Rhifyn 69 MEHEFIN 2009 Pris 40c - Papur Drepapurdre.net/wp-content/uploads/archif/69.pdf ·...
Transcript of Rhifyn 69 MEHEFIN 2009 Pris 40c - Papur Drepapurdre.net/wp-content/uploads/archif/69.pdf ·...
![Page 1: Rhifyn 69 MEHEFIN 2009 Pris 40c - Papur Drepapurdre.net/wp-content/uploads/archif/69.pdf · 2013-01-11 · Y Gegin Fach 5-9 Penllyn, Caernarfon 01286 672165 Dewis helaeth o fwyd ffres,](https://reader033.fdocument.pub/reader033/viewer/2022041906/5e639e5faa26c528af0de625/html5/thumbnails/1.jpg)
PAPUR DRE I BOBOL DRE
Rhifyn 69 MEHEFIN 2009 Pris 40c
PAPUR DREPAPUR DRE
Lle mae’r hogiau’n mynd?tud. 10
Pwy sy efo Gareth a Catrin?tud. 4
Beth mae Gwenno wedi’i ennill?tud. 15
BE SY YN Y PAPUR?
LLE MAE POBL PEBLIG?
Cafodd Pobl Peblig ddiwrnod da yng Ngardd Bodnant ond hynny ar ôl trip annisgwyl i ardd arall. Hanes y daith helbulus ar dudalen 9.
NODDWYD Y RHIFYN HWN GAN GYNGOR TREF CAERNARFON
PapurDreLliwMehefin09 11/6/09 01:30 Page 1
![Page 2: Rhifyn 69 MEHEFIN 2009 Pris 40c - Papur Drepapurdre.net/wp-content/uploads/archif/69.pdf · 2013-01-11 · Y Gegin Fach 5-9 Penllyn, Caernarfon 01286 672165 Dewis helaeth o fwyd ffres,](https://reader033.fdocument.pub/reader033/viewer/2022041906/5e639e5faa26c528af0de625/html5/thumbnails/2.jpg)
2
Cadeirydd a DerbynLlythyrauGLYN TOMOSGarreg Lwyd, 7 Bryn RhosRhosbodrual, LL55 2BT(01286) [email protected]
BWRDD GOLYGYDDOLROBIN EVANS(01286) 676963RHIAN TOMOS(01286) 674980TRYSTAN ACAROLYN IORWERTH(01286) 676949GERAINT LOVGREEN(01286) 674314 R. ELWYN GRIFFITHS(01286) 674731 CATRIN ROBERTS(01286) 675834JANET ROBERTS(01286) 669066BETHAN EDWARDS
TrysoryddGWYNDAF ROWLANDS46 Stryd yr Hendre,(01286) 678254
Hysbysebion ELERI LOVGREENY Clogwyn, LL55 1HYFfôn: 05600 157099Ffacs: (01286) [email protected]
Clwb 100CEREN WILLIAMS13 Lôn Oleuwen, LL55 2UP(01286) 676073
Tanysgrifio/TrefnyddDosbarthuALUN ROBERTSMelangell, Lôn Sgubor WenLL55 1HS(01286) 677208
PWY ‘DIPWY...
Stiwdio Gwallta Harddwch
46 Stryd Llyn, Caernarfon
Rhif Ffôn: 672999Perchnogion: G Geal a G Evans
Nid yw’r Bwrdd Golygyddolna’r noddwyr o
angenrheidrwydd yn cytunogyda’r farn yn y Papur
Byddwch yn llawergwell allan hefo Ni!Ellis Davies a’i Gwmni
CYFREITHWYR
Yn gwasanaethupobl Caernarfon ers
1898
27 Stryd Bangor,Caernarfon LL55 1AT
Ffôn:(01286) 672437
Deunydd i law’r golygyddionperthnasol
NOS LUN – MEHEFIN 30 Os gwelwch yn dda
Daw’r rhifyn nesaf o’r wasgNOS LUN –
GORFFENNAF 13
Y RHIFYN NESAF
DEWCH ATOMI BLYGU
PAPUR DRERhifyn: GORFFENNAF
Noson Plygu: NOS LUN,
GORFFENNAF 13
Yn lle?
YSGOL MAESINCLA
Faint o’r gloch?
o 5.30 ymlaen
www.bwrdd-yr-iaith.org
Cydnabyddir cefnogaeth
YSGOL HOGIAU 1937
8 Cambrian Terrace Porthmadog
Annwyl PAPUR DRE ,Amgaeaf lun efallai fydd oddiddordeb i ddarllenwyrPAPUR DRE. Tynnwyd y llunyn iard Ysgol Hogiau ym misGorffennaf 1937 wrth ddisgwylymweliad y Brenin George V1ac Elizabeth i’r dre. Mae’nberyg bod llawer o’r hogia ymaddim efo ni erbyn hyn. Dw i’ngwybod beth bynnag bod 4ohonynt ddim efo ni. Dyma’renwau: Rhes gefn: CyrilHughes; John WorthingtonRoberts: ? Danny Jones; ?(Tyddyn Hen); HFW Rhes flaen: George Dean;Iorwerth Parry; Willie Lloyd;Peter Barber; Watkin Roberts
Pob lwc i’r papur. Hwyl fawr,HUGH FINLEY WILLIAMS
CHWILIO AM LUNIAU AGWYBODAETH AMFFERIS BANGOR ACHAERNARFON
Hafod Wen, CaeathroCaernarfon, LL55 2TA O1286 674382
Annwyl PAPUR DRE,Rwyf wrthi ar hyn o bryd yn
Llythyrau
casglu deunydd a lluniau amfferis a arferai redeg ynrheolaidd o Gaernarfon,Felinheli a Bangor i Ynys Môntan ddechrau pum degau yganrif ddiwethaf. I wneud hynhoffwn gael cefnogaethdarllenwyr PAPUR DRE.
Yn ogystal â chario teithwyrroedd y fferis hyn hefyd yncludo anifeiliaid i Ynys Môn acyn ôl. Roedd un o’r fferis hynyn cael ei alw yn Stemar BachSir Fôn ac yn cludo cynnyrchfel llefrith a menyn i’w gwerthuym marchnad Caernarfon.
Hyd yn oed yn ystod fynghyfnod yn y ‘County’Caernarfon roedd disgyblion ogyffiniau Brynsiencyn aDwyran yn defnyddio’r fferis argyfer mynychu’r ysgol ynhytrach na’r opsiwn o daith hirmewn bws trwy Borthaethwy.
Yr hyn dwi ei angen ydi caelcyfle i wneud copïau o unrhywluniau neu ddeunydd feltocynnau, amserlenni fferisCaernarfon neu Bangor neu ynwir unrhyw wybodaeth o gwblyn ymwneud â’r Afon Menai ynystod y 19eg a’r 20fed ganrif.
Hefyd unrhyw atgofion syddgan unigolion o ddefnyddio’rfferis yn arbennig o ardaloeddBrynsiencyn, Dwyran neuNiwbwrch. Buaswn ynddiolchgar pe buasent yncysylltu â mi ar y rhif ffônneu’r cyfeiriad uchod.
Llawer o ddiolch
REG CHAMBERS JONES
ENILLWYR CLWB CANTPapur DreMai 20091af Anna Roberts 822il Gwilym Løvgreen 643ydd Margaret Kelly 74
PRIS Y PAPURO fis Hydref ymlaen, bydd prisPAPUR DRE'n codi - am y tro
cyntaf mewn chwe blynedd.Yn y siop - 50c
Tanysgrifiad -£6.00/flwyddyn
Drwy'r post yn y DU - £12
![Page 3: Rhifyn 69 MEHEFIN 2009 Pris 40c - Papur Drepapurdre.net/wp-content/uploads/archif/69.pdf · 2013-01-11 · Y Gegin Fach 5-9 Penllyn, Caernarfon 01286 672165 Dewis helaeth o fwyd ffres,](https://reader033.fdocument.pub/reader033/viewer/2022041906/5e639e5faa26c528af0de625/html5/thumbnails/3.jpg)
Dros y flwyddyn neu ddwy diwethaf maesawl darllenydd PAPUR DRE wedi bod ynddigon ffodus i ennill cystadleuaeth amdocyn i gyngerdd yn EisteddfodLlangollen. Eto eleni mae cyfle i ennill 2set o docynnau i’r Cyngerdd Agoriadol nosLun, 6ed o Orffennaf. Yr artistiaid ar ynoson fydd Côr Meibion y Fron, CôrGodre’r Aran, Cantorion Colin Jones,Mark Evans, Alexei Kalvecs a Faryl Smith.
Fe ddaeth Mark Evans a fagwyd ynLlanrhaeadr ger Dinbych i sylw pawb ynddiweddar pan lwyddodd i gyrraedd rowndderfynol sioe’r BBC ‘Your Country NeedsYou’.
Er mwyn cystadlu am y 2 set o docynnaugofynnir i chi ateb y cwestiwn canlynol:BLE MAGWYD MARK EVANS?Anfonwch eich ateb gyda’ch manylion cynMehefin 26 at Gystadleuaeth Papurau Bro,Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Y Pafiliwn, Ffordd yr Abaty,LLANGOLLEN, Sir Ddinbych, LL208SW.
Am fwy o wybodaeth am yr Eisteddfodffoniwch 01978 862001 neu ewch iwww.llangollen2009.com
CAFFIBWYTY
BARY Maes, Caernarfon, LL55 2YD
(01286) 673100
Siambrau Banc LloydsCaernarfon
Swyddfeydd ym Mangor,Porthaethwy a Chaergybi
Tudur OwenRoberts, Glynne & Co.
Ffôn: (01286) 672207
Cyfreithwyr
Y Pantri Cymraeg6 Y Maes, Caernarfon 673884
Cynnyrch LleolCawsiau, Siocledi, Pate, Cigoedd,Pysgod, Gwinoedd, Gwirodydd,
Danteithion luHamperi bwyd ac anrhegion
trwy’r flwyddynBar salad a chownter deli ac
amrywiaeth wych o frechdanau ffresi’w cludo allan
Paratoir bwffes ar gyfer cyfarfodydd,partïon ayb
Oriau agor: 9.30 – 5.00Y cyfan o Gymru
www.ypantricymraeg.co.uk <http://www.ypantricymraeg.co.uk> [email protected]
3
Urddwyd y Cynghorydd Hywel Roberts ynFaer newydd Caernarfon a’i wraig Margaretyn Faeres newydd. Llongyfarchiadau mawri’r ddau a dymunwn yn dda iddynt yn ystody flwyddyn sydd i ddod. Mae’r CynghoryddHywel Roberts yn ffigwr cyhoeddus amlwgyn y dre a Margaret ei wraig yn un ogyfranwyr mwyaf poblogaidd PAPUR DREgyda’i cholofn fisol POBOL DRE.
Yn y wledd a ddilynodd seremoni urddo’rMaer newydd, ymddangosodd yr englyncanlynol ar y fwydlen gan Alan WynRoberts:
I Hywel a Margaret, 14 Mai, 2009Awr fawr y Maer a’r Faeres – yw’r edau
Ym mrodwaith hen hanes;Cynnal mae’r lliwiau cynnesY llun sy’n castellu’n lles.
Cafodd Alan dipyn o syrpreis pan aeth i’rcinio a gweld ei englyn wedi ei argraffu ar yfwydlen! Yna ar ôl y cinio darllenwyd limriggan Geraint Jones (Isgraig, Lôn Ddewi)
Geuso C’nafron faer o Benmachno,Un hynod o weithgar, diflino
Dros holl gofis y drePan eith rhywbeth o’i le;
Cynghorydd go iawn, nid un smalio.
Roedd y Maer newydd yn byw gyda’i daid a’inain ym Mhenmachno yn ystod y Rhyfel acyno mae ei atgofion bore oes a’i wreiddiau.Roedd Geraint Jones a’r Maer newydd yncychwyn yn yr ysgol hefo’i gilydd am y trocyntaf. Hefyd darllenwyd pennill gan yCynghorydd Trefor Owen.
Yna Hywel Roberts,Mae hwn yn hir ei wyntA phan fydd o ddim ymaMi ga i fynd adra’n gynt.
Mae’r Maer newydd yn cyfaddef bod ynarywfaint o wirionedd yn hyn.
NOSON URDDO’R MAER NEWYDD
CASGLIAD O DY I DYAr ôl cynnal bore coffi llwyddiannus iawn yn ddiweddar yn yr Institiwt a
gwneud elw o £596.55 Cangen Caernarfon a’r Cylch o Sefydliad y Galon yngwneud casgliad o dy i dy cyn bo hir. Hefyd bydd casgliad yn Morrisons yn
ystod dydd Gwener, Gorffennaf 10fed rhwng 10.00 y bore a 7.00 yr hwyr.Cofiwch gefnogi yr achos da hwn.
Y Maer newydd, Hywel Roberts a Margaret, eiwraig (Diolch i Geraint Thomas, Panorama amy llun.)
