Llynnoedd - snowdonia.gov.wales · Golyga hyn nad oes bwyd i greaduriad eraill y llyn - y math sydd...

3
Llynnoedd Er fod cannoedd o lynnoedd yn Eryri, Llyn Tegid efallai yw’r pwysicaf o safbwynt gwarchodaeth a hamdden. Dyma lyn naturiol mwyaf Cymru, gyda’r afon Ddyfrdwy yn llifo trwyddo. Mae’n 10.24km² [1,120 hectar 4 milltir o hyd (6km) ac yn ¾ milltir o led] SoDdGA / RAMSAR / ACA. Tri label, un llyn o bwysigrwydd rhyngwladol oherwydd ei fywyd gwyllt naturiol; y Gwyniad, Malwen Ludiog, Dyfrgwn a phlanhigion dŵr arbennig ei fod yn enghraifft o lyn Mesotroffig. Mae gan y rhain fwy o facroffytau ynddynt ac felly mwy o amrywiaeth o blanhigion dŵr sydd yn arwain at fywyd gwyllt gwahanol. ei harddwch naturiol; y defnydd a wneir ohono gan amrywiaeth o chwaraeon dŵr; ei fod yn chwarae rhan bwysig wrth reoli llif Afon Ddyfrdwy a chyflewni dŵr. Y Ddyfrdwy yw’r afon fwyaf reoledig yng Ngorllewin Ewrop. Ecoleg; Mae yna ddau rywogaeth unigryw yn Llyn Tegid, sydd o bwysigrwydd cenedlaethol. Y Gwyniad. (Coregonus lavaeretus ) Pysgodyn sydd wedi bod yn y llyn ers Oes yr Iâ. Sgadan (herring) dŵr croyw ydyw. Mae’n hoffi dŵr oer iawn, ac yn byw ar ddyfnder o 80 tr. Mae’n hoffi dodwy ei wyau ar flaendraeth sydd gyda gro. y Falwen ludiog ( Myxas Glutinosa) Credwyd iddi ddiflannu o Lyn Tegid yn yr 1950, ond darganfuwyd poblogaeth iach mewn arolwg yn 1998. Mae’r falwen dŵr croyw yma yn un o rai prinaf Ewrop. Mae mantell dryloyw yn ymestyn dros ei chefn i gyd pan mae'n bwydo gan adael dim ond rhimyn o’r gragen yn dangos. Mae yn byw ar al- gae sydd i’w gael ar gerrigos ar lan Llyn Tegid. Yn ychwaneol, mae yna 14 rhywogaeth o bysgod breision, eog a brithyll a 129 rhywiogaeth o adar i’w gweld yma. Sut mae gwarchod y llyn? Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sydd berchen gwely’r llyn, er mai Asiantaeth yr Amgylchedd sydd berchen y dŵr. Mae gwahanol asiantaethau yn cydweithio yma i warchod y llyn mewn rhyw ffordd. Cyngor Cefn Gwlad Cymru ; mae CCGC yn gyfrifol am gynllun rheoli safle . Asiantaeth yr Amgylchedd ; Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn gyfrifol am gyflwr dŵr y llyn. Nhw sydd hefyd yn rheoli cynllun dŵr Afon Dyfrdwy. Mae hwn yn cyflenwi dŵr yfed i Gaer, Glannau Mersi a rhannau o ogledd-ddwyrain Cymru, ac yn ceiso lleihau llifogydd ar hyd yr afon Dyfrdwy. Ffermwyr; Rhain sydd berchen y tir o amgylch y llyn a gall llygredd o’r tir effeithio defnydd y llyn. Mae algae gwyrddlas sydd yn gallu effeithio’r llyn yn yr haf yn tarddu o ormod o ffosffad yn cael ei olchi i’r llyn o’r tir. Gall cynlluniau Amaeth Amgylcheddol fod yn holl bwysig yn yr ardal i leihau’r broblem. Cadw’r Cydbwysedd; Mwynhau a Gwarchod Caiff llawer o ddefnyddwyr hamdden eu denu yma, yn ymwelwyr a thrigolion lleol. Daw’r mwyafrif gyda char ac arhosant am gyfnod byr. Gwersylla eraill ar lan y llyn neu aros gerllaw. Gormod o ymwel- wyr ac mae’r cydbwysedd bregus rhwng gwarchod a mwynhau wedi ei golli.

Transcript of Llynnoedd - snowdonia.gov.wales · Golyga hyn nad oes bwyd i greaduriad eraill y llyn - y math sydd...

Llynnoedd Er fod cannoedd o lynnoedd yn Eryri, Llyn Tegid efallai yw’r pwysicaf o safbwynt gwarchodaeth a hamdden. Dyma lyn naturiol mwyaf Cymru, gyda’r afon Ddyfrdwy yn llifo trwyddo. Mae’n 10.24km² [1,120 hectar 4 milltir o hyd (6km) ac yn ¾ milltir o led] SoDdGA / RAMSAR / ACA. Tri label, un llyn o bwysigrwydd rhyngwladol oherwydd

• ei fywyd gwyllt naturiol; y Gwyniad, Malwen Ludiog, Dyfrgwn a phlanhigion dŵr arbennig

• ei fod yn enghraifft o lyn Mesotroffig. Mae gan y rhain fwy o facroffytau ynddynt ac felly mwy o amrywiaeth o blanhigion dŵr sydd yn arwain at fywyd gwyllt gwahanol.

