Rhifyn 96 MAWRTH 2012 Pris 50c DATHLU DEWIpapurdre.net/wp-content/uploads/archif/96.pdf · 2013. 1....

20
PAPUR DRE PAPUR DRE Rhifyn 96 MAWRTH 2012 Pris 50c PAPUR DRE I BOBOL DRE A DATHLU YSGOL NEWYDD DATHLU DEWI... ...yn Ysgol y Gelli ...yn ysgol Maesincla Stori’n llawn ar dudalennau 10 ac 11 NODDWYD Y RHIFYN HWN GAN Y BLACK BOY Yr Hendre yn agor ei drysau Mae Sara, Victoria, Jac a Deio yn hoffi eu hysgol newydd PapurDreMawrth2012_PapurDreHydref2010 07/03/2012 14:16 Page 1

Transcript of Rhifyn 96 MAWRTH 2012 Pris 50c DATHLU DEWIpapurdre.net/wp-content/uploads/archif/96.pdf · 2013. 1....

Page 1: Rhifyn 96 MAWRTH 2012 Pris 50c DATHLU DEWIpapurdre.net/wp-content/uploads/archif/96.pdf · 2013. 1. 11. · Mae Hosbis yn y Cartref Gwynedd a Môn yn trefnu Cinio i Ferched ym Meifod

PAPUR DREPAPUR DRERhifyn 96 MAWRTH 2012 Pris 50c

PAPUR DRE I BOBOL DRE

A DATHLU YSGOL NEWYDD

DATHLU DEWI...

...yn Ysgol y Gelli ...yn ysgol Maesincla

Stori’n llawn ar dudalennau 10 ac 11

NODDWYD Y RHIFYN HWN GAN Y BLACK BOY

Yr Hendre yn agor ei drysau

Mae Sara, Victoria, Jac a Deio yn hoffi eu hysgol newydd

PapurDreMawrth2012_PapurDreHydref2010 07/03/2012 14:16 Page 1

Page 2: Rhifyn 96 MAWRTH 2012 Pris 50c DATHLU DEWIpapurdre.net/wp-content/uploads/archif/96.pdf · 2013. 1. 11. · Mae Hosbis yn y Cartref Gwynedd a Môn yn trefnu Cinio i Ferched ym Meifod

2

Cadeirydd a DerbynLlythyrauGLYN TOMOSGarreg Lwyd, 7 Bryn RhosRhosbodrual, LL55 2BT(01286) [email protected]

BWRDD GOLYGYDDOLROBIN EVANS(01286) 676963RHIAN TOMOS(01286) 674980TRYSTAN ACAROLYN IORWERTH(01286) 676949GERAINT LØVGREEN(01286) 674314 R. ELWYN GRIFFITHS(01286) 674731 JANET ROBERTS(01286) 669066

TrysoryddGWYNDAF ROWLANDS46 Stryd yr Hendre,(01286) 678254

Hysbysebion ELERI LØVGREENY Clogwyn, LL55 1HYFfôn: 07900061784Ffacs: (01286) [email protected]

Clwb 100CEREN WILLIAMS13 Lôn Oleuwen, LL55 2UP(01286) 676073

Tanysgrifio/TrefnyddDosbarthuALUN ROBERTSMelangell, Lôn Sgubor WenLL55 1HS(01286) 677208

PWY ‘DIPWY...

Stiwdio Gwallta Harddwch

46 Stryd Llyn, Caernarfon

Rhif Ffôn: 672999Perchnogion: G Geal a G Evans

Nid yw’r Bwrdd Golygyddol na’rnoddwyr o angenrheidrwydd yncytuno gyda’r farn yn y Papur

Ellis Davies a’i GwmniCYFREITHWYR

Yn gwasanaethupobl Caernarfon ers

1898

27 Stryd Bangor,Caernarfon LL55 1AT

Ffôn:(01286) 672437

[email protected]

www.bwrdd-yr-iaith.org

Cydnabyddir cefnogaeth

DEWCH ATOM I BLYGUPAPUR DRERhifyn: MAWRTH

Noson Plygu:

NOS LUN, EBRILL 16

Yn lle: YSGOL MAESINCLA

Faint o’r gloch: o 5.00 ymlaen

Deunydd i law'r golygyddion perthnasolNOS FERCHER – EBRILL 2

Os gwelwch yn ddaDaw'r rhifyn nesaf o'r wasgNOS LUN – EBRILL 16

Y RHIFYN NESAF

Hosbis yn y Cartref yntrefnu CinioMae Hosbis yn y Cartref Gwynedd a Môn yn trefnu Cinioi Ferched ym Meifod ddydd Iau 15 Mawrth am 12.30.Mae'r tocynnau'n costio £20.00 a'r pris yn cynnwys cinio 2gwrs a sgwrs gan Emrys Jones am hanes Caernarfon.Tocynnau ar gael drwy ffonio 01286 662772 neu yn HafanMenai, Ysbyty Gwynedd. Dewch i fwynhau pnawn efo'chffrindiau a chodi arian at elusen leol sy'n helpu cynifer obobl yn yr ardal sy'n wynebu salwch difrifol. I gaelgwybod rhagor cysylltwch â fi, Caroline Wilkes neu LynnParry ar y rhif uchod neu anfonwch ebost [email protected]

Cyngerdd i GoffáuMerthyron Armeniaac i achub neu i gau Rehoboth,

Nant PerisNos Wener, 30 Mawrth, 7pm, Capel

Rehoboth, Nant Peris

efo Iona ac AndyCaneuon Armenaidd gan Seda Cox

(Wolverhampton)Mynediad am ddim ond gwneir casgliad

Manylion [email protected]

SIARADWYR GWADD:Llysgennad Armenia ym Mhrydain, EiHardderchogrwydd Karine Kazinian,Ei Ras yr Esgob Vahan o'r Eglwys

Armenaidd yng Ngwledydd Prydain acIwerddon, Ara Krikorian, un o sefydlwyr

ORRAN.Unrhyw elw at ORRAN, sy'n helpu plant

digartref yn Armenia

PWY SY YN Y GADAIR Y MIS YMA? Cyfweliad ar dudalen 7

Siambrau Banc LloydsCaernarfon

Swyddfeydd ym Mangor,Porthaethwy a Chaergybi

Tudur OwenRoberts, Glynne & Co.

Ffôn: (01286) 672207

Cyfreithwyr

ENILLWYR CLWB CANTChwefror 20121af Howard Jones 402il Nan Parry 47 3ydd R G Williams 68

NODDI PAPUR DREMae Papur Dre’n ddiolchgar iawn i brif

noddwyr y papur:

Cwmni Da, Cyngor TrefCaernarfon, Cymen, Galeri,

Rondo a’r Black Boy.

PapurDreMawrth2012_PapurDreHydref2010 08/03/2012 11:35 Page 2

Page 3: Rhifyn 96 MAWRTH 2012 Pris 50c DATHLU DEWIpapurdre.net/wp-content/uploads/archif/96.pdf · 2013. 1. 11. · Mae Hosbis yn y Cartref Gwynedd a Môn yn trefnu Cinio i Ferched ym Meifod

CAFFIBWYTY

BARY Maes, Caernarfon, LL55 2YD

(01286) 673100

3

ModurdyB & K Williams

Lôn Parc/ South Road, CaernarfonGwynedd LL55 2HP

Ffôn: 01286 675557Ffôn symudol:07768900447

Gwasanaeth Cyfeillgaro’r Safon Orau Bob Amser

Os y byddwch yn teithio ar yr’underground’ yn Llundain y dyddiau ymabydd poster Owain Arthur, sy’n byw (panmae adre) gyda’i deulu yn Lôn Oleuwen,i’w weld ym mhob gorsaf o gwmpas y WestEnd. Ers dechrau ym mis Mawrth maeOwain wedi bod yn actio’r brif ran yn ‘OneMan, Two Guvnors’ yn dilyn ymadawiadJames Corden i fynd â’r sioe i Broadway ynEfrog Newydd. Yn ôl ei fam, Eleri, maepob sedd yn llawn am y mis cyntaf a byddei fywyd am yr hanner blwyddyn nesaf ynllawn i’r ymylon gyda 8 perfformiad bobwythnos o flaen cynulleidfa o 1,500 yn y‘Theatr Royal Haymarket’. Magwyd Owain a’i chwaer Sioned ynRhiwlas ond ers blynyddoedd bellachmae’r teulu’n byw yn Lôn Oleuwen. Becaryn Llanaelhaearn yw Eurwyn ei dad ac maeEleri ei fam yn nyrs gymunedol. Nichymerodd Owain fawr o ddiddordeb

mewn adrodd mewn eisteddfodau apherfformio pan oedd yn ifanc iawn ond arôl cael ei ddewis i gymryd rhan mewnhysbyseb i atal ysmygu aeth ymlaen ichwarae rhan Aled Shaw ar Rownd aRownd. Cafodd le i astudio drama yn y Guildhallyn Llundain lle enillodd y Fedal Aur i’rmyfyriwr drama mwyaf disglair yn eiflwyddyn olaf. Mae Bryn Terfel hefyd wediennill y fedal aur fawreddog hon ac maeenwau’r ddau i’w gweld ar fur yngnghyntedd y Guildhall! Wedi gadael y Guildhall mae Owain wediactio yn ‘The History Boys’, ‘Doctors’,‘Holby City’ a ‘New Tricks’. Ei lais ef ywOctonots – sef cartwn ar raglen Cyw Peso.Ni fyddwn yn gweld fawr o Owain yn Dream y flwyddyn nesaf am fod y sioe’n myndar daith yn yr Hydref ac yna’n myndymlaen i Awstralia.

Cafodd criw o Dre brofiad go anarferol arDdydd Gwyl Dewi sef canu ynLlysgenhadaeth Gwledydd Prydain ynSaudi Arabia. Roedd yr ‘hogia’ (sydd i gyd yn ffrindiauagos) yn digwydd canu carolau yn anffurfiolyng Ngwesty’r Castell dros y Nadolig panddaeth Llinos Dryhurst Roberts, sy’nenedigol o Gaernarfon atyn nhw am sgwrs.Mae Llinos yn gweithio yn Saudi a dyma hiyn gwahodd yr hogia i ganu yn y DwyrainCanol. Tynnu coes, does bosib, meddylioddy bechgyn? Ond yn wir i chi dymawahoddiad swyddogol rai wythnosau ynddiweddarach.Ac felly bu’r criw o wyth (gyda Hefin Elisyn cyfeilio) yn canu yng Nghinio GwylDewi Cymry Riyadh, prifddinas Saudi.Mae 5 o’r criw yn aelodau o Gôr MeibionCaernarfon (Alun Jones, Dafydd Les,Dafydd Gwynfor, Bryn Griffith a HuwRoberts) gyda’r tri arall yn canu i rai o gorau

eraill y gogledd. Mae nhw hefyd, ers iddynnhw ymddeol, yn cyfarfod yn rheolaidd igyd-gerdded.Roedd na rhyw gant a hanner o Gymry

Riyadh yn gwrando ar y criw yn canu ac fegawson nhw groeso twymgalon gan yCymry a’r Llysgenad.

Y criw yn perfformio yn yr Ysgol Brydeinig, o’r chwith: Hefin Elis (piano), Robert Parry, BrynGriffith, Alun Jones, Wyn Morgan, Dafydd Les, Dafydd Gwynfor a Huw Roberts.

