Teulu Bach Nantoer

84

description

A Welsh language story for children in 14 chapters. Written by L.M. Owen and originally published in 1913.

Transcript of Teulu Bach Nantoer

Page 1: Teulu Bach Nantoer
Page 2: Teulu Bach Nantoer
Page 3: Teulu Bach Nantoer

T E U L U B A C H N A N T O E R

C H W E D L I B L A N T

GAN

M O E L O N A

WRECSAM

H U G H E S A ' I FAB, CYHOEDDWYR

Page 4: Teulu Bach Nantoer

I Blant Cymru y dymunaf gyflwyno'r llyfr bychan hwn, gan hyderu y cânt ynddo fwynhad, a rhyw gymaint o symbyliad i garu â chariad mawr eu hialth, eu gwlad, a'u cenedl.

Caerdydd,

Ionawr 9fed. 1913.

Page 5: Teulu Bach Nantoer

EISTEDDFOD FRENHINOL GENEDLAETHOL

GWRECSAM, Medi 2, 3, 4, 5, 6, 7, 1912.

BEIRNIADAETH Mr. L. J. Roberts, M.A., H.M.I. (Schools), ar yr " Ystori yn d isgrifio Bywyd Cymreig," i Blant Ysgol rhwng 12 a 14 oed. £5. Derbyniwyd pedair ystori. Yr oreu,—

O'R DE.—Saif ystori O'r De ar ei phen ei hun yn y gystadleu- aeth. Er fod Awena a Chadwaladr yn dda, y maent ymhell bell ar ol O'r De. Y mae hon yn ystori feistrolgar dros ben ; anodd fyddai cael dim gwell i'r pwrpas. Yn wir, gem fechan yw. Y m ae yr ystori ei hun yn swynol a chwaethus ; ac y mae'r iaith yn sym l, yn bur, ac yn goeth neilltuol. Nis gallaf lai na llongyfarch yr awdur ar ei waith ; nid yn aml yr ydwyf wedi darllen dim gyda chymaint o flâs. Rhaid llongyfarch plant Cymru ar y wledd sydd o'u blaen ; ca miloedd ohonynt bleser nid bychan, a phleser iachus, wrth ddarllen hanes toddedig "T eulu Bach Nantoer." Pwy bynnag yw yr awdur. y mae wedi gwneud cymwynas â'i gydwladwyr ieuainc (a'r hen hefyd) wrth ysgrifennu ystori sydd yn ychwanegiad gwerth- fawr i lenyddiaeth Cymru.

L. J. ROBERTS.

Page 6: Teulu Bach Nantoer

CYNHWYSIAD.

PENNOD I....... .............................................................................. .. 1

PENNOD II...................................................................................... 6

PENNOD III...................................................................................... 9 PENNOD IV..................................................................................... 14

PENNOD V...................................................................................... 18

PENNOD VI...................................................................................... 22

PENNOD VII...................................................................................... 29

PENNOD VIII........................................................................................ 34 PENNOD IX....................................................................................... 37

PENNOD X. ..................................................................................... 43

PENNOD XI.. ........................................................................ ............ 46

PENNOD XII ....................................................................................... 51

PENNOD XIII........................................................................................ 56 PENNOD XIV....................... ................................................................ 59

Page 7: Teulu Bach Nantoer
Page 8: Teulu Bach Nantoer

Teulu Bach Nantoer.

——————————————————————

PENNOD I. " Mewn bwthyn diaddurn yn ymyl y nant

Eisteddai gwraig weddw ynghanol ei phlant." Ceiriog.

UN o nosweithiau hir y gaeaf oedd. Oddiallan, rhuai'r gwynt a disgynnai'r gwlaw, ond ar aelwyd glyd Nantoer, gwenai'r tân yn siriol, ac yr oedd gwedd gysurus ar y teulu bychan o'i flaen. Newydd fynd heibio oedd y Nadolig, a gadawsai y tymor hwnnw ei ôl yma fel mewn mannau ereill. Daethai rhyw Santa Clôs caredig heibio hyd yn oed i'r bwthyn bach ar fin y rhos, ac yn hapus a distaw, yn y mwynhad o'i roddion, y cawn, ar yr hwyr garw hwn, ein golwg gyntaf ar y teulu.

Ar bob ochr i'r tân, o dan y simne fawr, ymestynnai dan bentan hir. Ar y naill, eisteddai Ieuan, llanc llygatddu deuddeg oed, a'i bwys ar ei law, yn prysur ddarllen llyfr. Ar y llall yr oedd 1

Page 9: Teulu Bach Nantoer

2 TEULU BACH NANTOER.

Alun a'i brennau a'i ysglod a'i offer saer, yn dwyn i fôd ryw ryfeddod newydd mewn gwaith coed. Tua deg oed oedd efe, a goleu oedd ei wallt a'i lygaid. Ar bob i ystol fechan, eisteddai Mair ac Eiry fach, a phen tywyll y naill a gwallt modrwyog melyn y llall yn cwrdd â'i gilydd uwchben y llyfr darluniau newydd oedd o'u blaen. Saith oed oedd Mair, a dwy flwydd a hanner oedd Eiry. Wrth y ford gron a'r lamp eisteddai Gwen Owen, y fam, yn prysur wau hosan, a'i llygaid yn aros yn garuaidd ar y naill ar ol y llall o'i hanwyliaid bach. Ni welid y tad ar yr aelwyd. Ers mwy na dwy flynedd yr oedd enw Elis Owen wedi ei gerfio ar garreg fedd ym mynwent Y Bryn. Anaml y soniai y fam am dano wrth y plant. Gwell oedd ganddi i Ieuan ac Alun beidio ei gofio o gwbl nag iddynt ei gofio yn dad meddw yn blin ymlwybro tua'r ty yn hwyr y dydd. Gan iddo wario ei holl arian, a marw cyn cyrraedd canol oed, gorfu i'w weddw ieuanc ofyn am help y plwyf i fagu ei phedwar plentyn. Enillai hithau ychydig drwy wnio i hon ac arall, fel y gwnae yn gynarach yn ei bywyd, ac yr oedd yn Nantoer ddigon o dir i gadw un fuwch.

Menyw dàl oedd Gwen Owen. Gwallt du, tonnog, fel un Mair, oedd ganddi, ond fod

Page 10: Teulu Bach Nantoer

TEULU BACH NANTOER. 3

llinellau arian drwyddo i gyd erbyn hyn. Yr oedd edrychiad ei llygaid yn dyner a dwys, a thawel bob amser oedd ei llais. Yr oedd y plant i gyd wedi dysgu bod yn ufudd iddi. Gwnaent bob amser yn llon yr hyn a geisiai, ac yn ol eu barn unol a diysgog, nid oedd mam hafal i'w mam hwy gan neb o fewn y byd.

" Mam," ebe Ieuan yn sydyn, gan gau ei lyfr, " teulu tlawd y'm ni, onide ? "

" Ie, mae'n debyg, machgen i," ebe y fam yn ddistaw, " Pam wyt ti'n gofyn ? "

" Wedi bod yn darllen am Abram Lincoln wyf. 'Roedd yntau mor dlawd ag y gallai fod pan yn blentyn, ond efe oedd prif ddyn America cyn iddo farw. Un fel Abram Lincoln wyf fi'n mynd i fod pan ddof yn ddyn."

Edrychodd ei fam arno am funud cyn ateb. Debyced oedd i'w dad yn edrychiad ei lygaid ! Yr oedd ei dad wedi bwriadu gwneud pethau mawrion, ond ar ol dechreu llithro, yn îs ac îs yr aethai, nes cyrraedd y bedd cyn gwneud dim. A i felly y byddai hanes Ieuan ? Na, er tebyced oeddynt, yr oedd mwy o benderfyniad yn wyneb y mab. Hwyrach mai ym mywyd Ieuan y cae bwriadau ei dad, druan, ddod i ben ! A hi, ei

Page 11: Teulu Bach Nantoer

4 TEULU BACH NANTOER.

fam, oedd i'w gychwyn ar ffordd bywyd. Bwysiced y gwaith !

" Pam wyt ti am fod fel Lincoln ? " gofynnai.

" 'Roedd ef mor dlawd, a neb yn gwybod dim am dano, a dyna fe wedi codi i fod yn uwch na'r dynion cyfoethog i gyd, yn feistr ar bawb. Dyna hanes pert yw e' ! " ebe Ieuan, a'i lygaid yn disgleirio.

" Ie," ebe'r fam, " ond er fod Lincoln yn ddyn o allu mawr, ni fuasai wedi codi fel y gwnaeth, oni bae iddo roi y gallu hwnnw i gyd er mwyn gwneud y byd, ac yn enwedig ei wlad, yn well. Nid meddwl am ddod yn enwog oedd ef, edrych am le i wneud daioni i ereill oedd o hyd. Rhai lelly yw dynion mawr y byd i gyd. Mae digon o le yn y byd i tithau i weithio. Mae eisieu rhai i weithio dros Gymru. Os gwnei di'r defnydd goreu o dy amser a'th allu, ac os byddi'n fachgen da o hyd, fe ddeui dithau,—bachgen bach o Gymro,—yn ddyn mawr ryw ddydd."

Gwrando heb ddweyd gair wnae Ieuan, fel y gwnae bob amser pan siaradai ei fam yn ddwys wrtho fel yn awr.

" Morwyn mam wyf fi'n mynd i fod," ebe Mair, gan godi oddiar ei hystol, a phlethu ei braich am un ei mam.

Page 12: Teulu Bach Nantoer

TEULU BACH NANTOER. 5

" O'r gore, Mair," ebe'r fam. " Feallai gwnei di gymaint o les yn y byd fel hynny. Mae llawer o'r bobl oreu yn byw drwy eu hoes heb fawr o son am danynt."

" Hei," ebe Alun, heb glywed dim o'r siarad, " dyma fi wedi gwneud llong. Edrychwch ar yr hwylbren dàl a'r hwyl wèn yma ! A gaf fi fynd i'w threio ar yr afon fach, mam ? "

" Heno, ar y gwlaw yma ? " Na, mae yfory'n ddigon cynnar at hynny, 'machgen i."

" 'N awr, Eiry fach, mae'n hen bryd dy fod di yn dy wely," ebe hi, gan godi'r un fechan ar ei chôl. " Beth mae Eiry fach yn mynd i fod, ys gwn i ? "

Plentyn nodedig o dlws oedd Eiry. Yr oedd ei gwallt fel modrwyau aur gylch ei phen, a chroen ei thalcen, ei gwddf, a'i breichiau, unlliw a llaeth newydd odro. Yr oedd gwên ar ei hwyneb yn wastad, a direidi lond ei llygaid glas. Gwnae gyfeillion o bawb. Yr oedd pawb a'i gwelai yn synnu at ei thlysni ac yn ei charu. Nid rhyfedd fod ei mam, wrth ei gwasgu at ei chalon, yn gofyn yn bryderus,—" Beth, blentyn annwyl, fydd dy hanes di ? "

Page 13: Teulu Bach Nantoer

PENNOD II. " Pan yn rhuo byddai'r daran, Ac yn gwibio byddai'r mellt ; O ! 'rwy'n cofio fel y llechwn Yn y bwthyn bach tô gwellt."

Crych Elen.

AFAI Nantoer yn agos i'r ffordd fawr arweinia o orsaf Llanerw i draeth Glanywerydd.

Man unig iawn oedd. Nid oedd ty yn agos, er nad oedd ond taith deng munud i'r brif-ffordd. Yr oedd llawer o deithio rhwng yr orsaf a'r traeth. Ddwywaith yn y dydd, haf a gaeaf, ae y fen fawr heibio, weithiau ag un neu ddau ynddi, ac ar rai adegau o'r flwyddyn, yn cludo llwyth llawn o bobl. Hoblaw y fen fawr, yr oedd tyrfa ereill o gerbydau yn mynd yn ol a blaen bob dydd. Dygid yr ardal fechan bell hon, felly, i gysylltiad â'r byd mawr oddiallan.

Safai'r ty ar le thr. O'i flaen ymestynnai y ddau gae bychan berthynai i'r tyddyn, ac ar waelod y rhai hyn rhedai afonig fechan wyllt i gwrdd â'r Gwynli yn îs i lawr yn y dyffryn. Y " Nant oer " hon roddai ei henw i'r lle. Un cae bychan serth oedd tu ol i'r ty, ac yna y rhos,—yr eang ros ym

6

S

Page 14: Teulu Bach Nantoer

TEULU BACH NANTOER. 7

mhobman, A thuhwnt i'r rhos, ar y gorwel pell, gwenai'n fawreddog fau glas Aberteifi. O ben y rhos, ar ddiwrnod clir, gellid gweld y bau i gyd, o Ynys Enlli a Chader Idris yn y gogledd i lawr hyd ffiniau Penfro, lle yr ymarllwys afon Teifi i'r môr ; a draw, ymhell dros y dôn, deuai bryniau'r Iwerddon i'r golwg, fel cwmwl ar y gorwel.

Bwthyn bach tô gwellt oedd Nantoer, fel y rhan fwyaf o dai bychain yr arda l honno. Nid oedd ond dwy ystafell ar y llawr, a math o daflod uwchben. Llawr pridd oedd iddo, wedi ei wneud yn galed a gloewddu gan fynych gerdded arno. Ceid ambell i lech yma a thraw tua chyfeiriad y tân. Isel oedd y muriau a bychain y ffenestri, ond oddifewn ac o gylch y ty, yr oedd popeth yn lân a threfnus odiaetb. Yr oedd un gwely yn y gegin, gwely bychan arall yn y " penucha," lle y cysgai Mair ac Eiry fach, a gwely y ddau fachgen ar y daflod. Aent i fyny yno ar hyd ysgol, yr hon a dynnent i fyny weithiau ar eu hol, yn ol dull Robinson Crusoe gynt.

Er yn fychan, yr oedd y bwthyn yn hynod o glyd a diogel. Pan chwythai yr ystorm arwaf dros eangder digysgod y rhos, ni siglid ei furiau cedyrn, ac o'r braidd y medrai y gwlaw trymaf beri clywed ei swn drwy y tô diddos o wellt. Ar

Page 15: Teulu Bach Nantoer

8 TEULU BACH NANTOER.

y clawdd bychan gwyn-galchog o flaen y ty, ac yn yr ardd, yr oedd blodau pêr bron ar bob tymor. yn y gwanwyn a'r haf, prin oedd ar y plant eisieu hyd yn oed y bwthyn. Allan gyda natur y treulient eu hamser, ac yr oedd pob un o'r pedwar bach wedi dysgu gwrando arni a mwynhau ei chwmni. Yr oedd arogl pêr yr eithin ym mhobman, a'r grug yn ei liw urddasol yn tonni dan yr awel. Deuai nodau mwyn yr ehedydd o'r awyr uwchben, a seiniau clir y chwibanogl ac ereill o adar y rhos. Yn awr ac yn y man, clywid bref oen, ac o'r pellter obry, gyda gwynt y de, deuai swn cerbyd. Yr oedd y môr bob amser yn y golwg, a hyfrydwch pennaf Alun fyddai gwylio ambell long groesai ei wyneb, a dyfalu o ba te y daethai, ac i ba le yr ae.

