MAE DIOGELWCH BWYD YN FUSNES I BAWB · 2020. 10. 6. · mae’n siwr, aceri helaeth o dir aniai...

8
Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 41 Hydref 8, 2020 50c. MAE DIOGELWCH BWYD YN FUSNES I BAWB Cynhelir Diwrnod Bwyd y Byd bob blwyddyn ar 16 Hydref, ac mae’n nodi dyddiad ffurfio Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig yn 1945. Bellach mae mwy na 150 o wledydd yn trefnu gweithgareddau ar y diwrnod ac mae nifer o sefydliadau a mudiadau sy’n ymdrechu i sicrhau diogelwch bwyd, gan gynnwys Rhaglen Bwyd y Byd a’r Gronfa Ryngwladol dros Ddatblygiad Amaethyddol yn cefnogi’r diwrnod. Yr egwyddor a fu’n sylfaenol i’r diwrnod o’r dechrau yw nad braint i’r ychydig yn unig yw bwyd, ond hawl sylfaenol i bawb, a nod Diwrnod Bwyd y Byd yw rhyddhau dynoliaeth o newyn a diffyg maeth drwy sicrhau system fwyd byd- eang y gall bawb elwa ohoni. ‘Rhowch chi rywbeth i’w fwyta iddyn nhw,’ oedd cais Iesu i’w ddisgyblion wrth wynebu torf o filoedd oedd eisiau bwyd. Eu hymateb hwy oedd dweud nad oedd ganddyn nhw’r adnoddau i wneud hynny. Go brin y gallwn ni heddiw ddefnyddio’r un esgus. Digonedd Mae’r blaned yn cynhyrchu digon o fwyd i fwydo pob person sy’n byw arni, ond mae 20% ohono’n cael ei golli neu wastraffu’n flynyddol, gyda’r rhan helaethaf o hynny’n digwydd yn y gwledydd cyfoethog. Wyneb yn wyneb â hynny amcangyfrifir bod bron i 700 miliwn (tua 1 ymhob 9 o boblogaeth y blaned) yn dioddef o newyn affwysol. Os ychwanegwn ni’r bobl sy’n dioddef o ddiffyg maeth mae’r ffigwr yn codi i 2 biliwn, ac os cynhwysir y rhai sy’n methu fforddio diet iach rydym yn sôn am 3 biliwn. Blynyddoedd hesb Dros y blynyddoedd diwethaf gwelwyd plâu o locustiaid yn difa cnydau yn Nwyrain Affrica a De America, gan ychwanegu at yr ansicrwydd bwyd a achosir gan newid hinsawdd, rhyfel a gwrthdaro ac arafu economaidd. Bellach gellir ychwanegu Covid-19 at y rhestr. Mae Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif y gall hyd at 130 o filiynau ychwanegol ddioddef ansicrwydd bwyd o ganlyniad uniongyrchol i’r pandemig diweddar. Bu’r misoedd diwethaf o dan glo yn gyfle i lawer ohonom feddwl am yr hyn sy’n wirioneddol bwysig ac yn annwyl i ni, ynghyd â sylweddoli beth yw ein hanghenion sylfaenol. Efallai i ni hefyd ddod i werthfawrogi’r hyn a gymerir mor ganiatol gennym, sef bwyd. Bara’r Bywyd Does dim syndod bod Iesu wedi disgrifio ei hun fel Bara’r Bywyd. Mae bwyd yn un o hanfodion bywyd ac yn sylfaenol i bob cymuned a diwylliant dynol. Eto mae sicrhau’r peth hanfodol a sylfaenol yma yn frwydr enbyd i gymaint o bobl yn ein byd heddiw. ‘Mae diogelwch bwyd yn fusnes i bawb’ yw thema Diwrnod Bwyd y Byd eleni, ac mae gan bob un ohonom ein rhan i’w chwarae ynddo. • Gall pob un ohonom godi llais dros y rhai sy’n dioddef newyn a diffyg maeth. • Gall pob un ohonom godi ymwybyddiaeth am y diffyg cydbwysedd sydd wrth wraidd ein systemau bwyd. • Gall pob un ohonom fwyta yn fwy ystyriol a gwneud y dewisiadau sy’n ecolegol gynaliadwy. • Gall pob un ohonom gefnogi ein banc bwyd lleol. • Gall pob un ohonom brynu ein bwyd yn lleol a chefnogi’r ffermydd teuluol. • Gall pob un ohonom gefnogi’r mudiadau a’r elusennau sy’n gweithio i ddileu newyn a diffyg maeth. Tymor Diolchgarwch Eleni mae am fod yn anodd i ddathlu Diolchgarwch yn gynulleidfaol ac i rannu nwyddau a bwydydd y byddwn fel arfer yn eu casglu fel eglwysi. Ond dyma syniad i chi. Beth am i chi roi eich nwyddau Diolchgarwch i’r banc bwyd lleol? Neu beth am wneud casgliad bwyd arbennig ymhlith yr aelodau gan gasglu nwyddau o dŷ i dŷ. Mae bodolaeth y banciau bwyd yn gywilydd mawr arnom ni yng ngwledydd Prydain ac fe adlewyrchant y caledi dybryd y mae cymaint o deuluoedd yn ei wynebu ar hyn o bryd oherwydd diweithdra, anigonolrwydd budd-daliadau a chyflogau gwael. Felly diolch am y banciau bwyd. Mae’n gywilydd hefyd ar ein llywodraethau eu bod yn caniatáu i’r Banciau Bwyd lenwi bwlch sy’n deillio o’u haneffeithlonrwydd hwy i fynd i’r afael o ddifrif â thlodi gan chwarae plant gyda phethau eilradd. Petai’r ewyllys gan ein gwleidyddion i weithredu yn egnïol yn erbyn tlodi, gallent wneud gwahaniaeth mawr i’r sefyllfa. Dywed y Trussell Trust eu bod wedi dosbarthu 1.9 miliwn o becynnau bwyd, yng ngwledydd Prydain yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, 134,646 o’r rhai hynny yng Nghymru. Pecynnau tridiau yw y rhain sydd yn helpu pobl i ymdopi mewn argyfyngau. Yn ystod y 5 mlynedd diwethaf mae’r defnydd o fanciau bwyd wedi cynnyddu 74%. Yng Ngorffennaf 2019 roedd 111 o fanciau bwyd yng Nghymru. Beth amdani? Mae’r angen yn fawr. parhad ar dudalen 2

Transcript of MAE DIOGELWCH BWYD YN FUSNES I BAWB · 2020. 10. 6. · mae’n siwr, aceri helaeth o dir aniai...

Page 1: MAE DIOGELWCH BWYD YN FUSNES I BAWB · 2020. 10. 6. · mae’n siwr, aceri helaeth o dir aniai gwael yn Bangladesh, gwlad sy’n brin iawn o dir, sy’n dwyn yr enw annisgwyl. Ac

Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 41 Hydref 8, 2020 50c.

MAE DIOGELWCH BWYD YN FUSNES I BAWBCynhelir Diwrnod Bwyd y Byd bob blwyddyn ar 16 Hydref, ac mae’n nodi dyddiad ffurfio Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig yn 1945.

Bellach mae mwy na 150 o wledydd yn trefnu gweithgareddau ar y diwrnod ac mae nifer o sefydliadau a mudiadau sy’n ymdrechu i sicrhau diogelwch bwyd, gan gynnwys Rhaglen Bwyd y Byd a’r Gronfa Ryngwladol dros Ddatblygiad Amaethyddol yn cefnogi’r diwrnod. Yr egwyddor a fu’n sylfaenol i’r diwrnod

o’r dechrau yw nad braint i’r ychydig yn unig yw bwyd, ond hawl sylfaenol i bawb, a nod Diwrnod Bwyd y Byd yw rhyddhau dynoliaeth o newyn a diffyg maeth drwy sicrhau system fwyd byd-eang y gall bawb elwa ohoni. ‘Rhowch chi rywbeth i’w fwyta iddyn nhw,’ oedd cais Iesu i’w ddisgyblion wrth wynebu torf o filoedd oedd eisiau bwyd. Eu hymateb hwy oedd dweud nad oedd ganddyn nhw’r adnoddau i wneud hynny. Go brin y gallwn ni heddiw ddefnyddio’r un esgus.

