Tafwyl 2013

44
2013 14-21 Mehefin / June 2013 Gŵyl Gymraeg Caerdydd Cardiff’s Welsh Language Festival Dilynwch ni / Follow us... tafwyl.org

description

14-21 Mehefin / June 2013Gŵyl Gymraeg CaerdyddCardiff’s Welsh Language Festival

Transcript of Tafwyl 2013

Page 1: Tafwyl 2013

2013

14-21 Mehefin / June 2013Gŵyl Gymraeg Caerdydd

Cardiff’s Welsh Language Festival

Dilynwch ni / Follow us... tafwyl.org

Page 2: Tafwyl 2013

Cefndir / About UsTafwyl yw’r ŵyl flynyddol a sefydlwyd gan Menter Caerdydd yn 2006 i ddathlu’r defnydd o’r Gymraeg yng Nghaerdydd.

Roedd Tafwyl 2012 yn lwyddiant ysgubol gyda dros 10,000 o bobl yn dod ynghyd i ddathlu’r Gymraeg dros wythnos yr ŵyl.

Eleni byddwn yn adeiladu ar lwyddiant yr ŵyl ac unwaith eto yn cynnal prif ddigwyddiad Tafwyl yng Nghastell Caerdydd, ar Fehefin y 15fed.

Bydd Gŵyl Tafwyl yn parhau am weddill yr wythnos yn dilyn y ffair hyd at nos Wener Mehefin yr 21ain.

Gyda digwyddiadau llenyddol, hanesyddol, gigs, comedi, chwaraeon, dramâu, digwyddiadau i blant meithrin, a gweithgareddau i ddysgwyr, yn sicr fydd rhywbeth at ddant pawb!

Tafwyl is the annual festival established by Menter Caerdydd in 2006 to celebrate the Welsh language in Cardiff.

Tafwyl 2012 was a phenomenal success, with over 10,000 people coming together to celebrate the Welsh language over the week-long festival.

This year, we will be building on the success of the festival, and once again will be holding the main event at Cardiff Castle, on the 15th of June.

Tafwyl Festival will continue for the rest of the week following the fair, until Friday, the 21st of June.

With literary, historical and comedy events, dramas, gigs, sports, learners’ and kids’ events, there really is something for everyone at Tafwyl Festival!

2

Page 3: Tafwyl 2013

Ffair Tafwyl / Tafwyl FairHoffai Menter Caerdydd gydnabod cefnogaeth hael Prif Noddwr Tafwyl, Asiantaeth Addysgu Bay Resourcing. www.bayresourcing.com

Dydd Sadwrn : 15 Mehefin 2013Castell Caerdydd 11.00 – 21.00MYNEDIAD AM DDIM!

Menter Caerdydd gratefully acknowledges the kind support of Tafwyl’s Main Sponsor, Bay Resourcing Teaching Agency. www.bayresourcing.com

Saturday : 15 June 2013Cardiff Castle 11.00 – 21.00FREE ENTRY!

Page 4: Tafwyl 2013

Prif Lwyfan / Main Stage

GERAINT JARMANPa ffordd well i gloi Gŵyl Tafwyl 2013 na gyda pherfformiad gan un o arwyr roc Cymru, Geraint Jarman! Bydd y set arbennig yn cynnwys hen glasuron yn ogystal â chaneuon diweddar. / What better way to end Tafwyl Fair than with the Welsh rock legend himself, Geraint Jarman! This special set will include some old classics as well as some of his recent work.

SŴNAMIByddwch yn ofalus rhag mynd Ar Goll yng nghanol y dorf yn ystod set y band bywiog yma! / There’s a reason why Bethan Elfyn chose this band as her BBC Introducing Band of the Week- if the castle had a roof, then this band would be sure to blow it right off!

CANDElASPumawd o Ogledd Cymru sy’n chwarae cerddoriaeth roc amgen gyda awgrym o “blues”. Sefydlwyd yn Haf 2009 a maent wedi bod yn gigio yn rheolaidd ers hynny. Gwyliwch allan am eu halbym cyntaf - allan dechrau’r haf! / A tight 5 piece from North Wales who play alt rock music with a hint of blues. They formed in the Summer of 2009 and have been gigging regularly since then. Watch out for their first album - out early this Summer!

COWBOIS RHOS BOTWNNOGDisgwyliwch berfformiad a hanner gan y tri brawd o Fotwnnog a’u band estynedig, gydag elfennau o ganu gwerin, roc a chanu gwlad yn llenwi eu caneuon. / Get ready for a flawless performance from the three brothers from Botwnnog and their extended

Noddir gan BBC Radio Cymru Sponsored by BBC Radio Cymru

4

Page 5: Tafwyl 2013

band, with folk, country an rock influences filling their soulful songs. Cefnogir y perfformiad gan Ganolfan Mileniwm Cymru This performance is sponsored by Wales Millennium Centre

COlORAMABydd y cerddor amryddawn Carwyn Ellis yn perfformio wrth ochr ei fand 5-darn mewn set hudolus o bop seicadelig lliwgar! / The multi-talented Carwyn Ellis will perform alongside his 5-piece band in this magical set of psychedelic indie-pop! Cefnogir y perfformiad gan Ganolfan Mileniwm Cymru This performance is sponsored by Wales Millennium Centre

HuW CHISWEllByddwch yn barod i gael eich swyno gan sŵn piano yr arbennig Huw Chiswell. / Huw Chiswell will grace Tafwyl’s main stage with his famous piano playing and lyrical songs.

GWYllTGwyllt yw band diweddaraf y sin roc Gymraeg. Disgwyliwch gerddoriaeth gyda dylanwadau gwerin ond eto fymryn yn wahanol gan y grŵp bywiog yma. / Gwyllt is the latest band to emerge from Wales. You can expect folk-influenced music with a twist from this lively new band.

5

Page 6: Tafwyl 2013

ENIllWYR BRWYDR Y BANDIAu C2 / C2’S BATTlE OF THE BAND WINNERS: Y FFuGMi fydd enillwyr cystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 2013, Y Ffug, yn agor y perfformiadau cerddorol ar y prif lwyfan. / The winners of this year’s C2 Battle of the Bands competition, Y Ffug, will be opening the musical perfomances on the main stage.

STWNSHGallwch chi ddim dianc rhag Stwnsh! Digonedd o hwyl gwallgo’ gyda chyflwynwyr Stwnsh. / You can’t escape from the Stwnsh crew! Lots of silly fun with the Stwnsh presenters. Cefnogir y perfformiad gan S4C / Performance supported by S4C

CYWDewch i gael hwyl wrth ganu a dawnsio gyda Einir a Gareth o Cyw! / Lots of fun, singing and dancing with Einir and Gareth from Cyw! Cefnogir y perfformiad gan S4C / Performance supported by S4C

SWICA Ar ôl gorymdeithio gyda’r drymiau samba bydd y Criw Carnifal yn dod a’u perfformiad yn fyw ar brif lwyfan Tafwyl. / Expect sequined splendour, glamorous glitter and multicoloured feathers galore as this intercultural and intergenerational carnival group flamboyantly drums and dances in Red Dragon Wings to an Afro Celtic Beat.