Page 16: Teulu Bach Nantoer

PENNOD III. " Bum yno ganwaith ar fy nhro,

Yn rhodio ar ei hyd, Pan oedd difrifwch heb fy nal, Heb ofal yn y byd."

John Jones, Llansantffraid Glan Conwy .

IWRNOD poeth ym mis Gorffennaf oedd. Yn ystod yr haf hwnnw, caed llawer o

wlaw, nes oedd hyd yn oed ar y rhos lawer pwllyn o ddwfr yma a thraw, ac yr oedd dyddiau tesog, braf, fel y dydd hwnnw, yn rhy anaml i'w sychu. Yr oedd ardalwyr Rhydifor yn brysur gyda'r gwair, a llawen iawn oedd plant y lle am fod gwyliau'r ysgol wedi dechreu.

" Mam," ebe Ieuan ac Alun gyda'i gilydd y bore hwnnw, gan redeg i'r ty, " mae Bronifor yn troi'r gwair ac yn galw am help. A gawn ni ddod yno gyda chwi ? "

Peth braf gan y plant fyddai cael ymrolio yn y gwair a gwylio'r gweithwyr prysur, ond os eid ag un, rhaid fyddai mynd a'r pedwar, ac nid gwiw gwneud hynny. Ni wnae hynny ond creu gwaith lle yr oedd digon o waith yn barod. Felly, atebodd y fam,—

9

D

Page 17: Teulu Bach Nantoer

10 TEULU BACH NANTOER.

" Na, rhaid i chwi eich dau ofalu am Mair ac Eiry heddyw. Yn lle dod i'r cae gwair, cewch fynd i't rhos am y dydd. 'Rwyf am i chwi gasglu basgedaid o lus duon bach i mi. Gwnaf bastai i chwi wedyn erbyn tê yfory."

Felly, i'r rhos yr aethant. Cymerasant gyda hwy ystenaid o laeth a digon o fara ac ymenyn yn fwyd.

Yr oedd yn hyfryd ar y rhos y bore hwnnw. Gwisgai'r grug a'r eithin wisgoedd eu gogoniant, a deuai arogl pêr o'r caeau gwair gyda'r awel o bobman. Yr oedd digonedd o lus hefyd er gwaethaf y gwlaw, ac yr oedd dwylaw bychain, prysur, yn taflu dyrneidiau aml i'r fasged, gan gofio beunydd am addewid eu mam. Cyn hir, hefyd, gwelid ol y llus ar y pedwar wyneb. Lliw glasddu oedd ar y dannedd, y gwefusau, a'r dwylaw.

Wedi bod wrthi yn ddyfal am amser, daeth awydd arnynt symud i fan arall o'r rhos,—yn agos i'r ffordd uchaf. Arweiniai hon hefyd i Lanywerydd, ond nid oedd cymaint o dramwy arni ag ar y llall. Wrth fynd, daethant at un o'r pyllau dwfr. Rhyw bwll hir, cul a bas oedd. Gallai Ieuan ac Alun, ac hyd yn oed Mair, neidio

Page 18: Teulu Bach Nantoer

TEULU BACH NANTOER. 11

drosto, ond byddai raid cario Eiry, neu gerdded gyda hi dipyn yn nes i lawr er mwyn osgoi croesi'r dwfr. Eithr nid felly y gwelodd y bechgyn yn dda wneud.

" Alun," ebe Ieuan, " cydia di yn un llaw i Eiry, fe gydia innau yn y llall, a neidiwn ein tri dros y dwr."

Ufuddhaodd Alun, ac aeth y tri ychydig oddiwrth y pwll er mwyn cael digon o nerth i neidio drosto. Rhifodd Ieuan " Un, dau, tri," ac yna i ffwrdd a hwy. Ond rywfodd, heb yn wybod iddynt, pan ar fin rhoi'r llam, gollyngodd y ddau fachgen eu gafael ar Eiry yn rhydd, nes iddynt hwy eu dau fod yn ddiogel ar y lan arall, ac Eiry at ei hyd yn y dwr. Neidiodd Ieuan i ganol y dwr mewn eiliad, a chariodd hi drosodd yn ei freichiau, a'i dillad yn wlyb drwyddynt, a hithau yn crio yn enbyd gan ofn.

Bu y tri am ennyd mewn cryn benbleth. Ni wyddent beth i wneud â'u chwaer fach yn ei dillad gwlybion. Nid gwiw mynd yn ol i'r bwthyn. Yr oedd allwedd hwnnw yn llogell eu mam yng nghae gwair Bronifor. Nid peth hyfryd i feddwl Ieuan chwaith oedd rhedeg tuag yno i gyffesu wrth ei fam yng ngwydd pobl pa mor ddiofal y B

Page 19: Teulu Bach Nantoer

12 TEULU BACH NANTOER.

buasai. Gwell, os yn bosibl, aros hyd yr hwyr, nes i'r fam ddod adref. Felly, wedi ychydig ystyried, diosgwyd dillad Eiry, rhoddwyd côt Ieuan yn dynn am dani, gadawyd hi i orwedd ar y ddaear, a brat Mair yn orchudd i'w phen. Taenwyd y dillad, bob pilyn, o gylch y fan, a thra'r oeddynt yn sychu, eisteddodd y tri o gwmpas Eiry i gadw cwmni iddi a'i difyrru.

Cyn eistedd yn hir fan honno, gwelodd Ieuan gyfle braf am gynulleidfa lonydd i wrando arno yn pregethu neu yn ate ithio. Hoff oedd gan Ieuan arfer y ddawn honno, ond fynychaf, coed a llwyni'r ardd, neu'r defaid a'r wyn ar y rhos oedd ei wrandawyr. Byddai Alun a Mair ac Eiry, cyn iddo ond prin ddechreu, yn rhy hoff o redeg a chwareu o'i gwmpas,—pethau hollol allan o le mewn cynulleidfa.

Rhyw gymysg oedd araith Ieuan y prynhawn hwnnw fel bob amser. Dechreuodd gyda brawddeg neu ddwy o ryw bregeth glywsai rywbryd. Yna, trodd yn sydyn i'r Saesneg, a chaed ganddo ddarn o araith " Mark Antony " gan Shakespeare, yn dechreu gyda,—

"Friends ! Romans ! Countrymen ! "

Page 20: Teulu Bach Nantoer

TEULU BACH NANTOER. 13

Taflodd ambell adnod i fewn, a chyn y diwedd, caed, mewn gwir hwyl Gymreig, y frawddeg,— " Meddyliwch, bobol bach, fel yna mae pethau ! "

" Hei, Ieuan, edrych, edrych, dacw long fan draw," gwaeddai Alun, gan dorri ar draws hyawdledd ei frawd, a'r un funud, tra yn troi i edrych ar y llong, gwelent ar y clawdd yn eu hymyl ddyn a menyw mewn dillad trwsiadus, yn edrych a gwrando arnynt gan wenu.

Page 21: Teulu Bach Nantoer

PENNOD IV.

" Dyn ireiddwych, dan ruddaur Campus wyt mewn owmpas aur."

Sion Tudur.

NGHOFIODD hyd yn oed Alun am y llong pan welwyd y gwr a'r wraig yn disgyn oddiar

y clawdd ac yn dyfod tuag atynt. Edrychodd y tri ar y dieíthriaid yn syn. Eiry oedd yr unig un na chymerodd sylw ohonynt. Ymhellach ymlaen at y ffordd, gwelent gerbyd, a'r gyrrwr yn unig ynddo, yn aros am y ddau yn ddiau.

Ni welsai y plant erioed o'r blaen neb wedi ymwisgo mor hardd ; a'r hyn barodd fwyaf o syndod i Ieuan ac Alun oedd fod y dyn yn gwisgo modrwy, un lydan a thlws iawn, ar ei fys bach. Ar ddillad heirdd y wraig yr edrychai Mair,—rhai o'r un lliw a blodau'r grug oeddynt.

Y dyn siaradai â'r plant. Holai hwynt am lawer o bethau,—pa le yr oeddynt yn byw ; beth oedd eu henwau; beth wnaent ar y rhos; ac yn bennaf am Eiry,—pam yr oedd yn gorwedd ar ei hyd felly, heb esgidiau na hosanau ; ai côt Ieuan oedd am dani, ac ai ei dillad hi welent ar y grug 14

A

Page 22: Teulu Bach Nantoer
Page 23: Teulu Bach Nantoer

TEULU BACH NANTOER. 15

yn sychu ? Siarada i y ddau â'i gilydd yn Saesneg. Treiodd y wraig gael gan y plant siarad â hi hefyd, ond ni fedrai hyd yn oed Ieuan ei deall, Siaradai yn rhy gyflym, ac nid yr un swn oedd i'w Saesneg hi ag i Saesneg Ieuan ei hun.

Yr oedd Eiry wedi dechreu cysgu, ond pan glywodd ymddiddan, deffrodd. Taflodd y gorchudd oddiar ei hwyneb, a chododd ar ei heistedd, gan ysgwyd ei gwallt rhuddaur ac edrych ar bawb,—y plant a'r dieithriaid,—gan wenu'n fwyn yn ol ei harfer. Ac er mai Saesneg oeddynt, cofiodd y plant am byth eiriau'r wraig pan ei gwelodd.

" O, what an angel of a child," ebe hi yn araf a dwys, gan blygu at Eiry a chwareu â hi, a cheisio cael ganddi siarad, a daeth y ddwy ar unwaith yn gyfeillion. Mawr oedd ei phryder rhag i'r un fach gael niwed i'w hiechyd wedi'r gwlychu, ond yr oedd y dillad bron yn sych erbyn hyn, a'r niwed, os oedd niwed yn bod, wedi ei wneud.

Gofynnwyd i Ieuan areithio eto fel y gwnae ; ond nid peth hawdd iddo ef oedd gwneud hynny o'u blaen hwy. Yn lle hynny, adroddodd y tri ddernyn Cymraeg ddysgasent erbyn Cwrdd Bach y Plant yng nghapel Y Bryn, a chanasant gyda'i gilydd un o'r tonau.

Page 24: Teulu Bach Nantoer

16 TEULU BACH NANTOER.

Eisteddai y ddau yn eu dillad gwychion ar y grug i wrando arnynt, a'r gyrrwr o hyd yn ddistaw ac amyneddgar yn ei gerbyd. Cyn mynd, rhanasant flychaid cyfan o felusion rhwng y plant, a rhoisant i bob un ohonynt swllt, a chusanodd y wraig Eiry lawer gwaith.

Prin y medrai y plant aros yn hwy ar y rhos. Yr oedd arnynt awydd cryf i redeg i'r cae gwair at eu mam i ddweyd yr hanes wrthi. Daeth yr amser yn fuan, ond y peth cyntaf wnaeth Ieuan oedd dweyd wrth ei fam, gan edrych i'w hwyneb gyda'r llygaid oedd mor debyg i lygaid ei dad, mor ffol y buasai ef ac Alun i geisio neidio âg Eiry dros y dwr, ac iddi syrthio a gwlychu.

" Ond," ebe Alun, gan dorri ar ei draws, " yr oedd yn dda i ni wneud hynny, waith wedi gweld Eiry yn gorwedd i'w dillad gael sychu, fe ddaeth dyn a menyw ddieithr i siarad â ni, ac ————."

Yna, dechreuodd pob un, a'i anadl yn ei wddf, adrodd yr hyn gymerasai le. Ac wedi gwrando, o'r braidd y medrodd y fam roi gair o gerydd i Ieuan.

"Mae'n dda gen i," ebe hi, "dy fod di wedi dweyd y cwbl, heb dreio cadw dy hunan, na threio beio neb arall."

Page 25: Teulu Bach Nantoer

TEULU BACH NANTOER. 17

Ac yna, rhyw ymholi wnae pwy allai y dieithr- iaid fod, a beth barai iddynt gymeryd cymaint diddordeb yn ei phlant ; a daeth rhyw feddwl drosti fod cael pedwar bychan felly, mwyn, nwyfus, ac iach, a llawn o gariad tuag ati, yn fwy cyfoeth na llawer o olud byd.

Page 26: Teulu Bach Nantoer

PENNOD V. " Dewch a'r cychod at y lan,

Y mae plant y bryniau Wedi dod am ddydd o wyl Ar y difyr donnau."

Penar.

N o brif ddyddiau'r flwyddyn i'r plant oedd hwnnw pan yr aent am ddiwrnod cyfan i

lan y môr. " Diwrnod glan y môr " y gelwid ef, am y gadawai pawb o bobl yr arda l eu gwaith am y dydd, ac yr aent yn llwythi llawn yn eu ceirt a'u ceir i Lanywerydd i fwynhau eu hunain. Edrychai y plant ymlaen ato ymhell cyn ei ddyfod, ae weithiau ymddanghosai yr haf yn hir iawn, a'r wythnosau yn boenus o undonog cyn i'r dydd mawr wawrio.

YN gynnar yn Awst, wedi gorffen y ddau gynhaeaf gwair, a chyn dechreu'r cynhaeaf yd, yr aed y flwyddyn honno. Aethai amser maith iawn,—yn agos i fis,—heibio oddiar y digwyddiad ar y rhos. Eithr yr oedd swn y dydd yn dod o draw, oherwydd yr oedd Gwen Owen yn brysur yn gwnio gwisgoedd newydd i Mair ac Eiry ar ei gyfer, a phleser mawr i'r ddwy 18

U

Page 27: Teulu Bach Nantoer

TEULU BACH NANTOER. 19

oedd ei gwylio a'i helpu. Defnydd ysgafn, ysgafn, goleu, goleu oedd, a blodau tlysion drosto i gyd, ac yr oedd arogl newydd hyfryd arno. Aethai sylltau y wraig ddieithr i'w brynu, a'r rhai gawsai y bechgyn i brynu hetiau gwellt iddynt hwythau eu dau.