Digonedd

Mae’r blaned yn cynhyrchu digon o fwyd i fwydo pob person sy’n byw arni, ond mae 20% ohono’n cael ei golli neu wastraffu’n flynyddol, gyda’r rhan helaethaf o hynny’n digwydd yn y gwledydd cyfoethog. Wyneb yn wyneb â hynny amcangyfrifir bod bron i 700 miliwn (tua 1 ymhob 9 o boblogaeth y blaned) yn dioddef o newyn affwysol. Os ychwanegwn ni’r bobl sy’n dioddef o ddiffyg maeth mae’r ffigwr yn codi i 2 biliwn, ac os cynhwysir y rhai sy’n methu fforddio diet iach rydym yn sôn am 3 biliwn.

Blynyddoedd hesb

Dros y blynyddoedd diwethaf gwelwyd plâu o locustiaid yn difa cnydau yn Nwyrain Affrica a De America, gan ychwanegu at yr ansicrwydd bwyd a achosir gan newid hinsawdd, rhyfel a gwrthdaro ac arafu economaidd. Bellach gellir ychwanegu Covid-19 at y rhestr. Mae Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif y gall hyd at 130 o filiynau ychwanegol ddioddef ansicrwydd bwyd o ganlyniad uniongyrchol i’r pandemig diweddar. Bu’r misoedd diwethaf o dan glo yn gyfle i lawer ohonom feddwl am yr hyn sy’n wirioneddol bwysig ac yn annwyl i ni, ynghyd â sylweddoli beth yw ein hanghenion sylfaenol. Efallai i ni hefyd ddod i werthfawrogi’r hyn a gymerir mor ganiatol gennym, sef bwyd.

Bara’r Bywyd

Does dim syndod bod Iesu wedi disgrifio ei hun fel Bara’r Bywyd. Mae bwyd yn un o hanfodion bywyd ac yn sylfaenol i bob cymuned a diwylliant dynol. Eto mae sicrhau’r peth hanfodol a sylfaenol yma yn frwydr enbyd i gymaint o bobl yn ein byd heddiw.

‘Mae diogelwch bwyd yn fusnes i bawb’ yw thema Diwrnod Bwyd y Byd eleni, ac mae gan bob un ohonom ein rhan i’w chwarae ynddo.

• Gall pob un ohonom godi llais dros y rhai sy’n dioddef newyn a diffyg maeth.

• Gall pob un ohonom godi ymwybyddiaeth am y diffyg cydbwysedd sydd wrth wraidd ein systemau bwyd.

• Gall pob un ohonom fwyta yn fwy ystyriol a gwneud y dewisiadau sy’n ecolegol gynaliadwy.

• Gall pob un ohonom gefnogi ein banc bwyd lleol.

• Gall pob un ohonom brynu ein bwyd yn lleol a chefnogi’r ffermydd teuluol.

• Gall pob un ohonom gefnogi’r mudiadau a’r elusennau sy’n gweithio i ddileu newyn a diffyg maeth.

Tymor Diolchgarwch

Eleni mae am fod yn anodd i ddathlu Diolchgarwch yn gynulleidfaol ac i rannu nwyddau a bwydydd y byddwn fel arfer yn eu casglu fel eglwysi. Ond dyma syniad i chi. Beth am i chi roi eich nwyddau Diolchgarwch i’r banc bwyd lleol? Neu beth am wneud casgliad bwyd arbennig ymhlith yr aelodau gan gasglu nwyddau o dŷ i dŷ. Mae bodolaeth y banciau bwyd yn gywilydd mawr arnom ni yng ngwledydd Prydain ac fe adlewyrchant y caledi dybryd y mae cymaint o deuluoedd yn ei wynebu ar hyn o bryd oherwydd diweithdra, anigonolrwydd budd-daliadau a chyflogau gwael. Felly diolch am y banciau bwyd. Mae’n gywilydd hefyd ar ein llywodraethau eu bod yn caniatáu i’r Banciau Bwyd lenwi bwlch sy’n deillio o’u haneffeithlonrwydd hwy i fynd i’r afael o ddifrif â thlodi gan chwarae plant gyda phethau eilradd. Petai’r ewyllys gan ein gwleidyddion i weithredu yn egnïol yn erbyn tlodi, gallent wneud gwahaniaeth mawr i’r sefyllfa.

Dywed y Trussell Trust eu bod wedi dosbarthu 1.9 miliwn o becynnau bwyd, yng ngwledydd Prydain yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, 134,646 o’r rhai hynny yng Nghymru. Pecynnau tridiau yw y rhain sydd yn helpu pobl i ymdopi mewn argyfyngau. Yn ystod y 5 mlynedd diwethaf mae’r defnydd o fanciau bwyd wedi cynnyddu 74%. Yng Ngorffennaf 2019 roedd 111 o fanciau bwyd yng Nghymru.

Beth amdani? Mae’r angen yn fawr.parhad ar dudalen 2

Page 2: MAE DIOGELWCH BWYD YN FUSNES I BAWB · 2020. 10. 6. · mae’n siwr, aceri helaeth o dir aniai gwael yn Bangladesh, gwlad sy’n brin iawn o dir, sy’n dwyn yr enw annisgwyl. Ac

tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Hydref 8, 2020Y TYST

GWEDDÏWN

Dduw’r Creawdwr, cymell ni i weithio gyda Thi i greu byd lle gall pawb fwynhau ffynonellau digonol o fwyd iach a chynaliadwy, a neb yn gorfod byw gyda phrinder nac ansicrwydd bwyd.

Dduw’r Gwaredwr, achub ni rhag systemau gormesol ac anghyfiawn sy’n cael eu cynnal yn enw elw a ffyniant materol. Ysbrydola ni i fod yn rhan o ymateb byd-eang fydd yn rhannu adnoddau’n byd yn deg, ac arwain ni i geisio partneriaeth gyda phob un sy’n rhannu’r weledigaeth o fyd cyfartal a chyfiawn.

Dduw’r Cynhaliwr, nertha ni i gynnal ein gilydd gan helpu ein brodyr a’n chwiorydd ar draws y byd i greu cymunedau mwy gwydn a chynaliadwy fydd yn gwarchod adnoddau naturiol ein daear, yn hybu iechyd ac yn gofalu am yr hinsawdd.

Dduw’r Ysbryd ehangu ein dychymyg, er mwyn i ni allu darganfod ffyrdd newydd a blaengar o gryfhau ein systemau bwyd, sicrhau bwydydd iach, fforddiadwy a chynaliadwy i bawb a chael gwared o newyn a diffyg maeth unwaith ac am byth

Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist yr un a’n dysgodd i weddïo am ddigon o fwyd i’n cadw’n fyw heddiw, maddau ein hunanoldeb a’n trachwant, ein ffyrdd barus a gwastraffus, a’n dihidrwydd am dynged y newynog a’r bregus. Helpa ni i edifarhau a newid ein ffyrdd a gweithio i wireddu addewid Iesu o fywyd yn ei holl gyflawnder i bawb.

Amen.

MAE DIOGELWCH BWYD YN FUSNES I BAWB – parhad

Na, nid marchnad yn Lloegr yn gwerthu trugareddau o bob math yw Cox’s Bazar, Fel y gŵyr llawer o darllenwyr Y Tyst mae’n siwr, aceri helaeth o dir aniai gwael yn Bangladesh, gwlad sy’n brin iawn o dir, sy’n dwyn yr enw annisgwyl. Ac yno ers sawl blwyddyn bellach mae Gwersyll Ffoaduriaid enfawr sydd erbyn hyn yn llanw’r anialdir yn gyfan. Amcangyfrifir fod oddeutu 800 o filoedd yn trigo yno, y mwyafrif yn blant a phobl ifanc. Mae’r nifer helaethaf ohonynt wedi dianc o wlad eu genedigaeth Myanamar (Bwrma gynt), lle erlidiwyd hwy yn greulon a difa eu cartrefi gan fyddin y llywodraeth. Adweinir hwy fel pobl ethnig y Royhingya, ac maent wedi dioddef llawer.