COFIWCH AMY DDAWNSELUSEN HAF Ydach chi wedi cael eich tocyn argyfer Dawns Elusen Haf sydd i’wchynnal yng Ngwesty San SiôrLlandudno nos Sadwrn, Mehefin 27 o7.30 ymlaen? YmddiriedolaethWarburton ar y cyd â Chlwb Tu Allani Oriau Ysgol Deganwy sydd yn eichynnal ac mae pris tocyn yn £25 syddyn cynnwys bwffe a cherddoriaeth fywgan Newborn. Er mwyn archebu eichtocyn ffoniwch Megan (01286 674013).Cafodd Ymdiriedolaeth Warburton eisefydlu fel teyrnged i GrahamWarburton, dyn dewr iawn a oedd ynbyw bywyd i’r eithaf ar beiriantanadlu, gan fwynhau gwyliau,gwibdeithiau a bywyd normal. Os amwybod mwy am YmddiriedolaethWarburton ewch ar y wefan:
www.thewarburtontrust.co.uk
CYFLE I ENNILL TOCYNNAU CYNGERDDAGORIADOL EISTEDDFOD LLANGOLLEN
ˆ ˆ
![Page 4: Rhifyn 69 MEHEFIN 2009 Pris 40c - Papur Drepapurdre.net/wp-content/uploads/archif/69.pdf · 2013-01-11 · Y Gegin Fach 5-9 Penllyn, Caernarfon 01286 672165 Dewis helaeth o fwyd ffres,](https://reader033.fdocument.pub/reader033/viewer/2022041906/5e639e5faa26c528af0de625/html5/thumbnails/4.jpg)
CYFREITHWYR•
O. Gerallt Jones LL.B (HONS)•
Gail Jones LL.B (HONS)Cyfreithwraig Gynorthwyol
•
Gwasanaeth Personol ac Agos Atoch•
4 Stryd y CastellCaernarfon LL55 1SE
Ffôn: 672307 • Ffacs: 678244Ebost: [email protected]
Emyr Thomas a’i Fab Moduron Menai
Ffôn: 678681Ffôn symudol:
07780 998637Ffordd y Gogledd,
Caernarfon, Gwynedd LL55 1BEwww.moduronmenai.co.uk
Dewis helaetho geir o’r ansawdd uchaf
am brisiaucystadleuol
Ffôn: 01286 677771
7B Stryd y Plas,Caernarfon
Gwynedd LL55 1RH
Croeso cynnes bob dyddgan
31 Stryd y BontCaernarfon
Ffôn: (01286) 672427
CAFFI CEI
4
Cyn-ddisgybl yn cyflwyno Cynhaliwyd Seremoni Cyflwyno 'FfeilCynnydd' Blwyddyn 11 yn yr ysgol ynddiweddar. Mae'r ffeil yn gofnodpwysig o lwyddiannau'r disgybliontra’u bod yn yr ysgol. Diolch yn fawriawn i'r siaradwraig wadd - MariLovgreen. Pob dymuniad da i bawb oflwyddyn 11 yn eu arholiadau ac yn ydyfodolHawl i HoliAr y dudalen flaen, mae llun GarethEaglestone a Catrin Davies, y ddau ynastudio Gwleidyddiaeth yn yr ysgol. Fegawson nhw a’u cyd-fyfyrwyr gyfle iholi Mr Ieuan Wyn Jones, y DirprwyBrif Weinidog yn y Galeri, i ddathludeg mlynedd o'r Cynulliad.Gwneud rhywbeth anhygoelBu myfyrwyr o'r chweched dosbarth ynYsgol Syr Hugh 'yn gwneud rhywbethanhygoel' yn ddiweddar wrth i drosbedwardeg ohonynt roi gwaed am y trocyntaf. Y myfyrwyr eu hunain adrefnodd y sesiwn gan sicrhau fod yruned symudol yn ymweld â'r ysgol.Roedd cymaint o frwdfrydedd fel nadoedd yna ddigon o apwyntiadau ar gaeli fodloni awydd pob gwirfoddolwr i roigwaed. 'Roeddwn yn eitha' nerfus cyn
Ysgol Syr Hugh Owen
cychwyn ond roeddwn yn falch iawn ogyfrannu', meddai Hayley Jones. Mae'rPrif-Fachgen, Euros Clwyd, yn teimlofod digwyddiadau fel hyn yn esiamplo'r pethau positif y mae pobl ifanc yn eiwneud. Wythnos Gwaith MaesBu criwiau o blant Syr Hugh yngwneud gwaith maes mewnDaearyddiaeth a Hanes yn nhrefCaernarfon yn ystod wythnos gyntafmis Mehefin. Roedd y gweithgareddauDaearyddiaeth yn canolbwyntio arStryd Llyn yn bennaf gan wneudgwaith map, holiaduron, arolwg osbwriel a llunfapio. Roedd y
gweithgareddau Hanes yn cynnwysymweld â'r castell, gwrando argyflwyniad a gwaith empathi.
Aeth Blwyddyn 8 i Barc Padarn ynLlanberis i wneud gwaith maesDaearyddiaeth, Hanes aGwyddoniaeth. Roedd y criwDaearyddiaeth yn edrych arddaearyddiaeth ffisegol yr ardal, ynllenwi holiaduron ac yn mynd ar helfadrysor. Aeth yr Haneswyr i ymweld agAmgueddfa Lechi Gogledd Cymru abu’r Gwyddonwyr yn astudio ecosystemau.Gwobr arall i’r ysgolMae'r ysgol wedi ennill gwobr ArianYsgolion Gwyrdd unwaith eto.
Y myfyrwyr yn holi Mr Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog
![Page 5: Rhifyn 69 MEHEFIN 2009 Pris 40c - Papur Drepapurdre.net/wp-content/uploads/archif/69.pdf · 2013-01-11 · Y Gegin Fach 5-9 Penllyn, Caernarfon 01286 672165 Dewis helaeth o fwyd ffres,](https://reader033.fdocument.pub/reader033/viewer/2022041906/5e639e5faa26c528af0de625/html5/thumbnails/5.jpg)
Y Gegin Fach5-9 Penllyn, Caernarfon
01286 672165Dewis helaeth o fwyd ffres,
gan gynnwys brecwast, byrbrydau,prydau llawn, cawl a chacenni cartref.
Y cyfan mewn awyrgylch Cymreig cartrefol.Darperir ar gyfer partïon preifat a chyfarfodydd hefyd.
Croeso cynnes gan Alwyn a Pat yn disgwyl pawb.
Adda ac EfaARBENIGWYR GARDDIO
Os am weld eich gardd ar ei gora’Codwch y ffôn, galwch ADDA ac EFA
Twtio, plannu, chwynnu…chewch chi neb gwell!
Rhif ffôn: 674400
5
Ysgol Maesincla
YSGOL SYR HUGHDyddiadur Taith Gwlad Belg 2009gan Sara Pennant Jones
Dydd Mercher, 20/05/2009Roedd pawb o flaen giatiau YSHO ynbrydlon er mwyn dechrau am 6:45. Fegroeson ni’r Eurotunnel i Calais, ac ynawedi unarddeg awr o deithio, cyrraedd eingwesty yn Blankenberge. Wedi cael bwydaethom i ymlacio ar y traeth fin nos cynmynd i’n gwlâu yn gynnar ar ôl ein diwrnodhir.Dydd Iau, 21/05/2009Aethom i Bruges i ymweld â’r ddinas, ac iwneud mymryn o siopa. Ben bore, aethomar daith gamlas ar hyd y ddinas oedd yn brafiawn, ac yna, i flasu siocled yn y ffatriChocoStory. Cawsom ryddid wedyn amychydig o oriau i grwydro Bruges, ond ynanffodus, roedd seremoni’n cael ei gynnaldrwy ganol strydoedd y ddinas a olygai fody siopau i gyd wedi cau, ac a rwystrodd ni iadael awr a hanner yn hwyrach nag oeddenni wedi bwriadu! Ond er hynny, mi roeddhi’n ddiwrnod braf a phleserus iawn.Dydd Gwener, 22/05/2009Heddiw mi wnaethon ni ymweld â’r beddia’r cofebau rhyfel byd cyntaf yng NgogleddFfrainc, i gofio’r miloedd o filwyr fuoddfarw yn y rhyfel dros 90 mlynedd yn ôl.Aethom i weld amgueddfa BeaumontHamel a’i chofeb i gofio’r Newfoundlandersa fuodd yn ymladd ym mrwydr y Somme.Mi fuon hefyd yn ymweld â rhai o’r ffosyddo ardal y Somme oedd wedi’u hail-greu i roiargraff o ffosydd y rhyfel byd cyntaf. Ynaaethom i ymweld a cofeb Thiepval sy’ncynnwys enwau dros 70 mil o filwyr ymmrwydr y Somme sydd â’i cyrff ar goll.Roedd hi’n brofiad emosiynol iawnsylweddoli realaeth colledion rhyfel. Arddiwedd y diwrnod aethom i ymweld âChofeb Mametz, sef cofeb i’r Cymru fuoddyn ymladd yn ystod brwydr y Somme. Wedioriau eto o deithio, fe symudon ni ’mlaen i’rgwesty nesaf yn ardal Ypres.Dydd Sadwrn, 23/05/2009Diwrnod o fwynhau heddiw wrth i ni galrhyddid ym Mharc Thema Bellewaerde.Roedd o’n barc da gyda nifer o reidiau dwr,oedd yn ddim problem o ystyried y tywyddgwych a gawson ni! Roedd o’n ddiwrnodgrêt, ac fe fwynhaodd pawb. Gyda’r nos,aethom i ddinas Ypres, ac i Menin Gate igael y profiad o’r seremoni ‘The Last Post’sydd yn digwydd bob nos o’r flwyddyn ers1928 i gofio’r rhai fuodd farw yn ystod yrhyfel, ond heb eu darganfod. Roedd hi’nseremoni emosiynol iawn a roddoddddagrau yn llygaid rhai, ond profiadbythgofiadwy.
Dydd Sul, 24/05/2009Dyma ddiwrnod arall o weld mynwentydd yrhyfel byd cyntaf. Dechreuon ni ymMynwent Tyne Cot a oedd yn cynnwysmiloedd o feddi’r milwyr hyn, a rhai ynfilwyr di-enw. Daeth y sefyllfa yn llawermwy real pan ddywedodd Mr Owen fodmwy o bobl wedi’u claddu fan hyn nag oesyna’n byw yng Nghaernarfon. Yna aethom ifynwent Langemark, mynwent i’rAlmaenwyr yng ngwlad Belg. Roedd hi’nddiddorol gweld y gwahaniaeth rhwngmynwentydd i’r Prydeinwyr oedd yn wyn, athaclus, tra’r oedd yr un i’r Almaenwyr yneitha’ tywyll, a chymharol flêr. I orffen ein
taith i weld y mynwentydd, aethom iArtillery Wood, ble mae bedd y prifarddHedd Wyn. Profiad bythgofiadwy. Yn yprynhawn cawsom grwydro Ypres, oedd ynddinas braf iawn. Gan mai dyma ein nosonolaf cawsom fynd i fowlio deg, oedd yn lot ohwyl, ac yna’n ôl yn y gwesty cawsomseremoni wobrwyo’r daith, oedd yn lot osbort!Dydd Llun, 25/05/2009Dyma ddechrau ar ein taith adref. Cawsomstopio yn Calais i wneud mymryn o siopa’,cyn dechrau ar daith hir a blinedig nol iYSHO. Roedd o'n brofiad wneith aros yn ycof am byth.
Mae plant Maesincla wedi cael llwyddiant unwaith eto yng nghystadleuthau celf EisteddfodGenedlaethol yr Urdd. Llongyfarchiadau mawr i Elin Viney am gael cyntaf gyda'i gwaithcelf yn yr adran tecstilau 3D Blwyddyn 2 ac iau.
Llongyfarchiadau mawr i Sara Lois, Arianne, Elin a Simone am gael ail gyda'u pypedau.
![Page 6: Rhifyn 69 MEHEFIN 2009 Pris 40c - Papur Drepapurdre.net/wp-content/uploads/archif/69.pdf · 2013-01-11 · Y Gegin Fach 5-9 Penllyn, Caernarfon 01286 672165 Dewis helaeth o fwyd ffres,](https://reader033.fdocument.pub/reader033/viewer/2022041906/5e639e5faa26c528af0de625/html5/thumbnails/6.jpg)
6
Pob Dim i Ddodrefnu’r T yCanol y Dref, Caernarfon LL55 1NN
Parcio aml-lawr, 100 medr i ffwrddFfôn: 01286 676040 Oriau Agor Llun - Sadwrn 9.30 - 5.00
DODREFNA LLORIAU
CARPEDI
JJoohhnn WWiilllliiaammssYn ôl at eich gwasanaeth!
Ffôn: (01286) 674432Symudol: 07721 750958
Sefydlwyd 1972
Cyflenwi a Gosod CarpediTEILS CARPED, FEINYL, MATIAU
LLORIAU PREN
MEDIBar Coffi
Stryd y Plas (01286) 674383Bwyd drwy’r dydd
Agored yn hwyr dros y penwythnosCoctels 2 am bris 1 (8.00 – 10.00)
DAU GYN ATHRO’NDANGOS EU DONIAU
Gareth Griffith (chwith) a Glyn Baines (Diolch i Geraint Thomas,Panorama am y llun)
Ar ôl treulio blynyddoedd yn dysgu artistiaid ifanc, mae’r ddauathro Gareth Griffith a Glyn Baines erbyn hyn wedi ymddeol acyn cael cyfle i ddatblygu eu doniau eu hunain fel artistiaid. Roeddffrwyth eu llafur i’w weld yn Oriel Dafydd Hardy’n ddiweddar.Ganwyd Gareth y dre. Roedd ei dad, Robin, yn athro yn Ysgol yrHogia ac roedd yn gwneud gwaith darlunio ar gyfer Cymru’rPlant, Bore Da a’r Cymro. Ei daid oedd W. J. Griffith, pennaethcynta’r hen Ysgol Ganol.
Mae’r traddodiad yn parhau yn y teulu – mae tri mab Gareth ynartistiaid hefyd. Mae gan Dafydd gwmni dylunio ym Milan, maeIoan yn athro cerflunio yn Llandudno ac roedd gan y mab fenga,Morgan, arddangosfa yn Oriel Dafydd Hardy yn 2007. Treuliodd Glyn Baines ei yrfa gyfan fel athro yn Ysgol y Berwyn,y Bala ac mae rhai o’i gynddisgyblion bellach yn rhai o’r artistiaidmwyaf adnabyddus yng Nghymru – Angharad Jones, CatrinWilliams ac Iwan Bala er enghraifft.
Mae’r ddau artist yn gefnogol iawn i Oriel Dafydd Hardy sy’nceisio cynnig cyfle ac ysbrydoliaeth i artistiaid ifanc. Felly, bydd yddau ohonynt yn rhoi cyfraniad o unrhyw werthiannau yn yrarddangosfa i fenter gydweithredol yr artistiaid ifanc - “bocs’.
