Newyddlen Chwefror 2012

4
PROSIECT TRAWSNEWID I GYFLOGAETH AAA RHANBARTHOL Mae’n bryd ar gyfer rhifyn Chwefror ein newyddlen - i ble aeth fis Ionawr? Mae Cyfleoedd Gwirioneddol bron wedi’i gyflwyno’n llawn erbyn hyn gyda thîm Abertawe ar waith a thîm Castell-nedd wedi’i roi yn ei le yr wythnos diwethaf. Gyda rhai timau both bellach yn agosáu at eu pen-blwydd cyntaf mae llawer o bethau ardderchog yn digwydd ar gyfer ein pobl ifanc, ac fel arfer mae llawer o ddatblygiadau cyffrous yn digwydd y tu allan i’r prosiect hefyd. Nôl ym mis Tachwedd roedd y newyddlen yn cynnwys gwybodaeth am sut i gyfrannu eich barn at Gyfrifoldebau Cydraddoldeb Penodol Cymru, wedi’i anelu at wneud i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 weithio’n dda yng Nghymru. Yn seiliedig ar yr wybodaeth a gasglwyd yn yr arolwg ac yn ystod gweithdai, mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu amcanion cydraddoldeb sy’n ymddangos drafft gafodd eu trafod a’u cymeradwyo ar Ionawr 10fed. Mae Llywodraeth Cymru nawr yn edrych am adborth i’w helpu i benderfynu sut i gynyddu ymhellach. I ddarllen yr amcanion cydraddoldeb sy’n ymddangos drafft ac i roi adborth ewch i wales.gov.uk/topics/equality/eqalityactatwork. Mae Llywodraeth Cymru hefyd am gael barn ar reoliadau newydd ynghylch egwyliau i ofalwyr â phlant anabl yng Nghymru. O dan Adran 25 Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008, cyflwynodd y Llywodraeth ddyletswydd statudol newydd ar awdurdodau lleol. Bydd hyn yn cynorthwyo unigolion sy’n gofalu am blant anabl i barhau i wneud hynny, neu i wneud hynny’n fwy effeithiol, drwy roi egwyl iddynt o’u cyfrifoldebau gofalu. I weld y rheoliadau drafft ewch i wales.gov.uk/consultations/healthsocialcare/breaks. Byddwch hefyd yn gallu cael mynediad i ganllawiau arfer gorau a rhoi eich adborth yma; y dyddiad cau ar gyfer sylwadau neu ymatebion yw 28ain Mawrth 2012. Mae llawer o adnoddau ardderchog a rhad ac am ddim hefyd wedi’u lansio yn ddiweddar gan amrywiaeth o sefydliadau fyddai’n cynorthwyo gyda chynllunio trawsnewid a chynhwysiad ieuenctid. Mae’r Parciau Cenedlaethol wedi cyhoeddi cyfres newydd o ganllawiau sy’n amlinellu gweithgareddau hygyrch o fewn y Parciau Cenedlaethol. Mae’r canllawiau ar gael mewn nifer o fformatau, yn cynnwys print mawr a ffeil sain, ac yn y Gymraeg a’r Saesneg. Gellir eu cyrchu yn adran Mynediad i Bawb gwefan y Parciau Cenedlaethol sef www.nationalparks.gov.uk/visiting/ outdooractivities/accessforall Mae Radar, y rhwydwaith ymgyrchu hawliau anabledd, hefyd wedi lansio’r rhifyn diweddaraf o’r gyfres o ganllawiau hunan-gymorth ‘Doing Life Differently’ o’r enw ‘Doing Transport Differently’. Mae’r canllaw yn cynnwys adrannau ar gynllunio taith, sut i ddefnyddio gwahanol fathau o gludiant cyhoeddus a sut i gael cymorth pan yn teithio. Gallwch lawrlwytho’r llyfrynnau yn www/radar.org.uk/publications/doing-transport-differently. Yn olaf, edrychwch ar adroddiad y Tîm Datblygu Cenedlaethol ar gyfer Cynhwysiad (NDTi) o’r enw ‘My Own Place’ sy’n cynnig ‘Llwybr Tai’ defnyddiol i gefnogi pobl ifanc a’u teuluoedd gyda chyfleoedd a phenderfyniadau tai. Ewch i www.ndti.org.uk/publications/ndti-publications/my-own-housing i gael mynediad i’r ddogfen. Laura Davies Swyddog Gwybodaeth y Prosiect Chwefror 2012 Yn y rhifyn hwn Cyflwyniad Bothau Newydd, Ymgynghoriadau ac Adnoddau am Ddim. AC yn ymweld â Chyfleoedd Gwirioneddol Y Dirprwy Weinidog Sgiliau yn cymryd rhan mewn cyflwyniad prosiect. Canlyniadau Positif Rhai straeon positif gan bobl ifanc Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr. Cyfleoedd Cymdeithasol Torfaen yn dechrau grŵp gweithgareddau penwythnos. Hyfforddiant a Digwyddiadau Rhestr o’r hyfforddiant a’r digwyddiadau sydd ar y gweill.