Y Coronafeirws

Gellwch ddychmygu’r ofn sydd yn y gwersyll hwn, a’r llu gwersylloedd ffoaduriaid eraill, yn wynebu Coronafeirws Covid-19. Tra bod gennym ni’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yn gefn, a chartrefi cysurus i ynysu ynddynt, pebyll brau sydd gan y mwyafrif a ffoaduriaid ar y gorau, a sut yn y byd y mae ynysu gyda nifer fawr yn cwato mewn pabell, a dŵr glân poeth i ymolchi dwylo yn hynod o brin?

Trwy drugaredd, y mae amryw o’r elusennau dyngarol megis Cronfa Achub y Plant Cymorth Cristnogol, Oxfam, Tear Fund a Chomisiwn Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig (UNHCR) yn cyflawni tasg amhosibl yn wyrthiol yn Cox’s Bazar a mannau tebyg i ddiogelu’r trigolion rhag Covid 19 trwy’r canolfannau meddygol a sefydlwyd ganddynt. Ond yn llenyddiaeth ddiweddaraf Comisiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ffoaduriaid (UNHCR) y mae newyddion da arall i’w gyhoeddi a diolch amdano.

Cant o ysgolion newydd

Bellach, y mae cant o ysgolion newydd o bren, sy’n gyfystyr â 300 o ystafelloedd dosbarth ar gael i blant ac ieuenctid tlawd a difreintiedig Cox’s Bazar. Gwireddwyd breuddwyd Comisiwn y Cenhedloedd Unedig i

ddarparu cyfle i ragor nag erioed o blant y gwersyll gael addysg. Dyma fydd ysgol gyntaf llu mawr o’r plant sydd wedi eu gwefreiddio gan eu profiadau newydd. Mae peryglon y firws wedi golygu cau’r ysgolion am gyfnod, fel yma yng Nghymru, a’r plant yno yn eiddgar i ddychwelyd i’w dosbarthiadau. Mae’r athrawon sydd ar gael yn llafurio’n galed, gan fod eu nifer hyd yma yn llai na’r angen, ond fe’u calonogir gan frwdfrydedd y plant.

Prydferthwch o ganol hagrwch

Daeth adroddiad diddorol gan Amirul Mumeen, un o’r athrawon, yntau fel y plant wedi dioddef yn Myanamar, a gweld cartrefi ei bentref yn llosgi’n ulw wrth iddo ef a’i deulu ddianc oddi yno. Sonia am yr hwyl a’r chwerthin a’r difrifoldeb hefyd ymysg y plant, ac anfonodd ddarlun o aderyn prydferth a liwiodd merch fach o’r enw Asma yn y dosbarth arlunio. Gwelodd Asma erchyllterau mawr, awyrennau uwchben a bomiau yn disgyn a difetha adeiladau a lladd dynion a merched a phlant. Golygfeydd trist a chreulon a welsant a ddarlunir yn aml gan y plant. Ond yn niogelwch yr ysgol a’i hapusrwydd yno, prydferthwch a sŵn cân aderyn aeth â’i bryd.

Yn ’o fuan bydd y cant o ysgolion newydd a’u tri chant o ystafelloedd yn cael eu defnyddio fore, prynhawn a chyda’r nos – tri shifft a hanner cant ymhob un, yn cael addysg ac ehangu eu gorwelion a magu gobeithion personol am eu dyfodol. Dewch i ni eu cofio yn ein gweddïau.

Derwyn Morris Jones

Dyma’r drawing a liwiodd Asma o aderyn prydferth. Fe’i trysoraf fel anrheg i mi gan ferch fach yn byw

yn Cox’s Bazar, Bangladesh

Beth sy’n digwydd yn COX’S BAZAR?

Page 3: MAE DIOGELWCH BWYD YN FUSNES I BAWB · 2020. 10. 6. · mae’n siwr, aceri helaeth o dir aniai gwael yn Bangladesh, gwlad sy’n brin iawn o dir, sy’n dwyn yr enw annisgwyl. Ac

Gwers 14

Thomas yr Amheuwr

Gweddi Wrth gofio’r elfen o amheuaeth mewnwythnos ym mywyd Thomas, dyro i nifedru ddarganfod y gobaith y byddi di’ndrech na phob amheuaeth ynom ac sy’nrhan o fywydau cynifer yn eincymunedau heddiw. Boed i bawb sy’namau glywed y gwahoddiad iymestyn allan at Grist a darganfodffydd. Amen.

Darllen:Ioan 11:16; Ioan 14:20; Ioan 20: 24–9

CyflwyniadYstyr enw Thomas yw bod yn efaill, ernid oes enwi’r brawd arall. Ar wahâni’w nodi fel un o ddisgyblion Iesu ac yndod o ardal Galilea, dim ond trichyfeiriad arall sydd ato yn yrefengylau. Ar ddiwedd yr adroddiad amatgyfodiad Lasarus, dywedodd Thomasy byddai’n barod i farw gyda Iesu pe bairaid; ac yn yr hanes am Iesu’n paratoi’rdisgyblion am fywyd ar ôl ei farw ef eihun, Thomas sy’n ymateb i osodiadIesu, “Fe wyddoch y ffordd i’r lle’rwyf fi’n mynd …” drwy ddweud,“Arglwydd, ni wyddom i ble’r wyt ynmynd. Sut y gallwn wybod y ffordd?”Ef yw’r disgybl nad oedd yn bresennoly tro cyntaf i’r Iesu fod gyda’iddisgyblion yn yr ystafell gloëdigddydd yr Atgyfodiad a gwrthododdgredu nes iddo ef weld “ôl yr hoelion ynei ddwylo, a rhoi fy mys yn ôl yrhoelion, a’m llaw yn ei ystlys”.

Yn y cyntaf o’r tri chyfeiriad ato ynEfengyl Ioan, mae’n hyderus ei anian(11:16), ond yn yr ail gyfeiriad mae’ndangos mesur o ansicrwydd drwy ofynsut y gall ef wybod y ffordd (Ioan 14).Erbyn Ioan 20, sef hanes yrymddangosiad wythnos wedi dydd yrAtgyfodiad, ceir portread ohono fel unsydd wedi ymbellhau o gwmni’rdisgyblion eraill ac angen tystiolaethweledol. Dim ond wrth weld y clwyfaudrosto’i hun y llwyddodd i wneud eigyffes. Honnir iddo gael ei ferthyru arFynydd Sant Thomas ger tref Chennaiyn ne India yn 72 OC. Enw arall ar y

dref hon yw Madras – canolfan dysg adiwylliant bwysig yn y dalaith. Cafoddfyw am ddeugain mlynedd yn tystio i’w“Arglwydd a’i Dduw”, cyn wynebu’rmerthyrdod terfynol.

MyfyrdodWrth i Ioan enwi Thomas deirgwaith,rhydd i’r darllenwyr cyntaf ddarlun o una ddangosodd frwdfrydedd arbennig iwynebu marwolaeth yng nghwmni Iesu,ond a ddangosodd ansicrwydd ynddiweddarach ar y daith – stori nidannhebyg i Pedr yn gwadu Iesu. Eto,daeth Thomas yn un o genhadonymroddedig yr Eglwys Fore gan fywam ddeng mlynedd ar hugain felarweinydd ac apostol mewn ardal cynbelled â de India. Digon posibl y byddaiamryw o blith yr ail genhedlaeth oGristnogion a fyddai wedi cael braw arôl gweld Jerwsalem yn syrthio (70 OC)a dechrau erledigaeth yr eglwys. Wrth iIoan rannu brasluniau o Thomas,byddai wedi calonogi’r amheuwyr yn yreglwys yn 90 OC gan bwysleisiobod “gwynfyd i’r sawl a gredoddheb iddynt weld”. Roedd Thomasyn enghraifft o amheuwr a gafodddröedigaeth arall.