YDACH CHI’N GOFALU AMRYWUN Â PHROBLEMAU COF?Cymdeithas Alzheimer yw’r elusen sydd yn arwain mewn gofal acymchwil ar gyfer pobl â dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr.Mae’r Gymdeithas yn cynnig gwybodaeth a chyngor ac fe all eichcangen leol roi cefnogaeth i chi. Ar gyfer ardal Caernarfoncynhelir grwp unwaith y mis yng Nghlwb Hwylio Caernarfon. Ynod yw cefnogi a chynnal y rhai sydd yn edrych ar ôl pobl efo namar y cof. Os oes unrhyw un o’ch darllenwyr eisiau gwybod mwy am waith
y Gymdeithas a’r grwp misol yna cysylltwch â Margaret Tüzünerar Ffôn: 01248 671125.
APÊL DROS Y SAMARIAIDOS OES GAN RYWUN NEU RYWRAI DDIDDORDEB I GYNNAL GWEITHGAREDD YN YR ARDAL YMA ER
BUDD YR ELUSEN UCHOD A WNEWCH GYSYLLTU GYDAG EMYR GRIFFITHS, LLYWYDD CYFEILLION YSAMARIAID AR 01248-353454 ER MWYN SGWRS A MWY O FANYLION, DIOLCH YN FAWR.
Siop IwanPapurau Newydd • Da-da, Cardiau, Nwyddau Ffansi
Presantau
43 Stryd y Bont Bridd, Caernarfon (01286) 673300
TÎM NOFIO’R GELLI
Tîm Nofio Ysgol y Gelli a enillodd y Gala i ysgolion mawr.
![Page 7: Rhifyn 69 MEHEFIN 2009 Pris 40c - Papur Drepapurdre.net/wp-content/uploads/archif/69.pdf · 2013-01-11 · Y Gegin Fach 5-9 Penllyn, Caernarfon 01286 672165 Dewis helaeth o fwyd ffres,](https://reader033.fdocument.pub/reader033/viewer/2022041906/5e639e5faa26c528af0de625/html5/thumbnails/7.jpg)
7
Pryd i bawbArlwyo at bob achlysur ynunrhyw leoliadBwffe blasus o safon
• Priodas • Cyfarfodydd busnes• Bedydd/Parti /Te angladd • Basged Picnic• Bwyd yn unig neu gwasanaeth llawnCerid Mackinnon Ffôn: 01286 673190Symudol: 07774 925502
Am gymorth:i gychwyn prosiecti gael hyfforddianti geisio am granti redeg mudiadi wirfoddoli
cysylltwch â Mantell Gwynedd– yn cefnogi grwpiau
gwirfoddol a chymunedol
01286 672626 neu01341 422575
Elusen Gofrestredig 1068851Cofrestrwyd yng Nghymru
Cwmni Cyfynedig drwy Warant 3420271
PETER HARROPB.Sc. (Anrh) MCOptom
OPTOMETRYDDOPTEGYDD
43, Stryd Llyn, Caernarfon
(01286) 673631
GGwwyynnddaaff WWiilllliiaammss aa’’ii FFaabb15 Penllyn, Caernarfon
(01286) 675433Trwsio esgidiau, Torri goriadau
Gosod straps a batris oriawrEngrafiadau a chwpanau ar
gyfer pob achlysur
CAPEL SEILOCAERNARFON
PANAD PNAWNDydd Iau 18 Mehefin, 2.00 -
5.00pm efo stondinau amrywiol,£1 y tocyn
Sel Lyfrau, Dydd Iau a dyddGwener,
18 ac 19 Mehefin, 10.00 - 12.00, a5.00pm - 7.00pm
Bore Sadwrn - 10.00am- 12.00pm
AGOR DRWS Y NANTYdach chi wedi sylwi ar yr adeilad newyddsydd wedi ei godi yn ddiweddar bron drosffordd i Siop Min y Nant ar hyd fforddLlanberis? Enw’r adeilad yw Drws y Nantac fe fydd yn gartref i hyd at 5 o bobl ifanc,11 oed a throsodd o fis Awst ymlaen. Poblifanc fydd rhain sydd yn ei chael hi’nanodd byw efo’u teuluoedd am gyfnod yneu bywydau. Cynllun gan Cyngor SirGwynedd yw hwn a bydd yr adeilad yn caelei staffio 24 awr saith diwrnod yr wythnosgan staff sydd wedi eu cymhwyso i roicefnogaeth i’r bobl ifanc.
Gan fod yr adeilad ar safle Bontnewydd ynanaddas bellach penderfynodd y Cyngorbod angen cartref mewn man arall yn yrardal. Dewiswyd y lleoliad hwn ar gyfer ycartref oherwydd ei fod yn agos atgyfleusterau hamdden a thrafnidiaethgyhoeddus.
Byd Awyr AgoredDillad ac esgidiau cerdded
Offer campio
01286 677500Penllyn, Caernarfon.
hefyd yn Stryd Fawr Llanberis01286 870777JUST NATURAL
Bwydydd Iach a deunydd Bragu4 Penllyn, Caernarfon
01286 674748Dewis helaeth o fwydydd iach, bwydydd cyflawn,
fitaminau ac ychwanegion.Barod bob amser i archebu nwyddau
sydd ddim yn y siop.Stoc mwyaf gogledd Cymru o Berlysiau a sbeisiau.
Gareth Jones, rheolwr Plas Pawb, a Daniel acOwain, dau o blant sy'n mynychu'r clwb ar ôlysgol, yn postio holiaduron Plas Pawb.
Mae cyfle i chi ennill gêm gyfrifiadurol hebei ail a’r cwbl sydd raid i chi ei wneud ywllenwi holiadur syml.Plas Pawb sef canolfan ar gyfer plant,teuluoedd ac oedolion o bob oed, wedi’illeoli ar safle Ysgol Maesincla sydd yngyfrifol am lunio’r holiadur. Disgwylir i’rholiadur gael ei ddosbarthu i bob ty yngNghaernarfon.
Yn ôl Gareth Jones, rheolwr Plas Pawb:“Rydym yn awyddus i gael gwybod bethsy’n bwysig i bobl dre fel y medrwn gynnigy cyfleon gorau megis gweithgareddau iblant ac oedolion a chyrsiau fydd ynsiwtio’r bobl leol orau.
“Rydym yn annog pobl i lenwi’r holiadurac mae cyfle iddynt ennill Nintendo Wii agêm Wii Fit. Rhaid bod yn 16 oed neu’nhyn i gymryd rhan felly mae’n bwysig fodplant yn gwneud yn siwr fod rhiant neuoedolyn arall yn llenwi’r holiadur.
“Mae croeso i bobl ddod i Blas Pawb osydynt eisiau help llaw i gwblhau'r holiadur,
neu dewch a’r daflen wedi ei chwblhauatom. Os na fedrwch ddod i Blas Pawb maeblychau post arbennig mewn nifer oganolfannau drwy’r dref - Ysgol Maesincla,Ysgol yr Hendre, Feed My Lambs, Noddfaa Chanolfan Hamdden Arfon.
“Hefyd ar y daflen mae panel gwybodaethddefnyddiol am Blas Pawb i bobl ei gadw.”
Canolfan Integredig Plant yw Plas Pawb.Cynhelir nifer o weithgareddau yno eisoesgan gynnwys Cylch Meithrin, Cylch Ti aFi, clwb ar ôl ysgol a chynlluniau chwarae.Ceir gweithgareddau i oedolion yn ogystalmegis cyrsiau hyfforddiant, arweiniad argyfer pobl sy’n awyddus i ddychwelyd i’rgwaith ac mae ystafell gyfarfod yno.Ychwanegodd Gareth Jones: “Mae’nbwysig cofio mai eich canolfan chi ydy PlasPawb. Mae’n bwysig fod pobl yn llenwi’rholiadur fel bod yr hyn rydym yn eiddarparu yma yn adlewyrchu anghenion agobeithion pobl leol.”
CYFLE I ENNILL Wii!
![Page 8: Rhifyn 69 MEHEFIN 2009 Pris 40c - Papur Drepapurdre.net/wp-content/uploads/archif/69.pdf · 2013-01-11 · Y Gegin Fach 5-9 Penllyn, Caernarfon 01286 672165 Dewis helaeth o fwyd ffres,](https://reader033.fdocument.pub/reader033/viewer/2022041906/5e639e5faa26c528af0de625/html5/thumbnails/8.jpg)
8
Rhif Cofrestredig Elusennol: 1084271
Cynigir hyfforddiant cerddorolo safon uchel ar amrywiaeth o
offerynnau a llais. Pob lefel.Croeso cynnes i bob oed
Grwpiau cerdd i blant18mis i 3oed yn ystod y dydd
Canolfan Gerdd William MathiasGaleri, Doc VictoriaCaernarfon, Gwynedd LL55 1SQ(01286) 685230 • [email protected]
Da gennyf ddweud erbyn hyn bod gennyfbrawf digonol bellach, a hynny yn ôl y nifero ddarllenwyr Papur Bro a ddaw ataf ar ystryd, bod llawer yn gwerthfawrogif ’ymdrech i gyhoeddi peth o hanes yr hendref yn fisol yn y golofn hon. Ond i’r rhaiohonoch nad ydynt yn gyfarwydd â’r ffaithbod ffordd arall o gysylltu â mi i ofyncwestiynau am Gaernarfon, a gaf fi eichhysbysu bod gennyf fy ngwefan Saesneg fyhun ar www.Caernarfononline.co.uk sef“Did You Know?” ac os oes gennychgyfrifiadur ac ‘arlein’ fel y dywedir, gallwchanfon eich cwestiynau [email protected] pan fynnoch achewch ateb gynted ac y bo bosib, dim ondichi glicio ar fy fforwm a theipio’r cwestiwn.Peidiwch pryderu ychwaith am ysgrifennuyn Saesneg. Atebir bob cwestiwn yn yr iaithy’i gofynnir h.y. yn y Gymraeg neu ynSaesneg.Myfyrwyr yn holiYn ddiweddar cefais gwestiwn gan fyfyriwryn gwneud gwaith ymchwil ar buteindai yngNghaernarfon yn ystod hanner olaf y 19ganrif. Anfonais ateb yn dweud bod ydiweddar Lewis Lloyd, awdur y llyfr “Portof Caernarfon 1793 – 1900” yn delio â’rmater a bod bosib iddo gael copi ynAmgueddfa Seiont II a chan nad oedd yramgueddfa yn agored ar y pryd, rhoddaisgyfeiriad y cadeirydd iddo. Cefais ateb yndiolch imi ac yn dweud iddo archebu’r llyfr.Cwellyn – chwe llyn?Nid o gylch Caernarfon yn unig y daw’rcwestiynau a daw rhai mor bell a SelandNewydd, caf gwestiwn gan Alwyn Parry,
gynt o Cwellyn, Ffordd Llanberis o dro idro. Bu ef yn dod ar fusnes i Brydain yn amlyn ystod y blynyddoedd diweddar ac roeddyn ffrindiau ers dyddiau ysgol gyda’rdiweddar Cledwyn Parry, Min y Nant a bu’rddau deulu yn aros yn nhai y naill a’r llall.Fodd bynnag, mae Alwyn yn awr wediymddeol ac ni fu yma ers tro, ond yn ôl addywedodd wrthyf yn ddiweddar mae’nbwriadu dod draw eleni. Yr oedd ef o’r farnmai ystyr enw ei hen gartref, Cwellyn, oeddChwe Llyn, ond deellir bod hynny ynanghywir ac mai ei wir ystyr yw “CawellLyn”, ond wedi ei dalfyrru i “Cwellyn” tros yblynyddoedd. Un esboniad yw mai mewnCewyll yr arferai pysgotwyr rwyfo ar y llyn.Hanes WaunfawrCefais gwestiwn diddorol ychydig cyn yNadolig gan Saesnes yn gofyn a allwn i eihelpu i brynu anrheg Nadolig i’w mam-yng-nghyfraith. Dywedodd mai un o’r Waunfawrydoedd a buasai yn hoffi cael llyfr am hanesy pentref a lluniau o Faes Caernarfon, osoedd hynny’n bosib. Atebais gan ddweudbod yn yr Archifdy lyfr ar werth “Whitewayof Waunfawr” gan Bill Rear a fu byw yn ypentref a bod ynddo lawer iawn offotograffau o’r llefydd lle’r arhosai y bysiauar y ffordd o Gaernarfon i Feddgelert.Awgrymais hefyd lyfr Cymraeg gan RolWilliams “Nid Roc Ond Rol”. Ganed amaged ef ym Mrynrefail, ond priododd fercho’r Waunfawr ac yno y bu am yr rhanhelaethaf o’i oes.
Rai dyddiau ar ôl y Nadolig cefais ebostarall ganddi yn diolch imi am fy help. Roeddyr hen wraig wrth ei bodd gyda’r llyfrau acmeddai ei merch-yng –nghyfraith “....shecried, but she assures me it was in the nicestpossible way”.
