Stori Sydyn 2015

6
@storisydyn2015  •  @quickreads2015  •  www.darllencymru.org.uk  Ar gael mewn siopau llyfrau, ar-lein a llyfrgelloedd. gwales.com LLYFRAU AR-LEIN BOOKS ON-LINE Troi tudalen newydd

description

Cylchgrawn Stori Sydyn 2015 yn cynnwys erthyglau difyr am yr holl lyfrau Stori Sydyn Cymraeg sy'n cael eu cyhoeddi eleni.

Transcript of Stori Sydyn 2015

Page 1: Stori Sydyn 2015

      @storisydyn2015  •  @quickreads2015  •  www.darllencymru.org.uk 

Ar gael mewn siopau llyfrau, ar-lein a llyfrgelloedd. gwales.comLLYFRAU AR-LEIN BOOKS ON-LINE

Troi tudalen newydd

Page 2: Stori Sydyn 2015

Llyfrau byr

    Ysb

ryd

Roedd llawer o straeon trist iawn am y milwyr oedd wedi ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Un o’r rhai oedd wedi gwneud argraff ar Gwyn Jenkins oedd stori’r Preifat Emlyn Davies, mab fferm o lannau afon Hafren rhwng Croesoswallt a’r Trallwng.

Dyma oedd disgrifiad Emlyn Davies o frwydr Coedwig Mametz ym mis Gorffennaf 1916 – adeg lladd mwy na 900 o filwyr o Gymru .

“Gwelodd y ‘cyrff rhwygedig mewn caci neu lwyd; cyrff wedi’u dryllio, pennau ac aelodau toredig; darnau o gnawd yn hongian ar foncyffion; Ffiwsilwr yn gorwedd ar dwmpath a gwaed yn diferu o anaf yn ei wddf a achoswyd gan fidog; aelod o Gyffinwyr De Cymru ac Almaenwr mewn cofleidiad marwol – roeddent wedi trywanu’i gilydd gyda’u bidogau ar yr un eiliad. Gynnwr Almaenig gyda’i ên wedi’i saethu ffwrdd yn gorwedd ar ei wn peiriant a’i fys yn dal ar y glicied’.”

Cyrff yn ddarnau, dau elyn yn gorwedd ym mreichiau ei gilydd bron

a phethau mwy dychrynllyd wedyn ...

Dyna rai o’r pethau yr oedd pobl o Gymru’n eu gweld mewn caeau yn Ffrainc a Gwlad Belg tua 100 mlynedd yn ôl.

Mae pawb yn gwybod am ran y Cymro Lloyd George yn arwain gwledydd Prydain adeg y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ond roedd straeon yr un mor bwysig gan filoedd ar filoedd o Gymry cyffredin a llawer wedi bod yn ymladd yng nghanol y mwd a’r glaw yn y ffosydd.

Nawr, a ninnau’n cofio 100 mlynedd ers y rhyfel yn 1914-18, mae dau ddyn, Gwyn Jenkins a Gareth William Jones, wedi casglu straeon

rhai o’r Cymry oedd yn ymladd ac wedi adrodd eu hanes yn Cymry a’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae’r llyfr yn dweud beth oedd yn digwydd yn y rhyfel wrth iddo fynd yn ei flaen ond mae Gwyn Jenkins yn mynnu mai straeon y milwyr unigol sy’n bwysig.

“Roedden ni’n ceisio adrodd hanes y Rhyfel Byd Cyntaf yn bennaf drwy hanes pobl o Gymru – milwyr a llongwyr,

meddygon a nyrsys, heddychwyr ac yn y

blaen,” meddai. “Fe wnaethon ni ganolbwyntio ar ddynion a

merched cyffredin yn hytrach na phobl enwog.”

Mae Gwyn Jenkins yn hanesydd, ac mae eisoes wedi sgwennu llyfr llawer mwy am hanes Cymry yn y rhyfel.

Gyda help Gareth William Jones, mae wedi casglu llawer o’r straeon mwyaf diddorol a mwyaf pwysig ar gyfer y llyfr newydd.

Newydd!

    Ysb

ryd

yn

y

    Ysb

ryd

yn

y

Page 3: Stori Sydyn 2015

Dydy’r stori yn y llyfr newydd Bryn y Crogwr ddim yn wir – fyddwch

chi’n falch o glywed!Ond mae’r syniad wedi dod

o le go iawn. Mae Bryn y Crogwr yn bod. Roedd pobl ddrwg yn arfer cael eu crogi yno.