Bydd amheuwyr ym mhob cyfnod achymuned, a’r unig ateb iddynt hwy ywedrych ar glwyfau Iesu a sylweddolibod yr hwn a laddwyd ac a gladdwydeto’n fyw. Nid rhith oedd hanes Iesuond gwirionedd, ac mae mor wir apherthnasol nawr ag erioed. Byddgwahoddiad Iesu i bawb ohonom i estynbys a llaw, a chael ein herio i gredu neuwrthod credu, i ddilyn neu gefnu.Byddwn yn gyfarwydd gyda llawer offrindiau a chydnabod sy’n amheuwyrac eraill sy’n anghredinwyr. Y cyfan ygallwn ei wneud yw rhannu einprofiadau personol ni a’u hannog ynweddigar i fentro drwy wahodd Iesu i’wbywyd. “Lle roeddwn gynt yn ddall,rwy’n gweld yn awr” yw profiad llawerohonom, a hynny drwy ras Duw ynunig. Maddeuwyd i Thomas am gadwdraw, a chafodd ei groesawu yn ôl i’rgymuned. Boed i’r amheuwyr heddiwdeimlo’r un croeso wrth ailystyried euhymateb i’r hwn sy’n ein gwahodd iedrych ar y clwyfau. Her pob eglwysyw darganfod llwyfan i sgwrsio â’r sawl

sydd eto i gredu neu sydd wedicolli ffydd, a gwrando’n deg ar euprofiad.

Gweddi Diolch i ti, nefol Dad, am dy amyneddyn dy ymwneud â ni. Byddwn yn gosodamodau i’n credu weithiau fel pebyddem yn gosod telerau hunanol.Maddau i ni ein hagweddau rhyfedd.Diolch am glywed rhan o hanesThomas, ac am ei deyrngarwch i ti amddeugain mlynedd wedi’r Pasg cyntaf.Helpa ni i fod yn dystion morymroddedig ag ef, ac yntau’n bywmewn cyfnod mor heriol. Amen.

Trafod ac ymateb:

• Pam y credwch fod Ioan wedi rhoiinni frasluniau o Thomas fel un oeddwedi dangos ansicrwydd wrth ddilynIesu?

• A oes raid wrth gred gadarn a diysgoger mwyn bod ymhlith ei ddisgyblion?

• Beth yw ffydd (gweler Hebreaid11:1)?

• A oes cysur inni bod hyd yn oed yMethodistiaid cynnar yn sôn amfrwydro yn erbyn anghrediniaeth acamheuon? Gweler emyn DafyddWilliam: ‘Anghrediniaeth, gad fi’nllonydd …’ (Caneuon Ffydd, 729)

Hydref 8, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 3Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Sul, 11 Hydref

Dechrau Canu Dechrau Canmolnos Sul, am 7:30yh

Yr wythnos yma, bydd Ryland ymMhontypridd yn clywed sut mae’r tada’r mab, Martyn a Meilyr Geraint, ynateb y galw am fiwsig ysbrydolmodern. A bydd yn cwrdd â CathWoolridge i weld sut mae hi’ndefnyddio grym cerddoriaeth iledaenu’r efengyl. Cawn hefyd oedfa ânaws ychydig mwy modern o Theatr yFfwrnes, Llanelli, o dan arweiniadRhodri Darcy.––––––––––––––––––––––––––––––

Oedfa Radio Cymru11 Hydref am 12:00yp

yng ngofalMorris Pugh Morris, Rhuthun

Adnabod Cymeriadau’r Testament Newydd –Yr Efengylau

Cyfres o astudiaethau Beiblaidd ar gyfer y cartref neu grfipgan y Parch. Denzil I. John

Mae testun a chyflwyniad fideo o’r deunydd hwn ar gael ar wefany Cyngor Ysgolion Sul: https://www.ysgolsul.com/?page_id=804

Page 4: MAE DIOGELWCH BWYD YN FUSNES I BAWB · 2020. 10. 6. · mae’n siwr, aceri helaeth o dir aniai gwael yn Bangladesh, gwlad sy’n brin iawn o dir, sy’n dwyn yr enw annisgwyl. Ac

“Fydd dim teulu estynedig yn dathluYom Kippur gyda ni eleni,” meddSarah Liss.

“Bydd Yom Kippur yn fiyl gwblwahanol i fi eleni,” medd SarahLiss, cyn-ddisgybl yn Ysgol GyfunPlasmawr, Caerdydd, sydd bellach ynbyw yn Jerwsalem. “Fel Iddewes, dwiwrth fy modd gyda gwyliau sanctaiddRosh Hashanah a Yom Kippur – un ynnodi’r flwyddyn newydd Iddewig a’rllall yn ddydd y cymod, diwrnod lle ry’nni fel arfer yn gweddïo mewn synagogyn gofyn am faddeuant.”

Ond i Iddewon fel Sarah Liss,mae eleni yn gwbl wahanolwrth i Brif Weinidog Israel,Benjamin Netanyahu, osodcyfyngiadau pellach ar y wladyn sgil mwy o achosion oCovid-19. Mae nifer wedi bodyn protestio yn erbyncyfyngiadau llymach ac wedibod yn gwneud hwyl am ben ygwleidyddion. Israel syddbellach â’r mwyaf o achosion ypen nag unrhyw wlad arall yn ybyd.

“Fel arfer ry’n ni’n treulio’rdiwrnod yn y synagog ar fiylYom Kippur,” meddai Sarah. “Ynoson cynt bydden ni’n caelpryd mawr gyda’n teuluoeddcyn i ni orfod ymprydio. Eleni roeddYom Kippur yn dechrau ar fachlud haulnos Sul (Medi 27) ac yn dod i ben arfachlud haul nos Lun (Medi 28). Yndraddodiadol mae’n ddiwrnod arbennigiawn – pawb yn bwyta cawl cyw iâr adigon o carbohydrates ar y noson cynti’n cynnal gydol y diwrnod.

“Mae’r diwrnod yn gyfle i rywunfyfyrio ar yr hyn y mae e’n bersonolwedi ei wneud gydol y flwyddyn, cyflei feddwl beth y dylid fod wedi ei wneudyn well a chyfle i ofyn am faddeuant.Mae e wir yn ddechrau newydd ac maerhywun yn teimlo’n bur a glân.

“Rhaid gwisgo gwyn fel angylion – adoes dim hawl i wisgo lledr. Yn wir,does dim hawl i wneud dim byd – maeunrhyw weithred gorfforol yn dodrhyngom ni a Duw. Mae yna ychydig obreaks oherwydd, fel arfer, ry’n ni yn ysynagog drwy’r dydd ond mae pethauyn wahanol iawn eleni.”

Bellach mae nifer o’r synagogau ynIsrael wedi cau, a dim ond rhyw 20 obobl sy’n cael dod at ei gilydd yn yrawyr agored. Dyw pobl chwaith ddim

yn cael teithio yn bell o’u cartrefi.“Y tebyg yw y bydd y rhan fwyaf o boblfel fi yn addoli yn yr awyr agored, ondmae cyfyngiadau a does dim hawl iwahodd teulu estynedig i’r cartref,”ychwanegodd Sarah.

‘Cwympo mewn cariad â’r wlad’

Cafodd Sarah ei magu yn Nhregannayng Nghaerdydd, ac wedi gadael YsgolPlasmawr aeth ar ei blwyddyn gap i fywyn Jerwsalem. Mae ei rhieni yn parhau ifyw yng Nghymru.

“Pan ro’wn yn byw yng Nghaerdydd,arferwn addoli yn y synagog yngNghyn-coed,” meddai, “ond gan bo’ fiddim wedi mynd i ysgol Iddewigroeddwn i’n teimlo bo’ fi angen gwybodmwy am Iddewiaeth. Roeddwn ieisiau gwybod mwy am y Torah – yBeibl Iddewig – a byw’r bywydIddewig.

“Pan es i am flwyddyn i Israel, doeddhi ddim yn fwriad gen i aros ond ’nes iwir gwympo mewn cariad â’r wlad aphenderfynu byw yma. Wedi’rflwyddyn gap pan ddysgais i Hebraeg,es i astudio optometreg. Dwi bellachyn briod ac mae gennym un bachgenac mae babi arall ar y ffordd ymhendeufis.

“Ar ôl i fi ddod draw fe ddaeth fy nauefaill (sef fy mrawd a chwaer, Joshua aMalka) draw, ac maen nhw hefyd wediaros yma. Dwi’n colli Caerdydd ac yncaru Cymru ond Israel yw’n cartref nifel Iddewon, ac yn amlwg mae’n hawsbod yn Iddew yma nag yngNghymru. Mae’r gwyliau Iddewig ynrhan o’r bywyd bob dydd a bwydkosher.”

