LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu … · 2016-02-16 · LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau...

12
LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu 1418NOW.org.uk/letter Yn addas i blant 14-16 mlwydd oed 1 O ganlyniad i’r wers y bydd pob disgybl wedi ysgrifennu llythyr at filwr anhysbys - llythyr all gael ei roi ar wefan LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS a thrwy hynny gyfrannu at waith celf arlein wedi ei wneud o eiriau gan filoedd o bobl. Yn ddibynnol ar faint o amser sydd ganddoch, mae sawl ffordd o ysbrydoli eich disgyblion cyn iddynt fynd ati i ysgrifennu eu llythyrau. Esboniwch y syniad am fath newydd o gofeb rhyfel a fydd yn cael ei wneud gan filoedd o bobl ym Mhrydain. Mae’n hanfodol bod lleisiau pobl ifanc yn cyfrannu at y gofeb arlein yma a’r dasg heddiw y’w i ysgrifennu llythyr at filwr anhysbys a fu’n brwydro yn y Rhyfel Byd 1af. (O.N. Y byddwch yn ymwybodol o wybodaeth cyfredol eich disgyblion ac os oes angen fwy o gyflwyniad i’r pwnc). Efallai hoffech chi ddosbarthu’r gwahoddiad mae crewyr y gywaith yma wedi ysgrifennu at fyfyrwyr (ffynhonnell 1). Beth yw cofeb? Ydy hi’n bwysig i gofio? I agor trafodaeth rhwng y disgyblion, dangoswch enghreifftiau o wrthrychau a ddefnyddiwyd i gofio pobl a digwyddiadau e.e. cerfluniau, placiau, cof golofnau, ffynhonnau, parciau. Mewn grwpiau gallant drafod os ydynt yn meddwl bod cofeb yn ffordd ddefnyddiol o feddwl am y gorffennol a gallant awgrymu cofeb penodol sydd yn golygu rhywbeth iddynt hwy.

Transcript of LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu … · 2016-02-16 · LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau...

Page 1: LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu … · 2016-02-16 · LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu 1418NOW.org.uk/letter Yn addas i blant 14-16 mlwydd oed 3 Cyflwynwch y syniad

LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu 1418NOW.org.uk/letter

Yn addas i blant 14-16 mlwydd oed

1

O ganlyniad i’r wers y bydd pob disgybl wedi ysgrifennu llythyr at filwr anhysbys - llythyr all

gael ei roi ar wefan LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS a thrwy hynny gyfrannu at waith celf

arlein wedi ei wneud o eiriau gan filoedd o bobl.

Yn ddibynnol ar faint o amser sydd ganddoch, mae sawl ffordd o ysbrydoli eich disgyblion

cyn iddynt fynd ati i ysgrifennu eu llythyrau.

Esboniwch y syniad am fath newydd o gofeb rhyfel a fydd yn cael ei wneud gan filoedd o bobl

ym Mhrydain. Mae’n hanfodol bod lleisiau pobl ifanc yn cyfrannu at y gofeb arlein yma a’r

dasg heddiw y’w i ysgrifennu llythyr at filwr anhysbys a fu’n brwydro yn y Rhyfel Byd 1af.

(O.N. Y byddwch yn ymwybodol o wybodaeth cyfredol eich disgyblion ac os oes angen fwy o

gyflwyniad i’r pwnc). Efallai hoffech chi ddosbarthu’r gwahoddiad mae crewyr y gywaith yma

wedi ysgrifennu at fyfyrwyr (ffynhonnell 1).

Beth yw cofeb? Ydy hi’n bwysig i gofio? I agor trafodaeth rhwng y disgyblion, dangoswch

enghreifftiau o wrthrychau a ddefnyddiwyd i gofio pobl a digwyddiadau e.e. cerfluniau,

placiau, cof golofnau, ffynhonnau, parciau. Mewn grwpiau gallant drafod os ydynt yn meddwl

bod cofeb yn ffordd ddefnyddiol o feddwl am y gorffennol a gallant awgrymu cofeb penodol

sydd yn golygu rhywbeth iddynt hwy.