Yr enw oedd wedi rhoi’r syniad i’r awdures Bethan Gwanas am ei stori newydd - stori dyn torri coed o’r enw Cai, sydd yn cael profiadau arswydus ar ôl dod ar draws hen goeden dderwen o gyfnod Owain Glyndw r.

Mae ysbryd dyn o’r enw Rhys Fychan, oedd yn byw yn oes Owain Glyndw r, yn creu trafferth i Cai.

Roedd Bethan Gwanas wedi mwynhau sgrifennu am y dyn

torri coed, meddai, yn ogystal ag edrych i mewn i’r hanes mewn un

pentref bach.“Mae yna awgrym bod

enw pentref Darowen ger Machynlleth yn

deillio o goed

derw Owain Glyndw r,” meddai’r awdures.

“Felly wnes i ddilyn hwnnw a ffeindio bod yna le go iawn o’r

enw Bryn y Crogwr, ac o fanno cafodd y stori ei chreu.”

“Mae Rhys Fychan yn y stori yn un o ffrindiau gorau Owain Glyndw r,” meddai Bethan.

“Ond wedyn mae’n cael bai ar gam am fradychu Owain ac achosi iddo golli castell Aberystwyth, ac felly yn cael ei grogi.”

Ganrifoedd yn ddiweddarach, mae Cai wrthi’n torri derwen pan mae’n deffro ysbryd Rhys Fychan. A dyna pryd y mae’r drafferth yn dechrau!

“Mae Cai yn poeni’n ofnadwy am beth sy’n digwydd iddo, achos mae Rhys Fychan fel tasa fo’n mynd fewn i’w gorff o,” meddai Bethan.

“O achos hynny mae Cai’n gwneud pethau na fydda fo byth yn meddwl eu gwneud – fel trio lladd ei fos!”

    Ysb

ryd

Bryn y bechgyn

Mae Bryn y Crogwr yn debyg o apelio i fechgyn a dynion ifanc – yn ddigon tebyg i un o lyfrau mwyaf poblogaidd Bethan Gwanas, Llinyn Trons.

“Dw i’n gwybod be mae hogiau ifanc yn licio’i ddarllen, ac mae angen ychydig bach o hiwmor a bod ychydig bach yn fentrus,” meddai.

“Mae pawb yn tueddu i hoffi darllen am bobl sy’n hy n na nhw. Mae Cai yn goediwr, wedi gadael ysgol, mae ganddo fo gariad ac mae o’n byw efo hi.

“Ac mae’n licio mynd allan i yfed, chwarae darts, a gwneud pethau gwirion.”

goed

Bethan x 3Roedd hi’n arfer chwarae

rygbi – a dyna beth wnaeth arwain at ei llyfr mwya’ enwog, Amdani!

Roedd ei llyfr cynta’n dweud ei stori hi ei hun yn gweithio

yn Nigeria.Mae hi’n licio gwrachod!

yn

y

Newydd!

e n

    Ysb

ryd

goed

yn

ye n

    Ysb

ryd

goed

yn

ye n

Y stori

Page 4: Stori Sydyn 2015

Llyfrau bachog

Seiclo yn Gymraeg

Dirgelwch y brodyr o AberdârOs ydy Geraint Thomas a Nicole Cooke yn enwog, nid nhw ydy’r Cymry cyntaf.

Does dim llawer o bobl yn gwybod fod beicio yn hen, hen gamp yng Nghymru.

Yn Ar Dy Feic mae Phil Stead yn sôn am dri seiclwr enwog o dde Cymru enillodd rasys mwyaf enwog y byd yn Ffrainc yn yr 1890au.

Mae eu stori’n cynnwys un dirgelwch

mawr – efallai am gyffuriau, neu waeth.Roedd Jimmy Michael a’r brodyr

Arthur a Tom Linton yn dod o Aberdâr, ac fe enillon nhw lawer o rasys yng Nghymru, Prydain a thramor.

“Dw i eisie darganfod mwy am y brodyr. Does dim lot wedi cael ei sgwennu amdanyn nhw, ond mae eu

stori yn un ddifyr iawn,” meddai Phil Stead.

“Roedden nhw’n seiclo i dîm o Gaerdydd, ac yn mynd i rasio yn Llundain ac yn ennill popeth.

“Felly aethon nhw draw i Ffrainc ac, yn y diwedd, fe aeth Jimmy Michael drosodd i America.

“Fe fuodd dau ohonyn nhw farw o dan amgylchiadau amheus. Dydyn ni ddim yn gwybod os oedd yna gyffuriau yn rhan o’r peth, neu os cawson nhw eu lladd i’w rhwystro nhw rhag ennill rasys.”