Cacen fêl i gael blwyddyn well

Mae Sarah yn dweud bod ei ffrindiauyng Nghymru yn gofyn yn aml iddi amddiogelwch Jerwsalem ond dywed nadyw hi erioed wedi cael trafferth.

“A dweud y gwir, rwy’n teimlo’n fwysaff yma nag yr oeddwn mewn rhannauo Gaerdydd ond mae ’na lefydd, wrthgwrs, ry’n yn cael ein cynghori i beidiomynd iddynt. Mae rhywun ynymwybodol o wleidyddiaeth Israel onder bo’ ni’n cael tipyn o etholiadau, dydwi byth yn siarad am faterion

gwleidyddol. Yn yr ysbyty lledwi’n gweithio, ni’n checko ayw person yn Israeli neu’nPalestinian, ond dyna i gyd rili.Mae fy ffrind gorau i’nBalestiniad.

“Eleni yw un o’r cyfnodauanoddaf i fi fyw yma ynJerwsalem. Mae Covid yngyfnod anodd i ni i gyd. Yn yrysbyty lle rwy’n gweithio mae’rwardiau Covid yn orlawn acry’n ni’n gorfod gweithredu pobmath o fesurau – mwy naChymru, a dweud y gwir.

“Ro’dd Israel yn gwneud yneitha da pan ddaeth y dongyntaf o Covid, ond y tro ymarwy’n meddwl bod y

gwleidyddion wedi bod yn araf iawniawn yn ymateb, ac mae gennym filoeddar filoedd o achosion. Mae’r lockdown ytro hwn wedi bod yn rhy hwyr,”ychwanegodd Sarah. “Ydi, mae’nhynod anodd – mae’r rhan fwyaf o’rsynagogs ar gau ac rydyn ni methugweld ein teulu fel ry’n ni wedi arfer.Gan bo’ fi’n feichiog, dwi ddim yngorfod ymprydio eleni ond dyw e ddimyr amser gorau i gael babi. Rwy’nedrych ymlaen at gael babi arall ondmae’n gyfnod pryderus yn sgil Covid.

“Ro’n i wedi meddwl y byddaipethau wedi gwella erbyn hyn acroeddem ni i gyd yn edrych ymlaen at ygwyliau Iddewig. Ar ddiwrnod RoshHashanah mae’n arferiad gennym nifwyta cacennau mêl i ddymuno amflwyddyn newydd felys; ydyn, ry’n niwir yn gobeithio am gyfnod gwell.”

Sarah Liss oedd yn arwain yroedfa ar Radio Cymru, ddydd Sul,4 Hydref.

Diolch i BBC Cymru Fyw am hawl iatgynhyrchu’r erthygl hon aymddangosodd 29 Medi.

tudalen 4 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Hydref 8, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

‘Un o’r cyfnodau anoddaf i fi fyw ymayn Jerwsalem’

Sarah Liss, ei gfir Eitan, a’u mab, Yonatan

Page 5: MAE DIOGELWCH BWYD YN FUSNES I BAWB · 2020. 10. 6. · mae’n siwr, aceri helaeth o dir aniai gwael yn Bangladesh, gwlad sy’n brin iawn o dir, sy’n dwyn yr enw annisgwyl. Ac

Hydref 8, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 5Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

“Mae tair mil ar ddeg o bobl aoedd eisoes yn byw dan amodauannerbyniol yn awr yn gwblddigartref,” meddai Moritz. “Rydymyn cydymdeimlo efo nhw ac yn eucadw yn ein gweddïau, ac yn gwirobeithio nad oes neb wedi ei anafu’ngorfforol yn ystod y digwyddiadauhyn.”

Ychwanegodd Moritz y dylidsicrhau, yn y man cyntaf, fod poblyn cael eu cartref a bwyd, a’r hynsydd ei angen i fyw bywyd gweddus.“Rydym yn apelio ar lywodraeth GwladGroeg i gefnogi ymdrechion ygymdeithas sifil – gan gynnwys eglwysi– sydd eisoes ar waith, ac yn apelio ar i’rUndeb Ewropeaidd helpu Gwlad Groegyn hynny o beth,” meddai. “Mae’n rhaidhefyd edrych ar y sefyllfa, a chydnabodei bod yn anochel y bydddamweiniau a thrychinebau’ndigwydd yma.”

Bu’r amodau yn y gwersyll mawryma – fel nifer o wersylloedd mawreraill yn Ewrop – yn annioddefol,nododd Moritz. “Felly, dylai hyn fodyn arwydd fod angen rhoi terfyn aryr agwedd yma o gynnig llochesmewn gwersylloedd mawr,” meddai.“Dylai pobl gael eu hadleoli ardraws Ewrop, a chael eu derbyn ynhytrach na’u cadw, gan sicrhau nadydy’r agwedd yma o grynhoi mewngwersylloedd mawr yn dod yn arfergyffredin mewn polisïau llochesu ynEwrop.

“Mae Ewrop yn gyfandir digoncryf i gartrefu, derbyn a chynnigprosesau llochesu teg i bawb sy’ncyrraedd yno,” meddai Moritz wrthgloi. “Stopiwch yr arfer a’r agwedd ymaoherwydd dim ond creu rhagor oddioddefwyr fyddwn ni,” meddai.“Dyna’r neges ar gyfer heddiw.”

Yn ddiweddarach ym mis Medi fegyhoeddodd dwsin o sefydliadaucrefyddol lleol a rhyngwladolddatganiad yn eiriol dros sefyllfamudwyr a ffoaduriaid yn Ewrop. Mae’rdatganiad yn diffinio’u galwad felCristnogion i ‘groesawu’r dieithryn’.

Rhyddhawyd y datganiad cyncyflwyno Cytundeb Mudo newydd yrUndeb Ewropeaidd ar 23 Medi.

Wrth gyfeirio at y tân yng ngwersyll

Moria ar Ynys Lesbos, fe ddywedodd ydeuddeg mudiad crefyddol fod“digwyddiadau noson yr 8fed o Fediyng ngwersyll Moria ac yn y dyddiauoddi ar hynny wedi taflu goleuni arnatur sylfaenol doredig y polisi mudo alloches Ewropeaidd a’r dioddefaint ymae wedi ei achosi”.

Noda’r datganiad fod COVID-19wedi gwneud sefyllfa a oedd yn anodd ifudwyr o ran amgylchiadau bywannynol, yn waeth fyth, “boed hynnyoherwydd glanweithdra annigonol yn yllochesi ffoaduriaid neu’r toriadaudramatig yn y dognau bwyd a chymortharall sydd ar gael iddynt … Maecyfyngiadau cyffredinol ar groesiffiniau gwledydd yn sgil y pandemigwedi cyfyngu ymhellach ar fynediadpobl i lefydd ddiogel. Yn ychwanegol athynny, mae goroesiad economaiddllawer o bobl sy’n mudo, yn ogystal âgoroesiad y rhai sy’n eu lletya, wedi

cael ei beryglu gan gyfnodau clo amesurau cysylltiedig sydd weditaro’r rhai yn y sector anffurfiol ynarbennig o galed, ac wedi caeleffaith anghytbwys ar fenywod a’ubywiolaeth.”

Mae’r sefydliadau crefyddol ynymrwymo i “eiriol am ymateb mwygweddus i dderbyn, diogelu, a gofaluam bobl sy’n symud wrth fudo”.Datgenir bod “eglwysi acasiantaethau eglwysig wedi bod acyn parhau i fod yn flaengar a

gweithredol wrth gynnig croesotosturiol a hyrwyddo cydblethiadcymdeithasol wrth i bobl fyw ynheddychol a chyfiawn gyda’i gilydd yngNgwlad Groeg, yn Ewrop gyfan a thuhwnt”.