6

Page 7: Tafwyl 2013

Llwyfan Fach / Bandstand

HEATHER JONESWedi’i geni a’i magu yng Nghaerdydd, gan ddysgu Cymraeg fel ail iaith, mae Heather Jones wedi bod ar flaen y gad canu gwerin yng Nghymru yn y ddwy iaith ers y 70au. / Born and bred in Cardiff, Heather learnt Welsh as a second language, and has been at the forefront of Welsh folk singing in both languages since the 70s.

TRWBADORDeuawd o Sir Gaerfyrddin yn syfrdanu cynulleidfaoedd gyda’u cerddoriaeth pop hudolus. Yn ddiweddar, cafodd eu cerddoriaeth ei ddefnyddio ar hysbyseb Visit Wales 2013. / This duo from Camarthenshire astounds audiences with their quirky and enchanting pop music. Their song Red Handkerchiefs is the soundtrack to the Visit Wales 2013 advert.

Noddir gan Clwb Ifor Bach sponsored by Clwb Ifor Bach

7

Page 8: Tafwyl 2013

PluBrawd a dwy chwaer- Elan, Marged a Gwilym Rhys o ardal Eryri, yw Plu, yn chwarae cerddoriaeth gwerin amgen gyda dylanwadau o ganu gwlad ac americana. / Formed of sibling trio- Elan, Marged and Gwilym Rhys from Snowdonia, North Wales, the band play alternative folk music with hints of country/ americana.Cefnogir y perfformiad gan Ganolfan Mileniwm Cymru

This performance is sponsored by Wales Millennium Centre

SIDDIBrawd a chwaer, Branwen Haf ac Osian Huw, o lanuwchllyn yw Siddi, yn chwarae caneuon gwerin Cymraeg. Cafodd eu halbwm cyntaf, un Tro, ei ryddhau i ganmoliaeth fawr. / Siddi are brother and sister duo, Branwen Haf and Osian Huw, Welsh folk singers from Llanuwchllyn. Their first album, Un Tro, was released to great praise. Cefnogir y perfformiad gan Ganolfan Mileniwm Cymru This performance is sponsored by Wales Millennium Centre

CASI WYNYn wreiddiol o Fangor ac yn awr yn byw yn llundain, mae gan Casi’r gallu i syfrdanu cynulleidfaoedd gyda’i baledi pwerus i gyfeiliant ei phiano a’i gitâr acwstig. / With a performance and compositional style which calls to mind the great Joni Mitchell, expect a well-honed set of piano and acoustic guitar-led ballads from Casi. Cefnogir y perfformiad gan Ganolfan Mileniwm Cymru This performance is sponsored by Wales Millennium Centre

Bydd Ysgol Plasmawr, Ysgol Glantaf a Band Pres Dinas Caerdydd (Melin Gruffydd) hefyd yn perfformio’n gerddorol ar y llwyfan. / There will also be musical performances from Ysgol Glantaf, Ysgol Plasmawr and the City of Cardiff’s Brass Band (Melin Gruffydd).

8

Page 9: Tafwyl 2013

Cerdd / Music

Mae Ciwdod a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi creu amserlen liwgar a hynod swnllyd o weithdai a sesiynau cerdd!

Ymysg y sesiynau bydd gweithdy drymio Affricanaidd, sesiynau trafod cyfansoddi ar gyfer ffilm a’r cyfryngau, sesiynau ar dechnegau cynhyrchu, cyfle i jamio ar nifer eang o offerynnau a chyfle i ennill profiad o chwarae mewn band.

Bydd cyfle hefyd i greu eich offerynnau eich hun i fynd adref gyda chi, gan ddefnyddio deunyddiau sgrap ailgylchu.

Ciwdod and Coleg Cymraeg Cenedlaethol have created a lively and extremely noisy line-up of music activities and workshops!

There will be an opportunity to have a go at African drumming, a chance to discuss composing music for film and media, sessions advising on production techniques, jamming sessions on all manner of instruments, and even a chance to experience what it’s like to play in a band!

There will also be an opportunity for you to create your own instruments and take them home with you using recycled junk!

Noddir gan Coleg Cymraeg Cenedlaethol Sponsored by Coleg Cymraeg Cenedlaethol

9

Page 10: Tafwyl 2013

Llenyddiaeth / Literature

Bydd pabell llenyddiaeth Cymru yn llawn gweithgareddau, sesiynau a gweithdai llenyddol i blant, pobl ifanc a’r rhai hŷn!

Ymhlith yr awduron a’r beirdd talentog fydd lowri Cooke, Rhiannon Gregory a Bardd Plant Cymru 2013.Bydd Huw Aaron yn cynnal gweithdy dŵdlo, a bydd y digrifwr Daniel Glyn yn siarad gyda’r awduron ifanc llwyd Owen ac Euron Griffiths. Bydd Matthew Glyn yn cyflwyno ei addasiadau doniol o’r gyfres boblogaidd Jigi ap Sgiw, llyfrau sy’n apelio at y darllenydd 9-11 oed.

The Literature Wales Tent will be full of activities, sessions and literary workshops for children, young people and the older ones!

Amongst the talented authors and poets are Lowri Cooke, Rhiannon Gregory and the new Wales’ Children’s Poet 2013. Comedian Matthew Glyn will be presenting his humorous adaptation of the popular series Jiggy McCue, Huw Aaron will be holding a doodling workshop, and comedian Daniel Glyn will be chatting to two up and coming authors, Llwyd Owen and Euron Griffith.

Noddir gan Equinox CommunicationsSponsored by Equinox Communications

10

Page 11: Tafwyl 2013

Coginio / Cookery

Dewch i flasu caws, gwin, cwrw, cacennau a tapas Cymreig! Bydd sesiynau gan gynhyrchwyr a chogyddion amlycaf Cyrmu gan gynnwys Caws Cenarth , Blas ar Fwyd a Chwrw llŷn.

Eleni bydd cystadleuaeth ‘Bake Off’ arbennig i blant ac oedolion o bob oedran! Dewch a’ch cacennau draw gyda chi am gyfle i ennill gwobr arbennig. Ewch draw i’r wefan am fwy o wybodaeth. Mae modd cofrestru ar gyfer y sesiynau coginio a chystadleuaeth pobi Tafwyl ar wefan Menter Caerdydd www.mentercaerdydd.org

Come and taste a selection of Welsh cheeses, wine, ales, cakes and tapas! There will be sessions from some of Wales’ best known producers and chefs including Caws Cenarth and Cwrw Llŷn.

This year we will be holding our very own Tafwyl Bake Off for all ages, children and adults alike! Bring in your cakes for a chance to win a fabulous prize. Visit Menter Caerdydd’s website to register for the food and drink sessions and Tafwyl’s Bake-Off Competition www.mentercaerdydd.org

Noddir gan RondoSponsored by Rondo

11

Page 12: Tafwyl 2013

Dysgwyr / Learners TentBydd y babell Cymraeg i Oedolion yn llawn cyffro eleni gyda gwersi iaith am ddim, straeon i’r plant a chaffi ar gael trwy gydol y dydd. Bydd cyfle hefyd i ddysgu’r Anthem Genedlaethol gyda Chris Coleman!