Engrheifftiau yw’r uchod o fel y mae’nbosib cynnig gwasanaeth i eraill heb symudo’r ty, diolch i’r dechnoleg ryfeddol hon.Ond peidied neb a meddwl mai dim ondfforwm i dderbyn ac ateb cwestiynau sydd ary wefan “Did You Know?” Gwefan ydyw argyfer addysgu pobl leol a rhai o’r tu allan,nad yw’r Gymraeg yn iaith gyntaf iddynt,am hanes Caernarfon. Ar y rhuban ar ychwith i dudalen flaen y wefan, gweliramryw o “fotymau” y gellir clicio arnynt amhanes pobl, llefydd a digwyddiadau o bwysyn ein tref. Rhai fel cymwynaswr mwyaf TrefCaernarfon yn y 19 ganrif, Sir Llewelyn
Turner, Grwp Capten Lionel WilmotBrabazon Rees, yr unig Gofi i ennill yVictoria Cross, hanes Stemar Bach Sir Fônac adeiladu Pont yr Aber yn 1900 ac amryweraill. Os oes gennych wir gariad atGaernarfon a’i hanes, cofiwch bod ygwasanaeth hwn ar gael ichi a hynny yn rhadac am ddim ar y wefan “Did You Know?” arwww.CaernarfonOnline.co.uk Byddaf ynedrychaf ymlaen at dderbyn cwestiynauhanesyddol gennych am Gaernarfon - achofiwch yn y Gymraeg, wrth gwrs.T MEIRION HUGHES
CYMORTH TRWY WASANAETH DI-DÂL
ModurdyB & K Williams
Lôn Parc/ South Road, CaernarfonGwynedd LL55 2HP
Ffôn: 01286 675557Ffôn symudol: 07768900447
Gwasanaeth Cyfeillgaro’r Safon Orau Bob Amser
TOWN CABSPerchennog:
Brian O’Shaughnessy
TACSI TACSITACSI
01286 67609107831 268995
Siwrneiau Lleol
Meysydd Awyr
Dydd a Nos
Car 7 person
![Page 9: Rhifyn 69 MEHEFIN 2009 Pris 40c - Papur Drepapurdre.net/wp-content/uploads/archif/69.pdf · 2013-01-11 · Y Gegin Fach 5-9 Penllyn, Caernarfon 01286 672165 Dewis helaeth o fwyd ffres,](https://reader033.fdocument.pub/reader033/viewer/2022041906/5e639e5faa26c528af0de625/html5/thumbnails/9.jpg)
9
Hywel WilliamsAelod Seneddol
Alun Ffred JonesAelod Cynulliad
Etholaeth Caernarfon
CYMORTHFEYDDOs oes gennych fater yr hoffech ei drafod gyda’r A.S. neu’r A.C.mewn cymhorthfa, ffoniwch 01286 672076 i wneud apwyntiad
neu ysgrifennwch atynt: Swyddfa Etholaeth, 8 Stryd y Castell, Caernarfon LL55 1SE
neu e-bost: [email protected]@wales.gov.uk
Ty Pobl PebligMae Ty Pobl Peblig yn dy cymunedol yngnghanol stad Peblig ac yn bodoli ers tairblynedd. Rydym yn dod at ein gilydd i gaelpaned a sgwrs efo ffrindiau, cymryd rhanmewn gwahanol weithgareddau ac maeColeg Menai hefyd yn cynnig ambell i gwrsyma. Dyma flas o’r hyn sydd yn myndymlaen yn ein ty prysur ni. Am fwy owybodaeth neu i ymuno yn yr hwyl galwchdraw neu ffoniwch 01286 662620Mynd ta DwadYn ddiweddar trefnwyd trip ganYmddiriedolaeth Gerddi’r Agoriad iBortmeirion. Roedd pawb yn edrychymlaen a’r bws yn llawn gyda 29 o bobl acun ci.Fe gychwynnodd y bws ac wedi iddo godi
un person yn y Groeslon dyma ni’n caelsioc wrth i’r bws droi’n ôl am Gaernarfon.“Beth sydd yn mynd ymlaen?” gofynnoddLinda, “gyrrwr y bws yn dweud ein bod niyn mynd i Gerddi Bodnant yng Nghonwy”. “Na” meddai pawb, “i Bortmeirion dani’nmynd”, felly troi'r bws yn ôl amBortmeirion.Cyrraedd Portmeirion i gyfarfod Sioned
Young o’r Ymddiriedolaeth ond dim golwgohoni.“Mam bach be nawn i rwan?” meddairhywun. Oedd y gyrrwr yn iawn? “Wel” meddai Linda, “rhaid troi’n ôl amynd i Fodnant”, siwrne o ddwy awr ahanner.Dyma Megan yn dechrau cwyno, yn dweudy buasai wedi cymryd llai o amser i hedfani Magaluff a phawb yn chwerthin.O’r diwedd dyma ni’n cyrraedd Bodnant a
chyfarfod Sioned. Cafodd bawb giniobendigedig cyn crwydro drwy’r gerddianfarwol. Mae llun rhai o’r plant ynmwynhau eu hunain ar y dudalen flaen. Acwrth gwrs, fe gymerodd hi lai o amser iddod adref!!!
Clwb GarddioMae clwb garddio yn cyfarfod yn yr arddgymunedol ar nos Fawrth o 5 tan 6 o’rgloch i blannu blodau a llysiau a hefyd rhoidwr i’r planhigion. Uchafbwynt y clwboedd cael y gweithdy newydd yn ei le, ermwyn cael cysgodi a gwneud gwaith o dando. Dewch draw efo’ch syniadau a’chcyngor am arddio.Clwb DawnsioMae yna 13 o blant yn mynychu'r clwbdawnsio yn Feed My Lambs. Ar nos lun o 5tan 6 o’r gloch mae Colin o Bortiwgal, sy’nsiarad Cymraeg yn berffaith, yn dysgudawnsio stryd. Mae’r plant, genod a hogiau,wrth eu bodd yn dysgu sgiliau newydd.JiwsiErs y 10fed o Fehefin rydym wedi cychwynsesiynau ar iechyd rhyw i blant dros 11 oed.Mae’r sesiynau yn cychwyn am 6.00 o’rgloch ac yn rhedeg am 6 wythnos.
Cyrsiau codi hyderYn ddiweddar bu criw o 5 o hogiau argyrsiau codi hyder. Cafodd yr hogiau'r cyflei wynebu eu hofnau drwy feicio ym MhlasMenai a caiacio a dringo yn Llanberis.Clwb Pobl IfancMae yna glwb i bobl ifanc ar nos Lun, nosFercher a nos Wener rhwng 5 a 7 o’r gloch.Mae yna ddigon o bethau i’w gwneud felcelf a chrefft, gemau bwrdd, Nintendo Wii,a ma’ na le i gael chillio! Mae’r clwb yn caelei redeg gan Megan (arweinydd pobl ifanc).Mae ganddi 5 o wirfoddolwyr (diolchiddynt!) ond mae hi angen mwy i’w helpuyn y clwb.Coleg MenaiMae Coleg Menai yn cynnig cyrsiau ioedolion fel ‘Defnyddio Cyfrifiadur’ a‘Gwella eich Cymraeg’ yn Nhy Peblig.Ffoniwch Arwel neu Gruff ar 01286 673450am fwy o fanylion.
I gadw’n gynnes a chlyd cysylltwch â
JOHN HUGHES A’I FABMasnachwyr Glo Carmel
01286 882 160Hefyd yn gwerthu
STÔFS SY’N LLOSGI COED A GLOGalwch yn yr iard i weld ein dewis
eang o stôfs traddodiadol a modernCynigwn wasanaeth cyflawn gan
gynghori a gosod eich stôf
Edrychwch ar ein gwefan
www.fflam.biz
SIOEAMAETHYDDOL
GOGLEDDCYMRU
Sadwrn Gorffennaf 4yddo 10 y bore ymlaen.
Caeau Wern Ddu, Ffordd Bethel,Caernarfon
£5 oedolion; £3 pensiynwyr aphlant dros 4 a £12 i deulu.
Dewch yn llu.
POBL PEBLIG
Rhai o’r criw ‘Codi Hyder’
![Page 10: Rhifyn 69 MEHEFIN 2009 Pris 40c - Papur Drepapurdre.net/wp-content/uploads/archif/69.pdf · 2013-01-11 · Y Gegin Fach 5-9 Penllyn, Caernarfon 01286 672165 Dewis helaeth o fwyd ffres,](https://reader033.fdocument.pub/reader033/viewer/2022041906/5e639e5faa26c528af0de625/html5/thumbnails/10.jpg)
10
Daeth torf fawr o fyd cyfraith Gogledd Cymruynghyd i agoriad swyddogol y Llys ar FforddLlanberis ar yr 20fed o’r mis dwytha. CanolfanCyfiawnder Troseddol Caernarfon ydi’r enwswyddogol, ac mae’n ganolfan agored braf, aceithaf Cymreig, gydag englynion a gwaith plantlleol ar y waliau. Agorwyd y Ganolfan gan yr Arglwydd IgorJudge (enw addas iawn), Arglwydd Brif Ustus
Yn y Blac oeddan nhw un noson panddaeth y syniad - 'Be am ddreifio iAzerbaijan?' (fel mae rhywun!) Syniadgwallgo - ond erbyn hyn, mae pedwar ohogiau o'r dre wedi cwblhau'r daithmewn Astra bach coch 15 oed. AndrewWilliams, Gavin Jones, a'r ddau frawdRhys a Hywel Iorwerth oedd yn y carpan gychwynnon nhw o Gaerdyddbythefnos nôl.
Elusen Gôl drefnodd y cyfan - elusencefnogwyr tîm pêl-droed Cymru sy'ncodi arian at achosion da dramor -cartrefi plant amddifad yn bennaf. Ycynllun oedd gyrru mewn confoi o hengeir o Gaerdydd drwy Ewrop ac Asia igyrraedd Baku erbyn y gêm rhwngAzerbaijan a Chymru. Roedden nhwwedi codi miloedd cyn cychwyn a'rbwriad hefyd oedd gadael y ceir ymmhen y daith i ychwanegu at y gronfa.Mi deithion nhw drwy Loegr, croesi iFfrainc, i lawr drwy wlad Belg a'rAlmaen, wedyn i Awstria, Slofacia,Hwngari, Romania, Bwlgaria, Twrci ac imewn i Georgia. Roedd rhaid iddyn nhwadael y car yn Kutaisi yn Georgia. DydyAzerbaijan ddim yn fodlon derbyn ceirefo llyw ar yr ochr dde. Er bod criw'rconfoi a gychwynnodd o Gaerdydd i gydwedi landio yn Baku rywsut, wnaeth pobun o'r ceir ddim llwyddo i gyrraedd pen
O’R BLACK I BAKU
Cymru a Lloegr, mewn seremoni ddwyieithog arfore braf o Fai.Rhoddwyd adloniant gan barti canu plant Ysgol
y Gelli, ac er bod Côr Meibion Caernarfon wedimethu bod yn bresennol dywedodd IoloThomas, Clerc Ynadon Gogledd Cymru, bodparti Ysgol y Gelli o safon llawer uwch na’r côrmeibion beth bynnag!
AGOR Y LLYS NEWYDDYNG NGHAERNARFON
y daith - un wedi nogio cyn cyrraeddDover! Ond roedd yr Astra bach coch ahogia Caernarfon yn benderfynol o'igwneud hi.
Sut daith oedd hi felly?"Doedd hi ddim yn rhy ddrwg nes innigyrraedd Hwngari - traffordd yr hollffordd, ond wedyn fe ddechreuodd ylonydd waethygu - a'r gyrwyr! Maegyrwyr loris Romania a Twrci'n meddwlmai dim ond nhw sy ar y ffordd! Roeddisio dau bâr o lygaid o hyd," meddaiRhys. "Yn Romania, fe basion ni dafarno'r enw 'Alex' (wir yr!) a hefyd fe basiongwmni bysus lleol o'r enw Jones".
Cafodd y criw groeso arbennig ynKutaisi, tref yn Georgia sydd wedi'igefeillio efo Casnewydd. Mae'r boblyno'n meddwl bod 'ymwelwyr' yn 'rhoddgan Dduw. A dweud y gwir fe gawsonnhw groeso arbennig ym mhobman.Fuodd Andrew a Hywel yn annerch 150o ferched mewn coleg yno ac yn sôn amgefndir diwylliannol Cymru. (Gwerth eu
Criw'r confoi ym mynachlog Gelati, Georgia. Codwyd y fynachlog gan 'David the Builder',brenin pwysica Georgia (yn ôl y sôn). Roedd yr offeiriad yng nghanol y llun yn awyddus iawni Gymru guro Azerbaijan.
Andrew (ar y dde yn y cefn) efo rhai o blantbach hapus yr Ysgol yn Georgia
Gavin, Rhys, Hywel ac Andrew wedicyrraedd pen y daith – Kutaisi, Georgia
PapurDreLliwMehefin09 11/6/09 01:30 Page 10
![Page 11: Rhifyn 69 MEHEFIN 2009 Pris 40c - Papur Drepapurdre.net/wp-content/uploads/archif/69.pdf · 2013-01-11 · Y Gegin Fach 5-9 Penllyn, Caernarfon 01286 672165 Dewis helaeth o fwyd ffres,](https://reader033.fdocument.pub/reader033/viewer/2022041906/5e639e5faa26c528af0de625/html5/thumbnails/11.jpg)
11
KU
clywed, mae'n siwr!!).Roedd croesi'r ffin i Azerbaijan yn dipyno brofiad hefyd - roedd criw'r confoi athîm Cymru ei hun wedi cael trafferthcael Visas - ond fe lwyddon nhw i fynd imewn heb broblem yn y diwedd. Roeddrhai o'r 'gards' ar y ffin yn meddwl maihogia tîm Cymru oedd hogia'r confoi acisio tynnu eu llun. "Tasan nhw ond wedisbio ar folia rhai ohonon ni, fasan nhw'ngwybod yn gallach", meddai Gavin.Roedd yr hogia'n dipyn o destun sbortyn ninas Ganja hefyd am eu bod yngwisgo shorts - pawb yn rhythu ac ynrhyfeddu, yn pwyntio bys ac ynchwerthin. Roedden nhw'n gweld y pethyn ddigri ofnadwy - fel tasa rhywun yncerdded yn noeth drwy Gaernarfon.
Codi presFe lwyddodd hogia'r Astra godi ymhelldros £2000 at gartrefi plant amddifad cyncychwyn ac yn, ystod y daith, fe gawsonnhw gyfle i ymweld â'r cartrefi sy'n caelpres gan elusen Gôl. Roedd hynny'ndipyn o brofiad meddai'r criw - roedd yplant mor hapus er eu bod nhw wedi caelbywyd trist ofnadwy. Mae'r car bach cochbellach yn nwylo ysgol bêl-droed leol iblant amddifad yn Georgia a bydd tipyno'r pres a gasglwyd yn mynd tuag at helpuplant yn ninas Gori - lle'r oedd y plant igyd wedi colli'u rhieni achos y rhyfelllynedd.
A'r gêm?Yn goron ar daith anhygoel - fe enilloddCymru'r gêm. "Fe ddaeth John Toshack aty ffans i ddiolch inni am ddod. Y "CantonHotel" oedd un o'n noddwyr ac fefynnodd o gael sgwennu ar ein baner ni,am mai hogyn o Canton ydy o."
3331 o filltiroedd mewn hen Astra
Yr hogia efo rhai o bwyllgor CymdeithasPêl-droed Cymru - ar ôl y gêm
Hywel ac Andrew (tu blaen) a Gavin - cyn iGymru sgorio?