OWAIN AR WALIAU’R ‘UNDERGROUND’

DYDD GÃYL DEWIYN SAUDI

PapurDreMawrth2012_PapurDreHydref2010 08/03/2012 11:35 Page 3

Page 4: Rhifyn 96 MAWRTH 2012 Pris 50c DATHLU DEWIpapurdre.net/wp-content/uploads/archif/96.pdf · 2013. 1. 11. · Mae Hosbis yn y Cartref Gwynedd a Môn yn trefnu Cinio i Ferched ym Meifod

4

CYFREITHWYR•

O. Gerallt Jones LL.B (HONS)•

Gail Jones LL.B (HONS)Cyfreithwraig Gynorthwyol

Gwasanaeth Personol ac Agos Atoch•

4 Stryd y CastellCaernarfon LL55 1SE

Ffôn: 672307 • Ffacs: 678244Ebost: [email protected]

Emyr Thomas a’i Fab

Ffôn: 01286 677771

7 Stryd y Plas,Caernarfon

Gwynedd LL55 1RH

CYMORTHFEYDDOs oes gennych fater yr hoffech ei

drafod gyda'ch AS mewn cymhorthfa,yna cysylltwch ag ef yn ei swyddfayng Nghaernarfon neu ym Mangor:

Swyddfa Etholaeth, 8 Stryd y Castell,Caernarfon, LL55 1SE

(01286 672 076)Swyddfa Etholaeth, 70 Stryd Fawr,Bangor, LL57 1NR (01248 372 948)[email protected]

HywelWilliamsAelod SeneddolEtholaeth Arfon

YSGOL MAESINCLA

Masnach DegDaeth Anna Jên i’r ysgol yn ystod wythnosMasnach Deg i sôn am bwysigrwydd prynunwyddau gyda’r symbol Masnach Degarnynt. Cafodd y plant hwyl yn gwrando arstori taith y fanana o law’r ffermwr i’r siop.Dydd Gwyl DewiDathlwyd diwrnod Sant Cymru yn yr ysgolar y cyntaf o Fawrth. Cafwyd gwasanaethgwerth chweil gan blant blwyddyn 3 a 4 yrysgol. Gwisgwyd dillad Cymreig/dillad cocha chafwyd cinio cig oen arbennig gan AntiBethan y gogyddes. Dathlwyd y diwrnodyn y dosbarthiadau drwy gynnalgweithgareddau Cymreig eu naws a sôn ambwysigrwydd Dewi Sant (llun ar y tu blaen).Aiden yn FuddugolCynhaliwyd diwrnod coch i gasglu arian atApêl y Galon. Bu’r plant yn cymryd rhanmewn cystadleuaeth creu poster i’r apêl afeirniadwyd gan Faer Tref Caernarfon.Daeth y Maer i’r ysgol i wobrwyo Aiden Jat,Blwyddyn 5, yr enillydd. Ymweliad Esgob AndyDaeth Esgob Andy ar ymweliad yr wythnosdiwethaf. Cafwyd sesiynau diddorol o holiac ateb gyda’r plant yn y dosbarthiadau.Roedd y plant a’r Esgob wedi mwynhau’nfawr iawn. Eisteddfod yr UrddBu plant Blwyddyn 1 a 2 Ysgol Maesinclayn cystadlu yn yr unawd unigol ac adroddunigol yn Eisteddfod yr Urdd, Cylch Arfonyn ddiweddar.

Cystadleuwyr Eisteddfod yr Urdd.

YSGOL SANTES HELEN

Roedd plant meithrin Ysgol Santes Helen wedi gwirioni hefo'r Cennin Pedr ar ddydd GwylDewi!

Straeon i’r papurGlyn Tomos, Ffôn: (01286) 674980e-bost: [email protected]

PapurDreMawrth2012_PapurDreHydref2010 08/03/2012 11:35 Page 4

Page 5: Rhifyn 96 MAWRTH 2012 Pris 50c DATHLU DEWIpapurdre.net/wp-content/uploads/archif/96.pdf · 2013. 1. 11. · Mae Hosbis yn y Cartref Gwynedd a Môn yn trefnu Cinio i Ferched ym Meifod

5

YSGOL SYR HUGH

Maen nhw ym mhobman...cyfieithiadau od!Beth am osgoi hynny a throi at yr arbenigwyr

iaith? Cyfieithu o bob math ar eich stepan drws.

Ffôn: 01286 674409E-bost: [email protected]

Cymen, Twll yn y Wal, Caernarfon, Gwynedd LL55 1RF

Dewi Rhys (Magwa)07827 63104501286 238095

GWAITH TEILSIOWALIE A LLORIE

YSGOL Y GELLI

Gwobr i GemmaY Cynghorydd Ioan Thomas a Siôn Edwards o Sefydliad Atal Clefyd y Galon yn gwobrwyoGemma Jones am ennill y gystadleuaeth ysgol i greu poster i hyrwyddo'r ymgyrch.Buddugol yn y Gala NofioCafodd nifer o ddisgyblion ysgolion cynradd Gwynedd lawer o hwyl yn y dŵr yn ddiweddarmewn dwy gala nofio gyffrous iawn.Ysgol y Gelli, Caernarfon enillodd y gystadleuaeth i'r ysgolion mwy o faint gydag YsgolLlanrug yn ail ac Ysgol Bontnewydd yn drydydd.Am wybodaeth bellach am nofio a gweithgareddau dwr yng Ngwynedd, cysylltwch â DyfedGlyn Davies, Swyddog Datblygu Gweithgareddau Dwr Cyngor Gwynedd ar (01286) 677983.Neu am fwy o wybodaeth am unrhyw un o ganolfannau hamdden Gwynedd ewch iwww.gwynedd.gov.uk/canolfannauhamdden Eisteddfod Gylch yr UrddBu nifer fawr o blant y Gelli'n cystadlu yn Eisteddfod Gylch yr Urdd a bydd y 5 yma'n myndymlaen i gynrychioli'r ysgol yn yr Eisteddfod Sir cyn bo hir.

Serennu ar y Maes ChwaraeMae campau ysgol Syr Hugh ar y meysyddchwarae'n syfrdanol!

Tîm hoci dan 14 – Ennill twrnament Arfongan sgorio 12 o goliau heb adael un i'wrhwyd eu hunainTîm pêl-droed merched Bl. 7 ac 8 –Buddugol yn nhwrnament pêl-droed yrUrdd.Tîm rygbi blwyddyn 8 – Curo Ysgol yGader, Dolgellau 50 - 12.Tîm triathlon Bl. 8 a 9 – Mari Davies, AlawJones, Tomos Ellis a Guto Huws yn fuddugolyn Nhriathlon Arfon. Ymlaen i driathlonGwynedd nesa!Ras traws gwlad Cymru yn Aberhonddu –Mari Davies a Kim Parry wedi'u dewis igynrychioli Eryri.

Elin Catrin a Mabli Williams wedi'u dewisi gario'r ffagl Olympaidd yn sgil eu gwaithgwirfoddoli yn yr ysgol, mewn clybiau ac i'rUrdd. Mae'r ddwy yn edrych ymlaen atglywed ymhle byddan nhw’n cael ei gario!!

GEMAU YSGOLION Y DEYRNASUNEDIGLlongyfarchiadau i Mari Davies ar gael eidewis i gystadlu yn y nofio. Bydd Mari’n caely cyfle i gystadlu yn y pwll Olympaidd ynLlundain. Ac mae Elin Catrin wedi cael yfraint o weithio’n wirfoddol yn y Gemauyma ac felly’n cael y cyfle i weithio yn y ParcOlympaidd.

GWENNO YN Y GUILDHALLBydd Gwenno Glyn yn canu'r delyn yngnghinio mawr Cymry Llundain yn Neuaddy Guildhall i ddathlu dydd Gwyl Dewi.

Tîm pêl-droed merched 7 ac 8

PapurDreMawrth2012_PapurDreHydref2010 08/03/2012 11:35 Page 5

Page 6: Rhifyn 96 MAWRTH 2012 Pris 50c DATHLU DEWIpapurdre.net/wp-content/uploads/archif/96.pdf · 2013. 1. 11. · Mae Hosbis yn y Cartref Gwynedd a Môn yn trefnu Cinio i Ferched ym Meifod

6

Pob Dim i Ddodrefnu’r T yCanol y Dref, Caernarfon LL55 1NN

Parcio aml-lawr, 100 metr i ffwrddFfôn: 01286 676040 Oriau Agor Llun - Sadwrn 9.30 - 5.00

DODREFNA LLORIAU

CARPEDI

John WilliamsYn ôl at eich gwasanaeth! Ffôn: (01286) 674432Symudol: 07721 750958

Sefydlwyd 1972

Cyflenwi a Gosod CarpediTEILS CARPED, FEINYL, MATIAU

LLORIAU PREN

GO-AHEADTACSI

07760 28800901286 674400

• CLUDIANT IFAES AWYR

• 24 AWR Y DYDD• PRYDLON

A DIBYNADWY• PRIS CYSTADLEUOL

TEITHIWCH MEWN STEIL

Ty SiocledˆSiocled Gorau

17 Stryd y PlasCAERNARFON01286 675007

Blodau ffresBlodau ffugBasgedi GwelltCardiau CyfarchCludiant yn lleolPriodasau a Chnebrwng

Blodyn Tatws19 Stryd y Plas, Caernarfon

01286 673002

GWYNDAF WILLIAMS A’I FAB• Trwsio Esgidiau • Copïo Goriadau • Gosod Strapiau a Batri

Oriawr • Engrafiadau a lysau • Anrhegion i’w engrafu• Ciosg Lluniau Kodak

27 Stryd Llyn Caernarfon, LL55 2AD. 01286 675433

DYSTIWCH Y DELYN,TIWNIWCH EICHFFLIWT A THYNNWCHY FFIDIL O’R TO

Mae CLERA (Cymdeithas OfferynnauTraddodiadol Cymru) wrthi’n trefnurhaglen uchelgeisiol o weithdai gwerin danyr enw "Sesiwn Dros Gymru". Y bwriad ywcynnal 40 o weithdai offerynnol (hannerdiwrnod) dros gyfnod o flwyddyn, mewn 4ardal wahanol.Lleoliad cyfres y Gwanwyn yn yr ardal honyw Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis.Dyddiadau’r gweithdai yw: Dydd Sul 25Mawrth 2012 am 12pm, Dydd Sul 22 Ebrill2012 am 1pm, a Dydd Sadwrn 19 Mai 2012am 1pm. Bydd 3 dosbarth ym mhob gweithdy, argyfer gwahanol lefelau o allu a phrofiadcerddorol a bydd niferoedd wedi eu cyfyngui 10 mewn dosbarth. Bydd dosbarth lefelsylfaen arbennig yn Llanberis, gydaStephen Rees (Ar Log, Crasdant) yncanolbwyntio ar ddysgu sut i chwaraealawon Cymreig o'r glust - addas iawn iofferynwyr clasurol sy'n newydd sbon igerddoriaeth draddodiadol.

Y gost ar gyfer mynychu yw £7.50 y gweithdy,£12 am docyn teulu a £5 gostyngiadau.Dewch am jig!Am fanylion pellach neu i gofrestrucysylltwch â:Catrin Meirion / Sesiwn Dros Gymru(01286) [email protected] www.sesiwn.org.uk / www.clera.org

Bob nos Iau am 7:30 mi fydd dros 30 o boblifanc yn dod ynghyd ...i ganu yn FestriCapel Salem. Mae yna ganu, oes - ond loto chwerthin a siarad hefyd! Yn ystod yflwyddyn ddiwethaf mae’r côr wedi cadwsawl cyngerdd ac wedi cystadlu yn lleol ac

yn yr Wyl Ban Geltaidd yn y Dingle. Ond, nos Sadwrn y 24ain o Fawrth, byddCôr Dre yn cynnal eu cyngerdd blynyddolyn y dref ac yn gwahodd eu cyfeillion ynoatynt. Bydd y cyngerdd hwyliog yn FeedMy Lambs am 7:00yh. Arweinydd y noson

fydd Dewi Rhys a bydd Geraint Løvgreena Hogia’r Berfeddwlad yn cadw cwmni i’rCôr. Rhywbeth at ddant pawb am £5.Ymunwch â ni felly yn Feed My Lambs amnoson o hwyl a chanu.

Cyngerdd Blynyddol Côr Dre

NOSON PEDWAR A CHWECHCafwyd noson ddifyr iawn yng Nghlwb Canol Dre ddiwedd mis Chwefror; roedd pawb yneu dyblau’n chwerthin wrth i John Pierce Jones adrodd hanes ei fywyd a’r troeon trwstangafodd o fel plismon yn Nolgellau erstalwm (a’i ysbrydolodd i sgwennu’r gyfres gomedi‘Glas y Dorlan’), a chafwyd set hwyliog gan yr hogia o Stiniog, Gwibdaith Hen Frân.Dowch i rannu yn yr hwyl bob yn ail nos Iau!Mawrth 22: BRYN FÔN yn canu ac yn cael ei holi gan Dyl Mei.Ebrill 5: Gig 4a6 gyda’r RACE HORSES ac Al Lewis Band.

