Prosiect Cynefin: Einion Gruffudd (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
Prosiect Loteri Genedlaethol Llyn Parc Mawr – Blwyddyn 1!...Prosiect Loteri Genedlaethol Llyn Parc...
Transcript of Prosiect Loteri Genedlaethol Llyn Parc Mawr – Blwyddyn 1!...Prosiect Loteri Genedlaethol Llyn Parc...
Prosiect Loteri GenedlaetholLlyn Parc Mawr – Blwyddyn 1!
Yn Cysylltu Pobl a NaturProsiect Cymunedol Cronfa’r
Loteri Genedlaethol2019 - 2023
1Title
Cyflwyniad i’r ProsiectSylfaenwyd Grŵp Coed Cymunedol Llyn Parc Mawr yn 2015 i sefydlu Llyn Parc Mawr,yng Ngwarchodfa Natur Niwbwrch, fel coetir cynaliadwy er budd bywyd gwyllt, achyfrannu at lesiant cymuned Niwbwrch a’rCylch ac er mwynhad y cyhoedd.
Mae ‘Cysylltu Pobl a Natur, gan greu coetircymunedol ar gyfer pawb’ yn brosiect 5-mlynedda ariennir gan Gronfa Gymunedol y LoteriGenedlaethol. Mae blwyddyn gyntaf y prosiectnewydd ddod i ben felly roedd arnom ni awyddrhannu â chi’r hyd sydd wedi digwydd hyd ynhyn!
Bydd y prosiect yn gwella’r coetir a’rcyfleusterau cymunedol trwy ddarparu:
man cyfarfod/ystafell ddosbarth awyragored newydd
gweithgareddau ysgol goedwig rhaglen wirfoddoli a hyfforddiant gweithgareddau a digwyddiadau rhaglen lesiant Coedwigaeth Gymunedol.
Gobeithiwn y buoch yn rhan ohono eisoes, ond oni fuoch, mae croeso i chi ymuno eleni!
2Title
CynnwysCyflwyniad i’r Prosiect .................................................... 1
Cynnwys.......................................................................... 2
Staff Newydd .................................................................. 3
Ysgol Goedwig Llyn Parc Mawr....................................... 4
Rhaglen wirfoddoli rheolaeth amgylcheddol coetir....... 5
Prosiect hanes cymdeithasol Niwbwrch a’r Cylch.......... 6
Digwyddiadau cymunedol .............................................. 7
Rhaglen Coedwigaeth Gymdeithasol ............................. 8
Canlyniadau a chyflawniadau......................................... 9
3Title
Staff NewyddBydd y cymhorthdal, tros bum mlynedd, yn talu cyflogau a chostau cysylltiedig tair swydd rhanamser: Swyddog Amgylchedd Coetirol, Swyddog Addysg, Gweinyddwr.
Roedd yn dda iawn gennym groesawu’r tri aelod staff newydd yng Ngorffennaf y llynedd!
Jodie Mellor Gweinyddwraig
Tim Peters Swyddog Rheoli Coetir
Melissa Dhillon Swyddog Addysg
4Title
Ysgol Goedwig Llyn Parc Mawr
Ar wahân i ennill tri aelod staff rhagorol, newydd, eincamp fwyaf arall eleni fy adeiladu’r ystafell ddosbarthawyr agored newydd gan Arfon Timber!
Bydd y man croesawgar hwn yn galluogi ysgolion agrwpiau eraill i gyfarfod yn yr awyr agored.
Mae Ysgolion Coedwig yn darparu amgylchedd dysguamgen a chydategol sy’n hybu hyder pobl ifanc.
Mae’r pwyslais ar ymchwilio yn hytrach na dim ondeistedd a gwrando, sydd o gymorth i ddatblygubrwdfrydedd dros ddarganfod.
Mae plant yn cael budd, hefyd, o gydweithreduehangach gweithio mewn grwpiau yn yr awyr agoredmewn modd ymarferol, sydd o gymorth i gynyddu hydera medrau gweithio mewn tîm.
Un o amcanion ein hysgol goedwig fydd cynyddu llesiantemosiynol a chorfforol, hefyd, trwy fod yn weithgar amwynhau eu hamgylchoedd. Dyma rai o’r digwyddiadaua gweithgareddau a gyflawnwyd gennym eleni:
5Title
Rhaglen wirfoddoli rheolaeth amgylcheddol coetirBydd y prosiect hwn yn cefnogi ehangiad amrywgyfleoedd gwirfoddoli amgylcheddol a gynlluniwyd iwella’r amgylchedd lleol.
Cynhaliwyd diwrnodau gwirfoddoli yn rheolaidd gydolpob mis, ac rydym wedi dechrau diwrnodau gwirfoddoliganol wythnos, a fu’n boblogaidd!
Rheolir yr 50 erw o goetir trwy’r prosiect hwn ganddefnyddio dulliau coedwigaeth gorchudd di-fwlch ganddefnyddio teneuo dethol a than-blannu rhywogaethaucoed er mwyn cynyddu bioamrywiaeth y coetir, ynenwedig ei addasrwydd ar gyfer gwiwerod cochion.