PapurDreLliwMehefin09 11/6/09 01:30 Page 11
![Page 12: Rhifyn 69 MEHEFIN 2009 Pris 40c - Papur Drepapurdre.net/wp-content/uploads/archif/69.pdf · 2013-01-11 · Y Gegin Fach 5-9 Penllyn, Caernarfon 01286 672165 Dewis helaeth o fwyd ffres,](https://reader033.fdocument.pub/reader033/viewer/2022041906/5e639e5faa26c528af0de625/html5/thumbnails/12.jpg)
12
Panorama Cymru19 Stryd y Plas
Arddangosfa o dirluniau trawiadol ganGeraint Thomas
a ffotograffwyr eraill.Llogi offer ffotograffig arbenigol.
Argraffu lluniau o safon uchel.Gwasanaeth fframio.
Gwasanaeth meddalwedd.
OWEN GLYN OWEN CYFCigydd i’r Tai Bwyta Gorau
Ffôn: (01286) 672146 •Ffacs: (01286) 6777612 STRYD BANGOR, CAERNARFON
UN SAFON –Y SAFON GORAU
AELOD O URDD CIGYDDION
Sefydlwyd 1939
Roberts y Newyddion 44 Y Bont Bridd, Caernarfon
01286 672 991 Papurau newydd • cardiau cyfarch • offer ysgrifennu • Da-da a
diodydd • Tlysau aur ac arian o Fôn Ar agor Llun – Sad (5.30am tan yr hwyr)
dydd Sul (5.30am – 12.00)Dosbarthu papurau i’r drws. Gwasanaeth cyfeillgar bob amser
CWMNÏAU CAERNARFON YN DOD I’R BRIG
AR WERTH! BYGI QUINNY ZAPP GLAS - FEL NEWYDD!Yn cynnwys canopi haul, cyfar glaw, bag cario’r bygi a myff
cynnes. Pris: £100 neu’r cynnig agosaf.
Cysylltwch hefo Rhian ar 07788 425218 ar ôl 5 o’r gloch.
Daeth tri chwmni o Gaernarfon i’r brigyng Ngwobrau Busnes Gwynedd 2009, agynhaliwyd yng Ngwesty’r Celt yngNghaernarfon yn ddiweddar.Cipiodd Phytovation, busnes wedi ei leoli
yng Nghibyn, Caernarfon y wobr BusnesBach y Flwyddyn (rhwng 1-19 o weithwyr).Mae’r cwmni yn arbenigo mewncynhyrchu deunyddiau planhigol ar gyfer ydiwydiant fferyllol. Aeth Phytovation a higan eu bod nhw’n arwain y farchnad fyd-eang yn eu maes arbenigol nhw, sy’n profibod posib rhedeg busnes rhyngwladolllwyddiannus yng Ngwynedd. Yna, fe enillodd cwmni Seren Arian y
wobr Busnes Gwyrdd mewn categorihynod gystadleuol. Mae’r cwmni gwyliauwedi datblygu cynllun prynu coeden argyfer pob unigolyn sy’n teithio gyda hwydros y deuddeg mis diwethaf, ac roedd y
beirniaid yn edmygu arloesedd y cwmni oran eu gweithgareddau gwyrdd.Yn olaf, fe gipiodd Cwmni Da prif wobr
y noson, sef Busnes y Flwyddyn. Roedd ycwmni teledu annibynnol yma wedi creuargraff arbennig ar y beirniaid am eu bodnhw wedi datblygu, tyfu a llwyddo ergwaethaf newidiadau sylweddol ym myd ycyfryngau dros y blynyddoedd diwethaf.
GENI YN YCARTREF Yn ôl ffigyrau sydd newydd eu cyhoeddi,mae mwy o ferched yng Nghymru bellachyn dewis geni yn y cartref nag mewnunrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig.Erbyn hyn mae’r gyfradd sy’n geni yn ycartref yng Nghymru yn 3.61% - y gyfraddsy’n tyfu gyflymaf drwy’r Deyrnas Unedigac mae’r gyfradd yn debyg yng NgogleddOrllewin Cymru.
O ran siroedd Gwynedd, Môn a Chonwymae’n edrych bod y cyfartaledd mwyaf oferched sy’n dewis geni yn y cartref yn yrardal hon o Wynedd. Dyna yw profiadbydwragedd lleol sydd yn dweud eu bod tuhwnt o brysur yn roi cefnogaeth i’rmerched sydd yn dewis hyn.
Er mwyn ymateb i’r cynnydd a sicrhaubod cefnogaeth lawn i ferched sy’n dewisgeni yn y cartref mae Cyngor Nyrsio aBydwreigiaeth sef corff proffesiynol ybydwragedd wedi cyhoeddi arweiniad ifydwragedd ar enedigaethau cartref. Mae’negluro y dylai bydwragedd gefnogi dewiso’r fath gan ferched ac o’r herwydd fe ddylaibydwragedd wella eu hyfforddiant a’usgiliau. Caiff hyn ei hwyluso trwy ddarparudyddiau astudio geni yn y cartref ar gyfer
bydwragedd cymuned sy’n cynnwys ymarfersgiliau mewn lleoliad cartref neu ganolfaneni ac adfywio oedolion a babanod newyddeu geni. Hefyd mae faniau Geni yn y Cartrefwedi eu cyflwyno i gario’r holl offer sydd ei
angen er mwyn geni yn y cartref. Os am fanylion pellach am hyn cysylltwchâ’r tîm bydwragedd lleol trwy naill ai ffonioHafan Iechyd a gadael neges neu ffonio rhifffôn uniongyrchol y tîm sef 01286 684105.
Bydwragedd Caernarfon a Bangor yn derbyn hyfforddiant ar enedigaeth yn y cartref.
![Page 13: Rhifyn 69 MEHEFIN 2009 Pris 40c - Papur Drepapurdre.net/wp-content/uploads/archif/69.pdf · 2013-01-11 · Y Gegin Fach 5-9 Penllyn, Caernarfon 01286 672165 Dewis helaeth o fwyd ffres,](https://reader033.fdocument.pub/reader033/viewer/2022041906/5e639e5faa26c528af0de625/html5/thumbnails/13.jpg)
13
O Sul i SulSEILO
21 Mehefin - Y Parch Gwenda Richards28 Mehefin - Y Parch R E Hughes5 Gorffennaf- Y Parch Gwenda Richards12 Gorffennaf - Y Parch Megan Williams
SALEMMehefin 21 10 a.m. a 5 p.m. Gweinidog.Mehefin 28 10 a.m. Gweinidog O Salem iSalem yn yr hwyr.Gorffennaf 5 10 a.m Gweinidog 5 p.m.Parchedig Ddoctor Elwyn Richards,Caernarfon.Gorffennaf 12 10 a.m. a 5 p.m. Gweinidog
EGLWYSI SANTES FAIRA LLANBEBLIG
Mehefin 21 Ail Sul wedi’r Drindod 10.00: Y Cymun Bendigaid (Santes Fair) 6.00: Hwyrol Weddi (Llanbeblig) Mehefin 28: Trydydd Sul wedi’r Drindod 10.00: Y Cymun Bendigaid (Santes Fair)6.00: Hwyrol Weddi (Llanbeblig) Gorffennaf 5:Pedwerydd Sul wedi’rDrindod10.00: Y Cymun Bendigaid (Llanbeblig) 6.00: Hwyrol Weddi (Santes Fair) Gorffennaf 12: Pumed Sul wedi’r Drindod 10.00: Y Foreol Weddi (Santes Fair) 6.00: Hwyrol Weddi (Llanbeblig) Bore dydd Mercher: 10.00 CymunDwyieithog (Santes Fair) Bore dydd Gwener: 8.30 CymunBendigaid (Llanbeblig)
DAFYDD WIGLEYYN YR AELWYD
Dafydd Wigley, llywydd Cymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd oedd yn traddodi’rddarlith flynyddol yn yr Aelwyd fis Mai. Cawsom hanes un o ddefaid duon ei deulu,Llewelyn Morris Humphreys o Chicago (Murray the Hump) oedd yn un o gang AlCapone. Ei ferch Llewela oedd gwraig Rossano Brazzi, seren y ffilm “South Pacific”.Os ymunwch â’r Gymdeithas does wybod yn y byd beth wnewch chithau ddarganfodam eich teulu wrth hel eich achau!
Yn dilyn atgofion Mr John Hughes amsiopau fferyllydd yn y dre cafwyd tipyn oymateb. Roedd sawl un yn sôn amgaredigrwydd John Peris Jones ac fel ybyddent yn mynd ato i gael cyngor am eusalwch yn hytrach na mynd at y doctor ynaml.Dywedodd Michael Barnet Pepper i’w daid
ddechrau fel 'draper' yn siop Hammers cynagor siop ddillad yn Stryd Llyn. Daeth eidad Edward Barnet Pepper yn fferyllydd i’run adeilad yn 1948. Yn ddiweddarachgwnaeth gwrs fel optegydd a deuai pobl obell ac agos ato. Ehangodd Michael y busnesac mae 12 yn gweithio yno erbyn hyn.
W. J. Owen,Twtil- Fferyllydd a CherddorRoedd gan Gwenno Hughes Lôn Ysgubor
Wen atgofion difyr am Mr Owen. “Yn ystodgwyliau’r ysgol byddwn yn gweithio yn ysiop chemist brysur yn Twtil lle’r oedd nifero siopau a’r ardal fel pentref bach. RoeddW.J.Owen yn gerddor ac âi am wersi atBradwen Jones i Gaergybi a gwnaethddiploma A.L.C.M. Roeddwn i a’m chwaer,Olwen yn ei barti canu, “Merched Marden”.Dechreuodd gyda Thriawd Marden-Margaret, Mary a Dennis Williams CaeMur, a daeth yr enw o’i henwau nhw.”Roedd galw mawr am y parti a buont yncanu yn Llandudno yn y “Winter Gardens”ac mewn cyngherddau yn yr Odeon ar nosSul. Roeddan nhw’n un o’r partion cyntaf ifynd i ganu i’r Almaen a gwlad Belg yn50au.“Roeddan ni’n gwisgo sgert a sandalau lliw
gwin a bolero las. Cawsom ganu ar raglandeledu Huw Wheldon ac roedd hynny ynrhywbeth newydd yr adeg hynny.” MaeGwenno yn cofio fod Nerys Parry, GwendaJones a Glenys Powell yn y parti. Roeddannhw’n ymarfer yn yr adeilad lle mae ClwbBritish Legion heddiw. Yno hefyd roeddW.J. Owen yn storio pethau ac yn paciotabledi asthma i’w hanfon ar draws y wladi’w gwerthu. Oes gan rhywun lun o barti Marden?
YMATEB I SIOPAU FFERYLLYDD
DarllenwchPAPUR DRE
a mwynhewch ywledd o
EISTEDDFODLLANGOLLEN
![Page 14: Rhifyn 69 MEHEFIN 2009 Pris 40c - Papur Drepapurdre.net/wp-content/uploads/archif/69.pdf · 2013-01-11 · Y Gegin Fach 5-9 Penllyn, Caernarfon 01286 672165 Dewis helaeth o fwyd ffres,](https://reader033.fdocument.pub/reader033/viewer/2022041906/5e639e5faa26c528af0de625/html5/thumbnails/14.jpg)
Lloriau
YstafelloeddArddangosCibynCaernarfon(01286) 677757
• GwasanaethDyfynbris aChynllunio am ddim
• Pob gwaith wedi eiwneud gan ein tîm oweithwyrproffesiynol
Amtico,KarndeanLloriau Pren
Carpedia Rygs
FFFFIILLBBII… yn gwylio
a gwrando!
CELLOEDD, COWBOIA COWBOISMae’r cops isho bloc newydd o gelloedd ynsownd i’r orsaf ym Maesincla. Ella bodangen hyn, ond mae un gair sy’n disgrifio’rhyn sydd ei angen yn od iawn, ac a ddylai(ella) godi rhywfaint o ofn ar drigolion yrardal, sef “BOMBPROOF”. Dwi’m ynmeddwl bod unrhyw un lleol yn mynd i gaelei ffrindiau i ddefnyddio bom i ryddhau nebar ôl cael ei aresdio – boed am reidio beic ary pafin neu chwdu yn y ffowntan ar y Maes!Y cwestiwn felly ydy sut fath o droseddaufydd y rhain yn y ddalfa newydd ma wedi eucyhuddo o’u gwneud? Fydd hyn i gyd yntroi Maesincla i ryw fath o orsaf “HighSecurity” fel Paddington Green ynLlundain. Terorists, er enghraifft, sydd yncael eu cadw yno, efo lot o hogia newyddionyn aml tu allan. Be ddylai trigolionMaesincla fod ei ofn ydi syrcas gyfryngolryngwladol yn landio yn ei gerddi ffryntpetai Osama Bin Laden yn cael ei aresdioam reidio beic ar y pafin yn Ffordd Fangor.Mi fysa na wedyn andros o le ymMaesincla!!Pwy fysa’n meddwl fod banio 46 o lyshiwrs
o’r Harp yn ddigon i gael rhywun ardudalen ffrynt y Cnafron & Dedli. Ella nadoedd na ddim newyddion o gwbwl yrwythnos honno, ond ydi hyn yn ffrynt pêjniws i bobl Llanbabs neu Llanllyfni? Ydi osydyn nhw’n aelodau o’r Harp 46, ond felarall? Tybed fysa 46 yn cael eu banio o’r Bullyn Deiniolen yn creu’r fath benawda, taffordd slei o slagio Dre oedd y stori ? A rwanmae’na stori’n Dre mai yr arwr a gliriodd ydafarn oedd Wyatt Harp a’i fod o’n gadaelTombstone ac yn symud i Sir Fôn! Os ’dihyn yn digwydd mi fedrwch fetio [mae naddigon o fwcis] y bydd yr Harp 46 yn cael“maddeuant” yn fuan gan landlord newydd,fydd ddim yn eu nabod. Os ydi’r Harp 46 yngymaint o broblam pam na roddodd WyattHarp nhw i gyd ar Pybwatch?