Llun gan Owain Morris - ffotograffydd sy'n un o aelodau'r côr

ˆ

PapurDreMawrth2012_PapurDreHydref2010 08/03/2012 11:35 Page 6

Page 7: Rhifyn 96 MAWRTH 2012 Pris 50c DATHLU DEWIpapurdre.net/wp-content/uploads/archif/96.pdf · 2013. 1. 11. · Mae Hosbis yn y Cartref Gwynedd a Môn yn trefnu Cinio i Ferched ym Meifod

7

Am gymorth:i gychwyn prosiecti gael hyfforddianti geisio am granti redeg mudiadi wirfoddoli

cysylltwch â Mantell Gwynedd– yn cefnogi grwpiau

gwirfoddol a chymunedol

[email protected] 672626 neu01341 422575

Elusen Gofrestredig 1068851Cofrestrwyd yng Nghymru

Cwmni Cyfynedig drwy Warant 3420271

Yn y Gadair y mis hwn mae un oberchnogion Y Gegin Fach, ty bwytapoblogaidd sy’n cuddio tu ôl i siop ddilladTrefor Jones. Mae Pat Hughes, sydd hefydyn athrawes gynradd ran-amser, yn cyd-redeg y caffi efo’i gwr Alwyn. Maen nhw’nbyw yn Ffrwd Cae Du, Bontnewydd ac maeganddyn nhw dri o blant, Tesni, Catrin aGethin, ill tri yn eu hugeiniau.

Beth yw eich ofn mwyaf?Llefydd cyfyng fel ogofâu.Beth yw eich cof cynharaf?Mynd ar goll mewn ffair haf ym MhlasDinas, Bontnewydd pan oeddwn yn 4 oeda’m chwaer yn dod o hyd imi yn crio o dangoeden fawr. A rwan 'dwi’n byw ganllath o’rlle !Ar wahân i dy, beth yw’r peth drutaf i chiei brynu erioed?Fy Scirocco coch ym 1985!!Beth yw eich hoff arogl?Bara newydd ei bobi.Pryd dach chi hapusaf?Pan dwi’n sgwrsio hefo’r cwsmeriaid yn ycaffi, neu’n treulio amser hefo 'nheulu.Pwy fyddech chi’n ei wahodd i’ch swperdelfrydol?

Chris Evans, Dave Allen, George Best a’rDalai Lama – mixed bag go iawn!Pe baech yn gallu teithio mewn amser ible byddech chi’n mynd?I’r swinging 60’s a chael bod yn fy arddegauhefo’m chwiorydd yn hytrach nag yn fymhlentyndod!Beth yw eich siom mwyaf?Fy mod wedi ei gadael hi tan fy 30au cyndilyn cwrs gradd – (roedd hi llaweranoddach hefo teulu!)Sut ydach chi’n ymlacio?Drwy wrando ar fiwsig, chwarae’r gitâr neugoginio. Dwi’n hoffi garddio hefyd, ond yncasáu chwynnu gan 'mod i’n gwybod ybyddan nhw’n ôl ymhen dim!Pa un peth fasa’n gwella ansawdd eichbywyd?Mwy o haul!Beth yw eich llwyddiant mwyaf?Fy mhlant – dwi mor lwcus ohonyn nhw.Beth sydd yn eich cadw yn effro yn y nos?Meddwl am bethau sydd gen i i’w gwneud'fory – ac, ar y funud, y gwr yn pesychu...bechod!Be dach chi fwyaf anobeithiol am 'wneud?Sgwennu rhestrau – rhywbeth y dyliwn eiwneud i gael gwell trefn yn fy mywyd!Be dach chi’n ei wneud i gadw’n heini?Dydwi ddim yn heini! Ond mi fydda i’n triocerdded efo’r ci ryw ben bob dydd.Be sy’n eich gwylltio fwyaf am Gymru?Ein bod ni fel cenedl yn gyndyn o fentro –ella mai dyna pam bod gynnon ni’rdywediad ‘Tri chynnig i Gymro’?Pwy fu’r dylanwad mwyaf ar eich bywyd?Fy nhad – roedd o bob tro 'run fath hefo

pawb a wastad yn dweud wrthym am drinpawb fel yr hoffem gael ein trin ein hunain.Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?Noson o’r blaen wrth wylio pennod ola o‘Brothers and Sisters’!! A chwerthin?Wrth wylio rhaglen ‘Micky Flanagan’.Pwy oedd y Cymro neu’r Gymraes fwyafyn eich tyb chi?Ryan Davies – roedd o’n amryddawn achanddo lais fel melfed ….ac roedd o’n dodo Lanfyllin, fel fy nhad!P’run ydy’r llyfr gorau i chi ei ddarllen?Hi yw fy ffrind – Bethan Gwanas. Cefaisfenthyg y llyfr gan fy ffrind Iona ac mae’ndod ag atgofion melys i mi o gyfnod y 70aupan oeddwn yn ifanc a ffôl!Beth yw eich hoff fiwsig?Dwi’n hoffi bob math ond mae MichaelBuble, Van Morrison a’r Eagles yn ucheliawn ar y rhestr gan fy mod wedi eu gweldyn fyw ar lwyfan!Beth yw eich hoff le yn Dre?Y Gegin Fach – wrth gwrs!Beth yw eich hoff fwyd?Bara ffresh... dyna pam y priodish i bobydd!

YN Y GADAIR

Darllenwch Papur Drea chofiwch wylio ein rhaglenni ar S4C

Sgoriobob pnawn Sadwrn a nosFawrth ar S4C am 6.30

Rownd a Rowndbob nos Lun a Mercher am

6.30

4 Penllyn, Caernarfon

01286 674748Dewis helaeth o fwydydd iach, bwydydd cyflawn,

fitaminau ac ychwanegion.Barod bob amser i archebu nwyddau

sydd ddim yn y siop.Stoc mwyaf gogledd Cymru o Berlysiau a sbeisiau.

Bwydydd Iach adeunydd Bragu

COFIWCH CEFNOGIEIN HYSBYSEBWYR

TOWN CABSPerchennog:

Brian O’Shaughnessy

TACSI TACSITACSI

01286 67609107831 268995

Siwrneiau Lleol

Meysydd Awyr

Dydd a Nos

Car 8 person

Llun gan Owain Morris - ffotograffydd sy'n un o aelodau'r côr

PapurDreMawrth2012_PapurDreHydref2010 08/03/2012 11:35 Page 7

Page 8: Rhifyn 96 MAWRTH 2012 Pris 50c DATHLU DEWIpapurdre.net/wp-content/uploads/archif/96.pdf · 2013. 1. 11. · Mae Hosbis yn y Cartref Gwynedd a Môn yn trefnu Cinio i Ferched ym Meifod

8

Alun FfredJones

Aelod Cynulliad Arfon

CYMORTHFEYDDOs oes gennych fater yr hoffech ei

drafod gyda’ch AC mewn cymhorthfa,

yna cysylltwch ag o yn ei swyddfa yng

Nghaernarfon neu ym Mangor:

Swyddfa Etholaeth, 8 Stryd y Castell,

Caernarfon, LL55 1SE

01286 - 672 076

Swyddfa Etholaeth, 70 Stryd Fawr,

Bangor, LL57 1NR

01248 - 372 948

[email protected]

Y tro diwethaf buom yn trafod un o henstrydoedd y dref, sef Stryd Fangor, a chaedpeth o’i hanes yn ôl awdur o’r 19eg ganrif,W.H. Jones. Ef a ysgrifennodd y llyfr OLDKARNARVON mor bell yn ôl â 1881. Llyfrydyw a ddylai fod ym meddiant pawb sy’nymddiddori yn hanes yr hen dref, ond ynanffodus sydd bellach allan o brint.Y tro hwn, fodd bynnag, rwyf yn eich cymelli brynu llyfr newydd gan awdures a aned aca faged yma yng Nghaernarfon, sef HENENWAU O ARFON, LLYN ACEIFIONYDD gan y Dr Glenda Carr. Fegefais i gopi yn anrheg y Nadolig diwethaf achefais bleser yn pori trwy enwau llefydd ybu llawer o sôn amdanynt yn y gorffennol,ond prin eu bod mor gyfarwydd i ni heddiw.Cofiaf i’m diweddar gyfaill a chyd chwilotwr,Stewart Whiskin, drafod gyda miyr enw TOLPIS, fel y’i ceir yn llyfr yr AthroT. Hudson Williams, ‘Atgofion amGaernarfon’ (Gwasg y Brifysgol 1950). Felmilwr o’r Ail Ryfel Byd a wasanaethoddgyda’r Ffiwsilwyr Cymreig roedd ganStewart ddiddordeb yn y lle gan mai yno ybyddai Milisia Caernarfon yn cyfarfod ac ynymarfer. Dywedodd hefyd nad fel yna yclywodd o rai yn ynganu’r enw ond felTOPLIS. Hawdd oedd credu hynny o gofiobeth a ddywedodd yr Athro am iaith y Cofia’r arferiad o gam leoli cytseiniaid ar ganolgair e.e. ‘Llerfith yn lle Llefrith’Mae Dr Glenda Carr, ar y llaw arall, wediolrhain hanes yr enw a chael mai yn 1701 ycyfeiriwyd gyntaf ato fel TALPISH neuTOLPISH. Daeth hefyd ar draws ddaugofnod o gyfnodau cynharach, un yn 1545 a’rllall yn 1623 yn enwi dôl ar gyrionCaernarfon fel “Twrffe Pitts” a chydacymorth Rhestr Pennu’r Dreth PlwyfLlanbeblig 1841 daeth i’r casgliad mai yTOLFRIS ar dir fferm Cae Gwyn yngngogledd y dref ar Ffordd Bethel yw yr un aenwir yn TOLPISH yn 1701 ac mai llygriado’r gair TWRFFE PITTS neu TURFPITTS yw TOLPISH, ond ei bod yn anoddesbonio pam y gollyngwyd y sain “t” yn ygair “PITTS” ac ni lwyddodd i weldcysylltiad rhwng “TURF” a “TOL”, ond erhyn credaf bod Dr. Carr wedi taro ar y gwir.

Fe ddug hyn i gof i mi hanesyn y deuthumar ei draws yn Archifdy Caernarfon raiblynyddoedd yn ôl. Roedd morwr oGaernarfon newydd lanio yn Awstraliaa daeth ar draws Cymro, Cymraeg ei iaith, agofynnodd iddo o ble roedd o’n dod yngNghymru. Ateb y gŵr hwnnw oedd “OGaernarfon, ac roedd fy mam yn gwerthumawn yn y Pendist bob diwrnodmarchnad.” Cofier mai “Turf Square” oeddyr enw Saesneg ar y lle, neu “Clwt y Mawn”fel y’i gelwid bryd hynny yn y Gymraeg. Ynoy deuai amaethwyr y cylch gyda’u mawn i’wwerthu fel tanwydd, pob un â’i fwrdd ei hun.Dim ond wrth ei fewnforio yr oedd yn bosibcael glo bryd hynny, ond roedd digonedd ofawn ar gael yn lleol a hwnnw yn rhatach i’wbrynu.Yn ddiamheuol, fe wnaeth y Dr Glenda Carrgymwynas enfawr â phobl tref Caernarfonynghyd â rhai o gylch llawer ehangach sy’ncynnwys rhan helaeth o Sir Gaernarfon. Pwyfuasai’n meddwl bod yr enw a roed ar gaemilisia yn y dref yn tarddu o’r ffaith bod ynoGloddfa Mawn bron dri chan mlynedd cynhynny?Tybed beth fyddai ymateb Stewart Whiskin,yr hen chwilotwr deheuig i’r esboniad?Byddai wrth ei fodd mi gredaf!Ydi, mae’r llyfr yn llawn perlau o wybodaetham enwau hen a newydd sy’n gyfarwydd ilawer ohonom. Sylwais ar un pennawd o dany enw Greenland sy’n nodweddiadol ohiwmor ardal y chwareli a thrigolion trefCaernarfon. Pwy all anghofio’r enw afathwyd gan y Cofis ar Swyddfeydd y Goronym Mhenrallt Uchaf? Ie, Colditz, sef enw’rcarchar mewn castell yn yr Almaen adeg yrAil Ryfel Byd i gadw rhai a lwyddodd i