Page 2: LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu … · 2016-02-16 · LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu 1418NOW.org.uk/letter Yn addas i blant 14-16 mlwydd oed 3 Cyflwynwch y syniad

LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu 1418NOW.org.uk/letter

Yn addas i blant 14-16 mlwydd oed

2

Cyflwynwch y syniad o’r milwr anhysbys gan ddefnyddio’r testun isod a’r llun o fedd y milwr

anhysbys yn Abaty Westminster (ffynhonnell 2).

Cafodd dros 800,000 o filwyr Prydeinig eu lladd yn ystod y Rhyfel Byd 1af ond ni chafodd y rhan helaeth o’r meirw eu cludo gartref. Roedd teuluoedd a ffrindiau y meirw angen rhywle i fynd i alaru. Wedi’r rhyfel codwyd corff milwr anhysbys o’r ddaear yn Ffrainc ac ar Dachwedd 20fed 1920 fe’i gladdwyd yn Abaty Westminster yn Llundain. Yn fwriadol mae’n dweud ar y garreg fedd bod y milwr yn anhysbys, fel ei fod yn gallu cynrhychioli unrhywun a phawb. Fe fuodd 1.3 miliwn o bobl i ymweld â’r bedd yn ystod yr wythnos gyntaf.

Os oes mynediad i’r rhyngrwyd yn y dosbarth, efallai hoffech ddangos y ffilm fer yma sy’n

cyflwyno’r syniad.

Dangoswch lun o gerflun Charles Jagger (ffynhonnell 3) yng Ngorsaf Paddington, tra’n

esbonio bod hwn yn bortread gwahanol o filwr anhysbys. Gofynnwch i’r disgyblion drafod y

gwahaniaeth rhwng cofeb sy’n fedd a chofeb sy’n gerflun o berson. Sut mae’r ddau yn

gwahaniaethu yn y ffordd y maent yn gwneud i chi deimlo?

Trafodwch y milwr sy’n sefyll yng Ngorsaf Paddington. Beth mae ei wyneb yn ei ddangos?

Beth mae’n ei wisgo a pham? Pwy wnaeth wau ei sgarff?

Er fod y Milwr Anhysbys yn gallu cynrhychioli unrhywun, efallai y byddai o fudd i’r disgyblion

feddwl am y cerflun fel person byw. Dychmygwch ei fod yn cerdded yn syth allan o’r llun ac i

mewn i’r dosbarth.

Pa gwestiynau gallant ofyn iddo er mwyn dod i’w adnabod yn well?

Rhowch ychydig o funudau i’r disgyblion i ysgrifennu eu hatebion. Dylent anelu at ysgrifennu

10 darn o wybodaeth am y milwr. Gallant wneud hyn yn unigol neu mewn parau a gallai fod

yn man cychwyn i’r llythyr.

Page 3: LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu … · 2016-02-16 · LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu 1418NOW.org.uk/letter Yn addas i blant 14-16 mlwydd oed 3 Cyflwynwch y syniad

LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu 1418NOW.org.uk/letter

Yn addas i blant 14-16 mlwydd oed

3

Cyflwynwch y syniad o bwysigrwydd llythyrau yn ystod y rhyfel gan ddefnyddio’r testun isod

a’r ffotograffau (ffynhonnell 4). Efallai hoffech ddangos y ffilm fer yma sy’n cyflwyno’r syniad.

Yng nghanol bwrlwm y Rhyfel Byd 1af fe fyddai teuluoedd, ffrindiau a chariadon y milwyr yn gyrru dros deuddeg miliwn o lythyrau yn wythnosol. Cyfeiriwyd y llythyrau yma drwy man dosbarthu dros-dro enfawr or enw ‘Home Depot’ ym Mharc Regent, Llundain. Ar y pryd, hwn oedd yr adeilad pren fwyaf yn y byd ac ynddo roedd 2500 o staff, y rhan helaeth ohonynt yn ferched, yn ymdrin a dros 2 filiwn o lythyrau a 114 miliwn o barseli yn ystod y rhyfel. (Cyflogodd y Swyddfa Bost dros 35,000 o ferched yn ystod 2 flynedd cyntaf y rhyfel).