Mae’r rheswm tu ôl i’r rên of teror gan ywardeniaid waci wedi dod yn glir o’rdiwedd. Mae Cyngor Gwynedd angen dros£15Miliwn yn weddol sydyn. Mae’na rywswyddog yno wedi sylweddoli bod euhadeiladau nhw yn mynd yn hen ac angenmwy o gynnal a chadw a bod hyn yn ddrud!!Dyna ni sioc – fod pethau, mewn amser - ynmynd yn hen. Sut mewn difri calon nad oesneb wedi sylwi ar hyn o’r blaen?Chwerthinllyd ta be? Mae’n debyg fydd ycyhoedd yn colli gwasanaethau oherwyddbod Gwynedd, (ac i fod yn deg cynghorauo’i flaen) wedi anwybyddu problem amlwg.Felly mae angen i’n wardeniaid gasglucymaint o fags â phosib! Gair o rybudd fellycyn gorffan - gofalwch fynd â’ch llyfrau ynôl i’r llyfrgell mewn prydrhag ofn y bydd y ffein ynfwy na gwerth y llyfr!
Tafarn Y MISY golofn sy’n mynd am beint unwaith y mis ermwyn ffeindio llefydd da i ddarllenwyr PapurDre. Mia yma:
YR HARPRhaid imi gyfadda, doeddwn i ddim weditwllu drws yr Harp ers blwyddyn neuddwy, ond ar bnawn dydd Mawrth brafddechrau Mehefin roedd y lle’n eithallawn, ac awyrgylch teuluol croesawgaryno. Alan Lewis, y rheolwr newydd o GwmRhondda, sy’n gyfrifol am weddnewid ydafarn, a denu criw o hen gwsmeriaid yn ôlar yr un pryd. Ar ôl bod yn gweithio mewntafarnau ar hyd a lled gogledd Lloegr, maeAlan yma ers pedwar mis ac wedi caelcroeso mawr. “Mae’r bobol yma’n wych,”meddai. “Mae hi’n dafarn lân, a’rcwsmeriaid i gyd yn bobol neis. Yma drosdro ydw i ar y funud, ond dwi’n gobeithiocael aros.”Yn ôl un o’r ffyddloniaid, Ian Michael
Jones, “Mae Alan wedi newid y lle ’ma yn
gyfan gwbwl, chwara teg iddo fo. Mae pawbyn brolio’i ginio dydd Sul, a dim ond £2.50ydi pris peint, sy’ dipyn rhatach na llefydderaill”.Mae’r cinio dydd Sul yn denu criw da, ac
mae’r dafarn yn llawn dop ar nos Wener(carioci) a nos Sadwrn (disgo) hefyd. “Mae’na chydig bach o drwbwl weithiau, felgewch chi yn unrhyw le,” medd Alan,“Ond mae’r heddlu wedi bod yn grêt, a bobamser yn barod i alw heibio.”
Roedd un o’r staff achlysurol, JackieOliver, yn eistedd tu allan yn yr haul efo’iffrindiau Eirian a Helen. Mae Jackie’nmeddwl y byd o Karina’r barmed: “Maepawb wedi gwirioni efo Karina, mae hiyma ers 5-6 mlynedd, a hi sy wedi cadw’rlle ’ma i fynd. Mae hi’n werth ei phwysaumewn aur.” Cytuno mae Alan, gan ddeud eibod hi wedi bod yn help aruthrol iddo fo. “Yn wahanol i lot o dafarnau, alla i ddod ifama ar ben fy hun,” medd Eirian, “agwybod y bydd ’na ffrindiau yma.” Ac ynsicr mae yma le cyfeillgar iawn yn y pnawn,a chroeso cynnes i’w gael yn yr Harp ibawb, yn ifanc a hen.
14
Mark Healy, Fred Hanks ac Ian wrth y bar.
Mwynhau'r haul tu allan i'r Harp
![Page 15: Rhifyn 69 MEHEFIN 2009 Pris 40c - Papur Drepapurdre.net/wp-content/uploads/archif/69.pdf · 2013-01-11 · Y Gegin Fach 5-9 Penllyn, Caernarfon 01286 672165 Dewis helaeth o fwyd ffres,](https://reader033.fdocument.pub/reader033/viewer/2022041906/5e639e5faa26c528af0de625/html5/thumbnails/15.jpg)
Cyfreithwyr
Parry Davies Clwyd-Jones & Lloyd
Ar gyfer eich holl anghenion cyfreithiol • Gwasanaeth dwyieithog personol a chyfeillgar
Siambrau'r Castell2A Y Bont Bridd
Caernarfon(01286) 673381
25 Stryd yr EglwysLlangefniYnys Môn
(01248) 723106
15 Stryd SalemAmlwch
Ynys MônLL68 9BP
(01407) 831777
Trem y DonBenllech
Ynys MônLL74 8TF
(01248) 852782
Y GilfachStryd Penlan
PwllhwliLL53 5DE
(01758) 703000
Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol • Gwasanaeth Amddiffyn Troseddol
Mae cystadleuaeth Clwb Rotari Caernarfonwedi hen ennill ei phlwy yng nghalendrcerddorol ysgolion uwchradd cylch Arfon.Mae’r gwahoddiad i dri ymgeisydd o bobysgol (Ysgol Dyffryn Nantlle, YsgolBrynrefail a ninnau yn Ysgol Syr Hugh) iberfformio. Ceir dwy gystadleuaeth un i’roedran Hyn Blynyddoedd 10-13 ac un o’roedran iau Blynyddoedd 7-9. A’r beirniaideleni – fel llynedd – oedd Stephen Rees aDewi Ellis Jones. Yn cynrychioli YsgolSyr Hugh eleni roedd tair frwd aphrofiadol dros ben. Gwenno Glyn (piano)yn cynrychioli’r to iau a Elin Wyn Robertsar y ffliwt a Meinir Wyn Roberts (soprano)yn ymgiprys am y tlws Hyn. Ymysg yr
uchafbwyntiau heb os oedd datganiadGwenno Glyn, dyfarnwyd y wobr gyntafiddi hi am ei pherfformiad ystyrlon acegniol. Cafodd Gwenno hefyd y wobrgyntaf am unawd piano ac am unawd telynyn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni.(llun ar dudalen y dudalen flaen). Yn ailran y noson cafwyd perfformiadau gan ydisgyblion hyn. Dyfarnwyd y drydeddwobr i Elin, a Meinir a gipiodd yr ail safle.Sian Elin Crisp, cantores o Ysgol DyffrynNantlle a gafodd y wobr gyntaf, sef CwpanCôr Meibion Caernarfon.Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ranyn y noson gofiadwy gan y Clwb Rotari. Beti Rhys
Dafydd Jones- trefnydd, Gwenno Glyn-enillydd cwpan Cofnod, Sian Elin Crisp – enillyddCwpan y Côr Meibion, Howell Roberts –Cyflwynydd
15
AM FUNUDYn ddiweddar, fe welodd teulu o’rRhondda, wyneb yr Arglwydd Iesu tumewn i gaead jar Marmite. Bytabrecwast roedd y teulu o bump - rhienia thri mab – pan welodd y fam wynebIesu, meddai hi, yn sglein y caead. Cyndiwedd y pryd brecwast roedd pob uno’r teulu wedi gweld yr ymddangosiadac yn weddol sicr mai Iesu oedd o, ynedrych arnyn nhw.I ddechrau, fedra i ddim dychmygu bodyna dim goruwchnaturiol mewn jarMarmite. Fedrwch chi? Fydda i ddimyn ffond o’r stwff fy hun. Dwn i ddim beamdanoch chi? Burum ydi o’n bennaf –be sy’n weddill wedi bragu cwrw – ondyn gyfoethog, medda nhw, mewnfitamin B.
Hwyrach mai dychmygu’r cyfanwnaeth y teulu. Wedi’r cwbl, mae’r ffinrhwng ffaith a dychymyg, rhwngofergoel a gwyrth, yn un hynod o denau.Ond os mai dychymyg oedd y cyfan,rhyfedd i’r pump weld yr un darlun ynunion â’i gilydd. Meddwl wedyn (felhen sgeptig o grediniwr) mai gweld euhunain wnaethon nhw; llafn o haul benbore, hwyrach, yn creu adlewyrchiad tumewn i’r caead. Eto, yn ôl y stori bapurnewydd, yr un wyneb dwyfol o wahanola welodd pob un.Petai’r teulu’n Babyddion, a doedd dim
sôn eu bod nhw, fe allasid fod wedi e-bostio’r Pab yn syth bin i hwnnw fedrucofnodi gwyrth. Wedi’r cwbl, dros ycanrifoedd mae rhai Catholigion brwdyn taeru iddyn nhw weldymddangosiadau o Iesu ac o’i fam, yForwyn Fair – a hynny gyda chysondebmawr.Fe ddywedwn i mai’r un ydi ffeithiau
hanes bob amser. Ein dehongliadau ni,ar sail ein cred am ystyr bywyd, sy’n eingwahanu ni. Be am brynu jar o Marmitei geisio profi’r peth?Harri Parri
Tafarn gartrefol a chlydCwrw da, gwasanaeth cyfeillgar
Ffôn: (01286) 672871
Yr Alexandra
9-11 Pen Deitsh, Caernarfon Gwynedd LL55 2AUFfôn: (01286) 672602 • Ffacs: (01286) 676728
Gwaith artistiaid lleol • Crefftau o GymruAnrhegion at bob achlysur • Busnes teulu • Sefydlwyd 1924
Oriel ac AnrhegionAgored 7 diwrnod yr wythnos. Tocynnau
anrheg ar gael o £1 i fynyCynigion arbennig ar lawer o nwyddau
Arddangosfa mis Mai:gwaith gan Karen Jones
Noson i’r Cerddorion Ifanc
GWAHODD STEDDFOD YR URDDI ERYRI YN 2012
Mae’r Urdd wedi bod yn trafod gyda gwirfoddolwyr a chefnogwyr yMudiad oddi fewn i ranbarth Eryri, ynghyd â sefydliadau eraill, y
posibilrwydd o gynnal Eisteddfod Genedlaethol Urdd GobaithCymru yn y sir yn y flwyddyn 2012.
Fodd bynnag, mae sicrhau cefnogaeth y bobl leol a chefnogaeth sefydliadau,mudiadau a chymdeithasau ar draws y sir yn hanfodol i lwyddiant unrhyw
Eisteddfod. Felly, cynhelir cyfarfod cyhoeddus yn Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle,Penygroes, nos Fercher, 1 Gorffennaf 2009 am 7.00 o’r gloch i drafod y gwahoddiad
hwn, ac mae croeso cynnes i bawb fynd i’r cyfarfod.
