cynllun gyfrannu at gyflawni rhai o’r dyheadau sy’n ymwneud â’r newid yn yr hinsawdd a rheoli dŵr, yn benodol.

You mentioned the grants for renewable energy and energy efficiency. Brynle Williams said that farmers prick up their ears when they hear the word ‘grant’; but the next question is always, ‘How will the grant be match funded?’, and it came this time from Mick Bates. I have not give it any consideration yet, other than to think that the match funding would be an issue for the farmers themselves. However, we will obviously need to work on this with representatives of the farming industry as we prepare for the scheme to come into operation from 2012 onwards. Evaluation has been a concern of previous schemes, and we are keen to ensure that we have a robust evaluation process in place for the new scheme. Our experience of putting in place, even at a late stage, evaluation for the current schemes will provide a basis on which to work for Glastir. As you have suggested, and

Soniasoch am y grantiau ar gyfer ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni. Dywedodd Brynle Williams fod ffermwyr yn codi eu clustiau pan glywant y gair ‘grant’; ond y cwestiwn nesaf bob tro yw, ‘Sut y ceir arian cyfatebol ar gyfer y grant?’, ac fe’i cafwyd y tro hwn gan Mick Bates. Nid wyf wedi ystyried hynny o gwbl eto, oni bai am feddwl y byddai’r arian cyfatebol yn fater i’r ffermwyr eu hunain. Fodd bynnag, mae’n amlwg y bydd angen inni weithio ar hyn gyda chynrychiolwyr y diwydiant ffermio wrth inni baratoi i’r cynllun fynd ar waith o 2012 ymlaen. Mae gwerthuso wedi bod yn destun pryder mewn cynlluniau blaenorol, ac yr ydym yn awyddus i sicrhau y gallwn roi proses werthuso ddibynadwy ar waith ar gyfer y cynllun newydd. Bydd ein profiad o roi gwerthuso ar waith, hyd yn oed mewn cyfnod hwyr, ar gyfer y cynlluniau presennol yn sail i’r gwaith ar gyfer y cynllun Glastir.

45

05/05/2009

as the sub-committee’s report suggested, we do need to look at outputs rather than just assessing inputs. Where it is possible for us to do that, we will do so.

Fel yr ydych wedi awgrymu, ac fel yr awgrymodd adroddiad yr is-bwyllgor, mae angen inni edrych ar allbynnau yn hytrach nag asesu mewnbynnau’n unig. Byddwn yn gwneud hynny lle bynnag y bo modd.

Carbon trading is an issue in which I have an interest, as do you, Mick. We cannot yet make this scheme deliver on that, but these issues are being discussed at a Welsh, UK and European level so that we can look at the issue of carbon trading. Given the extent of the carbon that we have in our Welsh uplands, we can look at how we can maximise the advantage of that for Welsh land managers and farmers.

Mae masnachu carbon yn fater yr wyf yn ymddiddori ynddo, fel chithau, Mick. Ni allwn beri i’r cynllun hwn fynd â’r maen i’r wal ar hynny eto, ond mae’r materion hyn yn cael eu trafod ar lefel Cymru, y DU ac Ewrop fel y gallwn edrych ar fater masnachu carbon. A chofio maint y carbon sydd gennym yn ein hucheldir yng Nghymru, gallwn ystyried sut y mae modd inni fanteisio i’r graddau mwyaf posibl ar hynny er mwyn rheolwyr tir a ffermwyr Cymru.

Rhodri Glyn Thomas: Mae’n dda gweld bod consensws trawsbleidiol yn croesawu’r datganiad gan y Gweinidog. Yr oedd yn dda clywed llefaryddion y gwrthbleidiau yn croesawu y datganiad hwn. Mae’n rhaid dod i’r casgliad bod eu cyd-Aelodau yn ei groesawu cymaint eu bod wedi mynd allan i ddathlu, oherwydd, heblaw am y llefaryddion, dim ond un Aelod o’r gwrthbleidiau a oedd yma i wrando ar y Gweinidog yn gwneud ei datganiad.

Rhodri Glyn Thomas: It is good to see that there is cross-party consensus in welcoming the Minister’s statement. It was good to hear opposition spokespeople welcoming the statement. One must surmise that their colleagues welcome it so much that they have gone out to celebrate, as there was only one opposition Member, apart from the spokespeople, present in the Chamber to listen to the Minister making the statement.

Mae’n ddatganiad eithriadol o bwysig o’i ystyried yng nghyd-destun yr hyn sy’n digwydd yn Ewrop. Fel y dywedodd Mick Bates, ceir newidiadau sylfaenol o ran ariannu’r sector amaethyddol wedi 2013. Mae’n eithriadol o bwysig bod y Llywodraeth yn sicrhau y gall y diwydiant wneud y gorau o’r sefyllfa honno. Credaf fod y Gweinidog, yn y datganiad hwn, wedi llwyddo i wneud hynny. O ran gwneud y gorau o echel 2 yn y cynllun datblygu gwledig, yr hyn sy’n bwysig yw ein bod yn dod â mwy o arian i’r economi wledig a bod hynny’n manteisio nid yn unig y diwydiant amaeth, ond yr economi wledig yn ei chyfanrwydd.

It is an extremely important statement in the context of what is happening in Europe. As Mick Bates said, there will be fundamental changes in agriculture sector funding after 2013. It is vital that the Government ensures that the industry is able to fully take advantage of that situation. I believe that the Minister, in this statement, has succeeded in doing that. In terms of taking full advantage of axis 2 in the rural development plan, the important point is that we bring more money into the rural economy, not only for the benefit of the agriculture industry but for the rural economy as a whole.

Yn amlwg, nid yw newidiadau yn cael eu croesawu, yn enwedig mewn sefyllfa o wasgfa ariannol, fel sydd wedi bod ar y diwydiant amaeth ers peth amser. Fodd bynnag, credaf fod manteision mawr yn y cynllun hwn ar gyfer y sector. Yn y lle cyntaf, mae’r ffaith bod mynediad i bawb i’r cynllun newydd yn eithriadol o bwysig. Yn y

It is clear that change is not welcomed, especially in a credit crunch, as has been facing the agriculture industry for some time. However, I believe that this scheme has great advantages for the sector. In the first place, the fact that everyone can access the new scheme is extremely important. In the past, I am sure that other Members have, like me,

46

05/05/2009

gorffennol, yr wyf yn siŵr bod Aelodau eraill, fel minnau, wedi derbyn cwynion gan bobl nad oeddynt yn gallu cael mynediad i rai o’r cynlluniau hyn. Weinidog, os wyf wedi deall eich datganiad yn iawn, bydd y sector laeth hefyd yn gallu manteisio’n llawn ar y newid hwn. Nid oedd hynny’n wir yn y gorffennol.

received complaints from people unable to access some of these schemes. Minister, if I have understood your statement correctly, the dairy sector will also be able to take full advantage of this change. That was not the situation in the past.

Yr wyf yn siŵr y bydd y diwydiant yn croesawu’n fawr iawn eich pwyslais ar leihau gwaith papur a chostau gweinyddol, sy’n eithriadol o bwysig. Pan yr ydych dan bwysau yn eich gwaith, y peth olaf yr ydych am ei wynebu yw gwaith papur diangen. Credaf mai’r hyn sydd wedi gwylltio ffermwyr yn fwy nag unrhyw beth arall yw eu bod yn teimlo eu bod yn gwastraffu amser yn llenwi ffurflenni diangen. A wnewch sicrhau, Weinidog, na fydd disgwyl i ffermwyr wneud gwaith papur diangen ac y manteisir i’r graddau mwyaf posibl ar y dechnoleg ddiweddaraf i sicrhau, lle bo’r wybodaeth ar gael, nad oes yn rhaid ei hailadrodd?

I am sure that the industry will greatly welcome your emphasis on reducing paperwork and administrative costs, which is crucially important. When you are under pressure in your work, the last thing that you want to face is unnecessary paperwork. What has angered farmers more than anything else, I believe, is that they feel that they are wasting their time on filling unnecessary forms. Will you ensure, Minister, that farmers will not be expected to do unnecessary paperwork and that full advantage will be taken of the latest technology to ensure that, where information is available, it does not have to be repeated?

Yn olaf, yr wyf yn eich annog—yr ydych wedi awgrymu hyn—i edrych ar integreiddio’r cynllun organig, fel bod gennym un cynllun cynhwysfawr ar gyfer yr holl ddiwydiant a bod pawb yn cael y cyfle gorau i fanteisio arno.

Finally, I urge you—you have implied this—to consider integrating the organic scheme, so that we have one comprehensive scheme for the entire industry, from which all can benefit.

Elin Jones: Diolch, Rhodri, am eich sylwadau a’ch cwestiynau. Gobeithiaf yn fawr y bydd y cyhoeddiad y prynhawn yma wedi rhoi cyfeiriad clir i’r diwydiant a’r rhai sy’n ymddiddori yn y ffordd mae ein tir yn cael ei reoli. Gobeithiaf hefyd y bydd cyfeiriad clir ar gyfer y tymor hir yn deillio o’r cyhoeddiad y prynhawn yma. Yn awr, bydd angen inni weithio ar y manylion ynglŷn â sut mae rhoi’r cynllun hwn yn ei le.

Elin Jones: Thank you, Rhodri, for your comments and questions. I very much hope that this afternoon’s announcement provides a clear direction for the industry and those who have an interest in the management of our land. I also hope that a clear direction for the long term will stem from this afternoon’s announcement. We will now need to work on the details of how we implement this scheme.

Gallaf gadarnhau bod mynediad i bawb—i bob ffermwr a thirfeddiannwr yng Nghymru dros 3 ha—i’r cynllun Glastir a fydd yn cynnwys, am y tro cyntaf, ffermwyr llaeth yn yr ardal lai ffafriol. Hefyd, mae’n sicr yn fwriad gennyf sicrhau, wrth ddatblygu’r cynllun hwn, ei bod yn cael ei wneud yn y ffordd sy’n lleihau’r fiwrocratiaeth i’r lleiafswm posibl.

I can confirm that there will be access for all—all Welsh farmers and landowners with more than 3 ha of land—to the Glastir scheme, which will include, for the first time, dairy farmers in less favoured areas. It is also my clear intention to ensure, as this scheme develops, that it is done in a way that minimises bureaucracy.

Yn olaf, ar ddyfodol y cynllun organig, fel y Finally, on the future of the organic scheme,

47

05/05/2009

dywedais yn fy natganiad, yr wyf yn gobeithio’n fawr gallu integreiddio ein cefnogaeth i’r sector organig o fewn Glastir. Mae rhai manylion i’w pennu ar yr union fecanwaith o wneud hynny a gobeithiaf gadarnhau hynny yn y dyfodol agos.

as I said in my statement, I very much hope to be able to integrate our support for the organic scheme within Glastir. There are some details still to be determined on the precise mechanism for doing so, and I hope to be able confirm that in the near future.

3.10 p.m.

Cymeradwyo’r Gorchymyn Tai (Rhoi Tenantiaethau yn lle Tenantiaethau a Derfynwyd) (Olynydd-landlordiaid) 2009

Motion to Approve the Housing (Replacement of Terminated Tenancies) (Successor Landlords) Order 2009

The Deputy Minister for Housing (Jocelyn Davies): I move that

Y Dirprwy Weinidog dros Dai (Jocelyn Davies): Cynigiaf fod

the National Assembly for Wales, in accordance with Standing Order No. 24.4:

Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 24.4:

1. considers the report of the Subordinate Legislation Committee laid in the Table Office on 31 March 2009 in relation to the draft the Housing (Replacement of Terminated Tenancies) (Successor Landlords) (Wales) Order 2009;

1. yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 March 2009 mewn perthynas â’r Gorchymyn drafft, Gorchymyn Tai (Rhoi Tenantiaethau yn lle Tenantiaethau a Derfynwyd) (Olynydd-landlordiaid) 2009; a

2. approves that the draft the Housing (Replacement of Terminated Tenancies) (Successor Landlords) (Wales) Order 2009 is made in accordance with:

2. yn cymeradwyo bod y Gorchymyn drafft, Gorchymyn Tai (Rhoi Tenantiaethau yn lle Tenantiaethau a Derfynwyd) (Olynydd-landlordiaid) 2009, yn cael ei wneud yn unol ag:

a) the draft laid in the Table Office on 18 March 2009; and

a) y drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2009; a

b) the explanatory memorandum laid in the Table Office on 18 March 2009. (NDM4198)

b) y memorandwm esboniadol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2009. (NDM4198)

Y Llywydd: Nid oes siaradwyr ar yr eitem hon. Gan nad oes gwrthwynebiad, cyhoeddaf fod y Gorchymyn wedi’i dderbyn, yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 7.35.

The Presiding Officer: There are no speakers on this item. As there are no objections, I declare the motion agreed, in line with Standing Order No. 7.35.

Derbyniwyd y cynnig.Motion agreed.

Penderfyniad Ariannol yn ymwneud â’r Mesur Arfaethedig Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru)

Financial Resolution in relation to the Proposed Healthy Eating in Schools (Wales) Measure

The Minister for Children, Education, Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu

48

05/05/2009

Lifelong Learning and Skills (Jane Hutt): I move that

Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Cynigiaf fod

the National Assembly for Wales, for the purposes of any provisions resulting from the Proposed Healthy Eating in Schools (Wales) Measure, agrees to any increase in expenditure of a kind referred to in Standing Order No. 23.80(ii) arising in consequence thereof. (NNDM4193)

Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Mesur Arfaethedig Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog Rhif 23.80(ii), sy’n codi o ganlyniad iddi. (NNDM4193)

Y Llywydd: Nid oes siaradwyr ar yr eitem hon ychwaith. Gan nad oes gwrthwynebiad, cyhoeddaf fod y penderfyniad wedi’i dderbyn, yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 7.35.

The Presiding Officer: There are no speakers on this item either. As there are no objections, I declare the resolution agreed, in line with Standing Order No. 7.35.

Derbyniwyd y cynnig.Motion agreed.

Yr Hyn y Mae Cymru Wedi’i Gyflawni o ran Ymgysylltu â’r Undeb Ewropeaidd Ers Datganoli

The Achievements that Wales Has Made in Engaging with the European Union Since Devolution

The Presiding Officer: I have selected amendments 1 and 5 in the name of Peter Black, and amendments 2, 3 and 4 in the name of Alun Cairns. If amendment 1 is agreed, amendment 2 will be deselected.

Y Llywydd: Yr wyf wedi dethol gwelliannau 1 a 5 yn enw Peter Black, a gwelliannau 2, 3 a 4 yn enw Alun Cairns. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Y Prif Weinidog: Cynigiaf fod The First Minister: I move that

Cynulliad Cenedlaethol Cymru: the National Assembly for Wales:

yn cydnabod bod datganoli wedi gweddnewid a gwella safle Cymru yn yr Undeb Ewropeaidd ac yn croesawu’r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a rhanddeiliaid ehangach Cymru, ynghyd â’u llwyddiannau a’u cyfraniadau, wrth ymgysylltu â’r Undeb Ewropeaidd. (NDM4199)

recognises that devolution has transformed and enhanced the position of Wales in the European Union and welcomes the progress, achievements and contributions of the Welsh Assembly Government and wider Welsh stakeholders in engaging with the European Union. (NDM4199)

Mae’n bleser gennyf arwain y ddadl y prynhawn yma ar yr hyn mae Cymru wedi gallu ei gyflawni o fewn yr Undeb Ewropeaidd yn ystod y 10 mlynedd diwethaf o ddatganoli. Wrth wneud y gymhariaeth rhwng lle’r oeddem 10 mlynedd yn ôl a lle’r ydym yn awr, mae modd gweld faint o gamau ymlaen yr ydym wedi eu cymryd.

It is my pleasure to lead this afternoon’s debate on the achievements that Wales has made in engaging with the European Union during the 10 years since devolution. In comparing where we were 10 years ago with where we are now, one can see how many steps forward we have taken.

Ble’r oeddem 10 mlynedd yn ôl? Yr oedd Where were we 10 years ago? Wales was an

49

05/05/2009

Cymru yn eithriad cyn datganoli. Fel enghraifft edrychwch ar yr hyn a wnaeth hen ffrind—nid cyfaill gwleidyddol—Wyn Roberts, neu’r Arglwydd Roberts, fel y caiff ei adnabod heddiw, wrth arwyddo cytundeb gyda’r pedwar rhanbarth modur, sef Catalunya, Baden-Württemberg, Lombardia a Rhône-Alpes, tua 20 mlynedd yn ôl. Yr oedd, fel Gweinidog penodedig, yn hyrwyddo cytundeb gyda phedwar rhanbarth â llywodraethau etholedig. Cymeradwyaf y ffaith ei fod wedi cymryd y cam hwnnw fel rhan datganoledig o Lywodraeth San Steffan, ond yr oedd hwnnw’n eithriad. Yr wyf yn ceisio meddwl beth oedd barn y rhanbarthau hynny am y gynrychiolaeth hon o Gymru gan Weinidog penodedig. Cymharwch hynny gyda sefyllfa heddiw a sut yr ydym yn ymateb i’r dirwasgiad gydag arian Ewrop.

anomaly prior to devolution. As an example, consider what was done by our old friend—not a political ally—Wyn Roberts, or Lord Roberts as he is now known, in signing an agreement with the four motor regions of Catalunya, Baden-Württemberg, Lombardia and Rhône-Alpes some 20 years ago. He, as an appointed Minister, was promoting an agreement with four self-governing regions. I applaud the fact that he took that step as a devolved part of the Westminster Government, but that was an anomaly. I am trying to think what those other regions thought of this Welsh representation by way of an appointed Minister. Compare that with the situation today, and how we are responding to the recession with European money.

That simple comparison is not meant to be a criticism of the moves made by Wyn Roberts around 20 years ago, which were constructive at the time. Compare that situation with that of today, where we are able to play a full part in responding to the recession using European money. I have mentioned on several occasions how we have announced, in recent weeks, the £250 million of funding for new initiatives of which around £200 million comes from Europe. The JEREMIE fund is the first of its kind in Europe and involves the European Investment Bank. We then have the ProAct scheme, of £48 million, well over half of which comes from Europe. We also have ReAct for those who have been made redundant, amounting to £32 million. Again, more than half of that money comes from Europe. There is also the apprenticeship support scheme, which amounts to £20 million. If you take all the weapons to stimulate the Welsh economy and skills training to combat the recession and prepare for the upturn, £200 million of that funding comes from Europe and they are Welsh initiatives; they are not paralleled elsewhere, but are generated to answer Welsh problems by making use of either European lending from the European Investment Bank or European grant funding from the regional development fund or European social fund.

Nid oes bwriad i’r gymhariaeth syml honno fod yn feirniadaeth ar y camau a gymerodd Wyn Roberts tua 20 mlynedd yn ôl, a oedd yn adeiladol ar y pryd. Cymharwch y sefyllfa honno â’r un heddiw, lle’r ydym yn gallu chwarae rhan lawn wrth ymateb i’r dirwasgiad gan ddefnyddio arian Ewropeaidd. Yr wyf wedi sôn droeon am y modd yr ydym wedi cyhoeddi, yn yr wythnosau diwethaf, y £250 miliwn o gyllid ar gyfer mentrau newydd y daw tua £200 miliwn ohono o Ewrop. Cronfa JEREMIE yw’r gyntaf o’i math yn Ewrop ac mae’n cynnwys Banc Buddsoddi Ewrop. Wedyn mae gennym y cynllun ProAct, sy’n werth £48 miliwn, y daw ymhell dros ei hanner o Ewrop. Hefyd mae gennym ReAct ar gyfer y rheini sydd wedi cael eu diswyddo, sy’n dod i £32 miliwn. Unwaith eto, daw mwy na hanner yr arian hwnnw o Ewrop. Dyna’r cynllun cymorth ar gyfer prentisiaethau hefyd, sy’n dod i £20 miliwn. Os cymerwch yr holl arfau i sbarduno economi Cymru a hyfforddiant mewn sgiliau i wrthsefyll y dirwasgiad a pharatoi ar gyfer y gwelliant, daw £200 miliwn o’r cyllid hwnnw o Ewrop ac maent yn fentrau Cymreig; nid oes rhai tebyg iddynt mewn mannau eraill, ond fe’u crëir i ateb problemau Cymru gan ddefnyddio un ai arian Ewropeaidd a fenthycwyd gan Fanc Buddsoddi Ewrop neu gyllid grant Ewropeaidd o’r gronfa datblygu rhanbarthol neu gronfa gymdeithasol Ewrop.

Did we expect to have regular attendance at A oeddem yn disgwyl presenoldeb rheolaidd

50

05/05/2009

Council of Ministers meetings? Did we expect to occasionally lead Council of Ministers delegations—although I accept that is rare, when there was no other Minister available? Likewise, did we expect the Welsh language to take such steps forward? It has done so with support from the UK Government, but also with our initiative to put the Welsh language on the map in Europe, using the approach pioneered by the Catalans, Basques and the Spanish Government. Once they had opened the way, we were able to follow.

yng nghyfarfodydd Cyngor y Gweinidogion? A oeddem yn disgwyl arwain dirprwyaethau o Gyngor y Gweinidogion o bryd i’w gilydd—er fy mod yn derbyn mai anaml y mae hynny wedi digwydd, pan nad oedd unrhyw Weinidog arall ar gael? Yn yr un modd, a oeddem yn disgwyl gweld y Gymraeg yn gwneud y fath gynnydd? Mae wedi gwneud hynny gyda chefnogaeth Llywodraeth y DU, ond hefyd gyda’n menter ni i roi’r Gymraeg ar y map yn Ewrop, gan ddefnyddio’r dull a arloeswyd gan y Catalaniaid, y Basgiaid a Llywodraeth Sbaen. Wedi iddynt hwy agor y ffordd, yr oeddem ninnau’n gallu dilyn.

I now turn to the amendments. Amendments 1 and 2 are similar, and should both be opposed because they would return us to the situation that we had in the first couple of years of the Assembly, where no distinction was made between this body—that is, the National Assembly for Wales—and the Welsh Assembly Government. I cannot tell you how much clearer the responsibilities have been since we split the picture for our representation in Brussels between the perfectly proper scrutiny role, the stakeholder contact role, and the lobbying role taken up by Assembly Members on the back benches. As Wyn Roberts said during the devolution debate, it is essential that it is clear where the Governmental responsibility lies. You have to place clear responsibility on Ministers, and he was absolutely right to make that point about the emerging structure of devolution during the passage of the Government of Wales Bill in 1998. Never was that better illustrated than by the shambolic situation that we had in the first couple of years before we sorted it out. That is why amendments 1 and 2 from Alun Cairns and Peter Black, who are not present at the moment, should be opposed—because they would take us back to the shambles of not being clear as to where Ministerial responsibility lies.

Trof yn awr at y gwelliannau. Mae gwelliannau 1 a 2 yn debyg, a dylid gwrthwynebu’r ddau ohonynt oherwydd y byddent yn mynd â ni’n ôl i’r sefyllfa a oedd gennym yn ystod ychydig flynyddoedd cyntaf y Cynulliad, pan na wneid unrhyw wahaniaeth rhwng y corff hwn—sef Cynulliad Cenedlaethol Cymru—a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Ni allaf ddweud wrthych gymaint yn fwy eglur y mae’r cyfrifoldebau wedi bod ers inni hollti’r darlun o ran ein cynrychiolaeth ym Mrwsel rhwng y swyddogaeth graffu gwbl briodol, swyddogaeth cyswllt rhanddeiliaid, a’r swyddogaeth lobïo y mae Aelodau Cynulliad y meinciau cefn yn ymgymryd â hi. Fel y dywedodd Wyn Roberts yn ystod y ddadl ar ddatganoli, mae’n hanfodol ei bod yn eglur ym mhle y mae cyfrifoldeb y Llywodraeth. Mae’n rhaid ichi roi cyfrifoldeb clir ar Weinidogion, ac yr oedd yn berffaith iawn i wneud y pwynt hwnnw ynghylch y strwythur a oedd yn dechrau ymddangos ar gyfer datganoli yn ystod hynt Mesur Llywodraeth Cymru yn 1998. Ni chafwyd gwell enghraifft o hynny na’r sefyllfa anniben a oedd gennym yn yr ychydig flynyddoedd cyntaf cyn inni roi trefn arni. Dyna pam y dylid gwrthwynebu gwelliannau 1 a 2 gan Alun Cairns a Peter Black, nad ydynt yma ar hyn o bryd—oherwydd y byddent yn mynd â ni’n ôl i lanastr peidio â bod yn glir ynghylch ym mhle yn union y mae cyfrifoldeb Gweinidogion.

We will support amendment 3 because we believe in the Tŷ Cymru initiative in Brussels whereby we have unified Welsh representation under one roof, while maintaining a clear distinction between those

Byddwn yn cefnogi gwelliant 3 oherwydd yr ydym yn credu ym menter Tŷ Cymru ym Mrwsel lle mae gennym gynrychiolaeth unedig i Gymru dan yr unto, gan gynnal ar yr un pryd wahaniaeth clir rhwng y rheini sy’n

51

05/05/2009

working for Ministers and those working for civic society. The former have diplomatic cover, and are civil servants working for an administration. That is true of most regions and small nations in Europe.

gweithio i Weinidogion a’r rheini sy’n gweithio i gymdeithas ddinesig. Mae gan y rheini sy’n gweithio i Weinidogion sicrwydd diplomyddol, ac maent yn weision sifil sy’n gweithio i weinyddiaeth. Mae hynny’n wir am y rhan fwyaf o ranbarthau a chenhedloedd bach yn Ewrop.

We recommend opposition to amendment 4, because it is an attempt to reignite an issue that is effectively dead. Parliament has completed its consideration, it has voted, and the Bill received Royal Assent on 19 June last year. I see no point in reopening that issue. We will also oppose amendment 5, on the grounds that we are already doing this with other countries on a wide range of matters where it is appropriate and beneficial to do so, but we are not including areas such as crime where we do not have responsibility. It is a faulty amendment, and we will oppose it.

Yr ydym yn argymell gwrthwynebu gwelliant 4, oherwydd mae’n ymdrech i ailgynnau mater sydd, i bod pwrpas, yn farw. Mae’r Senedd wedi cwblhau ei hystyriaeth, mae wedi pleidleisio, a chafodd y Mesur Gydsyniad Brenhinol ar 19 Mehefin y llynedd. Nid wyf yn gweld dim diben ailagor y mater hwnnw. Byddwn hefyd yn gwrthwynebu gwelliant 5, ar y sail ein bod eisoes yn gwneud hyn gyda gwledydd eraill ar amrywiaeth eang o faterion lle mae’n addas ac yn fuddiol gwneud hynny, ond nid ydym yn cynnwys meysydd megis troseddu lle nad oes gennym gyfrifoldeb. Mae’n welliant gwallus, a byddwn yn ei wrthwynebu.

To turn to what has happened over the past 10 years, over and above the examples that I have already given, good representation in Brussels is essential. Therefore, having our own office staffed by half a dozen civil servants who act as our eyes and ears on the ground is useful, and helps us to negotiate amendments to pending EU legislation. There are some outstanding examples in the agricultural field, which Elin Jones will be only too familiar with—namely, the changes that were made to the details of the fallen stock scheme for containment on farms, and likewise, the electronic tagging of sheep. These amendments developed from our good administrative suggestions, and Europe accepted them because of the excellent spadework that was done here and the contact work that was done in Brussels.

Os caf droi at yr hyn sydd wedi digwydd dros y 10 mlynedd diwethaf, yn ychwanegol at yr enghreifftiau yr wyf eisoes wedi’u rhoi, mae cynrychiolaeth dda ym Mrwsel yn hanfodol. Felly, mae cael ein swyddfa ein hunain ac ynddi hanner dwsin o weision sifil sy’n gweithredu fel ein llygaid a’n clustiau ar lawr gwlad yno yn ddefnyddiol, ac mae’n gymorth inni negodi gwelliannau i ddeddfwriaeth UE sydd yn yr arfaeth. Ceir rhai enghreifftiau nodedig ym maes amaethyddiaeth, y bydd Elin Jones yn hynod o gyfarwydd â hwy—sef y newidiadau a wnaethpwyd i fanylion y cynllun stoc trig ar gyfer cyfyngiant ar ffermydd ac, yn yr un modd, yr angen i roi tagiau electronig ar ddefaid. Datblygodd y gwelliannau hyn o’n hawgrymiadau gweinyddol da, a chawsant eu derbyn gan Ewrop yn sgil y gwaith caib a rhaw rhagorol a wnaethpwyd yma a’r gwaith cyswllt a wnaethpwyd ym Mrwsel.