ddianc, dros dro, o wersylloedd eraill agodwyd ar gyfer carcharorion rhyfel. Roeddhiwmor y Cofi a’r chwarelwr yn bur debyg.Weithiau’n ddychanol ac weithiau’n bigog.Cofiaf glywed am un chwarelwr a gollodd eifawd mewn damwain ac yn codi ei law iddweud wrth gydweithiwr. “Mae’n debyg ilaw”. Atebodd y llall, “Ydi pe bai bawdarni”.Enw ar annedd mewn ardal chwarelyddolger Mynydd y Cilgwyn ym mhlwyfLlandwrog oedd GREENLAND. Ceir ycyfeiriad cyntaf yn llyfr treth plwyfLlandwrog am y flwyddyn 1839 ac ynamewn llyfrau treth mwy diweddar. Foddbynnag, ni cheir cyfeiriad ato ar ôl yr un yn1920 ar fap ordnans. Disgrifiad yw’r enw o’rlle mewn man diarffordd, oer.Tebyg yw’r cyfeiriad tua’r flwyddyn 1976pan adeiladwyd pont o ardal Twtil yngNghaernarfon i groesi ffordd osgoi’r dref ilawr Penrallt Uchaf at y Pendist.Yn ystod misoedd y Gaeaf roedd y fan hynyn lecyn oer ac amlwg a ’does ryfedd boddyfeisgarwch diddiwedd y Cofi wedi bathuenw ar y fath le. Choeliwch chi byth –Siberian Bridge! Go dda ynte! Mae’n einhatgoffa o le cysgodol o dan muriau’r castellar y Cei Llechi ac er i fy niweddar fam gaelei geni yn 1894, fel y South of France ygalwai hi y lle. Dyna ichi beth ydigwrthgyferbyniad.Wel, i chi sydd yn berchen ar docynnau llyfrfel anrhegion Nadolig, beth am eu cyfnewidam lyfr y byddwch chi a’ch plant ryw ddyddyn ei drysori. Cofiwch: HEN ENWAU OARFON, LLYN AC EIFIONYDD ganGlenda Carr (£10.95 Gwasg y Bwthyn).

T. MEIRION HUGHES

HEN ENWAU

Rhif Cofrestredig Elusennol: 1084271

Cynigir hyfforddiant cerddorolo safon uchel ar amrywiaeth o offerynnau a llais. Pob lefel.Croeso cynnes i bob oedGrwpiau cerdd i blant

18mis i 3oed yn ystod y dydd

Canolfan Gerdd William MathiasGaleri, Doc VictoriaCaernarfon, Gwynedd LL55 1SQ(01286) 685230 • [email protected]

Arweiniad Ariannol Annibynnol

Independent Financial Advice

Pensiynau Buddsoddiadau Yswiriant Personol Cynllunio a Chyngor Ariannol Dylan Roberts: Arbenigwr Ariannol Rhaglen Nia ar Radio Cymru

36 Y Maes, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2NN

01286 672011

www.canllaw.co.uk

[email protected]

Gwasanaeth Cyfeillgar, Profiadol, Lleol a Phroffesiynol:

Cysylltwch yn syth i drefnu eich cyfarfod cychwynol yn rhad ac am ddim.

Pensiynau Buddsoddiadau Yswiriant Personol Cynllunio a Chyngor Ariannol

Dylan Roberts: Arbenigwr AriannolRhaglen Nia ar Radio Cymru36 Y Maes, Caernarfon, Gwynedd, LL552NN 01286 [email protected]

Gwasanaeth Cyfeillgar, Profiadol, Lleol a Phroffesiynol:Cysylltwch yn syth i drefnu eich cyfarfod cychwynol ynrhad ac am ddim.

ArweiniadAriannolAnnibynnol

ˆ

ˆ

PapurDreMawrth2012_PapurDreHydref2010 08/03/2012 11:35 Page 8

Page 9: Rhifyn 96 MAWRTH 2012 Pris 50c DATHLU DEWIpapurdre.net/wp-content/uploads/archif/96.pdf · 2013. 1. 11. · Mae Hosbis yn y Cartref Gwynedd a Môn yn trefnu Cinio i Ferched ym Meifod

9

Panorama Cymru19 Stryd y Plas

Arddangosfa o dirluniau trawiadol ganGeraint Thomas

a ffotograffwyr eraill.Llogi offer ffotograffig arbenigol.

Argraffu lluniau o safon uchel.Gwasanaeth fframio.

Gwasanaeth meddalwedd.01286 674140

OWEN GLYN OWEN CYFCigydd i’r Tai Bwyta Gorau

Ffôn: (01286) 672146•Ffacs: (01286) 6777612 STRYD BANGOR, CAERNARFON

UN SAFON –Y SAFON GORAU

AELOD O URDD CIGYDDION

Sefydlwyd 1939

Jason Parry16 Stryd BangorCaernarfon

Ffôn:(01286) 672366Symudol:

07900594279

Yr Alexandra GO-AHEADTACSI

07760 28800901286 674400

• CLUDIANT IFAES AWYR

• 24 AWR Y DYDD• PRYDLON

A DIBYNADWY• PRIS CYSTADLEUOL

TEITHIWCH MEWN STEIL

Ty SiocledˆSiocled Gorau

17 Stryd y PlasCAERNARFON01286 675007

Blodau ffresBlodau ffugBasgedi GwelltCardiau CyfarchCludiant yn lleolPriodasau a Chnebrwng

Blodyn Tatws19 Stryd y Plas, Caernarfon

01286 673002

GWYNDAF WILLIAMS A’I FAB• Trwsio Esgidiau • Copïo Goriadau • Gosod Strapiau a Batri

Oriawr • Engrafiadau a lysau • Anrhegion i’w engrafu• Ciosg Lluniau Kodak

27 Stryd Llyn Caernarfon, LL55 2AD. 01286 675433

Y BENCAMPWRAIGBRYSUR

Mae enw Mari Davies wedi codi sawl gwaithyn Papur Dre wrth inni sôn amlwyddiannau Ysgol Syr Hugh Owen ymmaes chwaraeon. Fel rheol, bydd disgyblionyn serennu mewn un gamp ond nid fellyMari - mae hi'n mwynhau ac yn llwyddo'nrhyfeddol mewn campau di-ri!EI LLYGAID AR Y GEMAUOLYMPAIDDNofio yw ei phrif ddiddordeb ac mae'ntreulio oriau yn ymarfer mewn pyllau nofioar draws Cymru. Y mis yma, bydd Mari'ncael y fraint o fynd i dreialon nofio Prydainar gyfer y Gemau Olympaidd. Bydd yn caely cyfle i nofio yn erbyn enwogion y bydnofio, ac yn ôl Mari “Os bydd gen i amsergwell na Rebecca Adlington yna, fi fydd ynmynd i'r Gemau Olympaidd a ddim hi”!!Dim ond 14 oed ydy Mari ar hyn o bryd, acfelly mae'n sylweddoli y bydd hi yn erbynnofwyr profiadol iawn yn eu maes, ond maehi am achub ar y cyfle yma i fwynhau adysgu o'r profiad.

GEMAU YSGOLION PRYDAINYm mis Mai, bydd Gemau Ysgolion Prydainyn cael eu cynnal yn y Parc Olympaidd ynLlundain, ac mae Mari wedi cael ei dewis igystadlu yn y gystadleuaeth yma hefyd, fellybydd hi yn cystadlu yn erbyn nofwyr yr unoed â hi ac yn cael y fraint o nofio yn y pwllOlympaidd - rydym i gyd yn edrych ymlaenat glywed am ei phrofiadau yn y Pwll!!TRAWS-GWLAD, PÊL-RWYD a'rTRIATHLONOnd beth am y campau eraill? Bu Mari'nfuddugol yng nghystadleuaeth traws-gwladysgolion Arfon ac aeth ymlaen i gynrychioliArfon yng nghystadleuaeth Eryri ynNolgellau. Daeth ymhlith yr 8 uchaf yno achael ei dewis i gynrychioli Eryri yngnghystadleuaeth traws-gwlad ysgolionCymru yn Aberhonddu. Ond, ar yr unpenwythnos, roedd i fod i gynrychioli Eryrihefyd yn nhwrnament pêl-rwyd dan 14Cymru. Yn goron ar y cyfan, yr wythnosdiwethaf, roedd Mari'n aelod o dim

buddugol triathlon blwyddyn 8 a 9, a higafodd yr amser gorau o blith y merched igyd! Cofiwch yr enw!

Côr bechgyn hyn Ysgol Syr Hugh a fu'n fuddugol yn yr Eisteddfod Gylch

CORAU MEIBION Y DYFODOL

Croeso cynnes bobamser gan Dilys a Ken. Tafarn gartrefol a chlydCwrw da, gwasanaeth

cyfeillgarFfôn: (01286) 672871

GRAY-THOMAS9-11 Pen Deitsh a 16 Stryd y Plas

Caernarfon

01286 672602www.gray-thomas.co.uk

ANRHEGION ARBENNIG A CHARDIAU AT BOBACHLYSUR • ORIEL, NWYDDAU CELF AGWASANAETH FFRAMIO • AWYRGYLCHGYFEILLGAR ... DEWCH I MEWN AM SBEC

Oes gennychddiddordeb mewngweithio’n achlysurol gydagoedolion sydd hefoproblemau cof?Rydym yn chwilio am bobl sy’n ofalgar,amyneddgar ac sydd yn gallu dangos parchtuag at eraill beth bynnag eu hanghenionOs ydych yn mwynhau sialens ac yn ffitio’rdisgrifiad, cysylltwch â Janette Tuff, Rheolwr Plas Maesincla ar

01286 672507am sgwrs bellach

PapurDreMawrth2012_PapurDreHydref2010 08/03/2012 11:35 Page 9

Page 10: Rhifyn 96 MAWRTH 2012 Pris 50c DATHLU DEWIpapurdre.net/wp-content/uploads/archif/96.pdf · 2013. 1. 11. · Mae Hosbis yn y Cartref Gwynedd a Môn yn trefnu Cinio i Ferched ym Meifod

C’mon yr Hendre! Mawrth Ysgol

newyd a

Dri deg a dau o fisoedd ers yr awgrymcynta o ysgol newydd i’r Hendre,gwireddwyd y freuddwyd.

Mae’r ysgol gwerth £9.7 miliwn wedi agor eidrysau i’r athrawon a’r 370 o ddisgyblion acmae pawb ar ben eu digon.“Mae hi wedi bod yn daith reit hir,”meddai’r Pennaeth, Arwel Jones, “ond oweld ymateb y plant, mae hi wedi bod ynwerth aros yr holl amser.”Yn wir, mae hi’n ysgol werth ei gweld.Ystafelloedd dosbarth golau, glân gydagolygfeydd godidog o Eryri. Neuadd fawr(iawn) amlbwrpas a chegin agored, fodern.Coridorau hirion, braf. Sustem camerâucyfyng a sustem awyru gyfoes iawn,electronig (sy’n storio gwres yr adeilad yn y‘bocsys’ pren ar y to cyn ei ailddosbarthuledled yr ysgol). Mae’r iard yng nghanol yrysgol ac mae ’na ddigonedd o lefyddpwrpasol i gadw beics! Ac i goroni’r cyfan,ffenestri sy’n agor eu hunain os aiff hi’n rhyboeth.Deunaw mis gymerodd hi i adeiladu’rHendre newydd, sy’n dipyn o gamp, yn ôl yPennaeth. “Ac yn y cyfnod hwnnw,” meddaiArwel Jones, “mae’r ysgol wedi caelcydweithrediad anhygoel ganlywodraethwyr yr ysgol, swyddogionCyngor Gwynedd, Cwmni Cynnal a chwmniadeiladu Wynne’s.”Ar wahân i’r athrawon a’r disgyblion, unarall sy’ wedi rhyfeddu at yr ysgol newyddydy rheolwr tîm pêl-droed Bryncoch - ahynny er ei fod o wedi colli ei gae chwarae iwneud lle iddi!Wrth sefyll ar y ‘lein’ yr arferai ArthurPicton ei throedio, roedd John Pierce Jones,yr actor, wedi rhyfeddu at faint yr ysgol.“Anodd credu bod na le i adeilad mor fawrar yr hen gae,” meddai John. “Mae hi’nysgol werth chweil.”Mae’r ysgol wrth gwrs wedi ei chodi ar yrhyn arferai fod yn Gae Phillips (drws nesa iCae Top, cartref Caernarfon Wanderers) a’rcae a anfarwolwyd yn y gyfres C’monMidffîld.“Fama o’n i’n gweiddi nerth ’y mhen,”meddai John wrth sefyll gerllaw ardalchwarae’r plant iau, “ac yn y drws yn fan’cwroedd gôl Tecwyn Parry.” C’mon yr Hendre fydd hi o hyn allan.