• ei harddwch naturiol;

• y defnydd a wneir ohono gan amrywiaeth o chwaraeon dŵr;

• ei fod yn chwarae rhan bwysig wrth reoli llif Afon Ddyfrdwy a chyflewni dŵr. Y Ddyfrdwy yw’r afon fwyaf reoledig yng Ngorllewin Ewrop.

Ecoleg; Mae yna ddau rywogaeth unigryw yn Llyn Tegid, sydd o bwysigrwydd cenedlaethol.

Y Gwyniad. (Coregonus lavaeretus ) Pysgodyn sydd wedi bod yn y llyn ers Oes yr Iâ. Sgadan (herring) dŵr croyw ydyw. Mae’n hoffi dŵr oer iawn, ac yn byw ar ddyfnder o 80 tr. Mae’n hoffi dodwy ei wyau ar flaendraeth sydd gyda gro. y Falwen ludiog ( Myxas Glutinosa) Credwyd iddi ddiflannu o Lyn Tegid yn yr 1950, ond darganfuwyd poblogaeth iach mewn arolwg yn 1998. Mae’r falwen dŵr croyw yma yn un o rai prinaf Ewrop. Mae mantell dryloyw yn ymestyn dros ei chefn i gyd pan mae'n bwydo gan adael dim ond rhimyn o’r gragen yn dangos. Mae yn byw ar al-gae sydd i’w gael ar gerrigos ar lan Llyn Tegid. Yn ychwaneol, mae yna 14 rhywogaeth o bysgod breision, eog a brithyll a 129 rhywiogaeth o adar i’w gweld yma.

Sut mae gwarchod y llyn?

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sydd berchen gwely’r llyn, er mai Asiantaeth yr Amgylchedd sydd berchen y dŵr. Mae gwahanol asiantaethau yn cydweithio yma i warchod y llyn mewn rhyw ffordd. Cyngor Cefn Gwlad Cymru ; mae CCGC yn gyfrifol am gynllun rheoli safle . Asiantaeth yr Amgylchedd ; Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn gyfrifol am gyflwr dŵr y llyn. Nhw sydd hefyd yn rheoli cynllun dŵr Afon Dyfrdwy. Mae hwn yn cyflenwi dŵr yfed i Gaer, Glannau Mersi a rhannau o ogledd-ddwyrain Cymru, ac yn ceiso lleihau llifogydd ar hyd yr afon Dyfrdwy. Ffermwyr; Rhain sydd berchen y tir o amgylch y llyn a gall llygredd o’r tir effeithio defnydd y llyn. Mae

algae gwyrddlas sydd yn gallu effeithio’r llyn yn yr haf yn tarddu o ormod o ffosffad yn cael ei olchi i’r

llyn o’r tir. Gall cynlluniau Amaeth Amgylcheddol fod yn holl bwysig yn yr ardal i leihau’r broblem.

Cadw’r Cydbwysedd; Mwynhau a Gwarchod

Caiff llawer o ddefnyddwyr hamdden eu denu yma, yn ymwelwyr a thrigolion lleol. Daw’r mwyafrif

gyda char ac arhosant am gyfnod byr. Gwersylla eraill ar lan y llyn neu aros gerllaw. Gormod o ymwel-

wyr ac mae’r cydbwysedd bregus rhwng gwarchod a mwynhau wedi ei golli.

Esiampl 1; Chwaraeon Dŵr a Thriathlon

Mae’r llyn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o chwaraeon dŵr. Rheolir y gweithgareddau

hyn gan Awdurdod y Parc drwy system o drwyddedau a chaniatâd arbennig (consesiynau). Mae gan

APCE bedwar maes parcio o amgylch y llyn. Bob mis Medi, mae Triathlon yn cael ei gynnal yn y Bala,

ac mae dros 800 o bobl yn cymeryd rhan. Mae’r rhain yn aros yn lleol ac yn bwyta yn lleol dros y

penwythnos; yn amlwg mae’r digwyddiad yn bwysig i economi’r ardal. Bu bron iddo gael ei ohurio y

ddwy flynedd diwethaf gan fod algae gwyrddlas wedi effeithior llyn.

Mae tri chlwb hwylio, wedi eu trwyddedu, ac amrywiaeth o ganolfannau awyr agored yn def-

nyddio’r llyn ar gyfer chwaraeon dŵr ac addysg. Gallwch logi cyfarpar ar gyfer chwaraeon dŵr gan

ddarparwr preifat ger canolfan y Wardeiniaid, ac mae siopa yn gwerthu nwyddau chwaraeon dŵr

wedi eu sefydlu yn y Bala. Mae cyfleusterau newid a chawodydd ar gael yn agos at Swyddfa'r

Warden ym mhen gogledd-ddwyreiniol y llyn. Pan fo nifer y defnyddwyr hwylio yn uchel, mae’r

pysgotwyr yn llai. Pan mae’r nifer o hwylwyr yn isel, mae’r nifer pysgotwyr yn uchel. Sgwn i pam?