Mae’r datganiad hefyd yn mynd i’rafael â’r sgwrs gyhoeddus lle mae“mudwyr a ffoaduriaid yn cael eugweld fel ffocws ar gyfer iaithcasineb (hate speech) yn ycyfryngau cymdeithasol, yn ogystalâ phortreadau gwyrdroëdig yn ycyfryngau sy’n anwybyddu’r ffaithmai bodau dynol yw’r rhain”. Gelwirar y cyfryngau i barchu gwerth dynolmudwyr a ffoaduriaid, sicrhau bodeu straeon yn cael eu hadrodd mewnmodd cytbwys, ymwneud â mudwyra ffoaduriad er mwyn eu galluogii adrodd eu straeon eu hunain,ac osgoi sylwadau negyddol,ystrydebol, triniaeth annheg agorsymleiddio.

“Rydym hefyd yn rhannu’rargyhoeddiad bod yn rhaid iwerthoedd craidd yr UndebEwropeaidd o ran urddas a pharch at

iawnderau dynol gael eu hadlewyrchuyn ei gwleidyddiaeth o ddydd i ddydd,”medd y datganiad.

Am restr o’r rhai a luniodd y datganiadhwn ac i’w weld yn gyfan, cliciwch ar yddolen isod os oes gennych fynediad i’rwe ac yn darllen hwn yn ddigidol:

Darllenwch y datganiad cyfan ar22 Medi yma:<https://www.oikoumene.org/en/resources/documents/general-secretary/joint-declarations/advocacy-statement-on-situation-of-migrants-and-refugees-in-europe/view>

Tân Moria yn rhybudd difrifol yn erbyn agweddEwrop at letya ffoaduriaid mewn un lle

Llun: Marianne Ejdersten/WCC

Mewn cyhoeddiad gan Gyngor Eglwysi’r Bydddechrau Medi, fe fynegodd Dr Torsten Moritz,ysgrifennydd cyffredinol Comisiwn yr Eglwysi ar Fudwyryn Ewrop, ei siom yn sgil y tân sydd wedi difa gwersyll

gorboblog Moria ar Ynys Lesbos gan adael 13,000 ofudwyr yn ddigartref. Galwodd ar Ewrop i roi terfyn,unwaith ac am byth, ar yr arfer o roi llety i fudwyr mewnun lleoliad.

Gwersyll ffoaduriaid Moria, Ynys Lesbos,Gwlad Groeg, Medi 2020

Llun: Lampros Demertzis/WCC

Page 6: MAE DIOGELWCH BWYD YN FUSNES I BAWB · 2020. 10. 6. · mae’n siwr, aceri helaeth o dir aniai gwael yn Bangladesh, gwlad sy’n brin iawn o dir, sy’n dwyn yr enw annisgwyl. Ac

11. GWAITH PLANT/IEUENCTID

Pwy a wna waith plant/ieuenctid? Bethyw gwaith plant/ieuenctid? Pam maeangen gwaith plant/ieuenctid? Sut maegwneud gwaith plant/ieuenctid?

Dyma rai cwestiynau pwysig ynglªn âgwedd hanfodol ar waith yr eglwys. Yndraddodiadol, cysylltir gwaith plant/ieuenctid â’r ysgol Sul. Disgwylid i’rsefydliad hwn wneud y gwaith yma ac fegyfyngid y gwaith i ddydd Sul. Ynddiweddarach sefydlwyd cymdeithasaupobl ifanc o fewn eglwysi yn ystod yrwythnos waith.

Mae’r Beibl yn cyhoeddi gofal achariad Duw tuag at blant/ieuenctid.Bendithiodd Iesu Grist blant ei oes(Mathew 19:13–15). Mae’n parhau â’iweinidogaeth yn ei eglwys trwy’rYsbryd Glân.

Bwriad Iesu Grist yw adeiladu’ieglwys trwy alw pobl o’r byd ato’i hun(Mathew 16:18); ystyr y gair ‘eglwys’yw ‘galw mas’ (Groeg ekklesia). Maehyn yn cynnwys pobl o bob oedran. Maeangen dysgeidiaeth, cymdeithas agweddi (Actau 2:42) yn rhan o fywyd yreglwys.

Mae yna gyfrifoldeb ar yr eglwysgyfan am y plant yn ei mysg. Adegcyflwyno neu fedyddio plentyn, feaddunedwn (fel rhieni ac eglwys) i’wfagu yn y ffydd Gristnogol. Mae hyn yn

golygu gweddïo dros y plentyn, eiddysgu, ei gynghori, ei gyfarwyddo a’igynorthwyo, boed mewn gair neuweithred. Mae pob aelod eglwysig âdawn i’w chyfrannu yng ngwaith yreglwys (1 Corinthiaid 12:7). Mae rhaiwedi’u donio â’r gallu i ddysgu plant achânt gyfle i ddatblygu’r ddawn honwrth iddynt gyfranogi yn y wedd hon arweinidogaeth yr eglwys. Mae gweddillyr eglwys i gynnal breichiau’rgweithwyr mewn gweddi.

Mae gwaith plant/ieuenctid yn golygudysgu’r cyfryw rai am Iesu Grist. YBeibl yw ein prif ffynhonnell yn ygwaith hwn. Ceir amrywiaeth oadnoddau aml-gyfryngol y gellir eudefnyddio i’r gwaith. Mae o gymorth iddilyn maes llafur fel bod yna gyfeiriadi’r gwaith.

Mae angen gwaith plant/ieuenctid felbod y cyfryw rai’n cael y cyfle i ddysgu

am Iesu Grist. Mae’r Beibl yn rhoipwyslais ar gyfarwyddo plant/ieuenctid(Diarhebion 3:1). Y nod yw eu bod yntyfu’n feddyliol, yn gorfforol, ynysbrydol ac yn gymdeithasol (Luc 2:52).Llawenydd yw gweld plant yn prifio’nhapus ac yn aeddfedu’n gyfrifol.

Mae angen gwneud gwaith plant/ieuenctid mewn ffordd berthnasol iddynnhw. O ran canllawiau, gellid dweud:byddwch yn syml, yn glir, yn ddiddorol,yn weladwy, yn glywadwy ac ynddealladwy.

Mae’r Clwb Plant yn un enghraifft o’rbwriad i gyflwyno’r plant i Gristnogaethmewn awyrgylch hwyliog a chyfeillgar.Mae dilyn trefn yn y Clwb Plant ynddefnyddiol, er nad oes angen glynuwrthi’n haearnaidd. Ymhlith ygweithgareddau ceir gêmau, storïau,cwisiau, a gweddi.

Yn y dyddiau hyn lle nad yw’n hawddi rai sy’n gweithio ymhlith plant a phoblifanc fod yn dysgu ac yn arwain ynwyneb y cyfyngiadau sydd ar weithioefo plant a chael mynediad i ysgolion, feddiolchwn am greadigrwydd cymaint oweithwyr plant wrth fynd ati i gyflwynoEfengyl Iesu Grist i’r genhedlaeth iau.Gweddïwn drostynt y bydd yr Arglwyddyn parhau i arwain y gwaith ac i ddangoscyfleon a ffyrdd o fugeilio a hyfforddiein plant ac i gefnogi teuloedd yn enw’rArglwydd Iesu a’i eglwys.

Daeth Iesu o’i gariadi’r ddaear o’r nef,fe’i ganwyd yn fabanym Methlehem dref:mae hanes amdano’n ôl tyfu yn ddynyn derbyn plant bychaini’w freichiau ei hun.

Mae’r Iesu yn derbynplant bychain o hyd:Hosanna i enwGwaredwr y byd!

(Watcyn Wyn)

tudalen 6 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Hydref 8, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

MODDION GRASCyfres yn ystyried beth sy’n angenrheidiol wrth inni barhau

i addoli a gwasanaethu ein Harglwydd Iesu Grist yn y cyfnod hwn.

gan y Parch. PETER H. DAVIES

Gweddi Byw’n SymlDduw trugarog a chariadus,creaist y byd i ni oll ei rannu, byd o

harddwch a digonedd.Crea ynom ddyhead i fyw’n syml,fel y gall ein bywydau adlewyrchu dy

haelioni.Dduw’r Creawdwr, rhoddaist i ni

gyfrifoldeb dros y ddaear,byd llawn cyfoeth a hyfrydwch.Crea ynom ni ddyhead i fyw mewn

modd cynaliadwy, fel y gall y rhaia fydd yn ein dilyn fwynhauffrwythau dy gread.