description

Newyddlen Prosiect Trawsnewid i Gyflogaeth AAA Rhanbarthol

Transcript of Newyddlen Chwefror 2012

Page 1: Newyddlen Chwefror 2012

PROSIECT TRAWSNEWID I GYFLOGAETH AAA RHANBARTHOL

Mae’n bryd ar gyfer rhifyn Chwefror ein newyddlen - i ble aeth fis Ionawr? Mae Cyfleoedd Gwirioneddol bron wedi’i gyflwyno’n llawn erbyn hyn gyda thîm Abertawe ar waith a thîm Castell-nedd wedi’i roi yn ei le yr wythnos diwethaf. Gyda rhai timau both bellach yn agosáu at eu pen-blwydd cyntaf mae llawer o bethau ardderchog yn digwydd ar gyfer ein pobl ifanc, ac fel arfer mae llawer o ddatblygiadau cyffrous yn digwydd y tu allan i’r prosiect hefyd. Nôl ym mis Tachwedd roedd y newyddlen yn cynnwys gwybodaeth am sut i gyfrannu eich barn at Gyfrifoldebau Cydraddoldeb Penodol Cymru, wedi’i anelu at wneud i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 weithio’n dda yng Nghymru. Yn seiliedig ar yr wybodaeth a gasglwyd yn yr arolwg ac yn ystod gweithdai, mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu amcanion cydraddoldeb sy’n ymddangos drafft gafodd eu trafod a’u cymeradwyo ar Ionawr 10fed. Mae Llywodraeth Cymru nawr yn edrych am adborth i’w helpu i benderfynu sut i gynyddu ymhellach. I ddarllen yr amcanion cydraddoldeb sy’n ymddangos drafft ac i roi adborth ewch i wales.gov.uk/topics/equality/eqalityactatwork.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd am gael barn ar reoliadau newydd ynghylch egwyliau i ofalwyr â phlant anabl yng Nghymru. O dan Adran 25 Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008, cyflwynodd y Llywodraeth ddyletswydd statudol newydd ar awdurdodau lleol. Bydd hyn yn cynorthwyo unigolion sy’n gofalu am blant anabl i barhau i wneud hynny, neu i wneud hynny’n fwy effeithiol, drwy roi egwyl iddynt o’u cyfrifoldebau gofalu. I weld y rheoliadau drafft ewch i wales.gov.uk/consultations/healthsocialcare/breaks. Byddwch hefyd yn gallu cael mynediad i ganllawiau arfer gorau a rhoi eich adborth yma; y dyddiad cau ar gyfer sylwadau neu ymatebion yw 28ain Mawrth 2012.Mae llawer o adnoddau ardderchog a rhad ac am ddim hefyd wedi’u lansio yn ddiweddar gan amrywiaeth o sefydliadau fyddai’n cynorthwyo gyda chynllunio trawsnewid a chynhwysiad ieuenctid. Mae’r Parciau Cenedlaethol wedi cyhoeddi cyfres newydd o ganllawiau sy’n amlinellu gweithgareddau hygyrch o fewn y Parciau Cenedlaethol. Mae’r canllawiau ar gael mewn nifer o fformatau, yn cynnwys print mawr a ffeil sain, ac yn y Gymraeg a’r Saesneg. Gellir eu cyrchu yn adran Mynediad i Bawb gwefan y Parciau Cenedlaethol sef www.nationalparks.gov.uk/visiting/outdooractivities/accessforall

Mae Radar, y rhwydwaith ymgyrchu hawliau anabledd, hefyd wedi lansio’r rhifyn diweddaraf o’r gyfres o ganllawiau hunan-gymorth ‘Doing Life Differently’ o’r enw ‘Doing Transport Differently’. Mae’r canllaw yn cynnwys adrannau ar gynllunio taith, sut i ddefnyddio gwahanol fathau o gludiant cyhoeddus a sut i gael cymorth pan yn teithio. Gallwch lawrlwytho’r llyfrynnau yn www/radar.org.uk/publications/doing-transport-differently.