In terms of creative use of European funding, I have to mention the two successive wins that we have had at the RegioStars annual awards—the Oscars of the European regional field. In 2008, Technim OpTIC in north Wales won the gold medal, and this year, the gold was won by the Dipple centre in Swansea, which is a printing technology

O ran defnyddio arian Ewropeaidd yn greadigol, mae’n rhaid imi grybwyll y ddwy fuddugoliaeth yn olynol yr ydym wedi’u cael yng ngwobrau blynyddol RegioStars—sef gwobrau Oscar y rhanbarthau Ewropeaidd. Yn 2008, enillodd y Technium OpTIC yn y gogledd y fedal aur, ac eleni enillwyd y fedal aur gan y ganolfan DIPLE yn Abertawe, sy’n

52

05/05/2009

centre—although it goes well beyond the printing industry. To get two successive gold medals at the technology-related RegioStars is outstanding.

ganolfan technoleg argraffu—er ei bod yn mynd ymhell y tu hwnt i’r diwydiant argraffu. Mae’r ffaith ein bod wedi cael dwy fedal aur yn olynol yng ngwobrau technolegol y RegioStars yn eithriadol.

We also have contacts on research funding, which our universities benefit from—it is up 300 per cent from £3.5 million to £10.5 million. All of our universities complained that they do not get full overhead recovery, but that is the rule; it is sad that it is the rule, but that is the pattern.

Mae gennym hefyd gysylltiadau ym maes cyllid ymchwil, y mae ein prifysgolion yn elwa yn ei sgil—mae wedi cynyddu 300 y cant o £3.5 miliwn i £10.5 miliwn. Mae pob un o’n prifysgolion wedi cwyno nad ydynt yn cael hawlio’r holl gostau cyffredinol yn ôl, ond dyna’r rheol; mae’n drist mai dyna’r rheol, ond dyna yw’r patrwm.

3.20 p.m.

Nevertheless, Welsh universities are now 300 per cent up in terms of the amount of money that they are getting through these joint research bids.

Er hynny, mae prifysgolion Cymru bellach 300 y cant ar eu hennill o ran cyfanswm yr arian y maent yn ei gael drwy’r ceisiadau ymchwil ar y cyd hyn.

Finally, I should mention good administration. It is a basic thing, but when you are dealing with large sums of money, as we are with structural funds, with £3 billion-worth of projects in 2007-13 and maybe half that money—£1.5 billion—coming from Europe, through the Objective 1, 2 and 3 programmes that are just coming to an end, you have to get a good reputation in Brussels that your accounts are properly audited, so that you do not have auditors crawling all over you, with suspicions of dodgy accounting and that you have been trying to put in things that should not have been there, such as ineligible funding and so on. We have received that accolade as Europe has given us devolved responsibilities for our funds. I think that we were the first area in Europe to receive such an accolade and to be told, ‘We know that you run your accounts efficiently and effectively, and therefore we can give you full accreditation as a body that uses European funds in a way that does not cause our auditors to have sleepless nights’. I believe that that is a further recognition of how we have used European funding creatively, in a way that is straightforward and abides by the complex rules of the European Union. We have used the funding in order to achieve what we see as our interpretation of the Lisbon strategy, to be able to convert Wales into a knowledge economy and to sustain Wales through this

Yn olaf, dylwn grybwyll gweinyddu da. Mae’n rhywbeth sylfaenol, ond pan ydych yn ymdrin â symiau mawr o arian, fel y gwnawn gyda chronfeydd strwythurol, gyda gwerth £3 biliwn o brosiectau yn 2007-13 a hanner yr arian hwnnw o bosibl—£1.5 biliwn—yn dod o Ewrop, drwy gyfrwng y rhaglenni Amcan 1, 2 a 3 sy’n tynnu tua’u terfyn yn awr, mae’n rhaid ichi gael enw da ym Mrwsel bod eich cyfrifon yn cael eu harchwilio’n briodol, fel nad ydych yn cael archwilwyr yn heidio atoch, yn llawn amheuon o gyfrifyddu amheus a’ch bod wedi bod yn ceisio cynnwys pethau na ddylent fod wedi bod yno, megis cyllid anghymwys ac ati. Yr ydym wedi cael yr anrhydedd hwnnw gan fod Ewrop wedi rhoi cyfrifoldebau datganoledig inni dros ein harian. Credaf mai ni oedd yr ardal gyntaf yn Ewrop i gael anrhydedd o’r fath ac i’w cael yn dweud wrthym, ‘Gwyddom eich bod yn rhedeg eich cyfrifon yn effeithlon ac yn effeithiol, ac felly gallwn roi achrediad llawn ichi fel corff sy’n defnyddio arian Ewropeaidd yn y fath fodd fel nad yw’n peri i’n harchwilwyr gael nosweithiau di-gwsg’. Credaf fod hynny’n gydnabyddiaeth bellach o’r modd yr ydym wedi defnyddio arian Ewropeaidd yn greadigol, a hynny’n agored a chan gadw at reolau cymhleth yr Undeb Ewropeaidd. Yr ydym wedi defnyddio’r arian er mwyn cyflawni’r hyn sydd, yn ein barn ni, yn cynrychioli ein dehongliad ni o strategaeth Lisbon, er mwyn gallu troi Cymru’n economi

53

05/05/2009

difficult recession. That is what I will say for the moment; I will respond to Members’ contributions at the close of the debate.

wybodaeth a chynnal Cymru yn ystod y dirwasgiad anodd hwn. Dyna’r oll a ddywedaf am y tro; byddaf yn ymateb i gyfraniadau’r Aelodau ar ddiwedd y ddadl.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Rosemary Butler) i’r Gadair am 3.21 p.m.The Deputy Presiding Officer (Rosemary Butler) took the Chair at 3.21 p.m.

Michael German: I move the following amendments in the name of Peter Black. Amendment 1: delete all after ‘progress’ and replace with:

Michael German: Cynigiaf y gwelliannau canlynol yn enw Peter Black. Gwelliant 1: dileu popeth ar ôl ‘ac yn’ a rhoi yn ei le:

of the National Assembly for Wales and wider stakeholders in engaging with the European Union.

croesawu cynnydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru a rhanddeiliaid ehangach o ran ymgysylltu â’r Undeb Ewropeaidd.

Amendment 5: add a new point at the end of the motion:

Gwelliant 5: ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

believes that Wales would benefit from working with other EU nations to tackle crime, climate change and to get ourselves out of recession.

yn credu y byddai Cymru’n elwa o weithio gyda chenhedloedd eraill yn yr UE i fynd i’r afael â throseddau, newid yn yr hinsawdd a chodi allan o ddirwasgiad.

First, I welcome the opportunity to have this debate. I do not know who framed the motion, but I have noticed that it is suitably ambiguous to either refer to the period since the beginning of the Assembly in 1999—if you take the words that are in front of you literally—or you could take a more narrow view and read it as referring to the period since 2007. I will take the wider view, since that is the first statement in the motion that has been moved by the Government. It may be that it was the Government’s intention to do that and if that was its intention, I would welcome that because this is a debate about the nature of our relationship with Europe, rather than a debate about particular achievements at particular points in time. Maybe the First Minister could clarify that because that would help us to decide what is meant by this motion.

Yn gyntaf, yr wyf yn croesawu’r cyfle i gael y ddadl hon. Ni wn pwy luniodd y cynnig, ond yr wyf wedi sylwi ei fod yn ddigon amwys naill ai i gyfeirio at y cyfnod ers cychwyn y Cynulliad yn 1999—os cymerwch y geiriau sydd o’ch blaen yn llythrennol—neu gallech gymryd safbwynt mwy cyfyng a’i ddarllen fel cynnig sy’n cyfeirio at y cyfnod er 2007. Yr wyf fi am gymryd y safbwynt ehangach, gan mai dyna’r datganiad cyntaf yn y cynnig y mae’r Llywodraeth wedi’i gynnig. Efallai mai bwriad y Llywodraeth oedd gwneud hynny, ac os dyna oedd ei bwriad byddwn yn croesawu hynny oherwydd dadl ynghylch natur ein perthynas gydag Ewrop yw hon, yn hytrach na dadl ynghylch cyflawniadau penodol ar adegau penodol mewn amser. Efallai y gallai’r Prif Weinidog egluro hynny oherwydd byddai hynny’n ein helpu i benderfynu beth y mae’r cynnig hwn yn ei olygu.

To clarify, if I take that longer view, then clearly the addition of the words ‘National Assembly for Wales’ would be appropriate. I think that there should be such an addition, but we may not have got the words quite right in amendment 1. I think that it would have been appropriate for us to have engaged with that. There is a role for the National

I egluro, os wyf fi’n cymryd y safbwynt hwy hwnnw, yna byddai’n amlwg yn briodol ychwanegu’r geiriau ‘Cynulliad Cenedlaethol Cymru’. Credaf y dylid cael ychwanegiad o’r fath, ond efallai nad ydym wedi cael y geiriau’n berffaith iawn yng ngwelliant 1. Credaf y byddai wedi bod yn addas inni fod wedi ymwneud â hynny. Ceir swyddogaeth i

54

05/05/2009

Assembly for Wales that is not just about scrutiny. Those of you who are long-serving members of the National Assembly’s Committee on European and External Affairs will know that we have a strategy document, which was agreed by the committee, that goes well beyond the role of scrutiny because of the nature of the different relationships that exist. As the relationships between the European Parliament, the European Commission and the European Council are different, the relationship between the National Assembly and Europe has to be different as well. There are positions that we have to take and that we could adopt, where the National Assembly could also look to take the longer view. One of the consequences of the context of what we are doing as a National Assembly is that we are taking a longer term perspective on how we should be approaching issues that will affect us for the future. For example, the committee is now deeply involved in looking at the future of structural funds, from a Welsh perspective, post 2013, with a feel for 2013-20. It is perfectly appropriate to take that long view because having some influence at the early part is crucial. I would say to the First Minister that there needs to be role for the National Assembly. There is a distinct role for it—it is not as if we are working in a completely separate manner in terms of the relationships that we have with the European Parliament and European institutions. I understand that the Government’s role in relation to the European Council, the commission and UKRep and so on is crucially one for the Government on its own.

Gynulliad Cenedlaethol Cymru nad yw’n ymwneud â chraffu’n unig. Bydd y rheini yn eich plith sy’n aelodau o Bwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol y Cynulliad Cenedlaethol ers tro byd yn gwybod bod gennym ddogfen strategaeth y cytunodd y pwyllgor arni ac sy’n mynd ymhell y tu hwnt i swyddogaeth craffu oherwydd natur y gwahanol berthnasau sy’n bodoli. Gan fod y berthynas rhwng Senedd Ewrop, y Comisiwn Ewropeaidd a’r Cyngor Ewropeaidd yn wahanol, mae’n rhaid i’r berthynas rhwng y Cynulliad Cenedlaethol ac Ewrop fod yn wahanol hefyd. Ceir agweddau y mae’n rhaid inni eu cymryd ac y gallem eu mabwysiadu, lle gallai’r Cynulliad Cenedlaethol hefyd ystyried cymryd y safbwynt hwy. Un o ganlyniadau cyd-destun yr hyn yr ydym yn ei wneud fel Cynulliad Cenedlaethol yw ein bod yn cymryd safbwynt tymor hwy ar sut y dylem fod yn ymdrin â materion a fydd yn effeithio arnom i’r dyfodol. Er enghraifft, mae’r pwyllgor ar hyn o bryd yn ymwneud yn fanwl ag edrych ar ddyfodol cronfeydd strwythurol, o safbwynt Cymru, wedi 2013, gan edrych ymlaen at 2013-20. Mae’n gwbl addas cymryd y safbwynt hir hwnnw oherwydd mae’n hollbwysig cael rhywfaint o ddylanwad yn y cyfnod cynnar. Byddwn i’n dweud wrth y Prif Weinidog bod angen swyddogaeth ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol. Ceir swyddogaeth bendant ar ei gyfer—nid yw fel petaem yn gweithio mewn modd cwbl ar wahân o ran y berthynas sydd gennym â Senedd Ewrop a sefydliadau Ewropeaidd. Yr wyf yn deall bod swyddogaeth y Llywodraeth yng nghyswllt y Cyngor Ewropeaidd, y comisiwn ac UKRep ac ati yn un i’r Llywodraeth ar ei phen ei hun, ac mae hynny’n hollbwysig.

My second point is on the importance of both institutions being fully committed to, and engaged with, the European institutions and Europe as a whole. A view was taken some years ago that the only thing of interest to the people of Wales in Europe was the amount of money that we could get through the front door into the moneybox. That is a misconception, because we have a responsibility to know what we can contribute to make the lives of those in all of our communities across Europe better. It is not just a one-way street, and there is a danger that it can be seen as such. Working

Mae fy ail bwynt yn ymwneud â pha mor bwysig ydyw bod y ddau sefydliad yn gwbl ymroddedig i’r sefydliadau Ewropeaidd ac i Ewrop gyfan, a’u bod yn ymgysylltu â hwy. Daethpwyd i’r farn ychydig flynyddoedd yn ôl mai’r unig beth o ddiddordeb i bobl Cymru yn Ewrop oedd faint o arian y gallem ei gael drwy’r drws ffrynt i’w roi yn y cadw-mi-gei. Mae hynny’n gamsyniad, oherwydd mae gennym gyfrifoldeb i wybod beth y gallwn ei gyfrannu i wella bywydau pobl ym mhob un o’n cymunedau ledled Ewrop. Nid stryd unffordd yn unig ydyw, ac mae perygl y gellir ei hystyried felly. Mae gweithio gydag

55

05/05/2009

with others is an appropriate way of ensuring that we tackle some of the key problems that face us at present. Is it not better to tackle climate change with our partners, working with other countries in Europe? Of course, the answer to that is ‘yes’. Flowing from that are the environmental changes that have come about through our legislative process, and the funding and everything else that flows from that. Taking part in that is crucial. Equally, the recovery that needs to take place is being driven in great part by the way in which the European institutions are driving forward the economic recovery plan, of which we are, as the First Minister has already alluded to today, one of the beneficiaries. I believe that the European economic recovery plan will help us considerably and, to take full advantage of that, we need to be a player on the field.

eraill yn ffordd addas o sicrhau ein bod yn ymdrin â rhai o’r problemau allweddol yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Onid yw’n well ymdrin â newid yn yr hinsawdd gyda’n partneriaid, gan weithio gyda gwledydd eraill yn Ewrop? Yr ateb i hynny, wrth gwrs, yw ‘ydyw’. Yn sgil hynny ceir y newidiadau amgylcheddol sydd wedi’u cyflwyno drwy gyfrwng ein proses ddeddfwriaethol, a’r arian a phopeth arall sy’n dod yn sgil hynny. Mae cymryd rhan yn hynny yn hollbwysig. Yn yr un modd, mae’r adferiad y mae angen iddo ddigwydd yn cael ei yrru i raddau helaeth gan y modd y mae’r sefydliadau Ewropeaidd yn bwrw ymlaen â’r cynllun adfer economaidd, yr ydym ni, fel y mae’r Prif Weinidog eisoes wedi crybwyll heddiw, yn un o’r rhai sy’n elwa yn ei sgil. Credaf y bydd cynllun adfer economaidd Ewrop o gymorth sylweddol inni ac, er mwyn manteisio’n llawn arno, mae angen inni wneud ein rhan.

It has not all been plain sailing, and there are things that we can do better. Given that our legislative processes here are in their infancy, we are faced with the reality that 50 per cent of the legislation that we pass had some genesis in the European institutions somewhere—either the European Parliament or the Council of Europe. Therefore, it is important that, in future, rather than lay out a litany of awards, we think about how we can do things better and how we can engage in the legislative process. That is the role of a legislature such as ours, and we need to take that forward. For those reasons, it is important that Members support these amendments.

Ni fu popeth yn rhwydd, a cheir pethau y gallwn eu gwneud yn well. Ac ystyried mai ifanc iawn yw’n prosesau deddfwriaethol yma, yr ydym yn wynebu’r realiti bod gan 50 y cant o’r ddeddfwriaeth yr ydym ni’n ei phasio ryw darddiad yn y sefydliadau Ewropeaidd yn rhywle—naill ai yn Senedd Ewrop neu’r Cyngor Ewropeaidd. Felly, mae’n bwysig ein bod, yn y dyfodol, yn hytrach nag amlinellu litani o wobrau, yn ystyried sut y gallwn wneud pethau’n well a sut y gallwn ymwneud â’r broses ddeddfwriaethol. Dyna swyddogaeth corff deddfwriaethol megis ein heiddo ni, ac mae angen inni ddatblygu hynny. Am y rhesymau hynny, mae’n bwysig bod yr Aelodau’n cefnogi’r gwelliannau hyn.

The Deputy Presiding Officer: Order. Wind up, please.

Y Dirprwy Lywydd: Trefn. Mae angen ichi gloi yn awr.

Michael German: Why is the First Minister not working with others on crime? I do not understand why we should not work together to solve crimes that are increasingly crossing borders. Perhaps in his answers, he can tell us why that opposition to amendment 5 is so rigid.

Michael German: Pam nad yw’r Prif Weinidog yn gweithio gydag eraill i fynd i’r afael â throseddu? Nid wyf yn deall pam na ddylem weithio ynghyd i ddatrys troseddau sydd, fwyfwy, yn croesi ffiniau. Yn ei atebion, efallai y gall ddweud wrthym pam mae’r gwrthwynebiad hwnnw i welliant 5 mor ddiwyro.

William Graham: I move the following amendments in the name of Alun Cairns.

William Graham: Cynigiaf y gwelliannau canlynol yn enw Alun Cairns. Gwelliant 2:

56

05/05/2009

Amendment 2: delete ‘Welsh Assembly Government’ and replace with ‘National Assembly for Wales’.

dileu ‘Lywodraeth Cynulliad Cymru’ a rhoi ‘Gynulliad Cenedlaethol Cymru’ yn ei le.

Amendment 3: add a new point at the end of the motion:

Gwelliant 3: ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

recognises the invaluable role of Tŷ Cymru in Brussels in helping to promote Welsh interests in Europe.

yn cydnabod swyddogaeth hollbwysig Tŷ Cymru ym Mrwsel o ran helpu i hyrwyddo buddiannau Cymreig yn Ewrop.

Amendment 4: add a new point at the end of the motion:

Gwelliant 4: ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

calls on the Welsh Assembly Government to make further representations to the Westminster Government to hold a referendum on the Treaty of Lisbon before it has been ratified by the whole of the EU.

yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno rhagor o sylwadau i Lywodraeth San Steffan er mwyn cynnal refferendwm ynghylch Cytuniad Lisbon cyn i’r Undeb Ewropeaidd gyfan ei gadarnhau.

The task of engaging Wales with the European Union since devolution has been and remains a uniquely challenging and vital task. Forming the Common Market was the response of western European Governments to the threat of another great war. With that threat mollified, the EU now tries to define its purpose in other terms, but no compelling European identity has yet arisen.

Mae’r gwaith o gysylltu Cymru â’r Undeb Ewropeaidd ers datganoli wedi bod yn her unigryw sydd o’r pwys mwyaf, ac erys hynny’n wir. Ffurfio’r Farchnad Gyffredin oedd ymateb Llywodraethau gorllewin Ewrop i’r bygythiad o ryfel mawr arall. Â’r bygythiad hwnnw wedi’i liniaru, mae’r UE bellach yn ceisio diffinio’i phwrpas mewn termau eraill, ond nid oes hunaniaeth Ewropeaidd gymhellol wedi ymddangos eto.

It is crucial that Wales engages with an open and flexible Europe, in which countries work to achieve shared goals rather than any further centralisation of power in Brussels. Devolution presented the opportunity to deal with problems in a way that was focused towards the needs of the citizens and businesses of Wales—in this case, tackling the bureaucratic and trade deficits that exist between Wales and the EU, while remaining committed to being a constituent part of the United Kingdom. Although foreign policy issues are non-devolved, the UK Government’s willingness to engage the Assembly Government as directly as possible on EU matters in the 10 years of devolution has been a positive step. It seems right, given that Wales has a number of deprived areas and farming communities that have historically been targeted for support by the EU. Almost 80 per cent of the total agricultural land in Wales is classified as a less favoured area.

Mae’n hollbwysig bod Cymru’n cysylltu ag Ewrop agored a hyblyg, y mae gwledydd yn gweithio o’i mewn er mwyn gwireddu amcanion ar y cyd yn hytrach nag unrhyw ganoli pellach ar bŵer ym Mrwsel. Rhoddodd datganoli’r cyfle i ymdrin â phroblemau mewn modd a oedd yn canolbwyntio ar anghenion dinasyddion a busnesau Cymru—yn yr achos hwn, ymdrin â’r diffygion biwrocrataidd a’r diffygion masnach sy’n bodoli rhwng Cymru a’r UE, gan aros yn ymroddedig ar yr un pryd i fod yn rhan gyfansoddol o’r Deyrnas Unedig. Er nad yw materion polisi tramor wedi’u datganoli, mae parodrwydd Llywodraeth y DU i gynnwys Llywodraeth y Cynulliad mor uniongyrchol â phosibl ar faterion yr UE yn ystod 10 mlynedd o ddatganoli wedi bod yn gam cadarnhaol. Ymddengys yn briodol, ac ystyried bod gan Gymru nifer o ardaloedd o amddifadedd a chymunedau ffermio sydd, yn hanesyddol, wedi cael eu targedu ar gyfer cefnogaeth gan yr UE. Mae bron i 80 y cant o gyfanswm tir amaethyddol Cymru wedi’i

57

05/05/2009

ddynodi’n ardal lai ffafriol.

It is perhaps unfortunate that the first major headlines that linked the Assembly to the EU were created in 2000, over the then First Secretary Alun Michael’s failure to achieve match funding from the UK Treasury for the £1.2 billion of Objective 1 money that Tony Blair was proud to announce on his return from the Berlin summit. Few involved in Assembly proceedings then will forget the circumstances that led to Mr Michael’s departure, with the three opposition parties uniting in support of Plaid’s motion of no confidence. As the now Deputy First Minister said at the time, Mr Michael should have made the case for Wales to get the money that it deserves much more strongly. He said:

Mae’n anffodus, efallai, bod y penawdau breision cyntaf a oedd yn cysylltu’r Cynulliad â’r UE wedi’u creu yn 2000, yn sgil methiant y Prif Ysgrifennydd ar y pryd, Alun Michael, i sicrhau cyllid cyfatebol gan Drysorlys y DU ar gyfer yr £1.2 biliwn o arian Amcan 1 yr oedd Tony Blair yn falch o’i gyhoeddi wrth ddychwelyd o uwchgynhadledd Berlin. Ychydig o’r rheini a oedd yn ymwneud â thrafodion y Cynulliad bryd hynny a fydd yn anghofio’r amgylchiadau a arweiniodd at ymadawiad Mr Michael, gyda’r dair gwrthblaid yn uno i gefnogi cynnig Plaid o ddiffyg hyder. Fel y dywedodd y gŵr sydd bellach yn Ddirprwy Brif Weinidog ar y pryd, dylai Mr Michael fod wedi cyflwyno achos llawer cryfach o blaid Cymru’n cael yr arian y mae’n ei haeddu. Dywedodd hyn:

‘We… need a First Secretary who, in the best interests of Wales, will have the bottle to challenge Tony Blair and Gordon Brown, even when they say “no”’.

‘Mae arnom angen Prif Ysgrifennydd a fydd… er lles Cymru, yn ddigon dewr i herio Tony Blair a Gordon Brown, hyd yn oed pan ddywedant “na”’.

3.30 p.m.

That was devolution in action in a way that its architects in London had not anticipated.

Yr oedd hynny’n enghraifft o ddatganoli ar waith mewn ffordd nad oedd ei benseiri yn Llundain wedi’i rhagweld.

With funding secured, one must question the effectiveness of the Assembly Government’s spending. Despite eight years of top-level European aid, deprivation and a lack of opportunities has stubbornly endured in the Valleys and parts of north and west Wales. In the Republic of Ireland, Objective 1 money was used to greatly improve the country’s transport infrastructure. In Brittany, which received lower levels of European aid, money has been used to develop new tourism and leisure facilities in fishing ports. The accession of new member states has changed the EU forever, presenting new opportunities and challenges for Wales. Future aid will be much reduced and where it is available competition will be fierce in view of the considerable need expressed by the leaders of collapsing economies in eastern Europe.

Gyda chyllid wedi’i sicrhau, rhaid amau effeithiolrwydd gwariant Llywodraeth y Cynulliad. Er gwaethaf wyth mlynedd o gymorth Ewropeaidd ar y lefel uchaf, mae amddifadedd a diffyg cyfleoedd wedi parhau yn y Cymoedd a rhannau o’r gogledd a’r gorllewin. Yng Ngweriniaeth Iwerddon, defnyddiwyd arian Amcan 1 i wella seilwaith trafnidiaeth y wlad yn sylweddol. Yn Llydaw, a oedd yn derbyn lefelau is o gymorth Ewropeaidd, defnyddiwyd yr arian i ddatblygu twristiaeth a chyfleusterau hamdden newydd mewn porthladdoedd pysgota. Mae derbyn aelod wladwriaethau newydd wedi newid yr UE am byth, gan arwain at gyfleoedd a heriau newydd i Gymru. Bydd cymorth yn y dyfodol yn llawer is a phan fydd ar gael bydd y gystadleuaeth yn ffyrnig o ganlyniad i’r angen dirfawr a fynegwyd gan arweinwyr yr economïau sy’n wynebu anawsterau difrifol

58

05/05/2009

yn nwyrain Ewrop.

Welsh Conservatives are keen to see Wales succeed in the EU, taking better advantage of markets for our businesses and produce and by ensuring that our needs are met in a representative and innovative way. The use of funds available under the EU’s rural development policy to work towards creating green jobs and to assist in the start-up of micro-enterprises is greatly to be welcomed. We need more of the same if we are to have a living, working Welsh countryside in the twenty-first century and beyond. It is encouraging, as the First Minister has indicated, that Wales was chosen by the European Investment Bank to pilot the JESSICA project. However, the Welsh Government must do more to convince business leaders that the major share of European aid money is not reserved for public sector projects.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn awyddus i weld Cymru’n llwyddo yn yr UE, yn manteisio’n well ar farchnadoedd ar gyfer ein busnesau a’n cynnyrch a drwy sicrhau bod ein hanghenion yn cael eu diwallu mewn modd cynrychioliadol ac arloesol. Mae defnyddio’r arian sydd ar gael dan bolisi datblygu gwledig yr UE i weithio i greu swyddi gwyrdd ac i gynorthwyo i sefydlu microfentrau yn rhywbeth i’w groesawu’n fawr. Mae angen mwy o hynny os ydym am gael cefn gwlad byw ac sy’n gweithio yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain a thu hwnt. Mae’n galonogol, fel yr awgrymodd y Prif Weinidog, bod Cymru wedi’i dewis gan Fanc Buddsoddi Ewrop fel peilot ar gyfer y prosiect JESSICA. Fodd bynnag, rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i argyhoeddi arweinwyr busnes nad yw cyfran fwyaf arian cymorth Ewrop wedi’i neilltuo ar gyfer prosiectau sector cyhoeddus.

Despite the progress in Wales, there are concerns about the United Kingdom’s relationship with the EU. The question of democratic legitimacy continues to linger as long as the UK Government refuses to deliver its pledge to hold a referendum on the Lisbon treaty. This treaty remains hugely significant, and that is why it is vital to raise the question of a referendum at this time—it should be an important theme in the European elections. The peoples of France, the Netherlands and Ireland have made clear their objection at the ballot box. I urge the Welsh Government to appeal to its colleagues in Westminster to hold the referendum that they promised in their manifesto. A Conservative UK Government will hold this referendum, while remaining committed on issues such as climate change.