Oherwydd bod Llyn Parc Mawr yn agos at y môr, mae’rlefel trwythiant yn uchel iawn. Golyga hyn fod agorffosydd yn rhan bwysig o reoli’r coetir. Mae tîmgwirfoddolwyr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Môn(AHNE) wedi cyfrannu’n rhagorol at wella Llyn Parc Mawreleni, nid yn lleiaf trwy eu holl waith ar y ffosydd.
Mae’r cynllun rheoli coetir, a luniasom ar gyfer gweddill yprosiect hwn, yn cynnwys rheoli rhywogaethau estron,teneuo, plannu er cyfoethogi, clirio mieri, cwympo, gosodrhwystrau a ffensiau, plannu coed, gwella llwybrau, torriboncyffion, cruglwytho a hollti, a choedlannu.
6Title
Prosiect hanes cymdeithasol Niwbwrch a’r CylchDyma brosiect cyffrous iawn! Mae cymaint o hanes diddorol yn cysylltu cymunedau’r froâ’r coetir. Mae’n anodd credu cymaint y mae’r ardal wedi newid ers plannu’r goedwig, asut y mae pobl yn dal i gofio pethau fell cynaeafu’r moresg â llaw, a mynd â’r matiau argeffyl a throl dros y Fenai i ddal cwch i gyrraedd y farchnad yn Neiniolen!
Buom yn gweithio â ‘Niwbwrch drwy’r Oesoedd’ a Sefydliad Pritchard Jones, sydd wediein helpu i rannu’r atgofion hyn ac ychwanegu atynt. Mae cynefin glan môr Niwbwrcha’r Cylch yn rhywbeth sy’n cysylltu holl gymunedau’r arfordir hanesyddol hwn. Mae poblyn gwerthfawrogi’r cysylltiad hwn ac yn cydnabod y bu’r glannau o bwys i’n cymuned niam filoedd o flynyddoedd. Dethlir y dreftadaeth ddiwylliannol a naturiol hon gan yprosiect hwn.
Bydd y straeon a gasglwyd hyd yn hyn, ynghyd â straeon a gasglwyd gan y ComisiwnCoedwigaeth yn 2002, yn cael eu rhannu oll ar ein gwefan i chi wrando arnynt â phleser!A pheidiwch â dweud wrth neb, ond mae’r artist Lindsey Colbourne yn dod â straeon adelweddau o Goed Niwbwrch ynghyd i wneud rhai ffilmiau cyfareddol – yn fuan!...
7Title
Digwyddiadau cymunedolCawsom flwyddyn wych ar gyfer digwyddiadau, a diolchwn i bawb a ddaeth draw, nid ynlleiaf i’r holl gyrff a fu â rhan. Bu’r digwyddiadau’n ffordd dda o ddwyn sylw at gyrffamgylcheddol eraill yn yr ardal trwy’r stondinau a’r gweithgareddau a ddarparasant ar ydiwrnod.
Bu’r digwyddiadau’n ffordd ragorol, hefyd, o gael sgwrs ynghylch yr hyn sy’n bwysig i’rgymuned a dwyn pobl ynghyd yng nghynllunio gweithgareddau a darpariaethau’rdyfodol.
8Title
Rhaglen Coedwigaeth Gymdeithasol – Coetiroedd yn hybu llesiant
Nid yw’n syndod, wrth gwrs, y gall coetiroedd fod yn dda ar gyfer llesiant. Mae llawer oastudiaethau wedi cadarnhau y gall cyflawni gweithgareddau mewn amgylcheddcoediog wella iechyd a hapusrwydd.
Gydol y flwyddyn buom yn llunio perthnasau â’r Bwrdd Iechyd ac asiantaethau eraill ihelpu cael rhagor o bobl i wella’r amgylchedd coediog. Da fu gweld rhagor o bobl yn caelbudd o weithgareddau yn y coed.
9Title
Canlyniadau a chyflawniadau
Cysylltupobl ifanc
â natur
Bu 158 o bobl ifanc ârhan mewngweithgareddau YsgolGoedwig.
Dywedodd 71 o boblifanc iddynt gael gwellcysylltiad â'ramgylchedd lleol adealltwriaeth ohono.
Gwirfoddolodd 24 obobl ifanc.
Gwell medrau agwybodaeth yn
arwain atddewisiadau
menter gwledignewydd
Hyfforddwyd 77 o bobl
Dysgodd 66 o bobl fedraurheoli coetir
Datblygwyd 5 dewismenter newydd, gangynnwys helyg, tapiobedw, partïon coedwig,ysgol goedwig ameithrinfa gyll.
10Title
Gwellamgylchedd
trwy gynydduansawdd a
bioamrywiaethcynefin
Plannu 500+ o goed
Gwella 5 cynefinallweddol, gangynnwys coetir gwlyba sych; y caeadle; yllyn a'r pwll trochi
Plannu 121rhywogaeth newydd
Cynydducysylltiad allesiant yng
nghoedcymunedol Llyn
Parc Mawr
45 o bobl yn dod iddigwyddiadau yndweud bod eullesiant wedicynyddu
16 o bobl â rhanmewn penderfynu
51 o bobl yn dweudbod yr ymdeimlad oymlyniadcymunedol wedicynyddu