Newyddion Abertawe Actif - hydref 2011

4

Click here to load reader

description

Newyddion Abertawe Actif hydref 2011

Transcript of Newyddion Abertawe Actif - hydref 2011

Page 1: Newyddion Abertawe Actif - hydref 2011

My SwanseaFy Abertawe

Enw: Huw David Edwards

Canolfan a theitl swydd: Hyfforddwr Ffitrwyddym Mhenyrheol.

Pa mor hir ydych chi wedi gweithio gydagAbertawe Actif?: Blwyddyn, ac rwyf wedi dwluar bob munud ohono.

Beth yw'r peth gorau am eich swydd:Cwrdd â phobl newydd a chael hwyl yn eucwmni. Rwy'n dwlu ar siarad â chwsmeriaid acrwy'n gwneud fy ngorau i helpu pobl i gyrraeddeu nodau. Mae'n hwyl, ac rwy'n cwrdd â rhaicymeriadau go iawn.

Hoff fwyd: Anrhyw beth!

Hoff chwaraeon: Mae'n rhaid i mi ddweudpêl-droed.

STAFFPROFFIL

Roeddem yn gallu gwella ein rhaglenwyliau’r haf eleni oherwydd arian ganGyngor Tref Gorseinon.Rydym wedi gwneud defnydd da o’r grantgwerth £1000 i brynu cyfarpar newydd ar gyferein gweithgareddau plant poblogaidd a helpui dalu am deithiau tywys.

Mae ugeiniau o blant wedi teithio gyda ni iFferm Ffoli a Pharc Oakwood am ddau ddiwrnodllawn hwyl - roedd yr arian wedi’n helpu i gadwcostau’n isel a galluogi mwy o blant i ymunoyn yr hwyl.

Meddai David Lewis, Arglwydd Faer CyngorTref Gorseinon, “Ar ran Cyngor Tref Gorseinon,rwy’n falch bod Canolfan Hamdden Penyrheolwedi gwneud defnydd da o’r grant gwerth £1000,gan helpu i ariannu gweithgareddau gwyliaudiweddar. Mae’r ganolfan hamdden yn asedgwych i gymunedau Gorseinon a Phenyrheolac mae’n darparu llawer o weithgareddau i boblifanc a hyn yn lleol a’r tu hwnt. Mae cyngor ydref yn falch o gefnogi canolfan mor deilwng.”

GORSEINONGYNGOR TREF DIOLCH I

Croeso i drydydd cylchlythyr Abertawe Actif - sy’n ceisio eich hysbysu’n well

am y campau a’r gweithgareddau iechyd y gallwch eu mwynhau yn eich canolfan

leol ac yn eich ardal.

ABERTAWE ACTIFNEWYDDION

Page 2: Newyddion Abertawe Actif - hydref 2011

Mae’n debyg y bydd llawer ohonom yn hel unrhyw esgusodion i osgoi ymarfer – dyna’r uno’r prif resymau pam rydym yn ei chael yn anodd i golli pwysau a chadw’n heini.Mewn arolwg diweddar o 2,000 o oedoliona gynhaliwyd gan Weight Watchers, y prifresymau oedd:

1) Mae’n rhy ddrud (23%)

2) Diffyg amser (17%)

3) Mae ymarfer yn ddiflas (15%)

Meddai Amy Lloyd, rheolwr ffitrwyddAbertawe Actif, “Nid yw’r canlyniadau hynyn fy synnu. Pan gânt eu holi am ffitrwydd, maeaelodau’n meddwl am lawer o esgusodion i osgoiymarfer yr adeg hon o’r flwyddyn!

Nid yw pobl am ddod allan yn y tywydd oer,tywyll a gwlyb, ac mae’n hollbwysig bod eichcymhelliant yn parhau. Ond, mae’n werth parhauâ’r drefn. Mae staff wrth law i annog aelodau iddal ati, eu helpu i amrywio eu trefn a sicrhaubod eu hadrenalin yn llifo!”

Dyma’n hawgrymiadau gorau i atebyr holl esgusodion…

Mae’n rhy ddrud Ydy hyn yn wir? Mae gennym amrywiaeth oddewisiadau yn y canolfannau i’w gwneud morhygyrch â phosib. Rydym yn credu’n gryf bod cost einhaelodaeth safonol o £29.75 y mis ar gyfer y gampfa,nofio, dosbarthiadau a racedi yn werth gwych amarian, ond os ydych yn cael trafferth i wneudtaliadau, siaradwch â rhywun o dîm y dderbynfa amein cynlluniau aelodaeth PTL, pâr a chorfforaethol.

