Maniffesto Go Iawn Llafur
-
Upload
plaid-cymru -
Category
Documents
-
view
220 -
download
4
description
Transcript of Maniffesto Go Iawn Llafur
Go Iawn Llafur
Maniffesto
Chwefror 2015
“Beth na wnaethom ni dros Gymru”
Gydag etholiad San Steffan ar y gorwel mae hi’n hollbwysig atgoffa etholwyr o’r holl achlysuron pan na lwyddom i frwydro dros Gymru yn ystod y senedd hon ac hefyd yn y Cynulliad.
Mae pawb yn ymwybodol o’n cefnogaeth i siarter llymder George Osborne, ond mae ein record
o fethu cefnogi datganoli pwerau ychwanegol i Gymru yn dyddio nol hyd yn oed yn bellach.Gobeithiwn y bydd etholwyr y nein beirniadu yn ol ein record pleidleisio.
Yr eiddoch yn gywir (wel, nid go iawn)
Y Blaid Lafur.
Lleihau treth tanwydd mewn ardaloedd gwledig, 07/02/11
Ymatal wnaethom ni. Pleidleisiodd Plaid Cymru o blaid. (bit.ly/1q1QUTv)
Y Mesur Diwygio Lles a gyflwynodd nifer o doriadau i ddiogelwch cymdeithasol (2il Ddarlleniad) 09/04/11
Ymatal wnaethom ni. Pleidleisiodd Plaid Cymru yn erbyn. (bit.ly/1rWMNt5)
Datganoli JobCentrePlus i Gymru, 21/06/11
Ymatal wnaethom ni. Pleidleisiodd Plaid Cymru o blaid. (bit.ly/1vnq7Nl)
Atal toriadau i bensiynau’r sector gyhoeddus, 08/12/11
Ymatal wnaethom ni. Pleidleisiodd Plaid Cymru o blaid. (bit.ly/12Hib3m)
Hyrwyddwyd gan / Promoted by: Plaid Cymru, Tŷ Gwynfor, Llys Anson, Caerdydd/Cardiff ar ran Plaid Cymru
Datganoli ynni i Gymru, 31/01/12
Pleidleisio yn erbyn wnaethom ni. Pleidleisiodd Plaid Cymru o blaid. (bit.ly/12rNXjP)
Llywodraeth Cymru yn gwrthod cau’r diffyg mewn treth cyngor, 06/02/12
I ddechrau, fe wrthodom gau’r diffyg budd-dal treth cyngor o £23m pan y cafodd ei ddatganoli i Gymru, gan ddweud ein bod eisiau i awdurdodau lleol ysgwyddo’r baich a nodi hynny’n ysgrifenedig o’r cychwyn (bit.ly/1CZoSfb). Dim ond yn sgil ymgyrch dan arweiniad Plaid Cymru, ac ad-alw’r Cynulliad yn ystod yr egwyl, y cytunom i ganfod yr arian yn y pen draw.
Torri’r cyfradd dreth o 50c i 45c, 26/03/12
Ymatal wnaethom ni. Pleidleisiodd Plaid Cymru yn erbyn. (bit.ly/1yncrsN)
Torri cyllideb yr Undeb Ewropeaidd, 31/10/12
Pleidleisio o blaid wnaethom ni. Pleidleisiodd Plaid Cymru yn erbyn. (bit.ly/1tYDN0E)
Deddfwriaeth i gosbi pobl oedd wedi cymryd rhan yn y rhaglen Workfare, 19/03/13
Ymatal wnaethom ni. Pleidleisiodd Plaid Cymru yn erbyn. (bit.ly/1vna4iz)
Datganoli Treth Teithwyr Awyr i Gymru (Mesur Cyllid), 18/04/13
Ymatal wnaethom ni. Pleidleisiodd Plaid Cymru o blaid. (bit.ly/1yn468m)
Galw am bolisi “Dim Troi Allan” i ddioddefwyr y Treth Llofftydd, 23/04/13Fe wnaethom ni wrthod cefnogi galwad Plaid Cymru am bolisi “Dim Troi Allan” i ddioddefwyr y Treth Llofftydd fel yr hyn oedd wedi ei fabwysiadu yn yr Alban. (bit.ly/1zCGjjh)
Dywedodd y Prif Weinidog: “That is a matter for local authorities to decide. I can well understand the thinking behind the no-eviction policy, but it is for each local authority to decide how it wishes to approach this inequitable situation.”