Yr oedd y plant yn effro gyda'r haul ar y bore Iau hwnnw, oherwydd disgwylid iddynt fod ar ben y rhiw fach erbyn hanner awr wedi pump i gwrdd â phobl Bronifor gyda'r rhai yr oeddynt i gael eu cario. Mor hyfryd oedd aros yn y fan honno yn ieuenctid y dydd i edrych ymlaen at ysbaid hir o bleser ! Gwelent rai llwythi llawn a llawen yn pasio, a chyn hir gwelent " gambo " fawr Bronifor a'r ddau geffyl glas yn dangos eu hunain ar waelod y rhiw. Yr oedd calonnau y plant yn llawn hyd yr ymylon. Dawnsient a chwareuent yn ddilywodraeth o gylch eu mam. Bellach, wele'r " gambo " yn sefyll yn eu hymyl, ac er yr ymddanghosai yn llawn yn barod, caed ynddi ddigon o le iddynt i gyd,—y fam a'r ddwy eneth rywle yn y canol, a Ieuan ac Alun yn y lle oedd hoff ganddynt,—ar y sachaid wair tu ol, a'u traed yn hongian dros yr ymyl. Caent deithio saith milltir felly, i fyny ac i lawr riwiau, gan yrru yn chwyrn weithiau, a chanu i gyd bryd arall,

Page 28: Teulu Bach Nantoer

20 TEULU BACH NANTOER.

nes cyrraedd glan y bau glas welent bob dydd o'u cartref.

Cyrhaeddasant yno tua hanner awr wedi saith o'r gloch,—cyn i'r rhan fwyaf o bobl y lle adael eu gwelyau. Rhyw swn oer, dideimlad, oedd gan y môr yn fore felly, swn wnae galon Mair yn brudd, am mai un o reolau'r dydd i'r plant oedd eu bod i gacl eu trochi yn y tonnau geirwon dros eu pennau. Wedi cael yr helynt blin hwnnw drosodd, yr oedd popeth yn iawn.

O 'r swynion didrai oedd yng Nglanywerydd ! Cae y plant chwareu ac ymrolio yn y tywod glân, gwneud tai a chestyll o hono, rhedeg faint fynnent heb esgidiau na hosanau, gwylio cwmniau mawr o bobl mewn oed yn chwareu,—yn chwareu yr union fel y gwnaent hwy eu hunain yn yr ysgol. Ac O ! hyfryted oedd gwylio ereill yn ymdrochi,— plant bychain, crynedig, ofnus, noeth, yn llaw mam neu chwaer neu fodryb, a gwybod eu bod hwy eu hunain yn ddiogel am y dydd.

Eithr yr hyn dynnai fwyaf o sylw'r plant oedd y siop fach oedd yno ar fin y traeth. Cynhwysai hon bob math o drysorau,—digon o rawiau a bwcedi, rhesi hirion o'r doliau harddaf welodd neb erioed, llongau hefyd a chychod o bob math, oriaduron ddigonedd, heb son am y melusion a'r cnau.

Page 29: Teulu Bach Nantoer

TEULU BACH NANTOER. 21

Rywbryd yn y prynhawn, safai Mair ac Eiry, gyda nifer o blant ereill, yn syllu ar ryfeddodau'r siop fach. Eisteddai eu mam gerllaw yn ymddiddan â rhywun, ac yn gwylio cwch bychan draw ar y môr yn yr hwn yr oedd Ieuan ac Alun, gydag amryw ereill, a phwy ddaeth heibio ond y gwr a'r wraig welsid ar y rhos !

" Here is that lovely child again," ebe'r wraig, gan blygu i siarad âg Eiry ac i gael gweld a oedd yn ei chofio. Gwenai Eiry arni fel cynt, a gadawai i'r wraig ei chusanu faint a fynnai. Drwy gyfrwng ei gwr, gofynnodd i'r ddwy fechan beth hoffent gael o'r siop. " Dol " oedd ateb parod y ddwy, a chawsant ar unwaith bob un y ddoli harddaf welodd eu llygaid erioed. Pan ddaeth Gwen Owen ymlaen i ddiolch i'r wraig ddieithr, edrychodd honno arni â dagrau lond ei llygaid, a dywedodd,—

" You have two dear little girls, and I have not one."

Rhy gynnar o lawer y bu raid cefnu ar y fan swynol. Gwelent belydrau machlud haul ar wyneb y lli pan symudent yn araf i fyny'r rhiw oddiwrtho. Ymhell cyn cyrraedd eu cartref, yr oedd pawb wedi distewi, ac Eiry fach, gan ddal y ddol yn dynn yn ei breichiau, yn cysgu yn dawel ar gôl ei mam.

Page 30: Teulu Bach Nantoer

PENNOD VI. " Mi welaf mewn adgof ben ysgol y Llan."

Ceiriog.

UAN y daeth y pum wythnos o wyliau haf i ben, a bu raid i Ieuan ac Alun a Mair

adael y rhos, y gwair, y môr, a'u dirif chwareuon, a mynd bob dydd fel cynt erbyn naw o'r gloch i ysgol y pentref. Eithr yr oedd yn yr ysgol a'i gwaith hefyd lawer o fwynhad a swyn i'r tri. Ar ddiwedd mis Hydref, yr oedd yno waith pwysig iawn i'w wneud, sef symud y plant o un safon i'r llall. Rhoddid gwobrwyon hefyd i'r plant oedd wedi dangos gallu neu ofal neilltuol mewn unrhyw gyfeiriad yn ystod y flwyddyn ; a'r tro hwn, caed addewid gan y Parch. Rhys Puw, rheithor y plwyf, y deuai i gyflwyno'r gwobrwyon a rhoi araith i'r plant.

Y degfed ar hugain o Hydref oedd,—dydd nad anghofiwyd gan y plant a'u mam drwy eu hoes. Dydd cawodog oedd, wedi storm enbyd o wynt a gwlaw. Yr oedd yr afon fach yn llawn hyd yr ymylon, a rhuthrai ei dyfroedd llwyd i lawr fel rhaeadr i ddal yr afon Gwynli lawr yn y dyffryn. 22

B

Page 31: Teulu Bach Nantoer

TEULU BACH NANTOER. 23

Ni welsid y fath genllif yno ers blynyddau. Gwyw a gwael eu gwedd oedd y gweddill bychan o flodau'r ardd, a gorchuddid y clôs o flaen y ty a'r lôn fach gan ddail meirwon gwlyb, daflesid i lawr yn nirmyg y storm, ac oddiar yr ychydig oedd ar ol ar y cangau, disgynnai dafnau gwlaw fel dagrau hiraeth. Dywedai Natur mewn iaith ddidroi-yn-ol fod yr haf drosodd. Tua hwyr y dydd, daeth niwl tew i guddio bro a bryn.

Ond er prudded y tymor, llon iawn oedd calonnau'r plant y bore hwnnw. Cawsant wisgo eu dillad dydd Sul a'u hesgidiau i fynd i'r ysgol, ac yr oedd honno wedi ei glanhau a'i haddurno, fel mai o'r braidd y gellid ei hadnabod. Ar ganol y llawr yr oedd bwrdd wedi ei osod, a llian gorwych drosto, ac ar hwn gwelai y plant swp o flodau heirdd mewn llestr, a nifer fawr o lyfrau deniadol yr olwg. Crynhowyd y disgyblion at ei gilydd yn un dosbarth mawr i aros dyfodiad y gwr dieithr, ac yn fuan, clywyd curiad wrth y drws, ac efe oedd yno.

Dyn tàl, llednais yr olwg, a'i wallt a'i farf fel y gwlan, oedd Mr. Puw. Heb wybod paham, teimlai y twr plant, fach a mawr, ar unwaith wrth eu bodd yn ei gwmni. Wedi ychydig ymddiddan â'r meiste, a chyn dechreu cyflwyno'r gwobrwyon,

Page 32: Teulu Bach Nantoer

24 TEULU BACH NANTOER.

cododd ar ei draed, dywedodd wrth y plant fod ganddo neges atynt, a'i fod am iddynt oll wrando. Ym meddwl mwy nag un o'i wrandawyr ieuainc, arhosodd sylwedd ei eiriau dwys am byth. Tebyg i hyn oeddynt,—

" ANNWYL B L A N T , "Da iawn gennyf gael cyfle i'ch annerch, chwi

blant bychain o Gymry ynghanol y wlad. Ar fyrr, byddwch wedi tyfu yn ddynion ac yn ferched, a chwi ac ereill fel chwi, fydd yn cario achos Cymru yn y blaen. Am hynny, hoffwn ddweyd rhywbeth heddyw a fydd o les i chwi, ac a gofiwch byth pa le bynnag y byddoch.

" Fel y gwyddoch, mae llawer o wahanol genhedloedd yn y byd. Cymry ydym ni, Saeson sydd yn ein hymyl yn Lloegr, Ffrancwyr yn Ffrainc, Ellmynwyr yn yr Almaen, Eidalwyr yn yr Eidal, ac felly yn y blaen. Mae'r cenhedloedd hyn i gyd yn wahanol i'w gilydd,—un yn dda yn y peth hwn, y llall yn rhagori yn y peth arall, ac nid yw yr un o honom yn berffaith. Ond yr wyf am i chwi wybod mor dda yw gen i mai Cymro ydwyf. Mae'n well gen i am Gymru nag am un wlad arall dan haul. Gwell fyddai gennyf fod yn Gymro tlawd nag yn ddyn o fri o genedl arall. Os ymffrostio mewn dim, ymffrostio wnaf am fy

Page 33: Teulu Bach Nantoer

TEULU BACH NANTOER. 25

mod yn Gymro, ac yr wyf am i chwithau ddysgu bod yn falch am yr un peth.

" Gymaint yn well yw arnoch nag ar blant bach o Saeson ! Dyma chwi yn cael eich dwyn i fyny mewn dwy iaith. Mae hynny bron fel pe baech yn byw bywyd dwy genedl. Mae yn eangu eich syniadau, ac y mae y ffaith eich bod yn gorfod ysgrifennu eich meddyliau mewn iaith ddieithr yn gwneud eich sylw yn graffach, eich meddwl yn fwy miniog, ac yn ei gwneud yn rhwyddach i chwi ddysgu pethau ereill ar ol hyn. Os bydd arnoch eisieu dysgu iaith arall eto rywbryd, gellwch wneud hynny yn llawer cynt a gwell am eich bod eisoes wedi dysgu dwy. Cofiwch gadw'r ddwy ! Wrth ddysgu darllen ac ysgrifennu Saesneg, peidiwch anghofio darllen ac ysgrifennu Cymraeg. I'r neb a fynn, mae amser at y ddwy, ac y mae'r hwn a fedr ddwy iaith yn llawer mwy o werth na'r hwn na fedr ond un. Mae eich llyfrau ysgol yn son llawer mwy wrthych am leoedd a phethau, arwyr a llenyddiaeth y Saeson, nag am yr eiddom ni. Cam wedi ei wneud â Chymru yw hynny, pan oedd ar lawr yn flin ac yn cysgu. Ond mae'r adeg honno yn mynd heibio. Mae Cymru heddyw ar ei thraed, wedi deffro, ac fe geir llyfrau gwahanol i'w hysgolion cyn hir. Ceir rhywun

Page 34: Teulu Bach Nantoer

26 TEULU BACH NANTOER.

heblaw Saeson i'w hysgrifennu, a cheir mwy o son am Gymru a'i phlant yn y rhai hynny. Chwi sydd ar adael yr ysgol, chwiliwch am lyfrau eroill, a mynnwch ddysgu drosoch eich hunain. Cofiwch ddod yn gyfarwydd â llenyddiaeth eich gwlad. Astudiwch lenyddiaeth Saesneg, ond astudiwch un eich gwlad eich hun yng nghyntaf. Mynnwch wybod rhywbeth am Dafydd ap Gwilym, Elis Wyn, Goronwy Owen, Dewi Wyn, Eben Fardd, Islwyn, Ceiriog, a Daniel Owen.

" Eto, dysgwch hanes dynion mawr Cymru. Mynnwch wybod hanes eich gwlad. Mae Cymru— O ydyw—mae Cymru wedi magu arwyr, a chaniataed Duw iddi fagu rhai eto,—mae eu heisieu heddyw. Cofiwch wrth ddarllen am Nelson a Wellington a Napoleon fod dynion ddewred a dewrach na'r rhai hyn wedi byw yng Nghymru. Darllenwch hanes Llywelyn, ac Owen Glyndwr a John Penry. Mae llawn cymaint a mwy o ramant yn hanes y rhai hyn, a gwna fwy o les i chwi am mai er mwyn Cymru,—er eich mwyn chwi,—y buont ddewr, ac am mai yr hyn a wnaethant hwy sydd eisieu i chwithau wneud. Wn i faint sydd yma fynnai fyw i wneud rhywbeth dros ei wlad ? Cofiwch hyn, ynte,—os mynnwch ddod yn fawr mewn unrhyw gyfeiriad, fel Cymry

Page 35: Teulu Bach Nantoer

TEULU BACH NANTOER. 27

y gellwch ddod yn fawr. Ddaw'r un Cymro byth yn fawr wrth geisio troi'n Sais. Ddaeth neb erioed yn fawr a wadodd ei wlad a'i iaith. Cofiwch Henry Richard, Ieuan Gwynedd, Tom Elis ! Sefyll i fyny dros Gymru fel Cymry wnaethant hwy. Dyna paham y daeth y byd i wybod am danynt ac i wrando arnynt.

" Pan dyfoch i fyny a mynd, rai o honoch, i fyw i'r trefi a'r lleoedd poblog, chwi gewch weld llawer o Gymry yn ceisio byw fel Saeson, a siarad fol Saeson. Gwlad fechan yw Cymru, a phan ddaeth y Sais yma, a'i gyfoeth a'i balasau, ei ddysg a'i ddeddfau, meddyliodd rhai pobl anwybodus oedd yn byw yng Nghymru,—ac yr oedd yma lawer yn anwybodus y pryd hynny,—fod yn rhaid troi'n Saeson os am fod yn barchus yn y byd ! Mae pethau wedi newid erbyn hyn. Mae Cymru heddyw ymhell o flaen Lloegr mewn addysg, ond y mae rhai pobl anwybodus eto ar ol, y rhai a'i cyfrifant yn anrhydedd i fethu siarad ia ith eu mam ! A glywsoch am beth mor ffol erioed ? Naddo, mi wn. Dysgwch gashau yr hen bechod ffiaidd yma pan ei gwelwch. Tosturiwch dros y rhai sydd yn euog o hono,—rhai anw ybodus heb wybod eu bod felly; ac O, blant bychain, gwyliwch rhag syrthio i'r un camwedd eich hunain. O achos

Page 36: Teulu Bach Nantoer

28 TEULU BACH NANTOER.

y pechod hwn y bu ein gwlad gyhyd ar lawr ; a chwi, blant yr ardaloedd gwledig, sydd i helpu i'w chodi yn ei hol. Mae gan Gymru ei neges i'r byd. Fe ddowch i ddeall mwy am hyn fel y tyfwch, ond ni all Cymru wneud ei gwaith oni bydd ei phlant yn ffyddlon iddi. Beth bynnag yw ei ffaeleddau, mac cenedl y Cymry wedi ei chodi yn nes i'r nef na'r un genedl arall. Mewn cariad at addysg, at gartref, at bethau goreu bywyd, hi sydd ar y blaen. Dysgwch ymfalchio ynddi ! Darllenwch hanes ei dynion goreu. Bydded eich sel fel eu sel hwy, a pha un a fyddoch ai mawr ai bach, ai enwog ai anenwog, byddwch fyw yn addurn i'ch gwlad, a bydd y Duw fu mor amlwg gyda'ch tadau, yn Dduw i chwithau."

