RHWYDWAITH BUSNES GWYNEDD · 2019. 2. 18. · Gethin yr awenau gan ei rieni i redeg y busnes...

6
www.gwyneddbusnes. net 01 Rhifyn 14, Haf 2015 Bwyta Chwaethus ar lan y dŵr yng Nghricieth Mae tŷ bwyta poblogaidd ‘Dylan’s’ ar Ynys Môn newydd agor ei safle newydd ar lan y môr yng Nghricieth. Mae’r bwyty newydd, mewn adeilad a gynlluniwyd yn wreiddiol gan Syr Clough Williams-Ellis, Portmeirion, wedi elwa ar raglen adnewyddu helaeth gwerth £500,000, ac mae’n argoeli’n gyrchfan hanfodol i rai sy’n ymddiddori mewn bwyd lleol o’r safon uchaf. Cyflogwyd 47 o staff newydd i redeg y bwyty ac mae’r cydberchnogion, David Evans a Robin Hodgson, yn awyddus i weld y gymuned ehangach yn elwa ar y fenter. Maent yn bwriadu defnyddio cynnyrch lleol ffres pan fo hynny’n bosibl a defnyddio cyflenwyr yng Ngogledd Cymru, gyda 62% o’r holl gynnyrch a fydd yn cael ei brynu ar gyfer y safle newydd yn cael ei brynu yn lleol neu yn yr ardal. Mae hyfforddiant staff a datblygiad gyrfa hefyd yn cael eu hystyried yn gynhwysion hanfodol ar gyfer cwmni llewyrchus. Mae David a Robin yn gobeithio ailadrodd y fformiwla wobrwyedig a sefydlwyd eisoes ym Mhorthaethwy, a bydd Dylan’s Cricieth yn arbenigo mewn bwyd môr, cynnyrch fferm a bwyd pob. Mae’n argoeli i fod yn safle cysurus a fydd yn croesawu teuluoedd, a bydd yn agored saith niwrnod yr wythnos, o 11.00 am - 11.00 pm bob dydd. Llwyddodd y partneriaid busnes i sicrhau prydles adeilad Morannedd, sy’n adeilad rhestredig Gradd II, ym mis Tachwedd 2014, ac yna bu rhuthr i ofalu bod y gwaith o adnewyddu’r adeilad yn cael ei gwblhau erbyn mis Mai pan gafodd ei agor. Mae naws art deco i’r eiddo a adeiladwyd ym 1952, er na chafodd y weledigaeth gyntaf ar gyfer yr adeilad ei gwireddu’n llwyr gan fod y prosiect wedi cael trafferthion ariannol. Mae cynlluniau’r adeilad bellach yn cael eu harddangos yn Dylan’s, ac ynddynt gwelir fod mynediad y bwyty wedi cael ei adfer i gyd-fynd yn well â’r cynllun gwreiddiol. Mae David yn amlwg wrth ei fodd gyda’r ymateb i’r bwyty newydd: “Rydym wedi agor nawr ers tair wythnos ac mae’r ffigurau eisoes wedi rhagori ar ein targedau. Mae’r adborth gan ymwelwyr yn dangos eu bod wedi cael profiad ardderchog. Ein nod yw cydweddu safon yr adeilad â bwyd chwaethus a gwasanaeth cynnes. Rydym yn gwbl fodlon drwyddi draw.” Magwyd David a Robin yn Swydd Efrog ac roeddynt yn adnabod ei gilydd ers eu harddegau a daethant yn wŷr busnes llwyddiannus. Cychwynnodd David yn y maes adwerthu dillad ym Manceinion, lle gwerthai ddillad wedi eu mewnforio o’r Unol Daleithiau. Yna aeth yn ei flaen i sefydlu ei frand ei hun, Hooch, ac i brynu’r brand Bench, ac erbyn 2001 roedd trosiant y cwmni hwnnw wedi codi i £20 miliwn. Yna cychwynnodd fusnes datblygu eiddo. Bu Robin yn rhedeg siop ddillad vintage a siop goffi yn Leeds a ddatblygodd yn dŷ bwyta a bar llwyddiannus. Cafodd fwy o fewnwelediad i’r farchnad arlwyo pan agorodd gaffi a marchnad ffermwyr yn Brighton. Adunwyd y ddau gyfaill yn ddiweddarach yn ystod gwyliau rheolaidd ar Ynys Môn, ar ôl i David brynu tŷ ym Mhorthaethwy. Mae Dylan’s yn awyddus i barhau i ehangu eu busnes tai bwyta a hoffent ddatblygu safleoedd eraill yng Ngogledd Cymru. Cyn hyn mynegodd y cwmni ddiddordeb mewn agor tŷ bwyta ar y Cei yng Nghonwy, gan gyflwyno cynigion manwl, ond mae’r cynlluniau hyn yn parhau i ddisgwyl penderfyniad ar ôl i gabinet Cyngor Conwy newid ei feddwl yn annisgwyl. Y gobaith yw y bydd cynlluniau Conwy yn parhau i gael eu gwireddu rywbryd yn y dyfodol neu y bydd yn bosibl datblygu safleoedd eraill yng Ngogledd Cymru. Am y tro, mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair iawn ar lan y môr yng Nghricieth! www.dylansrestaurant.co.uk Robin Hodgson & David Evans (Canol) gyda Ken Skates a Liz Saville-Roberts RHWYDWAITH BUSNES GWYNEDD

Transcript of RHWYDWAITH BUSNES GWYNEDD · 2019. 2. 18. · Gethin yr awenau gan ei rieni i redeg y busnes...