● Oes rhywbeth arbennig am dderbyn llythyr?

● Pwy sy’n ysgrifennu llythyrau heddiw a pham?

● Beth mae llythyrau yn ei gyflawni na all ebost/neges destun/trydar/blog?

● Ydy llythyr yn le priodol ar gyfer trafod testunau ‘mawr’?

● Mae llythyr yn eich caniatáu i ganolbwyntio ar un person - a ydych yn dyfalu eu

hymateb i’r llythyr wrth i chi ei ysgrifennu? A fyddwch yn ystyried eu teimladau?

● A fyddwch yn dweud pethau mewn llythyr na fyddwch yn dweud wyneb yn wyneb?

Rhannwch lythyrau gan Mark Haddon, y fyfyrwraig Laura Ryder a’r bardd Benjamin

Zephaniah (ffynhonnell 5). Esboniwch bod y llythyrau yma eisioes wedi cael eu hysgrifennu at

y milwr anhysbys fel rhan o’r gywaith.

● Mae Mark Haddon yn siarad am y cerdiau post, nawr wedi eu fframio, y mae ei deulu

wedi cadw. Ydyn nhw yn fath gwahanol o gofeb?

● Sut mae’r darlun o ferched yn gweithio ar eu brodwaith yn dylanwadu ar y llythyr?

● Sut all gysylltiad teuluol bersonol i ryfel ddylanwadu ar eich meddylfryd?

● Mae Mark yn gofyn llawer iawn o gwestiynau i’w Hen Wncwl Ffred - pam gofyn

cwestiynau all ddim cael eu hateb?

Mae llythyr Laura Ryder wedi ei ysgrifennu’n uniongyrchol ganddi hi at y milwr ar Blatfform 1

yng Ngorsaf Paddington.

● Y mae hi’n ailadrodd y gair ‘anhysbys’. Pa effaith mae hyn yn ei gael ar y llythyr?

● Beth mae hi’n ceisio dweud wrth y milwr?

● Sut oedd Laura yn teimlo pan ysgrifennodd y llythyr?

● Mae Benjamin Zephaniah wedi ysgrifennu cerdd yn hytrach na llythyr, pa effaith mae

hyn yn ei gael?

● Y mae’n siarad am filwyr o wledydd a rhyfeloedd eraill, ydy hyn yn gwneud i chi feddwl

am ryfeloedd sydd yn digwydd heddiw?

● Mae’n rhoi cyngor calonogol ar ddiwedd ei lythyr, pa effaith mae hyn yn ei gael?

Page 4: LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu … · 2016-02-16 · LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu 1418NOW.org.uk/letter Yn addas i blant 14-16 mlwydd oed 3 Cyflwynwch y syniad

LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu 1418NOW.org.uk/letter

Yn addas i blant 14-16 mlwydd oed

4

Dychwelwch yn ôl at gysyniad y cywaith (effallai y byddwch eisiau gwneud defnydd o

ffynhonnell 1 eto); sef i greu math newydd o gofeb lle mae pawb ym Mhrydain yn ysgrifennu

llythyr at y milwr. Fe gyhoddir rhain arlein i’r byd cael eu darllen, ac yna yn cael eu storio yn

archif y Llyfrgell Brydeinig ar gyfer cenhedlaethau’r dyfodol.

Gan ddefnyddio’r ffeithiau a ysgrifenasant am y milwr ac/neu eu meddyliau am bwysigrwydd

llythyrau ac/neu yr ysbrydoliaeth a gafwyd o ddarllen y llythyrau, gall y disgyblion ddechrau

ysgrifennu eu llythyr.

Trafodwch brif elfennau’r llythyr - sut i’w ddechrau, pa mor hir y dylai fod (100-500 gair). Os

oes mynediad i’r rhyngrwyd ganddoch, efallai byddai’r ffilm fer yma o fudd fel man cychwyn

i’r drafodaeth.

Cwestiynau i’r disgyblion eu hystyried:

- A ddylwn i ysgrifennu fel fi neu fel rhywun arall (pwy fyddai hwnnw?)