Unodd y plant gyda'r ysgolfeistr a'r ymwelwyr i guro eu dwylaw fel arwydd o gymeradwyaeth i'r anerchiad cynnes a gwladgar a glywsent.

Wedi rhannu'r gwobrwyon, hysbysodd y meistr na fyddai ysgol yn y prynhawn, ac aeth y plant allan gan fanllefu fel plant ym mhobman arall.

Page 37: Teulu Bach Nantoer

PENNOD VII.

" Mae cystudd rhy brudd i'm bron—'r byd f' wyneb Rhed afonydd heilltion ;

Collais Elin liw h inon, Fy ngeneth oleubleth lon."

Goronwy Owen.

R brynhawn dydd y gwobrwyo, ga n nad oedd ysgol, cafodd y tri phlentyn waith

wrth eu bodd. Cawsant fynd i Fronifor i helpu dyrnu tas wenith gyntaf y tymor. Eiry fach yn unig, felly, oedd adref gyda'u mam.

Lle llawn o ryfeddodau ar amser o'r fath oedd yr ysgubor eang honno. Ar un ochr, yr oedd pentrwr anferth o ysgubau, gludesid i fewn o'r das y bore hwnnw. Gwaith un o'r gweision a Ieuan oedd datod y rhai hynny a'u taflu i ben y peiriant uchel oedd yn rhuo, yn oernadu, ac yn crynu ar y llawr yn ymyl. Mewn math o bwlpud ar ben hwnnw, yr oe dd Daniel, y gwas mawr. Ei waith ef oedd agor yr ysgubau a'u taflu i fewn i enau agored y peiriant. O'r tu fewn i hwnnw, rywfodd, gwahenid yr yd a'r tywys, a lluchid y gwellt allan yn chwyrn un ffordd a'r grawn gwenith ffordd

29

A

Page 38: Teulu Bach Nantoer

30 TEULU BACH NANTOER.

arall. Sathru'r gwellt oedd gwaith Alun a Mair, a chaent redeg a chwareu faint fynnent ynddo. Cyn diwedd y gwaith, yr oedd y pentwr ysgubau ar y naill ochr, ar lawr yn isel, a'r gwellt a hwythau ar yr ochr arall gyfuwch â'r tô, a byddai raid iddynt gael help un o'r gweision i ddisgyn o'u mangre uchel.

Tua phump o'r gloch, tra yr oedd y plant a'r gweithwyr oll ar eu ffordd i'r ty i gael bwyd wedi gorffen dyrnu, clywent waeddi uchel drwy'r niwl o gyfeiriad Nantoer. Llais Gwen Owen oedd, ac yr oedd swn wylo ynddo. Rhedodd pawb am y cyntaf at y bwthyn, a chawsant y fam yn rhedeg yn ol ac ymlaen gylch y fan fel pe bae wedi gwallgofi.

" O," ebe hi, " mae Eiry fach ar goll. 'Rwy'n methu ei gweld yn unman,''

O'r braidd y medrai, yn ei hing, adrodd yr hanes. Yr oedd Eiry wedi cysgu ar ei chol, fel y gwnae ambell brynhawn. Rhoisai hithau yr un fach yn ei dillad fel ag yr oedd i orwedd ar y gwely tra y buasai hi yn glanhau'r beudy, rhoi'r fuwch i fewn, a rhoi bwyd iddi. Ni fu allan hanner awr i gyd. Pan ddaeth i fewn, nid oedd Eiry yn y gwely. Nid oedd yno ond y fan lle bu. Nid oedd yn unman yn y ty nac allan. Galwodd arni

Page 39: Teulu Bach Nantoer
Page 40: Teulu Bach Nantoer

TEULU BACH NANTOER. 31

drachefn a thrachefn, ond nid atebodd neb. Rhedodd i'r ardd a thrwy y lôn fach i'r cae, yn ol drwy'r beudy, ac eilwaith i bob rhan o'r ty. Ond nid oedd Eiry yno. Y niwl llaith oedd o'i chylch ym mhobman, a rhu yr afon fach oedd yr unig sain glywai. Bryd hwnnw y gwaeddodd yn ei gofid, ac y clywyd hi ym Mronifor,—bedwar lled cae oddiyno.

Rhedodd pawb i chwilio,—pawb yn brudd eu gwedd, a Mair a'i mam yn wylo yn hidl. Ble gallasai Eiry fach fod ? Ai tybed iddi ddihuno a chodi o'r gwely i edrych am ei mam ? Ond nid oedd dim i ddangos pa ffordd yr aeth. A oedd rhywrai wedi mynd i'r ty a'i chipio i ffwrdd gyda hwy ? Na, amhosibl, neu buasai Gwen Owen wedi eu clywed yn pasio'r beudy, oherwydd os deuai neb, ffordd yno y deuai. Nid oedd neb byth yn dod o gyfeiriad y rhos. Gan gymaint o ddail oedd ar y llawr, ni welid ôl troed yn unman. Beiai y fam ei hun am adael y drws heb ei gloi, ond gwyddai pawb na wnaeth ond yr hyn wnae pawb bob dydd. Nid oedd dynion drwg i'w cael ffordd honno, ac ni chloai neb ei ddrws os na fyddai yn gadael cartref am oriau ac yn mynd i bellter. Ac yr oedd Eiry wedi bod ddegau o weithiau ei hun yn y ty fel ar y prynhawn hwnnw.

Page 41: Teulu Bach Nantoer

32 TEULU BACH NANTOER.

Wedi chwilio yn hir, daeth Alun o hyd i degan bychan o eiddo Eiry. Yr oedd ar ganol y cae bach, a chofiodd y fam gyda braw fod y tegan hwnnw yn llaw yr un fach pan roed hi yn y gwely. Rhaid, ynte, ei bod wedi agor clwyd y cae,— peth na wnaethai erioed o'r blaen,—ac wedi cerdded i'r pen draw a syrthio dros y geulan i'r afon fach redai mor chwyrn y diwrnod hwnnw. Rhedodd pawb am y cyntaf drwy y cae i fin yr afon, a buan gwelsant fan lle yr oedd y ddaear wodi llithro yn ddiweddar. Ol traed Eiry fach, yn ddiau, oedd ; ac O ! rhaid ei bod hi, erbyn hyn, yn gorff marw rywle yn nyfroedd llwyd yr afon, ac feallai, wedi ei chario ymhell gan nerth y llif. Anodd oedd ganddynt gredu i un mor fechan fedru agor y glwyd, ond gwna rhai o'i hoed hi bethau rhyfedd weithiau, ac yr oedd y tegan bach yno ar y cae yn dyst didroi-yn-ol.

Nid oedd mwyach ond y gobaith y ceid ei chorff. Bu cymdogion drwy y nos yn chwilio. Dilynwyd yr afon facb hyd y fan lle y rhedai i'r Gwynli. Dilynwyd honno eilwaith hyd ymhell. Aeth son am y peth drwy y wlad. Buwyd ddyddiau lawer yn edrych am dani, nes i'r dyfroedd gilio drachefn a dod yn ddigon clir fel y gellid gweld y gwaelod. Ond ni welodd neb Eiry fach. Ni chafwyd ei

Page 42: Teulu Bach Nantoer

TEULU BACH NANTOER. 33

chorff yn ol i wylo drosto. Ni chaed plannu blodau ar ei bedd. Aeth hi, y tlysaf a'r llonnaf ohonynt, yn sydyn o'u gwydd na wyddai neb i ba le. Ac yn hir, hir ar ol hynny, teulu trist iawn fu teulu bach Nantoer.

Page 43: Teulu Bach Nantoer

PENNOD VIII.

" Fy arwyddair a fydd ' Ymlaon ! ' fy nerth a fydd Duw ; fy nôd ei ogoniant Ef, ac yna bydd fy ngwobr yn fawr iawn."

Ieuan Gwynedd.

R mor wahanol oedd aelwyd y bwthyn bach wedi colli Eiry, aeth y byd yn ei flaen

fel cynt. Daeth un dydd ar ol y llall, nes i'r peth oedd mor newydd a chyffrous gilio ymhell i'r gorffennol. Mynych, mynych, er hynny, gyda brig yr hwyr, yr ae Gwen Owen allan i'r cae bach, gan gerdded yn araf gyda glan yr afon a syllu i lawr i'w dyfroedd fel pe o hyd yn disgwyl gair o hanes ei merch fach. Dilynai Mair hi bob amser, gan gydio yn ei llaw a mynd gyda hi heb holi i ba le yr ae, na phaham. Ond sisial ganu'n felus wnae'r afonig, yr un fath a honno y sonia Ceiriog am dani, fel pe heb wybod dim am ofid byd. Ymhen tua blwyddyn, daeth yn amser i Ieuan adael yr ysgol, a pha grefft i roi iddo oedd y pwnc mawr lanwai feddwl ei fam. Byd llyfrau oedd byd Ieuan. Eisieu dysgu a dysgu oedd arno o hyd. Eithr cyn cael addysg dda, rhaid cael arian o rywle. 34

E

Page 44: Teulu Bach Nantoer

TEULU BACH NANTOER. 35

Nid oedd arian gan Ieua n. Yr oedd yr amser wedi dod iddo ennill ei fwyd ei hun, ac i fachgen tlawd, heb dad, nid oedd ond un drws yn agored yn y wlad, sef bod yn was bach mewn fferm. Felly y bu yn hanes Ieuan. Y calangaeaf hwnnw, cyn ei fod lawn pedair ar ddeg oed, cyflogwyd ef ym Mronifor am bum punt yn y flwyddyn. Blin, blin, oedd gan ei fam ei weld yn gadael ei gartref am y tro cyntaf, ond yr oedd Bronifor yn ymyl. Cae ei weld bron bob dydd, allan ar y caeau neu rywle arall. Hefyd, pan y byddai Alun a Mair ar eu ffordd adref o'r ysgol, aent yn fynych i ben un o'r cloddiau, a chwibanai Alun rhwng ei fysedd nes tynnu sylw Ieuan. Gwnae yntau yr un peth yn ol, ac ysgydwai Mair ei llaw arno. Yna, wedi yr arwydd fechan honno, ae y ddau adref, ac ae Ieuan ymlaen gyda'i waith.

Yn y gaeaf, prif waith y gwas bach ar y fferm fyddai porthi'r anifeiliaid. Byddai raid iddo helpu gyda thorri'r gwellt, torri'r erfin, cymysgu y rhai hyn a'u cario i'r anifeiliaid, &c. Deuai'r dymu a'r nithio befyd yn eu tro. Yn y gwanwyn, cae weithiau helpu trin y tir. Efe fyddai ar ol yr oged. Gwaith wrth ei fodd fyddai hwnnw, er y gwnae iddo flino yn enbyd. Yn yr haf a'r hydref, deuai y cynhaeaf gwair a'r cynhaeaf yd a digon o waith ac o bleser iddo.

Page 45: Teulu Bach Nantoer

36 TEULU BACH NANTOER,

Ond yng nghist fechan Ieuan, yn ei ystafell wely, yn llofft yr ystabl, ceid rhywbeth heblaw dillad. Yr oedd yno stor fechan o lyfrau, rhai o'i lyfrau ysgol, a rhai gawsai yn fenthyg gan hwn ac arall ; a mynych, tra byddai Daniel, y gwas mawr, yn cysgu yn esmwyth ar y gwely, a'r ceffylau un ar ol y llall yn gorffen cnoi, yn gorwedd ac yn distewi, byddai Ieuan yno ar bwys ci gist, ar yr hon yr oedd cannwyll mewn llusern, yn prysur ddarllen ymhell i'r nos.

Page 46: Teulu Bach Nantoer

PENNOD IX.

" Ymafael mewn addysg, ac na ollwng hi ; cadw hi, canys dy iywyd di yw hi." Solomon.

N haf, yr ail i Ieuan ym Mronifor, daeth gwr dieithr,—brawd y ffermwraig,—i aros

yno. Cyfreithiwr oedd Mr. Bowen yng Nghaer- dydd, ac yr oedd son am dano fel un galluog yn ei waith, ac fel dyn caredig a da.

Yr oedd y cynhaeaf yd wedi dechreu. Bron bob dydd ym Mronifor gwelid rhes o ddynion yn torri'r yd â'u pladuriau, a rhes o fenywod a'r gwas bach yn rhwymo yr ysgubau ar eu hol.

Un diwrnod, ganol dydd, pan oedd y gweithwyr i gyd yn mwynhau eu bawr o seibiant wedi bwyta eu cinio syml o uwd a llaeth, daeth Mr. Bowen ar ei dro drwy y cae. Gorweddai rhai o'r dynion ar eu hyd o dan gysgod coeden ; ysmociai ereill eu pibellaid yn hamddenol ; yr oedd y twr gwragedd yn mwynhau ymgom felus ; ac ar wahan, yn eistedd ar ysgub yn ymyl y clawdd, yr oedd y gwas bach a'i ben yn dynn mewn llyfr. Cerddodd Mr. Bowen ymlaen ato.

37

U

Page 47: Teulu Bach Nantoer

28 TEULU BACH NANTOER.

" Darllen wnewch chwi, aie, yn lle gorffwys ? " sbai yn serchog. Cododd Ieuan ar ei draed gan wrido, ac edrych yn siriol i lygaid y gwr dieithr.

" Beth yw y llyfr ydych yn gael mor ddiddorol ? " ebai, gan gymeryd y llyfr o law Ieuan ac edrych ar y teitl, a syllodd Mr. Bowen yn graff iawn ar y gwas bach o'i weld yno wrtho'i hun, ynghanol ei ludded, yn yfed mwynhad o hanes bywyd Mazzini,—llyfr Saesneg gawsai yn fenthyg gan rywun.

" A ydych yn hoff o ddarllen ? " gofynnai Mr. Bowen.

" O ydwyf, syr," ebe Ieuan, " 'rwy'n hoffi darllen hanes dynion mawr."

" A hoffech fod yn yr ysgol o hyd ? " Tynnu ochenaid wnaetb Ieuan heb yn wybod

iddo'i hun, a dywedodd, gau edrych draw,—

" Rhaid i mi ddechreu ennill 'nawr, gan mai fi yw'r hynaf, a ninnau'n dlawd."