  • www.gwyneddbusnes. net 01

    Rhifyn 14, Haf 2015

    Bwyta Chwaethus ar lan y dŵr yng NghriciethMae tŷ bwyta poblogaidd ‘Dylan’s’ ar Ynys Môn newydd agor ei safle newydd ar lan y môr yng Nghricieth. Mae’r bwyty newydd, mewn adeilad a gynlluniwyd yn wreiddiol gan Syr Clough Williams-Ellis, Portmeirion, wedi elwa ar raglen adnewyddu helaeth gwerth £500,000, ac mae’n argoeli’n gyrchfan hanfodol i rai sy’n ymddiddori mewn bwyd lleol o’r safon uchaf.

    Cyflogwyd 47 o staff newydd i redeg y bwyty ac mae’r cydberchnogion, David Evans a Robin Hodgson, yn awyddus i weld y gymuned ehangach yn elwa ar y fenter. Maent yn bwriadu defnyddio cynnyrch lleol ffres pan fo hynny’n bosibl a defnyddio cyflenwyr yng Ngogledd Cymru, gyda 62% o’r holl gynnyrch a fydd yn cael ei brynu ar gyfer y safle newydd yn cael ei brynu yn lleol neu yn yr ardal. Mae hyfforddiant staff a datblygiad gyrfa hefyd yn cael eu hystyried yn gynhwysion hanfodol ar gyfer cwmni llewyrchus. Mae David a Robin yn gobeithio ailadrodd y fformiwla wobrwyedig a sefydlwyd

    eisoes ym Mhorthaethwy, a bydd Dylan’s Cricieth yn arbenigo mewn bwyd môr, cynnyrch fferm a bwyd pob. Mae’n argoeli i fod yn safle cysurus a fydd yn croesawu teuluoedd, a bydd yn agored saith niwrnod yr wythnos, o 11.00 am - 11.00 pm bob dydd.

    Llwyddodd y partneriaid busnes i sicrhau prydles adeilad Morannedd, sy’n adeilad rhestredig Gradd II, ym mis Tachwedd 2014, ac yna bu rhuthr i ofalu bod y gwaith o adnewyddu’r adeilad yn cael ei gwblhau erbyn mis Mai pan gafodd ei agor. Mae naws art deco i’r eiddo a adeiladwyd ym 1952, er na chafodd y weledigaeth gyntaf ar gyfer yr adeilad ei gwireddu’n llwyr gan fod y prosiect wedi cael trafferthion ariannol. Mae cynlluniau’r adeilad bellach yn cael eu harddangos yn Dylan’s, ac ynddynt gwelir fod mynediad y bwyty wedi cael ei adfer i gyd-fynd yn well â’r cynllun gwreiddiol.

    Mae David yn amlwg wrth ei fodd gyda’r ymateb i’r bwyty newydd: “Rydym wedi agor nawr ers tair wythnos ac mae’r ffigurau eisoes wedi rhagori ar ein targedau. Mae’r adborth gan ymwelwyr yn dangos eu bod wedi cael profiad ardderchog. Ein nod yw cydweddu safon yr adeilad â bwyd chwaethus a gwasanaeth cynnes. Rydym yn gwbl fodlon drwyddi draw.”

    Magwyd David a Robin yn Swydd Efrog ac roeddynt yn adnabod ei gilydd ers eu harddegau a daethant yn wŷr busnes llwyddiannus. Cychwynnodd David yn y maes adwerthu dillad ym Manceinion, lle gwerthai ddillad wedi eu mewnforio o’r Unol Daleithiau. Yna aeth yn ei flaen i sefydlu ei frand ei hun, Hooch, ac i brynu’r brand Bench, ac erbyn 2001 roedd trosiant y cwmni hwnnw wedi codi i £20 miliwn. Yna cychwynnodd fusnes datblygu eiddo. Bu Robin yn rhedeg siop ddillad vintage a siop goffi yn Leeds a ddatblygodd yn dŷ bwyta a bar llwyddiannus. Cafodd fwy o fewnwelediad i’r farchnad arlwyo pan agorodd gaffi a marchnad ffermwyr ynBrighton. Adunwyd y ddau gyfaill yn ddiweddarach yn ystod gwyliau rheolaidd ar Ynys Môn, ar ôl i David brynu tŷ ym Mhorthaethwy.

    Mae Dylan’s yn awyddus i barhau i ehangu eu busnes tai bwyta a hoffent ddatblygu safleoedd eraill yng Ngogledd Cymru. Cyn hyn mynegodd y cwmni ddiddordeb mewn agor tŷ bwyta ar y Cei yng Nghonwy, gan gyflwyno cynigion manwl, ond mae’r cynlluniau hyn yn parhau i ddisgwyl penderfyniad ar ôl i gabinet Cyngor Conwy newid ei feddwl yn annisgwyl. Y gobaith yw y bydd cynlluniau Conwy yn parhau i gael eu gwireddu rywbryd yn y dyfodol neu y bydd yn bosibl datblygu safleoedd eraill yng Ngogledd Cymru. Am y tro, mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair iawn ar lan y môr yng Nghricieth!

    www.dylansrestaurant.co.ukRobin Hodgson & David Evans (Canol) gyda

    Ken Skates a Liz Saville-Roberts

    RHWYDWAITH BUSNES GWYNEDD

  • Parc Carafanau Moethus yn Cael Caniatâd

    Mae Morris Leisure, y gweithredwr parc cartrefi gwyliau moethus a charafanau teithiol, wedi cael caniatâd cynllunio i adeiladu parc carafanau pum seren newydd wrth droed yr Wyddfa. Harrison Pitt Architects a ddewiswyd i gynllunio’r cyfleuster cwbl fodern hwn.