Asiffeta! John P Picton) yn edmygu

Mae 'na lot o waith pacio Prosiect), Roy Owen (Cade Jones!

Jac - y Brawd Mawr

PapurDreMawrth2012_PapurDreHydref2010 07/03/2012 14:16 Page 10

Page 11: Rhifyn 96 MAWRTH 2012 Pris 50c DATHLU DEWIpapurdre.net/wp-content/uploads/archif/96.pdf · 2013. 1. 11. · Mae Hosbis yn y Cartref Gwynedd a Môn yn trefnu Cinio i Ferched ym Meifod

rth 12, 2012.ol gynraddydd sbon yn

agor

Y staff yn paratoi

Helen Williams: mae sgriwio

olwyn i

gwpwrdd yn waith caled!

Carol Craig a Helen Lewis ar eu gliniauJaqueline Williams a Gwyneth Fretwell -fuon ni erioed yn hoff o fecano!

n Pierce Jones (Arthur mygu ei hen gae

pacio i Richard Farmer (Rheolwr Cadeirydd y Llywodraethwyr) a Wil

awr

Ysgol yr Hendre - 18 mis i'w hadeiladu

Mae'r 'bocsus' ar y to yn storiogwres ac yn ei ailddosbarthu

Pennaeth hapus: Arwel Jones

Un-ar-ddeg cadair - mae 'na dri chantpum-deg-naw arall yn rhywle - MiriamPritchard ac Ella Robets

PapurDreMawrth2012_PapurDreHydref2010 07/03/2012 14:16 Page 11

Page 12: Rhifyn 96 MAWRTH 2012 Pris 50c DATHLU DEWIpapurdre.net/wp-content/uploads/archif/96.pdf · 2013. 1. 11. · Mae Hosbis yn y Cartref Gwynedd a Môn yn trefnu Cinio i Ferched ym Meifod

12

I gadw’n gynnes a chlyd cysylltwch â

JOHN HUGHES A’I FABMasnachwyr Glo Carmel

01286 882 160Hefyd yn gwerthuSTÔFS SY’N LLOSGI COED A GLOGalwch yn yr iard i weld ein dewiseang o stôfs traddodiadol amodernCynigwn wasanaeth cyflawn gangynghori a gosod eich stôfEdrychwch ar ein gwefan

www.fflam.biz

CIROPODI PODIATRI

Iola Roberts

M.Ch.S. S.R.Ch.

Galwadau i’r cartref

25 mlynedd o brofiad

HPC cofrestredig

symudol:

07771 278633

A Sul y Mamau ar y gorwel - fe aeth Annes Siôn iholi rhai o aelodau Côr Dre sut maen nhw'ndangos eu cariad at eu mam.Tips Pobl Dre

‘Dweud wrthi hi ia....’ – Tanya Lewis, Alto ‘Fel hogyn o Seion, mynd a hi am bryd o fwyd i Ty’n Llan’ –Geraint Brython, Bas

‘Dwi’n dangos iddi drwy wneud ei smwddio’ – Alaw Haf, Alto ‘Ffordd syml ond effeithiol – anfon neges destun ati yn dweud’Ifan Tudur, Bas

‘Golchi’r llestri ydi be fydda’i yn wneud i ddangos iddi ’mod i’nei charu’ – Andrew Settatree, Bas

‘Be dwi’n neud ydi prynu bwnsiad o floda’ iddi a mynd a hi am‘afternoon tea’ i Fron Goch’ – Llinos Roberts, Soprano

PapurDreMawrth2012_PapurDreHydref2010 08/03/2012 11:35 Page 12

Page 13: Rhifyn 96 MAWRTH 2012 Pris 50c DATHLU DEWIpapurdre.net/wp-content/uploads/archif/96.pdf · 2013. 1. 11. · Mae Hosbis yn y Cartref Gwynedd a Môn yn trefnu Cinio i Ferched ym Meifod

13

Moduron Menai

Ffôn: 678681Ffôn symudol:

07780 998637Ffordd y Gogledd,

Caernarfon, Gwynedd LL55 1BEwww.moduronmenai.co.uk

Dewis helaetho geir o’r ansawdd uchaf

am brisiaucystadleuol

O Sul i Sul

Ar gyfer eich hollanghenion yswiriant

6 Stryd Bangor, CaernarfonFfôn: (01286) 677787Ffacs: (01286) 677629

Cae Llenor, Lôn Parc,CAERNARFON, LL55 2HH

Ffôn: (01286) 685300Ffacs: (01286) 685301

Peidiwch â methu’r gyfres

CWFFIO CAWELLsy’n dechrau nos Iau, Ebrill 5 ar

S4C – hanes Emma, Robin a Leah(cynnyrch Academi Chris

Pritchard, Caernarfon) wrthiddynt gystadlu yn un o’r campausy’n tyfu gyflymaf ac sy’n dod yn

fwyfwy poblogaidd yn y bydcampau cyswllt.

EGLWYS GYMUNEDOL NODDFAGwasanaethau mis Mawrth am 3,Ysgol Sulam 2:30Ebrill 8fed - Dathlu'r Pasg yn Noddfa. Nichynhelir Ysgol Sul ond cynhelir oedfa'wahanol'. Dewch i 'weld' ac i 'glywed' aphrofi'r Pasg yn dod yn fyw!

Cawl Cwis a ChânAm 8 nos Lun, 26 Mawrth, yng NghanolfanNoddfa, fe fydd yr Eglwys yn trefnu nosonarbennig, ‘Cawl, Cwis a Chan’. Noson ogymdeithasu, mwynhau powlen o lobsgowsac ymuno mewn tîm ar gyfer y cwis.

SEILOGwasanaethau fel arfer yn Seilo.Uno yn Salem am 4 Ebrill 1 ac am 5 Ebrill 8

EBENESER Gwasanaethau am 10yb. Ysgol Sul yncydredeg a'r oedfa.

CAERSALEM www.caersalem.com

Cyfarfodydd am 10 ac am 5.30

SALEMGwasanaethau fel arfer yn SalemUno yn Seilo am 4 Mawrth 18 ac ar 5 Ebrill Ebrill 6 gwasanaeth Dydd Gwener Groglith 7 p.m.

EGLWYS Y SANTES FAIR ACEGLWYS LLANBEBLIG

Gwasanaethau'r Wythnos FawrOfferen am 9.15 yn ystod yr Wythnos Fawr:Llun (Llanbeblig); Mawrth aMercher(Santes Fair); Cymun ar y cyd DyddIau Cablyd am 7 yn Santes FairGwener y Groglith - 12- 3 Defosiwn wrth yGroes; Sadwrn 8pm - Noswyl y Pasg ynSantes FairSul y Pasg 9.15 - Cymun Saesneg yn SantesFair; 10.30 Offeren ar Gân yn Llanbeblig.Dim Gosber, pawb i ymuno yngngwasanaeth Undebol Noddfa.

CYNGOR EGLWYSI CAERNARFONCyfarfodydd y Grawys 2012Thema :‘Ffordd i Ryddid’Cyfarfodydd : Feed My Lambs: 11.30 y bore(cinio ysgafn ar gael). Ebeneser : 7 o’r gloch.29 Chwefror BETH YW RHYDDID(11.30)7 Mawrth DISGYBLAETH (7p.m)14 Mawrth GWEITHREDU ( 11.30)21 Mawrth YR EGLWYS FELCYMUNED (7p.m) (Cyfarfod Dwyieithog) 29 Mawrth DIODDEF ( 11.30)5 Ebrill Nos Iau Cablyd yn St Fair.Cymun (7p.m)

GWENER Y GROGLITHCYMUN yn EBENESER am 10 o’r glochWedi’r Cymun Gorymdaith y Pasg (11o’rgloch)P’nawn Sul y Pasg am 3 o’r gloch:Gwasanaeth Undebol yn Noddfa .Croeso Cynnes i Bawb

Dathlu Dwbl

Roedd dau achos i ddathlu yn Salem ddyddSul diwetha. Ar ôl addoli yn y festri erswythnosau, dychwelodd yr aelodau i'r capelei hun gan fod y sgaffaldiau a godwyd ibaentio'r capel wedi diflannu a'r capel ar einewydd wedd. Ond y prif reswm drosddathlu oedd bod Dylan Rhys Parry, syddwedi penderfynu ei fod am fod ynymgeisydd am y weinidogaeth, yn gyfrifolam y gwasanaeth i gyd.

Grãp Heddwch a Chyfiawnder Arfon Nos Lun 2 Ebrill am 7o'r gloch ar yMaes. 'PWY SY'N WYLO HENO'. Cyfle ifeddwl, cofio a golau cannwyll. Paned yndilyn yn festri Salem

SWYDDOGION NEWYDD

Yn ddiweddar, cafodd Cyngor Eglwysi Caernarfon gyfle i ddiolch i Parch Jeffrey Hughes amei waith fel llywydd ac a chroesawu Mr Richard Morris Jones yn llywydd newydd a MrsFiona Evans yn drysorydd newydd. Bydd Mererid Mair yn parhau yn ysgrifennydd.

PapurDreMawrth2012_PapurDreHydref2010 08/03/2012 11:35 Page 13

Page 14: Rhifyn 96 MAWRTH 2012 Pris 50c DATHLU DEWIpapurdre.net/wp-content/uploads/archif/96.pdf · 2013. 1. 11. · Mae Hosbis yn y Cartref Gwynedd a Môn yn trefnu Cinio i Ferched ym Meifod

FFILBI… yn gwylioa gwrando!

14

AMBELL BETHTrist ydi’r ffaith fod y Castell – hwnnw efo to- yn newid dwylo. Mae’r lle yn sbot on amsgram, ac yn lle iawn am sesh hefyd. DiolchAngharad, a biti fod y “bragdy” yn gwrthoddy gefnogi. Fydd dyfodol y lle yn ddiddorol.Gobeithio bydd na Gofi, neu o leiaf Gymro,yn cario ‘mlaen yr hyn sydd wedi eiddechrau. Efo’r Honour wedi cau mae’nrhaid gobeithio y bydd y wledd o lefyddbwyta ardderchog yn Dre ddim yn diflannuyn rhy sydyn.Does na ddim sôn am neb eisiau prynuChinatown ar y Maes. Ydi hyn yn dangosgwendid Dre? Mae’r Maes yn lle i wneud elwfysach chi’n meddwl. Ac eto, neb yn neidioam y cyfle i fynd am dri adeilad yn sownd i’wgilydd. Be ydy o sy’n gwneud Dre (efocymaint i’w gynnig) i ddioddef o ddiffyghyder gan fuddsoddwyr. Mae rwla fel Conwyar y llaw arall yn gwneud yn well. Ydy orwbath i’w wneud efo’r Cyngor ?Cyn hir mi fydd Dawnus - ella -wedi darfodail wneud strydoedd Dre. Ond mae nhw yndechrau f ’atgoffa i o’r Forth Rail Bridge!Erbyn y bydd Dawnus wedi darfod mi fyddhi’n amser dechrau eto! Sut ar wynab yddaear mae’r gwaith yma yn para mor hir?Ydy o rwbath i’w wneud efo’r Cyngor ?Diwrnod o’r blaen mi ofynnodd rhywun ‘lleoeddat ti pan farwodd Prinses Dai?’ (enw dai’r Prinses o’ Wales). Mi aeth y sgwrs yn eiblaen ynghylch dyddiau bythgofiadwytebyg. Saethu Kennedy, y Falklands, ManUtd 1 Man City 6, oedd rhai o’rdigwyddiadau a ddaeth i’r amlwg. Ond ygwir ddiwrnod bythgofiadwy ydy diwrnod yffloss cyntaf! Mae rhywun wedi ll’nau eiddannedd yn (weddol) gyson ar hyd ei oes acyn meddwl ei fod yn gwneud yn OK. Ondyna yn darllen (neu glywed yn rhywle) am“dental floss”, yn ei weld yn Boots a’i brynu.Yyyyych ! Ffeindio bod ceg rhywyn ynllawn o gig yn pydru a drewi. Sori, ondmae’r eiliad yna yn llawer pwysiacach nacarlywydd Mericia yn cael ei saethu gangomiti. Cofiwch chi, tasa rhai o’n cynghorauni neu gwmniautrwsho pafinswedi cael y job osaethu Kennedyella basa’r co dalefo ni!