Yn olaf, edrychwch ar adroddiad y Tîm Datblygu Cenedlaethol ar gyfer Cynhwysiad (NDTi) o’r enw ‘My Own Place’ sy’n cynnig ‘Llwybr Tai’ defnyddiol i gefnogi pobl ifanc a’u teuluoedd gyda chyfleoedd a phenderfyniadau tai. Ewch i www.ndti.org.uk/publications/ndti-publications/my-own-housing i gael mynediad i’r ddogfen.

Laura Davies

Swyddog Gwybodaeth y Prosiect

Chwefror 2012Yn y rhifyn hwn

CyflwyniadBothau Newydd, Ymgynghoriadau ac Adnoddau am Ddim.

AC yn ymweld â Chyfleoedd GwirioneddolY Dirprwy Weinidog Sgiliau yn cymryd rhan mewn cyflwyniad prosiect.

Canlyniadau PositifRhai straeon positif gan bobl ifanc Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr.

Cyfleoedd CymdeithasolTorfaen yn dechrau grŵp gweithgareddau penwythnos.

Hyfforddiant a DigwyddiadauRhestr o’r hyfforddiant a’r digwyddiadau sydd ar y gweill.

Page 2: Newyddlen Chwefror 2012

Cynigir cyflwyniadau prosiect fel rhan o raglen hyfforddiant Cyfleoedd Gwirioneddol ac fe’u cyflwynir gan swyddog hyfforddiant y prosiect, Hannah Cox. Mynychodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau y cyflwyniad oedd yn anelu at annog cydweithio gydag athrawon, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill yn YMCA Pontypridd, Rhondda Cynon Taf. Cymerodd y gweinidog ran yn y sesiwn ryngweithiol i edrych ar werthoedd y prosiect a gwaith y staff perthnasol. Trafododd reolwr y prosiect, Angela Kenvyn strwythur y prosiect a chynnig trosolwg o’r ffordd mae’r prosiect yn gweithio a chefnogodd Tracy Lloyd, Cydlynydd Cydgysylltu Teuluoedd Sadie Jones, person ifanc ar y prosiect i wneud cyflwyniad ar eu profiadau o’r prosiect.

Rhannodd Sadie ei stori ddigidol yn ystod y cyflwyniad oedd yn dangos peth o’i gwaith Cynllunio Seiliedig ar y Person, y gefnogaeth y mae wedi’i derbyn gan y Tîm Both, Elite ac Action for Employment a’r adborth gan y staff sydd bellach yn gweithio gyda hi yng Nghanolfan Edith Mills, yn ogystal â gan y staff o’r tîm both ac

AC yn ymweld â CHYFLEOEDD GWIRIONEDDOL

Mynychodd Jeff Cuthbert AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau Gyflwyniad Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol ar 16eg Ionawr 2012 ym Mhontypridd i gael gwybod

mwy am ein prosiect a sut mae’n gweithio.

asiantaethau cefnogi cyflogaeth. Rhoddodd Tracy fanylion y gwaith y mae Sadie wedi’i gwblhau ers ymuno â’r prosiect yr oedd yn rhoi enghraifft ymarferol wych i’r gweinidog ac eraill oedd yn bresennol o’r prosiect ar waith.

Rhoddodd y tîm o Elite gyflwyniad hefyd am eu hymwneud â’r prosiect, a rhannu straeon rhai o’r bobl ifanc niferus y maent wedi bod yn gweithio gyda hwy. Yr oedd

un ohonynt, David Preece, sydd nawr wedi cael gwaith cyflogedig o ganlyniad i’w leoliad gydag Elite hefyd yn bresennol i rannu ei brofiadau.

Cyflwynodd y Gweinidog y diwrnod a mynegodd pa mor falch ydoedd i gael ei gysylltu â’r prosiect a thrafododd bwysigrwydd y math o waith y mae Cyfleoedd Gwirioneddol yn ei wneud. Roedd yn awyddus i glywed gan y bobl ifanc a theimlodd fod eu presenoldeb yn y digwyddiad yn dangos bod y prosiect yn gweithio ar y cyd gyda’i bobl ifanc, yn gweithio gyda nhw a drostynt i gynllunio ar gyfer eu dyfodol, gan ddweud bod hynny’n gwbl hanfodol wrth iddynt drawsnewid yn oedolion, yn enwedig felly i’n pobl ifanc anabl.

I drefnu Cyflwyniad Prosiect i rieni, gweithwyr proffesiynol a/neu athrawon yn eich ardal cysylltwch â Hannah Cox yn [email protected] neu ar 01792 817224.