    Mae’r parc newydd ar safle Glyn Rhonwy ger Llanberis a bydd yno ddigon o le ar gyfer 54 carafán deithiol. Hyd at 1930 roedd chwarel lechi ar y safle, a defnyddid y tir i storio arfau yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac yna fe’i defnyddiwyd gan y Bwrdd Cynhyrchu Trydan Canolog tra oedd Gorsaf Bŵer Dinorwig yn cael ei hadeiladu yn nechrau’r 80au. Bydd y gwaith o ailddatblygu’r safle yn golygu gwaith tirlunio sylweddol a bydd y cyfleusterau yn cynnwys derbynfa, siop, toiledau a blociau amwynderau, yn ogystal â chowrtiau’r wardeiniaid. Cychwynnodd y gwaith ar y safle ym mis Ionawr a rhagwelir y bydd y Parc wedi ei gwblhau erbyn diwedd yr haf.

    Roedd profiad Harrison Pitt Architects yn y farchnad hamdden yn allweddol wrth sicrhau’r caniatâd cynllunio. Meddai Richard Wooldridge, pensaer Harrison Pitt: “Dyma’r pumed prosiect inni weithio arno gyda Morris Leisure ac rydym yn falch o fod yn rhan o gynllun mor hyglod yn un o ardaloedd mwyaf prydferth y Deyrnas Unedig, ac ar safle sy’n gyforiog o hanes.”

    Mae Morris Leisure eisoes yn berchen ar bum parc cartrefigwyliau moethus a charafanau teithiol yng nghefn gwlad Swydd Amwythig ac ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Meddai Edward Goddard, Cyfarwyddwr y cwmni: “Bydd y datblygiad diweddaraf hwn yn Llanberis yn cynnig cyfleusterau unigryw ym ‘maes chwarae antur’ Parc Cenedlaethol Eryri. Bydd yn llinyn arall ym mwa economi ymwelwyr yr ardal.”

    Mae’r datblygiad yn sicr o gadarnhau statws Llanberis fel un o brif gyrchfannau Cymru i ymwelwyr. Mae’r pentref ar fin y llyn yn gartref i rai o’r atyniadau mwyaf poblogaidd, gan gynnwys Rheilffordd yr Wyddfa, Y Mynydd Gwefru, Parc Gwledig Padarn, yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol a Rheilffordd Llyn Llanberis.

    www.morris-leisure.co.uk

    www.gwyneddbusnes. net02

    Nifer archebion Navsar ar fin torri RecordMae Navsar Ltd ym Mhwllheli wedi gweld nifer archebion yn cyrraedd y lefel uchaf erioed eleni, gyda chynnydd yn y diddordeb gan y sector hamdden a’r sector masnach. Mae’r flwyddyn fasnachu ragorol wedi arwain at yr angen i gyflogi a hyfforddi dau hyfforddwr lleol ychwanegol. Canolfan Hyfforddi’r RYA yw Navsar. Mae wedi ei lleoli yn adeilad yr Harbwr Feistr, yn yr Harbwr Allanol a’r nod yw rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i bobl fwynhau hwylio yn ddiogel.

    Mae’r nifer uchel o archebion yn cael ei briodoli i sawl ffactor gan gynnwys cymryd rhan yn Sioe Gychod Cymru Gyfan (AWBS) ym mis Mai, sef un o’r digwyddiadau

    cyntaf ym Mhlas Heli, Academi Hwylio newydd Pwllheli. Roedd Navsar hefyd yn allweddol wrth ddod â’r iot Challenge Wales i Hafan Pwllheli ar gyfer achlysur AWBS. Noddwyd hyn gan fusnesau lleol a bu’n bosibl i ddeg o bobl ifanc o Ysgol Glan y Môr ac Ysgol Botwnnog hwylio’r cwch 72 troedfedd o Aberdaugleddau, a chael profiad o dridiau anturus rhyfeddol yn rhad ac am ddim.

    Mynychodd Ken Skates, Y Gweinidog Twristiaeth â’r Sioe Gychod AWBS ac mae wedi datgan y bydd 2018 yn Flwyddyn y Môr yng Nghymru. Mae hyn yn rhan o ymgyrch tair blynedd Llywodraeth Cymru i hyrwyddo Cymru fel canolfan o’r safon uchaf un ar gyfer twristiaeth antur, ac yn canolbwyntio ar weithgareddau, digwyddiadau ac atyniadau fel elfennau allweddol y ddarpariaeth yng Nghymru ar gyfer twristiaeth.

    Mae Phil Geddes, Rheolwr Busnes Navsar, wrth ei fodd gyda’r datblygiadau sy’n digwydd ym Mhwllheli. Mae’r cwmni yn cydnabod y bydd gweithio’n agos â busnesau morol eraill yn sicrhau’r manteision gorau o’r ddeutu, yn cynyddu atgyfeiriadau ac, yn y pen draw, yn lleihau nifer y digwyddiadau peryglus ar y dŵr.