" A ydych yn hoffi gwaith fferm ? " ebe Mr. Bowen eto.

Gwenodd Ieuan, a dywedodd,—

" Mae mam yn dweyd, syr, os gwnaf fy ngwaith yma yn iawn, y byddaf yn sicr o gael gwell gwaith rywbryd."

Page 48: Teulu Bach Nantoer

TEULU BACH NANTOER. 39

" Pa waith hoffech gael ? " " Bod yn Aelod Seneddol dros Gymru," ebe

Ieuan yn ddibetrus, a methai ddeall pam oedd Mr. Bowen yn edrych arno am gyhyd o amser, ac yn gwenu.

Wedi holi ymhellach ynghylch ei fam a'r teulu gartref, ac am yr ysgol y buasai ynddi, a pha wersi hoffai fwyaf, gadawodd Mr. Bowen ef, gan fynd heibio i'r lleill ac ymgomio â hwy, nes daeth yn amser ail-gydio yn y bladur a'r rhaca.*

Yn ystod y dyddiau dilynol, deuai Mr. Bowen yn fynych i ymddiddan â'r gwas bach, a daeth Ieuan yn fuan i feddwl nad oedd y fath ddyn yn y byd a Mr. Bowen.

Un diwrnod gwlyb tua diwedd Awst, yr oedd y ddau was yn yr ysgubor yn gwneud rhaffau gwellt yn barod erbyn toi yr helmau llafur. Troi oedd gwaith Ieuan. Yr oedd offeryn bychan ganddo yn ei law a bach wrtho. Rhoddai y bach am ychydig wellt o law Daniel, a thra y gofalai hwnnw am ddefnyddiau'r rhaff, troai Ieuan yn ddibaid, gan gerdded wysg ei gefn nes cyrraedd pen pellaf yr ysgubor. Pan oedd ef wrthi felly yn brysur yn troi ac yn meddwl, daeth Ann y forwyn fach i'r _____________________________________________

* Cribynau yn y Gogledd.

D

Page 49: Teulu Bach Nantoer

40 TEULU BACH NANTOE R.

ysgubor, a chan fynd at Ieuan, a chymeryd y trowr o'i law, dywedodd,—

" 'Rwyf fi yn dod i droi, Ieuan. Mae ar Mr. Bowen eisieu siarad â chwi am funud yn y ty."

" Ieuan," ebe Mr. Bowen, " yr wyf yn mynd i ofyn cwestiwn i chwi, ac yr wyf am i chwi feddwl digon cyn ei ateb. Yn lle bod yn was bach yma, a hoffech ddod yn was bach i mi yng Nghaerdydd ? Mae eisieu bachgen o'ch oed chwi arnaf yn fy swyddfa. Carwn roi cyf le i chwi i ddysgu ac i ddod ymlaen yn y byd. A hoffech ddod ? "

Daeth y dagrau i lygaid Ieuan, ond wedi munud o ddistawrwydd, edrychodd i wyneb Mr. Bowen, ac atebodd,—

" Buasai yn well gennyf ddod yn was i chwi, syr, na mynd i unlle arall yn y byd, a dod a wnawn ar unwaith oni bae am mam. Nid yw hi wedi bod yn iach iawn wedi colli Eiry, ac yr wyf am ennill arian, fel na raid iddi hi weithio llawer. Byddai yn dda gennyf pe bawn yn gallu dod, ond nid wyf am adael mam, ac os gwelwch yn dda, syr, peidiwch dweyd wrthi eich bod wedi gofyn i mi."

" Da gennyf weld eich gofal am eich mam, Ieuan," ebe Mr. Bowen. " Yr wyf wedi bod yn

Page 50: Teulu Bach Nantoer
Page 51: Teulu Bach Nantoer

TEULU BACH NANTOER. 41

siarad â hi ac hefyd â Mr. Howel, eich ysgolfeistr. Y mae eich mam yn falch o'r cyfle i chwi gael dod, a gofalaf fi y cewch ennill arian i'w helpu eto."

" O, os gallaf wnoud hynny, ac os yw hi yn foddlon i mi ei gadael, mi ddof yn llawen," ebe Ieuan.

" Bydd hiraeth ar eich mam, wrth gwrs, ond y mae pob rhieni yn gorfod dioddef gweld eu plant, drwy un ffordd neu'r llall, yn eu gadael," ebe Mr. Bowen. " Bydd hyn yn y diwedd yn llawer mwy o les i'ch mam."

" 'Rwy'n ddiolchgar iawn i chwi, syr," ebe Ieuan, a'i lais ar dorri.

" Ni fuaswn yn gwneud hyn â chwi, Ieuan, oni bae fod pawb yn rhoi gair da i chwi. Dywedai Mr. Howel eich bod yn ffyddlon a diwyd gyda'ch gwersi yn yr ysgol, eich bod bob amser yn dweyd y gwir, a'ch bod yn un y gellid dibynnu arnoch, ac hefyd, eich bod yn garedig a thyner wrth blant ereill llai na chwi. Dywed fy mrawd yng nghyfraith yma eich bod yn ofalus gyda'ch gwaith, ac yn onest gyda 'ch amser, a dywed eich mam na fu mab gwell gan neb erioed."

" Mam sydd wedi fy nysgu, syr," ebe Ieuan yn ddistaw.

Page 52: Teulu Bach Nantoer

42 TEULU BACH NANTOER.

" Ie, da i chwi fod mam mor dda gennych, ac yn awr, yr wyf am i chwi gofio mai y pethau hyn ddysgodd eich mam i chwi,—bod yn onest, yn eirwir, yn ffyddlon ac yn garedig,—yw y pethau sydd wedi eich cychwyn ar ffordd llwyddiant ; a'r rhai hyn, os cedwch hwynt, sydd yn mynd i wneud dyn o honoch. Mae pethau fel hyn yn sicr o dalu i bawb, hyd yn oed yn y byd yma, hwyr neu hwyrach. Os gwnewch eich goreu gyda mi, gwnaf finnau fy ngoreu i chwi. Cewch eich cyfle i ddod ymlaen, a phwy wyr ? feallai y gwelir chwi yn Aelod Seneddol ryw ddydd. Mae eisieu dynion da ar Gymru, ac ar y byd. Ieuan, 'roedd gen i fachgen bach tua'r un oed a chwi. Mae hwnnw yn y bedd erbyn hyn, a'i fam wedi ei ddilyn. 'Rwyf am i chwi dreio llanw lle hwnnw yn fy mywyd."

A phan ddistawodd Mr. Bowen yn sydyn, rhoddodd Ieuan ei law iddo, a dywedodd, gan edrych i'w lygaid yn ol ei arfer,—

" Diolch yn fawr i chwi, syr. Nid anghofiaf byth eich caredigrwydd, ac mi wnaf fy ngoreu i'ch talu yn ol."

Ieuan distaw iawn fu yn troi rhaffau am y gweddill o'r dydd hwnnw.

Page 53: Teulu Bach Nantoer

PENNOD X.

"Dychwelodd Duw i'w chwalu." Eben Fardd.

MHEN tua deufis ar ol hyn, wedi calangaeaf, diwedd blwyddyn y fferm, gadawodd Ieuan

fwthyn gwyn ei febyd ; gadawodd dawelwch gwlad am firi tref, a gwaith anorffen fferm am waith y swyddfa. Bore prudd iawn i bawb o'r teulu bach oedd bore'r gwahanu hwnnw. Ychydig iawn oedd ganddynt i ddweyd wrth ei gilydd. Yr oedd cynghorion Gwen Owen wedi eu rhoi ymhell cyn y bore hwnnw,—caent eu gwau i fewn yn raddol i gymeriadau ei phlant, nes eu troi yn egwyddorion y gellid dibynnu arnynt. Ynghanol ei hiraeth, llawenhai y fam fod y cyfle i ddringo wedi ei roi i'w bachgen,—cyfle i ddod rywbryd i fod yn lles yn y byd. Efe ei hun mwy oedd i benderfynu pa ddefnydd wnae o'r cyfle.

Yr oedd Natur ar y bore hwnnw fel yn cydymdeimlo â theulu'r bwthyn bach. Bore tawel, distaw, oedd, a rhywbeth rhwng niwl a gwlaw mân,—fel dagrau dwys cyfaill,—yn gwlychu'r 43

Y

Page 54: Teulu Bach Nantoer

44 TEULU BACH NANTOER,

ddaear heb wneud un swn. Trwy ganol hwn yr aeth Ieuan yn y fen fawr i orsaf Llanerw, gan adael ei fam ac Alun a Mair yn brudd a hiraethus ar ben y lôn fach yn ysgwyd eu dwylaw arno nes iddo fynd o'r golwg yn y drofa. Yn ei lythyr cyntaf i'w fam, ysgrifennodd Ieuan ei deimladau mewn pennill. Mae Cymry'r mynydd-dir i gyd yn feirdd, a chyda dagrau daw yn fynych gerdd. Wele bennill Ieuan,—

" Niwl orchuddiai fro a bryniau Ar brudd fore'r canu'n iach,

Wylai'r awel ddagrau ffarwel Drwy y tawel bentref bach.

Wylai'r grug.—y grug diflodau, Wylai'r eithin ddagrau'n lli,

Wylai'r coedydd, wylai'r caeau, Ac O l wylai'm calon i."

Ond nid oedd ymadawiad Ieuan yn orffen i'r gwahanu. Cafodd Alun fynd yn was bach i Fronifor ar ol Ieuan ; ond wrth gyrchu'r defaid a'r gwartheg, ac wrth ddilyn yr ôg i lyfnu'r tir yn y gwanwyn, crwydro at y môr wnae llygaid Alun o hyd. Ar y môr yr oedd ei ga lon, a blino ei fam am ganiatad i ddilyn ei elfen wnae o hyd.

" Wedi colli Eiry a cholli Ieuan, a raid i mi dy golli di eto, Alun bach ? " oedd cri y fam.

Page 55: Teulu Bach Nantoer

TEULU BACH NANTOER. 45

" O, mam fach," meddai Alun, " gadewch i mi fynd. Mi ddof a phob math o bethau o'r gwledydd pell i chwi i'ch gwneud yn hapus, a phan fyddaf yn gadben, cewch chwi a Mair ddod gyda mi am fordaith."

Gwenu arno'n fwyn wnae ei fam, ac o'r diwedd, cafodd Alun ei ddymuniad. Cafodd le yn llong y Cadben Prys, ac ym mis Tachwedd, wedi gorffen ei flwyddyn ym Mronifor, trodd yntau allan i'r byd, gan hwylio o Lundain yn yr agerlong " Glory " ar ei fordaith gyntaf i Fôr y De.

Page 56: Teulu Bach Nantoer

PENNOD XI.

" W e d i t a l m o amse r . "

ELLACH, nid oedd ar ol yn y bwthyn bach ar fin y rhos ond Mair a'i mam. Felly y

digwydd yn hanes pob teulu at y ddaear. Megir twr o blant ar yr un aelwyd ; chwareuant gyda'i gilydd ; cânt yr un pethau i'w diddori, yr un rhieni i dyner wylio drostynt ; ac ymhen amser ânt,—un yma a'r llall draw, fel adar dros y nyth,— bob un i chwilio am ei le ei hun yn y byd. Mynych, wedi'r gwahaniad cyntaf, nid oes obaith gweld y teulu yn gyfan ar yr hen aelwyd drachefn. O ddydd i ddydd, o wythnos i wythnos, o fis i fis, aeth deng mlynedd heibio. Yn ystod yr amser hwnnw, daeth aml i gyfnewidiad dros y byd a thros deulu bychan Nantoer. Nid plant ar y plwyf mo honynt bellach. Enillent i gyd eu bywioliaeth mewn ffordd anrhydeddus. Erbyn hyn, yr oedd yr addysg dda gawsent gan eu mam yn dwyn ffrwyth. Esgyn yn uwch bob dydd wnae y tri ar risiau llwyddiant.

Trwy gymorth ei feistr caredig, a'i ymdrechion diflino ei hun, yr oedd Ieuan yn prysur ddod i'r 46

B

Page 57: Teulu Bach Nantoer

TEULU BACH NANTOER. 47

amlwg. Deuai son am dano'n fynych gyda'r awel i fro dawel ei febyd. Nid yn unig ar gyfrif ei waith fel cyfreithiwr, ond cymerai ef ddiddordeb mawr mewn pob pwnc o bwys, yn enwedig pob pwno ynglyn â'i wlad. Clywid ef yn fynych yn siarad yn gyhoeddus, a phroffwydai pobl ddyfodol gwych iddo.

Er hoffed oedd Ieuan yng ngolwg ei fam, nid lla i hoff ganddi Alun. Yn ei le ei hun, dringo o hyd wnae yntau hefyd. Aethai drwy un arholiad ar ol y llall yn llwyddiannus, ac yr oedd ei nôd, bellach, yn y golwg, sef bod yn gadben. Hyfryd iawn oedd yr olwg arno yn ei ddillad morwrol, a lliw'r haul ar ei wyneb, a glesni a thynerwch y môr yn ei lygaid.

Nid yn aml y cae Alun ddod adref ; ae deunaw mis heibio, weithiau, heb ei weld. Bob tro y deuai, gwnae Ieuan ei ffordd yn thydd i ddod hefyd.

Yr oedd Mair yn awr yn ferch ieuanc brydferth ugain oed. Wedi gorffen ei hysgol yn Rhydifor, cawsai aros yno fel athrawes. Yr oedd felly yn abl cael addysg ei hun, ennill ei bywioliaeth, ac hefyd fod adref yn gwmni i'w mam. O dan ei gofal hi, daeth Nantoer yn lle mwy swynol a thlws nag erioed. Yr oedd pob man o'i fewn ac o'i gylch

Page 58: Teulu Bach Nantoer

48 TEULU BACH NANTOER.

mor lân, a'r ardd fel yn gartref rhosynnau. Pan ddeuai y bechgyn adref ar eu tro,—Alun o'r môr ac Ieuan o'r ddinas fawr,—nid rhan fechan o'u mwynhad oedd cael cwmni eu chwaer, a'i gwylio mor hardd a lluniaidd yn symud gylch y ty, ac yn gweini mor siriol arnynt hwy ac ar eu mam. Ac i Mair, nefoedd ei bywyd oedd yr ymweliadau hyn, oherwydd ni flinai ei brodyr ddod a phob math o bethau heirdd iddi i'w gwisgo, a pha ferch nad yw yn hoff o bethau felly ? Ae y tri yn fynych gyda'i gilydd fraich ym mraich dros y rhos, hyd yr hen lwybrau, a mawr oedd eu hyfrydwch. Ond pan ddeuent at y fan lle y bwrlymai yr afon fach dros y llethr i lawr i'r cae, distawent yn sydyn, a chofient am y llif flwyddi maith yn ol, ac am Eiry, eu chwaer fechan, hoff, a'r llygaid glas, byw, a'r gwallt modrwyog, melyn, a gollasid mewn ffordd mor ryfedd, ac na welsid mwy.