– am y tro cynta!

Er bod llawer o bobl ar hyd a lled Cymru yn hoffi gwylio a chymryd rhan mewn seiclo, does dim llyfr Cymraeg am y

gamp. Tan nawr.Mae Phil Stead wedi newid pethau gyda’i

lyfr Ar Dy Feic, sy’n sôn am rai o rasys seiclo enwog y byd ac am feicio yng Nghymru.

Yn y llyfr mae’r awdur yn trafod ei brofiad ei hun wrth ddilyn rasys fel y Tour de France ar draws y byd.

Mae hefyd yn trafod ble mae’r llefydd gorau i feicio ar y ffordd yng Nghymru, ac yn sôn am rai o’i hoff seiclwyr.

“Mae’n cyflwyno beicio i bobl sydd yn gwylio’r Tour de France ar y teledu ac eisiau gwybod mwy am y tactegau,” meddai Phil Stead.

“Mae hefyd yn sôn am rasys eraill ac mae rhannau i bobl sydd eisio seiclo mwy o ddifri.

“Ro’n i’n meddwl ei bod hi’n bwysig sgwennu llyfr Cymraeg am feicio. Does dim un erioed wedi bod o’r blaen - roedd e’n dwll ar y silff.”

Ffefrynnau PhilMae Ar Dy Feic yn edrych ar y mynyddoedd gorau i feicio, hoff feicwyr Phil Stead, y rasys mawr a rhai o’r beicwyr Cymraeg gorau erioed.”

Geraint Thomas yw ffefryn mawr Phil ar hyn o bryd.

“Dw i wedi bod yn disgwyl ers dechrau’r 1980au i weld Cymro yn y Tour de France,” meddai.

“Ac nid jyst hynny ond Cymro sydd efo siawns o ennill rasys gorau’r byd.

“A pheidiwch ag anghofio Nicole Cooke. Hi ydy’r beiciwr gorau erioed o Gymru!”

Newydd!

Ydy beicio’n dda i’ch iechyd chi?

Ydy, meddai Phil Stead, sy’n siarad o brofiad. Roedd beicio wedi ei helpu i wella ar ôl salwch DVT. Ar y pryd fe gafodd glot gwaed yn ei ysgyfaint, ac roedd e hefyd wedi rhoi llawer o

bwysau arno.Ond ar ôl seiclo fe lwyddodd i golli

saith stôn ac mae e nawr yn llawer mwy iach.

Page 5: Stori Sydyn 2015

O’r

Fe wnaeth Siân James un peth arall ar ôl y streic – mynd i’r coleg i wneud gradd yn y Gymraeg.

“Roedd hi wastad wedi bod yn Gymraes gadarn naturiol, ond fe wnaeth y streic agor ei llygad hi i’r Gymraeg mewn rhannau eraill o Gymru,” meddai Alun Gibbard.

“Roedd hi eisiau gwybod mwy, felly fe wnaeth hi gwrs gradd. Roedd hi hefyd wedi gweld yn ystod y streic fod gradd gan bawb o’r bobl oedd mewn grym.”

– brwydr fawr Siân James

Rhan o’r llyfr ydy’r stori yn y ffilm Pride hefyd, am grwp o ymgyrchwyr hoyw yn dod o Lundain i’r Cymoedd i geisio helpu.

Ar y dechrau, roedd

llawer o’r glowyr a’u gwragedd yn amheus iawn, ond helpodd rhai fel Siân i newid hynny.

“Mae lle agos yn ei chalon hi i’r bobl sydd yn y ffilm,” meddai Alun Gibbard. “Mae’n amlwg bod parch aruthrol ganddi

tuag atyn nhw. Fe wnaeth e wahaniaeth mawr i bobl Cwm Dulais a Chwm Tawe.

“Ond roedd hi’n gweld e’n od gweld ei hun yn cael ei chwarae ar y sgrin!”

O’r Llinell Biced i San Steffan – does dim llawer o bobl sydd wedi cael

gyrfa mor amrywiol â Siân James.A does dim llawer chwaith wedi

gweld rhywun arall yn eu hactio nhw mewn ffilm.

Yn 2005, daeth hi’n Aelod Seneddol dros Ddwyrain Abertawe, ond dros ugain mlynedd cyn hynny roedd hi yng nghanol Streic y Glowyr.

Y stori honno, a sut y daeth hi a gwragedd eraill yn ffrindiau gyda grw^ p Lesbians and Gays Support the Miners o Lundain, ydy stori y ffilm, Pride.