    Meddai Phil: “Heb os nac oni bai, bydd Plas Heli yn dod yn fagnet i rai sy’n ymddiddori mewn hwylio, ac yn darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf i hwylwyr profiadol ac amhrofiadol fel ei gilydd. Bydd darparu canolfan ragoriaeth yn rhoi cyfle rhagorol i Bwllheli ei chyfrif ei hun fel prif ganolfan hyfforddi a chystadlu yn y math hwn o chwaraeon ym Mhrydain. Dylai hyn, yn ei dro, fod o fantais i fusnesau morol, adwerthu a lletygarwch yn yr ardal. Mae Navsar Ltd yn edrych ymlaen at dwf parhaus ynghyd â buddsoddiad ychwanegol ar gyfer gwasanaethau ac offer.”

    Mae Navsar Ltd yn masnachu ers tair blynedd a’r trosiant wedi cynyddu yn flynyddol, gyda chynnydd o 30% yn ystod 2014. Yn ystod 2015 mae’r busnes wedi ehangu ei bortffolio o wasanaethau, gan gynnwys prynu iot griwsio a fydd, gobeithio, yn denu mwy o ymwelwyr tymhorol i’r ardal. www.navsar.com

  • 03www.gwyneddbusnes. net

    Y Gorau a’r DisgleiriafChris Allwood, Rheolwr Gyfarwyddwr Welsh Slate, Bethesda, yw enillydd gwobr Person Busnes Gwynedd 2015. Cafodd gwobr Rhwydwaith Busnes Gwynedd, sy’n cadarnhau ei gyfraniad unigryw i sector busnes y sir, ei chyflwyno iddo gan Dr Dafydd Roberts, a glodforodd lwyddiannau sylweddol yr enillydd.

    Cyflwynwyd y wobr yn ystod Cinio Gala yng Nghanolfan Reolaeth, Prifysgol Bangor, ac roedd yn un o uchafbwyntiau Wythnos Busnes Gwynedd. Mae Wythnos Busnes Gwynedd, sydd bellach yn dathlu ei degfed flwyddyn, wedi dod yn achlysur blynyddol sy’n dwyn cwmnïau o bob rhan o’r sir at ei gilydd drwy gyfres o ddigwyddiadau cymorth busnes a rhwydweithio.

    Y siaradwr gwadd yn y cinio oedd Dr Fraser C Logue, Siemens Healthcare Diagnostics Products Ltd. Bu’n amlinellu cynlluniau’r cwmni ac yn mynegi ei barodrwydd i gydweithio â busnesau eraill yr ardal. Cyflwynwyd gwobrau gan Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards, i Zip World, Harlech Foodservice a Pharciau Gwyliau Y Bala fel cydnabyddiaeth o’u cyfraniad i’r economi. Hefyd, cyflwynodd cangen Gwynedd o Ffederasiwn Busnesau Bach wobr Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn i Louis Hiatt, o Scrubadub Cleaning Aberdyfi. (Gweler Y Newyddion yn Gryno.)

    Gyda 30 mlynedd o brofiad rhyngwladol ym maes adeiladu, dechreuodd Chris Allwood yn Welsh Slate yn 2012, ar ôl dal uwch swyddi yn Aggregate Industries, Kingspan Access Floors ac Arcelor Construction UK. Mae Chris yn disgrifio’r ffaith ei fod wedi ymuno â Welsh Slate fel cyfle rhagorol ac un o sialensiau mwyaf cyffrous ei yrfa.

    Meddai’r Cynghorydd Mandy Williams-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Economi: “Llongyfarchiadau lu i’r holl fusnesau a gafodd eu cydnabod – roedd y Cinio Gala yn uchafbwynt gwirioneddol i Wythnos Busnes Gwynedd ac yn gyfle ardderchog i arddangos yr amrywiaeth cyfoethog o gwmnïau sy’n llwyddo yma yn y sir.” www.welshslate.com

    Chris Allwood a Dr Dafydd Roberts

    Entrepreneur Ifanc yn Goruchwylio EhangiadBu cytundeb diweddar gyda’r GIG i ddarparu ffrwythau a llysiau ffres yn gyfrifol am gynnydd o 25% bron ym musnes Frwythau DJ Fruits, y cyfanwerthwyr bwyd o Borthmadog. Dywedodd Gethin Dwyfor, sydd hefyd yn berchen siop groser yng Nghricieth, fod y cynnydd yn yr archebion wedi rhoi’r hyder iddo fwrw ymlaen â buddsoddiadau newydd a wnaed yn y cwmni. Bellach mae system gyfrifiadurol newydd yn gweithredu, dwy fan newydd wedi eu prynu, ac un aelod staff llawn amser ac un gweithiwr dan hyfforddiant wedi eu cyflogi.

    Ar ôl graddio mewn Gwyddoniaeth rai blynyddoedd ynghynt, cymerodd Gethin yr awenau gan ei rieni i redeg y busnes teuluol yn 2013. Erbyn hyn

    mae’n cyflogi 15 o staff ac yn cyflenwi 350 o fân werthwyr, gwestyau, tai bwyta, ysgolion ac ysbytai ledled Gwynedd. Dechreuodd y broses dendro ar gyfer y cytundeb gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y GIG ddiwedd gwanwyn 2014, ac, o’r diwedd, dechreuwyd gweithredu’r cytundeb ym mis Ionawr 2015. Arweiniodd Business Wales Gethin drwy’r broses dendro, ac er nad oedd, cyn hynny, yn gyfarwydd â’r gwasanaeth y maent yn ei gynnig, sylweddolodd fod eu cymorth yn amhrisiadwy.