![Page 16: Rhifyn 69 MEHEFIN 2009 Pris 40c - Papur Drepapurdre.net/wp-content/uploads/archif/69.pdf · 2013-01-11 · Y Gegin Fach 5-9 Penllyn, Caernarfon 01286 672165 Dewis helaeth o fwyd ffres,](https://reader033.fdocument.pub/reader033/viewer/2022041906/5e639e5faa26c528af0de625/html5/thumbnails/16.jpg)
Gemwaith o Safon
GEMWAITHYn newydd eleni – PANDORA
Dewis cynhwysfawr o emwaithaur ac arian ar gyfer
pob oed a phocedAur Cymru
y Metel (C.Y.M.) a ClogauTrwsio rhesymol
Y Bont Bridd, Caernarfon(01286) 675733
16
POBOL DRE
Mae John Flynn yn fwy o Gofi na’r rhanfwyaf ohonom er fod ei gyfenw’n ddieithr.Fo ydi’r 4edd genhedlaeth i fyw yn Dre achario’r enw. Ystyr Flynn ydi 'gwallt coch'mewn Gwyddeleg.TRWSIO’R CASTELL – Peter Flynn,hen daidYn Nulyn y ganwyd Peter Flynn a daeth iGaernarfon i drwsio’r castell! Roedd SyrLlywelyn Turner angen crefftwyr da achafodd waith fel saer maen. Yn 1889priododd Jane Anne, hogan o ardal capelCaersalem ac un o hen deulu o gariwyr yny Dre. Cyn hynny bu Peter Flynn ynymladd yn rhyfel gyntaf y Boar yn 1880. Arben Twtil mae cofeb i hogia’r Dre golloddeu bywydau yn rhyfeloedd De Affrica abuasai John Flynn yn falch petai’n cael eisymud i le mwy amlwg er mwyn i bawb eigweld. TÂN YN LÔN CRWYN 1934 – John James Flynn, taid Gweithiai John James Flynn fel gyrrwr
lorri i siopau dodrefn Jays ac Astons.Roedd yn byw mewn ty dwy lofft yn LônCrwyn (Skinner Street) rhwng y Maes aThanybont. Cysgai o a’i wraig a babi bachyn un llofft a’i fam, Jane Anne a thair o’iferched yn y llall. Deffrowyd nhw yngnghanol nos gydag arogl mwg: wrth fynd ilawr yn y tywyllwch syrthiodd hanner y
grisiau oddi tano. Roedd y parlwr ynwenfflam a gwaeddodd John Flynn amhelp. Llwyddodd i fynd yn ôl drwy’r mwgi’r llofft i geisio achub y teulu. Gollyngoddy babi bach, ei wraig a dwy o’r genod offenest y llofft ffrynt i freichiaucymdogion; llithrodd ei fam o’i ddwylo i’rstryd a bu farw’n ddiweddarach. Roedd yllawr yn sigo a neidiodd drwy’r ffenest.Tybiodd fod pawb wedi dod allan ondroedd ei ferch fach 6 oed, Rhiannon yn dalyn y llofft; disgynnodd y llawr yn y fflamaua llosgodd i farwolaeth.Yn y cwêst dywedwyd fod yr injan dân
wedi cymryd gormod o amser i gyrraedd erfod cloch wedi ei chanu i alw’r gweithwyrac nid oedd digon o lif yn y dwr i fynd i’rpeipiau. Canmolwyd y cymdogion ambasio bwcedi dwr o law i law o’r ffownten ary Maes yn ogystal â dewrder John JamesFlynn. Bu yn arwr cyn hynny hefyd acmae’r fedal gafodd pan oedd gyda’r fyddinyn Dunkirk yn drysor i’w wyr John.BRO HELEN a CIL COED - John James Flynn, tadJohn James oedd enw’r bachgen bachblwydd oed achubwyd o’r tân a’i daflu iddwylo cymdogion hefyd. Magwyd o ymMro Helen wedi i’w cartref losgi’n lludw.Bu’n aelod o gôr Eglwys Dewi Sant, Twtilac aeth i ysgol Higher Grade. Priododdferch Jack Aberdyf o Benygroes - dipyn ogymeriad arferai hela cwningod gyda’igefnder Twm Aberdyf. Wrth yfed peint yny Britannia ar y Maes roedd milgi wrth eidraed a ffurat wen efo llygaid pinc yn eiboced. Ar ôl priodi aeth John Flynn a’iwraig Elsie i fyw i Cil Coed lle ganwyd 3mab a merch iddynt. Bu’n gweithio ynatomfa’r Wylfa a Thrawsfynydd. PLENTYNDOD YN SGUBOR GOCH –John James FlynnMagwyd John yng Nghil Coed ac mae’n
cofio’r gymdogaeth glòs a phawb yn helpuei gilydd.“Roedd y drysau i gyd yn agoredo Ben Dalar i’r topiau a phawb yn nabodpawb a llawer yn berthnasau. Mi fyddan niallan yn chwarae yn Cae Top drwy’r dydd,nôl i gael bwyd, allan wedyn at afonCadnant ac i Plas i ddwyn fala. Yn yr hafroeddan ni’n mynd at Gallt y Sil i lawr ystepiau at Lyn Criw i gael picnic, nofio a
dal pysgod a gwrando ar storïau’r dynionhyn. Dwi’n teimlo’n rhan o Sgubor Goch ohyd wrth gofio’r dyddiau hapus er mae’nsiwr fod pethau wedi newid yno fath âphobman arall erbyn hyn.” Cofia John y murlun cyntaf o “Eira Wen
a’r 7 Corach” yn y lle cinio yn YsgolMaesincla pan oedd yn newydd. Roedd ynmeddwl y byd o Miss Wyn yr athrawesbabanod ac yn cofio cael tabledi cod-liver-oil efo’r llefrith a siwgwr lwmp efo hylifrhag y polio. Canai yng nghôr EglwysLlanbeblig a mwynhau mynd i ysgol SulNoddfa. “Mi ddaru Sister Emily a’i chwaerfwy i’n helpu ni na neb. Roeddan ni wrthein boddau yn mynd i Noddfa ac i’r ClwbLiberal i chwarae snwcer ar ôl mynd i ysgolSyr Hugh.”Bu John yn gweithio yn Ferodo a Peblig
pan oedd y ffatrïoedd yn eu bri a digon owaith yn Dre. Ers 24 mlynedd mae’nBorthor ym Mhrifysgol Bangor, yn byw ynTwtil efo’i wraig Wendy a’r genod Marie aLyndsey. Gobeithio’n fawr y gwnân nhwgadw’r enw Flynn ar ôl iddyn nhw briodi;dydan ni ddim eisiau anghofio enw un o’rcrefftwyr ddaru adnewyddu’r castell.Margaret Wyn
JOHN JAMESFLYNN
ADNODDAU TELEDUFfôn: (01286) 684 300
Ffacs: 684 379E-bost: [email protected]
John Flynn - taid, chwith, rhes gefn gyda staffAstons tua 1930
![Page 17: Rhifyn 69 MEHEFIN 2009 Pris 40c - Papur Drepapurdre.net/wp-content/uploads/archif/69.pdf · 2013-01-11 · Y Gegin Fach 5-9 Penllyn, Caernarfon 01286 672165 Dewis helaeth o fwyd ffres,](https://reader033.fdocument.pub/reader033/viewer/2022041906/5e639e5faa26c528af0de625/html5/thumbnails/17.jpg)
17
Gemwaith o Safon
SIOP y PLAS
Dewis cynhwysfawr oemwaith aur ac arian argyfer pob oed a phoced
Aur Cymruy Metel (C.Y.M.) a Clogau
Trwsio rhesymolStryd y Plas, Caernarfon
(01286) 671030
Y Byd a BalluRwyf yn falch nad wyf yn byw yn Affricabellach. Fum i erioed yn hapus iawn trayno’n byw ond caf weithiau ryw hen hiraetham y lle ac ambell i deimlad chwithig panglywaf arogl cawod drom ar bridd sych yn yrhaf. Nid oedd dyn yn gwybod byth be allsaiddod nesaf yno. Rhyw gaead llac ar lawer obethau a’r caead hwnnw fel paetai’n aros ambwff o rywbeth go gryf i’w agor ac i bethauerchyll ddigwydd.
Gwnaeth darllen ‘The Dust Diary’ ganOwen Shears imi hiraethu am y lle, gan iddoallu dod â Thanzania yn fyw iawn gyda’iddisgrifiadau o liw ac arogl. Cefais y fraint oddweud hynny wrtho a’i longyfarch panddaeth i siarad i’r Galeri.Gwylio ffilm ‘Dogs of War’ y bum i – am
Rwanda, a death llifeiriant o bethau annifyriawn i’r cof am amser Idi Amin. Roeddgennyf wir ofn yn Uganda ar adegau - wrthglywed bwledi ei fyddin anystywallt ynchwyrlio yn y nos i ladd rhywun oedd ynrhywun i rywun bob amser. Minnau’n crynuyn fy ngwely gyda’m gwr i’m cysuro, a mabbychan dan ddwy oed i boeni amdano. Hynyn digwydd bob nos am fisoedd! Daeth yr unofn yn ôl i’m stumog wrth wylio’r ffilm hona rhyfeddu at ddewrder rhai pobl.
Darllen wedyn ‘Blood River’ gan TimPritchard – am y Congo gythryblus. Geilw efei hun yn llyfr yn “A Journey to Africa’sBroken Heart’. Mae’n sefyllfa llawer wylltachna’r un a ddisgrifiwyd yn nofel fawr Conradhyd yn oed – “Heart of Darkness”. Os oesgwlad yn rhywle sydd ar goll yn hollol, dymahi, apocalypse go iawn. Does dim y gellir eiddweud o blaid y lle am wn i.Yna mynd i bwll hyd yn oed tyfnach wrth
wylio ‘Blood Diamond’, yn dod â’r hollddifetha a’r dioddef yn fyw. Ar adegau,edrychai fel y ffilm ‘Mad Max’ ers talwm –dim pwt o gyfraith - a phobl yn gorfod bywdan amgylchiadau dychrynllyd. Mae’nuffern o beth fod pobl yn gorfod mynd heblawer o fwyd, heb ddwr glân, gydatheuluoedd yn marw o Aids, heb orfoddioddef rhyfel yn chwyrlio o’u cwmpas bobdydd. Ac fel Ap Fychan gynt – ac aurMeirionnydd dan garreg ei ddrws.Bum am flynyddoedd yn gwir gredu fod y
Y CRWYDRYN A MIMEIC STEVENS
Cystadlaethaudringo ar waliau’r‘Black Boy’,partïon gwyllt ynLlydaw ,cymeriadau o boblliw a llun. Migewch chi hynny,a mwy, yn ailhunangofiantMeic Stevens. Oia, mae na sôn amganu ynddo fo
hefyd yma ac acw. Ond be am gychwynhefo’r partïon? Yn noson cyhoeddi ‘YCrwydryn a Mi’ yn Galeri, mi ddeudoddDyl Mei ei fod o ar dân ishio mynd iLydaw ar ôl darllen y llyfr. Y prif reswmam hynny ydi’r darlun lliwgar y mae MeicStevens yn ei dynnu o Lydaw yn ystod y1970au, pan dreuliodd lawer o’i amseryno. Ac mae o ac Annes Gruffydd, syddwedi sgwennu’r llyfr hefo Meic, yn medru
creu darluniau cofiadwy o lefydd achymeriadau lliwgar sy’n ymestyn oLydaw i Gaerdydd , gan alw heibioDeiniolen a Chaernarfon ar y ffordd.Mae’r straeon yn ddifyr, ac mae’r iaith ,neu’r dafodiaith yn hytrach, yn werth eidarllen. Mi fedrwch chi glywed llais MeicStevens yn y llyfr, yn ffraeth, ynddadleuol, ac yn amhosib peidio gwrandoarno fo. Ella bod hanes yr yfed parhaus ynmynd yn fwrn ar adegau, ac mae ’ na ynbendant le i gwtogi yma ac acw, ond petaipob peth yn dwt ac yn daclus , nidhunangofiant gan Meic Stevens fydda fo.Mae’n ddifyr ei glywed yn taranu ynerbyn pobol a sefydliadau, mae’n ddifyrclywed y straeon sydd tu cefn i gyfansoddicaneuon a recordiau, ac fel gyda’iberfformiadau dros y blynyddoedd migewch eich siomi weithiau, a’ch cyfaredduar adegau eraill.
Noson braf , peint o’ch blaen , caneuonMeic yn chwarae yn y cefndir, a chopi o’rllyfr yma yn eich dwylo – perffaith.Prynwch o.
Cae Llenor, Lôn Parc,CAERNARFON, LL55 2HH
Ffôn: (01286) 685300 • Ffacs: (01286) 685301
BYW YN YR ARDDpob nos Iau am 8:25yhrhwng Mehefin 4 a 16
ATOMMehefin 11, 18 a 25
Mehefin a Gorffennaf 2 a 9
byd yn dod yn well lle’n ara’ bach, ac rwyfwedi dadlau lawer am hyn gyda ffrindiau.Gwelais gymaint o arwyddion da ymmhellafoedd byd – Y Groes Goch, Oxfam acyn y blaen yn gwneud gwaith gwirioneddoladeiladol. Gwelais wyrthiau yn cael eugwneud a gwelwn gariad yn teyrnasu yno.Ond erbyn hyn, rwy’n tristáu. Gwelafryfeloedd, dynion drwg, gorhoffter o arian,trwy dwyll yn aml a phopeth afiach arall ynennill y dydd, a digalonnaf.Ni allaf weld unrhyw ateb mewn crefydd –
yn aml gwna bethau’n waeth pan y’idefnyddir gan bobl ddigydwybod. Wrthgwrs, mae llawer yn Affrica i’w gweld yn caelcysur garw o grefydd ac yn heidio i’w capeli iganu a dawnsio, ond nid yw eu byd materolyn gwella o gwbl. Mae’n gymorth, fel y bu iGymry tlawd gynt, i feddwl fod nef i ddod arôl dioddef y fath dlodi ar y ddaear. Ond nidyw pen-bandits Affrica’n colli dim o’rcyfoeth, mwy na’n rhai ninnau. Gall canu adawnsio yn y capel fod yn fodd iddyntanghofio Aids a diffyg bwyd, a bwledi dyniondrwg am ychydig. “Wylaf wers, tawaf wedy.”
![Page 18: Rhifyn 69 MEHEFIN 2009 Pris 40c - Papur Drepapurdre.net/wp-content/uploads/archif/69.pdf · 2013-01-11 · Y Gegin Fach 5-9 Penllyn, Caernarfon 01286 672165 Dewis helaeth o fwyd ffres,](https://reader033.fdocument.pub/reader033/viewer/2022041906/5e639e5faa26c528af0de625/html5/thumbnails/18.jpg)
18
CLIWIAU HAWSAr DrawsDyn mawr (4)Byd y brifysgol (8)Llwybrau (5)Aderyn (7)Dyn yr arch (3)13. Un ar ôl y llall (9)14. Gwelltyn anifail (6)16. Dilyn trywydd (6)18. Straeon efo neges (9)20. Un o’r anrhegion gafodd Iesu (3)22. Rhyw gyda’r hwyr (2, 5)23. Yna (5)25. Dau rif (3,1,4)26. Lluniaeth (4)I Lawr1. Ionawr y cyntaf (5)2. Roberts y gwleidydd neu Davies y
peldroediwr o’r dre (3)4. Ynysoedd (6)5. Nid analog (7)6. Crefft y llongwr (9)7. Doedd dim o flaen hon yn Aberdaron (1,
3)10. Mae sawl capel â’r enw hwn yng
Nghymru (5)12. Roedd fferi’n mynd o fa’ma i Sir Fôn ers
talwm (9)
14. Pobl (5)15. Roedd gan Sion Corn rywbeth ......... (2,
2, 3)17. Jones, cyn beldroediwr sy’n actor erbyn
hyn (6)19. Awyrgylch (4)21. Cerdd 14 llinell roedd Shakespeare yn ei
hoffi (5)24. Un a addolir (3)
CLIWIAU CRYPTIGAr Draws1 ac 1 i lawr. Mae swllt, ebe’r geiniog, ger
Gallt y Sil. (4,5)3. Arddodiad cymysg a gyflwynir i’r
pwyllgor. (8)8 ac 11. Mae angen gordd a chig i wneud y
faner ddifannod. (5,3)9. Hurtni ydi rhoi swm wedi diwedd y bore
ar yr afr. (7)11. Gw. 8.13. Gareth diderfyn a dewr, rywsut, sy’n
astudio’r haenau. (9)14. Cyfansoddwr “Bronglwm Llong”. (6)16. Chwarae mig mewn oes ddi-drefn wna
brodor y Wlad Werdd. (6)18. Awchu am chwarae mig o’r ysgol, wedi
i’r ach ddisodli’r un. (9)20. Cyn hir bydd y tolc yn llai o hanner
cant. (3)22. Rwy’n siarad â hwn a’r llall, ond wedi
colli swllt rwy’n glanhau’r llawr. (7)23. Shh! Shh! Barnwr sydd wedi torri’r
gynffon! (5)25. Un sy’n dysgu troelli, neu
ddamcaniaethu. (8)26. Tipyn o lwch yn y te sy’n atal y dwr
rhag dianc. (4)I Lawr1. Gw. 1 ar draws.2. Y fo a’r wraig gynta. (3)4. Does dim rhaid cael deng nai gwirion! (6)5. Bwlch lle mae’r adwy’n ddigroeso? (7)6. “Guest” Iris, yn rhyfedd, ydi mab Mair.