Er gwaethaf y cynnydd yng Nghymru, mae pryderon ynghylch perthynas y Deyrnas Unedig â’r UE. Bydd y mater o gyfreithlondeb democrataidd yn parhau i oedi cyhyd â bod Llywodraeth y DU yn gwrthod cadw at ei haddewid i gynnal refferendwm ar Gytuniad Lisbon. Mae’r cytundeb hwn yn parhau yn fater o’r pwys mwyaf, a dyna pam mae’n hanfodol bod y mater o refferendwm yn cael ei godi ar yr adeg hon—dylai fod yn thema bwysig yn yr etholiadau Ewropeaidd. Mae pobl Ffrainc, yr Iseldiroedd ac Iwerddon wedi datgan eu gwrthwynebiad yn amlwg drwy’r blwch pleidleisio. Yr wyf yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i apelio at ei chymheiriaid yn San Steffan i gynnal y refferendwm yr oeddent wedi’i addo yn eu maniffesto. Bydd Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn cynnal y refferendwm hwn, gan barhau i ymrwymo i faterion megis newid yn yr hinsawdd.

Alun Davies: Do you not regret the approach taken by the UK Conservative Party on this and other issues, in terms of not only the substance of its policy, but its tone and attitude to some of these European questions? It does a disservice to Wales, and it could well be a tragedy not only for us in Wales, but for the whole of the United Kingdom.

Alun Davies: Onid ydych yn gresynu at ymagwedd Plaid Geidwadol y DU tuag at y mater hwn a materion eraill, nid yn unig o ran sylwedd ei pholisi, ond hefyd o ran ei theimladau a’i hagwedd tuag at rai o’r cwestiynau Ewropeaidd hyn? Mae hynny’n gwneud cam â Chymru, a gallai’n hawdd iawn fod yn drasiedi nid yn unig inni yng Nghymru, ond i’r Deyrnas Unedig gyfan.

59

05/05/2009

William Graham: I do not think that you have made your case. You have repeated a blanket comment that was made in the press, and not one that is based in reality.

William Graham: Ni chredaf eich bod wedi dadlau’ch achos. Yr ydych wedi ailadrodd sylw cyffredinol a wnaethpwyd yn y wasg, ac nid un sy’n seiliedig ar realiti.

Wales must continue to engage with EU bodies, ensuring that the opportunities that devolution offers are fully capitalised upon. Issues such as areas of deprivation, our large farming community and the unique Welsh language and culture, combined with a small but relatively healthy economy, make Wales an ideal location for piloting future schemes.

Rhaid i Gymru barhau i ymgysylltu â chyrff yr UE, gan sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sy’n codi yn sgil datganoli. Mae materion fel ardaloedd o amddifadedd, ein cymuned ffermio fawr a’r iaith a’r diwylliant Cymreig unigryw, ynghyd ag economi fach ond cymharol iach, yn gwneud Cymru’n lleoliad delfrydol ar gyfer prosiectau peilot ar gyfer cynlluniau’r dyfodol.

With the 2009 European elections rapidly approaching, the dividing lines between the parties are clear. We must be wary of allowing nationalists to create the impression that a strengthened relationship with the EU is a compelling argument for independence from the United Kingdom.

Gydag etholiadau Ewropeaidd 2009 yn prysur agosáu, mae’r gwahaniaethau rhwng y pleidiau’n amlwg. Rhaid inni ochel rhag caniatáu i’r cenedlaetholwyr roi’r argraff y byddai perthynas gryfach â’r UE yn ddadl gredadwy dros annibyniaeth oddi wrth y Deyrnas Unedig.

Finishing on a positive note, I join the First Minister in thanking the members of Wales House in Brussels for their excellent assistance to all Assembly Members.

Gan gloi ar nodyn positif, hoffwn ymuno â’r Prif Weinidog drwy ddiolch i aelodau Tŷ Cymru ym Mrwsel am eu cymorth ardderchog i bob Aelod o’r Cynulliad.

Christine Chapman: Ten years of devolution have most certainly enhanced Wales’s influence in Europe, and Wales has benefited too. Besides the very real achievements that we see in our communities as a result of structural funds, we should remember the wider benefits of greater political unity.

Christine Chapman: Yn ddi-os, mae deng mlynedd o ddatganoli wedi rhoi hwb i ddylanwad Cymru yn Ewrop, ac mae Cymru wedi elwa hefyd. Yn ogystal â’r cyflawniadau gwirioneddol a welwn yn ein cymunedau o ganlyniad i gronfeydd strwythurol, dylem gofio am fuddiannau ehangach undod gwleidyddol pellach.

Despite these achievements, we must rise to the challenge of bringing Europe even closer to the ordinary citizens of Wales. One opportunity to do that will be with regard to the future direction of the Lisbon strategy after 2010—in the autumn, a Europe-wide consultation will take place. I urge the Welsh Assembly Government to take a lead in this debate.

Er gwaethaf y cyflawniadau hyn, rhaid inni ymateb i’r her o ddod ag Ewrop yn nes fyth at ddinasyddion cyffredin Cymru. Un cyfle i wneud hynny fydd yn sgil cyfeiriad strategaeth Lisbon yn y dyfodol ar ôl 2010—yn yr hydref, cynhelir ymgynghoriad Ewrop gyfan. Yr wyf yn annog Llywodraeth y Cynulliad i gymryd rhan flaenllaw yn y ddadl hon.

As the Assembly’s representative on the Committee of the Regions, I am taking an opinion forward that seeks to rebalance Lisbon’s ‘jobs and growth’ goal to follow a much more sustainable model. We are in difficult times, and we are all aware of the

Fel cynrychiolydd y Cynulliad ar Bwyllgor y Rhanbarthau, yr wyf yn cyflwyno safbwynt sy’n ymdrechu i roi cydbwysedd newydd i amcan ‘swyddi a thwf’ Lisbon er mwyn dilyn model llawer mwy cynaliadwy. Yr ydym yn byw mewn cyfnod anodd, ac yr ydym i gyd

60

05/05/2009

human stories behind the statistics of the economic downturn: fears of unemployment, uncertainty about the future, the effects on children and families and the potential for social unrest. As such, any discussion about the future direction of economic growth should not neglect the human dimension. As President Obama reminded us in his inaugural address, a

yn ymwybodol o’r hanesion personol sydd y tu ôl i ystadegau’r dirywiad economaidd: ofni diweithdra, ansicrwydd ynghylch y dyfodol, yr effeithiau ar blant a theuluoedd a’r posibilrwydd o aflonyddwch cymdeithasol. O ganlyniad, ni ddylai unrhyw drafodaeth ar gyfeiriad twf economaidd yn y dyfodol anwybyddu’r dimensiwn personol. Fel y’n hatgoffwyd ni gan yr Arlywydd Obama yn ei anerchiad wrth gael ei urddo,

‘nation cannot prosper long when it favors only the prosperous. The success of our economy has always depended not just on the size of our gross domestic product, but on the reach of our prosperity, on the ability to extend opportunity to every willing heart—not out of charity, but because it is the surest route to our common good.’

Ni all cenedl ffynnu’n hir pan mae’n ffafrio’r ffyniannus yn unig. Mae llwyddiant ein heconomi wedi dibynnu erioed nid yn unig ar faint ein cynnyrch mewnwladol crynswth, ond ar ba mor bell mae’n ffyniant yn cyrraedd, ar y gallu i ymestyn cyfle i gyrraedd pob calon barod—nid fel gweithred elusennol, ond gan mai dyna’r ffordd sicraf i gyflawni’n lles cyffredinol.

The financial and economic crisis has challenged some of the conventional wisdom about the economy, and we must rise to that challenge. We can do this on several fronts. The direction of the Lisbon strategy should ensure that green jobs and tackling climate change are central, securing good employment for our communities, but also of benefit to future generations. It should also ensure a stronger social dimension. We know that 16 per cent of the population across Europe is on the poverty line, with children doing even worse at 19 per cent. As Gordon Brown stated recently, we need to re-establish values in the global economy. The economy exists to serve the wider society, not the other way around. The economy must be a tool for achieving a better quality of life for all, including future generations. We perhaps need an overarching aim or definition for the Lisbon strategy. There is still confusion on this, and we will fail to capture the interest of ordinary citizens of Wales if we do not address this. If you visit pubs, clubs and supermarkets across Wales, I do not think that you would hear many conversations about the Lisbon strategy post 2010, and we need to change that.

Mae’r argyfwng ariannol ac economaidd wedi herio rhywfaint o’r doethineb traddodiadol ynghylch yr economi, a rhaid inni dderbyn yr her honno. Gallwn wneud hyn mewn llawer ffordd. Dylai cyfeiriad strategaeth Lisbon sicrhau bod swyddi gwyrdd a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yn elfennau canolog, gan sicrhau swyddi da i’n cymunedau, ond dylai hefyd fod o fudd i genedlaethau’r dyfodol. Dylai hefyd sicrhau dimensiwn cymdeithasol cryfach. Gwyddom fod 16 y cant o’r boblogaeth yn Ewrop yn byw ar ffin tlodi, gyda’r sefyllfa’n waeth fyth i blant lle mae 19 y cant ohonynt ar y ffin tlodi. Fel y dywedodd Gordon Brown yn ddiweddar, mae angen inni ailsefydlu gwerthoedd yn yr economi fyd-eang. Mae’r economi’n bodoli i wasanaethu’r gymuned ehangach, ac nid i’r gwrthwyneb. Rhaid i’r economi fod yn arf i gyflawni ansawdd byw gwell i bawb, gan gynnwys cenedlaethau’r dyfodol. Efallai fod angen nod cyffredinol neu ddiffiniad arnom ar gyfer strategaeth Lisbon. Mae dryswch yn parhau ynghylch hyn, ac ni fyddwn yn llwyddo i ennyn diddordeb dinasyddion cyffredin oni bai ein bod yn rhoi sylw i hyn. Os ewch i dafarnau, clybiau ac archfarchnadoedd ar hyd a lled Cymru, ni chredaf y byddwch yn clywed llawer o sgyrsiau am strategaeth Lisbon ar ôl 2010, ac mae angen inni newid hynny.

A future policy should also be about drawing Dylai polisi’r dyfodol fynd ati hefyd i

61

05/05/2009

on the talents of all. While I am proud of the excellent political representation of women in the Assembly, we are still not fully utilising the talents of women in the economy. Having a greater proportion of women as innovators and entrepreneurs can be a solution to the economic crisis, as more European research is now showing. The Assembly and local authorities in Wales must be at the heart of the Lisbon strategy, not just passive recipients of what is decided upon centrally. A recent Eurobarometer survey suggested that the local and regional layers of Government are the most trusted in Europe. They are the gateways to the public in Wales.

fanteisio ar dalentau pawb. Er fy mod yn ymfalchïo yng nghynrychiolaeth wleidyddol ragorol merched yn y Cynulliad, nid ydym eto’n llwyddo i wneud defnydd llawn o dalentau merched yn yr economi. Gall sicrhau cyfran uwch o ferched fel arloeswyr ac entrepreneuriaid fod yn ateb i’r argyfwng economaidd, fel y mae mwy o ymchwil Ewropeaidd bellach yn ei ddangos. Rhaid i’r Cynulliad ac awdurdodau lleol yng Nghymru chwarae rhan ganolog yn strategaeth Lisbon, ac nid fel rhai sy’n derbyn yn dawel yr hyn a benderfynir yn ganolog. Awgrymodd arolwg Eurobarometer diweddar mai’r haenau lleol a rhanbarthol o lywodraeth yw’r rhai yr ymddiriedir fwyaf ynddynt yn Ewrop. Hwy yw’r pyrth at y cyhoedd yng Nghymru.

The Welsh Assembly Government and local government in Wales have played a key role in delivering the Lisbon strategy so far, so it is essential that they are part of the current discussions.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru wedi chwarae rôl allweddol o ran cyflawni strategaeth Lisbon hyd yma, felly mae’n hanfodol eu bod yn rhan o’r trafodaethau cyfredol.

Rhodri Glyn Thomas: Fel dinasyddion rhyngwladol, mae’r cysyniad o Ewrop a’r Undeb Ewropeaidd yn arbennig o bwysig. I lawer ohonom, mae dyhead i weld sefyllfa yn y byd lle mae heddwch a sefydlogrwydd byd-eang, a bod y syniad o ddwyn y gwahanol genhedloedd a gwladwriaethau o fewn Ewrop at ei gilydd yn ein symud at y nod arbennig hwnnw. O ystyried y rhyfel diweddar yn Irac, pe bai Prydain Fawr yn rhan o lu milwrol amddiffynnol, fel sydd wedi bod yn bolisi gan Blaid Cymru ers degawdau, ni fyddem wedi cael ein tynnu i mewn i’r rhyfel hwnnw. Yr oedd nifer o arweinyddion gwledydd eraill Ewrop yn gweld y peryglon yn glir, ac yn cwestiynu cymhellion yr Arlywydd Bush a Phrif Weinidog Blair i fynd i mewn i’r rhyfel. Yr ydym yn awr yn cyfrif cost y rhyfel, gan fod yr arian a wariwyd arno yn arian y gellid fod wedi ei ddefnyddio ar gyfer iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol a thai yn y Deyrnas Unedig ac yng Nghymru.

Rhodri Glyn Thomas: As international citizens, the concept of Europe and the European Union is very important. Many of us want to see worldwide peace and stability, and the concept of bringing European nations and states together progresses us towards that goal. If you look at the recent war in Iraq, had Great Britain been part of a military defence force, as has been Plaid Cymru policy for decades, we would not have been drawn into that war. The leaders of a number of other European countries saw the dangers clearly, and questioned the motives of President Bush and Prime Minister Blair in going into this war. We are now counting the cost of that war; the money spent there could have been spent on health, social services and housing in the United Kingdom and Wales.

Mae’r cwestiwn wedi ei godi eisoes gan Mike German o ran a fyddai’n well i Lywodraeth Cymru geisio gweithredu ar faterion byd-eang i ddiogelu ein hamgylchedd a chynaliadwyedd fel rhan o’r Undeb Ewropeaidd. I raddau helaeth, mae bodolaeth yr Undeb Ewropeaidd yn gallu ein hamddiffyn rhag y math o opsiynau tymor

Mike German has already asked whether it would be better for the Government of Wales to try to act on worldwide issues to secure our environment and sustainability as part of the European Union. To a great extent, the existence of the European Union can defend us from the kinds of short-term options that are often chosen by politicians and states.

62

05/05/2009

byr a ddewisir yn aml gan wleidyddion a gwladwriaethau.

Yn y cyd-destun presennol, mae’r Prif Weinidog wedi ein hatgoffa am y modd yr ydym wedi gallu defnyddio cronfeydd strwythurol er mwyn sicrhau cynlluniau fel ProAct a ReAct, sy’n ein galluogi i geisio cynnal sgiliau ein gweithlu a sicrhau bod Cymru yn barod i wynebu’r her a’r sialens ar ôl y dirwasgiad.

In the current context, the First Minister has reminded us of how we can use structural funds to develop schemes such as ProAct and ReAct, which enable us to try to maintain the skills of our workforce, to ensure that Wales is ready to face the challenges of the upturn.

Felly, ar sawl lefel, mae’r ffaith ein bod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd yn rhywbeth y dylem ei groesawu. Mae’r hyn sydd wedi digwydd ers datganoli 10 mlynedd yn ôl wedi cryfhau hynny.

Therefore, on a number of levels, the fact that we are a part of the European Union is something that we should welcome. What has happened in the 10 years since devolution only serves to strengthen that.

Referring to some of the more specific issues that we as a party have campaigned on within Europe, Plaid Cymru was the first party to raise the issue of co-official status for the Welsh language in the European Union, which includes the right of citizens to correspond with European Union institutions in Welsh.

Gan gyfeirio at rai o’r materion mwy penodol yr ydym ni fel plaid wedi ymgyrchu drostynt o fewn Ewrop, Plaid Cymru oedd y blaid gyntaf i godi’r mater o statws cyd-swyddogol i’r Gymraeg yn yr Undeb Ewropeaidd, sy’n cynnwys hawl dinasyddion i ohebu drwy gyfrwng y Gymraeg â sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd.

3.40 p.m.

In terms of agriculture, we successfully campaigned for a ban on Brazilian beef imports to the European Union and won a European Union restriction on genetically modified organisms and fought for a total ban of GMOs in Europe. We successfully fought European Union proposals to abolish the pint as a selling measure for milk, which could have had serious consequences for the Welsh dairy industry. We worked to secure better European Union rules to encourage local authorities and the public sector to source food locally and to provide European Union support for initiatives such as local farmers’ markets. We were also successful in tabling amendments, which were adopted, to allow the use of new technologies for farm containment of fallen stock, such as the new biodigester being developed at Bangor University.

O ran amaethyddiaeth, yr ydym wedi ymgyrchu’n llwyddiannus dros waharddiad ar fewnforio cig eidion i’r Undeb Ewropeaidd o Frasil ac wedi ennill cyfyngiad ar organeddau a addaswyd yn enetig yn yr Undeb Ewropeaidd ac wedi brwydro dros waharddiad llwyr arnynt yn Ewrop. Buom yn llwyddiannus yn ein hymgyrch yn erbyn cynigion yr Undeb Ewropeaidd i ddiddymu’r peint fel mesur gwerthu ar gyfer llaeth, a fyddai wedi cael goblygiadau difrifol i’r diwydiant llaeth yng Nghymru. Yr ydym wedi gweithio i sicrhau rheolau gwell yn yr Undeb Ewropeaidd er mwyn annog awdurdodau lleol a’r sector cyhoeddus i brynu bwyd yn lleol ac i sicrhau bod yr Undeb Ewropeaidd yn darparu cymorth i gynlluniau fel marchnadoedd ffermwyr lleol. Buom yn llwyddiannus hefyd wrth gyflwyno gwelliannau, a fabwysiadwyd, i ganiatáu defnydd o dechnolegau newydd ar gyfer caethiwo stoc trig ar y fferm, megis y briodreulydd sy’n cael ei ddatblygu ym Mhrifysgol Bangor.

We also campaigned successfully for a Buom hefyd yn ymgyrchu’n llwyddiannus

63

05/05/2009

European Commission investigation into the liquid natural gas pipeline and also for an investigation into the Hafod landfill. We fought for and won stronger European rules on flood protection, introducing stronger requirements for flood risk assessments to be undertaken. We also brought a petition against the British Government to the European Parliament on behalf of 1,000 steelworkers who lost their pensions when their employer, Allied Steel and Wire, collapsed. Therefore, the bigger picture is that many things have been beneficial for us as a country in Europe and that has been strengthened by devolution, but also, on specific, everyday issues, we have been able to use our situation in the European Union and the European Parliament to ensure that the views of the people of Wales have been fully represented.

dros ymchwiliad gan y Comisiwn Ewropeaidd i’r biblinell nwy hylifedig naturiol a hefyd am ymchwiliad i safle tirlenwi Hafod. Buom yn ymgyrchu a llwyddwyd i sicrhau rheolau Ewropeaidd cryfach ar amddiffyn rhag llifogydd, a arweiniodd at gyflwyno gofynion cryfach ar gyfer cynnal asesiadau risg o lifogydd. Hefyd, daethpwyd â deiseb yn erbyn Llywodraeth Prydain i’r Senedd Ewropeaidd ar ran 1,000 o weithwyr dur a oedd wedi colli eu pensiynau pan fethodd eu cyflogwr, Allied Steel and Wire. Felly, mae’r darlun cyflawn yn dangos ein bod wedi elwa mewn llawer ffordd fel gwlad yn Ewrop ac mae hynny wedi’i atgyfnerthu yn sgil datganoli, ond hefyd, o ran materion penodol, o ddydd i ddydd, yr ydym wedi gallu defnyddio’n sefyllfa yn yr Undeb Ewropeaidd a’r Senedd Ewropeaidd i sicrhau bod barn pobl Cymru wedi’i chynrychioli’n llawn.

Sandy Mewies: I will keep my remarks brief, because others have said much of what I was going to say. It is important to state that devolution has transformed and enhanced the position of Wales in the European Union and continues to do so. This is an ongoing process, which we cannot ignore. I am surprised that so many of the amendments are negative when you consider what is happening here. Christine Chapman referred to the wider role of Europe; it is not just about structural funding, but we are doing well with our European spend, and my committee is looking at cohesion in the future. We have taken evidence in Brussels and we will continue to do so. It is important to recognise that it is not all about funding and what we can get out of Europe; it is often about what we can put into it.

Sandy Mewies: Yr wyf am gadw fy sylwadau’n fyr, gan fod eraill wedi dweud llawer o’r hyn oedd gennyf i’w ddweud. Mae’n bwysig datgan bod datganoli wedi trawsnewid a gwella safle Cymru yn yr Undeb Ewropeaidd a’i fod yn parhau i wneud hynny. Bydd hon yn broses barhaus, ac ni allwn ei hanwybyddu. Yr wyf wedi fy synnu bod cynifer o’r gwelliannau’n rhai negyddol ac ystyried yr hyn sy’n digwydd yma. Cyfeiriodd Christine Chapman at rôl ehangach Ewrop; mae’n fwy na chronfeydd strwythurol, ond yr ydym yn gwneud yn dda gyda’n gwariant Ewropeaidd, ac mae fy mhwyllgor yn edrych ar gydlyniant yn y dyfodol. Yr ydym wedi derbyn tystiolaeth ym Mrwsel a byddwn yn parhau i wneud hynny, Mae’n bwysig cydnabod ei fod yn fwy na mater o arian a’r hyn y gallwn ei gael gan Ewrop; mae’n aml yn ymwneud â’r hyn y gallwn ni ei wneud i Ewrop.

I pay tribute to the work that you have done, Deputy Presiding Officer, as a member of the Conference of European Regional Legislative Assemblies, the work that Christine Chapman has done on the Committee of the Regions, and yourself before her, and Nerys and Rhodri Glyn Thomas, who have also worked hard. We have an office in Brussels, which is recognised far and wide in the UK as an exemplar. It is about time that we stopped being so inward-looking and

Hoffwn roi teyrnged i’r gwaith a wnaethpwyd gennych, Ddirprwy Lywydd, fel aelod o Gynhadledd Cynulliadau Deddfwriaethol Rhanbarthol Ewrop, i’r gwaith a wnaethpwyd gan Christine Chapman ar Bwyllgor y Rhanbarthau, a chithau o’i blaen, a Nerys a Rhodri Glyn Thomas, sydd hefyd wedi gweithio’n galed. Mae gennym swyddfa ym Mrwsel, sy’n cael ei chydnabod fel enghraifft ragorol gan bob rhan o’r DU. Mae’n hen bryd inni roi’r gorau

64

05/05/2009

focusing on what is coming in, and looked at what is coming out from here. We must also look at what other people think of us. I often have the privilege of meeting colleagues and diplomats from other parts of Europe and there has never been an occasion when they have not praised to the hilt the work of Wales and the changes that they have seen in Wales in relation to Europe. It is about Wales in Europe and Europe in Wales, and that is the way that we must think about it.

i fod mor fewnblyg a chanolbwyntio ar yr hyn sy’n dod i mewn, ac edrych ar yr hyn sy’n deillio o’r fan hon. Rhaid inni hefyd edrych ar yr hyn mae pobl eraill yn ei gweld ohonom. Yr wyf yn cael y fraint yn aml o gwrdd â chymheiriaid a diplomyddion o rannau eraill o Ewrop ac ni fu un achlysur lle nad oeddent yn canmol gwaith Cymru i’r cymylau a’r newidiadau a welsant yng Nghymru o safbwynt Ewrop. Mae’n ymwneud â Chymru yn Ewrop ac Ewrop yng Nghymru, a dyna sut y dylem feddwl amdano.

My only caveat is this: my name goes on ‘Europe Matters’, a newsletter on what we are doing in Europe that goes out to Assembly Members, and I feel that we should be far more active, both on the Assembly Government side and on the Assembly side, in saying what goes on. I am always amazed—I see that my fellow committee members and others agree—by the amount of work and exciting things that are happening. We ought to be raising their profile, because they are important to us and to Wales. William talked about a referendum and so on, which is okay, but I sometimes question the motives of some of our Conservative colleagues, who want a referendum to re-run our existence in Europe rather than look at where we can progress in Europe.

Fy unig gafeat yw hyn: mae fy enw ar ‘Faterion Ewrop’, cylchlythyr am yr hyn yr ydym yn ei wneud yn Ewrop sy’n cael ei ddosbarthu i Aelodau’r Cynulliad, a theimlaf y dylem fod yn gwneud mwy, o safbwynt Llywodraeth y Cynulliad ac o safbwynt y Cynulliad, i egluro beth sy’n digwydd. Byddaf yn rhyfeddu bob amser—gwelaf fod fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor ac eraill yn cytuno—o weld faint o waith a phethau cyffrous sy’n digwydd. Dylem fod yn codi eu proffil, oherwydd maent yn bwysig inni ac i Gymru. Soniodd William am refferendwm ac yn y blaen, sy’n ddigon teg, ond byddaf weithiau’n amau cymhellion rhai o’n cyd-Aelodau Ceidwadol, sydd am gael refferendwm i ailystyried ein bodolaeth yn Ewrop yn hytrach nag i edrych ar yr hyn y gallwn ei gyflawni yn Ewrop.

Lesley Griffiths: As we know, legislation on European matters is a function firmly reserved by the UK Government. Checks on what flows from Europe, in the form of legislative scrutiny, is dealt with in the House of Commons by the imaginatively titled European Scrutiny Committee. That committee also monitors what UK Ministers agree or disagree on the UK’s behalf and so on our behalf in Wales. We in the Assembly have no input whatsoever in this process; it is strictly a reserved matter.

Lesley Griffiths: Fel y gwyddom, mae deddfwriaeth ar faterion Ewropeaidd yn swyddogaeth sydd yn bendant yn nwylo Llywodraeth y DU. Ymdrinnir yn Nhŷ’r Cyffredin â’r archwilio ar yr hyn sy’n llifo o Ewrop, ar ffurf craffu deddfwriaethol, gan bwyllgor sydd â’r teitl llawn dychymyg, y Pwyllgor Craffu Ewropeaidd. Mae’r pwyllgor hwn hefyd yn monitro’r hyn y mae Gweinidogion y DU yn cytuno neu’n anghytuno iddo ar ran y DU ac, felly, ar ein rhan ni yng Nghymru. Nid ydym ni yn y Cynulliad yn cyfrannu at y broses hon o gwbl; mae’n fater sydd wedi’i gadw’n ôl yn llwyr.

Unfortunately, as is the case with such things, the process is never black and white. Some European policy has a growing grey area that is coming more sharply into focus in this post-devolution era of UK politics. Despite

Yn anffodus, fel sy’n digwydd gyda phethau o’r fath, nid yw’r broses byth yn ddu a gwyn. Mae i beth polisi Ewropeaidd amwysedd cynyddol sy’n dod yn fwy amlwg yn yr oes ôl-ddatganoli hon yng ngwleidyddiaeth y

65

05/05/2009

being a reserved matter, decisions are made daily that have a direct impact on the lives of Welsh people, decisions that our Government is charged with implementing on the ground here in Wales. Indeed, some of the policies in such instruments as EU directives relate increasingly to services that, within the UK context, are devolved to us here in Cardiff.

DU. Er ei fod yn fater a gadwyd yn ôl, gwneir penderfyniadau’n feunyddiol sy’n effeithio’n uniongyrchol ar fywydau pobl Cymru, penderfyniadau y mae’r ddyletswydd i’w gweithredu ar lawr gwlad yma yng Nghymru yn disgyn ar ein Llywodraeth ni. Yn wir, mae rhai o’r polisïau mewn offerynnau fel cyfarwyddebau’r UE yn ymdrin yn gynyddol â gwasanaethau sydd, yng nghyd-destun y DU, wedi cael eu datganoli i ni yma yng Nghaerdydd.

One prime example of that is the EU’s recent cross-border healthcare plans. The demand for increased cross-border patient mobility has public finance implications for the Welsh Assembly Government. We are now expected to have better co-ordination of national health policies and considerably more co-operation at an EU level than ever before. The same applies in areas such as education and skills. Parts of these agendas are now merging into EU-wide policies, which are already having an impact on our finances and the services that we deliver in this devolved Wales.