    Meddai Gethin: “Cyn hyn, roedd y busnes wedi tyfu yn organig yn bennaf a gall y weithdrefn dendro ymddangos yn ddyrys tu hwnt. Roedd yn braf gwybod fod rhywun arall bob amser ar ben arall y ffôn i’ch helpu ac i’ch arwain drwy’r broses. Gall talu am arbenigedd fod yn ddrud, felly roedd yn rhagorol cael y cymorth hwn.”

    Gan nad yw maes bwydydd yn adnabyddus fel arfer am ei entrepreneuriaid ifanc mentrus, mae Gethin yn sicr yn gwneud enw iddo ef ei hun. Mae’n edrych ymlaen at barhau ei berthynas â’r tîm yn Business Wales, ar ôl cael rhagor o gyngor ynghylch rheoli gwastraff a chytundebau staff ganddynt, ac mae’n gobeithio mwynhau cyfnod o ehangu cyson a pharhaus yn sgil rhaglen fuddsoddi’r cwmni.

    ffrwythaudjfruit.co.uk

    Helpwch eich busnes i dyfu gydachefnogaeth am ddim gan Busnes Cymru

    Help your business grow with freesupport from Business Wales

    Cysylltwch â Busnes Cymru am wybodaeth, cyngor a chymorth i ddechrau neu dyfu eich busnes.Contact Business Wales for information, advice and support to start or grow your business.

    03000 6 03000 busnes.cymru.gov.uk business.wales.gov.uk@_busnescymru facebook.com/busnes.cymru.gov.uk@_businesswales facebook.com/business.wales.gov.uk

    P’run ai eich bod yn dechrau arni, wedi hen sefydlu, yn gwmniteuluol neu’n gydweithfa, gall Busnes Cymru helpu i gefnogitwf cynaliadwy ar gyfer pob math o fentrau yng Nghymru.

    Gwasanaeth cymorth i fusnesau gan Lywodraeth Cymru yw Busnes Cymru, yn cynnigarweiniad arbenigol a chefnogaeth am ddim i fentrau bach a chanolig yn y sectoraupreifat, cyhoeddus a’r trydydd sector.

    Dyma un yn unig o’r cwmnïau y mae Busnes Cymru yn ei helpu i fynd o nerth i nerthyng ngogledd Cymru.

    Ffrwythau DJ Fruits

    Mae Ffrwythau DJ Fruits yng Nghriccieth yn cael ei redeg gan Gethin Dwyfor a gymeroddawenau’r busnes oddi wrth ei rieni yn 2013. Yn cyflogi 14 o aelodau staff ac yn cyflenwi350 o adwerthwyr, gwestai, bwytai, ysgolion ac ysbytai ar draws Gwynedd, mae’r busnesyn cynnwys siop fwyd yn Stryd Fawr Criccieth a chyfanwerthwyr ym Mhorthmadog.

    Pan ddaeth y cyfle i sicrhau contract â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y GIGi gyflenwi ffrwythau a llysiau ffres, trodd Ffrwythau DJ Fruits at Fusnes Cymru amgymorth gyda’r broses dendro. O ganlyniad i sicrhau’r contract, mae trosiant wedicynyddu ac mae dau aelod ychwanegol o staff yn gweithio i’r cwmni.

    Eglurodd Gethin: “Roedd y ffaith fod cyngor a chefnogaethBusnes Cymru ar gael yn golygu ein bod yn gallu caelarweiniad clir a diduedd yn ymwneud ag unrhyw ran o’rbusnes. Wedyn roeddem yn gallu gwneud penderfyniadaugwybodus ynglŷn â’r ffordd orau i symud ymlaen.

    “Rwy’n gwerthfawrogi’r gefnogaeth a roddwyd i ni gan BusnesCymru yn fawr iawn a dim ond gwasanaeth cwsmer rhagorolrwyf wedi’i brofi. Roedd y cynghorwyr bob amser yn fwy napharod i helpu ein busnes mewn unrhyw ffordd y gallent.”

    Mae’r cwmni hefyd wedi derbyn cymorth ar reoli gwastraff a chytundebau staff abyddant yn parhau i droi at Busnes Cymru am gyngor yn y dyfodol.

    Ychwanegodd Gethin: “Mae Busnes Cymru yn ffynhonnell o gymorth a gwybodaethamhrisiadwy, a megis dechrau mae ein perthynas â hwy. Rwyf eto i ddefnyddiopotensial eu cymorth yn llawn.”

    Whether you’re just starting out, well-established, a family-runcompany or a cooperative, Business Wales can help supportthe sustainable growth of all types of enterprises in Wales.

    Business Wales is the Welsh Government’s business support service, offering free,expert guidance and support to small and medium sized enterprises in the private,public and third sectors.

    Here’s just one company that Business Wales is helping to flourish in north Wales.

    Ffrwythau DJ Fruits

    Criccieth-based Ffrwythau DJ Fruits is run by Gethin Dwyfor who took the businessover from his parents in 2013. Employing 14 members of staff and supplying 350retailers, hotels, restaurants, schools and hospitals across Gwynedd, the businesscomprises a grocery shop on Criccieth High Street and a wholesalers in Porthmadog.

    When the opportunity to secure a contract with NHS Betsi Cadwaladr UniversityHealth Board to supply fresh fruit and vegetables, Ffrwythau DJ Fruits turned toBusiness Wales for help with the tendering application process. As a result of securingthe contract, turnover has increased and the company has taken on two additionalstaff.

    Gethin explained: “To have the advice and support of BusinessWales available to us has meant that we can have clearunbiased guidance on any part of our business. We are ableto then make informed choices on what is the best way totake things forward.