Dewch i glywed lowri Haf Cooke yn sôn am ei blog a’i llyfr am Gaerdydd. Ymunwch â sesiwn holi ac ateb gyda dysgwyr ‘Dysgwr y Flwyddyn’ a dewch i ddathlu lansiad ein cwrs Blasu Rygbi newydd gyda phanel o enwogion chwaraeon. Bydd cyfle i gyfarfod a holi cast Pobol y Cwm hefyd! Dewch i sgwrsio gyda Ioan Talfryn, bydd yn rhannu tip neu ddau ac yn sôn am ei brofiadau yn dysgu ar gyfres boblogaidd S4C, Cariad@iaith. Cyfle hefyd i glywed am wasanaeth ar lein @tifiacyw, sydd yn arf i helpu rhieni sydd â phlant ifanc i ddysgu Cymraeg tra’n mwynhau rhaglenni Cyw. Ymunwch gyda ni ar ddiwedd y dydd gyda pherfformiad gan y Twrch Trwyth.

The Welsh for Adults Centre Tent will be full of excitement this year, with free Welsh lessons, stories for children and a café available all day. There will also be an opportunity to learn the Welsh National Anthem with Wales’s Football Manager, Chris Coleman!

Come and listen to Lowri Cooke discuss her blog and her guide to Cardiff. Join us for a q&a session with ‘Learner of the Year’ and come and celebrate the launch of our new course, Blasu Rygbi (Rugby Taster) with a panel of some sporting favourites. Come and meet some of the Pobol y Cwm cast and take part in a q&a session about the soap! Ioan Talfryn, will talk about his experiences on the popular S4C Series, Cariad@iaith. There will also be an opportunity to hear more about @tifiacyw – an online tool to help parents with young children to learn Welsh while enjoying the Cyw programmes. Join us at the end of the day for a dance session with the Twrch Trwyth dancers. The sessions will be suitable for learners of all levels.

Noddir gan S4CSponsored by S4C

12

Page 13: Tafwyl 2013

Chwaraeon / Sports Adran Chwaraeon yr urdd sydd yn cydlynu amserlen llawn dop o sesiynau pêl droed, rygbi, golff, trampolin, athletau a beicio. Bydd criwiau Cymdeithas Bêl Droed Cymru, undeb Rygbi Cymru a’r Gleision yno – dewch i ddweud helo!

The Urdd Sports Department are co-ordinating a full timetable of football, rugby, golf, trampoline, athletics and biking sessions – with the Football Association Wales, Welsh Rugby Union and Cardiff Blues coming to say hello and to run a few workshops.

Noddir gan Doodson SportsSponsored by Doodson Sports

13

Page 14: Tafwyl 2013

Cwtsh y Celfyddydauunwaith eto eleni, mae Canolfan Mileniwm Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru a Sherman Cymru wedi dod at ei gilydd i raglennu digwyddiadau i’r teulu cyfan ar faes Tafwyl. Ynghyd â sesiynau blas ar Sherbets Sherman, bydd gweithdai crefft, cerddoriaeth gan Trystan Griffiths a chyfle i’ch rhai bach gael cleisiau a chreithiau ffug i ddangos i’w ffrindiau gan arbenigwraig colur theatraidd. Bydd adloniant a chroeso mawr i bawb trwy gydol y dydd.

Once again this year, Wales Millennium Centre, Theatr Genedlaethol Cymru and Sherman Cymru will bring a programme of events for all the family to Tafwyl. There will be a Sherman Sherbets taster session, as well as craft workshops, music by Trystan Griffiths and an opportunity for your little ones to be adorned with fake grazes and bruises by a specialist theatrical make-up artist. There will be entertainment and a warm welcome for everyone throughout the day.

14

Page 15: Tafwyl 2013

Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Sain Ffagan / National Museum of Wales and St FagansGalwch heibio i weld y clocsiwr o Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru wrth ei waith ac i brofi rhai o gasgliadau byd natur a chelf o Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Bydd gweithgareddau celf a chrefft i’r holl deulu a chyfle i chi greu rhywbeth arbennig i fynd adref gyda chi.

Come on over to see a clog maker from St Fagan: National History Museum in action and to experience some of the natural history and art collections from the National Museum of Wales. There will be arts and crafts activities for the whole family and an opportunity to create something special to take home with you.

15

Page 16: Tafwyl 2013

Gweithdai Celf / Art WorkshopsDewch i gymryd rhan mewn gweithdai celf anffurfiol i ddysgu sgiliau newydd a chreu darn o gelf i fynd adref gyda chi. Gweithdai yn addas i blant ac oedolion o bob oedran! Bydd ffi bach am y deunyddiau.

• Gweithdy Crochenwaith- Cyfle i droi pot ar yr olwyn grochenwaith a chyfle i greu modelau clai â llaw• Gweithdy Cerfwedd plaster- Cyfle i greu cynllun 3D i gael ei lenwi a phlaster, ac yna ar ôl ei sychu, bydd cyfle i’w addurno a phaent.

Come along to take part in our art drop-in sessions, to learn new skills and to create something special to take home with you. The workshops will be available for both children and adults. There will be a small fee for materials.

• Pottery Workshop- An opportunity for you to have a go on the pottery wheel and to create clay figures by hand. • Plaster Moulding Workshop- Come and create your own 3D design to be filled with plaster, and then once dry, you will have the opportunity to decorate and paint your creation.

16

Page 17: Tafwyl 2013

Ysgolion / SchoolsYmunwch yn hwyl y Babell Ysgolion! Cewch eich diddanu gan gerddoriaeth, dramau a dawns! Yn ogystal â pherfformiadau gan ysgolion Cymraeg y ddinas bydd Côr Plant Caerdydd, criw Ffwrnais Awen a chriw Dawnsio Stryd Menter Caerdydd a’r urdd yn perfformio.

Cyflwynydd Stwnsh a Tara Bethan fydd yn arwain y sioe!

Come and join in the fun at the School’s Tent! A jam packed day of music, drama and dance! As well as performances by the city’s Welsh language schools, Cardiff’s Welsh Language Children’s Choir, Ffwrnais Awen

and Menter Caerdydd and the Urdd’s Street Dancing group will also be performing.

Tara Bethan and S4C’s Stwnsh presenter will be leading the show!

Noddir gan Bay ResourcingSponsored by Bay Resourcing

17

Page 18: Tafwyl 2013

Maes Chwarae / Play ZoneDewch draw i greu, chwarae a mwynhau!

- Gweithdai Celf a Chrefft Ail-Gylchu!- Gweithdai Sgiliau Syrcas a Trapîs gyda NoFit State!- Ardal Adeiladu Den!- Peintio Wynebau a Tatŵs!- Gemau Parasiwt! - Bocs Gwisgo Fyny!

Come on over to create, play and get messy!

- Recycled Arts and Crafts Workshops!- Circus skills workshops and Trapeze with NoFit State! - Den building! - Face painting and Tattoos! - Parachute Games! - Dressing up box!