Dal fy llygaidCwch Bach GlasBob tro dwi’n edrych trwy ffenest fy llofftdwi’n ei weld o, bob dydd ym mhob tywydd.Mae o mor ddel a thwt â chwch plentyn –wastad 'run fath, mewn hindda neu ddrycin.‘Uphill Struggle’ yw ei enw, a rhag cywilyddpwy bynnag roddodd yr enw gwirion ynaarno fo!Tydi o byth yn cael ei symud, ond yn aros ary gwlâu Cregyn Gleision rhwng TraethGwyllt a glan môr Tal y Foel. Ond, weithiaubydd 'na floedd “mae o’n symud”! A byddafyn gwirioni wrth weld y Cwch Bach Glas ynstemio tuag at hen dafarn y Mermaid ac ynei ôl wedyn!Yn Tal y Foel 'roedd fferi Caernarfon ynglanio ac roedd fferi yn y dyddiau hynny ynllawer pwysicach na chwch yn croesi o unlle i’r llall a’r morwyr yn codi arian am ygwasanaeth. Yn hytrach, y gwasanaeth hwnoedd y gwasanaeth cludiant cyhoeddusneu'r wefan ar y dŵr! Heblaw am bobol,byddai’r fferi yn cario nwyddau o bob math,anifeiliaid, post a phlant i’r ysgol yngNghaernarfon yn ogystal â chario clecs astraeon y fro.Ar un adeg roedd 'na 6 fferi yn croesi’rFenai: Caernarfon i Tal y Foel acAbermenai. Yn Felinheli roedd fferi Moel yDon, ac o Fangor, fferis Porthaethwy aPorthyresgob oedd yno, heb anghofio fferiLlanfaes (Beaumaris).

Y fferi ola i hwylio o Gaernarfon oeddMotorLaunch ML Arfon adawodd ar 30aino Orffennaf 1954 am 5.00 o Gaernarfon acwedyn yn ôl i Gaernarfon am 5.15 am y troolaf a diweddu gwasanaeth o dros 700mlynedd! Mae 'na sawl cân wedi ei sgwennu amGaernarfon a’r môr ond mae’r gerdd isod ynsôn am waliau Caernarfon a’r Fenai . Mae’nddisgrifiad perffaith o be mae rhywun yn eiweld yn aml wrth gerdded ar hyd y prom,heibio i Borth yr Aur ac ymlaen at Bont yrAber. Does neb yn gwybod pwy sgwennoddhi hyd heddiw.

Waliau CaernarfonUn noson ddrycinog mi euthum i rodioAr lannau y Fenai, gan ddistaw fyfyrio;Y gwynt oedd yn uchel, a gwyllt oedd y wendon,A’r môr oedd yn lluchio dros waliau Caernarfon

Ond drannoeth y bore mi euthum i rodioHyd lannau y Fenai, tawelwch oedd yno;Y gwynt oedd yn ddistaw, a’r môr oedd yn dirion,A’r haul oedd yn t’wynnu ar waliau Caernarfon.

I droi’n ôl at y cwch bach glas hwnnw 'dwi’nei weld drwy ffenest fy llofft, mi dwi newyddgroesi’r Fenai i’w weld o o flaen fy nhrwyn,felly. Wrth edrych ar ‘Uphill Struggle’ ynagos, buan iawn 'da chi’n sylweddoli maiwedi rhydu mae’r cr’adur, a dim Cwch BachGlas ydi o mewn gwirionedd, ond CwchBach Rhydlyd!EMRYS LL.

Croeso cynnes bob dyddgan

31 Stryd y BontCaernarfon

Ffôn: (01286) 672427

Caffi Cei

PapurDreMawrth2012_PapurDreHydref2010 08/03/2012 11:35 Page 14

Page 15: Rhifyn 96 MAWRTH 2012 Pris 50c DATHLU DEWIpapurdre.net/wp-content/uploads/archif/96.pdf · 2013. 1. 11. · Mae Hosbis yn y Cartref Gwynedd a Môn yn trefnu Cinio i Ferched ym Meifod

15

Ar agor:Llun, Maw, Merch aGwen: 9–5pmDydd Iau9–6pm

Dydd Sul AR GAU

• Arbenigwyr mewn cyflenwi, gosod llefydd tân osafon yn cynnwys stôfau amldanwydd, llosgi coed,

nwy a thrydan.• Archwilio simneau â chamera • Sgubo simneiauYmgymerir y gwaith gan beirianwyr cymwys a phrofiadol

[email protected]

Y Lle Tân4 Lôn Glanhwfa, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7EN

01248 751175

AM FUNUD

Yn ôl y Gwyliedydd, mae’r EglwysFethodistaidd – ‘Wesleaid’ oedd yr henenw – wedi colli hanner ei haelodaumewn deng mlynedd a’r rhif bellach,drwy Gymru, ydi ‘o gwmpas 1,500’. Ifod yn deg, mae’r enwadau traddodiadoli gyd yn rhwyfo mewn cychod digontebyg. Ond, yn ôl yr un erthygl – adoeddwn i erioed wedi meddwl am hyno’r blaen – ‘yr eglwysi sy’n cynydduyw’r rhai heb gapel i’w gynnal’. Mae’ndebyg fod cynnal adeiladau costus i’wgwresogi a phydredd yn eu parwydydd, ahynny ar gyfer dyrnaid o addolwyr, ynrhwystr i dyfiant. Meddai’r awdur, maerhentu ystafell gyfforddus gydachyfleusterau cyfoes a lle i barcio ynrhatach ac yn fwy cymdeithasol. Yng Nghymru o leiaf, crefydd adeiladauydi hi wedi bod ers tro. Yn amlach napheidio, yr unig ffordd i gadw pethau idroi, a’r drysau rhag cau, ydi lladrataaelodau o gapeli eraill. Mae’n debyg maigŵr oedd unwaith yn weinidog ymMhorthmadog a ddyfeisiodd y gair‘capelyddiaeth’. Er bod y geiriau‘capelyddiaeth’ a ‘Cristnogaeth’ ynterfynu’n debyg maen nhw’n golygu daubeth cwbl wahanol – gwrthgyferbyniolwir. Hyd y gwn i, dydi’r Testament Newyddddim yn disgrifio eglwys fel adeilad. Ynwahanol i’r Saesneg, church – gair cwblwahanol – mae’r gair Cymraeg, ‘eglwys’,yn dod yn syth o’r Testament Newydd.Yn wir, roedd o’n bod cyn iGristnogaeth wawrio. Mae’n golygu, ynfwy na dim arall, gynulleidfa neugyfarfyddiad o bobl. Ond nid adeilad.Wedi i’r Eglwys fabwysiadau’r gair daethi olygu cymdeithas o bobl yn dilyn Cristac yn addoli yn ei enw. Felly, beth amdani? Wedi inni gerddedallan o’n gormodedd adeiladau, adechrau dysgu sut i addoli’r unArglwydd hefo’n gilydd, be am y‘blychau sgwâr, afrosgo, trwm’ a fydd arôl? Dyna ichi gur pen arall i ‘bobolcapal’. HARRI PARRI

‘Private Dock’,Aberforeshore RoadNid y rhybudd sy’n tynnu sylw gyntaf, na’rdoc ei hun, ond y clawdd pum troedfedd ouchder o’i gwmpas. Clawdd Offa o beth:wal drwchus o gerrig a phridd yn codi’nddirybudd o’r traeth.

Y clawdd hwn ydi’r unig beth sy’ndod rhyngoch a’r Fenai am ddwy filltir arlôn y Foryd. A hithau’n un o lonyddharddaf Cymru, does dim rhyfedd bod poblleol ac ymwelwyr yn dod yma am dro. Caelgadael y dref a’i busnes am sbel, a throedioglannau’r Fenai mewn tawelwch, ganfwynhau’r golygfeydd bendigedig rhwngArfon a Môn. Y traeth cerrig sy’n llawnlliwiau aur ac arian. Y pïod môr du a gwyna choch yn chwibanu. Y Fenai ei hun yndisgleirio fel drych. A gap Abermenai yn ypellter yn rhoi cip ar y môr mawr tu hwnt.Trysorau i’w rhannu, ac o’u rhannu, yrheiny’n mynd yn fwyfwy gwerthfawr...

Dipyn o sioc ydi dod ar drawsclawdd y Private Dock, felly, a gweld ylliwiau’n diflannu dros dro. Mae’r wal fawryn annisgwyl, bron mor annisgwyl â’r rheso goed rhosod sydd hyd y top - a’u drain yncrafangu amdanoch. Ac o oedi i graffu drosy clawdd, a’r giât ddwbl sydd â chlo arni,mi welwch yr arwydd rhybuddiol. Dauarwydd, yn hytrach. A’r ddau yn siarad uniaith: PRIVATE DOCK - KEEP OUT.

Ac os meiddiwch chi oedi’n hwy, miwelwch erials y cwch pleser sy’n swatio ymmhreifatrwydd ei ddoc ei hun, ynmwynhau golygfeydd bendigedig y MenaiStraits...Ond fe’ch rhybuddiwyd! Does wybod pwysy’n sbio. Mae ’na dy gyferbyn yn edrych ilawr ar eich gwar, ei borth pren fel petai’ncelu portcwlis, a drysau ei ddwy garej feldau lygad dall. Fan hyn mae perchennog y‘private dock’ yn byw, ac yma, wedi’r hafeleni, y bydd yn codi ei westy. Gwesty trillawr ac ynddo ddeuddeg ystafell wely. A’iddoc preifat ei hun, heb sôn am bwll nofio(preifat). A system garthffosiaeth newydd.A maes parcio. Digon i geir preifat ygwesteion, ynghyd â’r llond dwrn fyddyma’n gweithio. A digon i’r amrywiolfaniau a lorïau y services and supplies fydd ynmynd a dod hyd lôn y Foryd...Doedd Cyngor Gwynedd ddim eisiaugwesty yma (mae ’na ddigonedd yn y docarall yn y dre). Na’r Cyngor Plwy. NacYmgyrch Diogelu Cymry Wledig. NacAelod Cynulliad Arfon. Na chynghorwyr ydref. Na’r cannoedd o gerddwyr - yn boblleol ac yn bobl ddiarth - sy’n dod am drobob dydd hyd lôn y Foryd i fwynhau’rtawelwch. Ond un dyn preifat a gafodd ei ffordd,diolch i swyddfa yng Nghaerdydd.* MrMick McKenna. Dyn cyfoethog,Perchennog y Private Dock. A’i eiddopreifat o fydd rhan o lôn y Foryd o hynymlaen. Neu’r Aberforeshore Road, fel ymae o’n ei galw.Mae ’na rai misoedd i fynd cyn dechraucodi waliau’r gwesty. Felly, gwnewch ygorau o’r tawelwch sydd ar ôl. Brysiwch yneich blaen heibio i glawdd uchel y PrivateDock. A dychwelyd at liwiau lôn y Foryd,lle nad oes arwydd o rybudd ondchwibaniad y pïod môr. A lle nad oes ffinrhwng traeth a ffordd - heblaw am linell owymon du yn dangos lle bu’r llanw, a dipyngo lew o froc.