Dduw heddwch a chyfiawnder, rwyt yn rhoi i ni’r gallu i newid, i sefydlu byd sy’nadlewyrchu dy ddoethineb dithau.

Crea ynom ni’r awydd i weithredu ynghyd, fel y dymchwelir colofnau anghyfiawnderac y rhyddheir y rhai y mae gormes yn eu llethu heddiw. Amen.

Cydnabyddiaeth: Linda Jones, CAFOD. Cyfieithwyd i’r Gymraeg gan Siôn Aled Owen.Mae Byw’n Syml yn ymgyrch gan CAFOD i hybu byw cynaliadwy mewncymunedau eglwysig. Gellir gweld manylion pellach yma: https://cafod.org.uk/Campaign/Livesimply-award

Cyfeiriad Golygydd Y PEDAIR TUDALEN

Huw Powell-Davies

neu Llifor, 60 Ffordd Rhuthun,Yr Wyddgrug, CH7 1QH

Anfonwch eich erthyglau, hysbysebiona.y.y.b. i’r cyfeiriad uchod.

Mae’r Pedair Tudalen Gydenwadol yncael eu cynnwys yn rhan o bapurauwythnosol tri enwad, sef Y Goleuad

(Eglwys Bresbyteraidd Cymru), SerenCymru (Undeb Bedyddwyr Cymru) a’rTyst (Undeb yr Annibynwyr Cymraeg).

[email protected]

Page 7: MAE DIOGELWCH BWYD YN FUSNES I BAWB · 2020. 10. 6. · mae’n siwr, aceri helaeth o dir aniai gwael yn Bangladesh, gwlad sy’n brin iawn o dir, sy’n dwyn yr enw annisgwyl. Ac

Hydref 8, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYST

Barn AnnibynnolArferion

Mae rhai ohonynt yn medru bod yn rhai da, ond eraill yn ddrwg! Mae’n siŵr gen i bod y naill a’r llall yn perthyn i bob yr un ohonom. Yn ôl ymchwil diweddar, mae’n debyg bod y cyfnod clo wedi magu mwy o arferion drwg ynom!

Does dim amheuaeth fod y cyfnod clo a’r sefyllfa rydyn ni ynddi ers canol Mawrth wedi cynyddu’r lefelau straen yn y gorau o bobl. Ac er mwyn ymdopi â’r straen a’r gofid, rydyn ni wedi magu arferion newydd, a dyw’r rheini ddim bob amser yn rhai da!

Arferion drwg

Bwyta bwydydd sy’n ein cysuro yw un ohonyn nhw. Bwydydd o’n plentyndod, neu fwydydd rydyn ni’n eu cysylltu â chyfnodau o’n bywyd pan

oedd ein hemosiynau’n dawel a heddychlon. A chredwn fod eu bwyta yn ein tawelu, ac yn ein rhoi mewn hwyl dda.

Arfer gwael arall dros y cyfnod clo yw byw gyda’n trwynau’n sownd wrth ein sgriniau bach. Ymgolli’n llwyr am oriau maith yn y cyfryngau cymdeithasol. Mae gwneud hyn hefyd yn troi’n meddyliau oddi ar bwysau bywyd.

Manteisiodd rhai ar y cyfnod clo i fynd i’r arfer o aros yn eu pyjamas drwy’r dydd sy’n arwain yn naturiol at yr arfer hefyd o ddiffyg trefn a disgyblaeth – y rwtîn dyddiol dros y lle i gyd. Sawl gwaith ydw i wedi clywed rhieni’n dweud ers dechrau’r tymor newydd ei bod yn neis bod yn ôl mewn rwtîn.

Tra bo nifer wedi manteisio ar y cyfnod diweddar i ymestyn y coesau’n ddyddiol, mae sawl un wedi llithro i’r arfer gwael yn ystod y cyfnod clo o beidio â gwneud digon o ymarfer corff.

Profwyd bod nifer hefyd wedi eu gorfodi i fenthyg arian, o ganlyniad i doriad mewn cyflogau, ond ysywaeth, wedi derbyn credyd o ffynonellau annibynadwy.

Aeth rhai i’r arfer o wrando’n rhy aml ar y newyddion – arfer arall sydd, yn ôl yr ymchwil, yn ein gorlwytho â newyddion negyddol, gan ein gwneud yn bobl besimistaidd iawn.

Ie, mae’r hen gyfnod hwn wedi arwain at fagu nifer o arferion drwg. Ond byddwch yn garedig â’ch hunan. Rydyn ni i gyd yn ei chael hi’n anodd troedio drwy’r sefyllfa hon.

Dylanwad da

Rydyn ni i gyd yn addasu yn ôl yr hyn a welwn yn dda. Ond oni ddylen ni, wrth osod disgwyliadau i’n hunain, fod yn garedig i’n hunain hefyd? Efallai nad ydych yn cyflawni’r hyn roeddech yn llwyddo i’w gyflawni chwe mis yn ôl. Mae hynny’n ddealladwy. Ond os ydych chi wedi dod ag elfen o lawenydd i’r rhai sydd o’ch amgylch, wel mae hynny’n dipyn o gamp ynddo’i hun. Mae un weithred o garedigrwydd neu gymwynasgarwch yn gwneud byd o ddaioni i’n cyflwr meddyliol a chorfforol.

Mae’r cyfnod hwn yn sicr wedi ein harwain i sylwi ar y pethau bach nad oeddem, o bosib, wedi sylwi arnynt cyn hyn, e.e. rhythm byd natur. Mae e wedi rhoi cyfle i ni gamu’n ôl a meddwl o ddifri am y pethau sy’n bwysig mewn bywyd, ac wedi rhoi cyfle i ni gryfhau cyfeillgarwch a chreu ambell gyfeillgarwch newydd. Ie, er ein bod ar wahân, eto, rydym gyda’n gilydd.

Mae Covid-19 wedi dod â llawer o ofidiau gydag e, ond mae bywyd yn mynd yn ei flaen gystal ag y gall, ac ymlaen y dylen ninnau fynd hefyd, gystal ag y medrwn.

Beti-Wyn James (Nid yw cynnwys y Barn Annibynnol o reidrwydd

yn adlewyrchu safbwynt Undeb yr Annibynwyr na’r tîm golygyddol.)

Mae dydd Gwener 16 Hydref yn Ddiwrnod Bwyd y Byd. Yr ydym ni fel Cristnogion yn credu mewn cyfiawnder byd-eang, ac y mae bwyd a’r hawl i fwyd, yn rhan greiddiol o’r cyfiawnder hwnnw. Fe gredwn ni mewn bywyd i bawb.

Tua’r adeg hon bob blwyddyn hefyd fe fyddwn ni’n dathlu Diolchgarwch, ac y mae gennym ni lawer i fod yn ddiolchgar yn ei gylch. Eleni ar 16 Hydref bydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn rhannu cerddi, emynau, adnodau, darlleniadau neu luniau sy’n cyffwrdd â phynciau diolchgarwch, rhannu a chyfiawnder byd-eang.

Rhown wahoddiad i chi rannu adnodau neu weddïau gyda ni, neu efallai bod gennych hoff gerdd sy’n sôn am ddiolchgarwch neu am rannu? Efallai yr hoffech

ysgrifennu rhywbeth eich hun? Efallai fod gennych lun sy’n cyfleu diolchgarwch neu gyfiawnder byd-eang a rhannu? Anfonwch atom ni ac fe rannwn ar ein gwefan ni a thros y cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r Ysgrifennydd Cyffredinol, y Parchg Dyfrig Rees, yn dymuno rhannu’r dyfyniad pwerus hwn:

‘Mae yna bobl yn y byd mor llwglyd, fel na all Duw ymddangos iddyn nhw heblaw ar ffurf bara.’ Gandhi

Anfonwch eich cyfraniadau am ddiolchgarwch, am rannu neu am

gyfiawnder byd-eang atom ar [email protected] cyn 16 Hydref, neu rhannwch naill ai ar dudalen Facebook Undeb yr Annibynwyr Cymraeg neu dros y cyfrif Twitter @AnnibynwyrCymru ar y diwrnod.