Un nos Wener, tua diwedd mis Hydref, cerddai Mair yn hamddenol drwy y lôn fach ar ei ffordd adref o'r ysgol, pan welai ei mam yn dod i'w chyfarfod gan ddal llythyr yn ei llaw. Rhedodd Mair ati.

" Yr oeddwn yn dy ddisgwyl, Mair fach," ebe'r fam. " Dyma lythyr oddiwrth Alun o Sunderland. Bydd yma ddydd Mawrth nesaf."

Page 59: Teulu Bach Nantoer

TEULU BACH NANTOER. 49

Cymerodd Mair y llythyr a darllenodd ef yn awchus, ac nid oedd geiriau fedrai ddisgrifio ei llawenydd. Neidiai a rhedai o gwmpas ei mam fel y gwnae pan yn blentyn.

" Hwre ! Alun yn dod eto o'r môr ! Beth fydd ganddo i mi, ys gwn i ? Rhaid anfon at Ieuan yfory. O, mam, mor hapus wyf ! " meddai, gan gydio yn dynn ym mraich ei mam a phwyso ei hwyneb arni. Yr oedd ei mam mor hapus a hithau, er na ddanghosai hynny mewn dull mor gyffrous.

Drannoeth, pan oedd Mair yn brysur yn gwyn- galchu muriau'r bwthyn bach, daeth y llythyr- gludydd drachefn i Nantoer. I " Mrs. Owen " yr oedd y llythyr, o rywle yn Lerpwl, ac oddiwrth rywun nas adwaenai hi. Yn Saesneg yr ysgrifenasid ef, a byrr oedd ei gynhwysiad. Darllenodd a chyfieithodd Mair ef i'w mam.

" If this letter reaches the hand of Mrs. Owen, " who, with her four children, once lived at " Nantoer, Rhydifor, would she kindly com- " municate with me ? I have something of " importance to disclose to her."

LLEWELYN MORGAN. 7, ———— St.,

Liverpool, 25/10/1897.

Page 60: Teulu Bach Nantoer

50 TEULU BACH NANTOER.

" O, mam," ebe Mair, " 'rwy'n siwr fod rhywun wedi marw a gadael arian i chwi. A oes rhywun cyfoethog yn perthyn i chwi yn rhywle ? "

" Nac oes, yn wir, Mair fach," ebe y fam. " Nid rhywbeth felly sydd yn y llythyr, mi wn. Gad iddo nes daw Ieuan, i gael gweld beth ddywed ef." Methu dyfalu wnae y ddwy pwy a'i danfonasai, ac i ba beth, a beth allai y " something of importance " fod, ac ebe Mair,—

" Gadewch i mi ei ateb heddyw, mam. Daw y llythyr a'r peth pwysig wedyn tra fyddo'r bechgyn yma." Cytunodd y fam, ac atebwyd y llythyr y diwrnod hwnnw.

Page 61: Teulu Bach Nantoer

PENNOD XII.

" Wedi teithio gwlad a thre', Teg edrych tuag adre'.

Hen Ddihareb.

YFRYTED cwrdd âg anwyliaid wedi absenoldeb hir ! Wedi'r crwydro, mor

felus dod yn ol i'r hen fan gysegredig i adrodd helyntion y daith,—y prudd a'r llon. Ac mewn byd lle mae cymaint o bethau yn newid ac yn cilio, felused cael mam neu dad yn yr hen gartref a'u cariad yn aros yr un o hyd,—eiliw gwan o gariad mwy.

Edrychai pob un o deulu Nantoer ymlaen at y dydd Mawrth hwnnw gyda chalonnau llawn. Yn ystod y nosweithiau cyn ei ddyfod, o'r braidd y medrai Alun gysgu o gwbl. Nid oedd Ieuan fawr gwell, nac, ychwaith, eu mam a Mair. Rhedai meddyliau y pedwar at ei gilydd ymhell cyn iddynt gyfarfod wyneb yn wyneb. Fore Mawrth, wedi codi, sylwodd Mair fod ei mam yn brudd iawn ei gwedd, fel pe bae ar dorri i wylo, a gofynnodd iddi yr achos.

51

H

Page 62: Teulu Bach Nantoer

52 TEULU BACH NANTOER.

" Meddwl am Eiry fach wyf drwy'r bore," ebe hi. Cefais freuddwyd hynod iawn am dani neithiwr. Gwelwn hi yn dod i'r ty yn llaw Ieuan, yn ferch dàl, ac O ! mor dlos,—fel y gallai fod yn awr pe bae yn fyw. Daeth ymlaen ataf, a gwenodd arnaf fel y gwnae gynt, a dywedodd ' Mam,' a dihunais gyda'r gair."

Wylai Gwen Owen ac wylai Mair gyda hi, a methwyd bwyta boreufwyd yn y bwthyn y bore hwnnw, er mai dydd mawr dyfodiad y bechgyn oedd, am fod un o'r teulu bach na ellid ei disgwyl. " Rhaid i ni anghofio hyn heno, Mair fach," ebe'r fam, " a phaid dweyd dim am y peth wrth y bechgyn. Nid wyf am eu tristhau wedi dod adref."

Tua hanner awr wedi chwech, aeth Mair i ben y lôn fach i ddisgwyl y fen fawr, gyda'r hon y deuai Ieuan ac Alun o orsaf Llanerw.

" Dyma fi wedi dod â hwy i chwi unwaith eto," ebe'r gyrrwr wrth Mair, oherwydd adwaenai hi yn dda. Disgynnodd y ddau fachgen tàl, golygus, am y cyntaf, gan redeg at eu chwaer a'i chusanu, a holi mil o gwestiynnau iddi â'u lleisiau dwfn, ac aethant eu tri fraich ym mraich yn llawen i'r bwthyn lle yr oedd eu mam a'r bwrdd llawn a'r croesaw cynnes yn eu disgwyl.

Page 63: Teulu Bach Nantoer

TEULU BACH NANTOER. 53

Noson hyfryd iawn oedd honno wrth y tân yn Nantoer. Yr oedd gan y ddau lawer i ddweyd. Un o newyddion goreu Ieuan oedd ei fod wedi ei wahodd i fod yn Ymgeisydd Seneddol dros sir neilltuol yn yr etholiad nesaf. "Felly, peidiwch chwi synnu, mam," meddai, " os taw ' Ieuan Owen, A.S.,' fydd nesaf yn dod i aros yma atoch."

Yr oedd gan Alun ystôt o hanesion am ryfeddodau'r môr a'r gwledydd pell. Yr oedd ganddo rai pethau nad oedd gan Ieuan, neu, o leiaf, bethau na soniai Ieuan ddim am danynt. Tynnodd o lyfr bychan gariai yn ei logell, wedi ei amdoi yn ofalus mewn papur sidan, lun merch ieuanc nodedig o hardd, wedi gwisgo yn brydferth, a'i gwallt fel mantell yn disgyn dros ei hysgwyddau. Gadawodd Alun i'r tri edrych ar y llun yn syn am ysbaid cyn dweyd dim.

" Helo ! " ebe'r fam, " A ydyw Alun wedi cael rhywun i'w charu yn fwy na mi ? "

Gwenodd Alun yn ddireidus cyn ateb. " Na, nid felly, mam," ebai, " achub bywyd y

ferch yma wnes ers mwy na blwyddyn yn ol, a chael ei llun wedyn er côf. Dyma beth arall gefais," ebai, gan ddangos oriawr aur hardd, ac arni yn gerfiedig y geiriau,—

E

Page 64: Teulu Bach Nantoer

54 TEULU BACH NANTOER.

A LITTLE TOKEN OF GRATITUDE

TO

ALUN OWEN.

FOR SAVING MY LIFE

Nov. 17, 1896.

ELSIE MAY.

Yna adroddodd yr hanes,—

" Yr oedd ein llong yn aros mewn lle o'r enw Hamilton, tref ar Ynys Bermuda ym Môr y Werydd. Cerdded ar y traeth oeddwn i pan glywais waeddi mawr o'r môr. Yr oedd cwch bychan wedi dymchwelyd, a gwelwn ddyn a merch ieuanc yn dal eu gafael ynddo ac yn gwaeddi am help. Medraf nofio yn dda, a chyn pen ychydig funudau, yr oeddwn yno,—tua deugain llath o'r traeth. ' Achubwch fy merch,' llefai y dyn, ' daliaf fi fy ngafael yn y cwch.' Rywfodd, medrais ddod a hi i'r lan, ond bu agos i ni ein dau foddi. Nid oedd llawer o bobl ar y traeth, a boddodd ei thad cyn i neb gael cwch i fynd ato. Yr oedd y fam bron yn wallgof,—yn falch am fod ei merch yn fyw, a bron torri ei chalon am golli ei gwr. Gofynasant fy enw a'm cyfeiriad, a chyn i'r llong adael Hamilton, daeth hi a'i mam i'r bwrdd a'r oriawr a'r llun yma i mi. O, dyna ferch hardd oedd hi ! Pan oedd yno yng nghanol y môr, a'i

Page 65: Teulu Bach Nantoer
Page 66: Teulu Bach Nantoer

TEULU BACH NANTOER. 55

dillad gwynion am dani a'i gwallt hir yn nofio ar wyneb y dwr, edrychai fel angyles neu fôr-forwyn. A dyna hardd oedd hi yn ei dillad duon ar y bwrdd ! Wylai y fenyw yn rhyfedd wrth siarad â mi, a gofynnodd y ddwy i mi a awn i'w gweld pan fyddai ein llong negaf yn Hamilton. Felly, hwyrach y gwelaf hi eto, mam," a deuai rhyw oleu tyner iawn i lygaid y morwr bach.

Yr oedd calon y fam yn rhy lawn i ddweyd llawer, ond gwyddai y plant ei theimlad, ac yr oedd gwybod fod eu bywyd a'u gwaith yn y byd yn gwneud eu mam yn hapus yn fwy tâl iddynt na dim clôd gaent gan ereill.

Page 67: Teulu Bach Nantoer

PENNOD XIII.

"A fu go l l ed ig , ac a ga fwyd . " B e i b l ,

RANNOETH, tua thri o'r gloch yn y prynhawn, cerddai Ieuan yn hamddenol,

gan fyfyrio a chwibanu ar hyd y lôn fach. Aethai Alun a Mair i'r pentref i wneud rhyw negeseuau dros eu mam. Rhyw ddisgwyl eu cyfarfod yn dod yn ol yr oedd Ieuan yn awr.

Ond yn lle ei frawd a'i chwaer, rhyw wr a merch ieuanc nas adwaenai welai yn dod yn nhro y ffordd. Dyn byrr, tywyll, oedd, ac edrychai yn graff ar Ieuan wrth ddynesu ato. Troai y ferch ei llygaid mawr ato hefyd, a rhyw olwg hanner ofnus ynddynt. Yr oedd wedi gwisgo mewn du, ac heb yn wybod iddo, hedodd meddwl Ieuan at stori Alun, ac at y llun welsai, a meddyliodd mai y ferch ieuanc honno oedd am ryw reswm wedi dod i'r cwrr anghysbell hwnnw o'r byd.

Arosasant. Gofynnodd y dyn ai y bwthyn hwnnw oedd Nantoer, ac a oedd Mrs. Owen yn byw yno. Atebodd Ieuan, a dywedodd mai efe oedd ei mab hynaf. Cyn i'r gwr dieithr gael amser 56

D

Page 68: Teulu Bach Nantoer
Page 69: Teulu Bach Nantoer

TEULU BACH NANTOER. 57

i esbonio rhagor, cerddodd y ferch ymlaen at Ieuan, a chan estyn ei llaw iddo, dywedodd,—

" Ieuan, fi yw Eiry, dy chwaer fach, wedi dod nol." Edrychai Ieuan arni fel un mud ; ni fedrai gael gair allan, ac ebe hi drachefn,—

" Gad i mi weld mam." Aeth Ieuan a hi, gan gydio yn ei llaw, ac edrych

arni fel un mewn breuddwyd, i fewn i'r bwthyn lle yr eisteddai ei fam wrth y tân yn disgwyl i'r tegell ferwi. Pan welodd hi y ddau yn dod yn union fel y danghoswyd iddi yn ei breuddwyd, cododd i'w cyfarfod gan lefain, — " O, dyma mhlentyn i wedi dod nol," ac wedi gwasgu Eiry at ei chalon a chlywed y gair " Mam " o'i genau, llewygu wnaeth, a hir y buwyd cyn cael gair ganddi drachefn.

" Dyma Alun a Mair yn dod," ebe Ieuan yn ddistaw wrth Eiry, yr hon oedd yn dal llaw ei mam o hyd. Cododd Eiry i'w cyfarfod.

Edrych o un i'r llall yn syn a gwylaidd wnae y ddau am funud, gan fethu deall pa gyffro oedd yn y ty. Yna, tra y safai Mair o'r tu ol, trodd Alun yn gyffrous at Eiry, daliodd allan ei law, a dywedodd â'i anadl yn ei wddf,—

" Miss May ! "

Page 70: Teulu Bach Nantoer

58 TEULU BACH NANTOER.

" A ! ie, ' MISS May,' ac Eiry eich chwaer fach," ebe hi, gan ddal llaw Alun a llaw Mair gyda'i gilydd. " Ychydig feddyliais mai fy mrawd achubodd fy mywyd," ac wylodd heb fedru peidio. Wylai pawb am ennyd. Ni wydda i Alun pa un ai llawenhau a wnae ai peidio am mai yr un oedd " Miss May " ac Eiry. Pan oedd y pedwar felly yn wylo ac yn gwenu, yn holi ac yn ateb bob yn ail, agorodd y fam ei llyga id. Syllodd arnynt yn ddwys am beth amser, yna gwenodd yn foddhaus, ac yn raddol daeth golwg dawel yn ol i'w hwyneb.

Wedi ei gweld yn dod ati ei hun, daeth y gwr dieithr ymlaen. Dywedodd mai cyfreithiwr Mrs. May oedd efe, a'i fod wedi dod yno, yr holl ffordd o'r Amerig, i roi esboniad ar bethau, ac y gwnae hynny yn awr os caniataent iddo.

Gorweddai y fam ar esmwythfainc. Safai ei phedwar plentyn gerllaw iddi. Rhoddwyd cadair i'r gwr dieithr yn eu hymyl.