Noddir gan S4CSponsored by S4C

18

Page 19: Tafwyl 2013

Ardal FeithrinNursery Area

Tipi Llyfrgelloedd Caerdydd Cardiff Libraries Tipi

I’r plant meithrin bydd gweithgareddau trwy gydol y dydd wedi eu cydlynu gan Mudiad Meithrin. Dewch i chwarae ar yr offer soft play ac i roi cwtsh mawr i Sali Mali, Ffransis a Hana! Cyfle i chi a’ch plentyn fwynhau mewn awyrgylch braf a hamddenol. / Mudiad Meithrin will be holding activities all day for toddlers. Come and play with the soft play equipment, and to give Sali Mali, Francis and Hana a great big hug! An opportunity for you and your child to enjoy in a relaxed and pleasant atmosphere!

Cyfle i chi ddarganfod beth sydd gan llyfrgelloedd Caerdydd i’w gynnig! Dewch i ymlacio yn ein tipi a brigbori drwy eich hoff lyfrau gyda’ch plentyn. Cyfle i ymuno a’r llyfrgell i ddechrau benthyg llyfrau yn syth. / An opportunity to find out what Cardiff Libraries have to offer! Relax in the tipi and browse through your favourite books. A chance to register with the Library and start borrowing books straight away!

19

Page 20: Tafwyl 2013

Gwyl Ifan

Bydd dawnswyr Gŵyl Ifan yn rhoi blas o`r ŵyl yn ystod Tafwyl trwy ddarparu gweithdai, perfformiadau a thwmpath ar y maes. / Gŵyl Ifan dancers will give you a little taste of their festival during Tafwyl, by offering folk dancing workshops, performances and a twmpath on the castle grounds.

Techniquest a Phrifysgol CaerdyddTechniquest and Cardiff University

Mae Techniquest a Phrifysgol Caerdydd yn falch o allu rhoi’r cyfle i ymwelwyr Tafwyl archwilio gweithgareddau rhyngweithiol yn eu harddangosfa fechan. Bydd yr arddangosfa yn rhoi’r cyfle i ddysgu am waith arloesol y Brifysgol ynghyd â chynnig gweithgareddau ymarferol i annog ymholi a datrys problemau mewn modd hwyliog a diddorol... Beth wnewch chi ei ddarganfod? / Techniquest and Cardiff University will offer Tafwyl visitors the opportunity to explore interactive activities in their science exhibition. The exhibition will give you an opportunity to learn about the innovative work that the University does, as well as offering hands on practical activities that are specially designed by Techniquest to encourage inquisition and problem solving, in a truly interesting and fun way... what will you discover?

^

20

Page 21: Tafwyl 2013

Cymdeithas Wyddonol Cylch Caerdydd

Stori CaerdyddCardiff Story

Nod y gymdeithas yw hyrwyddo trafodaethau gwyddonol trwy gyfrwng y Gymraeg. Dewch draw i’w stondin lle bydd amrywiaeth o weithgareddau i’ch herio a’ch difyrru! / The society’s aim is to promote the discussion of scientific subjects through the medium of Welsh. There will be plenty of activities throughout the day to challenge and excite you!

Dewch draw i ddysgu mwy am amgueddfa ddifyr ddiweddaraf Caerdydd, Stori Caerdydd. Dysgwch fwy am hanes prif ddinas Cymru a sut roedd trigolion y ddinas yn arfer byw! / Come along and find out about Cardiff’s coolest new museum, the Cardiff Story. Find out more about the history behind Wales’ Capital city and discover more about how Cardiffians used to live!

Bwth Lluniau ‘Guest Who’ ‘Guest Who’ Photo Booth

Stiwdio ffotograffiaeth unigryw yn darparu props hwyl a’r gallu i argraffu delweddau ar unwaith! / A unique mobile pop-up photography studio providing fun props and the ability to print out instant images!

21

Page 22: Tafwyl 2013

Cymdeithas yr Iaith

Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, y mudiad sydd yn ymgyrchu dros y Gymraeg a’i chymunedau, yn cynnig adloniant unigryw ar eu stondin. Os ydych chi eisiau byw yn Gymraeg, ewch draw! / Cymdeithas yr Iaith, the organisation that campaigns for the Welsh language and communities in Wales, will be offering entertainment all day at their stall. If you want to learn more about the Welsh language, come on over!

Dewch am daith o amgylch Parc Bute, dan arweiniad Dafydd Cadog. Cyfle i glywed mwy am hanes, natur a bwywd gwyllt y parc. Pawb i gwrdd yn y Pwynt Gwybodaeth am 14.30. / Join us for a guided tour by Dafydd Cadog [in Welsh] of Bute Park and its hidden history. To meet at the information point at 14.30.

Taith Parc ButeBute Park Tour

22

Page 23: Tafwyl 2013

Teithiau Castell CaerdyddCardiff Castle Tours

Dewch i ddarganfod 2000 mlynedd o hanes yng nghalon y ddinas. Ers i’r Rhufeiniaid gyrraedd, trwy Goncwest y Normaniaid i ddyluniad Fictorianaidd godidog - maent oll wedi gadael eu marc unigryw ar y Castell. Teithiau Cymraeg am bris gostynedig yn arbennig i Tafwyl. Tocynnau ar gael ar www.mentercaerdydd.org am £5 yn unig. / Discover 2000 years of history in the heart of the city. From the arrival of the Romans, through the Norman Conquest to lavish Victorian design − all have left their distinctive mark on the Castle. Welsh language tours at a special discounted price for Tafwyl. Tickets available through www.mentercaerdydd.org for only £5. Amseroedd y Teithiau / Tour Times12.30, 13.30, 14.30, 15.30, 16.30

23

Page 24: Tafwyl 2013

Stondinau / Stalls

Bydd stondinau celf a chrefft, nwyddau cartref, gemwaith, bwyd a diod, llyfrau a llawer mwy... Ymysg y stondinwyr mae Caws Cenarth, Katie Barrett, Y Gegin Fach, Janglerins, Rhiannon Art, Buddug, Cyfarchion, Peris + Corr, lora Wyn, Dyfal Donc, Craft in the Bay, Dylunio Draenog, Golwg, Sara lois, King and Kley, Silibili, Grasi, Y Dinesydd, Mirsi, Cwrw llyn, Caban, louise Clough, Sadwrn Cyf a Selar, Bodlon a Fiction Factory. / Art and crafts, home produce, jewellery, books and more… come over to see and spend! Stall holders include... Caws Cenarth, Katie Barrett, Y Gegin Fach, Janglerins, Rhiannon Art, Buddug, Cyfarchion, Peris + Corr, Lora Wyn, Dyfal Donc, Craft in the Bay, Draenog Designs, Golwg, Sara Lois, King and Kley, Silibili, Grasi, Y Dinesydd, Mirsi, Cwrw Llyn, Caban, Louise Clough, Sadwrn Cyf and Selar, Bodlon and Fiction Factory.