Un enghraifft amlwg o hynny yw cynlluniau gofal iechyd trawsffiniol diweddar yr UE. Mae i’r galw am fwy o symud trawsffiniol gan gleifion oblygiadau cyllid cyhoeddus i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Disgwylir yn awr i ni gyd-drefnu polisïau iechyd cenedlaethol yn well a chael cryn lawer mwy o gydweithredu ar lefel yr UE nag erioed o’r blaen. Mae’r un peth yn wir mewn meysydd fel addysg a sgiliau. Mae rhannau o’r agendâu hyn yn uno’n bolisïau i’r UE gyfan erbyn hyn, ac mae hynny eisoes yn effeithio ar ein cyllid ac ar y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu yn y Gymru ddatganoledig hon.

However, I am far from happy about the extent to which we in the Assembly shape, contribute and scrutinise the European legislation that we are responsible for delivering on the ground. When it comes to EU legislation and directives, it is as though we do not have a say, not even on those devolved matters that we have to resource through our budgets. Given the increasing onus on us to deliver EU policies, and in light of the heightened pressures placed on our resources in the coming years, this needs to be discussed with Westminster and soon. Maybe these matters could be discussed through the forum of the joint ministerial committee, looking afresh at how we as a devolved Assembly, now a decade old, can have a more proactive and appropriate role in shaping our country’s future responsibilities within Europe.

Fodd bynnag, yr wyf ymhell o fod yn hapus ynglŷn â faint o lais sydd gennym ni yn y Cynulliad yn llywio, yn cyfrannu at ac yn craffu ar y ddeddfwriaeth Ewropeaidd yr ydym yn gyfrifol am ei gweithredu ar lawr gwlad. Pan ddaw’n fater o ddeddfwriaeth a chyfarwyddebau’r UE, mae fel pe na bai gennym unrhyw lais, nid hyd yn oed ar y materion datganoledig hynny y mae’n rhaid inni ddarparu’r adnoddau ar eu cyfer drwy ein cyllidebau. Ac ystyried y baich cynyddol arnom i weithredu polisïau’r UE, ac yng ngoleuni’r pwysau cynyddol a roddir ar ein hadnoddau yn y blynyddoedd i ddod, mae angen trafod hyn gyda San Steffan a hynny’n fuan. Efallai y gellir trafod y materion hyn drwy fforwm y cyd bwyllgor Gweinidogion, gan edrych o’r newydd ar sut y gallwn fel Cynulliad datganoledig, sy’n ddeg oed erbyn hyn, gael rôl fwy rhagweithiol a phriodol yn llunio cyfrifoldebau ein gwlad yn Ewrop i’r dyfodol.

Finally, I turn to the Conservative calls today for a referendum on the Lisbon treaty. While I do not see the need for such a referendum, given that the treaty is a completely different

Yn olaf, trof at alwadau’r Ceidwadwyr heddiw am refferendwm ar Gytuniad Lisbon. Er nad wyf yn gweld yr angen am refferendwm o’r fath, ac ystyried bod y

66

05/05/2009

entity from the previously abandoned European constitution, I fully understand why the Conservatives are keen on the idea and sympathise with them. I do not view their call for a referendum as some kind of elaborate political trap for the UK Government—far from it; I view their call today more as an act of selfless altruism. We forget that they, better than all other parties, know the pitfalls of trying to force a European treaty without a referendum. Was it not Lisbon’s predecessor, the Maastricht treaty, which played such a decisive part in the political demise of one John Major? Was it not the same Maastricht treaty that set out the path for economic and monetary union and the eventual single currency? Was it not the exchange rate mechanism that was the device used to align European currencies? Was it not the ERM mess that ultimately got rid of Norman Lamont and his then special adviser, David Cameron, on Black Wednesday in 1992? The Conservatives are living testament that such matters can be politically damaging, and that is why they remain split on Europe to this day.

cytuniad yn endid cwbl wahanol i’r cyfansoddiad Ewropeaidd y rhoddwyd y gorau iddo o’r blaen, yr wyf yn deall yn llwyr pam mae’r Ceidwadwyr yn frwd o blaid y syniad a chydymdeimlaf â hwy. Nid wyf yn ystyried eu galwad am refferendwm fel rhyw fath o fagl wleidyddol ddyrys i Lywodraeth y DU—ymhell o hynny; ystyriaf eu galwad heddiw yn fwy fel gweithred o anhunanoldeb llwyr. Yr ydym yn anghofio eu bod hwy, yn well na’r holl bleidiau eraill, yn gwybod am beryglon ceisio gorfodi cytuniad Ewropeaidd heb refferendwm. Onid rhagflaenydd Lisbon, Cytuniad Maastricht, a chwaraeodd ran mor bendant yng nghwymp gwleidyddol un John Major? Onid yr un cytuniad Maastricht a bennodd y llwybr tuag at undeb economaidd ac ariannol a’r arian sengl maes o law? Onid mecanwaith y gyfradd gyfnewid oedd y ddyfais a ddefnyddiwyd i gyfunioni arian cyfred gwledydd Ewrop? Onid llanastr yr ERM a gafodd wared yn y pen draw â Norman Lamont a’i gynghorydd arbennig ar y pryd, David Cameron, ar y Dydd Mercher Du yn 1992? Mae’r Ceidwadwyr yn destament byw fod materion o’r fath yn gallu bod yn niweidiol yn wleidyddol, a dyna pam maent yn dal yn rhanedig ar Ewrop hyd heddiw.

Jeff Cuthbert: I welcome the opportunity to contribute to this most important discussion on how we have engaged with the European Union over the past 10 years. I must declare an interest in my role as chair of the all-Wales programme monitoring committee for structural funds. In that capacity, I want to pay particular attention to how the strategic use of European money has helped to regenerate our more deprived areas, some of which are in my own constituency of Caerphilly.

Jeff Cuthbert: Croesawaf y cyfle i gyfrannu at y drafodaeth hynod bwysig hon ynglŷn â’r ffordd yr ydym wedi ymgysylltu â’r Undeb Ewropeaidd dros y 10 mlynedd diwethaf. Rhaid imi ddatgan buddiant yn fy rôl fel cadeirydd pwyllgor monitro cronfeydd strwythurol rhaglen Cymru gyfan. Yn rhinwedd y swydd honno, yr wyf am roi sylw arbennig i’r ffordd y mae defnyddio arian Ewropeaidd yn strategol wedi helpu i adfywio rhai o’n hardaloedd mwy difreintiedig, rhai ohonynt yn f’etholaeth i yng Nghaerffili.

3.50 p.m.

Caerphilly is just one part of the area of west Wales and the Valleys that will benefit from billions of pounds of Objective 1 funding, now called convergence, from the European Union. Meanwhile, east Wales has benefited from smaller, while still significant, levels of Objective 2 funding, now called competitiveness. The strategic approach that the Welsh Assembly Government has

Nid yw Caerffili ond un rhan o ardal gorllewin Cymru a’r Cymoedd a fydd yn elwa o biliynau o bunnoedd o gyllid Amcan 1, sy’n cael ei alw’n gydgyfeirio erbyn hyn, oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd. Yn y cyfamser, mae dwyrain Cymru wedi elwa o lefelau llai, ond arwyddocaol serch hynny, o arian Amcan 2, a elwir yn gystadleurwydd erbyn hyn. Bydd y dull strategol o weithredu

67

05/05/2009

adopted this time around will ensure that funding is targeted at those areas that need it the most, to meet our jobs and growth commitments under the Lisbon strategy, as Christine mentioned earlier.

a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru y tro hwn yn sicrhau bod y cyllid yn cael ei dargedu at yr ardaloedd hynny y mae’r mwyaf o’i angen arnynt, i wireddu ein hymrwymiadau o ran swyddi a thwf o dan strategaeth Lisbon, fel y crybwyllodd Christine yn gynharach.

Although Objective 1 and Objective 2 were ultimately successful, we have learned valuable lessons from their operation and organisation, which we have applied to the new rounds of funding. I expect that this new strategic approach will bear fruit as we start to see the benefits of this funding coming through. The ethos behind the funds is to bring those parts of Wales in line with the EU average and create jobs along with sustainable long-term economic growth. Of course, given the decimation of our manufacturing and heavy industries between 1979 and 1997, this is a badly needed stimulus. Post-industrial areas of Wales, such as those in my constituency, have benefited a great deal from the European money that has been spent so far, and it will continue to do so for the foreseeable future. Thank goodness the Labour-led Assembly Government has led the way in building a constructive relationship with Brussels so that we get the very best deal from the EU. The days of sending much-needed money back because we are scared of some mythical European socialist superstate are long gone, I trust.

Er bod Amcan 1 ac Amcan 2 yn llwyddiant yn y pen draw, yr ydym wedi dysgu gwersi gwerthfawr o’u gweithrediad a’u trefniadaeth, ac yr ydym wedi cymhwyso’r gwersi hynny i’r cylchoedd cyllido newydd. Disgwyliaf y bydd y dull strategol hwn o weithredu yn dwyn ffrwyth wrth inni ddechrau gweld manteision y cyllid hwn yn dod i’r amlwg. Yr ethos wrth wraidd y cronfeydd yw codi’r rhannau hynny o Gymru hyd at gyfartaledd yr UE a chreu swyddi ynghyd â thwf economaidd hirdymor cynaliadwy. Wrth gwrs, ac ystyried y difa ar ein diwydiannau gweithgynhyrchu a’n diwydiannau trwm rhwng 1979 a 1997, mae hwn yn hwb y mae mawr ei angen. Mae ardaloedd ôl-ddiwydiannol o Gymru, megis y rheini yn f’etholaeth i, wedi elwa’n fawr iawn o’r arian Ewropeaidd sydd wedi cael ei wario hyd yma, a bydd yn parhau i wneud hynny hyd y gellir rhagweld. Diolch byth fod Llywodraeth y Cynulliad o dan arweiniad Llafur wedi arwain y ffordd yn meithrin perthynas adeiladol â Brwsel er mwyn inni gael y fargen orau bosibl gan yr UE. Hyderaf fod y dyddiau pan oedd arian yr oedd mawr ei angen yn cael ei anfon yn ôl gan fod arnom ofn rhyw archwladwriaeth sosialaidd Ewropeaidd fytholegol wedi hen fynd.

Moving on to the specifics, I welcome the announcement of the £4 million PUPIL—pupils understanding problems in their locality—project, which will allow disadvantaged young people across many areas of south Wales to improve their future job prospects as well as helping their local communities. There is also the JEREMIE investment fund of £150 million, which will help more than 800 small and medium-sized enterprises across Wales to expand, and will create up to 15,000 jobs, as well as the £16 million-worth Lifeskills initiative aimed at tackling the barriers that people face in trying to improve their skills and find a job.

A symud ymlaen at bwyntiau penodol, croesawaf y cyhoeddiad am y prosiect PUPIL gwerth £4 miliwn—disgyblion yn deall problemau yn eu hardal leol—a fydd yn caniatáu i bobl ifanc ddifreintiedig ar draws llawer o ardaloedd y de wella eu rhagolygon swyddi i’r dyfodol yn ogystal â helpu eu cymunedau lleol. Hefyd, mae cronfa fuddsoddi JEREMIE sy’n werth £150 miliwn, a fydd yn helpu dros 800 o fusnesau bach a chanolig eu maint ar draws Cymru i ehangu, ac a fydd yn creu hyd at 15,000 o swyddi, yn ogystal â’r cynllun Lifeskills gwerth £16 miliwn a fwriadwyd i fynd i’r afael â’r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth geisio gwella eu sgiliau a dod o hyd i swydd.

68

05/05/2009

At this point, I wish to praise the achievement of three young people from Wales who have won two gold medals and one silver in carpentry and automechanics in the UK heats of the Skills Olympics in Manchester. They are following modern apprenticeships programmes, which are partly funded by European structural funds. All this is before we have even moved on to the pioneering initiatives developed by the Welsh Assembly Government, designed to help people in businesses through the recession, namely the PreVENT, ProAct and ReAct schemes. People such as those in my constituency will welcome this news as convincing evidence that the EU is working for them and that a strong relationship between Wales and the EU is essential for ensuring delivery on the ground.

Yn y fan hon, hoffwn ganmol llwyddiant tri unigolyn ifanc o Gymru sydd wedi ennill dwy fedal aur ac un fedal arian mewn gwaith saer a mecaneg moduron yn rhagrowndiau’r DU o’r Gemau Olympaidd Sgiliau ym Manceinion. Maent yn dilyn rhaglenni prentisiaeth fodern, sy’n cael eu cyllido’n rhannol gan gronfeydd strwythurol Ewropeaidd. Mae hyn cyn i ni hyd yn oed symud ymlaen at y cynlluniau arloesol sydd wedi cael eu datblygu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, a fwriadwyd i helpu pobl mewn busnesau drwy’r dirwasgiad, sef cynlluniau PreVENT, ProAct a ReAct. Bydd pobl fel y rheini yn f’etholaeth i yn croesawu’r newyddion hwn fel tystiolaeth gadarn fod yr UE yn gweithio iddynt hwy a bod perthynas gref rhwng Cymru a’r UE yn hanfodol i sicrhau bod pethau’n cael eu cyflawni ar lawr gwlad.

As I have hinted in what I have said so far, working with Europe and using the structural funds are one way to mitigate the effects of the global recession here in Wales. In particular, project applications and approvals are focusing on young people, economic inactivity and community economic development, all of which are important areas, given the current climate. I look forward to seeing the projects that eventually come through on these. I also welcome the priority being given to focusing on the knowledge economy, which, with European money, will no doubt help to boost skills levels in all parts of Wales as we try to keep up with our Lisbon agenda commitments and prepare diligently for the economic upturn. Again, areas such as the Caerphilly constituency stand to reap the many tangible benefits that will be delivered should this funding be managed in the appropriate strategic manner.

Fel yr wyf wedi’i awgrymu yn yr hyn a ddywedais hyd yma, mae gweithio gyda Ewrop a defnyddio’r cronfeydd strwythurol yn un ffordd o liniaru effeithiau’r dirwasgiad byd-eang yma yng Nghymru. Yn arbennig, mae ceisiadau am brosiectau a’r cynigion sy’n cael eu cymeradwyo yn canolbwyntio ar bobl ifanc, anweithgarwch economaidd a datblygu economaidd cymunedol, sydd i gyd yn feysydd pwysig, ac ystyried yr hinsawdd ar hyn o bryd. Edrychaf ymlaen at weld y prosiectau a ddaw gerbron yn y meysydd hyn maes o law. Croesawaf hefyd y flaenoriaeth sy’n cael ei rhoi i ganolbwyntio ar yr economi wybodaeth, a fydd, gydag arian Ewropeaidd, yn siŵr o helpu i godi lefelau sgiliau ym mhob rhan o Gymru wrth inni geisio anrhydeddu ein hymrwymiadau o dan agenda Lisbon a pharatoi’n ddiwyd ar gyfer y gwelliant economaidd. Eto, bydd ardaloedd fel etholaeth Caerffili yn elwa o lawer o fanteision clir a wireddir os caiff y cyllid hwn ei reoli yn y ffordd strategol briodol.

It has been said before that it is very unlikely that Wales will qualify for more such funding when the EU’s next budgetary negotiations begin in a few years’ time. It is crucial, therefore, that we help to ensure that the current convergence and competitiveness programmes work for us now and that we get the best deal possible during the next round. Our good track record so far of engaging with

Dywedwyd cyn hyn ei bod yn annhebygol iawn y bydd Cymru’n gymwys i gael rhagor o gyllid o’r fath pan fydd trafodaethau cyllidebol nesaf yr UE yn dechrau ymhen rhai blynyddoedd. Mae’n dyngedfennol, felly, ein bod yn helpu i sicrhau bod y rhaglenni cydgyfeiriant a chystadleurwydd cyfredol yn gweithio inni yn awr a’n bod yn cael y fargen orau bosibl yn ystod y cylch

69

05/05/2009

the EU must continue. In that way, we can help to spread prosperity to our more deprived areas. We have made a good start, and we must keep up the good work.

nesaf. Rhaid i’n record dda hyd yma o ymgysylltu â’r UE barhau. Drwy hynny, gallwn helpu i ledaenu ffyniant i’n hardaloedd mwy difreintiedig. Yr ydym wedi cael dechreuad da, a rhaid inni barhau â’r gwaith da.

Alun Davies: It is a real pleasure to have the opportunity to speak briefly in this afternoon’s debate.

Alun Davies: Mae’n bleser gwirioneddol cael y cyfle i siarad yn fyr yn y ddadl y prynhawn yma.

For many of us, Europe represents not only the reality of hard politics and the delivery of policy, but something more: almost a philosophy or a part of our DNA. One of the great triumphs of our lifetime is the reunification of this continent and all its different cultures and civilisations. It is a coincidence—although perhaps it should not strike us as such—that we are holding this debate on the day that work has started in Fromelles on uncovering war graves, demonstrating what Europe used to mean to people. Europe used to be the place where we fought each other to death. Today, it represents the internationalisation of our politics, and our response to all sorts of different great challenges facing us in each individual country, region and Government. It is ludicrous for anyone to suggest today that we could face the great issues such as climate change on our own, whether in Wales or in the United Kingdom. We need the European dimension. We need Europe to trade. For all of us who have a commitment to the trade union movement and to the rights of people working in the industry, we celebrate the fact that Europe has also been a social Europe, where an agenda for the protection of people has gone hand in hand with the agenda for the production of wealth.

I lawer ohonom, nid dim ond realiti gwleidyddiaeth galed a gweithredu polisi a gynrychiolir gan Ewrop, ond rhywbeth mwy: mae bron iawn yn athroniaeth neu’n rhan o’n DNA. Un o fuddugoliaethau mawr ein hoes yw ailuno’r cyfandir hwn a’i holl ddiwylliannau a’i wareiddiadau gwahanol. Cyd-ddigwyddiad—er efallai na ddylai ein taro felly—yw ein bod yn cynnal y ddadl hon ar y diwrnod y dechreuwyd ar y gwaith o ddadorchuddio beddi rhyfel yn Fromelles, gan ddangos yr hyn yr arferai Ewrop ei olygu i bobl. Arferai Ewrop fod yn fan lle’r oeddem yn ymladd ein gilydd hyd farwolaeth. Heddiw, mae’n cynrychioli rhyngwladoli ar ein gwleidyddiaeth, a’n hymateb i bob math o sialensiau mawr gwahanol sy’n ein hwynebu ym mhob gwlad, rhanbarth a Llywodraeth unigol. Mae’n chwerthinllyd i unrhyw un awgrymu heddiw y gallem wynebu problemau mawr fel newid yn yr hinsawdd ar ein pen ein hunain, boed hynny yng Nghymru neu yn y Deyrnas Unedig. Mae angen y dimensiwn Ewropeaidd arnom. Mae angen Ewrop arnom i fasnachu. I bawb ohonom sydd ag ymrwymiad i’r mudiad undebau llafur ac i hawliau pobl sy’n gweithio yn y diwydiant, yr ydym yn dathlu’r ffaith i Ewrop hefyd fod yn Ewrop gymdeithasol, lle mae agenda i warchod pobl wedi mynd law yn llaw â’r agenda i greu cyfoeth.

Europe is more than simply a means of delivery. It is in itself a philosophy or a badge of our wider politics. I want to say at this juncture that one of my greatest regrets about the first Blair Government following 1997 was that we did not hold that referendum on joining the euro. Many of us who see our futures lying within a European context would have liked to go through with it, to hold and win that referendum, seeing us play a more fundamental and central part in

Mae Ewrop yn fwy na dim ond cyfrwng cyflawni. Mae ohoni ei hun yn athroniaeth neu’n fathodyn sy’n dynodi ein gwleidyddiaeth ehangach. Hoffwn ddweud yma mai un o’r pethau yr wyf yn edifarhau fwyaf yn ei gylch ynglŷn â Llywodraeth gyntaf Blair ar ôl 1997 oedd na chynaliasom refferendwm ar ymuno â’r ewro. Byddai llawer ohonom sy’n gweld ein dyfodol mewn cyd-destun Ewropeaidd wedi hoffi gwneud hynny, er mwyn cynnal ac ennill y

70

05/05/2009

the European Union. refferendwm hwnnw, a’n gweld ni’n chwarae rhan fwy sylfaenol a chanolog yn yr Undeb Ewropeaidd.

Among the great successes of the Assembly Government is our interaction with the European Union, as well as the method and means by which that has happened, by working alongside our colleagues at Westminster and the European Parliament to ensure benefits to Wales. In my introduction, I spoke about the philosophical part of this, and then about the hard politics and the hard delivery. We have seen some 46,000 additional jobs in Wales, and 96,000 people who were economically inactive have been helped by the Objective 1 and convergence funding that this Government has delivered. Previous Conservative Governments did not give a damn about Europe or about those people. They did nothing to seek that funding and those programmes, or to look creatively at how Europe, Wales and the UK can work together to benefit people in our poorest communities throughout Wales. It is to their shame that that never happened before, and it is a real testimony to the hard work of the many people who have served in successive Assembly Governments in Cardiff, the people who have worked to enable that to happen in Brussels and Westminster. It is they who have delivered what is probably one of the most comprehensive regeneration and economic development programmes in our history. If Europe has delivered nothing else, it has delivered that to us.

Un o lwyddiannau mawr Llywodraeth y Cynulliad yw ein hymwneud â’r Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â’r dull a’r cyfrwng sydd wedi galluogi hynny i ddigwydd, drwy weithio ochr yn ochr â’n cyd-Aelodau yn San Steffan a’r Senedd Ewropeaidd i sicrhau manteision i Gymru. Yn fy rhagymadrodd, siaradais am elfen athronyddol hyn, ac yna am y wleidyddiaeth galed a’r cyflawni caled. Yr ydym wedi gweld rhyw 46,000 o swyddi ychwanegol yng Nghymru, ac mae 96,000 o bobl a oedd yn anweithgar yn economaidd wedi cael cymorth drwy’r cyllid Amcan 1 a’r cyllid cydgyfeirio y mae’r Llywodraeth hon wedi’i ddarparu. Nid oedd Llywodraethau Ceidwadol blaenorol yn poeni tamaid am Ewrop nac am y bobl hynny. Ni wnaethant ddim i geisio’r cyllid hwnnw a’r rhaglenni hynny, nac i edrych yn greadigol ar sut y gall Ewrop, Cymru a’r DU weithio gyda’i gilydd er budd pobl yn ein cymunedau tlotaf ledled Cymru. Mae’n gywilydd iddynt na ddigwyddodd hynny erioed o’r blaen, ac mae’n dystiolaeth wirioneddol o waith caled y llu o bobl sydd wedi gwasanaethu un Llywodraeth Cynulliad ar ôl y llall yng Nghaerdydd, y bobl sydd wedi gweithio i alluogi hynny i ddigwydd ym Mrwsel a San Steffan. Y nhw sydd wedi gwireddu’r hyn sydd mwy na thebyg yn un o’r rhaglenni adfywio a datblygu economaidd mwyaf cynhwysfawr yn ein hanes. Os nad yw Ewrop wedi cyflawni dim byd arall, mae wedi rhoi hynny inni.

I hope that the commitment that Labour has shown to Europe and to Wales as a European region—and I say ‘region’ in this context—has been demonstrated as a genuine deliverable for people. People have seen the reality of it. In replying to this debate First Minister, I hope that you will commit—and I say this gently—to ensuring that the Government continues to deliver that cash to the people who need it, that the Government here in Cardiff continues to clean out the pipes, if you like, to ensure that the money that is available to people to deliver projects on the ground gets to those projects with the minimum of delay. We have heard in other contributions today how Wales has

Gobeithiaf y bydd yr ymrwymiad y mae Llafur wedi’i ddangos i Ewrop ac i Gymru fel rhanbarth Ewropeaidd—a dywedaf ‘rhanbarth’ yn y cyd-destun hwn—wedi cael ei ddangos fel rhywbeth a gyflawnwyd yn wir ar ran pobl. Mae pobl wedi gweld realiti hynny. Wrth ymateb i’r ddadl, Brif Weinidog, gobeithiaf y byddwch yn ymrwymo—a dywedaf hyn gan bwyll—i sicrhau bod y Llywodraeth yn parhau i ddarparu’r arian hwnnw i’r bobl y mae ei angen arnynt, y bydd y Llywodraeth yma yng Nghaerdydd yn parhau i glirio’r pibellau, os hoffwch chi, i sicrhau bod yr arian sydd ar gael i bobl i roi prosiectau ar waith ar lawr gwlad yn cyrraedd y prosiectau hynny gyda

71

05/05/2009

demonstrated how it should be done. We can be proud of that. Let us make sure that we continue to do that.

chyn lleied â phosibl o oedi. Yr ydym wedi clywed mewn cyfraniadau eraill heddiw am y modd y mae Cymru wedi dangos sut y dylai hyn gael ei wneud. Gallwn fod yn falch o hynny. Gadewch inni wneud yn siŵr ein bod yn parhau i wneud hynny.

Let us also make sure that this compares well with what is offered by the Conservative opposition. I will not repeat the points made by my colleague, Lesley Griffiths, but, in tone and content of contribution, we have seen a real difference between the positive attitude of this Government and the insularity, almost chauvinism, of the Conservative opposition. It has sought to put its own selfish self-interests before the interests not only of our individual communities but of the continent as a whole.

Gadewch hefyd inni wneud yn siŵr fod hyn yn cymharu’n dda â’r hyn a gynigir gan yr wrthblaid Geidwadol. Nid ailadroddaf y pwyntiau a wnaethpwyd gan fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, ond, o ran tôn a chynnwys y cyfraniadau, yr ydym wedi gweld gwahaniaeth gwirioneddol rhwng agwedd gadarnhaol y Llywodraeth hon ac ynysoldeb, siofiniaeth bron, yr wrthblaid Geidwadol. Mae wedi ceisio rhoi ei hunan-les hunanol cyn lles nid yn unig ein cymunedau unigol ond y cyfandir drwyddo draw.

4.00 p.m.

The First Minister: I am glad that Alun Davies, in the final speech from the back benches, raised some quite broad issues about Europe, including the discovery, after a delay of 90 years, of the war graves of Australian and British servicemen who suffered a ghastly failed attempt to divert German attention from the battle of the Somme in 1917; their graves on the western front have not been marked hitherto. Indeed, I believe that it is from German medical records of Bavarian regiments that it has been possible to locate exactly where the soldiers fell. It is an extraordinary commentary on how much we have come forward in those years since the ghastly events in the trenches on the western front.

Y Prif Weinidog: Yr wyf yn falch bod Alun Davies, yn yr araith olaf o’r meinciau cefn, wedi codi rhai pwyntiau eithaf cyffredinol ynglŷn ag Ewrop, gan gynnwys darganfod, 90 mlynedd yn ddiweddarach, feddau rhyfel milwyr o Awstralia a Phrydain a ddioddefodd ymgais aflwyddiannus ddychrynllyd i dynnu sylw’r Almaenwyr oddi wrth frwydr y Somme yn 1917; nid oes dim i ddangos lleoliad eu beddau ar ffrynt y gorllewin eto. Yn wir, credaf mai drwy ddefnyddio cofnodion meddygol Almaenaidd catrodau Bafaraidd y llwyddwyd i ganfod yr union fan lle syrthiodd y milwyr. Mae’n enghraifft ryfeddol o’r datblygiadau a welwyd yn ystod y blynyddoedd hynny ers y digwyddiadau dychrynllyd yn y ffosydd ar ffrynt y gorllewin.