Page 71: Teulu Bach Nantoer

PENNOD XIV.

" Gwel l goddef cam na ' i wneu thur . "

Hen Ddihareb.

YNNODD Mr. Llewelyn Morgan ryw bapurau o'i logell a dechreuodd ar unwaith ei ystori.

" Cafwyd y llythyr hwn ymysg papurau Mrs. Isabel May, y fenyw fu yn lle mam i'r ferch ieuanc yma (gan gyfeirio at Eiry). Bu hi farw chwech wythnos yn ol yn ei chartref yn Hamilton. Yn ei hewyllys, ymysg pethau ereill, gofynnai i mi gyfieithu'r llythyr a chario allan ei gorchymyn hi ynglyn âg ef. Yr oeddwn i ddod gyda Miss May i Gymru, chwilio am ei theulu, a'i chyflwyno yn ol iddynt gydag eglurhad o'r modd y dygwyd hi. Wedi cyrraedd Lerpwl, ysgrifennais yma er mwyn cael gwybod a oeddech yn byw yma o hyd, cefais ateb, ac wele ni. Yn awr, caiff y llythyr esbonio ei hun."

Gwrandawai y teulu bach yn astud tra y darllenai Mr. Morgan gyf fes hynod un oedd erbyn hyn mewn byd arall,—yn rhy bell oddiwrthynt i dderbyn cerydd na maddeuant.

59

T

Page 72: Teulu Bach Nantoer

60 TEULU BACH NANTOER.

" HAMILTON, I o n a w r la f , 1 8 9 7 .

" Yn haf y flwyddyn 1883, daeth fy mhr iod " a minnau i Gymru am dro. Wrth fynd i " Lanywerydd, deuais ar ddamwain i gyffyrddiad " â phedwar o blant bychain yn chwareu ar y " rhos. Synnwyd fi gan dlysni yr un fechan " ieuengaf, Eiry. Ymserchais ynddi o'r awr " honno, a dymunwn ei gweld eilwaith. Cefais " fy nymuniad. Gwelais hi yng Nglanywerydd " gyda'i mam a'i chwaer, ac aethum yn fwy " hoff fyth o honi. Meddyliwn yn brudd, pam " na chawn i ferch fechan felly pan oedd gennyf " ddigon o arian i'w dwyn i fyny yn briodol, tra'r " oedd y fam hon yn dlawd, a'r fath blant tlws " ganddi. Dri mis ymhellach, wrth ddychwelyd, " nid oedd gyrrwr gennym. Fy mhriod a " minnau yn unig oedd yn y cerbyd. Mynnais " gael mynd i lawr i'r bwthyn i weld y plentyn " unwaith eto. Yr oedd rhywbeth o'm mewn " yn gwneud i mi fynd. Gwyddwn, wrth yr hyn " ddywedai'r plant, nad oedd eisieu ond croesi'r " rhos o'r ffordd uchaf. Yr oedd yn glir bryd " hwnnw, ond pan oeddwn yn nesu at y bwthyn, " daeth niwl tew yn sydyn i guddio pob man. " Aethum at y drws. Curais, ond ni chefais " atebiad. Agorais ef, ac aethum i fewn. Nid

Page 73: Teulu Bach Nantoer

TEULU BACH NANTOER. 61

" oedd yno neb ond yr un fechan a hoffwn yn " gorwedd ar y gwely. Gwelais fy nghyfle,— " y plentyn yn cysgu, neb yn y ty, a'r niwl " ym mhobman. Meddwl newydd hollol oe dd, nid " oeddwn wedi bwriadu dim o'r fath wrth ddod " lawr. Rhedais allan. Edrychais i bob man, " a gwrandewais. Ni welais neb, ac ni chlywn " ond rhu yr afon yn y cae gerllaw. Gwelais y " glwyd arweiniai ati, a gwnes fy mhenderfyniad. " Yr oedd gennyf glôg am danaf. Rhoddais ef " am y plentyn, gan ei chodi yn ei chwsg a'i " gwasgu at fy nghalon. Yr oedd tegan bychan " yn ei llaw. Teflais ef â holl nerth fy mraich " i'r cae tua chyfeiriad yr afon, a dymunais y " gwnae ei waith drwy dynnu sylw pobl ffordd " honno, a pheri iddynt feddwl fod yr un fach " wedi boddi. Cyrhaeddais y ffordd a'r cerbyd ; " ac er cymaint wrthwynebai fy mhriod, mynnais " gael fy ewyllys. Yr oeddwn mor wyllt fy " ngwedd nes yr oedd arno ofn fy nghroesi. Yr " oedd mantell arall gennyf yn y cerbyd. " Rhwymais honno am Eiry, fel nad oedd berygl " i neb weld ei gwisg. Yr oeddem yn hwylio " drannoeth i'r Amerig, a gwyddwn, os gwnae " y tegan bach ei waith, ac os cawn y plentyn " unwaith ar fwrdd y llong, y byddai popeth " yn iawn. Felly y bu. Prynais ystôr o ddillad

Page 74: Teulu Bach Nantoer

62 TEULU BACH NANTOER.

" bychain iddi yn Lerpwl. Bu hi o'r dechreu " mor ddiddig a phe bae gyda'i mam. Dywedais " wrth fy nghyfeillion yn Hamilton mai merch " fach i chwaer fy mhriod oedd, yn cael ei dwyn " i fyny gennym ni. Galwasom hi yn ' Elsie,'— " ' Elsie May,' ac yn fuan, ni chofiai hi o gwbl " am ' Eiry ' na neb o deulu'r bwthyn. Da i " mi nad oedd ond prin tair oed ar y pryd. Gan " fod fy mhriod yn Gymro, dysgasom hi i arfer " y ddwy iaith. Treuliasom un flwyddyn ar ol y " llall yn llawen fel chwedl. Ceisiwn feddwl " fod y lles oeddwn yn wnoud i'r un fechan yn " gwneud i fyny am yr ing barai fy ngweithred " i'r fam.

" Yn 1896, cyfarfyddodd fy mhriod â'i angeu "drwy foddi, a bu agos i'r un alwn yn ferch, " ac a garwn fel fy merch fy hun, foddi hefyd. " Achubwyd hi gan ei brawd. Cofiwn enwau'r " plant oddiar y dydd cyntaf hwnnw ar y rhos, " a phan glywais yr enw ' Alun Owen,' syllais " arno ac adwaenais ef. Onid oedd ei lygaid " yn union fel rhai Eiry ? Pan welais y llyga id " hynny yn edrych arnaf, a'i weld ef yn rhoi ei " chwaer fechan yn ol i mi o grafangau angeu, tra'i " galon fach ei hun wedi bod yn ddiau yn brudd " am dani lawer gwaith, teimlais fy mai i'r byw.

Page 75: Teulu Bach Nantoer

TEULU BACH NANTOER. 63

" Meddyliwn fod Duw yn edrych arnaf drwy " lygaid clir y morwr bach, a chredwn Ei fod, " drwy gymeryd fy mhriod mor sydyn, am fy " nwyn ataf fy hun. O'r dydd hwnnw, ni " chefais hedd i'm bron, a theimlwn, rywfodd, fod " fy amser innau yn tynnu at y terfyn.

" Trefnaf, felly, fod Eiry, wedi i mi farw, i " gael ei dwyn yn ol at ei theulu, a gobeithiaf " fod ei mam yn fyw, ac y gwna faddeu i mi. " Unig oeddwn, ac mor siomedig ; ac ymglymodd " fy nghalon gymaint am ei merch fechan, dlôs, " a meddyliais yn y niwl a'r unigedd hwnnw " ger y bwthyn fod nef a daear o'm tu. Dyma " fi wedi ei magu yn dyner, wedi rhoi addysg dda " iddi. Bu hithau yn ferch dda i mi heb erioed " wybod fod ei mam ei hun yn fyw. Diolch am " ei benthyg ! Gwelwch, yn ol fy ewyllys, fod " fy arian a'm meddiannau i gyd iddi hi i wneud " fel y mynno â hwy.

(Arwyddwyd) ISABEL MAY."

Diwrnod rhyfedd fu hwnnw yn Nantoer, a diwrnodau rhyfedd fu y rhai dilynol. Meddyliai y fam yn fynych mai breuddwyd oedd y cyfan, ac y dihunai ryw fore gan deimlo'r ing yn ei chalon am Eiry fel o'r blaen. Ond yn raddol, daethant

Page 76: Teulu Bach Nantoer

64 TEULU BACH NANTOER.

yn gyfarwydd â'u dedwyddwch. Erbyn hyn, nid oes deulu hapusach o fewn y byd. Yn agos i'r bwthyn, rhyngddo â'r ffordd fawr, y mae ganddynt dy newydd hardd, ac yno y mae Mair ac Eiry yn llonni'r lle, ac yn gwneud popeth a allant i sirioli bywyd eu mam. Yno hefyd y daw ar ei dro Ieuan Owen, yr Aelod Seneddol ieuanc, brwdfrydig a phoblogaidd. Daw hefyd fynyched ag y gallo y Cadben Alun Owen o'r môr. Y mae ei fam a'i ddwy chwaer wedi bod eisoes am fordaith yn ei long. Dywed ef, na fyddai Eiry byd eto wedi ei chael oni bae iddo ef, era llawer dydd yn ol, fynnu bod yn forwr.

Nid byw iddynt eu hunain wnant. Yr un fam dyner, ddiwyd a da, sydd yn y ty newydd ag oedd gynt yn y bwthyn, a'i gair hi yw deddf y plant o hyd. Y mae eu hardal, en gwlad, a'r byd yn well ohonynt.

Hyd yma y dilynwn eu hanes. Gadawn hwy oll yn wynn eu byd.

Page 77: Teulu Bach Nantoer

TEULU B A C H N A N T O E R

G E I R F A ( V O C A B U L A R Y )

Wedi ei threfnu er hwylustod i'r plant yn yr ysgol a'r cartref, gyda 'r geiriau yn eu ffurf dreigliadol, os felly yn y stori.

G. M. P.

W R E C S A M

H U G H E S A 'I F A B , C Y H O E D D W Y R

Page 78: Teulu Bach Nantoer

GEIRFA (Vocabulary). ¤ ¤

NODIAD.—Fe welir f o d llawer o'r geiriau yn yr Eirfa yn eu ffurf dreigliadol, fel ag y maent yn y stori. Diau y bydd hyn yn hwylusdod i lawer, ac yn fwy addysgiadol, gan mai ychydig o blant sy'n ddigon hyddysg yn y Gymraeg fel ag i fedru troi at y gair yn ei ffurf wreiddiol. Os na fydd gair yn ymddangos yn ei ffurf dreigliadol yn yr Eirfa, gellir cymeryd yn ganiataol mai yn ei ffurf wreiddiol y mae.

ANSODDEIRIAU A RHAGFERFAU.—Gan nas gellir dweyd oddiwrth ei ffurf (yn y Gymraeg) pa un ai ansoddair neu ragferf ydyw gair, rhaid i'r berthynas a ddeil gyda rhan o frawddeg, sylweddair, berf, neu ansoddair cyfagos, bondorfynu y pwnc. Ceir fod rhagferf a lythrenir yn unfath ag ansoddair, yn cael ei rhagflaenu mewn brawddeg pan y gair yn. Os na fydd gradd cp.d., eq.d„ neu s.d. yn gysylltiedig âg ansoddair, deallir ei fod yn y Radd Gysefin (Positive).

¤ ¤ ¤ ¤ ¤

TALFYRIADAU (Abbreviations).

a. .. adjective.. .. .. ansoddair. ad. .. adverb .. .. rhagferf. cp.d. .. comparative degree of

adjective .. .. gradd gymharol. eq.d. .. equal degree of adjective gradd gyfartal. f. .. feminine .. .. .. benywol. n. .. noun masculine .. sylweddair gwrywol. nf. .. noun feminine .. .. sylweddair benywol. np. .. noun plural .. ... enw lliosog. p. .. plural .. .. .. lliosog. p. .. page .. .. . - tudalen. prep. .. preposition .. .. arddodiad. prn. .. pronoun .. .. rhagenw. pt. .. past tense .. .. amser gorffennol. rf. .. radical form .. .. ffurf wreiddiol. s. .. singular .. .. .. unigol. sd. .. superlative degree of

adjective.. .. gradd eithafol. v. .. verb .. .. .. berf. 66

Page 79: Teulu Bach Nantoer

GEIRFA. 67 ACHUBWYD, v., saved (pt.). BRYDERUS, ad.,(in this case, ADEGAU, np., f., seasons ; p. 5), anxiously ( r f ., pryderus).

s., adeg. BWRLYMAI, V., bubbled (pt.). ADDURN, n., ornament. BWTHYN, n., cottage. ADDYSG, n., education. BYCHAN, a., small. AELWYD, nf., hearth. BYW (I'R), a., quick (last line, AGORAIS, v., ( 1 ) opened (pt.). p. 62). ANGEU, n., death. BYWIOLIAETH, nf., a living, liveli- ANGHYSBELL, a., remote. hood. ALLU, n., power : r/., gallu. ALLWEDD, nf., key. CALANGAEAF, n., Allhallowtide, ANAML, ad., seldom. Allsaints (November 1st, the ANERCHIAD, n., address. period when, in some districts, ANRHYDEDD, n., honour. servants are engaged). ANWYBODUS, a., ignorant. CAMWEDD, n., wrong, transgress ARDAL, nf., neighbourhood. ion, iniquity. ARHOLIAD, n., examination. CAREDIO, a., kind. ARIAN, a. (in this case, p. 3), CEFNU, V., to turn their backs

silver; (p. 60, it is a noun, (p. 21), return. and means wealth or money). CENEDL, n., nation.

AROGL, n., smell, scent. CERBYD, n., carriage. ARWYR, np., heroes ; s., arwr. CERYDD, n., rebuke, reproof. ASTUD, ad., attentively, diligently. CLAWDD, n., fence, dyke, hedge. AWCHUS, ad., eagerly. CLOD, n., praise.

CLWYD, n., gate (in this sense, p.32) BACH (p. 39, line 19), n., hook. South Wales; llidiart is the BARN , n., judgment. word used in N. Wales for gaze, BASTAI, n., pie (rf., pastai). clwyd being used for " roost." BAU (môr-gilfach), n., bay. ONOI, v., chewing. BELYDRAU, np., rays, beams CRIBINAU, np., rakes (s., cribin

(rf. s., pelydr). see rhaca). BENBLETH, nf., perplexity CROESAW, n., welcome.