Ch-Dd Davis Preece, Jeff Cuthbert, Tracey Jones a Sadie Jones

Page 3: Newyddlen Chwefror 2012

Mae Connor Bounds sy’n 16 oed ac o Ferthyr wedi bod yn gweithio gyda thîm both Cyfleoedd Gwirioneddol ym Merthyr ers Awst 2011. Ers hynny mae wedi defnyddio Cefnogaeth Seicoleg gan Tracey ac wedi gweithio’n agos â’r Gweithiwr cyswllt Teuluoedd Tim i ddatblygu ei Gynllun Seiliedig ar y Person. Mae Connor wedi cwblhau ei OCN mewn Cadw’n Ddiogel ac mae nawr wedi symud ymlaen i ddefnyddio cefnogaeth Cynhwysiad Ieuenctid ac mae’n gobeithio cwblhau lleoliad gwaith gydag Elite.

Ers gweithio gyda Tim, mae Connor wedi datblygu a mynegi diddordeb mewn loncian, y mae’n ei ddefnyddio fel mecanwaith ymdopi positif. Er mwyn annog a datblygu diddordebau Connor ymhellach, awgrymodd Tim ei fod yn cymryd rhan mewn ras hwyl. Penderfynodd Connor redeg y ras ffordd Nos Galan 5k yn Aberpennar, a dechreuodd weithio’n galed i hyfforddi gyda Tim yn ystod yr wythnosau yn arwain at y ras; ymunodd â champfa leol i bobl ifanc hefyd ac mae’n gobeithio parhau i’w mynychu. Roedd Connor am redeg y ras ar ran elusen a phenderfynodd y byddai’n rhoi’r arian tuag at fws mini newydd i’w ysgol!

Yn anffodus oherwydd amgylchiadau teuluol nid oedd Connor yn gallu rhedeg y ras ar y noson, ond mae diddordeb ganddo o hyd mewn rhedeg ras a bydd yn rhedeg y filltir Sports Relief ym mis Mawrth. Ar ôl yr

Canlyniadau POsItIF

holl waith caled nid oedd Tim am adael pawb i lawr ac aeth ymlaen i redeg y 5km mewn 33:56 mewn gwisg Bananaman (wrth gwrs). Cododd y bechgyn fwy na £120 i apêl y bws mini i Ysgol Greenfield ym Merthyr.

Mae Hannah Peacock o Ben-y-Bont ar Ogwr wedi bod yn gweithio gyda thîm Cyfleoedd Gwirioneddol Pen-y-Bont ar Ogwr ers Mai 2011. Ers hynny, mae Hannah wedi llwyddo i gwblhau cwrs OCN mewn Hyder a Hyfforddiant Teithio ac mae wedi cael llawer o gefnogaeth werthfawr gan David a Sarah, Gweithwyr Cefnogi Seicoleg a Sgiliau Byw’n Annibynnol. Mae Hannah nawr wedi symud ymlaen at weithio gyda’r Gweithiwr Cynhwysiad Ieuenctid Tanya.

Gweithiodd Tanya yn agos â Hannah i gwblhau ‘Pasport PCP’, offeryn PCP y mae’r tîm yn ei ddefnyddio i gael syniad am hoffterau a chasbethau pobl ifanc. Nododd Hannah fod ganddi ddiddordeb mewn

coginio, rhywbeth yr oedd wedi’i astudio yn yr ysgol. Ar ôl siarad gyda mam Hannah, penderfynodd Tanya a Hannah edrych ar goginio yn ystod amser hamdden Hannah, ac mae Tanya nawr yn cefnogi Hannah i fynychu cwrs coginio ar nos Fercher yn yr ysgol uwchradd leol. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar fwyta’n iach ac mae’n dysgu sgiliau coginio sylfaenol. Hyd yn hyn mae Hannah wedi gwneud bara, pate pysgod, ratatouille a phasta ffres! Yn ogystal â dysgu sgiliau coginio ardderchog, mae Hannah hefyd yn gwneud llawer o ffrindiau newydd, yn falch iawn i fynd â’i choginio adref ac yn cael amser gwych. Mae Tanya hefyd wrth ei bodd gan y gall fynd â the adref bob dydd Mercher a does dim angen iddi goginio!!! Mae Tanya’n gobeithio y bydd yn gallu helpu Hannah i drosglwyddo’r sgiliau y mae’n eu dysgu i’w bywyd yn y cartref ac y bydd yn parhau i fynychu dosbarthiadau coginio yn annibynnol yn y dyfodol.