Cadarnhaodd y Prif Weinidog yn ddiweddarach ar 4ydd Chwefror 2014 mai dim ond £10m fyddai polisi o’r fath yn gostio. (bit.ly/1zCGKKz)
Rhoi rheolaeth llawn dros ddwr hyd at y ffin gyda Lloegr i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (Mesur Cymru), 06/01/14
Ymatal wnaethom ni. Pleidleisiodd Plaid Cymru o blaid. (bit.ly/1s1N3BD)
Atal mwy o doriadau gwariant cyhoeddus a sefydlu comisiwn i archwilio effeithiau llymder,11/02/14
Ymatal wnaethom ni. Pleidleisiodd Plaid Cymru o blaid. (bit.ly/1z1ilyu)
Dadl Cynulliad ar y Bil Gwasanaethau Cyhoeddus: Gwahardd Cytundebau Dim Oriau mewn gofal cymdeithasol, 11/02/14
Pleidleisio yn erbyn wnaethom ni. Pleidleisiodd Plaid Cymru o blaid. (bit.ly/1xhOP2K)
Cap Cyllideb Lles, 26/03/14
Pleidleisio o blaid wnaethom ni. Pleidleisiodd Plaid Cymru yn erbyn. (bit.ly/1z1fHZy)
Maniffesto Llafur
Hyrwyddwyd gan / Promoted by: Plaid Cymru, Tŷ Gwynfor, Llys Anson, Caerdydd/Cardiff ar ran Plaid Cymru
Datganoli Treth Teithwyr Awyr i Gymru (Mesur Cyllid), 09/04/14
Ymatal wnaethom ni. Pleidleisiodd Plaid Cymru o blaid. (bit.ly/1yvBt7Z)
HS2 heb unrhyw warant o gyllido teg i Gymru mewn blynyddoedd canlynol am ei fod wedi ei nodi’n brosiect i’r DG gyfan, 28/04/14
Pleidleisio o blaid wnaethom ni. Pleidleisiodd Plaid Cymru yn erbyn. (bit.ly/1FTbqYm)
Tynnu’r cyfyngiad “lockstep” o bwerau treth incwm i Gymru (Mesur Cymru), 30/04/14
Atal pleidlais wnaethom ni. Pleidleisiodd Plaid Cymru o blaid. (bit.ly/1tYaY4J)
Rhoi’r grym i Lywodraeth Cymru allu rhoi bondiau ariannol (Mesur Cymru), 06/05/14
Atal pleidlais wnaethom ni. Pleidleisiodd Plaid Cymru o blaid. (bit.ly/1vn1H6p)
Cyllido Cymru ar sail angen (Mesur Cymru), 06/05/14
Atal pleidlais wnaethom ni. Pleidleisiodd Plaid Cymru o blaid. (bit.ly/1FT9WgN)
Dadl Cynulliad: stopio “Llwybr Du” £1bn yr M4 ar sail gwerth am arian, 18/06/14
Pleidleisio yn erbyn, gyda’r Toriaid, wnaethom ni. Pleidleisiodd Plaid Cymru o blaid. (bit.ly/1xhQc1B)
Caniatau Llywodraeth Cymru i osod ei blaenoriaethau gwariant isadeiledd ei hun ar gyfer benthyca (Mesur Cymru), 24/06/14
Atal pleidlais wnaethom ni. Pleidleisiodd Plaid Cymru o blaid. (bit.ly/1vVFbqn)
Dal data unigolion (Snoopers’ Charter), 15/07/14
Pleidleisio o blaid wnaethom ni. Pleidleisiodd Plaid Cymru yn erbyn. (bit.ly/1yTsxYW)
Moratoriwm ar Ffracio, 26/01/15
Atal pleidlais wnaethom ni. Pleidleisiodd Plaid Cymru o blaid. (bit.ly/16zLneL)
Yn ddiweddarach sicrhaodd Blaid Cymru gefnogaeth mwyafrif yn y Cynulliad o blaid moratoriwm Cymreig ar ffracio – ond mae’r pwerau yn parhau yn nwylio San Steffan.
“What happens in Westminsterhappens in Westminster.”
Y “Siarter dros Gyfrifoldeb Cyllideb”, 13/01/15Pleidleisio o blaid y siarter llymder gyda’r Toriaid wnaethom ni. Pleidleisiodd Plaid Cymru yn erbyn. (bit.ly/1AsICsa)Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:“Wha
t happens in Westminster happens in Westminster.”Hyrwyddwyd gan / Promoted by: Plaid Cymru, Tŷ Gwynfor, Llys Anson, Caerdydd/Cardiff ar ran Plaid Cymru