Gyda llaw... os ydych yn mynd i’r canolfannaudeirgwaith yr wythnos fel y cymeradwyir i chi’iwneud, bydd pob sesiwn yn costio llai na pheinto gwrw yn eich tafarn leol.

Diffyg amser A oeddech yn gwybod bod pob unigolyn argyfartaledd yn treulio 6 awr o flaen y teledu?Ie, 6 awr!

Rydym yn sylweddoli ei bod yn anodd cydbwysogwaith â bywyd y teulu a’i bod weithiau’n anoddgadael y ty, ond nid oes angen iddo fod am amserhir. Gall sesiwn 20-30 munud wneud gwyrthiau –nid oes angen i chi dreulio oriau yn y gampfa iweld y manteision. Mae ymarfer corff yn amlam gyfnodau byr yn well na sesiwn hir unwaithyr wythnos. Beth am gynnwys sesiwn ymarfer ynystod eich egwyl ginio neu cyn mynd i’r gwaith?

Mae ymarfer yn ddiflas! Gall fod yn ddiflas os ydych yn gwneud yr unpeth trwy’r amser, ond mae’n rhaid i chi amrywio’chtrefn. Os ydych yn hoffi mynd i’r gampfa, gofynnwchi un o’r hyfforddwyr am raglen newydd, rhowchgynnig ar un o’n dosbarthiadau ffitrwydd neuewch am drochiad yn y pwll.

Cofiwch...teimlo’n dda yw’r nod! Er mai prif ddiben mynd i ganolfan hamddeni lawer o bobl yw gwella gweithgaredd corfforol,y tro nesaf byddwch yn ymarfer, canolbwyntiwch ar sut mae ymarfer yn gwneud i chi deimlo.

Mae’n ffaith y byddwch yn teimlo’n well wrthymarfer. Byddwch yn teimlo llai o straen ac yn fwyhamddenol, byddwch yn cysgu’n well a byddwch ynfwy hyderus. Felly, mae pob croeso i chi fesur eichcynnydd mewn termau corfforol, ond peidiwch aganghofio gymaint yn well y byddwch yn teimlowrth ymarfer.

ESGUSODION I OSGOI YMARFER?YDYCH CHI’N HEL

Mae nifer mawr o fenywod yn dweud mai nofio yw eu

hoff weithgaredd, ond maent yn ddwywaith mor debygol â

dynion o boeni am eu ‘darnau blonegog’, ac mae menywod

hefyd yn poeni y bydd ‘ffyddloniaid ffitrwydd’ tenau yn

edrych yn ffroenuchel arnynt.

Ein hymateb yw... Peidiwch â phoeni am beth mae pawb

arall yn ei feddwl ac yn ei wneud. Mae pobl o bob lliw a llun

yn dod i’n lleoliadau ni ac rydym yn falch o hynny. O, ac

unwaith eich bod wedi mynd o dan y dwr, ni all neb

weld eich darnau blonegog beth bynnag!

Page 3: Newyddion Abertawe Actif - hydref 2011

FFIT I SGÏOI’r rhai sy’n meddwl am fynd i sgïo dros yNadolig neu yn y Flwyddyn Newydd, mae’nbosib mai nawr yw’r amser perffaith i feddwlam eich rhaglen ffitrwydd a chyflyru.Os ydych yn ymarfer corff yn rheolaidd, mae’ndebyg eich bod yn gwneud cryn dipyn o waith cardiobeth bynnag – mae mwy neu lai’r holl waith cardio’nymwneud â defnyddio’ch coesau, ond efallai yrhoffech gynyddu hwn am ychydig wythnosaucyn hedfan dramor. Mwy na thebyg y cyfarpar gorau yn y gampfa yw’rpeiriant camu a’r croes-hyfforddwr, ond peidiwch aganghofio’r peth mae pawb bob amser yn ei anghofio -ymestyn. Canolbwyntiwch ar weyll eich migyrnau,crothau’ch coesau, eich cyhyrau pedryben, llinynnaueich gar, eich cluniau a chyhyrau’ch ffolen (os nadydych yn siwr beth yw’r rhain, gofynnwch i un o’nhyfforddwyr). O safbwynt cryfder, rhowch gynnig arwasg-goesau, cyrcydu neu estyn coesau ar gyfer eichcyhyrau pedryben; ymarferion dipio, estyn cyhyrautriphen a chicio’n ôl ar gyfer eich cyhyrau triphen;a chofiwch gyhyrau craidd y cyhyrau abdomenola rhan isaf y cefn.Cadwch lygad am gardiau rhaglen Ffit i Sgïo yny canolfannau o fis Tachwedd ymlaen.