Oherwydd statws y llyn, chewch chi ddim mynd a chwch modur na ‘jetski’ arno. Byddai’r llygredd

o’r rhain yn creu gormod o ddifrod.

Esiampl 2; Mynediad i bawb

Fel Awdurdod, rydym yn credu yn gryf mewn mynediad i bawb i Eryri. Fodd bynnag, oherwydd

natur y tir, nid yw hyn bob amser yn bosibl. Yn Llangower mae mynediad i gadeiriau olwyn wedi ei

greu i lan y llyn. Mae giatiau a llwybr wedi eu gosod fydd yn caniatau i bawb allu croesi rheilffordd

Llyn Tegid i flaendraeth y llyn, ac mae mynediad i jetty wedi ei wella hefyd fel gall defnyddwyr

cadair olwyn bysgota yn saff.

Esiampl 3; Blodeuo Gwenwynig

Pan mae’r algae gwyrddlas yn blodeuo dan yr amgylchiadau cywir, rhaid atal chwaraeon dŵr. Nid

yw hyn yn dda i’r economi leol. Mae Ewtroffiad yn golygu fod gormod o faetholianau (yn aml rhai

cemegol) wedi cyrraedd y llyn. Mae algae (diatomau) gwyrdd las yn ffynnu ar hyn, ac yn tyfu i’r

wyneb gan atal i olau naturiol gyrraedd gweddill y planhigion. Dim y peth gorau i ddigwydd i lyn

sydd gyda planhigion ar restr cadwriaethol ynddo. Golyga hyn nad oes bwyd i greaduriad eraill y llyn

- y math sydd yn bwydo’r Gwyniaid, ac felly byddai’r gadwyn fwyd yn cael ei effeithio. Mae Prosiect

Llyn Tegid yn edrych ar ecoleg y llyn, gan gynnwys ei statws troffig, y maetholion sydd yno a’r algae

(diatomau) sydd ynddo. Edrychir ar holl dalgylch yr llyn. Mae Dŵr Cymru wedi gosod ‘tynnwyr

ffosffad’ ar eu safleoedd trin dŵr yn y Bala a Llanuwchllyn i geisio lleihau effaith yr algae.

Mae gwaith gyda ffermwyr yn lleihau myn-

ediad anifeiliaid i lan afonydd. Mae hyn yn

atal erydiad o’r lan. Mae grantiau ar gael he-

fyd i wneud gwaith ar y cowt i leihau llygredd

o wrtaith a slurry rhag cyrraedd yr afonydd

sydd yn llifo i’r llyn. Mae gwaith cau ffosydd

ar y mawndiroedd hefyd yn lleihau faint o

faeth a charbon sydd yn cyrraedd y llyn. Gy-

dau gilydd, mae’r proseictau yma oll yn gwella

safon dŵr y llyn er lles cadwraeth a hamdden.

Tasg 1. Blodeuo gwenwynig Mae’r diagram yn dangos y cyswllt rhwng Llyn Tegid, yr amgylchedd o’i amgylch, a phobl. 1. Disgrifwch sut mae pobl yn defnyddio’r llyn. 2. Eglurwch effaith pobl ar Lyn Tegid. 3. Beth fyddai’n digwydd i’r Gwyniad petai’r mewnbwn ffosffad yn cynyddu? 4. Gwnewch ddiagram tebyg i'r uchod eich hun yn dangos beth fyddai’n digwydd i’r gadwyn petai mwy o ffosffad yn cael ei ychwanegu i’r llyn? 5. Sut fyddech chi’n gallu osgoi blodeuo gwen-wynig ar y llyn yn y dyfodol?

Tasg 2. Cadw'r balans

Mae'r map yn dangos gwybodaeth ddefnyddiol i ymwelwyr ac eraill am Lyn Tegid. Rydych yn gyfrifol am greu cynllun rheolaeth ar gyfer Llyn Tegid. Rhaid i chi gymeryd i ystyriaeth bwrpasau Parc cenedlaethol wrth greu’r cynllun. Er mwyn gwarchod y falwen ludiog a'r gwyniad penderfynwyd fod angen creu ‘cylchfannau mynediad’ ar gyfer ymwelwyr (access zones)

• Rhanbarth bywiog gyda mynediad i bawb ar gyfer hwylio, hwylfyrddio, canwio, picnic .

• Rhanbarth clustogfa ~buffer~ gyda mynediad i ychydig a gweithgareddau megis adarydda a cherdded yn unig.

• Rhanbarth anghysbell ble byddech yn ceisio atal mynediad er mwyn gwarchod yr amgylchedd.

Ar fap o Lyn Tegid, dangoswch sut byddech yn rhannu'r ardal yn ddau / dri rhanbarth. Mae angen i chi hysbysu ymwelwyr am y trefniadau newydd yma. Cynhyrchwch daflen wybodaeth fydd yn rhoi'r manylion iddynt ac a fydd yn egluro pwysigrwydd Llyn Tegid.