* Yr Arolygiaeth Gynllunio. Sefydliad sy’ngweithredu ar ran y Cynulliad, ond heb fodyn atebol i neb.

CORNELI BACH Y DREgan Angharad Price

PapurDreMawrth2012_PapurDreHydref2010 08/03/2012 11:36 Page 15

Page 16: Rhifyn 96 MAWRTH 2012 Pris 50c DATHLU DEWIpapurdre.net/wp-content/uploads/archif/96.pdf · 2013. 1. 11. · Mae Hosbis yn y Cartref Gwynedd a Môn yn trefnu Cinio i Ferched ym Meifod

Gemwaith o Safon

GEMWAITHYn newydd eleni – PANDORA

Dewis cynhwysfawr o emwaithaur ac arian ar gyfer pob oed a phocedAur Cymru

y Metel (C.Y.M.) a ClogauTrwsio rhesymol

Y Bont Bridd, Caernarfon(01286) 675733

16

R. A. JONES A'R MAB• SIOP DAN CLOC•37 Stryd Fawr, Caernarfon2 Llys Penlan, Pwllheli

01286 673121 / 01758 701138Teganau, modelau - yr enwau mawr i gyd

TEGANAU I BOB OEDRANNwyddau babanod: M&P, Bebecomfort, Cossatto, Jane Chicio a phob math

o ddillad plant 0-6 mlwydd oed.

www.rajonesandson.co.uk

Roberts y Newyddion 44 Y Bont Bridd, Caernarfon

01286 672 991

Papurau newydd • cardiau cyfarch • offerysgrifennu • Da-da a diodydd • Tlysau arian

a thlysau ffasiwn

Ar agor Llun – Sad (5.30am tan yr hwyr)

dydd Sul (5.30am – 12.00). Dosbarthu papurau i’rdrws. Gwasanaeth cyfeillgar bob amser

Parti’r Jiwbilî a Gemau OlympaiddMaesincla.

CAP OLLY MURSUn diwrnod yn y Daily Post gwelodd Waynehanes hogyn bach o’r Rhyl a elwir yn A.J.oedd angen £50,000 i gael triniaeth ynAmerica. Cysylltodd â’r teulu a phenderfynuhelpu. Rhoddodd botel dda-da ar y cownterac mae’r cwsmeriaid yn rhoi newid mânynddi at yr achos da yma. Aeth Wayne iwefan Twitter i chwilio am enwogion acanfon neges iddyn nhw i ofyn am bethau argyfer ocsiwn gynhelir yn Rhyl ar Fawrth 2il.“Mi gês i grysau T gan glybiau pêl droedEverton, Lerpwl, Chelsea a Chaernarfon a’rchwaraewyr wedi arwyddo’i henwau arnynnhw.” Dyn arall sy’n enwog am ei gapiau felWayne ydi Olly Murs y canwrymddangosodd ar yr X Factor, ac mae o wedicyflwyno cap i’r ocsiwn fydd yn siwr o godidipyn o arian. Synnwn i ddim na fydd CapCoch Cymru Wayne yn werth dipyn o bresmewn ocsiwn yn y dyfodol.MAGI WYN ROBERTS

Mae’n hawdd nabod Wayne am ei fod o’ngwisgo cap coch Cymru bron bob amser. Ermai 23 oed ydi o, mae Wayne wedi cyflawnicymaint. Does dim yn ormod ganddo i’wwneud i helpu pawb, yn arbennig i’rgymuned ym Maesincla lle mae ei siop.

SIOP WAYNEBu Wayne yn gweithio yn siop Maesincla erspan oedd yn 14 oed, am awr y dydd iddechrau ac wedyn yn llawn amser. Ynddeunaw oed daeth cyfle iddo brynu’rbusnes. Roedd yn benderfynol o gael yr arianac wrth gwrs roedd ei fam, Pam sy’n cadw’rSiop Chips ym Maesincla ers 14 mlynedd a’ideulu yn barod i’w helpu. “Rydw i wrth fymodd yn rhedeg busnes fy hun a chael sgwrsefo pawb ddaw i’r siop,” meddai â gwên ar eiwyneb. Mae ei fam yr un mor brysur ynparatoi’r sglodion ar gyfer agor “Pam’sChippy” amser cinio, yna daw at Wayne i roihelp llaw cyn mynd yn ôl i’r siop sglodionerbyn 5 o’r gloch. Mae Janet Macdonaldhefyd yn gweithio yn Siop Wayne.

LLYGAID MAESINCLADyma brosiect diweddaraf Wayne, sefymgyrch i gael camerâu o gwmpas y stad a’r

WAYNEHUMPHREYSMAESINCLA a LÔN TY GWYN

POBOL DRE

siopau yn dilyn lladrad diweddar. Maen nhweisoes wedi codi arian efo gweithgareddaucyn y Dolig a phan agorodd Wayne y bocsrhoddion oedd ar y cownter yn Chwefrorroedd £111 o bunnoedd ynddo. Mae raffl argael a chystadleuaeth enwi tedi welir ynSwyddfa’r Post gan Nia, merch ifanc arall o’rDre sy’n cadw busnes. Mae hi’n gweithio’nddistaw yn helpu Wayne i godi arian ac ynedrych ymlaen am gael Llygaid Maesincla,sef camerâu CCTV i gadw golwg ar y lle. Ydrydedd hogan ifanc sy’n cadw busnes ymMaesincla ydi Linda Davies oedd yn yr undosbarth â Wayne yn yr ysgol. Salon tringwallt sydd ganddi hi.

PARTI GWYL DEWI Trefnodd Wayne a’r pwyllgor noson fawr arDdydd Gwyl Dewi yn Clwb Canol Dre.Cafwyd cystadleuaeth y wisg Gymreig orau ioedolion a phlant a chyfle i ganu ac ifwynhau disgo. Un o’r pethau anoddaf oeddbwyta cennin amrwd, roedd llygaid pawb yndyfrio a druan o’u boliau nhw’r diwrnodwedyn. Roedd cyfle i brynu Welsh cakes,bara brith a rôls o bob math. Rhaid oedd caelBingo hefyd wrth gwrs. I’r rhai gollodd ynoson, croeso i chi gyfrannu i’r gronfa“Llygaid Maesincla” trwy law Wayne.

GWEFAN WAYNEOs bydd unrhyw broblem yn y Dre byddWayne yn dweud ei farn. Ar hyn o brydmae’n gwrthwynebu agor llwybr cyhoeddusdrwy’r fynwent. Mae wedi agor gwefan argyfer Llygaid Maesincla, felly cadwch lygadbarcud ar hon i gael gwybod beth fydd yndigwydd. Yn yr haf mae’n gobeithio trefnu

Wayne o flaen ei siop

Pam a Wayne Humphreys

Wayne heb ei gap!

ˆ

ˆ

PapurDreMawrth2012_PapurDreHydref2010 08/03/2012 11:36 Page 16

Page 17: Rhifyn 96 MAWRTH 2012 Pris 50c DATHLU DEWIpapurdre.net/wp-content/uploads/archif/96.pdf · 2013. 1. 11. · Mae Hosbis yn y Cartref Gwynedd a Môn yn trefnu Cinio i Ferched ym Meifod

17

GARDDWR YN DRETrwsio, twtio, chwynnu a phlannu

Telerau rhesymolCysylltwch â

Gwyn Jones . 07881 [email protected]

Caffi Cibyn

Mae Caffi Cibyn yn gaffi glân a chyfeillgar lle gallwchfwynhau brecwast llawn, rôls brecwast, paninis,brechdanau, brechdanau wedi’u tostio, byrgers acamrywiaeth o brydau blasus - neu beth am baned ode, coffi, cappuccino, neu latte? Mae prydau llysieuol

hefyd ar gael.Oriau agor: Llun - Gwener 7yb - 3yh

Sadwrn: 8yb - 1.30Rhif ffon: 01286 674649

Mae Caffi Cibyn ar Stad Ddiwydiannol Cibyn, drws nesa iW.M.O'Grady • Cafodd y caffi sgôr hylendid bwyd o 5

' '' ' ' '

' '

/$0$01213 ($ )")"!"!"#"##"#"$"$%$%&()' '

' ' ' '' '

"4"4,4,$ " $&$&(0')*(*(+(#(,-&(.'' '

' ' ' '' '

.'' '' ' ' '

' '

2$12$1+1+561,2/ )")"

' '' ' ' '

' '

"4"4 "' '

' ' ' '' '

' '' ' ' '

' '

ar agor 9am–5pmFfôFfôn:Ty Seiont, FfFfofordd SantesAge Concern Gwynedd a

' '' ' ' '

' '

Helen, Caernarfofon LL55 2YDa Mon

' '' ' ' '

' '

D

' '' ' ' '

' '

Neu ffffoniwch

ar agor 9am 5pm

Devon TQ13 7UP.P. ID9975 11/10masnachol. Rhoddir yr elw net i Age UK. Age Ugytundeb trwydded rhwng Age UK ac Age UK EAge UK yw nod masnach Age UK (Elusen rhif 1Darperir Nwywy a Thrydan gan E.ON Energy SolDarperir yswiriant cartref,f, car a theithio gan

' '' ' ' '

' '

neu ewch i

MP2430V2APR11_ SL036523_12K Enterprises Limited, Linhay House, Ashburton, Enterprises Limited, sef eu cangen gwasanaethau 128267). Defnyddir enw a logo Age UK o dan utions Cyfyfyngedig.Yswiriant Ageas Cyfyfyngeddig. i

' '' ' ' '

' '

2_1

ProblemCompiwtar?Angen cymorth?Eisiau meddalwedd

am ddim?Ffoniwch John Fraser

01286 676645

Amser stori go arbennig Fel rhan o ddathliadau Diwrnod yLlyfr eleni, daeth AngharadTomos, awdur llyfrau Rwdlan, i’rllyfrgell i gynnal amser stori‘Picnic yn y Goedwig’. Roedd yplant wrth eu boddau’n gwylioAngharad yn tynnu lluniaucymeriadau Gwlad y Rwla, achlywed straeon am eu helyntion.Cafwyd gwledd go iawn wedynpan gafodd y plant gyfle i flasu pobmath o ddanteithion ym mhicnic yllyfrgell, a mwynhau bod yn y“goedwig”, sef bwa gelf newyddsbon a ddyluniwyd gan Lois Pryssy’n fynedfa newydd i Adran BlantLlyfrgell Caernarfon. Bydd y bwayn gyfrwng arddangos gwaith celfgan blant yr ardal yn y dyfodol.Nel, Gwenno, Anna ac Efa gydagAngharad Tomos

Diwrnod y Llyfr

Taith i Nant GwrtheyrnAeth rhai o blant Ysgol Maesincla iNant Gwrtheyrn i ddathlu diwrnod yllyfr a mwynhau perfformiad theatrig arhanes Cymru yn Neuadd y Pentref cynmynd ar daith o gwmpas y Nant. Cafoddpob plentyn rodd o lyfr am ddim i’watgoffa am y diwrnod.