(rf., penbleth). CURAIS, v. ( I ) knocked (pt.). BENDERFYNIAD, n., determina- CWRR, n., corner, spot.

tion ( rf . , penderfyniad). CYFLE, n., opportunity. BENTAN, n., hob ( rf . , pentan). CYFREITHIWR, n., solicitor, BENTHYG, n., loan. lawyer. BEUDY, n., cow-house. CYNGHORION, np., advice, BODDI, V., drown(ed), (pt.) counsel (s., cyngor). BREF, nf., bleat. CYMDOGION, np., neighbours BREICHIAU, np., arms (s., braich). (s., cymydog). BRENNAU, np., timber (rf. s., CYMRU , n., Wales.

pren). CYMRY, np., Welshmen (s., BRWDFRYDIG, a., enthusiastic. Cymro). BRYD, n., time (rf., pryd); HEN CYNHAEAF, n., harvest.

BRYD, high time. CYNNAR, a., early.

Page 80: Teulu Bach Nantoer

68 GEI CYSEGREDIG, a., sacred, conse- crated). CHÔL , n., lap (rf., côl). CHROEN, nf. ( f . in this case), skin (rf., croen). CHWEDL, nf., story, fable, tale. CHWIBANU, v., whistling. CHWILIO, V., to search. CHWYRN , ad. (in this case, p. 29),

rapidly, swiftly. CHYFEIRIAD, n., direction (rf., cyfeiriad). CHYFLWYNO, V., to present (rf., cyflwyno). DAETHAI, v., came (pt.). DAFLOD, nf., loft, attic (rf., taflod). DAGRAU, np., tears (s., deigryn). DEBYCED, a., eq.d., how like. DEDWYDDWCH , n., happiness. DEDDF, n., law, ordinance. DEGAN, n., toy (rf., tegan). DEITHIO, v., travelling (rf., teithio ). DIBYNNU, V., rely, depend. DIDRAI, a., unfailing. DIDDORDEB, n., interest. DIDDOS, a., snug. DIHUNAIS, v. (I) awoke (pt.). DILYNWN, p., v. (we) follow (s., dilynaf). DIODDEF, v., to suffer. DIOSGWYD, V., stripped, taken off (pt.). DISGYNNAI , v., descended (pt.). DISTAW, a., silent. DIREIDI, n., mischievousness. DIYSGOG, a., immovable, firm. DLYSNI, n., beauty (rf., tlysni). DRAETH , n., shore, (rf., traeth). DWYS, a., serious, grave. DYFALU, v., conjecturing. DYNER, ad. (in this case),

tenderly (rf., tyner) . OYRNU , V., to thresh.

RFA DDAMWAIN, n., accident (rf.,

damwain ). DDARLLEN, v., reading (rf., dar-

llen). DDEWRED, a., eq.d., as brave

(rf., dewred). DDIBETRUS, ad., unhesitatingly (rf., dibetrus). DDIOFAL, a., carless (rf., diofal). DDISTAW, ad. ( in this case, p. 3),

quietly (rf., distaw). DDIWYD, a., industrious, diligent

(rf., diwyd). DDWYS, ad., seriously (rf., dwys). EANGDER, n., expanse.

EDRYCHIAD, n., look. EDRYCHIAD, V., looked (pt.) . EGLURHAD, n., explanation. EGWYDDORION, np., principles

(s., egwyddor). EILIW , n., reflection. EIRWIR, a., truthful (rf., geirwir). EISTEDDAI, V., sat (pt.). EITHIN, np., gorse (s., eithinen). ENNILL, V., earn. ErEILL, P. prn., others (s., arall). ERFIN, np., turnips (s., erfinen). ESBONIO, v., explain. ESMWYTHFAINC, n., sofa. FAU, n., bay (rf., bau). FELYSION, np., sweets (rf., melys-

ion ; s., melysen). FEN FAWR, nf., a., big coach (adj. comes first in Eng.); (rf., men). FERWI, V., to boil (rf., berwi). FIN, n., edge or side (r f . , min). FIRI, n., pleasure, excitement,

rush (rf., miri). FLWYDDYN, n., year (rf., blwyddyn). FODDI, v., drowning (rf., boddi). FORD , n., nf., table (rf., bord).

Page 81: Teulu Bach Nantoer

GEI FORDAITH, nf., voyage (rf., mor- daith). FôR-FORWYN, nf., mermaid (rf.,

môr-forwyn). FREUDDWYD, n., nf., dream (rf., breuddwyd). FUWCH, nf., c o w (RF., buwch). F W RDD. n., board (ship) (rf.,

bwrdd). FYFYRIO, V., musiny, meditating

(rf., myfyrio). FYNNU, v., to will, insist ( rf., mynnu).

FFAELEDDAU, np., failings, faults (s., ffaeledd). GADAWAI'R TYMOR EI OL, the

season left its mark. GAEAF, N., winter. GARUAIDD. ad., kindly, lovingly

(rf., caruaidd). GARW, a., rough. GEGIN, nf., kichen (rf., cegin). GENLLIF, n., torrent, flood (rf., cenllif). GERBYDAU, np., vehicles, carr- iages (rf., s., cerbyd). GERFIO, V., carved (rf., cerfio, pt.). GIST, n., chest (to keep things in)

(rj., cist). GLAS, a., blue. GLYD, A., comfortable (rf., clyd). GLOG, N., nf., cloak, mantle (rf., clôg). GOLWG, n. & nf., sight, view. GORCHUDD , n., cover (ing). GORCHYMYN, n., instruction, command. GORWEDD, v., lying (down ). GORWEL n., horizon. GRAFANGAU. np., claws, clutches

(rf., s., crafanc). GRAFF, ad., intently, keenly (rf.,

craff). GRAWN, n., grain.

RFA 69 GREFFT, nf., trade, handicraft

(rf., crefft). GRUG, n., heather. GWAITH , n., work. GWALLGOFI, v. ineane, distracted. GWDDF, n., throat, neck. GWEDD, nf., appearance, GWEINI, v., attending, serving. GWELLT, np., straw (s., gwelltyn). GWENAI, v., smiled (pt.). GWISG, nf., dress, clothing. GWLAD, nf., country. GWOBRWYON, np., prizes (s., gwobr). GWLAW, n., rain. GWRANDEWAIS, v. (I)listened(pt.) GWYCHION, p., a., fine, gay (s., gwych). GWYLIAU, np., holidays ( s., gwyl). GWYLIO, v., to watch.

GWYNGALCHU, v., whitewashing. GWYNT, n., wind. GYFARWYDD, a., acquainted (rf.,

cyfarwydd). GYFIETHU, V., translate (rf., cyfieithu). GYFNEWIDIAD, n., change (rf.,

cyfnewidiad). GYFRWND, n., means, by means of

(rf., cyfrwng). GYFFES, nf., confession (rf., cyffes). GYFFYRDDIAD, n., touch, contact

(rf., cyffyrddiad). GYHYD, a., ad., so long(rf.,cyhyd). GYMERIADAU, np., characters

(rf., s., cymeriad). GYNARACH, a., cp.d., earlier (rf.,

cynarach). GYNHWYSIAD, n., contents (rf., cynhwysiad). GYNTAF, a., first (rf., cyntaf). GYSURUS, a., comfortable (rf.,

cysurus). GYSYLLTIAD , n., connection (rf., cysylltiad).

Page 82: Teulu Bach Nantoer

70 GEI

NGHYFEILLION, np., friends (rf., s., cyfaill).

NGWEDD, n., appearance (rf., gwedd). HAFAL, a., like, equal. HANWYLIAID, np., beloved ones

(rf., s., anwylyn). HARDAL, n., neighbourhood (rf., ardal). HEDD, n., peace. HELMAU (teisi, N. Wales), np.,

stacks (s., helm, tâs). HENO, ad., to -night. HEWYLLYS, n. & nf, will, testament

(rf., ewyllys). HING, n., distress, anguish (rf., ing). HIR, a., long. HIRAETH, n., yearning, longing. HONGIAN, v., dangling, hanging. HOSAN, nf., stocking. HWYL, nf., sail (HWYLIO, v., sailing). HWYLBREN, n., mast. HWYR, n., evening. HWYRACH, ad., perhaps. HYAWDLEDD, n., eloquence. HYSGWYDDAU, np., shoulders

(rf., s., ysgwydd). IAITH, nf., language, tongue. LECH, nf., flagstone, or slate (rf.,

llech). LETHR, nf., slope, declivity (rf., llethr). LOGELL, nf., pocket (rf., llogell). LUDDED, nf., fatigue (rf., lludded). LUN, n., portrait (rf., llun). LUS, np., bilberries, whortleberries, also whimberries in some

districts (rf., llus ; s., llusen). LYFNU, v., to harrow (rf., llyfnu), LLAM, n., leap.

RFA

LLANC, n., youth, lad. LLENYDDIAETH, n., literature. LLEWYGU, v., fainted (pt.). LLI ', n., flood (in this case, p. 21, the sea, ocean). LLITHRO , v., to slip. LLONG, nf., ship. LLONNI. v., to gladden. LLUSERN , n., lantern. LLYFR, n., book. LLYGATDDU, a., dark-eyed. LLYGAID, np., eyes (s., llygad) ; LLYGATLAS, blue eyes. LLYTHYR-GLUDYDD, n., postman. MACHLUD HAUL , n., sunset. MADDEUANT, n., forgiveness, pardon. MANGRE, nf., place. MANNAU, np., places (s., man). MEDDIANNAU, np., possessions

(s., meddiant). MEGIR, v. (are) reared (p. 46). MENYW, nf., female. MHENDERFYNIAD, n., decision, determination (rf., penderfyn-

iad). MHRIOD, n. or nf., husband or wife, as the case may be (rf., priod). MINIOG, a., keen, sharp. MODRWY, nf., ring. MODRWYOG, a., curly. MORWYN, n., servant maid. MUD, a., dumb. MURIAU, np., walls (s., mur). MWYNHAD, n., enjoyment. MYNNAIS. v. (I) insisted (pt). MYNWENT, nf., churchyard. NADOLIG, n., Christmas, NANTOER, prop.n., Cold -stream,

name of house. NEGES, nf., message, errand. NEWYDD FYND HEIBIO, Only just over (or passed).

Page 83: Teulu Bach Nantoer

GEIRFA. 71

NITHIO , v., winnowing. RHUAI, v., roared (pt.) NIWL, n., fog, mist. RHUDDAUR, a. (in this case, p. 15) NODEDIG, ad. (in this case, p. 5), ruddy-gold.

remarkably. RYFEDOOD, n., wonder (rf., rhy- NOSWEITHIAU, np., nights (s., feddod).

noswaith). NWYFUS, A., lively, sprightly. SACHAID, nf., sackful.

SEIBIANT, n., leisure. OCHENAID, nf., groan, sigh. SERTH , a., steep. ODDIALLAN, prep., outside, with- SIMNE, n., chimney.

out. SIOMEDIG, a., disappointed. OFFER-SAER, np., carpenter's SIRIOL, ad. (in this case), cheer-

tools (s., offeryn). fully. OGED, n., harrow. SWYDDFA , nf., office. ORIADURON, np., watches (s., SWYNION, np., charms (s., swyn).

oriawr). SYLWEDD , n., substance. ORIAWR, nf., watch. SYLLODD, v., gazed (pt.). ORSAF, nf., station (rf., gorsaf). SYNNU, v., wondered (pt.). PECHOD, n., sin. PEIRIANT, n., machine (threshing THALCEN, n., forehead (rf. talcen).

machine). THLYSNI, n., beauty (rf., tlysni). PERT, a., pretty. PILYN, n., garment. TAN, n., fire. PLADURIAU, np., scythes (s., TAS, nf., stack.

pladur). TEGAN, n., toy. PLENTYN, n., Child. TEGELL, n., kettle. TLWYF, n., parish. TERFYN, n., end. close, boundary. PORTHI, v., to feed. TEULU, n., family. PRYSUR, ad., diligently. TONNOG, a., wavy. PHOBLOGAIDD, a., popular (rf., TOSTURIWCH , v. imper. (you) pity.

poblogaidd). TORRI (v.) ERFIN (n.), lierally, cutting turnips ; generally

RAMANT, n., romance (rf., known as turnip -pulping. rhamant). TORRI (v.) GWELLT (n.), literally,

RAWIAU, np., spades (rf., s., cutting straw; generally known rhaw). as " chaff -cutting."

RHACA , np., harvest rakes (s., TRAETH , n., shore. rhac, see cribin). TREULIASOM, v. (we) spent (pt.).

RHAEADR, n. & nf., cataract, TRISTHAU, v., to sadden, to grieve. waterfall. TROCHI, v., bathe, dip. immersed.

RHAFFAU, np., ropes (s., rhaff). TROWR, n., winder, twister. RHEITHOR, n., rector. TRWSIADUS, a., well-dressed. RHIW , n., nf., hill, ascent. TYDDYN, n., tenement, holding. RHODDION, np., gifts (s., rhodd). TYWYS, np., ears (of corn), RHOS, nf., moor. (s., tywysen).

Page 84: Teulu Bach Nantoer

UFUDD, A., obedient. UNDONOG, a., monotonous. UNIG, a., alone, lonely. UNLLIW , a., of the same colour. WADODD, v., denied (rf., gwad-

odd, pt.). WARIO, v.,to spend,pt.(rf.,gwario). WAU, v., knitting (rf., gwau). WEDDW, nf., widow (rf., gweddw) WELY, n., bed (RF., gwely). WENITH , np., wHEAT (rf., s.,

gwenithen). WERYDD, n., Atlantic. WNIO, v., sewing (rf., gwnio). WRTHWYNEBAI, v., objected,

opposed, pt. (rf., gwrthwyn- ebai).

WYLLT, a., wild (rf., gwyllt).

CHILDREN, np., plant (s., child). COMMUNICATE, v., gohebu

(ysgrifennu). DEAR (p. 21), a., annwyl. DISCLOSE , v., amlygu. GIRIS, Np., merched (s., girl). IMPORTANCE, n., pwysig, o bwys.

WYN EU BYD (YN), blessed (rf., gwyn).

YFORY , ad., to-morrow. YMA , ad., here. YMESTYNNAI. v., stretched (pt.). YMFFROSTIO, v., to boast. YMGEISYDD (n.) SENEDDOL (a.),

Parliamentary Candidate. YMLWYBRO, V., wending his

way. YMSERCHAIS, v. (I) doted (pt.). YSGLOD(ION), np., chips (s.,

yaglodyn). YSGUBAU, np., sheaves (s., ysgub). YSGUBOR, n., barn. YSTAFELL n., room. YSTOL, n., stool. YSTOR, n., abundance, stock.

KINDLY, ad., garediced.

LETTER, n., llythyr.

ONCE, ad., unwaith.

REACHES, v., cyrhaedda.

SOMEThing, n., rhywbeth.

72 72 GEIRFA

VOCABULARY (Geirfa)