I am also glad that he mentioned the question of social Europe. The series of summits that we have had since October, as a way of dealing with the recession, has shown, in a curious way and almost without any planning or forethought, that the European social partnership model is, in fact, how we are trying to bring Wales out of recession and to prepare Wales for economic recovery. Our work is very much along the lines of the European social partnership, and very definitely not along the lines of the ultra-right, free-market model that was adopted 30 years ago when Margaret Thatcher won her

Yr wyf hefyd yn falch ei fod wedi cyfeirio at fater Ewrop gymdeithasol. Mae’r gyfres o uwchgynadleddau yr ydym wedi eu cael ers mis Hydref, fel ffordd o ymdrin â’r dirwasgiad, wedi dangos, mewn ffordd ryfedd a bron iawn heb unrhyw gynllunio neu feddwl ymlaen llaw, mai drwy’r model partneriaeth gymdeithasol Ewropeaidd, mewn gwirionedd, yr ydym yn ceisio dod â Chymru o’r dirwasgiad a pharatoi Cymru ar gyfer adferiad economaidd. Mae’r gwaith yn dilyn trywydd y bartneriaeth gymdeithasol Ewropeaidd i raddau helaeth iawn, ac yn sicr nid yw’n dilyn trywydd model marchnad

72

05/05/2009

election victory in 1979, and when Ronald Reagan won the United States presidential election. The Thatcher/Reagan model developed a certain degree of popularity, but is seen as completely useless and inappropriate for our times. The private sector does not want to be left alone by the state; it very much wants the state’s support, as we see from the attempt by Fiat to get German, US or UK Government backing for forming a new car giant.

rydd yr asgell dde eithafol a fabwysiadwyd 30 mlynedd yn ôl pan gafodd Margaret Thatcher ei buddugoliaeth etholiadol yn 1979, a phan enillodd Ronald Reagan etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau. Datblygodd y model Thatcher/Reagan rywfaint o boblogrwydd, ond mae’n cael ei ystyried yn gwbl ddiwerth ac amhriodol ar gyfer ein dyddiau ni. Nid yw’r sector preifat am i’r wladwriaeth ei adael ar ei ben ei hun; mae arno eisiau cymorth y wladwriaeth yn fawr iawn, fel y gwelwn drwy ymgais Fiat i gael cefnogaeth gan Lywodraeth yr Almaen, yr Unol Daleithiau neu’r Deyrnas Unedig i ffurfio cwmni mawr newydd ym maes ceir.

I do not agree with him about the euro, but I agree with him on everything else. ProAct is another good example of what he mentioned in terms of getting aid quickly to those who need it. The ProAct scheme, which emerged from the European summit meeting in October or November merely as an idea, was up and running as a working scheme just two months later. I think that that probably breaks all records in respect of a bureaucracy taking action in peacetime, and is a remarkable tribute to our agility and to our determination to turn ideas into working schemes that can avert redundancy wherever possible. We are still receiving new inquiries—30 a week—and I was pleased that Lesley Griffiths managed to get the Financial Times interested in the story at the end of last week. I was thinking of offering her a job in the press office, but she already has a job as the Assembly Member for Wrexham. That was quite a triumph, explaining why some companies have rejected it, even though it might be suitable for them, and how other companies have made brilliant use of ProAct.

Nid wyf yn cytuno ag ef ynglŷn â’r ewro, ond yr wyf yn cytuno ag ef ynglŷn â phopeth arall. Mae ProAct yn enghraifft dda arall o’r hyn y cyfeiriodd ato yng nghyswllt cael cymorth yn fuan i’r rheini y mae arnynt ei angen. Yr oedd y cynllun ProAct, a ddatblygodd o gyfarfod yr uwchgynhadledd Ewropeaidd ym mis Hydref neu fis Tachwedd fel syniad yn unig, yn cael ei roi ar waith fel cynllun gweithredol ddau fis yn ddiweddarach. Mae’n debyg bod hynny’n torri pob record o ran biwrocratiaeth yn gweithredu mewn cyfnod o heddwch, ac mae’n deyrnged hynod i’n gallu i symud yn gyflym ac i’n hagwedd benderfynol i droi syniadau’n gynlluniau gweithredol a all osgoi dileu swyddi lle bynnag y bo modd. Yr ydym yn cael ymholiadau newydd o hyd—30 yr wythnos—ac yr oeddwn yn falch bod Lesley Griffiths wedi llwyddo i ennyn diddordeb y Financial Times yn y stori ddiwedd yr wythnos diwethaf. Yr oeddwn yn meddwl cynnig swydd iddi yn swyddfa’r wasg, ond mae ganddi swydd yn barod fel yr Aelod Cynulliad dros Wrecsam. Yr oedd yn dipyn o gamp egluro pam y mae rhai cwmnïau wedi gwrthod ProAct, er y gallai fod yn addas iddynt, a sut y mae cwmnïau eraill wedi ei ddefnyddio’n wych.

The key argument this afternoon is over how much focus should be put on the structural funds. Are we more than merely recipients of generosity because we are less well-off than the average in Europe, and because we have GDP per head that is less than 75 per cent of the European level? Is that all we are? Are we just out there with a begging bowl for European assistance, or is there much more

Mae’r brif ddadl y prynhawn yma yn ymwneud â faint o sylw y dylid ei roi i’r cronfeydd strwythurol. Yr ydym yn llai cefnog na’r cyfartaledd yn Ewrop, ac mae gennym gynnyrch mewnwladol crynswth y pen sy’n llai na 75 y cant o’r lefel Ewropeaidd, ond ai derbynwyr haelioni yn unig ydym? Ai dyna’r cyfan ydym? Ai dim ond sefyll â ffiol gardod yn ein llaw yn

73

05/05/2009

that we are doing? I gave examples in my opening speech that I think helped to show that we are very much more than that. We have been used as ân exemplar; we have loaned staff to Latvia, Poland and Romania to help them administer European structural funds there. We have been providing technical assistance, but it is also much wider than that. Junior doctors argue the point that Lesley Griffiths made in her speech; when you have a working time directive from Europe, the issue is how it is applied in a situation such as in Wales. What impact will it have on our hospitals, because, as they service a widespread area, it is difficult to provide consultant and medical cover overnight and at weekends, and so on? We have to get into those negotiations, as we did with the fallen stock regulations, where we were successful, or in delaying the implementation of electronic sheep tagging.

disgwyl am gymorth o Ewrop a wnawn, ynteu a ydym yn gwneud llawer mwy? Rhoddais enghreifftiau yn fy araith agoriadol y credaf eu bod wedi helpu i ddangos ein bod yn llawer iawn mwy na hynny. Defnyddiwyd ni fel esiampl; yr ydym wedi rhoi benthyg staff i Latfia, Gwlad Pwyl a Romania i’w helpu i weinyddu cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yno. Buom yn cynnig cymorth technegol, ond mae’n llawer ehangach na hynny hefyd. Mae meddygon iau yn dadlau’r pwynt a wnaethpwyd gan Lesley Griffiths yn ei haraith; pan fydd gennych gyfarwyddeb oriau gwaith o Ewrop, y pwynt yw sut y caiff ei chymhwyso mewn sefyllfa fel sydd gennym yng Nghymru. Pa effaith y bydd yn ei chael ar ein hysbytai, oherwydd ei bod yn anodd, gan fod yr ysbytai’n gwasanaethu ardal eang, darparu ymgynghorwyr a staff meddygol dros nos ac yn ystod y penwythnos, ac yn y blaen? Mae’n rhaid inni fod yn rhan o’r trafodaethau hynny, fel y buom gyda’r rheoliadau stoc trig, lle buom yn llwyddiannus, neu wrth ohirio’r broses o gyflwyno tagiau defaid electronig.

Jeff Cuthbert, as the chair of the programme monitoring committee, is not going to accept that we should take this argument much wider than structural funds, but I think that there is a widespread desire that it should not just be confined to that. However, all of us have to accept that, during a period of recession, there will be a re-evaluation, as Christine Chapman suggested. You must re-evaluate to see whether the Lisbon strategy needs to be adapted or tweaked for the current situation. During a recession there will be an ever-increasing concentration on structural funds, but we must not forget that there are wider issues here.

Nid yw Jeff Cuthbert, fel cadeirydd pwyllgor monitro’r rhaglen, yn mynd i dderbyn y dylem fynd â’r ddadl hon yn llawer ehangach na chronfeydd strwythurol, ond credaf fod llawer o bobl yn awyddus i sicrhau nad yw’n cael ei chyfyngu i hynny’n unig. Fodd bynnag, rhaid i bob un ohonom dderbyn y bydd ail-werthuso mewn cyfnod o ddirwasgiad, fel yr awgrymodd Christine Chapman. Rhaid ichi ail-werthuso er mwyn gweld a oes angen addasu neu fireinio strategaeth Lisbon ar gyfer y sefyllfa bresennol. Yn ystod dirwasgiad bydd mwy a mwy o ganolbwyntio ar gronfeydd strwythurol, ond rhaid inni gofio bod materion ehangach yma.

I will answer William Graham’s point. He made his arguments, but they have already been answered. The Conservatives had the opportunity to go for structural funds in 1992, but chose not to do so; they chose not to get involved in this and missed a big opportunity—

Atebaf bwynt William Graham. Cyflwynodd ei ddadleuon, ond maent eisoes wedi eu hateb. Cafodd y Ceidwadwyr gyfle i fynd am gronfeydd strwythurol yn 1992, ond dewisasant beidio â gwneud hynny; dewisasant beidio ag ymwneud â hyn a chollasant gyfle mawr—

Alun Cairns rose— Alun Cairns a gododd—

The First Minister: I am sorry, I am running out of time, Alun; I will be finishing very

Y Prif Weinidog: Mae’n ddrwg gennyf, ond nid oes gennyf lawer o amser ar ôl, Alun;

74

05/05/2009

shortly. byddaf yn gorffen yn fuan iawn.

Therefore, Merseyside, South Yorkshire and Cornwall got their structural funds in 1993; Wales did not, because John Redwood thought it would be a stain on our escutcheon. As he said, Ireland made better use of the funds because the whole of Ireland was included, not just two-thirds. That was not an option for us. Therefore, there are many arguments here where structural funds are of ever-increasing importance as an answer to the recession. However, Europe is a much wider issue. The social partnership model that is emerging shows just how important it is now to see that the Thatcher/Reagan free-market model is dead; the European social partnership model is what we are operating now.

Felly, cafodd Glannau Mersi, De Swydd Efrog a Chernyw eu cronfeydd strwythurol yn 1993; ni chafodd Cymru hwy, gan fod John Redwood yn credu y byddai hynny’n fefl ar ein henw da. Fel y dywedodd, gwnaeth Iwerddon well defnydd o’r cronfeydd gan fod Iwerddon gyfan wedi ei chynnwys, yn hytrach na dim ond dwy ran o dair ohoni. Nid oedd hynny’n ddewis inni. Felly, mae llawer o ddadleuon yma lle mae cronfeydd strwythurol yn fwyfwy pwysig fel ateb i’r dirwasgiad. Fodd bynnag, mae Ewrop yn fater llawer ehangach. Mae’r model partneriaeth gymdeithasol sy’n amlygu ei hun yn dangos pa mor bwysig yw hi yn awr ein bod yn sicrhau bod model marchnad rydd Thatcher/Reagan wedi dod i ben; y model partneriaeth gymdeithasol Ewropeaidd yw’r un yr ydym yn ei roi ar waith yn awr.

The Deputy Presiding Officer: The proposal is that amendment 1 be agreed. Is there any objection? I see that there is. Therefore, all voting on this item will be deferred until voting time.

Y Dirprwy Lywydd: Y cynnig yw y dylid cytuno ar welliant 1. A oes unrhyw wrthwynebiad? Gwelaf fod. Felly, gohirir pob pleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.Voting deferred until voting time.

Adroddiad Blynyddol EstynThe Estyn Annual Report

The Deputy Presiding Officer: I have selected amendment 1 in the name of Alun Cairns, and amendment 2 in the name of Peter Black.

Y Dirprwy Lywydd: Yr wyf wedi dethol gwelliant 1 yn enw Alun Cairns, a gwelliant 2 yn enw Peter Black.

The Minister for Children, Education, Lifelong Learning and Skills (Jane Hutt): I move that

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Cynigiaf fod

the National Assembly for Wales: Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

welcomes the annual report for 2007-08 of Her Majesty’s Chief Inspector of Education and Training in Wales, which was laid in the Table Office and e-mailed to Assembly Members on 27 April 2009. (NDM4200)

yn croesawu adroddiad blynyddol Prif Arolygydd ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2007- 08, a osodwyd yn y swyddfa gyflwyno a’i e-bostio at Aelodau’r Cynulliad ar 27 Ebrill 2009. (NDM4200)

I am pleased to be able to present to Members the 2007-08 annual report from Her

Yr wyf yn falch fy mod yn gallu cyflwyno adroddiad blynyddol 2007-08 gan Brif

75

05/05/2009

Majesty’s Chief Inspector of Education and Training in Wales. This was Dr Bill Maxwell’s first full year in post and one in which he has begun to set out a distinctive agenda for inspecting education and training in Wales. His approach recognises and promotes the benefits of partnership working while preserving the independence of Estyn, and I welcome that.

Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru i’r Aelodau. Hon oedd blwyddyn lawn gyntaf Dr Bill Maxwell yn y swydd, ac yn ystod y flwyddyn gyntaf hon mae wedi dechrau gosod agenda nodedig ar gyfer arolygu addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae ei ymagwedd yn cydnabod ac yn hyrwyddo manteision gweithio mewn partneriaeth gan gadw annibyniaeth Estyn, ac yr wyf yn croesawu hynny.

The report celebrates success, which I also welcome. We need to celebrate success more, to recognise the achievements of our children and young people and to encourage them to fulfil their potential. I was pleased to see the chief inspector’s comment that, across all sectors, there are many good features in the standards of achievement reached by learners.

Mae’r adroddiad yn dathlu llwyddiant, ac yr wyf yn croesawu hynny hefyd. Mae angen inni ddathlu llwyddiant yn amlach, er mwyn cydnabod yr hyn a gyflawnwyd gan ein plant a’n pobl ifanc a’u hannog i gyflawni eu potensial. Yr oeddwn yn falch o weld bod y prif arolygydd yn dweud bod llawer o nodweddion da yn y safonau cyflawni a gyrhaeddir gan ddysgwyr ym mhob sector.

In the schools sector, primary schools have performed better than the target that we set for 2010, with 98 per cent of lessons judged as being satisfactory. This is good news. In secondary schools, 97 per cent of lessons had more good features than shortcomings. In special schools, standards are good or better in 92 per cent of lessons. In the post-16 sector, I was delighted to note that 97 per cent of sessions observed in further education colleges were satisfactory or better and all colleges had some aspects of outstanding provision. In the work-based learning sector, 100 per cent of the sessions observed were satisfactory or better.

Yn y sector ysgolion, mae ysgolion cynradd wedi perfformio’n well na’r targed a osodwyd gennym ar gyfer 2010, gyda 98 y cant o’r gwersi’n cael eu barnu fel rhai boddhaol. Mae hyn yn newyddion da. Mewn ysgolion uwchradd, yr oedd gan 97 y cant o’r gwersi fwy o nodweddion da nag o ddiffygion. Mewn ysgolion arbennig, mae safonau’n dda neu’n well mewn 92 y cant o’r gwersi. Yn y sector ôl-16, yr oeddwn yn falch o weld bod 97 y cant o’r sesiynau a arsylwyd mewn colegau addysg bellach yn foddhaol neu’n well a bod rhyw elfen o ddarpariaeth eithriadol ym mhob coleg. Yn y sector dysgu yn y gwaith, yr oedd 100 y cant o’r sesiynau a arsylwyd yn foddhaol neu’n well.

It is good to see evidence of improvement over the six-year period since these providers were last inspected. It is a clear demonstration of the effort and expertise of teachers, lecturers, tutors, parents, support staff and decision makers across the whole education sector in Wales. It also demonstrates that our young people are rising to the challenge.

Mae’n braf gweld tystiolaeth o welliant yn ystod y cyfnod o chwe blynedd ers y tro diwethaf i’r darparwyr hyn gael eu harolygu. Mae’n arwydd clir o ymdrech ac arbenigedd athrawon, darlithwyr, tiwtoriaid, rhieni, staff cynorthwyol a phobl sy’n gwneud penderfyniadau ym mhob rhan o’r sector addysg yng Nghymru. Mae hefyd yn dangos bod ein pobl ifanc yn ymateb i’r her.

We are continuing to build on this momentum. Since these inspections took place, policies have been introduced at every level in education and training that will help us to do that. The revised national curriculum is changing the way that our children are

Yr ydym yn dal i adeiladu ar y momentwm hwn. Ers cynnal yr arolygiadau hyn, mae polisïau wedi eu cyflwyno ar bob lefel mewn addysg a hyfforddiant er mwyn ein helpu i wneud hynny. Mae’r cwricwlwm cenedlaethol diwygiedig yn newid y ffordd y

76

05/05/2009

taught throughout their school life. We now have a learner-centred and skills-focused approach, starting with the foundation phase, centred around seven areas of learning and delivered through child-initiated and structured play, leading to the curriculum for 7 to 14-year-olds, which takes account of learners’ personal development and wellbeing and, in turn, links to the 14-19 learning pathways programme, which is intended to ensure a more flexible curriculum to meet pupils’ needs, raise educational attainment and better equip our young people for higher-skilled employment or further and higher education.

dysgir ein plant drwy gydol eu cyfnod yn yr ysgol. Mae gennym bellach ddull sy’n rhoi’r dysgwr yn y canol ac sy’n canolbwyntio ar sgiliau, gan ddechrau gyda’r cyfnod sylfaen, sy’n seiliedig ar saith maes dysgu ac a gyflwynir drwy chwarae strwythuredig wedi’i sbarduno gan y plentyn, sy’n arwain at y cwricwlwm ar gyfer plant 7 i 14 oed, sy’n ystyried datblygiad personol a lles dysgwyr ac sydd, yn ei dro, yn cysylltu â’r rhaglen llwybrau dysgu 14-19, a fwriadwyd er mwyn sicrhau cwricwlwm mwy hyblyg er mwyn diwallu anghenion disgyblion, gwella cyrhaeddiad addysgol ac arfogi’n pobl ifanc yn well ar gyfer cyflogaeth â gwell sgiliau neu addysg bellach ac uwch.

In our policy for transforming education and training provision in Wales, we have set out a framework to bring about change at post-16 level and to make our policies more effective, efficient and responsive to both learner and employer needs; responses have been positive. Each of these initiatives is aimed at helping to drive up standards and allow our children and young people to make the most of opportunities available to them. I expect to see the benefits of these policies being clearly demonstrated in future Estyn reports.

Yn ein polisi ar gyfer trawsnewid y ddarpariaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru, yr ydym wedi gosod fframwaith er mwyn cyflwyno newid ar lefel ôl-16 a gwneud ein polisïau’n fwy effeithiol, effeithlon ac ymatebol i anghenion y dysgwr a’r cyflogwr; cafwyd ymatebion cadarnhaol. Nod pob un o’r cynlluniau hyn yw helpu i godi safonau a chaniatáu i’n plant a’n pobl ifanc wneud y gorau o gyfleoedd sydd ar gael iddynt. Disgwyliaf weld manteision y polisïau hyn yn cael eu dangos yn glir mewn adroddiadau gan Estyn yn y dyfodol.

This year, for the first time, the chief inspector’s report identifies four key, cross-cutting challenges for the education and training system in Wales: ensuring learners can reach their potential; effective approaches to self-evaluation; effective partnership working; and providing for bilingual learners. A number of actions are under way to meet these challenges and to achieve our own objective: to be a learning country able to compete with the best in the world.

Eleni, am y tro cyntaf, mae adroddiad y prif arolygydd yn nodi pedair her drawsbynciol, allweddol i’r system addysg a hyfforddiant yng Nghymru: sicrhau bod dysgwyr yn gallu cyflawni eu potensial; dulliau hunanarfarnu effeithiol; gweithio’n effeithiol mewn partneriaeth; a darparu ar gyfer dysgwyr dwyieithog. Mae nifer o gamau’n cael eu cymryd er mwyn cyflawni’r heriau hyn a chyflawni’n hamcan ein hunain: bod yn wlad sy’n dysgu ac sy’n gallu cystadlu â goreuon y byd.

4.10 p.m.

The new frameworks for school effectiveness, and for quality and effectiveness, at post-16 level will contribute significantly to that objective. The former, developed in partnership with key stakeholders, will help address variations in practice within and across schools. It will also look at the underlying barriers to effective learning for all pupils, with a

Bydd y fframweithiau newydd ar gyfer effeithiolrwydd ysgolion, ac ar gyfer ansawdd ac effeithiolrwydd, ar lefel ôl-16 yn cyfrannu’n sylweddol tuag at yr amcan hwnnw. Bydd y cyntaf, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol, yn helpu i roi sylw i’r modd y mae arferion yn amrywio mewn ysgolion a rhwng gwahanol ysgolion. Bydd hefyd yn edrych ar y

77

05/05/2009

priority for action on literacy and numeracy. Based on the principles of tri-level reform—the partnership approach developed between the Assembly Government, local authorities and schools—it will ensure that all current and future activities and programmes are aligned to the central aim of securing improved learning and wellbeing for children and young people.

ffactorau sylfaenol sy’n ein rhwystro rhag sicrhau bod pob disgybl yn dysgu’n effeithiol, gan roi blaenoriaeth i weithredu ym maes llythrennedd a rhifedd. Ar sail egwyddorion diwygio ar dair lefel—y dull partneriaeth a ddatblygwyd rhwng Llywodraeth y Cynulliad, awdurdodau lleol ac ysgolion—bydd yn sicrhau bod yr holl weithgareddau a’r rhaglenni presennol a’r rhai a gyflwynir yn y dyfodol yn gyson â’r nod canolog o sicrhau gwell dysgu a lles i blant a phobl ifanc.

The new quality and effectiveness framework is being developed to reflect the particular challenges facing the post-16 sector; it will help providers focus on their responsiveness to learners and employers, and include a far greater emphasis on collaboration and networking, in line with the ‘Skills That Work for Wales’ agenda. My officials are also working closely with Estyn to ensure that there is alignment between those two frameworks and Estyn’s revised common inspection framework for 2010.

Mae’r fframwaith ansawdd ac effeithiolrwydd newydd yn cael ei ddatblygu er mwyn adlewyrchu’r heriau penodol sy’n wynebu’r sector ôl-16; bydd yn helpu darparwyr i ganolbwyntio ar eu hymatebolrwydd i ddysgwyr a chyflogwyr, a chynnwys llawer mwy o bwyslais ar gydweithio a rhwydweithio, yn unol â’r agenda ‘Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru’. Mae fy swyddogion hefyd yn gweithio mewn cysylltiad agos ag Estyn er mwyn sicrhau bod cysondeb rhwng y ddau fframwaith hynny a fframwaith arolygu cyffredin diwygiedig Estyn ar gyfer 2010.

I was pleased that Estyn recognised the excellent progress made by most providers in developing approaches to self-evaluation. I fully endorse the desire to see further strengthening of this issue as a basis for establishing the strong culture for continuous improvement that we want to see embedded across all learning settings. In the school sectors, my officials are working to establish a balanced suite of contextual analyses of performance data, consistent across Wales, supported with guidance and training for use by maintained schools, local authorities and other key stakeholders, including Estyn. We have been able to make good progress in the use of data by post-16 providers through systematic benchmarking of financial performance and learners’ achievements.

Yr oeddwn yn falch bod Estyn yn cydnabod y cynnydd rhagorol sydd wedi ei wneud gan y rhan fwyaf o’r darparwyr wrth ddatblygu dulliau hunanarfarnu. Yr wyf yn llwyr gefnogi’r awydd i weld y pwynt hwn yn cael ei gryfhau eto, fel sail i sefydlu’r diwylliant cryf ar gyfer gwelliant parhaus y mae arnom am ei weld yn cael ei sefydlu ym mhob lleoliad dysgu. Yn y sectorau ysgolion, mae fy swyddogion yn gweithio er mwyn sefydlu cyfres gytbwys o ddadansoddiadau cyd-destunol o ddata perfformiad, a fydd yn gyson ar draws Cymru, ac a fydd yn cael eu cefnogi gan ganllawiau a hyfforddiant i’w defnyddio gan ysgolion a gynhelir, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill, gan gynnwys Estyn. Yr ydym wedi gallu gwneud cynnydd da yng nghyd-destun y ffordd y defnyddir data gan ddarparwyr ôl-16 drwy feincnodi perfformiad ariannol a chyflawniad dysgwyr yn systematig.

With regard to meeting the needs of bilingual learners, I am conscious that schools have a pivotal role to play in helping to secure the ‘One Wales’ goal of a genuinely bilingual Wales. I was, therefore, pleased to see that

O ran diwallu anghenion dysgwyr dwyieithog, yr wyf yn ymwybodol bod gan ysgolion ran ganolog i’w chwarae wrth helpu i sicrhau nod ‘Cymru’n Un’ o Gymru wirioneddol ddwyieithog. Yr oeddwn felly’n

78

05/05/2009

standards in bilingualism are good in just over half of all schools inspected in 2007-08. I have also noted the concern expressed about the teaching of Welsh as a second language. This was one of two issues that attracted most of the media attention when this report was first published in January. We debated this issue in detail on 4 February, when I explained that, over the past two decades, substantial steps have been taken to support learners to develop Welsh language skills. Also, from September 2008, Welsh-language development has been one of the key areas of learning for the foundation phase. This should provide a firm foundation in language skills that learners can continue to develop throughout their education.

falch o weld bod safonau mewn dwyieithrwydd yn dda mewn ychydig dros hanner yr holl ysgolion a arolygwyd yn 2007-08. Yr wyf hefyd wedi gwneud nodyn o’r pryder a fynegwyd ynglŷn ag addysgu Cymraeg fel ail iaith. Yr oedd hwn yn un o’r ddau fater a gafodd y sylw mwyaf gan y cyfryngau pan gyhoeddwyd yr adroddiad hwn am y tro cyntaf ym mis Ionawr. Buom yn trafod y mater hwn yn fanwl ar 4 Chwefror, pan eglurais fod camau mawr wedi eu cymryd, yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, er mwyn cynorthwyo dysgwyr i ddatblygu sgiliau Cymraeg. Yn ychwanegol at hyn, ers Medi 2008, mae datblygu’r iaith Gymraeg wedi bod yn un o’r prif feysydd dysgu ar gyfer y cyfnod sylfaen. Dylai hyn ddarparu sylfaen gadarn mewn sgiliau iaith y gall dysgwyr barhau i’w datblygu drwy gydol eu haddysg.

Another issue that attracted media attention was the need for the reorganisation of schools in some areas to address surplus places. It is for local authorities to use their local knowledge to organise schools and school places as efficiently as possible to make the best use of resources. The twenty-first century schools programme that I announced in March marked a way forward to help local authorities address the challenges of school reorganisation and the opportunities for capital investment in a more strategic way.

Mater arall a ddenodd sylw’r cyfryngau oedd yr angen i ad-drefnu ysgolion mewn rhai ardaloedd er mwyn mynd i’r afael â phroblem lleoedd gweigion. Cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw defnyddio’u gwybodaeth leol i drefnu ysgolion a lleoedd mewn ysgolion mor effeithlon ag sy’n bosibl er mwyn defnyddio adnoddau yn y ffordd orau. Yr oedd y rhaglen ar gyfer ysgolion yr unfed ganrif ar hugain a gyhoeddais ym mis Mawrth yn dangos ffordd o symud ymlaen er mwyn helpu awdurdodau lleol i fynd i’r afael â her ad-drefnu ysgolion a’r cyfleoedd i fuddsoddi cyfalaf mewn ffordd fwy strategol.

It is clear that this Assembly Government is already taking action to address the challenges in the report, and to create opportunities for all learners to achieve their potential. This includes children from disadvantaged backgrounds; we are already working with schools and local authorities to address that issue. In relation to Peter Black’s amendment, the revenue support grant takes account of deprivation, recognising that services cost more to deliver in deprived areas; 27 per cent of the total current standard spending assessment—that is, RSG plus non-domestic rates and council tax—is distributed according to indicators of deprivation. This should allow local authorities the flexibility to effectively target their resources to meet the particular needs of schools in their communities. We are also working on the

Mae’n amlwg bod y Llywodraeth Cynulliad hon eisoes yn cymryd camau er mwyn mynd i’r afael â’r heriau sydd yn yr adroddiad, a chreu cyfleoedd i bob dysgwr gyflawni ei botensial. Mae hyn yn cynnwys plant o gefndiroedd dan anfantais; yr ydym eisoes yn gweithio gydag ysgolion ac awdurdodau lleol er mwyn mynd i’r afael â’r mater hwnnw. O ran gwelliant Peter Black, mae’r grant cynnal refeniw yn ystyried amddifadedd, gan gydnabod ei bod yn costio mwy i ddarparu gwasanaethau mewn ardaloedd difreintiedig; dosberthir 27 y cant o gyfanswm yr asesiad gwariant safonol presennol—hynny yw, grant cynnal refeniw ynghyd ag ardrethi annomestig a threth gyngor—ar sail dangosyddion amddifadedd. Dylai hyn roi hyblygrwydd i awdurdodau lleol dargedu eu hadnoddau’n effeithiol er mwyn diwallu

79

05/05/2009

potential of the Bramley report to improve outcomes in tackling poverty through educational measures.

anghenion penodol ysgolion yn eu cymunedau. Yr ydym hefyd yn gweithio ar botensial adroddiad Bramley i wella canlyniadau wrth fynd i’r afael â thlodi drwy fesurau addysgol.