Gadewch i ni ledaenu anogaeth ymysg ein gilydd.

DIWRNOD BWYD Y BYD 16 HYDREF 2020

Page 8: MAE DIOGELWCH BWYD YN FUSNES I BAWB · 2020. 10. 6. · mae’n siwr, aceri helaeth o dir aniai gwael yn Bangladesh, gwlad sy’n brin iawn o dir, sy’n dwyn yr enw annisgwyl. Ac

Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Serol Print, Uned 13, Ystad Ddiwyd. Heol Milland, Castell-nedd, SA11 1NJ. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.

Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd: Y Parchg Ddr Alun Tudur 39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan, Caerdydd, CF23 9BS Ffôn: 02920 490582 E-bost: [email protected]

Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa: Ty John Penri, 5 Axis Court, Parc Busnes Glanyrafon, Bro Abertawe

ABERTAWE SA7 0AJ Ffôn: 01792 795888

E-bost: [email protected]

tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Hydref 8, 2020Y TYST Golygydd

Y Parchg Iwan Llewelyn Jones Fronheulog, 12 Tan-y-Foel,

Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9UE

Ffôn: 01766 513138 E-bost: [email protected]

Golygydd

Alun Lenny Porth Angel, 26 Teras Picton

Caerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX Ffôn: 01267 232577 /

0781 751 9039 E-bost: [email protected]

Dalier Sylw! Cyhoeddir y Pedair Tudalen

Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’r Pedair Tudalen ac nid gan Undeb yr

Annibynwyr Cymraeg. Nid oes a wnelo Golygyddion Y Tyst ddim â

chynnwys y Pedair Tudalen.

Golygyddion

Helo, ddarllenwyr Y Tyst! Fy enw i yw Alex ac rwy’n dod yn

wreiddiol o Rwmania. Symudais i Loegr er mwyn cychwyn ar fy astudiaethau mewn ysgol breswyl pan oeddwn yn 16 oed, cyn astudio ym mhrifysgol Durham a gweithio i elusen Gristnogol yn Rhydychen. Yn awr, rwy’n byw yng Nghymru ac yn briod â Chymro Cymraeg. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi treulio llawer o’m hamser yn dod i adnabod fy nghartref newydd: Aberystwyth.

Un o’m hoff bethau am y dref arbennig hon yw ei siopau llyfrau. Byth ers i mi gofio, rwyf wedi mwynhau darllen. Roeddwn arfer gwario fy holl arian poced ar lyfrau. Yn gyson, roeddwn yn gofyn i’m rhieni i brynu’r llyfrau diweddaraf gan lusgo fy nhad draw i’r siop lyfrau pan oedd cyfrol ddiweddaraf Harry Potter ar werth. Fi oedd y plentyn hwnnw oedd yn darllen yn hwyr i’r nos gan ymgolli mewn stori glasurol neu antur wallgof mewn gwlad bell. Pan oeddwn yn fy arddegau, sefydlais glwb llyfrau ar gyfer fy nghyd-ddisgyblion a threuliais hafau dirifedi yng ngardd fy nhaid a’m nain yn darllen llyfrau plentyndod fy mam.

Llyfrbryf

Mae rhai pobl yn dweud ei bod hi’n beth annoeth gofyn i ‘lyfrbryf’ (bookworm) beth yw eu hoff lyfr gan fod ganddynt ormod o lyfrau i ddewis! Ond, bob tro mae rhywun yn gofyn y cwestiwn hwn i mi, rwy’n gwybod yn union beth yw fy ateb. Pan oeddwn yn 14 oed, cyflwynodd fy athrawes llenyddiaeth fi i Sophie’s World gan Jostein Gaarder. Mae’r gyfrol

hon yn mynd â chi ar daith athronyddol gan gychwyn gydag athronwyr Groeg cyn trafod syniadau Kant a Kierkegaard. Mae’r gyfrol yn un arbennig ac fe heriodd fy nealltwriaeth o’r byd. Wrth i mi ei darllen, dechreuais ofyn cwestiynau mawr. Pwy oeddwn i? Oedd yna Dduw? Sut allwn i ddod i’w adnabod? Ni wyddwn i bryd hynny fy mod ar fin darganfod atebion i’r cwestiynau hyn mewn llyfr na wnes i erioed ei agor tan oeddwn yn 16 oed: y Beibl

Dod i Ffydd

Cyrhaeddais Swydd Rhydychen er mwyn cychwyn ar fy astudiaethau chweched dosbarth ym mis Medi 2011. Roedd hwn yn brofiad newydd i mi ond mwynheais fy amser yno’n fawr. Defnyddiodd yr Arglwydd fy mlynyddoedd yn y chweched i ddod â fi i’w adnabod. Yn wir, yn ystod y blynyddoedd hyn, deuthum i adnabod Iesu Grist. Yr elfen bwysicaf yn fy nhröedigaeth oedd fy mod wedi agor y Beibl a chwrdd ag Iesu wyneb yn wyneb yn ei Air. Bu farw Iesu dros fy mhechodau ar y groes ac atgyfododd o farw yn fyw. Yn awr, mae fy sicrwydd, fy ngobaith a’m hyder yn ddiogel gan eu bod wedi’u seilio ar farwolaeth Iesu ar y groes.

Bwriad y golofn hon yn Y Tyst yw argymell llyfrau Cristnogol i chi eu darllen. Rwyf am ddechrau gyda’m hargymhelliad cyntaf: y Beibl. Dyma’r llyfr pwysicaf oll – y bwyd sy’n cynnal pobl Dduw bob dydd. Felly, pam ddim ymuno â mi – eich chwaer yng Nghrist - ac agor ein Beibl yn ddyddiol i ddod i adnabod ein Duw yn well ac i annog ein gilydd gyda geiriau Duw ei hun.

O.N. Os hoffech ofyn unrhyw gwestiwn imi am yr hyn yr wyf wedi’i ddweud neu os hoffech ddweud helo, anfonwch neges ataf ar [email protected] yn Saesneg neu Rwmaneg ar hyn o bryd, os gwelwch yn dda – ond, rwy’n gobeithio y byddaf yn gallu siarad Cymraeg hefyd yn fuan iawn. Rwyf newydd gychwyn dysgu!

Alexandra Tudur

O Rwmania i Aberystwyth Gwerthfawrogi cyfraniad

Hyfryd yw darllen yn Y Tyst am ymdrechion gwahanol eglwysi i gadw cysylltiad gyda’u haelodau yn ystod y cyfnod clo drwy baratoi gwasanaethau ar eu cyfer.

Yma, yn y Tabernacl, Porth-cawl rydym yn ddyledus iawn i’r Parchg. Gerwyn Jones am ei ofal drosom yn paratoi myfyrdodau ar gyfer pob Sul yn ystod y cyfnod clo. Rydym yn eithriadol o freintiedig fod Gerwyn a’i briod Cathy wedi ymaelodi gyda ni pan ddaethant i fyw i Borth-cawl.

Os yw fy nghofnodion yn gywir mae Gerwyn yn barod wedi paratoi 25 myfyrdod ar ein cyfer. Daw’r myfyrdodau yn wythnosol dros y we ac rydym ninnau wedyn yn eu hanfon ymlaen at aelodau eraill a ffrindiau. Felly mae llawer mwy na dim ond aelodau’r Tabernacl wedi gwerthfawrogi ymdrechion Gerwyn. Ar ran pawb diolch yn fawr iawn Gerwyn. Diolch hefyd i Tabernacl Pen-y-bont am baratoi gwasanaethau ar y we sydd wedi bod o fendith i ni i gyd.

Ein bwriad oedd cynnal y gwasanaeth cyntaf wedi’r cloi ddydd Sul 4 Hydref gyda’r Parchg Hywel Wyn Richards yn arwain ein defosiwn. Gwaetha’r modd gan fod y firws yn cynyddu ar raddfa bryderus ym Mhorth-cawl, penderfynodd ymddiriedolwyr yr eglwys mai peth doeth fyddai peidio ailagor ar ddechrau Hydref ond i adolygu’r sefyllfa yn fisol. Mae gen i ofn felly byddwn yn dibynnu ar Gerwyn i’n harwain am rai Suliau i ddod.

Tom Price