    “I value the support given by Business Wales very highlyand have experienced nothing but fantastic customerservice. The advisors have always been more than happy tohelp our business in any way they can.”

    The company has also received support on waste management and staff contractsand will continue to seek Business Wales’ advice in the future.

    Gethin added: “Business Wales is an invaluable source of support and information andour relationship is still in its infancy. I am yet to utilise the full potential of theirsupport.”

    http://www.ffrwythaudjfruit.co.uk

  • RhBG yn Dathlu’r Deg!Cynhaliwyd digwyddiad arbennig i ddathlu 10 mlynedd o fodolaeth Rhwydwaith Busnes Gwynedd yn Neuadd Hercules ym Mhortmeirion ar nos Fawrth 12 Mai. Cafwyd anerchiadau byrion gan nifer o gyn-enillwyr gwobr Person Busnes y Flwyddyn – lle’r oeddynt yn trafod llwyddiant eu busnes, a’r hyn yr oedd ennill y wobr hon wedi ei olygu iddynt. Yn eu plith yr oedd Sean Taylor, y mae ei brosiectau diweddaraf yn cynnwys atyniad Zip World ymMethesda a Blaenau Ffestiniog; Gwion Llwyd, perchennog Bythynnod Dioni Holiday Cottages; a Fred Foskett,cyn-Gyfarwyddwr Harlech Frozen Foods, ond sydd bellach wedi ymddeol, a sylfaenydd Rhwydwaith Busnes

    Gwynedd. Hefyd ymhlith y siaradwyr yr oedd: Stephen ac Andrea Bristow, perchnogion yr atyniad ecogyfeillgar i deuluoedd – Parc Coedwig y Gelli Gyffwrdd; a Richard Gloster, cyn-Reolwr Gyfarwyddwr Hufen Iâ Cadwaladr a fu’n gyfrifol am ddatblygiad cyflym y cwmni. Ymunodd Dyfed Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd â chyflwynwyr gwadd o Ffederasiwn Busnesau Bach ac ef a gyflwynodd yr anerchiad agoriadol.

    Meddai Gill Richards, aelod Bwrdd Rhwydwaith Busnes Gwynedd: “Roedd yn noson gwbl eithriadol ac roedd yn ffordd briodol o ddathlu’r pen-blwydd arbennig hwn. Roedd yn gyfle rhagorol i fusnesau ledled y sir ddod ynghyd i rannu syniadau ac i rwydweithio ac roeddem wrth ein bodd o gael cydweithio â Ffederasiwn Busnesau Bach wrth drefnu’r digwyddiad.”

    www.gwyneddbusnes.net

    © Off the Ground Aerial ImagingSiaradwyr Gwadd - O’r chwith i’r dde : Stephen ac (trydydd ar y chwith) Andrea Bristow - Parc Coedwig y Gelli Gyffwrdd, Richard Gloster –

    Hufen Iâ Cadwalader , Sean Taylor – Zip World, Fred Foskett – Harlech Gwasanaeth Bwyd, Gwion Llwyd – Bythynnod Dioni Holiday Cottages

    Enillydd yr iPadO’r chwith i’r dde:

    Ian Nellist, FBBEnillydd iPad – Michelle Deeman, Cambrian Clearance

    Mandy Williams-Davies, Cyngor Gwynedd

    Aelodau’r bwrddO’r chwith i’r dde:Sian M Williams, John Lloyd, John Morris, Gill Richards, Owain Lloyd Williams, Samantha Evans.

    www.gwyneddbusnes. net04

    MLYNEDDPEN-BLWYDD

  • www.gwyneddbusnes. net 05

    Gwynedd yn Cipio Aur yn y Gwobrau Twristiaeth CenedlaetholCipiodd Parc Gwyliau Pen Y Garth Lodge Park y wobr aur yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru eleni. Enillodd y parc, yn y Bala, wobr y categori Lle Gorau i Aros – Parc Gwyliau, Carafanau Teithiol neu Wersylla.

    Sefydlwyd y parc pum seren yn y 70au ond prynwyd ef gan y teulu Williams ym mis Mawrth 2013 ac maent wedi buddsoddi’n helaeth yn y busnes. Mae’r gwelliannau diweddar yn cynnwys adeiladu canolfan ymwelwyr newydd sbon, ystafell gemau a chyfleusterau toiledau, yn ogystal â gwaith

    diweddaru’r holl system drydanol. Bellach ceir mannau parcio preifat ar gyfer yr holl gabanau, ac mae’r safle wedi ei dirlunio’n llwyr ac yn cynnwys ardal chwarae, pwll amgylcheddol a llwybr natur. Gwnaed y gwelliannau hyn gyda chymorth Visit Wales, Parc Cenedlaethol Eryri a Chynllun Cadwraeth David Bellamy.

    Meddai Gareth Williams, cydberchennog Pen Y Garth: “Fel teulu rydym wedi bod yn gweithio yn y busnes hamdden am ddwy genhedlaeth a gwelsom gyfle i greu parc gwyliau a gosod cabanau o safon. Roeddem ni’n awyddus i roi’r profiadau gorau i ymwelwyr ac rydym bob amser yn ceisio gwella a datblygu’r parc fel y bydd cwsmeriaid yn dychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn.