Bob wythnos mae timau Cyfleoedd Gwirioneddol ar draws De Cymru yn helpu pobl ifanc gydag Anghenion Difrifol a Chymhleth, Anabledd Dysgu neu Anhwylder Sbectrwm

Awtistig i gyflawni nodau personol. Mae’r newidiadau a’r cyflawniadau bach hyn yn helpu pobl ifanc i gynyddu eu hyder a’u sgiliau ar gyfer byw’n annibynnol yn y dyfodol! Ac maent yn cael hwyl!

Tim fel Bananaman ar ôl y ras!

Hannah yn ei dosbarth coginio

Page 4: Newyddlen Chwefror 2012

PCP Diwrnod 5 o 5Dyddiad: 27ain Chwefror 2012Amser: 10am – 3pmLleoliad: Tŷ Gwledig Manor Park, ClydachI: Staff a Phobl Ifanc ar y Cwrs

Cyflwyniad i’r ProsiectDyddiad: 29ain Chwefror 2012 & 8fed Mawrth 2012Amser: 4pm – 5:30pmLleoliad: Ysgol a Chanolfan Adnoddau Trinity FieldsI: Athrawon Trinity Fields

Rhwydwaith Cynllunio i’r DyfodolDyddiad: 14eg Mawrth 2012Amser: 10am – 1pmLleoliad: Forge Fach CRC, ClydachI: PCP/Cyswllt Teuluoedd/ILS Pob Both

8

I weld eich stori yn y newyddlen, neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Laura ar 01792 817224 neu yn [email protected]

Hyfforddiant a DigwyddiadauI archebu lle ar unrhyw rai o’r digwyddiadau neu seminarau hyfforddiant canlynol cysylltwch â’r tîm gwybodaeth a hyfforddiant yn [email protected] am ffurflen arche-bu. Am fwy o wybodaeth am y digwyddiadau cysylltwch â Hannah yn [email protected]

Cyflwyniad i PCPDyddiad: 19eg Mawrth 2012Amser: 10am – 4pmLleoliad: Llety Cynin, San ClêrI: Pawb yn Abertawe/Sir Gaerfyrddin/Sir Benfro

Gweithdy AmlgyfrwngDyddiad: 29ain Mawrth 2012Amser: 11am – 3pmLleoliad: Forge Fach CRC, ClydachI: Pob both a Pherson Ifanc

Cyflwyniad i’r ProsiectDyddiad: 28ain Mawrth 2012Amser: 10pm – 1pmLleoliad: Canolfan Orbit, MerthyrI: Pawb ym Merthyr

Anelir y grŵp at bobl ifanc nad oes ganddynt fynediad i unrhyw weithgareddau hamdden neu gymdeithasol yn ystod y penwythnos neu’r rheiny y gallent elwa o gymdeithasu gyda phobl ifanc eraill.

Yr wythnos diwethaf dechreuodd y tîm eu rhaglen o weithgareddau penwythnos drwy fynd â grŵp o bedwar cyfranogwr i’r sinema. Daeth eu rhieni â hwy yno, ac fe wnaethon nhw dalu £1.50 am y ffilm, oedd yn gynnig arbennig dros y penwythnos ar gyfer dangosiadau cynnar, ac aeth y staff am ddim fel gofalwyr.

Prif nod y grŵp yw rhoi cyfle i’r bobl ifanc wneud ffrindiau, cymdeithasu a gobeithio dod yn ddigon hyderus i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol yn annibynnol yn y dyfodol. Mae’r tîm yn edrych ar amrywiaeth o weithgareddau rhad y gall y bobl ifanc gymryd rhan ynddynt eu hunain, yn cynnwys pethau fel mynd i’r parc am gêm o griced neu

Cyfleoedd Cymdeithasol

fynd am dro. Dywedodd yr holl bobl ifanc eu bod wedi mwynhau eu taith i’r sinema a byddent wrth eu bodd yn cael gwneud rhywbeth gyda’r grŵp unwaith eto.

Mae Tîm Both Torfaen wedi nodi y byddai rhai o’r bobl ifanc ar eu prosiect yn elwa o weithgareddau cymdeithasol dros y penwythnos, a gan eu bod yn dîm sy’n cynnwys

staff cymdeithasol a llawn hwyl maent wedi penderfynu dechrau mynd â grŵp bach o bobl ifanc allan ar y penwythnos am ychydig oriau, gyda’r nod o wneud hynny unwaith y mis.

Y Grŵp yn y sinema