- A ddylwn i ysgrifennu fel rhywun yn 2014 neu yn 1914?

- Beth ydw i angen dweud wrtho?

- Beth y mae angen gwybod am fywyd yn 2014?

- Beth sy’n ddigon pwysig i’w roi mewn llythyr?

Gall y disgyblion orffen eu llythyrau fel gwaith cartref os nad ydynt wedi eu cwblhau yn y

dosbarth. Gallai’r disgyblion greu ffilm ohonynt yn darllen neu pherfformio eu llythyr ar ffôn

gamera yna ei uwchlwytho i’r wefan.

Mewn gwersi dilynol gallwch ddefnyddio’r llythyrau ymhellach - cyfle i’r disgyblion gyfnewid

eu syniadau a’u rhesymau dros y dewisiadau a wnaethant tra’n ysgrifennu’r llythyrau. Pa

bethau sy’n gyffredin ynddynt neu ydynt i gyd yn wahanol iawn? Ydynt yn rhoi ciplun o sut

mae bobl ifanc yn 2014 yn meddwl?

Page 5: LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu … · 2016-02-16 · LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu 1418NOW.org.uk/letter Yn addas i blant 14-16 mlwydd oed 3 Cyflwynwch y syniad

LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu 1418NOW.org.uk/letter

Yn addas i blant 14-16 mlwydd oed

5

● Gallwch uwchlwytho eich llythyrau i’r wefan neu eu postio atom o ganol Mai 2014.

● Bydd pob llythyr a yrrwyd at y milwr (yn cynnwys rhai chi) ar gael i’w darllen o’r 28ain o

Fehefin.

● Ni all y wefan dderbyn llythyrau ar ôl y 4ydd o Awst.

Arlein: Yn ddelfrydol bydd y disgyblion yn ysgrifennu eu llythyr yn uniongyrchol ar y ffurflen

sydd ar y wefan (www.1418NOW.org.uk/letter).

Fel arall gall y disgyblion ysgrifennu’r llythyr ar bapur yn gyntaf, yna ei gopïo yn ddiweddarach

(gartref efallai) neu ffilmio eu hunain ar eu ffonau yn darllen y llythyr cyn ei uwchlwytho arlein.

Drwy’r post: Os nad oes ystafell gyfrifiaduron ar gael, gall y disgyblion ysgrifennu’r llythyrau

mewn inc du/glas tywyll ar gefn y ffurflen sydd ar gael i’w lawrlwytho o’r dudalen adnoddau

14-16 oed ar y wefan. Fe ddylai’r disgyblion gwblhau’r ffurflen ac yna fe allwch yrru’r llythyrau

i gyd at:

LLYTHYR AT Y MILWR ANHYSBYS

PO BOX 73102

LLUNDAIN

EC1P 1TY

Copïau: Wrth gyflwyno llythyrau ar-lein neu drwy'r post, byddwch yn derbyn e-bost

cadarnhau, ond ni fyddwch yn gallu gweld y llythyr ar-lein tan 28 Mehefin. Efallai y byddwch

am wneud copi o'r gwreiddiol cyn anfon i'w defnyddio mewn sesiynau yn y dyfodol neu i

arddangos.

Page 6: LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu … · 2016-02-16 · LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu 1418NOW.org.uk/letter Yn addas i blant 14-16 mlwydd oed 3 Cyflwynwch y syniad

LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu 1418NOW.org.uk/letter

Yn addas i blant 14-16 mlwydd oed

6

- gwahoddiad i fyfyrwyr

Annwyl bawb -

Mae’r syniad tu ôl ein cywaith LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS yn un syml: os y byddwch yn

gallu ysgrifennu at y milwr anhysbys, dyn a fu’n gwasanaethu ac a gafodd ei ladd yn ystod y

Rhyfel Byd Cyntaf, beth fyddwch yn dweud wrtho?