    Cyflwynwyd gwobr Seren Dwristiaeth y Dyfodol i Sean Taylor – a enwyd yn “Frenin y Wifren Wib” yn y seremoni wobrwyo. Cychwynnodd Sean ar ei yrfa yn y Morlu Brenhinol cyn dychwelyd at ei wreiddiau yng Ngogledd Cymru i greu busnes llwyddiannus ym maes twristiaeth awyr agored. Agorodd Tree Top Adventure ym Metws-y-Coed yn 2007 ac yna cafodd y syniad o greu Zip World sydd bellach yn cynnwys dwy ganolfan, y naill ym Methesda a’r llall yng Ngheudyllau Llechi Llechwedd. Agorodd Zip World Titan yn 2014, a’r honiad yw mai dyma’r wifren wib ‘pedwar person’

    Sean “Frenin y Wifren Wib” Taylor gyntaf yn Ewrop. Wedyn, yn ddiweddarach y llynedd agorwyd Bounce Below – a ddisgrifir fel “maes chwarae tanddaearol” lle ceir trampolinau anferth, rhodfeydd, llithrennau a thwneli a phopeth wedi ei wneud o rwydau, ym mhell islaw yng

    nghrombil ceudyllau llechi Llechwedd.

    Meddai Sean: “Rwy’n teimlo’n angerddol ynglŷn â rhoi Cymru ar y map ym maes twristiaeth antur, a’r nod yw cynnig rhywbeth unigryw i gwsmeriaid, lle gall pawb, yr hen a’r ifanc, gymryd rhan, waeth beth yw eu lefel ffitrwydd. Ar ôl gweld gŵr 94 oed yn cael reid ar ein gwifren wib, sydd ychydig llai na milltir o hyd ac yn cyrraedd buaneddau o hyd at 100mya, rwy’n credu ein bod ar y trywydd iawn.”

    Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn Vale Resort, Hensol, Bro Morgannwg. Derbyniwyd mwy na 300 o enwau ymgeiswyr a chyrhaeddodd 58 o fusnesau ac unigolion y rhestr fer mewn 14 categori ac is-gategori. www.penygarth.com / www.zipworld.co.uk

    Pen y Garth

    Chwistrelliad Ariannol yn Diogelu Swyddi AdeiladuDiolch i gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru sicrhawyd 30 o swyddi yn Williams Homes yn y Bala. Mae’r chwistrelliad ariannol hefyd wedi caniatáu ailwampio adeiladau’r cwmni yn llwyr ym Mharc Menter y dref. Mae Williams Homes, busnes teuluol sy’n cael ei redeg gan y ddau frawd Sion ac Owain Williams, yn arbenigo mewn adeiladu tai ffrâm bren nodedig, ecogyfeillgar a charbon isel. Mae’r cymorth grant wedi caniatáu buddsoddi hyd at £360,000 ym mhencadlys y cwmni.

    Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn bosibl i Sion ac Owain gwrdd â’r galw drwy ehangu’r gofod sydd ar gael a chynyddu effeithiolrwydd yr un pryd. Maent hefyd wedi gallu gwneud y gorau o’r gofod sydd ar y safle a gwella’r cyfleusterau ar gyfer eu staff, gan gynnwys swyddfeydd newydd, ffreutur, ystafelloedd cyfarfod ac ystafell gyfarfod y bwrdd. Uwchraddiodd y cwmni hefyd ei isadeiledd technoleg gwybodaeth ac mae’n manteisio ar y rhaglen band-eang Cyflymu Cymru. Mae 17 o swyddi wedi cael eu diogelu o ganlyniad i’r chwistrelliad ariannol, a chyflogwyd 13 o brentisiaid newydd.

    Mae Williams Homes, a sefydlwyd yn 2003, yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr, o ddylunio a chyflenwi citiau yn benodol ar gyfer cwsmeriaid sydd eisiau adeiladu eu hunain, a chan gynnwys codi tai cyfain. Un o’u prosiectau oedd Trefor Wen ar Ynys Môn, adfail ffermdy a ddifrodwyd gan dân, ac sydd bellach wedi ei droi yn gartref ffrâm bren ysblennydd. Canolfan Iechyd Ardudwy yn Harlech yw’r prosiect di-garbon cyntaf o’r math hwn yn y Deyrnas Unedig.

    Meddai Sion Williams: “Wrth brynu ein hadeilad ein hunain cawsom ysgogiad i fuddsoddi yn yr eiddo ac roedd cymorth gan y Gronfa Twf Economaidd yn amhrisiadwy. Helpodd ni i fuddsoddi mewn gwelliannau ac i greu swyddi, ac ar yr un pryd, gefnogi cyflogaeth anuniongyrchol gyda nifer o’r isgontractwyr yr ydym yn eu defnyddio’n rheolaidd.” www.williams-homes.co.uk

    Trefor Wen

    Sean Taylor - "Brenin y Wifren Wib"

  • Yn GrynoBlwyddyn Hynod Lwyddiannus i Gyllid Busnes

    Cynyddodd CyllidCymru, is-gwmni Llywodraeth Cymru, ei fuddsoddiad mewn

    busnesau Cymreig rhwng 2014 a 2015 yn ôl ffigur record o 46%. Cafodd £48.2 miliwn i gyd ei chwistrellu i fusnesau ledled y wlad, gyda £18.3 miliwn arall yn cael ei gymryd o Grŵp Cyllid Cymru. Roedd hyn yn cynnwys £16.1 miliwn gan FW Capital a £2.2 miliwn gan xénos, y rhwydwaith angylion busnes. Mae wedi creu neu ddiogelu 2,897 o swyddi drwy fuddsoddi mewn 164 o fusnesau ledled Cymru. Denodd y buddsoddiad hwn £56.2miliwn eto o ffynonellau eraill a arweiniodd at hwb o fwy na £100 miliwn i gyd i economi Cymru.