Peter Black: I take your point about the revenue support grant taking account of deprivation, but if that is the case, why did the Government feel it necessary a few years ago to introduce a specific grant to schools to give them additional resources where there are deprived children? Do you not recognise that there is a need to do more than what you are already doing?

Peter Black: Derbyniaf eich pwynt bod y grant cynnal refeniw yn ystyried amddifadedd, ond os yw’n gwneud hynny, pam yr oedd y Llywodraeth yn teimlo ychydig flynyddoedd yn ôl bod angen cyflwyno grant penodol i ysgolion er mwyn rhoi adnoddau ychwanegol iddynt os oes ganddynt blant difreintiedig? Onid ydych yn cydnabod bod angen gwneud mwy na’r hyn yr ydych yn ei wneud yn barod?

Jane Hutt: The RAISE scheme has been extremely successful, as identified in Estyn’s report, in highlighting the best measures for targeting that focus. The child poverty strategy and the work that has been led by Huw Lewis in chairing the child poverty expert group focuses on the impact of the RAISE funding, which we extended from two to three years, on education and learning. We are now embedding the positive findings of that in our delivery of education.

Jane Hutt: Bu cynllun Rhagori’n hynod lwyddiannus, fel y nodir yn adroddiad Estyn, yn tynnu sylw at y mesurau gorau o ran targedu’r canolbwynt hwnnw. Mae’r strategaeth tlodi plant a’r gwaith a arweiniwyd gan Huw Lewis wrth iddo gadeirio’r grŵp arbenigol ar dlodi plant yn canolbwyntio ar effaith cyllid Rhagori, yr hwn a estynasom o ddwy hyd dair blynedd, ar addysg a dysgu. Yr ydym bellach yn plannu canfyddiadau cadarnhaol hynny yn y ffordd yr ydym yn cyflenwi addysg.

Before this motion is opened up for debate and before I respond to your questions, I would like to say that the Assembly Government’s proposed Children and Families (Wales) Measure demonstrates its commitment to improving the lives of vulnerable children and families in Wales, particularly the lives of those disadvantaged by poverty. It will enable us to support those families and children with greatest need and to tackle child poverty, which will also realise benefits for children’s educational attainment.

Cyn inni drafod y cynnig hwn a chyn imi ateb eich cwestiynau, hoffwn ddweud bod Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) arfaethedig Llywodraeth y Cynulliad yn dangos ymroddiad y Llywodraeth i wella bywydau plant a theuluoedd sy’n agored i niwed yng Nghymru, yn enwedig bywydau’r rheini sydd dan anfantais oherwydd tlodi. Bydd yn ein galluogi i gefnogi’r teuluoedd a’r plant hynny sydd fwyaf mewn angen ac i fynd i’r afael â thlodi plant, a fydd hefyd yn dwyn yn ei sgil fanteision o ran cyrhaeddiad addysgol y plant.

In conclusion, the Assembly Government is taking cross-cutting action to continue to improve standards for all learners. We are already addressing the issues and challenges raised in this report clearly and effectively. I am sure that the evidence of our action will be seen in future reports. This is a positive report that clearly shows the progress made over the six years since these providers were last inspected. For the reasons that I have outlined, I will not accept the amendment,

I gloi, mae Llywodraeth y Cynulliad yn cymryd camau trawsbynciol i barhau i wella safonau ar gyfer yr holl ddysgwyr. Yr ydym eisoes yn rhoi sylw i’r materion a’r heriau a godir yn yr adroddiad hwn yn glir ac yn effeithiol. Yr wyf yn sicr y gwelir tystiolaeth o’r camau a gymerwyd yn adroddiadau’r dyfodol. Mae hwn yn adroddiad cadarnhaol sy’n dangos yn glir y cynnydd a wnaethpwyd dros y chwe blynedd a aeth heibio ers y tro diwethaf i’r darparwyr hyn gael eu harolygu.

80

05/05/2009

but I invite Members to join me in welcoming the chief inspector’s annual report for 2007-08.

Am y rhesymau a amlinellais, nid wyf am dderbyn y gwelliant, ond yr wyf yn gwahodd yr Aelodau i ymuno â mi i groesawu adroddiad blynyddol y prif weithredwr ar gyfer 2007-08.

Paul Davies: I move amendment 1 in the name of Alun Cairns. Add a new point at the end of the motion:

Paul Davies: Cynigiaf welliant 1 yn enw Alun Cairns. Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

calls on the Welsh Assembly Government to urgently address the challenges identified in the annual report.

yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi sylw ar frys i’r sialensiau a nodwyd yn yr adroddiad blynyddol.

I am pleased to have the opportunity to take part in this debate and to move the amendment tabled in the name of Alun Cairns on behalf of the Welsh Conservatives. I welcome the findings of 2007-08 annual report and the contribution of Estyn in working to ensure that Wales’s education and training systems are best serving the needs of children and young people.

Yr wyf yn falch o’r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon ac i gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Alun Cairns ar ran y Ceidwadwyr Cymreig. Yr wyf yn croesawu canfyddiadau adroddiad blynyddol 2007-08 a’r cyfraniad y mae Estyn yn ei wneud i sicrhau bod systemau addysg a hyfforddiant Cymru’n cynnig y gwasanaeth gorau posibl o ran diwallu anghenion plant a phobl ifanc.

It is vitally important that our children and young people are given the best possible opportunities as they grow up and that their education and training forms a fundamental part of their development. There are, indeed, many positives to take from this report. It is encouraging to hear that there are good features in the standards of achievement reached by learners across all sectors and that generally, the providers who were inspected have improved since they were inspected six years ago.

Mae’n allweddol bwysig bod ein plant a’n pobl ifanc yn cael y cyfleoedd gorau posibl wrth iddynt dyfu’n oedolion a bod eu haddysg a’u hyfforddiant yn rhan sylfaenol o’u datblygiad. Yn wir, mae nifer o bethau cadarnhaol yn yr adroddiad hwn. Calonogol yw clywed bod nodweddion da o ran safonau cyrhaeddiad y dysgwyr ym mhob sector ac yn gyffredinol bod y darparwyr a arolygwyd wedi gwella ers eu harolygu chwe blynedd yn ôl.

As the Minister said, 92 per cent of lessons are good or better in maintained special schools and in further education, 84 per cent of sessions are very good. However, the report identifies a number of shortcomings and areas that need improvement. I am glad that the Minister recognised that fact, but I am disappointed that she will not accept our amendment on that basis.

Fel y dywedodd y Gweinidog, mae 92 y cant o’r gwersi’n dda neu’n well mewn ysgolion arbennig a gynhelir ac mewn addysg bellach, mae 84 y cant o’r sesiynau’n dda iawn. Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn nodi nifer o ddiffygion a meysydd y mae angen eu gwella. Yr wyf yn falch i’r Gweinidog gydnabod hynny, ond yr wyf yn siomedig na wnaiff dderbyn ein gwelliant ar sail hynny.

The report found that while there are positives, a significant amount of learners are not reaching their potential. The report identifies that vulnerable and disadvantaged learners are attaining lower levels of achievement than other pupils. Indeed, the report acknowledges the link between poverty and low educational attainment. It is

Er i’r adroddiad ganfod pethau cadarnhaol, canfuwyd bod cyfran helaeth o’r dysgwyr heb gyflawni eu potensial. Mae’r adroddiad yn dweud bod cyrhaeddiad dysgwyr sy’n agored i niwed a dysgwyr difreintiedig yn is na chyrhaeddiad disgyblion eraill. Yn wir, mae’r adroddiad yn cydnabod y cysylltiad rhwng tlodi a chyrhaeddiad addysgol isel.

81

05/05/2009

fundamentally important, particularly in this challenging economic climate, that we encourage and support learners from poverty or socially disadvantaged backgrounds to realise their potential. We must work to close the gap and ensure that we raise the standards of learning among socially disadvantaged learners. The report identifies

Mae’n sylfaenol bwysig, yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd anodd sydd ohoni, ein bod yn annog ac yn cefnogi dysgwyr o gefndiroedd tlawd neu gymdeithasol ddifreintiedig i wireddu eu potensial. Mae’n rhaid inni weithio i gau’r bwlch a sicrhau y byddwn yn codi safonau dysgu ymhlith dysgwyr sy’n ddifreintiedig yn gymdeithasol. Yn ôl yr adroddiad

‘a need therefore for schools and local authorities to get better at identifying and intervening to support socially disadvantaged learners of all abilities who may be underachieving.’

‘mae angen, felly, i ysgolion ac awdurdodau lleol wella o ran adnabod dysgwyr dan anfantais gymdeithasol o bob gallu a allai fod yn tangyflawni, a gwneud mwy i’w helpu.’

It also highlights the need to recognise learners from socially disadvantaged backgrounds as a vulnerable group and to focus attention on this group far more than has been the case in the past. We must not let vulnerable young people be penalised, unable to access the support they need. This is a vitally important recommendation and I urge the Minister to ensure that necessary measures are developed to implement it as a matter of urgency.

Mae hefyd yn tynnu sylw at yr angen i gydnabod dysgwyr o gefndiroedd cymdeithasol ddifreintiedig yn grŵp sy’n agored i niwed a chanolbwyntio sylw ar y grŵp hwnnw’n fwy nag a wnaethpwyd yn y gorffennol. Mae’n rhaid inni sicrhau na chaiff pobl ifanc sy’n agored i niwed eu cosbi, yn methu â chael y gefnogaeth angenrheidiol. Mae hwn yn argymhelliad allweddol bwysig ac yr wyf yn annog y Gweinidog i sicrhau bod mesurau angenrheidiol yn cael eu datblygu i’w weithredu fel mater o frys.

I would also like to mention the report’s comments about ensuring that the needs of bilingual learners are met. As the Minister said, the report notes that this continues to be an area that needs a strong focus in order to drive forward improvement. Standards in bilingualism were good in just over half of all schools that Estyn inspected, but standards have fallen over the last two years.

Hoffwn hefyd grybwyll sylwadau’r adroddiad ynghylch sicrhau y diwallir anghenion dysgwyr dwyieithog. Fel y dywedodd y Gweinidog, mae’r adroddiad yn nodi bod y maes hwn yn un y mae dal angen canolbwynt cryf arno er mwyn sbarduno gwelliannau. Yr oedd safonau dwyieithrwydd yn dda yn ychydig dros hanner yr ysgolion y bu i Estyn eu harolygu, ond mae’r safonau wedi gostwng dros y ddwy flynedd diwethaf.

4.20 p.m.

The report highlighted a number of weaknesses in performance and provision of education for bilingual learners. Pupils continue to achieve lower standards in bilingualism than in other key skills. The teaching of Welsh as a second language is much worse than in other subjects, and is worse now than it was in the past. There are too few opportunities for learners to use Welsh in other subjects, especially for learners over the age of 16. Similarly, the weak performance of Welsh as a second language in secondary schools continues.

Tynnodd yr adroddiad sylw at nifer o wendidau mewn perfformiad a darpariaeth addysg i ddysgwyr dwyieithog. Mae disgyblion yn dal i gyflawni safonau is mewn dwyieithrwydd nag y maent mewn sgiliau allweddol eraill. Mae addysgu Cymraeg fel ail iaith yn llawer gwaeth na phynciau eraill, ac mae’n waeth yn awr nag y bu yn y gorffennol. Nid oes digon o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg mewn pynciau eraill, yn enwedig dysgwyr sydd dros 16 oed. Yn yr un modd, mae perfformiad gwan Cymraeg fel ail iaith yn yr

82

05/05/2009

This is very concerning and raises serious questions about the ability to provide bilingual learners with the standard of learning that they deserve. The report recognises that local partnerships have a key role to play in helping providers to work together to extend provision in Welsh. However, it also notes that many of these partnerships are not doing enough to identify gaps in the availability of Welsh-medium provision across the areas that they serve. Clearly, this is an area that needs significant improvement, if we want to ensure that Wales has an education and training system that serves its needs.

ysgolion uwchradd yn parhau. Mae hyn yn fater o bryder ac mae’n codi cwestiynau difrifol ynghylch a ellir darparu i ddysgwyr dwyieithog y safon o ddysgu y maent yn ei haeddu. Mae’r adroddiad yn cydnabod bod rôl allweddol i’r partneriaethau lleol o ran helpu’r darparwyr i gydweithio i ehangu’r ddarpariaeth Gymraeg. Fodd bynnag, mae hefyd yn dweud nad yw llawer o’r partneriaethau hyn yn gwneud digon i ganfod bylchau o ran y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael yn yr ardaloedd y maent yn eu gwasanaethu. Mae’n amlwg bod angen gwella’r maes hwn yn sylweddol os ydym am sicrhau bod gan Gymru system addysg a hyfforddiant sy’n gwasanaethu ei hanghenion.

It is also clear from the report that local authorities and their partners do not always work well together to make sure that learners have the education and support services they need. It is absolutely essential that providers plan together in order to deliver the best possible education service. The report also notes that providers do not make best use of data on the performance of key groups of learners who may be underachieving. It is clear that more needs to be done to further promote the development of self-evaluation across all sectors. These are just a few of the challenges identified in the report. While I welcome the positive aspects of the report, there are some very urgent challenges that need to be addressed in order to ensure that all learners in Wales are able to access equality of learning and teaching. I hope that the Minister will address these challenges as a matter of urgency and I would urge Members to support our amendment.

Mae hefyd yn glir o’r adroddiad nad yw awdurdodau lleol a’u partneriaid wastad yn cydweithio’n dda i sicrhau bod gan y dysgwyr yr addysg a’r gwasanaethau cymorth angenrheidiol. Mae’n gwbl hanfodol bod y darparwyr yn cynllunio ar y cyd er mwyn cyflenwi’r gwasanaeth addysg gorau posibl. Mae’r adroddiad hefyd yn datgan nad yw’r darparwyr yn defnyddio’r data ynghylch perfformiad grwpiau allweddol o ddysgwyr a allai fod yn tangyflawni yn y modd gorau posibl. Mae’n amlwg bod angen gwneud mwy i hybu rhagor ar ddatblygu hunanwerthuso ym mhob sector. Dyma rai yn unig o’r heriau a nodir yn yr adroddiad. Er fy mod yn croesawu agweddau cadarnhaol yr adroddiad, mae rhai heriau y mae angen rhoi sylw iddynt yn ddiymdroi er mwyn sicrhau bod holl ddysgwyr Cymru’n gyfartal o ran dysgu ac addysgu. Yr wyf yn gobeithio y bydd y Gweinidog yn rhoi sylw i’r heriau hyn yn ddi-oed ac yr wyf yn annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliant.

Jenny Randerson: I move amendment 2 in the name of Peter Black. Add a new point at the end of the motion:

Jenny Randerson: Cynigiaf welliant 2 yn enw Peter Black. Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

notes the conclusions of the report of the urgent need to break the link between educational under achievement and poverty and calls on the Welsh Assembly Government to investigate the possibility of more targeting of educational funding towards the poorest pupils.

yn nodi casgliadau’r adroddiad ynghylch yr angen dybryd i dorri’r cysylltiad rhwng tangyflawni addysgol a thlodi ac yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ymchwilio i bosibilrwydd targedu mwy o gyllid addysgol at y disgyblion tlotaf.

I will start by using this opportunity to pay Yr wyf am ddechrau drwy fanteisio ar y cyfle

83

05/05/2009

tribute to the staff in schools throughout Wales who, overall, do an excellent job. As someone who frequently visits schools, I find it a great joy to visit them as well as being interesting and informative. Learning is much more interesting now than it was in the past. Children are undoubtedly benefiting from the vigorous approach taken by staff and their tremendous hard work.

i roi teyrnged i staff ysgolion ledled Cymru sydd, yn gyffredinol, yn gwneud gwaith gwych. Fel rhywun sy’n ymweld ag ysgolion yn aml, mae’n fater o lawenydd mawr imi ymweld â hwy ac maent yn ddiddorol ac yn addysgiadol yn ogystal. Mae dysgu’n llawer mwy diddorol heddiw nag y bu yn y gorffennol. Yn sicr mae plant yn manteisio ar ymagweddau bywiog y staff a’u holl waith caled.

As has been said, this report contains some important criticisms. I think that the new format of the report is helpful because it helps to concentrate the mind on key issues across the board. The issue that we have emphasised in our amendment relates to the underachievement of the poorest pupils and our considerable concern that the Welsh Assembly Government is still failing those pupils from the poorest homes and those who are on the lowest rung of the learning ladder.

Fel y dywedwyd, mae beirniadaethau pwysig i’w cael yn yr adroddiad hwn. Credaf fod fformat newydd yr adroddiad yn ddefnyddiol oherwydd mae’n ein helpu i ganolbwyntio ar faterion allweddol drwyddi draw. Mae’r mater yr ydym wedi ei bwysleisio yn ein gwelliant yn ymwneud â thangyflawniad y disgyblion tlotaf a’r pryder mawr sydd gennym bod Llywodraeth Cynulliad Cymru’n dal i fethu o ran y disgyblion hynny sy’n dod o’r cartrefi tlotaf a’r disgyblion hynny sydd ar ris isaf yr ysgol ddysgu.

The report makes some important and valuable points about underachievement because, very often, when we talk about underachievement, we talk about people who are having trouble with reading, writing and basic numeracy, but the report is saying that we have many children in Wales who are doing significantly better than that, but who could be doing so much more if they were given the best support and if that support was co-ordinated in the right and proper manner. It is very frustrating that, as a country where our overall economic problems can at least be partially put down to the lower levels of skills and academic achievement, we are still not on top of this problem.

Mae’r adroddiad yn gwneud pwyntiau pwysig a gwerthfawr ynghylch tangyflawniad oherwydd, yn aml iawn, pan fyddwn yn siarad ynghylch tangyflawniad, sôn y byddwn am bobl sy’n cael trafferth darllen, ysgrifennu a chyda rhifedd sylfaenol, ond mae’r adroddiad yn dweud bod llawer o blant yng Nghymru’n gwneud yn llawer gwell na hynny, ond y gallent wneud llawer iawn mwy pe caent y gefnogaeth orau a phetai’r gefnogaeth honno’n cael ei chydlynu’n gywir ac yn briodol. Mae’n rhwystredig iawn na allwn, fel gwlad lle gellir priodoli ein problemau economaidd cyffredinol yn rhannol i lefelau is o ran sgiliau a chyflawniad academaidd, nad ydym yn gallu mynd i’r afael â’r broblem hon.

The report starts with some very stark figures in this respect. It talks about children from unskilled backgrounds being five times less likely to go on to further and higher education than those from more affluent backgrounds. It points out that they are disproportionately more likely to end up not in employment, education or training. The girls are much more likely to become pregnant, and the boys are much more likely to find themselves becoming young offenders.

Ar ddechrau’r adroddiad ceir ffigurau llwm iawn yn hyn o beth. Mae’n sôn am blant o gefndiroedd di-sgiliau a’u bod bum gwaith yn llai tebygol o fynd ymlaen i addysg bellach ac addysg uwch nag yw plant o gefndiroedd mwy cyfoethog. Mae’n nodi eu bod yn fwy tebygol a hynny mewn modd anghymesur, o fod heb waith, addysg na hyfforddiant. Mae’r merched yn llawer mwy tebygol o fynd yn feichiog, ac mae’r bechgyn yn llawer mwy tebygol o fynd yn droseddwyr ifanc.

84

05/05/2009

We had an interesting piece of information from the Joseph Rowntree Foundation last week in Legislation Committee No. 2. Its representative pointed out that the Assembly Government’s approach of targeting areas of deprivation misses the majority of children living in poverty in Wales, as they do not live in areas of the greatest deprivation. She pointed that out in relation to Flying Start, for example. This is particularly a problem in rural areas. Children living in poverty in rural areas are not receiving the support that they should. I urge the Minister to look at that and to reconsider the way in which Flying Start is targeted. I have raised the issue before. The Liberal Democrats believe that the money should follow the pupil and should not be targeted on an area-by-area basis, in that broad-brush manner.

Cawsom wybodaeth ddiddorol gan Sefydliad Joseph Rowntree yr wythnos diwethaf ym Mhwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2. Dywedodd ei gynrychiolydd fod dull Llywodraeth y Cynulliad o dargedu ardaloedd o amddifadedd yn methu’r mwyafrif o blant sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru, oherwydd nid ydynt yn byw yn yr ardaloedd lle mae’r amddifadedd mwyaf. Dywedodd hynny ynghylch Dechrau’n Deg, er enghraifft. Mae hon yn broblem neilltuol mewn ardaloedd gwledig. Nid yw plant sy’n byw mewn tlodi mewn ardaloedd gwledig yn cael y gefnogaeth angenrheidiol. Yr wyf yn annog y Gweinidog i edrych ar hynny ac i ailystyried y ffordd y caiff Dechrau’n Deg ei dargedu. Yr wyf wedi codi’r mater o’r blaen. Cred y Democratiaid Rhyddfrydol y dylai’r arian ddilyn y disgybl ac na ddylid ei dargedu fesul ardal, mewn ffordd fras.

On reading the report, it struck me that many young people who come from poor homes and who have achieved modestly could have much more worthwhile and financially, emotionally and personally rewarding careers than they currently have. They may be scraping by when they could have had something much better. That is partly to do with their out-of-school activities.

Wrth ddarllen yr adroddiad, fe’m trawyd y gallai llawer o bobl ifanc o gartrefi tlawd sydd wedi cyflawni’n gymedrol fod mewn gyrfaoedd llawer mwy gwerth chweil, sy’n well yn ariannol ac sy'n rhoi llawer mwy o foddhad yn emosiynol ac yn bersonol na’r gyrfaoedd sydd ganddynt ar hyn o bryd. Efallai eu bod yn crafu byw ond gallent wneud yn llawer gwell. Mae a wnelo hynny yn rhannol â’u gweithgareddau y tu allan i’r ysgol.

Finally, I want to raise the issue of RAISE and the way in which that money is targeted. The report refers to—

Yn olaf yr wyf am godi mater Rhagori a’r ffordd y caiff yr arian hwnnw ei dargedu. Mae’r adroddiad yn cyfeirio at—

The Deputy Presiding Officer: Order. Wind up, please.

Y Dirprwy Lywydd: Trefn. A wnewch ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda.

Jenny Randerson: The report refers to the fact that, in general, that money is going disproportionately to the lowest achievers and is, therefore, going disproportionately to boys. Girls have much the same chance of being born into a poor family, but the way in which the money is being spent does not consider those children who are doing slightly better but who could be doing better still. I urge the Minister to look again at the policy in that respect.

Jenny Randerson: Mae’r adroddiad yn cyfeirio at y ffaith, yn gyffredinol, bod arian yn mynd a hynny’n anghymesur i’r rhai sy’n cyflawni leiaf a’i fod felly'n mynd, a hynny’n anghymesur, i’r bechgyn. Yr un yw’r tebygolrwydd y bydd merched yn cael eu geni i deulu tlawd, ond nid yw’r ffordd y caiff yr arian ei wario’n ystyried y plant hynny sy’n gwneud ychydig bach yn well ond a allai wneud yn well byth. Yr wyf yn annog y Gweinidog i ailedrych ar y polisi yn hynny o beth.

Jeff Cuthbert: I also welcome this report, which, on the whole, is quite positive and

Jeff Cuthbert: Yr wyf finnau hefyd yn croesawu’r adroddiad hwn, sydd, ar y cyfan,

85

05/05/2009

which indicates that the Welsh Assembly Government is continuing to push up standards across the board with record levels of investments and innovative initiatives, such as the foundation phase and the school effectiveness programme. More can always be done, of course, and it is on the specific issues of the 14-19 learning pathways, further education, work-based learning and the Welsh baccalaureate that I will concentrate in these few brief remarks.

yn eithaf cadarnhaol ac yn dangos bod Llywodraeth Cynulliad Cymru’n dal i wella safonau drwyddi draw gyda mwy nag erioed o fuddsoddi a mentrau arloesol, megis y cyfnod sylfaen a’r rhaglen effeithiolrwydd ysgolion. Mae wastad yn bosibl gwneud rhagor, wrth reswm, ac yr wyf am ganolbwyntio hynny o sylwadau sydd gennyf ar faterion penodol y llwybrau dysgu 14-19, addysg bellach, dysgu seiliedig a’r waith a bagloriaeth Cymru.

In post-16 education, we have seen continued improvement in leadership and management, in the work-based learning sector in particular and also in further education. In both cases, there is clear evidence that there has been a positive pay-off for learners. In further education, 84 per cent of sessions assessed were found to be good or very good, surpassing the Welsh Assembly Government’s target of 80 per cent. A total of 85 per cent of work-based learning achieved good or better standards, with adult, community-based learning improving again.

Mewn addysg ôl-16, gwelwyd gwelliannau parhaus o ran arweinyddiaeth a rheolaeth, yn y sector dysgu seiliedig ar waith yn arbennig ac mewn addysg bellach hefyd. Yn y ddau achos, ceir tystiolaeth glir bod dysgwyr ar eu hennill. Mewn addysg bellach, cafwyd bod 84 y cant o’r sesiynau a aseswyd yn dda neu’n dda iawn, gan ragori ar darged Llywodraeth Cynulliad Cymru sef 80 y cant. Cyflawnodd 85 y cant o’r dysgu seiliedig ar waith safonau da neu well, ac mae safonau dysgu oedolion yn y gymuned wedi gwella eto.

Of course, with the changes that are coming in across the 14-19 learning pathways, there are many challenges ahead, primarily with the collaboration agenda. The Estyn report has highlighted some of the difficulties encountered by schools, colleges and work-based learning providers. Estyn reports that getting partners to assess quality together is difficult. It goes on to say that, where partners work together, for example in 14-19 networks and children and young people’s partnerships, it finds that they often fail to make joint judgments about provision and about their progress as a group. Therefore, there is more work to be done on developing collaboration between bodies in that respect.

Wrth gwrs, gyda’r newidiadau sydd ar ddod yn y llwybrau dysgu 14-19, mae nifer o heriau’n ein hwynebu, yn bennaf o ran yr agenda gydweithio. Mae adroddiad Estyn wedi tynnu sylw at rai o’r anawsterau y mae ysgolion, colegau a darparwyr sy’n darparu dysgu seiliedig ar waith yn eu cael. Dywed Estyn ei bod yn anodd cael y partneriaid i asesu ansawdd gyda’i gilydd. Mae’n mynd rhagddo i ddweud, lle bo partneriaid yn cydweithio, er enghraifft mewn rhwydweithiau 14-19 a phartneriaethau plant a phobl ifanc, gwelir eu bod yn aml yn methu ffurfio barn ar y cyd ynghylch y ddarpariaeth ac ynghylch eu cynnydd fel grŵp. Felly, mae angen gwneud rhagor o waith i ddatblygu cydweithio rhwng cyrff yn hynny o beth.

4.30 p.m.

However, the report goes on to say that the careers companies that it inspected this year built comprehensive and rigorous systems for managing and assuring quality by using best practice from a range of partners. There are, therefore, some good aspects, yet there is also room for improvement in the roll-out of the 14-19 learning pathways, and we must learn from that and adapt quickly if the pathways

Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn mynd rhagddo i ddweud bod y cwmnïau gyrfaoedd a arolygwyd eleni wedi meithrin systemau cynhwysfawr a chadarn ar gyfer rheoli a sicrhau ansawdd drwy ddefnyddio’r arferion gorau a gafwyd gan amryw o bartneriaid. Felly, mae rhai agweddau da, ac eto mae lle i wella hefyd wrth roi’r llwybrau dysgu 14-19 ar waith, a rhaid inni ddysgu o hynny ac

86

05/05/2009

are to help 14 to 19-year-olds to fulfil their potential.

ymaddasu’n gyflym os yw’r llwybrau i helpu rhai rhwng 14 a 19 blwydd oed i wireddu eu potensial.