Mae 2014 yn barod yn flwyddyn llawn coffâd, o ddramau teledu a rhaglenni dogfen, i areithiau

gwleidyddion, cyngherddau, seremonïau goffa a phob math o ddigwyddiadau ac achlysulon

eraill. Mae’n cywaith ni’n gwahodd pawb i gymryd cam yn ôl o’r cyfraniadau cyhoeddus yma

ac i gymryd munud i feddwl: os y byddwch chi yn cael dweud yr hyn oeddech yn dymuno am

y rhyfel hwnnw, beth fyddwch yn dweud?

I ni, creuwyr y gywaith, mae’n bwysig i gamu’n ôl o’r ddelwedd arferol rydym yn ei gysylltu

gyda rhyfel a choffâd - y senotaff, y pabi coch, y distawrwydd sy’n disgyn ar Ddydd y Coffa.

Hoffwn yn eu lle, glywed eich lleisiau chi - beth yr ydych wir yn deimlo. Pe fedrwch siarad â’r

milwr anhysbys heddiw, gyda phopeth yr ydym wedi ei ddysgu ers 1914, â’ch holl profiadau o

fywyd a marwolaeth i law, beth fyddwch yn ei ddweud?

Ysgrifennwch hyn i lawr a’i yrru atom; os hoffech, mae croeso i chi recordio’r sain neu greu

ffilm ohonoch yn darllen eich llythyr a gyrru hwnnw atom. Mae llawer o bobl eisioes wedi

ysgrifennu llythyr, mae pawb wedi ei wneud yn wahanol. Yn y pendraw, fe fydd pob llythyr yn

cael ei gadw yn y Llyfrgell Brydeinig fel casgliad parhaus ac y bydd unrhywun yn y dyfodol yn

medru eu darllen. Felly mae beth yr ydych yn ei ysgrifennu am fod yn rhan o ddarlun anferth

o feddyliau a theimladau pobl Prydain yn ystod y canmlwyddiant yma. Bydd eich geiriau chi

yn ein galluogi ni i greu math newydd o gofeb rhyfel - un a greuwyd gan bawb.

Rydym wir yn gobeithio y bydd pobl ifanc yn cymryd rhan, mae eich lleisiau yn bwysig ac y

dylent fod wrth galon y gywaith yma.

Hoffwn glywed beth sydd ganddoch i’w ddweud wrth y milwr anhysbys. Mae’n aros i glywed

ganddoch.

Yn Gywir - Neil Bartlett a Kate Pullinger

Page 7: LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu … · 2016-02-16 · LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu 1418NOW.org.uk/letter Yn addas i blant 14-16 mlwydd oed 3 Cyflwynwch y syniad

LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu 1418NOW.org.uk/letter

Yn addas i blant 14-16 mlwydd oed

7

- bedd y milwr anhysbys

Uchod: HMS VERDUN yn

Harbwr Boulogne tra’n

cludo corff y Milwr

Anhysbys i Dover, 10fed o

Dachwedd 1920 © IWM

Chwith: Arch y Milwr

Anhysbys yn Abaty

Westminster cyn ei

gladdu’n derfynol ar 11eg o

Dachwedd 1920 © IWM

Page 8: LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu … · 2016-02-16 · LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu 1418NOW.org.uk/letter Yn addas i blant 14-16 mlwydd oed 3 Cyflwynwch y syniad

LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu 1418NOW.org.uk/letter

Yn addas i blant 14-16 mlwydd oed

8

- cerflun yng Ngorsaf Paddington

Cerflun o’r Milwr Anhysbys yng Ngorsaf Paddington,

crewyd gan Charles Sargent Jagger yn 1920 © Dom Agius

Page 9: LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu … · 2016-02-16 · LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu 1418NOW.org.uk/letter Yn addas i blant 14-16 mlwydd oed 3 Cyflwynwch y syniad

LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu 1418NOW.org.uk/letter

Yn addas i blant 14-16 mlwydd oed

9

- post yn y Rhyfel Byd Cyntaf

Merched yn trefnu parseli toredig yn yr ‘Home Depot’ © Grŵp Y

Post Brenhinol 2013, diolch i Amgueddfa & Archif y Post

Brydeinig

Post yn cael ei gludo mewn basgedi gwiail yn barod i’w ddosbarthu

© Grŵp Y Post Brenhinol 2013, diolch i Amgueddfa & Archif y Post

Brydeinig

Page 10: LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu … · 2016-02-16 · LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu 1418NOW.org.uk/letter Yn addas i blant 14-16 mlwydd oed 3 Cyflwynwch y syniad

LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu 1418NOW.org.uk/letter

Yn addas i blant 14-16 mlwydd oed

10

- enghreifftiau o lythyrau

Annwyl Hen Wncwl Ffred,

Diolch yn fawr iawn am y cerdiau post gyrraist ti yn ôl i Northampton. Maent yn hynod

o brydferth - dalennau tenau o sidan gyda brodwaith arnynt wedi eu gludo i mewn i fframiau

cardfwrdd - banneri a blodau, glöyn byw gyda Jac yr Undeb ar un adain a’r Tricolore ar y llall,

croes, bwthyn, Bathodyn Catrawd y Royal Sussex. Ar bob un mae yna ymadroddion i godi

calon wedi ei wnïo mewn prif lythrennau neu ‘n rhedol: Bendith Duw Arnoch… Blwyddyn Newydd Dda… Entente Cordiale… I Fy Annwyl Chwaer… Teg Edrych Tuag Adref… Mae’n

anodd credu eu bod wedi dod o faes y gad. Rwy’n amau fod yna ferched Ffrengig neu o

Wlad Belg yn gweithio gyda nodwyddau a winiaduron mewn ystafelloedd distaw, glan rhywle

ymhell o’r mwd a’r drylliau.

Rwyt yn bymtheg. Neu’n un ar bymtheg. Ni fyddwn byth yn sicr. Dywedaist gelwydd

am dy oedran fel dy fod yn gallu ymuno yn fuan, ac mae’r cofnodion eraill i gyd ar goll. Mi

fyddi wedi marw o fewn blwyddyn.

Rwy’n dyheu na fyset wedi dweud mwy. “Gan Ffred i Nel, yn gobeithio dy fod yn cadw’n

iach,” ysgrifennaist ar gefn un cerdyn. “Gan Ffred i Mam, 3/12/16,” ar un arall. Mae’r rhan

fwyaf ohonynt yn wag. Doedd gennyt dim i’w ddweud? Neu ormod? Oeddet ti dan

orchymun i beidio? Neu doeddet ti ddim isho poeni pawb adref?

Mae 98 mlynedd wedi mynd heibio erbyn hyn a dyma’r oll sydd gennym ohonat, pedwar ar

ddeg o gardiau dan wydr mewn ffram pren thywyll yng nghornel fy ystafell yn Rhydychen. Ac

yng nghanol y cerdiau, hen lun o lanc ifanc mewn iwnifform - botymau disglair, coler mawr,

gwallt du slic wedi ei wahanu. Gyda chipolwg sydyn gallet fod yn Hen Wncwl i unrhywun ond

pan dwi’n edrych yn galed dwi’n gallu gweld rhywfaint o fy hun ynnot, y troelliad ddwbwl yno

o waed a gennau yn dirwyn yn ôl drwy amser, yn meinhau a gwanhau bob blwyddyn.

Er Cof… Anrhydedd i Loegr… Hyd y Diwedd.

Yn Gywir

,

Mark

lythyr gan Mark Haddon, nofelydd Brydeinig

sydd fwyaf adnabyddus am The Curious Incident of the Dog in the Night-time (2003)

Page 11: LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu … · 2016-02-16 · LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu 1418NOW.org.uk/letter Yn addas i blant 14-16 mlwydd oed 3 Cyflwynwch y syniad

LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu 1418NOW.org.uk/letter

Yn addas i blant 14-16 mlwydd oed

11

Annwyl Filwr,

Doeddet ti ddim yn anhysbys i’r fam a dy chwifiodd i ffwrdd. Doeddet ti ddim yn

anhysbys i’r ffrindiau a fu’n chwerthin â thi na’r brodyr a’r chwiorydd a cafodd

eu dwyn i fyny â thi. Doeddet ti ddim yn anhysbys i’r milwyr a frwydrodd â thi

na’r cariadon a ysgrifennaist atynt.