    Meddai Ian Johnson, y Cadeirydd: “Rydym yn parhau i fuddsoddi gymaint ag erioed a’r flwyddyn ariannol ddiwethaf oedd blwyddyn orau Cyllid Cymru eto. Cynyddodd ein heffaith ar economi Cymru o fwy na £100m i £856m ac ers 2001 mae ein buddsoddiadau wedi helpu i greu neu i ddiogelu mwy na 38,000 o swyddi yng Nghymru.”

    www.financewales.co.uk

    Buddsoddiad Rondo Media

    Ar ôl gweld potensial i dyfu, mae Rondo Media wedi buddsoddi £3/4 miliwn mewn offer a thechnoleg ôl-gynhyrchu ar gyfer ei stiwdio yng Nghaernarfon. Mae’r gwaith o ffilmio Clwb, y rhaglen chwaraeon ar S4C,

    eisoes yn cael ei wneud yno, a bydd O Flaen Eu Gwell, drama llys barn newydd, sy’n cael ei ffilmio’n lleol, yn cael ei darlledu yn yr hydref.

    Mae gan Rondo Media ganolfannau hefyd ym Mhorthaethwy a Chaerdydd, sy’n cyflogi 64 o bobl i gyd ac yn cynhyrchu rhaglenni ar gyfer BBC Wales a Channel 4 yn ogystal ag S4C.

    Meddai Susan Waters, y Cyfarwyddwr: “Mae’r cwmni mewn safle da i gryfhau ei bortffolio cynhyrchu - o ran cynnal a chadw a hefyd datblygu ei raglen gyfredol o gynyrchiadau ar gyfer S4C a BBC Wales, a hefyd o ran ehangu i gynhyrchu mwy ar gyfer rhwydweithiau y tu allan i Gymru.”

    www.rondomedia.co.uk

    Scrubadub

    Cipiodd Louis Hiatt, perchennog Scrubadub Cleaning Aberdyfi, Wobr ‘Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn - 2015

    ’ Rhwydwaith Busnes Gwynedd’ a noddwyd gan Ffederasiwn Busnesau Bach. Cynhaliwyd y digwyddiad yn y Ganolfan Reolaeth, Prifysgol Bangor, a chyflwynwyd y wobr,

    oedd yn cydnabod synnwyr busnes cyffredinol a phenderfyniad i lwyddo, gan Ian Nellist, Cyfarwyddwr Cyllid y Ffederasiwn.

    Ers cychwyn ei gwmni yn 2010 ac ennill y wobr eisoes yn 2011, mae Louis wedi datblygu’r busnes yn ardal De Gwynedd. Ar hyn o bryd, mae’r cwmni yn glanhau’n rheolaidd ar gyfer nifer o eiddo masnachol a domestig. Mae Scrubadub bellach yn cyflogi wyth aelod o staff yn ystod y tymor prysur a fis Awst diwethaf yn unig newidiodd fwy na 1400 o welyau mewn lletyau gwyliau. Meddai Louis: “Rydym yn bwriadu ehangu ymhellach yn y dyfodol drwy archwilio sianeli masnachol newydd a changhennau newydd ar gyfer portffolio glanhau Scrubadub, felly gwyliwch y gofod ...”

    www.scrubadub.co.uk

    Gwobrau LEAD Wales

    Daeth oddeutu 268 o gynrychiolwyr i seremoni wobrwyo nodedig LEAD Cymru a gynhaliwyd ar 14 Mai yn Venue Cymru. Roedd pob un ohonynt wedi cwblhau rhaglen LEAD Cymru ym Mhrifysgol Bangor. Cafodd un o’r saith o wobrau Astudiaeth Achos ei chyflwyno i Geraint Hughes, sy’n rhedeg tri busnes lleol: Madryn, cwmni

    ymgynghori ynghylch amaeth-bwyd; Calon Lân, brand bwyd arbenigol; a Bwtri, y deli a chanddi ganolfannau manwerthu ym Mhorthmadog a Phwllheli.

    www.leadwales.co.uk

    Unrhyw Sylwadau

    Gobeithiwn eich bod wedi mwynhau darllen hwn, sef Cylchlythyr diweddaraf Rhwydwaith Busnes Gwynedd. Byddem yn gwir werthfawrogi cael unrhyw ymateb gennych.

    Os oes gennych unrhyw sylwadau neu syniadau ar ffyrdd y gallwn ei wella, cofiwch adael inni wybod.

    E-bostiwch y Golygydd Jacquie Knowles ar: [email protected]

    I ymuno (mae aelodaeth yn RHAD AC AM DDIM) neu i ddarganfod mwy am y Rhwydwaith ewch i:www.gwyneddbusnes.net

    www.gwyneddbusnes. net 06

    Chwith i’r dde: Yr Athro Gareth Griffiths, Prifysgol Bangor. Geraint Hughes, Y Bwtri Cyf a Rhun ap Iorwerth

    Louis Hiatt ac Ian Nellist

    © Tim O’Brien

    © 2015 Rhwydwaith Busnes GwyneddYsgrifennwyd a golygwyd gan : Jacquie Knowles

    Dylunwyd gan:Sylwer na ellir dal y cyhoeddwyr yn gyfrifol

    am unrhyw wallau neu hepgorau yn y testun.