A component that works into the pathways quite well, according to Estyn, is the Welsh baccalaureate, with schools that teach it to all learners in key stage 4 finding it more straightforward to plan and deliver. These providers see the baccalaureate as delivering other curricular requirements, such as the 14-19 learning core, rather than as some sort of burden. It seems that at this stage of the 14-19 learning pathways’ implementation, the work-based learning providers, working within the network to enhance the local planning of the pathways, contribute well to the strategic partnerships. All of the Careers Wales companies assessed by Estyn support the learning networks well to address local priorities and to help learners to make informed career choices.

Un elfen sy’n cyd-fynd yn eithaf da â’r llwybrau, yn ôl Estyn, yw bagloriaeth Cymru, gan fod ysgolion sy’n ei haddysgu i’r holl ddysgwyr yng nghyfnod allweddol 4 yn ei chael yn symlach ei chynllunio a’i chyflwyno. Mae’r darparwyr hyn yn ystyried bod y fagloriaeth yn bodloni anghenion cwricwlaidd eraill, fel y craidd dysgu 14-19, yn hytrach na’i gweld yn rhyw fath o faich. Mae’n ymddangos ar yr adeg hon, wrth roi’r llwybrau dysgu 14-19 ar waith, fod y darparwyr dysgu seiliedig ar waith, drwy weithio o fewn y rhwydwaith i gynllunio’r llwybrau’n well yn lleol, yn cyfrannu’n dda at y partneriaethau strategol. Mae pob un o gwmnïau Gyrfa Cymru a aseswyd gan Estyn yn rhoi cymorth da i’r rhwydweithiau dysgu i roi sylw i flaenoriaethau lleol a helpu dysgwyr i wneud dewisiadau gyrfa gwybodus.

While the report notes an increase over the last two years in the percentage of young people who are not in education, employment or training, I hope that the continued implementation of the learning pathways will deliver a route for those who are or about to become NEET back into education and, eventually, work.

Er bod yr adroddiad yn datgan bod cynnydd dros y ddwy flynedd diwethaf yng nghanran y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, yr wyf yn gobeithio, drwy barhau i roi’r llwybrau dysgu ar waith, y bydd ffordd ar gael i’r rheini nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, neu sydd ar fin bod felly, yn ôl i addysg ac, yn y pen draw, i waith.

Mark Isherwood: As we have heard, the report notes a well-established and persistent link between poverty and low educational attainment. We must therefore be concerned that the number of 16 to 24-year-olds who are not in education, employment or training rose 10 per cent to 55,200 between 2004 and 2006. Wales has the highest proportion of 19 to 24-year-old NEETs in the UK, and the 2008 figures from Careers Wales reveal increases in the percentage of 16 and 18-year-old NEETs.

Mark Isherwood: Fel yr ydym wedi clywed, mae’r adroddiad yn nodi bod cyswllt sefydledig a pharhaus rhwng tlodi a chyrhaeddiad addysgol isel. Mae’n sicr o achosi pryder i ni felly bod nifer y rhai rhwng 16 a 24 blwydd oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant wedi codi 10 y cant i 55,200 rhwng 2004 a 2006. Gan Gymru y mae’r gyfran fwyaf o rai rhwng 19 a 24 mlwydd oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn y DU, ac mae’r ffigurau ar gyfer 2008 gan Gyrfa Cymru yn dangos cynnydd yng nghanran y rhai rhwng 16 a 18 mlwydd oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

Eligibility for free school meals, as the report states, is directly based on low household incomes, and almost 68,000 Welsh pupils were entitled to free school meals in 2007. It

Mae cymhwyster i gael prydau am ddim yn yr ysgol, fel y dywed yr adroddiad, wedi’i seilio’n uniongyrchol ar incwm aelwydydd isel, ac yr oedd hawl gan bron 68,000 o

87

05/05/2009

is therefore very concerning that just 27 per cent of those who received free school meals in their last year of compulsory education gained five or more GCSEs at grades A to C, compared to 56 per cent of pupils who were not in receipt of free school meals.

ddisgyblion Cymru i gael prydau am ddim yn yr ysgol yn 2007. Mae’n destun pryder mawr, felly, mai dim ond 27 y cant o’r rheini a gafodd brydau am ddim yn yr ysgol yn eu blwyddyn olaf mewn addysg orfodol a enillodd bump neu fwy o gymwysterau TGAU ar raddau rhwng A ac C, o’i gymharu â 56 y cant o ddisgyblion nad oeddent yn cael prydau am ddim yn yr ysgol.

The report tells us that the Welsh Government’s RAISE initiative, which is based on free school meal rates of 20 per cent plus, saw some effective practice. It is therefore a cause for concern that a headteacher recently told me that 22 per cent of the pupils currently at her school were taking free school meals, the level for the latest year 7 intake was 26 per cent, and the level has been increasing year on year. The headteacher said that RAISE had made a massive difference to deprived pupils, but that RAISE funding had dried up completely this year.

Dywed yr adroddiad wrthym fod menter Rhagori Llywodraeth Cymru, sydd wedi’i seilio ar gyfraddau prydau am ddim yn yr ysgol o 20 y cant a mwy, wedi dangos rhywfaint o ymarfer effeithiol. Mae’n destun pryder, felly, bod pennaeth ysgol wedi dweud wrthyf yn ddiweddar bod 22 y cant o’r disgyblion sydd yn ei hysgol ar hyn o bryd yn cael prydau am ddim yn yr ysgol, mai’r lefel ar gyfer y rhai diwethaf a dderbyniwyd ym mlwyddyn 7 oedd 26 y cant, a bod y lefel wedi bod yn codi o flwyddyn i flwyddyn. Dywedodd y pennaeth ysgol fod Rhagori wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i ddisgyblion difreintiedig, ond bod cyllid Rhagori wedi dod i ben eleni.

The report refers to less conspicuous forms of achievement. It notes the Programme for International Student Assessment 2006 national report on the achievements of 15-year-olds, indicating that the proportion of students in Wales shown to be at the highest level of achievement was below the average for Organisation for Economic Co-operation and Development countries. The report also tells us that the percentage of pupils achieving at level 5 at the end of key stage 2 had decreased in all core subjects. At the end of key stage 3, the percentage of pupils achieving level 6 or above had decreased significantly in Welsh and mathematics, and the lower percentage of more able pupils in Wales achieved higher levels in English, mathematics and science than their counterparts in England. In 2008, however, only 46 per cent of pupils achieved the level 2 threshold—the replacement for the five GCSE measure, but including GCSE passes in English or Welsh first language and mathematics. Although this represents a slight rise on 2007, it still means that over half the pupils in Wales fail to achieve this level of qualification. Despite improvement, levels of absence from secondary schools

Mae’r adroddiad yn cyfeirio at fathau llai amlwg o gyflawniad. Mae’n nodi adroddiad cenedlaethol y rhaglen ryngwladol asesu myfyrwyr ar gyfer 2006 ar gyflawniadau rhai 15 mlwydd oed, sy’n nodi bod cyfran y myfyrwyr yng Nghymru y dangoswyd eu bod ar y lefel cyflawniad uchaf yn is na’r cyfartaledd ar gyfer gwledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Dywed yr adroddiad wrthym hefyd fod canran y disgyblion sy’n cyrraedd lefel 5 ar ddiwedd cyfnod allweddol 2 wedi gostwng yn yr holl bynciau craidd. Ar ddiwedd cyfnod allweddol 3, yr oedd canran y disgyblion sy’n cyrraedd lefel 6 neu’n uwch wedi gostwng yn sylweddol mewn Cymraeg a mathemateg, a chyrhaeddodd y ganran is o ddisgyblion mwy galluog sydd yng Nghymru lefelau uwch mewn Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth na’u cymheiriaid yn Lloegr. Yn 2008, fodd bynnag, dim ond 46 y cant o ddisgyblion a gyrhaeddodd drothwy lefel 2—yr hyn sy’n cymryd lle’r ffon fesur o bum TGAU, ond yn cynnwys llwyddiant mewn TGAU Saesneg neu Gymraeg fel iaith gyntaf a mathemateg. Er bod hyn ychydig yn uwch nag yn 2007, mae’n dal i olygu bod mwy na hanner y

88

05/05/2009

remain much worse in Wales than in England.

disgyblion yng Nghymru’n methu â chyrraedd y lefel gymhwyster hon. Er bod gwelliant, mae lefelau absenoldeb mewn ysgolion uwchradd yn dal yn waeth o lawer yng Nghymru nag yn Lloegr.

We need to break the link between educational underachievement and poverty, but this is best achieved by targeting educational funding not at the poorest pupils alone, but at the poorest performing pupils, thereby recognising that the two will often, but not always, coincide. One Merthyr Tydfil headteacher said that it makes him angry when links are automatically made between deprivation and poor achievement.

Mae angen inni dorri’r cysylltiad rhwng tangyflawniad addysgol a thlodi, ond gellir cyflawni hyn orau drwy dargedu cyllid addysgol nid ar y disgyblion tlotaf yn unig, ond ar y disgyblion sy’n perfformio waethaf, gan gydnabod y bydd y ddau beth yn cyd-ddigwydd yn aml, ond nid bob amser. Dywedodd un pennaeth ysgol ym Merthyr Tudful ei fod yn digio pan gysylltir amddifadedd yn awtomatig â chyflawniad gwael.

We must apply target measures to underachievement wherever we find it, recognising the Times Educational Supplement research that showed that at the school with the highest number of free school meals in England and Wales, at 83 per cent, 59 per cent achieved five GCSEs at grades A to C, whereas at the Swansea school with the highest number of pupils in receipts of free school meals in Wales, at 62 per cent, just 14 per cent achieved five GCSEs at grades A to C.

Rhaid inni dargedu mesurau ar dangyflawniad ymhle bynnag y’i gwelwn, gan gydnabod yr ymchwil yn y Times Educational Supplement a ddangosodd fod 59 y cant wedi ennill pum TGAU ar raddau rhwng A ac C yn yr ysgol sydd â’r nifer uchaf o brydau am ddim yn yr ysgol yng Nghymru a Lloegr, ar 83 y cant, tra nad oedd ond 14 y cant wedi ennill pum TGAU ar raddau rhwng A ac C yn yr ysgol yn Abertawe lle y mae’r nifer uchaf o ddisgyblion yn cael prydau am ddim yn yr ysgol yng Nghymru, ar 62 y cant.

In relation to additional learning needs, the report refers to a lack of early support and professional advice, weak arrangements for early intervention, with too many children waiting for too long before their needs are recognised, and inadequate use of data by service managers to target services where they are most needed. That is unacceptable. Furthermore, recent data obtained by the National Deaf Children Society Cymru reveals that children in Wales who have a hearing impairment are 31 per cent less likely to achieve five GCSEs at grades A to C than their hearing peers. Deafness is not a learning disability, and we therefore need a firm commitment from the Welsh Assembly Government to close the attainment gap between deaf children and their hearing peers.

Mewn cysylltiad ag anghenion dysgu ychwanegol, mae’r adroddiad yn cyfeirio at ddiffyg cymorth cynnar a chyngor proffesiynol, trefniadau gwan ar gyfer ymyrraeth gynnar, gan fod gormod o blant yn disgwyl yn rhy hir cyn cydnabod eu hanghenion, a rheolwyr gwasanaethau yn defnyddio data mewn modd annigonol i dargedu gwasanaethau ar y rhai mwyaf anghenus. Mae hynny’n annerbyniol. At hynny, mae data diweddar a gafodd National Deaf Children Society Cymru yn dangos bod plant yng Nghymru sydd â nam ar eu clyw yn 31 y cant yn llai tebygol o ennill pum TGAU ar raddau rhwng A ac C na’u cyfoedion sy’n clywed. Nid yw byddardod yn anabledd dysgu, ac felly mae arnom angen ymrwymiad cadarn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gau’r bwlch o ran cyrhaeddiad rhwng plant byddar a’u cyfoedion sy’n clywed.

The final point in the report that I will refer to is the matter of youth offending teams, and

Y pwynt olaf yn yr adroddiad y cyfeiriaf ato yw mater y timau troseddau ieuenctid, a’r

89

05/05/2009

the secure setting inspected by Estyn. It found that the staff do not assess and record young people’s education and training needs carefully enough, and do not give young people with a statement of special educational needs sufficient support. That is also not acceptable. We must break the cycle of hopelessness and underachievement that too often leads to young people failing in Wales.

lleoliad diogel a archwiliwyd gan Estyn. Cafodd nad yw’r staff yn asesu a chofnodi anghenion pobl ifanc o ran addysg a hyfforddiant yn ddigon gofalus, ac nad ydynt yn rhoi digon o gymorth i bobl ifanc sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig. Nid yw hynny’n dderbyniol ychwaith. Rhaid inni dorri’r cylch o anobaith a thangyflawniad sy’n arwain yn rhy aml at fethiant gan bobl ifanc yng Nghymru.

Nerys Evans: Fel mae sawl un wedi sôn yn barod, mae llawer o elfennau cadarnhaol yn yr adroddiad blynyddol, ond mae hefyd rai pwyntiau ynddo sy’n destun pryder. O ran yr elfennau positif, mae’n gadarnhaol fod 92 y cant o wersi yn dda neu’n gwella yn ysgolion Cymru a bod 84 y cant o sesiynau yn dda neu’n dda iawn mewn addysg bellach. Yr wyf hefyd yn ategu gwerthfawrogiad Jenny Randerson o waith da staff ein hysgolion.

Nerys Evans: As a number of Members have noted, there are many positive elements to the annual report, but there are also some points that are a cause of concern. On the positive side, it is good that 92 per cent of lessons are good or improving in Welsh schools and that 84 per cent of sessions are good or very good in further education. I also endorse Jenny Randerson’s appreciation of the good work of staff in our schools.

Fodd bynnag, yn anffodus, mae rhai elfennau yn adroddiad Estyn yn achosi pryder mawr, a chanolbwyntiaf ar y rhai sydd angen gweithredu arnynt i wella. Un o’r pwyntiau a drafodwyd gan bob cyfrannwr yw gwaith Estyn yn asesu’r gyfundrefn addysg, a’r nod clir i sicrhau bod holl ddysgwyr Cymru yn cyrraedd eu llawn botensial. Mae’n glir nad yw hynny’n digwydd, a’r bobl â’r angen mwyaf sydd ar hyn o bryd yn cael eu siomi gan y gyfundrefn. Dengys yr adroddiad fod plant a phobl ifanc tlawd neu ddifreintiedig yn llai tebygol o fynychu ysgol ac yn llai tebygol o gyflawni canlyniadau da o gymharu â disgyblion eraill. Mae’r un peth yn wir am blant a phobl ifanc sydd o dan ofal awdurdodau lleol.

However, there are, unfortunately, some aspects of the Estyn report that are a cause of great concern, and I will focus on those that require action. One point mentioned by all speakers is Estyn’s work in assessing the education system, and the clear aim of ensuring that all learners in Wales achieve their full potential. It is clear that that is not happening, and it is those with the greatest needs who are being let down by the system. The report shows that poor or disadvantaged children and young people are less likely to attend school and are less likely to achieve good results than other pupils. The same is true of children and young people in the care of local authorities.

Dylai’r ffeithiau hyn fod yn destun pryder i bob un ohonom yn y Cynulliad. Mae’n ffactor sy’n bodoli ers blynyddoedd, ac nid yw’n ddigon da fod hyn yn parhau. Mae Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac ysgolion wedi derbyn ers blynyddoedd fod hyn yn digwydd a’i fod yn destun pryder a bod angen gweithredu i roi cefnogaeth i’n pobl ifanc a’n plant tlawd difreintiedig a’r rhai sydd o dan ofal awdurdodau lleol. Felly, pam nad yw’r bobl ifanc hyn yn derbyn y gefnogaeth berthnasol? Beth yw’r rhesymau dros ddiffyg presenoldeb yn ein hysgolion a’r canlyniadau maent yn eu chael? Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru, awdurdodau addysg ac

These facts should be a cause of concern to all Members. It is a factor that has existed for years, and it is not good enough that this situation should continue. The Government of Wales, local authorities and schools have accepted for years that this happens and that it is a cause of concern and that steps need to be taken to support our poor and disadvantaged children and young people and those in the care of local authorities. Therefore, why are these young people not receiving the appropriate support? What reasons lie behind their absence from school and the results that they get? The Government of Wales, local authorities and

90

05/05/2009

ysgolion weithio ar y cyd ar fyrder i sicrhau nad yw’r sefyllfa hon yn codi eto pan fyddwn yn trafod adroddiad blynyddol Estyn y flwyddyn nesaf. Dyma’r bobl ifanc â’r angen mwyaf, ac ar hyn o bryd maent yn cael eu siomi gan y gyfundrefn.

schools must co-operate urgently to ensure that this does not come up again when we discuss next year’s Estyn annual report. These are the young people in greatest need, and they are currently being let down by the system.

Yr ail bwynt yr hoffwn gyfeirio ato yw’r pwynt yn yr adroddiad ar y system cyfiawnder ieuenctid. Mae’r bobl ifanc sydd yn y system yn amlwg wedi colli llawer o’r profiad addysgiadol, a dengys yr adroddiad yn glir fod y cyfleoedd i fanteisio ar addysg yn brin iawn i’r bobl hyn. Mae’n rhaid i’r bobl ifanc hyn aros am leoedd addysg, ac nid ydynt yn cael yr oriau addysg sydd yn cael ei argymell. Os ydym am greu system cyfiawnder ar sail adfer, fel bod modd i droseddwyr ifanc trawsnewid eu bywydau, mae’n rhaid newid y ffeithiau hyn. Fel y soniais yn fy mhwynt cyntaf, mae angen mawr ar y bobl hyn, ac er eu budd hwy a budd y gymdeithas gyfan mae’n rhaid i’r system newid.

The second point that I want to refer to is on the issue of youth justice mentioned in the report. Young people in that system have, obviously, missed out on a lot of educational experiences, and the report shows clearly that the opportunities to benefit from education are few and far between for them. These young people have to wait for education places, and they do not receive the recommended hours of education. If we are to create a restorative justice system, so that young offenders are able to turn their lives around, we must change these facts. As I said in my first point, these people have great needs, and the system must change if it is to benefit them and society as a whole.

Y pwynt olaf yr hoffwn ganolbwyntio arno yw diwallu angen dysgwyr dwyieithog. Fel y soniwyd eisoes, mae adroddiad Estyn yn amlygu diffyg mawr yn y maes hwn. Dywed yr adroddiad fod addysgu yn Gymraeg fel ail iaith yn waeth nag ydyw mewn pynciau eraill, ac yn waeth nag y bu yn y gorffennol. Dywed fod safonau dwyieithog disgyblion yn is na medrau allweddol eraill, a hefyd, mewn sawl rhan o Gymru, nid oes digon o ddarpariaeth gyfrwng Gymraeg, yn enwedig i ddysgwyr dros 16 mlwydd oed. Fel y soniodd Gareth Jones yn ei ddadl fer ar ddechrau mis Chwefror, mae hon yn sefyllfa annerbyniol. Nid oes modd arall o’i ddisgrifio.

The last point that I would like to focus on is meeting the needs of bilingual learners. As previously mentioned, the Estyn report highlights a great deficiency in this area. The report states that the teaching of Welsh as a second language is worse than in other subjects, and worse than it has been in the past. It says that the bilingual standards of pupils are lower than in other key skills, and also, in many parts of Wales, there is inadequate Welsh-medium provision, especially for post-16 learners. As Gareth Jones mentioned in the short debate at the beginning of February, this situation is unacceptable. There is no other way of describing it.

4.40 p.m.

Mae’n rhaid i ni edrych i weld a yw’r gofynion statudol yn ddigonol. Pe bai’r diffygion hyn ym maes gwyddoniaeth, mathemateg neu Saesneg, byddai’r ysgol benodol o dan fesurau arbennig, ond gwyddom fod y sefyllfa o ran dysgu Cymraeg fel ail iaith yn wael ac yn gwaethygu. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gadw’i hymrwymiad teilwng yn ‘Cymru’n Un’ i gefnogi ac ymestyn addysg Cymraeg er mwyn cynyddu’r nifer o

We need to look at whether the statutory requirements are adequate. If those weaknesses were in subjects such as science, mathematics or English, the school in question would be placed under special measures, but we know that the situation with Welsh as a second language is bad and is getting worse. The Government of Wales must keep its exemplary commitment in ‘One Wales’ to support and extend Welsh-medium education to increase the number of Welsh

91

05/05/2009

siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, a mynd i’r afael â’r system. Dengys yr adroddiad yn glir nad yw’r sefyllfa bresennol yn gweithio a bod angen diwygiad. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb i’r her hon.

speakers in Wales, and get to grips with the system. The report shows clearly that the current situation is not working and a rethink is needed. The Government of Wales must respond to this challenge.

Fel y soniais ar y dechrau, mae pethau cadarnhaol iawn yn yr adroddiad. Yn amlwg, nid oes amser gennym i sôn am bob elfen ynddi, ond yr ydym yn ei chroesawu’n gyfan gwbl. Yn anffodus, mae’n cynnwys elfennau sy’n destun pryder ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd sylw ohonynt a gweithredu arnynt. Yr oeddwn yn falch o glywed sôn yng nghyflwyniad y Gweinidog am y camau y bydd hi’n eu chymryd ac yr wyf yn edrych ymlaen at weld canlyniadau’r gweithredoedd hynny.

As I mentioned at the beginning, there are positive things to be found in the report. Clearly, we do not have time to talk about every element in it, but we welcome it as a whole. Unfortunately, it contains some elements that are a cause for concern and the Government of Wales must take note of them and act on them. I was pleased to hear the Minister talk in her introduction about the steps that she will take and I look forward to seeing the outcomes of those actions.

Alun Cairns: I want to congratulate the inspector on the report and underline the comments that were made by Paul Davies and Mark Isherwood from the Welsh Conservative Party. I want to pay particular attention to the elements relating to special schools and special educational needs or additional learning needs in the report. There is no doubt that special schools have an excellent report: 27 per cent and 65 per cent fall into grades 1 and 2 respectively. Thankfully, none fall into grades 4 and 5. However, the inspector draws attention to the little progress that has been made in relation to social, emotional and behavioural difficulties and pupils who suffer from such conditions.

Alun Cairns: Dymunaf longyfarch yr arolygydd ar yr adroddiad a thanlinellu’r sylwadau a wnaethpwyd gan Paul Davies a Mark Isherwood o Blaid Geidwadol Cymru. Yr wyf am roi sylw penodol i’r elfennau sy’n ymwneud ag ysgolion arbennig ac anghenion addysgol arbennig neu anghenion dysgu ychwanegol yn yr adroddiad. Nid oes amheuaeth nad yw’r adroddiad ar ysgolion arbennig yn rhagorol: mae 27 y cant yn cyrraedd gradd 1 a 65 y cant yn cyrraedd gradd 2. Diolch byth, nid oes yr un ohonynt yng ngraddau 4 a 5. Er hynny, mae’r arolygydd yn tynnu sylw at y cynnydd prin sydd wedi’i wneud mewn cysylltiad ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol a disgyblion sy’n dioddef oddi wrth gyflyrau o’r fath.

That leads me on to special educational needs in general, where pupils are taught within mainstream education. The report highlights something of a dichotomy, with something very positive on the one hand and something very difficult and challenging on the other. There is no doubt that there are outstanding features in the local authorities that are identified, in terms not only of their outcomes this year, but of their prospects for improvement in future years, which should be recognised and congratulated. However, as Mark Isherwood drew attention to, the report also mentions the lack of early support and professional advice for pupils and their families, the weak arrangements for early interventions and inadequate use of data by

Mae hynny’n fy arwain at anghenion addysgol arbennig yn gyffredinol, lle y caiff disgyblion eu haddysgu mewn addysg brif ffrwd. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at ryw fath o ddeuoliaeth, gyda rhywbeth cadarnhaol iawn ar y naill law a rhywbeth anodd ac ymestynnol iawn ar y llaw arall. Nid oes amheuaeth nad oes nodweddion eithriadol yn perthyn i’r awdurdodau lleol a enwir, o ran nid yn unig eu canlyniadau eleni, ond eu rhagolygon ar gyfer gwella yn y blynyddoedd i ddod, y dylid eu cydnabod a’u canmol. Er hynny, fel y nododd Mark Isherwood, mae’r adroddiad yn sôn hefyd am ddiffyg cymorth cynnar a chyngor proffesiynol i ddisgyblion a’u teuluoedd, y trefniadau gwan ar gyfer ymyriadau cynnar a rheolwyr gwasanaethau

92

05/05/2009

service managers to target services where they are most needed. Therefore, we move from four positive points and a positive outcome overall, to three pretty strong criticisms. I am confused therefore about where the inspector is going with his assessment of additional learning needs in schools.

yn defnyddio data mewn modd annigonol i dargedu gwasanaethau ar y rhai mwyaf anghenus. Felly, yr ydym yn troi o bedwar pwynt cadarnhaol a chanlyniad cadarnhaol yn gyffredinol, at dair beirniadaeth eithaf cryf. Yr wyf mewn penbleth felly ynghylch cyfeiriad yr arolygydd wrth asesu anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion.

As a result, therefore, I tried to couple it with the Special Educational Needs Tribunal for Wales’s annual report and reflected on the figures and data that are provided in that report in relation to the numbers of appeals, and on its content in general. The number of appeals in 2006-07 was 149, and fell to 118 in 2007-08. However, when you dig a little deeper, you come across some appalling figures in relation to Carmarthenshire in particular, where there are 6.72 appeals per 10,000 pupils, which demonstrates that a significant proportion of parents have concerns and are prepared to take those concerns to the special educational needs tribunal. Cardiff also has higher than average numbers of appeals, but in the Estyn report it is partly praised for its successes, so there is an inconsistency there in the data. I ask the Minister to consider—not in her response today, but on another occasion in the Chamber—the special educational needs tribunal’s annual report and those data, because some local authorities have a policy of not statementing pupils. The Minister is about to bring forward a Measure in this respect, but it cannot be right that two children with the same special educational needs can be statemented in one local authority but not in another. That policy inconsistency is wholly inadequate, and we look to the Minister to correct such a deficiency.

Felly, oherwydd hynny, ceisiais ei gyplysu ag adroddiad blynyddol Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru ar gyfer 2006-07 a myfyrio am y ffigurau a’r data a ddarperir yn yr adroddiad hwnnw mewn cysylltiad â nifer yr apeliadau, a’i gynnwys yn gyffredinol. Nifer yr apeliadau yn 2006-07 oedd 149, a gostyngodd i 118 yn 2007-08. Fodd bynnag, os craffwch ychydig yn fanylach, deuwch ar draws rhai ffigurau gwarthus mewn cysylltiad â sir Gaerfyrddin yn benodol, lle y mae 6.72 o apeliadau am bob 10,000 o ddisgyblion, sy’n dangos bod cyfran sylweddol o rieni sydd â phryderon a’u bod yn barod i fynd â’r pryderon hynny at y tribiwnlys anghenion addysgol arbennig. Mae gan Gaerdydd hithau niferoedd o apeliadau sy’n uwch na’r cyfartaledd, ond fe’i canmolir yn rhannol yn adroddiad Estyn am ei llwyddiannau, felly mae anghysondeb yn y data yn y fan honno. Gofynnaf i’r Gweinidog ystyried—nid yn ei hymateb heddiw, ond ar achlysur arall yn y Siambr—adroddiad blynyddol y tribiwnlys anghenion addysgol arbennig a’r data hynny, gan fod rhai awdurdodau lleol sydd â pholisi o beidio â rhoi datganiad ar gyfer disgyblion. Mae’r Gweinidog ar fin rhoi Mesur gerbron yn hyn o beth, ond ni all fod yn iawn fod dau blentyn sydd â’r un anghenion addysgol arbennig yn cael datganiad mewn un awdurdod lleol ond nid mewn un arall. Mae’r anghysondeb polisi hwnnw yn gwbl annigonol, ac edrychwn at y Gweinidog i gywiro diffyg o’r fath.