Bydd stondinwyr bwyd yn gwerthu cynnyrch ffresh, Cymreig, cyffrous! Bydd ardal street food gyda stondinau gan / A street food area will have all sorts of fresh Welsh produce:- Bangkok Cafe – Bwyd Thai / Thai Food- Got Beef – Byrgyrs Cig Eidion Cymreig / Gourmet Burgers- Arancini Co – Peli Risoto / Risotto Balls - The Welsh Creperie Co – Crempogau blasus melys a sawrus / Sweet and Savoury Crepes- Parsnipship – Bwyd llysieuol a Fegan / Vegetarian & Vegan Food- Blas ar Fwyd – Bwyd Pori Cymreig / Welsh Tapas Dishes- Caffi Tafwyl / Tafwyl Cafe - Paneidiau a chacennau / Afternoon tea’s, coffees, smoothies and cakes

Yn ogystal bydd dau far yn gwerthu amrywiaeth eang o gwrw, gwinoedd, gwirodydd a diodydd meddal. / There will also be 2 bars with a range of ales, lagers, wines, spirits and soft drinks.

24

Page 25: Tafwyl 2013

Cyffredinol

Cost - Mae mynediad i faes Tafwyl am ddim. Bydd rhai gweithdai/gweithgareddau yn codi ffi bach, ond mae rhan fwyaf o’r digwyddiadau am ddim. Os ydych am grwydro o amgylch y castell ei hun oddi ar faes Tafwyl bydd angen talu am docyn mynediad neu gwneud cais am ‘Allwedd Castell Caerdydd’ (gweler isod).Allwedd CAstell CAerdydd - Os ydych yn byw neu’n gweithio yng Nghaerdydd gallwch wneud cais am Allwedd Castell am un taliad o £5 yn unig sydd yna yn caniatáu mynediad am ddim i’r castell am 3 mlynedd. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw holi yn Swyddfa Docynnau’r Castell gyda thystiolaeth eich bod yn byw neu yn gweithio yng Nghaerdydd (mae bil treth gyngor neu lythyr gan eich cyflogwr yn gwneud y tro). Byddwch yn derbyn eich cerdyn Allwedd Castell gyda llun ID yn y fan a’r lle. Does dim angen i chi ddod â ffotograff gyda chi. Bwyd A diod – Ni chaniateir mynd ag alcohol eich hunain i’r castell. Ni chaniateir gwydr yn unrhyw ran o’r safle. Bydd rhaid i gwsmeriaid sydd o dan 18 oed adael safle’r ŵyl os canfyddir eu bod ag alcohol yn eu meddiant. PArCio – Ni fydd maes parcio arbennig ar gyfer

Tafwyl – ond mae sawl lle o amgylch y castell i barcio. Amseroedd - Bydd maes Tafwyl yn agor am 11.00, ac yn cau am 21.00. HygyrCHedd – Mae safle Tafwyl ei hun yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a rhieni gyda chadeiriau gwthio. Ceir toiledau i’r anabl ar y llawr cyntaf yn y caffi. Mae lifft ar gael i hebrwng ymwelwyr o’r llawr gwaelod i bob lefel, gan gynnwys y teras to. Am fanylion hygyrchedd gweddill safle’r castell ewch i www.CArdiffCAstle.Com

25

Page 26: Tafwyl 2013

General

Cost – Entrance is free to Tafwyl Fair. Some activities will charge a small fee but most activities are free. If you want to visit the castle grounds itself, away from the Tafwyl site, you will have to pay an entrance fee or make an application for a Cardiff Castle Key (see below). CArdiff CAstle Key – If you live or work in Cardiff you can apply for a Castle Key for a one off payment of £5 which then gives you free entry to the Castle for 3 years. All you need is to show evidence at the Ticket Office that you live or work in Cardiff (council tax bill or a letter from your employer is sufficient). You will receive your Castle Key card with an ID photo immediately. You don’t need to bring a photograph with you. food And drinK – No alcohol is allowed to be taken into the site. Glass is not allowed to be taken onto any part of the site. Customers who are under 18 years old will be asked to leave from the festival site if found in possession of alcohol. PArKing – There won’t be a special car park for Tafwyl – but there are plenty of car parks around the castle. times – Tafwyl Fair will open at 11.00 and close at 21.00.

ACCessiBility – Tafwyl site is completely accessible to wheel chair users and parents with pushchairs. Toilets for the disabled are on the first floor in the café. There is a lift to carry visitors from the ground floor to all levels, including the roof terrace. For accessibility details about the rest of the castle site visit www.CArdiffCAstle.Com

26

Page 27: Tafwyl 2013

Wythnos Tafwyl / Tafwyl WeekAm wythnos gyfan bydd rhaglen o weithgareddau amrywiol yn digwydd ar draws y ddinas. Mae rhywbeth i bawb gyda digwyddiadau yn amrywio o noson gomedi i gerddoriaeth byw, o deithiau hanes i weithgareddau i blant meithrin. Mehefin 14-21, 2013, lleoliadau Amrywiol

A week long programme of Welsh language activities which will take place across the city ranging from comedy, live music, history tours, Welsh learners events and nursery activities.

14-21 June, 2013, Various Locations

© Irfon Bennnett 27

Page 28: Tafwyl 2013

1/6/13 - 30/6/13

Arddangosfa Gelf Dros Dro Pop Up Art Exhibition Sefydlwyd Cyweithfa Celf Caerdydd yn 2012 gan grŵp o artistiaid, gwneuthurwyr a churaduron gyda’r nod o gynnig llwyfan ar gyfer arddangos a hyrwyddo celf. Cynhelir arddangosfa wedi ei drefnu gan y criw o waith artistiaid a chrefftwyr lleol mewn siop yng nghanol Caerdydd trwy gydol mis Mehefin. / Cardiff Arts Collective was established in 2012 by a group of like-minded artists, makers and curators. A pop up exhibition of their work will be held at a shop in central Cardiff during June. lleoliad / Location: I’w gadarnhau / To be confirmed Amser / Time: 10.00 – 17.00 www.cardiffartscollective.co.uk / @CdfArtsColl.

WYTHNOSTAFWYlWEEK

28

Page 29: Tafwyl 2013

8/6/13 - 10/6/13

Sioe Ffwrnais Awen / Ffwrnais Awen Show: Y Gwylliaid, Y Bonheddwr a’r Brain Be fyddai criw bach o Wylliaid Cochion yn ei wneud tasen nhw’n disgyn drwy dwll amser o 1549 i fis Awst 2012? Wel, dychryn yn rhacs ac yna gwneud eu gorau glas i gyrraedd ‘Cerrig yr Orsedd’ Eisteddfod y Fro, debyg iawn! Ond mae’r ffordd yn hir a’r Brain a’r Bonheddwr Mawr (a chas) yn gwneud popeth o fewn eu gallu i’w rhwystro rhag cyrraedd. “Diolch byth am ambell wrach, ‘Goth’ a chân i’w helpu ar y daith!” / What would a small band of ‘Wild little Redhaeads’ do if they were transported through time from the year 1549 to August 2012?! Firstly panic, secondly, try and find a way home probably! Like every tale has it’s twists the ‘Bonheddwr’ and his army of crows are on hand to make the journey back to the marches of Monmouth a tricky one.“Thank goodness for a Goth a Witch and the odd song and dance to get them through!”

lleoliad / Location: Sherman Cymru, Ffordd Senghennydd Amser / Time: 18.30Cost: £8 oedolion / adults - £6 dros 60, myfyrwyr a di waith / Over 60s, students and unemployed - £4 i blant o dan 12 / Children under 12Tocynnau ar gael o Swyddfa Docynnau Sherman / Tickets available from the Sherman Box Office - 02920 646 900