Cyfrinach bol cadarnach, mwy gwastadyw cyfuno ymarfer abdomenol â deietbraster isel synhwyrol.

Ni waeth faint o grensiadau rydych yn eu gwneud,os ydych yn cario gormod o bwysau o gwmpas eichbol (ac ie, rydym yn sôn am y dolenni cariad ‘na!),bydd y braster yn cuddio unrhyw welliannau iddiffiniad cyhyrau.

Pa ymarfer oedd y gorau?Mewn gwirionedd, nid oes unrhyw ymarfersy’n well nag unrhyw ymarfer arall. Er mwyncael canlyniadau da, cymysgwch eich trefn ychydigi weithio ar y cyhyrau amrywiol yn eich bol.

Edrychwch ar ein rhestr o awgrymiadau argyfer cael bol mwy gwastad yn y canolfannauar eich ymweliad nesaf neu siaradwch ag uno’r hyfforddwyr am y drefn sydd orau i chi –a dechrau gweithio ar yr abs ‘na drosyr hydref!

GWASTADGAEL STUMOG MWY CANOLBWYNTIWCH AR...

CAMGYMERIADAU I’W HOSGOI Y GAEAF HWNCamgymeriad: gwneud sesiynauymarfer hirNid yw sesiynau ymarfer hwy yn golygu canlyniadaugwell neu gyflymach. Os ydych wedi bod yn bustachuyn y gampfa ond nid yw eich corff yn newid, nid oespwynt gwneud mwy o’r un peth gan ddisgwyl canlyniadgwahanol. O ran ceisio bod yn denau ac yn heini, maeeich corff yn ymateb i ansawdd dros faint.

Camgymeriad: Gwneud yr un drefndrosodd a throsodd Mae ail-wneud yr un ymarfer drosodd a throsoddyn ffordd sicr o FETHU â chael canlyniadau. Rydymyn gaeth i arfer ac yn tueddu i lynu wrth bethau rydymyn gyfarwydd â hwy ac yn eu gwneud yn dda. Ond wrthymarfer, os ydych am barhau i wneud cynnydd a gweldnewidiadau yn eich corff, mae angen i chi ddechraucynyddu pethau. Mae gan eich corff y gallu anhygoel

i addasu’n gyflym a phan fo’n gwneud hyn, dyna’ramser pan fyddwch yn cyrraedd y gwastadedd mawrei ofni ac yn peidio â gwneud cynnydd.

Beth dylech ei wneud? Mantais aelodaeth Abertawe Actif yw ygallwch ddefnyddio pyllau nofio, amrywiaethanferth o ddosbarthiadau ffitrwydd a chwaraeonraced, yn ogystal â’r gampfa. Felly manteisiwchar eich aelodaeth ac amrywiwch eich trefn gydarhywbeth gwahanol – beth sydd gennych i’w golli?Os nad ydych yn siwr beth sy’n addas i chi,gofynnwch i aelod o’n staff am gyngor.

I’ch helpu i gynnal eich cymhelliant...Cadwch lygad am ein her ym mis Rhagfyr.Bydd gwybodaeth ar gael yn ein holl gampfeyddtrwy gydol mis Rhagfyr – cymerwch ran a chwblhewchyr her i sicrhau gwobr fach i chi’ch hun.

TRX YN LLWYDDIANT YSGUBOLA hwythau wedi’u lansio ym mis Medi ar draws pedwar o’n safleoedd,mae ein dosbarthiadau TRX yn hynod lwyddiannus. Meddai Jon Parry, rheolwr cynorthwyol yng Nghanolfan Hamdden Penlan sydd wedi arwainrhai o’r dosbarthiadau, “Mae TRX wedi bod yn llwyddiant ysgubol ym Mhenlan. Cawsom sesiynaurhagflas ddiwedd mis Medi a oedd yn boblogaidd dros ben a rhoddwyd cyfle i’n haelodau roi cynnig arno.Mae’n cynnig rhywbeth ychydig yn wahanol i aelodau ac mae’n berffaith os ydych wedi blino ar eich trefn

Mae llawer o bobl yn meddwl ei fod yn heriol, felly os ydych yn meddwl ei fod yn rhy anodd, siaradwch agun o’n hyfforddwyr a fydd yn hapus i roi arddangosiad byr i chi a’ch helpu i ymgyfarwyddo â’r cyfarpar.”

