Summer Newsletter 2012 Welsh Version

4
Croeso i rifyn cyntafCylchlythyr Cyn-ysgol Iach Abertawe. Bydd hwn yn gyhoeddiad chwarterol a anfonir i bobl lleoliad cyn-ysgol i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd yn lleol. Lansiwyd y Cynllun Cyn-ysgol Iach yng Nghanolfan Ddatblygu Richard Ley ar 21 Chwefror 2012. Nod y lansiad oedd cynyddu ymwybyddiaeth lleoliadau cyn-ysgol a sefydliadau partner o’r Cynllun Cyn- ysgol Iach. Bu’r lansiad yn llwyddiannus, gyda mwy na 30 lleoliad cyn-ysgol yn mynegi diddordeb yn y cynllun. Diolch yn fawr i bawb a ddaeth; y gwesteion a’r siaradwyr. Sefydlwyd gwefan y Cynllun Cyn- ysgol Iach yn ddiweddar, ewch i: http://www.swansea.gov.uk/index.c fm?articleid=49220 Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth am y saith pwnc a gynhwysir yn y Cynllun Cyn-ysgol Iach. Mae’r wefan hefyd yn cynnwys dolenni i wefannau defnyddiol â gwybodaeth am faterion iechyd. Mae’n ffordd wych o rannu arferion da gyda lleoliadau cyn-ysgol eraill a dathlu eu gwaith caled a’u cyflawniadau. Bob chwarter byddwn yn anfon e-bost atoch yn gofyn am wybodaeth gan bob lleoliad cyn-ysgol sydd eisiau ymddangos yn y cylchlythyr. Efallai y bydd rhai rhifynnau yn canolbwyntio ar thema benodol, fel y rhifyn hwn, sy’n canolbwyntio ar rannu arferion da gydag eraill. Rhifyn 1 Haf 2012

description

summer newsletter healthy preschool scheme 2012 welsh version

Transcript of Summer Newsletter 2012 Welsh Version

Page 1: Summer Newsletter 2012 Welsh Version

Croeso i rifyn cyntaf…

Cylchlythyr Cyn-ysgol Iach Abertawe. Bydd hwn yn gyhoeddiad chwarterol a anfonir i bobl lleoliad cyn-ysgol i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd yn lleol.

Lansiwyd y Cynllun Cyn-ysgol Iach yng

Nghanolfan Ddatblygu Richard Ley ar 21

Chwefror 2012.

Nod y lansiad oedd cynyddu

ymwybyddiaeth lleoliadau cyn-ysgol a

sefydliadau partner o’r Cynllun Cyn-

ysgol Iach.

Bu’r lansiad yn llwyddiannus, gyda mwy

na 30 lleoliad cyn-ysgol yn mynegi

diddordeb yn y cynllun.

Diolch yn fawr i bawb a ddaeth; y gwesteion a’r siaradwyr.

Sefydlwyd gwefan y Cynllun Cyn-ysgol Iach yn ddiweddar, ewch i:

http://www.swansea.gov.uk/index.c

fm?articleid=49220 Mae’r wefan yn cynnwys

gwybodaeth am y saith pwnc a gynhwysir yn y Cynllun Cyn-ysgol

Iach. Mae’r wefan hefyd yn cynnwys dolenni i wefannau defnyddiol â gwybodaeth am

faterion iechyd.

Mae’n ffordd wych o rannu arferion da

gyda lleoliadau cyn-ysgol eraill a dathlu eu gwaith caled a’u cyflawniadau. Bob

chwarter byddwn yn anfon e-bost atoch yn gofyn am wybodaeth gan bob lleoliad cyn-ysgol sydd eisiau ymddangos yn y

cylchlythyr. Efallai y bydd rhai rhifynnau yn canolbwyntio ar thema benodol, fel y

rhifyn hwn, sy’n canolbwyntio ar rannu

arferion da gydag eraill.

Rhifyn 1 Haf 2012

Page 2: Summer Newsletter 2012 Welsh Version

Bydd y gemau gweithredu yn

ddefnyddiol iawn, ac rwy’n

gwybod y bydd y plant yn eu

mwynhau yn fawr

Cynhaliwyd Hyfforddiant Traed Prysur yng Nghanolfan Richard Ley ar 23 Ebrill 2012. Darparwyd yr hyfforddiant er mwyn

cynyddu hyder i ddarparu gweithgareddau corfforol mewn lleoliadau cyn-ysgol.

Roedd y sesiwn yn cynnwys arddangosiadau gweithgarwch corfforol a

gweithgareddau gyda bwyd. Roedd potiau drewllyd, gemau cyffwrdd a chreu delweddau gyda gweddillion bwyd

hefyd yn rhan o’r gweithgareddau.

Roedd y gweithgareddau

corfforol yn gwneud i ni

feddwl o ddifrif am sut y

gallem ddefnyddio’r pecyn

gyda’r plant yn ein lleoliad

Page 3: Summer Newsletter 2012 Welsh Version

Mae Dechrau’n Deg Waun Wen

yn gwneud gwaith ardderchog

gyda’r Plât Bwyta’n Iach.

Edrychwch ar gynnwys siwgr y losin a’r diodydd gwahanol!!

Dysgu sut i frwsio fy nannedd, diolch i Cynllun Gwên

Page 4: Summer Newsletter 2012 Welsh Version

Isod mae rhai sylwadau o’r ffurflenni gwerthuso:

“Mwynhaom ni’n dau, ac mae fy mhlentyn yn

bwyta ffrwythau gwahanol ar ôl eu treial yma”

“Rwyf i a fy mhlentyn wedi mwynhau popeth

am y cwrs”

“Rydym ni’n dau wedi mwynhau’r cwrs ac mae

wedi rhoi syniadau i mi eu ceisio adref”

Mae hwn yn syniad gwych i leoliadau sy’n gallu darparu sesiynau rhieni!!

Os nad ydych yn gallu darparu sesiynau

rhieni, efallai y byddai anfon ryseitiau

gartref neu gynnwys rysáit mewn cylchlythyr neu ar hysbysfwrdd yn ffordd

neis o anfon negeseuon gartref am y gwaith rydych chi’n ei wneud yn eich

lleoliadau.

Yn Dechrau’n Deg

Pentrechwyth rydym wedi bod yn cynnal sesiynau

coginio 6 wythnos i rieni a phlant bach wedi’u seilio ar hwyl, bwyd a chwarae actif

i blantos bach!!

Wythnos Caru Parciau 21/07/2012 - 29/07/2012

Wythnos Genedlaethol Gordewdra Plant 05/07/2012 - 11/07/2012

Wythnos Bwydo ar y Fron 01/08/2012 - 07/08/2012

Wythnos Genedlaethol y Teulu 25/08/2012 - 31/08/2012

Catrin Jones, Ymarferydd Cyn-ysgol Iach 01792 607375

[email protected]

Tîm Iechyd y Cyhoedd ABM Llawr 12, Canolfan Oldway, 36 Stryd y Berllan,

Abertawe SA1 5AW