29

Page 30: Tafwyl 2013

14/06/13

Maffia Mr Huws + Y Bromas Gig agoriadol Gŵyl Tafwyl 2013 yng Nghlwb y Diwc gyda un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru yr 1980au, Maffia Mr Huws, ac enillwyr Brwydr y Bandiau 2012 C2, Y Bromas. / Tafwyl 2013’s opening gig with one of Wales’s most popular band of the 80’s, Maffia Mr Huws, supported by C2’s 2012 Battle of the Band Winners, Y Bromas. lleoliad / Location: Clwb y Diwc / Duke of Clarence48 Clive Road, Treganna | Amser / Time: 20.00Cost: £10 - Ar werth o Caban / On Sale at Caban

15/06/13

Ffair Tafwyl / Tafwyl FairGwybodaeth ar dudalennau 3-26 / Information on pages 3-26. lleoliad / Location: Castell Caerdydd / Cardiff Castle Amser / Time: 11.00 – 21.00 | Cost: AM DDIM! / FREE!

ClWB IFOR BACH YN CYFlWYNO / PRESENTS:

Yr Ods / R Seiliog / Y ReuDewch i ddathlu Penblwydd Clwb Ifor Bach yn 30 oed! Bydd Yr Ods, R Seiliog ac Y Reu yn perfformio yn y gig Gymraeg bythgofiadwy yma. / Come and celebrate Clwb Ifor Bach’s 30th Birthday! Performing at this historic gig will be Yr Ods, R Seiliog and Y Reu. lleoliad / Location: Clwb Ifor Bach, 48 Womanby St.Amser / Time: 21.00 Cost: £7Tocynnau ar werth o’r llefydd canlynol: / Tickets on sale from the following outlets: www.sadwrn.com Spillers Records

30

Page 31: Tafwyl 2013

16/06/13

Hwyl Sul y Tadau Father’s Day FunDewch â Dad draw i Sain Ffagan am ddiwrnod llawn hwyl – gyrru tractor, heboga a saethyddiaeth! / Bring Dad along to Sain Ffagan for a fun-packed day of tractor driving, falconry and archery! lleoliad / Location: Sain Ffagan / St Fagans Amser / Time: 11.00 – 15.00 | Cost: AM DDIM / FREE

Cwis Dafarn Y CornwallThe Cornwall Pub Quiz Cwis Menter Caerdydd yn arbennig ar gyfer Tafwyl. Cwestiynau cyffredinol yn addas ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dysgwyr. / Menter Caerdydd’s special Tafwyl pub quiz suitable for Welsh speakers of all levels and a great opportunity for learners to practise their Welsh.

lleoliad / Location: Tafarn y Cornwall Pub, Cornwall Street Amser / Time: 20.00 | Cost: £1 y person / per person

17/06/13

Amser Stori a ChânStorytime and SongsAmser stori a chân gyda chyflwynwyr Cyw! Croeso i blant 0-4 a’u rhieni i ymuno mewn sesiwn hwyliog sy’n rhad ac am ddim. / Storytime and songs with the Cyw Presenters and Fireman Sam! Suitable for children between 0-4 and their parents. Non Welsh speaking parents are welcome.

Noddir y digwyddiad gan / Sponsored by: Meithrinfa Miri Mawr Sesiwn 1 / Session 1: llyfrgell Ganolog Caerdydd, Yr Aes / Cardiff Central Library, The Hayes Amser / Time: 10.30 – 11.30

Sesiwn 2 / Session 2: llyfrgell Ganolog Caerdydd, Yr Aes / Cardiff Central Library, The HayesAmser / Time: 13.30 – 14.30

Cost: AM DDIM / FREE

31

Page 32: Tafwyl 2013

17/06/13

Clonc yn y Cwtsh Wyt ti’n dysgu Cymraeg? Dere i Clonc yn y Cwtsh – cyfle i ymarfer dy Gymraeg gyda dysgwyr eraill. Croeso i bawb! / Are you learning Cymraeg? Come and join us for a drink in Clonc yn y Cwtch! A great chance to practise your Welsh with other learners. lleoliad / Location: Chapter, Heol y Farchnad, Treganna / Market Rd, Canton | Amser / Time: 18.30 - 20.00Cost: Am Ddim / Free

18/06/13

Bore Coffi i Ddysgwyr gyda Gwesteion Arbennig / Welsh Learners Coffee Morning Bydd gwesteion arbennig yn ymuno â chriw bore coffi Y Mochyn Du i gael paned a sgwrs hwylus! Cyfle i wrando a holi ambell gwestiwn i’r gwesteion a chyfle i gwrdd â chyd-ddysgwyr o bob lefel. / Special guests will be visiting the Welsh Learners Coffee Morning for a cuppa and a friendly chat! A chance to meet fellow learners and take part in a question and answer session with the guests.

lleoliad / Location: Mochyn Du, Sophia Gardens Amser / Time: 11.00 - 12.30 | Cost: Am Ddim / Free

32

Page 33: Tafwyl 2013

18/06/13

Taith Natur i Ddysgwyr Welsh Learners Nature TourDewch i ddysgu mwy am y natur o amgylch Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Pharc Bute. Pawb i gwrdd yn y brif neuadd am 13.00. Cyfle hefyd i ymarfer eich Cymraeg wrth grwydro. / Come and learn more about the wildlife and nature around The National Museum and Bute Park. Meet in the main hall at 13.00. An opportunity to practice your Welsh too!

lleoliad / Location: Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Parc Cathays / National Museum of Wales, Cathays ParkAmser / Time: 13.00 | Cost: Am Ddim / Free

18/06/13

Pwy Sydd Tu ôl i’r Drws? Who’s Behind the Door?Bydd rhaid ymddwyn yn dda os galwch draw i Ysgol Maestir heddiw os yw’r Feistres ysgol Fictorianaidd yna! Sesiwn dehongli sy’n addas ar gyfer plant ac oedolion. / You will have to be well behaved if you call over to Maestir School today – the Victorian School Mistress is in! Interpretation session suitable for adults and children.

lleoliad / Location: Sain Ffagan / St Fagans Amser / Time: 11.00 – 13.00 + 14.00 - 16.00Cost: Am Ddim / Free

33

Page 34: Tafwyl 2013

18/06/13

Noson Gomedi GigL Comedy Evening - GigL Cyfle i chi weld rhai o gomediwr newydd, mwyaf disglair a digrif Cymru mewn noson arbennig. Gyda: Steffan Alun, Frank Honeybone, Noel James, Dan Thomas, Huw Marshall ac Alun Saunders. / A chance to see some of Wales’s best comedians in a special evening with Steffan Alun, Frank Honeybone, Noel James, Dan Thomas, Huw Marshall and Alun Saunders. lleoliad / Location: Chapter, Heol y Farchnad, Treganna / Market Rd, Canton | Amser / Time: 20.00 (drysau/doors 19.30) | Cost: £6

Tocynnau ar gael o Swyddfa Docynnau Chapter / Tickets available from Chapter Box Office - 029 2030 4400