Me’r llyfr yn edrych ar rôl Siân James yn ystod y streic yn 1984, cyn dilyn ei gyrfa hi gyda gwahanol fudiadau, a gorffen yn San Steffan.

Ond y streic oedd dechrau pethau, meddai awdur y llyfr, Alun Gibbard. “Hwnna oedd y prif beth wnaeth newid ei bywyd hi,” meddai.

“Roedd hi ar y llinell biced achos bod yr heddlu wedi gwahardd ei gw^ r hi rhag picedu.

“Roedd hi’n weithgar yn casglu arian wedyn, gan werthu planhigion o ddrws i ddrws i godi arian, ac yna mynd ymlaen i sefyll ar lwyfannau prif gyfarfodydd y streic.”

Ar ôl streic y glowyr fe fu Siân James yn gweithio gyda nifer o fudiadau, gan gynnwys Mudiad y Ffermwyr Ifanc, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Cymorth i Fenywod.

Ac wedyn, wrth gwrs, dod yn Aelod Seneddol – roedd y streic wedi ei deffro hi.

Senedd i’r streic

Balch o Pride

Agor llygaidNewydd!

Page 6: Stori Sydyn 2015

Mae’r llyfrau ar gael yn eich siop lyfrau leol, eich llyfrgell neu ar www.gwales.com

Am fwy o wybodaeth ewch i www.darllencymru.org.uk neu dilynwch ni ar Trydar @storisydyn2015 neu Facebook.

Straeon Sydyn – yn SaesnegMae pedwar o lyfrau Saesneg o Gymru yn cynnig antur a serch yn y gyfres Quick Reads

l Mae cyn-gapten rygbi Cymru’n adrodd ei stori ddewr ei hun – am chwarae ar y lefel ucha’ ac am ddweud wrth pawb ei fod yn hoyw.

Captain Courage ydy teitl llyfr Gareth Thomas ac mae eisiau i’r stori helpu pobl ifanc eraill sy’n cael eu bwlio neu sy’n poeni am pwy ydyn nhw.

“Os bydd fy llyfr i’n helpu un person, yna fe fydd werth e,” meddai Gareth Thomas.

l Ydych chi’n cofio stormydd mawr mis Ionawr 2014. Pan oedd tonnau anferth yn chwalu’r bandstand yn Aberystwyth ac yn torri waliau’r môr.

Roedd y rhan fwya o bobl yn poeni, ond roedd rhai wrth eu bodd – a’u stori ddewr nhw sydd yn Code Black, llyfr am syrffio mewn stormydd.

Tom Anderson o Borthcawl ydy’r awdur ac mae’r llyfr yn sôn yn arbennig am ddau berson, syrffiwr a ffotograffydd.

Maen nhw’n dod at ei gilydd pan ddaw’r cyfle i syrffio ar un o’r tonnau mwya’ sydd wedi bod yng Nghymru erioed.

l Mae Beth Reekles yn hoffi rhamant. Ac, er mai ifanc iawn ydy hi, mae hi wedi dod yn enwog am ei llyfrau llawn hwyl a serch i ferched ifanc. Y mwya’ newydd ydy Cwtch Me If You Can i Quick Reads.

Pan oedd yn 17 oed, fe gafodd Beth ei dewis ar restr pwysig gan gylchgrawn Time yn America – rhestr o’r ‘teens’ oedd yn cael effaith ar y byd.

Mae’r llyfr newydd yn siw^ r o helpu ei henw da – stori am ferch sy’n llawn rhamant yn cael ei throi i lawr gan ei chariad ar Ddydd San Ffolant a beth sy’n digwydd wedyn pan ddaw Sean i’w bywyd ...

l Yn blentyn, roedd y dyn teledu a radio, Jason Mohammad, wrth ei fodd yn gwylio chwaraeon. Nawr mae’n ddyn, ac mae’n cael ei dalu am wylio chwaraeon!

Yn ei lyfr newydd, My Sporting Heroes, mae’r Cymro Cymraeg o Gaerdydd yn dewis rhai o’r bobl chwaraeon oedd yn arwyr iddo a rhai y mae nawr yn eu holi.

“Fy job i ydy un o’r rhai gorau y gallwch chi eu gwneud,” meddai Jason. “Heblaw am chwarae, wrth gwrs!”

Dewrder x 2 Sêr a serchMae dau fath o ddewrder yn y Quick Reads eleni ...

Rydyn ni i gyd yn colli ein pen mewn ffordd wahanol ... dyna’r wers o ddau arall o lyfrau Quick Reads.