I refer back to the numbers that I mentioned earlier, of 149 appeals in 2006-07 and 118 appeals in 2007-08. That may look positive, but we need to consider the challenges faced by parents. Sometimes, it can take up to two years for parents to get the local authority to accept their demands through negotiation and sheer hard work. They are not included in the data unless they have formally started the appeals process. I question the way in which data are presented in the special educational

Cyfeiriaf yn ôl at y niferoedd a grybwyllais yn gynharach, sef 149 o apeliadau yn 2006-07 a 118 o apeliadau yn 2007-08. Efallai fod hynny’n edrych yn bositif, ond mae angen inni ystyried y sialensiau sy’n wynebu rhieni. Weithiau, gall gymryd hyd at ddwy flynedd i rieni gael yr awdurdod lleol i dderbyn eu galwadau drwy negodi a gwaith caled pur. Ni chânt eu cynnwys yn y data oni bai eu bod wedi dechrau’n ffurfiol ar y broses apelio. Cwestiynaf y ffordd y caiff data ei gyflwyno

93

05/05/2009

needs tribunal’s annual report—not that it is doing anything wrong. However, it does not take account of those parents and pupils who embark upon the appeals process only to withdraw at a very early stage. It is only the threat of the appeal that gets them what they want. That is wrong and inadequate.

yn adroddiad blynyddol y tribiwnlys anghenion addysgol arbennig—nid ei fod yn gwneud dim byd o’i le. Fodd bynnag, nid yw’n ystyried y rhieni a’r disgyblion hynny sy’n dechrau ar y broses apelio ond sy’n tynnu’n ôl yn gynnar iawn. Dim ond y bygythiad o apêl sy’n cael yr hyn y maent am ei gael iddynt. Mae hynny’n anghywir ac yn annigonol.

The Deputy Presiding Officer: Order. Can you please wind up?

Y Dirprwy Lywydd: Trefn. A wnewch chi ddirwyn i ben os gwelwch yn dda?

Alun Cairns: Finally, with your permission, Dirprwy Lywydd, I want to underline the poor classifications that both reports present. If only the Minister had at least humoured my Member proposed legislation, it could have introduced much more accurate classifications that would have made a significant difference to a small number of people.

Alun Cairns: Yn olaf, gyda’ch caniatâd, Ddirprwy Lywydd, yr wyf am danlinellu’r dosbarthiadau gwael a geir yn y ddau adroddiad. Pe na bai’r Gweinidog ond wedi goddef fy neddfwriaeth arfaethedig fel Aelod, gallai fod wedi caniatáu dosbarthiadau llawer mwy cywir a fyddai wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i nifer fach o bobl.

The Deputy Presiding Officer: I call on the Minister to reply to the debate.

Y Dirprwy Lywydd: Galwaf ar y Gweinidog i ymateb i’r ddadl.

The Minister for Children, Education, Lifelong Learning and Skills (Jane Hutt): Thank you very much, Deputy Presiding Officer, and I thank Members for their wide-ranging contributions this afternoon. It is important feedback, not only to me as Minister, but also to the chief inspector. The Welsh Assembly Government is working to achieve system change in partnership with Estyn and our committed education professionals, who Jenny paid tribute to, with the aim of creating sustainable improvements for the long term for all learners in Wales.

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Diolch yn fawr ichi, Ddirprwy Lywydd, a diolchaf i’r Aelodau am eu cyfraniadau eang eu cwmpas y prynhawn yma. Mae’n adborth pwysig, nid yn unig i mi fel Gweinidog, ond hefyd i’r prif arolygydd. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio i sicrhau newid yn y system mewn partneriaeth ag Estyn a’n gweithwyr addysg proffesiynol ymroddgar, y rhoddodd Jenny deyrnged iddynt, gyda’r nod o greu gwelliannau cynaliadwy i holl ddysgwyr Cymru yn y tymor hir.

Paul led the contributions today, focusing on the need to ensure that all our children achieve their potential. That is at the forefront of my agenda. Our raising attainment and individual standards in education in Wales programme, which is recognised in the report, has succeeded in securing improvements in the quality of work. I draw Members’ attention to the Better Schools fund, which supports new initiatives by schools and local authorities. That is making nearly £37 million available, with support from local authorities.

Paul a arweiniodd y cyfraniadau heddiw, gan ganolbwyntio ar yr angen i sicrhau bod ein plant i gyd yn gwireddu eu potensial. Dyna sydd flaenaf ar f’agenda. Mae ein rhaglen i godi cyraeddiadau a safonau unigol mewn addysg yng Nghymru, a gydnabyddir yn yr adroddiad, wedi llwyddo i sicrhau gwelliannau yn ansawdd y gwaith. Tynnaf sylw’r Aelodau at y gronfa Ysgolion Gwell, sy’n cefnogi cynlluniau newydd gan ysgolion ac awdurdodau lleol. Mae honno’n darparu bron i £37 miliwn, gyda chymorth yr awdurdodau lleol.

Paul and Nerys, your points about bilingual Paul a Nerys, mae eich pwyntiau am

94

05/05/2009

learners are crucial. The Better Schools fund that I have just mentioned also includes an annual allocation of £3.7 million during the last financial year and this one, targeted specifically at ‘Iaith Pawb’, our national action plan for a bilingual Wales. Next week, we will be launching and consulting on our strategy on Welsh-medium education. That also addresses many of the issues that you raised, Nerys, as the education plan for Welsh as a second language comes through. The crucial focus within RAISE of achieving potential and tackling child poverty shows that we are working with local consortia to build on and consolidate the gains of the previous RAISE grants. That is being incorporated into our school effectiveness framework.

ddysgwyr dwyieithog yn hollbwysig. Mae’r gronfa Ysgolion Gwell yr wyf newydd ei chrybwyll hefyd yn cynnwys dyraniad blynyddol o £3.7 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf a’r flwyddyn ariannol hon, wedi’i dargedu’n benodol at ‘Iaith Pawb’, ein cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer Cymru ddwyieithog. Yr wythnos nesaf, byddwn yn lansio ac yn ymgynghori ynghylch ein strategaeth ar addysg cyfrwng Cymraeg. Mae honno hefyd yn ymdrin â llawer o’r pwyntiau a godasoch chi, Nerys, wrth i’r cynllun addysg ar gyfer y Gymraeg fel ail iaith ddod drwyddo. Mae’r ffocws tyngedfennol yn Rhagori o wireddu potensial a mynd i’r afael â thlodi ymysg plant yn dangos ein bod yn gweithio gyda chonsortia lleol i adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd drwy’r grantiau Rhagori blaenorol a’i gydgyfnerthu. Mae hynny’n cael ei ymgorffori yn ein fframwaith effeithiolrwydd ysgolion.

Jeff Cuthbert also made important points about the 14 to 19 learning pathways, about giving parity of esteem to vocational as well as academic options, which is critical, and about our learners’ entitlement through the Proposed Learning and Skills (Wales) Measure. He also referred to the empowering and inspiring nature of the Welsh baccalaureate, which is also helping to deal with child poverty issues. The Proposed Children and Families (Wales) Measure places a requirement on local authorities to prepare and publish a strategy for contributing to the eradication of child poverty.

Gwnaeth Jeff Cuthbert bwyntiau pwysig hefyd am y llwybrau dysgu 14 i 19, am roi’r un bri i opsiynau galwedigaethol yn ogystal â rhai academaidd, sy’n dyngedfennol, ac am hawliau dysgwyr drwy’r Mesur Arfaethedig ynghylch Dysgu a Sgiliau (Cymru). Cyfeiriodd hefyd at natur bagloriaeth Cymru, sy’n grymuso ac yn ysbrydoli ac sydd hefyd yn helpu i ddelio â materion tlodi ymysg plant. Mae’r Mesur Arfaethedig ynghylch Plant a Theuluoedd (Cymru) yn rhoi gofyniad ar awdurdodau lleol i baratoi a chyhoeddi strategaeth i gyfrannu at ddileu tlodi plant.

I will shortly be meeting representatives of the National Deaf Children’s Society to deal with many of the questions raised. Mark and Alun, we are committed to improving the life chances and equal opportunities of all disabled children and young people. I am glad that we have new powers, which have enabled us to pass a Measure addressing special educational needs. I am sure that we will be discussing the special educational needs tribunal report in due course. However, I am also glad that we are at the forefront of securing the appropriate data, which is why I did not need to support your proposal for a Member proposed Measure. We are already at the forefront of ensuring that we have the

Byddaf yn cwrdd yn fuan â chynrychiolwyr y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar i ddelio â llawer o’r cwestiynau a godwyd. Mark ac Alun, yr ydym wedi ymrwymo i wella cyfleoedd oes a rhoi cyfle cyfartal i bob plentyn a pherson ifanc anabl. Yr wyf yn falch fod gennym bwerau newydd, sydd wedi ein galluogi i basio Mesur i ymdrin ag anghenion addysgol arbennig. Yr wyf yn siŵr y byddwn yn trafod adroddiad y tribiwnlys anghenion addysgol arbennig maes o law. Fodd bynnag, yr wyf hefyd yn falch ein bod ar flaen y gad yn sicrhau data priodol, a dyna pam nad oedd angen imi gefnogi eich cynnig am Fesur wedi’i gynnig gan Aelod. Yr ydym eisoes ar flaen y gad yn sicrhau bod y

95

05/05/2009

appropriate Measures. Mesurau priodol gennym.

4.50 p.m.

Bill Maxwell said in his foreword, Dywedodd Bill Maxwell yn ei ragair,

‘I hope this Annual Report has a positive impact in both informing the development of policy and in encouraging the spread of effective practice’.

Gobeithiaf y caiff yr Adroddiad Blynyddol hwn effaith gadarnhaol yn dylanwadu ar ddatblygu polisi ac yn annog lledaenu ymarfer effeithiol.

I believe that he has succeeded in that aim and that we are working together to improve the life chances of all our children and learners in Wales. Diolch yn fawr.

Credaf iddo lwyddo yn y nod hwnnw a’n bod yn gweithio gyda’n gilydd i wella cyfleoedd oes ein holl blant a dysgwyr yng Nghymru. Thank you.

The Deputy Presiding Officer: Voting time was scheduled for 5 p.m.. Are business managers happy to bring it forward? I see that you are. Thank you very much.

Y Dirprwy Lywydd: Trefnwyd yr amser pleidleisio ar gyfer 5 p.m.. A yw’r rheolwyr busnes yn hapus i’w symud ymlaen? Gwelaf eich bod. Diolch yn fawr.

Cyfnod PleidleisioVoting Time

The Deputy Presiding Officer: The first vote is on amendment 1, in the name of Peter Black, to the motion on the achievements that Wales has made in engaging with the European Union since devolution. If amendment 1 is agreed, amendment 2 is deselected.

Y Dirprwy Lywydd: Mae’r bleidlais gyntaf ar welliant 1, yn enw Peter Black, i’r cynnig ynglŷn â’r hyn y mae Cymru wedi’i gyflawni yn ymgysylltu â’r Undeb Ewropeaidd ers datganoli. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddewis.

Alun Cairns: Point of order. I understood that the procedure had been changed so that we would vote first on the motion unamended and then move to the amendments if the motion was not agreed.

Alun Cairns: Pwynt o drefn. Deallwn fod y drefn wedi cael ei newid fel y byddem yn pleidleisio’n gyntaf ar y cynnig heb welliannau ac yna’n symud at y gwelliannau pe câi’r cynnig ei wrthod.

The Deputy Presiding Officer: That applies only to opposition motions. This is a Government motion.

Y Dirprwy Lywydd: Dim ond i gynigion yr wrthblaid y mae hynny’n berthnasol. Cynnig o eiddo’r Llywodraeth yw hwn.

Gwelliant 1 i NDM4199: O blaid 16, Ymatal 0, Yn erbyn 35.Amendment 1 to NDM4199: For 16, Abstain 0, Against 35.

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:The following Members voted against:

Bates, MickBlack, PeterBourne, NickBurns, AngelaDavies, Andrew R.T.Davies, PaulGerman, MichaelGraham, William

Andrews, LeightonBarrett, LorraineChapman, ChristineCuthbert, JeffDavidson, JaneDavies, AlunDavies, AndrewDavies, Jocelyn

96

05/05/2009

Isherwood, MarkMelding, DavidMillar, DarrenMorgan, JonathanRamsay, NickRanderson, JennyWilliams, BrynleWilliams, Kirsty

Evans, NerysFranks, ChrisGibbons, BrianGregory, JaniceGriffiths, JohnGriffiths, LesleyHart, EdwinaHutt, JaneJames, IreneJenkins, BethanJones, AnnJones, CarwynJones, ElinJones, GarethJones, Ieuan WynLaw, TrishLewis, HuwLloyd, DavidLloyd, ValMewies, SandyMorgan, RhodriRyder, JanetSargeant, CarlThomas, GwendaThomas, Rhodri GlynWatson, JoyceWood, Leanne

Gwrthodwyd y gwelliant.Amendment not agreed.

Gwelliant 2 i NDM4199: O blaid 15, Ymatal 2, Yn erbyn 33.Amendment 2 to NDM4199: For 15, Abstain 2, Against 33.

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:The following Members voted against:

Bates, MickBlack, PeterBourne, NickBurns, AngelaDavies, PaulGerman, MichaelGraham, WilliamIsherwood, MarkLaw, TrishMillar, DarrenMorgan, JonathanRamsay, NickRanderson, JennyWilliams, BrynleWilliams, Kirsty

Andrews, LeightonBarrett, LorraineChapman, ChristineCuthbert, JeffDavidson, JaneDavies, AlunDavies, AndrewDavies, JocelynEvans, NerysFranks, ChrisGibbons, BrianGregory, JaniceGriffiths, JohnGriffiths, LesleyHart, EdwinaHutt, JaneJames, IreneJenkins, BethanJones, CarwynJones, ElinJones, GarethJones, Ieuan WynLewis, HuwLloyd, DavidLloyd, ValMewies, SandyMorgan, RhodriRyder, Janet

97

05/05/2009

Sargeant, CarlThomas, GwendaThomas, Rhodri GlynWatson, JoyceWood, Leanne

Ymataliodd yr Aelodau canlynol:The following Members abstained:

Melding, DavidDavies, Andrew R.T.

Gwrthodwyd y gwelliant.Amendment not agreed.

Gwelliant 3 i NDM4199: O blaid 50, Ymatal 0, Yn erbyn 0.Amendment 3 to NDM4199: For 50, Abstain 0, Against 0.

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:The following Members voted for:

Andrews, LeightonBarrett, LorraineBates, MickBlack, PeterBourne, NickBurns, AngelaChapman, ChristineCuthbert, JeffDavidson, JaneDavies, AlunDavies, AndrewDavies, Andrew R.T.Davies, JocelynDavies, PaulEvans, NerysFranks, ChrisGerman, MichaelGibbons, BrianGraham, WilliamGregory, JaniceGriffiths, JohnGriffiths, LesleyHart, EdwinaHutt, JaneIsherwood, MarkJames, IreneJenkins, BethanJones, AnnJones, CarwynJones, ElinJones, GarethJones, Ieuan WynLaw, TrishLewis, HuwLloyd, DavidLloyd, ValMewies, SandyMillar, DarrenMorgan, JonathanMorgan, RhodriRamsay, NickRanderson, JennyRyder, JanetSargeant, Carl

98

05/05/2009

Thomas, GwendaThomas, Rhodri GlynWatson, JoyceWilliams, BrynleWilliams, KirstyWood, Leanne

Derbyniwyd y gwelliant.Amendment agreed.

Gwelliant 4 i NDM4199: O blaid 10, Ymatal 0, Yn erbyn 40.Amendment 4 to NDM4199: For 10, Abstain 0, Against 40.

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:The following Members voted against:

Bourne, NickBurns, AngelaDavies, Andrew R.T.Davies, PaulGraham, WilliamIsherwood, MarkMillar, DarrenMorgan, JonathanRamsay, NickWilliams, Brynle

Andrews, LeightonBarrett, LorraineBates, MickBlack, PeterChapman, ChristineCuthbert, JeffDavidson, JaneDavies, AlunDavies, AndrewDavies, JocelynEvans, NerysFranks, ChrisGerman, MichaelGibbons, BrianGregory, JaniceGriffiths, JohnGriffiths, LesleyHart, EdwinaHutt, JaneJames, IreneJenkins, BethanJones, AnnJones, CarwynJones, ElinJones, GarethJones, Ieuan WynLaw, TrishLewis, HuwLloyd, DavidLloyd, ValMewies, SandyMorgan, RhodriRanderson, JennyRyder, JanetSargeant, CarlThomas, GwendaThomas, Rhodri GlynWatson, JoyceWilliams, KirstyWood, Leanne

Gwrthodwyd y gwelliant.Amendment not agreed.

Gwelliant 5 i NDM4199: O blaid 5, Ymatal 10, Yn erbyn 35.Amendment 5 to NDM4199: For 5, Abstain 10, Against 35.

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid: Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:

99

05/05/2009

The following Members voted for: The following Members voted against:

Bates, MickBlack, PeterGerman, MichaelRanderson, JennyWilliams, Kirsty

Andrews, LeightonBarrett, LorraineChapman, ChristineCuthbert, JeffDavidson, JaneDavies, AlunDavies, AndrewDavies, JocelynEvans, NerysFranks, ChrisGibbons, BrianGregory, JaniceGriffiths, JohnGriffiths, LesleyHart, EdwinaHutt, JaneJames, IreneJenkins, BethanJones, AnnJones, CarwynJones, ElinJones, GarethJones, Ieuan WynLaw, TrishLewis, HuwLloyd, DavidLloyd, ValMewies, SandyMorgan, RhodriRyder, JanetSargeant, CarlThomas, GwendaThomas, Rhodri GlynWatson, JoyceWood, Leanne

Ymataliodd yr Aelodau canlynol:The following Members abstained:

Bourne, NickBurns, AngelaDavies, Andrew R.T.Davies, PaulGraham, WilliamIsherwood, MarkMillar, DarrenMorgan, JonathanRamsay, NickWilliams, Brynle

Gwrthodwyd y gwelliant.Amendment not agreed.

Cynnig NDM4199 fel y’i diwygiwyd: bod Motion NDM4199 as amended: that

Cynulliad Cenedlaethol Cymru: the National Assembly for Wales:

1. yn cydnabod bod datganoli wedi gweddnewid a gwella safle Cymru yn yr Undeb Ewropeaidd ac yn croesawu’r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a rhanddeiliaid ehangach Cymru,

1. recognises that devolution has transformed and enhanced the position of Wales in the European Union and welcomes the progress, achievements and contributions of the Welsh Assembly Government and wider Welsh

100

05/05/2009

ynghyd â’u llwyddiannau a’u cyfraniadau, wrth ymgysylltu â’r Undeb Ewropeaidd;

stakeholders in engaging with the European Union;

2. yn cydnabod swyddogaeth hollbwysig Tŷ Cymru ym Mrwsel o ran helpu i hyrwyddo buddiannau Cymreig yn Ewrop.

2. recognises the invaluable role of Tŷ Cymru in Brussels in helping to promote Welsh interests in Europe.

Cynnig NDM4199 fel y’i diwygiwyd: O blaid 40, Ymatal 2, Yn erbyn 8.Motion NDM4199 as amended: For 40, Abstain 2, Against 8.

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:The following Members voted against:

Andrews, LeightonBarrett, LorraineBates, MickBlack, PeterChapman, ChristineCuthbert, JeffDavidson, JaneDavies, AlunDavies, AndrewDavies, JocelynEvans, NerysFranks, ChrisGerman, MichaelGibbons, BrianGregory, JaniceGriffiths, JohnGriffiths, LesleyHart, EdwinaHutt, JaneJames, IreneJenkins, BethanJones, AnnJones, CarwynJones, ElinJones, GarethJones, Ieuan WynLaw, TrishLewis, HuwLloyd, DavidLloyd, ValMewies, SandyMorgan, RhodriRanderson, JennyRyder, JanetSargeant, CarlThomas, GwendaThomas, Rhodri GlynWatson, JoyceWilliams, KirstyWood, Leanne

Burns, AngelaDavies, Andrew R.T.Graham, WilliamIsherwood, MarkMillar, DarrenMorgan, JonathanRamsay, NickWilliams, Brynle

Ymataliodd yr Aelodau canlynol:The following Members abstained:

Bourne, NickDavies, Paul

Derbyniwyd y cynnig.Motion agreed.

101

05/05/2009

Gwelliant 1 i NDM4200: O blaid 17, Ymatal 0, Yn erbyn 33.Amendment 1 to NDM4200: For 17, Abstain 0, Against 33.

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:The following Members voted against:

Bates, MickBlack, PeterBourne, NickBurns, AngelaDavies, Andrew R.T.Davies, PaulGerman, MichaelGraham, WilliamIsherwood, MarkLaw, TrishLloyd, ValMillar, DarrenMorgan, JonathanRamsay, NickRanderson, JennyWilliams, BrynleWilliams, Kirsty

Andrews, LeightonBarrett, LorraineChapman, ChristineCuthbert, JeffDavidson, JaneDavies, AlunDavies, AndrewDavies, JocelynEvans, NerysFranks, ChrisGibbons, BrianGregory, JaniceGriffiths, JohnGriffiths, LesleyHart, EdwinaHutt, JaneJames, IreneJenkins, BethanJones, AnnJones, CarwynJones, ElinJones, GarethJones, Ieuan WynLewis, HuwLloyd, DavidMewies, SandyMorgan, RhodriRyder, JanetSargeant, CarlThomas, GwendaThomas, Rhodri GlynWatson, JoyceWood, Leanne

Gwrthodwyd y gwelliant.Amendment not agreed.

Gwelliant 2 i NDM4200: O blaid 6, Ymatal 10, Yn erbyn 34.Amendment 2 to NDM4200: For 6, Abstain 10, Against 34.

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:The following Members voted against:

Bates, MickBlack, PeterGerman, MichaelLaw, TrishRanderson, JennyWilliams, Kirsty

Andrews, LeightonBarrett, LorraineChapman, ChristineCuthbert, JeffDavidson, JaneDavies, AlunDavies, AndrewDavies, JocelynEvans, NerysFranks, ChrisGibbons, BrianGregory, JaniceGriffiths, JohnGriffiths, LesleyHart, EdwinaHutt, Jane

102

05/05/2009

James, IreneJenkins, BethanJones, AnnJones, CarwynJones, ElinJones, GarethJones, Ieuan WynLewis, HuwLloyd, DavidLloyd, ValMewies, SandyMorgan, RhodriRyder, JanetSargeant, CarlThomas, GwendaThomas, Rhodri GlynWatson, JoyceWood, Leanne

Ymataliodd yr Aelodau canlynol:The following Members abstained:

Bourne, NickBurns, AngelaDavies, Andrew R.T.Davies, PaulGraham, WilliamIsherwood, MarkMillar, DarrenMorgan, JonathanRamsay, NickWilliams, Brynle

Gwrthodwyd y gwelliant.Amendment not agreed.

Cynnig NDM4200: O blaid 49, Ymatal 0, Yn erbyn 0.Motion NDM4200: For 49, Abstain 0, Against 0.

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:The following Members voted for:

Andrews, LeightonBarrett, LorraineBates, MickBlack, PeterBourne, NickBurns, AngelaChapman, ChristineCuthbert, JeffDavidson, JaneDavies, AlunDavies, AndrewDavies, Andrew R.T.Davies, JocelynDavies, PaulEvans, NerysFranks, ChrisGerman, MichaelGibbons, BrianGraham, WilliamGregory, JaniceGriffiths, JohnGriffiths, LesleyHart, Edwina

103

05/05/2009

Hutt, JaneIsherwood, MarkJames, IreneJenkins, BethanJones, AnnJones, CarwynJones, ElinJones, GarethJones, Ieuan WynLewis, HuwLloyd, DavidLloyd, ValMewies, SandyMillar, DarrenMorgan, JonathanMorgan, RhodriRamsay, NickRanderson, JennyRyder, JanetSargeant, CarlThomas, GwendaThomas, Rhodri GlynWatson, JoyceWilliams, BrynleWilliams, KirstyWood, Leanne

Derbyniwyd y cynnig.Motion agreed.

The Deputy Presiding Officer: That brings today’s business to a close.

Y Dirprwy Lywydd: Daw hynny â chyfarfod heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 4.54 p.m.The meeting ended at 4.54 p.m.

Aelodau a’u PleidiauMembers and their Parties

Andrews, Leighton (Llafur – Labour)Asghar, Mohammad (Plaid Cymru – The Party of Wales)Barrett, Lorraine (Llafur – Labour)Bates, Mick (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)Black, Peter (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)Bourne, Nick (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)Burnham, Eleanor (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)Burns, Angela (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)Butler, Rosemary (Llafur – Labour)Cairns, Alun (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)Chapman, Christine (Llafur – Labour)Cuthbert, Jeff (Llafur – Labour)Davidson, Jane (Llafur – Labour)Davies, Alun (Llafur – Labour)Davies, Andrew (Llafur – Labour)Davies, Andrew R.T. (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)Davies, Jocelyn (Plaid Cymru – The Party of Wales)Davies, Paul (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives) Elis-Thomas, Dafydd (Plaid Cymru – The Party of Wales)Evans, Nerys (Plaid Cymru – The Party of Wales)Franks, Chris (Plaid Cymru – The Party of Wales)German, Michael (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)Graham, William (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)Gregory, Janice (Llafur – Labour)Griffiths, John (Llafur – Labour)Griffiths, Lesley (Llafur – Labour)

104

05/05/2009

Gibbons, Brian (Llafur – Labour)Hart, Edwina (Llafur – Labour)Hutt, Jane (Llafur – Labour)Isherwood, Mark (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)James, Irene (Llafur – Labour)Jenkins, Bethan (Plaid Cymru – The Party of Wales)Jones, Alun Ffred (Plaid Cymru – The Party of Wales)Jones, Ann (Llafur – Labour)Jones, Carwyn (Llafur – Labour)Jones, Elin (Plaid Cymru – The Party of Wales)Jones, Gareth (Plaid Cymru – The Party of Wales)Jones, Helen Mary (Plaid Cymru – The Party of Wales)Jones, Ieuan Wyn (Plaid Cymru – The Party of Wales)Law, Trish (Annibynnol – Independent)Lewis, Huw (Llafur – Labour)Lloyd, David (Plaid Cymru – The Party of Wales)Lloyd, Val (Llafur – Labour)Melding, David (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)Mewies, Sandy (Llafur – Labour)Millar, Darren (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)Morgan, Jonathan (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)Morgan, Rhodri (Llafur – Labour)Neagle, Lynne (Llafur – Labour)Ramsay, Nick (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)Randerson, Jenny (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)Ryder, Janet (Plaid Cymru – The Party of Wales)Sargeant, Carl (Llafur – Labour)Sinclair, Karen (Llafur – Labour)Thomas, Gwenda (Llafur – Labour)Thomas, Rhodri Glyn (Plaid Cymru – The Party of Wales)Watson, Joyce (Llafur – Labour)Williams, Brynle (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)Williams, Kirsty (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)Wood, Leanne (Plaid Cymru – The Party of Wales)

Datganiad gan y LlywyddStatement by the Presiding Officer

Y Llywydd: Gyda thristwch mawr, hoffwn gofnodi teyrnged y Cynulliad Cenedlaethol i Kathryn Jenkins a fu farw yn ei chartref y penwythnos hwn. Ymunodd Kath â staff y Cynulliad ym mis Ionawr 2000 yn Ddirprwy Olygydd ar Gofnod y Trafodion. Yn ddiweddar, bu’n gweithio fel clerc y Pwyllgor Menter a Dysgu. Yr oedd angerdd Kath tuag at y Cynulliad yn amlwg ac yr oedd ganddi agwedd frwdfrydig a chadarnhaol tuag at ei gwaith. Bydd holl Aelodau’r Cynulliad a’i chydweithwyr yn ei cholli yn fawr. Mynegwn ein cydymdeimlad dwysaf fel Cynulliad â theulu a ffrindiau Kath.

The Presiding Officer: With great sadness, I wish to place on record the National Assembly’s tribute to Kathryn Jenkins, who died at home this weekend. Kath joined the Assembly staff in January 2000 as a Deputy Editor in the Record of Proceedings and latterly served as the clerk to the Enterprise and Learning Committee. Kath was passionate about the Assembly, enthusiastic and positive in all that she did, and will be greatly missed by all Assembly Members and her colleagues. We send our deepest condolences as an Assembly to Kath’s family and friends.

105