Noddir y digwyddiad comedi gan S4CComedy Event sponsored by S4C

19/06/13

Helfa Drysor Cymdeithas Carnhuanawc / Historical Treasure HuntHelfa Drysor hanesyddol yng nghanol y ddinas dan arweiniad Keith Bush. Croeso i bawb ymuno ag aelodau’r gymdeithas sy’n coffau bywyd a gwaith Thomas Price (Carnhuanawc). / Walking Treasure Hunt around Cardiff under the guidance of Keith Bush. Clues in form of rhymes. Join members of the society which commemorates the life and work of Thomas Price (Carnhuanawc) on this fun historical event. (www.carnhuanawc.org).

lleoliad / Location: Cyfarfod wrth ddrysau’r llyfrgell Ganolog, Yr Aes, Caerdydd / To start in front of Cardiff Central Library, The Hayes | Amser / Time: 18.30Cost: Am Ddim / Free

34

Page 35: Tafwyl 2013

19/06/13

Gig Cwpwrdd Nansi Dod a’r gorau o’r byd gwerin yng Nghymru i’ch clustiau chi yw nod criw Cwpwrdd Nansi. Yn perfformio y tro hyn bydd y ddeuawd hynod ddawnus mam-a-merch DnA – Delyth ac Angharad Jenkins. Bydd sesiwn werin i gloi’r noson, felly dewch a’ch offerynnau gyda chi! / Bringing you the best of Welsh folk music! Cwpwrdd Nansi is a monthly folk night at Gwdihŵ with the best of contemporary folk music from Wales and beyond. A very special evening of music and song by the hugely talented mother-and-daughter duo DnA - Delyth and Angharad Jenkins. There will be a folk jamming session to end the night so bring your instruments with you!

lleoliad / Location: Gwdihw, 6 Guildford CrescentAmser / Time: 19.30 | Cost: £5

20/06/13

Pwy Sydd Tu ôl i’r Drws? / Who’s Behind the Door?Dŵr tap, toiledau sy’n fflysio, trydan a gwres canolog. Dewch i weld sut y cafodd bywyd menywod yn y cartref eu trawsnewid yn y Prefab ôl-rhyfel. Sesiwn dehongli yn addas i blant ac oedolion. / Running water, flush toilets, electricity and central heating. Come and see how the lives of women in the home were transformed in the post-war Prefab Interpretation session suitable for adults and children.

lleoliad / Location: Sain Ffagan / St Fagans Amser / Time: 11.00 – 13.00 + 14.00 - 16.00Cost: Am Ddim / Free

35

Page 36: Tafwyl 2013

20/06/13

Gemau Bwrdd i Ddysgwyr Board Games for Welsh Learners Sesiwn yn cynnig cyfle gwych i ddysgwyr ymarfer eu hiaith mewn awyrgylch hwylus, hamddenol a chyfeillgar. Croeso cynnes, coffi a gwobrau! / A great opportunity for Welsh learners to practice their Welsh in a friendly, relaxed and fun atmosphere. A warm welcome, prizes, and coffee guaranteed!

lleoliad / Location: llyfrgell Ganolog Caerdydd, Yr Aes / Cardiff Central Library, The HayesAmser / Time: 14.00 - 16.00 | Cost: Am Ddim / Free

20/06/13

Clonc a Choctels Cwlwm – Grwp Busnes Caerdydd / Cwlwm Cocktails – Cardiffs’s Welsh Business GroupYmunwch â ni am goctel a lluniaeth ysgafn yn Jolyons! Cyfle i drafod, mwynhau a chwrdd ag eraill sy’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifddinas. Croeso i aelodau Cwlwm Busnes a’u gwesteion. / An opportunity to meet others who enjoy working through the medium of Welsh in the capital. Welcome to Cwlwm Busnes members and their guests. Join us for cocktails and light refreshments!

lleoliad / Location: Jolyons No 10, Heol y Gadeirlan / Cathedral Road | Amser / Time: 18.00Cost: Am Ddim / Free

36

Page 37: Tafwyl 2013

20/06/13

Criw drama ‘Protest Fudr’‘Dirty Protest’ Theatre Dirty Protest yn cyflwyno...Protest Fudur. Chwech awdur, chwech drama fer, un thema. Noson o sgwennu newydd gan rhai o sgwennwyr mwyaf cyffrous y ddinas ac yn cyflwyno un sgwennwr hollol newydd yn ‘popio ei geirios’! / Dirty Protest presents....Protest Fudur! Six authors, six plays, one theme. An evening of new writing by some of the city’s most exciting writers and one entirely new writer will be popping his cherry!

lleoliad / Location: Porters Bar, Cwrt Harlech / Harlech CourtAmser / Time: 20.00 | Cost: £5

Am fwy o wybodaeth / For more information - www.dirtyprotesttheatre.co.uk [email protected]

21/06/13

Awn am Dro gyda Sali Mali a Hei di Ho / “Awn am Dro” with Sali Mali & Hei di HoCyfle i chi a’ch teulu fynd am dro o amgylch Sain Ffagan yng ngwmni Sali Mali a Hei Di Ho. Cofiwch ddod a phicnic gyda chi! / Join us for a stroll around St Fagan with Sali Mali and Hei di Ho. A lovely day out for the family. Remember your picnic!

lleoliad / Location: Sain Ffagan / St Fagans Amser / Time: 11.00 | Cost: Am Ddim / Free

37

Page 38: Tafwyl 2013

21/06/13

Dw i Eisiau Stori! I want a story!Sesiwn anffurfiol i annog rhieni sy’n dysgu Cymraeg i ddarllen gyda’u plant. / Welsh storytime for parents and pre-school children who want to learn Welsh together, run by tutors from the Welsh for Adults Centre.

lleoliad / Location: Stori Caerdydd, Yr Aes / Cardiff Story, The Hayes | Amser / Time: 13.30 - 14.30Cost: Am Ddim / Free

21/06/13

Cystadleuaeth Cymdeithas Golff y Ddinas / Cardiff’s Welsh Golf Society CompetitionCystadleuaeth golff i Barau / Golf Competition for Pairs

lleoliad / Location: Clwb Golff Radur, Ffordd Drysgol, Radur / Radyr Golf Club, Drysgol Road, RadyrAmser / Time: Parau i gychwyn rhwng 16.30- 17.30 / Pairs to tee-off between 16.30- 17.30

Manylion pellach gan Wyn Mears / For more information contact - Wyn Mears – [email protected]

38

Page 39: Tafwyl 2013

21/06/13THEATR IEuENCTID CAERDYDD YN CYFlWYNO / PRESENT:

Newid / Change 1 ysgol. 5 diwrnod. 1 coridor. Cipolwg ar beth sy’n mynd ymlaen ar hyd coridorau’r ysgol drwy lygaid grwp o bobl ifanc yn eu harddegau. Mae Theatr Ieuenctid Caerdydd yn cael ei drefnu gan Menter Caerdydd a Sherman Cymru. / 1 school. 5 days. 1 corridor. Take a look at what goes on in school corridors through the eyes of a group of teenagers. Theatr Ieuenctid Caerdydd is a Welsh language youth theatre group run in partnership between Menter Caerdydd and Sherman Cymru

lleoliad / Location: Sherman Cymru, Ffordd Senghennydd / Senghennydd Road Amser / Time: 18.30Cost: £5 oedolion / adults - £3 Plant o dan 18 a Myfyrwyr / Children (Under 18) and Students

