Llafur yn dweud, Llafur yn wneud

1
“Cynnal cyfraniadau’r Cyngor at brosiectau ieuenctid y sir” ac i “barhau i gefnogi Fforymau Ieuenctid.” “Cefnogi cadw amgueddfeydd ar agor yn Sir Gâr.” “Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg ar draws y Sir.” “Cefnogi cartrefi preswyl a gynhaliwyd gan y Cyngor Sir.” “Cefnogi Clybiau Cinio a hyrwyddo Clybiau Cinio newydd.” “Ailgyflwyno gwasanaeth Rheoli Pla a gynhaliwyd gan y Cyngor.” “Cynnal adolygiad llawn ar bob math o drafnidiaeth ysgol.” “Hyrwyddo a cheisio gwella cyfleusterau ein parciau gwledig.” “Adnoddau cadarnhaol ar gyfer gwasanaethau gofal a chymdeithasol i bobl hŷn.” “Ymgyrchu i gadw holl wasanaethau Ysbyty Tywysog Phillip, Llanelli.” Yn y flwyddyn ariannol 2011/12, caewyd nifer o glybiau ieuenctid wrth i’r gyllideb ieuenctid gael ei dorri £100,000 ar gyfer 2012-13. Cefnogodd y Blaid Lafur doriadau i’r gyllideb. Mae clymblaid y Blaid Lafur a chynghorwyr annibynnol wedi methu â chefnogi CFfI Sir Gâr ac Urdd Gobaith Cymru yn ariannol. Cynllwyniodd bwrdd gweinyddu Llafur ac Annibynnol y Sir i gau amgueddfa Parc Howard ac Amgueddfa Caerfyrddin yn Abergwili. Roedd ‘na wrthwynebiad cryf gan sefydliadau ac aelodau o’r cyhoedd yn gyffredinol. Yn dilyn pwyllgor craffu Addysg a Phlant fe gohiriwyd y penderfyniad. Tybed pam? Efallai bod amseriad yr etholiadau wedi bod yn ffactor! Torrwyd cyfraniad y Cyngor Sir i Fentrau iaith yn ei hanner (£50,000) yn y gyllideb ar gyfer 2012-13 wedi’i gefnogi gan y Blaid Lafur. Mae’r gyllideb ar gyfer Athrawon Bro hefyd wedi cael ei dorri £68,000 a £165,000 ar gyfer 2013-14. Hwn eto yn cael ei gefnogi gan y Blaid Lafur. Pleidleisiodd y Blaid Lafur o blaid cau cartrefi preswyl Caemaen a St Pauls, ond enillodd Plaid Cymru’r bleidlais i atal cau’r cartrefi. Mae cofnodion diweddar yn dangos sut wnaeth gweinyddiaeth cynghorwyr Annibynnol / Llafur gau nifer o ganolfannau dydd a chlybiau cinio. Ymdrechion cymunedau lleol ac aelodau Plaid Cymru sydd wedi’u cadw ar agor. Mae’r Cyngor Sir wedi ysgwyddo’r cyfrifoldeb ar gyfer nifer o’r clybiau hyn ac maent yn awr yn cael eu cynnal yn breifat. Clymblaid Llafur/Annibynnol wnaeth gael gwared ar y gwasanaeth yn y lle cyntaf. Yn y gyllideb arfaethedig cefnogodd y blaid Lafur doriadau mewn ‘trafnidiaeth ôl-16’ i’r swm o £65,000 yn 2013-14 ac £422,000 yn 2014- 15. Ydy’r Blaid Lafur am adolygu’r hyn mae’u cynghorwyr eisoes wedi cefnogi? Mae cyllideb y Blaid Lafur yn torri cyllideb Parc Gwledig Pembre £55,000, Llyn Llech Owain £84,000 a Pharc Arfordirol y Mileniwm £70,000 dros gyfnod o dair blynedd. O dan weinyddiaeth y Blaid Lafur/ Annibynnol mae 70% o ofal cymdeithasol wedi cael ei breifateiddio yn gadael ond 30% o dan reolaeth y Cyngor Sir. Mae aelodau o’r blaid Lafur i weld wedi anghofio taw eu cydweithwyr llafur hwy yn Llywodraeth Cymru sydd yn caniatáu i’r Bwrdd Iechyd israddio gwasanaethau. Mae’r Blaid Lafur yn Sir Gâr wedi addo nifer o bethau yn eu maniffesto ar gyfer yr etholiad sydd i ddod. Yn anffodus, ar ôl rheoli’r cyngor mewn clymblaid gyda Meryl Gravell a’i grŵp o gynghorwyr annibynnol am yr wyth mlynedd diwethaf, nid yw gweithredoedd y blaid lafur yn cyd-fynd a’u haddewidion. Dyma ond ychydig o enghreifftiau o safonau dwbl y blaid Lafur. Ar ôl WYTH mlynedd o glymblaid y Blaid Lafur a Chynghorwyr Annibynnol yn rheoli’r Cyngor Sir, nid oes gan y Blaid Lafur unrhyw hygrededd i gadw’r addewidion hynny. Pleidleisiwch dros newid yn yr etholiad sydd i ddod.