(4,5)7. Llithriad a achosir gan esgid heb ben. (4)10. Mor deg ydi hwylio’r cefnfor! (5)12. Er chwa awyr afiach, maen nhw yn y
gêm. (9)14. Dilyn “Y Byd” wrth roi bet ar
ddramodydd – Jones Rhos-lan neufardd Avon. (5)
15. Dyma wr Iona eto yn cuddio’r boblbwysig. (7)
17. Brifodd Alun ei ben mewn anfodd. (6)19. Pedol fawr i ddechrau, pedol dda i
ddechrau, yn ffyddlon. (4)21. Un wen o eira, a chanddi bedair coes?
Blin (enw gwrywaidd). (5)24. Gadawodd Cen ben y t?, am ffi. (3)
Atebion Cliwiau Haws MawrthAr draws1. Soprano. 5. Cranc. 8. Barti. 9. Indiaid. 10.Nantoer. 11. Y Bala. 12. Do re mi. 14.Cochion. 17. Gomer. 19. Glaniem. 22.Llythyrdy. 23. Glöwr. 24. Dewin. 25.Treiddio.I lawr1. Sebon. 2. Partner. 3. Amino. 4. Oddi wrth.5. Cadwyno. 6. Arafa. 7. Ci drain. 12.Digolled. 13. Marbryn. 15. Ieithoedd. 16. YGwynt. 18. Mathew. 20. Argae. 21. Mario.
Enillydd: Eirian Williams, Pant y Celyn, Rhostryfan.
Atebion Cliwiau Cryptig MawrthAr draws1.Ynys Môn. 5. Ymhell. 8. Gwron. 9.Carafan. 10. Kasagne. 11. Bando. 12. Bangor.14. Yn y Mwd. 17. Asbri. 19. Morgrug. 22.Cabaits. 23. Bravo. 24. Doler. 25. Dilynwn..I lawr1. Ysgol. 2. Ymryson.3. Maneg.4. Nacoedd.5.Y Triban.6. Hefin. 7. Llangoed. 12. Blanced.13. Oddieithr. 15. Meri Ann. 16. Ymosod.18.Babel. 20.Rwbel. 21. Gloyn.
Enillydd: Alvara Roberts,15 Ffordd Cwstenin, Caernarfon.
Anfonwch eich atebion, erbyn diweddy mis, at :Trystan Iorwerth, Graigwen, Lôn Ddewi, Caernarfon LL55 1BH. Tocyn Llyfr yn wobr i’r enillydd.
CROESAIR
R. A. JONES A'R MAB• SIOP DAN CLOC•37 Stryd Fawr, Caernarfon
2 Llys Penlan, Pwllheli01286 673121 / 01758 701138
Teganau, modelau - yr enwau mawr i gyd
TEGANAU I BOB OEDRANNwyddau babanod: M&P, Bebecomfort, Cossatto, Jane Chicio a
phob math o ddillad plant 0-6 mlwydd oed.
www.rajonesandson.co.uk
CYNGOR TREF FRENHINOLCAERNARFON
Hoffwn yn gyntaf llongyfarch Cyng. Hywel Wyn Roberts ( a’igymar Mrs Margaret Roberts)ar gael ei ethol yn Faer Cyngor TrefFrenhinol Caernarfon am y flwyddyn 2009-2010.Llongyfarchiadau Mawr i’r ddau ohonoch.
Wrth gwrs rhaid hefyd manteisio ar y cyfle i ddiolch i’r Cyng.Myfi Powell Jones (a’i chymar Mr Ken Powell Jones) am y gwaithdrylwyr maent hwythau wedi wneud yn rhinwedd y swyddurddasol hon yn ystod y ddwy flynedd diwethaf – diolch Myfi
Yn diweddar mae’r Cyngor wedi gwobrwyo Rhyddfreiniet yDref i’r Cymry Brenhinol- diwrnod fythgofiadwy, ac yn edrychymlaen i flwyddyn cyffroes o digwyddiadau eraill. Mi fydddiwrnod y Lluoedd Arfog yn cael ei dathlu unwaith eto yma yngNghaernarfon ym Mis Gorffennaf (18fed) gan obeithio yn fawrinni allu croesawu y Gwarchodlu Cymreig a’r Cymry Brenhinolyn ôl i’r dre yn saf yn hwyrach yn y flwyddyn
Katherine Owen – Clerc y Dref
![Page 19: Rhifyn 69 MEHEFIN 2009 Pris 40c - Papur Drepapurdre.net/wp-content/uploads/archif/69.pdf · 2013-01-11 · Y Gegin Fach 5-9 Penllyn, Caernarfon 01286 672165 Dewis helaeth o fwyd ffres,](https://reader033.fdocument.pub/reader033/viewer/2022041906/5e639e5faa26c528af0de625/html5/thumbnails/19.jpg)
19
SGOTA ERSTALWMWrth fynd drwy fy hen gêr sgota mi ddoiso hyd i ambell i declyn a aeth â fi yn ôl iddyddiau fy nhad a nhaid a’r newidiadausydd wedi digwydd ers hynny.I ddechrau, cymrwch yr enwair ei hun. Ynnyddiau fy nhaid roedd genwair brithyllafon yn 12-14 troedfedd o hyd ac wedi’igwneud o ‘greenhart’ gan amlaf. A genwaireog (o’r un coedyn) yn 18-22 troedfedd.Roedd angen tipyn o fôn braich i’wdefnyddio drwy’r dydd. Ei chost? Tua swllty droedfedd.Ddechrau’r ganrif ddiwethaf fe ddaeth y‘split cane’ yn boblogaidd. Genweiriaudigon gwael oeddan nhw ar y dechrau ondfe wellodd pethau erbyn y 1920’au ac yncael eu gwneud gan grefftwyr heb eu hail.Roedd eu pris wedi codi hefyd. Genwairbrithyll ‘Sharps’ fel yr un oedd gen i, erenghraifft – a honno’n 9 troedfedd 6modfedd – yn £15 punt a genwair eog yn£25. Ia, mwy na chyflog mis am unbrithyll! Wedyn wrth gwrs fe ddaeth yrenwair ‘fibre glass’ ac erbyn heddiw yr ungarbon.Roedd y leins cynnar wedi’u gwneud o
gynffon ceffyl ond yn 1913 fe ddaeth tro arfyd pan ddyfeisiodd Malloch o Perth lein yKingfisher – lein fendigedig efo dau bentenau ond tew yn y canol. Roedd yn rhaidrhoi saim ar y lein yma i wneud iddi nofioar wyneb y dwr. Heb saim mi fyddai’nsuddo. Roedd yn rhaid ei sychu ar ôl eidefnyddio hefyd; fel arall mi fyddai’nglynu yn ei gilydd a difetha. A’r blaen-linyn? Yn yr hen ddyddiau roedd pawb yndefnyddio gyt ac roedd yn rhaid ei drin ynofalus. Sychai a gwanio yn yr haul fellygwell ei ddyfrhau er mwyn gallu ei glymu.Roedd yn ddrud iawn hefyd. Disodlwyd ygyt gan nylon yn ystod y 40’au.PLUEN Y MIS: Y bluen eog glasurol –Francis Favourite. Yn ôl y sôn roedd honyn bluen adnabyddus iawn ar afonyddCymru ac fe ddaeth i amlygrwydd yn 1867gan Francis Francis. Ei gwisg yw :cynffon – tippet a phluen goch; corff – daudro o wlân melyn ac yna gwlân lliw gwintywyll; asennau – edau aur; traed – coch ybonddu i lawr y corff; ysgwydd – coch ybonddu; adain – twrci tywyll; pen - duPa bynnag bluen....hwyl ar y bachu!GLAS Y DORLAN
GENOD Y GOLFFYn y llun mae Marion Hughes, Llywyddmerched clwb golff Caernarfon yngwobrwyo Sheila Thorman a enillodd wobry llywydd eleni. Karen Copperwaite ddaethyn ail gydag Awen Edwards yn drydydd.Roedd na sawl enillydd arall hefyd yn ystodyr wythnosau diwethaf :Cwpan Nan Jones -3 clwb a pwterMary Edwards 2. Tricia ParkinMedal G.U.W.[Undeb Golff Cymru ]aMedal L.G.U. [Undeb Golff Merched ] 1. Tricia Parkin 2. Olwen RowlandsChallenge Bowls : adran Pres: Tricia Parkin,adran Arian: Laura Williams
Cwpan Brymer (8 yn gymwys i chwarae ynerbyn ei gilydd). "Australian Spoons : 1. NanBate a Dilys Davies 2. Norma Horsfall aKaren Copperwaite: Medal G.U. W: 1. LauraWilliams 2. Awen Edwards Cyfnewid â’r Wyddgrug: 1. LlinosDinwiddy 2. Sue Bailey 3. Esme Dyson Athrawon Sir Gaernarfon yng Nghaernarfon(Capten Marion Hughes) 1. Iona Roberts, Pwllheli 2. Siân Griffith,Nefyn 3. Gwyneth Roberts, PwllheliRoedd gwobrwyon y diwrnod arbennighwn yn cynnwys talu am athrawes i bentrefyn Affrica, dwr glân i'r pentref a netiaumosgito gydag Oxfam yn trefnu.Cwpan Nancy Frazer: 1. Jill Bennett 2.Rhona Morris.
Ers 1996 mae clwb rygbi Caernarfon wedicynnal Gwyl Rygbi i flynyddoedd 5 a 6 yrYsgolion Cynradd hynny sydd ynnhalgylch Syr Hugh, Ysgol Brynrefail aDyffryn Nantlle. Eleni cafwyd timau oGaernarfon, Waunfawr, Bethel, Llanrug,Bontnewydd a thîm unedig oLandwrog/Felinwnda/a Groeslon. Ysgol y
Gelli aeth â hi, yn trechu un o ddau dîmyr Hendre yn y ffeinal gydag unig gais ygêm. Llongyfarchiadau i bawb gymeroddran gan gadw’r sylfeini rygbi yn gryf yngnghylch Caernarfon.[Bydd sesiynau ymarfer ar gyfer bl 7-11 ynailddechrau ar Fedi 1 am 6 o’r gloch.a bl. 2-6 ar Fedi 4ydd ]
Gelli yn curo Hendre yn y ffeinal
NODDWYR Y PAPURMae Papur Dre’n ddiolchgar iawn i brif
noddwyr y papur: Cwmni Da, Cymen,Cyngor Tref Caernarfon,
Galeri a Rondo. Os ydych yn dymuno dod yn un o’n prif
noddwyr, cysylltwch ag Eleri ar 01286 674314
![Page 20: Rhifyn 69 MEHEFIN 2009 Pris 40c - Papur Drepapurdre.net/wp-content/uploads/archif/69.pdf · 2013-01-11 · Y Gegin Fach 5-9 Penllyn, Caernarfon 01286 672165 Dewis helaeth o fwyd ffres,](https://reader033.fdocument.pub/reader033/viewer/2022041906/5e639e5faa26c528af0de625/html5/thumbnails/20.jpg)
ChwaraeonChwaraeonPAPUR DRE PAPUR DRE
PAPUR DRE I BOBOL DRE
PENCAMPWYR CYMRU
Dyma dîm hoci dan 15 Caernarfon efo'utariannau ar ôl cystadlu yn rowndderfynol cwpan Cymru. Chwaraeodd ygenod yn erbyn Bae Abertawe - sy'n glwbanferth o’i gymharu â Dre! Cadwodd y
genod y meddiant am y rhan fwya o'r gêm,ond nid oedd y sgôr derfynol ynadlweyrchu hynny gan iddyn nhw golli o6 gôl i ddim. Ond fel y dywed yr hen air –cymryd rhan sy’n bwysig !
Tîm hoci dan 13 Caernarfon ydy’r tîmarall, fu hefyd yn cystadlu yn rowndderfynol Cwpan Cymru. Roedd y tîm ymayn chwarae mewn twrnament yn erbynLlendeilo, Casnewydd a'r Eglwys Newydd.Colli fu eu hanes hwythau, ond roedd ynbrofiad da iddyn nhw ddatblygu eusgiliau, meddai’r hyfforddwyr.
DWBL I KYLE
Llongyfarchiadau i un o chwaraewyrrygbi mwyaf addawol Caernarfon. Feenillodd Kyle Parry, sy’n ddisgyblblwyddyn 8 yn Syr Hugh, ddwy wobrgan y clwb rygbi yn ddiweddar.Cafodd fedal am fod yn 'seren y gêm'yn erbyn Llanidloes ar daith yr hogiai Gaerdydd a fo hefyd enillodd dlws ychwarewr a oedd wedi 'gwella fwyaf'yn ystod y tymor.
Tîm pêl-droed Ysgol Syr Hugh Owenenillodd Cwpan Ysgolion Cymru(blwyddyn 7) eleni. Dan arweiniadysbrydoledig eu capten Dafydd Ellis felwyddodd yr hogia i drechu Ysgol St Cyreso bedair gôl i ddim. Luke Phillips oedd ycyntaf i daro cefn y rhwyd cyn i ddwy gôlgan Nathan Palmer roi'r ornest y tu hwnti'r bechgyn o Benarth, ger Caerdydd. SiônRees Jones sgoriodd y bedwaredd i goroni'rperfformiad. Roedd eu hyfforddwr, MrBryn Williams, Pennaeth yr adran AddysgGorfforol, wrth ei fodd gyda'rperfformiad.”Dwi'n hynod o falch o'rhogiau”, meddai “ nid yn unig y bois achwaraeodd yn y ffeinal, ond hefyd o bawbo'r garfan sydd wedi wedi cynrychioli'rysgol yng Nghwpan Cymru eleni. Mae eu
hymroddiad a'u parodrwydd i ddod i'rsesiynau hyfforddi wedi bod yn ardderchogac mae wedi talu ar ei ganfed,”
ychwanegodd. Mae’r Ysgol hefyd ynddiochgar i Bryn Williams a Rhodri Jonesam eu gwaith called wrth hyfforddi’r hogia.
Llwyddiant Hoci Dre
Dyma dîm pêl-droed Y Gelli a ddaeth yn ail drwy Gymru gyfan yn Chwaraeon yr Urdd,Aberystwyth yn ddiweddar.
PapurDreLliwMehefin09 11/6/09 01:30 Page 20