Tocynnau gan Menter Caerdydd / Tickets available before hand through Menter Caerdydd: [email protected] / 02920 689 888

21/06/13

Bragdy’r BeirddErs 2011 mae Bragdy’r Beirdd wedi bod yn diwallu syched cyhoedd Caerdydd gyda chyfuniad o farddoniaeth a cherddoriaeth gorau’r genedl yn un o leoliadau mwyaf unigryw Caerdydd, y Rockin’ Chair yng Nglan yr Afon. Beirdd, perfformwyr a DJs bydd yn ychwanegu blas Cymreig at naws Caribïaidd y Rockin’ Chair. / Bragdy’r Beirdd’ offer a combination of poetry and music evenings in one of Cardiff’s most unique locations, the Rockin’ Chair. Guest poets, performers and DJ’s will entertain the audience and bring some Welsh flavour to the Caribbean spirit of the Rockin’ Chair.

lleoliad / Location: Rockin’ Chair, 62-64 lower Cathedral Road, Glan yr Afon / Riverside Amser / Time: 20.00Cost: Am Ddim / Free

39

Page 40: Tafwyl 2013

Swica 11.15-11.45

Cyw 12.00-12.30

Stwnsh 12.45-13.15

Ennillwyr BYB - Y Ffug 13.30-14.00

Gwyllt - 14.20-14.50

Huw Chiswell 15.10-15.50

Colorama 16.10-16.50

Cowbois Rhos Botwnnog 17.10-17.50

Candelas 18.10-18.40

Swnami 19.00-19.30

Geraint Jarman 20.00-21.00

Band Pres Dinas Caerdydd (Melin Gruffydd) Brass Band 12.20-12.50

Ysgol Plasmawr 13.10-13.40

Ysgol Glantaf 14.00-14.30

Casi Wyn 14.50-15.20

Siddi 15.40-16.20

Trwbador 16.40-17.10

Plu 17.30-18.10

Heather Jones 18.30-19.15

11.30 – 12.30 Matthew Glyn a Jigi ap Sgiw

Bardd Plant Cymru 12.30-13.30

Huw Aaron- Gweithdy Cartwns / Cartoon Workshop 13.30-15.00

Rhiannon Gregory 15.15-15.45

Llwyd Owen + Euron Griffith 16.00-17.00

Lowri Cooke 17.00-17.30

11.00

11.30

12.00

12.30

13.00

13.30

14.00

14.30

15.00

15.30

16.00

16.30

17.00

17.30

18.00

18.30

19.00

19.30

20.00

20.30

21.00

Prif lwyfAn / mAin stAge llwyfAn fACH / BAndstAnd llenyddiAetH / literAture Cerdd / musiC Coginio / CooKery dysgwyr / welsH leArnersff

Air

tAfw

yl /

tAfw

yl fA

ir 1

5.6.

13

Page 41: Tafwyl 2013

Prif lwyfAn / mAin stAge llwyfAn fACH / BAndstAnd llenyddiAetH / literAture Cerdd / musiC Coginio / CooKery dysgwyr / welsH leArners

Gweithdy Coleg Cymraeg Cenedlaethol Workshop 12.00

Gweithdy Coleg Cymraeg Cenedlaethol Workshop 13.00

Drymio Affricanaidd / African Drumming 14.00

Drymio Affricanaidd / African Drumming 15.00

Gweithdy Band Workshop 16.00

Gweithdy Band Workshop 17.00

Canlyniadau’r Bake-Off Results 12.00

Elliw Gwawr- Paned a Chacen 13.00

Ant Evans - Byw, Bywyd Bwyd Ant 14.00

Blasu Cwrw gyda / Welsh Ale tasting with Cwrw Llyn 15.00

Blasu Gwin a Chaws / Cheese and Wine Tasting - Caws Cenarth 16.00

Welsh Tapas Cymreig - Sian Roberts 17.00

Blasu Gwin o Gymru a Phatagonia / Welsh and Patagonian Wine Tasting 18.00

Côr Ysgol Y Wern Choir- 11.30-12.00

Blas ar y Gymraeg / Taster Session 12.00-12.30

Ymarfer eich Cymraeg / Practice your Welsh + Amser Stori / Story Time @tifiacyw 12.30-13.00Sesiwn Cwestiwn ac Ateb Chwaraeon/Sports Q&A with JPR Williams 13.15-14.00Dysgwr y Flwyddyn / Welsh Learner of the Year 14.00-15.00

Dysgu’r anthem gyda Chris Coleman / Welsh National Anthem with Chris Coleman 15.00-15.30Lowri Cooke 15.30-16.00Sesiwn Cwestiwn ac Ateb Cast Pobol y Cwm Crew Q&A Session 16.00-16.30

Ioan Talfryn Cariad@iaith 16.30-17.15

Twrch Trwyth 17.15-18.00

Page 42: Tafwyl 2013

CHwArAeon / sPorts ysgolion / sCHools CwtsH y CelfyddydAu

Cymdeithas Bêl-droed Cymru / FAW 11.30-12.30

Y Gleision / Cardiff Blues12.30-13.30

Beicio Cymru / Welsh Cycling 13.30- 14.30

Ras Mascots / Mascot Race 14.30-14.40Cymdeithas Bêl-droed Cymru / FAW 14.40-15.40Y Gleision / Cardiff Blues 15.40-16.40

Beicio Cymru / Welsh Cycling 16.40-17.40

Chwaraeon Yr Urdd Sports 17.40-18.00

12.00 : Ysgol Y Berllan Deg 12.20 : Ysgol Y Wern 12.40 : Ysgol Bro Eirwg a Pen y Pil13.00 : Ysgol Coed Y Gof 13.20 : Ysgol Pwll Coch13.40 : Ysgol Nant Caerau14.00 : Ysgol Glan Morfa14.20 : Ysgol Pen Y Groes14.40 : Ysgol Glan Ceubal 15.00 : Ysgol Melin Gruffudd 15.20 : Ysgol Treganna a Ysgol Tan yr Eos 15.40 : Ysgol Mynydd Bychan16.00 : Ysgol Pencae16.20 : Ysgol Creigiau16.40 : Bro Edern17.00 : Dawnsio Stryd / Street Dancing17.20 : Ffwrnais Awen17.40 : Côr Plant Caerdydd

Sherman Sherbets 11.15-12.00

Trystan Griffiths 12.15-12.45

Sesiwn crefftau / Arts and Crafts Session 12.45-16.45

Colur Effaith Arbennig / Special Effects Make-Up - Trwy’r dydd / All Day

11.00

11.30

12.00

12.30

13.00

13.30

14.00

14.30

15.00

15.30

16.00

16.30

17.00

17.30

18.00

18.30

19.00

19.30

20.00

20.30

21.00

Page 43: Tafwyl 2013

NODDWYR / SPONSORS

PARTNERIAID & CHEFNOGWYR / PARTNERS & SuPPORTERS

Page 44: Tafwyl 2013