description

Labour hypocrisy in Carmarthenshire

Transcript of Llafur yn dweud, Llafur yn wneud

Page 1: Llafur yn dweud, Llafur yn wneud

“Cynnal cyfraniadau’r Cyngor at brosiectau ieuenctid y sir” ac i “barhau i gefnogi Fforymau Ieuenctid.” “Cefnogi cadw amgueddfeydd ar agor yn Sir Gâr.” “Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg ar draws y Sir.” “Cefnogi cartrefi preswyl a gynhaliwyd gan y Cyngor Sir.” “Cefnogi Clybiau Cinio a hyrwyddo Clybiau Cinio newydd.” “Ailgyflwyno gwasanaeth Rheoli Pla a gynhaliwyd gan y Cyngor.” “Cynnal adolygiad llawn ar bob math o drafnidiaeth ysgol.” “Hyrwyddo a cheisio gwella cyfleusterau ein parciau gwledig.” “Adnoddau cadarnhaol ar gyfer gwasanaethau gofal a chymdeithasol i bobl hŷn.” “Ymgyrchu i gadw holl wasanaethau Ysbyty Tywysog Phillip, Llanelli.”

Yn y flwyddyn ariannol 2011/12, caewyd nifer o glybiau ieuenctid wrth i’r gyllideb ieuenctid gael ei dorri £100,000 ar gyfer 2012-13. Cefnogodd y Blaid Lafur doriadau i’r gyllideb. Mae clymblaid y Blaid Lafur a chynghorwyr annibynnol wedi methu â chefnogi CFfI Sir Gâr ac Urdd Gobaith Cymru yn ariannol. Cynllwyniodd bwrdd gweinyddu Llafur ac Annibynnol y Sir i gau amgueddfa Parc Howard ac Amgueddfa Caerfyrddin yn Abergwili. Roedd ‘na wrthwynebiad cryf gan sefydliadau ac aelodau o’r cyhoedd yn gyffredinol. Yn dilyn pwyllgor craffu Addysg a Phlant fe gohiriwyd y penderfyniad. Tybed pam? Efallai bod amseriad yr etholiadau wedi bod yn ffactor! Torrwyd cyfraniad y Cyngor Sir i Fentrau iaith yn ei hanner (£50,000) yn y gyllideb ar gyfer 2012-13 wedi’i gefnogi gan y Blaid Lafur. Mae’r gyllideb ar gyfer Athrawon Bro hefyd wedi cael ei dorri £68,000 a £165,000 ar gyfer 2013-14. Hwn eto yn cael ei gefnogi gan y Blaid Lafur. Pleidleisiodd y Blaid Lafur o blaid cau cartrefi preswyl Caemaen a St Pauls, ond enillodd Plaid Cymru’r bleidlais i atal cau’r cartrefi. Mae cofnodion diweddar yn dangos sut wnaeth gweinyddiaeth cynghorwyr Annibynnol / Llafur gau nifer o ganolfannau dydd a chlybiau cinio. Ymdrechion cymunedau lleol ac aelodau Plaid Cymru sydd wedi’u cadw ar agor. Mae’r Cyngor Sir wedi ysgwyddo’r cyfrifoldeb ar gyfer nifer o’r clybiau hyn ac maent yn awr yn cael eu cynnal yn breifat. Clymblaid Llafur/Annibynnol wnaeth gael gwared ar y gwasanaeth yn y lle cyntaf. Yn y gyllideb arfaethedig cefnogodd y blaid Lafur doriadau mewn ‘trafnidiaeth ôl-16’ i’r swm o £65,000 yn 2013-14 ac £422,000 yn 2014-15. Ydy’r Blaid Lafur am adolygu’r hyn mae’u cynghorwyr eisoes wedi cefnogi?

Mae cyllideb y Blaid Lafur yn torri cyllideb Parc Gwledig Pembre £55,000, Llyn Llech Owain £84,000 a Pharc Arfordirol y Mileniwm £70,000 dros gyfnod o dair blynedd. O dan weinyddiaeth y Blaid Lafur/ Annibynnol mae 70% o ofal cymdeithasol wedi cael ei breifateiddio yn gadael ond 30% o dan reolaeth y Cyngor Sir. Mae aelodau o’r blaid Lafur i weld wedi anghofio taw eu cydweithwyr llafur hwy yn Llywodraeth Cymru sydd yn caniatáu i’r Bwrdd Iechyd israddio gwasanaethau.

Mae’r Blaid Lafur yn Sir Gâr wedi addo nifer o bethau yn eu maniffesto ar gyfer yr etholiad sydd i ddod. Yn anffodus, ar ôl rheoli’r cyngor mewn clymblaid gyda Meryl Gravell a’i grŵp o gynghorwyr annibynnol am yr

wyth mlynedd diwethaf, nid yw gweithredoedd y blaid lafur yn cyd-fynd a’u haddewidion. Dyma ond ychydig o enghreifftiau o safonau dwbl y blaid Lafur.

Ar ôl WYTH mlynedd o glymblaid y Blaid Lafur a Chynghorwyr Annibynnol yn rheoli’r Cyngor Sir, nid oes gan y Blaid Lafur unrhyw hygrededd i gadw’r addewidion hynny. Pleidleisiwch dros newid yn yr etholiad sydd i ddod.