Page 4: Newyddion Abertawe Actif - hydref 2011

LLONGYFARCHIADAU I... PAUL FALAMae Paul Fala yn un o’n haelodau sy’nhyfforddi yng Nghanolfan Hamdden CefnHengoed, ac rydym yn meddwl ei fod ynhaeddu ei ganmol! Mae’n mynychu Ysgol Gyfun Cefn Hengoed,ac oddeutu 8 mis yn ôl, nid oedd ganddo fawr odiddordeb mewn cadw’n heini, bod yn actif neuddilyn ffordd iach o fyw. Roedd ei fam yn poenigan mai ei unig ddiddordebau oedd gemaucyfrifiadur a bod yn ‘gaeth i PlayStation’.

Soniodd mam Paul am ei phryderon wrth uno’n hyfforddwyr, Mike Thompson. Mae gan Mikebrofiad rhagorol o weithio gyda phobl ifanc yn euharddegau, gan swyno pobl ifanc gyda threfnauffitrwydd gwych a’u harwain oddi wrth achosiproblemau niwsans, ymddygiadgwrthgymdeithasol a diogi cyffredinol.

Siaradodd Mike â Paul, gan ei dywys trwysesiwn sefydlu i’r gampfa ac esbonio pwysigrwydd amanteision byw bywyd iach. Pennodd dargedaua nodau y gallai Paul anelu atynt.

Derbyniodd Paul yr her a chyn bo hir, roeddyn ymwelwr rheolaidd â’r gampfa yng NghefnHengoed. Roedd Mike wrth law i’w helpu trwy’iraglen hyfforddi bersonol. O ganlyniad, mae Paulbellach wedi colli pwysau, mynd yn fwy ffit ac iach,a hefyd wedi gwella’i waith ysgol. Mae’n gallucanolbwyntio’n hwy, mae ganddo fwy o ffocws,ac mae’n dangos mwy o falchder yn ei waith.

Mae ei ymdrechion wedi tynnu sylw Sue Hollister,pennaeth ei ysgol. Dywedodd fod Paul wedi caelei drawsnewid yn ddisgybl model ac mae’n canmolMike Thompson am ei waith caled gyda’r holl blantsy’n mynd i’r gampfa yng Nghefn Hengoed.

Caiff pob disgybl yng Nghefn Hengoed eiannog erbyn hyn i weithio gyda Mike a dilynesiampl wych Paul.

Gall plant ddefnyddio’r campfeyddmewn lleoliadau Abertawe Actif o 12oed ar adegau penodol.

Mae’r amserau’n amrywio ym mhob canolfan.

Am bob Wayne Rooney, Andy Murrayneu Victoria Pendleton, mae llu o bobl o’rbyd chwaraeon lleol nad ydynt yn cael ygydnabyddiaeth maent yn ei haeddu. Nawr mae gennych gyfle i enwebu eich arwrchwaraeon lleol yng Ngwobrau ChwaraeonAbertawe Actif 2011. Pwy byddwch yn ei enwebu?Mae categorïau’n cynnwys y chwaraewr, y tîm a’rhyfforddwr gorau, ac mae enwebiadau ar agortan ddydd Gwener 21 Hydref.

Ewch i www.abertawe.gov.uk/sportsawardsam y manylion.

Llongyfarchiadau i’n holl aelodau a redoddyn Ras 10k Bae Abertawe Admiral!Dyma rai lluniau o’r diwrnod...

ABERTAWE ACTIF 2011GWOBRAU CHWARAEON

Bydd campfa a phwll Penyrheolar agor o 6.00am o 12 Hydref(Dydd Llun – dydd Gwener).

Mae campfa Treforys ar agor o 6.15am.

Mae campfa Penlan ar agor o 6.15am.

Mae campfa Llandeilo Ferwallt aragor o 7.00am.

Bydd oriau agor y penwythnos ynamrywio o ganolfan i ganolfan.

SY’N CODI’N GYNNAR!YN BERFFAITH I’R RHAIAGORIAD CYNNAR –

E-bostiwch [email protected]

a byddwn yn falch o glywed gennych.

GYFER EIN RHIFYN NESAF?OES GENNYCH SYNIADAU AR

Roedd hyd yn oedArnie Actif wedi

cymryd rhan!

www.facebook.com/activeswansea