Rhoi Llyfr yn anrheg! Dyna yw her Diwrnod y Llyfr 2012. MaeEglwys Noddfa’n gyfrifol am brosiect Cymunedau DarllenLlywodraeth Cymru yn Peblig, Caernarfon. Yr wythnos hon, i ddathlu Diwrnod y Llyfr, mae Clwb DarllenEglwys Noddfa wedi bod yn rhoi pecyn o lyfrau fel anrheg i bobun o’r plant yn y Clwb Darllen. Diolch i Gyngor Llyfrau Cymruam eu cymorth. Yn ogystal â rhannu gyda’r plant, aeth EglwysNoddfa â llond bocs mawr i rannu gyda rhieni plant yr YsgolFeithrin, ac fe fydd Côr Cymunedol Eglwys Noddfa, Y Clwb Tlwsa’r Ysgol Sul yn derbyn Llyfr fel anrheg.Am fwy o wybodaeth ynglyn â’r cynllun, neu unrhyw ymholiadauam y Clwb Darllen, cysylltwch gyda Llinos Mai Morris neuMererid Mair yn Swyddfa’r Eglwys – 01286 672257

Diwrnod y Llyfr yndod i Eglwys Noddfa

PapurDreMawrth2012_PapurDreHydref2010 08/03/2012 11:36 Page 17

Page 18: Rhifyn 96 MAWRTH 2012 Pris 50c DATHLU DEWIpapurdre.net/wp-content/uploads/archif/96.pdf · 2013. 1. 11. · Mae Hosbis yn y Cartref Gwynedd a Môn yn trefnu Cinio i Ferched ym Meifod

18

CROESAIR

CLIWIAU HAWSAr Draws1. Pobl sy’n mynychu addoldy. (8)7. Angen am ddiod. (5)8. Pwnc sy’n cynnwys rhifyddeg. (9)9. Mam cyw. (3)10. Yn gwneud fel y gofynnir. (4)11. Teulu. (6)13. Culfor. (6)14. Beth i’w wneud efo llyfr. (7)17. Dinas Dysg neu Athen y Gogledd. (6)18. Eisiau, rhaid. (4)20. Parti canu mawr. (3)22. Gwyl ddiwylliannol. (9)23. Rhod, troell. (5)24. Addewidion. (8)

I lawr1. Ein gwlad. (5)2. Fferins, losin. (5,2)3. Prifddinas Periw. (4)4. Enw afon: hyblyg, heini. (6)5. Y ffordd anghywir. (1,4)

6. Adar mawr du corvus frugilegus. (7)7. Brodor o Lerpwl. (7)12. Enw merch (hardd a phur). (7)13. Gwydrau i’r llygaid. (7)15. Cerbyd astronôt. (3,4)16. Mignenni, gwlypdiroedd. (6)17. Mab i’r un rhieni. (5)19. Do, re, mi. (5)21. Rhan ôl y corff. (4)

CLIWIAU CRYPTIGAr draws1.Cans egni sy’n dod o’r bareli (8)7. Cynghorydd a merch o’r canolbarth heborffen rhyngweithio (5)8. Pryd sy’n arw a bach i un o San Steffan(4,1,4)9. Perthynas yn gwyro yn y canol (3)10. Mae Gwenan wedi cuddio merch arall (4)11. Creaduriaid swnllyd iawn oedrannusddaw’n ôl i’n cyfarch (6)13. Mae lafa a metel gwerthfawr yn ffurfioffrwythau (6)14. Mae’n estyn llaw i gychwyn ffurfio darnhir o bren (6)17. Malu lafant ar gyfer pennaeth y BBC (6)18. Merch ym mhendraw enfys (4)20. Mae mewn cariad ar yr aber (3022. 50 nefol yma i gyffroi’r cyw diwethaf(5,4)23. Mae brawd Jacob yn llyncu neidr wrthbwyso a mesur (5)24. Mae cynnen am elw diddiwedd yn tyfu (8)I lawr1. Torri’r banc a chael cwt (5)2. Mae ‘na ernes i’w golli os y gwnaddisgleirio (7)3. Mae caws yng nghanol y fisged a menyn (4)4. Mae Eban ni wedi ffoli ar ddwy ran o dairo’r flondan (3,3,)5. Rydych chi’n clywed fod 50 yn y cwch (5)6. Gwneud llanast o bennill â darn am y

rhai godant yn yr awyt iach (4,3)7. Mae un aelod seneddol yn bwyta caws acyn rhegi fel Mr Picton (7)12. Mae cerbyd a mul yn dyrnu mynd (7)13. Sgotwr adra nes i bethau fynd yn ffliwt (7)15. mae’r tywysog wedi torri pen y gelyn acef oedd yr olaf (7)16. Tad Eli’n eu troi yn y dwr i wneud diod (4,2)17. Mae rhywbeth i’w fwyta felly ynddo (4)19. Mae’r ateb yn ei galon ef yn Llyn (4)21. Dyna beth od yw Albanwr sy’n chwaraetennis (4)

Atebion Haws RhagfyrAr draws: 1. Panas. 4. Ymateb. 9. Iawndalo.10. Leino. 11. Arno. 12. Ennaint. 13. Llon.14. Bara. 16. Ofni. 18.Moch. 20. Arddegau.21. Maer. 24. Tafell. 25. America. 26.Amdani. 27. Ronoan. I lawr:1. Peilat. 2.Newyn. 3. Soda. 5. Melyngoch. 6. Tribiwn.7. Bronte. 8. Olwen. 13. Llangollen. 15.Amddifad. 17. Mantra. 18. Mudan. 19.Erwain. 22. Anian. 23. Ceir.

Enillydd: Mrs Dorothy Lovell, 9 Maes Hyfryd, Caernarfon.

Atebion Cryptig RhagfyrAr draws: 1. Potel. 4. Banana. 9. Sinemâu.10. Elwaf. 11. Ynad. 12. Unarddeg. 13. Tad.14. Acer. 16. Awst. 18. Pin. 20. Addysgol. 21.Caffi. 24. Gitâr. 25. Ednyfed. 26. Mynydda.27. Lodes. I lawr: 1. Pistyll. 2. Tynfa. 3.Lamp. 5. Aberafan. 6. Anweddus. 7. Arfogi.8. Munud. 13. Trugaredd. 15. Crys-tyn. 17.Llangwm. 18. Plaen. 19. Lindys. 22. Anfad.23. Yn ôl.

Enillydd: Margaret Davies,68 Bron y Garth, Caernarfon

Anfonwch eich atebion erbyn diwedd y mis at Trystan Iorwerth, Graig Wen, Lôn Ddewi, Caernarfon. Ll55 1BH.Tocyn llyfr yn wobr i’r enillydd.

PapurDreMawrth2012_PapurDreHydref2010 08/03/2012 11:36 Page 18

Page 19: Rhifyn 96 MAWRTH 2012 Pris 50c DATHLU DEWIpapurdre.net/wp-content/uploads/archif/96.pdf · 2013. 1. 11. · Mae Hosbis yn y Cartref Gwynedd a Môn yn trefnu Cinio i Ferched ym Meifod

19

Gemwaith o Safon

SIOP y PLASDewis cynhwysfawr oemwaith aur ac arian argyfer pob oed a phoced

Aur Cymruy Metel (C.Y.M.) a Clogau

Trwsio rhesymolStryd y Plas, Caernarfon

(01286) 671030

SEGONTIUM ROVERS

Tîm dan 7 Segontium Rovers yn gwisgo’u tracwisgoedd newydd, a noddwyd drwy haelioniCwmni adeiladu Wynne, gyda Chris Wynne, Rheolwr Gyfarwyddwr.Ar ran chwaraewyr, rhieni a chlwb pêl-droed Segontium Rovers hoffem ddiolch i GwmniAdeiladu Wynne am eu haelioni a’u cefnogaeth. Aaron Evans (Cadeirydd, CPDI Segontium Rovers)

Erbyn hyn mae tymor y brithyll ar yrafonydd wedi dechrau gyda’r llynnoeddhefyd ar gael ar yr 17eg o’r mis yma. Fe fyddy pysgod yn isel yn y dwr a hithau’n dal ynoer yr adeg yma o’r flwyddyn. Ac fel sy’narferol mi fyddwn ni sgotwrs wedi prynu achasglu pob math o nialwch fydd, yn ein tybni, yn help i ddal mwy o bysgod! Mi fyddwnwedi cawio neu brynu pob math o blu, rai nawelsom eu tebyg erioed o’r blaen ond mewncylchgronau. Ac wedi prynu torreth ohonynnhw hefyd! Sy’n golygu bocs plu arall! Aphan ystyriwch chi faint o blu ddefnyddiochchi y llynedd – rhyw 10 efallai – rhaid gofynpam? Rydan ni hefyd yn euog o brynugwasgod newydd efo mwy o bocedi, sydd reitaml yn cymhlethu pethau, yn enwedig ynystod y nos. Ac wrth hongian pob math odaclau o’r pocedi hynny gall rhywun fynd iedrych fel tincer reit aml!Dillad sy’ werth eu cael,fodd bynnag, ydy côtlaw dennau a throwsus i fynd efo hi. Gallwchlapio’r rhain yn eich bag neu ym mhocedgefn eich gwasgod. Ond ceisiwch beidio â’ugwlychu yn ddiangen neu mi fyddwch yntalu am hynny fel yr ewch yn hyn.Cariwch cyn lleied â phosib. Ond o brofiadgwn mai haws dweud na gwneud. Dwi moreuog ag unrhywun o gario gormod o daclau.A chofiwch – mae angen trwydded i sgota oEbrill y 1af. A hynny ar gyfer tymor fydd,gobeithio, yn well na’r un diwethaf ar einhafonydd. Roedd y tymor ar y llynnoedddipyn mwy gwastad.Lle bynnag y byddwn ni...gobeithiwn ygorau.Hwyl ar y bachu,

GLAS Y DORLAN

Yng nghyfarfod blynyddol Merched y Golff yn ddiweddar etholwyd Mrs Trish Parkins iolynu Mrs Joan Massey fel capten newydd adran y merched ar gyfer 2012. Yr is-gapten fyddMrs Gwenda Roberts.Cyflwynwyd tlysau o flodau hefyd i Mrs Margaret Ellis Davies (cyn-ysgrifenyddescystadlaethau), Mrs Laura (cyn drysorydd) a Mrs Gwenda Roberts (cyn-ysgrifenyddes) - ytair yn ymddiswyddo ar ôl blynyddoedd o wasanaeth canmoladwy iawn. Ar ran y Capten feddiolchodd Mrs Dilys Davies yn gynnes iawn iddyn nhw.Fe dderbyniodd Mrs Ceri Williams, sydd hefyd yn ymddiswyddo, dlws o flodau am eigwaith penigamp fel ysgrifenyddes y wasg.

Dwy o enillwyr cynnar 2012: Rhona Morris a Sheila Thorman ddaeth yn gyntaf ac ail ynnghystadleuaeth dydd Sant Ffolant.

GENOD Y GOLFF

01286 672352Yr unig fferyllfa annibynnol

yn y dre. Gwasanaethagos-atoch o’r safon uchaf.

Cyngor, moddion achymwynasgarwch.

FFeryllFa’r Castell

PapurDreMawrth2012_PapurDreHydref2010 08/03/2012 11:36 Page 19

Page 20: Rhifyn 96 MAWRTH 2012 Pris 50c DATHLU DEWIpapurdre.net/wp-content/uploads/archif/96.pdf · 2013. 1. 11. · Mae Hosbis yn y Cartref Gwynedd a Môn yn trefnu Cinio i Ferched ym Meifod

ChwaraeonChwaraeonPAPUR DRE PAPUR DRE

PAPUR DRE I BOBOL DRE

Y GORAU YN Y GOGLEDD

Cofis yn bencampwyrO le, o le , o le, o le....o Dre, o Dre!Dyna’r gri eto eleni ar ôl i’r tîm rygbiennill pencampwriaeth y Gogledd am yrail dymor yn olynol. Roedd curo’r Bala29 – 8 a chipio pwynt bonws (wrthsgorio 5 cais) yn ddigon i orffen ar ybrig. Dylan Gwyn (2), AndrewWilliams, Dafydd Roberts a Siôn Gwynsgoriodd y ceisiau hollbwysig iGaernarfon gyda Kelvin Morris yn trosidau ohonyn nhw.Mae rhywfaint o ddiolch yn ddyledus iRuthun hefyd am guro Nant Conwy yrun prynhawn, oedd yn golygu na allaihogia Trefriw ddal y Cofis yng ngêmola’r tymor. Bydd y gêm honno ymMethesda gyda hogia Dre yn teithio iDdyffryn Ogwen yn bencampwyrAdran 1 y Gogledd unwaith eto. Gwych!

Andrew Williams, o dan y pentwr, yn sgorio ail gais Dre yn erbyn Bala.

Fel hyn mae ennill lein! Paul Williams yn ycymylau.

Llywarch Davies, Cofi mabwysiedig oDrawsfynydd, yn dathlu.

Pencampwyr eto. (o'r chwith) Rhys Evans(capten), Sion Gwyn, Dylan Gwyn a JacMathews.

PapurDreMawrth2012_PapurDreHydref2010 07/03/2012 14:16 Page 20