Efallai dy fod yn anhysbys i’r bobl sy’n cerdded heibio ti bob dydd. Efallai eu

bod yn cymryd cipolwg neu’n cerdded yn syth heibio ond ti yno a ti ddim yn

anhysbys i’r hanes a dy roddodd di yno.

Roeddet ti yn fab i rhywun, yn frawd, yn ffrind, yn gariad a dydy’r aberth a

wnaethost ddim yn anhysbys nac yn anghof.

Laura Ryder

Lythyr gan Laura Ryder, myfyrwraig

ym Mhrifysgol Spa Caerfaddon

Page 12: LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu … · 2016-02-16 · LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu 1418NOW.org.uk/letter Yn addas i blant 14-16 mlwydd oed 3 Cyflwynwch y syniad

LLYTHYR AT FILWR ANHYSBYS: Adnoddau dysgu 1418NOW.org.uk/letter

Yn addas i blant 14-16 mlwydd oed

12

Annwyl frawd,

Dywedwyd bod yna filwr sydd yn anhysbys.

Ni all fod yn ti.

Dywedwyd ei fod wedi ei yrru i ladd neu i gael ei ladd,

Dros ei Frenin cyfoethog, ac ei wlad dlawd.

Ond ni all fod yn ti.

Ti’n byw, ti’n anadlu,

Ac mae dy lygaid, llygaid goroeswr, yn darllen y geiriau yma.

Ti ddim yn anhysbys.

Ti’n hysbys i dy fam rhoddodd fywyd a swci i ti,

Ti’n hysbys i ni a chwaraeodd gemau â thi

Ar strydoedd coblog,

Ar gertiau toredig,

Ar dir diffaeth.

Oeddym yn blant ddireudus, yn chwilio am hwyl.

Drygionus yr oeddym, drygionus.

Dywedwyd bod yna filwr sy’n anhysbys,

Neu’n hysbys i Dduw yn unig,

Ond ni all fod yn ti.

Ni’n dy garu di frawd.

Ti’n hysbys a ni’n dy garu di’n fawr,

Ac er na ddechreuaist y rhyfel hwn,

Ac ni all neb sy’n dy garu di ddeall y rhyfel hwn,

(Damnio’r tywallt gwaed yma),

Ni’n dy barchu di.

Cefaist dy alw,

Cefaist dy ddewis,

Mi oeddet yn

Y rhyfel i ddiweddu rhyfel.

Dywedwyd bod yna Filwr Anhysbys o Ethiopia,

Ddoith ef a diwedd i ryfel?

Mae yna Filwr Anhysbys o Sbaen.

Fydd diwedd i ryfel gyda’i ddiwedd ef?

Mae Estonia gyda un o’i fath,

Ac mae rhywun o Somalia ar goll,

Ond mae enaid a ffyrdd daearol y brwydrwyr coll hyn

Yn hysbys i rywun.

Disgynnodd llawer mewn caeau dramor.

Gosodwyd eu hesgyrn mewn rhesi taclus

Neu eu gadael i suddo mewn cors a ffos,

Ond nid ydynt yn ti.

Frawd, arhosom amdanat yma gyda dy hoff losin,

Mae’r ferch drws nesaf yn parhau i farddoni i ti.

Dy ‘stafell mor lân a dy blât swper,

A dy dîm peldroed yn dal i golli.

Does dim llawer wedi newid.

Os weli di’r Milwr Anhysbys dangosa gariad,

Os weli di’r Milwr Anhysbys dalia ei law,

Dyweda wrtho bod rhywun yn rhywle yn ei garu,

Dyweda wrtho bod neb yn anhysbys,

Dyweda wrtho bod rhywun yn rhywle yn ei adnabod,

Mor dda a ni’n dy adnabod di.

Lythyr gan Benjamin Zephaniah, bardd

ac awdur, yn adnabyddus am ei lyfrau

i oedolion ifanc Teacher’s Dead (2007)

ac Refugee Boy (2001)